Canllawiau

Gwirio rhif Yswiriant Gwladol drwy ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol

Diweddarwyd 5 May 2020

Gallwch ddefnyddio’r canllaw hwn o 6 Ebrill 20 ymlaen.

"

Rhagarweiniad

Canllaw Offer Talu Wrth Ennill (TWE) sylfaenol (BPT) am wneud Cais i Ddilysu Rhif Yswiriant Gwladol (NVR) yw hwn a gellir ei ddefnyddio gan gyflogwyr lle nid yw’r cyfleuster hwn gan eu meddalwedd masnachol y gyflogres.

Bydd systemau CThEM yn gwirio rhifau Yswiriant Gwladol eich cyflogeion yn awtomatig ar eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) cyntaf, neu pan fyddwch yn rhoi gwybod am fanylion dechrau ar gyfer cyflogai newydd.

Os ydych am weld neu wirio rhif Yswiriant Gwladol y cyflogai, gallwch wneud hynny drwy anfon NVR.

Ni allwch anfon NVR tan 2 wythnos ar ôl anfon eich FPS cyntaf.

Ni fydd yn creu rhif Yswiriant Gwladol newydd. Os nad yw eich cyflogai erioed wedi cael rhif Yswiriant Gwladol gofynnwch iddo gysylltu â Chanolfan Gyswllt yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) drwy ffonio: 0800 141 2349.

Pwysig:

  • dylai’r NVR ond cael ei gyflwyno pan rydych wedi cyflogi cyflogai newydd ac mae angen i chi ddilysu neu gael gafael ar rif Yswiriant Gwladol y cyflogai
  • cyn cyflwyno NVR, rhaid disgwyl 2 wythnos ar ôl i chi gyflwyno’ch FPS cyntaf gan ddefnyddio eich meddalwedd cyflogres

Dechrau arni

I ddefnyddio’r BPT i anfon NVR mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud y canlynol:

  • lawrlwytho a gosod y feddalwedd
  • cofnodi’r cyflogwr
  • cofnodi’r cyflogai am bwy fyddech yn anfon NVR

Darllenwch yr arweiniad Defnyddwyr tro cyntaf: sut i lawrlwytho a gosod Offer TWE Sylfaenol:

  • gosod y feddalwedd
  • cofnodi’r cyflogwr
  • cofnodi’r cyflogai

Cam 1: dewis y cyflogwr cywir

Os ydych wedi ychwanegu mwy nag un cyflogwr i’r BPT, bydd yn rhaid i chi ddewis y cyflogwr cywir.

O’r hafan, dewiswch y cyflogwr cywir o’r ochr chwith ar frig eich sgrin.

Yn yr enghraifft isod, mae ‘Chez Morgan’ wedi ei ddewis.

"

Bydd hyn yn mynd â chi i’r sgrin ‘Manylion y cyflogwr’ fel y dangosir isod.

"

Os ydych yn defnyddio BPT i ddilysu rhif Yswiriant Gwladol yn unig ond yn defnyddio meddalwedd arall i gynhyrchu eich cyflogres, dewiswch y flwyddyn dreth bresennol 2020 i 2021 fel enghraifft a mynd i Cam 2: dewis y cyflogai cywir.

Fodd bynnag, os ydych yn defnyddio BPT fel eich offer cyflogres ym mis Ebrill pob blwyddyn, bydd yn rhaid i chi roi’r blwyddyn dreth newydd ar waith yn ffurfiol. I wneud hyn dilynwch y camau isod.

O’r sgrin ‘Manylion y cyflogwr’ dewiswch y flwyddyn dreth 2020 i 2021 o’r bar offer ar frig y sgrin fel isod:

"

Bydd y sgrin ganlynol yn ymddangos. Mae e’n sgrin atgoffa i wirio eich bod wedi llenwi’r holl dasgau diwedd y flwyddyn am y flwyddyn rydych yn ei gadael. Hyd yn oed os nad yw’r tasgau hyn wedi eu llenwi, rydych chi’n gallu rhoi’r flwyddyn newydd ar waith, ond bydd angen i chi fynd yn ôl i’r flwyddyn rydych chi’n ei gadael i sicrhau ei bod wedi’i chwblhau.

"

Pan ddewiswch nesaf, bydd y sgrin ganlynol yn ymddangos ond y flwyddyn a ddangosir fydd ar gyfer actifadu 2020 i 2021:

"

Dewiswch nesaf i symud ymlaen i’r flwyddyn dreth nesaf.

Byddwch yn dal i allu cyrchu’r blynyddoedd blaenorol. Dylech fod yn ymwybodol na fydd unrhyw ddiwygiadau rydych yn eu gwneud mewn blwyddyn flaenorol yn symud ymlaen i 2020 i 2021 unwaith bod y flwyddyn newydd wedi ei rhoi ar waith. Rydych yn gyfrifol am ddiweddaru’r data hwn â llaw i’r flwyddyn newydd sydd wedi’i rhoi ar waith.

Ar hyn o bryd bydd yr holl wybodaeth sydd ar gael ar 2019 i 2020 wedi ei symud i’r flwyddyn newydd. Cyflogai gweithredol yn unig fydd yn symud i 2020 i 2021, felly os ydych wedi rhoi 2020 i 2021 ar waith ond wedi nodi cyflogai newydd ar gyfer 2019 i 2020, bydd sgrin newydd arall ‘Symud Cyflogeion’ yn ymddangos oherwydd bydd yr holl wybodaeth flaenorol wedi’i dwyn ymlaen.

Bydd hwn yn dangos y cyflogai newydd. Pan gaiff nesaf ei ddewis ar waelod y sgrin bydd yr holl wybodaeth yn cael ei chario ymlaen.

Nid oes disgwyl i’r sefyllfa hon ddigwydd yn aml.

Cam 2: dewis y cyflogai cywir

Gallwch ond creu un NVR ar y tro.

Dewiswch y cysylltiad ‘Rheoli cyflogeion’ o’r ddewislen ar ochr chwith y sgrin.

"

Mae’r sgrin nesaf yn rhoi rhestr o’r holl gyflogeion ar gyfer y cyflogwr.

Dewiswch y cyflogai perthnasol o’r rhestr.

"

Mae hyn yn mynd a chi i’r sgrin ‘Manylion y cyflogai’.

Cam 3: creu’r NVR

O’r sgrin ‘Manylion y cyflogai’, dewiswch y cysylltiad ‘NVR’ o’r ddewislen ar ochr chwith y sgrin.

"

Darllenwch yr wybodaeth ar y dudalen hon.

"

Dewiswch nesaf i fynd yn eich blaen.

Mae’r sgrin nesaf yn cadarnhau eich bod wedi creu NVR ar gyfer y cyflogai hwn. Cliciwch nesaf i orffen y broses.

"

Byddech yna’n dychwelyd i’r sgrin ‘Manylion y cyflogai’.

Cam 4: anfon yr NVR

Rydych nawr wedi creu’r NVR yn barod i’w hanfon i CThEM.

Cofiwch: mae’n rhaid i chi aros 2 wythnos ar ôl anfon eich FPS cyntaf cyn anfon NVR.

Gallwch greu NVR ar gyfer cyflogai arall drwy ailadrodd camau 1 a 2. Pan fyddwch wedi gorffen creu’r NVR dylech anfon y cyflwyniad i CThEM.

Cliciwch ar enw’r cyflogwr yn ‘Llywio’ fel y dangosir isod.

"

Mae hyn yn mynd â chi i’r sgrin ‘Manylion y cyflogai’.

Dewiswch y cysylltiad ‘Bwrw golwg ar gyflwyniadau heb eu gwneud’.

"

Yn fan hyn, gall gweld bod un cyflwyniad sydd heb ei gyflwyno sef yr NVR ar gyfer Sarah Chaco.

Dewiswch y cysylltiad ‘Anfon yr holl gyflwyniadau sydd heb eu cyflwyno’ o’r ddewislen ar y chwith. Darllenwch yr wybodaeth ar y sgrin nesaf a chliciwch ‘nesaf’.

"

Sgrin wybodaeth yw’r sgrin nesaf sydd i’w gweld. Darllenwch yn ofalus ac yna dewiswch nesaf i fynd â chi i Borth y Llywodraeth.

"

Nodwch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth yn y meysydd isod ar gyfer cyflwyniad ar-lein ac yna dewiswch ‘nesaf’.

Government Gateway User ID and password screen

Dylech wedyn cael statws cyflwyno ar y sgrin.

Status of your submission screen

Yn olaf, cewch gadarnhad o’ch sgrin cyflwyniad, yn dangos cyfeirnod unigryw.

Submission confirmation and unique reference number screen