Gohebiaeth

Newyddion y Comisiwn Elusennau: Chwefror 2023

Cyhoeddwyd 13 Tachwedd 2024

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau

Llynedd gwnaethom roi gwybod i chi ein bod yn cyflwyno proses mewngofnodi newydd, gwell i elusennau a’u hymddiriedolwyr gael mynediad i’n gwasanaethau ar-lein. Bydd y ffordd newydd hon o fewngofnodi trwy Gyfrifon Comisiwn Elusennau unigol.

Rydym wedi dechrau gwahodd elusennau i sefydlu eu cyfrifon cyn eu lansio yn ddiweddarach eleni.

Beth sydd angen i chi wneud nawr i baratoi

  • Gwiriwch fod manylion eich elusen yn gyfredol, gan gynnwys pwy yw eich cyswllt elusen fel ein bod yn cyrraedd y person cywir. Gallwch wirio hyn trwy fewngofnodi i’n gwasanaethau ar-lein
  • Os mai chi yw cyswllt yr elusen, sicrhewch bod gennym gyfeiriad e-bost ar eich cyfer chi yn unig
  • Sicrhewch fod eich dyddiad geni yn gywir ac yn cyfateb i’r un sydd gennym ar gofnod ar hyn o bryd. Byddwn yn defnyddio eich dyddiad geni i wirio pwy ydych chi
  • Chwiliwch am e-byst y Comisiwn Elusennau (gwiriwch eich ffolderi sothach/sbam, rhag ofn) a gosodwch eich cyfrif pan fyddwch yn derbyn eich dolen
  • I gael gwybod mwy, darllenwch ein canllaw ar Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau

Sefydlu ‘Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau’ – GOV.​UK

https://www.gov.uk/guidance/setting-up-my-charity-commission-account

Datganiad Blynyddol ar gyfer 2023

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi cyhoeddi set o gwestiynau wedi’u diweddaru y bydd angen i lawer o elusennau eu cwblhau fel rhan o’u Datganiad Blynyddol 2023.

Rydym yn gwneud hyn drwy ofyn mwy o gwestiynau i elusennau er mwyn creu darlun manylach o’r risgiau i elusennau unigol a’r sector cyffredinol.

Mae nifer o newidiadau a gwelliannau wedi’u gwneud o ganlyniad i adborth a dderbyniwyd gan elusennau a phartïon sydd â diddordeb yn ystod ymgynghoriad a ddaeth i ben ym mis Medi 2022. Ni fydd hyn yn newid y cwestiynau a ofynnir ar gyfer Datganiad Blynyddol 2022.

Darganfyddwch pa gwestiynau y gellir eu gofyn i chi.

https://www.gov.uk/government/consultations/charity-commission-revisions-to-the-annual-return-2023-25/outcome/annex-11-charity-annual-return-questions-2023-data-publication

Cefnogaeth i Ymddiriedolwyr

Os ydych yn ymddiriedolwr newydd neu brofiadol, bydd ein cyfres o ganllawiau 5 munud yn eich helpu i fod yn sicr o’ch cyfrifoldebau ac yn hyderus eich bod yn gwneud y peth iawn i’ch elusen. Dyma rai o’r cwestiynau y gallwn eich helpu i’w hateb yn hyderus:

  • Gallech chi weld gwrthdaro buddiannau a’i reoli?
  • Ydy pob penderfyniad yn helpu eich elusen gyda’i chenhadaeth?
  • Oes mwy y gallwch wneud i atal twyll?
  • Gallech chi fod yn crwydro i mewn i weithgareddau nad yw eich elusen wedi’i sefydlu i’w wneud?
  • Sut mae eich elusen yn cadw pawb yn ddiogel rhag niwed?
  • Ydy eich elusen yn rhoi gwybod am y pethau iawn ar yr amser iawn?

https://beingacharitytrustee.campaign.gov.uk/

Dweud eich dweud ar ein hymgynghoriad ar ddefnydd elusennau o gyfryngau cymdeithasol

Mae’r Comisiwn Elusennau yn ymgynghori ag elusennau, sefydliadau’r sector a’r cyhoedd i ddatblygu canllawiau newydd i elusennau pan fyddant yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol.

Rydym yn ceisio barn ar ganllawiau drafft, a fwriedir i:

  • Helpu ymddiriedolwyr i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn briodol ac yn hyderus
  • Ddeall eu cyfrifoldebau a rheoli’r risgiau
  • Annog nhw i fabwysiadu polisi cyfryngau cymdeithasol
  • Helpu ymddiriedolwyr i ddeall beth i’w wneud os bydd materion yn codi, er enghraifft os yw cynnwys problemus yn cael ei bostio naill ai gan yr elusen neu gan rywun sy’n gysylltiedig â’r elusen

Dweud eich dweud.

Canllaw drafft: defnydd elusennau o’r cyfryngau cymdeithasol - GOV.UK (www.gov.uk)

Amddiffyn eich elusen rhag y risg o seiber-droseddu

Mae’r Ganolfan Seiber-ddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wedi rhyddhau adroddiad newydd sy’n manylu ar risgiau seiber-droseddu i elusennau. Mae mwyafrif helaeth twyll nawr yn cael ei gyflawni ar-lein.

I’ch helpu i ddiogelu eich elusen, mae gan yr NCSC amrywiaeth o offer, gan gynnwys pecyn hyfforddi e-ddysgu: ‘Cadw’n Ddiogel Ar-lein: awgrymiadau da i staff’. Mae’n rhad ac am ddim, yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn cymryd llai na 30 munud i’w gwblhau.
Mae’r hyfforddiant yn esbonio pam mae seiber-ddiogelwch yn bwysig a sut mae ymosodiadau’n digwydd. Yna mae’n cwmpasu 4 maes allweddol:

  • amddiffyn eich hun rhag gwe-rwydo
  • defnyddio cyfrineiriau cryf
  • diogelu eich dyfeisiau
  • adrodd ar ddigwyddiadau

https://www.ncsc.gov.uk/collection/charity/cyber-threat-report-uk-charity-sector

Osgoi treth: peidiwch â chael eich dal allan

Mae HMRC eisiau helpu elusennau sy’n defnyddio contractwyr i ddeall eu trefniadau cyflog i sicrhau nad yw eu cyflenwyr yn cael unrhyw filiau treth annisgwyl.

Mae ymgyrch ‘Osgoi treth – peidiwch â chael eich dal allan’ gan HMRC yn helpu contractwyr i wirio faint maent yn cael ei dalu, a allai eu contract gynnwys osgoi treth, a sut i adnabod yr arwyddion rhybudd.

Mae HMRC yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau i roi’r offer iddynt addysgu’r contractwyr sy’n gweithio iddynt am y risgiau o ddefnyddio cynlluniau arbed treth.

https://taxavoidanceexplained.campaign.gov.uk/?&utm_source=eng_doc&utm_medium=external&utm_campaign=upstream_