Hysbysiad preifatrwydd dosbarthu carcasau eidion
Sut mae'r Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'r swyddogaeth Dosbarthu Carcasau Eidion.
Dogfennau
Manylion
Diben Prosesu
Y swyddogaeth Dosbarthu Carcasau Eidion yw’r cynllun gorfodol ar gyfer dosbarthu carcasau eidion yn ôl safon y cytunwyd arni fel y gellir pennu prisiau teg am gig.
Pam y gallwn brosesu eich data personol
Mae’r gyfraith yn caniatáu i ni brosesu eich data personol o dan y canlynol:
- erthygl 6(1)(e) o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU). Caniateir i ni brosesu data personol pan fydd angen i ni ymgymryd â thasg gyhoeddus
- Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (UE) 2017/1184 dyddiedig 20 Ebrill 2017 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (UE) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran graddfeydd yr Undeb ar gyfer dosbarthu carcasau eidion, moch a defaid ac o ran cofnodi prisiau categorïau penodol o garcasau ac anifeiliaid byw ar y farchnad
- Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (UE) 2017/1182 dyddiedig 20 Ebrill 2017 sy’n ategu Rheoliad (UE) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran graddfeydd yr Undeb ar gyfer dosbarthu carcasau eidion, moch a defaid ac o ran cofnodi prisiau categorïau penodol o garcasau ac anifeiliaid byw ar y farchnad
- 2018 Rhif 1164 Amaethyddiaeth, Lloegr
- Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Chofnodi Prisiau (Lloegr) 2018
Pa ddata personol rydym yn eu prosesu
Y wybodaeth rydym yn ei chasglu ac yn ei phrosesu yw:
- gwybodaeth gofrestru cwsmeriaid
- Rhif y daliad (CPH)
- cofnodlyfrau ceidwaid a chofnodion
- data prisiau
- rhifau tagiau clust
Mae’n bosibl y byddwn yn prosesu eich data personol, gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost a gaiff ei gynnwys mewn unrhyw gwestiynau neu adborth y byddwch yn eu hanfon atom. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i gysylltu â chi am grantiau’r dyfodol a diweddariadau i’r polisi ffermio a fyddai’n berthnasol i chi.
Eich cyfrifoldeb o ran data personol pobl eraill
Os ydych wedi cynnwys data personol am bobl eraill yn eich cofnodion, mae’n rhaid i chi ddweud wrthynt. Rhaid i chi roi copi o’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn iddynt er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod y bydd eu data personol yn cael eu defnyddio.
Ble y bydd eich data personol yn cael eu storio
Rydym yn storio, yn trosglwyddo ac yn prosesu eich data personol ar ein gweinyddion yn y Deyrnas Unedig (y DU) ac yn yr Undeb Ewropeaidd (UE).
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol
Byddwn yn cadw eich data am saith mlynedd.
Cyfeiriwch at ein Siarter Gwybodaeth Bersonol a’r adran ‘Am faint o amser y byddwn yn cadw data’ am ragor o wybodaeth am unrhyw eithriadau posibl.
Gyda phwy rydym yn rhannu eich data personol
Rydym yn rhannu eich data personol â’r UE.
Eich hawliau
Darllenwch ein Siarter Gwybodaeth Bersonol i gael gwybod pa hawliau sydd gennych o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018.
Sut i wneud cwyn
Os bydd gennych bryderon ynglŷn â’r ffordd y mae’r RPA yn defnyddio eich data personol, darllenwch am sut i gysylltu â ni neu am sut i wneud cwyn.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 August 2024 + show all updates
-
Added Welsh translation.
-
First published.