Ymchwil a dadansoddi

Adolygiad o Gwlân Prydain 2022

Diweddarwyd 27 Mawrth 2023

Crynodeb gweithredol

Cylch gorchwyl

Cynhaliwyd yr adolygiad hwn gan Defra yn gweithio ar y cyd â’r gweinyddiaethau datganoledig, gyda chefnogaeth gweithrediaeth a bwrdd Gwlân Prydain. Mae’r holl argymhellion sydd wedi’u cynnwys yma wedi cael eu cytuno gan weinidogion o lywodraeth y Deyrnas Unedig a llywodraethau’r gwledydd datganoledig, a lle bo hynny’n briodol bydd y gweinyddiaethau yn gweithredu ar y cyd.

Roedd i’r adolygiad hwn ddau nod:

  • ystyried a yw’r model presennol ar gyfer Gwlân Prydain (BW) (corfforaeth gyhoeddus, anariannol) yn gynaliadwy ac yn ateb buddiannau cynhyrchwyr gwlân y Deyrnas Unedig yn y ffordd orau

  • penderfynu ar fframwaith rheoleiddio Gwlân Prydain a’i berthynas â’r llywodraeth yn y dyfodol

Gofynnwyd barn aelodau’r bwrdd, aelodau’r pwyllgorau rhanbarthol a sefydliadau cynrychioliadol allweddol yn y diwydiant defaid a gwlân yn ystod yr adolygiad ac mae eu hadborth nhw wedi llywio’r ymateb. Ceir rhestr lawn o’r cyrff a fu’n ymwneud â’r gwaith yn Atodiad A.

Mae Gwlân Prydain yn eu disgrifio’u hunain fel “sefydliad dan arweiniad ffermwyr sy’n gweithio ar ran ei aelodau dan egwyddorion cydweithredol, gan drin gwlân oddi wrth holl ffermwyr defaid y Deyrnas Unedig waeth beth fo’r math, y lleoliad a’r maint. Mae Gwlân Prydain yn marchnata’r gwlân ar y cyd, mewn ffordd reoledig gydol y flwyddyn, i sicrhau’r gwerth gorau posibl i holl ffermwyr defaid y Deyrnas Unedig.”

Roedd taliadau i ffermwyr a phris cnuoedd y tu allan i rychwant yr adolygiad hwn, ond er bod gwerth cnuoedd yn parhau i ostwng mae’r adolygiad wedi canfod bod y cynhyrchwyr yn dal i weld rôl Gwlân Prydain fel rhan hanfodol o’r gadwyn gyflenwi, a hynny nid yn unig yn eu gallu i gasglu gwlân o bobman yn y Deyrnas Unedig, ond hefyd o ran darparu cyrsiau cneifio, hybu a marchnata gwlân y Deyrnas Unedig fel cynnyrch o ansawdd uchel, a’u gwaith gyda phrifysgolion i ddatblygu dibenion newydd ac arloesol ar gyfer cnuoedd o Brydain.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Gwlân Prydain wedi cymryd camau arwyddocaol i arddel dull modern a thryloyw o ran eu llywodraethu, eu cyllid a’u perthynas â’r aelodau. Gellir ategu hyn ymhellach drwy sefydlu strwythurau cliriach i reoli perthnasoedd a gwell trefniadau ar gyfer adrodd a chyfathrebu â’r llywodraeth a’r aelodau.

Mae Gwlân Prydain wedi sefydlu seilwaith i ddarparu’r gwasanaeth cyffredinol hwn, ond maent yn wynebu heriau parhaus gan fod phris gwlân yn dal i ostwng, oherwydd dirywiad parhaus ym maint y ddiadell, ac effeithiau parhaus cau’r farchnad fyd-eang yn sgil y pandemig.

Er mwyn ymateb i’r heriau hyn a chynllunio ar eu cyfer bydd ar Gwlân Prydain angen rheolwyr a bwrdd sy’n hyblyg ac yn meddwl yn fasnachol. Maen nhw eisoes yn meddwl am sut i gynyddu’r galw a gwerth brand gwlân o Brydain ac wedi gwneud gwelliannau arwyddocaol yn eu dull llywodraethu. Er hynny, mae’r ddeddfwriaeth bresennol, yn enwedig adeiladwaith y bwrdd, a gofynion presennol y Trefniant Ariannol yn cyfyngu galluoedd gweithredol Gwlân Prydain.

Trwy’r adolygiad hwn i gyd mae Gwlân Prydain a Defra wedi cael sgyrsiau adeiladol am yr opsiynau ar gyfer eu strwythur deddfwriaethol a’u perthynas â’r llywodraeth yn y dyfodol. Nid yw’r adolygiad wedi gweld unrhyw dystiolaeth bod y rhesymeg a oedd yn bodoli ar gyfer rheoleiddio’r farchnad hon yn dal i fodoli ac nid yw wedi canfod unrhyw dystiolaeth o fethiant yn y farchnad a fyddai’n cyfiawnhau goruchwyliaeth reoleiddiol barhaus gan y llywodraeth.

Mae’r adolygiad hwn yn cytuno â’r bwrdd mai nhw, yn y tymor hir, fel sefydliad cydweithredol annibynnol modern, a fyddai yn y sefyllfa orau i ymateb i bwysau’r farchnad yn y dyfodol.

Er hynny, mae sefyllfa bresennol y farchnad, ynghyd â phwysau ariannol parhaus a grëwyd gan y diffyg pensiwn, yn golygu y dylai Gwlân Prydain yn y tymor byr barhau i fod yn gorff cyhoeddus a sicrhau newidiadau yn eu strwythurau cyfreithiol ac ariannol er mwyn sicrhau eu bod ar y seiliau mwyaf sefydlog wrth droi’n annibynnol.

Argymhellion

  1. Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig i osod strwythurau cliriach ar gyfer rheoli perthnasoedd a gwell trefniadau ar gyfer adrodd a chyfathrebu rhwng Llywodraeth Ei Fawrhydi a Gwlân Prydain, gan gydnabod statws Gwlân Prydain fel corfforaeth gyhoeddus, anariannol.

  2. Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig i adolygu’r Trefniant Ariannol er mwyn asesu a yw gofynion presennol y trefniant yn dal yn gymesur ac yn briodol.

  3. Gwlân Prydain i gyflwyno gwelliannau i orchymyn 1950, yn dilyn y broses fel y’i nodir ym mharagraff 88(1) o atodlen 1 i orchymyn 1950 o fewn blwyddyn ar ôl cyhoeddi’r adolygiad hwn.

Dadansoddiad marchnad

Marchnad wlân y Deyrnas Unedig

Ym 1950, pan sefydlwyd Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain (BWMB), roedd gwlân yn adnodd cenedlaethol allweddol a bernid bod angen rheoleiddio’r farchnad “er mwyn diogelu’r cyflenwad, er mwyn yr economi ac er lles defnyddwyr”. Ym 1955, y pris cyfartalog a dderbynnid oedd £14/kg (sef pris cyfartalog yr ocsiwn wedi’i addasu ar gyfer yr RPI).

Er hynny, fel y gwelir yn y graff yn Ffigur 1, mae gwerth cnuoedd wedi gostwng yn gyson ers diwedd y 1950au. Ers dechrau’r 1990au mae prisiau gwlân wedi aros yn is na rhyw £3/kg, gyda dirywiad mwy arwyddocaol ers 2015 pan syrthiodd y gwerthoedd yn is na £1/kg am y tro cyntaf. Pris cyfartalog cnuoedd yn 2019 oedd £0.89/kg yn yr ocsiynau, gydag enillion y cynhyrchwyr ar gyfartaledd (llai gorbenion BW) yn £0.33/kg yn unig – roedd hyn yn rhannol oherwydd dyfodiad y pandemig coronafeirws (COVID-19), a gaeodd farchnadoedd y Deyrnas Unedig a marchnadoedd rhyngwladol ddechrau 2020.

Yn 2019 roedd y Deyrnas Unedig yn cyfrif am 3% yn unig o’r gwlân a gynhyrchid yn fyd-eang. Yn 2020, roedd gwlân ei hun yn cyfrif am lai nag 1% o gynhyrchion ffeibr y byd: roedd 62% o’r cynhyrchion ffeibr yn synthetig a 24% yn gotwm. [footnote 1] Mae’r twf mewn ffeibrau synthetig wedi cael effaith amlwg ar bris gwlân, sydd wedi gostwng yr enillion i’r cynhyrchwyr.

Ffigur 1: Gwerthoedd gwerthu cnuoedd y Deyrnas Unedig

Gwerthoedd gwerthu cnuoedd y Deyrnas Unedig

Oherwydd hinsawdd a thirwedd amrywiol y Deyrnas Unedig bu’n rhaid bridio ystod eang o ddefaid sy’n gallu goroesi yn rhai o amgylcheddau llymaf y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn creu amrywiaeth yn y math o wlân a’r ansawdd.

Mae defaid yn tyfu gwlân yn barhaus i amddiffyn rhag y tywydd. Mae gwlân yn deillio’n naturiol o gylch bywyd y ddafad, ac mae lles y ddafad yn well os yw’n cael ei chneifio bob 12 mis. Bydd y prif dymor cneifio yn y Deyrnas Unedig yn dechrau ym mis Mai, gan redeg drwodd i fis Gorffennaf, gan ddibynnu ble yn y Deyrnas Unedig mae’r defaid yn cael eu magu. Gan hynny, bydd faint o wlân sy’n cael ei gneifio yn amrywio; er enghraifft, bydd gwanwyn oerach yn golygu tymor cneifio mwy diweddar; bydd gwanwyn cynhesach yn golygu cneifio’n cynharach a phwysau gwlân is.

Mae cyfanswm gwerth blynyddol gwlân y Deyrnas Unedig sy’n cael ei werthu drwy ocsiynau Gwlân Prydain dros y pum mlynedd diwethaf wedi bod rhwng £20 miliwn a £30 miliwn. Prin yw’r ffermwyr defaid sy’n dibynnu ar eu siec wlân erbyn hyn, gan fod yr incwm o wlân yn llai na 3% o refeniw defaid yn 2019, a chyfran is byth o’u hincwm cyffredinol.[footnote 2]

Mae gwlân y Deyrnas Unedig yn cael ei brynu, ar y cyfan, gan fasnachwyr a gweithgynhyrchwyr o’r Deyrnas Unedig sy’n ddibynnol iawn ar allu Gwlân Prydain i gasglu gwlân a’i werthu mewn symiau digonol ar gyfer anghenion eu cadwyn gyflenwi. Heb sefydliad o’r fath byddent yn annhebygol o gasglu gwlân ar raddfa ddigon mawr i’w wneud yn hyfyw i’w brosesu. Er bod rhywfaint o awydd i ehangu’r hyn y maen nhw’n ei brynu’n annibynnol, dywedwyd wrth yr adolygiad hwn fod y masnachwyr hyn yn cydnabod y byddai newid yn barhaol i brynu ‘wrth y giât’ yn annhebygol, yn y tymor byr o leiaf, a hynny am eu bod ar hyn o bryd yn ddibynnol iawn ar seilwaith sefydledig Gwlân Prydain.

Er bod yr enillion yn isel, amlygodd cysylltiad yr adolygiad hwn â’r sector hefyd fod llawer o gynhyrchwyr yn dal i weld y taliad blynyddol am wlân fel ffordd tuag at dalu cost y cneifio, yn rhannol, os nad yn gyfan gwbl. Pe na baent yn cael y taliad, gallai hynny, dros amser, effeithio ar eu proffidioldeb cyffredinol. Os na fydd y costau cneifio’n cael eu talu, cododd sefydliadau sy’n cynrychioli rhanddeiliaid bryderon ynghylch y posibilrwydd y gallai cynhyrchwyr fod â llai o gymhelliant i gneifio defaid, gan arwain at les anifeiliaid gwael neu adael cnuoedd i bydru ar y fferm, gan arwain at effeithiau amgylcheddol andwyol.

Mae’r adolygiad hwn wedi amlygu’r rôl bwysig y mae Gwlân Prydain yn dal i’w chwarae i ffermwyr, yn enwedig y rhai sydd â’r diadelloedd lleiaf, y rhai mewn ardaloedd gwledig anghysbell, neu’r rhai sydd â bridiau prin, a fyddai fel arall yn methu creu’r economi maint sy’n angenrheidiol i werthu eu gwlân ar raddfa gystadleuol ac a fyddai’n debygol o fod heb enillion o gwbl.

Y farchnad wlân ryngwladol

Dros y degawdau diwethaf mae’r ganolfan weithgynhyrchu ar gyfer cynhyrchion gwlân wedi bod yn symud i Asia. Tsieina yw’r mewnforiwr gwlân mwyaf yn y byd a’r allforiwr mwyaf o nwyddau gwlân wedi’u gweithgynhyrchu. Mae cynhyrchu gwlân crai yn Tsieina hefyd wedi bod yn ehangu’n gyflym dros y blynyddoedd diwethaf nes cyrraedd y trydydd safle o blith cynhyrchwyr mwyaf y byd, tra bo’r cynhyrchydd mwyaf, sef Awstralia, wedi haneru ei chynnyrch ers 1990. Mae 70% o’r gwlân a gynhyrchir yn fyd-eang yn cael ei allforio i Tsieina i gael ei sgwrio a’i brosesu ymhellach.

Mae’r ystod eang o fridiau defaid a’r mathau o wlân yn y Deyrnas Unedig yn golygu nad oes marchnadoedd a all gael eu cymharu’n uniongyrchol. Mae gan farchnadoedd rhyngwladol mawr ar gyfer gwlân, fel Awstralia a Seland Newydd lond llaw o fridiau, a diadelloedd llawer mwy, o ryw 20,000 o anifeiliaid. Nid yw maint a graddfa’r gwlân sy’n cael ei gneifio yno yn gofyn am unrhyw gorff cydlynu i helpu i’w werth am fod gan y ffermwyr y symiau o wlân i’r masnachwyr sy’n gwneud prynu’n uniongyrchol yn broffidiol.

Ffigur 2: Cymharu pris gwlân o’r Deyrnas Unedig a Seland Newydd

Cymharu pris gwlân o’r Deyrnas Unedig a Seland Newydd

Fel y gwelir yn Ffigur 2, er gwaethaf y gwahaniaethau yn strwythur y farchnad mae pris gwlân y Deyrnas Unedig a phris gwlân Seland Newydd yn tracio’i gilydd i raddau helaeth. Mae’n debygol bod hyn yn deillio i raddau helaeth o’r ocsiynau agored a drefnir gan Gwlân Prydain, sy’n caniatáu i ffermwyr y Deyrnas Unedig werthu ar raddfa a fyddai’n amhosibl pe baen nhw’n gweithredu’n annibynnol.

Rôl Gwlân Prydain yn y farchnad wlân

Yn unol â gofynion y cynllun, mae’r cynhyrchwyr yn anfon y gwlân sydd wedi’i gneifio i rwydwaith o ddepos Gwlân Prydain ar draws y Deyrnas Unedig lle mae’r gwlân yn cael ei raddio i fwy na 100 o gategorïau, ei ddidoli yn ôl ei fath a’i ansawdd, ei brofi gan Awdurdod Profi Gwlân Ewrop (WTAE), ei fyrnu a’i werthu mewn ocsiynau agored a chystadleuol. Mae’r rhan fwyaf o’r lotiau ocsiwn a gynhyrchir gan Gwlân Prydain yn wyth tunnell o fath cyson ac maent yn cynnwys gwlân o nifer o ffermydd. Fel arall, gall y ffermwyr ddewis gwerthu eu gwlân yn uniongyrchol i fasnachwyr, yn groes i’r gorchymyn. Ar ôl ei werthu, bydd y gwlân yn mynd ymlaen i gael ei sgwrio (ei lanhau), fel arfer mewn sypiau o 50 tunnell ac mewn cymysgedd a all gynnwys gwlân o fannau eraill. Ar ôl ei sgwrio, mae gwlân Prydain yn cael ei brosesu ymhellach yn ystod eang o gynhyrchion gan gynnwys carpedi, ffabrig trafnidiaeth, dillad gwely, matresi, dillad wedi’u gwau, brethyn, ac insiwleiddiad. Mae angen prosesu arbenigol ar gyfer pob un o’r cynhyrchion hyn. Mae darlun cam wrth gam o siwrnai’r gwlân o’r fferm i’r defnyddiwr i’w weld ym map siwrnai gwlân y Deyrnas Unedig yn Ffigur 3. Er bod cneifio defaid yn cael ei wneud mewn ychydig fisoedd yn unig, drwy gasglu a storio gwlân y Deyrnas Unedig, gall Gwlân Prydain werthu cnuoedd gydol y flwyddyn, sef rhywbeth y mae’r gadwyn gyflenwi ymlaen yn dweud ei fod yn werthfawr iawn am ei fod yn caniatáu iddyn nhw sicrhau cynnyrch y tu allan i’r tymor cneifio. Mae’r taliadau i’r cynhyrchwyr sy’n aelodau o Gwlân Prydain yn cael eu gwneud yn ystod y flwyddyn a hynny ar sail pwysau ac ansawdd y gwlân a ddarparwyd ganddynt ac ar y gwerth cyfartalog y mae pob gradd yn ei gyflawni yn yr ocsiwn. Mae’r taliadau’n cael eu sbarduno pan fo’r cynhyrchwyr yn danfon eu gwlân y flwyddyn ganlynol.

Ffigur 3: Map o siwrnai gwlân y Deyrnas Unedig

Map o siwrnai gwlân y Deyrnas Unedig

Mae system raddio’r Deyrnas Unedig, fel y’i sefydlwyd gan Gwlân Prydain, yn categoreiddio’r gwlân ar sail ei steil a’i nodweddion, ac maen hyn yn darparu cyfanswm o bron 120 o raddau o wlân cnu. Cydgrynhoi’r graddau hyn yn symiau y mae modd eu gwerthu sy’n sicrhau’r gwerth ar gyfer pob cynhyrchydd.

Pan sefydlwyd y BWMB yn 1950 roedd y rhan fwyaf o’r gwlân yn mynd i wneud dillad. Yn 2022 mae hynny’n gyfran llawer llai, gydag oddeutu 50% yn mynd i garpedi, y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu gwerthu i’r sector lletygarwch. Defnyddir y gweddill ar gyfer dillad gwely, megis duvets, gobenyddion, a matresi; ac mewn gorchuddion dodrefn mewn cerbydau trafnidiaeth, fel gorchuddion seddau trên. Gyda mwy a mwy o gydnabyddiaeth i wlân fel deunydd bioddiraddadwy cynaliadwy bu Gwlân Prydain wrthi’n cefnogi ymchwil gyda phrifysgolion i farchnadoedd newydd, yn enwedig ar gyfer y cnuoedd isaf eu gwerth, gan gynnwys inswleiddio, compost gardd a llewys coed.

Hyfforddiant cneifio

Mae Gwlân Prydain yn darparu rhaglen hyfforddi cneifio flynyddol ac yn rhoi cymorthdaliadau ar ei gyfer i ryw 800 o ffermwyr ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig. Mae eu rhaglen hyfforddi cneifio wedi’i chynllunio o amgylch lles anifeiliaid, gyda’r holl ymgeiswyr yn cael eu hyfforddi i gneifio’n ofalus ac yn garedig, tra hefyd yn gwneud y gorau o werth masnachol pob cnu.

Awdurdod Profi Gwlân Ewrop (WTAE)

Sefydlwyd y WTAE yn 2004 a dyma’r unig labordy profi gwlân yn Hemisffer y Gogledd. Gan brofi yn unol â safonau’r Sefydliad Tecstilau Gwlân Rhyngwladol (IWTO), maent yn darparu gwasanaeth profi gwlân gwrthrychol, cost-effeithiol i’r diwydiant rhyngwladol, gan sicrhau annibyniaeth a chywirdeb ardystiadau gwlân.

Er mai Gwlân Prydain sy’n dal 100% o’r cyfrannau mae WTAE yn gweithredu hyd braich er mwyn cynnal uniondeb eu canlyniadau.

Anfonir sampl o bob bwrn o wlân i’r WTAE, ac mae’n cael ei phrofi o ran y cynnyrch ei hun (faint o wlân o’i gyferbynnu â faint o saim), micronau (diamedr cyfartalog y ffeibrau gwlân), lliw (pa mor wyn yw’r gwlân) a mater llysieuol (faint o wellt neu redyn, er enghraifft, sydd yn y gwlân). Mae’r diwydiant yn dibynnu ar y profion hyn i roi sicrwydd ynghylch canran y gwlân ym mhob bwrn ac maen nhw’n ategu prisiau uwch. Cyn y broses brofi ffurfiol hon, roedd rhaid i’r masnachwyr archwilio’r gwlân yn gorfforol ac asesu pob bwrn sampl o bob lot â’r llygad.

Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain (BWMB)

Sail statudol

Sefydlwyd y BWMB (‘Gwlân Prydain’) gan Orchymyn Cynllun Marchnata Gwlân Prydain (Cymeradwyo) 1950 (diwygiad diweddaraf yn 2000) (‘y gorchymyn’) a hynny am fod gwlân yn adnodd cenedlaethol allweddol a’r angen ar ôl y rhyfel i reoleiddio’r farchnad “er mwyn diogelu’r cyflenwad, er mwyn yr economi ac er lles defnyddwyr”. Gwlân Prydain sy’n gweinyddu’r cynllun a nodir yn y gorchymyn. Mae gan unrhyw ffermwr defaid cofrestredig yn y Deyrnas Unedig hawliau pleidleisio mewn perthynas â’r cynllun.

Mae’r cynllun yn ei gwneud yn ofynnol i Gwlân Prydain gasglu’r cyfanswm o’r gwlân sy’n cael ei gneifio ac a gynigir yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn ni waeth beth fo’r maint, yr ansawdd, neu’r lleoliad daearyddol, ac i ddychwelyd gwerth y farchnad i’r ffermwr (llai gorbenion). Mae’r gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr defaid gofrestru gyda Gwlân Prydain a chyflwyno’u gwlân bob blwyddyn i’w werthu. Mae yna eithriadau ar gyfer diadelloedd sy’n llai na phedwar anifail, neu lle gofynnwyd am eithriad, a bod Gwlân Prydain wedi cytuno i’w roi. Amlygodd y cysylltiadau â’r diwydiant a gafwyd yn yr adolygiad hwn fod llawer o gynhyrchwyr yn camddeall y rôl y mae Gwlân Prydain yn ei chwarae wrth werthu eu gwlân, gan gredu bod Gwlân Prydain yn prynu eu gwlân ganddyn nhw, gan ei werthu ymlaen wedyn i wneud elw.

Y berthynas â’r llywodraeth

Mae cyfrifoldebau’r llywodraeth mewn perthynas â Gwlân Prydain wedi’u nodi yng ngorchymyn 1950 a gellir eu crynhoi fel hyn:

  1. Cynnal Trefniant Ariannol.

  2. Yn amodol ar gytundeb y gweinidogion, gosod cyfrifon ariannol blynyddol Gwlân Prydain gerbron eu priod Seneddau a Chynulliadau.

  3. Cynnal perthynas barhaus gydag aelodau annibynnol y bwrdd sy’n cael eu penodi ar y cyd gan y gweinidogion – mae’r penodiadau hyn yn cael eu gwneud o dan yr atodlen i orchymyn 1950.

Mae cyrff cyhoeddus yn sefydliadau sydd wedi’u sefydlu’n ffurfiol ac sydd, yn rhannol o leiaf, yn cael eu hariannu’n gyhoeddus i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus neu un o wasanaethau’r llywodraeth, ond nid fel adran un o’r gweinidogion. Mae’r term yn cyfeirio at ystod eang o endidau’r sector cyhoeddus, ond gan fod Gwlân Prydain yn hunan-ariannu, a chan nad oes gan Defra gyfrifoldeb swyddog cyfrifyddu dros y sefydliad, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn dosbarthu Gwlân Prydain fel corfforaeth gyhoeddus, anariannol. Mae gan Gwlân Prydain ddigon o annibyniaeth weithredol i farnu ei fod yn sefyll ar wahân i’r llywodraeth i bob pwrpas.

Gwelodd yr adolygiad hwn fod y bwrdd a’r weithrediaeth yn ymgysylltu ac yn cydweithredu’n llawn â’r broses adolygu, ond rydym yn deall nad yw’r berthynas â’r llywodraeth bob amser wedi bod felly a’i bod wedi bod yn bur straenllyd a thameidiog yn y gorffennol. Mae hyn wedi arwain at rywfaint o gamliwio a chamddeall ar y berthynas honno, a welwyd wrth inni ymgysylltu â’r sector pan oedd yr ymatebwyr yn credu bod gan y llywodraeth rôl arwyddocaol a dylanwadol yn y penderfyniadau a wneid gan y bwrdd, yn ogystal â dylanwad y llywodraeth o fewn y bwrdd drwy’r penodiadau cyhoeddus.

Sefydlwyd Rhaglen Diwygio Cyrff Cyhoeddus (PBRB) ar y cyd rhwng Trysorlys EF a Swyddfa’r Cabinet ym mis Ionawr 2021. Cenhadaeth y rhaglen yw sicrhau cyrff cyhoeddus atebol, effeithiol, ac effeithlon sy’n cyd-fynd â’i phum ffrwd waith sydd â blaenoriaeth. [footnote 3] Oherwydd eu statws gweithredol annibynnol, mae Gwlân Prydain yn gorwedd y tu allan i rychwant y rhaglen hon ar hyn o bryd. Er hynny, mae’r adolygiad hwn yn argymell y dylid rhoi strwythurau clir ar gyfer rheoli perthnasoedd ar waith, er mwyn parhau i ddarparu llwybr cyfathrebu clir a thryloywder.

Argymhelliad: Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig i osod strwythurau cliriach ar gyfer rheoli perthnasoedd a gwell trefniadau ar gyfer adrodd a chyfathrebu rhwng Llywodraeth Ei Fawrhydi ar gyfer Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a Gwlân Prydain, gan gydnabod statws Gwlân Prydain fel corfforaeth gyhoeddus, anariannol.

Llywodraethu a strategaeth

Gan gydnabod rhai o’r heriau sy’n wynebu’r sefydliad, mae bwrdd Gwlân Prydain wedi cymryd camau cadarnhaol i wella’i weithrediadau mewnol ac allanol. Un enghraifft yw sefydlu Gweithgor Llywodraethu ar ddechrau 2021 sydd wedi arwain at lywodraethu a dogfennau mewnol diwygiedig er mwyn sicrhau bod yr arferion gorau’n cael ei parchu. Yn ychwanegol, mae llawlyfr manwl i aelodau’r bwrdd wedi’i roi ar waith ynghyd â chanllawiau clir i gynrychiolwyr sirol ac aelodau’r pwyllgorau rhanbarthol. Bydd llywodraethu’n cael ei wella ymhellach gyda’r hyfforddiant effeithiolrwydd sydd wedi’i gynllunio i’r bwrdd.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae tîm bwrdd a rheolwyr Gwlân Prydain wedi gosod strategaeth ac ethos pendant ar gyfer y sefydliad gyda gweledigaeth gref ar gyfer y dyfodol. Bwriad y strategaeth yw sicrhau bod Gwlân Prydain yn cyflawni ei chenhadaeth i sicrhau’r elw mwyaf posibl i’w haelodau tra’n cynnal ethos y sefydliad fel sefydliad marchnata ar y cyd.

Rheolaeth ariannol

Mae Gwlân Prydain yn casglu, yn graddio ac yn gwerthu gwlân ar ran cynhyrchwyr cofrestredig. Nid oes gan y llywodraeth gyfrifoldeb swyddog cyfrifyddu dros Gwlân Prydain ac nid yw’r sefydliad yn cael ei ariannu’n gyhoeddus.

Er ei bod yn ofynnol i Gwlân Prydain gyflwyno’u cyfrifon blynyddol i lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig, does gan y llywodraeth ddim pwerau i ymchwilio i afreoleidd-dra ariannol, na dylanwadu ar gyflogau, tâl na gwariant Gwlân Prydain.

Mae’r Trefniant Ariannol, a wnaed ym 1995 rhwng y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd ac Ysgrifenyddion Gwladol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon a’r bwrdd, yn ymwneud â sefydlu a gweithredu’r Cyfrif Wrth Gefn a’r Gronfa Wrth Gefn. Roedd hyn yn dilyn dileu’r Gwarant Pris Gwlân ym 1993 a’r bwriad oedd sicrhau bod Gwlân Prydain yn cadw adnoddau digonol i gyflawni rhwymedigaethau sy’n deillio o’u gweithrediadau marchnata a masnachu gwlân. Mae’r cytundeb presennol wedi cael ei ymestyn drwy gytundebau dyddiedig 26 Mai 2000, 22 Ebrill 2005, 2010, 2015, a 2018.

Er hynny, mae’r adolygiad hwn yn ymwybodol ei bod yn angenrheidiol, yn y gorffennol, i Gwlân Prydain drin y cronfeydd hyn fel cyfalaf gweithio er mwyn ymateb i bwysau’r farchnad, yn groes i’r Trefniant Ariannol, gan ddangos nad yw’r trefniant yn ei ffurf bresennol yn addas i’w diben. At hynny, argymhellodd adolygiad gan Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth (GIAA) (Mawrth 2021):

“The Department [Defra] should, in collaboration with BWMB, refresh the Financial Arrangement to more clearly describe the operating environment and document all related roles and accountabilities required to fulfil the Arrangement”

Mae’r adolygiad hwn o’r farn ei bod yn hen bryd cael diweddariad arwyddocaol er mwyn sicrhau bod y trefniant ariannol yn dal yn gymesur ac yn dal yn galluogi Gwlân Prydain i weithredu’n effeithiol. Dylai trefniant diwygiedig hefyd ddarparu’r tryloywder a’r gwaith craffu y mae ar y llywodraeth eu hangen i’w sicrhau ei hun bod arian yn dal i gael ei ddefnyddio er budd gorau’r cynhyrchwyr.

Pensiwn

Sefydlodd Gwlân Prydain gynllun pensiwn, a oedd yn gweithredu ar sail cyflog terfynol tan 2005, pan gafodd ei ddisodli gan gynllun cyfartaledd gyrfa i leihau’r costau yn y dyfodol. Mae diffyg pensiwn o’r degawdau blaenorol yn cael ei leihau drwy gynllun adfer a roddwyd ar waith gan Ymddiriedolwyr y Gronfa Bensiwn.

Mae Gwlân Prydain wedi gofyn i’r llywodraeth ysgwyddo cyfrifoldeb dros leihau’r diffyg neu roi cymorth ariannol tuag at hynny. Er hynny, gan fod Gwlân Prydain yn gorfforaeth anariannol sydd ag annibyniaeth weithredol, does gan y llywodraeth ddim cyfrifoldeb dros y diffyg, sy’n gorfod cael ei reoli gan y sefydliad.

Fel rhan o’r adolygiad hwn, adolygodd Adran Actiwaraidd y Llywodraeth (GAD) Brisiad Actiwaraidd 2018 ac nid yw o’r farn y bydd yr ad-daliadau disgwyliedig yn creu unrhyw faterion ariannol uniongyrchol neu arwyddocaol i’r sefydliad. Asesiad proffesiynol GAD yw bod y diffyg yn cael ei reoli’n dda gan y bwrdd a’r ymddiriedolwyr.

Argymhelliad: Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig i adolygu’r Trefniant Ariannol er mwyn asesu a yw gofynion presennol y trefniant yn dal yn gymesur ac yn briodol.

Yr achos dros newid rheoleiddiol

Mae’r adolygiad hwn wedi sefydlu y bydd swyddogaethau Gwlân Prydain a’u gallu i gasglu, graddio a gwerthu gwlân a dychwelyd refeniw i’r cynhyrchwyr, yn dal yn hanfodol i lwyddiant y sector, yn enwedig wrth iddo wella ar ôl heriau’r farchnad yn y ddwy flynedd diwethaf.

Nid yw economi’r Deyrnas Unedig yn gofyn erbyn hyn i’r farchnad wlân gael ei rheoleiddio “er mwyn diogelu’r cyflenwad, er mwyn yr economi ac er lles defnyddwyr”. Fel y nodwyd mewn adrannau blaenorol o’r adroddiad hwn, mae safle gwlân ar y farchnad ffeibrau byd-eang wedi newid yn arwyddocaol, ac felly nid yw’r rhesymeg a oedd yn bodoli dros reoleiddio’r farchnad hon drwy ddeddf gwlad yn bodoli mwyach. Nid yw’r adolygiad hwn wedi canfod unrhyw dystiolaeth o fethiant yn y farchnad a fyddai’n cyfiawnhau goruchwyliaeth reoleiddiol barhaus gan y llywodraeth, ac nid oes tystiolaeth chwaith mai cadw statws corff cyhoeddus fydd yn sicrhau bod buddiannau’r cynhyrchwyr yn dal i gael eu gwasanaethu yn y ffordd orau posibl

Gan fod y gorbenion, megis trafnidiaeth, rheoli depos, ac ocsiynau, yn sefydlog i raddau helaeth mae angen i Gwlân Prydain barhau i wneud y gorau o gystadleuaeth yn yr ocsiynau er mwyn creu enillion da i’r ffermwyr. Gan fod y cystadleuwyr yn ymddwyn yn fwy agored, heb newid mae perygl y gwelir sbiral ar i lawr o werthoedd llai ac enillion is i’r cynhyrchwyr, gan ddileu cymhelliant y cynhyrchwyr i anfon eu gwlân i Gwlân Prydain.

Mae Gwlân Prydain, am ei fod yn cael ei arwain gan ei aelodau, eisoes yn gweithredu’n unol ag egwyddorion cymdeithas gydweithredol. Mae’r adolygiad hwn wedi canfod nad yw’r cyfiawnhad a arweiniodd at reoleiddio’r sector hwn ym 1950 yn bodoli mwyach ac nid yw’n credu bod digon o achos nac angen i’r llywodraeth barhau i reoleiddio’r farchnad hon yn y fath fodd.

Cyn yr adolygiad hwn, ac yn ystod yr adolygiad hwn, mae bwrdd Gwlân Prydain wedi cyflwyno sylwadau i’r llywodraeth ynghylch y cyfyngiadau yng ngorchymyn 1950 sy’n eu hatal rhag gweithredu’n fasnachol, neu â digon o hyblygrwydd i ymateb i amodau cystadleuol y farchnad, ac nid ydynt bellach yn credu bod y cynllun yn cyflawni pethau er budd gorau’r cynhyrchwyr.

Mae’r llywodraeth a Bwrdd Gwlân Prydain yn cytuno y byddai symud Gwlân Prydain allan o’r sector cyhoeddus yn y tymor hir o fudd i’r sefydliad ac i’r cynhyrchwyr sy’n aelodau ohono.

Er hynny, mae’r adolygiad wedi dod i’r casgliad y dylai Gwlân Prydain, cyn dechrau’r broses honno, geisio moderneiddio gorchymyn 1950 i sicrhau bod y cynllun a’r bwrdd yn y sefyllfa orau posibl i lywio’r broses tuag at annibyniaeth.

Ategir y safbwynt hwn gan Fwrdd Gwlân Prydain sy’n credu, unwaith y bydd yr argymhellion yn yr adolygiad hwn wedi’u cyflawni, a bod y farchnad wedi cael amser i sadio yn dilyn y pandemig, y byddan nhw mewn sefyllfa gryfach i ddod yn annibynnol ar y llywodraeth. Ar ôl moderneiddio gorchymyn 1950, dylai’r bwrdd, gan weithio ar y cyd â Defra a’r llywodraethau datganoledig, drosglwyddo Gwlân Prydain i statws annibynnol yn unol â gofynion deddf 1958.

Argymhelliad: Gwlân Prydain i gyflwyno gwelliannau i orchymyn 1950, yn dilyn y broses fel y’i nodir ym mharagraff 88(1) o atodlen 1 i orchymyn 1950 o fewn blwyddyn ar ôl cyhoeddi’r adolygiad hwn.

Atodiad A: Rhestr o’r cyrff a fu’n cymryd rhan yn ystod yr adolygiad

Aelodau’r Bwrdd

Aelodau’r Byrddau Rhanbarthol

Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr

Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, yr Alban

Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, Cymru

Undeb Ffermwyr Ulster

Y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol

Cymdeithas Ddefaid Genedlaethol Cymru

Cymdeithas Ddefaid Genedlaethol Gogledd Iwerddon

Cymdeithas Ddefaid Genedlaethol yr Alban

Undeb Amaethwyr Cymru

Ffederasiwn Crofftwyr yr Alban

Ffermwyr Ifanc (Cymru, Lloegr)

Ffermwyr Ifanc (Yr Alban)

Ffermwyr Ifanc (Gogledd Iwerddon)

Ffermwyr Ifanc Cymru

Yr Ymgyrch dros Wlân

Grŵp Ffocws Carpedi Gwlân

Curtis Wool

Modiano

Standard

Andean Sky

Swan Wool

Kent Premier

KO Fibers

R.E. Dickie

Haworth Scouring

Thomas Chadwick (Standard)

Natural Fibre Company

Edward Clay

Lawtons

Danspin

Calder Textile/Atlantic Yarn

Brintons Carpets

Devon Duvets

Headlam Group

Harris Tweed Hebrides