Bwletin y Cyflogwr: Mehefin 2021
Published 9 June 2021
Rhagarweiniad
Yn rhifyn y mis hwn o Fwletin y Cyflogwr, mae diweddariadau a gwybodaeth am y canlynol:
Cyfnod pontio’r DU
Dyddiad cau ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE – 30 Mehefin 2021
Gwneud cais i’r Gronfa Gymorth Brexit ar gyfer Mentrau Bach a Chanolig (MBaCh)
Gwybodaeth a diweddariadau coronafeirws (COVID-19)
Coronafeirws: sut y bydd CThEM yn parhau i gefnogi cwsmeriaid a’r economi
Hawlio rhyddhad treth am weithio gartref
Cefnogaeth barhaus i fusnesau: Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol
Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws
Cynllun Talu Newydd ar gyfer TAW Ohiriedig
Tâl buddiant trethadwy – dychwelyd offer swyddfa
TWE
Gwirio eich bod yn cymryd y didyniadau Benthyciad Myfyriwr a/neu Fenthyciad Ôl-raddedig cywir
Cynllun Benthyciadau Myfyrwyr yn yr Alban, Math 4
Offer TWE Sylfaenol – gwaith cynnal a chadw
Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A
Rhoi gwybod am Dalu Wrth Ennill (TWE) mewn amser real
Diweddariadau treth a newidiadau i arweiniad
Dyrannu Rhif Yswiriant Gwladol
Seibiant i gyflogwyr cyn-filwyr rhag talu Yswiriant Gwladol - diweddariad
Rheolau gweithio oddi ar y gyflogres
Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid
Adolygiad o Fframwaith Gweinyddu Treth
Ymunwch â busnesau bach a chanolig o’r un anian sy’n elwa o’r Rhaglen Rhwydweithiau Cymheiriaid
Cymorth CThEM i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt
Mae dros 20,000 o fusnesau eisoes yn elwa o fod yn Hyderus o ran Anabledd
Offeryn newydd wedi’i lansio i gefnogi sefydliadau i gyflawni Tystysgrif Cyber Essentials
Fformat Bwletin y Cyflogwr HTML
Cyfnod pontio’r DU
Dyddiad cau ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE – 30 Mehefin 2021
Mae’n rhaid i ddinasyddion yr UE, yr AEE a’r Swistir ac aelodau o’u teulu, a oedd yn breswyl yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020, wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE erbyn 30 Mehefin 2021. Mae hyn er mwyn iddynt allu parhau i fyw, gweithio, astudio, cael gofal iechyd, budd-daliadau a phensiynau. Mae’n rhad ac am ddim i wneud cais.
Mae hyn yn ofynnol gan fod y DU wedi gadael yr UE a, thrwy hynny, wedi peidio â bod yn rhan o egwyddorion symudiad rhydd yr UE mwyach.
Nid eich cyfrifoldeb chi fel cyflogwr yw sicrhau bod unrhyw gyflogeion cymwys wedi gwneud cais, ond gallwch chwarae eich rhan drwy eu hatgoffa o’r dyddiad cau sy’n nesáu a thrwy raeadru’r wybodaeth sydd yn y pecyn cymorth i gyflogwyr.
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais cyn y dyddiad cau, sef 30 Mehefin 2021, dylai’ch cyflogeion cymwys fynd i’r dudalen sy’n ymdrin â gwneud cais ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (statws sefydlog a chyn-sefydlog).
Mae’n bwysig cofio – ni fydd y gwiriadau hawl i weithio cyfredol yn newid tan ar ôl 30 Mehefin 2021. Peidiwch â gwahaniaethau yn erbyn dinasyddion yr UE, yr AEE a’r Swistir sy’n dymuno defnyddio’u pasbort neu eu cerdyn adnabod cenedlaethol fel tystiolaeth o’u hawl i weithio. Nid yw’n ofynnol gwneud gwiriadau ôl-weithredol ar gyfer cyflogeion sydd eisoes yn gweithio i chi.
Ceir rhagor o wybodaeth am sut i gynnal gwiriadau hawl i weithio ar gyfer dinasyddion yr UE, yr AEE a’r Swistir ar ôl 30 Mehefin 2021 yn yr arweiniad ategol i gyflogwyr o ran gwiriadau hawl i weithio.
Mae’r llywodraeth wedi cytuno ar ddarpariaethau o ran cydlynu nawdd cymdeithasol gyda’r UE yn y Cytundeb Masnachu a Chydweithredu. Mae’r darpariaethau hyn yn sicrhau bod gweithwyr sy’n symud rhwng y DU a’r UE dim ond yn gorfod talu i mewn i gynllun nawdd cymdeithasol un wlad ar y tro.
Gweithio dros dro yn y DU neu’r UE
Os ydych yn anfon cyflogai i weithio dros dro yn yr UE, gallwch chi neu’ch cyflogai wneud cais am dystysgrif neu ddogfen gan CThEM, a hynny er mwyn sicrhau eich bod chi a’ch cyflogai, am hyd at 24 mis, yn parhau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y DU yn unig.
Am ragor o wybodaeth, gweler y dudalen sy’n ymdrin ag Yswiriant Gwladol i weithwyr o’r DU sy’n gweithio yn yr AEE neu’r Swistir.
Os ydych yn dod â chyflogai sydd wedi’i leoli yn yr UE i weithio yn y DU dros dro, gall hefyd wneud cais am dystysgrif gan yr Aelod-wladwriaeth o’r UE lle y mae wedi’i leoli. Bydd hyn yn sicrhau y byddwch chi a’ch cyflogai dim ond yn talu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yng ngwlad wreiddiol eich cyflogai, a hynny am hyd at 24 mis.
Am ragor o wybodaeth, gweler y dudalen sy’n ymdrin â chyfraniadau nawdd cymdeithasol ar gyfer gweithwyr sy’n dod i’r DU o’r AEE neu’r Swistir.
Gweithio dros dro yn y DU neu yn Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein neu’r Swistir
I gael gwybodaeth am fynd i weithio yn Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein neu’r Swistir, neu am ddod o’r gwledydd hynny i weithio yn y DU, gweler y dudalen sy’n ymdrin ag Yswiriant Gwladol i weithwyr o’r DU sy’n gweithio yn yr AEE neu’r Swistir a’r dudalen sy’n ymdrin â chyfraniadau nawdd cymdeithasol ar gyfer gweithwyr sy’n dod i’r DU o’r AEE neu’r Swistir.
Bydd hyn hefyd yn trafod sut i wneud cais am dystysgrif neu ddogfen gan CThEM.
Gwneud cais i’r Gronfa Gymorth Brexit ar gyfer Mentrau Bach a Chanolig (MBaCh)
Anogir busnesau llai o faint i wneud cais am grantiau, gwerth hyd at £2,000, i’w helpu i addasu i reolau tollau a threthi newydd wrth fasnachu gyda’r UE, tra ydynt yn dal i allu gwneud hynny.
Mae’r Gronfa Gymorth Brexit ar gyfer MBaCh, sy’n werth £20 miliwn, yn galluogi masnachwyr i gael cymorth ymarferol, gan gynnwys hyfforddiant ar y prosesau newydd o ran tollau, TAW a’r rheolau o ran tarddiad.
Anogir busnesau bach a chanolig sy’n masnachu gyda’r UE yn unig, ac sy’n anghyfarwydd felly â phrosesau mewnforio ac allforio, i wneud cais am y grantiau cyn i’r cynllun ddod i ben ar 30 Mehefin 2021.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael mewn perthynas â sut i wneud cais am grant i helpu busnesau bach a chanolig sy’n anghyfarwydd â mewnforio ac allforio.
Gwybodaeth a diweddariadau coronafeirws (COVID-19)
Coronafeirws: sut y bydd CThEM yn parhau i gefnogi cwsmeriaid a’r economi
Rydym wedi diweddaru brîff gwybodaeth CThEM ynghylch sut y bydd CThEM yn parhau i gefnogi cwsmeriaid a’r economi yn sgil COVID-19.
Mae’r ddogfen hon yn crynhoi’r cynlluniau cymorth a’r newidiadau i bolisïau y mae CThEM wedi’u rhoi ar waith. Mae hefyd yn cynnwys ein hegwyddorion ar gyfer y camau nesaf o ran casglu treth, taliadau budd-daliadau, gwiriadau cydymffurfio a gweithgarwch dyledion.
Rydym yn cydnabod effaith barhaus y pandemig coronafeirws. Bydd CThEM yn parhau i gasglu’r dreth sy’n ddyledus mewn ffordd sy’n cydnabod yr anghenion a’r heriau real iawn y mae busnesau ac unigolion yn eu hwynebu. Erbyn hyn, mae’r brîff gwybodaeth diweddaredig yn cynnwys cyhoeddiadau gan y llywodraeth a wnaed ers mis Tachwedd.
Hawlio rhyddhad treth am weithio gartref
Efallai y bydd eich cyflogeion yn wynebu costau ychwanegol yn eu haelwyd os oes rhaid iddynt weithio gartref yn rheolaidd, naill ai am yr wythnos gyfan neu ran o’r wythnos. Mae hyn yn cynnwys os dywedwyd wrthynt i weithio gartref oherwydd coronafeirws.
Mae costau ychwanegol yn cynnwys pethau fel gwres, biliau dŵr â mesuryddion neu alwadau busnes, y gallant ddangos eu bod wedi’u hysgwyddo’n gyfan gwbl, yn unig ac o reidrwydd o ganlyniad uniongyrchol i weithio gartref. Nid yw costau ychwanegol yn cynnwys costau a fyddai’n aros yr un fath p’un a yw’r cyflogeion yn gweithio gartref neu mewn swyddfa.
Os nad ydych, fel eu cyflogwr, eisoes yn ad-dalu’ch cyflogeion am y costau hyn, mae’n bosibl y byddant yn gymwys i hawlio rhyddhad treth arnynt. Gall eich cyflogeion hawlio’n gyflym ac yn hwylus gan ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein, sydd bellach ar agor ar gyfer hawliadau sy’n ymwneud â chyfnodau hyd at 5 Ebrill 2022.
Bydd angen i gyflogeion hynny sy’n gorfod llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad hawlio treuliau ar gyfer gweithio gartref drwy’r tudalennau incwm o gyflogaeth yn eu Ffurflen Dreth yn hytrach na thrwy’r gwasanaeth digidol.
Mae arweiniad manwl i’w helpu i hawlio ac i wirio eu cymhwystra.
Cefnogaeth barhaus i fusnesau: Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol
Mae Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol Llywodraeth y DU yn parhau i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer cyflogwyr bach a chanolig.
Os ydych yn gyflogwr sydd â llai na 250 o gyflogeion, ac os ydych wedi talu Tâl Salwch Statudol (SSP) i gyflogeion ar gyfer absenoldeb salwch sy’n gysylltiedig â choronafeirws, gallech fod yn gymwys ar gyfer cymorth.
Gallwch hefyd siarad â’ch ymgynghorydd treth am gyflwyno hawliadau ar eich rhan.
Bydd yr ad-daliad yn cwmpasu hyd at bythefnos o’r gyfradd berthnasol ar gyfer SSP. Dysgwch ragor am gymhwystra a gwiriwch a allwch adhawlio tâl salwch statudol.
Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws
Y dyddiad cau ar gyfer hawliadau drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws ar gyfer cyfnodau ym mis Mai 2021 yw Dydd Llun 14 Mehefin 2021.
Gallwch hawlio wrth i chi brosesu’ch cyflogres, neu cyn neu ar ôl hynny. Os yw’n bosibl, y peth gorau yw gwneud hawliad pan fyddwch yn siŵr o union nifer yr oriau y bydd eich cyflogeion yn eu gweithio, fel nad oes yn rhaid i chi ddiwygio’ch hawliad yn nes ymlaen.
Faint y gallwch ei hawlio
Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i dalu 80% o gyflog arferol cyflogeion ar gyfer oriau na chânt eu gweithio, hyd at uchafswm o £2,500 y mis, hyd at ddiwedd mis Mehefin 2021.
Ar gyfer cyfnodau ym mis Gorffennaf 2021, bydd grantiau’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws yn talu 70% o gyflog arferol cyflogeion ar gyfer oriau na chânt eu gweithio, hyd at uchafswm o £2,187.50. Ym mis Awst a mis Medi 2021, bydd hyn wedyn yn gostwng i 60% o gyflog arferol cyflogeion, hyd at uchafswm o £1,875.
Bydd yn rhaid i chi barhau i dalu’ch cyflogeion sydd ar ffyrlo o leiaf 80% o’u cyflog arferol am yr oriau nad ydynt yn gweithio yn ystod y cyfnod hwn, hyd at uchafswm o £2,500 y mis. Mae hyn yn golygu, ar gyfer cyfnodau rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2021, bydd angen i chi dalu’r gwahaniaeth rhwng hyn a’r grantiau Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws allan o’ch poced eich hun.
Mae’n rhaid i chi hefyd dalu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol cysylltiedig y cyflogai i CThEM. Os na fyddwch yn gwneud hynny, bydd angen i chi ad-dalu’r grant Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws cyfan i CThEM, gan fod hwn yn amod gwneud cais am y grant.
Mae arweiniad manwl i’ch helpu i hawlio drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws a’r dyddiadau cau allweddol y bydd angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt.
Cymorth pellach
Gallwch gofrestru i gael diweddariadau e-bost rheolaidd gan CThEM, i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein cynlluniau coronafeirws. Gallwch gofrestru ac ychwanegu’r pynciau tanysgrifio y mae gennych ddiddordeb ynddynt.
Mae miloedd o bobl hefyd wedi ymuno a chael budd o’n gweminarau byw, sy’n cynnig gwybodaeth am y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws a chymorth arall gan y llywodraeth, a sut maent yn berthnasol i chi.
Cynllun Talu Newydd ar gyfer TAW Ohiriedig
Os gwnaethoch ohirio talu’r TAW a oedd yn ddyledus rhwng 20 Mawrth a 30 Mehefin 2020 a bod gennych daliadau i’w gwneud o hyd, gallwch ddefnyddio’r cynllun talu newydd ar gyfer TAW ohiriedig i dalu fesul rhandaliadau llai.
Gallwch ymuno â’r cynllun yn gyflym ac yn hwylus ar-lein, heb orfod ffonio CThEM. Bydd y cynllun yn cau ar 21 Mehefin 2021 - os ydych am ymuno â’r cynllun ar-lein, mae’n rhaid i chi wneud hynny cyn y dyddiad hwn.
Mae’n bosibl y codir cosb o 5% a/neu log arnoch os nad ydych yn talu’n llawn, yn cofrestru ar gyfer y cynllun ar-lein cyn i’r cynllun gau, neu’n cysylltu â ni i wneud trefniant i dalu erbyn 30 Mehefin 2021.
Dysgwch ragor am y cynllun talu newydd ar gyfer TAW ohiriedig, gan gynnwys y pethau y mae angen i chi eu gwneud cyn ymuno.
Drwy’r cynllun newydd, mae modd talu’ch TAW ohiriedig mewn rhandaliadau misol cyfartal, di-log. Ymunwch erbyn 21 Mehefin 2021 i dalu fesul hyd at 8 rhandaliad.
Os ydych eisoes wedi sefydlu trefniant Amser i Dalu ar gyfer eich TAW ohiriedig, ni allwch ddefnyddio’r cynllun ar-lein. Os oes angen i chi newid eich trefniant Amser i Dalu, ffoniwch CThEM.
Tâl buddiant trethadwy – dychwelyd offer swyddfa
Offer a ddarperir gan y cyflogwr
Os ydych wedi rhoi offer swyddfa i’ch cyflogeion i’w galluogi i weithio gartref, heb berchenogaeth yn cael ei drosglwyddo, nid oes tâl treth pan fyddant yn dychwelyd yr offer yn ôl atoch. Os byddwch yn trosglwyddo perchenogaeth yr offer i’r cyflogai ar unrhyw adeg o’i gyflogaeth, mae tâl budd-dal yn gyffredinol yn codi ar werth marchnadol yr offer ar adeg y trosglwyddiad llai unrhyw swm a dalwyd gan y cyflogai. Mae dull amgen o gyfrifo’r buddiant y codir tâl amdano pan gaiff cyfarpar ei drosglwyddo. Mae rhagor o wybodaeth am y dull hwn ar gael yn y Llawlyfr Incwm Cyflogaeth EIM21650.
Offer a ad-delir gan y cyflogwr
Os yw’ch cyflogai wedi cytuno i brynu ei offer swyddfa ei hun tra’n gweithio gartref o ganlyniad i coronafeirws a’ch bod yn ad-dalu’r union gost, oni bai’ch bod wedi dweud wrth eich cyflogai bod yn rhaid iddo drosglwyddo perchenogaeth i chi, eich cyflogai sy’n berchen ar yr offer.
Does dim tâl buddiant ar yr ad-daliad. Does dim tâl buddiant ychwaith os ydych yn caniatáu i’ch cyflogai gadw’r offer gan ei fod yn rhywbeth y mae eisoes yn berchen arno. Rhagor o wybodaeth a gwirio pa dreuliau sy’n drethadwy os yw’ch cyflogai yn gweithio gartref oherwydd coronafeirws.
TWE
Gwirio eich bod yn cymryd y didyniadau Benthyciad Myfyriwr a/neu Fenthyciad Ôl-raddedig cywir
Bydd CThEM yn cysylltu â chi pan fyddwn yn nodi’r didyniadau Benthyciad Myfyriwr a/neu’r didyniadau Benthyciad Ôl-raddedig anghywir a nodwyd ar gyflwyniad llawn eich cyflogai.
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi drwy’r canlynol:
- negeseuon atgoffa y Gwasanaeth Hysbysu Generig (GNS)
- post - er enghraifft llythyr newid benthyciad neu fath o gynllun neu lythyr dechrau a stopio
- ffôn - byddwn bob amser yn gofyn cwestiynau diogelwch cyn i ni ddatgelu unrhyw wybodaeth am gleientiaid
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr arweiniad i gyflogwyr ynghylch ad-daliadau Benthyciad Myfyriwr a Benthyciad Ôl-raddedig.
Cynllun Benthyciadau Myfyrwyr yn yr Alban, Math 4
Nodyn i’ch atgoffa y dylid diweddaru’ch meddalwedd cyflogres i gynnwys Cynllun Benthyciad Myfyriwr 4 newydd. Os nad yw hyn yn cynnwys Cynllun 4, bydd angen i chi siarad â darparwr eich meddalwedd ar unwaith.
Mae’n bwysig eich bod yn gwirio’ch hysbysiadau ar-lein ac yn dechrau hysbysiadau i sicrhau eich bod yn defnyddio’r math cywir o gynllun gan y bydd hyn yn effeithio ar gyflog clir a balans Benthyciad Myfyriwr y cyflogai.
Offer TWE Sylfaenol – gwaith cynnal a chadw
Cafodd diweddariad cynnal a chadw ei ryddhau i’r Offer TWE Sylfaenol ar ddechrau mis Mai 2021 ar gyfer blwyddyn dreth 2021 i 2022. Mae’n bwysig eich bod yn chwilio am ddiweddariad fersiwn 21.1 a’i ddefnyddio.
Er mwyn diweddaru neu chwilio am ddiweddariadau, dylech ddewis ‘Gwirio nawr’ yn adran ddiweddaru’r gosodiadau yng nghornel dde uchaf yr offeryn. Argymhellwn y dylech ddewis ‘Iawn’ i’r diweddariad awtomatig.
Gall cwsmeriaid newydd lawrlwytho Offer TWE Sylfaenol a dod o hyd i help cynhwysfawr ar sut i osod y feddalwedd hon.
O fis Ebrill 2022 ymlaen, ni fydd yr Offer TWE Sylfaenol yn gweithredu mewn amgylchedd 32-bit mwyach. Yn lle hynny, bydd angen i chi sicrhau bod eich cyfrifiadur a meddalwedd eich system weithredu’n gallu rhedeg cymwysiadau 64-bit er mwyn gallu defnyddio’r Offer TWE Sylfaenol. I gael rhagor o fanylion, trowch at adran ‘Gwybodaeth ddefnyddiol’ yr Offer TWE Sylfaenol a’r canllaw defnyddwyr tro cyntaf.
Eich atgoffa o’r dyddiad cau ar gyfer rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021
Y dyddiad cau i roi gwybod am unrhyw Dreuliau a Buddiannau yw 6 Gorffennaf 2021.
Mae angen i chi wneud hyn ar gyfer pob cyflogai rydych wedi rhoi treuliau neu fuddiannau iddo.
Os oes angen i chi roi gwybod o hyd, gallwch osgoi oedi drwy ddefnyddio’r dulliau cyflym a hawdd canlynol:
- Meddalwedd fasnachol y gyflogres
- Gwasanaeth TWE Ar-lein CThEM (sydd bellach wedi gwella i fodloni anghenion cyflogwyr sydd â hyd at 500 o gyflogeion)
- Gwasanaeth Treuliau a Buddiannau Diwedd Blwyddyn Ar-lein CThEM
Y ffordd gyflymaf o gwblhau hyn yw ar-lein. Os na allwch ei wneud ar-lein, yna rydych yn dal i allu argraffu’r ffurflenni papur etifeddol P11D a P11D(b).
Bydd angen i chi hefyd lenwi ffurflen:
- P11D(b), os oes gennych rwymedigaeth cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A, oherwydd i chi dalu’ch treuliau a buddiannau drwy’r gyflogres.
- P11D, i ddatgan unrhyw dreuliau neu fuddiannau oddi ar y gyflogres
Os ydych yn rhoi gwybod yn hwyr, gallai eich cyflogeion dalu’r dreth anghywir a bod allan o boced yn y pendraw.
Os ydym wedi gofyn i chi gyflwyno ffurflen P11D(b) ac na wnaethoch roi unrhyw dreuliau neu fuddiannau cyflogeion – cwblhewch y datganiad hwn.
Mae rhagor o wybodaeth am hysbysu ynghylch treuliau a buddiannau ar gael.
Buddiannau meddygol
Os byddwch yn rhoi gwybod am fuddiannau meddygol drwy Dalu Buddiannau drwy’r Gyflogres, neu’r broses P11D etifeddol, mae’n bosibl y byddwch yn canfod bod gwerth trethadwy 2020 i 2021 wedi newid. Mae CThEM wedi cael gwybod y gall rhai darparwyr meddygol wneud ad-daliadau i gyflogwyr os na ddarparwyd gwasanaethau fel y nodwyd yn wreiddiol.
Gwerth adroddadwy’r buddiannau yw’r gost llai unrhyw ad-daliad sy’n gysylltiedig â’r flwyddyn honno, ni waeth pryd y daeth i law. Os ydych yn talu buddiannau drwy’r gyflogres ar hyn o bryd, mae’n bosibl y bydd angen i chi addasu’r gwerth trethadwy drwy Gyflwyniad Taliadau Llawn diwygiedig, a’r gwerth cywir ar y cyflwyniad P11D(b).
Os ydych yn defnyddio’r broses P11D etifeddol, er mwyn sicrhau nad yw’ch cyflogeion yn cael eu gordrethu a bod y swm cywir o Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn cael ei hysbysu, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael unrhyw drafodaethau gyda’ch darparwr buddiant meddygol cyn y dyddiad cau ar gyfer y P11D, ac yn rhoi gwybod am y gwerth trethadwy cywir ar gyflwyniadau P11D ac ar y P11D(b).
Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiannau a dalwyd drwy’r gyflogres – neges drwy’r Gwasanaeth Hysbysu Generig
Mae CThEM yn atgoffa cyflogwyr bod angen iddynt dalu CYG Dosbarth 1A a llenwi ffurflen P11D(b) erbyn 6 Gorffennaf 2021 os ydynt wedi trethu buddiannau drwy’r gyflogres.
Yn gynnar ym mis Mehefin 2021, bydd CThEM yn anfon neges y Gwasanaeth Hysbysu Generig (GNS) drwy’r system gyflogres Gwybodaeth Amser Real (RTI), er mwyn cysylltu â chyflogwyr pan fo’r data sydd gennym yn awgrymu eich bod yn trethu buddiannau drwy’r gyflogres. Bydd y neges hon yn eich atgoffa bod angen llenwi P11D(b) i roi cyfrif am unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sy’n ddyledus ar y buddiannau hyn.
Mae angen i gyflogwyr dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar bron i bob buddiant a drethir drwy’r gyflogres. Mae arweiniad ar dalu buddiannau drwy’r gyflogres ar gael.
Mae arweiniad ar lenwi ffurflen P11D(b) ar gael.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am sut i fwrw golwg dros eich negeseuon GNS.
Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A
Mae’n rhaid i daliadau drwy ddull electronig ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd wedi’u datgan ar eich ffurflen P11D(b) ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2021, glirio i mewn i gyfrif CThEM erbyn 22 Gorffennaf 2021.
Defnyddio’r cyfeirnod talu cywir wrth dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A
Helpwch i wneud yn siŵr bod eich taliad yn cael ei ddyrannu’n gywir drwy roi’r cyfeirnod talu cywir.
Defnyddiwch eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, wedi’i ddilyn gan 2113.
Mae’n bwysig ychwanegu 2113 oherwydd mae ‘21’ yn dangos bod y taliad ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2021, ac mae ‘13’ yn dangos bod y taliad ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A. Ni ddylai unrhyw fylchau fod rhwng y cymeriadau yn y cyfeirnod.
Ewch i Pay employers’ Class 1A National Insurance a chlicio ar y botwm gwyrdd ‘Pay Now’ i ddewis un o’r dulliau talu diogel, neu i gael rhagor o wybodaeth am sut i dalu’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A.
Rhoi gwybod am Dalu Wrth Ennill (TWE) mewn amser real
Cosbau TWE Gwybodaeth Amser Real (RTI) – parhau â’r dull o godi cosbau ar sail risg
Yn dilyn adolygiad CThEM o effeithiolrwydd y dull o weithredu ar sail risg pan ddaw i gyflwyno TWE yn hwyr a chosbau am dalu’n hwyr, gallwn gadarnhau y bydd y dull hwn o weithredu yn parhau ar gyfer blwyddyn dreth 2021 i 2022. Mae hyn yn golygu y bydd cosbau am gyflwyno’n hwyr ac am dalu’n hwyr yn parhau i gael eu hystyried ar sail asesiad o risg yn hytrach na chael eu hanfon yn awtomatig. Caiff y cosbau cyntaf ar gyfer y flwyddyn dreth hon (sy’n dechrau ar 6 Ebrill 2021) eu hanfon ym mis Awst 2021.
Cosbau am gyflwyno’n hwyr
Fel y gwnaethom mewn blynyddoedd blaenorol, byddwn hefyd yn parhau i beidio â chodi cosbau’n awtomatig os caiff Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) ei gyflwyno’n hwyr, ond cyn pen 3 diwrnod o’r dyddiad talu ac nid oes patrwm o gyflwyno’n hwyr yn rheolaidd o hyd. Nid yw hwn yn estyniad i’r sefyllfa bresennol o roi gwybod am daliadau TWE, sy’n dal i fod heb ei newid.
Mae’n dal i fod yn ofynnol ar gyflogwyr i gyflwyno’u cyflwyniadau mewn pryd, oni bai bod yr amgylchiadau sydd wedi’u nodi yn yr arweiniad ynghylch anfon Cyflwyniad Taliadau Llawn ar ôl y diwrnod cyflog yn codi.
Bydd cyflogwyr sydd dro ar ôl tro’n cyflwyno ar ôl y dyddiad statudol, ond cyn pen tri diwrnod, yn parhau i gael eu monitro, ac efallai y cysylltir â nhw neu cânt eu hystyried am gosb am gyflwyno’n hwyr fel rhan o’n dull o weithredu ar sail risg.
Cosbau am dalu’n hwyr
Mae’r dyddiad cau ar gyfer gwneud taliadau TWE i CThEM drwy ddull electronig yn parhau i fod ar yr 22ain o’r mis (neu’r chwarter os ydych yn gymwys i dalu’n chwarterol) yn dilyn y mis/cyfnod treth y maent yn berthnasol iddo. Os ydych yn talu â siec neu drwy ddull arall o dalu sydd ddim yn electronig, mae’n rhaid i chi barhau i wneud taliadau erbyn y 19eg o’r mis neu’r chwarter olynol y mae’r taliad yn berthnasol iddo.
Mae arweiniad ar sut i dalu’ch TWE ar gael.
Os ydych yn talu’n hwyr, mae’n bosibl y byddwn yn codi llog ar y swm sy’n ddyledus, a bydd hyn yn parhau i gronni hyd nes bydd y cyfanswm yn cael ei dalu.
Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn wynebu cosb am dalu’n hwyr, a byddwn hefyd yn parhau i godi’r gosb hon drwy ddefnyddio dull o weithredu ar sail risg. Bydd hyn yn ffocysu ar yr achosion fwyaf o risg ac ar ymddygiad diffyg cydymffurfio. Mae arweiniad ar sut yr ydym yn cyfrifo cosbau am dalu’n hwyr a sut y gall cyflogwyr apelio yn eu herbyn.
Rhoi gwybodaeth am eich cyflogres yn gywir ac mewn pryd
Mae’n bwysig rhoi gwybod am eich cyflogres yn gywir ac mewn pryd. Mae hyn yn helpu gwneud yn siŵr bod eich cyflogeion yn talu’r swm cywir o dreth ac yn cefnogi Credyd Cynhwysol. Mae Credyd Cynhwysol wedi’i gynllunio i gynyddu buddiannau ariannol gwaith a rhoi gweithlu mwy hyblyg i chi.
Gall rhoi gwybod yn hwyr neu roi gwybodaeth anghywir effeithio’n negyddol ar eich cyflogeion gan fod taliadau Credyd Cynhwysol yn gysylltiedig â’r wybodaeth am y gyflogres yr ydych yn ei rhoi. Mae’n bwysig iawn, felly, rhoi gwybod am eich cyflogres yn gywir ac mewn pryd. Gall newidiadau mewn enillion effeithio ar swm y Credyd Cynhwysol y bydd eich cyflogeion yn ei gael.
Dylai’r dyddiad talu yr ydych yn rhoi ar eich Cyflwyniad Taliadau Llawn bod ar neu cyn y dyddiad yr ydych yn talu’ch cyflogeion, nid dyddiad rhediad y gyflogres neu ddyddiad arall o’ch system cyflogres, oni bai bod y dyddiad talu arferol yn disgyn ar ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod banc (dydd Sadwrn, dydd Sul neu ŵyl y banc).
Pan fydd diwrnod cyflog arferol yn disgyn ar ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod banc, ac oherwydd hyn mae taliad yn cael ei wneud ar:
- y diwrnod gwaith olaf cyn y diwrnod cyflog arferol
- y diwrnod gwaith nesaf ar ôl y diwrnod cyflog arferol
At ddibenion TWE, mae’n bosibl i’r taliad cael ei drin fel ei fod wedi’i wneud ar y diwrnod cyflog arferol. Hwn hefyd yw’r dyddiad y dylai ei roi ar y Cyflwyniad Taliadau Llawn fel y ‘dyddiad talu’, hyd yn oed os yw’r taliad gwirioneddol yn cael ei wneud ychydig yn gynt neu’n hwyrach.
At ddibenion cyfraniadau Yswiriant Gwladol mae’n rhaid i’r taliad cael ei drin fel ei fod wedi’i wneud ar yr adeg arferol, os yw’r diwrnodau talu gwirioneddol a’r dyddiadau talu arferol yn yr un flwyddyn dreth. Mae’n bosibl hefyd i’r taliad cael ei drin fel ei fod wedi’i wneud ar ei adeg arferol pan fo’r dyddiadau talu yn croesi blwyddyn dreth.
Mae arweiniad manwl ar y pwnc hwn i’w gael ym Mhwynt 1.8 y CWG2, ‘Further Guide to PAYE and National Insurance Contributions’.
Mae’n bwysig gwirio hyn a gwneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen i’ch meddalwedd gyflogres, felly pan fyddwch yn rhoi gwybod byddwch yn defnyddio’r dyddiad talu cywir. Yn aml gwelwn mai cyflogwyr yn nodi’r dyddiad talu anghywir yw’r rheswm pam fod rhai cyflogwyr yn cael cosb. Os na allwch roi gwybod am daliadau mewn pryd ac mae gennych esgus rhesymol am wneud hynny, dylech ddefnyddio cod rheswm dros roi gwybod yn hwyr. Mae’n rhaid i chi gynnwys y cod ar gyfer pob taliad ar y Cyflwyniad Taliadau Llawn pan fo’r amgylchiadau’n berthnasol.
Gall cyflogwyr gynnwys problemau a achoswyd gan coronafeirws fel esgus rhesymol a’u rhwystrodd rhag bodloni eu hymrwymiad treth.
Pan fyddwch yn cael neges electronig gennym sy’n nodi ein bod wedi cael eich cyflwyniad yn llwyddiannus, nid yw o reidrwydd yn golygu ei fod yn gywir ac wedi ein cyrraedd mewn pryd – cydnabyddiaeth yn unig ydyw ein bod wedi’i gael.
Negeseuon rhybuddio electronig y Gwasanaeth Hysbysu Generig (GNS)
Peidiwch ag anwybyddu’r negeseuon hyn, eu bwriad yw bod yn wasanaeth cynorthwyol i’ch hysbysu nad ydych wedi cyflwyno mewn pryd neu dalu mewn pryd. Mae negeseuon electronig yn rhoi cyfle i chi adolygu’ch proses gyflwyno er mwyn gwneud yn siŵr bod pethau’n gywir yn y dyfodol.
Byddwn yn anfon neges atoch:
- unwaith mewn mis pan fydd Cyflwyniad Taliadau Llawn yn dod i law yn hwyrach na’r dyddiad talu heb reswm dilys
- ar yr 11 neu’r 12 o’r mis pan nad ydym wedi cael Cyflwyniad Taliadau Llawn ar gyfer y mis a ddaeth i ben ar y 5 na Chrynodeb o Daliadau’r Cyflogwr yn datgan na dalwyd unrhyw gyflogeion yn ystod y mis hwnnw
Sut ydw i’n cael mynediad at negeseuon rhybuddio electronig y Gwasanaeth Hysbysu Generig (GNS)?
Gallwch wirio’ch negeseuon yn yr un modd ag y byddwch yn gwirio hysbysiadau codio electronig, sef naill ai drwy:
- mewngofnodi i TWE Ar-lein a dewis yr hysbysiadau generig o fewn yr adran ‘Crynodeb o hysbysiadau’
- defnyddio’r Gwyliwr Bwrdd Gwaith TWE
- defnyddio’ch meddalwedd fasnachol – dylech wirio gyda’ch cyflenwr meddalwedd fod ei gynnyrch yn cydweddu â mynd at negeseuon GNS
- cyrchu’ch Cyfrif Treth Busnes a defnyddio’r cysylltiad ‘negeseuon’
Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn edrych am unrhyw negeseuon hysbysiadau electronig y mae’n bosibl ein bod wedi’u hanfon atoch gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a phwysig.
Diweddariadau treth a newidiadau i arweiniad
Dyrannu Rhif Yswiriant Gwladol
Mae’r gwasanaeth digidol ar gyfer ceisiadau am Rif Yswiriant Gwladol ar gyfer oedolion nad ydynt wedi cael rhif ar agor erbyn hyn.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau hefyd wedi agor ei gwasanaeth wyneb yn wyneb ar gyfer y sawl y gallai fod yn rhaid iddynt fynd i swyddfa er mwyn profi pwy ydynt. Dylid gwneud ceisiadau ar-lein yn y lle cyntaf, a bydd ymgeiswyr yn cael gwybod os bydd angen iddynt drefnu apwyntiad wyneb yn wyneb.
Ar hyn o bryd, mae galw am y gwasanaeth yn uchel, ac mae’n gallu cymryd hyn at 16 wythnos i brosesu ceisiadau.
Os oes gan gyflogai Rif Yswiriant Gwladol eisoes, y ffordd gyflymaf o gadarnhau neu rannu ei rif yw drwy ddefnyddio’i Gyfrif Treth Personol i lawrlwytho llythyr cadarnhau, neu drwy ddilyn yr arweiniad ar Rifau Yswiriant Gwladol coll.
Seibiant i gyflogwyr cyn-filwyr rhag talu Yswiriant Gwladol - diweddariad
Erbyn hyn mae cyflogwyr yn gymwys ar gyfer cyfradd sero o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 Eilaidd ar enillion cyn-filwyr. Mae’n rhaid i gyflogwyr barhau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol fel arfer tan fis Ebrill 2022, ac ar yr adeg honno, bydd cyflogwyr yn gallu hawlio yn ôl unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol a fyddai fel arall wedi’u rhyddhau.
Rheolau gweithio oddi ar y gyflogres
Newidiodd y rheolau gweithio oddi ar y gyflogres ar 6 Ebrill 2021, a dylai sefydliadau cleientiaid o faint canolig a mawr sy’n cyflogi contractwyr drwy eu cwmni cyfyngedig eu hunain neu gyfryngwr arall, fod yn gweithredu’r rheolau erbyn hyn.
Mae hefyd cyfrifoldebau gan asiantaethau o unrhyw faint sy’n cyflenwi contractwyr yn y ffordd hon.
Hoffem rannu gyda chi newidiadau i’r help a’r cymorth sydd ar gael gennym, yn ogystal ag arfer gorau, i’ch helpu i gydymffurfio â’r rheolau. Efallai y bydd hyn yn ddefnyddiol i gydweithwyr AD a threthi.
Help a chymorth
Mae cymorth newydd ar gael i’r rheini y mae’r newidiadau i’r rheolau yn effeithio arnynt:
- siart llif newydd ar gyfer cleientiaid i’ch helpu i ddeall a yw’r rheolau yn berthnasol i chi
- sesiwn holi ac ateb fyw gydag ymgynghorwyr technegol ar 23 Mehefin 2021, lle y gallwch gael atebion i’ch cwestiynau ar y rheolau – cadwch lygad allan ar gyfryngau cymdeithasol CThEM am wybodaeth ynghylch sut i gofrestru
- sgwrs dros y we ar gyfer gweithio oddi ar y gyflogres os hoffech siarad â ni’n uniongyrchol
- i’r rhai sydd wedi penderfynu ailystyried sut maent yn cynnig rolau contractwyr, rydym wedi cyhoeddi arweiniad newydd ar weithio drwy gwmni ambarél y gallwch ei rannu ag unrhyw gontractwyr y credwch y bydd o ddefnydd iddynt
- rydym yn gweithio i nodi unrhyw sectorau a allai elwa o gymorth pellach, a byddwn yn cyflwyno gweithdai ychwanegol ar gyfer y sector adeiladu, a fydd yn cael eu hysbysebu drwy randdeiliaid - os gallai’r sector yr ydych yn gweithio ynddo elwa o gymorth ychwanegol ar y newidiadau i’r rheolau, cysylltwch â ni drwy e-bostio: offpayrollworking.legislation@hmrc.gov.uk
Gallwch barhau i ddefnyddio ein holl arweiniad arall, yn ogystal â’n hofferyn ddigidol, Gwirio Statws Cyflogaeth ar gyfer Treth (CEST), sy’n rhad ac am ddim, i helpu gyda phenderfyniadau statws cyflogaeth. Diweddarwyd tudalen lanio CEST yn ddiweddar i adlewyrchu’r newidiadau i’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres a ddaeth i rym ar 6 Ebrill, i wella taith y cwsmer a chyfeirio cwsmeriaid at arweiniad penodol i’w helpu i ddefnyddio CEST yn effeithiol. Nid yw’r offeryn ei hun na’r penderfyniad y mae’n ei roi wedi newid.
Mae ein rhaglen o weminarau byw ar y rheolau cyffredinol, penderfyniadau statws, pan fydd y rheolau yn berthnasol, talwyr ffioedd a materion rhyngwladol wedi dod i ben erbyn hyn, ond gallwch barhau i gyrchu recordiadau o’r 6 gweminar ar ein tudalen help a chymorth.
Arfer gorau
Efallai y bydd y pwyntiau bwled canlynol ynghylch arfer gorau yn ddefnyddiol i sefydliadau cleientiaid canolig a mawr drwy eu helpu i gydymffurfio â’r rheolau. Bydd asiantaethau o unrhyw faint hefyd yn gweld rhywfaint o’r arfer gorau hwn yn ddefnyddiol:
- ystyried sut mae’r newidiadau yn effeithio ar eich sefydliad - mae rhai sefydliadau wedi ei chael yn ddefnyddiol ffurfio gweithgor mewnol i ystyried y rheolau ac adolygu eu gweithdrefnau
- gwella sgiliau’r rhai sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau - efallai y byddwch am weithredu proses ganolog ar gyfer gwneud penderfyniadau, ac mae angen i chi sicrhau bod gan swyddogion penderfyniadau yr hyfforddiant sydd ei angen arnynt, a bod yr holl adrannau perthnasol yn cael eu cynnwys yn y broses benderfynu
- adolygu’r gweithlu presennol - mae llawer o sefydliadau’n defnyddio offer digidol i’w helpu gyda phenderfyniadau o ran statws cyflogaeth. Gallwch ddefnyddio offeryn CThEM, Gwirio Statws Cyflogaeth ar gyfer Treth (CEST), neu offeryn arall i wneud penderfyniadau o ran statws cyflogaeth
- siarad â’ch contractwyr - dylech ddarparu datganiad penderfyniad o ran statws i’ch contractwyr os ydynt y tu mewn i’r rheolau, yn ogystal â’r asiantaeth rydych yn ymgysylltu â hi Dylai asiantaethau hefyd drosglwyddo datganiadau penderfyniad o ran statws i’r asiantaeth nesaf y maent yn ymgysylltu â hi - efallai yr hoffech hefyd rannu datganiad penderfyniad o ran statws os yw contractwr y tu allan i’r rheolau, a dylech siarad â’ch contractwyr am eich prosesau yn ogystal â’ch penderfyniadau
- gweithredu TWE lle bo hynny’n briodol - mae angen i’r asiantaeth sy’n talu ffioedd cwmni cyfyngedig y contractwr neu gyfryngwyr eraill weithredu TWE ar bob ymgysylltiad y tu mewn i’r rheolau - neu os nad oes asiantaethau yn y gadwyn gyflenwi, mae angen i’r cleient weithredu TWE
- defnyddio’r faner Gwybodaeth Amser Real (RTI) - os yw ymgysylltiad y tu mewn i’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres, a’ch bod yn gyfrifol am ddidynnu cyfraniadau Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol ar daliadau i gyfryngwr y contractwr, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r dangosydd ‘gweithiwr sy’n gweithio oddi ar y gyflogres, sy’n destun y rheolau’ yn RTI. Efallai y bydd enw’r dangosydd hwn yn cael ei adlewyrchu’n wahanol yn eich meddalwedd gyflogres
- bod â phroses glir ar waith ar gyfer anghytundebau - rydym yn gwybod bod rhai sefydliadau wedi gwneud hyn drwy greu tîm mewnol i sicrhau bod anghytundebau’n cael eu trin mewn ffordd deg a chyson
- cynnal llwybr archwilio - mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith
- defnyddio’r adnoddau a’r arweiniad sydd ar gael i chi gan CThEM - mae ein canllaw gweithio oddi ar y gyflogres ar gael
A ydych yn talu TWE y Cyflogwr ar hyn o bryd gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol? Cyflwyno ‘talu drwy gyfrif banc’ CThEM
Erbyn hyn, gallwch dalu CThEM yn uniongyrchol o’ch cyfrif banc heb orfod nodi manylion eich cerdyn na phoeni am ffioedd cardiau.
Mae’r broses newydd yn defnyddio technoleg Bancio Agored i gynnig taith ddi-dor, a hynny o fewn parth CThEM. Mae’r daith yn dechrau gyda CThEM. Mae’r dechnoleg Bancio Agored yn cysylltu’r cwsmer â’i gyfleuster bancio ar-lein er mwyn awdurdodi taliad diogel cyn mynd â’r cwsmer yn ôl i CThEM.
Caiff yr holl fanylion talu eu rhag-lenwi a’u cario drwy’r daith, felly gallwch fod yn dawel eich meddwl y defnyddir y cyfeirnod talu cywir.
I ddechrau, bydd y gwasanaeth ar gael i gwsmeriaid sy’n defnyddio eu cyfrifon ar-lein, ond caiff y gwasanaeth ei ymestyn i’r sawl nad ydynt yn dymuno defnyddio cyfrif ar-lein na threfniadau eraill yn y dyfodol agos.
Mewngofnodwch i’ch cyfrif CThEM ar-lein i ddechrau arni.
Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) - gwybodaeth ddilysu ddefnyddiol ar gyfer contractwyr ac isgontractwyr
Os ydych yn is-gontractwr, bydd angen i chi roi i’ch contractwr yr union enw busnes cyfreithiol neu enw masnachu a ddefnyddiwyd gennych pan wnaethoch gofrestru ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS), ynghyd â’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr. Mae angen yr wybodaeth hon ar y contractwr i ddilysu pwy ydych a’ch talu’n gywir.
Yna mae angen i gontractwyr ddefnyddio’r union fanylion hynny wrth gynnal cais dilysu, neu fel arall gallant weld canlyniad ‘anhysbys’ neu ‘heb ei baru’. Byddwn yn diweddaru ein harweiniad dilysu ar-lein ar gyfer contractwyr ac isgontractwyr i adlewyrchu hyn.
Os ydych yn gontractwr, cofiwch y gallwch gofrestru ar gyfer e-byst hysbysu i gael negeseuon y Gwasanaeth Hysbysu Generig (GNS) drwy fynd i’ch cyfrif ar-lein. Mae’r negeseuon GNS hyn yn rhoi nodynnau atgoffa defnyddiol i gontractwyr, er enghraifft pan nad ydych wedi cyflwyno’ch Ffurflen TAW fisol gyda’r dyddiad cau yn agosáu, cadarnhad o gyfnodau o anweithgarwch, a negeseuon eraill.
Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid
Adolygiad o Fframwaith Gweinyddu Treth
Ym mis Gorffennaf 2020, cyhoeddodd y Llywodraeth ei strategaeth 10 mlynedd ar gyfer y system dreth (Adeiladu system gweinyddu treth fodern, ddibynadwy) – ymrwymodd hyn i alw am dystiolaeth ar y Fframwaith Gweinyddu Treth. Cyhoeddwyd yr alwad am dystiolaeth ar 23 Mawrth 2021.
Mae angen i ni edrych o’r newydd ar sylfeini’r system dreth i ddylunio system gweinyddu treth fodern ddibynadwy sy’n symlach, yn haws ei llywio ac sy’n ateb anghenion trethdalwyr. Mae hefyd angen iddi gyd-fynd â’r ffordd y mae pobl yn gweithio, yn byw eu bywydau, ac yn gweithredu eu busnesau.
Yr alwad hon am dystiolaeth yw’r cam cyntaf wrth ddylunio system gweinyddu treth sy’n addas ar gyfer holl heriau a chyfleoedd yr oes fodern, gan gynnwys yr hyblygrwydd a’r gallu i ymateb mewn argyfyngau cenedlaethol yn y dyfodol.
Mae’n archwilio, ar lefel uchel, sut y gellid diwygio’r fframwaith i wella’r ffyrdd y mae pobl yn profi’r system dreth ac yn adeiladu ac yn cynnal ymddiriedaeth rhwng CThEM a threthdalwyr. Mae’n ceisio cynnal trafodaethau ar y canlynol:
- gwneud y broses o fynd i mewn ac allan o’r system dreth (cofrestru a dadgofrestru) yn symlach ac yn fwy cyson ar draws trethi
- defnyddio’r cyfleoedd o system dreth ddigidol, amser real i symleiddio sut y caiff rhwymedigaethau treth eu cyfrifo a’u hasesu
- mwy o ddefnydd o ffynonellau gwybodaeth a data (gan gynnwys oddi wrth drydydd partïon) i leihau gwallau a gwella tryloywder
- lleihau amrywiad yn y gwahanol ymrwymiadau, prosesau ac amserlenni ar gyfer talu treth i CThEM (ac i CThEM wneud ad-daliadau).
- cyfleoedd i ddiweddaru mesurau diogelwch a sancsiynau trethdalwyr i gyd-fynd â system dreth ddigidol a hyrwyddo tegwch ac ymddiriedaeth
Mae’r alwad am dystiolaeth yn ystyried gwahanol agweddau ar y fframwaith gweinyddu treth. Ni ddylai ymatebwyr deimlo bod yn rhaid iddynt ymateb i’r holl gwestiynau yn y ddogfen hon. Mae CThEM hefyd yn croesawu ymatebion rhannol sy’n canolbwyntio ar yr agweddau unigol ar y fframwaith sydd fwyaf perthnasol i’r ymatebydd.
Mae CThEM yn awyddus i gael syniadau ar y ffordd orau o ymgorffori’r trawstoriad ehangaf o safbwyntiau, yn ogystal ag arbenigedd y rhai sydd â diddordeb arbennig mewn deddfwriaeth dreth. Mae CThEM wedi bod yn cynnal cyfres o ymrwymiadau rhanddeiliaid ac mae’n awyddus i ymgysylltu drwy gyfuniad o fforymau allanol CThEM, trafodaethau o amgylch y bwrdd, gweithdai a chyfarfodydd un i un yn ôl yr angen.
Rydym yn edrych ymlaen at weithio ar y cyd â chi wrth i’r Adolygiad hwn ddatblygu. Dylid anfon unrhyw gwestiynau, ymholiadau neu ymatebion i’r Galwad am Dystiolaeth i adminframeworkreview@hmrc.gov.uk erbyn 13 Gorffennaf 2021.
Ymgyrch Cynllun Swyddi
Fel rhan o’r ymgyrch ‘Cynllun Swyddi’, mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi gofyn i ni rannu manylion y fenter ‘Helpu i Dyfu’ sy’n cael ei lansio mis nesaf i helpu busnesau bach.
Ym mis Mehefin 2021, bydd busnesau bach yn gallu cymryd rhan mewn rhaglen 12 wythnos o hyd, o dan arweiniad ysgolion busnes blaenllaw ledled y DU. Bydd y rhaglen yn cyfuno cwricwlwm ymarferol gyda chymorth un i un oddi wrth fentor busnes, sesiynau dysgu i gymheiriaid a rhwydwaith alwmni. Mae’r llywodraeth yn sybsideiddio 90% o’r rhaglen.
Mae’r Pecyn Cymorth Helpu i Dyfu Rhanddeiliaid yn rhoi rhagor o wybodaeth.
Gallwch weld rhagor o wybodaeth a sut i gofrestru ar y wefan Helpu i Dyfu – Mynd â’ch busnes i’r lefel nesaf.
Ymunwch â busnesau bach a chanolig o’r un anian sy’n elwa o’r Rhaglen Rhwydweithiau Cymheiriaid
Rhaglen rwydweithio, sy’n rhad ac am ddim, yw’r Rhaglen Rhwydweithiau Cymheiriaid. Mae’r rhaglen ar gyfer arweinwyr busnesau bach a chanolig sy’n awyddus i ddatblygu eu sefydliad ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol.
Mae bron i 5,000 o fusnesau wedi elwa o’r rhaglen Rhwydweithiau Cymheiriaid a ariennir gan y llywodraeth, ac wedi dysgu gan fusnesau bach a chanolig eraill am atebion go iawn i’r heriau y maent wedi’u hwynebu.
Mae’r rhaglen Rhwydweithiau Cymheiriaid yn cael ei darparu’n lleol drwy Hybiau Twf ledled Lloegr, sy’n creu rhwydweithiau amrywiol o arweinwyr busnes i drafod heriau busnes cyffredin, a hynny o gyllid ac AD i werthu a marchnata.
Bydd arweinwyr busnes yn gallu trafod eu heriau unigol, myfyrio ar adborth gwerthfawr gan eu cyfoedion a nodi atebion ymarferol i wella eu cynhyrchiant.
Mae’r rhaglen ar gael i unrhyw fusnes bach a chanolig sydd wedi’i leoli yn Lloegr lle y mae’r canlynol yn berthnasol:
- mae wedi gweithredu am o leiaf blwyddyn
- mae gan y busnes o leiaf bum cyflogai
- mae gan y busnes drosiant o leiaf £100,000
Bydd hwyluswyr arbenigol yn rhoi’r cyfle i arweinwyr busnes greu rhwydwaith cymorth dibynadwy sy’n gweithio iddynt, gan helpu i adeiladu a chryfhau’r busnes a gwella ei berfformiad.
Bydd cyfranogwyr hefyd yn derbyn cymorth un i un wedi’i deilwra i anghenion unigol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Rhwydweithiau Cymheiriaid.
Cymorth CThEM i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt
Mae egwyddorion cymorth CThEM ar gyfer cwsmeriaid sydd angen help ychwanegol yn nodi ein hymrwymiadau i helpu cwsmeriaid yn ôl eu hanghenion, ac maen nhw’n tanategu Siarter CThEM.
Dysgwch sut i gael help a’r cymorth ychwanegol sydd ar gael.
Mae dros 20,000 o fusnesau eisoes yn elwa o fod yn Hyderus o ran Anabledd
Wrth i’n heconomi adfer yn sgil y pandemig, mae angen i ni sicrhau bod pob unigolyn yn cael y cyfle i gyfrannu at ein hadfywiad cenedlaethol ac i gael budd ohono. Mae cynhwysiant yn y gweithle yn ganolog i hyn.
Mae’r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn cynorthwyo cyflogwyr drwy ddarparu’r offer sydd eu hangen er mwyn gwneud y gorau o’r doniau y gall pobl ag anableddau eu cynnig i’r gweithle.
I ddysgu rhagor am y cynllun Hyderus o ran Anabledd ac i gofrestru, darllenwch y canllaw ar-lein.
Ar ôl i chi gofrestru, cewch dystysgrif achredu a bathodyn Hyderus o ran Anabledd am dair blynedd i’w dangos ar eich gwefan ac mewn hysbysebion swyddi, gan ddangos eich bod yn recriwtio ar sail deg.
Mae adnoddau rhad ac am ddim i aelodau, gan gynnwys: arweiniad ar-lein; gweminarau arbenigol; digwyddiadau; a gwybodaeth am ‘Mynediad at Waith’.
Mae Fframwaith Adrodd Gwirfoddol hefyd ar gael i helpu’ch sefydliad i ddeall cyfansoddiad eich gweithlu yn well ac i annog sgyrsiau ynghylch anabledd ac iechyd meddwl.
Offeryn newydd wedi’i lansio i gefnogi sefydliadau i gyflawni Tystysgrif Cyber Essentials
Mae Offeryn Parodrwydd Cyber Essentials, a ddatblygwyd gan IASME ar ran y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol – rhan o Bencadlys Cyfathrebu’r Llywodraeth (GCHQ) – yn gofyn cyfres o gwestiynau i sefydliadau sy’n ymwneud â phrif feini prawf Cyber Essentials i helpu i’w paratoi ar gyfer ardystio.
Drwy’r cynllun Cyber Essentials, gall busnesau ddysgu sut i amddiffyn eu hunain drwy sicrhau cysylltiadau a dyfeisiau’r rhyngrwyd, rheoli mynediad at ddata, a deall sut i amddiffyn rhag maleiswedd.
Fformat Bwletin y Cyflogwr HTML
Ers mis Medi 2020, mae’n rhaid i ddogfennau a gyhoeddir ar GOV.UK neu ar wefannau eraill y sector cyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd. Mae hyn er mwyn sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl eu defnyddio, gan gynnwys y sawl sydd â:
- nam ar eu golwg
- anawsterau echddygol
- anawsterau gwybyddol neu anableddau dysgu
- trymder clyw neu nam ar eu clyw
Erbyn hyn, mae’r dudalen cynnwys gyda’r cysylltiadau i erthyglau i lawr ochr dde’r sgrin, ac mae modd sgrolio drwy’r dudalen yn llwyr.
Mae erthyglau wedi’u rhoi mewn categorïau o dan bennawd sydd yn y cyflwyniad er mwyn ei gwneud yn haws dod o hyd i’r diweddariadau a’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddynt.
Mae’r fformat HTML yn caniatáu i chi wneud y canlynol (yn dibynnu ar eich porwr gwe):
- argraffu’r ddogfen pe baech yn dymuno cadw ffeil ar bapur – dewiswch y botwm “Argraffu’r Dudalen” ar yr ochr chwith a gallwch argraffu’r ddogfen ar eich argraffydd lleol
- fel arall, gallwch glicio ar y botwm “Argraffu’r Dudalen” a, chan ddefnyddio’r gwymprestr ar yr argraffydd, dewiswch “Argraffu i PDF” – byddai hyn yn caniatáu i chi gadw fel .PDF a ffeilio ar ffurf electronig
- ar ddyfais symudol, gallwch bwyso’r botwm i ddangos rhagor o opsiynau. Yna dewiswch opsiynau eto – bydd hyn yn rhoi cyfle i chi gadw fel PDF
Cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw i’r funud gyda newidiadau drwy gofrestru i gael ein hysbysiadau e-bost.
Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter yn twitter@HMRC.gov.uk.
Anfonwch eich adborth am y Bwletin hwn neu rhowch wybod am erthyglau yr hoffech eu gweld drwy e-bostio wendy.bell1@hmrc.gov.uk.