Talu ymddiriedolwyr: mathau eraill o daliadau i ymddiriedolwyr
Cyhoeddwyd 25 Ebrill 2025
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mae bod yn ymddiriedolwr yn rôl wirfoddol yn gyffredinol. Dyma sy’n gwneud y sector elusennol yn unigryw ac yn hybu ymddiriedaeth a hyder mewn elusennau. O ganlyniad, mae ymateb allanol i dalu ymddiriedolwyr yn aml yn negyddol.
Mae’r canllawiau hyn yn ymwneud â mathau arbennig o daliadau i ymddiriedolwyr. Darllenwch y canllawiau hyn i ddeall (ar gyfer y math o daliad yr ydych yn bwriadu ei wneud):
- risgiau talu ymddiriedolwyr, er enghraifft beirniadaeth gyhoeddus
- y rheolau y mae’n rhaid i chi eu dilyn gan gynnwys cael pŵer neu awdurdod (caniatâd cyfreithiol)
Rhaid i chi ddilyn y rheolau hyd yn oed os yw’r trefniant o fudd i’r elusen.
Os nad ydych yn dilyn y rheolau, efallai y bydd yn rhaid i’r rhai a dderbyniodd y taliad, neu’r holl ymddiriedolwyr, ad-dalu’r elusen.
Dylech ddeall beth mae’n ei olygu i ‘dalu’ ymddiriedolwr. Mae’n golygu:
- rhoi gwobrau ariannol – arian, cyflog, ffioedd, a/neu
- rhoi buddion eraill, megis defnydd am ddim o offer neu eiddo neu fynediad am ddim i wasanaethau y mae’n rhaid i bobl dalu amdanynt fel arfer
Mae’r rheolau hefyd yn berthnasol:
- os mai cwmni sy’n perthyn i’r elusen sy’n talu’r ymddiriedolwr
- os yw’n berson neu’n sefydliad sy’n gysylltiedig â’r ymddiriedolwr sy’n cael ei dalu (‘person cysylltiedig’)
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi enwi’r ymddiriedolwr neu’r person cysylltiedig y gwnaethoch ei dalu a’r hyn y gwnaethoch ei dalu iddynt yng nghyfrifon eich elusen. Mae cyfrifon eich elusen yn dod yn wybodaeth gyhoeddus.
Mae’r canllawiau hyn yn gymwys i bob elusen.
Os ydych yn bwriadu talu ymddiriedolwr neu berson cysylltiedig am sefyllfa nad yw wedi’i chynnwys yn y canllawiau hyn, cysylltwch â ni.
Prynu neu rentu tir gan ymddiriedolwr neu berson cysylltiedig
Mae 4 prif gam wrth brynu neu rentu tir gan ymddiriedolwr neu berson cysylltiedig.
- Cam 1: Mae’n rhaid i chi, fel ymddiriedolwyr, ystyried ei fod er lles gorau’r elusen](#cam1). Rhaid i chi reoli y gwrthdaro buddiannau
- Cam 2: Rhaid i chi gael pŵer neu awdurdod (caniatâd cyfreithiol)
- Cam 3: Dylai cwmnïau elusennol gwirio a yw rheolau cyfraith cwmnïau ychwanegol yn berthnasol
- Cam 4: Cofnodwch eich penderfyniad a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y rheolau ar datgelutaliadau ymddiriedolwyr yng nghyfrifon eich elusen
Os ydych yn bwriadu gwerthu neu brydlesu tir i ymddiriedolwr neu berson cysylltiedig, darllenwch y canllawiaucywir.
Cam 1: Gwnewch y penderfyniad
Mae’n rhaid i chi, fel ymddiriedolwyr, ystyried ei fod er lles gorau’r elusen i brynu neu rentu tir gan ymddiriedolwr neu berson cysylltiedig. Mae hyn yn golygu ei fod yn fwy manteisiol i’r elusen na:
- peidio â phrynu neu rentu tir o gwbl, neu
- prynu neu rentu tir nad yw’n eiddo i ymddiriedolwr neu berson cysylltiedig
Rhaid i chi beidio â phenderfynu prynu neu rentu oherwydd ei fod o fudd i’r person sy’n berchen ar y tir. Rhaid i chi hefyd fod yn glir bod y buddion yn gorbwyso’r risgiau. Meddyliwch am y risgiau a sut y byddwch yn eu rheoli. Er enghraifft:
- y risg bod y pryniant wedi’i ysgogi, neu y gellid ei weld i fod, wedi’i ysgogi gan resymau heblaw lles gorau’r elusen
- beirniadaeth o fewn neu’r tu allan i’ch elusen. Gallai hyn ddod yn feirniadaeth gyhoeddus a gallai effeithio ar eich elusen a’i chyllid
- ddim yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol
- ymddiriedolwyr yn anghytuno a ddylid bwrw ymlaen
- risgiau cyffredinol gyda phrynu neu rentu tir, neu’r tir dan sylw
Rhaid i chi reoli’r risgiau. Er enghraifft, drwy:
- darllen y canllaw hwn a gwneud yn siŵr eich bod yn dilyn y rheolau
- cydymffurfio â’r rheolau ar gwneud penderfyniadau gan ymddiriedolwyr
- cael cyngor proffesiynol annibynnol am y tir, y costau a’r telerau
- defnyddio gweithiwr proffesiynol, fel trawsgludwr
- cadw cofnod llawn o pam y gwnaethoch eich penderfyniad
- esbonio eich penderfyniad yn enwedig os caiff ei feirniadu’n gyhoeddus
- dilyn y rheolau ar datgelu taliadau yng nghyfrifon eich elusen
Rheoli’r gwrthdaro buddiannau
Pan fydd ymddiriedolwyr yn cael eu talu, mae ganddynt wrthdaro buddiannau bob tro y byddwch yn gwneud penderfyniadau am y taliad hwnnw
Wrth brynu neu rentu tir, bydd gan yr ymddiriedolwyr canlynol wrthdaro buddiannau:
- yr ymddiriedolwr sy’n berchen ar y tir
- unrhyw ymddiriedolwr sydd â chysylltiad â sefydliad sy’n berchen ar y tir, neu fuddiant ariannol ynddo
- unrhyw ymddiriedolwr sydd â pherthynas â’r person (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) sy’n berchen ar y tir. Mae hyn yn cynnwys lle maent:
- yn rhyngddibynnol yn ariannol. Er enghraifft, partneriaid sydd â chostau byw ar y cyd
- heb fod yn rhyngddibynnol yn ariannol. Er enghraifft, mab neu ferch nad yw’n byw gyda’r ymddiriedolwr
Gallai amgylchiadau eraill olygu bod gan ymddiriedolwr wrthdaro buddiannau. Os nad ydych yn siŵr, gallwch gael cyngor cyfreithiol. Os oes amheuaeth, y peth mwyaf diogel i’w wneud fyddai trin yr ymddiriedolwr fel pe bai ganddo wrthdaro.
Gall fod mwy nag un ymddiriedolwr sy’n profi gwrthdaro. Gwnewch yn siŵr eich bod yn eu hadnabod i gyd.
Rhaid i chi reoli’r holl achosion o wrthdaro buddiannau pryd bynnag y byddant yn codi. Er enghraifft, y penderfyniad cyntaf i rentu a phenderfyniadau diweddarach i ymestyn y cytundeb i rentu. Darllenwch ein canllawiau am gwrthdaro buddiannau i’ch helpu.
Mae’n rhaid i chi ddal i reoli’r gwrthdaro buddiannau hyd yn oed os:
- mae prynu neu rentu’r tir dan sylw o fudd i’r elusen
- mae gennych bŵer neu awdurdod, fel yr eglurir yng ngham 2
Cam 2: Gwiriwch fod gennych bŵer neu awdurdod
Cyn i chi ymrwymo i’r contract, mae’n rhaid i chi gael pŵer neu awdurdod (caniatâd cyfreithiol) i brynu neu rentu tir gan ymddiriedolwr neu berson cysylltiedig.
Mae hyn yn golygu gwirio dogfen lywodraethol eich elusen yn ofalus.
Yn yr adran hon, ystyr ‘gwaharddiad’ yw unrhyw eiriad neu gymal yn y ddogfen lywodraethol sy’n nodi na all ymddiriedolwyr neu bersonau cysylltiedig:
- gwerthu neu rentu tir i’r elusen neu
- derbyn unrhyw fath o daliad neu fudd (neu ‘dâl’) gan yr elusen
Mae ‘cyn-ymddiriedolwr’ yn golygu ymddiriedolwr sydd:
- wedi ymddiswyddo gyda’r bwriad o werthu neu brydlesu eu tir i’r elusen neu
- wedi cymryd rhan (pan oedd yn ymddiriedolwr) ym mhenderfyniadau’r elusen i brynu neu rentu tir
Os, ar ôl darllen yr adran hon a gwirio eich dogfen lywodraethol, nad ydych yn siŵr, ceisiwch gyngor cyfreithiol.
Prynu neu rentu gan ymddiriedolwr neu gyn ymddiriedolwr
Os yw dogfen lywodraethol eich elusen yn cynnwys pŵer clir i brynu neu rentu tir gan ymddiriedolwr neu gyn-ymddiriedolwr, gallwch ddefnyddio’r pŵer hwnnw.
Os yw’n nodi unrhyw reolau, rhaid i chi eu dilyn. Er enghraifft, efallai y bydd yn dweud bod yn rhaid i chi gael caniatâd y Comisiwn Elusennau yn gyntaf. Gelwir hyn yn ‘bŵer amodol’.
Bydd angen awdurdod gan y Comisiwn arnoch os yw eich dogfen lywodraethol:
- heb ddweud unrhyw beth sy’n caniatáu’n glir i’r elusen brynu neu rentu tir gan ymddiriedolwr neu gyn-ymddiriedolwr, neu
- yn cynnwys gwaharddiad
Prynu neu rentu gan berson cysylltiedig
i. Mae eich dogfen lywodraethol yn cynnwys pŵer
Os yw dogfen lywodraethol eich elusen yn darparu pŵer clir i brynu neu rentu tir gan berson cysylltiedig, gallwch ddefnyddio’r pŵer hwnnw.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n:
- gwirio bod y pŵer yn cwmpasu’r berthynas rhwng yr ymddiriedolwr a’r person neu’r sefydliad rydych yn prynu neu’n rhentu ganddynt. Er enghraifft, os yw hwnnw’n gwmni ymddiriedolwr, rhaid i’r pŵer ganiatáu’n glir i’r elusen brynu neu rentu tir gan gwmnïau sy’n perthyn i ymddiriedolwyr. Os nad ydyw, darllenwch ii isod
- dilyn unrhyw reolau a osodir gan y pŵer. Er enghraifft, efallai y bydd yn dweud bod yn rhaid i chi gael caniatâd y Comisiwn Elusennau yn gyntaf. Gelwir hyn yn ‘bŵer amodol’.
ii. Nid yw eich dogfen lywodraethol yn cynnwys pŵer
Darllenwch yr adran hon os yw eich dogfen lywodraethol:
- heb ddweud dim byd o gwbl am brynu neu rentu tir gan berson cysylltiedig, neu
- heb gynnwys pŵer y gallwch ei ddefnyddio. Er enghraifft, mae’n cynnwys pŵer sydd ond yn cynnwys priod ymddiriedolwyr ac rydych yn bwriadu prynu neu rentu gan rywun arall sy’n gysylltiedig ag ymddiriedolwr.
Bydd angen Awdurdod y Comisiwn arnoch os ydych yn prynu neu’n rhentu oddi wrth:
- cwmni neu sefydliad y mae gan ymddiriedolwr fuddiant ariannol ynddo, neu y gall ymddiriedolwr dderbyn buddiant ariannol ohono o ganlyniad i’r trafodiad
- unigolyn sy’n rhyngddibynnol yn ariannol gyda’r ymddiriedolwr. Er enghraifft, maent yn rhannu costau byw
Os nad ydynt yn rhyngddibynnol yn ariannol, neu os na fyddant yn derbyn budd ariannol, nid oes angen awdurdod arnoch cyn belled ag y gallwch reoli’r gwrthdaro buddiannau.
iii. Mae eich dogfen lywodraethol yn cynnwys gwaharddiad
Bydd angen Awdurdod y Comisiwn arnoch pan:
- mae’r gwaharddiad yn cwmpasu’r berthynas rhwng yr ymddiriedolwr a’r person neu’r sefydliad rydych yn bwriadu prynu neu rentu ganddo, neu
- nid yw’r gwaharddiad yn cwmpasu’r berthynas, ond rydych chi’n prynu neu’n rhentu gan:
- cwmni neu sefydliad y mae gan ymddiriedolwr fuddiant ariannol ynddo, neu y gall ymddiriedolwr dderbyn buddiant ariannol ohono o ganlyniad i’r trafodiad, neu
- person sy’n rhyngddibynnol yn ariannol gyda’r ymddiriedolwr
Os nad ydynt yn rhyngddibynnol yn ariannol, neu os na fyddant yn derbyn buddiant ariannol, nid oes angen awdurdod arnoch cyn belled ag y gallwch reoli’r gwrthdaro buddiannau.
Gwneud cais am awdurdod y Comisiwn Elusennau
Os oes angen awdurdod y Comisiwn arnoch, bydd angen i chi ddweud y canlynol wrthym:
- gan bwy rydych chi’n prynu neu’n rhentu
- p’un a yw’n ymddiriedolwr, yn gyn ymddiriedolwr neu’n berson cysylltiedig
- pan ydynt yn berson cysylltiedig, gyda phwy maen nhw’n gysylltiedig a sut maen nhw’n gysylltiedig
- disgrifiad o’r tir
- a gawsoch gyngor proffesiynol, megis gan cynghorydd dynodedig
- pam mae prynu neu rentu’r tir neu’r eiddo er lles gorau’r elusen
- y pris prynu neu rentu, sut y gwnaethoch benderfynu arno, a sut mae hyn a thelerau eraill er lles gorau’r elusen
- pa opsiynau eraill a ystyriwyd gennych a pham y gwnaethoch eu diystyru
- os ydych yn prynu, cadarnhewch na fydd yr ymddiriedolwr neu’r person cysylltiedig yn parhau i reoli’r tir ar ôl eich pryniant. Os bydd, pam a sut mae hyn er lles gorau’r elusen
- y risgiau a sut y byddwch yn eu rheoli
- sut y gwnaethoch reoli’r gwrthdaro buddiannau
- a yw ymddiriedolwyr eraill yn eich elusen yn cael eu talu; yr hyn a delir iddynt; a pha gyfran o ymddiriedolwyr eich elusen sy’n cael eu talu ar hyn o bryd
- eich bod wedi gwneud y penderfyniad yn unol â rheolau eich dogfen lywodraethol. Er enghraifft, bod cworwm yn y cyfarfod
- a yw eich dogfen lywodraethol yn cynnwys pŵer gwahardd neu amodol
Os oes angen awdurdod arnoch oherwydd na allwch reoli’r gwrthdaro buddiannau, bydd angen i chi:
- darparu’r wybodaeth a restrir uchod ynghylch sut y gwnaethoch y penderfyniad a sut y mae er lles gorau’r elusen
- dweud wrthym os oes gennych bŵer dogfen lywodraethol
- dweud wrthym pam na allwch reoli’r gwrthdaro
Gwnewch un cais os oes angen awdurdod arnoch i brynu neu rentu tir ac i reoli gwrthdaro buddiannau.
Cam 3: Cwmnïau elusennol
Darllenwch yr adran hon dim ond os yw’ch elusen yn gwmni elusennol. Elusennau eraill, darllenwch cam 4.
Mae rheolau cyfraith cwmnïau sy’n berthnasol i gwmnïau sy’n trafod gyda chyfarwyddwyr a phobl neu sefydliadau sy’n gysylltiedig â nhw. Os yw cwmni yn elusen, y cyfarwyddwyr yw’r ymddiriedolwyr. Felly, gwiriwch a yw’r rheolau hyn yn berthnasol i’r hyn y mae eich elusen yn bwriadu ei wneud. Mynnwch gyngor cyfreithiol os oes ei angen arnoch.
Dyma enghreifftiau o beth i’w wirio:
- mae’r diffiniad o bwy sy’n ‘berson cysylltiedig’ yn wahanol o dan cyfraith cwmnïau. Gwiriwch a yw hyn yn golygu bod angen i chi ddilyn rheolau ychwanegol
- os oes rhaid i’ch aelodau roi eu cymeradwyaeth i’r elusen (neu ei his-gwmni) brynu neu rentu tir gan ymddiriedolwr neu berson cysylltiedig oherwydd bod y trafodiad yn bodloni’r diffiniad o ‘ased sylweddol heb fod yn arian parod’
Os oes rhaid i’ch aelodau roi eu cymeradwyaeth, bydd angen awdurdod y Comisiwn Elusennau arnoch o dan adran 201 o Ddeddf Elusennau 2011. Os oes angen hyn arnoch, mynnwch awdurdod y Comisiwn yn gyntaf; yna cymeradwyaeth eich aelodau.
Os penderfynwch ymgynghori â’ch aelodau yn gyntaf, rhaid i’w penderfyniad ddatgan bod eu cymeradwyaeth yn amodol ar gael awdurdod adran 201 gan y Comisiwn.
Os oes angen awdurdod adran 201 arnoch, bydd angen i chi egluro:
- pam mae angen yr awdurdod hwnnw arnoch; pa ofynion cyfraith cwmnïau sy’n berthnasol
- pam mae’r trefniant er lles gorau’r elusen.
Gwneud cais am awdurdod adran 201.
Cam 4
Ar gyfer pob elusen, darllenwch y canllawiau ar:
- cofnodi eich penderfyniad i dalu ymddiriedolwr neu berson cysylltiedig – datgelu taliadau ymddiriedolwyr yng nghyfrifon eich elusen
Talu ymddiriedolwr am waith sydd eisoes wedi’i wneud i’ch elusen
Mewn amgylchiadau eithriadol gall elusen wneud cais i’r Comisiwn Elusennau am awdurdod os:
- mae ymddiriedolwr wedi gwneud gwaith i’r elusen, a
- mae’r elusen yn dymuno talu neu wedi talu’r ymddiriedolwr am y gwaith, a
- nid oes gan yr elusen y pŵer i dalu’r ymddiriedolwr
Pe byddai’r Comisiwn yn rhoi awdurdod, byddai hyn yn caniatáu i’r ymddiriedolwr:
- cael eu talu am y gwaith y maent wedi’i wneud, neu
- cadw taliad y maent eisoes wedi’i dderbyn
Dim ond os yw’n penderfynu y byddai’n annheg neu’n anghyfartal i’r ymddiriedolwr beidio â chael ei dalu am y gwaith y mae wedi’i gwblhau y gall y Comisiwn roi awdurdod.
Gwiriwch eich dogfen lywodraethol cyn i chi wneud cais am awdurdod. Fel arfer byddwn ni ond yn ystyried cais lle nad oes awdurdod arall ar gyfer y taliad. Er enghraifft, ni fyddem fel arfer yn ystyried cais os:
- mae dogfen lywodraethol elusen yn caniatáu’r taliad, neu
- gallai y pŵer statudol i dalu ymddiriedolwr am ddarparu nwyddau neu wasanaethau i’r elusen gael ei ddefnyddio.
Pwy all wneud cais am awdurdod
Gall yr elusen neu’r ymddiriedolwr a gwblhaodd y gwaith wneud cais am awdurdod.
Gall yr ymddiriedolwr fod yn:
- ymddiriedolwr presennol
- cyn ymddiriedolwr, ond mae’n rhaid ei fod wedi bod yn ymddiriedolwr pan wnaethant y gwaith
Beth allwch chi wneud cais amdano
Dim ond am waith y mae ymddiriedolwr eisoes wedi’i gwblhau y gallwch wneud cais.
Os yw’ch elusen eisiau i’r ymddiriedolwr barhau â’r gwaith, a thalu’r ymddiriedolwr am y gwaith hwnnw, bydd angen i chi naill ai (cyn i’r ymddiriedolwr wneud gwaith pellach):
- defnyddio’r pŵer statudol a grybwyllir uchod neu
- cael awdurdod y Comisiwn
Yr hyn y mae’n rhaid i’r Comisiwn Elusennau ei ystyried
Rhaid i ni ystyried sawl ffactor wrth wneud ein penderfyniad. Mae’r rhain yn cynnwys a fyddai awdurdodi taliad am waith a wnaed eisoes, oherwydd nad oedd y pŵer cywir gan yr elusen, yn annog ymddiriedolwyr i dorri eu dyletswyddau ymddiriedolwr.
Felly byddwn yn ystyried ystod o wybodaeth a thystiolaeth gennych chi, gan gynnwys:
- y gwaith a wnaethpwyd, a pham yr oedd ei angen
- sut y penderfynoch y dylai’r ymddiriedolwr gyflawni’r gwaith
- sut y penderfynoch ar y gyfradd dalu
- a yw’r ymddiriedolwr a gyflawnodd y gwaith yn derbyn y tor-ddyletswydd
- pam na chawsoch chi awdurdod cyn i’r ymddiriedolwr wneud y gwaith
- sut y bydd yr elusen yn sicrhau nad yw’r sefyllfa hon yn digwydd eto, megis cael polisi neu hyfforddiant ychwanegol am daliadau ymddiriedolwyr
Gwneud cais am awdurdod y Comisiwn Elusennau
Os ydych yn gwneud cais, bydd angen i chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol:
- eich enw a’ch rôl
- enw’r ymddiriedolwr a wnaeth y gwaith
- disgrifiad o’r gwaith: pam roedd ei angen, ac a fyddai’r elusen – pe na bai’r ymddiriedolwr wedi’i gyflawni – wedi talu rhywun arall i’w wneud
- cadarnhad bod y gwaith y tu hwnt i ddyletswyddau arferol yr ymddiriedolwr fel ymddiriedolwr
- tystiolaeth bod yr ymddiriedolwr wedi gwneud y gwaith (fel eu hanfoneb) a chadarnhad gan yr ymddiriedolwyr eraill bod yr ymddiriedolwr wedi gwneud y gwaith
- y sgil sydd ei angen i wneud y gwaith a chadarnhad bod gan yr ymddiriedolwr y sgil hwnnw, megis cymwysterau neu brofiad perthnasol
- faint wnaethoch chi ei dalu i’r ymddiriedolwr neu’n dymuno ei dalu
- sut y penderfynoch ar y swm hwn a pham rydych yn ystyried bod hyn yn rhesymol. Er enghraifft, drwy gyfeirio at gyfradd fesul awr neu ddiwrnod neu ddyfynbrisiau a gawsoch am yr un gwaith gan rywun nad yw’n ymddiriedolwr
- a wnaethoch chi reoli’r gwrthdaro buddiannau wrth benderfynu talu’r ymddiriedolwr
- a yw dogfen lywodraethol yr elusen yn gwahardd y taliad
- cadarnhad nad oes gan yr elusen bŵer yn ei dogfen lywodraethol i dalu’r ymddiriedolwr
- pam na allech ddefnyddio’r pŵer statudol
- pam na chawsoch chi awdurdod cyn i’r ymddiriedolwr wneud y gwaith
- a yw’r ymddiriedolwr yn derbyn atebolrwydd am dor-ddyletswydd
- pa gamau y mae’r elusen wedi’u cymryd i osgoi’r un sefyllfa rhag digwydd eto
- pam y byddai’n annheg neu’n anghyfartal i’r ymddiriedolwr beidio â chael ei dalu neu beidio â chadw taliad
- a yw’r ymddiriedolwr neu’r elusen wedi gwneud cais am y math hwn o daliad o’r blaen a’r canlyniad
- a yw’r holl ymddiriedolwyr yn cefnogi’r cais. Ni fyddem fel arfer yn ystyried cais pe na bai’r ymddiriedolwyr eraill yn ei gefnogi. Fel arfer byddem eisiau copi o benderfyniad yr ymddiriedolwyr, neu gofnodion y cyfarfod perthnasol, gyda’ch cais.
Bydd angen i chi hefyd gadarnhau bod y wybodaeth a ddarparwyd gennych yn gywir. Dylech fod yn ymwybodol ei bod yn drosedd o dan adran 60 o Ddeddf Elusennau 2011 i ddarparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol yn fwriadol neu’n ddi-hid.
I wneud cais, e-bostiwch: equitableallowance@charitycommission.gov.uk
Darllenwch hysbysiad preifatrwydd y Comisiwn: Siarter gwybodaeth bersonol.
Taliadau bach neu honoraria
Mae’r adran hon yn ymwneud â gwneud taliadau bach neu honoraria gan ddefnyddio cronfeydd yr elusen. Er enghraifft:
- i ymddiriedolwr sy’n ymddeol i ddiolch iddynt am eu gwasanaeth i’r elusen
- i ymddiriedolwr am gyflawni rôl fel clerc
Rhaid i chi ystyried ei fod er lles gorau’r elusen i wneud taliadau o’r fath. Ystyriwch y risgiau. Er enghraifft, efallai na fydd defnyddio arian yr elusen i wneud y taliadau hyn yn boblogaidd gyda’ch buddiolwyr, aelodau neu gefnogwyr.
Fel arfer nid oes angen awdurdod gan y Comisiwn Elusennau arnoch os yw eich taliad yn ‘fach’. Mae hyn yn golygu:
- ar gyfer elusennau nad ydynt yn gwmnïau, taliad unigol o £1000 neu lai neu
- ar gyfer elusennau sy’n gwmnïau, taliad unigol o £200 neu lai a
- lle na fydd cyfanswm taliadau i bob ymddiriedolwr yn yr elusen - cwmni neu heb fod yn gwmni - yn ystod y flwyddyn ariannol yn fwy na £1000. (Nid yw hyn yn cynnwys treuliau ymddiriedolwyr)
Os yw’ch elusen yn gwmni, a’ch bod yn dymuno rhoi taliad neu fudd i ymddiriedolwr mewn cysylltiad â’i ymddeoliad o fwy na £200 (neu i rywun sy’n gysylltiedig â nhw), rhaid i chi:
- cael awdurdod y Comisiwn Elusennau o dan adran 201 o’r Ddeddf Elusennau
- yna o dan gyfraith cwmnïau gael eich aelodau i roi eu cymeradwyaeth
Os byddwch yn gofyn i’ch aelodau ei gymeradwyo yn gyntaf, rhaid i’w penderfyniad ddatgan bod hyn yn amodol ar gael awdurdod adran 201 gan y Comisiwn Elusennau.
Gwneud cais am awdurdod adran 201.
Cofnodwch eich penderfyniadau
Ar gyfer pob math o daliadau ymddiriedolwyr, cadwch gofnod llawn o’ch penderfyniadau a’r rhesymau drostynt. Er enghraifft, yng nghofnodion y cyfarfod perthnasol. Gall hyn helpu i ddangos eich bod wedi dilyn y rheolau.
Cadwch gofnod o unrhyw awdurdod a gawsoch gan y Comisiwn Elusennau.
Datgelwch daliadau ymddiriedolwyr yng nghyfrifon eich elusen
Elusennau sy’n paratoi cyfrifon croniadau
Rhaid i gyfrifon eich elusen roi manylion penodol am daliadau a buddion eraill i ymddiriedolwyr ac unigolion cysylltiedig. Gwiriwch y SORP Elusennau neu ceisiwch gyngor proffesiynol.
Mae SORP yn esbonio’r rheolau cyfrifyddu ar gyfer elusennau sy’n paratoi cyfrifon croniadau.
Elusennau sy’n paratoi cyfrifon derbyniadau a thaliadau
Dylech gynnwys manylion y taliadau a wnaethoch i ymddiriedolwyr ac unigolion cysylltiedig. Er enghraifft, pwy wnaethoch chi ei dalu, pam y gwnaethoch eu talu, beth wnaethoch chi eu talu, a’r pŵer neu’r awdurdod ar gyfer y taliad.
Gwiriwch pa math o gyfrifon y mae’n rhaid i’ch elusen ei baratoi.