Newyddion y Comisiwn Elusennau: Tachwedd 2022
Cyhoeddwyd 13 Tachwedd 2024
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Wythnos Ymddiriedolwyr
Paratowch ar gyfer Wythnos Ymddiriedolwyr eleni o 7-11 Tachwedd! Dyma’r wythnos pan fyddwn yn dweud ‘diolch’ mawr i bron un miliwn o ymddiriedolwyr ledled y DU sy’n rhoi cymaint o amser i sicrhau bod elusennau’n ffynnu ac yn gwneud cymdeithas yn well.
Thema eleni yw ‘Gwneud gwahaniaeth mewn amseroedd cyfnewidiol’ gan gydnabod pa mor galed mae ymddiriedolwyr yn gweithio i oresgyn heriau ac i gofleidio cyfleoedd newydd i gadw’u helusen ar y trywydd.
Edrychwch ar https://trusteesweek.org/ sy’n manylu ar amrediad o ddigwyddiadau, hyfforddiant a chymorth i’ch helpu i rwydweithio, dysgu a gloywi’ch gwybodaeth. Gallwch ein dilyn ni hefyd ar Twitter @TrusteesWeeek.
Deddf Elusennau 2022
Mae’r set gyntaf o newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Elusennau 2022 wedi dod i rym. Ymhlith pwerau newydd eraill, mae ymddiriedolwyr yn gallu cael eu talu yn awr am ddarparu nwyddau mewn amgylchiadau penodol, ac mae rheolau symlach pan nad yw apeliadau codi arian yn codi digon – neu’n codi gormod.
Ers i’r ddeddf elusennau ennill Cydsyniad Brenhinol yn gynharach eleni, mae’r Comisiwn wedi bod yn gwneud y newidiadau angenrheidiol i gynorthwyo cynllun yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, sy’n graddol gyflwyno darpariaethau’r ddeddf yn ystod eleni a’r flwyddyn nesaf.
https://www.gov.uk/guidance/charities-act-2022-guidance-for-charities
Fy nghyfrif Comisiwn Elusennau
Rydym yn cyflwyno proses fewngofnodi newydd well i elusennau a’u hymddiriedolwyr i gyrchu’n gwasanaethau ar-lein. Bydd y ffordd newydd hon o fewngofnodi trwy Gyfrifon Comisiwn Elusennau unigol.
Yn ddiweddarach y mis hwn, byddwn yn dechrau gwahodd unigolion cyswllt mewn elusennau i sefydlu eu cyfrifon newydd. O Wanwyn 2023, byddant yn gallu defnyddio’r cyfrif hwn i gyrchu gwasanaethau megis gwneud newidiadau i’w dogfennau llywodraethu neu gyflwyno’u hadroddiadau blynyddol.
I baratoi ar gyfer hyn, gwiriwch fod manylion eich elusen yn gyfredol, gan gynnwys pwy yw unigolyn cyswllt eich elusen er mwyn i ni gysylltu â’r unigolyn cywir.
https://www.gov.uk/guidance/online-services-for-charities
Canllaw 5 munud newydd ar ymgyrchu
Rydym wedi cynhyrchu canllaw 5 munud newydd i helpu ymddiriedolwyr i ddilyn y rheolau ar weithgaredd ac ymgyrchu gwleidyddol.
https://www.gov.uk/guidance/political-activity-and-campaigning-by-charities
Dilynwch ein Cyfarfod Cyhoeddus Blynyddol
Gwyliwch y darllediad wedi’i recordio a dilynwch yr holl newyddion o’r Comisiwn. Gallwch hefyd ganfod fersiynau testun o areithiau ar GOV.UK
https://www.youtube.com/watch?v=Xfh235H1sPM