Newyddion y Comisiwn Elusennau: Awst 2022
Cyhoeddwyd 13 November 2024
Yn berthnasol i England and Gymru
Eich cyfrif Comisiwn Elusennau newydd
Rydym yn bwriadu ymgysylltu’n fwy rhagweithiol gydag ymddiriedolwyr yn y dyfodol, ac mae gwaith ar y gweill i wireddu’r uchelgais hwn.
Beth mae hyn yn golygu i chi? I ddechrau, byddwn yn gofyn i bob cyswllt elusen sefydlu cyfrifon newydd, i gyfrif Comisiwn Elusennau unigol i gael mynediad at wasanaethau fel ffeilio ffurflen flynyddol, neu newid dogfen lywodraethol.
Er mwyn gwella’r data sydd gennym, byddwn hefyd yn gofyn i elusennau ddiweddaru gwybodaeth am yr hyn y maent yn gwneud, pwy maent yn helpu a ble maent yn gweithio. Dros amser, bydd hyn yn ein helpu i gefnogi ymddiriedolwyr yn well gyda’r wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i redeg eu helusen yn dda. Bydd hefyd yn helpu i wella dealltwriaeth ehangach o gwmpas a graddfa’r sector elusennol ymhlith llunwyr polisi a’r cyhoedd.
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar gynnydd dros y misoedd nesaf. Yn y cyfamser, os ydych yn ymddiriedolwr neu’n gyswllt elusen enwebedig, gwiriwch fod y wybodaeth sydd gennym amdanoch chi a’ch elusen ar hyn o bryd yn gywir.
https://www.gov.uk/guidance/online-services-for-charities
Deddf Elusennau 2022: mae’r darpariaethau cyntaf yn dod i rym
Yr hydref hwn, bydd y gyfres gyntaf o newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Elusennau 2022 newydd yn dod i rym.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- pŵer newydd y gall ymddiriedolwyr ddefnyddio i gael eu talu am ddarparu nwyddau i’r elusen
- pŵer newydd i alluogi ymddiriedolwyr i brosesu rhai taliadau ‘ex gratia’ – ble teimlant rwymedigaeth foesol yn rhesymol – heb ddod i’r Comisiwn (trothwyon ariannol fydd yn berthnasol)
- ble nad yw apeliadau codi arian yn codi digon o arian, neu ormod, bydd rheolau symlach a mwy cymesur yn berthnasol
Bydd darpariaethau eraill sydd wedi cael eu cynnwys yn y Ddeddf yn ei wneud yn symlach i elusennau newid eu dogfennau llywodraethu, rhoi mwy o hyblygrwydd wrth ddefnyddio ‘cronfeydd gwaddol parhaol’, a chaniatáu mwy o hyblygrwydd o ran y cyngor sydd angen wrth werthu tir. Bydd y rhain yn dod i rym blwyddyn nesaf.
https://www.gov.uk/guidance/charities-act-2022-guidance-for-charities
Mae amser o hyd i ymateb i’n hymgynghoriad ar y Ffurflen Flynyddol
Rydym wedi lansio ymgynghoriad ffurfiol ar newidiadau arfaethedig i’r Ffurflen Flynyddol, a gynlluniwyd i sicrhau ein bod yn casglu’r wybodaeth gywir yn y blynyddoedd i ddod.
Mae’r Ffurflen Flynyddol yn ffurflen ar-lein mae’n rhaid i bob elusen sydd ag incwm blynyddol o £10,000 neu fwy ei chwblhau o fewn 10 mis i ddiwedd eu cyfnod adrodd ariannol.
Nid yw’r ffurflen wedi newid yn sylweddol ers 2018, ac ar ôl adolygiad cynhwysfawr, mae’r Comisiwn nawr yn cynnig diweddaru’r set o gwestiynau bydd angen i elusennau ei chwblhau o 2023 ymlaen.
Rhodd Cymorth a defnyddio asiantau treth
Mae Rhodd Cymorth yn help i’w groesawu’n fawr i lawer o elusennau ac os nad ydych yn ei hawlio ar hyn o bryd gwiriwch a ydych yn gymwys.
Ond os yw eich elusen yn hawlio Rhodd Cymorth, mae’n bwysig iawn sicrhau bod eich rhwymedigaethau cyfreithiol yn cael eu bodloni – fel cael datganiadau dilys a’r cofnodion cywir sy’n nodi’n gywir eich rhoddwyr ynghyd â dyddiadau a symiau eu rhoddion.
Mae gan nifer o elusennau asiant treth, fel cyfrifydd neu geidwad llyfrau, sy’n delio â’u hawliadau Rhodd Cymorth ar eu rhan. Mae rhai o’r asiantau hyn hefyd wedi cael eu hawdurdodi i dderbyn yr ad-daliadau ar ran yr elusen. Mae HMRC yn disgwyl i bob asiant treth gyrraedd ei safonnau ar gyfer asiantau, ni waeth os ydynt yn aelod o gorff proffesiynol, neu i ba gorff proffesiynol maent yn perthyn.
Mae HMRC yn gweithio’n agos gydag asiantau treth a bydd yn cymryd camau i gynnal y safon os byddant yn canfod camwedd.
https://www.gov.uk/government/publications/hmrc-the-standard-for-agents
Cofiwch y dyddiad
Cynhelir ein Cyfarfod Cyhoeddus Blynyddol 2022 yng Nghaerdydd ar ddydd Mercher 12 Hydref. Bydd hefyd yn cael ei ddarlledu’n fyw.
Cofrestrwch i wneud cais nawr ar wefan https://www.eventbrite.co.uk/e/charity-commission-annual-public-meeting-2022-tickets-389542892277
Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Twyll Elusennol rhwng 17-21
https://preventcharityfraud.org.uk/
Cynhelir Wythnos Ymddiriedolwyr 7-11 Tachwedd, a’r thema ar gyfer eleni fydd: Gwneud gwahaniaeth mewn amseroedd newidiol. https://trusteesweek.org/