Papur polisi

Adolygiad Canol Tymor y BBC 2024

Diweddarwyd 17 April 2024

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2022 to 2024 Sunak Conservative government

Rhagair y gweinidog

Mae’r BBC yn bwysig iawn i’r wlad hon ac i bobl ledled y byd. Ar ei orau, mae’n sefydliad cyfryngau heb ei ail sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd, ein diwylliant a’n hunaniaeth. Gwelsom ei allu unigryw i hysbysu, addysgu a diddanu yn ei ddarllediad o’r Coroni, ei adroddiadau ar y gwrthdaro yn Wcráin, ac wrth gynnal Eurovision.

Ni fu rôl darlledu gwasanaeth cyhoeddus a’r wasg rydd erioed yn fwy arwyddocaol nag y mae heddiw. Rydym yn byw yng nghyfnod newyddion ffug, lle mae’r cyfryngau cymdeithasol yn creu siambrau adlais o farn, yn cyflwyno profiadau unigol fel ffeithiau, ac yn rhywle lle gall camwybodaeth a thwyllwybodaeth gael ei rhannu heb gael ei herio. Mae’r cyhoedd yn disgwyl i’r BBC fod yn esiampl ar gyfer didueddrwydd, cywirdeb ac amrywiaeth barn. Sefydliad sy’n cynnal, yn parchu ac yn gwasanaethu’r genedl gyfan. Un sy’n cael ei gynnal i’r safonau uchaf posibl.

Mae’r lle unigryw sydd gan y BBC yn ein bywyd cenedlaethol yn cael ei grisialu yn y Siarter Frenhinol. Y Siarter honno yw sail gyfansoddiadol y BBC, a’r fframwaith ar gyfer sut mae’r gorfforaeth yn cael ei llywodraethu. Mae’n gwarantu ac yn diogelu ei hannibyniaeth.

Mae’r Adolygiad Canol Tymor hwn yn gyfle gwych i oedi ac archwilio graddfa’r newidiadau a gyflwynwyd yn yr Adolygiad Siarter diwethaf yn 2016. Hanner ffordd drwy gyfnod y Siarter, mae’n gyfle i bwyso a mesur ac i werthuso effeithiolrwydd trefn lywodraethu a rheoleiddio’r BBC. Wrth ateb y cwestiwn hwnnw, mae’r adolygiad hwn yn ystyried amrywiaeth o faterion o berfformiad Bwrdd y BBC ac effeithiolrwydd y gwaith rheoleiddio gan Ofcom i weld a yw’r system lywodraethu a goruchwylio bresennol yn addas ar gyfer y dyfodol.

Mae’r Adolygiad yn dadansoddi, yn fanwl, y llu o heriau sy’n wynebu’r gorfforaeth a’r cyfleoedd sydd gan y BBC ar hyn o bryd i feithrin a chynnal ymddiriedaeth y cyhoedd wrth wneud penderfyniadau, bod yn ddiduedd a’i brosesau delio â chwynion. Mae ein hargymhellion yn glir bod lle i wneud gwelliannau sylweddol mewn amrywiaeth o feysydd.

Mae didueddrwydd yn dal yn her fawr i’r BBC. Mae’n rhan greiddiol o gylch gwaith y BBC, ac mae’r cyhoedd yn disgwyl i’r sefydliad ymgorffori’r gwerth hwn. Ond, fel mae’r adolygiad hwn yn ei ddangos, mae canfyddiad cynulleidfaoedd nad yw’r BBC yn ddigon diduedd yn broblem barhaus ac, o fewn diwylliant o welliant parhaus, gellir gwneud mwy.

Heddiw, mae’r ffordd rydym yn cael gafael ar newyddion ac adloniant yn gwbl wahanol i’r ffordd roeddem yn gwneud hynny pan gafodd diwygiadau’r Siarter eu cyflwyno yn 2017. Mae ymddiriedaeth mewn sefydliadau cyfryngau ac mewn ffynonellau newyddion prif ffrwd wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y cyfnod hwn, ac mae hyn wedi cael effaith niweidiol ar ymddiriedaeth y cyhoedd yn nidueddrwydd y BBC. Mae tystiolaeth i awgrymu bod lefelau ymddiriedaeth yn y BBC, yn gyffredinol, yn dal yn uchel o’i gymharu â sefydliadau cyfryngau rhyngwladol eraill. Ond mae gan y gorfforaeth ddyletswydd i ddatblygu a chynnal safon aur ar gyfer ei newyddiaduraeth. Drwy wneud hynny, bydd yn cadw lefelau uchel o ymddiriedaeth y cyhoedd yn y sefydliad wrth iddo ymdrechu i ddarparu gwasanaeth cyffredinol hanfodol i gynulleidfaoedd ar yr un pryd â gosod esiampl sy’n gallu gwella safonau ar draws y dirwedd cyfryngau.

Mae’r adolygiad hwn yn glir mai dim ond drwy gynyddu atebolrwydd a thryloywder ynghylch gwaith a wneir i wella didueddrwydd y bydd y gorfforaeth yn adennill ac yn gwella ei henw da mewn perthynas â didueddrwydd. Yn dilyn deialog uniongyrchol, heriol ac adeiladol gyda ni yn y Llywodraeth, bydd y BBC yn rhoi diwygiadau cyfanwerthol ar waith sy’n symud y gorfforaeth i’r cyfeiriad iawn. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb cyfreithiol newydd i Fwrdd y BBC oruchwylio’r broses gwyno ac ymestyn cyfrifoldebau rheoleiddio presennol Ofcom i gynnwys allbwn ar-lein y BBC.

Fel Llywodraeth, ein nod bob amser fydd sicrhau bod BBC cryf, unigryw ac annibynnol yn gallu parhau i ffynnu am flynyddoedd i ddod – a gwella’r BBC lle bynnag y gallwn. Ein gobaith yw y bydd y pwynt hwn yn y Siarter yn ein helpu i wireddu’r uchelgais honno a chefnogi’r gorfforaeth wrth iddi gynrychioli Prydain ym mhob cwr o’r byd.

Dros ei 100 mlynedd o hanes, mae’r BBC wedi bod yn un o’r sefydliadau cyfryngau mwyaf hyblyg, arloesol a blaengar ar y blaned. Mae gennyf bob hyder y bydd yn ychwanegu at hynny unwaith eto drwy ymgorffori canfyddiadau’r Adolygiad Canol Tymor a gwella ei strwythurau a’i brosesau. Rydym i gyd yn dibynnu ar y BBC i fod y gorau y gall fod. Bydd yr adolygiad hwn yn helpu i sicrhau mai dyna y mae’r cyhoedd ym Mhrydain yn ei gael.

Y Gwir Anrhydeddus Lucy Frazer KC AS

Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon

Crynodeb gweithredol

1. Mae’r BBC yn sefydliad diwylliannol unigryw sydd wedi darparu’r model ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus ledled y byd, ac mae’n parhau i fod wrth galon sector cyfryngau ffyniannus y DU. Mae wedi bod yn hysbysu, addysgu a diddanu miliynau o bobl bob dydd, yn y DU ac ar draws y byd, ers dros gan mlynedd. Yn ystod y can mlynedd hwnnw, mae’r BBC wedi addasu’n gyson i’r byd sy’n newid o’i gwmpas, ac mae wedi sbarduno newid mewn sawl maes. Ond mae cyfradd y newid ar draws y sector cyfryngau yn creu heriau newydd ac ymestynnol i’r BBC drwy newid natur sylfaenol y cyd-destun y mae’n rhaid iddo weithredu ynddo. Mae arferion cynulleidfaoedd yn esblygu, mae technoleg yn newid ac mae’r farchnad yn fwy cystadleuol a byd-eang.

2. Yn dilyn Adolygiad Siarter 2015/16, sefydlwyd trefniadau llywodraethu a rheoleiddio newydd ar gyfer y BBC: byddai’r gwaith o lywodraethu’r BBC yn cael ei wneud gan Fwrdd unedol newydd, a byddai’r gwaith rheoleiddio’n cael ei drosglwyddo i Ofcom, sef rheoleiddiwr allanol annibynnol cyntaf y BBC. O ystyried maint y newidiadau hyn, roedd y Siarter yn darparu i’r Llywodraeth gynnal Adolygiad Canol Tymor. Felly, mae’r Adolygiad Canol Tymor wedi bod yn gyfle i archwilio effeithiolrwydd llywodraethu’r BBC, a’r fframwaith rheoleiddio sydd wedi’i ddylunio i sicrhau bod y BBC yn cyflawni ei gyfrifoldebau, gan ganolbwyntio ar y materion sydd bwysicaf i gynulleidfaoedd a rhanddeiliaid. Mae wedi nodi ffyrdd y mae angen i’r BBC ac Ofcom wneud newidiadau ystyrlon ac effeithiol i drefn lywodraethu a rheoleiddio’r BBC i sicrhau bod y sefydliad yn cyflawni ar gyfer y rheini sy’n talu ffi’r drwydded: er enghraifft, cryfhau goruchwyliaeth y BBC o’r broses gwyno i sicrhau bod gan gynulleidfaoedd ffydd y bydd eu cwynion yn cael eu trin mewn ffordd annibynnol, a rhoi pwerau newydd i Ofcom reoleiddio elfennau o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus ar-lein y BBC.

3. Yn y cyfnod ers mabwysiadu’r Siarter bresennol, mae’r BBC wedi cael adegau heriol hefyd, fel Ofcom yn canfod yn annibynnol bod y BBC wedi gwneud methiannau golygyddol sylweddol o ran ei adroddiadau am yr ymosodiad gwrth-Semitaidd ar fyfyrwyr Iddewig a oedd yn teithio ar fws yn Llundain, a Syr Nicholas Serota yn canfod bod “diwylliant amddiffynnol” yn y BBC. Mae trefniadau llywodraethu a rheoleiddio cadarn yn hanfodol i lwyddiant y BBC o ran cadw ymddiriedaeth, manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd yn y dyfodol, a delio â heriau yn y dyfodol. Dros weddill cyfnod y Siarter hon, dylai’r BBC ac Ofcom hefyd ystyried sut gellir parhau i wella prosesau llywodraethu a rheoleiddio er mwyn sicrhau bod y canlyniadau gorau’n cael eu cyflawni i gynulleidfaoedd.

4. Cafodd y Cylch Gorchwyl ar gyfer yr Adolygiad Canol Tymor ei gyhoeddi ym mis Mai 2022 (wedi’i gynnwys yn Atodiad A), ac mae’n nodi chwe thema’r Adolygiad Canol Tymor: didueddrwydd a safonau golygyddol; cwynion; cystadleuaeth ac effaith ar y farchnad; rheoleiddio a llywodraethu masnachol; amrywiaeth; a thryloywder. Nodwyd bod y themâu hyn yn bryder sylfaenol i gynulleidfaoedd a rhanddeiliaid, yn ogystal â’r rhai y nododd Ofcom eu bod yn bwysig yn ei adolygiad o sut mae’r BBC yn cael ei reoleiddio[footnote 1] ac mewn mannau eraill yn ei weithgareddau rheoleiddio yn ystod hanner cyntaf y Siarter. Gwnaethom hefyd edrych ar brosesau llywodraethu’r BBC yn gyffredinol, o ystyried arwyddocâd y newidiadau a gyflwynwyd gan y Siarter bresennol. Mae’r Siarter yn atal yr Adolygiad Canol Tymor rhag edrych ar Genhadaeth y BBC; Dibenion Cyhoeddus y BBC; neu fodel cyllido ffi’r drwydded y BBC ar gyfer cyfnod y Siarter hon.

5. Cynhaliwyd yr Adolygiad Canol Tymor gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ar sail tystiolaeth a gafwyd gan amrywiaeth eang o randdeiliaid ar draws nifer o feysydd allweddol. Roedd y BBC ac Ofcom hefyd wedi darparu gwybodaeth i lywio’r Adolygiad Canol Tymor, ac mae’r Llywodraeth yn ddiolchgar am eu cydweithrediad. Dyma grynodeb o ganfyddiadau’r Adolygiad Canol Tymor.

6. Llywodraethu: roedd y fframwaith llywodraethu newydd a gyflwynwyd gan y Siarter bresennol yn cyflwyno newidiadau sylfaenol i’r fframwaith blaenorol i fynd i’r afael â phryderon bod model blaenorol Ymddiriedolaeth y BBC wedi atal cyfrifoldebau a llinellau atebolrwydd clir, wedi arwain at ddyblygu ymdrechion, ac wedi gwyro oddi wrth arferion gorau drwy gael cyfrifoldebau llywodraethu dros y BBC a chyfrifoldebau rheoleiddio. Mae’r dystiolaeth a gafwyd yn dangos bod y fframwaith newydd wedi bod yn effeithiol o ran mynd i’r afael â’r pryderon hynny, er y bydd rhagor o bwerau’n cael eu rhoi i is-bwyllgor penodol o’r Bwrdd, fel y nodir isod.

7. Serch hynny, mae’r adroddiad yn nodi cyfres o argymhellion i’r BBC fwrw ymlaen â nhw i wella ei drefniadau llywodraethu yn ystod gweddill cyfnod y Siarter. Mae’r cyntaf yn ymwneud â’r Bwrdd yn parhau i gyflawni ei gyfrifoldebau pwysig i sicrhau ei fod yn ennyn hyder y staff. Mae angen i’r Bwrdd ei hun gymryd rhan weithredol yn y gwaith o fonitro llwyddiant ei waith cyfathrebu mewnol, ac mae angen i’r BBC egluro’n gyhoeddus sut mae ei bolisi chwythu’r chwiban golygyddol newydd yn parhau i gyflawni’n effeithiol. Yn ail, rydym yn nodi bod trefniadau llywodraethu’r BBC yn cael eu hasesu’n rheolaidd, ond mae angen dangos y pwyslais pwysig hwn ar welliant parhaus yn fwy effeithiol yn gyhoeddus. Byddwn yn parhau i edrych ar sut mae trefniadau llywodraethu’r BBC wedi esblygu, a sut mae’r BBC wedi gwerthuso ei effeithiolrwydd, yn ystod yr Adolygiad o’r Siarter.

8. Safonau golygyddol a didueddrwydd: mae didueddrwydd yn rhan greiddiol o gyfrifoldebau’r BBC o dan y Siarter, yn enwedig drwy ddarparu newyddion a gwybodaeth ddiduedd i helpu pobl i ddeall ac ymgysylltu â’r byd o’u cwmpas. Mae didueddrwydd y BBC, fel darlledwr sy’n cael ei ariannu’n gyhoeddus, yn rhan greiddiol o’r contract rhwng y Gorfforaeth a phawb sy’n talu ffi’r drwydded, sef y bobl mae’n eu gwasanaethu. Rydym yn cydnabod bod didueddrwydd yn gysyniad cymhleth. Rydym wedi dod i’r casgliad bod tystiolaeth glir bod glynu wrth safonau golygyddol a didueddrwydd bellach wrth wraidd blaenoriaethau’r BBC, ond hefyd bod angen i’r BBC ac Ofcom barhau i ymdrechu i gyflawni eu cyfrifoldebau. Mae safbwyntiau a thystiolaeth amrywiol o ran newid mewn ymddiriedaeth. Mae rhai arolygon yn dangos dirywiad[footnote 2] ac eraill yn dangos cynnydd diweddar[footnote 3]. Fodd bynnag, mae Ofcom hefyd wedi dod i’r casgliad bod didueddrwydd yn cael ei raddio’n gyson is o hyd gan gynulleidfaoedd nag ymddiriedaeth a chywirdeb ar wefan, ap a theledu’r BBC, ac er bod pobl yn y DU yn gwerthfawrogi’r rôl mae’r BBC yn ei chwarae o ran darparu newyddion, mae didueddrwydd yn un o’r meysydd lle mae’r BBC yn cael ei weld yn llai ffafriol o’i gymharu ag agweddau eraill ar ddarparu newyddion, gyda chanfyddiadau o ran didueddrwydd heb newid dros y flwyddyn ddiwethaf[footnote 4]. Felly, mae’n hanfodol bod y BBC yn dangos yn glir i gynulleidfaoedd ei fod yn cymryd ei gyfrifoldebau o ddifrif ac yn parhau i ganolbwyntio ar ddidueddrwydd, mewn diwylliant o welliant parhaus, er mwyn cynnal ymddiriedaeth cynulleidfaoedd.

9. Rydym yn argymell bod y BBC yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am sut mae’n cyflawni rhai o brif elfennau ei waith i wella didueddrwydd, a’r effaith mae’r gwaith hwnnw’n ei chael, er mwyn helpu i feithrin ymddiriedaeth cynulleidfaoedd. O ystyried mai didueddrwydd, yn fwy na dim, yw’r peth cyfwerth am ffi’r drwydded, byddwn yn adolygu sut mae’r BBC wedi ymateb i her Ofcom bod yn rhaid i’r BBC barhau i herio a gofyn cwestiynau anodd iddo’i hun wrth iddo ymgorffori ei argymhellion ar ddidueddrwydd. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys sut mae ymrwymiadau’r BBC yn cael eu gwreiddio mewn prosesau sefydliadol ehangach yn y tymor hwy, y tu hwnt i gyflawni ymrwymiadau cychwynnol yn ei gynllun gweithredu 10 pwynt. O ran rheoleiddio, un argymhelliad pwysig i wella didueddrwydd y BBC yw y dylai cyfrifoldebau rheoleiddio presennol Ofcom sy’n ymwneud â’r BBC gael eu hymestyn i feysydd allweddol o ddeunydd gwasanaeth cyhoeddus ar-lein y BBC. Mae’r newid polisi pwysig hwn yn adlewyrchu bod cynulleidfaoedd yn cael mwy a mwy o gynnwys newyddion (a chynnwys arall) y BBC ar-lein, a bydd y cam hwn yn galluogi Ofcom i ddal y BBC i gyfrif, gan gynnwys o ran ei gyfrifoldebau’n ymwneud â didueddrwydd, mewn ffordd fwy cadarn.

10. Cwynion: mae adborth y rheini sy’n talu ffi’r drwydded yn amhrisiadwy o ran helpu’r BBC i ddeall beth mae ei gynulleidfaoedd yn poeni amdano a sut mae gwella ei wasanaethau, ac mae cwynion golygyddol yn fath pwysig o adborth. Roedd y Siarter bresennol yn ceisio symleiddio’r hen broses gwyno ddeuol a oedd yn cynnwys y BBC ac Ofcom, a oedd gan gylchoedd gwaith a oedd yn gorgyffwrdd. Felly, cyflwynwyd egwyddor ‘BBC yn Gyntaf’ yn ffurfiol yn 2017, gan wneud y BBC yn unigryw ymysg darlledwyr o ran cael y cyfle i ddatrys cwynion golygyddol am ei wasanaethau yn gyntaf, cyn iddynt gael eu hystyried gan Ofcom. Mae tystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr adolygiad yn dangos bod BBC yn Gyntaf yn caniatáu i’r rheini sy’n talu ffi’r drwydded ddal y BBC yn uniongyrchol atebol, ac yn sicrhau bod y BBC yn talu sylw i’r materion sy’n bwysig i’w gynulleidfaoedd.

11. Fodd bynnag, mae pryderon o hyd ynghylch graddau didueddrwydd y BBC, sy’n cael ei adlewyrchu gan gynnydd yn nifer y cwynion a wneir i Ofcom am ddidueddrwydd dyladwy’r BBC eleni. Mae’n hanfodol cael proses gwyno effeithiol fel rhan o becyn cymorth y BBC i fynd i’r afael â’r pryderon hyn, ynghyd â’r cyfrifoldebau cyfreithiol priodol yn y Cytundeb Fframwaith. Mae setiau gwahanol o bolau piniwn yn adrodd am amrywiaeth o fodlonrwydd gyda’r profiad o ddefnyddio BBC yn Gyntaf. Cawsom adborth sylweddol gan amrywiaeth o randdeiliaid bod angen gwneud gwelliannau penodol i wella profiadau’r rhai sy’n cwyno mewn nifer o ffyrdd, fel esboniadau cliriach o’r broses a rolau’r BBC ac Ofcom. Rydym hefyd yn nodi bod data sy’n dangos mai nifer cymharol fach o gwynion sy’n cael eu cadarnhau gan y BBC wedi arwain at bryderon nad yw cwynion yn cael eu trin yn ddigon annibynnol. Er ei bod yn anodd dod i gasgliad pendant ynghylch annibyniaeth delio â chwynion o’r data hynny, mae’r pryderon hynny’n awgrymu y gall y BBC wneud mwy i sicrhau bod cynulleidfaoedd yn teimlo y bydd eu cwynion yn cael eu hystyried yn deg.

12. Mewn ymateb i bryderon sylweddol y tynnir sylw atynt yn yr adolygiad hwn, mae’r Llywodraeth wedi gweithio’n adeiladol gyda’r BBC ac, o ganlyniad i’r trafodaethau hyn, bydd y BBC yn cyflawni cyfres o ddiwygiadau mawr. Mae’r rhain yn canolbwyntio’n benodol ar wella’r broses graffu annibynnol ar y ffordd mae’r BBC yn delio â chwynion a gwella sut mae’r BBC yn parhau i ymateb i adborth. Gall y diwygiadau hyn helpu i feithrin yr ymddiriedaeth sy’n angenrheidiol rhwng y BBC a’i gynulleidfaoedd i gynnal egwyddor BBC yn Gyntaf ar gyfer gweddill cyfnod y Siarter hon.

13. Bydd y Bwrdd, sy’n cynnwys nifer o Aelodau Anweithredol annibynnol, yn cael cyfrifoldeb cyfreithiol newydd yn y Cytundeb Fframwaith i oruchwylio’n weithredol sut mae Gweithrediaeth y BBC yn delio â chwynion. O ran strwythur, mae polisi golygyddol cyn darlledu a datrys cwynion ar ôl darlledu yn cael eu gwahanu. Bydd y swydd sy’n gyfrifol am arwain y gwaith o ddelio â chwynion bellach yn adrodd yn uniongyrchol i’r Cyfarwyddwr Cyffredinol. Bydd y Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol, sef is-bwyllgor Bwrdd y BBC sy’n gyfrifol am sicrhau bod y BBC yn cydymffurfio â’i fframwaith cwynion sy’n cael ei gadeirio gan gyfarwyddwr anweithredol, yn cael mwy o bwerau i herio a chraffu ar y ffordd mae Gweithrediaeth y BBC yn ymateb i gwynion. Yn olaf, bydd Ofcom yn cael swyddogaeth reoleiddio newydd sydd wedi’i rhwymo mewn cyfraith yn y Cytundeb Fframwaith i adolygu mwy o benderfyniadau’r BBC ynghylch cwynion yn annibynnol. Mae’r adroddiad hefyd yn argymell ffyrdd penodol y gall y BBC ac Ofcom adeiladu ar waith sydd eisoes wedi cael ei wneud i wella profiadau achwynwyr, er mwyn sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn gallu ymgysylltu’n llawn â’r broses a rhannu eu safbwyntiau. Mae’r adolygiad hefyd yn argymell bod Ofcom yn gwella tryloywder ei benderfyniadau pan fydd y BBC wedi canfod ei fod wedi torri ei safonau golygyddol ei hun. Os yw’r achos o dorri safonau o fewn awdurdodaeth reoleiddiol Ofcom, dylai Ofcom gofnodi’r achos hwn yn gyhoeddus ac yn glir. Os bydd Ofcom yn penderfynu peidio ag agor ymchwiliad ffurfiol i’r cynnwys yn erbyn y Cod Darlledu, dylai Ofcom egluro ei resymeg yn glir yn ei fwletin ar-lein. Yn yr Adolygiad o’r Siarter, byddwn yn ystyried a yw BBC yn Gyntaf yn parhau i fod yn fodel cwynion priodol i alluogi’r BBC i gyflawni ei gyfrifoldeb i wasanaethu pob cynulleidfa, gan ddefnyddio adolygiad arfaethedig Ofcom o BBC yn Gyntaf.

14. Cystadleuaeth ac effaith ar y farchnad: cyflwynodd y Siarter bresennol newidiadau mawr i’r ffordd y byddai’r BBC yn cael ei reoleiddio o ran ei effaith ar y farchnad i sicrhau bod y BBC yn cael ei ddal i gyfrif yn ddigonol gan Ofcom. Yn benodol, cyflwynwyd goruchwyliaeth fwy annibynnol i’r broses drwy roi pwerau newydd i Ofcom. Roedd hyn yn cynnwys trosglwyddo’r cyfrifoldeb dros benderfynu a ddylai newid sy’n debygol o gael effaith niweidiol sylweddol ar gystadleuaeth fynd yn ei flaen o Ymddiriedolaeth y BBC i Ofcom. Nid yw’r Siarter yn atal y BBC rhag cael effaith niweidiol ar y farchnad os yw Bwrdd y BBC ac Ofcom yn credu bod hynny’n angenrheidiol er mwyn cyflawni Cenhadaeth a Dibenion Cyhoeddus y BBC yn effeithiol.

15. Mater i’r BBC yw ymateb i’r her a sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng ei rwymedigaethau i gynulleidfaoedd ac i’r economi greadigol, ac i Ofcom ddal y BBC i gyfrif yn gadarn wrth gyflawni’r rhwymedigaethau hynny. Gallai diffyg ymgysylltu effeithiol fod yn risg i broses gwneud penderfyniadau’r BBC ac Ofcom. Rydym felly wedi gwneud argymhellion gyda’r nod o ysgogi safonau uwch ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid a thryloywder i gefnogi cynulleidfaoedd a busnesau eraill sy’n gweithredu yn yr un marchnadoedd â’r BBC. Bydd ein hargymhellion yn galluogi cystadleuwyr y BBC i ymgysylltu’n fwy effeithiol â’r BBC ac Ofcom ar faterion sy’n ymwneud â chystadleuaeth a’r farchnad, ac yn sicrhau bod y BBC yn gliriach o ran sut mae’n cyflawni ei rwymedigaeth i gydweithio a cheisio creu partneriaethau â sefydliadau eraill.

16. Yn olaf, rydym yn annog y BBC i ystyried sut mae’n cyflawni ei rwymedigaethau o ran natur unigryw – ffocws newydd yn y Siarter bresennol – yn ystod gweddill cyfnod y Siarter.

17. Rhaid i’r BBC ddangos yn glir sut mae’n cydbwyso anghenion cynulleidfaoedd yn effeithiol, a’r effaith ar gystadleuwyr wrth wneud penderfyniadau ynghylch sut mae ei wasanaethau a’i allbwn yn unigryw. Bydd sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng gallu’r BBC i ddarparu ar gyfer cynulleidfaoedd a chefnogi’r economi greadigol yn gwestiwn pwysig wrth adnewyddu Siarter y BBC. Byddwn yn edrych ar rôl y BBC yn y farchnad ehangach, gan gynnwys sut gallai fod angen i’r fframwaith rheoleiddio esblygu i adlewyrchu newidiadau mewn technoleg ac ymddygiad defnyddwyr, fel rhan o’n gwaith yn yr Adolygiad nesaf o’r Siarter. Gan fyfyrio ar y dystiolaeth rydym wedi’i chael, bydd natur unigryw’r BBC yn agwedd allweddol ar y gwaith hwnnw.

18. Rheoleiddio a llywodraethu masnachol: mae’r BBC yn cyflawni amrywiaeth o weithgareddau masnachol, sydd wedi cynyddu ers dechrau cyfnod y Siarter hon drwy greu BBC Studios fel is-gwmni masnachol a’i uno â BBC Worldwide. Mae’r Siarter yn mynnu bod Bwrdd y BBC yn goruchwylio ac yn gosod strategaeth ar gyfer gweithgareddau masnachol y BBC, fel rhan o’i ddyletswydd i sicrhau bod y BBC yn cyflawni ei Genhadaeth ac yn hyrwyddo’r Dibenion Cyhoeddus. Bwrdd Masnachol y BBC sy’n goruchwylio’r gwaith o gyflawni uchelgeisiau masnachol y Gorfforaeth. Mae’r Siarter hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r BBC ac Ofcom sicrhau nad yw is-gwmnïau masnachol y BBC yn cael mantais gystadleuol annheg nac yn ystumio’r farchnad o ganlyniad i’w perthynas â changen gwasanaeth cyhoeddus y BBC. Yn y cyd-destun hwnnw, mae’r Llywodraeth felly am weld cangen fasnachol y BBC yn llwyddo ac yn tyfu dros weddill cyfnod y Siarter hon. Rydym eisoes wedi cefnogi hyn drwy gynyddu terfyn benthyca masnachol y BBC o £350m i £750m.

19. Mae’r adolygiad wedi canfod bod trefniadau llywodraethu a rheoleiddio gweithgareddau masnachol y BBC yn gweithio’n effeithiol. Mae diweddariad mis Mawrth 2022 y BBC o’i drefn lywodraethu masnachol yn galonogol a dylai gefnogi cynlluniau’r BBC i dyfu ei gangen fasnachol, ac rydym yn argymell y dylai’r BBC fonitro effeithiolrwydd y Bwrdd Masnachol newydd wrth i’r trefniadau newydd hyn wreiddio.

20. Amrywiaeth: mae BBC sy’n adlewyrchu, yn cynrychioli ac yn gwasanaethu cymunedau amrywiol y DU yn gywir yn un o ofynion y Siarter, ac mae’n hanfodol i’r BBC o ran cyflawni ei ddyletswyddau i dalwyr ffi’r drwydded ledled y wlad. Roedd y Siarter bresennol yn cyflwyno dyletswyddau penodol ar y BBC o ran amrywiaeth, fel y gofyniad i’r sefydliad sicrhau ei fod yn adlewyrchu cymunedau sy’n cael eu tangynrychioli yn ei allbwn a’i wasanaethau, ac i ymgysylltu â chynulleidfaoedd i sicrhau bod eu safbwyntiau’n cael eu cynnwys a’u hystyried wrth wneud penderfyniadau. Fel y nodir yn y Cytundeb Fframwaith, mae gan Fwrdd y BBC gyfrifoldeb penodol hefyd i oruchwylio ac adrodd yn flynyddol ar gynlluniau’r BBC i adlewyrchu a chynrychioli’r DU yn fwy effeithiol. Roedd yr Adolygiad Canol Tymor yn asesu a yw fframweithiau llywodraethu a rheoleiddio’r BBC yn galluogi’r BBC i gyflawni’r cyfrifoldebau newydd hyn yn effeithiol, a’i ddyletswyddau o ran amrywiaeth yn gyffredinol.

21. Er bod y BBC wedi datgan ei fod yn deall pwysigrwydd gwella amrywiaeth y sefydliad, ar y sgrin ac oddi ar y sgrin, a bod cynnydd wedi cael ei wneud, mae meysydd i’w gwella ymhellach. Mae BBC sy’n adlewyrchu’n gywir yr amrywiaeth o safbwyntiau sy’n bodoli ar draws y DU yn hanfodol er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd yn teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli. Mae angen i Fwrdd y BBC ystyried sut gellid adlewyrchu amrywiaeth o ran barn a syniadau yn well wrth wneud penderfyniadau, o ystyried ei fod wedi cael ei nodi fel maes pwysig i’w wella gan y BBC ei hun a chan amrywiaeth o drydydd partïon. Byddwn yn ystyried a yw’r BBC yn adlewyrchu digon o amrywiaeth o ran barn a syniadau yn ei benderfyniadau yn yr Adolygiad o’r Siarter. Rydym hefyd wedi nodi bod rhai grwpiau cynulleidfa yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol gan y BBC, a bod ymgysylltu’n effeithiol â chynulleidfaoedd yn bwysig er mwyn sicrhau bod y BBC yn deall anghenion penodol cymunedau ledled y DU. Felly, rydym yn argymell bod y BBC yn parhau i adolygu ei ymgysylltiad â grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli i sicrhau bod yr ymgysylltiad hwn yn ddigonol. Er mwyn galluogi’r BBC i ddangos yn well sut mae’n cyflawni ei amcanion amrywiaeth, ac i sicrhau bod eraill yn gallu dal y BBC yn atebol am ei berfformiad, rydym hefyd yn argymell bod y BBC yn ystyried cyhoeddi gwybodaeth fanylach am y gwaith ymgysylltu mae ei Aelodau (Bwrdd) ar gyfer y Gwledydd yn ei wneud gyda chynulleidfaoedd.

22. Tryloywder: cawsom dystiolaeth am dryloywder y BBC wrth edrych ar y rhan fwyaf o’r themâu uchod. Un o uchelgeisiau’r Siarter bresennol oedd gwella tryloywder y BBC. Felly, mae tryloywder wrth galon cyfrifoldebau’r BBC, gyda disgwyliadau clir ei fod yn cadw at safonau uchel o ran bod yn agored ac yn ceisio sicrhau’r tryloywder a’r atebolrwydd gorau posibl.

23. Rydym yn cydnabod bod tryloywder y BBC wedi gwella yn ystod cyfnod y Siarter hon, gyda’r BBC yn parhau i ymdrechu i wella ymhellach. Ond mae cyfathrebu syml ac agored â’r rheini sy’n talu ffi’r drwydded yn dal yn hanfodol, ac mae’r dystiolaeth a gafwyd fel rhan o’r Adolygiad Canol Tymor yn dangos nad yw’r BBC bob amser wedi cyfleu newidiadau sy’n cael effaith ar gynulleidfaoedd a rhanddeiliaid yn effeithiol iddyn nhw. Mae angen i’r BBC ddangos ei fod o ddifrif ynghylch cyfathrebu’n effeithiol. Rydym hefyd yn cydnabod bod angen i dalwyr ffi’r drwydded gael cyfle i ddweud pa wybodaeth maen nhw eisiau ei gweld er mwyn dal y BBC i gyfrif. Felly mae angen i’r BBC wneud rhagor o waith i ddeall a yw cynulleidfaoedd yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt, a chyhoeddi canlyniadau’r gwaith hwnnw yn ogystal â sut mae’n bwriadu ymateb. Mae gan Ofcom gyfrifoldebau sylweddol hefyd yn ei rôl yn sicrhau bod y BBC yn cyflawni ar gyfer cynulleidfaoedd, yn enwedig drwy helpu cynulleidfaoedd i ddeall pam a sut mae’n dal y BBC i gyfrif. Felly, rydym yn disgwyl i Ofcom barhau i ddangos lefelau uchel o dryloywder wrth iddo gyflawni ei rôl fel rheoleiddiwr annibynnol.

24. Mae’r rhan fwyaf o’r argymhellion yn rhai i’r BBC ac Ofcom fwrw ymlaen â nhw, ac mae’r Llywodraeth yn disgwyl iddynt gael eu rhoi ar waith yn fuan. Mae nifer o argymhellion penodol yn gofyn am newidiadau i’r Cytundeb Fframwaith yr ydym eisoes yn gweithio arno gyda’r BBC ac Ofcom, a bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl. Gan edrych ymhellach i’r dyfodol, er bod yr Adolygiad Canol Tymor wedi argymell diwygio angenrheidiol nawr, bydd hefyd yn galluogi’r Llywodraeth, y BBC ac Ofcom i baratoi’n well ar gyfer yr Adolygiad o’r Siarter. Mae wedi helpu i ddiffinio ffocws yr Adolygiad o’r Siarter, gan gynnwys drwy edrych eto ar faterion lle rydym wedi nodi disgwyliadau clir o ran cynnydd gan y BBC yn yr Adolygiad Canol Tymor, yn ogystal â materion a oedd y tu allan i Gylch Gorchwyl yr Adolygiad Canol Tymor ond lle’r oedd gan randdeiliaid bryderon ynghylch graddnodi Cenhadaeth a Dibenion Cyhoeddus y BBC, a diweddaru ein hasesiad o faterion lle’r oedd yn rhy gynnar i’w hasesu’n llawn yn ystod yr Adolygiad Canol Tymor.

Cyflwyniad

25. Mae’r BBC yn sefydliad diwylliannol unigryw sydd wedi darparu’r model ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus ledled y byd. Y BBC yw allforyn diwylliannol mwyaf adnabyddus y DU o hyd, mae’n fwy adnabyddus na chwaraeon a phrifysgolion Prydain hyd yn oed. Yn nes at adref, mae ei wasanaethau’n cael eu defnyddio’n eang, gyda phedwar o bob pump o oedolion yn defnyddio’r BBC bob wythnos. Mae cynnwys y BBC yn rhoi gwybodaeth, yn addysgu ac yn diddanu miliynau o bobl bob dydd. Fel cenedl, rydym yn treulio llawer o amser â’r BBC. Ar gyfartaledd, mae oedolion yn y DU yn treulio 16.68 awr yr wythnos gyda gwasanaethau’r BBC.

26. Y tu hwnt i rythmau ein bywydau personol ein hunain o ddydd i ddydd, mae gan y BBC le canolog yn ein bywyd cenedlaethol cyffredin. Mae’n parhau i ddod â’r DU at ei gilydd – i ddathlu ac yn dilyn colled – drwy ei darllediadau o’r radd flaenaf o eiliadau o arwyddocâd cenedlaethol: Gemau’r Gymanwlad, Coroni Ei Fawrhydi y Brenin Charles III, diweddariadau Covid-19 ac Angladd Gwladol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II. Gwnaeth y BBC hefyd uno cynulleidfaoedd ar draws y byd eleni drwy gynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision yn Lerpwl ar ran Wcráin.

27. Fel y nododd Ofcom yn ei adroddiad yn 2021 ‘Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr: Argymhellion i’r Llywodraeth ar Ddyfodol Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus’, mae’r degawd diwethaf wedi gweld newid cyflym yn y diwydiant darlledu. Mae hyn wedi cael ei sbarduno gan dueddiadau byd-eang ehangach sy’n newid natur sylfaenol y cyd-destun y mae’n rhaid i’r BBC weithredu ynddo. Mae technolegau ac arferion cynulleidfaoedd wedi esblygu, ac mae mwy o gystadleuaeth bellach wrth i ffrydwyr byd-eang ddod yn fwy amlwg ym marchnadoedd y DU. Yn 2022, roedd gwasanaethau teledu byw yn cyfrif am llai na hanner yr holl amser gwylio clywedol. Y prif rai sy’n elwa o’r newid hwn yw gwasanaethau fideo ar-alw, gyda dros ddwy ran o dair o gartrefi’r DU bellach yn defnyddio gwasanaeth fideo ar-alw fel Netflix, Amazon Prime Video neu Disney Plus (er ei bod yn ymddangos bod nifer y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau tanysgrifio fideo ar-alw wedi cyrraedd lefel sefydlog erbyn hyn). Mae hyn yn golygu bod darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fel y BBC nawr yn cystadlu’n uniongyrchol â ffrydwyr sydd, oherwydd eu graddfa fyd-eang, yn gallu defnyddio adnoddau ariannol sylweddol. Fodd bynnag, o ystyried y dewis sydd ar gael, mae hon yn farchnad hynod gystadleuol ac mae mwy a mwy o dystiolaeth bod gwylwyr yn siopa o gwmpas i ddod o hyd i’r gwasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion orau.

28. Mae effaith gronnol y tueddiadau hyn yn cyflwyno cwestiynau anodd ynghylch sut gall ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus barhau i gyflawni orau ar gyfer cynulleidfaoedd y DU ymhell i’r dyfodol. Mae’r Llywodraeth yn nodi ei gweledigaeth ar gyfer y sector darlledu, a’r camau y bydd yn eu cymryd i gefnogi ein system darlledu gwasanaeth cyhoeddus, yn ein Papur Gwyn ‘Up Next’. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i ddeddfu ar gyfer diwygiadau drwy Fil Cyfryngau a gyhoeddwyd ar ffurf drafft ym mis Mawrth 2023. Wrth gwrs, mae darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn gysyniad mwy na’r BBC yn unig, ond rydym am i’r BBC barhau i fod wrth wraidd esblygiad darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar gyfer yr oes ddigidol a byd-eang.

Cynllun ar gyfer Diwygio a Chyd-destun yr Adolygiad Canol Tymor

29. Yng ngoleuni anghenion a disgwyliadau cynulleidfaoedd sy’n newid yn gyflym, mae’r Llywodraeth wedi nodi yn y Papur Gwyn ‘Up Next’ ei gynllun diwygio uchelgeisiol ar gyfer y BBC, i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn gynaliadwy am y degawdau sydd i ddod. Bydd y cynllun hwn ar gyfer diwygio yn dod i ben gydag adolygiad o Siarter Frenhinol y BBC.

30. Y Siarter Frenhinol yw sail gyfansoddiadol y BBC. Mae’n nodi Cenhadaeth a Dibenion Cyhoeddus y BBC, a’i ddyletswyddau i dalwyr ffi’r drwydded. Mae’r Siarter hefyd yn amlinellu trefniadau llywodraethu a rheoleiddio’r Gorfforaeth, gan gynnwys rôl a chyfansoddiad Bwrdd y BBC. Mae’n cyd-fynd â’r Cytundeb Fframwaith, sef cytundeb rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a’r BBC, sy’n rhoi rhagor o fanylion am rwymedigaethau cyhoeddus, trefniadau cyllido a dyletswyddau rheoleiddio’r BBC. Dechreuodd y Siarter gyfredol ar 1 Ionawr 2017 a daw i ben ar 31 Rhagfyr 2027. Yn dilyn yr Adolygiad o’r Siarter yn 2015/16, sefydlwyd trefniadau llywodraethu a rheoleiddio newydd ar gyfer y BBC: byddai’r gwaith o lywodraethu’r BBC yn cael ei gynnal gan Fwrdd unedol newydd, a byddai’r gwaith rheoleiddio’n cael ei drosglwyddo i Ofcom, sef rheoleiddiwr allanol annibynnol cyntaf y BBC. Mae’r Siarter a’r Cytundeb Fframwaith yn nodi sut mae’n rhaid i Ofcom a’r BBC gyflawni hyn.

31. O ystyried maint y newidiadau a gyflwynwyd gan Siarter 2017, roedd Erthygl 57 yn darparu i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gynnal adolygiad. Felly, mae’r Adolygiad Canol Tymor yn garreg filltir bwysig yng nghynllun ehangach y Llywodraeth i ddiwygio’r BBC: mae’n gyfle da i asesu pa mor dda mae trefniadau llywodraethu a rheoleiddio’r BBC yn gweithio, ac a oes angen gwneud unrhyw newidiadau i sicrhau bod y BBC yn cyflawni ar gyfer pawb sy’n talu ffi’r drwydded, yn unol â gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer BBC ffyniannus a chynaliadwy yn y byd digidol.

32. Ar y pwynt hanner ffordd hwn yng nghyfnod y Siarter, mae’r BBC eisoes wedi dangos ei allu i addasu ac arloesi. Ym mis Mai 2022, cyflwynodd y BBC gynllun i esblygu i fod yn ‘ddigidol yn gyntaf’. Ers hynny, mae wedi gwneud cynnydd ar ei gynllun i drawsnewid yn ddigidol drwy fesurau fel personoli profiadau ar iPlayer a datblygu BBC Sounds i alluogi gwrandawyr i rewi a ‘weindio’n ôl’ radio byw drwy seinyddion clyfar.

33. Mae’r hanner hwn o gyfnod y Siarter hefyd wedi cynnwys adegau heriol i’r BBC, fel Ofcom yn dod i gasgliad annibynnol bod y BBC wedi gwneud methiannau golygyddol sylweddol o ran ei adroddiadau am yr ymosodiad gwrth-Semitaidd ar fyfyrwyr Iddewig a oedd yn teithio ar fws yn Llundain. Ar ben hynny, canfu adolygiad dan arweiniad Syr Nicholas Serota, ‘The Serota Review - BBC editorial processes, governance, and culture’ (‘Adolygiad Serota’) yn dilyn Adroddiad yr Arglwydd Dyson i’r amgylchiadau a arweiniodd at gyfweliad Panorama Martin Bashir gyda Diana, Tywysoges Cymru, a chanlyniad hynny, a ddarganfyddodd fod “diwylliant amddiffynnol” yn y BBC, a bod angen i’r BBC wneud mwy i wreiddio gwerthoedd golygyddol fel didueddrwydd. Mae sefydliadau iach yn gallu agor eu hunain i graffu allanol, myfyrio ar heriau a dod o hyd i gyfleoedd dysgu ynddynt.

34. Mae digwyddiadau cyfnod y Siarter hon hyd yma – sy’n cynnwys cyfleoedd a heriau – wedi egluro pwysigrwydd trefniadau llywodraethu a rheoleiddio cryf: dyma’r mecanweithiau sy’n helpu newid sefydliadol; yn galluogi’r BBC i gyflawni ei amcanion a’i rwymedigaethau; ac yn sicrhau ei fod yn cael ei ddal i gyfrif am ei gyfrifoldebau ar ran pawb sy’n talu ffi’r drwydded.

Cwmpas yr Adolygiad Canol Tymor

35. Fel y nodir yn y Cylch Gorchwyl a gyhoeddwyd ym mis Mai 2022, ac sydd wedi’i gynnwys yn llawn yn Atodiad A, cwmpas yr adolygiad hwn yw ystyried sut mae’r newidiadau i drefniadau llywodraethu a rheoleiddio’r BBC a wnaed drwy’r Siarter bresennol wedi cael eu rhoi ar waith. Yn benodol, a yw’r newidiadau hynny i lywodraethu a rheoleiddio wedi llwyddo i sicrhau bod Cenhadaeth a Dibenion Cyhoeddus y BBC yn cael eu cyflawni’n effeithiol ledled y DU, gan gynnwys ym mhob un o’i Gwledydd ac yn fyd-eang; bod Dyletswyddau Cyffredinol y BBC yn cael eu cyflawni’n llwyddiannus; a bod Bwrdd y BBC ac Ofcom wedi cyflawni’r swyddogaethau penodol sy’n ofynnol ganddynt yn y Siarter a’r Cytundeb Fframwaith.

36. Roedd yr adolygiad felly’n canolbwyntio ar nifer o themâu:

  • Llywodraethu

  • Safonau golygyddol a didueddrwydd

  • Cwynion

  • Rheoleiddio a llywodraethu masnachol

  • Cystadleuaeth ac effaith ar y farchnad

  • Amrywiaeth

  • Tryloywder

37. Yn unol â gofynion y Siarter, nid yw’r adolygiad wedi ystyried Cenhadaeth y BBC; Dibenion Cyhoeddus y BBC; neu fodel cyllido ffi’r drwydded y BBC ar gyfer cyfnod y Siarter hon.

Sut y cynhaliwyd yr Adolygiad Canol Tymor

Tystiolaeth gan randdeiliaid

38. Cynhaliwyd yr Adolygiad Canol Tymor gan y DCMS ar sail ymgynghoriad wedi’i dargedu lle gofynnwyd am dystiolaeth ac adborth gan randdeiliaid sydd â diddordeb yn y ffordd mae’r BBC yn cael ei lywodraethu a’i reoleiddio. Cafwyd eu barn yn ysgrifenedig, drwy gyfarfodydd bwrdd crwn, ac mewn trafodaethau unigol. Ceir rhestr lawn o’r rhanddeiliaid yn Atodiad B.

39. Roedd y DCMS hefyd wedi elwa o wybodaeth a ddarparwyd gan y BBC ac Ofcom. Cynhaliwyd cyfweliadau gydag uwch swyddogion o’r ddau sefydliad hefyd a oedd yn caniatáu ar gyfer trafodaethau agored a gonest ynghylch sut mae’r trefniadau presennol yn gweithio, a lle gellid gwneud gwelliannau.

Ymgynghori â’r BBC, Ofcom a’r Gweinyddiaethau Datganoledig

40. Fel sy’n ofynnol yng Nghylch Gorchwyl yr Adolygiad Canol Tymor, mae’r DCMS wedi ymgynghori â’r BBC, Ofcom a’r Gweinyddiaethau Datganoledig i lunio casgliadau ac argymhellion yr adolygiad. Rydym yn ddiolchgar am eu hymgysylltiad a’u cydweithrediad.

41. Ceir rhestr lawn o gasgliadau ac argymhellion yr Adolygiad Canol Tymor yn Atodiad C.

Pennod 1: Llywodraethu

Y Cefndir

42. Yn ei adolygiad annibynnol ‘A Review of the Governance and Regulation of the BBC’ a gyhoeddwyd yn 2016 i lywio datblygiad y Siarter bresennol, roedd Syr David Clementi yn diffinio llywodraethu fel y ffordd mae endid yn trefnu ei hun yn ei fyrddau, pwyllgorau a chyrff eraill sy’n gwneud penderfyniadau, gan osod amcanion strategol a chyllidebau ar gyfer y sefydliad, gan geisio bod yn effeithiol ac yn effeithlon, yn ogystal ag yn atebol i’r rhai y mae’n eu gwasanaethu a’r rhai y mae’n gyfrifol iddynt. Mae cael fframwaith llywodraethu cryf yn hanfodol i lwyddiant unrhyw sefydliad. Roedd adolygiad Syr David Clementi yn edrych ar wahanol fodelau llywodraethu ac yn argymell sut gellid newid fframwaith llywodraethu’r BBC bryd hynny.

43. Cyn hynny, roedd trefn lywodraethu’r BBC yn seiliedig ar fodel Ymddiriedolaeth gyda Bwrdd dwy haen. Daeth Syr David Clementi i’r casgliad bod y model hwn wedi atal cyfrifoldebau a llinellau atebolrwydd clir, wedi arwain at ddyblygu ymdrechion, ac nad oedd cael cyfrifoldebau llywodraethu ar gyfer y BBC a chyfrifoldebau rheoleiddio yn cael ei ystyried yn arfer gorau. Nododd, am y rheswm hwn, fod rhai’n dadlau bod yr Ymddiriedolaeth yn “cheerleader” ac yn rheoleiddiwr.

44. Ar sail ei argymhellion, sefydlodd y Siarter bresennol un bwrdd unedol, gyda chyfrifoldeb ar y cyd dros y BBC. Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am sicrhau bod y BBC yn cyflawni ei Genhadaeth a’r Dibenion Cyhoeddus hynny, a rhaid iddo gynnal a diogelu annibyniaeth y BBC gan gynnwys drwy weithredu er budd y cyhoedd. Mae’r Bwrdd yn cynnwys mwyafrif o aelodau anweithredol. Mae’r Llywodraeth yn penodi pump o’r deg aelod anweithredol: y Cadeirydd ac un Aelod Anweithredol ar gyfer pob un o wledydd y DU.

45. Mae’r Siarter hefyd yn mynnu bod y BBC yn gweithredu egwyddorion llywodraethu corfforaethol da sy’n cael eu derbyn yn gyffredinol lle bo hynny’n briodol. Mae Ofcom wedi ymgymryd â rôl yr unig reoleiddiwr annibynnol.

46. O ystyried maint y newidiadau hyn, rydym wedi ystyried a yw’r bwrdd unedol wedi datrys pryderon Syr David Clementi ac a oes angen gwneud rhagor o newidiadau i sicrhau’r effeithiolrwydd parhaus mwyaf posibl. Cawsom y mwyafrif helaeth o’r adborth gan y rheini sy’n agos at y gwaith o lywodraethu’r BBC o ddydd i ddydd o dan y modelau presennol a blaenorol. Er eu bod wedi cael cyfle i roi sylwadau ar elfennau penodol o brosesau llywodraethu’r BBC, mae gan randdeiliaid eraill fwy o ddiddordeb mewn anghenion cynulleidfaoedd ac effaith y BBC ar y farchnad ehangach yn hytrach na strwythur llywodraethu’r BBC. Nodwn i’r adolygiad gael ei gynnal yn ystod deiliadaeth dau gadeirydd gwahanol.

Gweithredu ac effaith strwythur newydd y bwrdd unedol

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

47. Yn ystod cam casglu tystiolaeth yr adolygiad hwn, cawsom llawer o adborth yn nodi bod strwythur y bwrdd unedol wedi mynd i’r afael â’r prif bryderon a nodwyd yn adolygiad Syr David Clementi. Mae wedi creu rolau a chyfrifoldebau clir, llinellau atebolrwydd a diwylliant o herio adeiladol. Deellir yn eang mai’r Bwrdd sy’n gyfrifol am ddal gweithrediaeth y BBC i gyfrif heb fod yn rhan o’r gwaith o ddydd i ddydd, tra bo Ofcom yn gyfrifol am reoleiddio yn hytrach nag Ymddiriedolaeth y BBC, gan achosi dryswch am fod ganddo rai o’i gyfrifoldebau rheoleiddio ei hun.

48. Roedd yr adborth yn awgrymu bod strwythur is-bwyllgorau’r BBC yn gweithio’n effeithiol, a bod y Pwyllgor Archwilio a Risg yn enwedig yn perfformio’n dda. Mae’r Bwrdd wedi sefydlu proses ddirprwyo – sy’n nodi pa faterion sy’n faterion a gedwir yn ôl ar gyfer y Bwrdd a lle gellir gwneud penderfyniadau ar lefelau eraill yn y sefydliad.

49. Clywsom hefyd fod y Bwrdd yn cael llawer iawn o wybodaeth, er enghraifft amrywiaeth o fetrigau ac amcanion cynulleidfa, ariannol, gweithredol a golygyddol, a’i fod yn cael yr wybodaeth gywir er mwyn ei helpu i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar wybodaeth briodol. Ni chlywsom unrhyw bryderon am y llif gwybodaeth rhwng y Gorfforaeth ehangach a’r Bwrdd, nac ansawdd yr wybodaeth a ddarparwyd.

50. Roedd adolygiad Syr David Clementi yn nodi nifer o ddisgwyliadau ar gyfer cyfrifoldebau adrodd y bwrdd unedol newydd, er mwyn sicrhau bod modd dal y BBC yn atebol yn ddigonol. Mae’r rhain yn cynnwys adroddiad gan is-bwyllgorau allweddol yn Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol pob blwyddyn, yn ogystal ag adroddiadau am weithgareddau a materion penodol. Mae Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC ar gyfer pob blwyddyn ers 2017/18 yn cynnwys adrodd ar yr holl faterion hyn, gan roi manylion eu meysydd ffocws penodol, penderfyniadau allweddol a myfyrdodau ar y flwyddyn adrodd. Mae perfformiad y BBC hefyd wedi’i gynnwys yn unol â’r Fframwaith Gweithredu a’r Drwydded Weithredu, materion golygyddol a chwynion, a materion sy’n ymwneud â chystadleuaeth a masnachu teg, eto yn unol â chynigion Syr David Clementi a gofynion y Siarter.

Ymateb y llywodraeth

51. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod model y bwrdd unedol wedi cael ei weithredu’n effeithiol, a’i fod yn darparu’r arweiniad sy’n ofynnol gan sefydliad mawr a chymhleth. Ar ben hynny, mae’r model yn goresgyn yr heriau a ddaeth yn sgil y model blaenorol. Yn benodol, mae’n glir yn awr beth y mae aelodau’r Bwrdd yn gyfrifol amdano, a beth nad ydynt.

1.1 Rydym wedi dod i’r casgliad bod model y bwrdd unedol wedi cael ei weithredu’n effeithiol a’i fod yn gweithio’n dda. Gellir mynd i’r afael â materion a nodwyd yn ystod yr Adolygiad Canol Tymor yn y fframwaith llywodraethu presennol.

52. Er i ni glywed bod Bwrdd y BBC yn cael yr wybodaeth gywir, o ystyried pa mor hanfodol yw hynny er mwyn gwneud penderfyniadau effeithiol ac amserol, mae’n bwysig bod y Bwrdd yn parhau i adolygu hyn yn rheolaidd, fel rhan o’i weithgarwch busnes arferol, er mwyn sicrhau bod y trefniadau presennol yn parhau i weithio’n dda.

1.2 Rydym yn argymell bod y Bwrdd yn adolygu’r wybodaeth y mae’n ei chael yn rheolaidd er mwyn iddo barhau i wneud y mwyaf o’i allu i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar gydbwysedd cywir o wybodaeth.

53. Mae’n bwysig bod gan is-bwyllgorau’r Bwrdd y cyfrifoldebau a’r arbenigedd sydd eu hangen i oruchwylio meysydd penodol o berfformiad y BBC yn fanwl, a’u bod yn gallu nodi, datrys neu uwchgyfeirio problemau i’r Bwrdd yn ôl yr angen. Fodd bynnag, mewn penodau diweddarach yn yr adroddiad hwn rydym yn trafod effeithiolrwydd y Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol, sef yr is-bwyllgor sy’n gyfrifol am ddatblygu a sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau golygyddol y BBC, gan ein bod wedi nodi rhai argymhellion penodol ar gyfer gwella sut mae’r pwyllgor hwn yn gweithredu.

54. Yn gyffredinol, rydym wedi dod i’r casgliad bod y Bwrdd i bob pwrpas yn cyflawni’r cyfrifoldebau adrodd a nodir yn erthygl 37 o’r Siarter, sy’n adlewyrchu’r argymhellion yn adolygiad Syr David Clementi. Mae cwestiynau am dryloywder y BBC mewn meysydd penodol, gan gynnwys tryloywder y BBC ynghylch newidiadau i wasanaethau ar gyfer y rheini sy’n talu ffi’r drwydded ac o ynghylch y broses gwyno, yn cael sylw mewn mannau eraill yn yr adolygiad hwn.

1.3 Rydym wedi dod i’r casgliad bod strwythur yr is-bwyllgorau yn ychwanegu gwerth, gyda phwerau dirprwyedig clir gan y Bwrdd, ac mae mwyafrif helaeth y pwyllgorau’n cyflawni’n effeithiol.

1.4 Rydym wedi dod i’r casgliad bod y Bwrdd yn cyflawni ei gyfrifoldebau adrodd yn effeithiol.

Cydymffurfio ag arferion gorau

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

55. Er nad yw’r BBC yn gwmni wedi’i restru, mae wedi dewis cyflawni ei gyfrifoldebau yn y Siarter i weithredu egwyddorion llywodraethu corfforaethol da sy’n cael eu derbyn yn gyffredinol lle bo hynny’n briodol drwy ddilyn darpariaethau priodol Cod Llywodraethu Corfforaethol y Cyngor Adroddiadau Ariannol yn y DU (“y Cod”). Rydym wedi gweld esboniad manwl o sut mae’r BBC yn cydymffurfio â’r Cod. Mae hefyd yn glir o Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC bob blwyddyn pam mae diffyg cydymffurfio yn briodol mewn meysydd penodol, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â pherthnasoedd cyfranddalwyr neu lle mae’r Cod yn cael ei ddiystyru gan y Siarter mewn meysydd fel penodi a chyfansoddiad y Bwrdd, ac nid ydym wedi nodi unrhyw bryderon ynghylch rhesymeg y BBC wrth egluro achosion o ddiffyg cydymffurfio. Roedd adborth yn ystod cam casglu tystiolaeth yr adolygiad yn darparu tystiolaeth gref o gydymffurfio mewn nifer o feysydd penodol:

  • Adolygiadau rheolaidd o effeithiolrwydd y Bwrdd (a drafodir yn fanylach isod).
  • Adolygiadau perfformiad yr Aelodau Anweithredol a gynhaliwyd gan y Cadeirydd, gan gynnwys trafod eu rolau fel Cadeiryddion Is-bwyllgorau’r Bwrdd.
  • Diwylliant o fod yn agored, dadlau a herio’n adeiladol.
  • Pwyllgor Archwilio a Risg effeithiol, fel yr adlewyrchir uchod.

Ymateb y llywodraeth

56. Mae’n bwysig gweld tystiolaeth o gydymffurfio â’r Cod, ac esboniad clir yn flynyddol o ble a pham nad yw’r Bwrdd yn ystyried bod cydymffurfiaeth yn briodol. Dylai’r dull hwn o gydymffurfio fod yn sylfaen gref ar gyfer effeithiolrwydd llywodraethu parhaus, sy’n hanfodol ar gyfer sefydliad mor gymhleth sy’n cael ei gefnogi gan symiau sylweddol o arian cyhoeddus.

Aelodau Anweithredol

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

57. Mae adborth a gafwyd yn ystod y cam casglu tystiolaeth, ac archwiliad o fywgraffiadau Aelodau Anweithredol unigol, yn awgrymu bod gan yr Aelodau Anweithredol presennol amrywiaeth eang o brofiadau a sgiliau, ac mae’r BBC yn chwarae rhan glir ym mhroses benodi’r Llywodraeth ar gyfer y rheini sy’n cael eu penodi’n gyhoeddus. Mae hyn yn golygu, yn unol â’r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus a’r Siarter, bod yn rhaid i’r Llywodraeth ymgynghori â’r BBC ynghylch y broses penodi Cadeirydd ac Aelodau’r Cenhedloedd, rhaid i Gadeirydd y BBC fod yn aelod o’r panel dethol ar gyfer penodi Aelodau’r Cenhedloedd a rhaid iddo roi sylw penodol i ofyniad y Siarter bod gan aelodau’r Bwrdd yr ystod o sgiliau a phrofiad sy’n angenrheidiol i sicrhau bod swyddogaethau’r BBC yn cael eu harfer yn briodol. Nid ydym wedi clywed unrhyw dystiolaeth i fynegi pryderon am gyfansoddiad cyffredinol y Bwrdd ar hyn o bryd. Clywsom hefyd adborth cadarnhaol am y broses gynefino ar gyfer Aelodau Anweithredol newydd.

Ymateb y llywodraeth

58. Rhaid i benderfyniadau effeithiol gael eu llywio gan yr ystod ehangaf bosibl o brofiad a sgiliau, gan gynnwys y rhai sy’n berthnasol i’r sector dan sylw. Mae gan lawer o’r Aelodau Anweithredol rôl hollbwysig yn cadeirio is-bwyllgorau unigol y Bwrdd, gan oruchwylio a herio meysydd allweddol o weithgarwch y BBC. Fel aelodau o’r Bwrdd, mae gan bob un gyfrifoldeb cyffredinol i ddal gweithrediaeth y BBC i gyfrif.

59. Rydym yn cydnabod bod cael cydbwysedd perffaith o sgiliau a phrofiad ymysg Aelodau Anweithredol yn gallu bod yn heriol, oherwydd mae’n dibynnu ar yr ymgeiswyr a’r rôl benodol. Mae’n ymddangos bod y broses penodi Aelodau Anweithredol yn gweithio’n effeithiol i alluogi cyflawni’r disgwyliadau a nodir yn Siarter yr Aelodau Anweithredol hynny – mae gan yr Aelodau Anweithredol amrywiaeth eang o brofiad a sgiliau, ac mae’r BBC yn chwarae rhan benodol ym mhroses benodi Llywodraeth EF i sicrhau’r cydbwysedd sgiliau cywir yn y dyfodol. Mae penodiad diweddar aelod parhaol o Fwrdd y BBC ar gyfer Gogledd Iwerddon bellach yn golygu bod gan y Bwrdd gyfrifoldeb penodol i herio a chraffu er mwyn sicrhau bod y BBC yn darparu allbwn a gwasanaethau sy’n diwallu anghenion cynulleidfaoedd yn y wlad honno.

60. Mae proses gynefino effeithiol ar gyfer yr Aelodau Anweithredol yn rhoi gwybodaeth hanfodol i unigolion am eu rolau, a sut mae eu rolau a’u cyfrifoldebau yn cyd-fynd ag amcanion a nodau cyffredinol y sefydliad. Bydd hyn yn galluogi Aelodau Anweithredol i fod mor effeithiol â phosibl cyn gynted â phosibl.

1.5 Rydym hefyd yn croesawu’r adborth cadarnhaol a gafwyd am y broses gynefino ar gyfer Aelodau Anweithredol newydd.

Cyfrifoldebau’r Bwrdd i’w staff

Gwelededd y Bwrdd

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

61. Cawsom adborth wrth gasglu tystiolaeth bod angen i’r Bwrdd sicrhau ei fod yn ddigon gweladwy i weddill y sefydliad, gyda mwy o ryngweithio, gan gynnwys rhwng yr Aelodau Anweithredol a’r rheini mewn rolau gweithredol. Fodd bynnag, clywsom hefyd fod gan y BBC eisoes raglen helaeth o gyfathrebu mewnol ar waith er mwyn i staff allu ymgysylltu a chlywed gan uwch swyddogion gweithredol y BBC ac aelodau’r Bwrdd, ac mae’r BBC wedi cadarnhau ei fod yn monitro effeithiolrwydd y gwaith hwn, ac y bydd yn parhau i wneud hynny. Clywsom hefyd fod y BBC eisoes yn gweithredu nifer o fesurau penodol i sicrhau bod hyn yn digwydd, a’i fod yn parhau i adolygu’r mesurau hyn, er enghraifft drwy fonitro ymgysylltiad staff drwy arolygon staff.

Ymateb y llywodraeth

62. Mae gan y Bwrdd gyfrifoldebau pwysig i’w staff, sydd angen dealltwriaeth a hyder yn y ffordd y mae’r sefydliad yn cael ei redeg ar y lefel uchaf, a bod eu barn yn cael ei hystyried.

63. Rydym yn deall y gallai’r pandemig fod wedi effeithio ar allu’r Bwrdd i gyflawni’r cyfrifoldebau hyn. Nodwn fod y BBC yn rhoi mesurau penodol ar waith ac yn monitro eu heffeithiolrwydd. Fodd bynnag, gan fod hyn yn ymwneud â’u gwelededd eu hunain, credwn fod angen i’r Bwrdd, gan gynnwys yr Aelodau Anweithredol, chwarae rhan barhaus yn y gwaith monitro hwnnw.

1.6 Rydym yn argymell bod Bwrdd y BBC, gan gynnwys yr Aelodau Anweithredol, yn chwarae rhan weithredol yn y gwaith o fonitro effaith gwaith i sicrhau bod y Bwrdd yn ddigon gweladwy i staff gweddill y sefydliad.

Polisi Chwythu’r Chwiban Golygyddol

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

64. Elfen allweddol o gynllun gweithredu 10 pwynt y BBC ar ddidueddrwydd a safonau golygyddol, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2021, oedd creu polisi chwythu’r chwiban golygyddol. Roedd hyn yn cyd-fynd â threfniadau llywodraethu cryfach, gan gynnwys adrodd ar chwythu’r chwiban golygyddol i’r Pwyllgor Archwilio a Risg a’r Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol. Mae hwn yn bolisi newydd, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2022, sy’n darparu mecanwaith cyfrinachol i staff a gweithwyr llawrydd godi pryderon am faterion golygyddol sy’n digwydd yn y BBC. Mae’n ychwanegol at y mecanweithiau presennol y gall staff eu defnyddio i godi pryderon am faterion nad ydynt yn olygyddol.

65. Wrth gasglu tystiolaeth, cadarnhaodd y BBC hefyd fod adolygiadau trydydd parti annibynnol rheolaidd o ymchwiliadau golygyddol, sy’n adrodd i Uwch Gyfarwyddwr Anweithredol Annibynnol y Bwrdd, yn cael eu cynnal a’i fod yn adolygu ei bolisi a’i weithdrefnau datgelu camarfer golygyddol yn rheolaidd. Mae crynodeb o ddata chwythu’r chwiban (nifer yr achosion a’r canlyniadau) yn cael ei gyhoeddi yn Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC er mwyn gwella tryloywder.

Ymateb y llywodraeth

66. Rydym yn cytuno bod yn rhaid i’r Bwrdd sicrhau bod staff a’r rheini sy’n gweithio gyda’r BBC yn teimlo eu bod yn gallu codi pryderon am faterion golygyddol yn rhagweithiol, yn ddiogel ac yn agored. Mae hyn yn rhan allweddol o sicrhau bod strwythur llywodraethu’r BBC yn gweithio nid yn unig i’r sefydliad, ond i unigolion hefyd. Mae’n bwysig bod y Bwrdd yn parhau i ymrwymo i werthuso gweithrediad y polisi er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio’n effeithiol.

67. Dylai’r BBC ychwanegu at yr wybodaeth sydd eisoes wedi’i chyhoeddi yn ei Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol drwy egluro sut mae’n sicrhau bod y polisi a’r broses yn parhau i gyflawni’n effeithiol. Fel arall, nid yw’n glir i’r rheini sydd am gael cadarnhad bod y BBC yn ystyried effeithiolrwydd parhaus ei bolisi chwythu’r chwiban golygyddol o ddifrif a yw’r Gorfforaeth yn gwneud hynny. Bydd hefyd yn caniatáu i’r Llywodraeth a rhanddeiliaid allanol eraill werthuso’n well sut mae’r hyn sydd ar hyn o bryd yn bolisi cymharol newydd yn gwreiddio yn ystod y blynyddoedd nesaf.

68. Nodwn waith ar wahân parhaus y BBC i adolygu ei bolisïau a’i brosesau ar gyfer cwynion nad ydynt yn rhai golygyddol. Mae’n briodol bod digonolrwydd y prosesau hynny’n cael ei werthuso yng ngoleuni achosion diweddar yn ymwneud ag uwch aelodau staff/aelodau staff adnabyddus (gan gynnwys achosion hanesyddol). Mae’n hanfodol bod gan y BBC y fframweithiau llywodraethu cywir ar waith i fynd i’r afael â chwynion difrifol pan fyddant yn dod i’r amlwg. Bydd adolygiad y BBC yn dod i ben cyn bo hir ac rydym yn edrych ymlaen at ddeall canlyniadau’r adolygiad hwn.

1.7 Rydym yn argymell bod y BBC yn cyhoeddi gwybodaeth i egluro sut mae’n sicrhau bod y broses a’r polisi chwythu’r chwiban golygyddol yn parhau i gyflawni’n effeithiol.

Diwylliant o welliant parhaus

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

69. Mae’r Cod yn nodi y dylid cynnal gwerthusiad blynyddol o berfformiad y bwrdd, ei bwyllgorau, y cadeirydd a chyfarwyddwyr unigol, a dylai’r cadeirydd ystyried cynnal gwerthusiad bwrdd rheolaidd a hwylusir yn allanol – o leiaf bob tair blynedd mewn cwmnïau FTSE 350. Cynhaliodd y BBC adolygiad mewnol yn 2018/2019, ac ymarfer ysgafn yn 2020/21 oherwydd y tarfu a achoswyd gan Covid a dyfodiad Cadeirydd newydd, gyda thri adolygiad effeithiolrwydd bwrdd allanol yn cael eu cynnal yn 2019/20, 2021/22 a 2022/23, fel y nodir yn ei Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol ar gyfer pob blwyddyn. Ni chynhaliwyd adolygiad mewnol yn 2017/18 gan fod y trefniadau llywodraethu newydd yn cael eu cyflwyno.

Ymateb y llywodraeth

70. Rydym o’r farn y dylai’r BBC barhau i fabwysiadu’r egwyddor o gynnal adolygiadau effeithiolrwydd Byrddau yn rheolaidd gan ei fod yn sefydliad mawr a chymhleth, gyda Bwrdd sy’n gyfrifol am ddefnyddio arian cyhoeddus yn effeithiol. Mae angen asesu trefniadau llywodraethu’r BBC yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn esblygu yn ôl yr angen, nid yn unig hanner ffordd drwy’r Siarter drwy’r Adolygiad Canol Tymor, ond hefyd wrth i ni symud tuag at y Siarter nesaf.

71. Er ein bod yn hyderus bod y BBC wedi cydymffurfio â’r egwyddor hon hyd yma, er mwyn dangos diwylliant o welliant parhaus yn gyhoeddus, mae angen i’r BBC gyhoeddi rhagor o fanylion am bob adolygiad effeithiolrwydd allanol. Dylid gwneud hyn yn ei Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol, yn amodol ar gyfrinachedd priodol, gyda chynllun gweithredu’r Bwrdd mewn ymateb.

72. Rydym yn nodi bod y BBC eisoes wedi rhoi hyn ar waith yn ei Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol ar gyfer 2022/23, gan ddarparu llawer mwy o fanylion nag yn yr adroddiad cyfatebol ar gyfer 2019/20 pan gynhaliwyd yr adolygiad allanol diwethaf o effeithiolrwydd y Bwrdd.

73. Rydym yn cytuno, pan gynhelir adolygiad allanol, nad oes angen adolygiad mewnol yn awtomatig. Fodd bynnag, ar wahân i’r cadarnhad bod adolygiad effeithiolrwydd mewnol wedi’i gynnal, rydym yn nodi na ddarparwyd unrhyw fanylion am ei ganfyddiadau nac ymateb y Bwrdd yn yr Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol perthnasol. Mae’r BBC wedi ymrwymo i gynnal yr adolygiadau mewnol hyn yn y dyfodol lle nad oes adolygiad allanol wedi cael ei gynnal. Mae’r adolygiadau mewnol hyn yn fordd bwysig i’r BBC ddangos ei ymrwymiad i wella ei drefniadau llywodraethu’n barhaus, ac felly rydym yn credu y dylai’r BBC ddarparu rhagor o wybodaeth am ganlyniad adolygiadau mewnol yn y dyfodol yn yr Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol perthnasol, yn amodol ar gyfrinachedd priodol.

1.8 Rydym yn argymell bod Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC yn parhau i grynhoi casgliadau adolygiadau effeithiolrwydd allanol y Bwrdd yn y dyfodol, ac yn crynhoi casgliadau adolygiadau effeithiolrwydd mewnol y Bwrdd yn y dyfodol, ac yn cadarnhau sut bydd yr argymhellion yn cael eu datblygu.

74. Nid oeddem yn gallu gweld canfyddiadau adolygiadau allanol o effeithiolrwydd y Bwrdd, nac ymateb y Bwrdd, wrth gasglu tystiolaeth gan fod y BBC yn ystyried bod y rhain yn adroddiadau preifat i’r Bwrdd. Yn ystod yr Adolygiad nesaf o’r Siarter, byddwn yn edrych ar sut mae trefniadau llywodraethu’r BBC wedi esblygu a sut mae’r BBC wedi gwerthuso effeithiolrwydd y drefn lywodraethu honno ers yr Adolygiad Canol Tymor.

1.9 Byddwn yn edrych eto ar sut mae trefniadau llywodraethu’r BBC wedi esblygu, a sut mae’r BBC wedi gwerthuso effeithiolrwydd y trefniadau llywodraethu hynny, yn ystod yr Adolygiad nesaf o’r Siarter. Rydym yn disgwyl i’r BBC ddarparu digon o wybodaeth i ni i wneud hynny maes o law, gan gynnwys dogfennau mewnol.

Pennod 2: Safonau Golygyddol a Didueddrwydd

Y Cefndir

75. Mae didueddrwydd yn greiddiol i rôl y BBC i hysbysu ac addysgu cynulleidfaoedd yn effeithiol, ac mae’n bwysig bod y BBC yn darparu newyddion a gwybodaeth ddiduedd i helpu pobl i ddeall ac ymgysylltu â’r byd o’u cwmpas. Mae didueddrwydd y BBC wrth wraidd y rheswm pam mae’r BBC yn cael ei werthfawrogi yn y DU ac yn fyd-eang, ac mewn cyfnod lle mae mwy a mwy o risgiau o ran twyllwybodaeth, mae’r BBC wedi bod, a dylai barhau i fod, yn esiampl sy’n gosod safonau y gall eraill anelu atynt. Roedd y Siarter presennol yn cyflwyno Cenhadaeth glir i’r BBC: gweithredu er lles y cyhoedd, gan wasanaethu pob cynulleidfa drwy ddarparu cynnyrch a gwasanaethau diduedd, unigryw o ansawdd uchel sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu. Ei Ddiben Cyhoeddus cyntaf yw darparu newyddion a gwybodaeth ddiduedd i helpu pobl i ddeall ac ymgysylltu â’r byd o’u cwmpas: dylai’r BBC ddarparu newyddion, materion cyfoes a rhaglenni ffeithiol sy’n gywir ac yn ddiduedd. Felly, mae’r Adolygiad Canol Tymor wedi ystyried sut mae’r trefniadau llywodraethu a rheoleiddio presennol yn cefnogi’r BBC i gael y safonau golygyddol uchaf posibl a sut mae’n blaenoriaethu ac yn cyflawni ei gyfrifoldebau o ran didueddrwydd.

Cyfrifoldebau Bwrdd y BBC

76. Mae gan Fwrdd y BBC gyfrifoldebau penodol o ran didueddrwydd. Roedd y Siarter yn cyflwyno gofyniad i Fwrdd y BBC sicrhau bod y BBC yn cyflawni ei Genhadaeth ac yn hyrwyddo’r Dibenion Cyhoeddus. Yn fwy diweddar mae’r Llywodraeth, ar y cyd â’r BBC, wedi cytuno ar newidiadau i’r Cytundeb Fframwaith ym mis Mai 2022 i roi cyfrifoldebau cyfreithiol rwymol cryfach a mwy manwl i’r Bwrdd mewn perthynas â didueddrwydd y BBC.

Cyfrifoldebau Ofcom

77. Mae Ofcom yn gyfrifol am reoleiddio sawl rhan o safonau cynnwys y BBC, gan gynnwys didueddrwydd dyladwy newyddion a materion cyfoes. Mae Ofcom yn gwneud hyn drwy’r Cod Darlledu, sy’n nodi’r safonau mae’n disgwyl i’r holl ddarlledwyr eu cyrraedd. Mae’n rhaid i Ofcom hefyd gyhoeddi adroddiad blynyddol sy’n cynnwys asesiad o gydymffurfiad y BBC â’i gyfrifoldebau o ran didueddrwydd a nodir yn y Siarter. Rhaid iddo gyhoeddi o leiaf dau adolygiad arall ar y graddau y mae’r BBC yn cyflawni ei Genhadaeth ac yn hyrwyddo pob un o’r Dibenion Cyhoeddus, ac yn mynd i’r afael ag unrhyw faterion penodol sy’n peri pryder a nodwyd gan Ofcom, yn ystod cyfnod y Siarter. Pan fo’n briodol, mae’n rhaid i Ofcom hefyd gynnal a chyhoeddi adolygiadau ychwanegol i roi sylw i unrhyw faterion penodol sy’n peri pryder a nodwyd gan Ofcom sy’n ymwneud â gweithgareddau’r BBC sy’n destun rheoliadau gan Ofcom.

Safonau Golygyddol y BBC

78. Mae gan y BBC ei Ganllawiau Golygyddol ei hun hefyd, sy’n ymgorffori gofynion y Cod Darlledu, ond sy’n wahanol gan fynd ymhellach mewn rhai meysydd. Maen nhw’n mynnu didueddrwydd dyladwy ar draws ei holl allbwn.

Datblygiadau diweddar

79. Ar 29 Hydref 2021, cyhoeddodd y BBC adolygiad dan arweiniad Syr Nicholas Serota, ‘The Serota Review - BBC editorial processes, governance, and culture’, yn dilyn Adroddiad yr Arglwydd Dyson i ddigwyddiad Bashir. Roedd hyn yn edrych ar oruchwyliaeth olygyddol y BBC, cadernid ac annibyniaeth prosesau chwythu’r chwiban a’r diwylliant ehangach yn y sefydliad. Ar yr un diwrnod, cyhoeddodd y BBC gynllun gweithredu 10 pwynt ar ddidueddrwydd, safonau golygyddol a chwythu’r chwiban golygyddol a oedd yn ymgorffori ymateb y Gorfforaeth i’r adolygiad. Ym mis Gorffennaf 2022, cyhoeddodd y BBC ddiweddariad cynnydd ar y cynllun gweithredu 10 pwynt.

Didueddrwydd fel cysyniad, ac ymrwymiad y BBC iddo

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

80. Ychydig o adborth yn unig a gawsom yn ystod cam casglu tystiolaeth yr Adolygiad Canol Tymor ar y cysyniad o “ddidueddrwydd dyladwy”. Cafwyd rhywfaint o adborth yn nodi nad yw’r cysyniad yn addas i’r diben a bod angen ei adolygu’n sylfaenol. Ond clywsom hefyd ei fod yn gysyniad cymhleth, ac mae cymhlethdod y cysyniad yn cynyddu wrth i’r ffordd y mae pobl yn ymgysylltu â newyddion esblygu.

81. Ochr yn ochr â chyhoeddi ei adroddiad ‘Sut mae Ofcom yn rheoleiddio’r BBC’ ym mis Mehefin 2022, cyhoeddodd Ofcom ymchwil a gynhaliwyd gan Jigsaw, sefydliad ymchwil annibynnol, ar yr hyn sy’n sbarduno canfyddiadau o ddidueddrwydd dyladwy, gan edrych ar agweddau cynulleidfaoedd tuag at ddidueddrwydd dyladwy gwasanaethau’r BBC yng nghyd-destun y dirwedd newyddion ehangach. Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod y BBC yn gweithredu mewn “tirwedd newyddion cymhleth a heriol” gan fod gan gynulleidfaoedd fynediad at newyddion mewn mwy o ffyrdd nag erioed o’r blaen ac mae hinsawdd ddiwylliannol wedi’i thargedu a gwahanol safbwyntiau yn ychwanegu haen arall o gymhlethdod, ac nid cynnwys yn unig sy’n dylanwadu ar ganfyddiadau o ddidueddrwydd dyladwy, ond hefyd nifer o “ffactorau cyd-destunol ehangach nad ydynt yn ymwneud â rhaglennu”. Roedd yr ymchwil yn dangos bod cynulleidfaoedd yn gwerthfawrogi newyddion a materion cyfoes y BBC, ac yn eu dal i safon uwch gydag ymdeimlad cryfach o berchnogaeth gyhoeddus o’r BBC, oherwydd ffi’r drwydded deledu. Daeth yr adroddiad hefyd i’r casgliad bod “newyddion teledu, radio ac ar-lein y BBC yn cael eu barnu’n wahanol gan gynulleidfaoedd yng ngoleuni’r rolau gwahanol y maent yn eu chwarae. O ran didueddrwydd dyladwy, mae teledu’r BBC yn cael ei feirniadu’n fwy llym gan gynulleidfaoedd o’i gymharu â radio ac ar-lein, ac mae disgwyl iddo fodloni ystod ehangach o gynulleidfaoedd a chynrychioli’r DU i gyd, yn wahanol i frandiau darlledu teledu eraill sy’n cael eu gweld fel rhai sy’n gallu apelio’n well at gynulleidfa benodol.”

82. O ran perfformiad y BBC, clywsom rai pryderon bod y BBC wedi gwneud methiannau sylweddol, fel rhagfarn o blaid yr UE dros nifer o flynyddoedd. Clywsom bryderon hefyd nad yw’r BBC yn derbyn arwyddocâd y methiannau hynny, yn enwedig mewn perthynas â rhoi sylw i ymadawiad y DU â’r UE. Clywsom dystiolaeth hefyd fod y BBC, gan gynnwys y Bwrdd, yn blaenoriaethu glynu wrth gyfrifoldebau didueddrwydd y Gorfforaeth, a’i safonau golygyddol ei hun, a bod hyn yn cael ei yrru ar y lefelau uchaf. Ceir tystiolaeth o’r ymrwymiad hwnnw gan fod didueddrwydd yn un o bedair blaenoriaeth strategol y Cyfarwyddwr Cyffredinol. Mae Canllawiau Golygyddol y BBC hefyd yn amlinellu bod ymrwymiad y BBC i ddidueddrwydd dyladwy yn hanfodol i’w enw da, ei werthoedd ac ymddiriedaeth cynulleidfaoedd.

83. Clywsom wrth gasglu tystiolaeth fod y gwaith o gyflawni’r cynllun gweithredu 10 pwynt a’r camau parhaus i wreiddio’r newidiadau angenrheidiol mewn busnes fel arfer yn y BBC yn cael ei fonitro’n rheolaidd gan Fwrdd y BBC, yn ogystal a’r Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol – is-bwyllgor o Fwrdd y BBC sy’n gyfrifol am ddatblygu a sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau golygyddol y BBC.

Ymateb y llywodraeth

84. Mae didueddrwydd y BBC, fel darlledwr sy’n cael ei ariannu’n gyhoeddus, yn rhan greiddiol o’r contract rhwng y Gorfforaeth a phawb sy’n talu ffi’r drwydded, sef y bobl mae’n eu gwasanaethu. Yn ogystal â’i gyfrifoldebau i gynulleidfaoedd yn y DU, un o Ddibenion Cyhoeddus eraill y BBC yw adlewyrchu’r Deyrnas Unedig, ei diwylliant a’i gwerthoedd i’r byd drwy ddarparu newyddion o ansawdd uchel i gynulleidfaoedd rhyngwladol, wedi’i seilio’n gadarn ar werthoedd Prydeinig o ran cywirdeb, didueddrwydd a thegwch. Er bod llawer o wahanol ffactorau sy’n dylanwadu ar ganfyddiadau unigolyn y tu hwnt i’r cynnwys dan sylw, ni all fyth fod yn rôl y BBC i feirniadu, neu ymddangos ei fod yn beirniadu, gwerthoedd amrywiol pobl o bob cwr o’r wlad y mae’n ei gwasanaethu, hyd yn oed os yw sicrhau didueddrwydd yn gymhleth ac yn heriol. Mewn oes o dwyllwybodaeth, mae darlledu gwasanaeth cyhoeddus sy’n darparu adroddiadau cywir, dibynadwy a diduedd yn bwysicach nag erioed. Mae’r BBC wedi bod, a dylai barhau i fod, yn esiampl sy’n gosod y safonau uchaf posibl y gall eraill anelu atynt, a rhaid iddo ddal ei hun i’r safonau hyn. Er bod y BBC wedi ein sicrhau ei fod yn rhoi didueddrwydd wrth galon ei weithgareddau, rydym yn glir bod yn rhaid i Ofcom a’r BBC barhau i fonitro eu gweithgarwch ac ymdrechu i fynd i’r afael â’r her yn effeithiol. Rydym yn gwneud nifer o argymhellion pwysig ar gyfer newid yn nes ymlaen yn y bennod hon ac, yn bwysig, sut mae’r BBC yn delio â chwynion yn y bennod nesaf.

2.1 Mae didueddrwydd y BBC, fel darlledwr sy’n cael ei ariannu’n gyhoeddus, yn rhan greiddiol o’r contract rhwng y Gorfforaeth a phawb sy’n talu ffi’r drwydded, sef y bobl mae’n eu gwasanaethu.

2.2. Rydym yn cydnabod bod didueddrwydd yn gysyniad cymhleth. Rydym wedi dod i’r casgliad bod tystiolaeth glir bod glynu wrth safonau golygyddol a didueddrwydd bellach wrth wraidd blaenoriaethau’r BBC, ond hefyd bod angen i’r BBC ac Ofcom barhau i ymdrechu i gyflawni eu cyfrifoldebau.

Gwaith a pherfformiad y BBC

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

85. Cawsom rywfaint o adborth yn mynegi pryder am berfformiad y BBC o ran didueddrwydd. Roedd hyn yn cynnwys awgrym ar gyfer uned didueddrwydd allanol i wella perfformiad y BBC, wedi’i oruchwylio gan Ombwdsmon ar gyfer didueddrwydd a fyddai’n adrodd yn uniongyrchol i’r Senedd drwy’r DCMS. Roedd tystiolaeth arall yn llai pryderus. Yn ei bumed adroddiad blynyddol ar y BBC, daeth Ofcom i’r casgliad bod y BBC wedi bodloni’r safonau y mae Ofcom yn eu disgwyl gan ddarlledwyr yn gyffredinol yn 2021/22.

86. Yn ei chweched adroddiad blynyddol a’i adroddiad blynyddol diweddaraf ar berfformiad y BBC, dywedodd Ofcom ei fod wedi cwblhau tri ymchwiliad safonau yn 2022/23 – roedd dau yn ymwneud â darllediad yn 2021. Cafodd y tri eu harchwilio gan ystyried rhwymedigaethau’r BBC mewn perthynas â didueddrwydd dyladwy (ymhlith rhwymedigaethau eraill). Cofnodwyd un achos o dorri amodau a dau achos lle daeth Ofcom i’r casgliad nad oedd rheolau didueddrwydd wedi cael eu torri. Fodd bynnag, daeth Ofcom i’r casgliad bod y BBC, yn un o’r ddau achos hynny, wedi gwneud camfarn olygyddol ddifrifol yn ei adroddiad newyddion a ddarlledwyd ar BBC One am ymosodiad gwrth-Semitaidd ar fyfyrwyr Iddewig ar fws yn Llundain. Ar yr un pryd, cyhoeddodd Ofcom farn mewn ymateb i erthygl gan BBC News am yr ymosodiad hwnnw. Roedd hyn yn nodi bod y BBC wedi methu â dilyn ei Ganllawiau Golygyddol ar ddidueddrwydd dyladwy a chywirdeb dyladwy wrth beidio â diweddaru’r erthygl i adlewyrchu anghydfod ynghylch ei ddehongliad o sain o’r tu mewn i’r bws am bron i wyth wythnos.[footnote 5]

87. Ymysg y gostyngiad cyffredinol mewn ymddiriedaeth cynulleidfaoedd yng nghyfryngau newyddion y DU, daeth Ofcom i’r casgliad yn ei adroddiad blynyddol diweddaraf ar y BBC fod y BBC yn cael sgôr uchel am ymddiriedaeth a chywirdeb, gyda 71% yn rhoi sgôr uchel i ddarpariaeth newyddion teledu’r BBC am ymddiriedaeth a 73% am gywirdeb. Fodd bynnag, mae tystiolaeth hefyd sy’n awgrymu bod y BBC yn benodol wedi gweld gostyngiad mewn ymddiriedaeth[footnote 6] er bod ymddiriedaeth wedi dechrau cynyddu’n fwy diweddar ochr yn ochr â hyder mewn darlledwyr cyhoeddus eraill.[footnote 7] Gan gydnabod bod agweddau cynulleidfaoedd at ddidueddrwydd dyladwy yn dal i gael eu llywio gan nifer o ffactorau, daeth Ofcom i’r casgliad hefyd ei bod yn rhaid i’r BBC barhau i ganolbwyntio ar fynd i’r afael â chanfyddiadau cynulleidfaoedd am ddidueddrwydd, gan nodi ym mis Mehefin 2022 fod didueddrwydd y BBC yn “faes pryder allweddol” ymysg cynulleidfaoedd ac yn “un lle maen nhw’n ei ystyried yn llai ffafriol nag ymddiriedaeth a chywirdeb yn gyson”. Daeth Ofcom i’r casgliad y dylai’r BBC fynd i’r afael â’r gwahaniaeth ymddangosiadol rhwng agweddau cynulleidfaoedd at ei ddidueddrwydd a’i record dda o gydymffurfio â’r rheolau darlledu didueddrwydd dyladwy. Dywedodd Ofcom hefyd y byddai angen i’r BBC ddod o hyd i ffyrdd creadigol o ddangos ei ddull gweithredu a’i ymrwymiad i ddidueddrwydd dyladwy. Cadarnhaodd Ofcom eto ym mis Tachwedd 2022 fod didueddrwydd yn dal i gael sgôr is yn gyson ar gyfer gwefan/ap y BBC a theledu’r BBC nag ymddiriedaeth a chywirdeb, ar sail ymchwil ddilynol. Er bod pobl yn y DU yn gwerthfawrogi’r rôl mae’r BBC yn ei chwarae o ran darparu newyddion, mae Ofcom wedi dod i’r casgliad fod didueddrwydd yn un o’r meysydd lle mae’r BBC yn cael ei weld yn llai ffafriol o’i gymharu ag agweddau eraill ar ddarparu newyddion, gyda chanfyddiadau o ran didueddrwydd heb newid dros y flwyddyn ddiwethaf. Er bod Ofcom yn cydnabod bod newid canfyddiadau cynulleidfaoedd o ddidueddrwydd dyladwy’r BBC yn broses gymhleth, mae’n hollbwysig canolbwyntio ar ddidueddrwydd ac mae’n bwysig bod y BBC yn cadw ei ffocws ar y maes gwaith hwn er mwyn cynnal ymddiriedaeth cynulleidfaoedd.

88. O ran datblygiadau ymarferol, mae’r BBC bellach wedi cwblhau’r gwaith o roi ei gynllun gweithredu 10 pwynt ar waith. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddi ei adolygiad thematig allanol cyntaf ym mis Ionawr 2023, a chyhoeddi dechrau’r adolygiad nesaf ym mis Mai 2023. Erbyn pumed adroddiad blynyddol Ofcom ar y BBC ym mis Tachwedd 2022,roedd y BBC hefyd wedi gwella ei dryloywder drwy gyhoeddi’r rhesymeg y tu ôl i’w benderfyniadau i beidio â chadarnhau cwynion am ddidueddrwydd dyladwy a chywirdeb dyladwy a oedd wedi cyrraedd cam olaf ei broses, a nododd chweched adroddiad blynyddol Ofcom, sef yr adroddiad blynyddol diweddaraf, fod y BBC hefyd yn gweithio i gryfhau ymddiriedaeth cynulleidfaoedd yn ei ddarpariaeth newyddion drwy ddarparu mwy o dryloywder ynghylch sut mae’n adrodd ar y newyddion gyda BBC Verify a drwy nodi ei ddull gweithredu o ran Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol.

89. Clywsom gan ystod ehangach o randdeiliaid fod y cynllun gweithredu 10 pwynt yn ddechrau da ac yn gam i’r cyfeiriad cywir. Fodd bynnag, ystyriwyd nad oedd y diweddariad cynnydd a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2022 yn ddigon manwl a phenodol i alluogi cynulleidfaoedd i farnu cynnydd yn briodol. Awgrymodd rhanddeiliaid fod angen i’r BBC ystyried rhoi diweddariadau rheolaidd i’r cyhoedd a phwysleisio ymrwymiad parhaus y BBC i’r cynllun gweithredu 10 pwynt wrth fwrw ymlaen. Clywsom rhywfaint o dystiolaeth hefyd nad yw’r cam gweithredu 10 pwynt yn ddigon a’i fod yn rhy hwyr, ac nad yw ei ymrwymiadau’n ddigon sylweddol i sicrhau newid go iawn.

90. Cawsom adborth penodol am elfennau penodol o’r cynllun gweithredu 10 pwynt, yn enwedig y ffordd mae’r BBC yn gweithredu’r adolygiadau cynnwys mewnol. Mae’r BBC eisoes yn defnyddio ymchwil cynulleidfa i lywio penderfyniadau ynghylch pa raglenni unigol i’w hadolygu, ac mae adborth manwl gan gynulleidfaoedd yn cael ei ddarparu i wneuthurwyr rhaglenni fel rhan o’r adolygiadau hynny. Fodd bynnag, clywsom hefyd fod angen ymgysylltu â’r gynulleidfa yn adolygiadau cynnwys mewnol y BBC i leihau’r risg o gael canlyniadau goddrychol o blaid y BBC. Roedd adborth gan rhanddeiliad hefyd yn awgrymu y gellid cyhoeddi’r adolygiadau cynnwys mewnol yn yr un ffordd â’r adolygiadau thematig allanol. Codwyd ychydig o bryderon ynghylch sut roedd yr adolygiadau thematig allanol yn cael eu cynnal mewn gwirionedd. Clywsom hefyd awgrym y dylid cyhoeddi hyfforddiant didueddrwydd a ddarperir i staff a gweithwyr llawrydd er mwyn gwella dealltwriaeth cynulleidfaoedd o waith y BBC, ac ymddiriedaeth ynddo, yn enwedig o ran sut roedd yn diffinio ac yn mynd i’r afael â didueddrwydd.

Ymateb y llywodraeth

91. Mae’n briodol bod y BBC yn parhau i fod yn annibynnol ar y Llywodraeth yn weithredol ac yn olygyddol, ac nad oes gan y Llywodraeth unrhyw lais ar benderfyniadau’r BBC o ddydd i ddydd, gan gynnwys ar y cynnwys mae’n ei ddangos. 

92. Roedd y Llywodraeth yn croesawu cynllun gweithredu 10 pwynt y BBC pan gafodd ei gyhoeddi, a dywedasom ar y pryd bod angen i’r BBC ddangos cynnydd clir a pharhaus ar y cynllun hwn. Roeddem hefyd yn croesawu’r cynnydd a nodwyd ym mis Gorffennaf 2022. Er enghraifft, roedd penodi dau Gynghorydd Golygyddol allanol ym mis Gorffennaf 2022 fel rhan o’r gwaith o weithredu’r cynllun gweithredu 10 pwynt i ddarparu cyngor golygyddol ychwanegol a phersbectif allanol yn ffordd werthfawr o gefnogi’r Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol i gyflawni ei gyfrifoldebau hanfodol. Rhaid i’r cynghorwyr allanol hyn gael y grym i ddarparu her effeithiol, gan gynnwys drwy sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar yr holl wybodaeth sy’n angenrheidiol yn eu barn nhw, ac os oes angen, dylid rhoi pwerau ychwanegol iddynt y tu hwnt i’r rheini a roddir i’r Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol yn ei gyfanrwydd (a drafodir ym Mhennod 3).

93. Mae’r Llywodraeth yn dal i gredu y bydd arnom eisiau gweld tystiolaeth glir a sylweddol bod y cynllun gweithredu 10 pwynt wedi cael digon o effaith gadarn hirdymor yn yr Adolygiad o’r Siarter. Mae hyn hefyd yn bwysig er mwyn caniatáu i Ofcom a rhanddeiliaid ystyried perfformiad y BBC. Rydym yn nodi bod y BBC bellach wedi rhoi’r holl gynllun gweithredu 10 pwynt ar waith, bod y BBC bellach wedi neilltuo adnodd parhaol i sicrhau didueddrwydd (mae’r cynllun gweithredu 10 pwynt bellach wedi’i wreiddio mewn gweithgarwch busnes fel arfer), a’i fod wedi dweud ei fod yn bwriadu ystyried pa gamau ychwanegol sydd eu hangen i hyrwyddo gwelliannau a newid diwylliannol.

2.3 Rydym yn argymell bod y Bwrdd yn sicrhau ei fod yn adrodd yn fanwl ac yn amserol ar gynnydd o ran ymrwymiadau’r cynllun gweithredu 10 pwynt, gyda dyddiadau cau a cherrig milltir clir, effaith, a rhagor o fanylion am sut mae’n bwriadu ymateb i her Ofcom bod angen i’r BBC barhau i ganolbwyntio ar ddidueddrwydd er mwyn cynnal ymddiriedaeth cynulleidfaoedd, a sut mae ymrwymiadau’n cael eu gwreiddio mewn cynlluniau tymor hir. Rydym yn bwriadu asesu cynnydd yn ystod yr Adolygiad nesaf o’r Siarter.

2.4 Rydym hefyd yn argymell bod effeithiolrwydd Cynghorwyr Golygyddol allanol y Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol yn cael ei adolygu gan y BBC i sicrhau eu bod yn parhau i gael digon o bwerau i gyflawni eu cyfrifoldebau, a bod hyn yn cael ei adrodd yn rheolaidd fel rhan o waith ehangach y BBC i ddarparu diweddariadau ar ei ymdrechion i fod yn ddiduedd.

94. Nid ydym yn credu bod digon o dystiolaeth i gefnogi sefydlu uned didueddrwydd annibynnol ac allanol ar hyn o bryd. Byddai ganddo hefyd y potensial i ddyblygu rôl Ofcom a chymhlethu’r fframwaith rheoleiddio presennol. Byddai hyn yn tanseilio’r egwyddor o rolau a chyfrifoldebau clir a oedd yn bwysig ym marn Syr David Clementi wrth argymell bod Ofcom yn ymgymryd â’r gwaith o reoleiddio’r BBC, yn hytrach na chreu rheoleiddiwr newydd, ac o ganlyniad bod hynny’n sail i’r Siarter bresennol.

95. Fodd bynnag, rydym o’r farn ei bod yn rhaid cael digon o wahaniaeth rhwng y rheini sy’n gyfrifol am ddidueddrwydd allbwn y BBC a’r rheini sy’n gyfrifol am fynd i’r afael â chwynion am ddidueddrwydd y BBC. Ymdrinnir â hyn yn y bennod ar gwynion. Rydym yn nodi bod gan y BBC adnoddau parhaol penodol a goruchwyliaeth barhaus gan y Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol ar ran y Bwrdd.

2.5 Rydym yn argymell bod y BBC yn parhau i sicrhau bod ganddo’r strwythurau llywodraethu cywir i yrru ei waith ar weithredu’r cynllun gweithredu 10 pwynt a gwelliant parhaus hirdymor. Byddwn yn asesu a yw hyn wedi digwydd fel rhan o’r Adolygiad o’r Siarter.

96. Mae angen i gynulleidfaoedd hefyd fod yn fodlon bod y BBC yn gweithredu ei ymrwymiadau, fel eu bod yn ymddiried bod y BBC wedi ymrwymo i wella’n barhaus yn y tymor hir. Rydym yn cynnig yr argymhellion canlynol i wella’r ffordd mae’r BBC yn ymgysylltu â chynulleidfaoedd ar faterion sy’n ymwneud â didueddrwydd.

Adolygiadau cynnwys mewnol

97. Mae’r BBC eisoes yn defnyddio ymchwil cynulleidfa i lywio penderfyniadau ynghylch pa raglenni unigol i’w hadolygu, ac mae adborth manwl gan gynulleidfaoedd yn cael ei ddarparu i wneuthurwyr rhaglenni fel rhan o’r adolygiadau hynny. Roedd yr adborth a gafwyd gan randdeiliaid yn awgrymu nad yw’r ffordd mae’r BBC yn defnyddio mewnbwn cynulleidfaoedd i gyfrannu at ei adolygiadau cynnwys mewnol yn cael ei ddeall yn iawn. Gellid cywiro hyn drwy fwy o dryloywder gan y BBC ynghylch sut mae cynulleidfaoedd yn rhan o’r adolygiadau hyn. Byddai hyn hefyd yn caniatáu i randdeiliaid ystyried a ydynt yn dymuno mynegi unrhyw bryderon ychwanegol ynghylch graddau cyfranogiad cynulleidfaoedd.

2.6 Mae’n briodol bod y BBC yn ymrwymo i gynnal adolygiadau cynnwys mewnol. Rydym yn argymell bod y BBC yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am y fethodoleg a ddefnyddir i gynnal ei adolygiadau cynnwys mewnol.

98. Er bod adolygiadau thematig allanol y BBC yn cael eu cyhoeddi, nid yw canlyniadau ei adolygiadau cynnwys mewnol yn cael eu cyhoeddi. Rydym yn deall bod adolygiadau cynnwys mewnol yn ymchwilio’n ddwfn i raglenni penodol, gan ddibynnu ar drafodaethau agored ac agored am elfennau penodol ac am unigolion, fel cyflwynwyr. Rydym felly’n cydnabod y gallai cyhoeddi canlyniad yr adolygiadau hyn rwystro trafodaeth rydd a gonest, tanseilio eu heffeithiolrwydd a’u heffaith, a chyfyngu ar allu’r BBC i ddysgu o adolygiadau o’r fath. Er mai’r BBC sy’n penderfynu sut mae cyhoeddi gwybodaeth, rydym o’r farn bod achos dros gyhoeddi rhai o’r gwersi a ddysgwyd sy’n deillio o adolygiadau. Y rheswm am hyn yw ei bod yn bwysig i gynulleidfaoedd weld sut mae’r BBC yn dal ei hun i gyfrif, ac i ddeall lle mae’r BBC yn ymateb i bryderon sydd ganddo am raglenni penodol.

2.7 Rydym yn argymell bod y BBC yn cyhoeddi crynodeb o’r prif themâu sy’n deillio o gyfres o adolygiadau cynnwys mewnol bob blwyddyn, gan gynnwys sut mae’r BBC yn gweithredu o ganlyniad.

Adolygiadau Thematig Allanol

99. Mae ymrwymiad y BBC i gynnal adolygiadau thematig allanol yn benderfyniad cywir, a dylid ei gyflawni’n gadarn ac yn gyson. Yn yr un modd â’r adolygiadau cynnwys mewnol, mae’n bwysig bod y BBC yn ystyried y ffordd orau o gyfleu’r ffaith bod y rhain yn ddarnau sylweddol o waith a’i fod yn ymateb i bryderon cynulleidfaoedd drwy’r adolygiadau hyn. Bydd hyn hefyd yn caniatáu i randdeiliaid ddarparu adborth lle bo hynny’n briodol i helpu i sicrhau bod yr adolygiadau’n cael eu gwella’n barhaus.

2.8 Rydym yn argymell bod y BBC yn parhau i gyhoeddi’r fethodoleg ar gyfer ei adolygiadau thematig allanol.

100. Er nad oedd y cynllun gweithredu 10 pwynt yn nodi rôl i Ofcom mewn perthynas â’r adolygiadau thematig allanol, rydym yn deall bod Ofcom yn darparu mewnbwn pan fydd y BBC yn nodi pynciau ar gyfer adolygiadau thematig allanol yn y dyfodol.

2.9 Rydym yn argymell bod y BBC yn parhau i ymgynghori ag Ofcom ynghylch pynciau posibl ar gyfer adolygiadau thematig allanol yn y dyfodol.

Hyfforddiant didueddrwydd y BBC

101. Roeddem wedi ystyried a ddylid, yng ngoleuni’r adborth a gafwyd yn ystod cam casglu tystiolaeth yr Adolygiad Canol Tymor, cyhoeddi deunyddiau hyfforddi didueddrwydd ysgrifenedig y BBC i wella tryloywder y gwaith hwn.

102. Yn dilyn gwerthusiad o’r cynnig hwn, a thrafodaethau â’r BBC, rydym yn cydnabod efallai na fydd gofyniad i gyhoeddi deunyddiau hyfforddi ysgrifenedig yn ddefnyddiol gan na fyddai’r deunyddiau hynny’n cynnwys y cyd-destun llawn y byddai hyfforddeion yn ei gael drwy sesiynau hyfforddi rhyngweithiol. Fodd bynnag, rydym yn credu bod diffyg dealltwriaeth o hyd ynghylch natur yr hyfforddiant sy’n golygu na ellir sicrhau rhanddeiliaid ei fod yn cyflawni’r amcanion cywir.

2.10 Rydym yn argymell bod y BBC yn cyhoeddi gwybodaeth am beth mae ei hyfforddiant ar Ddiogelu Didueddrwydd yn ei gynnwys, sut mae’n cael ei gynnal, a’r canlyniadau a fwriedir.

Gwaith rheoleiddio Ofcom a’i berthynas â’r BBC

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

103. Yn ystod yr Adolygiad Canol Tymor, clywsom bryderon am allu Ofcom i ddal y BBC i gyfrif yn effeithiol oherwydd bod nifer sylweddol o gyn swyddogion gweithredol y BBC, a oedd â rolau golygyddol uwch yn y Gorfforaeth, yn aelodau o Fwrdd Cynnwys Ofcom. Roedd yr adborth yn awgrymu bod hyn yn atal Ofcom rhag gwneud penderfyniadau gwrthrychol am gwynion sy’n cael eu huwchgyfeirio gan gynulleidfaoedd. Fodd bynnag, ni welsom unrhyw dystiolaeth gref i ddod i’r casgliad nad yw gwaith Ofcom o reoleiddio didueddrwydd a safonau golygyddol yn drylwyr, nac ychwaith fod angen pwerau ychwanegol ar Ofcom i reoleiddio cynnwys darlledu neu iPlayer y BBC y tu hwnt i’w bwerau presennol. Mae Ofcom yn gyfrifol am sicrhau bod y BBC yn cydymffurfio â’r Cod Darlledu, gan gynnwys y gofyniad am ddidueddrwydd dyladwy newyddion ac mewn cynnwys heb fod yn newyddion sy’n delio â materion gwleidyddol neu ddiwydiannol sy’n destun dadlau a materion sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol, ac mae’n monitro sut mae’r BBC yn ymateb i bryderon cynulleidfaoedd drwy system BBC yn Gyntaf. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol pan fydd canfyddiadau negyddol am didueddrwydd y BBC, mae’n bosibl y bydd cwestiynau’n cael eu codi ynghylch a yw Ofcom yn gwneud digon, neu a oes ganddo’r pwerau iawn.

104. Gwelsom dystiolaeth bod y BBC ac Ofcom wedi ymrwymo i weithio’n agosach gyda’i gilydd i sicrhau bod gan Ofcom hyder yn ymdrechion y BBC i fynd i’r afael â phryderon am ei ddidueddrwydd: yn ei bumed adroddiad blynyddol ar y BBC, cadarnhaodd Ofcom ei fod wedi dechrau cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda Gweithrediaeth y BBC i drafod ei gynnydd ar y cynllun gweithredu 10 pwynt ac Adolygiad Serota, ac y byddai’n parhau â’r gwaith ymgysylltu hwn.

105. Clywsom bryderon am ddull gweithredu Ofcom o ran mesur canfyddiadau cynulleidfaoedd o ddidueddrwydd a sut gellid gwella’r dull o gyhoeddi canfyddiadau. Roedd hyn yn cynnwys yr awgrymiadau y gallai Ofcom weithiau ganolbwyntio llai ar wahanol sianeli dosbarthu’r BBC ac ystyried canfyddiadau cynulleidfaoedd ar wasanaethau’r BBC yn gyffredinol (hy Teledu ac Ar-lein gyda’i gilydd yn hytrach nag ar wahân) ac y gallai Ofcom elwa o ddefnyddio llai ar un dull gweithredu sy’n addas i bawb wrth ymgysylltu â gwahanol fathau o gynulleidfaoedd.

106. Roeddem yn cael ein hannog i ystyried a ddylai rôl reoleiddio Ofcom barhau i fod yn wahanol mewn perthynas â deunydd ar-lein y BBC o’i gymharu â phwerau cynhwysfawr Ofcom dros y cynnwys mae’r BBC yn ei ddarlledu ar y teledu ac ar iPlayer. Ar hyn o bryd, y BBC sy’n gyfrifol am safonau golygyddol ei ddeunydd. Nid oes gan Ofcom unrhyw bwerau gorfodi sy’n ymwneud â deunydd ar-lein y BBC. Fodd bynnag, mae erthygl 60(1) o’r Cytundeb Fframwaith yn ei gwneud yn ofynnol i Ofcom roi Barn, gan gynnwys unrhyw argymhellion y mae’n eu hystyried yn briodol, ynghylch a yw’r BBC wedi cadw at Ganllawiau Golygyddol perthnasol y BBC ar gyfer deunydd Ar-lein penodol yng Ngwasanaethau Cyhoeddus y DU. Mae Ofcom wedi ymrwymo i Drefniant (y “Trefniant Ar-lein”) gyda’r BBC sy’n rhoi rhagor o fanylion, gan gynnwys cwmpas y deunydd sydd wedi’i gynnwys. Cyhoeddwyd barn ddiweddaraf Ofcom ym mis Ebrill 2023.

Ymateb y llywodraeth

107. Mae’r Llywodraeth wedi nodi’n glir ei bod yn disgwyl i Ofcom, fel rheoleiddiwr annibynnol y BBC, sicrhau bod y BBC yn cael ei ddal i gyfrif yn gadarn wrth ddarparu cynnwys diduedd. O holl ddyletswyddau rheoleiddio Ofcom, mae’n bosibl mai dyma’r un pwysicaf i gynnal ymddiriedaeth cynulleidfaoedd yn ein system o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus. Ar sail y dystiolaeth uchod, nid ydym yn cynnig gwneud unrhyw newidiadau i gyfrifoldebau rheoleiddio presennol Ofcom sy’n ymwneud â chynnwys darlledu neu iPlayer y BBC.

108. Rhaid i ymrwymiad y BBC i roi gwybod yn gynnar i Ofcom am achosion difrifol posibl o dorri amodau yn dilyn argymhelliad Ofcom y llynedd weithio mewn ffordd sy’n caniatáu i Ofcom graffu’n well ar sut mae proses gwynion y BBC yn gweithio’n ymarferol ac, os oes angen, ymyrryd yn gynnar i ddiogelu cynulleidfaoedd. Rydym hefyd yn credu ei bod yn bwysig bod y BBC yn ystyried sut gall roi digon o eglurder i gynulleidfaoedd ynghylch sut mae’n gweithredu’r ymrwymiad hwnnw.

2.11 Rydym yn cytuno y dylai Ofcom gael gwybod yn gynnar gan y BBC am achosion difrifol posibl o dorri rheolau golygyddol, ac rydym yn nodi bod protocol wedi cael ei ddatblygu rhwng y BBC ac Ofcom i ategu’r newid hwn. Rydym yn argymell bod y BBC yn ystyried y ffordd orau o wneud yr ymrwymiad hwn yn glir i gynulleidfaoedd.

109. Rydym yn cytuno â chasgliadau Ofcom o’i adolygiad o waith rheoleiddio’r BBC, sef bod angen i’r rheoleiddiwr fod yn hyderus yng ngwaith y BBC, yn enwedig o ran sut mae’n delio â’r cwynion golygyddol mwyaf difrifol, a bod angen ymgysylltu’n rheolaidd. Rhaid cynnal perthynas effeithiol rhwng y rheoleiddiwr a’r BBC er mwyn i Ofcom allu nodi unrhyw broblemau posibl yn gynnar a chymryd camau lle bo angen – yn enwedig ar ôl i’r BBC wneud penderfyniad ynghylch cwyn olygyddol difrifol iawn. Mae hefyd yn ffordd hollbwysig i Ofcom ddeall blaenoriaethau a chynnydd y BBC yn rheolaidd, er mwyn cyfrannu at ei asesiad cyffredinol o berfformiad y BBC – yn ei adroddiad blynyddol ar y BBC ond hefyd mewn adolygiadau unigol ar bynciau penodol.

2.12 Rydym yn argymell bod aelodau’r Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol yn parhau i gwrdd ag Ofcom ar lefel weithredol bob chwe mis.

110. Rydym hefyd yn credu y byddai’n werth i uwch aelodau’r Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol ymgysylltu’n rheolaidd â Bwrdd Cynnwys Ofcom. Pwyllgor prif Fwrdd Ofcom yw’r Bwrdd Cynnwys, ac mae’n gwasanaethu fel prif fforwm Ofcom ar gyfer cyngor yn ymwneud â rheoleiddio ansawdd a safonau teledu a radio. Mae’n gyfrifol am ddeall, dadansoddi a hyrwyddo lleisiau a buddiannau gorau gwylwyr, gwrandawyr a dinasyddion. Bydd ymgysylltu rheolaidd rhwng y Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol a Bwrdd Cynnwys Ofcom ynghylch materion y BBC yn galluogi Ofcom i ddal Bwrdd y BBC i gyfrif ar y lefel uchaf, ac i gynulleidfaoedd a rhanddeiliaid weld hynny’n digwydd drwy gyhoeddi’r cofnodion.

2.13 Rydym hefyd yn argymell bod Cadeirydd y Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol a’r ddau gynghorydd arbenigol annibynnol yn mynychu un o gyfarfodydd Bwrdd Cynnwys Ofcom bob blwyddyn, a bod crynodeb o’r trafodaethau’n cael ei gyhoeddi.

111. Er nad ydym yn cynnig gwneud unrhyw newidiadau i gyfrifoldebau rheoleiddio presennol Ofcom sy’n ymwneud â chynnwys darlledu neu iPlayer y BBC o ganlyniad i’r Adolygiad Canol Tymor, rydym yn credu bod newidiadau’n angenrheidiol i gyfrifoldebau Ofcom i adlewyrchu bod cynulleidfaoedd yn defnyddio mwy a mwy o newyddion a chynnwys arall ar-lein. Felly, rydym wedi ymrwymo i roi’r un cyfrifoldebau rheoleiddio i Ofcom ar gyfer deunydd penodol ar-lein y BBC ag sydd ganddo ar hyn o bryd ar gyfer cynnwys darlledu/iPlayer y BBC. Mae hwn yn newid mawr ac yn un rydym yn disgwyl y bydd yn sail i ddidueddrwydd ymhellach ar draws mwy o wasanaethau’r BBC.

112. Nawr yw’r amser iawn i ymestyn cyfrifoldebau Ofcom. Mae’r gwahaniaeth rhwng cynnwys darlledu a chynnwys ar-lein yn lleihau dros amser, ac mae’n ymddangos yn llai nag erioed o ystyried bod y BBC yn bwriadu creu cynnwys y gellir ei ddefnyddio ar draws ei lwyfannau o dan ei strategaeth ‘digidol yn gyntaf’. Didueddrwydd, yn fwy na dim, yw’r peth cyfwerth am ffi’r drwydded, ac mae’n sylfaenol i allu parhaus y BBC i ddarparu ar gyfer cynulleidfaoedd.

113. Ar y cyd ag Ofcom a’r BBC, byddwn yn cyflwyno’r argymhelliad hwn drwy newidiadau i’r Cytundeb Fframwaith. Bydd yn rhaid i Ofcom ddefnyddio’r un egwyddorion yn y Cod Darlledu mewn cod newydd ar gyfer deunydd gwasanaeth cyhoeddus ar-lein y BBC, wedi’i addasu i adlewyrchu nodweddion penodol deunydd ar-lein. Byddwn yn gweithio’n agos gydag Ofcom a’r BBC i gadarnhau union gwmpas y fframwaith rheoleiddio newydd, ond ein bwriad yw cynnwys deunydd gwasanaeth cyhoeddus ar-lein y BBC sydd wedi’i dargedu at gynulleidfaoedd yn y DU ac y mae gan y BBC reolaeth olygyddol drosto, gan gynnwys lle mae hynny ar lwyfan trydydd parti. Mae hyn yn golygu cynnwys:

  • gweithgareddau ar-lein y BBC fel deunydd ar wefan newyddion y BBC; a
  • deunydd wedi’i frandio gan wasanaeth cyhoeddus y BBC a’i reoli’n olygyddol ar wefan trydydd parti, rhaglen trydydd parti neu ryngwyneb ar-lein trydydd parti (e.e. YouTube, llwyfannau rhannu fideos eraill neu unrhyw wefan[footnote 8] nad yw o fewn parth bbc.co.uk).

114. Byddai rhywfaint o ddeunydd ar-lein yn aros y tu allan i’r cwmpas, yn unol â deunydd cyfatebol y BBC nad yw’n cael ei reoleiddio ar hyn o bryd gan y Cod Darlledu, fel deunydd corfforaethol y BBC neu gynnwys ar wasanaethau’r BBC lle nad oes gan y BBC reolaeth olygyddol (fel sylwadau ‘o dan y llinell’).

115. Yn ddiweddar, mae’r BBC wedi diweddaru ei ganllawiau ar gyfer defnydd personol o gyfryngau cymdeithasol yn dilyn adolygiad annibynnol o’r canllawiau ar gyfer y rheini sy’n gweithio yn y gymuned llawrydd ar yr awyr. Mae’r BBC wedi edrych eto ar ei ganllawiau ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r canllawiau newydd yn nodi’n glir na ddylai unrhyw un sy’n gweithio i’r BBC danseilio didueddrwydd ac enw da’r BBC. Ynghyd â’r rheini sy’n talu ffi’r drwydded, byddwn yn gwylio’n ofalus i weld sut mae’r canllawiau hyn yn cael eu defnyddio i farnu a ydynt yn mynd yn ddigon pell i sicrhau bod y didueddrwydd sydd mor bwysig i ymddiriedaeth y cyhoedd yn cael ei gynnal. Byddwn yn asesu digonolrwydd parhaus y canllawiau newydd yn yr Adolygiad o’r Siarter.

2.14 Byddwn yn ymestyn cyfrifoldebau rheoleiddio Ofcom i elfennau o ddeunydd gwasanaeth cyhoeddus ar-lein y BBC, ac yn gwneud newidiadau i’r Cytundeb Fframwaith er mwyn rhoi’r polisi hwn ar waith.

116. Mae ymchwil Ofcom yn elfen hollbwysig o sut mae’n asesu perfformiad y BBC yn erbyn ei gyfrifoldebau, a sut mae’n dal y BBC i gyfrif fel rheoleiddiwr annibynnol y Gorfforaeth. Er enghraifft, roedd ymchwil Ofcom ar farn cynulleidfaoedd am ddidueddrwydd ei gynnwys newyddion yn darparu cyd-destun pwysig ar gyfer adolygiad dilynol y rheoleiddiwr o waith rheoleiddio’r BBC. Os oes amheuaeth ynghylch dulliau ymchwil Ofcom, yna mae perygl y gallai casgliadau’r rheoleiddiwr a’i rôl gyffredinol gael eu tanseilio. Rydym yn nodi bod Ofcom eisoes yn adolygu ei ddull gweithredu ar gyfer ymchwil, ac mae’n arbennig o ymwybodol o gymhlethdod asesu cwestiynau am ddidueddrwydd.

2.15 Rydym yn argymell bod Ofcom yn parhau i drafod methodoleg ymchwil sy’n ymwneud â didueddrwydd (yn enwedig canfyddiadau cynulleidfaoedd) yn eang cyn ymchwil yn y dyfodol er mwyn sicrhau’r consensws gorau posibl.

Pennod 3: Cwynion

Y Cefndir

117. Mae adborth y rheini sy’n talu ffi’r drwydded yn amhrisiadwy o ran helpu’r BBC i ddeall beth mae ei gynulleidfaoedd yn poeni amdano a sut mae gwella ei wasanaethau. Mae cwynion golygyddol yn fath pwysig o adborth gan gynulleidfaoedd ac, i gydnabod hyn, mae Syr David Clementi wedi asesu effeithiolrwydd prosesau’r BBC ar gyfer delio â chwynion fel rhan o’i adolygiad yn 2016 o drefniadau llywodraethu a rheoleiddio’r BBC.

118. Daeth Syr David Clementi i’r casgliad bod y broses cyn 2017 yn gymhleth ac yn aneffeithlon. Y rheswm am hyn oedd ei fod yn system gwyno ddeuol, a oedd yn cynnwys y BBC ac Ofcom, a oedd gan gylchoedd gwaith a oedd yn gorgyffwrdd. Gallai Ofcom glywed cwynion am y BBC, oni bai am rai eithriadau, a’r pwysicaf ohonynt yw cwynion golygyddol am gywirdeb dyladwy a didueddrwydd dyladwy. Ond gallai Ymddiriedolaeth y BBC ymchwilio i unrhyw gŵyn, hyd yn oed os oedd o fewn cylch gwaith Ofcom.

119. Dywedodd Syr David Clementi y dylai unrhyw system newydd fodloni’r meini prawf canlynol:

  • System gwyno symlach, gliriach a chymesur ar gyfer y BBC, sy’n cynnig gwerth am arian ac yn dileu’r system reoleiddio ddeuol bresennol;
  • System apelio sy’n annibynnol ar y BBC;
  • System gwyno sy’n gallu blaenoriaethu a datrys y problemau mwyaf difrifol, gyda hawliau ‘camu i mewn’ priodol i’r rheoleiddiwr;
  • System gwyno sy’n cynnal hyder achwynwyr, sy’n hygyrch iddynt, ac sy’n delio â hwy’n deg mewn ffordd sy’n dal y BBC yn atebol i’r cyhoedd; a
  • System gwyno sy’n parhau i roi gwybodaeth i wneuthurwyr rhaglenni.

120. Daeth Syr David Clementi o hyd i gonsensws eang ar gyfer symleiddio’r broses. Y BBC ddylai ddelio â chwynion yn y lle cyntaf, gyda’r rheini sy’n cwyno yn cael yr hawl i apelio y tu hwnt i’r BBC i gorff annibynnol yn Ofcom. Mae’r system hon bellach yn cael ei galw’n ‘BBC yn Gyntaf’.

Cyfrifoldebau’r BBC

121. Mewn ymateb i adolygiad Syr David Clementi, cyflwynodd y Siarter bresennol egwyddor BBC yn Gyntaf yn ffurfiol yn 2017, gan wneud y BBC yn unigryw ymysg darlledwyr drwy roi cyfle, ac yn wir cyfrifoldeb, iddo ddatrys cwynion am ei wasanaethau yn gyntaf, cyn iddynt gael eu hystyried gan Ofcom.

Mae Erthygl 56 o’r Siarter hefyd yn amlinellu’r egwyddorion ehangach y mae’n rhaid i’r BBC lynu wrthynt wrth sefydlu ei fframwaith ar gyfer delio â chwynion a’u datrys, ar sail meini prawf Syr David Clementi.

122. Mae’r Cytundeb Fframwaith hefyd yn nodi bod yn rhaid i’r BBC gyhoeddi gwybodaeth am y ffordd mae’n delio â chwynion ar ffurf ac ar adegau a bennir gan Ofcom. Mae Ofcom yn nodi’r gofynion hyn yn ei ddogfen ‘Complaints Handling Determinations’ ac yn cynyddu’r hyn y dylai’r BBC ei gyhoeddi yn 2020 a 2022.

Trefniadau Llywodraethu Cwynion y BBC

123. Bwrdd y BBC sy’n goruchwylio sut mae Gweithrediaeth y BBC yn sefydlu ei fframwaith cwynion. Mae Erthygl 20 o’r Siarter yn nodi bod yn rhaid i’r Bwrdd sicrhau bod y BBC yn cyflawni ei Genhadaeth ac yn hyrwyddo’r Dibenion Cyhoeddus drwy, ymysg pethau eraill, osod fframwaith y mae’n rhaid i’r BBC ddelio â chwynion ynddo.

Y Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol

124. Mae’r Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol yn llywodraethu’r broses yn fwy manwl. Fel y nodwyd mewn penodau blaenorol, mae’r Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol yn is-bwyllgor i’r Bwrdd sy’n gyfrifol am oruchwylio safonau golygyddol y BBC a chydymffurfiad â nhw ar draws ei wasanaethau. Mae Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol, a ddatblygwyd gan y BBC, yn nodi bod aelodau’r Pwyllgor yn cael eu penodi gan y Bwrdd a rhaid iddynt gynnwys o leiaf dri chyfarwyddwr anweithredol, a dylai un ohonynt fod yn gadeirydd. Mae Prif Swyddog Gweithredol Newyddion a Materion Cyfoes a’r Cyfarwyddwr Cyffredinol yn ymuno â nhw, yn ogystal â’r ddau Gynghorydd Golygyddol allanol a benodwyd yn dilyn Adolygiad Serota.Mae hyn yn golygu bod trefniadau llywodraethu’r broses gwyno yn cael eu darparu gan rai aelodau sy’n annibynnol ar y Weithrediaeth, a rhai sy’n annibynnol ar y BBC.

125. Mae’r Cylch Gorchwyl yn rhoi cyfrifoldebau penodol i’r Pwyllgor i sicrhau bod y BBC yn cydymffurfio â’i fframwaith cwynion, ac yn adrodd i’r Bwrdd ar effeithiolrwydd y fframwaith gydag argymhellion ar gyfer unrhyw newidiadau arfaethedig.

Proses BBC yn Gyntaf

Y tu hwnt i’r rhwymedigaethau a nodir uchod, mae’r Siarter a’r Cytundeb Fframwaith yn caniatáu i’r BBC roi manylion ynghylch sut mae ei broses gwyno’n gweithio’n ymarferol. Mae’r BBC yn nodi hyn yn llawn yn ei Fframwaith a’i Weithdrefnau Cwynion. Mae Ffigur Un yn crynhoi’r broses.

Ffigur Un: Proses BBC yn Gyntaf ar gyfer Datrys Cwynion Golygyddol

127. Mae’r Adolygiad Canol Tymor wedi ystyried sut mae’r trefniadau llywodraethu a rheoleiddio presennol yn helpu’r BBC i gyflawni proses ar gyfer delio â chwynion golygyddol sydd o’r safon uchaf bosibl a’u datrys.

Yr Uned Cwynion Gweithredol

128. Tîm mewnol yw’r Uned Cwynion Gweithredol sy’n darparu ymateb o sylwedd terfynol y BBC i gŵyn. Mae’r tîm yn cael ei recriwtio ar sail barn olygyddol amlwg, profiad o ddelio â chwynion, ac ymgysylltiad gwybodus â materion sy’n ymwneud â safonau golygyddol. Mae’n ymchwilio i achosion honedig o ddiffyg cydymffurfio â chanllawiau a safonau golygyddol y BBC a godir drwy gwynion golygyddol.

129. Nod trefniadau llywodraethu’r Uned Cwynion Gweithredol yw sicrhau ei fod yn gallu gwneud penderfyniadau am gwynion yn annibynnol ac yn ddiduedd gan wneuthurwyr rhaglenni, a buddiannau enw da’r sefydliad ehangach. Mae’r Uned Cwynion Gweithredol wedi’i wahanu’n strwythurol oddi wrth dimau allbwn. Nid yw aelodau newydd yr uned yn gweithio ar ymchwiliadau am eu cyn feysydd rhaglennu am gyfnod penodol. Pan fydd yr Uned Cwynion Gweithredol yn canfod bod safonau wedi’u torri, rhoddir gwybod i reolwr y maes allbwn, ac i’r Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol. Mae’r Uned Cwynion Gweithredol yn gweithredu awdurdod datganoledig gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol, fel prif olygydd, a dim ond y Cyfarwyddwr Cyffredinol all wrthdroi neu ymyrryd ym mhenderfyniadau’r Uned.

Rôl Ofcom wrth reoleiddio cwynion

130. Wrth archwilio opsiynau ar gyfer creu pwynt apêl wrth ddelio â chwynion a fyddai’n annibynnol ar y BBC, daeth Syr David Clementi i’r casgliad y dylai Ofcom ddod yn ganolwr terfynol. Teimlwyd bod hyn – yn hytrach na chreu corff newydd sy’n annibynnol ar y BBC ac ar Ofcom – yn symlach, gan gyfuno’r holl reoleiddio yn Ofcom. Roedd gan Ofcom eisoes yr arbenigedd a’r dilysrwydd angenrheidiol i gyflawni’r swyddogaeth hon. Canfu Syr David Clementi y byddai hyn yn helpu i gryfhau hyder cynulleidfaoedd yn y broses gwyno ehangach.

131. Mae Erthygl 56 o’r Siarter yn nodi mai dim ond ar ôl i’r gŵyn gael ei gwneud i’r BBC y bydd Ofcom fel arfer yn ystyried cwyn. Mae Ofcom yn asesu cwynion yn erbyn y Cod Darlledu, y safonau y mae’n rheoleiddio pob darlledwr yn y DU yn eu herbyn, gan gynnwys y BBC. Mae Adran 57 y Cytundeb Fframwaith yn rhoi rhagor o fanylion am rôl Ofcom yn y broses gwyno.

Proses BBC yn Gyntaf

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

132. Mae’r dystiolaeth feintiol yn awgrymu bod BBC yn Gyntaf yn gwneud penderfyniadau teg ynghylch cwynion sy’n gwrthsefyll craffu gan y rheoleiddiwr. Yn 2021/22, ystyriodd Ofcom 160 o gwynion y dewisodd achwynwyr eu huwchgyfeirio ar ôl cwblhau Camau 1 a 2. O’r 160 o achosion, roedd Ofcom wedi cadarnhau un gŵyn nad oedd yr Uned Cwynion Gweithredol wedi’i chadarnhau. Yn y flwyddyn flaenorol (2020/21), nid oedd Ofcom yn credu bod unrhyw un o’r 185 o achosion a oedd wedi’u huwchgyfeirio iddo wedi codi materion o dan y Cod Darlledu, ac felly nid oedd wedi agor rhagor o ymchwiliadau. Mae’r data hwn yn awgrymu bod y rheoleiddiwr yn cytuno â’r rhan fwyaf o benderfyniadau’r BBC ynghylch cwynion.

133. Roedd y rhan fwyaf o’r rhanddeiliaid a roddodd dystiolaeth drwy’r Adolygiad Canol Tymor yn dymuno gweld yr egwyddor BBC yn Gyntaf yn cael ei gynnal. Eglurodd rhanddeiliaid fod y broses bresennol yn darparu: ffordd i’r rheini sy’n talu ffi’r drwydded ddal y BBC i gyfrif yn uniongyrchol; ymatebion ystyrlon gan y rheini sydd yn y sefyllfa orau i egluro penderfyniadau golygyddol (hynny yw, y BBC ei hun); a dolen adborth glir i alluogi’r BBC i ddysgu o faterion sy’n codi mewn cwynion.

134. Fodd bynnag, roedd rhanddeiliaid hefyd yn dadlau, o ystyried y sefyllfa unigryw sydd gan y BBC yn ein bywyd cyhoeddus, y dylai proses gwynion y BBC fod o safon aur. Roedd rhanddeiliaid felly’n teimlo y dylid gwneud gwelliannau allweddol i BBC yn Gyntaf, ac mae themâu’r adborth hwnnw wedi cyfrannu at y bennod hon.

135. Ym mis Mehefin 2022, yn dilyn adolygiad o sut mae’r BBC yn delio â chwynion fel rhan o’i adolygiad o waith rheoleiddio’r BBC, daeth Ofcom i’r casgliad bod model BBC yn Gyntaf yn adlewyrchu’n briodol y berthynas unigryw rhwng y BBC a’i dalwyr ffi’r drwydded. Fodd bynnag, roedd Ofcom yn argymell y canlynol:

  • Dylai’r BBC fod yn fwy tryloyw ynghylch sut mae’n gwneud ei benderfyniadau wrth ddelio â chwynion golygyddol; a

  • Dylai’r BBC wneud y broses yn gliriach ac yn haws i gynulleidfaoedd ei defnyddio.

136. Ochr yn ochr â’r Adolygiad Canol Tymor, ymrwymodd Ofcom i adolygu BBC yn Gyntaf eto cyn Adnewyddu’r Siarter, yn rhannol i asesu sut roedd unrhyw welliannau a wnaed i’r broses gan y BBC wedi effeithio ar brofiadau achwynwyr.

137. Ym mis Tachwedd 2022, ymatebodd y BBC i ganfyddiadau Ofcom drwy gyhoeddi ymrwymiadau allweddol i wella BBC yn Gyntaf, gan gynnwys:

  • Gwneud y tudalennau gwe cwynion yn haws i ddod o hyd iddynt;

  • Ei gwneud yn fwy amlwg sut mae gwneud cwyn olygyddol;

  • Cynnwys fideo sy’n egluro sut mae’r BBC yn delio â chwynion, a sut mae adborth gan gynulleidfaoedd yn cael ei rannu ar draws y Gorfforaeth;

  • Sicrhau bod y cam nesaf yn cael ei nodi’n glir ym mhob ymateb i achwynwyr;

  • Gwella ansawdd ymatebion timau golygyddol i gwynion yng Ngham 1B drwy raglen gyfathrebu fewnol, canllawiau templed, a chydymffurfiaeth wedi’i sicrhau drwy arweinwyr y BBC; a

  • Gwella arweiniad i dimau golygyddol i roi hwb i gyflymder ymatebion yng Ngham 1B.

138. Fodd bynnag, roedd rhai rhanddeiliaid yn feirniadol o BBC yn Gyntaf. Roeddent o’r farn nad yw BBC yn Gyntaf yn darparu ffordd deg o ddatrys cwynion ar gyfer cynulleidfaoedd oherwydd bod proses y BBC yng Ngham 2 a phroses Ofcom yng Ngham 3 yn anaddas i’r diben. Roedd y rhanddeiliaid hyn yn dadlau bod yr Uned Cwynion Gweithredol yn anaddas ar gyfer gwrando cwynion oherwydd:

  • Ei fod yn eistedd yn breifat;

  • Nid yw’n clywed tystiolaeth lafar;

  • Mae’n cael ei staffio gan weithwyr y BBC ac felly nid yw’n annibynnol ar y BBC;

  • Nid oes ganddo gadeirydd annibynnol;

  • Nid oes proses apelio;

  • Nid yw’n ofynnol iddo weithredu’n deg; a

  • Nid oes ganddo bŵer i orfodi camau unioni lle mae achosion o dorri amodau wedi’u nodi.

139.Roeddent yn teimlo na ddylai Ofcom ddelio ag apeliadau oherwydd ei fod yn asesu cwynion yn erbyn meini prawf gwahanol (y Cod Darlledu yn hytrach na Chanllawiau a Safonau Golygyddol y BBC), ac yn agor nifer isel o ymchwiliadau, gan awgrymu mai ei safbwynt diofyn yw cytuno â chanfyddiadau’r BBC yn hytrach na gweithredu er budd achwynwyr. Dywedodd y rhanddeiliaid hyn nad oes modd cyfiawnhau na ddylai’r BBC fod yn destun system annibynnol o ddelio â chwynion, o ystyried ei gyllid ar gyfer ffi’r drwydded, ac roeddent am weld proses tribiwnlys annibynnol – y tu allan i’r BBC ac Ofcom – yn disodli Camau 2 a 3.

Ymateb y llywodraeth

140. Er mwyn cyflawni rhwymedigaethau’r Siarter i wasanaethu pob cynulleidfa, mae’n rhaid i’r BBC wrando ar farn ei gynulleidfaoedd, a cheisio deall eu safbwyntiau a’u blaenoriaethau. Felly, mae’r broses gwyno yn adnodd hanfodol yn y ffordd y mae’r BBC yn meithrin perthynas ehangach â’r rheini sy’n talu ffi’r drwydded. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried bod tystiolaeth i awgrymu bod ymddiriedaeth yn y BBC fel ffynhonnell newyddion yn 2022 yn lleihau (er bod data o 2023 yn awgrymu bod ymddiriedaeth wedi cynyddu).[footnote 9] Am y rheswm hwn, mae’n hanfodol bod y model cywir ar waith ar gyfer delio â chwynion.

141. Wrth ei ystyried yn y rownd, mae’r dystiolaeth a gafwyd drwy’r Adolygiad Canol Tymor yn awgrymu bod model BBC yn Gyntaf yn parhau i gyflawni’r canlyniadau a fwriadwyd gan y Siarter yn fras. Felly, rydym wedi dod i’r casgliad nad oes angen gwneud newidiadau sylfaenol i system BBC yn Gyntaf ar hyn o bryd, er y bydd y Llywodraeth yn adolygu hyn eto yn yr Adolygiad o’r Siarter.

142. Fodd bynnag, rydym wedi cael tystiolaeth sy’n tynnu sylw at feysydd penodol lle gellid gwella BBC yn Gyntaf – mae hyn wedi’i nodi yn yr adrannau sy’n dilyn. Felly, mae’r gwaith sydd eisoes wedi cael ei wneud gan Ofcom a’r BBC i wella profiadau achwynwyr o wneud cwyn i’r BBC yn rhywbeth i’w groesawu. Rydym am adeiladu ar y gwaith hwnnw i fynd i’r afael â’r ystod lawn o bryderon a glywir drwy’r Adolygiad Canol Tymor. Yn benodol, rydym wedi nodi’r angen i gynyddu hyder achwynwyr yn BBC yn Gyntaf, gwella eglurder y broses, a pharhau i greu darlun ymchwil o brofiadau achwynwyr. Rydym felly’n nodi nifer o argymhellion yng ngweddill y bennod hon. Mae eu rhoi ar waith yn hanfodol os yw’r BBC am barhau i fwynhau braint gymharol BBC yn Gyntaf.

3.1 Byddwn yn adolygu’r broses gwyno yn yr Adolygiad o’r Siarter ac yn ymgynghori ar fodelau amgen i BBC yn Gyntaf. Byddwn yn gwahodd y BBC ac Ofcom i gydweithio yn y broses hon.

143. Yn olaf, mae pryderon rhai rhanddeiliaid ynghylch anaddasrwydd Camau 2 a 3 yn tynnu sylw at ddiffyg hyder yn BBC yn Gyntaf y gall ac y dylai’r BBC wneud mwy i fynd i’r afael ag ef. Mae ein cynigion i fynd i’r afael â’r pryderon hyn yn yr adrannau ar gynyddu craffu annibynnol ac allanol ar ddelio â chwynion a rôl Ofcom.

Cynyddu Craffu Annibynnol ac Allanol ar Ddelio â Chwynion

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

144. Er bod y rhan fwyaf o randdeiliaid wedi dweud bod gan BBC yn Gyntaf fanteision clir, clywsom rywfaint o bryder hefyd am briodoldeb y model. Roedd rhywfaint o’r adborth yn tynnu sylw at y ffaith bod gan y dull gweithredu ar gyfer llinell adrodd yr Uned Cwynion Gweithredol, lle mae’n adrodd i’r rôl sy’n gyfrifol am bolisi golygyddol, y potensial i beryglu canfyddiadau ynghylch annibyniaeth. Dywedodd nifer fach o randdeiliaid hefyd fod y nifer cymharol isel o gwynion golygyddol a oedd yn cael eu cadarnhau neu eu cadarnhau’n rhannol gan y BBC yn dystiolaeth bod yr Uned Cwynion Gweithredol yn rhy agos at y BBC, ac yn gweithio yn y pen draw i ddiogelu’r Gorfforaeth yn hytrach nag er mwyn dysgu o gwynion.

145. Yn y pen draw, nid oedd y rhanddeiliaid hyn yn cefnogi egwyddor BBC yn Gyntaf ond, pe bai’r Llywodraeth yn parhau i’w chefnogi, gwnaethant nifer o argymhellion i ddiwygio’r Uned Cwynion Gweithredol a Cham 2, gan gynnwys: Dylai ymchwiliadau’r Uned Cwynion Gweithredol gael eu gwneud yn gyhoeddus i sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau yn dryloyw i dalwyr ffi’r drwydded;

  • Dylai achwynwyr allu rhoi tystiolaeth lafar i’r Uned Cwynion Gweithredol. Byddai hyn yn caniatáu ar gyfer mwy o dystiolaeth fwy ystyrlon na’r uchafswm geiriau presennol;

  • Dylid rhoi pwerau i’r Uned Cwynion Gweithredol roi iawndal o blaid yr achwynydd a dramgwyddwyd er mwyn sicrhau bod canlyniadau digonol ar gyfer achosion o dorri amodau; a

  • Dylai’r Uned Cwynion Gweithredol gael ei staffio gan leiafrif o weithwyr y BBC. Bydd gweithwyr allanol yn sicrhau bod y BBC a’r ffordd mae’n delio â chwynion yn cael eu gwahanu’n well.

146. Clywsom rai pryderon ynghylch gallu’r Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol i ddal yr Uned Cwynion Gweithredol a Gweithrediaeth y BBC i gyfrif o ran delio â chwynion. Clywsom fod y Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol yn gyfyngedig o ran ei allu i oruchwylio BBC yn Gyntaf, ac awgrymiadau nad oedd gan y Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol fynediad bob amser at yr wybodaeth iawn i ganiatáu i aelodau ymgysylltu’n agos â materion sy’n codi mewn cwynion. Clywsom awgrymiadau hefyd nad oedd gan y Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol y gallu i gyfarwyddo camau i sicrhau bod materion sy’n codi o ddelio â chwynion yn cael eu hateb yn briodol yn y sefydliad.

Ymateb y llywodraeth

147. Mae’n ddealladwy bod y data meintiol sy’n dangos bod nifer cymharol fach o gwynion golygyddol yn cael eu cadarnhau yng Ngham 2 wedi codi cwestiynau i rai rhanddeiliaid ynghylch sut mae cwynion yn cael eu trin. Fodd bynnag, nid oes cydberthynas syml rhwng cyfanswm nifer y cwynion a dderbynnir gan y BBC bob blwyddyn a nifer y cwynion sy’n cael eu cadarnhau yng Ngham 2 gan yr Uned Cwynion Gweithredol. Mae hyn oherwydd bod BBC yn Gyntaf yn broses aml-gam sy’n cael ei harwain gan yr achwynydd: yn y rhan fwyaf o achosion, mae cwynion yn cael eu datrys yn gynnar ac mae achwynwyr yn dewis peidio â symud ymlaen i Gam 2 lle mae achos yn cael ei gadarnhau’n ffurfiol, yn cael ei gadarnhau’n rhannol, neu ddim yn cael ei gadarnhau.

148. Mae’n hanfodol bod talwyr ffi’r drwydded yn ymddiried y bydd eu cwynion yn cael eu hystyried yn deg. Mae’n amlwg bod bwlch rhwng record y BBC o ran delio â chwynion yn deg a chanfyddiadau cynulleidfaoedd o’r system – gall, ac yn wir dylai, y BBC wneud mwy i wella hyder pobl yn ei brosesau. Mae’n briodol ein bod yn manteisio ar y cyfle hwn i gryfhau’r drefn lywodraethu mewn perthynas â BBC yn Gyntaf i sicrhau bod cynulleidfaoedd yn teimlo bod y BBC yn ystyried eu cwynion yn annibynnol ar fuddiannau’r Gorfforaeth a heb ddylanwad gwneuthurwyr rhaglenni.

149. Mae’r Llywodraeth wedi ymgysylltu’n adeiladol â’r BBC ar y materion hyn a’r pryderon a nodwyd drwy’r Adolygiad Canol Tymor. O ganlyniad i’r trafodaethau hyn, bydd cyfres o ddiwygiadau mawr yn cael eu gwneud i’r broses gwyno i greu rhwymedigaethau sy’n rhwymo’n gyfreithiol ar gyfer Bwrdd y BBC; i greu newidiadau strwythurol i reolaeth yr Uned Cwynion Gweithredol; ac i gryfhau goruchwyliaeth yr Uned Cwynion Gweithredol. Rhaid i’r diwygiadau hyn ddarparu mwy o graffu allanol ac annibynnol ar benderfyniadau’r BBC ynghylch cwynion.

150. Mae’r Llywodraeth wedi cytuno â’r BBC i ddiweddaru’r Cytundeb Fframwaith i greu rhwymedigaeth newydd ar gyfer Bwrdd y BBC i ddal Gweithrediaeth y BBC i gyfrif wrth ddelio â chwynion. Mae’r Siarter yn mynnu bod Bwrdd y BBC yn goruchwylio’r gwaith o sefydlu fframwaith cwynion ond nid oes gan y Bwrdd unrhyw gyfrifoldebau cyfreithiol penodol i sicrhau bod y fframwaith yn gweithio’n effeithiol. Fel y cytunwyd gyda’r BBC, byddwn felly’n diwygio’r Cytundeb Fframwaith yn unol â chynnig y BBC i greu cyfrifoldeb newydd sy’n gyfreithiol rwymol i’r Bwrdd oruchwylio’r gwaith o gyflawni’r fframwaith cwynion o ddydd i ddydd drwy wneud y canlynol:

  • Monitro gweithrediad y fframwaith;

  • Asesu ei effeithiolrwydd wrth ymateb i gwynion; a

  • Sicrhau bod y fframwaith yn cydymffurfio â gofynion y Siarter.

3.2 Byddwn yn diwygio’r Cytundeb Fframwaith yn unol â chynnig y BBC i roi cyfrifoldeb penodol i Fwrdd y BBC dros oruchwylio’r ffordd y mae’r Weithrediaeth yn delio â chwynion.

151. Yn dilyn trafodaethau adeiladol gyda’r Llywodraeth a gychwynnwyd drwy’r Adolygiad Canol Tymor, mae’r BBC wedi newid llinell adrodd y Cyfarwyddwr Cwynion ac Adolygiadau Golygyddol – y rôl sy’n gyfrifol am yr Uned Cwynion Gweithredol. Mae’r unigolyn hwnnw bellach yn adrodd yn uniongyrchol i Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC. Yn strwythurol, roedd yr Uned Cwynion Gweithredol yn arfer bod ar wahân i’r adrannau rhaglenni a chynnwys, ac roedd hyn yn hollbwysig o ran sicrhau bod yr uned yn gwneud penderfyniadau gwrthrychol am achosion posibl o dorri rheolau sy’n annibynnol ar wneuthurwyr rhaglenni a chynnwys. Fodd bynnag, mae’r Cyfarwyddwr Cwynion ac Adolygiadau Golygyddol yn adrodd i’r Cyfarwyddwr Safonau a Pholisi Golygyddol, sydd hefyd yn gyfrifol am gynghori timau allbwn ar gydymffurfio â’r canllawiau golygyddol hynny y mae cwynion yn cael eu hasesu yn eu herbyn.

152. Roeddem yn teimlo bod trefniant yn creu risgiau bod penderfyniadau am gwynion a pholisi golygyddol yn rhy agos at ei gilydd, ac y gallai annibyniaeth penderfyniadau am gwynion gael ei effeithio. Er nad oedd y dystiolaeth a gafwyd yn dangos bod hyn wedi digwydd, roedd y risg yn bodoli, ac roedd hyn yn creu her barhaus o ran y canfyddiad o allu’r Uned Cwynion Gweithredol i wneud penderfyniadau teg ynghylch cwynion. Felly, gofynnodd y Llywodraeth i’r BBC ystyried symud y llinell adrodd hon. Roedd y BBC yn cydnabod yr heriau canfyddiad hyn a gafodd eu creu gan y llinell adrodd ac fe wnaeth y newid hwn ym mis Medi 2023. Bydd y newid hwn yn gwahanu’n well y polisi golygyddol a’r gwaith o asesu penderfyniadau ynghylch cwynion. Mae hefyd yn gam sy’n dangos pa mor ddifrifol y mae’r BBC yn ystyried cwynion golygyddol, gyda phenderfyniadau’r Uned Cwynion Gweithredol yn cael eu goruchwylio’n well gan Brif Olygydd y BBC sydd ar frig y Gorfforaeth.

3.3 Yn dilyn cais y Llywodraeth i’r BBC ei fod yn ystyried symud y llinell adrodd o’r Uned Cwynion Gweithredol, mae’r BBC wedi creu llinell adrodd uniongyrchol rhwng y Cyfarwyddwr Cwynion ac Adolygiadau Golygyddol a’r Cyfarwyddwr Cyffredinol.

153. Drwy’r Adolygiad Canol Tymor, roedd y Llywodraeth wedi tynnu sylw’r BBC at y dystiolaeth a gafwyd am gyfyngiadau presennol pwerau’r Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol, a gofynnodd i’r BBC ystyried a ellid grymuso’r Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol yn well i ddal y Weithrediaeth i gyfrif, a sut gellid gwneud hynny. Mae’r BBC wedi ymrwymo i gryfhau’r pwerau hynny i oruchwylio prosesau a chanlyniadau’r Uned Cwynion Gweithredol a chyflawni’r fframwaith cwynion yn ehangach. Mae’r BBC wedi ymrwymo i wneud y canlynol:

  • Cryfhau cylch gwaith y Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol i gynnwys cyfrifoldeb penodol i oruchwylio’r gwaith o gyflawni fframwaith cwynion y BBC, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddidueddrwydd.

  • Cryfhau rôl cynghorwyr annibynnol ar y Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol, gan gynnwys drwy roi cyfrifoldeb penodol i un aelod annibynnol dros herio’r Uned Cwynion Gweithredol; y gallu i gynnal ymchwiliadau trylwyr i faterion penodol; ac eistedd ar banel penodi’r Cyfarwyddwr Cwynion ac Adolygiadau Golygyddol.

  • Newid ffocws y Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol o fonitro’r broses gwyno i ymgorffori swyddogaethau her weithredol drwy Gylch Gorchwyl wedi’i ddiweddaru, fel yr awgrymwyd gan y Llywodraeth.

  • Rhoi mynediad i’r Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol at yr wybodaeth sydd ei hangen arno i gyflawni’r rôl ychwanegol hon, gan gynnwys cael yr awdurdod i gomisiynu ymchwil drwy ei adnodd ymchwil penodol neu’r Weithrediaeth, fel yr awgrymwyd gan y Llywodraeth.

154. Gyda’i gilydd, bydd y set hon o ddiwygiadau – y bydd y BBC yn ei hadlewyrchu yng Nghylch Gorchwyl y Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol lle bo hynny’n briodol – yn cynyddu gwaith craffu annibynnol ar y ffordd yr ymdrinnir â chwynion, gan ddarparu safbwynt allanol gwerthfawr a all herio syniadau’r Weithrediaeth yn adeiladol.

3.4 Yn dilyn cais y Llywodraeth i’r BBC ei fod yn ystyried rhoi rôl weithredol well i’r Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol, mae’r BBC wedi ymrwymo i roi mwy o oruchwyliaeth i’r Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol dros y broses gwyno (gan gynnwys prosesau’r Uned Cwynion Gweithredol), a’r gallu i gomisiynu ymchwil i wella mynediad Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol at wybodaeth.

155. Yn olaf, rydym wedi edrych ar sut mae darparu mwy o graffu allanol cadarnach ar sut mae’r Uned Cwynion Gweithredol yn delio â chwynion mewn ffyrdd a fydd yn arwain at fwy o hyder ymysg cynulleidfaoedd. Ar hyn o bryd, mae Ofcom yn craffu ar benderfyniadau’r Uned Cwynion Gweithredol pan fydd achwynwyr yn uwchgyfeirio eu hachos i’r rheoleiddiwr yng Ngham 3, lle mae Ofcom yn asesu cwyn yn erbyn y Cod Darlledu. Dim ond pan fydd achwynydd wedi apelio i’r rheoleiddiwr y gwneir hyn. Felly, nid yw cwynion sy’n cael eu huwchgyfeirio yn sampl gynrychioliadol o benderfyniadau ehangach y BBC yng Ngham 2, o ystyried y bydd yn dibynnu’n rhannol ar a yw achwynwyr unigol wedi cael eu bodloni gan ymateb y BBC. Mae Ofcom hefyd yn craffu ar benderfyniadau cyhoeddedig yr Uned Cwynion Gweithredol yng Ngham 2, ond nid yw’r broses hon wedi’i ffurfioli.

156. Felly, byddwn yn creu cyfrifoldeb rheoleiddio newydd i Ofcom adolygu sampl gynrychioladol o benderfyniadau’r Uned Cwynion Gweithredol nad ydynt wedi cael eu huwchgyfeirio i Ofcom ar sail yr egwyddorion craidd canlynol:

  • Dylai’r sampl o achosion cwynion gwmpasu’r ystod lawn o egwyddorion safonau cynnwys sydd yng Nghod Darlledu Ofcom er mwyn asesu ystod o benderfyniadau’r Uned Cwynion Gweithredol;

  • Dylai Ofcom ddefnyddio’r Cod Darlledu i asesu’r cynnwys a nodir mewn cwyn; a

  • Dylai Ofcom gyhoeddi crynodeb o’i ganfyddiadau.

3.5 Rydym yn argymell bod Ofcom yn cynnal adolygiadau rheolaidd o sampl gynrychioladol o benderfyniadau cwynion yr Uned Cwynion Gweithredol ac yn cyhoeddi crynodeb o’i ganfyddiadau. Bydd y swyddogaeth reoleiddio newydd hon yn ofyniad ffurfiol drwy ddiwygio’r Cytundeb Fframwaith.

157. Mae’r rhain yn newidiadau sylweddol sy’n darparu rhwymedigaeth cyfreithiol rwymol newydd i’r Bwrdd sy’n mynnu ei fod yn darparu swyddogaeth herio annibynnol hanfodol yn y broses gwyno ar gyfer gweddill cyfnod presennol y Siarter. Bydd gan y Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol y grym i oruchwylio prosesau a chanlyniadau’r Uned Cwynion Gweithredol yn well, a bydd Ofcom yn darparu atebolrwydd allanol drwy samplu penderfyniadau ynghylch cwynion yng Ngham 2. Bydd hyn yn arwain at fwy o graffu annibynnol ar sut mae’r BBC yn delio â chwynion, gan gynnal egwyddor sylfaenol BBC yn Gyntaf, ond gan roi mwy o hyder i gynulleidfaoedd yn y broses.

158. Rydym o’r farn bod y diwygiadau hyn yn well na’r rhai a awgrymwyd gan randdeiliaid, a amlinellwyd yn gynharach yn yr adran hon, am y rhesymau canlynol:

  • Gwneud ymchwiliadau’r Uned Cwynion Gweithredol yn gyhoeddus - er ein bod yn credu ei bod yn bwysig bod y BBC yn fwy tryloyw ynghylch sut mae’r Uned Cwynion Gweithredol yn gweithio’n ymarferol, nid ydym yn credu y dylid cyhoeddi manylion ymchwiliadau unigol (y tu hwnt i’r penderfyniad ynghylch cwynion a gyhoeddwyd gan y BBC). Byddai hyn yn llesteirio trafodaethau mewnol rhydd, gonest a chadarn, gan beryglu gallu BBC yn Gyntaf i sicrhau bod gwneuthurwyr rhaglenni yn gallu dysgu o gwynion, set graidd o ddiwygiadau a gynigir gan Syr David Clementi.

  • Dylai achwynwyr roi tystiolaeth lafar i’r Uned Cwynion Gweithredol - roedd hyn yn deillio o bryder bod cwynion i’r BBC wedi’u cyfyngu i 1,000 o eiriau. Fodd bynnag, mae’r BBC yn amlinellu y gellir mynd y tu hwnt i hyn mewn amgylchiadau eithriadol os bydd achwynwyr yn nodi pam y dylai eu cwyn fod yn hwy ac yn darparu crynodeb un dudalen. Nid yw’r dystiolaeth yn ei chyfanrwydd wedi dangos bod y terfyn geiriau yn cyfyngu ar allu achwynwyr i gwyno nac ar allu’r Uned Cwynion Gweithredol i ymchwilio mewn modd boddhaol.

  • Rhoi pwerau i’r Uned Cwynion Gweithredol roi iawndal - ni chawsom unrhyw dystiolaeth arall i awgrymu bod y camau unioni y mae’r BBC yn eu cymryd pan fydd yr Uned Cwynion Gweithredol yn canfod achos o dorri amodau yn annigonol. Yn ymarferol, byddai’n anodd iawn penderfynu pwy yn benodol a oedd wedi cael niwed o ganlyniad i’r achos o dorri gofynion golygyddol ac felly enwi dioddefwr a ddylai gael iawndal. Gall unigolion ddefnyddio llwybrau cyfreithiol eraill os ydynt yn credu bod gweithredoedd y BBC wedi achosi niwed cyfreithiol.

  • Dylai’r Uned Cwynion Gweithredol gael ei staffio gan leiafrif o weithwyr y BBC - rydym yn deall nod ehangach yr awgrym hwn – i gynyddu craffu annibynnol ar benderfyniadau’r Uned Cwynion Gweithredol – ond rydym o’r farn y bydd diwygiadau arfaethedig y BBC i’r Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol a nodir uchod yn sicrhau’r canlyniad hwn yn well.** Byddai newid cyfansoddiad yr Uned Cwynion Gweithredol fel hyn yn creu cymhlethdod sylweddol drwy gyflwyno elfen o reoleiddio allanol i’r hyn sy’n swyddogaeth Weithredol, tanseilio egwyddor allweddol BBC yn Gyntaf a aneglur llinellau atebolrwydd a chyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau.

Amlygrwydd ac eglurder y broses

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

159. Mae gwelliannau diweddar y BBC yn awgrymu bod Ofcom yn mynd ati i fonitro sut mae’r BBC yn cyflawni ei fframwaith cwynion, a bod y BBC wedi cymryd camau i ymateb i bryderon Ofcom. Fodd bynnag, mynegodd nifer o randdeiliaid bryder ynghylch y diffyg ymwybyddiaeth cymharol ymysg cynulleidfaoedd ynghylch sut mae cwyno wrth y BBC, yn hytrach na chwyno wrth Ofcom am ddarlledwyr eraill yn cyfeirio at ymchwil Ofcom yn 2022. Canfu hyn mai dim ond 21% o’r rhai a holwyd oedd yn ymwybodol o broses BBC yn Gyntaf. Clywsom hefyd bryder mwy penodol, er nad oes llawer o ymchwil, y gallai’r diffyg ymwybyddiaeth hwn fod yn is ymysg cynulleidfaoedd sy’n ymgysylltu â’r BBC drwy ddulliau llai traddodiadol, er enghraifft cynulleidfaoedd iau sy’n defnyddio cynnwys y BBC yn bennaf drwy sianeli digidol.

160. Dywedodd y mwyafrif sylweddol o’r rhanddeiliaid hefyd ei bod yn anodd deall BBC yn Gyntaf. Nid oedd achwynwyr bob amser yn siŵr pa gam o’r broses roedden nhw ynddo, a beth yr oedd angen iddynt ei wneud i symud eu cwyn ymlaen i’r cam nesaf. Clywsom fod y dryswch hwn yn cael ei waethygu gan anfodlonrwydd â’r canllawiau ysgrifenedig (y Fframwaith a’r Weithdrefn Gwynion) ar gyfer cynulleidfaoedd ar wefan y BBC. Roedd rhanddeiliaid yn dadlau bod dogfen 51 tudalen yn rhy hir ac anhylaw i fod o gymorth i achwynwyr, a gallai eu hatal rhag rhoi adborth. Er bod y rhan fwyaf o randdeiliaid yn deall ei bod yn ddogfen angenrheidiol, teimlai rhai y byddai canllawiau symlach ar wahân wedi’u teilwra’n fwy penodol i anghenion achwynwyr yn cael eu croesawu. Roedd eraill yn dadlau, pe bai’n rhoi dealltwriaeth gliriach i achwynwyr o sut mae’r broses yn gweithio, y byddai eu disgwyliadau am yr allbwn ar bob cam yn cael eu rheoli’n well. Roedd rhanddeiliaid yn awgrymu y gallai hyn wella bodlonrwydd â BBC yn Gyntaf.

161. Roedd dryswch hefyd ymysg rhai rhanddeiliaid ynghylch rolau’r BBC ac Ofcom yn y broses BBC yn Gyntaf. Roedd rhai yn ansicr ynghylch egwyddorion mwy sylfaenol, er enghraifft pa bryd y gallai Ofcom fod yn rhan o gŵyn. Roedd eraill eisiau eglurder ynghylch manylion mwy penodol, fel yr hyn yr oedd disgwyl i’r BBC ac Ofcom ei gyhoeddi ynghylch delio â chwynion golygyddol.

Ymateb y llywodraeth

162. Rydym yn croesawu ymrwymiad y BBC, a wnaed ym mis Tachwedd 2022, i roi mwy o amlygrwydd i sut mae gwneud cwynion golygyddol, gan gynnwys gwneud gwefan cwynion y BBC yn haws dod o hyd iddi. Fodd bynnag, rydym yn dal yn bryderus am ddiffyg ymwybyddiaeth gymharol o BBC yn Gyntaf. Rydym yn deall bod cynulleidfaoedd yn fwy cyfarwydd â rôl reoleiddio ehangach Ofcom o ran asesu cwynion golygyddol am ddarlledwyr eraill. Felly, mae’n gallu cyrraedd mwy o achwynwyr posibl gyda negeseuon am broses BBC yn Gyntaf.

163. O ystyried rhwymedigaethau Siarter y BBC i adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu cymunedau amrywiol y Deyrnas Unedig i gyd, mae’n bwysig bod pob cynulleidfa yn ymwybodol o sut mae cwyno wrth y BBC. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y BBC yn cael adborth gan ei gynulleidfaoedd amrywiol ac yn deall eu pryderon yn well. Mae gan Ofcom hefyd gyfrifoldebau dros sicrhau bod y BBC yn cyflawni ei rwymedigaethau i wasanaethu pob cynulleidfa.

3.6 Rydym wedi dod i’r casgliad bod gan Ofcom rôl i’w chwarae o ran codi ymwybyddiaeth o BBC yn Gyntaf, ac yn argymell bod Ofcom yn cydweithio â’r BBC ar gynlluniau perthnasol i wella ymwybyddiaeth. Rydym yn argymell y dylai ymchwil Ofcom i BBC yn Gyntaf yn y dyfodol geisio deall yn well pa grwpiau cynulleidfa penodol sydd â llai o ymwybyddiaeth o BBC yn Gyntaf, ac y dylai Ofcom a’r BBC weithio gyda’i gilydd ar strategaethau i ryddfreinio grwpiau perthnasol yn well yn y broses gwyno.

164. Er bod y dystiolaeth yn dangos yn glir bod BBC yn Gyntaf yn symlach i’r BBC ac i Ofcom na’r system flaenorol, mae angen gwneud mwy o waith i egluro’r broses i achwynwyr a gwella hygyrchedd. Yn dilyn argymhellion Ofcom ym mis Mehefin 2022 ac, ochr yn ochr â’r Adolygiad Canol Tymor, cymerodd y BBC gamau i egluro’n well: sut mae BBC yn Gyntaf yn gweithio; sut dylai’r rheini sy’n cwyno lywio drwy’r broses gwyno; a sut mae’r BBC yn defnyddio adborth gan gynulleidfaoedd sy’n cael eu darparu drwy gwynion.

3.7 Mae’n briodol bod y BBC wedi cynhyrchu cynnwys fideo sy’n egluro sut mae’r BBC yn delio â chwynion. Rydym yn argymell bod y BBC yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd creadigol o gyfathrebu beth mae’r broses gwyno yn ei gyflawni – ar gyfer y Gorfforaeth ac ar gyfer cynulleidfaoedd – er mwyn cynyddu hyder ac ymgysylltiad cynulleidfaoedd â BBC yn Gyntaf.

3.8 Mae’n briodol bod y BBC wedi ymrwymo i roi gwybod yn gyson ac yn glir i achwynydd beth yw ei gam nesaf yn ei ymateb i gwynion ar bob cam.

165. Rydym am weld y broses yn cael ei hegluro ymhellach, gydag Ofcom a’r BBC yn gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â dryswch ynghylch eu rolau yn eu canllawiau. Yn benodol, mae angen i ganllawiau’r ddau sefydliad i achwynwyr egluro’n gliriach pryd gall Ofcom fod yn rhan o gŵyn, gan gynnwys ei bwerau ‘camu i mewn’ mewn amgylchiadau eithriadol, a phwy sy’n gyfrifol am sbarduno Ofcom i gymryd rhan. Dylai’r BBC ac Ofcom weithio gyda’i gilydd i egluro i gynulleidfaoedd y gwahanol gyfrifoldebau sydd gan y ddau sefydliad o ran cyhoeddi data a phenderfyniadau ynghylch delio â chwynion.

3.9 Rydym yn argymell bod Ofcom a’r BBC yn gweithio gyda’i gilydd i gyfathrebu’n well i achwynwyr am eu rolau yn y broses gwyno. Rydym yn annog dulliau gweithredu creadigol i sicrhau bod yr wybodaeth yn hawdd i achwynwyr ei deall.

Ansawdd a phrydlondeb ymatebion

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

166. Mae’r ymchwil sydd ar gael yn cyflwyno darlun cymysg o fodlonrwydd achwynwyr â BBC yn Gyntaf. Canfu arolwg meintiol a gomisiynwyd gan Ofcom fel rhan o’i ymchwil a oedd yn edrych ar ganfyddiadau cynulleidfaoedd o system BBC yn Gyntaf fod 18% o’r 4% o gyfranogwyr a oedd wedi cwyno i’r BBC wedi cael profiad da wrth wneud hynny. Fodd bynnag, canfu ymarfer cwsmer cudd a gomisiynwyd ar gyfer yr un ymchwil lefelau bodlonrwydd uwch ar y cyfan: Roedd 26 allan o 50 cwsmer yn fodlon ag ymateb y BBC yng Ngham 1A; roedd 18 allan o 46 cwsmer yn fodlon yng Ngham 1B; ac roedd 13 allan o 25 cwsmer yn fodlon yng Ngham 2.

167. Yng ngwaith casglu tystiolaeth y Llywodraeth, roedd rhai rhanddeiliaid wedi mynegi pryderon ynghylch ansawdd rhai ymatebion i gwynion unigol. Teimlwyd bod hyn yn fater penodol yng Ngham 1A, lle’r oedd ymatebion y BBC yn cael eu hystyried yn rhy gyffredinol. Clywsom fod hyn wedi creu ymdeimlad nad yw’r BBC yn gwrando ar ei gynulleidfaoedd, neu ei fod yn ceisio rheoli nifer o gwynion heb fyfyrio’n wirioneddol ar adborth a dysgu ohono.

168. Clywsom hefyd fod ymatebion y BBC i achwynwyr weithiau’n teimlo’n amddiffynnol o ran tôn, yn enwedig yng Ngham 1B lle darperir ymateb gan aelod o’r tîm golygyddol neu gan un o Reolwyr y BBC. Roedd hyn mewn perygl o danseilio ymddiriedaeth yn BBC yn Gyntaf, gan awgrymu i rai bod y broses gwyno yn rhy agos at y rheini sy’n gwneud rhaglenni neu na fyddai’r BBC yn cyfaddef pan oedd yn anghywir.

169. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod BBC yn Gyntaf wedi cyrraedd ei dargedau ar gyfer amseroedd ymateb. Mae Ofcom yn mynnu bod y BBC yn ymateb i 93% o gwynion Cam 1 o fewn 10 diwrnod gwaith. Yn 2021/22, roedd y BBC wedi delio â 95% o gwynion ar y cam hwn o fewn y targed. Mae’r BBC yn gosod ei darged ei hun ar gyfer ymatebion Cam 2, lle mae’n ceisio ymateb i 80% o gwynion o fewn 20 diwrnod gwaith, neu 35 diwrnod gwaith os yw’r achos yn fwy cymhleth. Yn 2021/22, roedd y BBC wedi ymateb i 87% o gwynion o fewn yr amserlen hon.

170. Fodd bynnag, mynegodd rhai rhanddeiliaid anfodlonrwydd serch hynny ynghylch pa mor hir y gallai gymryd i achwynydd gwblhau proses BBC yn Gyntaf. Clywsom bryderon fod y targedau’n awgrymu nad oedd ymdeimlad o frys yn y BBC wrth ddatrys problemau. Roedd eraill wedi awgrymu ei bod yn bosibl na fyddai achwynwyr eisiau cwblhau pob un o’r tri cham o ystyried yr amserlenni dan sylw.

171. Mae nifer y cwynion i’r BBC am faterion sy’n ymwneud â chystadleuaeth, sy’n cael eu hystyried gan y BBC fel Cwyn Reoleiddiol ac sy’n cael sylw drwy BBC yn Gyntaf, yn fach o ran nifer. Ni chafodd y BBC unrhyw gwynion am faterion yn ymwneud â chystadleuaeth yn 2021/22 na 2022/23. Dywedodd nifer cyfyngedig o randdeiliaid nad yw BBC yn Gyntaf yn gweithio i gystadleuwyr y BBC sy’n dymuno cwyno am fater sy’n ymwneud â chystadleuaeth nac effaith y BBC ar y farchnad, oherwydd teimlwyd ei fod yn rhy araf ar gyfer materion sy’n sensitif o ran amser. Yn hytrach, roeddent am weld y cwynion hyn yn cael eu trin gan Ofcom y tu allan i’r BBC, neu gan dîm arbenigol drwy drac ar wahân yn BBC yn Gyntaf.

Ymateb y llywodraeth

172. Nododd Syr David Clementi y dylai’r broses gwyno greu hyder ymysg cynulleidfaoedd. Rydym yn glir bod yn rhaid i system gwyno’r BBC sicrhau bod achwynwyr yn teimlo eu bod yn cael eu clywed – mae hyn yn hanfodol er mwyn creu’r ymddiriedaeth sy’n angenrheidiol i gynnal egwyddor BBC yn Gyntaf. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod yn rhaid i’r BBC gydbwyso’r angen i roi gwrandawiad teg i achwynwyr â’r gost i dalwyr ffi’r drwydded am redeg y broses.

173. Ochr yn ochr â’r broses Adolygiad Canol Tymor, mae’r BBC wedi creu cynnwys clyweledol newydd ar wahân mewn ymateb i argymhellion Ofcom. Mae’r cynnwys hwn yn egluro y bydd y BBC, yng Ngham 1A, yn grwpio nifer fawr o gwynion am yr un cynnwys gyda’i gilydd ac yn cyhoeddi ymateb cyson i sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithlon. Rydym yn deall y byddai cynnig ymatebion mwy pwrpasol i achwynwyr yng Ngham 1A (lle mae pob ateb yn delio â phryderon penodol unigolyn) yn galw am lawer mwy o adnoddau y gallai fod angen eu dargyfeirio o wasanaeth arall y BBC yn y pen draw. Felly, rydym wedi dod i’r casgliad bod dull gweithredu’r BBC yng nghyswllt Cam 1A yn bodloni gofynion ei Siarter i ddarparu ffordd gymesur o ddatrys cwynion, ac yn bodloni nod Syr David Clementi ar gyfer system sy’n cynnig gwerth am arian i’r BBC ac i bobl sy’n talu ffi’r drwydded. Fodd bynnag, mae angen i’r BBC barhau i feddwl am sut mae’n sicrhau nad yw prosesau fel grwpio ymatebion yn lleihau ymgysylltiad cynulleidfaoedd yn anfwriadol.

174. Roedd meini prawf Syr David Clementi hefyd yn nodi y dylai’r system gwyno allu blaenoriaethu ac ymateb yn briodol i’r achosion mwyaf difrifol. Rhaid i’r BBC felly barhau i sicrhau bod achosion sy’n ymwneud â thor-amod posibl neu sy’n peri llawer o bryder i’r cyhoedd yn cael eu hystyried ar y lefelau cywir yn y sefydliad, gyda chamau unioni’n cael eu cymryd lle bo angen.

3.10 Rydym wedi dod i’r casgliad bod dull gweithredu’r BBC yng Ngham 1A yn gymesur, ac yn argymell bod y BBC yn parhau i egluro i achwynwyr pa fath o ymateb y gallant ei ddisgwyl ar bob cam o BBC yn Gyntaf. Rhaid i’r BBC barhau i wneud defnydd priodol o’i weithdrefnau i gyflymu cwynion golygyddol fesul achos.

175. Nododd Adolygiad Serota ddiwylliant ehangach o fod yn amddiffynnol yn y BBC, yn enwedig o ran cyfaddef camgymeriadau. Ers lansio’r Adolygiad Canol Tymor, mae’r BBC wedi rhoi mesurau ar waith mewn ymateb i argymhellion Ofcom i wella ansawdd yr ymatebion yng Ngham 1B, gan gynnwys mynd i’r afael â defnyddio tôn amddiffynnol. Mewn ymateb i argymhellion Ofcom, nod y mesurau yw gwella’r ymatebion a ddarperir gan dimau golygyddol a rheolwyr y BBC drwy raglen gyfathrebu fewnol, canllawiau templed, a chydymffurfiaeth a sicrheir drwy graffu gan arweinwyr y BBC.

3.11 Mae’n briodol bod y BBC wedi ymrwymo i wella ansawdd yr ymatebion yng Ngham 1B, a chael gwared ar donau amddiffynnol. Rydym yn argymell bod y BBC yn parhau i fynd i’r afael â’r diwylliant amddiffynnol ehangach a amlygwyd gan Adolygiad Serota, ac yn adlewyrchu hyn yn ei ganllawiau ar gyfer timau golygyddol i sicrhau bod ymatebion Cam 1B yn adlewyrchu bod yn agored wrth ddysgu o gwynion.

176. Mae’r Siarter yn mynnu bod y BBC yn darparu ffordd amserol o fynd i’r afael â chwynion. Rydym yn cydnabod, wrth bennu’r amserlenni priodol ar gyfer ymateb i gŵyn, ei bod yn rhaid i’r BBC gydbwyso dymuniad yr achwynwyr i ddatrys eu hachos yn gyflym â sicrhau ei fod wedi ymchwilio’n briodol i gŵyn, a bod ganddo ddigon o amser i ddarparu ymateb o safon. Rydym wedi dod â’r targedau presennol ar gyfer amseroedd ymateb i ben er mwyn cael y cydbwysedd hwn yn iawn.

177. O ran cwynion am effaith y BBC ar gystadleuaeth, rydym yn credu ei bod yn bwysig ymgysylltu’n effeithiol ac yn amserol rhwng y BBC a’i gystadleuwyr er mwyn i’r BBC allu deall yn well effaith bosibl ei weithgareddau ar gystadleuaeth. Felly, rydym yn parhau i gefnogi’r egwyddor bod achwynwyr yn mynd at y BBC yn gyntaf. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod angen ymateb mwy brys gan y BBC nag y gellir ei ddarparu ar hyn o bryd mewn rhai amgylchiadau – er enghraifft, lle mae pryderon ynghylch priodoli stori newyddion leol yn briodol. Rydym yn annog rhanddeiliaid i weithio gyda’r BBC i ddod o hyd i’r cysylltiadau iawn i’w defnyddio lle mae angen datrysiad cyflymach. Rydym o’r farn bod hwn yn ateb mwy cymesur o ystyried y nifer fach o Gwynion Rheoleiddiol nag argymell creu proses newydd ar gyfer cystadleuwyr masnachol a newidiadau i fframwaith cwynion y BBC.

Tryloywder o ran gwneud penderfyniadau

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

178. Mynegodd amrywiaeth eang o randdeiliaid awydd i’r BBC fod yn fwy tryloyw ynghylch sut mae’n gwneud ei benderfyniadau ynghylch cwynion. Roedden nhw’n croesawu bod Ofcom, ym mis Mehefin 2022, wedi diwygio ei Benderfyniadau Cwynion i gynyddu gofynion y BBC i gyhoeddi rhesymeg yr Uned Cwynion Gweithredol wrth ymateb i bob cwyn am ddidueddrwydd dyladwy a chywirdeb (gan gynnwys cwynion sy’n ymwneud ag etholiadau a refferenda) sy’n cyrraedd Cam 2.

179. Roedd rhai rhanddeiliaid am weld mwy fyth o dryloywder, er nad oedd consensws ynghylch pa wybodaeth ychwanegol benodol fyddai fwyaf defnyddiol. Awgrymodd rhai y dylai’r BBC roi manylion am nifer y cwynion Cam 1 a aeth ymlaen i Gam 2. Roedd eraill, yn enwedig rhanddeiliaid yn y gwledydd datganoledig, eisiau i’r BBC ddarparu mwy o fanylion yn ei Adroddiadau bob pythefnos drwy gyhoeddi nifer y cwynion fesul rhanbarth, er mwyn i gynulleidfaoedd allu gweld safbwyntiau gwahanol am gynnwys y BBC. Clywsom hefyd bryder mwy cyfyngedig nad yw’r BBC wedi bod yn ddigon tryloyw ynghylch sut mae’r Uned Cwynion Gweithredol yn cynnal ei ymchwiliadau ac yn gwneud ei benderfyniadau.

180. Yn olaf, mynegodd nifer fach o randdeiliaid bryder ynghylch diffyg amrywiaeth yn yr Uned Cwynion Gweithredol. Roeddent yn teimlo bod digwyddiadau, fel y ffordd yr ymdriniwyd â’r gŵyn yn y lle cyntaf am sylwadau cyflwynydd BBC Breakfast ar 17 Gorffennaf 2019, wedi dangos nad oedd gan yr Uned Cwynion Gweithredol staff o gefndiroedd amrywiol, ac felly roeddent yn caniatáu i weithwyr o grwpiau sy’n cael eu cynrychioli’n dda ddiffinio gwahaniaethu ar eu telerau eu hunain heb ddigon o her. Yn dilyn hynny, aeth y Cyfarwyddwr Cyffredinol ati i wrthdroi’r penderfyniad ynghylch y gŵyn benodol hon.

Ymateb y llywodraeth

181. Mae’r Siarter a’r Cytundeb Fframwaith yn mynnu bod y BBC yn gwreiddio tryloywder yn ei broses gwyno. Mae hefyd yn bwysig bod cynulleidfaoedd yn deall sut mae’r BBC yn gwneud ei benderfyniadau ynghylch cwynion os ydynt am fod yn hyderus yn BBC yn Gyntaf. Er ein bod wedi clywed awgrymiadau ar gyfer tryloywder ychwanegol, roedd y dystiolaeth ynghylch a fyddai hyn yn rhoi unrhyw werth ychwanegol i gynulleidfaoedd yn amhendant. Rydym wedi dod i’r casgliad bod y gofynion presennol yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng darparu tryloywder i gynulleidfaoedd, a defnyddio adnoddau’r BBC mewn ffordd gymesur.

182. Mewn ymateb i’r awgrym penodol bod y BBC yn cyhoeddi tarddiad cwynion fesul rhanbarth, nid ydym wedi gweld tystiolaeth sy’n awgrymu bod defnyddio data cwynion yn addas fel procsi ar gyfer bodlonrwydd cynulleidfaoedd ar lefel ranbarthol. Y rheswm am hyn yw, oherwydd ei natur, dim ond cofnod o anfodlonrwydd yw data cwynion yn aml. Byddai hefyd yn bwysig osgoi rhoi blaenoriaeth i’r rheini sy’n dymuno gweld cwynion yn cael eu dadansoddi yn ôl daearyddiaeth dros y rheini sy’n dymuno gweld yr adroddiadau’n cael eu dadansoddi drwy lensys eraill, er enghraifft, cefndir economaidd-gymdeithasol achwynwyr.

3.12 Nodwn fod Ofcom wedi cynyddu gofynion adrodd ar gwynion y BBC yn ddiweddar. Mae’n briodol bod y newidiadau hyn yn cael eu gwneud i wneud penderfyniadau ynghylch cwynion y BBC yn fwy tryloyw.

183. Gan fod yr Uned Cwynion Gweithredol yn darparu ymateb sylweddol terfynol y BBC i gŵyn, mae’n hanfodol bod cynulleidfaoedd yn deall sut mae’r Uned Cwynion Gweithredol wedi’i strwythuro, a sut mae’n gweithio. Dim ond disgrifiad lefel uchel o broses yr Uned Cwynion Gweithredol y mae canllawiau’r BBC yn ei roi. Credwn fod angen i’r BBC fod yn fwy tryloyw ynghylch yr Uned Cwynion Gweithredol. Gallai hyn gynnwys egluro sut mae’r Uned Cwynion Gweithredol wedi’i strwythuro ac, yn benodol, y prosesau llywodraethu sydd ar waith i sicrhau ei fod yn gallu gwneud penderfyniadau’n annibynnol ar dimau rhaglennu. Rydym hefyd yn credu y byddai cynulleidfaoedd yn elwa o esboniad mwy ystyrlon o sut yn union y mae’r Uned Cwynion Gweithredol yn cynnal ymchwiliadau ac yn gwneud ei benderfyniadau. Gallai’r wybodaeth hon helpu cynulleidfaoedd i ddeall gwaith yr Uned Cwynion Gweithredol yn well, a thrwy hynny gynyddu ymddiriedaeth yn y rhan hollbwysig hon o BBC yn Gyntaf.

3.13 Rydym yn argymell bod y BBC yn cyhoeddi gwybodaeth am sut mae’r Uned Cwynion Gweithredol yn gwneud penderfyniadau teg sy’n annibynnol ar wneuthurwyr rhaglenni, ac sy’n annibynnol ar fuddiannau enw da’r sefydliad, er mwyn cynyddu hyder talwyr ffi’r drwydded yng Ngham 2 a BBC yn Gyntaf yn fwy cyffredinol.

184. Mewn ymateb i bryderon am y ffordd roedd yr Uned Cwynion Gweithredol wedi delio â chwynion am sylwadau a wnaed gan gyflwynydd BBC Breakfast, comisiynodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC ar y pryd, yr Arglwydd Tony Hall, a’r Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol adolygiad annibynnol o’r broses gwyno. Yng ngoleuni’r camau y mae’r BBC wedi’u cymryd yn dilyn adroddiad Banatvala, rydym bellach yn fodlon y gall cynulleidfaoedd amrywiol fod â mwy o hyder yn y ffordd y mae’r BBC yn delio â chwynion ar Gam 2.

3.14 Rydym yn nodi, yn dilyn adroddiad Banatvala, bod y BBC wedi ceisio cynyddu amrywiaeth yr Uned Cwynion Gweithredol. Mae ymrwymiad parhaus y Gorfforaeth i gynyddu amrywiaeth ymhellach wrth ddelio â chwynion yn synhwyrol.

Swyddogaeth Ofcom

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

185. Yn gyffredinol, roedd rhanddeiliaid yn teimlo bod gan Ofcom yr adnoddau rheoleiddio cywir i ddal y BBC yn atebol am ddarparu BBC yn Gyntaf, ac roedd yn defnyddio’r adnoddau hyn yn effeithiol. Roedd y mwyafrif llethol o randdeiliaid yn cefnogi’r argymhellion ar gyfer gwella BBC yn Gyntaf a wnaed gan Ofcom ym mis Mehefin 2022, ac roedd llawer yn teimlo bod hyn wedi rhoi hyder iddynt yng ngallu Ofcom i gynrychioli buddiannau cynulleidfaoedd a sbarduno newidiadau er eu budd nhw.

186. Cynhaliodd Ofcom ymchwil ansoddol a meintiol i gyfrannu at ei adolygiad o BBC yn Gyntaf ac mae wedi ymrwymo i’w adolygu eto cyn yr Adolygiad o’r Siarter. Roedd rhanddeiliaid yn croesawu’r ffaith bod Ofcom wedi cynnal yr ymchwil hwn. Fodd bynnag, clywsom rai pryderon am y gwaith meintiol. Roedd rhanddeiliaid yn dadlau y gallai’r data gyflwyno’r profiadau o gwynion fel rhai mwy negyddol oherwydd bod dull yr arolwg yn rhoi mwy o bwyslais ar farn achwynwyr a oedd wedi cwyno fwy nag unwaith, a oedd yn fwy tebygol o gael teimladau cryfach a negyddol am BBC yn Gyntaf a’r BBC yn fwy cyffredinol. Roedd y rhanddeiliaid gyda’i gilydd yn fwy cadarnhaol am yr ymarfer cwsmer cudd. Teimlwyd bod y fethodoleg hon yn rhoi darlun gwrthrychol o brofiadau achwynwyr oherwydd bod cwsmeriaid cudd yn mynd ar drywydd senario cwyno a luniwyd gan Ofcom, yn hytrach na’u cwyn eu hunain yr oedd ganddynt deimladau personol yn ei gylch.

187. O ran sut mae Ofcom yn cyflawni ei swyddogaeth fel pwynt uwchgyfeirio ar gyfer achwynwyr, roedd nifer fach o randdeiliaid yn teimlo bod y nifer cymharol isel o ymchwiliadau a agorwyd gan Ofcom yng Ngham 3 yn golygu bod y rheoleiddiwr yn methu â gweithredu fel cymorth annibynnol yn BBC yn Gyntaf – roeddent yn teimlo mai dull diofyn y rheoleiddiwr oedd cytuno â’r BBC, ac anghytuno ag achwynwyr. Nid oedd y dystiolaeth a ddarparwyd i gefnogi’r farn hon yn nodi enghreifftiau penodol o achosion lle roedd Ofcom wedi methu ag agor ymchwiliadau lle roedd rhanddeiliaid yn credu y dylai fod wedi gwneud hynny.

188. Nododd nifer fach o randdeiliaid hefyd wahaniaeth rhwng yr ymatebion i’r rheini sy’n cwyno sy’n cael eu cynnig gan y BBC, yn enwedig yng Ngham 2, a gohebiaeth Ofcom â’r rheini sy’n cwyno yng Ngham 3. Roeddent yn teimlo bod y BBC yn fwy tryloyw ynghylch ei benderfyniadau ynghylch cwynion oherwydd ei fod yn egluro ei resymeg i’r rheini sy’n cwyno drwy ymatebion unigol, ond nad yw Ofcom ar y cyfan yn ymateb yn unigol i achwynwyr.

189. Roeddem hefyd wedi clywed pryder cyfyngedig bod Fframwaith a Gweithdrefnau Cwynion y BBC, a dull gweithredu Ofcom, yn cyfyngu ar yr achwynwyr i gwyno am eitemau darlledu unigol, yn hytrach na gallu cwyno, er enghraifft, am eu canfyddiad o ragfarn yn y ffordd yr ymdriniwyd â mater penodol dros gyfnod o amser ac ar draws gwahanol fathau o gynnwys. Roedd hyn yn golygu nad oeddent yn cael cyfle i ddarparu’r sbectrwm llawn o’u safbwyntiau i’r BBC nac yn wir i Ofcom, ac nid oeddent yn gallu dal y naill na’r llall i gyfrif.

Ymateb y llywodraeth

190. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod ymchwil Ofcom wedi rhoi cipolwg gwerthfawr ar brofiadau achwynwyr, ac rydym yn falch ei fod, ochr yn ochr â’r Adolygiad Canol Tymor, wedi ymrwymo i adolygu BBC yn Gyntaf eto cyn yr Adolygiad nesaf o’r Siarter. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod gan randdeiliaid ffydd yn nulliau unrhyw ymchwil yn y dyfodol – yn enwedig os yw am gyfrannu at broses yr Adolygiad o’r Siarter a phenderfyniadau yn y dyfodol am fodel cwynion y BBC.

3.15 Mae’n ddefnyddiol bod Ofcom wedi ymrwymo i adolygu BBC yn Gyntaf eto cyn adnewyddu’r Siarter. Rydym yn argymell bod Ofcom yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ynghylch dull a chwmpas unrhyw ymchwil meintiol a fydd yn rhan o’r adolygiad hwnnw.

191. Rydym wedi dod i’r casgliad, yng ngoleuni’r adborth a gafwyd gan randdeiliaid, bod ymarfer cwsmer cudd Ofcom yn ffordd ddefnyddiol o gael dealltwriaeth wrthrychol o brofiadau achwynwyr o BBC yn Gyntaf. Yn ei Adroddiad Blynyddol ar berfformiad y BBC yn 2022-2023, mae Ofcom wedi ymrwymo i ddiweddaru ei ymchwil ar BBC yn Gyntaf, gan gynnwys drwy gynnal rhagor o ymarferion cwsmer cudd. Bydd ailadrodd yr ymarfer hwn yn rheolaidd yn ein helpu ni, Ofcom a rhanddeiliaid ehangach i asesu a mesur effaith y newidiadau y mae’r BBC eisoes wedi’u gwneud i’w brosesau cwyno, a’r newidiadau a roddwyd ar waith o ganlyniad i’r Adolygiad Canol Tymor.

3.16 Mae’n ddefnyddiol bod Ofcom wedi ymrwymo i gynnal rhagor o ymchwil cwsmer cudd ar BBC yn Gyntaf. Rydym yn argymell bod hyn yn parhau’n rheolaidd, a bod y canlyniadau’n cyfrannu at unrhyw adolygiad o BBC yn Gyntaf yn y dyfodol.

192. Mae pwynt uwchgyfeirio annibynnol y tu hwnt i’r BBC yn bwysig o ran cynnal ymddiriedaeth cynulleidfaoedd yn y broses gwyno ehangach. Felly, mae’n hanfodol bod cynulleidfaoedd yn hyderus bod Ofcom yn ystyried yn ofalus y cwynion sy’n cael eu huwchgyfeirio iddo yng Ngham 3, ac yn cwestiynu penderfyniadau’r BBC yn gadarn. Ar y cyfan, mae’r dystiolaeth a gawsom yn ystod cam casglu tystiolaeth yr Adolygiad Canol Tymor yn awgrymu bod Ofcom yn cyflawni ei ddyletswyddau rheoleiddio wrth ddatrys cwynion. Pan fydd achwynydd yn uwchgyfeirio cwyn i Ofcom, ni fydd Ofcom yn agor ymchwiliad os yw’n cytuno ag ymateb gwreiddiol y BBC. Nid yw’r gyfradd isel o ymchwiliadau o reidrwydd yn dystiolaeth bod Ofcom yn methu gweithredu fel pwynt apelio annibynnol yn BBC yn Gyntaf, yn hytrach, mae’n awgrymu bod BBC yn Gyntaf yn gwneud penderfyniadau ynghylch cwynion sy’n gwrthsefyll craffu gan y rheoleiddiwr.

193. Rydym wedi ystyried a fyddai newid sut mae Ofcom yn cyfathrebu ag achwynwyr yng Ngham 3 yn ei helpu i egluro ei benderfyniadau ynghylch cwynion yn well, a chreu mwy o hyder yn y rôl mae’r rheoleiddiwr yn ei chwarae yn BBC yn Gyntaf. Pan gymerodd Ymddiriedolaeth y BBC reolaeth dros reoleiddio’r BBC i ddechrau, ysgrifennodd Ofcom at bob achwynydd yn unigol, gan nodi canlyniad ei benderfyniad yng Ngham 3. Fodd bynnag, canfuwyd bod hyn yn ddefnydd anghymesur o adnoddau, ac roedd yn creu anghysondeb yn null gweithredu Ofcom o ran cwynion am ddarlledwyr eraill (lle nad yw achwynwyr yn cael ymateb unigol yn gyffredinol). Mae Ofcom nawr yn cyhoeddi ei benderfyniadau, ochr yn ochr â’i resymeg, ar gyfer unrhyw gwynion mae wedi ymchwilio iddynt yn ei fwletin ar-lein. Pan fydd Ofcom yn penderfynu peidio â mynd ar drywydd ymchwiliad, mae’n cyhoeddi llinell fer yn y bwletin, sy’n nodi’r rhaglen a’r manylion darlledu, nifer y cwynion am y cynnwys hwn, a mater y gŵyn.

194. Gan mai dim ond nifer fach o randdeiliaid a fynegodd bryder am y ffyrdd y mae Ofcom yn ymateb i achwynwyr, nid ydym yn credu ei bod yn gymesur creu gwahaniaeth rhwng y ffordd mae’r rheoleiddiwr yn cyfathrebu â’r rheini sy’n cwyno am y BBC, a’r ffordd mae’n cyfathrebu â’r rheini sydd wedi cwyno am ddarlledwr arall. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod cynulleidfaoedd yn deall sut mae Ofcom yn gwneud ei benderfyniadau ynghylch cwynion. Mewn ymateb i’r pryderon a ddaeth i’r amlwg drwy gasglu tystiolaeth, mae Ofcom yn edrych ar sut mae’n cyfathrebu â chynulleidfaoedd am gwynion. Y tu hwnt i gyhoeddi manylion ei benderfyniad, mae Ofcom yn datblygu cynlluniau ar gyfer rhagor o gyfathrebu i wella dealltwriaeth cynulleidfaoedd o’i reolau darlledu a fideo ar-alw; sut mae’r rheolau’n gweithio’n ymarferol; sut mae Ofcom yn delio â chwynion; a sut mae Ofcom yn gwneud penderfyniadau ynghylch cwynion.

3.17 Mae’n ddefnyddiol bod Ofcom wedi dechrau meddwl pa fath o gyfathrebu am BBC yn Gyntaf fyddai’n werthfawr i gynulleidfaoedd. Rydym yn argymell bod Ofcom yn parhau i weithio gyda chynulleidfaoedd yn ei ymdrechion i wella tryloywder ei benderfyniadau ynghylch cwynion yng Ngham 3.

195. Pan fydd y BBC wedi canfod ei fod wedi torri ei safonau golygyddol ei hun ac wedi cadarnhau cwyn neu gadarnhau cwyn yn rhannol, gall Ofcom, os yw’r gŵyn o fewn ei awdurdodaeth reoleiddio, benderfynu agor ymchwiliad ffurfiol i gynnwys darlledu neu gynnwys ar-alw yn erbyn Cod Darlledu Ofcom.

196. Mae Ofcom eisoes yn gwneud yr asesiadau hyn ynghylch a ddylid ymchwilio fel rhan o’i waith rheoleiddio arferol. Yn wir, pan fydd y BBC wedi cadarnhau tor-amod sy’n ymwneud â safonau sydd wedi’u nodi yng Nghod Darlledu Ofcom, mae’n rhesymol disgwyl i Ofcom asesu a oes angen ymchwiliad. Er bod y BBC yn cyhoeddi’r holl benderfyniadau ynghylch cwynion sy’n cael eu cadarnhau, eu cadarnhau’n rhannol neu eu datrys, ac yn cynnal adroddiadau cyfunol ar benderfyniadau bob blwyddyn, efallai y bydd diffyg dealltwriaeth cynulleidfaoedd ar hyn o bryd o ran beth sy’n digwydd ar ôl i BBC yn Gyntaf gael ei gwblhau ac a fydd Ofcom yn cymryd unrhyw gamau rheoleiddio pellach ai peidio. Mae’n bwysig bod cynulleidfaoedd y BBC yn deall syniadau Ofcom yn well, ac felly dylai’r rheoleiddiwr ystyried sut mae bod yn fwy tryloyw ynghylch ei brosesau. 

197. Felly, rydym yn argymell y dull gweithredu canlynol pan fydd proses bresennol BBC yn Gyntaf wedi dod i ben, a phan fydd y BBC wedi cadarnhau cwyn neu gadarnhau cwyn yn rhannol sy’n ymwneud â safonau a chanllawiau golygyddol y BBC: yn y cyd-destun hwn, pan fydd Ofcom yn penderfynu peidio ag ymchwilio i achos o dorri amodau a nodwyd gan y BBC yn erbyn ei God Darlledu, dylai wneud yr wybodaeth hon yn gyhoeddus ar ei fwletin ar-lein ac egluro pam. 

3.18 Rydym yn argymell, pan fydd y BBC wedi nodi achos o dorri ei safonau golygyddol ei hun ac felly wedi cadarnhau cwyn neu gadarnhau cwyn yn rhannol ynghylch ei gynnwys darlledu neu ar-alw, y dylai’r toriad gael ei gofnodi’n gyhoeddus ac yn dryloyw gan Ofcom, sydd â’r dewis i lansio ei ymchwiliad ei hun o dan ei God Darlledu neu beidio. Os bydd Ofcom yn penderfynu peidio â lansio ymchwiliad i gŵyn a gadarnhawyd gan y BBC, dylai’r rheoleiddiwr nodi’n glir ei resymeg dros beidio â chymryd camau pellach yn ei fwletin ar-lein.

198. Yn olaf, o ran cwynion ‘cyfunol’ am gynnwys y BBC, mae’n rhaid i Ofcom osod a gorfodi safonau didueddrwydd dyladwy yn unol â Deddf Cyfathrebiadau 2003. Wrth roi’r safonau hyn ar waith, mae Ofcom yn ystyried cynnwys rhaglenni unigol neu gyfres o raglenni sy’n gysylltiedig yn olygyddol.

199. Mae cylch gwaith cyfreithiol Ofcom yn ei gyfyngu rhag ystyried cwynion cyffredinol. Nid oedd yr Adolygiad Canol Tymor wedi canfod tystiolaeth gref o fwlch yn y trefniadau rheoleiddio sy’n golygu bod angen newid, yn enwedig gan fod gan Ofcom fecanweithiau eraill sy’n dal y BBC i gyfrif. Er bod y Llywodraeth yn cydnabod nad oes gan Ofcom awdurdodaeth gorfodi safonau i ystyried cwynion cyffredinol, rydym yn annog Ofcom i barhau i ddefnyddio’r holl adnoddau rheoleiddio sydd ganddo ar gael fel y bo’n briodol, fel gosod a gorfodi’r amodau rheoleiddio yn Nhrwydded Weithredu’r BBC, neu asesu cydymffurfiad y BBC yn ei Adroddiad Blynyddol ar y BBC.

3.19 Rydym wedi dod i’r casgliad bod y fframwaith cwynion presennol, sy’n cyfyngu rôl gorfodi safonau Ofcom i gwynion am eitemau darlledu unigol neu gynnwys sy’n gysylltiedig â gwaith golygyddol, yn gymesur. Rydym yn annog Ofcom i barhau i ddefnyddio ei adnoddau rheoleiddio eraill i ddal y BBC i gyfrif.

Pennod 4: Cystadleuaeth ac Effaith ar y Farchnad

Y Cefndir

200. Mae’r Siarter yn nodi Dibenion Cyhoeddus y BBC, ac mae llawer ohonynt yn ymwneud â’i berthynas â’r economi greadigol ehangach. Roedd y Siarter bresennol yn cyflwyno newidiadau mawr i’r ffordd y byddai’r BBC yn cael ei reoleiddio o ran ei effaith ar y farchnad. Roedd hefyd yn cynnwys gofyniad penodol i’r BBC sicrhau bod ei wasanaethau a’i allbwn yn unigryw a’i fod yn cefnogi’r economi greadigol ledled y DU drwy nifer o rwymedigaethau penodol.

201. Mae cenhadaeth y BBC i wasanaethu pob cynulleidfa yn creu tensiwn cynhenid ynghylch effaith y BBC ar y farchnad, lle mae’r BBC yn cael biliynau mewn cyllid cyhoeddus ond hefyd yn cystadlu’n uniongyrchol â chyfranogwyr y farchnad fasnachol ar gyfer cynulleidfaoedd. Trafodwyd yr angen i daro’r cydbwysedd cywir rhwng darparu ar gyfer cynulleidfaoedd a’r economi greadigol yn adolygiad Syr David Clementi yn 2016 o drefniadau llywodraethu a rheoleiddio’r BBC, lle tynnodd sylw at nifer o egwyddorion pwysig sy’n ofynnol i gyflawni’r cydbwysedd hwn, y mae’r Siarter bresennol yn ceisio ei gyflawni.

202. Roedd adolygiad Syr David Clementi yn tynnu sylw at yr angen i roi digon o sicrwydd i’r diwydiant ynghylch cwmpas gweithgareddau’r BBC a’u diogelu rhag effaith niweidiol ormodol ar y farchnad. Roedd hefyd yn nodi bod angen i’r BBC fod yn ddigon agored, atebol a thryloyw gan ymgynghori’n briodol wrth wneud penderfyniadau, yn enwedig mewn perthynas â rheoli newid a ddylai roi ystyriaeth briodol i fuddiannau cynulleidfaoedd, talwyr Ffi’r Drwydded, dinasyddion ac effaith y farchnad. Ar ben hynny, nododd Syr David yr angen i’r dull rheoleiddio newydd ar gyfer newidiadau i wasanaethau’r BBC fod yn system lai anhyblyg na’r un o dan fodel llywodraethu Ymddiriedolaeth y BBC. Roedd yn dadlau y dylai’r dull rheoleiddio newydd ganiatáu i benderfyniadau gael eu cyrraedd yn yr amser cyflymaf posibl, gan ganiatáu ar gyfer tryloywder ac ymgynghori priodol er budd y BBC, y diwydiant a chynulleidfaoedd. Roedd y Siarter bresennol yn ceisio sicrhau’r cydbwysedd hwn.

203. Nid yw’r Siarter yn atal y BBC rhag cael effaith niweidiol ar y farchnad os yw Bwrdd y BBC ac Ofcom yn credu bod hynny’n angenrheidiol er mwyn cyflawni Cenhadaeth a Dibenion Cyhoeddus y BBC yn effeithiol, ac yn y modd hwn nid yw’r Siarter bresennol yn sefydlu’r BBC fel ymyriad methiant y farchnad. Felly, mater i’r BBC yw ymateb i’r her a sicrhau bod y cydbwysedd cywir rhwng ei rwymedigaethau’n cael ei sicrhau. Fel rheoleiddiwr annibynnol y BBC, mater i Ofcom yw sicrhau bod unrhyw effaith niweidiol ar y farchnad yn angenrheidiol er mwyn cyflawni Cenhadaeth a Dibenion Cyhoeddus y BBC yn effeithiol, a dal y BBC i gyfrif yn gadarn wrth gyflawni ei rwymedigaethau i’w gynulleidfaoedd ac i’r farchnad.

Cyfrifoldebau’r BBC

204. Mae’r Siarter bresennol yn nodi gofyniad penodol i’r BBC ddangos yr allbwn a’r gwasanaethau mwyaf creadigol, unigryw ac o’r ansawdd gorau, ac y dylai ei wasanaethau fod yn wahanol i’r rhai a ddarperir mewn mannau eraill. Mae hefyd yn ofynnol yn benodol i’r BBC gefnogi’r economi greadigol ar draws y Deyrnas Unedig. Mae gofyn i’r BBC roi sylw penodol i effaith ei weithgareddau ar gystadleuaeth yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n rhaid i’r BBC geisio osgoi effeithiau niweidiol ar gystadleuaeth nad ydynt yn angenrheidiol er mwyn cyflawni’r Genhadaeth a hyrwyddo’r Dibenion Cyhoeddus yn effeithiol. Mae’n rhaid i’r BBC hefyd ystyried hyrwyddo effeithiau cadarnhaol ar y farchnad ehangach. Yn ei dro, mae’n rhaid i Ofcom ystyried pa mor ddymunol yw diogelu cystadleuaeth deg ac effeithiol yn y Deyrnas Unedig, a gosod gofynion yn y Fframwaith Gweithredu i ddiogelu hynny. Mae’r Siarter hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r BBC gydweithio a cheisio ffurfio partneriaethau â sefydliadau eraill, yn enwedig yn yr economi greadigol, lle byddai gwneud hynny er budd y cyhoedd.

Fframwaith rheoleiddio’r BBC

205. Mae Ffigur Dau yn rhoi crynodeb o rolau’r BBC ac Ofcom o dan y Siarter a’r Cytundeb Fframwaith ar gyfer asesu a rheoleiddio effaith gwasanaethau cyhoeddus y BBC ar gystadleuaeth. Mae mynnu bod y BBC yn asesu materoldeb y newid yn gyntaf yn golygu bod yn rhaid i’r BBC geisio deall effaith bosibl newid yn gynnar, gan ganiatáu iddo siapio ei gynlluniau tra byddant yn dal i gael eu datblygu i liniaru’r effaith ar gystadleuaeth. Er nad oes gan Ofcom rôl benodol i adolygu casgliadau materoldeb lle mae’r BBC wedi canfod nad yw newid yn sylweddol, mae ganddo’r pŵer i gamu i mewn a chyfarwyddo’r BBC i gynnal Prawf Budd y Cyhoedd os yw’n anghytuno ynghylch materoldeb. Pan fydd tystiolaeth yn dod i’r amlwg o niwed i gystadleuaeth yn sgil gweithgareddau parhaus y BBC, mae gan Ofcom adnoddau rheoleiddio i gamu i mewn a mynd i’r afael â’r rhain gan ddefnyddio adolygiad cystadleuaeth y BBC.

Ffigur Dau: Crynodeb o rolau’r BBC ac Ofcom o dan y Siarter a’r Cytundeb Fframwaith ar gyfer rheoleiddio effaith gwasanaethau cyhoeddus y BBC ar gystadleuaeth.

Ystyriaeth ddiweddar o’r fframwaith rheoleiddio

206. Ym mis Mehefin 2022, roedd adolygiad Ofcom o drefniadau rheoleiddio’r BBC wedi edrych ar bob agwedd ar reoleiddio effaith y BBC ar y farchnad ac wedi ystyried a oedd angen gwneud unrhyw newidiadau i sicrhau bod y trefniadau rheoleiddio’n dal yn effeithiol ar gyfer gweddill cyfnod y Siarter. Roedd ei adroddiad yn ystyried sut, yng nghyd-destun y farchnad bresennol, y dylid asesu newidiadau sylweddol i wasanaethau’r BBC gan ystyried eu gwerth cyhoeddus a’u potensial i niweidio darparwyr masnachol yn y farchnad.

207. Nododd Ofcom y dylai’r broses reoleiddio ar gyfer cymeradwyo newid fod yn fwy effeithiol a hyblyg, gan roi mwy o dryloywder i gystadleuwyr y BBC. Roedd Ofcom hefyd wedi nodi ei fwriad i ymgynghori ynghylch sut gellid sicrhau mwy o dryloywder, ac wedi argymell tri newid i’r Cytundeb Fframwaith i ganiatáu proses fwy effeithiol a hyblyg, yn enwedig lle’r oedd y BBC eisoes wedi ymgysylltu’n helaeth ac yn gadarn â’r farchnad a lle gallai prosesau presennol arwain at oedi a dyblygu gwaith yn ddiangen:

  • Dylai Ofcom gael disgresiwn ynghylch a ddylid cynnal asesiad cystadleuaeth y BBC neu asesiad byrrach yn dilyn Prawf Budd y Cyhoedd y BBC. Byddai’r newid hwn yn galluogi Ofcom i gymeradwyo newid heb wneud asesiadau ychwanegol os yw’n cytuno bod y BBC wedi ystyried asesiadau cystadleuaeth a gwerth cyhoeddus yn briodol yn ei brawf budd y cyhoedd, wedi ymgysylltu’n effeithiol â rhanddeiliaid ac wedi ystyried eu pryderon yn briodol. Byddai Ofcom yn cadw’r gallu i gynnal asesiad cystadleuaeth y BBC neu asesiad byrrach os yw’n teimlo nad oedd y BBC wedi gwneud digon, neu os oedd gan Ofcom fynediad at wybodaeth nad oedd y BBC wedi’i chael.

  • Dylai Ofcom gael y pŵer i ddefnyddio asesiad byrrach i gymeradwyo newid i’r BBC gydag amodau. Ar hyn o bryd, dim ond os yw’n cynnal asesiad cystadleuaeth y BBC y gall Ofcom gymeradwyo newid gyda’r BBC (er mae’n bosibl na fydd hyn yn angenrheidiol os yw’r BBC wedi cynnal Prawf Budd y Cyhoedd trylwyr ac effeithiol).

  • Ni ddylai gwasanaethau newydd y BBC gael eu hystyried yn newidiadau ‘sylweddol’ yn awtomatig. O dan y Cytundeb Fframwaith presennol, mae unrhyw wasanaeth newydd gan y BBC yn cael ei ystyried yn newid ‘sylweddol’ yn awtomatig. Mae hyn yn golygu bod hyd yn oed gwasanaethau newydd bach iawn sy’n annhebygol iawn o gael effaith sylweddol ar gystadleuaeth yn gorfod cael Prawf Budd y Cyhoedd llawn. Mae Ofcom wedi argymell dileu’r angen awtomatig i gynnal Prawf Budd y Cyhoedd ar gyfer gwasanaethau newydd er mwyn osgoi Profion Budd y Cyhoedd diangen lle mae lefel y risg i gystadleuwyr yn y DU o un o wasanaethau newydd y BBC yn isel. Ond byddai lansio gwasanaeth newydd, fel unrhyw newid arall, yn destun asesiad materoldeb mewn perthynas â’i effaith bosibl ar y farchnad. Yn ymarferol, byddai unrhyw wasanaeth newydd yn dal i ddod o fewn y prif ddiffiniad o newid sylweddol os gallai gael effaith niweidiol sylweddol ar gystadleuaeth deg ac effeithiol. Byddai’r newid hwn yn caniatáu i’r BBC ymateb yn gyflymach i newidiadau mewn chwaeth cynulleidfaoedd lle mae’r risg i gystadleuwyr yn y DU yn isel.

208. Ymgynghorodd Ofcom ar newidiadau i’w ganllawiau i greu mwy o dryloywder i gystadleuwyr y BBC ym mis Tachwedd 2022. Roedd hyn yn dilyn pryder sylweddol gan randdeiliaid nad yw’r BBC yn cymryd ei rwymedigaethau o ddifrif i ymgynghori a bod yn dryloyw gyda chystadleuwyr. Yn dilyn hynny, cyhoeddodd Ofcom ddatganiad ym mis Ebrill 2023 a oedd yn nodi ei fwriad i ddiweddaru ei ganllawiau gyda’r nod o annog mwy o dryloywder gan y BBC ynghylch newidiadau i’w wasanaethau cyhoeddus, a hwyluso ymgysylltiad mwy cadarnhaol rhwng y BBC a rhanddeiliaid yr effeithir arnynt.

Dadansoddiad o’r farchnad

209. Yn ystod yr Adolygiad Canol Tymor, gwnaethom gomisiynu dadansoddiad annibynnol o’r farchnad i ddarparu gwybodaeth am gyd-destun y farchnad y mae’r BBC yn gweithredu ynddi.

210.Gwnaethom gomisiynu Oliver Wyman i gynnal dadansoddiad i gyfrannu at ein sylfaen dystiolaeth gyffredinol ar ddefnyddio’r cyfryngau yn y DU, y farchnad cyfryngau yn y DU, defnyddio cyfryngau’r BBC, a’r rhyngberthynas rhwng y BBC a gweithredwyr eraill y farchnad cyfryngau. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar sut mae hyn wedi newid ers dechrau cyfnod presennol y Siarter. O ran sain, nododd y dadansoddiad hwn o’r farchnad fod y nifer sy’n gwrando ar sain ar-lein yn cynyddu, yn enwedig ymysg cynulleidfaoedd iau. Nododd bod cyfle i’r BBC weithio mewn partneriaeth â sector sain masnachol y DU ar raddfa fwy uchelgeisiol, o ystyried dylanwad cynyddol llwyfannau rhyngwladol ym marchnad sain y DU.

211. Gwnaethom hefyd gomisiynu Alma Economics i gynnal astudiaeth annibynnol i edrych ar y berthynas rhwng cynnwys newyddion ar-lein a gyhoeddwyd gan y BBC a sefydliadau newyddion masnachol lleol, fel ffordd o helpu i ddeall i ba raddau mae’r BBC yn ategu at, yn hytrach na disodli, newyddion masnachol. Roedd ymchwil Alma Economics yn dadansoddi’r gwahaniaethau mewn cynnwys a’r math o ddarpariaeth newyddion lleol a ddarperir gan y BBC a’r sector masnachol. Canfu’r dadansoddiad hwn fod dyblygu cynnwys rhwng y BBC a darparwyr masnachol mewn newyddion lleol ar-lein yn bodoli mewn ffordd sy’n gyson â nifer o ddarparwyr sy’n rhoi sylw i’r un digwyddiadau newyddion. Fodd bynnag, roedd hefyd yn tynnu sylw at bryderon yn y sector newyddion lleol ynghylch effaith ehangu’r BBC ymhellach i ddarpariaeth newyddion lleol ar-lein ar y farchnad, ac yn galw am fwy o gydweithio.

212. Roedd yr ymchwil hwn yn sail i ddealltwriaeth y Llywodraeth o’r marchnadoedd cyfryngau y mae’r BBC yn gweithredu ynddynt. Nid bwriad yr ymchwil oedd ceisio ateb cwestiynau penodol ar fframwaith rheoleiddio a llywodraethu’r BBC. Felly, er bod yr ymchwil wedi bod yn ddefnyddiol o ran darparu cyd-destun ychwanegol ar gyfer ein gwerthusiad o’r dystiolaeth fwy uniongyrchol berthnasol, nid yw wedi cael llawer o effaith uniongyrchol ar yr argymhellion rydym wedi’u gwneud. Bydd yr wybodaeth gyd-destunol ehangach a ddarperir gan yr ymchwil yn llywio syniadau’r Llywodraeth wrth i ni barhau i ystyried effaith y BBC ar y farchnad wrth baratoi ar gyfer adnewyddu Siarter y BBC.

Ffocws yr Adolygiad Canol Tymor

213. Rydym wedi canolbwyntio ar sicrhau bod y rheoliad sylfaenol i asesu effaith y BBC ar y farchnad yn briodol er mwyn sicrhau bod y BBC ac Ofcom yn gallu gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth a bod gan ddarparwyr masnachol eglurder ynghylch penderfyniadau sy’n effeithio ar eu cynlluniau a’u rhagdybiaethau busnes eu hunain. Er bod y BBC yn gweithredu mewn amgylchedd sy’n fwyfwy cystadleuol ac mae angen i’w drefniadau rheoleiddio aros yn addas i’r diben, ni ddylai hyn fod ar draul cystadleuaeth a dewis i gynulleidfaoedd.

214. Roedd Cylch Gorchwyl yr Adolygiad Canol Tymor yn nodi ein bwriad i ystyried y sectorau radio masnachol a newyddion lleol a gwneuthurwyr a dosbarthwyr cynnwys eraill wrth gynnal yr adolygiad.

Tryloywder i randdeiliaid, ac ymgysylltu ystyrlon

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

215. Mae rhanddeiliaid, gan gynnwys y rheini sy’n gweithredu mewn marchnadoedd newyddion sain, clyweledol a lleol, wedi nodi bod diffyg tryloywder ac ymgysylltu effeithiol pan fydd y BBC yn ceisio newid ei wasanaethau. Mae rhai wedi dadlau eu bod wedi gorfod mynd i drafferth fawr i gael y BBC i ymgysylltu â nhw ynghylch newidiadau y mae’n bwriadu eu gwneud i’w wasanaethau a’r effeithiau posibl ar eu busnes. Pan oedd y BBC wedi ymgysylltu, roedd rhai’n teimlo bod yr ymgysylltu hwnnw’n arwynebol ar y cyfan, ac nad oedd y dadleuon y gwnaeth y rhanddeiliaid hynny eu cyflwyno i’r BBC, ni waeth pa mor wybodus oeddent, wedi gwneud unrhyw wahaniaeth i gynlluniau’r BBC nac i brosesau cymeradwyo Ofcom. Clywsom hefyd nad yw’r BBC yn cyhoeddi newidiadau i’w wasanaethau’n ddigon cynnar i ganiatáu i randdeiliaid egluro i’r BBC yr effaith bosibl ar eu busnes, gan gyfyngu ar eu gallu i ddylanwadu’n sylweddol ar gynlluniau’r BBC. Yn yr un modd, mae rhanddeiliaid wedi mynegi anfodlonrwydd ynghylch lefel y manylder y mae’r BBC yn ei rannu, gan gyfyngu ar allu’r rhanddeiliaid hynny i ddeall cynlluniau’r BBC yn iawn, a’u gallu i ymgysylltu â’r BBC ar y cynlluniau hynny. Clywsom hefyd fod rhanddeiliaid yn teimlo bod y BBC yn torri newid mawr yn nifer o asesiadau newid llai fel ei bod yn anoddach canfod yr effaith gronnol.

216. Roedd rhai rhanddeiliaid yn dadlau bod y BBC yn cyhoeddi newidiadau arfaethedig i’w wasanaethau yn gyhoeddus gyda’r potensial ar gyfer niwed i’r farchnad cyn i unrhyw broses ffurfiol ddechrau, ac yn aml yn eu cyfleu mewn ffordd gadarnhaol iawn. Gall hyn eu hannog i beidio â siarad â’r BBC am eu pryderon, gan eu bod yn teimlo bod penderfyniadau wedi cael eu gwneud yn barod. Roedd rhanddeiliaid hefyd yn poeni am y pŵer a roddir i’r BBC wrth asesu materoldeb newid. Roeddent yn credu ei bod yn amhriodol i’r BBC benderfynu sut y bydd yn ystyried a yw newid yn berthnasol. Roeddent hefyd yn dadlau na ddylai’r BBC gael y pŵer i benderfynu a yw’n briodol ystyried barn trydydd partïon. Roedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo na allent ofyn i’r BBC gynnal asesiad materoldeb, hyd yn oed os oeddent yn teimlo y gallai’r newid fod yn niweidiol i’w busnes. Nododd eraill nad oes angen cyhoeddi asesiadau, ac felly nad oes cyfle i graffu ar yr angen am Prawf Budd y Cyhoedd. Hyd yn oed pan fydd Prawf Budd y Cyhoedd yn cael ei gynnal, roedd llawer yn teimlo nad yw’r BBC yn rhannu digon o fanylion a dadansoddiadau, gan lesteirio eu gallu i ystyried cynigion yn ystyrlon a chodi pryderon am niwed posibl i’r farchnad.

217. Dywedodd rhai rhanddeiliaid fod cymryd rhan ym mhroses newid y BBC yn gallu bod yn gymhleth ac yn rhoi llawer o adnoddau i’r rheini a allai gael eu heffeithio’n negyddol. Fodd bynnag, roeddent yn nodi na ddylai unrhyw ddewisiadau amgen gael gwared ar y craffu gwrthrychol ar y broses bresennol, yn enwedig ymgynghoriad a goruchwyliaeth Ofcom ei hun.

218. Ar y cyfan, roedd rhanddeiliaid yn dadlau bod effaith y pryderon hyn yn amharu’n sylweddol ar eu gallu i gynghori’r BBC ac Ofcom yn effeithiol ynghylch sut gallai newidiadau arfaethedig effeithio ar y farchnad. Yn ei dro, gellir dweud bod hyn yn llesteirio gallu’r BBC ac Ofcom i ddeall ac ystyried effeithiau posibl ei gynigion yn llawn. Roeddent yn teimlo y dylai Ofcom fod yn fwy llym ar y BBC o ran sicrhau bod safbwyntiau rhanddeiliaid yn cael eu clywed ac yn cyfrannu’n ystyrlon at brosesau gwneud penderfyniadau’r BBC.

219. Dadleuwyd hefyd bod y BBC yn destun rheoleiddio allanol cadarn gan Ofcom o’r effeithiau negyddol posibl sy’n deillio o newidiadau i’w wasanaethau, ac nad oes tystiolaeth bod y BBC yn gwthio chwaraewyr eraill allan. Dros gyfnod y Siarter, mae Ofcom wedi canfod bod y BBC wedi bod yn gywir yn ei asesiad ynghylch materoldeb newid ym mhob achos ond un. Mae’r BBC wedi cynyddu ei dryloywder wrth gyhoeddi newidiadau arfaethedig i’w wasanaethau, gan gynnwys yn ei Gynllun Blynyddol a’i Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol. Mae hefyd yn dewis rhestru’r holl newidiadau y mae’n ymwybodol ohonynt y bydd yn debygol o fod yn eu hasesu o ran materoldeb yn ei Gynllun Blynyddol, nid dim ond y rhai y mae’n credu a fydd yn berthnasol. Pan nad yw’r newidiadau’n cyd-fynd â’r cylch Cynllunio Blynyddol, mae’r BBC wedi nodi ei gynlluniau mewn ffyrdd eraill fel mewn areithiau, blogiau a datganiadau i’r wasg. Pan fydd y BBC yn cynnig newid ei gynlluniau, rydym yn deall bod y BBC yn ceisio ymgysylltu’n eang â rhanddeiliaid ynghylch y cynlluniau hynny’n benodol, ac yn ystyried y pryderon a godwyd gan eraill sy’n gweithredu yn y farchnad yn unol â hynny. Fodd bynnag, nid yw rhai rhanddeiliaid yn teimlo bod hyn yn mynd yn ddigon pell.

220. Clywsom hefyd ddadleuon o blaid cael mwy o hyblygrwydd yn y prosesau i ganiatáu i’r BBC ymateb yn ystwyth mewn perthynas â newidiadau yn y marchnadoedd cyfryngau yn ehangach. Er mwyn i’r BBC allu ffynnu mewn marchnad sydd â mwy a mwy o bwysau cystadleuol, clywsom fod angen diwygio’r system reoleiddio – i fod yn gyflymach ac yn fwy ystwyth, ac i adlewyrchu cyflymder y newid yn y marchnadoedd cyfryngau modern. Dadleuwyd bod y gallu i symud yn gyflym i ddarparu orau ar gyfer cynulleidfaoedd yn hanfodol, yn enwedig mewn technolegau digidol lle bydd y farchnad yn symud yn gyflym. Tynnwyd sylw hefyd at y ffaith bod BBC cryf ac ymatebol wedi dangos ei fod yn gallu denu buddsoddiad i’r DU a pharatoi’r ffordd ar gyfer datblygu llwyfannau a lleihau risgiau yn y datblygiadau hyn i chwaraewyr masnachol eraill.

221. Mae Ofcom wedi mynegi pryderon ynghylch tryloywder ac ymgysylltiad y BBC â rhanddeiliaid pan fydd yn ceisio gwneud newid ym mhob un o’i Adroddiadau Blynyddol ar y BBC ers dechrau’r Siarter. Roedd ei ymgynghoriad ym mis Tachwedd 2022 yn cynnwys cynigion i gefnogi ymgysylltu mwy effeithiol rhwng y BBC a rhanddeiliaid, yn enwedig yn ystod y cam asesu materoldeb, ac yn fwy cyffredinol gwella’r prosesau hyn. Mae Ofcom wedi nodi nifer o egwyddorion:

  • annog deialog fwy cynhyrchiol rhwng y BBC a’i randdeiliaid

  • darparu eglurder ynghylch ei ddull gweithredu o ran gwerth cyhoeddus a’i ddisgwyliadau o ran asesiad y BBC

  • rhoi gwell dealltwriaeth i randdeiliaid o sut mae prosesau rheoleiddio’n gweithio, a

  • galluogi mwy o hyblygrwydd i Ofcom benderfynu a oes angen ymgynghori ynghylch a yw newid yn un sylweddol

222. Nododd Ofcom wedyn ym mis Ebrill 2023:

  • Y bydd y BBC yn rhwym wrth ofyniad penodol y gellir ei orfodi i roi gyhoeddi newidiadau sy’n debygol o fod yn destun asesiad materoldeb

  • Mwy o arweiniad ar yr hyn y bydd Ofcom yn ei ystyried yn ddull rhesymol a chymesur o ymgysylltu yn ystod y broses materoldeb

  • Disgwyliad cliriach o’r wybodaeth y dylai’r BBC ei darparu i randdeiliaid pan fydd yn ymgynghori fel rhan o Brawf Budd y Cyhoedd

  • Rhagor o fanylion am rôl Ofcom wrth asesu materoldeb, a

  • Rhagor o arweiniad ynghylch yr hyn y mae Ofcom yn disgwyl ei weld yn asesiad gwerth cyhoeddus y BBC

223. O ran egwyddor, roedd y BBC yn cytuno â chynigion Ofcom ond roedd yn gwrthwynebu rhai elfennau penodol. Roedd y rhan fwyaf o randdeiliaid eraill yn croesawu cynigion Ofcom, gan gynnwys y gofyniad penodol newydd y mae modd ei orfodi i’r BBC gyhoeddi newidiadau sy’n debygol o fod yn destun asesiad materoldeb, fel cam tuag at wella tryloywder y BBC. Roedd rhai yn dadlau y dylai Ofcom fynd ymhellach, yn enwedig ar asesiadau materoldeb. Mewn ymateb, dywedodd Ofcom nad oedd yn teimlo bod rhagor o ofynion newydd na mesurau ffurfiol yn gymesur, gan fod llawer o’r newidiadau mae’r BBC yn eu hystyried fel rhan o’i asesiadau materoldeb yn fach ac yn annhebygol iawn o gael effaith sylweddol ar gystadleuaeth deg ac agored. Fodd bynnag, roedd yn annog y BBC yn gryf i weithredu ar nifer o awgrymiadau ychwanegol, mwy penodol ynghylch sut dylai gynyddu tryloywder. Daeth y newidiadau hyn i rym ym mis Awst 2023.

224. Yn unol â’r dadleuon hyn, a’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud, mae Ofcom wedi argymell newidiadau i’r Cytundeb Fframwaith i ganiatáu proses asesu cystadleuaeth gyflymach os bydd Ofcom yn fodlon â’r gwaith mae’r BBC wedi’i wneud, gan gynnwys ei ymgysylltiad â rhanddeiliaid. Bwriad Ofcom yw y dylai’r newidiadau i’w ganllawiau a’r newidiadau y mae’n eu hargymell i’r Cytundeb Fframwaith weithio ar y cyd i annog mwy o dryloywder gan y BBC ac ymgysylltu mwy ystyrlon â rhanddeiliaid, a chaniatáu i Ofcom symleiddio’r broses asesu effaith ar y farchnad lle bo hynny’n briodol.

225. Mae Ofcom hefyd yn nodi ei safbwyntiau cyffredinol ar sefyllfa’r BBC yn y sectorau clyweledol a sain a lle mae’n debygol y bydd risg y gallai newidiadau i wasanaethau’r BBC yn y sectorau hyn niweidio cystadleuaeth. Ei nod oedd rhoi mwy o eglurder i’r BBC a rhanddeiliaid eraill ynghylch sut mae’n debygol o ystyried materoldeb y newidiadau arfaethedig i wasanaethau’r BBC, a sut gallai fynd ati i gynnal asesiadau cystadleuaeth yn y dyfodol, yn rhai o’r sectorau y mae’r BBC yn gweithredu ynddynt. Nododd Ofcom nad yw hyn yn newid y ffaith y bydd angen i’r BBC ac Ofcom ystyried effaith y newidiadau arfaethedig ar gystadleuaeth fesul achos.

Ymateb y llywodraeth

226. Mae ein ffocws yn yr Adolygiad Canol Tymor wedi bod ar sicrhau bod y rheoliad sylfaenol i asesu effaith y BBC ar y farchnad yn briodol er mwyn sicrhau bod y BBC ac Ofcom yn gallu gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth. Heb ddeall y darlun llawn o ymgysylltu ystyrlon gan y BBC, nid yw rhanddeiliaid yn gallu ymgysylltu’n effeithiol â’r BBC ac Ofcom, ac nid yw Ofcom na’r BBC yn gallu gwneud penderfyniadau cwbl wybodus.

227. Mae angen safonau uwch ar gyfer tryloywder ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, sy’n galluogi cystadleuwyr y BBC i ddarparu mewnbwn i’r BBC ac Ofcom yn fwy effeithiol cyn gwneud newidiadau (gan raddnodi’r gofynion hynny ar yr un pryd er mwyn i’r BBC allu parhau i gyflawni ei Genhadaeth a’i Ddibenion Cyhoeddus). Yn yr un modd, mae’n hanfodol bod y BBC ac Ofcom yn rhoi ystyriaeth ddigonol i gydweithio a rhannu gwybodaeth wrth wneud penderfyniadau am newidiadau i wasanaethau’r BBC.

228. Rydym o’r farn bod y canllawiau newydd a nodir gan Ofcom yn sicrhau lefel gymesur o dryloywder ar y cyfan, ac yn nodi fframwaith clir ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid. Felly, mae’n cyflawni ein hamcan o godi safonau uwch yn y meysydd hyn, gan ganiatáu i’r BBC ddarparu ar gyfer ei gynulleidfaoedd ar yr un pryd. Fodd bynnag, mae cyfrifoldeb Ofcom i ddal y BBC i gyfrif yn dal yn hanfodol, ac oherwydd bod y dull gweithredu hwn yn cynrychioli newid i’r rheoliadau presennol, byddwn yn parhau i adolygu ei effeithiolrwydd wrth i ni nesáu at adeg adnewyddu Siarter y BBC. Ni ddylai’r BBC geisio manteisio ar y newidiadau hyn i brosesau mewn ffordd sy’n anfanteisiol i eraill sy’n gweithredu ym marchnadoedd y cyfryngau, ac ni ddylai gael gwneud hynny chwaith. Dylai’r BBC sicrhau bod ymgysylltu â rhanddeiliaid yn digwydd a fydd yn ei alluogi i gael digon o wybodaeth am sut mae newidiadau arfaethedig i’w wasanaethau yn bodloni’r cydbwysedd cywir rhwng darparu ar gyfer cynulleidfaoedd a’r economi greadigol ehangach wrth wneud penderfyniadau. Mae Ofcom wedi dweud y bydd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddeall pa mor dda mae’r gofyniad tryloywder yn gweithio’n ymarferol a bydd yn rhoi sylwadau ar gynnydd y BBC yn ei adroddiad blynyddol ar y BBC y flwyddyn nesaf.

229. Dylai Ofcom gael y gallu i gymeradwyo newid heb wneud asesiadau ychwanegol os yw’n cytuno bod y BBC wedi ystyried asesiadau cystadleuaeth a gwerth cyhoeddus yn briodol yn ei brawf budd y cyhoedd, wedi ymgysylltu’n effeithiol â rhanddeiliaid ac wedi ystyried eu pryderon yn briodol. Gallai Ofcom wedyn leihau hyd y broses, a lleihau prosesau dyblyg. Byddai’n rhoi’r hyblygrwydd i Ofcom beidio â chynnal adolygiad pe bai’n fodlon bod y BBC wedi gwneud y gwaith hwn yn briodol. Byddai Ofcom yn cadw’r gallu i gynnal asesiad cystadleuaeth y BBC neu asesiad byrrach os yw’n teimlo nad oedd y BBC wedi gwneud digon, neu os yw’n teimlo bod Ofcom wedi cael mynediad at wybodaeth nad oedd y BBC wedi’i chael. Mae’n bwysig nad yw Ofcom yn defnyddio’r pŵer hwn os nad oes gwaith ymgysylltu llawn ac ystyrlon â rhanddeiliaid wedi cael ei gynnal, neu os nad yw’r BBC wedi bod yn ddigon tryloyw. Dylai Ofcom nodi’n glir ac yn dryloyw pam ei fod wedi dewis defnyddio’r dull gweithredu sydd ganddo wrth asesu Prawf Budd y Cyhoedd y BBC, a dylai sicrhau bod yr amser mae’n ei gymryd i asesu newid sylweddol yn effeithlon ac yn gymesur.

4.1 Rydym yn cytuno ag argymhelliad Ofcom i newid y Cytundeb Fframwaith fel bod gan Ofcom ddisgresiwn o ran cynnal asesiad cystadleuaeth y BBC neu asesiad byrrach yn dilyn Prawf Budd y Cyhoedd y BBC neu beidio.

230. Fel dewis arall yn lle rhwystro newid arfaethedig i’w wasanaethau gan y BBC, mae Ofcom yn gallu cymeradwyo newid gydag amodau ynghlwm i fynd i’r afael ag effeithiau heb gyfiawnhad ar gystadleuaeth. Ar hyn o bryd, dim ond os yw’n cynnal asesiad cystadleuaeth y BBC y gall Ofcom gymeradwyo newid gyda’r BBC (er mae’n bosibl na fydd hyn yn angenrheidiol os yw’r BBC wedi cynnal Prawf Budd y Cyhoedd trylwyr ac effeithiol). Dylai Ofcom allu cymeradwyo newid i’r BBC yn amodol gan ddefnyddio asesiad byrrach gan y byddai hyn yn lleihau dyblygu, ac felly’n lleihau’r rhwystr i amodau sy’n gysylltiedig â chymeradwyo newid i’r BBC. Bydd yn rhoi sicrwydd i’r BBC a’i randdeiliaid ynghylch y dull yn gyflymach na phetai angen cynnal asesiad cystadleuaeth y BBC. Fodd bynnag, ni ddylid ei ddefnyddio os nad yw’r BBC wedi cynnal Prawf Budd y Cyhoedd trylwyr ac effeithiol.

4.2 Rydym yn cytuno ag argymhelliad Ofcom i newid y Cytundeb Fframwaith fel bod gan Ofcom y pŵer i ddefnyddio asesiad byrrach i gymeradwyo newid i’r BBC gydag amodau.

231. O dan y Cytundeb Fframwaith, mae unrhyw wasanaeth newydd gan y BBC yn cael ei ystyried yn newid ‘sylweddol’ yn awtomatig. Rydym yn cydnabod bod achosion lle gallai’r rheol hon arwain at oedi a biwrocratiaeth ddiangen a allai weithredu yn erbyn buddiannau cynulleidfaoedd. Er ein bod yn cydnabod y bydd rhai rhanddeiliaid yn poeni bod hyn yn lleihau gallu Ofcom i graffu ar effaith bosibl newidiadau i wasanaethau’r BBC ar gystadleuaeth, yn ymarferol byddai unrhyw wasanaeth newydd a allai gael effaith niweidiol sylweddol ar gystadleuaeth deg ac effeithiol yn dod o fewn y prif ddiffiniad newid sylweddol, a byddai’n rhaid cynnal Prawf Budd y Cyhoedd.

4.3 Rydym yn cytuno ag argymhelliad Ofcom i newid y Cytundeb Fframwaith fel nad yw gwasanaethau newydd y BBC yn cael eu hystyried yn newidiadau sylweddol yn awtomatig.

232. Mae angen cymaint o dryloywder â phosibl ar randdeiliaid y mae newidiadau’r BBC yn debygol o effeithio arnynt. Mae rhagor o graffu a thryloywder gan Ofcom ynghylch effaith y BBC ar y sectorau clyweledol a sain, a sut mae’n debygol o ystyried effaith newidiadau i wasanaethau’r BBC ar gystadleuaeth, yn ddefnyddiol oherwydd gall arwain at ragor o sgyrsiau gyda’r rheoleiddiwr ynghylch ei farn am sefyllfa’r BBC yn y sectorau hynny. Nid yw’n newid y gofynion y mae’n rhaid i’r BBC ac Ofcom eu cyflawni wrth asesu newid arfaethedig i wasanaeth cyhoeddus. Bydd angen iddo ystyried effaith newidiadau penodol ar gystadleuaeth y mae’r BBC yn bwriadu eu gwneud fesul achos ac ystyried sut bydd y newidiadau penodol hyn yn effeithio ar gystadleuwyr.

4.4 Mae’n ddefnyddiol cyhoeddi barn lefel uchel Ofcom ar sefyllfa’r BBC yn y sectorau clyweledol a sain, yn ogystal ag ymrwymiad Ofcom i ddefnyddio ei Adroddiad Blynyddol ar y BBC i gadarnhau ei farn bresennol, neu ddiweddaru’r farn honno ar sail unrhyw newidiadau sydd wedi digwydd yn y farchnad.

233. Fodd bynnag, er ein bod yn falch o weld bod Ofcom yn diweddaru ei farn lefel uchel ar sefyllfa’r BBC yn y sectorau clyweledol a sain yn ei Adroddiad Blynyddol diweddaraf ar y BBC, credwn ei bod yn hollbwysig bod Ofcom yn craffu ar effaith y BBC yn y sector newyddion, ac yn enwedig yn y sector newyddion lleol. Roedd Adolygiad Cairncross, a gyhoeddwyd yn 2019, yn argymell y dylai Ofcom archwilio effaith BBC News ar y farchnad, a nododd Ofcom barodrwydd i edrych ar y mater hwn ymhellach. Mae cyhoeddiadau diweddar gan y BBC ynghylch ei gynlluniau i gynyddu ei fuddsoddiad mewn newyddion ar-lein, a phryderon y sector am ei effaith, yn dangos ei bod yn fwyfwy pwysig i Ofcom nodi ei safbwyntiau ar effaith y BBC ar y sector. Ochr yn ochr â’r newidiadau uchod, rydym yn argymell bod Ofcom yn cyhoeddi crynodebau blynyddol o’i farn ar sefyllfa’r BBC yn y sectorau newyddion lleol, a sut mae’n ystyried effaith y newidiadau i wasanaethau newyddion lleol y BBC ar gystadleuaeth, fel y mae wedi’i wneud ar gyfer y sectorau clyweledol a sain. Dylid cyhoeddi’r crynodeb cyntaf o effaith y BBC ar y sector newyddion lleol cyn gynted â phosibl, gan roi digon o amser i Ofcom ymgysylltu’n ystyrlon â rhanddeiliaid ac i gynnal ymchwil sylweddol. Dylai Ofcom ystyried a allai rhoi barn gychwynnol erbyn mis Mai 2024 roi eglurder a hyder i randdeiliaid. Dylai’r adolygiad gael ei gwblhau erbyn mis Tachwedd 2024 er mwyn llywio proses gwneud penderfyniadau’r Llywodraeth, gan gynnwys yn y cyfnod cyn adnewyddu Siarter y BBC. Ar wahân, mae Ofcom wedi nodi y bydd yn monitro effaith gystadleuol newidiadau diweddar y BBC i’w arlwy newyddion lleol ar-lein dros y flwyddyn nesaf – ac yn rhannu ei ganfyddiadau – fel rhan o’i waith newydd ar gyfryngau lleol.

4.5 Rydym yn argymell y dylai Ofcom gyhoeddi ei farn ar safle’r BBC yn y sectorau newyddion lleol bob blwyddyn, ac yn nodi ei ddull o ystyried effaith cystadleuaeth newidiadau i wasanaethau newyddion lleol y BBC. Dylai Ofcom wneud hyn am y tro cyntaf erbyn mis Tachwedd 2024, ac yna dylai ddefnyddio ei Adroddiad Blynyddol ar y BBC i ddiweddaru’r farn hon ochr yn ochr â’i farn ar y sectorau clyweledol a sain.

234. Mae’r pecyn hwn o newidiadau i ofynion y BBC o ran cystadleuaeth ac effaith ar y farchnad yn ei gyfanrwydd yn sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng ysgogi safonau uwch ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid a thryloywder. Bydd yn galluogi cystadleuwyr y BBC i roi mewnbwn mwy effeithiol i’r BBC ac Ofcom cyn i newidiadau gael eu gwneud, ac yn graddnodi’r gofynion rheoleiddio hynny fel y gall y BBC barhau i gyflawni ei Genhadaeth a’i Ddibenion Cyhoeddus mewn marchnad sy’n newid. Gan adlewyrchu’r sector cyfryngau sy’n datblygu, mae’n bwysig bod penderfyniadau Ofcom o ran effaith y BBC ar y farchnad yn parhau i ystyried deinameg ehangach y farchnad, gan gynnwys presenoldeb cystadleuwyr ag ôl troed byd-eang, fel y mae’n cadarnhau yn ei ganllawiau ar asesiadau newid y BBC. Mae’n bwysig hefyd nad yw’r broses reoleiddio yn rhoi cymaint o ffocws ar ddeinameg newidiol y farchnad fel bod canlyniadau negyddol yn cael eu creu’n anfwriadol yn y sectorau hynny lle gellir dweud bod gan y BBC safle cryfach yn y farchnad, er enghraifft yn y sectorau newyddion lleol a radio.

Sut y gallai’r BBC ddefnyddio partneriaethau er budd sefydliadau eraill, yn enwedig yn yr economi greadigol, lle byddai gwneud hynny er budd y cyhoedd

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

235. Clywsom fod y BBC, wrth weithredu mewn partneriaeth, yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi’r economi greadigol. Er enghraifft, roedd rhanddeiliaid ar y cyfan yn canmol y rôl yr oedd y BBC wedi’i chwarae o ran cefnogi newyddiaduraeth leol drwy’r Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol. Fodd bynnag, roedd llawer o randdeiliaid yn dymuno gweld rhwymedigaeth y BBC i gefnogi’r economi greadigol yn cael ei chymhwyso mewn ffordd fwy ystyrlon i’w sectorau. Awgrymodd rhanddeiliaid y gallai’r BBC wneud mwy i ddarparu cynnwys trydydd parti ar ei wasanaethau ar-lein fel iPlayer a BBC Sounds, neu i arwain cynulleidfaoedd at gynnwys o’r fath. Roedd rhanddeiliaid hefyd am weld y BBC yn darparu mewnwelediadau i gynulleidfaoedd, yn rhannu gwybodaeth am ddatblygu cynnyrch ac yn cydweithredu ar ddatblygu talent.

Ymateb y llywodraeth

236. Gellir dangos gallu’r BBC i gael effaith gadarnhaol ar y farchnad drwy ei bartneriaethau presennol â’r rheini a fyddai fel arall yn ei weld fel cystadleuydd. Mae partneriaethau’n faes o gymhwysedd penodol i’r BBC, ac mae angen iddynt fod o fudd i’r naill ochr a’r llall. Felly, mae ein hargymhellion yn canolbwyntio ar wella tryloywder yn y broses. Dylai fod yn glir i bawb sut mae’r BBC yn cyflawni ei rwymedigaeth i gydweithio a cheisio ffurfio partneriaethau â sefydliadau eraill, yn enwedig yn yr economi greadigol, lle byddai gwneud hynny er budd y cyhoedd. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i sefydliadau yn yr economi greadigol ddeall sut a pham mae’r BBC yn mynd ati i ffurfio partneriaethau. Dylai feithrin mwy o gyfleoedd ar gyfer partneriaethau ffurfiol rhwng y BBC a’i gystadleuwyr.

237. Gallai strategaeth partneriaethau’r BBC ganolbwyntio’n bennaf ar gefnogi gallu’r BBC i gyflawni ar gyfer pob cynulleidfa, ond hefyd archwilio sut gall cystadleuwyr y BBC helpu i lywio a chyflawni’r amcan hwn. Byddai strategaeth gyhoeddedig o fudd i’r BBC a’i gystadleuwyr drwy fod yn fwy tryloyw ynghylch sut mae’r BBC yn gwneud penderfyniadau am bartneriaethau, a’r meini prawf y mae angen iddynt eu bodloni.

4.6 Rydym yn argymell bod y BBC yn gwneud mwy i ystyried yn glir ac yn dryloyw ei rwymedigaeth i ymgymryd â phartneriaethau, gan gynnwys gyda’i gystadleuwyr yn yr economi greadigol. Dylai’r BBC gyhoeddi strategaeth partneriaethau, a dylai amcanion y strategaeth honno gyd-fynd yn glir â’i rwymedigaeth i gefnogi’r economi greadigol, a dangos sut mae’n bwriadu cyflawni’r rhwymedigaeth honno.

4.7 Rydym yn argymell bod y BBC yn darparu llwybrau mynediad clir ar gyfer sefydliadau sy’n dymuno gweithio mewn partneriaeth â’r BBC.

238. Mae llwyfannau newyddion lleol a rhanbarthol yn hollbwysig i gymunedau ac i ddemocratiaeth leol. Maent yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ddal y rhai sydd mewn grym yn atebol, rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyhoedd am faterion lleol, a darparu gwybodaeth ddibynadwy o ansawdd uchel. Rydym wedi ymrwymo i dirwedd cyfryngau lluosog, lle mae dinasyddion yn gallu cael gafael ar wybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau er mwyn ffurfio barn. Mae gallu’r cyhoedd i gael gafael ar amrywiaeth eang o newyddion, safbwyntiau a gwybodaeth am y byd yr ydym yn byw ynddo yn hollbwysig i iechyd ein democratiaeth. Credwn fod gan y BBC rôl bwysig i’w chwarae o ran cefnogi lluosogrwydd gwasanaethau newyddion lleol yn y DU, nid yn unig wrth asesu ei effaith ar y farchnad, ond fel canlyniad dymunol ynddo’i hun.

239. Rydym yn croesawu ymrwymiad y BBC i barhau i gefnogi’r Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol tan o leiaf 2027. Mae’r Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol yn cael ei redeg yn annibynnol gan y BBC ac, er y byddem yn cefnogi unrhyw ymdrechion pellach gan y BBC i ddatblygu’r cynllun, mae penderfyniadau gweithredol fel y rhain yn rhai i’r BBC eu gwneud. Mae adroddiad Pwyllgor Dethol y DCMS ar Gynaliadwyedd Newyddiaduraeth Leol wedi ystyried rôl y BBC yn y maes hwn yn ddiweddar. Ar ben hynny, argymhellodd Adolygiad Cairncross y dylai’r BBC wneud mwy i rannu ei arbenigedd technegol a digidol er budd cyhoeddwyr lleol. Roedd ein hymchwil a gomisiynwyd yn allanol yn dangos bod yr awydd i gydweithio yn cynyddu wrth i’r BBC ehangu ymhellach i ddarpariaeth newyddion lleol ar-lein. Credwn fod gan y BBC rôl bwysig a pharhaus i’w chwarae wrth gydweithio â sector y wasg, yn unol â’i rwymedigaeth i weithio ar y cyd a cheisio ffurfio partneriaethau â sefydliadau eraill, yn enwedig yn yr economi greadigol, lle byddai gwneud hynny er budd y cyhoedd. Yn benodol, rydym yn credu’n gryf ei bod yn bwysig iawn bod y BBC yn ystyried beth arall y gall ei wneud i gefnogi pob rhan o’r sector newyddion lleol.

Natur unigryw ac effaith barhaus

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

240. Yn ystod yr Adolygiad Canol Tymor, rydym wedi clywed pryderon gan randdeiliaid am y BBC yn niweidio cystadleuaeth yn y farchnad, ac rydym yn credu nad yw Ofcom yn gwneud digon i atal y BBC rhag achosi niwed i’r farchnad. Roedd y farn hon yn arbennig o amlwg yn yr ymatebion a gawsom gan gynrychiolwyr a busnesau yn y sector radio a’r sector cyhoeddi newyddion lleol, lle mae gan y BBC gyfran fwy o’r farchnad. Dywedodd rhai yn y sector cyhoeddi newyddion lleol wrthym fod y BBC yn diystyru ei rôl ei hun yn yr heriau y mae’r sector yn eu hwynebu. Mae eraill yn y sector sain wedi dadlau bod gan y BBC effaith fawr ar y farchnad ac mae’n defnyddio ei safle i geisio atgyfnerthu ei safle amlwg ar-lein, a bod gwaith goruchwylio Ofcom wedi bod yn annigonol o ran plismona ei weithgareddau newydd sy’n gorgyffwrdd â gwasanaethau masnachol sy’n cael effaith sylweddol ar fuddsoddiad masnachol.

241. Clywsom bryderon gan fusnesau a chynrychiolwyr o’r sectorau clyweledol, sain a newyddion nad oedd y BBC yn canolbwyntio ar ddarparu allbwn a gwasanaethau unigryw. Dywedodd rhai rhanddeiliaid wrthym fod y BBC yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn prosesau bidio a’i fod yn llwyddo i gael gafael ar gynnwys “prif ffrwd”, gan gystadlu’n uniongyrchol â darparwyr masnachol. Cyfeiriodd rhanddeiliaid at y ffaith bod y BBC yn prynu hawliau ar gyfer cynnwys teledu poblogaidd Americanaidd a ffilmiau Hollywood poblogaidd fel enghreifftiau o’r BBC yn darparu cynnwys a allai gael ei ddarparu fel arall gan y farchnad, gan gynnwys darlledwyr gwasanaeth am ddim eraill. Roedd rhanddeiliaid hefyd yn poeni am bresenoldeb cynyddol y BBC ar-lein a’i gynlluniau i ehangu ei ddarpariaeth o newyddion ar-lein mewn ffordd yr oedd rhanddeiliaid yn credu a fyddai’n niweidio’r farchnad ac yn lleihau lluosogrwydd newyddion yn y DU yn y tymor hwy. Cafodd darpariaeth newyddion a chlecs, ryseitiau, gemau ar-lein ac erthyglau sylwadau’r BBC ei nodi hefyd fel enghreifftiau o’r BBC yn darparu cynnwys nad yw’n ofynnol o dan ei gylch gwaith ac sy’n cael ei ddarparu’n dda fel arall gan y farchnad. Roedd rhanddeiliaid yn dadlau bod argaeledd y cynnwys ‘meddal’ hwn am ddim yn llesteirio gallu darparwyr masnachol i foneteiddio eu cynnwys eu hunain. Roedd llawer yn dadlau nad oedd newidiadau i wasanaethau’r BBC yn aml yn wahanol i’r hyn a oedd yn cael ei gynnig ar y farchnad; cafodd newidiadau i’w wasanaethau sain a radio eu darparu fel enghreifftiau yn aml.

242. Roedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo nad oedd Ofcom yn gwneud digon i sicrhau bod y BBC yn unigryw, ac roeddent am weld mwy o adnoddau rheoleiddio penodol gan Ofcom i asesu a gorfodi’r gofyniad hwn. Roedd eraill am weld cyfyngiadau newydd yn cael eu gosod ar yr hyn y gall y BBC ei wario ar gynnwys a brynir, neu gyfyngiadau sy’n cyfyngu’r BBC i brynu cynnwys sy’n amlwg yn unigryw neu’n annhebygol o ymddangos fel arall ar wasanaethau am ddim yn y DU. Roedd rhai eisiau gweld y BBC yn torri’n ôl ar gynnwys ‘meddal’, neu’n cael gwared ar ei ddarpariaeth o unrhyw gynnwys rhanbarthol.

Ymateb y llywodraeth

243. Mae BBC unigryw yn offeryn pwerus ar gyfer ehangu gwybodaeth, profiad a dychymyg, ac i ddod â’r wlad ynghyd. Fodd bynnag, roedd adborth gan randdeiliaid yn tynnu sylw at ganfyddiad allanol nad yw’r BBC bob amser yn canolbwyntio’n ddigonol ar ei rwymedigaeth ynghylch natur unigryw. Adeg adnewyddu’r Siarter ddiwethaf, roedd sicrhau bod gwasanaethau’r BBC yn ddigon unigryw i ddarparwyr tebyg eraill yn amcan canolog newydd.

244. Wrth ystyried natur unigryw y BBC, mae tensiwn cynhenid amlwg rhwng ei ddyletswyddau a’i rwymedigaethau. Nid oes unrhyw rwymedigaethau ar y BBC sy’n ei atal rhag caffael cynnwys tramor poblogaidd. Ac eto, mae gan y BBC ddyletswyddau i sicrhau bod ei wasanaethau a’i allbwn yn unigryw ac yn cefnogi’r economi greadigol ledled y DU. Felly, os yw gwasanaethau am ddim eraill yn gallu gwasanaethu cynulleidfaoedd â chynnwys a gwasanaethau sydd yr un fath, neu os nad oes modd gwahaniaethu rhyngddynt, mae’n bosibl fod cwestiynau dilys yn codi ynghylch a oes angen rhai rhaglenni er mwyn i’r BBC gyflawni ei Genhadaeth a’i Ddibenion Cyhoeddus yn effeithiol.

245. Mae’r BBC yn annibynnol gyfrifol am benderfyniadau golygyddol a masnachol, ac nid yw’n rhan o gwmpas yr Adolygiad Canol Tymor i lunio barn ar Genhadaeth a Dibenion Cyhoeddus y BBC. Mater i Ofcom hefyd yw asesu natur unigryw’r BBC fel rheoleiddiwr annibynnol. Ac eto, roedd y gofyniad i’r BBC ystyried ‘natur unigryw’ ei allbwn a’i wasanaethau yn newid sylweddol a gyflwynwyd gan y Siarter bresennol. Mewn marchnad sy’n fwyfwy cystadleuol, mae’r gofyniad ynghylch natur unigryw yn bwysicach nawr nag yr oedd pan gafodd ei gyflwyno yn 2017. Dylai’r BBC ddangos yn glir sut mae’n cydbwyso anghenion cynulleidfaoedd, a’r effaith ar gystadleuwyr wrth wneud penderfyniadau ynghylch sut mae ei wasanaethau a’i allbwn yn unigryw.

4.8 Dros weddill cyfnod y Siarter hon, rhaid i’r BBC ddangos yn glir sut mae’n cyflawni ei ofyniad i ddarparu allbwn a gwasanaethau unigryw.

246. Bydd sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng gallu’r BBC i ddarparu ar gyfer yr holl gynulleidfaoedd a chefnogi’r economi greadigol yn gwestiwn pwysig wrth adnewyddu Siarter y BBC. Byddwn yn edrych ar rôl y BBC yn y farchnad ehangach, gan gynnwys sut gallai fod angen i’r fframwaith rheoleiddio esblygu i adlewyrchu newidiadau mewn technoleg ac ymddygiad defnyddwyr, fel rhan o’n gwaith yn yr Adolygiad nesaf o’r Siarter. Gan fyfyrio ar y dystiolaeth rydym wedi’i chael, bydd natur unigryw’r BBC yn agwedd allweddol ar y gwaith hwnnw.

Pennod 5: Rheoleiddio a Llywodraethu Masnachol

Y Cefndir

247. Mae’r BBC yn cyflawni gweithgareddau masnachol drwy ei ddau is-gwmni masnachol sy’n eiddo llwyr iddo. Mae BBC Studios yn cynhyrchu, yn trwyddedu ac yn dosbarthu cynnwys yn ddomestig ac yn rhyngwladol, yn ogystal â bod yn berchen ar sianeli a gwasanaethau ffrydio fel UKTV a Britbox International (menter ar y cyd ag ITV). Mae BBC Studioworks yn darparu cyfleusterau stiwdio teledu, offer, criw a gwasanaethau ôl-gynhyrchu i’r BBC a chwmnïau cynhyrchu annibynnol.

248. Lansiwyd BBC Studios fel endid masnachol yn 2017, gyda’r BBC yn symud cyfran sylweddol o’i staff cynhyrchu i BBC Studios. Unwyd BBC Worldwide â BBC Studios yn 2018 i ddod â gweithgareddau cynhyrchu a dosbarthu masnachol y BBC at ei gilydd.

249. Mae gwaith llywodraethu a rheoleiddio gweithgareddau masnachol y BBC wedi esblygu. Mae’r Siarter yn atal gweithgareddau masnachol y BBC rhag cael eu cyflawni’n uniongyrchol gan y BBC neu eu hariannu gan ffi’r drwydded. Rhaid iddynt gael eu cyflawni gan is-gwmnïau masnachol. Rhaid iddynt hefyd gyd-fynd â Chenhadaeth a Dibenion Cyhoeddus y BBC, cael eu cyflawni gyda’r bwriad o gynhyrchu elw, peidio â pheryglu enw da’r BBC na gwerth brand y BBC, a pheidio ag ystumio’r farchnad na chreu mantais gystadleuol annheg o ganlyniad i’w perthynas â changen gwasanaeth cyhoeddus y BBC.

250. Mae gweithgareddau masnachol y BBC o fudd i ddiwydiannau creadigol y DU drwy eu buddsoddiad yn y sector, drwy helpu i ddod â chynnwys y BBC i gynulleidfaoedd y tu hwnt i sianeli darlledu’r BBC ac iPlayer, a thrwy allforio cynnwys a newyddiaduraeth Brydeinig ledled y byd. Mae’r gweithgareddau hyn hefyd yn cefnogi cangen gwasanaeth cyhoeddus y BBC sy’n cael ei hariannu gan ffi’r drwydded yn uniongyrchol, gan gynnwys drwy ddifidend arian blynyddol y gall y BBC ei fuddsoddi yng ngwasanaethau ac allbwn y BBC sydd o fudd uniongyrchol i gynulleidfaoedd yn y DU.

251. Felly, mae’r Llywodraeth am weld cangen fasnachol y BBC yn llwyddo ac yn tyfu, gan ddarparu mwy o fuddsoddiad mewn rhaglenni o ansawdd uchel a’r economi greadigol ddomestig, mwy o effaith ddiwylliannol o gynnwys Prydeinig unigryw dramor, a mwy o gefnogaeth i gangen gwasanaeth cyhoeddus y BBC.

252. Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC hefyd wedi dweud bod datblygu cangen fasnachol y BBC yn un o’i bedair blaenoriaeth strategol, ac mae’r BBC wedi nodi cynlluniau i gyflawni newid sylweddol mewn uchelgais drwy ddyblu maint BBC Studios rhwng 2021/22 a 2028. Yn yr Adolygiad o Wariant yn 2021, cytunodd y Llywodraeth i gynyddu terfyn benthyca cangen fasnachol y BBC o £350 miliwn i £750 miliwn yn raddol rhwng 2022-23 a 2026-27. Bydd hyn yn cefnogi buddsoddiad y BBC yn ei strategaeth twf masnachol, gan ddwyn budd i’r economi greadigol ledled y DU.

253. Mae cynyddu terfyn y ddyled hefyd yn cynyddu lefel y risg y mae’r BBC yn gallu ei chymryd. Rydym hefyd yn cydnabod bod cangen fasnachol y BBC a graddfa ei gweithgareddau eisoes wedi tyfu a datblygu’n sylweddol ers dechrau cyfnod y Siarter. Felly, gwnaethom benderfynu edrych ar brosesau llywodraethu a rheoleiddio gweithgareddau masnachol y BBC yn yr Adolygiad Canol Tymor, er mwyn sicrhau bod y trefniadau’n gweithio’n effeithiol ac yn cefnogi cangen fasnachol y BBC i ffynnu a sicrhau twf uchelgeisiol, gan reoli risgiau’n briodol a chystadlu’n deg yn y farchnad.

254. Gan edrych ymhellach i’r dyfodol, yn yr Adolygiad o Fodel Cyllido’r BBC sydd ar y gweill a’r Adolygiad o’r Siarter, byddwn yn edrych ar gyfleoedd i’r BBC gynyddu refeniw ymhellach o’i weithgareddau masnachol, gan sicrhau ein bod yn cael y cydbwysedd cywir rhwng llwyddiant masnachol a rhwymedigaethau darlledu gwasanaeth cyhoeddus y BBC a’r effaith ar gystadleuaeth.

255. Ychydig o adborth a gawsom gan randdeiliaid am waith rheoleiddio a llywodraethu masnachol y BBC gan fod y rhain yn dechnegol iawn eu natur. Felly, gwnaethom ganolbwyntio ar edrych ar dystiolaeth y BBC ac Ofcom eu hunain ar sail asesiad mwy technegol, gan gynnwys ar sail safbwyntiau gan Fuddsoddiadau Llywodraeth y DU.

Gweithgareddau Masnachol y BBC

256. Bwrdd y BBC sy’n goruchwylio gweithgareddau masnachol y BBC. Fel rhan o’i ddyletswydd i sicrhau bod y BBC yn cyflawni’r Genhadaeth ac yn hyrwyddo’r Dibenion Cyhoeddus, mae Bwrdd y BBC yn gosod strategaeth ar gyfer gweithgareddau masnachol y BBC.

257. Bwrdd Masnachol y BBC sy’n goruchwylio’r gwaith o gyflawni uchelgeisiau masnachol y Gorfforaeth. Mae’n adrodd i Fwrdd y BBC ar gyflawni amcanion BBC Studios, yn unol â strategaeth fasnachol gyffredinol y BBC, ac ar BBC Studioworks. Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd y BBC ei fod yn adnewyddu ei drefn lywodraethu fasnachol, gyda Syr Damon Buffini yn gadeirydd newydd, ac am y tro cyntaf, mae’r rhan fwyaf o gyfarwyddwyr anweithredol yn dod â mwy o brofiad masnachol, ariannol a digidol ac arbenigedd byd-eang ar draws y cyfryngau a thechnoleg. Dywedodd y BBC mai sbarduno twf masnachol yw prif bryder Bwrdd Masnachol newydd y BBC, ac y byddai’r adnewyddu’n helpu i gyflymu twf a sicrhau’r gwerth gorau posibl i dalwyr ffi’r drwydded.

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

258. Drwy’r adolygiad, roeddem am gael sicrwydd bod trefniadau llywodraethu’r BBC yn effeithiol ac y byddent yn cefnogi cangen fasnachol y BBC i sbarduno twf ar yr un pryd â sicrhau goruchwyliaeth briodol o’r lefel uwch o ddyled a risg y gall ei hysgwyddo nawr.

259. Mae tystiolaeth bod Bwrdd Masnachol newydd y BBC yn cyflawni ei rôl yn llwyddiannus. Mae’r farn hon wedi cael ei chefnogi gan waith ymgysylltu’r DCMS a Buddsoddiadau Llywodraeth y DU gyda Chadeirydd ac uwch swyddogion gweithredol BBC Studios drwy’r Adolygiad Canol Tymor, cynlluniau BBC Studios ar gyfer ei uchelgeisiau o ran twf yn y dyfodol, a safbwyntiau Buddsoddiadau Llywodraeth y DU ynghylch goruchwyliaeth Bwrdd Masnachol y BBC o’r cynllun hwnnw.

Ymateb y llywodraeth

260. Mae’r Llywodraeth o’r farn bod adnewyddu Bwrdd Masnachol y BBC yn galonogol, a dylai symud at fwrdd mwy cytbwys gyda mwy o sgiliau masnachol gefnogi cynlluniau’r BBC i ddatblygu cangen fasnachol y BBC. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae’n rhy gynnar i asesu effeithiolrwydd y trefniadau llywodraethu newydd yn llawn a dylai’r BBC barhau i adolygu effeithiolrwydd Bwrdd Masnachol newydd y BBC. Mae’r Siarter a’r Cytundeb Fframwaith yn mynnu bod y BBC yn cynnal adolygiad pellach o’i weithgareddau masnachol o fewn cyfnod y Siarter hon, a allai fod yn gyfle priodol i asesu’r gwaith adnewyddu.

261. Wrth i’w fusnes masnachol dyfu a thrawsnewid, rydym am weld y BBC yn parhau i sicrhau bod ganddo drefniadau llywodraethu masnachol priodol ar waith, a sicrhau bod y Bwrdd Masnachol yn cyflawni ei rôl yn effeithiol i gefnogi twf parhaus y busnes a rheoli risgiau.

5.1 Rydym yn argymell bod y BBC yn monitro effeithiolrwydd Bwrdd Masnachol y BBC wrth i’r trefniadau llywodraethu newydd wreiddio.

Gwaith Rheoleiddio Masnachol y BBC

262. Mae’r Siarter yn ei gwneud yn ofynnol i’r BBC ac Ofcom sicrhau nad yw is-gwmnïau masnachol y BBC yn cael mantais gystadleuol annheg nac yn ystumio’r farchnad o ganlyniad i’w perthynas â changen gwasanaeth cyhoeddus y BBC. Mae hyn yn golygu na ellir defnyddio cangen gwasanaeth cyhoeddus y BBC, a thrwy hynny ffi trwydded y BBC, i ariannu neu noddi gweithgareddau masnachol.

263. Rhoddodd Ofcom ofynion a chanllawiau ar waith i reoleiddio hyn yn 2017 pan ddaeth yn rheoleiddiwr y BBC. Yn dilyn ymgynghoriad pellach, addasodd Ofcom y gofynion hyn yn 2019, a chyhoeddodd fersiwn gyfunol wedi’i diweddaru o’r gofynion hyn yn 2021. Mae’n rhaid i’r BBC roi rheolaethau a gweithdrefnau priodol a chadarn ar waith i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â rheoliadau Ofcom, ac mae’n cyhoeddi Datganiad Gwahanu Gweithredol blynyddol sy’n nodi sut mae wedi gwneud hynny.

264. O ystyried y newidiadau a oedd wedi digwydd yn y farchnad, ac datblygiad parhaus BBC Studios, cynhaliodd Ofcom adolygiad i ddeall yn well sut mae’r BBC wedi gweithredu proses rheoleiddio Ofcom ar gyfer ei weithgareddau masnachol. Cyhoeddwyd ‘Adolygiad Ofcom o’r rhyngweithio rhwng BBC Studios a gwasanaeth cyhoeddus y BBC’ ym mis Mehefin 2022.

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

265. Roeddem am gael sicrwydd drwy’r Adolygiad Canol Tymor bod y BBC yn cydymffurfio â’r gofynion gwahanu masnachol, nad yw cangen fasnachol y BBC yn cael unrhyw fanteision annheg, a bod rhanddeiliaid yn hyderus bod hynny’n wir.

266. Canfu adolygiad Ofcom fod gan y BBC brosesau a mesurau priodol ar waith mewn rhai meysydd. Fodd bynnag, nododd Ofcom ddau faes arwyddocaol lle nad oedd yn fodlon. Ers hynny, mae’r BBC wedi cymryd camau priodol i gywiro’r materion hyn, fel y nodir gan Ofcom yn ei ddatganiad ar sut mae’n rheoleiddio effaith y BBC ar gystadleuaeth, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2023.

Ymateb y llywodraeth

267. Mae’r camau hyn yn dangos bod y BBC ac Ofcom yn cymryd camau priodol ac effeithiol i sicrhau bod gweithgareddau masnachol y BBC yn cael eu rheoleiddio’n effeithiol.

5.2 Rydym yn ystyried bod trefniadau rheoleiddio gweithgareddau masnachol y BBC yn gweithio’n effeithiol.

Pennod 6: Amrywiaeth

Y Cefndir

268. Mae’r Llywodraeth eisiau i’r BBC fod ar flaen y gad o ran cynrychioli amrywiaeth, ar y sgrin ac oddi ar y sgrin. Mae BBC sy’n adlewyrchu, yn cynrychioli ac yn gwasanaethu pob cymuned, drwy ddarparu allbwn a gwasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion, a sicrhau meddwl amrywiol ar draws y sefydliad, yn hanfodol er mwyn i’r BBC gyflawni ei rwymedigaethau i’r rheini sy’n talu ffi’r drwydded. Rydym wedi ystyried a oes gan y BBC y mecanweithiau llywodraethu cywir ar waith i’w helpu i gyflawni ei gyfrifoldebau, gan gynnwys sut mae’n sicrhau bod amrywiaeth o ran meddwl a barn yn cael ei ystyried. Rydym hefyd wedi ystyried a yw’r trefniadau rheoleiddio presennol yn darparu digon o graffu.

Cyfrifoldebau’r BBC

269. Mae cynrychioli’r DU a’i gwledydd, ei rhanbarthau a’i chymunedau wedi bod yn Ddiben Cyhoeddus yn y Siarter ers 2007. Mae’r Siarter bresennol yn gwneud rhwymedigaethau amrywiaeth y BBC hyd yn oed yn gliriach drwy gyflwyno gofynion penodol i adlewyrchu cymunedau sy’n cael eu tangynrychioli a chefnogi ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol y DU.

270. Er mwyn gwasanaethu pob cymuned, mae angen i’r BBC ddeall yr amrywiaeth o syniadau, profiadau ac anghenion sy’n bodoli ledled y DU. Gall y BBC gyflawni hyn drwy ymgysylltu’n effeithiol ac yn rheolaidd ag amrywiaeth eang o aelodau cynulleidfaoedd i gasglu adborth ar ei berfformiad, a gweithio i wella canfyddiadau cynulleidfaoedd. Mae Erthygl 10 y Siarter yn nodi rhai dyletswyddau penodol i’r BBC ymgysylltu â’r cyhoedd, gan gynnwys sicrhau bod safbwyntiau cynulleidfaoedd ar draws y DU yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau.

Fframwaith llywodraethu’r BBC

271. Cafodd y Cytundeb Fframwaith ei ddiweddaru yn 2022 i gyflwyno gofynion newydd ar Fwrdd y BBC i oruchwylio ac adrodd yn flynyddol ar gynlluniau i gynyddu amrywiaeth yn y sefydliad i adlewyrchu a chynrychioli’r DU yn fwy effeithiol, ac i gyflawni’r rhaglen ‘Ar Draws y DU’. Felly, mae Bwrdd y BBC yn atebol am sicrhau bod y BBC yn gwneud ei orau i gynrychioli pobl a safbwyntiau yn well yn y DU nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol ar hyn o bryd yn ei gynnwys erbyn diwedd cyfnod y Siarter.

272. Mae’r Siarter yn gorfodi penodi Aelod Anweithredol o’r Bwrdd ar gyfer pob un o bedair gwlad y DU. Rhaid i’r Aelodau’r Gwledydd hyn gynrychioli buddiannau talwyr ffi’r drwydded a darparu her a chraffu o fewn y BBC i sicrhau bod ei allbwn a’i wasanaethau’n diwallu anghenion cynulleidfaoedd ym mhob gwlad.

Fframwaith rheoleiddio’r BBC

273. Mae Ofcom wedi gosod amodau rheoleiddio penodol yn Nhrwydded Weithredu’r BBC i sicrhau bod pedwerydd Diben Cyhoeddus y BBC yn cael ei hyrwyddo, fel y nodir yn y Siarter, i adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu cymunedau amrywiol holl wledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig ac, wrth wneud hynny, i gefnogi’r economi greadigol ar draws y Deyrnas Unedig. Mae’r Drwydded Weithredu yn cynnwys gofynion i’r BBC adrodd yn gyhoeddus ar gynrychiolaeth a phortreadu a bodlonrwydd cynulleidfaoedd, yn ogystal â rhoi gwybodaeth fanwl i Ofcom am amrywiaeth ei weithlu gwasanaethau cyhoeddus yn y DU bob blwyddyn.

274. Er bod modd i Ofcom orfodi’r amodau hynny yn y Drwydded Weithredu gan eu bod yn ‘ofynion penodol’, ni all y rheoleiddiwr orfodi yn erbyn targedau amrywiaeth y BBC ei hun. Fodd bynnag, gall ddal y BBC i gyfrif yn gyhoeddus drwy dynnu sylw at feysydd lle nad yw’r BBC wedi cyrraedd ei dargedau wrth adrodd ar berfformiad y BBC.

Cynnydd y BBC tuag at ei ymrwymiadau amrywiaeth

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

275. Roedd llawer o randdeiliaid a roddodd adborth yn teimlo bod y BBC wedi nodi ymrwymiadau clir i gyflawni ei gyfrifoldebau amrywiaeth, a bod y BBC wedi gwneud cynnydd tuag at gyflawni’r ymrwymiadau hyn. Roedden nhw’n croesawu cynlluniau’r BBC i wella’r ffordd mae’n adlewyrchu ac yn cynrychioli gwahanol gymunedau, gan gynnwys yr Ymrwymiad Amrywiaeth Greadigol, y Prosiect Cydraddoldeb 50:50 a’r fenter Ar Draws y DU.

276. Clywsom hefyd adborth helaeth gan randdeiliaid am gynnydd y BBC ar ei Gynllun Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer 2021-2023, sy’n cynnwys cynlluniau i adeiladu gweithlu sy’n adlewyrchu poblogaeth y DU yn ddemograffig. Roedd cynnydd y BBC yn arbennig o bwysig i randdeiliaid oherwydd bod pobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd yn gallu dod â safbwyntiau, profiadau a safbwyntiau gwahanol i’r bwrdd, a gall helpu’r BBC i greu cynnwys a gwasanaethau sy’n berthnasol i wahanol gymunedau ledled y DU. Fel y nodir yn Ffigur Pump, mae’r BBC wedi gwneud cynnydd ar rai o’i dargedau amrywiaeth y gweithlu: mae wedi cyrraedd cydbwysedd yn ei weithlu rhwng dynion a menywod, ac mae canran y staff “Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig” (fel y disgrifir gan y BBC) wedi cynyddu o un flwyddyn i’r llall ers cyflwyno’r Siarter bresennol. Mae cynrychiolaeth pobl o gefndiroedd “Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig” (fel y disgrifir gan y BBC) mewn rolau arwain hefyd wedi cynyddu, ond mae’n dal yn is na chynrychiolaeth ar lefel yr holl staff.

277. Clywsom fod meysydd lle mae’r BBC wedi mynd ymhellach nag eraill yn ei ymdrechion i adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu pob cymuned. Er enghraifft, mae’r BBC wedi cyflwyno targed bod 25% o staff yn dod o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is erbyn 2027, sy’n golygu mai dyma’r darlledwr cyntaf yn y DU i gael targed penodol ar gyfer amrywiaeth economaidd-gymdeithasol yn y gweithlu. Adroddodd y BBC ar gynrychiolaeth pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn ei weithlu am y tro cyntaf eleni.

278. Fodd bynnag, fel y cydnabyddir gan rai rhanddeiliaid ac Adroddiadau Blynyddol Ofcom ar y BBC ar gyfer 2021/22 a 2022/23, mae gan y BBC ragor i’w wneud i gyrraedd rhai o’i dargedau amrywiaeth y gweithlu. Mae canran y bobl anabl yng ngweithlu’r BBC wedi gostwng ers dechrau cyfnod presennol y Siarter. Fel y trafodir yn fanylach yng ngweddill y bennod hon, clywsom bryderon hefyd fod gan y BBC ragor i’w wneud i sicrhau bod amrywiaeth o ran meddwl a barn yn cael ei adlewyrchu yn ei weithlu.

Ffigur Pump: Cyfansoddiad demograffig gweithlu’r BBC (2017 a 2023) a thargedau ar gyfer cynrychiolaeth y gweithlu

Mawrth 2017 Mawrth 2023 Targed ar gyfer 2026*
Menywod
Yr holl staff: 48.2%
Arweinyddiaeth: 42.1%

Yr holl staff: 50.1%
Arweinyddiaeth: 49.0%
50%
Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
Yr holl staff: 14.5%
Arweinyddiaeth: 10.3%

Yr holl staff: 17.0%
Arweinyddiaeth: 14.1%
20%
Anabl
Yr holl staff: 10.2%
Arweinyddiaeth: 9.6%

Yr holl staff: 9.4%
Arweinyddiaeth: 7.9%
12%
Cefndir economaidd-gymdeithasol isel
Yr holl staff: Amh.
Arweinyddiaeth: Amh.

Yr holl staff: 21.1%
Arweinyddiaeth: 20.1%
25%

* Y targed ar gyfer amrywiaeth economaidd-gymdeithasol ar gyfer 2026/27.

279. Mae’r BBC wedi rhoi gwybod i ni ei fod wedi ymrwymo i wella cynrychiolaeth pobl anabl a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn ei weithlu, ac mae’n cymryd rhan mewn sawl cynllun i hwyluso’r gwelliant hwnnw. Mae hyn yn cynnwys y Prosiect Mynediad Teledu, sy’n canolbwyntio ar wella hygyrchedd i bobl anabl mewn cynyrchiadau, stiwdios a chyfleusterau; a chynllun hyfforddi prentisiaid, sydd â tharged o gael 1,000 o brentisiaid erbyn 2025, a bydd 80% ohonynt wedi’u lleoli y tu allan i Lundain.

Ymateb y llywodraeth

280. Mae BBC sy’n adlewyrchu, yn cynrychioli ac yn gwasanaethu cymunedau amrywiol y DU yn gywir yn hanfodol er mwyn i’r BBC gyflawni ei amcanion fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus. Mae cael gweithlu amrywiol yn rhan bwysig o hynny: mae gwahanol safbwyntiau, barn a chefndiroedd yn helpu i greu gwasanaethau ac allbwn sy’n gwasanaethu pob cynulleidfa.

6.1 Mae’r BBC yn dweud ei fod yn deall pwysigrwydd adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu pob cymuned ac mae wedi nodi ymrwymiad clir i wella amrywiaeth y sefydliad, ar y sgrin ac oddi ar y sgrin. Rydym yn cydnabod tystiolaeth y BBC ei fod wedi gwneud cynnydd da tuag at gyflawni ei ymrwymiadau amrywiaeth.

281. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod angen i’r BBC fynd ymhellach i gyrraedd rhai o’i dargedau amrywiaeth y gweithlu. Mae ei dargedau wedi’u nodi yn y Cytundeb Fframwaith, ac mae gan Fwrdd y BBC gyfrifoldeb penodol i oruchwylio cynlluniau’r BBC i gynyddu amrywiaeth yn y sefydliad.

282. Yn ei Adroddiad Blynyddol ar y BBC ar gyfer 2021/22, dywedodd Ofcom sut gall y BBC wella cynrychiolaeth rhai grwpiau yn ei weithlu ymhellach. Roedd hyn yn cynnwys parhau i wneud cynnydd ar ymrwymiadau a mentrau presennol er mwyn gwella cynrychiolaeth y gweithlu, darparu diweddariadau i Ofcom i’w helpu i fonitro cynnydd, ac i ystyried gosod targedau cadw gweithlu i helpu i gadw staff a chreu gweithle mwy cynhwysol.

6.2 Rydym yn disgwyl i’r BBC ddilyn y cyngor a nodir yn Adroddiad Blynyddol Ofcom ar y BBC ar gyfer 2021/22 i wella cynrychiolaeth y gweithlu o bobl anabl a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.

Rôl Bwrdd y BBC o ran sicrhau amrywiaeth barn a safbwyntiau

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

283. O ganlyniad i’n gwaith casglu tystiolaeth, clywsom bryderon nad yw’r BBC yn adlewyrchu amrywiaeth barn a safbwyntiau ar draws y sefydliad yn gywir, ac y gallai rhai grwpiau cynulleidfa deimlo nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol gan y BBC o ganlyniad. Fel y nodwyd mewn penodau blaenorol, mae canfyddiadau cynulleidfaoedd o’r BBC ar faterion fel didueddrwydd wedi gostwng dros amser, ac mae perygl y gallai unrhyw ddiffyg meddwl amrywiol yn y sefydliad ysgogi canfyddiadau negyddol a/neu gyfyngu ar allu’r BBC ei hun i wasanaethu a chynrychioli cynulleidfaoedd yn y ffordd orau.

284. Mae Bwrdd y BBC yn gyfrifol am sicrhau bod barn a safbwyntiau amrywiol yn cael eu hadlewyrchu yn y sefydliad ac yn y ffordd y mae’n gwasanaethu’r DU. Nododd Syr David Clementi fod gan Fwrdd y BBC rôl bwysig i’w chwarae o ran cynrychioli amrywiaeth y cyhoedd y mae’n eu gwasanaethu, ac adlewyrchir hyn yn y Cytundeb Fframwaith. Mae gan Weithrediaeth y BBC rôl hefyd: mae gan y Cyfarwyddwr Amrywiaeth a Chynhwysiant drosolwg strategol o holl ymrwymiadau amrywiaeth y BBC, ac mae’n gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o ddatblygu a gweithredu mentrau amrywiaeth y gweithlu, canllawiau comisiynu, rhaglenni a metrigau hyfforddiant amrywiaeth a chynhwysiant i fesur cynnydd, gan adrodd i’r Prif Swyddog Pobl.

285. Clywsom ei bod yn bwysig bod gan y BBC weithlu amrywiol er mwyn sicrhau bod pobl sydd ag amrywiaeth eang o safbwyntiau gwahanol am y byd yn cael eu hadlewyrchu. Roedd yr adborth yn tynnu sylw at y ffaith bod y BBC wedi cael problemau sy’n adlewyrchu amrywiaeth barn a safbwyntiau ar draws y sefydliad. Canfu’r adolygiad thematig allanol diweddar o ddidueddrwydd darlledu’r BBC o drethi, gwariant cyhoeddus, benthyciadau’r Llywodraeth a dyledion dystiolaeth o ddiffyg didueddrwydd a achosir gan farn anwybodus meddwl grŵp yn y BBC, a chyfeiriodd Adolygiad Serota at yr angen i’r BBC hyrwyddo amrywiaeth barn a meithrin trafodaeth olygyddol agored. Mae’r BBC ei hun wedi ystyried yr angen i sicrhau bod amrywiaeth o safbwyntiau a barn yn y sefydliad: mae ei gynllun gweithredu 10 pwynt yn nodi cam gweithredu i’r BBC ei herio ei hun yn greadigol i sicrhau ei fod yn adlewyrchu amrywiaeth eang o safbwyntiau, ac mae’r BBC wedi comisiynu adolygiadau cynnwys mewnol i asesu safonau a diwylliant golygyddol y BBC, gan gynnwys amrywiaeth lleisiau.

286. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod y BBC yn cydnabod bod angen canolbwyntio ar amrywiaeth ar lefel uchel. Ar ben hynny, mae Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC wedi dweud bod Bwrdd y BBC a’r Pwyllgor Gweithredol wedi trafod yr angen i bobl o gefndiroedd gwahanol â safbwyntiau gwahanol a phrofiadau bywyd gwahanol ddod i’r BBC. Mae Cyfarwyddwr Polisi Golygyddol y BBC hefyd wedi pwysleisio pa mor bwysig yw hi fod pobl ar draws holl gynulleidfaoedd y BBC yn credu bod eu safbwyntiau’n cael eu mynegi, eu herio, a’u clywed yn allbwn y BBC. Dywedodd nad yw’r BBC yn rhan o ‘ddiwylliant canslo’, sy’n golygu y dylai hyd yn oed safbwyntiau sy’n cael eu hystyried yn ddadleuol gael llwyfan gan y BBC. Mae’r safbwyntiau hyn yn cael eu hategu gan wybodaeth a rannwyd gan y BBC wrth gasglu tystiolaeth ar gyfer yr Adolygiad Canol Tymor.

287. Mae adroddiadau’n dangos bod y BBC yn ystyried ffyrdd o sicrhau ei fod yn recriwtio pobl sydd â safbwyntiau amrywiol, er mwyn atal un farn yn unig ymysg gweithwyr. Mae hefyd yn buddsoddi yn ei gynllun Ar Draws y DU i sicrhau bod meddyliau a safbwyntiau pobl y tu allan i Lundain yn cael eu hadlewyrchu yn y sefydliad.

Ymateb y llywodraeth

288. Mae BBC sy’n adlewyrchu’n gywir yr amrywiaeth o safbwyntiau a barn sy’n bodoli ar draws y DU yn hanfodol. Mae ein cymdeithas yn cynnwys pobl sydd ag amrywiaeth eang o safbwyntiau a barn, ac mae angen i gynulleidfaoedd deimlo bod eu bywydau’n cael eu cynrychioli a’u portreadu’n gywir ac yn ddilys gan y BBC, ar y sgrin ac oddi ar y sgrin.

289. Rydym yn cydnabod bod pryderon ei bod yn bosibl nad yw amrywiaeth o ran safbwyntiau a barn yn cael ei adlewyrchu’n ddigonol yn y BBC. Felly, mae risg bod meddylfryd grŵp yn effeithio ar y sefydliad, a allai effeithio ar allu’r BBC i gyflawni ei gyfrifoldebau i fod yn ddiduedd a darparu allbwn a gwasanaethau sy’n adlewyrchu safbwyntiau amrywiol.

290. Mae’r BBC wedi dweud ei hun nad yw sefydliad sydd â meddylfryd grŵp yn debygol o adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu safbwyntiau amrywiol cymunedau ledled y DU yn gywir. Nodwn ei fod yn ystyried ffyrdd y gall weithredu i sicrhau bod amrywiaeth eang o safbwyntiau yn cael eu hadlewyrchu yn ei weithlu. Mae gan Fwrdd y BBC rôl bwysig i’w chwarae o ran goruchwylio’r gwaith hwn ac adrodd ar gynnydd fel y nodir yn y Cytundeb Fframwaith. Mae’n bwysig bod gallu’r BBC i adlewyrchu amrywiaeth o ran safbwyntiau a barn yn cael ei adolygu’n gyson, a bydd y Llywodraeth yn edrych eto ar gynnydd y BBC yn y maes hwn fel rhan o’r Adolygiad o’r Siarter sydd ar y gweill.

6.3 Rydym yn disgwyl i Fwrdd y BBC barhau i oruchwylio cynlluniau’r sefydliad i gynyddu amrywiaeth, ac i ystyried sut y gellid adlewyrchu amrywiaeth barn a safbwytniau’n well wrth wneud penderfyniadau.

Ymgysylltiad cynulleidfaoedd â grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol a thryloywder o ran adrodd

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

291. Clywsom fod Bwrdd y BBC a Phwyllgor Gweithredol y BBC yn cynnal gwahanol fathau o weithgareddau ymgysylltu â grwpiau cynulleidfa er mwyn deall eu hanghenion, er mwyn gallu ystyried yr wybodaeth hon wrth wneud penderfyniadau. Mae Tîm Cynulleidfaoedd y BBC yn cynnal sesiynau ymchwil ansoddol manwl gydag aelodau’r gynulleidfa i gasglu adborth ar wasanaethau neu i archwilio materion penodol.

292. Er gwaethaf gwaith y BBC i ymgysylltu â chynulleidfaoedd, clywsom fod rhai grwpiau cynulleidfa yn dal i deimlo nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol gan y BBC. Roedd rhai rhanddeiliaid yn ansicr ynghylch beth mae’r BBC yn ei wneud i ddeall anghenion rhai grwpiau cynulleidfa, yn benodol cymunedau B/byddar ac anabl, ac roeddent yn teimlo bod diffyg ymgynghori weithiau rhwng y rheini sy’n gwneud penderfyniadau yn y BBC a chynrychiolwyr y grwpiau hyn neu aelodau’r gynulleidfa eu hunain. Mae tystiolaeth hefyd o ddata bodlonrwydd cynulleidfaoedd (fel y nodir yn Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC ar gyfer 2022/23) bod rhai grwpiau cynulleidfa yn llai tebygol o deimlo eu bod yn cael eu cynrychioli gan y BBC nag eraill, fel gwylwyr anabl, grwpiau “Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig” (fel y disgrifir gan y BBC), a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.

293. O ran tryloywder adroddiadau amrywiaeth y BBC, roedd tystiolaeth yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod y BBC yn dryloyw ynghylch ei gynnydd tuag at ei rwymedigaethau amrywiaeth er mwyn i randdeiliaid ac Ofcom allu ei ddal i gyfrif. Clywsom gan randdeiliaid fod y BBC wedi gwneud cynnydd o ran ei ddull o adrodd ar ddata amrywiaeth ers dechrau’r Siarter bresennol, er bod meysydd lle gallai fynd ymhellach.

294. Mae’n rhaid i’r BBC eisoes ddarparu gwybodaeth fanwl i Ofcom am amrywiaeth ei staff Gwasanaethau Cyhoeddus yn y DU (cyflogeion a gweithwyr llawrydd) fel amod o’i Drwydded Weithredu fel y’i pennir gan Ofcom. Cyhoeddir y data hwn bob blwyddyn yn Adroddiad Blynyddol Ofcom ar y BBC, adroddiad Ofcom ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn Teledu a Radio, ac mae’r BBC hefyd yn cyhoeddi ei Adroddiad Gwybodaeth am Gydraddoldeb ei hun. Am y tro cyntaf y llynedd, rhoddodd y BBC ddata ar amrywiaeth y gweithlu i Ofcom yn wirfoddol ar gyfer pob un o bedair gwlad y DU, sy’n golygu mai dyma’r darlledwr cyntaf i ddarparu data ar amrywiaeth i Ofcom wedi’i rannu yn ôl ardal ddaearyddol. Mae Ofcom hefyd yn nodi bod y BBC wedi gwneud cynnydd o ran casglu data ar gefndir economaidd-gymdeithasol gweithlu’r BBC, a sut mae’n cyfleu’r data hwnnw i Ofcom.

295. Mae’r BBC yn casglu data ar amrywiaeth y cynnwys mae’n ei gomisiynu. Mae hyn yn bwysig er mwyn deall ei gynnydd tuag at ei ymrwymiadau amrywiaeth ar y sgrin, gan gynnwys a yw cynulleidfaoedd yn gweld straeon dilys ac amrywiol yn cael eu portreadu ar y sgrin. Mae’r data hwn yn cael ei gyhoeddi’n flynyddol fel rhan o Adroddiad Cynnydd Cod Ymarfer Comisiynu Amrywiaeth y BBC.

296. Mae’r BBC hefyd yn adrodd yn flynyddol ar ddata sy’n mesur cyrhaeddiad cynnwys a chanfyddiadau gwylwyr. Mae hyn wedi’i rannu’n nodweddion gwahanol, gan gynnwys nodweddion sy’n cael eu dosbarthu gan y BBC fel oedran, rhywedd, ethnigrwydd, statws economaidd-gymdeithasol, anabledd a lleoliad daearyddol yn ôl gwlad, ac mae’n bwysig er mwyn deall sut mae’r BBC yn perfformio yn erbyn ei Genhadaeth a’i Ddibenion Cyhoeddus ar gyfer gwahanol grwpiau cynulleidfa.

297. Mae Ofcom wedi gwella tryloywder y BBC yn gyson o ran sut mae’n adrodd ar ddata bodlonrwydd cynulleidfaoedd fel maes i’w wella, ac yn flaenorol mae wedi gofyn i’r BBC nodi ei grwpiau cynulleidfa llai bodlon yn gliriach a nodi’r camau y mae wedi’u cymryd, neu’n bwriadu eu cymryd, i ddiwallu eu hanghenion yn well. Roedd y BBC wedi darparu gwybodaeth am gynulleidfaoedd sy’n ‘llai bodlon’ â gwasanaeth y BBC, ynghyd â rhagor o fanylion am sut mae’n gweithio i wella canfyddiadau yn y grwpiau hyn er mwyn cyfrannu at Adroddiad Blynyddol Ofcom ar y BBC ar gyfer 2020/21. Ar ben hynny, mae’r Drwydded Weithredu newydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r BBC gyhoeddi, ar yr un pryd ag y mae’n cyhoeddi ei Gynllun Blynyddol, y camau y bydd yn eu cymryd i wella bodlonrwydd cynulleidfaoedd ymysg y cynulleidfaoedd ‘llai bodlon’ hyn. Mae’r BBC hefyd wedi rhannu rhagor o fanylion ynghylch sut mae’n datblygu dull newydd o gomisiynu rhaglenni i adlewyrchu pob grŵp cynulleidfa. Er enghraifft, ym mis Tachwedd 2022, roedd y BBC wedi rhannu cynlluniau i gomisiynu mwy o gynnwys teledu sydd wedi’i anelu at gynulleidfaoedd o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, gan gynnwys dramâu ysgafnach, dramâu comedi a rhaglenni dogfen chwaraeon, mewn ymdrechion i wella bodlonrwydd cynulleidfaoedd ymysg y grwpiau hyn.

298. Er gwaethaf tystiolaeth bod y BBC wedi gwella tryloywder ei adroddiadau ar amrywiaeth yn y meysydd a drafodir uchod, roedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo y gallai’r BBC fynd ymhellach, yn enwedig o ran y dadansoddiad o ddata amrywiaeth y gweithlu ym mhedair gwlad y DU a lefel eu statws a’u teulu o swyddi, er mwyn eu galluogi i nodi meysydd i’w gwella ymhellach. Roedd rhanddeiliaid yn teimlo y byddai edrych ar achosion lle mae nifer o nodweddion gwahanol yn berthnasol, fel hil/ethnigrwydd a chefndir economaidd-gymdeithasol, yn galluogi dealltwriaeth fwy cynnil o ble mae tangynrychiolaeth yn cael ei dwysáu. Nodwn fod adroddiad blynyddol 2022-23 Ofcom ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn Teledu a Radio yn cynnwys dadansoddiad o nifer o nodweddion cyfun am y tro cyntaf.

299. Mae’r Drwydded Weithredu hefyd yn mynnu bod y BBC yn adrodd ar ei gynnydd ar dargedau cynrychioli a phortreadu ar yr awyr. Clywsom bryderon gan randdeiliaid nad yw’r BBC yn cydymffurfio’n llawn â hyn, gan fod diffyg adroddiadau ar dargedau cynrychiolaeth y BBC ar yr awyr (radio). Fodd bynnag, rydym yn deall bod y BBC yn gweithio i ddatblygu system i fesur cynrychiolaeth ar yr awyr ac yn disgwyl gallu adrodd yn erbyn y targed hwn yn 2023/24, a bod Ofcom yn cadw golwg ar hyn.

Ymateb y llywodraeth

300. Mae gan y BBC ddyletswydd benodol yn y Siarter o ran yr angen i adlewyrchu cymunedau sy’n cael eu tangynrychioli yn ei allbwn a’i wasanaethau, er mwyn darparu portread a chynrychiolaeth briodol gywir a dilys o gymunedau amrywiol y DU. Fodd bynnag, mae ein tystiolaeth yn dangos bod rhai grwpiau’n dal i deimlo nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol gan y BBC. Mae ymgysylltu’n effeithiol â’r grwpiau hyn yn hanfodol, oherwydd gallai helpu’r BBC i ddeall ei anghenion yn well ac adlewyrchu dealltwriaeth yn ôl o’r broses gwneud penderfyniadau er mwyn iddo allu sicrhau bod canfyddiadau cynulleidfaoedd o’r BBC yn cael eu gwella.

301. Yng ngoleuni’r adborth uchod, gallai’r BBC ymgysylltu mwy fyth â chynulleidfaoedd i wella ei ddealltwriaeth o safbwyntiau, dymuniadau ac anghenion y gynulleidfa mae’n ei gwasanaethu, ac yna ystyried sut gall y ddealltwriaeth well honno gefnogi allbwn a gwasanaethau sy’n fwy cynrychioliadol o gynulleidfaoedd. Er mwyn i gynulleidfaoedd allu ei ddal i gyfrif, dylai’r BBC rannu gwybodaeth am y camau y mae’n bwriadu eu cymryd os bydd yn nodi bod angen mwy o ymgysylltu â grwpiau cynulleidfa sy’n cael eu tangynrychioli.

302. Ar ben hynny, mae gan y BBC ddyletswydd gyffredinol yn y Siarter i gadw at safonau uchel o ran bod yn agored, a cheisio sicrhau ei fod mor dryloyw ac agored â phosibl. Felly, mae’n bwysig bod y BBC yn ddigon tryloyw wrth adrodd ar gynnydd ar ei gyfrifoldebau o ran amrywiaeth er mwyn gallu ei ddal yn atebol am ei berfformiad o ran cyflawni ei amcanion. Fel yr uchod, mae’r BBC wedi darparu data gwirfoddol i Ofcom a mwy o eglurder ynghylch cynlluniau i wella canfyddiadau o grwpiau cynulleidfa sy’n llai bodlon â gwasanaeth y BBC.

303. Mae ffyrdd y gallai’r BBC ddewis adlewyrchu adborth gan randdeiliaid, yn enwedig o ran adrodd ar ddata amrywiaeth y gweithlu yn y gwledydd, er nad yw’r Llywodraeth yn credu y dylai fod yn ofynnol i gwmnïau yn y sector preifat fel cwmnïau cynhyrchu annibynnol gynhyrchu data amrywiaeth ychwanegol. Nododd adroddiad 2021-22 Ofcom ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn Teledu a Radio y gallai cyhoeddi rhagor o ddata am y gweithlu roi rhagor o eglurder ynghylch a yw prif ganolfannau cyflogaeth y BBC yn cynrychioli poblogaethau lleol. Mae’n bwysig bod unrhyw wybodaeth fanylach am adrodd yn ddefnyddiol ac yn gymesur.

6.4 Rydym yn disgwyl i’r BBC barhau i ymgysylltu’n briodol er mwyn deall anghenion grwpiau penodol o gynulleidfaoedd, yn enwedig grwpiau sy’n teimlo nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol. Dylai Bwrdd y BBC barhau i adolygu hyn i sicrhau bod ymgysylltiad yn ddigonol, a dylai’r BBC nodi sut mae’n bwriadu ymateb os bydd yn nodi bod angen mwy.

Ymgysylltu â chynulleidfaoedd yn y gwledydd a’r rhanbarthau

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

304. Mynegodd rhai rhanddeiliaid bryderon nad yw’r BBC yn defnyddio Cynghorau Cynulleidfa mwyach i gasglu gwybodaeth am gynulleidfaoedd. Cyn y Siarter bresennol, roedd Cynghorau Cynulleidfa ar gyfer pob gwlad yn y DU. Roedd y rhain yn gweithredu fel cyrff cynghori i Ymddiriedolaeth y BBC ar ba mor dda yr oedd y BBC yn perfformio yn y gwledydd perthnasol, yn darparu mewnbwn i broses gwneud penderfyniadau’r Ymddiriedolaeth, ac yn nodi materion sy’n dod i’r amlwg o bwys i gynulleidfaoedd lleol a oedd yn sail i gynllun gwaith blynyddol yr Ymddiriedolaeth. Roeddent yn cael eu cadeirio gan aelod o Ymddiriedolaeth y BBC ar gyfer y wlad berthnasol, gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr allanol annibynnol. Cafodd y rhain eu disodli gan ‘Pwyllgorau Gwledydd’ ar ddechrau’r Siarter bresennol, sy’n chwarae rôl ehangach yn nhrefniadau Llywodraethu’r BBC, ond hefyd yn ymgysylltu’n benodol â chynulleidfaoedd yn y gwledydd, ac sy’n cael eu cadeirio gan Aelod Bwrdd perthnasol y BBC ar gyfer y Gwledydd heb rôl ar gyfer cynnwys allanol.

305. Mynegodd rhai rhanddeiliaid bryderon bod cyfleoedd pwysig wedi cael eu colli ers i’r Cynghorau Cynulleidfa gael eu diddymu i uwch lunwyr penderfyniadau’r BBC ymgysylltu ag aelodau o’r gynulleidfa a rhanddeiliaid yn y gwledydd. Teimlai rhai nad oes digon o ymgynghori yn digwydd erbyn hyn. Teimlai eraill nad oedd y mecanwaith a ddefnyddir gan Fwrdd y BBC i ystyried barn aelodau’r gynulleidfa a rhanddeiliaid yn glir mwyach, ac roeddent yn bryderus nad oedd Pwyllgorau’r Gwledydd yn cynnwys lleisiau annibynnol unigolion a oedd y tu allan i’r BBC.

306. Ar y llaw arall, gwelsom dystiolaeth hefyd bod ymgysylltu â chynulleidfaoedd yn dal yn flaenoriaeth i Fwrdd y BBC ac i Aelodau’r Gwledydd eu hunain. Clywsom fod Pwyllgorau Gwledydd y BBC yn ymgymryd ag amrywiaeth o dechnegau gwahanol i ddeall yn well safbwyntiau ac anghenion cynulleidfaoedd yng ngwledydd a rhanbarthau’r DU, a bod yr wybodaeth a gasglwyd yn cael ei bwydo’n ôl i benderfyniadau’r Bwrdd gan yr Aelodau hynny o’r Gwledydd. Bydd penodi Michael Smyth KC OBE yn Aelod dros Ogledd Iwerddon ar 20 Gorffennaf yn helpu i sicrhau bod safbwyntiau cynulleidfaoedd yng Ngogledd Iwerddon yn cael eu deall a’u hadlewyrchu yn y broses o wneud penderfyniadau.

Ymateb y llywodraeth

307. Rydym wedi gweld tystiolaeth bod ymgysylltu â chynulleidfaoedd yng ngwledydd a rhanbarthau’r DU yn flaenoriaeth i’r BBC, a bod gan Fwrdd y BBC fecanweithiau ar waith i gynnal sesiynau ymgysylltu wedi’u targedu gydag aelodau o’r cyhoedd. Rydym hefyd wedi gweld tystiolaeth o sut mae’r ddealltwriaeth a geir o’r gwaith ymgysylltu hwn yn cael ei chynnwys wrth wneud penderfyniadau. Fodd bynnag, mae rhywfaint o’r dryswch ynghylch rolau a chyfrifoldebau yn tynnu sylw at y ffaith nad yw’r BBC yn ddigon tryloyw ynghylch yr ymgysylltu y mae ei Aelodau Gwledydd yn ei wneud â chynulleidfaoedd yn y gwledydd a’r rhanbarthau. Mae’n bwysig bod cynulleidfaoedd yn deall yn glir pa waith ymgysylltu mae Aelodau’r Gwledydd yn ei wneud yn y gwledydd, yn enwedig gan fod ymgysylltu â chynulleidfaoedd yn ddyletswydd sydd wedi’i nodi yn y Siarter, ac mae gan y BBC ddyletswydd gyffredinol i geisio sicrhau’r tryloywder gorau posibl i dalwyr ffi’r drwydded.

308. Mae hefyd yn bwysig bod cynulleidfaoedd yn y gwledydd yn deall sut mae eu hadborth wedi cael ei ystyried. Er mwyn bod yn dryloyw, mae’n bwysig bod y BBC yn parhau i rannu tystiolaeth o sut mae’n ymateb i adborth gan randdeiliaid ar draws gwledydd y DU.

6.5 Rydym yn argymell bod Aelodau Gwledydd y BBC yn cyhoeddi gwybodaeth ôl-weithredol fanylach am yr ymgysylltu y maent wedi’i wneud â chymunedau amrywiol yn y gwledydd, yn ogystal â blaenoriaethau ar gyfer ymgysylltu yn y dyfodol. Yn ddelfrydol, byddai’r wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth am ymgysylltu ag aelodau’r gynulleidfa, sefydliadau cynrychioladol ac arbenigwyr yn y diwydiant. Bydd gwneud hynny’n galluogi cynulleidfaoedd i barhau i ddeall pa waith ymgysylltu sydd wedi digwydd.

Rôl Ofcom fel rheoleiddiwr

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

309. Mae Ofcom wedi nodi amodau yn Nhrwydded Weithredu’r BBC sy’n mynnu bod y BBC yn rhannu gwybodaeth am sut mae’n cyflawni Diben Cyhoeddus 4. Mae’r amodau hyn yn mynnu bod y BBC yn adrodd ar, ymysg pethau eraill, i ba raddau mae wedi gwneud cynnydd tuag at gyrraedd ei dargedau cynrychioli a/neu bortreadu, gan gynnwys ei dargedau ar y sgrin ac ar yr awyr, bodlonrwydd cynulleidfaoedd ac amrywiaeth ei weithlu, a chydymffurfio â’r Cod Ymarfer Comisiynu Amrywiaeth. Mae Ofcom yn adrodd yn flynyddol ar gydymffurfiad y BBC ag amodau ei drwydded ac erthyglau 12 a 13 atodlen 3 i’r Cytundeb Fframwaith. Roedd llawer o randdeiliaid a gyflwynodd dystiolaeth i’r Adolygiad Canol Tymor yn teimlo bod y trefniadau rheoleiddio presennol o ran amrywiaeth yn gweithio’n dda. Fodd bynnag, roedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo y gallai Ofcom gael pwerau gwell i ddal y BBC yn atebol yn well am y cynnydd tuag at ei amcanion amrywiaeth, er enghraifft drwy allu rhoi sancsiwn i’r BBC am beidio â chyflawni ei ymrwymiadau amrywiaeth ei hun.

Ymateb y llywodraeth

310. Fel y nodwyd yn adolygiad Syr David Clementi yn 2016, mae’r gwaith craffu annibynnol a ddarperir gan reoleiddio effeithiol yn bwysig er mwyn dal y BBC i gyfrif am ei berfformiad a sicrhau ei fod yn cyflawni’r rhwymedigaethau a osodwyd arno gan y Siarter. Ar sail y dystiolaeth rydym wedi’i chael, rydym yn credu bod y trefniadau rheoleiddio presennol yn briodol. Mae’n rhaid i’r BBC eisoes adrodd i Ofcom bob blwyddyn ar ei gynnydd tuag at ei rwymedigaethau amrywiaeth, ac mae Ofcom yn defnyddio ei adroddiadau cyhoeddus i ddal y BBC i gyfrif am ei berfformiad o ran amrywiaeth, i nodi meysydd sy’n peri pryder ac i gynghori’r BBC ar sut gall wella.

311. Mae Ofcom wedi defnyddio’r mecanwaith hwn i ofyn i’r BBC wella tryloywder ei adroddiadau ar amrywiaeth drwy rannu gwybodaeth a data ychwanegol ag Ofcom. Mae’r BBC bob amser wedi cydymffurfio â cheisiadau Ofcom am ragor o wybodaeth, ac mae wedi darparu gwybodaeth yn wirfoddol i Ofcom fel cynlluniau i ddiwallu anghenion cynulleidfaoedd llai bodlon yn well, ac i ddarparu data manylach ar amrywiaeth gweithlu’r BBC yn y gwledydd a’r rhanbarthau. Mae’r Drwydded Weithredu newydd nawr yn mynnu bod y BBC yn cyhoeddi’r camau y bydd yn eu cymryd i wella bodlonrwydd grwpiau llai bodlon.

312. Mae’n bwysig bod pwerau rheoleiddio Ofcom yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng bod yn rhy ragnodol a chaniatáu i’r BBC gynnal ei annibyniaeth. Mewn llawer o achosion, mae’n fwy priodol i Ofcom ganiatáu i’r BBC benderfynu drosto’i hun ar y ffyrdd gorau o ddarparu ei allbwn a’i wasanaethau. Ein barn ni yw y byddai rhoi pwerau ychwanegol i Ofcom yn mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n briodol i gylch gwaith Ofcom, ac ni fyddai’n gymesur â’r trefniadau rheoleiddio sydd ar waith ar gyfer darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill.

6.6 Rydym wedi dod i’r casgliad nad oes angen unrhyw bwerau ychwanegol ar Ofcom i reoleiddio rhwymedigaethau’r BBC o ran amrywiaeth, fel rhoi’r gallu i Ofcom roi sancsiwn i’r BBC os na fydd yn cyrraedd y targedau a’r ymrwymiadau y mae wedi’u gosod iddo’i hun.

Pennod 7: Tryloywder

Y Cefndir

313. Yn dilyn Adolygiad o Siarter 2015/16, un o uchelgeisiau’r Siarter bresennol oedd gwella tryloywder y BBC. Felly, mae tryloywder wrth galon cyfrifoldebau’r BBC yn y Siarter. Yn ogystal â gofynion tryloywder penodol sy’n gysylltiedig ag elfennau amrywiol o weithgareddau’r BBC, mae gan y BBC ddyletswydd gyffredinol yn erthygl 12 y Siarter i gadw at safonau uchel o ran bod yn agored a cheisio sicrhau’r tryloywder a’r atebolrwydd gorau posibl. Bwrdd y BBC sy’n gyfrifol am sicrhau bod gan y BBC gynllun ar gyfer sut bydd yn cydymffurfio â’r ddyletswydd gyffredinol.

314. Mae’r pwyslais hwn ar dryloywder hefyd yn llifo i gyfrifoldebau Ofcom fel rheoleiddiwr annibynnol y BBC. Yn dilyn argymhellion Syr David Clementi, mae erthygl 46 o’r Siarter yn mynnu bod Ofcom yn cyhoeddi Fframwaith Gweithredu, sef y fframwaith cyffredinol y mae’r BBC yn gweithredu o’i fewn, ac un neu fwy o Drwyddedau Gweithredu sy’n nodi’n fanwl y rhwymedigaethau sydd ar weithgareddau’r BBC, i helpu i ddal y BBC i gyfrif am ei ddarpariaeth yn yr ardal honno mewn ffordd agored a thryloyw. Mae Erthygl 50 o’r Siarter hefyd yn mynnu bod Ofcom yn rhoi disgrifiad llawn o sut mae’r BBC wedi cyflawni rhai o’r cyfrifoldebau y mae Ofcom yn goruchwylio fel rheoleiddiwr ar eu cyfer.

Cynnydd y BBC

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

315. Fel y dywedodd Ofcom yn ei adolygiad o waith rheoleiddio’r BBC, fel corff sy’n cael ei ariannu gan y cyhoedd, mae’n hanfodol bod y BBC yn nodi sut mae’n diwallu anghenion cynulleidfaoedd ac yn ymateb i’w pryderon. Mae Ofcom wedi codi materion yn rheolaidd ynghylch tryloywder y BBC, gan gynnwys sut mae’n mynegi ei gynlluniau ar gyfer newidiadau i’w wasanaethau, sut mae’n adrodd ar berfformiad, a sut mae’n gwneud penderfyniadau ynghylch safonau cynnwys a delio â chwynion (yn enwedig o ran didueddrwydd dyladwy).

316. Roedd Ofcom hefyd yn cydnabod bod Adolygiad Serota yn nodi’n benodol pa mor bwysig yw gwella tryloywder gweithrediadau’r BBC yn gyffredinol. Roedd yn nodi, fel sefydliad sy’n cael arian cyhoeddus mewn cymdeithas sy’n fwyfwy agored, bod yn rhaid i’r BBC barhau i chwilio am gyfleoedd i wella tryloywder ymhellach

317. Roedd adolygiad Ofcom yn 2022 wedi nodi rhai gwelliannau i dryloywder y BBC ers 2017. Daeth i’r casgliad bod y BBC wedi gwneud blaenoriaethau strategol y Cyfarwyddwr Cyffredinol yn glir yn ei Adroddiad a’i Gyfrifon Blynyddol ar gyfer 2020/21, a’i fod wedi gweld gwell adroddiadau ar iPlayer a Sounds. Ond roedd yr adolygiad hefyd yn ailadrodd pryderon parhaus bod angen i’r BBC wneud llawer mwy i ymgysylltu mewn ffordd ystyrlon a thryloyw â’r cyhoedd, rhanddeiliaid eraill, a gydag Ofcom. Cyhoeddodd Ofcom Drwydded Weithredu wedi’i diweddaru ar gyfer y BBC ym mis Mawrth 2023. Am y tro cyntaf, mae’r Drwydded Weithredu yn mynnu bod y BBC yn adrodd yn gynhwysfawr ar ei gynlluniau a’i berfformiad. Mae’n gosod gofynion llym a manwl sy’n nodi beth mae angen i’r BBC adrodd yn ei gylch, a phryd. Mae’r rhain yn gorfodi’r BBC i gyflwyno gwybodaeth helaeth gyda’i Gynllun Blynyddol am sut bydd yn cyflawni ar gyfer cynulleidfaoedd, gan gynnwys cyfanswm oriau darlledu ac oriau cynnwys newydd, yn ôl genre. Yna, rhaid i’r BBC werthuso a yw wedi cyflawni’r cynlluniau hynny, fel rhan o’i Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol. Bydd adroddiadau’r BBC ar ei ofynion tryloywder o dan y Drwydded Weithredu newydd yn rhan allweddol o asesiad perfformiad Ofcom dros y flwyddyn nesaf. Yn fwyaf diweddar, yn ei chweched adroddiad blynyddol ar y BBC, daeth Ofcom i’r casgliad, wrth i’r BBC drawsnewid, ei bod yn rhaid iddo roi mwy o eglurder i gynulleidfaoedd ynghylch beth mae’n ei wneud a pham, er mwyn helpu cynulleidfaoedd i ddeall y rhesymau dros y newidiadau.

318. Clywsom hefyd wrth gasglu tystiolaeth nad mater o gyhoeddi rhagor o wybodaeth yn unig yw tryloywder. Gall hyn weithiau fod yn wrthgynhyrchiol, er enghraifft, oherwydd gall arwain at gyhoeddi data sy’n rhy gul i allu dod i gasgliadau cadarn, neu gyhoeddi gormod o wybodaeth sy’n gallu bod yn anodd i gynulleidfaoedd.

319. Clywsom fod Adroddiad Blynyddol hir a chynhwysfawr yn ddefnyddiol i rai cynulleidfaoedd sy’n galluogi’r BBC i egluro ei strategaeth, ac i gynulleidfaoedd allu craffu ar y BBC. Fodd bynnag, clywsom hefyd sylwadau y gallai Adroddiad Blynyddol hir a manwl i gynulleidfaoedd eraill arwain yn anfwriadol at gynulleidfaoedd yn teimlo nad ydynt yn gallu ymgysylltu â’r BBC.

Ymateb y llywodraeth

320. Rydym yn cydnabod bod y BBC yn parhau i ystyried sut mae bod yn fwy tryloyw, bod y Bwrdd yn cymryd ei ddyletswyddau yn y Siarter o ddifrif, a bod tystiolaeth o welliannau fel y nodir uchod. Fodd bynnag, mae tystiolaeth sylweddol hefyd bod angen i’r BBC fynd ymhellach. Pan fydd y BBC yn mynd ymhellach ar dryloywder, dylai barhau i feddwl am y ffordd orau o deilwra ei ymdrechion i sicrhau bod cynulleidfaoedd yn ymgysylltu’n effeithiol. Mae angen i unrhyw dryloywder neu newidiadau ychwanegol i’r ffordd y mae gwybodaeth yn cael ei gwneud i’r cyhoedd arwain at fanteision gwirioneddol – rhaid iddi fod o werth i’r rheini y mae wedi’i fwriadu ar eu cyfer.

321. Nid oes gennym unrhyw wybodaeth ynghylch a yw’r gofynion tryloywder newydd yn Nhrwydded Weithredu fodern Ofcom y BBC wedi cael effaith sylweddol gan mai dim ond ers 1 Ebrill 2023 maen nhw ar waith. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl gweld asesiad o hynny wrth iddo ddechrau adrodd ar gydymffurfiad y BBC â’r Drwydded Weithredu yn ei chyfanrwydd, er enghraifft fel rhan o’i adroddiad blynyddol nesaf ar y BBC.

Cyfleu newidiadau i wasanaethau i gynulleidfaoedd

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

322. Yn ystod cam casglu tystiolaeth yr adolygiad hwn, cyhoeddodd Ofcom lythyrau a gafodd eu hanfon rhyngddo ef a’r BBC am radio lleol a newyddion y byd ochr yn ochr â chyhoeddi’r Drwydded Weithredu wedi’i moderneiddio. Roedd llythyr Ofcom yn adlewyrchu cyhoeddiad y BBC ym mis Gorffennaf 2022 i greu un sianel newyddion 24 awr i ddisodli sianel bresennol BBC News UK a BBC World News ym mis Gorffennaf 2022, a chynlluniau’r BBC a gyhoeddwyd yn fwy diweddar i drawsnewid ei wasanaethau lleol yn Lloegr, gan gynnwys newidiadau i wasanaethau radio lleol y BBC. Roedd y llythyr yn nodi bod Ofcom yn siomedig oherwydd bod diffyg manylder ac eglurder yng nghyhoeddiadau’r BBC ynghylch y newidiadau i’w ddarpariaeth o gynnwys a newyddion lleol “Mae diffyg gwybodaeth bwysig wedi arwain at lawer o ansicrwydd i gynulleidfaoedd sydd yn ansicr ynghylch beth fydd y newidiadau’n ei olygu’n ymarferol i’r gwasanaethau maen nhw’n eu defnyddio. Rydym wedi gorfod gofyn am lawer iawn o wybodaeth ychwanegol gan y BBC er mwyn deall y newidiadau ac rydym yn credu y gellid bod wedi osgoi rhywfaint o hyn petai’r BBC wedi nodi cynlluniau llawer cliriach o’r dechrau.”

323. Yn yr un modd, mynegodd Gweinidogion DCMS yn nau Dŷ’r Senedd yn y blwch dosbarthu eu siom ynghylch y newidiadau arfaethedig i wasanaethau radio lleol y BBC. Cafwyd sawl enghraifft hefyd dros gyfnod y Siarter lle mae diffyg tryloywder effeithiol wrth ymgysylltu â’r cyhoedd wedi cael ei amlygu yn y cyfryngau a chan Seneddwyr. Er enghraifft, canfyddiadau bod y BBC wedi methu ag egluro sut roedd yn delio â chwynion am y digwyddiad gwrth-Semitaidd ar fws yn Oxford Street ddiwedd 2021 yn wyneb pwysau cyhoeddus sylweddol a gafodd llawer o sylw yn y cyfryngau. Arweiniodd y cyhoeddiad ynghylch cau BBC Singers at drafodaethau Seneddol ac adroddiadau yn y cyfryngau yn mynegi pryderon ynghylch sut roedd y penderfyniad wedi cael ei wneud a’i gyfleu, gan gynnwys yn fewnol yn y BBC.

Ymateb y llywodraeth

324. Wrth ystyried sut mae’r BBC yn cyfathrebu â chynulleidfaoedd, ein barn ni yw y dylid dal y BBC i safon uwch na sefydliadau eraill o ystyried swm yr arian cyhoeddus mae’n ei gael. Mae angen i’r safon uwch hon fynd y tu hwnt i gyhoeddi mwy o ddata a gwybodaeth, er mwyn cyfathrebu’n rhwydd ac yn agored â chynulleidfaoedd. Mae gan Fwrdd y BBC gyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau bod y BBC yn cyfleu newidiadau sy’n effeithio ar gynulleidfaoedd yn effeithiol i’r cynulleidfaoedd hynny. Rhaid i hyn gyd-fynd â chyfathrebu’r un mor effeithiol â’i weithlu. Mae’r dystiolaeth a gafwyd yn dangos nad yw’r BBC bob amser wedi cyflawni hyn.

7.1 Rydym yn argymell bod y BBC yn parhau i ddysgu o brofiadau diweddar lle mae cyhoeddiadau am newidiadau i wasanaethau wedi arwain at feirniadaeth am ddull gweithredu’r BBC o ran tryloywder.

7.2 Rydym hefyd yn argymell bod y BBC yn cyhoeddi manylion ei strategaeth ar gyfer cyfathrebu â chynulleidfaoedd sy’n egluro gwelliannau i’w ddull cyfathrebu sydd eisoes wedi cael ei wneud, ond hefyd sut mae’n nodi unrhyw newidiadau sydd eu hangen er mwyn i gynulleidfaoedd a staff allu bod yn hyderus y bydd newidiadau i wasanaethau yn y dyfodol a’u heffaith yn cael eu hegluro’n glir.

Deall anghenion cynulleidfaoedd

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

325. Wrth gasglu tystiolaeth, gwnaeth llawer o randdeiliaid gynigion ynghylch sut gallai’r BBC wella ei dryloywder mewn ffyrdd penodol i helpu cynulleidfaoedd i’w ddal i gyfrif. Roedd yr holl gynigion hyn yn ymwneud â themâu penodol unigol mewn penodau blaenorol. Mae ymchwil Ofcom yn awgrymu bod materion canfyddiad ynghylch didueddrwydd y BBC y gallai tryloywder mwy effeithiol helpu i fynd i’r afael â nhw.

Ymateb y llywodraeth

326. Mae’n bwysig bod y rheini sy’n talu ffi’r drwydded nid yn unig yn cael cyfle i siapio’r gwasanaethau mae’r BBC yn eu darparu, ond eu bod hefyd yn cael cyfle i ddweud wrth y BBC sut yr hoffent i’r BBC fod yn fwy tryloyw.

7.3 Rydym yn argymell bod y BBC yn edrych ar ba wybodaeth y mae aelodau’r gynulleidfa’n ei hystyried yn werthfawr er mwyn dal y BBC i gyfrif, gan gynnwys drwy ymgysylltu â’r gynulleidfa. Rydym yn argymell bod y BBC yn cyhoeddi gwybodaeth am yr hyn mae wedi’i glywed yn y sesiynau hyn a sut mae’n bwriadu ymateb, i ddangos ei fod yn ystyried yr egwyddor bod aelodau’r gynulleidfa yn dal y BBC i gyfrif o ddifrif. Byddwn yn asesu tryloywder y BBC yn y wybodaeth mae’n ei darparu i gynulleidfaoedd fel rhan o’r Adolygiad o’r Siarter.

Tryloywder Ofcom fel rheoleiddiwr

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

327. Ni chawsom unrhyw adborth penodol am dryloywder cyffredinol Ofcom fel rheoleiddiwr. Mae Ofcom yn nodi ei weithgarwch rheoleiddio mewn perthynas â’r BBC, lle bo hynny’n briodol, mewn nifer o ffyrdd gwahanol:

  • Pan fydd Ofcom yn cynnal prosiect BBC ar ei liwt ei hun, bydd yn nodi hyn yn ei Gynllun Gwaith Blynyddol ac yn adrodd ar y cynnydd yn ei adroddiad blynyddol ar berfformiad y BBC

  • Pan fydd amseru’n golygu nad yw’n bosibl cynnwys prosiect penodol yn ei Gynllun Gwaith Blynyddol, bydd Ofcom yn bwriadu cyhoeddi cwmpas y gwaith hwnnw y mae’n bwriadu ei wneud ar wahân

  • Mae achosion hefyd lle nad yw Ofcom mewn sefyllfa yn syth ar ôl cyhoeddiad gan y BBC i ddweud yn union pa gamau y gallai eu cymryd, er enghraifft, efallai y bydd yn rhaid iddo gael rhagor o wybodaeth gan y BBC yn gyntaf. Fodd bynnag, bydd yn aml yn cyfeirio at y camau a gymerwyd wrth roi’r wybodaeth ddiweddaraf am fater penodol, fel yn ei lythyr am newidiadau i wasanaethau’r BBC a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r Drwydded Weithredu wedi’i diweddaru ym mis Mawrth 2023.

Ymateb y llywodraeth

328. Mae’n bwysig bod Ofcom yn sicrhau bod cynulleidfaoedd a rhanddeiliaid yn deall pam a sut mae’n dal y BBC i gyfrif. Mae angen i hyn gynnwys sut mae holl elfennau gwaith Ofcom yn cyd-fynd â’i gilydd i greu cyfanwaith cydlynol, a’r pwyntiau y gall ddod i gasgliadau pellach am berfformiad y BBC ar sail ymchwil newydd. Mae angen iddo hefyd gynnwys yr effaith y mae gwaith rheoleiddio Ofcom yn ei chael. Nodwn fod Ofcom yn egluro ei gyfrifoldebau, ei raglen waith rheoleiddio a’i flaenoriaethau, a’r canlyniadau cysylltiedig, mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol, yn dibynnu ar y sefyllfa. Nid ydym yn bwriadu argymell newidiadau penodol i’r dull hwn, gan ein bod yn cydnabod nad oes un dull sy’n addas i bob achos wrth egluro gwaith o’r fath.

7.4 Rydym yn argymell bod Ofcom yn parhau i gynnal lefel uchel o dryloywder o ran sut mae’n craffu ar y BBC, gan egluro ar y dechrau sut mae’n bwriadu archwilio mater penodol, sut bydd hynny’n edrych yn ymarferol ee y mecanweithiau a’r prosesau rheoleiddio y bydd yn eu defnyddio, a’r amserlenni disgwyliedig ar gyfer cwblhau.

Pennod 8: Y Camau Nesaf

329. Mae’r Llywodraeth yn credu bod y BBC yn sefydliad Prydeinig hollbwysig ac rydym am iddo barhau i gyfrannu at fywyd ym Mhrydain. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r BBC ac Ofcom i sicrhau bod y BBC yn gallu addasu i dirwedd ddarlledu sy’n newid a pharhau i fod yn gynaliadwy am ddegawdau i ddod. Felly, mae’r Adolygiad Canol Tymor yn garreg filltir bwysig yng nghynllun ehangach y Llywodraeth i ddiwygio’r BBC, gan roi cyfle amserol i asesu effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu a rheoleiddio’r sefydliad ar hanner ffordd drwy gyfnod y Siarter.

Argymhellion a Diweddaru’r Cytundeb Fframwaith

330. Mae’r Adolygiad Canol Tymor yn gwneud 39 o argymhellion i’r BBC ac Ofcom. Gyda’i gilydd, bydd y pecyn yn cefnogi gwelliannau yn y ffordd mae trefniadau llywodraethu a rheoleiddio’r BBC yn gweithio i hwyluso’r ffordd mae’r BBC yn cyflawni ei Genhadaeth a’i Ddibenion Cyhoeddus. Mae’r rhan fwyaf o’r argymhellion hyn i’r BBC ac Ofcom fwrw ymlaen â nhw nawr. Mae’r Llywodraeth yn disgwyl iddynt gael eu rhoi ar waith yn fuan, a bydd yn gwirio eu cynnydd drwy’r gwaith ymgysylltu y mae’r DCMS yn ei wneud yn rheolaidd â’r ddau sefydliad. Bydd angen i’r BBC ac Ofcom hefyd ystyried sut maen nhw’n adrodd yn gyhoeddus ar gyflawni’r diwygiadau hyn er mwyn i’r rheini sy’n talu ffi’r drwydded a Senedd y Deyrnas Unedig gael gwybod am y cynnydd.

331. Mae argymhellion penodol sy’n gofyn am weithredu drwy newidiadau i’r Cytundeb Fframwaith, y gellir eu gwneud yn ystod cyfnod y Siarter, yn amodol ar gytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol a’r BBC/Ofcom. Er mwyn gweithredu argymhellion perthnasol yr Adolygiad Canol Tymor, bydd y Cytundeb Fframwaith yn cael ei ddiweddaru i wneud y canlynol:

  • Mynnu bod Ofcom yn rheoleiddio deunydd gwasanaeth cyhoeddus ar-lein y BBC

  • Rhoi cyfrifoldeb penodol i Fwrdd y BBC dros oruchwylio’r ffordd y mae Gweithrediaeth y BBC yn delio â chwynion

  • Mynnu bod Ofcom yn adolygu sampl gynrychioladol o benderfyniadau’r Uned Cwynion Gweithredol yn rheolaidd yng Ngham 2 sydd heb gael eu huwchgyfeirio i Ofcom, ac adrodd yn gyhoeddus ar grynodeb o’i ganfyddiadau

  • Rhoi disgresiwn i Ofcom ynghylch a ddylid cynnal Asesiad Cystadleuaeth y BBC neu asesiad byrrach yn dilyn Prawf Budd y Cyhoedd y BBC

  • Rhoi’r pŵer i Ofcom ddefnyddio asesiad byrrach i gymeradwyo newid i’r BBC a

  • Sicrhau nad yw gwasanaethau newydd y BBC yn cael eu hystyried yn newidiadau ‘sylweddol’ yn awtomatig

332. Mae’r DCMS, y BBC ac Ofcom yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu’r gofynion cyfreithiol newydd hyn, a bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi’r newidiadau cyn gynted â phosibl.

Edrych i’r Dyfodol i’r Adolygiad o’r Siarter

333. Bydd yr Adolygiad nesaf o’r Siarter yn benllanw map y Llywodraeth ar gyfer diwygio’r BBC cyn i’r Siarter bresennol ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2027. Bydd yn broses llawer ehangach na’r Adolygiad Canol Tymor, gan ystyried Cenhadaeth a Dibenion Cyhoeddus y BBC a Chyllid y BBC.

334. Serch hynny, mae’r Adolygiad Canol Tymor wedi bod yn broses ddefnyddiol ar gyfer cyflwyno’r diwygiadau angenrheidiol nawr, ond hefyd ar gyfer galluogi’r Llywodraeth, y BBC ac Ofcom i baratoi’n well ar gyfer yr Adolygiad o’r Siarter. Mae wedi nodi nifer o feysydd arwyddocaol y bydd angen eu hystyried ymhellach yn yr Adolygiad o’r Siarter, i sicrhau bod y BBC ac Ofcom wedi parhau ar hyd taith o welliant parhaus.

Sut bydd yr Adolygiad Canol Tymor yn cyfrannu at yr Adolygiad o’r Siarter

335. Mae’r Adolygiad Canol Tymor wedi dwyn ynghyd dystiolaeth gan amrywiaeth eang o randdeiliaid, ac wedi hwyluso sgyrsiau adeiladol, agored a gonest rhwng y Llywodraeth, y BBC ac Ofcom. Mae hyn wedi arwain at argymhellion ar gyfer newid sylweddol ac ystyrlon. Mae wedi bod yn ymarfer gwerthfawr, a bydd yn parhau i fod yn ddefnyddiol wrth i ni baratoi ar gyfer yr Adolygiad o’r Siarter. Gan adeiladu ar yr hyn rydym wedi’i glywed gan randdeiliaid a’n hymchwil ein hunain drwy gydol y broses, bydd yr hyn a ddysgir o’r Adolygiad Canol Tymor yn llywio’r Adolygiad nesaf o’r Siarter mewn tair ffordd hollbwysig.

336. Yn gyntaf, wrth gasglu tystiolaeth, daethom ar draws rhai materion nad oeddent o fewn cwmpas yr Adolygiad hwn, fel y’u diffinnir gan ei Gylch Gorchwyl yn unol â’r Siarter. Er enghraifft, yn y thema Amrywiaeth, clywsom bryderon nad yw’r BBC wedi datganoli digon ar ei brosesau gwneud penderfyniadau i ffwrdd o Lundain, ac yn y thema Cystadleuaeth ac Effaith ar y Farchnad, clywsom gan rai rhanddeiliaid a oedd yn teimlo y dylai’r BBC gael ei gyfyngu ymhellach yn yr effaith y gall ei chael ar y farchnad.

337. Gan fod y rhain yn bwyntiau pwysig a godwyd gan randdeiliaid, bydd y Llywodraeth yn edrych arnynt fel rhan o’r Adolygiad nesaf o’r Siarter. Bydd yr Adolygiad o’r Siarter yn gyfle i asesu cynnydd y BBC ar ei strategaeth ‘Ar Draws y DU’, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, gan gynnwys edrych ar ba mor llwyddiannus mae’r BBC wedi cyflawni cynlluniau i symud pŵer a phenderfyniadau oddi wrth Lundain ac i’r gwledydd a’r rhanbarthau. Mae rhagor o fanylion am sut rydym yn bwriadu edrych ar faterion sy’n codi o’r thema Cystadleuaeth ac Effaith ar y Farchnad isod.

338. Yn ail, gwnaethom nodi rhai meysydd lle mae’r BBC wrthi’n rhoi newidiadau ar waith ac, ar adeg y Adolygiad Canol Tymor, roedd hi’n rhy gynnar i’w gwerthuso’n llawn.

339. Yn benodol, yn y thema Llywodraethu Masnachol a Rheoleiddio, daethom i’r casgliad bod adnewyddu Bwrdd Masnachol y BBC yn galonogol. Fodd bynnag, gan fod y newidiadau’n dal i wreiddio, nid oedd yr Adolygiad Canol Tymor yn gallu asesu effeithiolrwydd yr adnewyddu hwn. Fel rhan o’r Adolygiad o’r Siarter, byddwn felly’n ailedrych ar Fwrdd Masnachol y BBC, ac yn asesu a yw symud i Fwrdd mwy cytbwys sydd â mwy o arbenigedd masnachol wedi cefnogi cynlluniau’r BBC i dyfu ei gangen fasnachol.

340. O ran y thema Safonau Golygyddol a Didueddrwydd, rydym yn nodi fod y BBC bellach wedi cwblhau’r gwaith o roi ei gynllun gweithredu 10 pwynt ar waith. Rhaid i’r Bwrdd sicrhau bod y cynnydd yn cael ei adrodd yn barhaus, yn fanwl ac yn brydlon. O ystyried pwysigrwydd didueddrwydd yn y contract cymdeithasol rhwng y BBC a’r rheini sy’n talu ffi’r drwydded, a’r angen i’r BBC wneud cynnydd clir a pharhaus ar ei gynllun gweithredu 10 pwynt, bydd y Llywodraeth yn asesu’r cynnydd yn yr Adolygiad o’r Siarter. Bydd hyn yn cynnwys asesiad o sut mae’r BBC wedi ymateb i her Ofcom bod angen iddo barhau i ganolbwyntio ar ddidueddrwydd er mwyn cynnal ymddiriedaeth cynulleidfaoedd. Byddwn hefyd yn asesu sut mae ymrwymiadau’r cynllun yn cael eu gwreiddio ym mhrosesau ehangach y sefydliad yn y tymor hwy, y tu hwnt i gyflawni’r cynllun ei hun. Bydd hefyd yn bwysig monitro’n ofalus effaith gweithredu’r canllawiau newydd ar y cyfryngau cymdeithasol, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2023.

341. Yn y thema Amrywiaeth, gwelsom dystiolaeth nad yw’r BBC yn adlewyrchu amrywiaeth barn a syniadau ar draws y sefydliad yn gywir. Mae’r BBC ei hun wedi cydnabod bod hwn yn faes i’w wella, ac mae’n ystyried ffyrdd y gall weithredu i sicrhau bod amrywiaeth o ran meddwl a barn yn cael ei adlewyrchu yn ei weithlu. Mae hyn yn cynnwys ystyried ffyrdd o sicrhau bod y BBC yn recriwtio pobl â safbwyntiau amrywiol, a buddsoddi yn y cynllun Ar Draws y DU i sicrhau bod barn a safbwyntiau pobl y tu allan i Lundain yn cael eu hadlewyrchu. Mae’n rhy gynnar i werthuso effaith newidiadau arfaethedig y BBC yn y maes hwn. Fel rhan o’r Adolygiad o’r Siarter, bydd y Llywodraeth hefyd yn asesu a yw cynlluniau’r BBC i gynyddu amrywiaeth barn a safbwyntiau ar draws y sefydliad wedi bod yn effeithiol o ran mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd gan randdeiliaid yn ystod yr Adolygiad Canol Tymor.

342. Yn olaf, cawsom amrywiaeth eang o adborth yn ystod y broses casglu tystiolaeth a oedd yn tynnu sylw at gwestiynau dilys ynghylch a yw Cenhadaeth a Dibenion Cyhoeddus presennol y BBC yn cael eu graddnodi yn y ffordd sy’n cyflawni orau i gynulleidfaoedd. Byddwn yn dychwelyd at y cwestiynau hyn yn yr Adolygiad o’r Siarter pan fyddwn yn cynnal gwerthusiad cynhwysfawr o Genhadaeth a Dibenion Cyhoeddus y BBC.

343. Yn dilyn casgliadau’r thema Llywodraethu, bydd y Llywodraeth yn edrych eto ar drefniadau llywodraethu’r BBC ac yn gwneud asesiad arall ynghylch pa mor effeithiol maent yn gweithio, gan ymgorffori tystiolaeth bellach o hanner olaf cyfnod y Siarter. Bydd hyn yn cynnwys asesu cynnydd y BBC yn erbyn canlyniadau Adolygiadau Mewnol ac Allanol o Effeithiolrwydd Bwrdd y BBC.

344. Yn dilyn casgliadau’r thema Cwynion, bydd y Llywodraeth yn edrych eto ar fodel BBC yn Gyntaf i lywio ein hasesiad ynghylch a oes gan y BBC y model cwynion cywir ar waith. Bydd hyn yn cael ei lywio gan ganlyniadau ymchwil diweddaraf Ofcom.

345. Yn olaf, yn dilyn casgliadau’r thema Cystadleuaeth ac Effaith ar y Farchnad, bydd y cydbwysedd cywir rhwng gallu’r BBC i ddarparu ar gyfer pob cynulleidfa a chefnogi’r economi greadigol yn ffocws pwysig. Byddwn yn edrych ar rôl y BBC yn y farchnad ehangach, gan gynnwys sut gallai fod angen i’r fframwaith rheoleiddio esblygu i adlewyrchu newidiadau mewn technoleg ac ymddygiad defnyddwyr, fel rhan o’n gwaith yn yr Adolygiad nesaf o’r Siarter. Rydym wedi nodi bod yn rhaid i’r BBC ddangos yn glir sut mae’n cydbwyso anghenion cynulleidfaoedd yn effeithiol, a’r effaith ar gystadleuwyr wrth wneud penderfyniadau ynghylch sut mae ei wasanaethau a’i allbwn yn unigryw. Gan fyfyrio ar hyn ac ar y dystiolaeth rydym wedi’i chael, bydd natur unigryw’r BBC yn agwedd allweddol ar ein gwaith cyn yr Adolygiad nesaf o’r Siarter.

Atodiad A: Cylch Gorchwyl

Mae’r Cylch Gorchwyl hwn wedi cael ei lunio gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ar ôl ymgynghori â’r BBC, Ofcom a phob un o’r Gweinyddiaethau Datganoledig yn unol ag erthygl 57 o’r Siarter Frenhinol.

Diben

Mae’r BBC wedi’i sefydlu drwy Siarter Frenhinol. Yn dilyn yr Adolygiad o’r Siarter yn 2015/16, sefydlwyd trefniadau llywodraethu a rheoleiddio newydd ar gyfer y BBC: byddai’r gwaith o lywodraethu’r BBC yn cael ei gynnal gan Fwrdd unedol newydd dan erthygl 19 o’r Siarter newydd, a byddai’r gwaith rheoleiddio’n cael ei drosglwyddo i Ofcom, rheoleiddiwr annibynnol, dan erthygl 44.

Mae Erthygl 57 o’r Siarter yn caniatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gynnal Adolygiad Canol Tymor sy’n canolbwyntio ar drefniadau llywodraethu a rheoleiddio’r BBC. Rhaid cwblhau’r Adolygiad Canol Tymor rhwng 2022 a 2024.

Nod yr adolygiad hwn yw archwilio ac asesu pa mor effeithiol yw trefniadau llywodraethu a rheoleiddio’r BBC hanner ffordd drwy gyfnod Siarter y BBC.

Amcanion

Amcanion yr Adolygiad Canol Tymor yw:

  1. Archwilio a yw’r trefniadau llywodraethu a sefydlwyd yn ystod yr Adolygiad o’r Siarter 2015/16 ac sydd wedi’u hymgorffori yn y Siarter a’r Cytundeb Fframwaith presennol yn effeithiol o ran galluogi’r BBC i gyflawni ei Genhadaeth a’i Ddibenion Cyhoeddus.

  2. Archwilio a yw’r trefniadau rheoleiddio a sefydlwyd yn ystod Adolygiad o’r Siarter 2015/16 ac a ymgorfforwyd yn y Siarter a’r Cytundeb Fframwaith presennol yn effeithiol o ran galluogi’r BBC i gyflawni ei Genhadaeth a’i Ddibenion Cyhoeddus ac adolygu’r dystiolaeth ynghylch sut mae sicrhau bod Ofcom yn gallu dal y BBC yn atebol yn llwyddiannus.

  3. Gwneud argymhellion, fel y bo’n briodol ac yn ôl yr angen, ar gyfer newidiadau i’r trefniadau hyn yn ystod cyfnod presennol y Siarter, i’w hystyried ymhellach yn yr Adolygiad nesaf o’r Siarter.

Wrth gynnal yr Adolygiad Canol Tymor hwn, mae’r Llywodraeth yn parhau i ymrwymo i gynnal annibyniaeth y BBC ac Ofcom.

Cwmpas ac ystyriaethau allweddol

Cwmpas yr adolygiad hwn yw ystyried sut mae’r newidiadau allweddol i drefniadau llywodraethu a rheoleiddio’r BBC a wnaed drwy’r Siarter bresennol wedi cael eu rhoi ar waith, ac yn benodol, a ydynt wedi llwyddo i gyflawni Cenhadaeth a Dibenion Cyhoeddus y BBC yn effeithiol ar draws y DU, gan gynnwys pob un o’i Gwledydd ac yn fyd-eang, cyflawni Dyletswyddau Cyffredinol y BBC yn llwyddiannus a bod swyddogaethau penodol Bwrdd y BBC ac Ofcom fel y nodir yn y Siarter a’r Cytundeb Fframwaith wedi cael eu cyflawni. Wrth ystyried y materion hyn, mae’n bosibl y bydd yr adolygiad yn edrych ar arferion gorau o ran rheoleiddio a llywodraethu. Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio’n benodol ar y materion canlynol:

  • Safonau golygyddol a didueddrwydd: asesu effeithiolrwydd mecanweithiau llywodraethu’r BBC (gan gynnwys newidiadau a wnaed yng ngoleuni Adolygiad Serota) o ran sicrhau cydymffurfiad â’i safonau golygyddol gan gynnwys gofynion didueddrwydd, a’r trefniadau rheoleiddio ar gyfer gorfodi safonau cynnwys y BBC
  • Cwynion: y ffordd mae’r BBC yn delio â chwynion drwy ei system BBC yn Gyntaf, yr Uned Cwynion Gweithredol, tryloywder y broses datrys cwynion, a fframwaith Ofcom ar gyfer asesu cwynion y BBC fel rhan o sicrhau goruchwyliaeth effeithiol o’r BBC a’i berthynas â’r rheini sy’n talu ffi’r drwydded
  • Llywodraethu a rheoleiddio masnachol: a yw trefniadau llywodraethu a rheoleiddio is-gwmnïau masnachol y BBC yn sicrhau bod is-gwmnïau masnachol y BBC yn gweithredu’n effeithiol yn unol â rhwymedigaethau ei Siarter ac yn cefnogi gallu’r BBC i gynyddu refeniw i gefnogi ei weithgareddau gwasanaeth cyhoeddus
  • Cystadleuaeth ac effaith ar y farchnad: gwerthuso sut mae’r BBC ac Ofcom yn asesu effaith y BBC ar y farchnad a gwerth cyhoeddus y BBC mewn marchnad sy’n datblygu a sut mae hynny’n berthnasol i ecoleg cyfryngau ehangach y DU, gan gynnwys mewn perthynas â radio masnachol a sectorau newyddion lleol a gwneuthurwyr a dosbarthwyr cynnwys eraill
  • Amrywiaeth: gwerthuso pa mor dda mae trefniadau llywodraethu’r BBC yn cyflawni’r ddyletswydd i’r BBC a’i allbwn adlewyrchu’r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, gan gynnwys sut mae’n sicrhau bod safbwyntiau a buddiannau amrywiol yn cael eu hystyried, a’i ddyletswydd i ffurfio partneriaethau â sefydliadau eraill ledled y DU, a hefyd i ba raddau mae Ofcom yn rheoleiddio’r gofynion hyn
  • Tryloywder: asesu’r ffordd mae mecanweithiau llywodraethu’r BBC yn cefnogi dyletswydd y BBC i ddangos safonau uchel o ran bod yn agored ac yn dryloyw wrth adrodd ar gynnydd y BBC ar ymrwymiadau a pherfformiad allweddol o ran y themâu uchod, ac i ba raddau mae Ofcom yn rheoleiddio’r tryloywder hwnnw

Fel y nodir yn erthygl 57 (4) y Siarter, rhaid i’r Adolygiad Canol Tymor hefyd ystyried unrhyw adolygiadau perthnasol a gynhaliwyd gan Ofcom o dan erthygl 51 o’r Siarter (hy adolygiad Ofcom o waith rheoleiddio’r BBC), a’i asesiad o berfformiad y BBC dros gyfnod y Siarter hyd yma yn ei Adroddiad Blynyddol ar y BBC 2020-2021. Ni ddylai hyn achosi oedi diangen wrth weithredu unrhyw newidiadau a gynigir o ganlyniad i adolygiad Ofcom.

Fel y nodir yn y Siarter, mae cwmpas yr Adolygiad Canol Tymor yn gyfyngedig a rhaid iddo beidio ag ystyried Cenhadaeth y BBC; Dibenion Cyhoeddus y BBC; neu fodel ariannu ffi’r drwydded y BBC ar gyfer cyfnod y Siarter hon.

Proses

Fel sy’n ofynnol gan y Siarter, mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi ymgynghori â’r BBC, Ofcom a gweinidogion y gweinyddiaethau datganoledig wrth lunio’r Cylch Gorchwyl hwn.

Bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal gan swyddogion o’r DCMS.

Bydd y DCMS yn gofyn am wybodaeth a chymorth arall gan y BBC ac Ofcom mewn perthynas â’r adolygiad. Bydd y DCMS hefyd yn gofyn am wybodaeth gan drydydd partïon penodol fel sy’n briodol, fel cyrff rhanddeiliaid allweddol sydd â diddordeb yn y ffordd mae’r BBC yn cael ei lywodraethu a’i reoleiddio, gan gynnwys y rheini sydd wedi’u lleoli yng ngwledydd y DU. Mae’n bosibl y bydd y DCMS hefyd yn ystyried comisiynu ymchwil allanol yn ôl yr angen.

Bydd y DCMS yn gweithio gyda’r BBC, Ofcom a’r Gweinyddiaethau Datganoledig drwy gydol yr Adolygiad Canol Tymor, a bydd yn ymgynghori â nhw ar y casgliadau cyn i’r adolygiad gael ei gwblhau. Y gweinidogion fydd yn gyfrifol am y casgliadau terfynol a’r argymhellion cysylltiedig. Bydd angen i’r Llywodraeth a’r BBC gytuno ar unrhyw ddiweddariadau dilynol i’r Cytundeb Fframwaith, ynghyd â mewnbwn Ofcom lle bo hynny’n berthnasol i’w gylch gwaith.

Yn ogystal â’r Cylch Gorchwyl hwn, bydd gohebiaeth berthnasol a chanlyniad yr Adolygiad Canol Tymor ar gael i’r cyhoedd.

Bydd unrhyw ddeunydd arall, gan gynnwys manylion cyflwyniadau unigol gan randdeiliaid a nodiadau unrhyw drafodaethau dilynol gyda rhanddeiliaid yn aros yn gyfrinachol oni chytunir arno i’w gyhoeddi gan Weinidogion y DCMS a’r sefydliadau perthnasol.

Amser

Byddwn yn ceisio cwblhau’r adolygiad yn gyflym, o fewn 12 mis.

Canlyniadau

Daw’r adolygiad i ben gyda chyhoeddiad yn crynhoi’r dystiolaeth mewn perthynas â’r ffordd y mae’r BBC yn cael ei lywodraethu a’i reoleiddio ar hyn o bryd, ac yn nodi casgliadau’r Llywodraeth.

Gall yr adroddiad wneud argymhellion ar gyfer newidiadau i drefniadau llywodraethu a rheoleiddio’r BBC fel y nodir yn y Siarter a’r Cytundeb Fframwaith.

Atodiad B: Rhestr o’r rhanddeiliaid a fu’n rhan o’r Adolygiad Canol Tymor

Cafodd yr Adolygiad Canol Tymor dystiolaeth gan y rhanddeiliaid canlynol:

  • Y BBC a’r rheini sydd â phrofiad blaenorol o strwythur llywodraethu a rheoleiddio’r BBC
  • Ofcom
  • Llywodraeth Cymru
  • Llywodraeth yr Alban
  • The Northern Ireland Department for Communities
  • Pwyllgor Cynghori Lloegr, Ofcom
  • Pwyllgor Cynghori Cymru, Ofcom
  • Pwyllgor Cynghori’r Alban, Ofcom
  • Pwyllgor Cynghori Gogledd Iwerddon, Ofcom
  • Y Gymdeithas Fasnachol, Ar-Galw a Darlledu (COBA)
  • Underlying Health Condition
  • Hartswood Films
  • Directors UK
  • Voice of the Listener and Viewer (VLV)
  • News-Watch
  • Disability Action
  • MG ALBA
  • ITV plc
  • News UK
  • Radiocentre
  • News Media Association (NMA)
  • Newsquest Media Group
  • National World plc
  • Iliffe Media Group
  • Midlands News Association
  • Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC)
  • Audio UK
  • Scottish Newspaper Society
  • Social Mobility Foundation
  • Broadcasting, Entertainment, Communications and Theatre Union (BECTU)
  • Professional Publishers Association (PPA)
  • Baylis Media ltd
  • Y Gynghrair Cynhyrchwyr Sinema a Theledu (PACT)
  • BT Group plc
  • Sky Group ltd
  • Amrywiaeth eang o academyddion ac arbenigwyr pwnc

Hoffem ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i lywio’r Adolygiad Canol Tymor am eu cyfraniadau.

Atodiad C: Rhestr o gasgliadau ac argymhellion yr Adolygiad Canol Tymor

Llywodraethu

1.1 Rydym wedi dod i’r casgliad bod model y bwrdd unedol wedi cael ei weithredu’n effeithiol a’i fod yn gweithio’n dda. Gellir mynd i’r afael â materion a nodwyd yn ystod yr Adolygiad Canol Tymor yn y fframwaith llywodraethu presennol.

1.2 Rydym yn argymell bod y Bwrdd yn adolygu’r wybodaeth y mae’n ei chael yn rheolaidd er mwyn iddo barhau i wneud y mwyaf o’i allu i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar gydbwysedd cywir o wybodaeth.

1.3 Rydym wedi dod i’r casgliad bod strwythur yr is-bwyllgorau yn ychwanegu gwerth, gyda phwerau dirprwyedig clir gan y Bwrdd, ac mae mwyafrif helaeth y pwyllgorau’n cyflawni’n effeithiol.

1.4 Rydym wedi dod i’r casgliad bod y Bwrdd yn cyflawni ei gyfrifoldebau adrodd yn effeithiol.

1.5 Rydym hefyd yn croesawu’r adborth cadarnhaol a gafwyd am y broses gynefino ar gyfer Aelodau Anweithredol newydd.

1.6 Rydym yn argymell bod Bwrdd y BBC, gan gynnwys yr Aelodau Anweithredol, yn chwarae rhan weithredol yn y gwaith o fonitro effaith gwaith i sicrhau bod y Bwrdd yn ddigon gweladwy i staff gweddill y sefydliad.

1.7 Rydym yn argymell bod y BBC yn cyhoeddi gwybodaeth i egluro sut mae’n sicrhau bod y broses a’r polisi chwythu’r chwiban golygyddol yn parhau i gyflawni’n effeithiol.

1.8 Rydym yn argymell bod Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC yn parhau i grynhoi casgliadau adolygiadau effeithiolrwydd allanol y Bwrdd yn y dyfodol, ac yn crynhoi casgliadau adolygiadau effeithiolrwydd mewnol y Bwrdd yn y dyfodol, ac yn cadarnhau sut bydd yr argymhellion yn cael eu datblygu.

1.9 Byddwn yn edrych eto ar sut mae trefniadau llywodraethu’r BBC wedi esblygu, a sut mae’r BBC wedi gwerthuso effeithiolrwydd y trefniadau llywodraethu hynny, yn ystod yr Adolygiad nesaf o’r Siarter. Rydym yn disgwyl i’r BBC ddarparu digon o wybodaeth i ni i wneud hynny maes o law, gan gynnwys dogfennau mewnol.

Safonau Golygyddol a Didueddrwydd

2.1 Mae didueddrwydd y BBC, fel darlledwr sy’n cael ei ariannu’n gyhoeddus, yn rhan greiddiol o’r contract rhwng y Gorfforaeth a phawb sy’n talu ffi’r drwydded, sef y bobl mae’n eu gwasanaethu.

2.2. Rydym yn cydnabod bod didueddrwydd yn gysyniad cymhleth. Rydym wedi dod i’r casgliad bod tystiolaeth glir bod glynu wrth safonau golygyddol a didueddrwydd bellach wrth wraidd blaenoriaethau’r BBC, ond hefyd bod angen i’r BBC ac Ofcom barhau i ymdrechu i gyflawni eu cyfrifoldebau.

2.3 Rydym yn argymell bod y Bwrdd yn sicrhau ei fod yn adrodd yn fanwl ac yn amserol ar gynnydd o ran ymrwymiadau’r cynllun gweithredu 10 pwynt, gyda dyddiadau cau a cherrig milltir clir, effaith, a rhagor o fanylion am sut mae’n bwriadu ymateb i her Ofcom bod angen i’r BBC barhau i ganolbwyntio ar ddidueddrwydd er mwyn cynnal ymddiriedaeth cynulleidfaoedd, a sut mae ymrwymiadau’n cael eu gwreiddio mewn cynlluniau tymor hir. Rydym yn bwriadu asesu cynnydd yn ystod yr Adolygiad nesaf o’r Siarter.

2.4 Rydym hefyd yn argymell bod effeithiolrwydd Cynghorwyr Golygyddol allanol y Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol yn cael ei adolygu gan y BBC i sicrhau eu bod yn parhau i gael y pwerau cywir i gyflawni eu cyfrifoldebau, a bod hyn yn cael ei adrodd yn rheolaidd fel rhan o waith ehangach y BBC i ddarparu diweddariadau ar ei ymdrechion i fod yn ddiduedd.

2.5 Rydym yn argymell bod y BBC yn parhau i sicrhau bod ganddo’r strwythurau llywodraethu cywir i yrru ei waith ar weithredu’r cynllun gweithredu 10 pwynt a gwelliant parhaus hirdymor. Byddwn yn asesu a yw hyn wedi digwydd fel rhan o’r Adolygiad o’r Siarter.

2.6 Mae’n briodol bod y BBC yn ymrwymo i gynnal adolygiadau cynnwys mewnol. Rydym yn argymell bod y BBC yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am y fethodoleg a ddefnyddir i gynnal ei adolygiadau cynnwys mewnol.

2.7 Rydym yn argymell bod y BBC yn cyhoeddi crynodeb o’r prif themâu sy’n deillio o gyfres o adolygiadau cynnwys mewnol bob blwyddyn, gan gynnwys sut mae’r BBC yn gweithredu o ganlyniad.

2.8 Rydym yn argymell bod y BBC yn parhau i gyhnoeddi’r fethodoleg ar gyfer ei adolygiadau thematig allanol.

2.9 Rydym yn argymell bod y BBC yn parhau i ymgynghori ag Ofcom ynghylch pynciau posibl ar gyfer adolygiadau thematig allanol yn y dyfodol.

2.10 Rydym yn argymell bod y BBC yn cyhoeddi gwybodaeth am beth mae ei hyfforddiant ar Ddiogelu Didueddrwydd yn ei gynnwys, sut mae’n cael ei gynnal, a’r canlyniadau a fwriedir.

2.11 Rydym yn cytuno y dylai Ofcom gael gwybod yn gynnar gan y BBC am achosion difrifol posibl o dorri rheolau golygyddol, ac rydym yn nodi bod protocol wedi cael ei ddatblygu rhwng y BBC ac Ofcom i ategu’r newid hwn. Rydym yn argymell bod y BBC yn ystyried y ffordd orau o wneud yr ymrwymiad hwn yn glir i gynulleidfaoedd.

2.12 Rydym yn argymell bod aelodau’r Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol yn parhau i gwrdd ag Ofcom ar lefel weithredol bob chwe mis.

2.13 Rydym hefyd yn argymell bod Cadeirydd y Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol a’r ddau gynghorydd arbenigol annibynnol yn mynychu un o gyfarfodydd Bwrdd Cynnwys Ofcom bob blwyddyn, a bod crynodeb o’r trafodaethau yn y cyfarfod blynyddol hwnnw’n cael ei gyhoeddi.

2.14 Byddwn yn ymestyn cyfrifoldebau rheoleiddio Ofcom i elfennau o ddeunydd gwasanaeth cyhoeddus ar-lein y BBC, ac yn gwneud newidiadau i’r Cytundeb Fframwaith er mwyn rhoi’r polisi hwn ar waith.

2.15 Rydym yn argymell bod Ofcom yn parhau i drafod methodoleg ymchwil sy’n ymwneud â didueddrwydd (yn enwedig canfyddiadau cynulleidfaoedd) yn eang cyn ymchwil yn y dyfodol er mwyn sicrhau’r consensws gorau posibl.

Cwynion

3.1 Byddwn yn adolygu’r broses gwyno yn yr Adolygiad o’r Siarter ac yn ymgynghori ar fodelau amgen i BBC yn Gyntaf. Byddwn yn gwahodd y BBC ac Ofcom i gydweithio yn y broses hon.

3.2 Byddwn yn diwygio’r Cytundeb Fframwaith yn unol â chynnig y BBC i roi cyfrifoldeb penodol i Fwrdd y BBC dros oruchwylio’r ffordd y mae’r Weithrediaeth yn delio â chwynion.

3.3 Yn dilyn cais y Llywodraeth i’r BBC ei fod yn ystyried symud y llinell adrodd o’r Uned Cwynion Gweithredol, mae’r BBC wedi creu llinell adrodd uniongyrchol rhwng y Cyfarwyddwr Cwynion ac Adolygiadau Golygyddol a’r Cyfarwyddwr Cyffredinol.

3.4 Yn dilyn cais y Llywodraeth i’r BBC ei fod yn ystyried rhoi rôl weithredol well i’r Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol, mae’r BBC wedi ymrwymo i roi mwy o oruchwyliaeth i’r Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol dros y broses gwyno (gan gynnwys prosesau’r Uned Cwynion Gweithredol), a’r gallu i gomisiynu ymchwil i wella mynediad Pwyllgor Safonau a Chanllawiau Golygyddol at wybodaeth.

3.5 Rydym yn argymell bod Ofcom yn cynnal adolygiadau rheolaidd o sampl gynrychioladol o benderfyniadau cwynion yr Uned Cwynion Gweithredol ac yn cyhoeddi crynodeb o’i ganfyddiadau. Bydd y swyddogaeth reoleiddio newydd hon yn ofyniad ffurfiol drwy ddiwygio’r Cytundeb Fframwaith.

3.6 Rydym wedi dod i’r casgliad bod gan Ofcom rôl i’w chwarae o ran codi ymwybyddiaeth o BBC yn Gyntaf, ac yn argymell bod Ofcom yn cydweithio â’r BBC ar gynlluniau perthnasol i wella ymwybyddiaeth. Rydym yn argymell y dylai ymchwil Ofcom i BBC yn Gyntaf yn y dyfodol geisio deall yn well pa grwpiau cynulleidfa penodol sydd â llai o ymwybyddiaeth o BBC yn Gyntaf, ac y dylai Ofcom a’r BBC weithio gyda’i gilydd ar strategaethau i ryddfreinio grwpiau perthnasol yn well yn y broses gwyno.

3.7 Mae’n briodol bod y BBC wedi cynhyrchu cynnwys fideo sy’n egluro sut mae’r BBC yn delio â chwynion. Rydym yn argymell bod y BBC yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd creadigol o gyfathrebu beth mae’r broses gwyno yn ei gyflawni – ar gyfer y Gorfforaeth ac ar gyfer cynulleidfaoedd – er mwyn cynyddu hyder ac ymgysylltiad cynulleidfaoedd â BBC yn Gyntaf.

3.8 Mae’n briodol bod y BBC wedi ymrwymo i roi gwybod yn gyson ac yn glir i achwynydd beth yw ei gam nesaf yn ei ymateb i gwynion ar bob cam.

3.9 Rydym yn argymell bod Ofcom a’r BBC yn gweithio gyda’i gilydd i gyfathrebu’n well i achwynwyr am eu rolau yn y broses gwyno. Rydym yn annog dulliau gweithredu creadigol i sicrhau bod yr wybodaeth yn hawdd i achwynwyr ei deall.

3.10 Rydym wedi dod i’r casgliad bod dull gweithredu’r BBC yng Ngham 1A yn gymesur, ac yn argymell bod y BBC yn parhau i egluro i achwynwyr pa fath o ymateb y gallant ei ddisgwyl ar bob cam o BBC yn Gyntaf. Rhaid i’r BBC barhau i wneud defnydd priodol o’i weithdrefnau i gyflymu cwynion golygyddol fesul achos.

3.11 Mae’n briodol bod y BBC wedi ymrwymo i wella ansawdd yr ymatebion yng Ngham 1B, a chael gwared ar donau amddiffynnol. Rydym yn argymell bod y BBC yn parhau i fynd i’r afael â’r diwylliant amddiffynnol ehangach a amlygwyd gan Adolygiad Serota, ac yn adlewyrchu hyn yn ei ganllawiau ar gyfer timau golygyddol i sicrhau bod ymatebion Cam 1B yn adlewyrchu bod yn agored wrth ddysgu o gwynion.

3.12 Nodwn fod Ofcom wedi cynyddu gofynion adrodd ar gwynion y BBC yn ddiweddar. Mae’n briodol bod y newidiadau hyn yn cael eu gwneud i wneud penderfyniadau ynghylch cwynion y BBC yn fwy tryloyw.

3.13 Rydym yn argymell bod y BBC yn gwneud gwybodaeth gyhoeddus am sut mae’r Uned Cwynion Gweithredol yn gwneud penderfyniadau teg sy’n annibynnol ar wneuthurwyr rhaglenni, ac sy’n annibynnol ar fuddiannau enw da’r sefydliad, er mwyn cynyddu hyder talwyr ffi’r drwydded yng Ngham 2 a BBC yn Gyntaf yn fwy cyffredinol.

3.14 Rydym yn nodi, yn dilyn adroddiad Banatvala, bod y BBC wedi ceisio cynyddu amrywiaeth yr Uned Cwynion Gweithredol. Mae ymrwymiad parhaus y Gorfforaeth i gynyddu amrywiaeth ymhellach wrth ddelio â chwynion yn synhwyrol.

3.15 Mae’n ddefnyddiol bod Ofcom wedi ymrwymo i adolygu BBC yn Gyntaf eto cyn adnewyddu’r Siarter. Rydym yn argymell bod Ofcom yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ynghylch dull a chwmpas unrhyw ymchwil meintiol a fydd yn rhan o’r adolygiad hwnnw.

3.16 Mae’n ddefnyddiol bod Ofcom wedi ymrwymo i gynnal rhagor o ymchwil cwsmer cudd ar BBC yn Gyntaf. Rydym yn argymell bod hyn yn parhau’n rheolaidd, a bod y canlyniadau’n cyfrannu at unrhyw adolygiad o BBC yn Gyntaf yn y dyfodol.

3.17 Mae’n ddefnyddiol bod Ofcom wedi dechrau meddwl pa fath o gyfathrebu am BBC yn Gyntaf fyddai’n werthfawr i gynulleidfaoedd. Rydym yn argymell bod Ofcom yn parhau i weithio gyda chynulleidfaoedd yn ei ymdrechion i wella tryloywder ei benderfyniadau ynghylch cwynion yng Ngham 3.

3.18 Rydym yn argymell, pan fydd y BBC wedi nodi achos o dorri ei safonau golygyddol ei hun ac felly wedi cadarnhau cwyn neu gadarnhau cwyn yn rhannol ynghylch ei gynnwys darlledu neu ar-alw, y dylai’r toriad gael ei gofnodi’n gyhoeddus ac yn dryloyw gan Ofcom, sydd â’r dewis i lansio ei ymchwiliad ei hun o dan ei God Darlledu neu beidio. Os bydd Ofcom yn penderfynu peidio â lansio ymchwiliad i gŵyn a gadarnhawyd gan y BBC, dylai’r rheoleiddiwr nodi’n glir ei resymeg dros beidio â chymryd camau pellach yn ei fwletin ar-lein.

3.19 Rydym wedi dod i’r casgliad bod y fframwaith cwynion presennol, sy’n cyfyngu rôl gorfodi safonau Ofcom i gwynion am eitemau darlledu unigol neu gynnwys sy’n gysylltiedig â gwaith golygyddol, yn gymesur. Rydym yn annog Ofcom i barhau i ddefnyddio ei adnoddau rheoleiddio eraill i ddal y BBC i gyfrif.

Cystadleuaeth ac Effaith ar y Farchnad

4.1 Rydym yn cytuno ag argymhelliad Ofcom i newid y Cytundeb Fframwaith fel bod gan Ofcom ddisgresiwn o ran cynnal asesiad cystadleuaeth y BBC neu asesiad byrrach yn dilyn Prawf Budd y Cyhoedd y BBC neu beidio.

4.2 Rydym yn cytuno ag argymhelliad Ofcom i newid y Cytundeb Fframwaith fel bod gan Ofcom y pŵer i ddefnyddio asesiad byrrach i gymeradwyo newid i’r BBC gydag amodau.

4.3 Rydym yn cytuno ag argymhelliad Ofcom i newid y Cytundeb Fframwaith fel nad yw gwasanaethau newydd y BBC yn cael eu hystyried yn newidiadau sylweddol yn awtomatig.

4.4 Mae’n ddefnyddiol cyhoeddi barn lefel uchel Ofcom ar sefyllfa’r BBC yn y sectorau clyweledol a sain, yn ogystal ag ymrwymiad Ofcom i ddefnyddio ei Adroddiad Blynyddol ar y BBC i gadarnhau ei farn bresennol, neu ddiweddaru’r farn honno ar sail unrhyw newidiadau sydd wedi digwydd yn y farchnad.

4.5 Rydym yn argymell y dylai Ofcom gyhoeddi ei farn ar safle’r BBC yn y sectorau newyddion lleol bob blwyddyn, ac yn nodi ei ddull o ystyried effaith cystadleuaeth newidiadau i wasanaethau newyddion lleol y BBC. Dylai Ofcom wneud hyn am y tro cyntaf erbyn mis Tachwedd 2024, ac yna dylai ddefnyddio ei Adroddiad Blynyddol ar y BBC i ddiweddaru’r farn hon ochr yn ochr â’i farn ar y sectorau clyweledol a sain.

4.6 Rydym yn argymell bod y BBC yn gwneud mwy i ystyried yn glir ac yn dryloyw ei rwymedigaeth i ymgymryd â phartneriaethau, gan gynnwys gyda’i gystadleuwyr yn yr economi greadigol. Dylai’r BBC gyhoeddi strategaeth partneriaethau, a dylai amcanion y strategaeth honno gyd-fynd yn glir â’i rwymedigaeth i gefnogi’r economi greadigol, a dangos sut mae’n bwriadu cyflawni’r rhwymedigaeth honno.

4.7 Rydym yn argymell bod y BBC yn darparu llwybrau mynediad clir ar gyfer sefydliadau sy’n dymuno gweithio mewn partneriaeth â’r BBC.

4.8 Dros weddill cyfnod y Siarter hon, rhaid i’r BBC ddangos yn glir sut mae’n cyflawni ei ofyniad i ddarparu allbwn a gwasanaethau unigryw.

Rheoleiddio a Llywodraethu Masnachol

5.1 Rydym yn argymell bod y BBC yn monitro effeithiolrwydd Bwrdd Masnachol y BBC wrth i’r trefniadau llywodraethu newydd wreiddio.

5.2 Rydym yn ystyried bod trefniadau rheoleiddio gweithgareddau masnachol y BBC yn gweithio’n effeithiol.

Amrywiaeth

6.1 Mae’r BBC yn dweud ei fod yn deall pwysigrwydd adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu pob cymuned ac mae wedi nodi ymrwymiad clir i wella amrywiaeth y sefydliad, ar y sgrin ac oddi ar y sgrin. Rydym yn cydnabod tystiolaeth y BBC ei fod wedi gwneud cynnydd da tuag at gyflawni ei ymrwymiadau amrywiaeth, ond rydym yn nodi pryderon ein bod wedi clywed nad yw’r BBC yn adlewyrchu amrywiaeth barn a syniadau ar draws y sefydliad yn gywir, fel y nodir isod.**

6.2 Rydym yn disgwyl i’r BBC ddilyn y cyngor a nodir yn Adroddiad Blynyddol Ofcom ar y BBC ar gyfer 2021/22 i wella cynrychiolaeth y gweithlu o bobl anabl a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.

6.3 Rydym yn disgwyl i Fwrdd y BBC barhau i oruchwylio cynlluniau’r sefydliad i gynyddu amrywiaeth, ac i ystyried sut y gellid adlewyrchu amrywiaeth barn a safbwyntiau’n well wrth wneud penderfyniadau.

6.4 Rydym yn disgwyl i’r BBC barhau i ymgysylltu’n briodol er mwyn deall anghenion grwpiau penodol o gynulleidfaoedd, yn enwedig grwpiau sy’n teimlo nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol. Dylai Bwrdd y BBC barhau i adolygu hyn i sicrhau bod ymgysylltiad yn ddigonol, a dylai’r BBC nodi sut mae’n bwriadu ymateb os bydd yn nodi bod angen mwy.

6.5 Rydym yn argymell bod Aelodau Gwledydd y BBC yn cyhoeddi gwybodaeth ôl-weithredol fanylach am yr ymgysylltu y maent wedi’i wneud â chymunedau amrywiol yn y gwledydd, yn ogystal â blaenoriaethau ar gyfer ymgysylltu yn y dyfodol. Yn ddelfrydol, byddai’r wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth am ymgysylltu ag aelodau’r gynulleidfa, sefydliadau cynrychioladol ac arbenigwyr yn y diwydiant. Bydd gwneud hynny’n galluogi cynulleidfaoedd i barhau i ddeall pa waith ymgysylltu sydd wedi digwydd.

6.6 Rydym wedi dod i’r casgliad nad oes angen unrhyw bwerau ychwanegol ar Ofcom i reoleiddio rhwymedigaethau’r BBC o ran amrywiaeth, fel rhoi’r gallu i Ofcom roi sancsiwn i’r BBC os na fydd yn cyrraedd y targedau a’r ymrwymiadau y mae wedi’u gosod iddo’i hun.

Tryloywder

7.1 Rydym yn argymell bod y BBC yn parhau i ddysgu o brofiadau diweddar lle mae cyhoeddiadau am newidiadau i wasanaethau wedi arwain at feirniadaeth am ddull gweithredu’r BBC o ran tryloywder.

7.2 Rydym hefyd yn argymell bod y BBC yn cyhoeddi manylion ei strategaeth ar gyfer cyfathrebu â chynulleidfaoedd sy’n egluro gwelliannau i’w ddull cyfathrebu sydd eisoes wedi cael ei wneud, ond hefyd sut mae’n nodi unrhyw newidiadau sydd eu hangen er mwyn i gynulleidfaoedd a staff allu bod yn hyderus y bydd newidiadau i wasanaethau yn y dyfodol a’u heffaith yn cael eu hegluro’n glir.

7.3 Rydym yn argymell bod y BBC yn edrych ar ba wybodaeth y mae aelodau’r gynulleidfa yn ei chael yn werthfawr i ddal y BBC i gyfrif, gan gynnwys drwy ymgysylltu â’r gynulleidfa. Rydym yn argymell bod y BBC yn cyhoeddi gwybodaeth am yr hyn mae wedi’i glywed yn y sesiynau hyn a sut mae’n bwriadu ymateb, i ddangos ei fod yn ystyried yr egwyddor bod aelodau’r gynulleidfa yn dal y BBC i gyfrif o ddifrif. Byddwn yn asesu tryloywder y BBC yn y wybodaeth mae’n ei darparu i gynulleidfaoedd fel rhan o’r Adolygiad o’r Siarter.

7.4 Rydym yn argymell bod Ofcom yn parhau i gynnal lefel uchel o dryloywder o ran sut mae’n craffu ar y BBC, gan egluro ar y dechrau sut mae’n bwriadu archwilio mater penodol, sut bydd hynny’n edrych yn ymarferol ee y mecanweithiau a’r prosesau rheoleiddio y bydd yn eu defnyddio, a’r amserlenni disgwyliedig ar gyfer cwblhau.

  1. Ofcom, Sut mae Ofcom yn rheoleiddio’r BBC, 2022. 

  2. Er enghraifft: Adroddiad y Press Gazette ar waith ymchwil Reuters, Five-year decline in UK news media trust sees BBC, Times and Telegraph have biggest drops, 2023. Adroddiad y Guardian, ITV news is more trusted than BBC after Lineker row and Sharp controversy, 2023. 

  3. Reuters, Reuters Digital News Report 2023, 2023. 

  4. Mae Ofcom hefyd wedi nodi bod cyrhaeddiad teledu’r BBC yn llawer uwch ac yn ehangach na’r sianeli hyn ac, yn gyffredinol, mae bron i hanner y rhai sy’n gwylio unrhyw newyddion teledu yn meddwl bod y BBC yn ddiduedd. Ofcom, Adroddiad Blynyddol Ofcom ar y BBC 2022-23, 2023. 

  5. Yn dilyn nifer o gwynion, roedd Uned Cwynion Golygyddol y BBC wedi ymchwilio i gywirdeb a didueddrwydd sylw’r BBC i’r digwyddiadau a ddisgrifir, yn enwedig mewn perthynas â’r honiad bod sarhad gwrth-Fwslimaidd wedi cael ei glywed ar y bws. Daeth yr Uned Cwynion Gweithredol i’r casgliad nad oedd yr erthygl ar-lein yn bodloni safonau cywirdeb dyladwy’r BBC ac, i’r graddau bod yr honiad gwrth-Fwslimaidd ei hun wedi dod yn ddigon dadleuol, roedd hefyd yn methu o ran didueddrwydd a methu ag adlewyrchu safbwyntiau gwahanol: Oxford Street: Dynion wedi’u ffilmio’n poeri ar bobl Iddewig ar y bws, BBC News Online (Lloegr) a BBC London News, BBC One (Llundain), 2 Rhagfyr 2021 Cysylltwch â’r BBC. Yn dilyn hynny, gwnaeth y BBC newidiadau i’r stori a oedd wedi’i rhoi ar wefan BBC News: BBC response to Executive Complaints Unit ruling - Media Centre.

  6. Er enghraifft: Adroddiad y Press Gazette ar waith ymchwil Reuters, Five-year decline in UK news media trust sees BBC, Times and Telegraph have biggest drops, 2023. Adroddiad y Guardian, ITV news is more trusted than BBC after Lineker row and Sharp controversy, 2023. 

  7. Reuters, Reuters Digital News Report 2023, 2023. 

  8. I’r graddau nad yw gwasanaethau sy’n cynnwys deunydd gwasanaeth cyhoeddus y BBC sydd wedi’i frandio a’i reoli’n olygyddol ar wefan trydydd parti yn gyfystyr â Gwasanaethau Rhaglenni Ar-alw Cyhoeddus y DU. 

  9. Er enghraifft: Ymchwil Reuters yn adroddiad y Press Gazette, Five-year decline in UK news media trust sees BBC, Times and Telegraph have biggest drops, 2023. Pôl piniwn yn adroddiad y Guardian, ITV news is more trusted than BBC after Lineker row and Sharp controversy, 2023.