Ymchwil a dadansoddi

Gwnewch eich car nesaf yn un trydan: treial negeseua gwyddoniaeth ymddygiadol

Cyhoeddwyd 1 February 2021

1. Cyflwyniad

Gweithiodd yr Adran Drafnidiaeth (DfT) gyda’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) a Swyddfa’r Cabinet i gynnal treial ymddygiadol i ymchwilio i negeseua i annog y gwerthiant o gerbydau trydan yn y modd gorau, gan gefnogi uchelgeisiau sero-net y llywodraeth. Cychwynnodd y treial ar 6 March 2020 ac fe’i cynhaliwyd am 130 niwrnod, ar yr un adeg ag ymgynghoriad y llywodraeth ynghylch cyflwyno dyddiad dod â gwerthiant ceir a faniau petrol, diesel a hybrid i ben (Chwefror i Orffennaf 2020).

Roedd y treial yn targedu pobl a oedd newydd adnewyddu’u treth car ar-lein wrth gyflwyno neges a oedd yn annog defnyddwyr i glicio trwodd i’r wefan Go Ultra Low (GUL), sy’n annog prynu cerbydau trydan.

Cymharwyd cyfanswm o 8 neges (7 neges brawf a rheolydd). Datblygwyd negeseuon gan wyddonwyr ymddygiadol mewnol yr Adran Drafnidiaeth (DfT), a chydweithwyr polisi a chyfathrebu o’r Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel (OLEV). Roedd y cynnwys yn amrywio o arbedion cost i fuddion amgylcheddol a llygredd aer. Cymharwyd negeseuon i weld pa rai a gynhyrchodd y raddfa clicio drwodd uchaf i GUL.

Roedd y neges fwyaf llwyddiannus yn ymwneud ag ymgynghoriad y llywodraeth ynghylch dod â gwerthiant cerbydau peiriant tanio mewnol i ben:

Mae’r Llywodraeth yn ymgynghori ynghylch dod â gwerthiant ceir a faniau petrol, diesel a hybrid i ben erbyn 2035 neu’n gynharach. Ydych chi’n barod? Gwnewch eich car nesaf yn un trydan.

Y neges fwyaf effeithiol oedd yr un a oedd yn apelio at normau cymdeithasol:

Ymunwch â’r 6,000 o yrwyr newydd bob mis sy’n newid i gerbyd trydan. Gwnewch eich car nesaf yn un trydan.

Roedd y neges ynghylch y nifer o farwolaethau oedd yn ymwneud â llygredd aer hefyd wedi perfformio’n dda, ond i raddfa lai na’r 2 flaenorol:

Mae rhwng 28,000 a 36,000 o bobl yn marw bob blwyddyn o ganlyniad i lygredd aer. Mae’r hyn rydych yn ei yrru yn gwneud gwahaniaeth. Gwnewch eich car nesaf yn un trydan.

Roedd pob neges, gan gynnwys y rheolydd, wedi cyfrannu at gynnydd i gyrchu GUL. Gan raddio’r canfyddiadau o’r astudiaeth hon, amcangyfrifir:

  • y byddai’r neges reoli ‘Mae gwybodaeth ar gael am gerbydau trydan. Gwnewch eich car nesaf yn un trydan.’) yn cynhyrchu tua 350,300 o glicio drwodd i GUL yn flynyddol
  • y byddai ‘Mae’r Llywodraeth yn ymgynghori ynghylch dod â gwerthiant ceir a faniau petrol, diesel a hybrid i ben erbyn 2035 neu’n gynharach. Ydych chi’n barod? Gwnewch eich car nesaf yn un trydan.’) yn cynhyrchu tua 419,900 o glicio drwodd i GUL yn flynyddol
  • y byddai ‘Ymunwch â’r 6,000 o yrwyr newydd bob mis sy’n newid i gerbyd trydan. Gwnewch eich car nesaf yn un trydan.’ yn cynhyrchu tua 407,900 o glicio drwodd i GUL yn flynyddol

Perfformiodd tair neges yn waeth na’r rheolydd ac roeddent felly’n aflwyddiannus. Cynhyrchwyd y raddfa clicio drwodd isaf gan y neges ynghylch argaeledd mannau gwefru cyflym:

Mae mannau gwefru cyflym ar gyfer cerbydau trydan ar gael mewn bron pob gorsaf gwasanaethau ar y draffordd yn y DU. Gwnewch eich car nesaf yn un trydan.

Cynhyrchwyd y raddfa clicio drwodd ail isaf gan y neges ynghylch hwylustod gwefru:

Gall gwefru’ch cerbyd trydan gartref fod mor hawdd â gwefru’ch ffôn dros nos. Gwnewch eich car nesaf yn un trydan

Y drydedd neges aflwyddiannus (er i raddfa lai) oedd ynghylch cost y filltir o ddefnyddio cerbyd trydan:

Gallai cerbydau trydan llawn gostio o gyn lleied ag 1g y filltir i’w rhedeg - llai na chwarter cost y cerbydau petrol neu ddiesel mwyaf effeithiol o ran tanwydd. Gwnewch eich car nesaf yn un trydan.

Roedd y neges ynghylch allyriadau traffig a charbon wedi perfformio’n debyg i’r rheolydd: ‘Traffig ffordd yw’r cyfrannwr unigol mwyaf i allyriadau carbon yn y DU. Mae’r hyn rydych yn ei yrru yn gwneud gwahaniaeth. Gwnewch eich car nesaf yn un trydan.’

2. Effaith COVID-19

Cymharwyd graddfeydd clicio drwodd pob neges o’r adeg cyn y cyfyngiadau i ar ôl y cyfyngiadau. Yn gyffredinol, mae patrymau yn y treial yn debyg ar draws y ddau gyfnod. Fodd bynnag, yn ystod y cyfyngiadau, lleihaodd graddfeydd clicio drwodd yn sylweddol ar gyfer pob neges ar gyfartaledd o 14%.

Mae hyn yn awgrymu bod pobl yn llai parod i dderbyn pob neges yn ystod y cyfnod hwn. Roedd ‘Ydych chi’n barod?’ yn parhau i gael y raddfa clicio drwodd orau’n gyffredinol. Perfformiodd ‘Ydych chi’n barod?’ a ‘6,000 o yrwyr newydd’ yn well na’r rheolydd cyn ac ar ôl y cyfyngiadau. Perfformiodd ‘28,000 i 36,000 o farwolaethau’ yn well yn unig na’r rheolydd ar ôl y cyfyngiadau. Amrywiodd llwyddiant negeseuon trwy’r cyfyngiadau, gan amlygu pwysigrwydd cynnwys negeseuon. Mae felly’n bwysig parhau i ddatblygu a phrofi negeseuon i sicrhau ein bod yn rhoi negeseuon ar waith yn gywir.

3. Negeseuon

3.1 Cefndir y negeseuon

Datblygwyd y negeseuon a brofwyd gan wyddonwyr ymddygiadol mewnol yr Adran Drafnidiaeth (DfT), a chydweithwyr polisi a chyfathrebu o’r OLEV. Roedd cynnwys y negeseuon yn amrywio o arbedion cost i bryderon amgylcheddol a llygredd aer.

Rhoddwyd y negeseuon ar wasanaeth Trethu eich cerbyd. Ar ôl adnewyddu treth car yn llwyddiannus ar-lein, cyflwynwyd tudalen ‘Diolch’ i ddefnyddwyr. Dangoswyd neges unigol ar hap i bob defnyddiwr ar y dudalen hon ac roeddent i gyd wedi’u cysylltu â GUL.

3.2 Cynnwys negeseuon, crynodeb o gyfraddau clicio drwodd a llaw-fer

Tabl 1: cynnwys negeseuon, cyfraddau clicio drwodd a disgrifydd llaw-fer


Neges

Cynnwys

Graddfa clicio drwodd

Llaw-fer
Prawf E
Mae’r Llywodraeth yn ymgynghori ynghylch dod â gwerthiant ceir a faniau petrol, diesel a hybrid i ben erbyn 2035 neu’n gynharach. Ydych chi’n barod? Gwnewch eich car nesaf yn un trydan.

3.50%

‘Ydych chi’n barod?’
Prawf B
Ymunwch â’r 6,000 o yrwyr newydd bob mis sy’n newid i gerbyd trydan. Gwnewch eich car nesaf yn un trydan.

3.40%

‘6,000 o yrwyr newydd’
Prawf D
Mae rhwng 28,000 a 36,000 o bobl yn marw bob blwyddyn o ganlyniad i lygredd aer. Mae’r hyn rydych yn ei yrru yn gwneud gwahaniaeth. Gwnewch eich car nesaf yn un trydan.

3.10%

‘28,000 i 36,000 o farwolaethau’
Prawf C
Traffig ffordd yw’r cyfrannwr unigol mwyaf i allyriadau carbon yn y DU. Mae’r hyn rydych yn ei yrru yn gwneud gwahaniaeth. Gwnewch eich car nesaf yn un trydan.

2.93%

‘Allyriadau traffig a charbon’

Rheolydd

Mae gwybodaeth ar gael ynghylch cerbydau trydan. Gwnewch eich car nesaf yn un trydan.

2.92%

Rheolydd
Prawf A
Gallai cerbydau trydan llawn gostio o gyn lleied ag 1g y filltir i’w rhedeg - llai na chwarter cost y cerbydau petrol neu ddiesel mwyaf effeithiol o ran tanwydd. Gwnewch eich car nesaf yn un trydan.

2.80%

‘1g y filltir’
Prawf F
Gall gwefru’ch cerbyd trydan gartref fod mor hawdd â gwefru’ch ffôn dros nos. Gwnewch eich car nesaf yn un trydan.

2.74%

‘Hwylustod gwefru’
Prawf G
Mae mannau gwefru cyflym ar gyfer cerbydau trydan ar gael mewn pob gorsaf gwasanaethau ar y draffordd yn y DU. Gwnewch eich car nesaf yn un trydan.

2.36%

‘Argaeledd mannau gwefru’

4. Canlyniadau a chanfyddiadau

4.1 Pa neges oedd y fwyaf effeithiol?

Cymharwyd graddfeydd clicio drwodd i nodi pa neges a gynhyrchodd y raddfa clicio drwodd uchaf yn gyffredinol ac a oedd wedi perfformio’n sylweddol well na’r rheolydd a negeseuon eraill.

Gwnaethpwyd cymariaethau gan ddefnyddio data dros 130 niwrnod (6 Mawrth i 14 Gorffennaf 2020). Yn gyfan gwbl, roedd 4,272,526 o ddefnyddwyr gwefan y llywodraeth a oedd wedi’u olrhain ar gyfer talu treth cerbyd. Ar gyfartaledd, roedd 534,066 o ddefnyddwyr yr amod/neges.

Mae Tabl A yn yr atodiad yn cyflwyno manylion sawl defnyddiwr a welodd bob neges prawf, sawl un a gliciodd drwodd, a beth oedd y raddfa clicio drwodd ar gyfer pob neges. Mae Siart 1 yn amlygu graddfeydd clicio drwodd pob neges o’u cymharu â’r rheolydd.

Siart 1: canran y rhai a ymwelodd â gwefan talu treth cerbyd y llywodraeth a gliciodd drwodd i GUL ar gyfer pob neges yn ystod y treial cyfan (130 niwrnod o 6 Mawrth i Orffennaf 2020) (%). Perfformiodd ‘Ydych chi’n barod? orau.

Neges Graddfa clicio drwodd (%)
Rheolydd 2.92
Argaeledd mannau gwefru 2.36***
Hwylustod gwefru 2.74***
1g y filltir 2.8**
Allyriadau traffig a charbon 2.93
28,000 i 36,000 o farwolaethau 3.1***
6,000 o yrwyr newydd 3.4***
Ydych chi’n barod? 3.5***

Yn y siart a’r tabl data uchod, N=4,272,526. ** yn nodi gwahaniaeth sylweddol ar lefel 1%, *** yn nodi gwahaniaeth sylweddol ar lefel 0.1%.

Noder

Ar gyfer pob siart a thabl yn y canllaw hwn:

  • lle nodir N, mae N yn cynrychioli nifer y cyfranogwyr
  • mae’r prawf-Z yn brawf o’r tebygolrwydd bod gwahaniaeth rhwng cymedrau dau grŵp (cyfartaleddau) yn ganlyniad hap a damwain (gau gwir)
  • mae gwerth-p yn nodi’r tebygolrwydd allan o 1 bod canlyniad oherwydd hap a damwain, mae lefel arwyddocâd yn nodi’r tebygolrwydd uchafswm bod canlyniad oherwydd hap a damwain

4.2 Effeithiolrwydd negeseuon yn ystod y treial cyfan (130 niwrnod)

Mae Tabl B yn yr atodiad yn dangos manylion y cymariaethau a wnaethpwyd. Cynhyrchodd ‘Ydych chi’n barod?’ y raddfa clicio drwodd uchaf yn gyffredinol ac roedd yn sylweddol uwch na’r holl negeseuon eraill. ‘6,000 o yrwyr newydd’ oedd y neges fwyaf effeithiol nesaf, a chynhyrchodd ‘28,000 i 36,000 o farwolaethau’ y raddfa clicio drwodd drydedd uchaf. Roedd y ddwy’n sylweddol uwch na’r neges rheoli.

Canlyniad tair neges oedd nifer sylweddol o glicio drwodd oedd yn llai na’r rheolydd: Cynhyrchodd ‘Argaeledd mannau gwefru’ y raddfa clicio drwodd isaf, yna ‘Hwylustod gwefru’ a ddilynwyd gan ‘1g y filltir.’

4.3 Asesu effaith

Yn ystod yr 130 niwrnod y cynhaliwyd y treial hwn, roedd 4,272,526 yn defnyddio’r gwasanaeth Trethu eich cerbyd. Mae hyn yn golygu, cyfartaledd o tua 32,800 o ddefnyddwyr y diwrnod. Gan ddefnyddio’r gwerth hwn, gallwn ddisgwyl tua 12 miliwn o ddefnyddwyr y flwyddyn.

Wrth ddefnyddio’r nifer disgwyliedig o ddefnyddwyr y gwasanaeth Trethu eich cerbyd, gellir defnyddio’r raddfa clicio drwodd ar gyfer y gwahanol negeseuon i amcangyfrif y cynnydd potensial yn y clicio drwodd i GUL yn ystod blwyddyn.

Yr amcangyfrifon yw:

  • rheolydd (2.92%), tua 350,200 o glicio drwodd
  • ‘Ydych chi’n barod?’ (3.50%), tua 419,900 o glicio drwodd
  • ‘6,000 o yrwyr newydd’ (3.40%), tua 407,900 o glicio drwodd
  • ‘28,000 i 36,000 o farwolaethau’ (3.10%), tua 371,900 o glicio drwodd

4.4 Oedd mesurau cyfyngiadau COVID-19 wedi effeithio ar ganlyniadau?

Gallai mesurau cyfyngiadau a osodwyd er mwyn diogelu’r cyhoedd rhag COVID-19 fod wedi effeithio ar agweddau cyhoeddus ac ymddygiad clicio drwodd.

Cynhaliwyd dadansoddiad pellach i archwilio a oedd hyn wedi effeithio ar ganlyniadau’r prawf negeseuon wrth gymharu pa neges a gynhyrchodd y raddfa clicio drwodd uchaf cyn y cyfyngiadau (6 i 23 Mawrth 2020; 17 niwrnod) a pha un a gynhyrchodd y raddfa clicio drwodd uchaf ar ôl y cyfyngiadau (24 Mawrth i 14 Gorffennaf 2020; 113 o ddiwrnodau).

Siart 2: cymhariaeth graddfeydd clicio drwodd cyn ac ar ôl y cyfyngiadau ar gyfer pob neges (130 niwrnod o 6 Mawrth i 14 Gorffennaf 2020). Yn gyffredinol, roedd graddfeydd clicio drwodd ar ôl y cyfyngiadau’n is yn ystadegol na chyn y cyfyngiad.

Neges Cyn y cyfyngiadau Ar ôl y cyfyngiadau
Ydych chi’n barod? 4.06 3.4***
6,000 o yrwyr newydd 3.64 3.35***
28,000 i 36,000 o farwolaethau 3.41 3.02***
Allyriadau traffig a charbon 3.42 2.92***
Rheolydd 3.32 2.86***
1g y filltir 3.22 2.76***
Hwylustod gwefru 3.25 2.68***
Argaeledd mannau gwefru 2.73 2.3***

Yn y siart a’r tabl data uchod, cyn y cyfyngiadau N= 440,269; ar ôl y cyfyngiadau N=3,828,349. ** yn nodi gwahaniaeth sylweddol ar lefel 1%, *** yn nodi gwahaniaeth sylweddol ar lefel 0.1%.

Yn gyffredinol, roedd y cyfyngiadau wedi lleihau graddfa clicio drwodd pob neges ar bwynt canran amrwd cyfartalog o 0.47%. Mae hwn yn ostyngiad cyfrannol cyfartalog o 14% ac roedd yn sylweddol ar gyfer pob neges (gweler siart 2). Gostyngodd ‘Ydych chi’n barod?’ y mwyaf o cyn i ar ôl y cyfyngiadau (4.06% i 3.40%), a ‘6,000 o yrwyr newydd y lleiaf (3.64% i 3.35%) (gweler tabl C yn yr Atodiad).

Gweler tablau D i G yn yr atodiad ar gyfer cymariaethau a manylion sawl defnyddiwr welodd bob neges prawf, sawl un a gliciodd drwodd, a beth oedd y raddfa clicio drwodd ar gyfer pob neges cyn ac ar ôl y cyfyngiadau. Gweler siart 3 a siart 4 ar gyfer sut y perfformiodd bob neges yn erbyn y rheolydd.

Cyn y cyfyngiadau, perfformiodd ‘Ydych chi’n barod?’ yn sylweddol well na’r rheolydd a gweddill y negeseuon. Roedd ’6,000 o yrwyr newydd’ hefyd yn effeithiol a pherfformiodd yn sylweddol well na’r rheolydd ond i raddfa lai. Nid oedd unrhyw negeseuon eraill yn sylweddol well na’r rheolydd.

Siart 3: canran y rhai a ymwelodd â gwefan talu treth cerbyd y llywodraeth a gliciodd drwodd i GUL ar gyfer pob neges cyn y cyfyngiadau (%) (17 niwrnod rhwng 6 i 23 Mawrth 2020). Perfformiodd ‘Ydych chi’n barod?’ orau.

Graddfa clicio drwodd (%)
Rheolydd 3.32
Argaeledd mannau gwefru 2.73***
Hwylustod gwefru 3.22
1g y filltir 3.25
Allyriadau traffig a charbon 3.41
28,000 i 36,000 o farwolaethau 3.42
6,000 o yrwyr newydd 3.64**
Ydych chi’n barod? 4.06***

Yn y siart a’r tabl data uchod, N=440,269. ** yn nodi gwahaniaeth sylweddol ar lefel 1%, *** yn nodi gwahaniaeth sylweddol ar lefel 0.1%.

Ar ôl y cyfyngiadau, y negeseuon oedd yn perfformio orau oedd ‘Ydych chi’n barod?’, ‘6,000 o yrwyr newydd’ a ‘28,000 i 36,000 o farwolaethau’. Perfformiodd ‘Ydych chi’n barod?’ a ‘6,000 o yrwyr newydd’ yn debyg i’w gilydd ac roeddent yn sylweddol well na’r rheolydd. Roedd ‘28,000 i 36,000 o farwolaethau’ yn sylweddol waeth na’r ddwy neges oedd yn perfformio orau, ond roedd yn parhau i berfformio’n well na’r rheolydd.

Siart 4: canran y rhai a ymwelodd â gwefan talu treth cerbyd y llywodraeth a gliciodd drwodd i GUL ar gyfer pob neges ar ôl y cyfyngiadau (%) (17 niwrnod rhwng 24 Mawrth i 14 Gorffennaf 2020). Perfformiodd ‘Ydych chi’n barod?’ a ‘6,000 o yrwyr newydd’ orau.

Graddfa clicio drwodd (%)
Rheolydd 2.86
Argaeledd mannau gwefru 2.3***
Hwylustod gwefru 2.68***
1g y filltir 2.76**
Allyriadau traffig a charbon 2.92
28,000 i 36,000 o farwolaethau 3.02***
6,000 o yrwyr newydd 3.35***
Ydych chi’n barod? 3.4***

Yn y siart a’r tabl data uchod, N=3,828,349. ** yn nodi gwahaniaeth sylweddol ar lefel 1%, *** yn nodi gwahaniaeth sylweddol ar lefel 0.1%.

5. Atodiad

5.1 Polisi cydymffurfio cwcis

Yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), mae gan GOV.UK bolisi cydymffurfio cwcis. Oherwydd hyn, nid ydym yn gallu olrhain pob defnyddiwr i GOV.UK. Mae hyn yn golygu bod y niferoedd o’r treial hwn yn debygol o fod yn is na chyfanswm y nifer o ymweliadau â’r gwasanaeth Trethu eich cerbyd.

Olrheiniwyd gweddau tudalen unigryw, clicio drwodd i GUL, a graddfeydd clicio drwodd gan ddefnyddio Google Analytics. Oherwydd y modd y prosesir ac y cedwir data yn Google Analytics, talgrynnir niferoedd yn aml i fyny neu i lawr. Mae hyn yn achosi anghywirdebau bach mewn gweddau unigryw a chlicio drwodd wrth werthuso cyfnodau data gwahanol. Canlyniad hyn yw cyfanswm gweddau tudalen amrywiol yn ein dadansoddiad. Ni effeithir ar raddfa clicio drwodd gan hyn.

5.2 Tablau

Tabl A: manylion gweddau unigryw i wefan talu treth y llywodraeth, clicio drwodd i GUL, a graddfa clicio drwodd ar gyfer pob neges am y treial cyfan (130 niwrnod o 6 Mawrth i 14 Gorffennaf 2020)

Neges Gweddau unigryw o’r dudalen Trethu eich cerbyd Clicio drwodd i GUL Graddfa clicio drwodd (%)
A 535,918 15,019 2.8
B 531,965 18,081 3.4
C 533,830 15,624 2.93
D 535,189 16,597 3.1
E 535,575 18,729 3.5
F 533,574 14,602 2.74
G 536,729 12,669 2.36
Rheolydd 529,746 15,493 2.92

Tabl B: gwahaniaeth pwynt canran yn y raddfa clicio drwodd rhwng Rheolydd, Neges E a negeseuon treial eraill (130 niwrnod rhwng 6 Mawrth i 14 Gorffennaf 2020)

Neges Rheolydd Neges B Neges D
A -0.12 *** -0.60 *** -0.30 ***
B + 0.48 *** ddim ar gael +0.30 ***
C +0.01 (p=0.950) -0.47 *** -0.17 ***
D +0.18 *** -0.30 *** ddim ar gael
E +0.58 *** +0.10 ** +0.40 ***
F -0.18 *** -0.66 *** -0.36 **
G -0.56% *** -1.04 *** -0.74 ***
Rheolydd ddim ar gael -0.48 *** -0.18 ***

Yn y tabl uchod, ** yn nodi gwahaniaeth sylweddol ar lefel 1%, *** yn nodi gwahaniaeth sylweddol ar lefel 0.1%.

Tabl C: cymariaethau o gyfraddau clicio drwodd cyn y cyfyngiadau yn erbyn ar ôl y cyfyngiadau ar gyfer pob neges (130 niwrnod o 6 Mawrth i 14 Gorffennaf 2020)

Neges Cyfradd clicio drwodd cyn y cyfyngiadau (%) Cyfradd clicio drwodd ar ôl y cyfyngiadau (%) Gostyngiad cyfrannol (%)
A 3.22 2.76 14.29
B 3.64 3.35 7.97
C 3.42 2.92 14.62
D 3.41 3.02 11.44
E 4.06 3.4 16.26
F 3.25 2.68 17.53
G 2.73 2.3 15.75
Rheolydd 3.32 2.86 13.86

Tabl D: manylion gweddau unigryw gwefan talu treth y llywodraeth, clicio drwodd i GUL a graddfa clicio drwodd ar gyfer pob neges cyn y cyfyngiadau (17 niwrnod o 6 i 23 Mawrth 2020)

Neges Gweddau unigryw o’r dudalen Trethu eich cerbyd Clicio drwodd i GUL Graddfa clicio drwodd (%)
A 55,110 1,772 3.22
B 54,959 1,999 3.64
C 55,037 1,880 3.42
D 55,261 1,882 3.41
E 55,449 2,252 4.06
F 54,563 1,775 3.25
G 55,238 1,509 2.73
Rheolydd 54,652 1,817 3.32

Tabl E: gwahaniaeth pwynt canran yn y raddfa clicio drwodd rhwng y Rheolydd, Neges E a negeseuon treial eraill (17 niwrnod o 6 i 23 Mawrth 2020)

Neges Rheolydd Neges E
A - 0.10 (p=0.310) -0.84 ***
B + 0.32 ** -0.42 ***
C +0.10 (p=0.400) -0.64 ***
D +0.09 (p=0.460) -0.65 ***
E +0.74 *** ddim ar gael
F -0.07 (p=0.510) -0.81 ***
G -0.59 *** -1.33 ***
Rheolydd ddim ar gael -0.74 ***

Yn y tabl uchod, ** yn nodi gwahaniaeth sylweddol ar lefel 1%, *** yn nodi gwahaniaeth sylweddol ar lefel 0.1%.

Tabl F: manylion gweddau unigryw â gwefan talu treth y llywodraeth, clicio drwodd i GUL a graddfa clicio drwodd ar gyfer pob neges ar ôl y cyfyngiadau (113 niwrnod o 24 Mawrth i 14 Gorffennaf 2020)

Neges Gweddau unigryw o’r wefan talu treth Clicio drwodd i GUL Graddfa clicio drwodd (%)
A 479,276 13,225 2.76
B 476,394 15,954 3.35
C 479,113 13,988 2.92
D 479,055 14,461 3.02
E 479,991 16,312 3.40
F 477,909 12,794 2.68
G 480,580 11,043 2.30
Rheolydd 476,031 13,630 2.86

Tabl G: gwahaniaeth pwynt canran yn y raddfa clicio drwodd rhwng Rheolydd, Neges B, Neges E a negeseuon treial eraill (113 niwrnod o 24 Mawrth i 14 Gorffennaf 2020)

Neges Rheolydd Neges B Neges D Neges E
A -0.10** -0.59*** -0.26*** -0.64***
B + 0.49*** ddim ar gael +0.33*** -0.05 (p=0.180)
C +0.06 (p=0.100) -0.43*** -0.10** -0.48***
D +0.16*** -0.33*** ddim ar gael -0.38***
E +0.54*** +0.05 (p=0.180) +0.38*** ddim ar gael
F -0.20*** -0.67*** -0.34*** -0.72***
G -0.56*** -1.05*** -0.72*** -1.1***
Rheolydd ddim ar gael -0.49*** -0.16*** -0.50***

Yn y tabl uchod, ** yn nodi gwahaniaeth sylweddol ar lefel 1%, *** yn nodi gwahaniaeth sylweddol ar lefel 0.1%.