Canllawiau

Hysbysiad preifatrwydd swyddogaeth labelu cig eidion

Sut mae'r Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â labelu cig eidion yn orfodol.

Dogfennau

Manylion

Diben Prosesu

Mae’r rheolau ynglŷn â labelu cig eidion yn orfodol yn gymwys i unrhyw un sy’n gwerthu neu’n cyflenwi cig eidion neu gig llo ffres neu wedi’i rewi unrhyw le yn y gadwyn gyflenwi.

Pam y gallwn brosesu eich data personol

Mae’r gyfraith yn caniatáu i ni brosesu eich data personol o dan y canlynol:

  • erthygl 6(1)(e) o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU). Caniateir i ni brosesu data personol pan fydd angen i ni ymgymryd â thasg gyhoeddus
  • Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo 2010

Pa ddata personol rydym yn eu prosesu

Y wybodaeth rydym yn ei chasglu ac yn ei phrosesu yw:

  • gwybodaeth gofrestru cwsmeriaid
  • Rhif y daliad (CPH)
  • cofnodlyfrau ceidwaid a chofnodion
  • data prisiau
  • rhifau tagiau clust

Mae’n bosibl y byddwn yn prosesu eich data personol, gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost a gaiff ei gynnwys mewn unrhyw gwestiynau neu adborth y byddwch yn eu hanfon atom. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i gysylltu â chi am grantiau’r dyfodol a diweddariadau i’r polisi ffermio a fyddai’n berthnasol i chi.

Eich cyfrifoldeb o ran data personol pobl eraill

Os ydych wedi cynnwys data personol am bobl eraill yn eich cofnodion, mae’n rhaid i chi ddweud wrthynt. Rhaid i chi roi copi o’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn iddynt er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod y bydd eu data personol yn cael eu defnyddio.

Ble y bydd eich data personol yn cael eu storio

Rydym yn storio, yn trosglwyddo ac yn prosesu eich data personol ar ein gweinyddion yn y Deyrnas Unedig (y DU) ac yn yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol

Byddwn yn cadw eich data am saith mlynedd.

Cyfeiriwch at ein Siarter Gwybodaeth Bersonol a’r adran ‘Am faint o amser y byddwn yn cadw data’ am ragor o wybodaeth am unrhyw eithriadau posibl.

Gyda phwy rydym yn rhannu eich data personol

Rydym yn rhannu eich data personol â’r UE.

Eich hawliau

Darllenwch ein Siarter Gwybodaeth Bersonol i gael gwybod pa hawliau sydd gennych o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018.

Sut i wneud cwyn

Os bydd gennych bryderon ynglŷn â’r ffordd y mae’r RPA yn defnyddio eich data personol, darllenwch am sut i gysylltu â ni neu am sut i wneud cwyn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 18 July 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 August 2024 + show all updates
  1. Added Welsh translation.

  2. First published.

Sign up for emails or print this page