Guidance

Cyfarwyddyd ymarfer 14: elusennau

Updated 28 November 2022

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae Deddf Elusennau 2011 yn diffinio:

  • ‘elusen’ fel:

‘….unrhyw sefydliad sydd—

(a) sefydlwyd at ddibenion elusennol a

(b) sydd o dan reolaeth yr Uchel Lys o ran ymarfer awdurdodaeth y Llys mewn perthynas ag elusennau.’ (Adran 1 o Ddeddf Elusennau 2011. Mae’r diffiniad yn berthnasol hefyd yn Rheolau Cofrestru Tir 2003 – gweler rheol 217)

  • ‘dibenion elusennol’ fel:

‘….diben sy’n—

(a) syrthio o fewn isadran 3(1) o Ddeddf Elusennau 2011, [sy’n rhestru 13 disgrifiad o ddiben], a

(b) sydd er budd y cyhoedd [mae’r prawf budd y cyhoedd i’w weld yn adran 4 o Ddeddf Elusennau 2011]’

Felly, daw cwmnïau cofrestredig o dan y Deddfau Cwmnïau yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Elusennau 2011 os yw eu dibenion yn elusennol yn unig o dan gyfraith Loegr.

  • ‘Ymddiriedau’ o ran elusen, yw’r darpariaethau sy’n ei sefydlu fel elusen ac yn rheoli ei dibenion a’i gweinyddiad, boed y darpariaethau hynny yn dod i rym trwy ymddiried neu beidio (adran 353(1) o Ddeddf Elusennau 2011). Er enghraifft, maent yn cynnwys memorandwm ac erthyglau elusen cwmni.

  • ‘Corfforaeth ymddiried’ yw’r Ymddiriedolwr Gwladol (na chaiff dderbyn ymddiriedau at ddibenion elusennol), corfforaeth a benodwyd gan y llys mewn unrhyw achos penodol i fod yn ymddiriedolwr a chorfforaeth â hawl trwy reolau a wnaed o dan adran 4(3) o Ddeddf yr Ymddiriedolwr Gwladol 1906 i weithredu fel ymddiriedolwr gwarchod (Adran 205(1)(xxix) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925; adran 17(1)(xxx) o Ddeddf Tir Setledig 1925. Gweler hefyd adran 3 o Ddeddf (Newidiad) Cyfraith Eiddo 1926). Mae rhestr o’r corfforaethau sydd â’r fath hawl yn Rheol 30 o Reolau’r Ymddiriedolwr Gwladol 1912 (SR & O 1912/348 (fel y’i newidiwyd)).

  • ‘Y Comisiwn Elusennau’ yw’r Comisiwn Elusennau ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Comisiwn Elusennau yn gorff corfforaethol yn unol ag adran 13 o Ddeddf Elusennau 2011.

Mae Deddf Elusennau 2011 yn diffinio ‘ymddiriedolwyr elusen’ fel:

‘…. y bobl sydd â rheolaeth gyffredinol dros weinyddu elusen.’(Adran 177 o Ddeddf Elusennau 2011. Mae’r diffiniad yn berthnasol hefyd yn Rheolau Cofrestru Tir 2003 – gweler rheol 217)

Yn achos cwmni elusennol, cyfarwyddwyr y cwmni fydd ymddiriedolwyr yr elusen fel arfer. Bydd llawer o’r dyletswyddau a osododd Deddf Elusennau 2011 mewn cysylltiad â thir ym mherchnogaeth neu mewn ymddiried ar ran elusen ar ysgwyddau ymddiriedolwyr yr elusen fel y diffiniwyd. Dyma’r achos boed ymddiriedolwyr yr elusen eu hunain yn berchnogion cofrestredig y tir neu beidio.

I gael arweiniad am sefydliadau corfforedig elusennol nad ydynt yn cael eu trafod yn y cyfarwyddyd hwn, gweler cyfarwyddyd ymarfer 14A: sefydliadau corfforedig elusennol.

1.1 Gofynion Deddf Elusennau 2011

Yn ogystal â gofynion Deddf Cofrestru Tir 2002 a Rheolau Cofrestru Tir 2003, mae angen i chi ystyried gofynion Deddf Elusennau 2011 wrth wneud ceisiadau i gofrestru gwarediadau o blaid neu gan elusennau.

Mae darpariaethau trosiannol ac arbed Atodlen 8 i Ddeddf Elusennau 2001 (Atodlen 8, rhan 1, paragraffau 1, 2, 3(1), 5, 8 a 15(2)) yn golygu nad yw rheolau 176-180 o Reolau Cofrestru Tir 2003 wedi’u dirymu’n ymhlyg. Ar ac ar ôl 14 Mawrth 2012, dylai’r datganiadau a’r tystysgrifau penodedig osod darpariaethau perthnasol cyfatebol Deddf Elusennau 2001, er y bydd Cofrestrfa Tir EF yn parhau i dderbyn datganiadau a thystysgrifau sy’n cyfeirio at ddarpariaethau Deddf Elusennau 1993. Ar gyfer trafodion dyddiedig ar neu ar ôl 14 Mawrth 2012, bydd cyfyngiadau safonol ar Ffurf E a Ffurf F, yn cyfeirio at ddarpariaethau cyfatebol Deddf Elusennau 2001 wrth iddynt gael eu cofnodi yn y gofrestr.

Mae’r rhan fwyaf o elusennau o dan awdurdodaeth y Comisiwn Elusennau. Caiff y rhain eu cyfeirio atynt yn y cyfarwyddyd hwn fel elusennau ‘heb eu heithrio’, i wahaniaethu rhyngddynt ag elusennau eithriedig – gweler Elusennau a chyrff eithriedig nad yw Deddf Elusennau 2011 yn berthnasol iddynt. Yn gyffredinol caiff ymddiriedolwr elusennau heb eu heithrio werthu, morgeisio neu waredu tir yr elusen fel arall heb orchymyn y llys na’r Comisiwn Elusennau dim ond iddynt ddilyn y trefnau cywir. Nid yw’r trefnau hyn yn rhwymo elusennau eithriedig (adrannau 117(4)(a) a 124(10) o Ddeddf Elusennau 2011), ac nid ydynt yn berthnasol i rai trafodion penodol (adrannau 117(3) a 124(9) o Ddeddf Elusennau 2011).

Rhaid i bob gwarediad ystad o blaid elusen gynnwys datganiad ar ba un ai yw’r elusen yn eithriedig neu heb ei heithrio ac, os yw heb ei heithrio, ar y cyfyngiadau ar warediadau a osodwyd gan Ddeddf Elusennau 2011. Caiff y datganiadau hyn eu disgrifio yn Datganiadau sy’n ofynnol mewn gwarediad i elusen.

Rhaid i bob gwarediad gan elusen gynnwys datganiad priodol, ar sail y disgrifiad yn Gwarediadau gan elusennau. Yn achos elusen heb ei heithrio gall fod angen i’r gwarediad gynnwys tystysgrif ymddiriedolwyr yr elusen hefyd yn ôl Y dystysgrif sy’n ofynnol yn y gwarediad.

Mae’r datganiadau’n galluogi’r cofrestrydd:

  • wrth gofrestru elusen heb ei heithrio neu ei hymddiriedolwyr fel perchnogion tir, i gofnodi cyfyngiad priodol, a

  • wrth gofrestru gwarediad gan elusen heb ei heithrio, i fod yn fodlon y cydymffurfiwyd â’r cyfyngiad

Nid yw trosglwyddiad ystad gofrestredig neu ddigofrestredig neu o ganlyniad i benodiad ymddiriedolwr elusen newydd yn ‘warediad’ at ddibenion adrannau 117-121 o Ddeddf Elusennau 2011. Felly, nid oes rhaid cynnwys un o’r datganiadau a ddisgrifir yn Datganiadau sy’n ofynnol mewn gwarediad i elusen a Gwarediadau gan elusennau neu’r dystysgrif a ddisgrifir yn Y dystysgrif sy’n ofynnol yn y gwarediad mewn gweithred sy’n penodi, neu yn rhinwedd adran 334 o Ddeddf Elusennau 2011, sy’n peri penodi ymddiriedolwr newydd neu sy’n cael ei gwneud o ganlyniad i benodi ymddiriedolwr elusen newydd.

Fodd bynnag, bydd trosglwyddiad ystad rydd-ddaliol ddigofrestredig neu ystad brydlesol sy’n bodoli a chanddi’n hirach na saith mlynedd yn weddill, a wneir ar neu o ganlynid i benodiad ymddiriedolwr elusen newydd yn peri cofrestriad cyntaf gorfodol o dan adran 4(1)(aa) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (fel y’i cyflwynwyd gan Orchymyn Deddf Cofrestru Tir 2002 (Newidiad) 2008) ac, yn achos elusen heb ei heithrio, rhaid cynnwys cais i gofnodi’r cyfyngiad perthnasol (rheol 176(2)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003). gyda’r cais am gofrestriad cyntaf. Gweler Cofrestriad cyntaf elusen heb ei heithrio

Mae’r ffurf cyfyngiad yn cael ei o dangos yn Cofrestru elusennau fel perchnogion. Mae Hen ffurfiau cofnodion yn y gofrestr yn egluro sut fydd y cofrestrydd yn trin ffurfiau hŷn ar gyfyngiad a gofnodwyd yn y gofrestr cyn 13 Hydref 2003 (dyddiad dechrau Deddf Cofrestru Tir 2002).

1.2 Elusennau a chyrff eithriedig nad yw Deddf Elusennau 2011 yn berthnasol iddynt

Cafodd rhai elusennau, sy’n dod o dan Ddeddf Elusennau 2011 at rai dibenion, eu heithrio i raddau helaeth o awdurdodaeth y Comisiwn Elusennau er eu bod yn dal o dan awdurdodaeth Yr Uchel Lys. Enw’r rhain yw ‘elusennau eithriedig’. Daw rhai elusennau eithriedig o dan Ddeddfau Ystadau Prifysgolion a Cholegau 1925 a 1964. Tynnodd Gorchymyn Deddf Elusennau 2006 (Newidiadau o ran Elusennau Esempt) 2009 statws elusennau eithriedig oddi ar golegau a neuaddau prifysgolion Caergrawnt a Durham ac o’r colegau ym Mhrifysgol Rhydychen.

Tynnodd Gorchymyn Deddf Elusennau 2006 (Newidiadau o ran Elusennau Esempt) 2010 statws elusen eithriedig oddi ar brifysgolion a cholegau prifysgol yng Nghymru, corfforaethau addysg uwch yng Nghymru a Bwrdd a Llywodraethwyr Amgueddfa Llundain.

Mae elusen eithriedig yn un o’r canlynol.

  • Corff yn ôl Atodlen 3 i Ddeddf Elusennau 2011, fel y’i newidiwyd.
  • Elusen sy’n elusen eithriedig yn rhinwedd deddfiad arall.

Yn gyffredinol, nid yw’r ymadrodd ‘elusen’ yn Neddf Elusennau 2011 yn berthnasol i’r canlynol (adran 10 o Ddeddf Elusennau 2011):

  • unrhyw gorfforaeth eglwysig mewn perthynas ag eiddo corfforaethol y gorfforaeth, ac eithrio corfforaeth gyfangorff a chanddi ddibenion nad ydynt yn eglwysig o ran ei heiddo corfforaethol a gedwir ar gyfer y dibenion hynny
  • unrhyw fwrdd cyllid esgobaethol, neu unrhyw is-gwmni bwrdd o’r fath, o ran tir llan esgobaethol yr esgobaeth
  • unrhyw ymddiried tir cysegredig at y dibenion y cysegrwyd ar eu cyfer

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am dir Eglwys Loegr yn Eiddo Eglwys Loegr, er nad yw’r cyfarwyddyd yn ceisio trafod pob agwedd ar y testun hwn.

Gydag ychydig eithriadau, nid yw darpariaethau Deddf Elusennau 2011 yn berthnasol dim ond i elusennau a sefydlwyd yng Nghymru a Lloegr (adran 356 o Ddeddf Elusennau 2011).

2. Gwneud ceisiadau

Dylid gwneud cais am gofrestriad cyntaf gan yr elusen neu ymddiriedolwyr elusen yn enw’r hon/enwau’r rhai y mae’r ystad i gael ei chofrestru. Os yw’r ystad yn cael ei chofrestru yn enw ymddiriedolwr gwarchod, gall yr elusen wneud y cais hefyd ond bod yr ystad yn eiddo corfforaethol iddi. Yn achos ystadau digofrestredig sydd â morgais cyfreithiol cyntaf yn dod arnynt, mae’r morgeisai hefyd yn gallu gwneud cais am gofrestriad cyntaf.

Rhaid defnyddio ffurflen FR1 os yw’r cais am gofrestriad cyntaf ystad rydd-ddaliol neu am gofrestriad cyntaf ystad brydlesol lle na chofrestrwyd y rhydd-ddaliad.

O ran gwarediadau ystadau cofrestredig, nid oes unrhyw gyfyngiad ar bwy all wneud cais i gofrestru’r gwarediad. Rhaid gwneud ceisiadau trwy ddefnyddio ffurflen AP1, gan gynnwys grantiau prydlesi allan o ystad gofrestredig.

Wrth gofrestru elusen mae’n orfodol ar y cofrestrydd yn ôl y gyfraith i gofnodi rhai cyfyngiadau. Rhaid gwneud cais am gyfyngiadau eraill gan ddefnyddio ffurflen RX1, fel yr eglurir yn adrannau priodol y cyfarwyddyd hwn.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf a chyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a diogelu buddion trydydd parti yn y gofrestr yn rhoi rhagor o wybodaeth am y pynciau hyn.

Fel rheol, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol dim os yw eich cais am gofrestriad cyntaf. Byddwn yn dychwelyd y gwreiddiol ar ôl inni gwblhau’r cais.

Fodd bynnag, gall trawsgludwr wneud cais am gofrestriad cyntaf ar sail copïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau yn unig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf – Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd am wybodaeth am hyn.

Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

3. Gwarediadau o blaid elusennau

3.1 Ffurf y gwarediad

Rhaid i drosglwyddiadau tir cofrestredig o blaid elusennau fod ar un o’r ffurflenni yn Atodlen 1 i Reolau Cofrestru Tir 2003. Dylid gwneud trosglwyddiadau un teitl cyfan neu fwy ar ffurflen TR1, ffurflen TR2, ffurflen TR5 neu ffurflen AS1. Rhifau’r ffurflenni cyfatebol ar gyfer trosglwyddiadau o ran yw ffurflen TP1, ffurflen TP2, ffurflen TR5 a ffurflen AS3.

Nid oes unrhyw ffurflen benodedig ar gyfer prydlesi.

3.2 Datganiadau sy’n ofynnol mewn gwarediad i elusen

Yn ôl adran 122(8) o Ddeddf Elusennau 2011, mae angen i unrhyw drawsgludiad, trosglwyddiad neu brydles o blaid elusen gynnwys datganiad yn ymwneud â’r elusen honno. Mae’n ofynnol hefyd i unrhyw warediad arall a fydd yn peri bod ystad yn cael ei dal gan, neu mewn ymddiried ar ran, elusen gynnwys datganiad tebyg. Os yw’n ofynnol i’r datganiad gael ei gofrestru yn rhinwedd adran 27 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 neu’n peri’r gofyniad am gofrestriad cyntaf o dan adran 4 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, rhaid i’r datganiadau fod yn y ffurf a bennwyd gan reol 179 o Reolau Cofrestru Tir 2003 (adran 123 o Ddeddf Elusennau 2011).

Effaith Atodlen 8, paragraff 3(1) o Ddeddf Elusennau 2011, yw y dylid darllen rheol 179 fel pe bai’r datganiadau’n:

  • Elusen eithriedig:

‘O ganlyniad i’r trosglwyddiad hwn (neu yn ôl fel y bo’n digwydd), bydd y tir a drosglwyddir (neu yn ôl fel y bo’n digwydd), yn cael ei ddal gan (neu mewn ymddiried ar ran) (elusen), sy’n elusen eithriedig.’

  • Elusen heb ei heithrio:

‘O ganlyniad i’r trosglwyddiad hwn (neu yn ôl fel y bo’n digwydd), bydd y tir a drosglwyddir (neu yn ôl fel y bo’n digwydd), yn cael ei ddal gan (neu mewn ymddiried ar ran) (elusen), sy’n elusen heb ei heithrio, a bydd y cyfyngiadau ar warediad a osodwyd gan adran 117-121 o Ddeddf Elusennau 2011 yn berthnasol i’r tir (yn amodol ar adran 117(3) y Ddeddf honno).’

Lle bo elusen eithriedig yn dal tir ar ymddiried dros elusen heb ei heithrio, mae angen yr ail ddatganiad gan fod y cyfyngiadau ar warediad a osodwyd gan adran 117-121 o Ddeddf Elusennau 2011 yn berthnasol.

Nid oes angen y datganiadau uchod mewn arwystl o blaid elusen, gwarediad adfowswn neu ollyngiad rhent-dâl elusen (adran 122(9) o Ddeddf Elusennau 2011).

3.3 Elusen sy’n gwmni

Os yw’r gwarediad o blaid elusen sydd hefyd yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr o dan y Deddfau Cwmnïau, rhaid i’r cais ddatgan rhif cofrestredig y cwmni.

3.4 Ymddiriedolwyr elusen sy’n gorfforedig o dan Ran 12 o Ddeddf Elusennau 2011 (neu Ran VII o Ddeddf Elusennau 1993)

Lle bo ymddiriedolwyr yr elusen yn gorfforedig fel corfforaeth o dan Ran 12 o Ddeddf Elusennau 2011 (neu Ran VII o Ddeddf Elusennau 1993) yna rhaid i unrhyw warediad o blaid yr elusen ddisgrifio’r ymddiriedolwyr fel:

‘corfforaeth o dan Ran 12 o Ddeddf Elusennau 2011 (rheol 177 o Reolau Cofrestru Tir 2003)’ (neu ‘gorff corfforedig o dan Ran VII o Ddeddf Elusennau 1993’ os ymgorfforwyd yr elusen o dan y Ddeddf honno.

Dylai copi ardystiedig o’r dystysgrif gorfforiad a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 251 o Ddeddf Elusennau 2011 fod gyda’r cais i gofrestru’r gwarediad.

3.5 Y Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau

Lle bo tir wedi ei freinio yn y Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau rhaid i chi gyflwyno’r canlynol gyda’r cais:

  • copi ardystiedig o orchymyn y llys a wnaed o dan adran 90(1) o Ddeddf Elusennau 2011 (neu adran 21(1) o Ddeddf Elusennau 1993)

  • copi ardystiedig o orchymyn y Comisiwn Elusennau a wnaed o dan adrannau 69(1)(c) neu 76(3) o Ddeddf Elusennau 2011 (neu adrannau 16 neu 18 o Ddeddf 1993 (Rheol 178(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003. Nid yw’r Comisiwn Elusennau’n anfon gorchmynion wedi eu selio ar bapur; fel rheol, mae’n anfon dogfen PDF trwy ebost. Bydd Cofrestrfa Tir EF yn derbyn copi o ebost y Comisiwn Elusennau wedi ei ardystio ei fod yn gopi gwir gyda chopi o’r gorchymyn PDF a osodwyd yn yr ebost neu a atodwyd iddo.

Er Ebrill 28 2017, mae’r Comisiwn Elusennau fel arfer yn gwneud gorchymyn lluosog misol unigol o dan adran 69 neu 90. Mae pob gorchymyn yn nodi nifer o wahanol elusennau y mae eu heiddo wedi eu breinio yn y Gwarcheidwad Swyddogol. Pan fo’r tir yn gofrestredig, bydd y gorchymyn yn cynnwys y rhifau teitl ar gyfer yr eiddo o dan sylw; pan fo’r eiddo’n ddigofrestredig, bydd disgrifiad llawn yn cael ei gynnwys. Rhaid i unrhyw gais i gofrestru’r breinio yn y Gwarcheidwad Swyddogol gynnwys copi ardystiedig o’r gorchymyn. Bydd y Comisiwn Elusennau yn gwneud gorchmynion elusen-unigol o dan adrannau 69 a 90 mewn achosion brys. Bydd gorchmynion a wneir o dan adran 76 lle y mae’r Comisiwn Elusennau yn ymyrryd mewn elusen yn ymwneud ag elusen unigol yn unig hefyd.

Bydd cyfeiriad y Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau yn cael ei roi fel y cyfeiriad ar gyfer gohebu os yw’r tir yn breinio ynddo yn rhinwedd gorchymyn o dan adran 76(3) o Ddeddf Elusennau 2011 (neu adran 18 o Ddeddf Elusennau 1993). Fel arall, dylech ddarparu cyfeiriad ymddiriedolwyr yr elusen neu, yn achos elusen sy’n gorfforaeth, cyfeiriad yr elusen i’w roi yn y gofrestr (rheol 178(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

3.6 Elusennau eithriedig – cyflwyno dogfen ymddiried

Lle bo’r gwarediad o blaid elusen eithriedig, dylid cyflwyno dogfen greu’r ymddiried elusennol (rheol 182(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau a anfonir gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF y bydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

3.7 Elusen heb ei heithrio a gorfforwyd heblaw o dan y Deddfau Cwmnïau neu Ddeddf Elusennau 1993 neu Ddeddf Elusennau 2011

Yn yr achos hwn, dylech gyflwyno copi o siarter, statud, rheolau, memorandwm ac erthyglau’r elusen neu ddogfen arall yn cyfansoddi’r gorfforaeth. Fel arall, gellir rhoi tystysgrif gan drawsgludwr y ceisydd yn Ffurflen 8 nad oes cyfyngiadau ar bŵer yr elusen i ddal neu i ddelio â’r tir (rheol 183 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau a anfonir gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF y bydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

3.8 Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chymdeithasau tai digofrestredig sy’n elusennau

Yn y rhan fwyaf o achosion, rhaid i’r cais gynnwys neu fod ynghyd â thystysgrif briodol (gweler rheol 183A o Reolau Cofrestru Tir 2003).

3.9 Ceisiadau am gyfyngiadau

O dan rai amgylchiadau, dylid gwneud cais naill ai yn y gwarediad neu ar ffurflen RX1 i gofnodi cyfyngiad priodol yn y gofrestr. Caiff hyn ei drafod yn Cofrestru elusennau fel perchnogion.

3.10 Materion eraill i’w cofio

  • Yn wahanol i ymddiriedau preifat, nid oes unrhyw gyfyngiad ar nifer yr ymddiriedolwyr all ddal ystad a freiniwyd ynddynt o dan ymddiried elusennol (gweler adran 34(3) Ddeddf Ymddiried 1925).

  • Bydd y cyfeiriadau ar gyfer gohebu a nodwyd yn y gwarediad o blaid yr elusen neu yn y ffurflen gais yn cael eu rhoi yn y gofrestr ac yna byddant yn cael eu defnyddio ar gyfer cyflwyno unrhyw rybuddion (rheolau 197 a 198 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Felly, dylech ofalu defnyddio cyfeiriad, neu gyfeiriadau, lle bydd yr elusen yn derbyn rhybuddion o’r fath.

  • Os yw’r trosglwyddiad yn cynnwys cyfamodau neu ddatganiadau gan y trosglwyddai(eion), neu gais am gyfyngiad, dylai’r trosglwyddai(eion) ei gyflawni.

4. Cofrestru elusennau fel perchnogion

4.1 Cefndir

Mae cofrestru perchennog yn breinio’r ystad gyfreithiol yn y perchennog cofrestredig hwnnw (adran 58 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Yn gyffredinol, gall trydydd bartïon yn gweithredu’n ddiffuant gymryd yn ganiataol bod gan berchennog cofrestredig bŵer llawn i fod yn rhan o unrhyw warediad a awdurdodwyd gan Ddeddf Cofrestru Tir 2002, oni bai bod y gofrestr yn cynnwys cyfyngiad neu gofnod arall i’r gwrthwyneb.

Yn achos elusennau heb eu heithrio, mae adran 123(2) o Ddeddf Elusennau 2011 yn gosod ymrwymiad ar y cofrestrydd i gofnodi cyfyngiad sy’n adlewyrchu pwerau’r perchennog. Byddwn yn gallu penderfynu os yw cyfyngiad o’r fath yn angenrheidiol o’r datganiad a wnaed yn y gwarediad. Os yw’r ystad wedi ei breinio yn y Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau, gall fod angen cyfyngiad ychwanegol.

O ran elusennau eithriedig, nid yw’r cofrestrydd yn gorfod cofnodi cyfyngiad. Os oes angen cyfyngiad oherwydd cyfyngiadau ar bwerau’r elusen, dylech wneud cais i gofnodi cyfyngiad priodol yn y gofrestr.

Mae rhagor o fanylion ynghylch cyfyngiadau yn cael eu rhoi’n ddiweddarach yn yr adran hon.

4.2 Cofnod perchnogion

Os yw elusen yn gorfforaeth, byddwn yn cofnodi ei henw a’i chyfeiriad yn y gofrestr yn y ffordd arferol, gyda rhif cofrestru’r cwmni os yw’n berthnasol.

Lle bo ymddiriedolwyr elusen yn unigolion byddwn yn eu cofnodi fel perchnogion yn y ffordd arferol, heblaw y byddwn yn cofnodi disgrifiad priodol ar ôl enwau a chyfeiriadau’r perchnogion. Mae’r enghraifft ganlynol yn o dangos hyn.

‘(dyddiad) Perchennog: Fred Lawson o 27 Cromwell Way, Kerwick, Hertland, AB1 2XY, Angela Beech o 13 Pym Road, Kerwick, Hertland, CD1 2XY, a Philomena Tomlin o 1 Hampden Green, Kerwick, Hertland, EF3 3XY, ymddiriedolwr yr elusen yn dwyn yr enw Hertland Countryside Trust’.

Lle’r ymgorfforwyd ymddiriedolwyr yr elusen o dan Ran 12 o Ddeddf Elusennau 2011 (neu Ran VII o Ddeddf Elusennau 1993) bydd y cofrestriad yn cael ei gwblhau fel a ganlyn.

‘(dyddiad) Perchennog: Ymddiriedolwr yr Hertland Countryside Trust o 101 Hereward Street, Fenbury, Hertland, GH3 4YX, a ymgorfforwyd o dan Ran 12 o Ddeddf Elusennau 2011’ (neu Ran VII o Ddeddf Elusennau 1993)’.

Erbyn hyn mae ymddiriedolwyr elusen a gorfforwyd o dan Ddeddf Corffori Ymddiriedolwyr Elusennol 1872 yn cael eu trin fel wedi eu corffori o dan Ran 12 o Ddeddf Elusennau 2011 (adran 17(2)(b) o Ddeddf Ddehongli 1978).

Lle y mae’r tir wedi ei freinio yn y Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau neu wedi ei drosglwyddo iddo trwy rinwedd gorchymyn o dan adran 69 neu adran 90 o Ddeddf Elusennau 2001 (neu adran 16 neu adran 21(1) o Ddeddf Elusennau 1993) bydd y cofrestriad yn cael ei gwblhau fel a ganlyn.

‘(dyddiad) Perchennog: Y Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau ar ran yr Hertland Countryside Trust o 101 Hereward Street, Fenbury, Hertland, GH3 4YX’.

Caiff cofnodion tebyg eu gwneud lle cofrestrwyd elusen yn berchennog arwystl.

Fel y nodwyd yn Y Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau, lle y mae’r tir wedi ei freinio yn y Gwarcheidwad Swyddogol trwy rinwedd gorchymyn adran 76 o Ddeddf Elusennau 2011 (neu adran 18 o Ddeddf Elusennau 1993) cyfeiriad ar gyfer gohebu’r Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau fydd yn cael ei gofnodi yn y gofrestr.

4.3 Cyfyngiadau ar elusennau heb eu heithrio

Mae’r cofrestrydd yn gorfod cofnodi cyfyngiad priodol yn y gofrestr wrth gofrestru gwarediad o blaid elusen heb ei heithrio (adran 123 o Ddeddf Elusennau 2011). Fel y crybwyllwyd yn Datganiadau sy’n ofynnol mewn gwarediad i elusen, bydd y datganiad yn y gwarediad yn o dangos os yw’r elusen heb ei heithrio. Mae’r cyfyngiad priodol ar Ffurf E fel y nodir yn Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003 (rheol 176 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Effaith Atodlen 8, paragraff 3(1) i Ddeddf Elusennau 2011 yw y dylai Ffurf E ddweud:

‘Nid oes gwarediad gan berchennog yr ystad gofrestredig y mae adran 117-121 neu adran 124 o Ddeddf Elusennau 2011 yn gymwys iddo i’w gofrestru oni bai fod yr offeryn yn cynnwys tystysgrif sy’n cydymffurfio ag adran 122(3) neu adran 125(2) y Ddeddf honno fel sy’n briodol.’

Mae’r term ‘gwarediad’ yn cynnwys rhoi a gollwng hawddfreintiau. Mae’r term ‘cofrestredig’ hefyd yn un eang, nid yn unig yn cynnwys gwneud cofnod ‘gwarantedig’ yn y gofrestr ond hefyd dileu cofnod o’r fath. Gall hyd yn oed gynnwys dileu cofnod sy’n datgan y mynegwyd gweithred arbennig i roi hawddfraint.

4.3.1 Y Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau

Yn ogystal â’r cyfyngiad uchod, pan fydd y Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau yn cael ei gofrestru’n berchennog o ganlyniad i orchymyn breinio a wnaed gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 76 o Ddeddf Elusennau 2011 (neu adran 18 o Ddeddf Elusennau 1993) (gweler hefyd Y Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau) mae angen cyfyngiad ychwanegol. Rhaid gwneud cais, gan ddefnyddio ffurflen RX1, i gofnodi’r cyfyngiad hwn fydd ar Ffurf F26. Effaith Atodlen 8, paragraff 3(1) i Ddeddf Elusennau 2011 yw y dylai Ffurf F ddweud:

‘Nid oes gwarediad a gyflawnwyd gan ymddiriedolwr [enw’r elusen] yn enw ac ar ran y perchennog i’w gofrestru oni bai i’r trafodiad gael ei awdurdodi trwy orchymyn y llys neu’r Comisiwn Elusennau, yn ôl gofynion adran 91(4) o Ddeddf Elusennau 20111.’

Roedd geiriad blaenorol y cyfyngiad hwn yn cyfeirio at y Comisiynwyr Elusennau yn hytrach na’r Comisiwn Elusennau.

4.4 Cyfyngiadau ar gyfer elusennau eithriedig

Pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru elusen eithriedig yn berchennog, rhaid i chi ddarparu copi o ddogfen greu’r ymddiried elusennol (rheol 182(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Os yw’r ddogfen ymddiried yn cyfyngu pŵer yr elusen i ddelio â thir, dylid ystyried gwneud cais i gofnodi cyfyngiad yn y gofrestr i adlewyrchu’r cyfyngiadau. Dylid gwneud y cais gan ddefnyddio ffurflen RX1.

4.5 Cyfyngiadau lle cofrestrwyd ymddiriedolwyr fel perchnogion

O dan adran 6 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996 mae gan ymddiriedolwyr tir elusennol holl bwerau gwarediad perchennog llwyr. Fodd bynnag, mae darpariaethau’r Ddeddf honno yn cyfyngu ar y pwerau hyn i’r graddau y maent yn berthnasol i ymddiriedolwyr o’r fath.

4.5.1 Darpariaethau o ran talu arian cyfalaf

O dan adran 6(6) o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996 rhaid peidio ymarfer y pwerau ddaw drwy’r adran honno yn groes i unrhyw ddeddfiad arall. Mae Adran 27(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo, fel y’i newidiwyd, yn darparu bod:

‘Ar waethaf unrhyw beth i’r gwrthwyneb yn yr offeryn (os oes rhywbeth) sy’n creu ymddiried tir neu unrhyw ymddiried yn effeithio ar elw clir gwerthu’r tir os caiff ei werthu, rhaid peidio talu derbyniadau gwerthiant neu arian cyfalaf arall i na’i gymhwyso gan gyfarwyddyd llai na dau o bobl fel ymddiriedolwyr, heblaw lle bo’r ymddiriedolwr yn gorfforaeth ymddiried.’

Wrth gofrestru cydberchnogion, boed un ohonynt yn gorfforaeth ymddiried neu beidio, bydd y cofrestrydd yn cofnodi cyfyngiad ar Ffurf A i adlewyrchu’r cyfyngiad hwn fel a ganlyn (adran 44(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 95(2)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

‘Nid oes gwarediad gan unig berchennog yr ystad gofrestredig (heblaw corfforaeth ymddiried) lle bo arian cyfalaf yn deillio i’w gofrestru heblaw trwy awdurdod gorchymyn y llys.’

Yn achos unig ymddiriedolwr neu ymddiriedolwr gwarchod, chi sydd i wneud cais am y cyfyngiad naill ai yn y trosglwyddiad i’r ymddiriedolwr neu ar ffurflen RX1 (rheol 94(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Bydd hyn yn sicrhau cydymffurfio ag adran 27(2)o Ddeddf Cyfraith Eiddo.

4.5.2 Darpariaethau o ran cydsyniadau

O dan adran 8(2) o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996, os oes angen cael cydsyniad i’r gwarediad sy’n creu’r ymddiried, nid oes modd ymarfer y pwerau ddaw drwy adran 6 heb y cydsyniad hwnnw. O ran elusen eithriedig dylid gwneud cais am gyfyngiad priodol fel y mynegwyd yn Cyfyngiadau ar gyfer elusennau eithriedig. Yn achos elusen heb ei heithrio, bydd y dystysgrif sydd i’w darparu yn ôl telerau’r cyfyngiad Ffurf E yn trin hyn, felly nid oes angen cyfyngiad ychwanegol.

4.6 Cofrestriad cyntaf gwirfoddol elusen heb ei heithrio

Pan fo elusen heb ei heithrio yn gwneud cais am gofrestriad cyntaf gwirfoddol o dan ddarpariaethau adran 3 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, neu’n dilyn digwyddiad sy’n peri cofrestriad gorfodol o dan adran 4, mewn amgylchiadau lle nad yw’r digwyddiad hwnnw’n warediad at ddibenion Deddf Elusennau 2011 (megis trosglwyddiad ystad gymwys neu o ganlyniad i benodiad ymddiriedolwr newydd sy’n peri cofrestriad cyntaf gorfodol o dan adran 4(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002), ni fydd gweithred yn cynnwys y datganiad y cyfeirir ati yn Datganiadau sy’n ofynnol mewn gwarediad i elusen. O dan yr amgylchiadau hyn, rhaid gwneud cais, gan ddefnyddio ffurflen RX1, i gofnodi cyfyngiad ar Ffurf E (rheol 176(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

4.7 Cyfyngiadau eraill

Lle bo unrhyw gyfyngiadau eraill ar bwerau elusennau arbennig, dylid ystyried gwneud cais ar ffurflen RX1 am gofnodi yn y gofrestr, unrhyw gyfyngiad addas.

5. Gwarediadau gan elusennau

5.1 Elusennau eithriedig

Mae angen i warediad ystad gofrestredig, neu ystad ddigofrestredig sy’n gorfod cael ei chofrestru, gan elusen eithriedig gynnwys datganiad ynghylch y tir a’r elusen (adrannau 122(1), 125(1) o Ddeddf Elusennau 2011). Mae’r datganiad sydd i’w gynnwys yn dibynnu ar os yw’r gwarediad yn forgais neu beidio.

Mae rheol 180(1)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn o dangos y datganiad ar gyfer gwarediadau heblaw morgeisi, sydd fel a ganlyn.

‘Mae [(perchnogion) mewn ymddiried ar ran] (elusen), elusen eithriedig, yn dal y tir a drosglwyddwyd (neu yn ôl fel y bo’n digwydd.’

Mae rheol 180(2)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn o dangos y datganiad ar gyfer morgeisi gan elusennau eithriedig ac mae fel a ganlyn.

‘Mae’r tir a arwystlir yn cael ei ddal gan (neu mewn ymddiried ar ran) (elusen), elusen eithriedig.’

Os ydych yn cyflwyno gwarediad gan elusen eithriedig nad yw’n cynnwys un o’r gwahanol ddewisiadau hyn, cewch ef yn ôl i gael cynnwys y datganiad priodol.

5.2 Elusennau heb eu heithrio

5.2.1Cefndir

Mae angen i elusennau heb eu heithrio fynd trwy gamau trefniadol arbennig cyn gwaredu tir (adrannau 117-121, 124 a 125 o Ddeddf Elusennau 2011). Nid yw’r cyfarwyddyd hwn yn eu disgrifio’n fanwl ond maent yn cynnwys, yn y rhan fwyaf o achosion, derbyn cyngor syrfëwr cymwysedig ac, fel arfer, hysbysebu’r trafodiad arfaethedig. Yn y rhan fwyaf o achosion arwystl i sicrhau ad-daliad benthyciad neu grant arfaethedig, rhaid i’r ymddiriedolwyr ofyn am gyngor ar ei angenrheidrwydd, ei delerau a gallu’r elusen i ad-dalu ar y telerau hynny ac, yn achos arwystl i sicrhau rhyddhad unrhyw rwymedigaeth arall, rhaid iddynt ofyn am gyngor a yw’n rhesymol i ymddiriedolwyr yr elusen ymrwymo i ryddhau’r rhwymedigaeth o ystyried dibenion yr elusen. Pan fyddant wedi cymryd y camau penodedig, ar yr amod bod ganddynt bŵer o dan ymddiriedau’r elusen i wneud y gwarediad a’r trafodiad heb fod o blaid rhywun cysylltiedig (term heb fod yn gyfyngedig i’r ymddiriedolwyr – gweler adrannau 117(2), 118 a 350-352 o Ddeddf Elusennau 2011), gall ymddiriedolwyr yr elusen neu’r elusen gael gwared ar y tir heb orchymyn y Comisiwn Elusennau na’r llys. Ymhob achos arall (yn amodol ar adran 117(3) o Ddeddf Elusennau 2011) mae angen gorchymyn o’r fath (A fydd yn cael ei wneud gan y Comisiwn Elusennau, fel arfer o dan adran 105 o Ddeddf Elusennau 2011). Nid yw’r Comisiwn Elusennau’n anfon gorchmynion wedi eu selio ar bapur; fel rheol, mae’n anfon dogfen PDF trwy ebost. Bydd Cofrestrfa Tir EF yn derbyn copi o ebost y Comisiwn Elusennau wedi ei ardystio ei fod yn gopi gwir gyda chopi o’r gorchymyn PDF a osodwyd yn yr ebost neu a atodwyd iddo.

O dan Orchymyn 2009 daeth colegau a neuaddau prifysgolion Caergrawnt a Durham a’r colegau ym Mhrifysgol Rhydychen yn elusennau heb eu heithrio.

Tynnodd Gorchymyn Deddf Elusennau 2006 (Newidiadau o ran Elusennau Esempt) 2010 statws elusen eithriedig oddi ar brifysgolion a cholegau prifysgol yng Nghymru, corfforaethau addysg uwch yng Nghymru a Bwrdd a Llywodraethwyr Amgueddfa Llundain.

Fel yr eglurwyd eisoes yn Cyfyngiadau ar elusennau heb eu heithrio, caiff gofynion Deddf Elusennau 2011 eu hadlewyrchu yn achos tir cofrestredig trwy gofnodi’r cyfyngiad priodol, ar Ffurf E, yn y gofrestr. Mae’r cyfyngiad yn darparu nad oes gwarediad gan berchennog y tir i’w gofrestru heb dystysgrif ymddiriedolwyr yr elusen os yw adrannau 117 neu 124 neu Ddeddf Elusennau 2011 yn berthnasol. Cyn 14 Mawrth 2012, cofnodwyd y cyfyngiad yn y gofrestr fel:

‘Nid oes gwarediad gan berchennog yr ystad gofrestredig y mae adran 36 neu 38 neu Ddeddf Elusennau 1993 yn gymwys iddo i’w gofrestru oni bai fod yr offeryn yn cynnwys tystysgrif yn cydymffurfio ag adran 37(2) neu adran 39(2( y Ddeddf honno fel sy’n briodol.’

Dylid ystyried bod cyfyngiad yn y ffurf hon nawr yn cyfeirio at ddarpariaethau Deddf Elusennau 2011.

Mae unrhyw ddarpariaeth sydd mewn ymddiriedau elusen, neu mewn unrhyw ddarpariaeth sy’n sefydlu neu’n rheoli elusen, sy’n gorfod cael cydsyniad y Comisiwn Elusennau neu’r Ysgrifennydd Gwladol (o dan Ddeddfau Addysg 1944 neu 1973) i unrhyw warediad wedi peidio â bod yn effeithiol (adran 36 o Ddeddf Elusennau 1992).

Ar yr amod bod unrhyw warediad gan elusen heb ei heithrio yn cynnwys y datganiad perthnasol a thystysgrif os oes angen un, fel y caiff ei egluro yn yr adrannau canlynol, bydd gofynion y cyfyngiad ar Ffurf E yn cael eu hateb ac mae modd cofrestru’r gwarediad.

5.2.2 Y datganiadau sy’n ofynnol yn y gwarediad

Pan fydd elusen heb ei heithrio yn gwneud gwarediad, rhaid i’r weithred gynnwys datganiad ynghylch yr ystad, yr elusen a natur y trafodiad. Mae adran 122(2) o Ddeddf Elusennau 2011 (ar gyfer gwarediadau heblaw morgeisi) ac adran 125(1) o Ddeddf Elusennau 2011 (ar gyfer morgeisi) angen hyn. Mae’r datganiad sydd i’w gynnwys mewn unrhyw warediad neu forgais yn dibynnu ar b’un ai y mae’r gwarediad yn syrthio o fewn adran 117(3)(a)-(d) o Ddeddf Elusennau 2011 neu yn achos morgais, a yw’n un sy’n syrthio o fewn adran 124(9).

Mae adran 117(3(a-d) o Ddeddf Elusennau 2011 yn cwmpasu tri dosbarth gwarediad:

  • unrhyw warediad y rhoddwyd awdurdod cyffredinol neu arbennig yn benodol iddo trwy ddarpariaeth statudol neu gynllun a sefydlwyd yn gyfreithiol (adran 117(3)(a))
  • unrhyw warediad y mae angen awdurdod neu gydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol ar ei gyfer o dan Ddeddf Ystadau Prifysgolion a Cholegau 1925 (adran 117(3)(b))
  • unrhyw warediad ystad mewn tir sydd:

(i) yn cael ei wneud i elusen arall heblaw am y pris gorau, a

(ii) ag awdurdod i’w wneud trwy ymddiriedau’r elusen sy’n gwaredu (adran 117(3)(c))

  • unrhyw warediad trwy brydles i fuddiolwr o dan ymddiriedau’r elusen sydd:

(i) yn cael ei rhoi am lai na’r rhent gorau sydd i’w gael yn rhesymol, a

(ii) â’r bwriad i alluogi meddiannu’r eiddo at ddibenion yr elusen (adran 117(3)(d)).

O dan adran 124(9) o Ddeddf Elusennau 2011, nid oes unrhyw gyfyngiad ar forgeisi y rhoddwyd awdurdod cyffredinol neu arbennig yn benodol iddynt fel y cyfeirir ato yn adran 117(3)(a) neu am yr hyn y mae awdurdod neu gydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol yn ofynnol fel y sonnir yn adran 117(3)(b).

Mae rheol 180 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn gosod yr amrywiol ffurfiau o ddatganiad i’w cynnwys mewn gwarediadau ystadau cofrestredig ac mewn gwarediadau ystadau digofrestredig a fydd yn gofyn i’r ystad gael ei chofrestru, yn dibynnu ar b’un ai y mae’r gwarediad yn forgais, a ph’un ai y mae’n ddarostyngedig i’r cyfyngiadau a osodir gan adrannau 117-121 neu 124 o Ddeddf Elusennau 2001.

Effaith Atodlen 8, paragraff 3(1) o Ddeddf Elusennau 2011 yw y dylid darllen rheol 180 o Reolau Cofrestru Tir 2003 fel pe bai’r datganiadau i’w cynnwys yn y weithred fel a ganlyn.

  • Ar gyfer gwarediad heblaw morgais, naill ai:

    • ‘Mae’r tir a drosglwyddwyd (neu yn ôl fel y bo’n digwydd) yn cael ei ddal gan [(perchnogion) mewn ymddiried ar ran] (elusen), elusen heb ei heithrio, ac nid yw’r trosglwyddiad hwn (neu yn ôl fel y bo’n digwydd) yn un sy’n dod o fewn paragraff (a), (b), (c) neu (d) adran 117(3) o Ddeddf Elusennau 2011, fel bod y cyfyngiadau ar warediad a osodwyd gan adran 117-121 y Ddeddf honno yn berthnasol i’r tir’ neu

    • ‘Mae’r tir a drosglwyddwyd (neu yn ôl fel y bo’n digwydd) yn cael ei ddal gan [(perchnogion) mewn ymddiried ar ran] (elusen), elusen heb ei heithrio, ond mae’r trosglwyddiad hwn (neu yn ôl fel y bo’n digwydd*) yn un sy’n dod o fewn paragraff (a), (b), (c) neu (d) adran 117(3) o Ddeddf Elusennau 2011.

  • Ar gyfer morgais gan elusen heb ei heithrio, naill ai:

    • ‘Mae’r tir a arwystlir yn cael ei ddal gan (neu mewn ymddiried ar ran) (elusen), elusen heb ei heithrio, ac nid yw’r arwystl (neu forgais) hwn yn un sy’n dod o fewn adran 124(9) o Ddeddf Elusennau 2011, fel bod y cyfyngiadau a osodwyd gan adran 124 y Ddeddf honno yn berthnasol’
    • ‘Mae’r tir a arwystlir yn cael ei ddal gan (neu mewn ymddiried ar ran) (elusen), elusen heb ei heithrio, ond mae’r arwystl (neu forgais) hwn yn un sy’n dod o fewn adran 124(9) o Ddeddf Elusennau 2011’.
  • Yn ogystal, dylai morgais gan elusen heb ei heithrio sy’n arwain at gais am gofrestriad cyntaf gynnwys y datganiad canlynol hefyd. ‘Mae’r cyfyngiadau ar warediad a osodwyd gan adrannau 117-121 o Ddeddf Elusennau 2011 yn berthnasol hefyd i’r tir (yn amodol ar adran 117(3) y Ddeddf honno)’.

*Rhaid ichi ddewis pa baragraff neu baragraffau sy’n effeithio a dileu’r rhai nad ydynt.

5.2.3 Y dystysgrif sy’n ofynnol yn y gwarediad

Lle caiff elusen heb ei heithrio neu ymddiriedolwyr elusen o’r fath eu cofrestru fel perchnogion ystad dylai fod cyfyngiad priodol yn y gofrestr. Bydd y cyfyngiad hwn ar Ffurf E, fel yr eglurwyd yn Cyfyngiadau ar elusennau heb eu heithrio, neu ar ffurf a ddefnyddiwyd cyn y daeth Deddf Cofrestru Tir 2002 i rym (gweler Hen ffurfiau cofnodion yn y gofrestr). Effaith y cyfyngiad hwn yw mynnu, yn ogystal â’r datganiad priodol y cyfeiriwyd ato yn yr adran flaenorol, bod y gwarediad hefyd yn cynnwys tystysgrif lle naill ai:

  • mae’r cyfyngiadau ar warediadau a osodir gan adrannau 117-121 o Ddeddf Elusennau 2011 yn gymwys

  • os yw’n arwystl, mae’r cyfyngiadau a osodir gan adran 124 o Ddeddf Elusennau 2011 yn gymwys

Fel arfer, dylai’r dystysgrif ddilyn y datganiad priodol yn y weithred sy’n peri’r gwarediad. Nid yw Deddf Cofrestru Tir 2002 yn pennu unrhyw eiriau penodol, ond rhaid i’r dystysgrif gwrdd â gofynion adrannau 122(3) neu 125(2) o Ddeddf Elusennau 2011. Mae ffurf y dystysgrif yn dibynnu ar a oes gan ymddiriedolwyr yr elusen bŵer o dan ymddiriedau’r elusen i wneud y gwarediad neu arwystl ac wedi cydymffurfio â darpariaethau perthnasol Deddf Elusennau 2011 neu a yw’r gwarediad neu arwystl wedi eu hawdurdodi gan orchymyn y Llys neu’r Comisiwn Elusennau.

Ar gyfer gwarediad (nad yw’n arwystl) a wneir heblaw trwy orchymyn y Llys neu’r Comisiwn Elusennau, dylai’r dystysgrif fod yn debyg i hyn.

‘Mae (disgrifiad o ymddiriedolwyr yr elusen a’u cymhwyster i ardystio) yn ardystio fod ganddynt bŵer o dan ei hymddiriedau i weithredu’r gwarediad hwn a’u bod wedi cydymffurfio â darpariaethau’r cyfryw adran 117-121 i’r graddau y mae’n berthnasol i’r gwarediad hwn.’

Ar gyfer arwystl a wneir heblaw trwy orchymyn y Llys neu’r Comisiwn Elusennau, dylai’r dystysgrif fod yn debyg i hyn.

‘Mae (disgrifiad o ymddiriedolwyr yr elusen a’u cymhwyster i ardystio) yn ardystio fod ganddynt bŵer o dan ei hymddiriedau i weithredu’r arwystl hwn a’u bod wedi cael ac wedi ystyried cyngor o’r fath a gaiff ei grybwyll yn adran 124(2) o’r cyfryw Ddeddf.’

Os nad oes gan yr elusen ymddiriedau yn yr ystyr arferol, mae modd defnyddio’r canlynol yn lle’r geiriau ‘o dan ei hymddiriedau’:

‘o dan y darpariaethau sy’n ei sefydlu fel elusen ac yn rheoli ei dibenion a’i gweinyddiad.’

Lle’r awdurdodwyd y gwarediad trwy orchymyn y Comisiwn Elusennau neu’r llys, dylai’r dystysgrif sy’n ofynnol fod yn debyg i’r canlynol.

‘Mae (disgrifiad o ymddiriedolwyr yr elusen a’u cymhwyster i ardystio) yn ardystio yr awdurdodwyd y gwarediad (neu arwystl) hwn trwy orchymyn y Comisiwn Elusennau (neu’r Llys).’

Lle y mae rhywun yn caffael budd mewn ystad am arian neu werth arian o dan warediad sy’n cynnwys unrhyw un o’r tystysgrifau a ddisgrifir uchod, bydd yn cael ei dybio’n bendant fod y ffeithiau fel y dywedwyd yn y dystysgrif (adrannau 122(4) a 125(3) o Ddeddf Elusennau 2011).

5.2.4 Pwy sy’n rhoi’r dystysgrif?

Rhaid i ymddiriedolwyr yr elusen (adrannau 122(3) a 125(2) o Ddeddf Elusennau 2011) roi’r dystysgrif, felly bydd angen iddynt ymuno a chyflawni’r gwarediad neu arwystl er mwyn rhoi’r dystysgrif. Mae adran 177 o Ddeddf Elusennau 2011 yn diffinio ‘ymddiriedolwyr elusen’ fel y bobl sydd â rheolaeth gyffredinol dros weinyddu’r elusen. Lle bo’r elusen yn ymddiried, yr ymddiriedolwyr rheoli fydd y rhain yn gyffredinol, pa un ai hwy hefyd yw’r perchnogion cofrestredig neu beidio. Lle bo’r elusen yn gorfforaeth, er enghraifft cwmni cyfyngedig trwy warant neu gyngor eglwys y plwyf, y cyfarwyddwyr neu’r aelodau fydd y rhain yn gyffredinol. Yn achlysurol, gall rhyw fath o gyngor llywodraethol weinyddu’r elusen.

5.2.5 Sut y dylid disgrifio ymddiriedolwyr yr elusen?

Lle bo’r elusen yn ymddiried, awgrymwn fod ymddiriedolwyr yr elusen (pa un ai ydynt yn gorfforedig o dan Ran 12 o Ddeddf Elusennau 2011 neu beidio) yn cael eu disgrifio yn un o’r ffyrdd canlynol.

  • ‘Y trosglwyddwyr (neu arwystlwyr yn ôl fel y bo’n digwydd), ymddiriedolwr yr elusen’.

Mae’r geiriad canlynol yn briodol lle ymddiriedolwyr yr elusen yw’r perchnogion cofrestredig hefyd.

  • ‘Ymddiriedolwyr yr elusen ___’;

  • ‘Aelodau’r ___ elusen, sef y bobl sydd â rheolaeth gyffredinol dros ei gweinyddiad ___’.

Os yw’r tir wedi ei freinio mewn ymddiriedolwyr daliannol neu ymddiriedolwr gwarchod a’r elusen yn cael ei gweinyddu gan ymddiriedolwyr rheoli neu gyngor llywodraethol, yn gyffredinol mae’n gyfleus i 2 ohonynt (neu fwy, os dymunir) gael euyn ya hawdurdodi i gyflawni’r weithred ar ran pob un ohonynt (gweler Cyflawni gweithredoedd). Yn yr achos hwn nid oes angen rhoi enwau holl ymddiriedolwyr yr elusen, ac mae modd defnyddio’r geiriad yn yr ail neu drydedd enghraifft uchod. Os nad oes unrhyw awdurdod dirprwyedig, dylid enwi’r holl ymddiriedolwyr neu aelodau’r cyngor llywodraethol yn y dystysgrif a dylent oll gyflawni’r weithred.

Lle bo’r elusen yn gwmni a’r cyfarwyddwyr yn rhoi’r dystysgrif, fel y bydo dant fel arfer, mae modd eu disgrifio fel:

  • ‘Cyfarwyddwyr yr elusen (neu, os yw’n well gennych, y cwmni), sef y bobl sydd â rheolaeth gyffredinol dros ei gweinyddiad ___.’

Lle bo’r elusen yn rhyw fath arall o gorff corfforedig a’r aelodau yn rhoi’r dystysgrif, mae modd eu disgrifio fel:

  • ‘Aelodau’r elusen (neu enw’r elusen yn gyffredinol, e.e. y gymdeithas, y cymdeithasiad, y bwrdd, y cyngor, y gronfa), sef y bobl sydd â rheolaeth gyffredinol dros ei gweinyddiad.’

Os oes gan yr elusen gorfforedig gyngor llywodraethol, mae modd addasu’r geiriad uchod, er enghraifft:

  • ‘Aelodau cyngor llywodraethol y gymdeithas, sef y bobl sydd â rheolaeth gyffredinol dros ei gweinyddiadn.’

Yn yr achosion hyn, mae’n arferol i 2 (neu fwy, os dymunir) o’r cyfarwyddwyr neu aelodau gael eu hawdurdodi i gyflawni’r weithred ar ran pob un ohonynt (gweler Cyflawni gweithredoedd). Nid oes angen rhoi enwau’r holl gyfarwyddwyr neu aelodau. Os nad oes unrhyw awdurdod dirprwyedig dylid enwi’r holl gyfarwyddwyr neu aelodau yn y dystysgrif a dylent oll gyflawni’r weithred.

5.2.6 Tir digofrestredig

Lle bo ystad ddigofrestredig yn cael ei dal gan neu mewn ymddiried ar ran elusen, mae pwerau’r perchnogion i gael gwared arni yn gyfyngedig yn yr un ffordd i bob diben ag y byddent pe bai eu teitl yn gofrestredig. Felly, wrth archwilio teitl ar gofrestriad cyntaf, byddwn yn cymhwyso’r egwyddorion a amlinellwyd uchod fel pe bai’r cyfyngiad priodol wedi bod yn berthnasol i’r elusen sy’n gwaredu’r ystad. Byddwn yn gallu penderfynu os yw tystysgrif yn briodol oherwydd bod y gofyniad bod y gwarediad yn cynnwys datganiadau ynghylch y tir, yr elusen a natur y gwarediad hefyd yn berthnasol i drawsgludiadau, morgeisi a phrydlesi tir digofrestredig. Felly, rydym yn argymell bod unrhyw warediad, y mae adran 117-121 neu 124 o Ddeddf Elusennau 2011 yn gymwys iddo, o ystad ddigofrestredig gan elusen heb ei heithrio, yn cynnwys tystysgrif debyg i un o’r rhai yn yr adran hon pan fo hynny’n briodol i amgylchiadau’r gwarediad.

5.2.7 Pan nad oes angen tystysgrif

Bydd rhai achlysuron pan na ddylid cynnwys tystysgrif mewn gweithred am nad yw’r gwarediad yn destun y cyfyngiadau ar warediad a osodir gan adran 117-121 neu, os yw’n arwystl, adran 124 o Ddeddf Elusennau 2011. Mae’r rhain yn warediadau y cyfeirir atynt yn adran 117(3) y Ddeddf honno ac arwystlon lle mae darpariaethau adran 124 yn cael eu datgymhwyso gan adran 124(9) y Ddeddf honno.

Bydd gan y mathau hyn o warediadau un o’r ail o’r gwahanol ddatganiadau y cyfeirir atynt yn Y datganiadau sy’n ofynnol yn y gwarediad, yn dibynnu ar a yw’r gwarediad yn arwystl ai peidio. Hefyd, ni ddylid cynnwys tystysgrif mewn gweithred nad yw’n warediad at ddibenion adrannau 117-121 o Ddeddf Elusennau 2011, megis gweithred sy’n penodi, neu yn rhinwedd adran 334 o Ddeddf Elusennau 2011, sy’n peri penodi ymddiriedolwr newydd neu sy’n cael ei gwneud o ganlyniad i benodi tir wedi ei ddal ar neu mewn ymddiried ar gyfer elusen. Gweler Newid ymddiriedolwr am fanylion pellach y drefn ar gyfer penodi ymddiriedolwyr elusen newydd o dan adran 334 o Ddeddf Elusennau 2011.

5.3 Cydymffurfio â chyfyngiadau

Ffurf E

Bydd cydymffurfio â’r cyfyngiad hwn os yw’r gwarediad yn cynnwys y datganiad perthnasol a thystysgrif, os oes angen un, fel y crybwyllwyd yn Elusennau heb eu heithrio.

Ffurf F

Bydd cyfyngiad ar Ffurf F yn Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003 wedi ei gofnodi yn y gofrestr ar ôl gwneud gorchymyn o dan Adran 76 o Ddeddf Elusennau 2011 (neu adran 18 o Ddeddf Elusennau 1993) a chofrestru’r Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau yn berchennog. Os cyflawnwyd gwarediad yn enw ac ar ran y Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau gan yr elusen (os yw’n gorfforaeth) neu ymddiriedolwyr yr elusen (os nad yw) bydd gofyn cael gorchymyn gan y llys neu’r Comisiwn Elusennau i awdurdodi’r gwarediad, pa bynnag fersiwn o’r cyfyngiadau sy’n ymddangos yn y gofrestr (adran 91(4) o Ddeddf Elusennau 2011). Os felly y mae, dylai’r gwarediad gynnwys tystysgrif yn dweud iddo gael ei awdurdodi trwy orchymyn y Comisiwn Elusennau neu’r llys fel y bo’n briodol (adrannau 122(3)(a) a 125(2)(a) o Ddeddf Elusennau 2011).

Cyn 14 Mawrth 2012, roedd y cyfyngiad a gofnodwyd yn y gofrestr yn cyfeirio at adran 22(3) o Ddeddf Elusennau 1993 yn hytrach nag adran 91(4) o Ddeddf Elusennau 2011. Dylid darllen cyfyngiad o’r fath nawr fel pe bai’n cyfeirio at adran 91(4).

Nid yw’r cyfyngiad yn berthnasol i warediadau a gyflawnwyd gan y Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau.

Ffurf A

Os cofnodwyd y cyfyngiad hwn yn y gofrestr, ni fydd yn effeithio ar warediad gan gydberchnogion. Fodd bynnag, os yw’r perchennog yn unig ymddiriedolwr neu’n ymddiriedolwr gwarchod, bydd angen penodi ail ymddiriedolwr at ddibenion unrhyw warediad lle bydd arian cyfalaf yn deillio, oni bai bod yr ymddiriedolwr yn gorfforaeth ymddiried. Ar ôl i adran 32 o Ddeddf Elusennau 2022 ddod i rym ar 31 Hydref 2022, os yw’r unig ymddiriedolwr yn gorfforaeth sydd hefyd yn elusen, bydd gan yr ymddiriedolwr hwnnw statws corfforaeth ymddiried hyd yn oed os cafodd ei benodi cyn 31 Hydref 2022. Fodd bynnag, ni fydd statws y gorfforaeth ymddiried yn ôl-weithredol.

Cyfyngiadau eraill

Bydd cyfyngiadau eraill yn cael eu bodloni trwy gyflwyno tystiolaeth bod y gwarediad yn cydymffurfio â thelerau’r cyfyngiad. Bydd y dystiolaeth ar ffurf tystysgrif os bydd y cyfyngiad yn galw am un neu dylid cyflwyno copi o’r cydsyniad neu orchymyn gofynnol os yw’n briodol. Os nad oes gofyn am gydsyniad na gorchymyn o dan yr amgylchiadau, dylid egluro’r sefyllfa mewn llythyr cysylltiedig.

5.4 Dileu cyfyngiadau

Lle bo pwerau elusen yn gyfyngedig a bod cyfyngiad yn y gofrestr ar Ffurf E, Ffurf F neu un o’r fersiynau blaenorol y cyfeirir atynt yn Hen ffurfiau cofnodion y gofrestr, caiff hyn ei ddileu ohono’i hun pan gaiff cais ei wneud i gofrestru trosglwyddiad o’r teitl gan y perchennog ar yr amod bod y canlynol yn wir:

  • y cydymffurfiwyd â’r cyfyngiad, a
  • bod agweddau eraill ar y cais yn dderbyniol.

Nid oes angen gwneud cais i ddileu’r cyfyngiad.

Os yw elusen yn aros yn berchennog teitl yn dilyn gwarediad, fel prydles neu arwystl, bydd unrhyw gyfyngiad elusennol yn aros yn y gofrestr.

Fe all fod achlysuron prin pan fydd elusen am ddileu cyfyngiad yn y gofrestr er na wnaed unrhyw warediad. Er enghraifft, gall ymddiriedau’r elusen newid fel nad yw’r cyfyngiad yn y gofrestr yn briodol mwyach. Mewn achosion o’r fath, dylid gwneud cais i ddileu’r cyfyngiad gan ddefnyddio ffurflen RX3, ynghyd â’r dystiolaeth berthnasol.

6. Cadw’r gofrestr yn gyfoes

6.1 Cyflwyniad

Mae ystadau ym meddiant elusennau yn tueddu i gael eu dal am amser maith. Yn ystod y berchnogaeth hon gall llawer ddigwydd i effeithio ar bwerau, statws ac ymddiriedolwyr yr elusen. Er enghraifft, fe all fod marwolaethau, ymddiswyddiadau neu benodiadau ymddiriedolwyr newydd. Gall yr elusen gael ei hailddosbarthu’n elusen eithriedig, gall ddod yn gorfforedig, gall yr ystad freinio mewn corfforaeth ymddiried neu gall y Comisiwn Elusennau ymyrryd. Os digwydd unrhyw un o’r newidiadau hyn rhaid diweddaru’r gofrestr i adlewyrchu’r sefyllfa bresennol.

6.2 Newid ymddiriedolwr

Lle bo ystad gofrestredig ym meddiant ymddiriedolwyr elusen, ni fydd newid yn yr ymddiriedolwyr ohono’i hun yn newid perchnogaeth y teitl cofrestredig. Mae’r gyfraith gyffredinol sy’n ymwneud â phenodi a diswyddo ymddiriedolwyr (gweler yn arbennig Ran III o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925) yn berthnasol i elusennau hefyd. Fodd bynnag, mae adran 334 o Ddeddf Elusennau 2011 yn gwneud darpariaethau ychwanegol ar gyfer ymddiriedolwyr elusen. O dan adran 334(1) o Ddeddf Elusennau 2011, ar yr amod bod ei hymddiriedau’n caniatáu iddi, gall elusen benodi a diswyddo ymddiriedolwyr trwy benderfyniad cyfarfod o ymddiriedolwyr yr elusen, aelodau neu bobl eraill. Mae memorandwm a lofnodwyd yn y cyfarfod yn dystiolaeth ddigonol o’r penderfyniad(au). I fod yn effeithiol o ran trosglwyddo’r ystad gyfreithiol, rhaid i’r memorandwm:

  • fod wedi ei gyflawni fel gweithred

  • fod wedi ei gyflawni gan bwy bynnag oedd yn llywyddu’r cyfarfod neu a orchmynnwyd mewn rhyw ffordd arall gan y cyfarfod

  • fod wedi ei dystio gan 2 berson oedd yn y cyfarfod, a

  • bod yn berthnasol i dir sydd o fewn cwmpas adran 40 o Ddeddf Ymddiried 1925 (gweler adran 40(4) o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925 ar gyfer tir lle nad yw adran 40 yn berthnasol)

Er mwyn i’r cofrestrydd newid y gofrestr fel ag i freinio’r tir neu arwystl yn yr ymddiriedolwyr presennol rhaid cyflwyno’r memorandwm gwreiddiol, tystiolaeth o farwolaeth unrhyw ymddiriedolwr a gofnodwyd ar hyn o bryd yn y gofrestr, a thystysgrif y cyfreithiwr sy’n gweithredu ar ran yr elusen fod ganddi’r pŵer i ddefnyddio’r drefn yn adran 334 o Ddeddf Elusennau 2011. Gan na fydd y memorandwm o angenrheidrwydd yn nodi’r holl ymddiriedolwyr presennol bydd o gymorth i ni os byddwch yn darparu rhestr gyflawn o’u henwau llawn, ardystiedig fel y cyfryw gan yr ysgrifennydd neu gyfreithiwr yr ymddiriedolwyr.

Mae modd penodi ymddiriedolwr newydd trwy drosglwyddo ac, oherwydd nad yw trosglwyddiad o’r fath yn werthiant, prydles na gwarediad arall gan yr elusen, nid yw adran 122(3) o Ddeddf Elusennau 2011 yn berthnasol iddo. Bydd y cofrestrydd yn derbyn unrhyw drosglwyddiad trwy benodi ymddiriedolwr newydd, ond iddo gael ei fynegi felly, heb unrhyw dystysgrif o dan yr isadran honno.

Pan gaiff cais ei wneud i’r cofrestrydd weithredu newid ymddiriedolwyr elusen heb ei heithrio, pa un ai yn ôl darpariaethau rheol 161 o Reolau Cofrestru Tir 2003 (Mae rheol 161(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn berthnasol i ddatganiadau breinio. Mae memorandwm a gyflawnwyd fel gweithred o dan adran 334(3) o Ddeddf Elusennau 2011 yn gweithredu o dan adran 40 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925 fel pe bai’r weithred wedi peri’r penodiad neu ddiswyddiad) neu i gofrestru penodiad a wnaed trwy drosglwyddiad, mae dyletswydd i wneud cais i gofnodi cyfyngiad ar Ffurf E yn y gofrestr. Mae hyn oni bai bod cyfyngiad o’r fath eisoes wedi cael ei gofnodi (rheol 176 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Rhaid gwneud y cais am y cyfyngiad naill ai ar ffurflen RX1 neu yn y trosglwyddiad.

Dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau a anfonir gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF y bydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

6.3 Ymyriad y Comisiwn Elusennau

Mae gan y Comisiwn Elusennau bwerau helaeth trwy orchymyn i ymyrryd yng ngweinyddiad elusennau heb eu heithrio, yn arbennig o dan adran 76 o Ddeddf Elusennau 2011. Yn fras, mae’r pwerau yn arferadwy i sicrhau gweinyddu elusennau’n briodol ac i ddiogelu eiddo elusennol rhag camymddygiad neu gamreolaeth. Maent yn cynnwys pŵer i benodi rheolwr dros dro a fydd yn gweithredu fel derbynnydd a rheolwr o ran eiddo a materion elusen.

Lle caiff rheolwr dros dro ei benodi gall y gorchymyn roi iddo neu iddi gymaint o bwerau a dyletswyddau ymddiriedolwyr yr elusen ac sy’n cael eu pennu yn y gorchymyn a darparu ar gyfer ymarfer y pwerau hynny ganddo fel ag i gau allan ymddiriedolwyr yr elusen. Gweler Rheolwyr dros dro yn cyflawni ar gyflawni dogfennau yn y fath achos.

Lle caiff unrhyw gais ei wneud i’r cofrestrydd yn unol ag unrhyw orchymyn o’r fath rhaid i chi gyflwyno copi ardystiedig o’r gorchymyn. Nid yw’r Comisiwn Elusennau’n anfon gorchmynion wedi eu selio ar bapur; fel rheol, mae’n anfon dogfen PDF trwy ebost. Bydd Cofrestrfa Tir EF yn derbyn copi o ebost y Comisiwn Elusennau wedi ei ardystio ei fod yn gopi gwir gyda chopi o’r gorchymyn PDF a osodwyd yn yr ebost neu a atodwyd iddo.

Gall y Comisiwn Elusennau, trwy orchymyn, benodi ymddiriedolwyr newydd neu freinio tir yn y Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau. Os yw gorchymyn o dan adran 76 o Ddeddf Elusennau 2011 yn breinio ystad yn y Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau, rhaid gwneud cais i gofnodi cyfyngiad ar Ffurf F yn y gofrestr (rheol 178 o Reolau Cofrestru Tir 2003) (gweler Y Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau). Bydd hyn yn atal ymddiriedolwyr yr elusen rhag ymarfer eu pwerau yn enw’r Gwarcheidwad Swyddogol heb gael eu hawdurdodi.

6.4 Newid mewn amgylchiadau

Mae rhai sefyllfaoedd pryd na wnaed unrhyw warediad ond bod angen cyflwyno cais i Gofrestrfa Tir EF i gofnodi cyfyngiad yn y gofrestr. O dan yr amgylchiadau canlynol dylech wneud cais ar ffurflen RX1 i gofnodi cyfyngiad ar Ffurf E.

  • Lle bo ystad gofrestredig yn cael ei dal gan neu mewn ymddiried ar ran elusen eithriedig a’r elusen yn dod yn elusen heb ei heithrio (adran 123(5)(a) o Ddeddf Elusennau 2011).

  • Lle bo ystad gofrestredig heb ei dal felly’n flaenorol yn dod i’w dal mewn ymddiried ar ran elusen heb ei heithrio o ganlyniad i ddatganiad ymddiried gan y perchennog (adran 123(5)(b) o Ddeddf Elusennau 2011).

  • Lle bo ystad gofrestredig yn cael ei dal gan neu mewn ymddiried ar ran corfforaeth a’r gorfforaeth yn dod yn elusen heb ei heithrio (rheol 176(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

  • Lle bo’r elusen gan yr hon neu mewn ymddiried ar ran yr hon mae ystad yn cael ei dal yn dod yn elusen eithriedig, rhaid i ymddiriedolwyr yr elusen wneud cais i ddileu’r cyfyngiad (adran 123(4) o Ddeddf 1993). Dylid gwneud y cais gan ddefnyddio ffurflen RX3.

6.5 Corfforiad o dan Ran 12 o Ddeddf Elusennau 2011 (neu Ran VII o Ddeddf 1993)

O dan Ran 12 o Ddeddf Elusennau 2011 (Rhan VII o Ddeddf Elusennau 1993 gynt), gall ymddiriedolwyr elusen wneud cais i’r Comisiwn Elusennau eu corffori. Os bydd y Comisiwn Elusennau yn caniatáu’r cais yna bydo dant yn rhoi tystysgrif i’r perwyl hwnnw. Ar ddyfarnu’r dystysgrif daw’r ymddiriedolwyr yn gorfforaeth o dan yr enw a nodwyd yn y dystysgrif. Bydd eiddo’r elusen yn breinio yn y gorfforaeth, heblaw’r hyn sy’n cael ei ddal ar ran yr elusen gan y Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau.

Er mwyn cadw’r cofrestri’n gyfoes, dylid gwneud cais i newid y gofrestr ar gyfer holl deitlau y mae ymddiriedolwyr yr elusen yn berchnogion cofrestredig arnynt. Dylid disgrifio’r cais fel ‘Cais i newid y gofrestr ar gorffori elusen’ a’i anfon ynghyd â chopi ardystiedig o dystysgrif y corfforiad. Nid oes dim i’w dalu.

Bydd y cofrestrydd yn cwblhau’r cais trwy ddileu’r cofnod perchnogaeth presennol a chofnodi enw’r gorfforaeth fel sy’n cael ei do dangos yn yr enghraifft a roddwyd yn Cofnod perchnogion.

Ni fydd y cofrestrydd yn dileu unrhyw gyfyngiad safonol ffurf A yn awtomatig wrth ddiweddaru’r perchennog cofrestredig. Os nad oes angen y cyfyngiad hwnnw mwyach, gall yr ymddiriedolwyr elusennol wneud cais i’w ddileu gan ddefnyddio ffurflen RX3. Mae cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr yn cynnwys manylion pellach am geisiadau o’r fath.

6.6 Diddymu corfforaeth o dan Ran 12 o Ddeddf Elusennau 2011

Mae Rhan 12 o Ddeddf Elusennau 2011 yn rhoi pŵer trwy orchymyn i’r Comisiwn Elusennau hefyd ddiddymu corfforaeth a gorfforwyd, neu sy’n cael ei thrin fel petai’n gorfforedig (adran 17(2)(b) o Ddeddf Ddehongli 1978), o dan y rhan honno.

Effaith y gorchymyn yw breinio’r tir yn ymddiriedolwyr yr elusen lle cafodd ei ddal hyd hynny gan y gorfforaeth neu gan unrhyw un arall (ar wahân i’r Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau) ar ymddiried ar ran yr elusen. Gall y gorchymyn hefyd gyfarwyddo bod tir arbennig yn breinio mewn rhywun penodedig fel ymddiriedolwr ar ran, neu enwebai, yr elusen neu yn y fath bobl heblaw ymddiriedolwyr yr elusen ag y gall y Comisiwn Elusennau eu henwi.

6.7 Newid enw’r elusen

Mae gan y Comisiwn Elusennau bŵer i fynnu bod elusen heb ei heithrio yn newid ei henw (adrannau 42, 43 a 44 o Ddeddf Elusennau 2011). Lle bo’r elusen honno yn gwmni corfforedig o dan y Deddfau Cwmnïau rhaid i’r Cofrestrydd Cwmnïau roi tystysgrif gorfforiad newydd i’r cwmni (adran 45 o Ddeddf Elusennau 2011).

Gall elusen newid ei henw trwy ei phenderfyniad ei hun. Lle bo’r elusen yn elusen gofrestredig rhaid iddi hysbysu newid ei henw i’r Comisiwn Elusennau.

Boed y newid enw yn orfodol neu beidio, dylech wneud cais i newid enw’r elusen neu ddisgrifiad yr ymddiriedolwyr yn y gofrestr. Rhaid cyflwyno unrhyw dystysgrif gorfforiad newydd. Ar hyn o bryd nid oes dim i’w dalu am wneud y cais hwn.

6.8 Cyd-doddi elusennau

Mae Deddf Elusennau 2006 yn cynnwys darpariaethau i hwyluso cyd-doddiad elusennau. Yn hytrach na chyflawni nifer o drosglwyddiadau ystadau cofrestredig, gall yr elusen sy’n trosglwyddo gyflawni datganiad breinio cyn-gyd-doddi o dan adran 310 o Ddeddf Elusennau 2011. Rhaid gwneud y datganiad trwy weithred at ddibenion yr adran gan ymddiriedolwyr y trosglwyddiad, rhaid ei wneud mewn perthynas â chyd-doddiad elusen berthnasol, a rhaid darparu bod holl eiddo’r trosglwyddwr i freinio yn y trosglwyddai ar y dyddiad a nodir yn y datganiad (Adran 310 o Ddeddf Elusennau 2011).

Mae’r datganiad yn gweithredu ar y dyddiad a nodir yn y datganiad i freinio’r teitl cyfreithiol i holl eiddo’r trosglwyddwr yn y trosglwyddai, heb yr angen am unrhyw ddogfen bellach i’w drosglwyddo. Fodd bynnag, mae’r datganiad yn aneffeithiol i freinio tir cofrestredig oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (adran 310(4) o Ddeddf Elusennau 2011). Mae’r datganiad hefyd yn aneffeithiol i freinio arwystl cofrestredig neu unrhyw dir a gedwir gan y trosglwyddwr o dan brydles neu gytundeb sy’n cynnwys unrhyw gyfamod (beth bynnag fo’r disgrifiad) yn erbyn aseinio budd y trosglwyddwr heb gydsyniad unigolyn arall, oni bai y cafwyd y cydsyniad cyn y dyddiad a nodwyd (adran 310(3)(a) a (b) o Ddeddf Elusennau 2011). Dylid felly cynnwys tystiolaeth o’r cydsyniad gyda’r cais.

Nid oes rhaid i’r datganiad fod ar ffurf a bennwyd gan Reolau Cofrestru Tir 2003. Dylai, fodd bynnag, gynnwys y datganiadau a bennwyd gan reolau 179 a 180 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Lle bo’r trosglwyddwr yn elusen heb ei heithrio, bydd y datganiad fel rheol yn cyfeirio at baragraff (c) adran 117(3) o Ddeddf Elusennau2011. Os felly, nid yw’r gwarediad yn cael ei ddal gan delerau cyfyngiad ar Ffurf E yn Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003 ac nid oes rhaid iddo gynnwys y dystysgrif o dan reol 122(3) o Ddeddf Elusennau 2011. Fodd bynnag, bydd angen gorchymyn y Comisiwn Elusennol i beri’r cyd-doddiad os nad yw ymddiriedolwyr yr elusen yn ei awdurdodi. Yn yr achos hwnnw, ni fydd y gwarediad o fewn adran 117(3) o Ddeddf Elusennau 2011 fel y bo’n rhaid iddo gynnwys y datganiad bod y cyfyngiadau ar warediad a osodir gan adrannau 117-121 o Ddeddf Elusennau 2011 yn gymwys a’r dystysgrif ei bod wedi ei awdurdodi gan orchymyn y Comisiwn Elusennau (gweler Y datganiadau sy’n ofynnol yn y gwarediad a Y dystysgrif sy’n ofynnol yn y gwarediad). Nid yw’r Comisiwn Elusennau’n anfon gorchmynion wedi eu selio ar bapur; fel rheol, mae’n anfon dogfen PDF trwy ebost. Bydd Cofrestrfa Tir EF yn derbyn copi o ebost y Comisiwn Elusennau wedi ei ardystio ei fod yn gopi gwir gyda chopi o’r gorchymyn PDF a osodwyd yn yr ebost neu a atodwyd iddo.

7. Cyflawni gweithredoedd

7.1 Cyffredinol

Fel yr eglurwyd yn Pwy sy’n rhoi’r dystysgrif?, rhaid i warediad yn cynnwys tystysgrif ymddiriedolwyr yr elusen gael ei gyflawni ganddynt hwy yn ogystal â’r perchennog cofrestredig. Fodd bynnag, os mai ymddiriedolwyr yr elusen yw’r perchnogion cofrestredig hefyd, mae cyflawniad unigol gan bob un ohonynt yn ddigonol. Lle bydd unrhyw berchennog wedi marw, neu os diddymwyd cwmni neu gorfforaeth arall, rhaid darparu tystiolaeth i’r perwyl hwnnw gyda’r cais. Lle na chafodd penodiadau neu ddiswyddiadau ymddiriedolwyr eu hadlewyrchu cyn hynny yn y gofrestr rhaid gwneud cais i roi grym iddynt cyn, neu ar yr un pryd ag, unrhyw gais i gofrestru gwarediad gan yr ymddiriedolwyr.

8. Ymddiriedolwyr elusennau’n cyflawni

Gall ymddiriedolwyr elusen ddirprwyo awdurdod i ddim llai na 2 o’u plith i gyflawni yn enwau ac ar ran yr ymddiriedolwyr unrhyw weithred sy’n gweithredu trafodiad y mae’r ymddiriedolwyr yn rhan ohono (adran 333 o Ddeddf Elusennau 2011). Effaith hyn yw, lle bo tir wedi ei gofrestru yn enwau ymddiriedolwyr elusen, gall fod awdurdod gan unrhyw 2 neu ragor ohonynt i gyflawni trosglwyddiad, arwystl neu warediad arall o’r tir ar ran yr holl berchnogion cofrestredig. Fodd bynnag, rhaid i’r holl ymddiriedolwyr gael eu henwi yn y weithred o hyd neu gael eu cyfrif fel arall yn y cais.

Y farn yw y gall ymddiriedolwyr yr elusen hefyd ddirprwyo’r pŵer i roi’r tystysgrifau gofynnol o dan Ddeddf Elusennau 2011.

Awgrym yw’r canlynol o ffurf y geiriad.

Delwedd 1

Mae’r geiriad hwn yn tybio y bydd yr ymddiriedolwyr awdurdodedig yn cyfarfod i gyflawni’r weithred ar yr un pryd. Os bydd yr ymddiriedolwyr awdurdodedig yn cyflawni’r weithred ar adegau gwahanol, dylid darparu cymal cyflawni ar wahân fel a ganlyn ar gyfer pob un ohonynt.

Delwedd 2

Ni fydd angen unrhyw dystiolaeth o’r dirprwyo ar y cofrestrydd os:

  • bydd y trosglwyddiad, arwystl neu warediad arall yn datgan iddo gael ei gyflawni yn unol ag adran 333 o Ddeddf Elusennau 2011, a

  • bod y gwarediad am arian neu werth arian ac nad oes unrhyw reswm dros amau didwylledd bwy bynnag y gwnaed y gwarediad o’i blaid

Mewn unrhyw achos arall, bydd y cofrestrydd angen prawf pendant y rhoddwyd yr awdurdod yn briodol a’i fod yn dal i fodoli.

Mae modd defnyddio’r drefn hefyd os mai’r perchennog cofrestredig yw’r Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau, ond gweler Cyflawni yn enw’r Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau i gael rhagor o wybodaeth am hyn.

Yn niffyg dirprwyo dan adran 333 o Ddeddf Elusennau 2011 rhaid i’r holl ymddiriedolwyr gyflawni’r weithred gan ddefnyddio’r ffurf gyflawni briodol i unigolyn fel a ganlyn (gweler Atodlen 9 i Reolau Cofrestru Tir 2003).

Delwedd 3

8.1 Ymddiriedolwyr corfforedig yn cyflawni o dan Ran 12 o Ddeddf Elusennau 2011

Gwnaed darpariaeth i gorff o ymddiriedolwyr a gorfforwyd o dan Ran 12 o Ddeddf Elusennau 2011 (adran 260 o Ddeddf Elusennau 2011) gyflawni gweithredoedd. Y farn yw bod y darpariaethau hyn yn berthnasol i gyflawni’r weithred fel perchennog cofrestredig a, phan fo’r weithred yn cynnwys tystysgrif ymddiriedolwyr yr elusen, i gyflawni’r dystysgrif honno.

Lle bo gan y gorfforaeth sêl gyffredin, mae modd cyflawni gwarediad trwy ddodi’r sêl gyffredin. Mae modd addasu’r geiriad priodol i gwmni (gweler Atodlen 9 i Reolau Cofrestru Tir 2003) at y diben. Ni fydd y cofrestrydd yn amau ardystio’r sêl os bydd yn ymddangos iddi gael ei dodi ym mhresenoldeb swyddogion priodol yr elusen.

Lle nad oes gan yr ymddiriedolwyr corfforedig sêl gyffredin, neu’n dewis peidio’i defnyddio, mae Deddf Elusennau 2011 yn darparu 2 ddull arall o gyflawni. Ar yr amod bod y gwarediad yn honni iddo gael ei gyflawni yn y naill ffordd neu’r llall tybir iddo fod wedi ei gyflawni’n briodol o blaid prynwr (adran 260(5) o Ddeddf Elusennau 2011. Nid yw’r rhagdybiaeth hon yn berthnasol lle nad yw’r trafodiad o dan yr hon y caiff y naill drefn neu’r llall ei defnyddio o blaid prynwr yn ddidwyll am gydnabyddiaeth â gwerth iddi. Os bydd yn ymddangos i’r cofrestrydd bod trafodiad o blaid rhywun cysylltiedig bydd yn mynnu tystiolaeth gadarn o’r cyflawni). Mewn achosion o’r fath, mae’n ymddangos nad yw gweithred yn gorfod cael ei llofnodi ym mhresenoldeb tyst (adran 260(4) o Ddeddf Elusennau 2011).

Mae’r dewisiadau eraill fel a ganlyn.

  • Mae modd i fwyafrif ymddiriedolwyr unigol yr elusen ei chyflawni a mynegi iddi gael ei chyflawni gan y corff.

Nid oes unrhyw ffurf benodedig o eiriau, ond yr awgrym yw y byddai’r canlynol yn ddigonol.

Delwedd 4

Mae modd ei chyflawni yn unol ag awdurdod a roddwyd i unrhyw 2 ymddiriedolwr neu fwy i gyflawni yn enw ac ar ran y gorfforaeth, o dan adran 261(1) o Ddeddf Elusennau 2011.

O ran yr awdurdod:

  • rhaid iddo fod yn ysgrifenedig neu trwy benderfyniad cyfarfod o’r ymddiriedolwyr

  • mae modd ei lunio fel ag i ganiatáu unrhyw rai o’r ymddiriedolwyr weithredu neu ei gyfyngu i ymddiriedolwyr a enwyd neu mewn unrhyw ffordd arall, a

  • gall fod unrhyw gyfyngiad o’r fath arno a rhaid iddo, nes iddo gael ei ddirymu, ar waethaf unrhyw newid yn ymddiriedolwyr yr elusen, fod yn effeithiol fel awdurdod parhaol

Delwedd 5

8.2 Cyflawni yn enw’r Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau

Mae gan ymddiriedolwyr elusen bŵer llawn i gyflawni unrhyw weithred o ran unrhyw drafodiad lle bo’r Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau yn berchennog cofrestredig unrhyw ystad. Yr eithriad yw lle breiniwyd yr ystad yn y Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau o dan adran 76 o Ddeddf Elusennau 2011 a chyfyngiad ar Ffurf F wedi ei gofnodi yn y gofrestr gweler Y Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau.

Ni fydd y Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau yn cyflawni gweithredoedd yn bersonol mwyach. Dylai holl ymddiriedolwyr yr elusen gyflawni’r weithred a bydd y cofrestrydd yn cymryd yn ganiataol eu bod wedi gwneud hynny oni bai bod unrhyw dystiolaeth i’r gwrthwyneb. Fel arall, mae’n agored i ymddiriedolwyr elusen ddefnyddio adran 333 o Ddeddf Elusennau 2011 (gweler Ymddiriedolwyr elusennau’n cyflawni). Yn yr un modd, lle ymgorfforwyd ymddiriedolwyr yr elusen o dan Ran 12 o Ddeddf Elusennau 2011, mae modd defnyddio’r drefn sydd ar gael o dan adrannau 260 a 261 o Ddeddf Elusennau 2011, fel y disgrifiwyd yn Ymddiriedolwyr corfforedig yn cyflawni o dan Ran 12 o Ddeddf Elusennau 2011.

8.3 Corfforaethau eraill yn cyflawni

Lle bo elusen yn gorfforaeth (a gorfforwyd o dan Ddeddf Cwmnïau neu fel arall) dylai gyflawni gan ddefnyddio’r geiriad priodol i gwmni (gweler Atodlen 9 i Reolau Cofrestru Tir 2003), wedi ei addasu os bydd angen i ofynion y gyfraith gyffredinol a’i gyfansoddiad os oes un. O ran cyflawni unrhyw dystysgrif sydd yn y weithred, gweler Cyffredinol.

8.4 Rheolwyr dros dro a benodwyd o dan adrannau 76 o Ddeddf Elusennau 2011 yn cyflawni

Gall rheolwr dros dro a benodwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adrannau 76 o Ddeddf Elusennau 2011 ddelio â thir ond i’r graddau a ganiateir gan orchymyn y Comisiwn Elusennau trwy’r hwn y penodwyd ef neu hi. Felly, rhaid cyflwyno copi ardystiedig o’r gorchymyn hwnnw gydag unrhyw gais i gofrestru delio gan reolwr dros dro.

9. Eiddo Eglwys Loegr

9.1 Cyflwyniad

Mae’r adran hon yn rhoi crynodeb o’r amgylchiadau pryd y gellir dal tir at ddibenion eglwysig, ond nid yw’n ymgais i fanylu ar bob agwedd ar drafodion yn cynnwys eiddo eglwysig. Mae’n cyflwyno’r sefyllfaoedd lle bo’r cyfyngiadau ar warediadau sydd yn adrannau 117-121 a 122 o Ddeddf Elusennau 2011 a’r cyfyngiadau ar forgeisio sydd yn adrannau 124 a 125 o Ddeddf Elusennau 2011 yn berthnasol i ystadau sydd yn nwylo Eglwys Loegr.

9.2 Eglwysi cadeiriol, eglwysi a’u mynwentydd, a phersondai

Yn gyffredinol, nid yw tir sy’n eiddo corfforaethol corfforaeth eglwysig (nid yw hyn yn cynnwys cwmni a gorfforwyd o dan y Deddfau Cwmnïau), pa un ai unigol neu gyfangorff, a sefydlwyd at ddibenion ysbrydol (nid yw cyngor plwyfol eglwysig neu fwrdd cyllid esgobaethol yn cael ei sefydlu at ddibenion ysbrydol) yn dir yn nwylo elusen lle mae Deddf Elusennau 2011 yn berthnasol iddo (adran 10(2)(a), 2011). Felly, nid yw’r cyfyngiadau ar warediadau a morgeisio sydd yn adrannau 117-121, 122, 124 a 125 o Ddeddf Elusennau 2011 yn berthnasol i dir o’r fath fel arfer.

Mae tir yn y categori hwn yn cynnwys tir yn nwylo:

  • corff corfforaethol eglwys gadeiriol (deon a glwysgor eglwys gadeiriol neu gabidwl cadeirlan eglwys y plwyf gadeiriol gynt) (pan gaiff ei lywodraethu gan Fesur Eglwysi Cadeiriol 1999) o ran eiddo corfforaethol yr eglwys gadeiriol, heblaw unrhyw eiddo sy’n cael ei ddal at ddibenion sydd heb fod yn eglwysig (gweler hefyd Mesur Eglwysi Cadeiriol 2021

  • periglor bywoliaeth o ran y persondy a’r tiroedd a’r eglwys a’i mynwent sy’n breinio ynddo neu ynddi

  • esgob yr esgobaeth yn gwerthu tir persondy yn ystod bywoliaeth wag

Felly, wrth gofrestru un o’r cyrff uchod yn berchennog ystad, ni fydd cyfyngiad ar Ffurf E yn cael ei gofnodi yn y gofrestr. Fodd bynnag, mae gwarediadau gan y cyrff uchod yn ddibynnol ar ofynion cyfraith eglwysig ac efallai bydd angen cydsyniad Comisiynwyr yr Eglwys. Fel arfer, rhaid i unrhyw warediad neu ddelio gan ddeon a glwysgor fod yn unol â Mesur Eglwysi Cadeiriol 1963 neu 1999 neu ryw fesur neu awdurdod arall a bydd angen cydsyniad Comisiynwyr yr Eglwys.

O dan Fesur Eiddo Eglwysig 2018 (Mesur 2018), a ddaeth i rym ar 1 Mawrth 2019, gall y periglor, neu os yw’r fywoliaeth yn wag, yr esgob, werthu neu gyfnewid tir persondai, yn amodol ar gydsyniad Bwrdd Personau’r Esgobaeth, (neu lle y’i dynodwyd felly, Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth) (y cyfeirir ato isod fel “y Bwrdd”) a’r esgob.

Os yw’r gwarediad o dir persondy o dan Fesur 2018, mae sêl y Bwrdd yn y ddogfen warediadol, neu’r llofnod gan berson awdurdodedig priodol ar ei ran, yn dystiolaeth bendant bod gofynion Mesur 2018 wedi eu bodloni (adran 47(3) o Fesur 2018).

Os nad yw’r ddogfen warediadol wedi ei selio gan y Bwrdd, bydd angen y dystiolaeth ganlynol o gydymffurfio â Mesur 2018 ar gofrestriad cyntaf.

  • Datganiad yn y ddogfen waredol:

a) y cafwyd cydsyniad Comisiynwyr yr Eglwys, neu

b) nad oes angen cydsyniad Comisiynwyr yr Eglwys yn rhinwedd adran [nodwch yr adran] o Fesur 2018

Os yw’r ddogfen yn cynnwys datganiad (a), bydd angen i Gofrestrfa Tir EF weld y cydsyniad wrth gofrestru’r gwerthiant trosglwyddiad,

a

  • cydsyniad ysgrifenedig y Bwrdd
  • lle bo’r gwarediad gan y periglor, cydsyniad ysgrifenedig yr esgob

a

  • dylai’r periglor gyflawni’r ddogfen. Os yw’r fywoliaeth yn wag, yr esgob fydd yn cyflawni’r ddogfen.

Dylai cais i gofrestru un ohonynt yn berchennog ddod gyda chais, ar ffurflen RX1, i gofnodi cyfyngiad ar Ffurf D neu Ffurf L (ar gyfer eglwys gadeiriol) yn Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003.

Yn ogystal, dylai unrhyw gais i gofrestru trosglwyddiad i’r bwrdd cyllid esgobaethol sy’n peri breinio ystad mewn periglor neu gorfforaeth eglwysig unigol arall gael ei gyflwyno gyda’r dystysgrif berthnasol ar Ffurf 4, yn unol â rheol 174 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

Ar gyfer gwarediadau o dir cofrestredig lle ceir cyfyngiad Ffurf D, rhaid cydymffurfio â’r cyfyngiad a dylai’r deiliad gyflawni’r ddogfen. Os yw’r fywoliaeth yn wag, dylai’r esgob gyflawni’r ddogfen.

Ar gyfer gwarediadau o dir cofrestredig lle ceir hen fersiwn o Ffurf D (er enghraifft: Nid oes unrhyw warediad o’r ystad gofrestredig i’w gofrestru oni bai ei fod yn unol â [Mesur Persondy 1938 (yn achos tir persondy) neu Fesur Plwyfi Newydd 1943 (yn achos tir eglwys neu fynwent)] neu ryw Fesur neu awdurdod arall) sy’n cydymffurfio â’r cyfyngiad os yw’r ddogfen warediadol wedi ei selio gan y Bwrdd neu wedi ei llofnodi gan berson awdurdodedig priodol ar ei ran (adran 47(3) o Fesur 2018). Os nad yw’r ddogfen warediadol wedi ei selio felly, dylid cyflwyno tystysgrif gan drawsgludwr yn cadarnhau bod y gwarediad wedi ei wneud yn unol ag un o’r Mesurau y cyfeirir atynt yn y cyfyngiad, neu dylid cynnwys tystysgrif yn yr offeryn sy’n peri’r gwarediad yn nodi y gwnaed y gwarediad yn unol â rhan berthnasol Mesur 2018.

Dylech nodi, fodd bynnag, lle bo ymddiriedolwr ymddiried elusennol yn rhinwedd ei swydd yn digwydd bod yn gorfforaeth eglwysig (fel periglor, archddiacon neu esgob), nid yw’r eiddo ymddiried yn eiddo corfforaethol y gorfforaeth a bydd yn dod o dan Ddeddf Elusennau 2011.

9.2.1 Mesur Eglwysi Cadeiriol 2021

Mae Mesur Cadeirlannau 2021 (‘Mesur 2021’) yn sefydlu strwythurau newydd ar gyfer llywodraethu eglwysi cadeiriol. Mae’n darparu (ymysg pethau eraill) ar gyfer cyd-reoleiddio pob un o’r 42 eglwys gadeiriol yn Lloegr (ac eithrio Eglwys Crist, Rhydychen) gan Gomisiynwyr yr Eglwys a’r Comisiwn Elusennau, ac yn cymhwyso darpariaethau Deddf Elusennau 2011 i bob eglwys gadeiriol. Bydd Mesur 2021 yn diddymu ac yn disodli Mesur Eglwysi Cadeiriol 1999. Bydd eglwysi cadeiriol yn parhau i gael eu llywodraethu gan Fesur 1999 hyd nes y caiff Mesur 2021 ei fabwysiadu’n llawn gan bob eglwys gadeiriol. Erbyn 28 Ebrill 2024, bydd holl ddarpariaethau Mesur 2021 mewn grym ar gyfer pob eglwys gadeiriol.

Ar gyfer eglwysi cadeiriol sydd wedi mabwysiadu Mesur 2021 yn llawn, mae’r cyfyngiadau ar warediad a morgeisio a geir yn Rhan 7 o Ddeddf Elusennau 2011 yn gymwys. Ar gyfer gwarediadau o blaid eglwys gadeiriol sydd wedi mabwysiadu Mesur 2021 yn llawn, mae adran 122(8) o Ddeddf Elusennau 2011 yn gymwys ac felly rhaid iddi gynnwys datganiad yn ymwneud â’r elusen.

Fel rheol, mae angen cydsyniad Comisiynwyr Eglwysi Lloegr ar gyfer unrhyw gaffaeliad neu warediad tir gan eglwys gadeiriol. Tystiolaeth dderbyniol yn y sefyllfa hon yw naill ai:

  • datganiad ysgrifenedig gan Gomisiynwyr yr Eglwys yn nodi y cydymffurfiwyd â gofynion adrannau 21 (caffael) neu 22 (gwaredu) o Fesur 2021
  • datganiad mewn dogfen a seliwyd gan y Glwysgor nad oes angen cydsyniad Comisiynwyr yr Eglwys o dan yr adran hon

9.3 Capeli cysegredig, ac ati

Nid yw’r priod-ddull ‘elusen’ yn Neddf Elusennau 2011 yn berthnasol i unrhyw ymddiried tir at y dibenion y cysegrwyd ef ar eu cyfer (adran 10(2)(c) o Ddeddf Elusennau 2011). Mewn geiriau eraill, nid yw cysegru yn dod â thir o fewn cwmpas Deddf Elusennau 2011.

9.4 Tir llan

Mae tir llan wedi ei freinio ym mwrdd cyllid esgobaethol yr esgobaeth o dan sylw. Wrth ddelio â thir llan (ond nid mewn unrhyw swyddogaeth arall), nid yw’r bwrdd cyllid esgobaethol yn elusen y mae Deddf Elusennau 2011 yn berthnasol iddi (adran 10(2)(b) o Ddeddf Elusennau 2011). Felly, nid yw’r cyfyngiadau ar warediadau a morgeisio sydd yn adrannau 117-121, 122, 124 a 125 o Ddeddf Elusennau 2011 yn berthnasol i dir o’r fath. Mae Mesur Eiddo Eglwysig 2018, Rhan 2, yn cynnwys darpariaethau’n ymwneud â gwaredu tir llan.

9.5 Tir a freiniwyd mewn bwrdd cyllid esgobaethol (heblaw tir llan)

Mae bwrdd cyllid esgobaethol yn gwmni cyfyngedig gydag awdurdod i ddal eiddo tirol a phersonol at ddibenion cysylltiedig ag Eglwys Loegr. Ar wahân i dir llan, mae adrannau 117-121, 122, 124 a 125 o Ddeddf Elusennau 2011 yn berthnasol fel arfer i holl ystadau a freiniwyd mewn bwrdd cyllid esgobaethol (mae hyn yn cynnwys tir a freiniwyd mewn awdurdod esgobaethol neu ymddiried esgobaethol) sy’n elusen heb ei heithrio. O ganlyniad, dylid cynnwys y datganiad priodol mewn unrhyw warediad o blaid bwrdd cyllid esgobaethol fel arfer (gweler Datganiadau sy’n ofynnol mewn gwarediad i elusen). Pan fo datganiad o’r fath yn cael ei gynnwys, bydd cyfyngiad ar Ffurf E yn cael ei gofnodi yn y gofrestr pan fydd bwrdd cyllid esgobaethol wedi ei gofrestru’n berchennog (gweler Cyfyngiadau ar Elusennau heb eu heithrio).

Gall bwrdd cyllid esgobaethol ddal eiddo yn rhinwedd nifer o swyddogaethau gan gynnwys:

  • ei eiddo corfforaethol ei hun yn cael ei ddal yn unol â’i femorandwm ac erthyglau cyweithio

  • eiddo’n cael ei ddal fel ymddiriedolwr at bob diben ar ymddiriedau elusennol penodol
  • eiddo’n cael ei ddal fel ymddiriedolwr gwarchod yn ôl telerau gweithred ymddiried arbennig neu gynllun y Comisiwn Elusennau

  • eiddo’n cael ei ddal fel ymddiriedolwr gwarchod o dan adran 6 o Fesur (Pwerau) Cynghorau Plwyfol Eglwysig 1956. I bob diben, mae hyn wedi cydgrynhoi deddfwriaeth gynharach, gan freinio tir (heblaw prydlesi byr) oedd wedi ei gaffael gan gyngor plwyfol eglwysig yn y bwrdd cyllid esgobaethol.

  • eiddo’n cael ei ddal o dan Fesur Periglorion a Wardeiniaid Eglwys (Ymddiriedau) 1964

  • eiddo a freiniwyd i’w wared o dan gynlluniau a wnaed o dan Fesur Cenhadaeth a Bugeiliol 2011 neu ddeddfwriaeth gynharach. Yn gyffredinol, mae unrhyw warediad yn debygol o ddod o dan adran 117(3)(a) o Ddeddf Elusennau 2011.

Pan fo’n briodol, dylid gwneud cais am gyfyngiad ychwanegol i adlewyrchu telerau dal y tir gan ddefnyddio ffurflen RX1 (ee Ffurf A, lle mae’r bwrdd esgobaethol yn dal y tir fel ymddiriedolwr ceidwad ar gyfer cyngor eglwys plwyfol).

Pan fydd bwrdd cyllid esgobaethol yn gwaredu ystad gofrestredig, rhaid cynnwys y datganiad priodol a thystysgrif, os bydd angen un, yn y weithred (gweler Elusennau heb eu heithrio). Gall yr ‘ymddiriedolwyr elusen’, a ddiffiniwyd yn adran 177 o Ddeddf Elusennau 2011 fel y bobl sydd â rheolaeth gyffredinol dros weinyddu’r elusen, fod yn aelodau o’r bwrdd cyllid esgobaethol, neu gallant fod yn bobl eraill (er enghraifft, lle mae tir yn cael ei ddal ar ran cyngor plwyfol eglwysig, yr ymddiriedolwyr fydd aelodau’r cyngor plwyfol eglwysig y mae’r tir yn cael ei ddal ar eu rhan). Yn y naill achos neu’r llall, dylai ymddiriedolwyr yr elusen ymuno yn unrhyw warediad i roi’r dystysgrif briodol (gweler Y dystysgrif sy’n ofynnol yn y gwarediad). Yn gyffredinol mae modd awdurdodi dau neu fwy o’r ymddiriedolwyr i gyflawni ar eu rhan (gweler Ymddiriedolwyr elusennau’n cyflawni).

9.6 Bwrdd Cyllid Canolog Eglwys Loegr

Roedd hwn yn gwmni preifat (rhif cofrestru cwmni 00136413) cyfyngedig trwy warant ac yn elusen heb ei heithrio. Nid oedd yn fwrdd cyllid esgobaethol ond roedd ganddo awdurdod i ddal eiddo at ddibenion yn gysylltiedig ag Eglwys Loegr. Diddymwyd y cwmni yn 2008.

Fel elusen heb ei heithrio, byddai’n rhaid bod y datganiad priodol a’r dystysgrif briodol lle byddai ei hangen wedi cael eu cynnwys mewn unrhyw warediad. Byddai cyfyngiad ar Ffurf E wedi cael ei gofnodi pan fyddai’r cwmni’n cael ei gofrestru’n berchennog ystad.

9.7 Tir yn breinio ym Mwrdd Pensiynau Eglwys Loegr

Mae’r bwrdd yn elusen ac mae adrannau 117-121, 122, 124 a 125 o Ddeddf Elusennau 2011 yn berthnasol i dir a freiniwyd ynddo. O ganlyniad, dylid cynnwys y datganiad priodol a’r dystysgrif briodol, lle bo angen un, mewn unrhyw warediad. Bydd cyfyngiad ar Ffurf E yn cael ei gofnodi pan fydd y bwrdd wedi ei gofrestru’n berchennog ystad – diddymwyd yr adrannau perthnasol ar 1 Mawrth 2019 ac fe’u disodlwyd gan Fesur Eiddo Eglwysig 2018, Rhan 3).

9.8 Tir yn nwylo Comisiynwyr yr Eglwys

Mae Comisiynwyr yr Eglwys ac unrhyw sefydliad sy’n cael ei weinyddu ganddo yn elusennau eithriedig (Roedd Comisiynwyr yr Eglwys gynt yn elusen eithriedig ond daeth yn elusen heb ei heithrio ar 1 Mehefin 2010 pan ddaeth adran 11(7) o Ddeddf Elusennau 2006 i rym yn unol â Gorchymyn Deddf Elusennau 2006 (Dechreuad rhif 7, Darpariaethau ac Arbedion Trosiannol) 2010). O ganlyniad, mae’r cyfyngiadau ar warediadau ac ar forgeisio sydd yn adrannau 117-121 a 124 o Ddeddf Elusennau 2011 yn gymwys i warediadau ar neu ar ôl 1 Mehefin 2010. Dylid cynnwys y datganiad priodol a’r dystysgrif (gweler Datganiadau sy’n ofynnol mewn gwarediad i elusen a Elusennau heb eu heithrio) mewn unrhyw warediad, os yw o blaid neu gan Gomisiwn yr Eglwys neu unrhyw sefydliad sy’n cael ei weinyddu ganddo. Mae pwerau statudol Comisiynwyr yr Eglwys yn adran 6(3)(a) o Fesur Comisiynwyr yr Eglwys 1947.

O 1 Medi 2010, y bwrdd cyllid esgobaethol, nid Comisiynwyr yr Eglwys, fydd y corff caffaelol ar gyfer tir (yn unol â Mesur Eglwys Loegr (Darpariaethau Amrywiol) 2010).

9.9 Tir addysgol

Bydd cyrff amrywiol Eglwys Loegr yn dal tir ar ymddiriedau addysgol. Yn gyffredinol, mae’r cyfyngiadau ar warediadau a morgeisio sydd yn adrannau 117-121, 122, 124 a 125 o Ddeddf Elusennau 2011 yn berthnasol i dir o’r fath. O ganlyniad, bydd cyfyngiad ar Ffurf E yn cael ei gofnodi ar gofrestru tir sy’n cael ei ddal ar ymddiriedau o’r fath, a dylid cynnwys y datganiad priodol a’r dystysgrif briodol, lle bo angen un, mewn unrhyw warediad.

Safleoedd ysgol yn nwylo periglorion a wardeiniaid eglwys

Yn rhinwedd adran 7 o Ddeddf Safleoedd Ysgolion 1841 ac adran 4 o Ddeddf Safleoedd Ysgolion 1844, gellid gwneud grantiau tir ac adeiladau neu unrhyw fudd ynddynt, at ddibenion addysgu’r tlodion, i beriglor a wardeiniaid eglwys y plwyf i’w gynnal ganddynt a’u holynwyr yn y swydd. Lle bo tir yn cael ei ddal felly, mae’n breinio ohono’i hun yn y periglor a’r wardeiniaid eglwys am y tro ac mae’n dod o dan ddarpariaethau adrannau 117-121, 122, 124 a 125 o Ddeddf Elusennau 2011. Bydd y periglor a’r wardeiniaid eglwys yn cael eu cofrestru heb gyfeirio at enwau unigol y bobl sy’n dal y swyddi hyn ar ddyddiad y cofrestriad. Dylai unrhyw warediad tir sy’n cael ei ddal felly gynnwys datganiad i’r perwyl mai’r periglor a’r wardeiniaid eglwys gaiff eu crybwyll ynddo yw dalwyr cyfredol y swyddi hyn.

Safleoedd ysgolion eglwysig segur

Awdurdodwyd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Blant, Ysgolion a Theuluoedd i wneud cynlluniau o ran safleoedd ysgolion eglwysig segur (Cynlluniau a wnaed o dan adran 86 o Ddeddf Addysg 1944 ac ar hyn o bryd, gorchmynion o dan adran 2 o Ddeddf Addysg 1973 ac adran 554 o Ddeddf Addysg 1996). Fel arfer, bydd y cynlluniau yn penodi’r bwrdd cyllid esgobaethol neu’r bwrdd addysg esgobaethol (os yw’n gorfforaeth) fel ymddiriedolwr at bob diben a bydd yn breinio’r tir yn y bwrdd. Daw tir o’r fath o dan ddarpariaethau adrannau 117-121, 122, 124 a 125 o Ddeddf Elusennau 2011. Dylai’r datganiad gofynnol mewn gwarediadau gan y bwrdd gyfeirio at adran 117(3)(a) o Ddeddf Elusennau 2011. Roedd y rhan fwyaf o gynlluniau a wnaed o dan Ddeddf Addysg 1944 a rhai o’r gorchmynion cynharach o dan Ddeddf Addysg 1973 yn pennu bod pŵer gwerthiant i fod yn amodol ar gymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol neu’r Comisiwn Elusennau, ond mae adran 36(2) o Ddeddf Elusennau 1992 yn dileu’r gofyniad hwn yn benodol (Mae’r adran hon yn dal mewn grym ac ni chafodd ei chydgrynhoi yn Neddf Elusennau 2011).

10. Hen ffurfiau cofnodion yn y gofrestr

10.1 Cyfyngiadau ar elusennau heb eu heithrio

10.1.1 Deddfau Elusennau 1992 a 1993

Cyn dechreuad Deddf Cofrestru Tir 2002 ar 13 Hydref 2003, wrth gofrestru elusen heb ei heithrio’n berchennog, byddai un o ddau gyfyngiad gwahanol yn ymwneud â Rheolau Cofrestru Tir 1925 wedi cael ei gofnodi yn y gofrestr (Rheolau 60 a 124 o Reolau Cofrestru Tir 1925 (fel y’u newidiwyd)). Roedd y cyfyngiadau a ddefnyddiwyd naill ai Ffurf 12 os nad oedd y teitl yn rhent-dâl neu Ffurf 12C os oedd y teitl yn rhent-dâl. Geiriwyd y rhain fel a ganlyn.

  • Ffurf 12

‘Ac eithrio yn ôl gorchymyn y cofrestrydd nid oes gwarediad neu ddelio gan berchennog y tir i’w gofrestru oni bai bod yr offeryn sy’n rhoi grym iddo yn cynnwys tystysgrif yn cydymffurfio ag adran 37(2) neu, yn achos arwystl, gydag adran 39(2) o Ddeddf Elusennau 1993.’

  • Ffurf 12C

‘Ac eithrio yn ôl gorchymyn y cofrestrydd nid oes gwarediad neu ddelio gan berchennog y rhent-dâl i’w gofrestru oni bai (a) fod yr offeryn sy’n rhoi grym iddo yn cynnwys tystysgrif yn cydymffurfio ag adran 37(2) neu, yn achos arwystl, gydag adran 39(2) o Ddeddf Elusennau 1993; neu (b) fod yr offeryn yn drosglwyddiad trwy ollwng rhent-dâl yn ôl darpariaethau adran 40 o Ddeddf Elusennau 1993; neu (c) ei fod yn adbryniad rhent-dâl o dan adrannau 8 i 10 o Ddeddf Rhent-daliadau 1977.’

Dylid trin unrhyw warediad gan elusen heb ei heithrio lle mae un o’r cyfyngiadau hyn yn y gofrestr fel pe bai’r cyfyngiad ar y Ffurf E newydd. Os yw’r trefnau yn Elusennau heb eu heithrio yn cael eu dilyn, yna bydd gofynion y cyfyngiad yn cael eu hateb.

Dechreuodd Deddf Elusennau 1993 ar 1 Awst 1993, felly bydd cyfyngiadau a gofnodwyd yn y gofrestr cyn y dyddiad hwn ond ar ôl 1 Ionawr 1993 yn cyfeirio at adrannau perthnasol Deddf Elusennau 1992, ddaeth i rym ar 1 Ionawr 1993 ond gafodd ei chydgrynhoi yn Neddf Elusennau 1993.

Bydd y cyfyngiadau hyn yn cael eu trin yn yr un modd â’r rhai y cyfeiriwyd atynt uchod.

10.1.2 Cyfyngiadau eraill

Lle cofrestrwyd elusennau heb eu heithrio cyn 1 Ionawr 1993, mae nifer o wahanol gyfyngiadau all fod wedi cael eu cofnodi yn y gofrestr. Cofnodwyd y mwyaf cyffredin o’r rhain os nad oedd unrhyw orchymyn neu reoliadau eithrio yn berthnasol. Geiriwyd hyn fel a ganlyn.

‘Nid oes gwarediad neu ddelio gan berchennog y tir i’w gofrestru heb gydsyniad y Comisiwn Elusennau neu orchymyn y cofrestrydd.’

Mae cyfyngiadau eraill yn berthnasol i gyrff neu eiddo a eithriwyd trwy orchymyn neu reoliad o fod angen cydsyniad y Comisiwn Elusennau o dan amgylchiadau penodedig. Maent yn cynnwys:

  • y rhai sy’n caniatáu cofrestru trafodion a gwblhawyd cyn rhyw ddyddiad arbennig (ee 31 Rhagfyr 2000)

  • y rhai sy’n caniatáu gwarediadau tir na feddiannwyd at ddibenion yr elusen

  • y rhai sy’n caniatáu gwarediadau tir ym meddiant amrywiol enwadau crefyddol neu eiddo ac adeiladau crefyddol yn gyffredinol

  • rhai sy’n atal cofrestru unrhyw warediad sydd heb awdurdod adran 29 o Ddeddf Tir Setledig 1925 neu ymddiriedau’r elusen

O hyn ymlaen bydd pob un o’r cyfyngiadau hyn yn cael ei drin fel pe bai ar y Ffurf E newydd a rhaid i unrhyw weithred sy’n peri unrhyw warediad o’r tir gynnwys datganiad priodol a thystysgrif, os bydd angen un (gweler Elusennau heb eu heithrio).

10.1.3. Y Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau

Fe all fod enghreifftiau lle bo’r Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau wedi ei gofrestru’n berchennog a’r cyfyngiad canlynol yn cael ei weld.

‘Ac eithrio yn ôl gorchymyn y cofrestrydd nid oes gwarediad neu ddelio â’r tir i’w gofrestru na’i nodi heb gydsyniad y Comisiwn Elusennau fel bo angen yn ôl darpariaethau adran [17(2A) o Ddeddf Elusennau 1960][22(3) o Ddeddf Elusennau 1993].’

O hyn ymlaen bydd y cyfyngiad hwn yn cael ei drin fel pe bai ar Ffurf F – gweler Y Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau a Ffurf F.

10.2 Elusennau eithriedig heb fod yn amodol ar Ddeddfau Ystadau Prifysgolion a Cholegau 1925 a 1964

Lle cofrestrwyd elusen eithriedig heb fod yn amodol ar Ddeddfau Ystadau Prifysgolion a Cholegau 1925 a 1964 yn berchennog cyn 1 Ionawr 1993, efallai nad oes unrhyw gyfyngiad yn y gofrestr. Fodd bynnag, lle cofrestrwyd elusen o’r fath rhwng 1 Ionawr 1993 a 31 Rhagfyr 1996 bydd y cyfyngiad canlynol yn y gofrestr yn gyffredinol.

‘Ac eithrio yn ôl gorchymyn y cofrestrydd nid oes gwarediad neu ddelio gan berchennog y tir i’w gofrestru oni bai bod ymddiriedau’r elusen neu ryw Ddeddf neu awdurdod arall yn ei awdurdodi.’

O hyn ymlaen mae modd anwybyddu’r cyfyngiad hwn os yw’r perchennog yn gwmni Prydeinig neu’n gymdeithas ddiwydiannol a darbodus.

10.3 Elusennau eithriedig yn amodol ar Ddeddfau Ystadau Prifysgolion a Cholegau 1925 a 1964

Cofnodwyd amrywiol gyfyngiadau yn y gorffennol yn erbyn prifysgolion a cholegau arbennig, gyda chyfeiriad at Ddeddf Ystadau Prifysgolion a Cholegau 1925 yn gyffredin iddynt. Bydd unrhyw gyfyngiad o’r fath yn cael ei drin fel pe bai ar y ffurf ganlynol.

‘Nid oes gwarediad gan berchennog yr ystad gofrestredig i’w gofrestru oni bai ei fod yn cynnwys datganiad naill ai (a) ei fod yn awdurdodedig o dan Ddeddfau Ystadau Prifysgolion a Cholegau 1925 a 1964 neu (b) ei fod yn awdurdodedig o dan ryw Ddeddf neu awdurdod arall a nodwyd yn y datganiad’.

Nid yw hyn, fodd bynnag, yn berthnasol i Golegau Caerwynt ac Eton, sydd â chyfyngiadau mwy arnynt. (Gweler hefyd Cyfyngiadau eraill.)

10.4 Cydgofrestru

Weithiau bydd ymddiriedolwyr elusen wedi cael eu cofrestru fel perchnogion ar y cyd fel a ganlyn.

‘Perchennog: Ymddiriedolwyr yr elusen yn dwyn yr enw Oxbridge Ancient Forest Trust.’

Ni chaiff yr arfer hwn ei ddilyn mwyach a bydd ystadau’n cael eu cofrestru yn enwau’r ymddiriedolwyr, oni bai iddynt fod wedi eu corffori o dan Ran 12 o Ddeddf Elusennau 2011. Dylai prynwr sy’n bwriadu cymryd gwarediad oddi wrth gorff anghorfforedig o ymddiriedolwyr elusen a gafodd eu cofnodi yn y gofrestr ar y cyd gael tystiolaeth o bwy yw’r ymddiriedolwyr presennol a dylid cyflawni’r gwarediad yn unol â darpariaethau Cyflawni gweithredoedd. Yn y fath achos bydd y cofrestrydd yn derbyn tystysgrif cyfreithiwr neu ysgrifennydd yr elusen ar bwy yw’r ymddiriedolwyr presennol. Lle bydd yr ymddiriedolwyr yn aros yn y gofrestr, bydd y cofrestrydd yn dileu’r cofrestriad perchnogaeth presennol gan gofnodi enwau’r ymddiriedolwyr unigol yn ei le neu, os ydynt yn gorfforaeth, enw’r gorfforaeth.

10.5 Corffori ymddiriedolwyr

Mae darpariaethau Deddf Corffori Ymddiriedolwyr Elusennol 1872 (fel y’i newidiwyd gan Ddeddf Elusennau 1992) wedi cael eu cydgrynhoi yn Rhan 12 o Ddeddf Elusennau 2011. Yn rhinwedd adran 17(2)(b) o Ddeddf Ddehongli 1978, mae elusennau a gorfforwyd dan Ddeddf 1872 yn cael eu trin erbyn hyn fel petaent yn gorfforedig o dan Ran 12 o Ddeddf Elusennau 2011.

10.6 Periglor wedi ei gofrestru’n berchennog

Cyn dyfodiad Deddf Cofrestru Tir 2002, pan gofrestrwyd periglor bywoliaeth yn berchennog cofnodwyd gwaharddiad yn y gofrestr. O dan y Ddeddf newydd nid oes modd cofnodi gwaharddiad mwyach a chaiff cyfyngiad ar Ffurf D ei gofnodi yn ei le. Os yw gwaharddiad yn cael ei gofrestru, ar unrhyw warediad gan y periglor, dylid ei drin fel pe bai’n gyfyngiad ar Ffurf D. Dyma oedd geiriad y gwaharddiad.

‘GWAHARDDIAD: Nid oes gwarediad o’r tir i’w gofrestru heblaw trwy gyflwyno tystysgrif Comisiynwyr yr Eglwys yn unol ag adran 99 o Ddeddf Cofrestru Tir 1925.’

11. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.