Asesiad o Her Sgiliau Ynni Glân
Diweddarwyd 25 Mawrth 2025
Cyflwyniad
Mae’r Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ) wedi sefydlu’r Swyddfa dros Swyddi Ynni Glân, a fydd yn canolbwyntio ar sicrhau bod gennym y gweithlu medrus yn y sectorau ynni craidd a sero net sy’n hanfodol i gyflawni Cenhadaeth Ynni Glân y llywodraeth. Bydd yn canolbwyntio ar gefnogi rhanbarthau sy’n symud oddi wrth ddiwydiannau carbon-ddwys i sectorau ynni glân, gan sicrhau swyddi ynni glân o ansawdd uchel, gyda chyflogau teg, telerau ffafriol ac amodau gwaith da. Bydd yn pwysleisio’r rôl bwysig i undebau llafur wrth galon y sector ynni glân, gan sicrhau bod undebau’n gallu trefnu, ac yn gallu defnyddio eu harbenigedd i helpu i lunio polisi diwydiannol cenedlaethol. Bydd yn cydweithio’n eang ag amrywiaeth o bartneriaid ar draws y sector ynni, diwydiant, undebau llafur, darparwyr sgiliau a llywodraeth leol i gyflawni hyn.
Bydd y Swyddfa dros Swyddi Ynni Glân hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Adran Addysg, Skills England a’r gweinyddiaethau datganoledig i sicrhau bod gan y DU y sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r Genhadaeth Ynni Glân, gan ffurfio barn ar draws sectorau DESNZ i gyfrannu at asesiad ehangach Skills England o anghenion sgiliau strwythurol economi’r DU, a chefnogi’r gwaith o ddarparu atebion polisi penodol wedi’u targedu yn y sector ynni. Mae’r ddogfen hon yn asesiad cychwynnol o’r heriau sgiliau ar gyfer y Genhadaeth Ynni Glân a gynhaliwyd gan y Swyddfa ar gyfer Swyddi Ynni Glân.
Bydd maint y newid i’r gweithlu sero net yn golygu bod angen ailsgilio’n gyflym ac mae’n gyfle sylweddol i greu swyddi da, gyda swyddi ynni glân yn tueddu i hysbysebu cyflogau’n uwch na’r cyfartaledd a hysbysebir yn y DU.[footnote 1] Amcangyfrifir y bydd 1 o bob 5 swydd yn profi newid yn y galw am sgiliau drwy’r newid i sero net, gydag oddeutu 3 miliwn o weithwyr angen rhyw fath o ailsgilio.[footnote 2]
Ar sail asesiad o adolygiadau allanol, mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi canfod y gallai rhwng 135,000 a 725,000 o swyddi newydd net gael eu creu mewn sectorau carbon isel erbyn 2030. Mae’n debygol y bydd y sector effeithlonrwydd ynni a gwresogi carbon isel yn gweld y cynnydd mwyaf mewn swyddi erbyn 2030, gyda thwf sylweddol pellach mewn ynni carbon isel, CCUS a hydrogen, a sectorau trafnidiaeth arwyneb fel gweithgynhyrchu cerbydau trydan.[footnote 3]
Mae tystiolaeth yn hanfodol i ganfod cyfleoedd gwaith yn y dyfodol, yn ogystal â’r bylchau mewn sgiliau sy’n gysylltiedig â’r newid i ynni glân yn y DU. Gall helpu i lywio sut gall y llywodraeth a chyflogwyr, ochr yn ochr â darparwyr addysg a hyfforddiant, weithio gyda’i gilydd i dyfu’r llif swyddi a sgiliau ynni glân. Mae’r atodiad tystiolaeth hwn gan y Swyddfa ar gyfer Swyddi Ynni Glân yn cefnogi’r camau gweithredu a nodwyd yng Nghynllun Gweithredu Pŵer Glân 2030 i wella ymwybyddiaeth o gyfleoedd swyddi ynni glân. Bydd y dystiolaeth hon yn cael ei defnyddio fel sail i’r llywodraeth allu deall gofynion gweithlu 2030 yn well a chefnogi’r gwaith o gynllunio sgiliau wedi’u targedu.
Ein data a’n tystiolaeth
Mae’r dystiolaeth sy’n cael ei chyflwyno yn yr adroddiad hwn wedi cael ei chasglu drwy amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys dadansoddiad pwrpasol DESNZ, ystadegau swyddogol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), a gwybodaeth am y gweithlu a ddarparwyd gan gyflogwyr. Er bod rhywfaint o’r dadansoddiad a gyflwynir yma wedi’i gynhyrchu ar sail tybiaethau ynghylch targedau’r llywodraeth flaenorol, rhagwelir y bydd y swyddi a’r sgiliau y mae galw amdanynt, a’r anhawster i recriwtio, yn debyg iawn, er mwyn bodloni’r genhadaeth Uwch-bŵer Ynni Glân. Bydd y Swyddfa ar gyfer Swyddi Ynni Glân yn parhau i wella ac adolygu’r dystiolaeth hon er mwyn sicrhau bod gan y DU y sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r Genhadaeth Ynni Glân.
Yn ystod Haf 2023, comisiynodd y Grŵp Cyflawni Swyddi Gwyrdd, grwpiau Gorchwyl a Gorffen dan arweiniad cyflogwyr i gwblhau asesiadau o’r gweithlu ar gyfer sectorau allweddol dethol. Er bod y broses hon yn cynnwys sectorau allweddol i gyflawni sero net a nodau amgylcheddol ehangach, mae’r atodiad hwn yn crynhoi’r dystiolaeth a gyflwynwyd ar gyfer sectorau ynni glân, gan gynnwys y rheini a fydd yn chwarae rhan yn y gwaith o gyflawni’r Genhadaeth Ynni Glân ehangach. Mae’r dystiolaeth hon yn cyfleu maint y cyfleoedd i’r gweithlu, gan gynnwys y galw am lafur yn y dyfodol, y bylchau mewn sgiliau a swyddi, a’r rhwystrau. Ar gyfer rhai sectorau, mae mapiau gwres wedi cael eu cynhyrchu sy’n nodi’r galw a galwedigaethau anodd eu recriwtio.[footnote 4]
Yn ogystal â’r asesiadau hyn, roedd y Grŵp Cyflawni Swyddi Gwyrdd hefyd wedi casglu tystiolaeth o 19 o gyfarfodydd bord gron traws-bynciol a sectoraidd ar wahân a oedd yn cynnwys dros 300 o bobl a oedd yn archwilio’r dystiolaeth ac yn nodi atebion.
Roedd y grwpiau Gorchwyl a Gorffen dan arweiniad cyflogwyr yn cynnwys y sectorau ynni glân canlynol[footnote 5]:
- Pŵer a Rhwydweithiau
- Gwres ac Adeiladau
- Hydrogen a CCUS
Roedd rhagor o ymgysylltu er mwyn cynnwys sectorau ychwanegol, gan gynnwys Solar, Systemau Clyfar a Hyblygrwydd. Mae rhagor o wybodaeth am aelodaeth y grwpiau Gorchwyl a Gorffen a’r dulliau a ddefnyddiwyd ganddynt ar gael yn yr adrannau Methodoleg a Chanfyddiadau’r Sector. Mae nifer o asesiadau’r grŵp Gorchwyl a Gorffen hyn wedi cael eu cyhoeddi ar wahân, gan gynnwys Pŵer a Rhwydweithiau, Hydrogen a CCUS. Mae’r adroddiad hwn yn dod â’r canfyddiadau hyn at ei gilydd i ddarparu asesiad cyfannol o’r her sgiliau ar draws sectorau ynni glân.
Mae DESNZ hefyd yn cynhyrchu dadansoddiad arbrofol mewnol o swyddi ynni glân gan ddefnyddio data hysbysebu swyddi ar-lein Lightcast. Ers mis Mawrth 2023, mae’r dadansoddiad hwn wedi ehangu i 8 sector ynni glân ac mae’n cynnwys nodweddion hysbysebion swyddi newydd. Mae bellach yn dadansoddi tueddiadau allweddol o ran cyfran dros amser, sgiliau, galwedigaethau, cyflogau a dosbarthiad rhanbarthol. Mae natur arbrofol y dadansoddiad yn golygu nad yw pob hysbyseb swydd yn cael ei chofnodi. Mae’r ddogfen Dadansoddiad o Hysbysebion Swyddi Ynni Glân: Siartiau a Methodoleg yn rhoi rhagor o fanylion am fethodoleg a chyfyngiadau’r dadansoddiad hwn.
Gweithlu ynni glân
Mae swyddi ynni glân yn is-set o’r swyddi sydd eu hangen yn y cyfnod pontio i sero net. Mae angen y swyddi hyn ar draws amrywiaeth o sectorau gan gynnwys ynni adnewyddadwy, niwclear, hydrogen a Dal, Defnyddio a Storio Carbon (CCUS), gwres ac adeiladau, a datgarboneiddio diwydiannol.
Mae’r gweithlu ynni glân yn cynyddu’n sylweddol gyda nifer y swyddi economi ynni adnewyddadwy a charbon isel (LCREE) sy’n tyfu fwy na 5 gwaith yn gyflymach na chyflogaeth gyffredinol y DU rhwng 2020 a 2022.[footnote 6],[footnote 7] Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod tua 272,400 o swyddi cyfwerth ag amser llawn (FTE) eisoes yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol mewn swyddi LCREE ledled y DU – cynnydd o 27% rhwng 2020 a 2022[footnote 8]. Amcangyfrifir bod 85% o’r FTEs hyn yn Lloegr a 9% yn yr Alban. Amcangyfrifir bod Cymru a Gogledd Iwerddon yn cyfrif am 4% a 2%, yn y drefn honno. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod hyd at 180,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn eraill yn 2022 wedi cael cymorth anuniongyrchol ar draws y cadwyni cyflenwi ehangach ar gyfer sectorau carbon isel ac adnewyddadwy.[footnote 9]
Mae hysbysebion swyddi ynni glân wedi bod yn cynyddu’n gyflym dros y blynyddoedd diwethaf. Fel y dengys Ffigur 1, mae cyfran yr hysbysebion swyddi ynni glân yn y DU wedi cynyddu’n sylweddol ers y pandemig, gyda’r gyfran yn 2024 yn tua dwbl y lefelau a welwyd 5 mlynedd yn ôl.[footnote 10]
Ffigur 1: Cyfran yr hysbysebion swyddi ynni glân fel cyfran o’r holl hysbysebion swyddi ar-lein yn y DU ers 2014
Disgrifiad o Ffigur 1: Cyfres amser sy’n dangos hysbysebion swyddi ym maes ynni glân fel cyfran o’r holl hysbysebion swyddi ar-lein yn y DU o 2014 i 2024. Mae’r siart yn awgrymu bod cyfran yr hysbysebion swyddi ym maes ynni glân wedi tyfu’n gyflym ers 2020 – o ychydig yn is na 0.3% yn 2020 i dros 0.5% yn 2024.
Sylwer: Mae cyfran fisol o hysbysebion swyddi ynni glân ar-lein (cyfartaledd treigl 3 mis) ‘Swyddi Ynni Glân’ yn cynnwys 8 sector ynni glân wedi’u diffinio gan ymadroddion allweddol. Gweler y ddogfen dadansoddi hysbysebion swyddi am ragor o fanylion.
Ffynhonnell: Dadansoddiad arbrofol DESNZ o ddata hysbysebion swyddi ar-lein Lightcast , 2024.
Mae hysbysebion swyddi ynni glân yn cael eu dosbarthu ledled y wlad gyda chrynodiadau arbennig o uchel yn yr Alban a De Lloegr. Mae’r dadansoddiad o hysbysebion swyddi yn Ffigur 2 yn dangos bod hysbysebion swyddi ynni glân yn cael eu hysbysebu ym mhob rhan o’r DU. Mae’r dadansoddiad yn awgrymu mai’r Alban sydd â’r gyfran ranbarthol uchaf gyda bron i 16% o hysbysebion swyddi ynni glân yn y DU, wedi’u dilyn yn agos gan hysbysebion yn Ne Orllewin Lloegr ar tua 14%.[footnote 11]
Mae rhai sectorau ynni glân amlwg ar draws rhanbarthau’r DU. Er enghraifft, yng Ngogledd Iwerddon, mae’r gyfran uchaf o hysbysebion swyddi ynni glân yn dod o dan Systemau Clyfar a Hyblygrwydd Storio. Mae gan Systemau Clyfar a Hyblygrwydd Storio hefyd yr ail gyfran uchaf o hysbysebion swyddi ynni glân yng Nghymru tra mai Gwres ac Adeiladau sydd â’r gyfran uchaf.
Gall cymunedau ledled y wlad elwa o swyddi ynni glân, gyda buddsoddiad mewn datgarboneiddio yn cynnig cyfleoedd i leihau anghydraddoldebau rhanbarthol. Mae gan yr Almaen bron ddwywaith yn fwy o swyddi adnewyddadwy y pen na Phrydain. Mae gan Sweden a Denmarc bron i 3 a 4 gwaith cymaint, yn y drefn honno.[footnote 12] Wrth i wledydd eraill gamu ymlaen i arwain diwydiannau’r dyfodol, ni ddylid gadael Prydain ar ôl.
Ffigur 2: Cyfran yr hysbysebion swyddi ynni glân yn ôl rhanbarth rhwng 2021 a 2024.
Disgrifiad o Ffigur 2:Map coropleth y DU. Mae rhanbarthau lle mae’r ‘Gyfran o Hysbysebion Swyddi ym maes Ynni Glân (%)’ yn uwch rhwng 2021 a 2024 wedi cael eu lliwio’n wyrddlas tywyll. Yn nodedig, yr Alban sydd â’r gyfran uchaf o hysbysebion swyddi ym maes ynni glân (15.8%).
Sylwer: Canran cyfanswm yr hysbysebion swyddi ynni glân yn ôl rhanbarth rhwng 2021 a 2024. Mae ‘Swyddi Ynni Glân’ yn cynnwys 8 sector ynni glân sydd wedi’u diffinio gan ymadroddion allweddol.
Ffynhonnell: Dadansoddiad arbrofol DESNZ o ddata hysbysebion swyddi ar-lein Lightcast , 2024.
Gweler y ddogfen dadansoddi hysbysebion swyddi am ragor o fanylion.
Canfyddiadau trawsbynciol
Mae asesiad o’r dystiolaeth sydd ar gael wedi tynnu sylw at y ddibyniaeth ar weithlu medrus iawn i fwrw ymlaen a galluogi ehangu’r sectorau ynni glân ledled y DU. Er bod hyn yn creu cyfleoedd mewn rhai galwedigaethau, mae hefyd yn creu amrywiaeth o heriau cyffredin sy’n effeithio ar y cyflenwad llafur ar draws sectorau ynni glân, yn ogystal â’r economi ehangach.[footnote 13] Mae lefelau cymwysterau yn seiliedig ar ddosbarthiadau safonol ond, yn gyffredinol, po uchaf yw’r lefel, y mwyaf anodd yw’r cymhwyster.[footnote 14]
Cyfleoedd ar gyfer swyddi ynni glân
Mae nifer o alwedigaethau allweddol y disgwylir y bydd galw amdanynt ar draws sectorau ynni glân. Dyma rai enghreifftiau o’r galwedigaethau hyn:
Peirianneg:
Bydd galw mawr am beirianwyr, yn enwedig ar lefel 6 ac uwch, gan gynnwys peirianwyr sifil, mecanyddol a thrydanol mewn sectorau fel gwynt ar y môr, niwclear ac adeiladu peirianneg. Mae rolau peirianneg eraill y mae galw amdanynt yn cynnwys peirianwyr dylunio, cemegol ac amgylcheddol, sy’n dangos cyfle allweddol ar gyfer sgiliau STEM ar draws sectorau ynni glân. Fel arfer, mae angen gradd prifysgol neu radd-brentisiaeth ar beirianwyr lefel 6 ac uwch.
Weldio a chrefftau mecanyddol:
Bydd angen weldwyr mewn nifer o sectorau ynni glân, fel pŵer a rhwydweithiau a CCUS. Mae’r galwedigaethau’n amrywio o weithwyr cymorth weldio lefel 2 i weldwyr trachywir lefel 4 i beirianwyr weldio lefel 6 i 7. Fodd bynnag, mae adroddiadau’r diwydiant yn awgrymu ei bod yn anodd recriwtio ar gyfer gwaith weldio a chrefftau mecanyddol eraill, felly efallai y bydd heriau o ran y cyflenwad llafur.
Crefftau trydanol:
Bydd crefftau trydanol fel trydanwyr a gosodwyr trydanol yn hanfodol ar gyfer targedau datgarboneiddio. Mae’r galw mewn sectorau ynni glân yn amrywio o osodwyr trydanol lefel 2 i 3 mewn rhwydweithiau trydan, rolau trydanol uwch mewn gwynt ar y môr, a chrefftau trydanol lefel 2 i 4 mewn adeiladu peirianneg.
Cynllunio:
Bydd rolau cynllunio yn hanfodol er mwyn cyflawni prosiectau pŵer glân. Yn 2023 i 2024, roedd dros 60% o ymatebion hwyr i geisiadau cynllunio gan Asiantaeth yr Amgylchedd oherwydd adnoddau’r asiantaethau[footnote 15], ac mae Natural England yn yr un modd wedi dweud eu bod am dros 80% o’r amser angen ymestyn dyddiad cau ar gyfer ceisiadau cynllunio.[footnote 16] Mae ymgynghorai statudol arall, Historic England, wedi gweld gostyngiad o 39% yn y gwariant ar wasanaethau treftadaeth mewn Awdurdodau Cynllunio Lleol mewn polisi cynllunio ers 2009/10, sy’n effeithio ar gyflawni datblygiadau.[footnote 17] Mae ymchwil gan Skills Development Scotland yn rhagamcanu twf o 11% yn y sector cynllunio yn yr Alban i gwrdd â’r twf ac i fodloni’r galw am staff newydd o ganlyniad i ymddeoliadau[footnote 18].
Rolau rheoli a galwedigaethau eraill:
Bydd galw am swyddi rheoli ar draws yr holl sectorau ynni glân: o reolwyr prosiect i gyfarwyddwyr a rheolwyr corfforaethol. Bydd y galw am reolwyr prosiectau adeiladu yn arbennig o uchel, gan gynnwys rolau arbenigol newydd, fel cydlynwyr ôl-osod. Er bod cyfleoedd i weithwyr ynni glân presennol symud i rolau rheoli, bydd angen uwchsgilio llawer lle mae angen gwybodaeth am systemau ynni fel adeiladu, rhwydweithiau gwres ac ôl-osod. Dywedodd y rhan fwyaf o sectorau fod galw mawr am swyddi rheoli, yn amrywio o lefelau 3-8, a disgwylir bylchau sgiliau uchel oherwydd heriau o ran caffael y sgiliau gofynnol. Mae sgiliau trosglwyddadwy iawn yn golygu y gallai’r rheini sydd eisoes mewn rolau rheoli ymgymryd â swyddi tebyg mewn sectorau ynni glân. Bydd cyfleoedd hefyd yn bodoli mewn rolau ar draws y sectorau cyfreithiol, cyllid, caffael a gwasanaethau corfforaethol; efallai y bydd rhai rolau angen gwybodaeth arbenigol am y sector.
Mae’r galw am rai o’r swyddi hyn eisoes yn cael ei adlewyrchu yn y gweithlu presennol, gyda bron i chwarter yr hysbysebion am swyddi ynni glân yn dod o dan y galwedigaethau ‘gweithwyr peirianneg proffesiynol’. Mae Ffigur 3 yn dangos y 10 prif alwedigaeth sydd â’r gyfran uchaf o hysbysebion ynni glân. Mae hyn yn dangos mai proffesiynau peirianneg, crefftau trydanol a chrefftau adeiladu yw’r tair prif gyfran o hysbysebion swyddi ynni glân rhwng 2021 a 2024. Er enghraifft, mae tua 24% o’r holl hysbysebion swyddi ynni glân yn weithwyr peirianneg proffesiynol, o’i gymharu â llai na 5% o’r holl hysbysebion swyddi.[footnote 19]
Ffigur 3: Y 10 prif swydd mewn hysbysebion swyddi ynni glân o’i gymharu â pha mor gyffredin yw’r swydd yn yr holl hysbysebion swyddi
Disgrifiad o Ffigur 3: Siart bar o’r 10 prif alwedigaeth mewn hysbysebion swyddi ym maes ynni glân o’i gymharu â pha mor gyffredin yw’r galwedigaethau hynny ymysg yr holl hysbysebion swyddi. Gweithwyr Peirianneg Proffesiynol oedd â’r gyfran uchaf o hysbysebion swyddi ym maes ynni glân (23.8%), o’i gymharu â 3.5% o’r holl swyddi.
Sylwer: Cyfran yr holl hysbysebion swyddi ynni glân yn ôl galwedigaeth (2021-2024). Mae’r galwedigaethau a restrir yn y 10 cyfran ynni glân uchaf sy’n ‘Swyddi Ynni Glân’ yn cynnwys 8 sector ynni glân sydd wedi’u diffinio gan ymadroddion allweddol.
Ffynhonnell: Dadansoddiad arbrofol DESNZ o ddata hysbysebion swyddi ar-lein Lightcast , 2024.
Gweler y ddogfen dadansoddi hysbysebion swyddi am ragor o fanylion.
Bydd angen i’r rhan fwyaf o swyddi ynni glân gael eu llenwi gan y gweithlu presennol, gyda sgiliau ac arbenigedd gweithwyr mewn sectorau carbon-ddwys yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ateb y galw hwnnw. Er enghraifft, mae’r genhadaeth ynni glân yn cynnig cyfle enfawr i ailsgilio a throsglwyddo sgiliau gyda thros 90% o weithlu olew a nwy y DU yn meddu ar sgiliau trosglwyddadwy canolig i uchel i’r sector ynni adnewyddadwy ar y môr.20 20 Prifysgol Robert Gordon (2023) Pweru’r gweithlu.[footnote 20]
Fel y dangosir hefyd mewn dadansoddiad ar wahân gan DESNZ yn siart ochr chwith ffigur 4, mae tebygrwydd cymharol uchel rhwng sgiliau llawer o sectorau ynni carbon-ddwys a glân. Mae hyn yn arbennig o wir am ynni gwynt, solar, niwclear, hydrogen a CCUS. Mae hyn yn awgrymu bod gweithwyr mewn sectorau carbon-ddwys yn debygol o fod â llawer o’r sgiliau angenrheidiol i weithio yn y sectorau ynni glân hyn, fel rheoli prosiectau, peirianneg a sgiliau adeiladu. O ran tebygrwydd sgiliau ar draws sectorau ynni glân, mae’n ymddangos bod hyn yn uchel rhwng CCUS, hydrogen, gwynt a solar. Mae hyn yn golygu y bydd rhai gweithwyr yn parhau i allu symud yn rhwydd rhwng y sectorau hyn o safbwynt sgiliau.[footnote 21]
Ffigur 4: Tebygrwydd rhwng y sgiliau sy’n ofynnol gan hysbysebion swyddi ar-lein ar draws sawl sector ynni glân a charbon-ddwys
Disgrifiad o Ffigur 4: Dau siart map gwres lle mae lefel y tebygrwydd rhwng sgiliau yn cael ei adlewyrchu yn y blychau – po dywyllaf y blwch, yr uchaf yw’r tebygrwydd. Mae’r siart ar y chwith yn cymharu sectorau gweithgynhyrchu a chynhyrchu â sectorau ynni glân. Mae’r siart ar y dde yn cymharu sectorau carbon-ddwys â sectorau ynni glân. Mae’r siartiau’n awgrymu bod modd lefel gymharol uchel o sgiliau trosglwyddadwy rhwng llawer o sectorau carbon-ddwys ac ynni glân.
Sylwer: Dadansoddiad o ddata hysbysebion swyddi ar-lein, rhwng 2021 a 2024. Mae ‘tebygrwydd’ yn cyfeirio at debygrwydd cosin, wedi’i gyfrifo gan ddefnyddio sgiliau a’u hamlygrwydd ar draws grwpiau SIC a sectorau ynni glân. Ystyrir y sectorau traddodiadol canlynol: Adeiladu (Adran F), Dŵr (Adran E), Cyflenwad Trydan a Nwy (Adran D), Gweithgynhyrchu (Adran C), Mwyngloddio heb gynnwys Olew a Nwy (SIC 05.07, 08,099), Olew a Nwy (SIC 06,091). Efallai y bydd cyfran fach o hysbysebion swyddi sy’n perthyn i’r ddau grŵp yn cael eu cymharu.
Ffynhonnell: Dadansoddiad arbrofol DESNZ o ddata hysbysebion swyddi ar-lein Lightcast , 2024.
Gweler y ddogfen dadansoddi hysbysebion swyddi am ragor o fanylion.
Gall swyddi ynni glân gynnig gyrfaoedd o ansawdd uchel sy’n talu’n dda. Fel y gwelir yn ffigur 5, mae’r swyddi hyn yn tueddu i hysbysebu cyflogau sy’n uwch na’r cyfartaledd a hysbysebwyd yn y DU.[footnote 22] Er enghraifft, ym mis Medi 2024, roedd y sector gwynt wedi hysbysebu cyflog blynyddol cyfartalog o ychydig dros £51,000, ac roedd gwres ac adeiladau wedi hysbysebu cyfartaledd o tua £44,000.[footnote 23]
Ffigur 5: Cyflogau cyfartalog a hysbysebwyd ar gyfer hysbysebion swyddi ar-lein mewn sectorau ynni glân ers 2014
Disgrifiad o Ffigur 5: Dau siart map gwres lle mae lefel y tebygrwydd rhwng sgiliau yn cael ei adlewyrchu yn y blychau – po dywyllaf y blwch, yr uchaf yw’r tebygrwydd. Mae’r siart ar y chwith yn cymharu sectorau gweithgynhyrchu a chynhyrchu â sectorau ynni glân. Mae’r siart ar y dde yn cymharu sectorau carbon-ddwys â sectorau ynni glân. Mae’r siartiau’n awgrymu bod modd lefel gymharol uchel o sgiliau trosglwyddadwy rhwng llawer o sectorau carbon-ddwys ac ynni glân.
Sylwer:
- Cyflog misol cyfartalog a hysbysebir ar gyfer hysbysebion swyddi ar-lein (cyfartaledd treigl 12 mis).
- Mae’r llinell doredig yn cynrychioli’r cyflog cyfartalog a hysbysebir ar draws pob hysbyseb swydd ar-lein.
- Bydd y llinell doredig hefyd yn cynnwys hysbysebion swyddi ynni glân
- Mae’r cyflogau a hysbysebir yn rhai nominal (heb addasu ar gyfer chwyddiant)
Ffynhonnell: Dadansoddiad arbrofol DESNZ o ddata hysbysebion swyddi ar-lein Lightcast , 2024.
Gweler y ddogfen dadansoddi hysbysebion swyddi am ragor o fanylion.
Heriau cyffredin
Er bod pob sector yn unigryw o ran y rhwystrau sy’n wynebu eu hanghenion o ran swyddi a sgiliau, mae heriau cyffredin sy’n torri ar draws sectorau ynni glân, yn ogystal â heriau cyffredin ar draws yr economi ehangach. Dyma rai o’r heriau cyffredin sy’n effeithio ar sectorau ynni glân:
Cystadleuaeth am Sgiliau:
Mae pob sector yn wynebu heriau o ran dod o hyd i weithwyr sydd â’r sgiliau cywir i ymgymryd â rolau, ond gall yr her fod yn arbennig o acíwt ar gyfer rhai sgiliau mewn sectorau ynni glân. Fel y nodwyd uchod, bydd galw cynyddol yn y farchnad swyddi ynni glân ar draws amrywiaeth o rolau, ond bydd galw hefyd am weithwyr cymwysedig yn y rolau hyn gan sectorau eraill sy’n cystadlu. Mae’r heriau sgiliau acíwt a ragwelir ar draws sectorau ynni glân yn cynnwys STEM, sgiliau annhechnegol fel arwain a rheoli, digideiddio, a sgiliau arbenigol a neilltuol sy’n benodol i’r sector fel sgiliau ar gyfer trydaneiddio a gosod pympiau gwres. Bydd yr heriau hyn yn cael eu gwaethygu gan brinderau presennol ar draws yr economi ehangach.
Ymwybyddiaeth o gyfleoedd:
Mae ymchwil wedi tynnu sylw at ddealltwriaeth wael ymysg y cyhoedd o gyfleoedd allweddol a llwybrau gyrfa ar gyfer swyddi ym maes ynni glân. Er enghraifft, canfu WorldSkills UK nad oedd 63% o’r rheini rhwng 16 a 24 oed erioed wedi clywed am sgiliau gwyrdd ac nad oeddent yn gwybod beth ydyn nhw,[footnote 24] tra bod Public First wedi canfod mai dim ond 27% o’r holl bobl ifanc sydd wedi clywed y term ‘swyddi gwyrdd’ sy’n gallu egluro beth mae’n ei olygu.[footnote 25] Canfu WorldSkills UK hefyd fod tua dwy ran o dair o bobl ifanc eisiau mwy o adnoddau i gynyddu eu hymwybyddiaeth o lwybrau gyrfa werdd. Y tu hwnt i ymwybyddiaeth o gyfleoedd yn yr economi ynni glân, mae’n hanfodol bod y swyddi hyn yn cael eu hystyried yn ddeniadol, gyda llawer o sectorau’n adrodd bod gwybodaeth gyfyngedig am yr amgylchedd gwaith a thybiaethau amdano yn gallu golygu bod sectorau’n cael eu hystyried yn llai dymunol i weithio ynddynt. Gellir disgwyl i ymwybyddiaeth a chanfyddiadau gwael o swyddi gwyrdd arwain at lefel is o ymgymryd â darpariaeth sgiliau a hyfforddiant i gael y swyddi hynny.
Cydraddoldeb ac amrywiaeth:
Mae llawer o sectorau’n dweud nad oes amrywiaeth mewn swyddi ynni glân. Er enghraifft, mae menywod yn cyfrif am ddim ond un rhan o bump o’r gweithlu niwclear[footnote 26], a 21% o wynt ar y môr.[footnote 27] Wrth edrych ar alwedigaethau enghreifftiol sy’n hanfodol i sectorau ynni glân, amcangyfrifir mai dim ond 26% o gyfanswm y gweithlu STEM sy’n fenywod;[footnote 28] ar gyfer rolau peirianneg, mae hyn yn disgyn i 15.7%.[footnote 29] Mae menywod hefyd yn cael eu tangynrychioli’n sylweddol yn y cyrsiau hyfforddi sy’n arwain at swyddi ynni glân, fel prentisiaethau STEM a graddau prifysgol, sy’n golygu na fydd y llif presennol o weithwyr yn datrys y broblem hon. Mae’r rheini o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig hefyd yn cael eu tangynrychioli mewn sectorau ynni glân o’u cymharu â demograffeg genedlaethol (19.3%)[footnote 30], sydd ond yn cyfrif am 7% o’r gweithlu gwynt ar y môr[footnote 31] a 5% o’r gweithlu pympiau gwres.[footnote 32] Er bod y dystiolaeth ynghylch cyfran y gweithwyr ag anableddau mewn sectorau ynni glân yn gyfyngedig, mae’r adroddiadau sydd ar gael yn awgrymu cynrychiolaeth isel, gan gynnwys 5.6% o weithwyr ym maes niwclear[footnote 33] a 7% ym maes pympiau gwres.[footnote 34] Mae’r dystiolaeth ynghylch symudedd cymdeithasol mewn sectorau ynni glân hefyd yn gyfyngedig iawn, er y gallai cynrychiolaeth economaidd-gymdeithasol gael ei heffeithio gan faterion yn yr economi ehangach, er enghraifft daw 41% o beirianwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch, o’i gymharu â 33% o gyfanswm y gweithlu.[footnote 35] Mae gwella amrywiaeth y gweithlu ynni glân yn hanfodol werthfawr er mwyn sicrhau bod y rhai o gefndiroedd a dangynrychiolir yn gallu cael mynediad at swyddi sgiliedig, gwerthfawr sydd wedi’u diogelu at y dyfodol. Mae’r heriau hyn yn golygu nad ydym yn defnyddio talent ac uchelgeisiau gweithlu cyfan y DU yn llawn.
Gweithlu sy’n heneiddio ac yn ymddeol:
Mae gan y DU weithlu sy’n heneiddio, gydag 1 o bob 3 gweithiwr dros 50.[footnote 36] Mae hyn hefyd yn wir ar draws nifer o sectorau ynni glân fel adeiladu peirianneg lle mae 38% o’r gweithlu dros 50 oed[footnote 37] a phympiau gwres gyda dwy ran o dair o’r gosodwyr dros 45 oed.[footnote 38] Mae llawer o unigolion sydd â’r sgiliau ynni glân gofynnol naill ai wedi gadael y gweithlu neu’n ymddeol yn fuan, sy’n gofyn am uwchsgilio’n gyflym i gyfyngu ar y diffyg sy’n deillio o athreuliad gweithlu sy’n ymddeol.
Rhwystrau rhag hyfforddi:
Mae prinder sgiliau yn cael ei effeithio gan gyfyngiad ar gapasiti hyfforddi. Mae cyflogwyr wedi nodi sawl rhwystr o fewn darpariaethau hyfforddi ac uwchsgilio, gan gynnwys prinder athrawon a staff sydd eu hangen i hwyluso rhaglenni hyfforddi’n ddigonol. Mae cyflogwyr hefyd yn adrodd am gapasiti adnoddau dynol cyfyngedig ymysg cwmnïau micro a busnesau bach a chanolig i drefnu hyfforddiant ac ymgysylltu â chynigion gweithlu. Efallai y bydd cyflogwyr hefyd yn cael eu datgymell gan gost a gwaith gweinyddol uwchsgilio staff neu efallai y byddant yn ei chael yn anodd neilltuo amser i ymgymryd â hyfforddiant. Mae’r nifer sy’n manteisio ar hyfforddiant yn dibynnu’n drwm ar y ffaith bod galw parhaus clir am y sgiliau y byddai gweithwyr yn eu hennill, her sy’n fwy dwys i sectorau sydd â phresenoldeb mawr o fusnesau bach a chanolig. Mae’r heriau hyn, ynghyd â nifer o sbardunau eraill, wedi cyfrannu at ddirywiad cyson mewn buddsoddiad cyflogwyr mewn hyfforddiant dros y degawd diwethaf, gyda buddsoddiad termau real fesul gweithiwr i lawr 19% ers 2011.[footnote 39] Mae darparu hyfforddiant yn dibynnu ar alw clir a defnydd parhaus gan gyflogwyr.
Nodweddion y sector
Tabl A: Crynodeb o rai o’r nodweddion allweddol a ganfuwyd ar draws sectorau ynni glân a rhai o’r heriau mwy acíwt a phwysig o ran y gweithlu
Mae’r amcangyfrifon gweithlu yn cael eu crynhoi o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys cyflogwyr drwy asesiadau o’r gweithlu, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a dadansoddiad y llywodraeth.
Sector | Nodweddion y Gweithlu | Tueddiadau’r Sector | Y Prif Heriau Gweithlu |
---|---|---|---|
Gwynt ar y Môr [footnote 40] | – Cyfartaledd oedran gweithlu o 40 (2023) – Mae 20.6% o’r gweithlu yn fenywod (2023) (2023) – Mae 7% o’r gweithlu o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig (2023) |
– Mae bron i 30% o’r gweithlu yn yr Alban; ac yna Humber (16%) a Llundain (15%) (2023) – Mae 2.6% o’r gweithlu yn brentisiaid (yn rhagori ar darged y sector o 2.5% erbyn 2030) (2023) |
– Marchnad lafur gystadleuol gyda gweithwyr medrus yn cael eu denu i sectorau eraill a chystadlu’n rhyngwladol am weithlu medrus. – Angen dybryd i hyfforddi’r genhedlaeth iau i sicrhau cyflenwad o dalent tymor hir – yn enwedig mewn STEM gyda dros 60% o swyddi yn y sector yn gofyn am sgiliau STEM. |
Gwynt ar y tir [footnote 41] | Tystiolaeth gyfyngedig ar nodweddion y gweithlu. | – Mae llawer o’r ffermydd gwynt yn y broses gynllunio mewn ardaloedd anghysbell. | – Cystadleuaeth gyda phrosiectau seilwaith mawr eraill, yn enwedig ar gyfer sgiliau adeiladu a pheirianneg. – Mae gwynt ar y môr hefyd yn dylanwadu’n drwm ar y sector, sy’n defnyddio llawer o’r un sgiliau. |
Solar [footnote 42] | Tystiolaeth gyfyngedig ar nodweddion y gweithlu. | – Mae meintiau prosiectau yn ymestyn o safleoedd paneli solar ar raddfa fawr i systemau domestig ar ben y to. | – Gall diffyg yn nifer y trydanwyr sy’n dod drwy hyfforddiant electrodechnegol effeithio ar recriwtio yn y sector solar. |
Niwclear [footnote 43] | – Mae 10% o’r gweithlu sifil ac amddiffyn yn 60 oed neu’n hŷn (2023) – Mae 26.4% o’r gweithlu niwclear sifil yn fenywod. Mae hyn yn gostwng i 20% mewn meysydd STEM ond mae’n codi i 45.3% mewn meysydd nad ydynt yn STEM (2023) – Mae 87.6% o’r gweithlu sifil ac amddiffyn yn wyn (2023) – Mae 5.6% o’r gweithlu sifil ac amddiffyn yn anabl (2023) |
– Swyddi wedi’u cronni o gwmpas gorsafoedd pŵer niwclear a safleoedd yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear. | – Angen dybryd i hyfforddi ynghyd ag amseroedd arwain hir sydd eu hangen i hyfforddi ar gyfer rolau arbenigol a chael digon o brofiad i weithio ar lefelau sgiliau uchel. – Anawsterau posibl wrth recriwtio arbenigwyr pwnc o’r farchnad gyflogaeth ehangach, sydd fel arfer angen 10 mlynedd neu fwy o brofiad. [footnote 44] |
Rhwydweithiau trydan [footnote 45] | – Gweithlu sy’n heneiddio mewn rolau crefft a pheirianneg – Mae 22% o’r gweithlu ynni a chyfleustodau yn fenywod (2022) – Mae 10% o’r gweithlu ynni a chyfleustodau o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig (2022) [footnote 46] |
– Buddsoddiad sylweddol yn dod ar gyfer ehangu ac uwchraddio’r grid ac i ddelio â chysylltiadau newydd o ynni adnewyddadwy. | – Diffyg gwelededd y diwydiant i newydd-ddyfodiaid posibl, sy’n cael ei waethygu gan lif cyfyngedig o bobl ifanc sy’n dewis cymwysterau STEM. – Cystadleuaeth ar gyfer gweithwyr cymwysedig, yn enwedig ar gyfer rolau STEM, gyda diwydiannau eraill fel cyllid a thechnoleg. |
Systemau Clyfar a Hyblygrwydd [footnote 47] | Tystiolaeth gyfyngedig ar nodweddion y gweithlu. | – Cysylltiedig ar lefel leol, gyda rhai systemau integredig yn cwmpasu nifer o awdurdodau lleol. | – Mae’r bylchau mewn sgiliau yn arbennig o amlwg mewn rhai awdurdodau lleol, gyda heriau’n aml yn cael eu gwaethygu gan natur amrywiol systemau ynni lleol integredig. |
Effeithlonrwydd Ynni ac ôl-osod [footnote 48] | – Cynrychiolaeth isel o fenywod mewn crefftau ymarferol, ond yn ddiweddar mae mwy wedi manteisio ar raglenni hyfforddi sydd wedi arwain at gynnydd yn nifer y menywod sy’n symud ymlaen i alwedigaethau proffesiynol. | – Yn dameidiog gyda llawer o fusnesau bach a chanolig yn gweithredu mewn cadwyni cyflenwi rhanbarthol bach. – Dibyniaeth ar is-gontractwyr hunangyflogedig ar gyfer rhai crefftau. |
– Lefelau isel o ran cadw staff a dilyn gyrfa oherwydd diffyg llwybrau sydd wedi’u gwreiddio a’u diffinio’n glir. – Hyrwyddo gwael o ran gyrfaoedd ymysg newydd-ddyfodiaid a’r gweithlu presennol. |
Pympiau gwres [footnote 49] | – Dwy ran o dair o’r gweithlu gosod yn 45 oed neu’n hŷn (2023) – Mae 95% yn ddynion ac yn wyn (2023) – Mae 7% yn anabl (2023) |
– Mae bron 95% o fusnesau gwresogi ac oeri yn unig fasnachwyr neu’n ficrofusnesau (2023) | – Mae’r ansicrwydd ynghylch beth fydd yn disodli systemau gwresogi nwy yn atal busnesau llai rhag buddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant sydd eu hangen, gyda dim ond 40% o osodwyr yn disgwyl i’r galw am foeleri nwy ostwng yn ystod y 10 mlynedd nesaf. [footnote 50] |
Biomethan | Tystiolaeth gyfyngedig ar nodweddion y gweithlu. | – Cefnogi swyddi mewn ardaloedd gwledig. – 80% o holl orsafoedd Prydain Fawr wedi’u lleoli mewn ardaloedd sydd â gwerth ychwanegol gros is na’r cyfartaledd. [footnote 51] |
– Mynediad cyfyngedig at lafur medrus ar gyfer rolau arbenigol iawn. – Problemau o ran denu’r sgiliau sydd eu hangen, wedi’u hachosi gan ymwybyddiaeth wael o gyfleoedd yn y sector. [footnote 52] |
Rhwydweithiau gwresogi | – 25% o’r gweithlu dros 50 oed (2023) (oedran cymedrig yw 37.1 ar gyfer benywod a 42.5 ar gyfer dynion) – Mae 19% o’r gweithlu yn fenywod (2023) – Cynrychiolaeth gymharol gyfyngedig o leiafrifoedd ethnig. [footnote 53] |
– Marchnad rhwydwaith gwres cymharol anaeddfed ond yn tyfu ledled y DU. | – Darpariaeth gyfyngedig o fodiwlau rhwydwaith gwres mewn addysg uwch, gan gyfyngu ar gyfleoedd i gael dealltwriaeth o systemau cyfan. – Ymwybyddiaeth wael o’r diwydiant ymhlith myfyrwyr. [footnote 54] |
CCUS [footnote 55] | – Mae angen gweithlu adeiladu ar y tir a gweithlu ar y môr – sgiliau’n gorgyffwrdd llawer â sectorau eraill gan gynnwys olew a nwy. – Tystiolaeth gyfyngedig ar nodweddion y gweithlu. |
– Bydd llawer o swyddi’n clystyru mewn rhanbarthau, fel arfer mewn cadarnleoedd diwydiannol. | – Cystadleuaeth am sgiliau gyda sectorau eraill a chystadleuaeth ranbarthol am sgiliau uwch hanfodol. – Ymwybyddiaeth wael o gyfleoedd yn y sector, gan gynnwys sut gallai llwybrau hyfforddi presennol arwain at swyddi CCUS. |
Hydrogen [footnote 56] | – Mae llawer o’r rolau sydd eu hangen yn yr economi hydrogen yn swyddi STEM a fydd yn cael eu heffeithio gan brinder sgiliau STEM ar draws yr economi ehangach. – Heb ddull gweithredu gwahanol, bydd y gwahaniaeth o ran rhywedd a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ym maes adeiladu, gweithgynhyrchu a chynhyrchu yn parhau. |
– Bydd llawer o swyddi’n clystyru mewn rhanbarthau, fel arfer mewn cadarnleoedd diwydiannol. – Fel sector sy’n dod i’r amlwg, mae’r gyfradd arloesi yn sylweddol. |
– Risg y gallai’r sector golli adnoddau staff i waith adeiladu prosiectau seilwaith pŵer eraill ar unwaith. – Nid yw’r swyddi y mae hydrogen yn effeithio arnynt yn cael eu deall yn eang eto; bydd mynegi’r cymwyseddau sydd eu hangen yn gynnar yn hanfodol ar gyfer mabwysiadu technoleg newydd yn amserol. – Eglurder cyfyngedig rhwng hyfforddiant a swyddi, ac ymwybyddiaeth wael o gyfleoedd yn y sector. |
Adeiladu [footnote 57] | – 25% o weithwyr adeiladu â llaw dros 55 oed (2023) – 13% yn fenywod, ond dim ond 2% mewn crefftau (2023) – 91.2% yn wyn (2024) [footnote 58] |
– Cyfran uchel o fusnesau bach a chanolig a gweithlu symudol hunangyflogedig. – Mae’r sector yn gweithredu mewn capasiti trawsbynciol, gyda llawer o’r setiau sgiliau sydd eu hangen ar draws y sectorau ynni glân a’r economi ehangach. |
– Diffyg amrywiaeth a chanfyddiadau ffug bod adeiladu yn waith â chyflog isel a sgiliau isel yn datgymell newydd-ddyfodiaid ifanc. – Dim ond 27% o gyflogwyr adeiladu a oedd yn cyflogi prentisiaid yn 2021, tra bod cyfran y cyflogwyr sy’n hyfforddi unrhyw staff wedi disgyn o 67% yn 2018 i 42% yn 2021. [footnote 59] – Mae cyflogwyr adeiladu, yn fwy na llawer o gyflogwyr eraill, yn gweld bod llawer o recriwtiaid ifanc wedi’u paratoi’n wael ar gyfer gwaith. |
Adeiladu Peirianneg | – 38% yn 50 oed a hŷn; 14% o dan 29 oed (2021) – 86% yn ddynion (2021) – 96% yn wyn (2021) [footnote 60] |
Mae’r sector yn gweithredu mewn capasiti trawsbynciol, gyda llawer o’r setiau sgiliau sydd eu hangen ar draws y sectorau ynni glân a’r economi ehangach. | – Amrywiaeth wael ar draws y gweithlu peirianneg ehangach, er enghraifft dim ond 15.7% o’r gweithlu peirianneg oedd yn fenywod yn 2023. [footnote 61] |
Canfyddiadau’r sector
Roedd asesiadau o’r gweithlu a gwblhawyd gan grwpiau Gorchwyl a Gorffen dan arweiniad cyflogwyr yn ystod haf 2023 wedi nodi cyfleoedd a heriau ar draws sectorau. Roedd rhai o’r grwpiau hyn hefyd wedi cynhyrchu mapiau gwres gan ddefnyddio dulliau amrywiol. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran fethodoleg. Mae amcangyfrifon gweithlu wedi cael eu cynhyrchu gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau ac maent yn seiliedig ar dybiaethau amrywiol, a allai arwain at gyfrif ddwywaith ar draws sectorau mewn rhai achosion. Dylid bod yn ofalus i beidio â defnyddio’r amcangyfrifon hyn i gynhyrchu cyfanswm gan na fydd hyn yn gynrychiolaeth gywir o’r gweithlu ynni glân presennol na’r gweithlu ynni glân yn y dyfodol.
Pŵer a rhwydweithiau[footnote 62]
Sefydlwyd y grŵp Pŵer a Rhwydweithiau fel grŵp Gorchwyl a Gorffen peilot. Cafodd ei arwain gan EDF ac Energy and Utility Skills a’i gefnogi gan gyflogwyr a chyrff eraill yn y diwydiant. Roedd y grŵp Pŵer a Rhwydweithiau yn canolbwyntio ar adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw’r seilwaith sydd ei angen i gynhyrchu a dosbarthu anghenion pŵer sero net, gan gynnwys gwynt ar y môr ac ar y tir a niwclear, ynghyd â rhwydweithiau trydan, adeiladu ac adeiladu peirianneg.[footnote 63]
Ffigur 6: Safbwynt cyfunol gan gyrff sgiliau’r diwydiant am y galw am weithlu a’r anhawster canfyddedig o ran caffael sgiliau ar draws sectorau pŵer a rhwydwaith hyd at 2025
Disgrifiad o Ffigur 6: Map gwres o alwedigaethau hanfodol yn dangos yr anawsterau recriwtio (echelin y) o’i gymharu â graddfa’r galw (echelin x) ar draws y sector ynni a rhwydweithiau. Dangosir mai crefftwyr weldio lefel 2 i 3 a lefel 6 i 7, crefftwyr mecanyddol lefel 2 i 4, a pheirianwyr lefel 6 i 7 yw’r rhai anoddaf eu recriwtio ac mai am y rhain mae’r galw mwyaf.
Gwynt[footnote 64]
Amcangyfrifwyd bod cyflogaeth uniongyrchol mewn gwynt ar y môr yn tua 11,300 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn 2022, ac yn uniongyrchol yn cefnogi hyd at 28,900 o swyddi cyfwerth ag amser llawn eraill ar draws y gadwyn gyflenwi ehangach.[footnote 65] Amcangyfrifodd y diwydiant fod y gweithlu gwynt ar y môr, gan gynnwys cadwyni cyflenwi, yn 32,000 yn 2022.[footnote 66] Amcangyfrifwyd bod cyflogaeth uniongyrchol mewn gwynt ar y tir yn tua 6,600 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn 2022, ac yn uniongyrchol yn cefnogi hyd at 13,100 o swyddi cyfwerth ag amser ar draws y gadwyn gyflenwi ehangach.[footnote 67] Bydd cyflogaeth yn y ddwy sector yn cynyddu wrth i’r defnydd o wynt gynyddu.
Mae amcangyfrifon y Llywodraeth wedi awgrymu o’r blaen y gallai hyd at 90,000 o swyddi yn y DU gael eu cefnogi gan y sector gwynt ar y môr erbyn 2030.[footnote 68] Yn yr un modd, mae rhagolwg gan Gyngor y Diwydiant Gwynt ar y Môr sy’n seiliedig ar brosiectau presennol yn amcangyfrif y gallai fod angen mwy na 100,000 o swyddi medrus ledled y DU erbyn 2030.[footnote 69] Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth yr Alban yn tynnu sylw at amcangyfrif y gallai’r sector gwynt ar y môr gefnogi 10,400-54,000 o swyddi yn yr Alban erbyn 2030.[footnote 70]
Mae’r sector gwynt ar y môr yn nodi bylchau sgiliau parhaus mewn sgiliau trydanol, digidol a chydsynio lefel uchel, ynghyd â sgiliau morol a sgiliau sy’n gysylltiedig â phorthladdoedd, gyda phrinder galwedigaethol cysylltiedig gan gynnwys Uwch Bersonau Awdurdodedig, dadansoddwyr data a gwyddonwyr, a rheoleiddwyr. Yn y tymor hir, disgwylir cynnydd yn y galw am y sgiliau hyn yn ogystal â sgiliau technegol a pheirianneg drydanol, arbenigeddau digidol lefel uchel, rheoli prosiectau, logisteg ar y môr ac ar y tir, ac adnoddau adeiladu ar gyfer prosiectau gwynt arnofiol.
Ar sail ymgysylltiad rhanddeiliaid â’r sector gwynt ar y tir yn yr Alban, mae cystadleuaeth sylweddol am weithwyr medrus a phrofiadol ar draws amrywiaeth o rolau, gyda phrinder sgiliau penodol yn cael ei nodi ar gyfer technegwyr tyrbinau gwynt, peirianwyr foltedd uchel, swyddogion cynllunio, ymgynghorwyr arbenigol, sifil ac adeiladu, a sgiliau digidol.[footnote 71]
Mae gwynt ar y môr ac ar y tir yn rhannu llawer o’r un gofynion sgiliau a all waethygu cyfyngiadau llafur, ac eithrio rolau morol. Mae gwahaniaethau yn y ffordd y caiff hyn ei gymhwyso drwy waith sifil a gweithrediadau a chynnal a chadw o ystyried natur annaearol gwynt ar y môr.
Ffigur 7: Disgwylir y bydd rolau cydsynio a thrydanol yn anodd iawn i’w recriwtio ar gyfer gwynt ar y môr, a rhagwelir y bydd galw am swyddi rheoli a gweithrediadau medrus ac uwch erbyn 2030
Disgrifiad o Ffigur 7: Map gwres o alwedigaethau hanfodol yn dangos yr anawsterau recriwtio (echelin y) o’i gymharu â graddfa’r galw (echelin x) ar draws y sector ynni a rhwydweithiau. Dangosir mai crefftwyr weldio lefel 2 i 3 a lefel 6 i 7, crefftwyr mecanyddol lefel 2 i 4, a pheirianwyr lefel 6 i 7 yw’r rhai anoddaf eu recriwtio ac mai am y rhain mae’r galw mwyaf.
Ym Medi 2024, cyrhaeddodd y cyflog canolrifol a hysbysebwyd ar gyfer y sector gwynt gyfartaledd treigl o £51,000.[footnote 72]
Solar
Amcangyfrifwyd bod y sector solar yn cyflogi 9,000 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn yn uniongyrchol yn 2022.[footnote 73]
Mae natur y sector solar yn wahanol, ac mae’n gweithredu ar draws y marchnadoedd domestig, masnachol, diwydiannol a chyfleustodau. Mae’r gweithrediadau hyn yn cynnwys sbectrwm eang o rolau technegol ac annhechnegol ar draws y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys gosod, cynnal a chadw, cynllunio, rheoli tir a storfeydd batris.
Rhagwelir y bydd y gofyniad recriwtio yn arbennig o uchel ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gwyddoniaeth, ymchwil, peirianneg a thechnoleg (lefel 6); gweithwyr proffesiynol cyswllt busnes a gwasanaethau cyhoeddus (lefel 4 i 5); a chrefftau metel, trydanol ac electronig medrus (lefel 3). Ar ben hynny, disgwylir cyfran uchel o athreuliad oherwydd ymddeoliad ar draws nifer o alwedigaethau gan gynnwys crefftau amaethyddol medrus a chrefftau cysylltiedig (lefel 3), a rheolwyr a chyfarwyddwyr corfforaethol (lefel 7 i 8).[footnote 74]
Ym Medi 2024, cyrhaeddodd y cyflog canolrifol a hysbysebwyd ar gyfer y sector solar gyfartaledd treigl o £48,000.[footnote 75]
Niwclear[footnote 76]
Amcangyfrifwyd bod y gweithlu niwclear sifil ac amddiffyn ehangach yn cefnogi tua 83,000 o swyddi yn 2023. Fodd bynnag, mae modelu’r Grŵp Cyflawni Sgiliau Niwclear (NSDG) o ragolygon y diwydiant yn awgrymu y gallai fod angen tua 120,000 o weithwyr ar y sectorau erbyn dechrau’r 2030au.[footnote 77] Mae’r galw am weithlu ym maes niwclear sifil ar hyn o bryd yn uwch nag ym maes amddiffyn oherwydd adeiladu Hinkley Point C, ond disgwylir i hyn newid dros amser pan fydd gweithlu gweithredol arbenigol llai yn cymryd lle’r gweithlu adeiladu mewn cyfnodau brig.
Bydd angen i’r sector ystyried camau gweithredu i gynyddu ystod eang o sgiliau, gan gynnwys sgiliau technegol a niwclear uwch, sgiliau ar gyfer y rheini sy’n cael eu cyflogi i gynnal a rheoli deunyddiau alffa yn ddiogel fel Plwtoniwm, a sgiliau trosglwyddadwy fel sgiliau masnachol, rheoli prosiectau a chyllid. Mae ymateb parhaus i’r her hon ar waith drwy’r Cynllun Strategol Niwclear Cenedlaethol ar gyfer Sgiliau. Rydym yn gweithio gyda diwydiant i gyflwyno blwyddyn gyntaf y rhaglen 10 mlynedd hon, ac rydym ar y trywydd iawn ar gyfer dyblu graddedigion a phrentisiaid, ac yn symud tuag at sicrhau pedair gwaith gymaint o PhDau. Rydym wedi sefydlu gwaith cydweithredol na welwyd ei debyg o’r blaen, gan gynnwys Ymgyrch Gyfathrebu Genedlaethol, Hybiau Rhanbarthol (sy’n canolbwyntio ar alwadau rhanbarthol) a chynllun symudedd.
Ffigur 8: Disgwylir y bydd galw mawr am dwnelwyr, rolau cynllunio a rheoli prosiectau, ac amrywiaeth o rolau peirianneg, ac y byddent yn anodd i’w recriwtio ar gyfer niwclear hyd at 2030
Disgrifiad o Ffigur 8:Map gwres o alwedigaethau hanfodol yn dangos yr anawsterau recriwtio (echelin y) o’i gymharu â graddfa’r galw (echelin x) ar draws y sector niwclear. Dangosir bod galw mawr am dwnelwyr, cynllunwyr a rheolwyr prosiectau, ac amrywiaeth o rolau peirianneg, a’u bod yn anodd eu recriwtio ym maes niwclear.
Ym Medi 2024, cyrhaeddodd y cyflog canolrifol a hysbysebwyd ar gyfer y sector niwclear gyfartaledd treigl o £51,000.[footnote 78]
Rhwydweithiau trydan[footnote 79]
Gallai atgyfnerthu rhwydweithiau trydan ar y tir Prydain Fawr i gyrraedd sero net gefnogi 50,000-130,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn ychwanegol yn uniongyrchol erbyn 2050[footnote 80]. Bydd prosiectau atgyfnerthu sy’n gysylltiedig â llwythi yn cefnogi creu swyddi ar draws peirianneg, gweithwyr proffesiynol ym maes TG, gwyddonwyr ffisegol a gweithwyr amgylcheddol proffesiynol, rheolwyr prosiectau, syrfewyr siartredig a rheolwyr ansawdd, gosodwyr gwaith metel a chynnal a chadw. Bydd y prosiectau hyn hefyd yn gofyn am amrywiaeth o sgiliau gan gynnwys arbenigwyr mewn adeiladu gwyrdd, sgiliau digidol, a dadansoddi data.
Ffigur 9: Disgwylir i’r bylchau mwyaf yn y gweithlu fod ar gyfer arbenigwyr/peirianwyr lefel 6, rheolwyr lefel 6 a crefftwr aml-sgiliedig lefel 3 ar gyfer rhwydweithiau trydan hyd at 2030
Disgrifiad o Ffigur 9: Map gwres o alwedigaethau hanfodol yn dangos yr anawsterau recriwtio (echelin y) o’i gymharu â graddfa’r galw (echelin x) ar draws y sector rhwydweithiau trydan. Dangosir bod galw mawr am beirianwyr lefel 6 a chrefftwyr aml-sgil lefel 3, a’u bod yn anodd eu recriwtio.
Ym Medi 2024, cyrhaeddodd y cyflog canolrifol a hysbysebwyd ar gyfer y sector rhwydweithiau trydan gyfartaledd treigl o £51,000.[footnote 81]
Systemau clyfar a hyblygrwydd[footnote 82]
Amcangyfrifodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol weithlu uniongyrchol o 21,200 cyfwerth ag amser llawn ar draws y sector yn y DU yn 2022. Roedd yr amcangyfrif hwn yn cynnwys 5,600 a gyflogir ym maes celloedd tanwydd a systemau storio ynni a 15,600 arall mewn systemau monitro, arbed neu reoli ynni.[footnote 83]
Disgwylir galw sylweddol yn y dyfodol am y rolau canlynol: ffitwyr a gosodwyr, rheolwyr ynni, rheolwyr prosiect, gwyddonwyr data, arbenigwyr data a digidol, arbenigwyr technegol ac arbenigwyr y farchnad ynni, polisi a rheoleiddwyr.[footnote 84] Bydd darparu hyblygrwydd yn ein system ynni yn gofyn am weithlu medrus o ansawdd uchel, gyda swyddi sy’n croesi nifer o sectorau. Er enghraifft, mae sgiliau fel rheoli data a pheirianneg meddalwedd yn hanfodol ar gyfer peiriannydd meddalwedd sy’n gweithio yn y maes cludo ond maent hefyd yn angenrheidiol ar gyfer rhyng-gysylltu hwb gwefru cerbydau trydan fflyd danfon nwyddau â’r system bŵer.[footnote 85]
Mae sgiliau allweddol eraill y mae galw amdanynt yn cynnwys rheoli a chydlynu, technegol a dadansoddi, polisi, cyfreithiol a rheoleiddio, sgiliau ffisegol a chrefftau, a sgiliau meddal. Wrth i’r sector ynni ddod yn fwy digidol, bydd llawer o gymwysiadau ar gyfer gwyddor data fel deall y galw gan ddefnyddwyr a galluogi defnyddio rhwydweithiau’n fwy effeithiol.
Ym Medi 2024, cyrhaeddodd y cyflog canolrifol a hysbysebwyd ar gyfer y sector systemau clyfar a hyblygrwydd gyfartaledd treigl o £50,000.[footnote 86]
Gwres ac adeiladau
Cafodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gwres ac Adeiladau gydag Adeiladu ei gyd-gadeirio gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) a’r Cynllun Tystysgrifau Microgynhyrchu (MCS). Roedd yn cynnwys effeithlonrwydd ynni ac ôl-ffitio, pympiau gwres, biomethan, a rhwydweithiau gwres, ynghyd ag adeiladu.
Ym Medi 2024, cyrhaeddodd y cyflog canolrifol a hysbysebwyd ar gyfer y sector gwres ac adeiladau gyfartaledd treigl o £44,000.[footnote 87]
Effeithlonrwydd ynni ac ôl-ffitio[footnote 88]
Mae risgiau o brinder ar draws yr holl alwedigaethau allweddol gan gynnwys aseswyr, technegwyr waliau solet, gosodwyr toeau, technegwyr lloriau, a thechnegwyr inswleiddio waliau ceudod. Mae cynnydd mawr yn y galw yn peri pryder arbennig mewn perthynas â staff cymorth y gadwyn gyflenwi – yn bennaf ymysg gweithwyr ôl-osod proffesiynol gan gynnwys cydlynwyr a dylunwyr o ystyried y diffyg hyfforddwyr, aseswyr a llwybrau at gymhwysedd yn y sector.[footnote 89]
Mae cyfyngiad amser ar y galw yn y sector hwn, sy’n golygu bod angen ystyried dilyniannu gofynion gan weithgareddau adeiladu cysylltiedig. Mae yna ddibyniaeth ar is-gontractwyr hunangyflogedig ar gyfer rhai crefftau, gan gynnwys gweithwyr rendro inswleiddio waliau allanol, ac mae sectorau eraill fel plastro a leinio sych yn cystadlu am y sgiliau hyn y gellir eu trosglwyddo’n rhwydd.
Pympiau gwres[footnote 90]
Mae’r Gymdeithas Pympiau Gwres (HPA) yn amcangyfrif bod y gweithlu gosodwyr pympiau gwres yn cynnwys rhwng 4,000 a 10,000 o osodwyr hyfforddedig a gweithredol yn 2023. Mae’r HPA yn amcangyfrif bod bron i 18,000 o unigolion wedi cwblhau hyfforddiant gosod pympiau gwres yn llwyddiannus yn y DU ers dechrau 2022. Bydd llawer o’r hyfforddeion hyn wedi mynd ymlaen i fod yn osodwyr gweithredol, ond nid pob un.[footnote 91] Amcangyfrifir bod y gweithlu yn cyfateb y galw presennol. Fodd bynnag, mae’r HPA yn amcangyfrif y bydd angen i nifer y gosodwyr pympiau gwres gynyddu i tua 70,000 o unigolion cyfwerth ag amser llawn erbyn 2035 er mwyn bodloni’r galw yn y dyfodol.[footnote 92] Yn ôl yr HPA, byddai hyn yn golygu hyfforddi o leiaf 6,600 o osodwyr bob blwyddyn tan 2028, a 12,800 rhwng 2028 a 2035.
Cwblhaodd bron i 8,000 o unigolion hyfforddiant yn 2023, felly rydyn ni’n cyfateb yn dda i anghenion hyfforddi presennol y gweithlu.[footnote 93]
Mae gan osodwyr olew a nwy profiadol eisoes lawer o’r sgiliau sydd eu hangen i osod gwres carbon isel a gallant hyfforddi i wneud hynny mewn wythnos neu lai. Ar hyn o bryd mae dros 100,000 o beirianwyr gwresogi nwy ac olew cofrestredig yn y DU[footnote 94] gyda’r gallu i osod boeleri domestig, ond efallai y bydd angen cymorth arnynt i newid i osod system wresogi carbon isel.[footnote 95]
Biomethan[footnote 96]
Amcangyfrifwyd bod gweithlu’r sector Treulio Anaerobig (AD) yn y DU rhwng 3,000 a 4,000 yn 2018.[footnote 97] Amcangyfrifwyd bod y Cynllun Cymorth Nwy Gwyrdd (GGSS), a lansiwyd yn 2021, yn cefnogi 950-1,600 o swyddi y flwyddyn yn ystod gwaith adeiladu gweithfeydd Treulio Anaerobig a 900-1,000 o swyddi yn ystod eu hoes weithredol o tua 20 mlynedd.[footnote 98] Rhagwelir y bydd y gofyniad am staff gweithredol ar draws gweithfeydd Treulio Anaerobig yn cynyddu’n raddol o 2025 ymlaen, gan gyrraedd uchafbwynt yn 2035.
Disgwylir y bydd galw mawr am rolau lefel ganolig, gan gynnwys gweithredwyr a chrefftwyr, gyda phrinder posibl mewn gweithrediadau technegol, crefftau mecanyddol a thrydanol medrus, a gweinyddu. Mae’r sector biomethan yn hynod arbenigol, sy’n gofyn am ystod o gymwyseddau ar draws gwyddoniaeth a pheirianneg. Soniodd cyflogwyr hefyd am broblemau recriwtio ar gyfer rolau sy’n gofyn am gymwysterau arbenigol mewn cynhyrchu biomethan a threulio anaerobig, gan gynnwys mewn gosodiadau gwasgedd uchel yn ogystal â gyrwyr ADR, gyda phrinder yn arbennig o amlwg ar lefelau 3 i 4. O 2030 ymlaen, mae cynrychiolwyr y sector yn rhagweld colli staff oherwydd cyfyngiadau o ran cynnydd y tu hwnt i lefelau 3 i 4, gyda disgwyliad y bydd y galw yn fwy na’r cyflenwad ar lefel 2 ac o bosibl lefel 3.
Rhwydweithiau gwres[footnote 99]
Mae’r CCC yn amcangyfrif y gallai fod angen i rwydweithiau gwres ddarparu 18% o wres y DU erbyn 2050[footnote 100], i fyny o 3%.[footnote 101]
Mae llawer o’r gweithlu presennol yn cael ei gyflogi ar lefelau sgiliau uwch, gyda 59% o rolau’n cael eu dosbarthu ar lefel 5 ac uwch.[footnote 102] Yn y tymor byr, disgwylir angen cynyddol am syrfewyr, darparwyr mesuryddion a gosodwyr, yn ogystal â gweithwyr masnachol, datblygu busnes, peirianneg, adeiladu a gweithrediadau. Yn y tymor hwy, mae’n debygol y bydd mwy o alw am ymgynghorwyr ynni, rheolwyr cyfleusterau ac ystadau, a’r rheini mewn rolau gwasanaeth cwsmeriaid a chaffael. Gyda digidoleiddio, bydd angen mwy o rolau TG, peirianwyr meddalwedd a dadansoddi data ar y sector.
Mae bylchau mewn sgiliau yn fwyaf nodedig mewn rolau arbenigol. Mae rheolwyr datblygu rhwydweithiau gwres yn wynebu bylchau sgiliau uchel gan eu bod yn aml yn meddu ar sgiliau rheoli prosiectau neu beirianneg cryf, ond anaml yn meddu ar y ddau fath. Fel arfer, nid oes gan reolwyr cyflawni prosiectau ac arbenigwyr systemau rheoli brofiad perthnasol o gaffael a gweithio yn y sector. Yn aml, nid oes gan newydd-ddyfodiaid yn ogystal ag uwchgynllunwyr ynni sy’n trosglwyddo o sectorau eraill wybodaeth systemau cyfan am rwydweithiau gwres. Mae trosglwyddo o sectorau cyfagos yn haws i’r rheini sydd mewn swyddi llafur medrus yn hytrach nag ar lefelau uwch lle disgwylir profiad o rwydweithiau gwres.[footnote 103]
CCUS a hydrogen
Arweiniwyd y grŵp Gorchwyl a Gorffen CCUS a Hydrogen gan BP a’r Gynghrair Sgiliau Hydrogen.[footnote 104]
Mae hydrogen a CCUS yn hanfodol i’r DU o ran cyrraedd targedau ynni glân a sero net ehangach ac fe’u hystyrir yn ysgogwyr pwysig ar gyfer economi gynaliadwy. Er bod y ddau yn sectorau twf sylweddol, maent yn newydd ar hyn o bryd, felly mae disgwyl i’r gweithlu dyfu’n gyflym a bydd angen ehangu’n gyflym yn ystod y 2020au. Gall sgiliau uchel sy’n gorgyffwrdd â datblygiadau seilwaith mewn sectorau eraill, gan gynnwys prosiectau sero net, sy’n digwydd ar yr un pryd, waethygu prinder.
CCUS[footnote 105]
Mae’r gweithlu CCUS yn cynnwys gweithwyr sy’n ymwneud â phob cam o brosiectau dal, defnyddio a storio carbon yn ogystal â’r gadwyn gyflenwi gysylltiedig, gan gynnwys datblygu technoleg, gweithgynhyrchu, adeiladu safleoedd, gosod systemau, a gweithrediadau a chynnal a chadw. Disgwylir i’r sector CCUS ehangach alluogi creu swyddi ehangach mewn diwydiannau eraill wrth iddynt ddatgarboneiddio. Gallai uchelgeisiau’r Llywodraeth gefnogi hyd at 50,000 o swyddi erbyn 2050 ar draws y sector CCUS cyfan a chadwyni cyflenwi cysylltiedig.[footnote 106] Bydd llawer o’r swyddi hyn yn cael eu crynhoi yn rhanbarthau diwydiannol y DU.
Ffigur 10: Disgwylir i weldwyr, rheolwyr prosiectau, labrwyr a gosodwyr pibellau fod yn alwedigaethau allweddol ar gyfer CCUS hyd at 2030
Disgrifiad o Ffigur 10: Map gwres o alwedigaethau hanfodol yn dangos yr anawsterau recriwtio (echelin y) o’i gymharu â graddfa’r galw (echelin x) ar draws y sector dal, defnyddio a storio carbon. Dangosir y bydd galw mawr am weldwyr, rheolwyr prosiectau, labrwyr a gosodwyr pibellau, ac mai’r rhain fydd y gweithwyr anoddaf eu recriwtio.
Er nad ydynt wedi’u cwmpasu gan y map gwres, mae rolau peirianneg sifil yn flaenoriaeth uchel ar gyfer adeiladu, rheoli prosiectau a pheirianneg piblinellau. Adeiladu ar y tir fydd prif sbardun y galw am weithlu yn y tymor byr i ganolig i ddarparu seilwaith CCUS – gan gynnwys ymhlith crefftau a llafur lled-fedrus.[footnote 107]
Hydrogen[footnote 108]
Roedd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Hydrogen, sy’n cael ei arwain gan y diwydiant, yn amcangyfrif bod y gweithlu hydrogen ar gyfer gweithgareddau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu yn tua 2,000 yn 2022.[footnote 109]
Amcangyfrifodd y diwydiant hefyd y gellid cefnogi 28,500 o swyddi uniongyrchol a 64,500 o swyddi anuniongyrchol ar draws pob maes hydrogen erbyn 2030, ac amcangyfrifir y bydd hydrogen i bŵer yn cefnogi 3,500 o swyddi uniongyrchol a 6,000 o swyddi anuniongyrchol erbyn 2030.[footnote 110]
Mae’r gweithlu cyfan yn ymwneud â gweithgareddau ehangach o fewn gweithrediadau hydrogen gan gynnwys storio, dosbarthu a defnyddio. Mae pobl sy’n gweithio ym maes defnydd hydrogen terfynol yn gweithio mewn amrywiaeth o sectorau gwahanol, e.e. cerbydau hydrogen (sector modurol), hydrogen i bweru (sector pŵer), a hydrogen mewn diwydiant (sector diwydiannol perthnasol). Y prif ffactorau sy’n sbarduno’r galw yn y dyfodol yn y gweithlu hydrogen yw adeiladu cyfleusterau cynhyrchu newydd wedi’u cynllunio, faint o ddefnyddwyr fydd yn mabwysiadu hydrogen, a pholisïau sero net.
Nododd cyflogwyr rolau peirianneg ar draws adeiladu, cynnal a chadw, dylunio, cemegion, a thrydanol fel y galwedigaethau sydd â’r heriau mwyaf acíwt, yn ogystal ag arbenigwyr rheoleiddio a diogelwch prosesau. Yr her fwyaf cyffredin ymysg cyflogwyr oedd dod o hyd i ymgeiswyr sydd â’r sgiliau neu’r cymwysterau angenrheidiol, yn ogystal â diffyg safonau sy’n dangos hyfforddiant, cymwysterau a meincnodau priodol o ansawdd uchel yn y sector hydrogen. Ar ben hynny, o ystyried newydd-deb y sector, mae diffyg arbenigedd yn y sector darparwyr hyfforddiant i guradu a lledaenu’r cwricwlwm hydrogen.
Gan fod hydrogen yn ddiwydiant sy’n datblygu, mae bwlch sylweddol rhwng y cyflenwad llafur presennol a’r galw am lafur yn y dyfodol. Mae’n debygol y bydd angen i ddiwydiant naill ai recriwtio staff o ddiwydiannau cyfagos sydd â sgiliau tebyg neu ddatblygu talent ifanc i’r gweithlu o addysg uwch neu lwybrau eraill, fel prentisiaethau. Wrth i’r sector sefydlu ei hun, bydd nifer cychwynnol yr hyfforddeion yn isel, ond rhaid iddo dyfu’n gyflym er mwyn gwireddu uchelgeisiau yn y sector. Bydd y sector yn gofyn am ddatblygu seilwaith hyfforddi’n rhagweithiol cyn i’r farchnad ddatblygu.
Sector trawsbynciol: Adeiladu[footnote 111]
Mae’r sector adeiladu yn hanfodol ar gyfer uwchraddio seilwaith ar draws nifer o sectorau ynni glân ac felly mae wedi cael ei gyflwyno fel sector trawsbynciol.[footnote 112] Mae’r map gwres yn seiliedig ar y galw am weithlu sy’n gyson â dull ffabrig yn gyntaf i gyflawni llwybr cytbwys sero net y CCC hyd at 2050.[footnote 113] Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol y gall polisïau’r llywodraeth sy’n cefnogi llwybr y wlad tuag at sero net arwain, pan gaiff ei weithredu, at gymysgedd wahanol o swyddi a sgiliau o’u cymharu â’r rheini a gyflwynir yma.
Mae datgarboneiddio’r broses adeiladu yn gofyn am sgiliau sy’n gysylltiedig â defnyddio technolegau a chynnyrch newydd neu garbon isel, gwella effeithlonrwydd a chynhyrchiant, a chael gwared ar wastraff. Mae adeiladu yn ddefnyddio swm sylweddol o Beiriannau Symudol nad ydynt ar Gyfer y Ffordd (NRMM), tra bydd mwy o ddefnydd hefyd o delemateg a digideiddio ehangach i wella effeithlonrwydd tanwydd.
Ffigur 11: Ar gyfer adeiladu ar gyfer gwres ac adeiladau, disgwylir mai rheolwyr prosiectau adeiladu, labrwyr, goruchwylwyr crefft adeiladu a sgaffaldwyr fydd y galwedigaethau allweddol i’w llenwi hyd at 2027
Disgrifiad o Ffigur 11: Map gwres o alwedigaethau hanfodol yn dangos yr anawsterau recriwtio (echelin y) o’i gymharu â graddfa’r galw (echelin x) ar draws y sector adeiladu ym meysydd gwres ac adeiladau. Dangosir mai rheolwyr prosiectau adeiladu yw’r gweithwyr y mae’r galw mwyaf amdanynt. Dangosir mai gweithwyr peiriannau a labrwyr yw’r gweithwyr anoddaf eu recriwtio.
Mae’r galwedigaethau y rhagwelir y bydd y galw ychwanegol mwyaf amdanynt yn cynnwys rheolwyr prosiectau adeiladu, plymwyr a chrefftau HVAC, labrwyr, ac arbenigwyr amlenni adeiladau. Disgwylir mai ailhyfforddi’r gweithlu presennol, yn hytrach na recriwtio o’r newydd, fydd yr her fwyaf, yn enwedig i ateb y galw am reolwyr adeiladu lefel 4 a goruchwylwyr lefel 3. Bydd angen recriwtio mwy o newydd-ddyfodiaid ar draws crefftau arbenigol y mae galw mawr amdanynt ar lefelau 2 i 3, gan gynnwys y rhan fwyaf o rolau gosod.
Ffigur 12: Ar gyfer adeiladu ar gyfer pŵer a rhwydweithiau, disgwylir mai gosodwyr dur a gweithwyr saernïo strwythurol, gweithwyr peiriannau, peirianwyr sifil, a staff proffesiynol a thechnegol fydd y rhai y bydd y galw mwyaf amdanynt ac a fydd yn anodd eu recriwtio hyd at 2027
Disgrifiad o Ffigur 12: Map gwres o alwedigaethau hanfodol yn dangos yr anawsterau recriwtio (echelin y) o’i gymharu â graddfa’r galw (echelin x) ar draws y sector adeiladu ym meysydd ynni a rhwydweithiau. Dangosir mai adeiladwyr dur a goruchwylwyr y crefftau adeiladu fydd y gweithwyr y mae’r galw mwyaf amdanynt. Dangosir mai gweithwyr peiriannau, peirianwyr sifil, a staff technegol a phroffesiynol fydd y gweithwyr anoddaf eu recriwtio.
Adeiladu peirianneg ar gyfer pŵer a rhwydweithiau[footnote 114]
Yn 2019, roedd gwaith adeiladu peirianneg ar draws pob sector yn cyflogi bron i 190,000 o bobl (0.6% o gyfanswm cyflogaeth y DU), gyda chadwyn gyflenwi tua’r un faint.[footnote 115]
Ffigur 13: Ar gyfer adeiladu peirianneg ar gyfer pŵer a rhwydweithiau, mae disgwyl i reoli ansawdd a sicrhau ansawdd lefel 3-4, labrwyr lefel 2 a pheirianwyr dylunio lefel 6-7 fod yn alwedigaethau allweddol hyd at 2030
Disgrifiad o Ffigur 13: Map gwres o alwedigaethau hanfodol yn dangos yr anawsterau recriwtio (echelin y) o’i gymharu â graddfa’r galw (echelin x) ar draws y sector adeiladu peirianyddol ym meysydd ynni a rhwydweithiau. Dangosir bod galw mawr am reolwyr ansawdd lefel 3 i 4, peirianwyr dylunio lefel 6 i 7, a labrwyr lefel 2, a’u bod yn anodd eu recriwtio.
Ystadegau a dadansoddiadau swyddi ynni glân yn y llywodraeth
Mae’r Swyddfa ar gyfer Swyddi Ynni Glân yn defnyddio ystadegau ac ymchwil a gyhoeddwyd gan adrannau ac asiantaethau’r llywodraeth ledled y DU i ddeall tueddiadau o ran sgiliau a’r cyflenwad llafur ar draws y gweithlu ynni glân. Amlinellir y prif ffynonellau isod.
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi amcangyfrifon o’r Economi Carbon Isel ac Ynni Adnewyddadwy a Swyddi Gwyrdd. Mae DESNZ yn gweithio’n agos gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i sicrhau bod yr amcangyfrifon hyn yn berthnasol, gan gynnwys i’r sectorau Ynni Glân. Byddwn yn parhau i ddod o hyd i atebion ynghylch y ffordd orau o oresgyn yr her o fesur swyddi mewn Ynni Glân, a nodweddion y swyddi a’r bobl ynddynt, ochr yn ochr â dod o hyd i ffyrdd o wella’r setiau data ymhellach.
Bydd yr Asesiadau o Anghenion Arloesi Ynni wedi’u diweddaru yn amcangyfrif y potensial economaidd, gan gynnwys nifer a math y swyddi a gefnogir, mewn sectorau ynni glân allweddol yn ystod y cyfnod 2030-2050. Bydd y rhain yn seiliedig ar dybiaethau ynghylch y defnydd o dechnoleg sydd ei angen i fodloni sero net a maint y marchnadoedd domestig ac allforio y gall y DU eu cipio.
Gall yr Adran Addysg olrhain symudiadau i gyflogaeth a dysgu pellach ar ôl cyflawni cyrsiau addysg bellach penodol, a gyhoeddir yn flynyddol yn natganiad ystadegau Canlyniadau Addysg Bellach. Mae hyn hefyd yn cynnwys ffigurau enillion yn y flwyddyn ar ôl cyflawni, a’r sector cyflogaeth. Fodd bynnag, nid yw’n bosibl tracio galwedigaethau h.y. a yw rhywun yn gwneud rôl sy’n gysylltiedig â’i gwrs yn y sector hwnnw. Os nodir bod rhai cymwysterau’n gysylltiedig â’r sectorau gwyrdd, gall yr Adran Addysg olrhain cyfranogiad a chanlyniadau ynghylch y rhain.
Mae’r Adran Addysg hefyd wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer datblygu a chynnal Dosbarthiad Sgiliau Safonol (SSC) sy’n benodol i’r DU, a fydd yn darparu iaith gyffredin i ddisgrifio sgiliau gwyrdd a chaniatáu gwell cysylltiad rhwng sgiliau a swyddi a chymwysterau, gan gefnogi gwell recriwtio a hyfforddi gan fusnesau. Bydd y gwaith ar y SSC yn cael ei wneud gan Skills England.
Mae’r Adran Addysg wedi cysylltu set ddata Canlyniadau Addysg Hydredol (LEO) â’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE), sy’n ein galluogi i ddilyn is-set o’r boblogaeth drwy eu haddysg a’u gwaith ac, am y tro cyntaf, gwybod pa swydd maen nhw’n ei gwneud. Mae hyn wedi cael ei ddefnyddio i hysbysu’r cyflenwad o sgiliau ar gyfer swyddi ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg, ac mae potensial i’r data hwn gael ei ddefnyddio ar gyfer swyddi ynni glân.
Mae DfE yn cyhoeddi ystadegau’n rheolaidd a all gefnogi’r gwaith o fonitro’r llif o lafur a sgiliau ynni glân drwy’r system sgiliau ac addysg. Mae hyn yn cynnwys prentisiaethau ac ystadegau lefel-T yn Lloegr. Yn yr un modd, cyhoeddir ystadegau sy’n cwmpasu Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Cyhoeddir Ystadegau Addysg Uwch y DU gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Mae Arolwg Sgiliau Cyflogwyr DfE a’r arolwg omnibws panel rhieni, disgyblion a dysgwyr yn darparu ffynonellau ychwanegol i gefnogi monitro’r cyflenwad.
Mae Skills England wedi cyhoeddi ystadegau newydd sy’n dangos y galw cymharol am alwedigaethau yn y DU, gan ddefnyddio cyfres o ddangosyddion galw’r farchnad lafur. Mae potensial i hyn gael ei ddefnyddio i ddangos y galw am alwedigaethau ynni glân o’i gymharu â galwedigaethau eraill.
Mae IfATE wedi lansio prosiect i ddatblygu adnodd digidol sy’n seiliedig ar ddata (‘Skills Compass’), gan weithio mewn partneriaeth â’r Hyb Rhagolygon Gweithlu. Bydd y prosiect yn galluogi canfod anghenion sgiliau newidiol yn gynnar ar draws y farchnad lafur ac yn cefnogi datblygiad amserol ymatebion sgiliau i fodloni’r rhain. Y weledigaeth ar gyfer yr adnodd hwn yw derbyn amrywiaeth o ffynonellau data LMI a rhagolygon i nodi anghenion sgiliau sy’n newid a rhai sy’n dod i’r amlwg, eu cymharu â safonau galwedigaethol IfATE a hyfforddiant presennol, a chynhyrchu argymhellion a mewnwelediad ar gyfer diwygio a datblygu’r safonau hynny neu ymyriadau tymor byrrach eraill, fel datblygu cymwysterau newydd, neu ddarparu cyngor i awdurdodau rhanbarthol i gefnogi eu gwaith o gynllunio sgiliau. Bydd mewnwelediad sgiliau gwyrdd sy’n dod i’r amlwg yn fewnbwn data allweddol ac yn allbwn mewnwelediad. Bydd yr adnodd yn mynd ati’n benodol i ddod â data strwythuredig o ffynonellau gwyrdd i mewn wrth iddo ddatblygu a throsi hynny’n fewnwelediadau sy’n benodol i alwedigaeth.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn mesur Rhaglenni Academi Gwaith sy’n Seiliedig ar y Sector (SWAPs) ar lefel leol, drwy nodi swyddi sydd â rhan fawr o’u rôl sy’n wyrdd. Cyhoeddir Gwybodaeth Reoli SWAP bob chwarter gydag Asesiad Effaith i’w gyhoeddi yn y dyfodol agos, sy’n edrych ar yr effaith y mae SWAPs yn ei chael ar debygolrwydd cyflogaeth tymor hir unigolion. Nid yw elfen swydd werdd y data hwn yn cael ei hadrodd yn allanol.
Mae Hyb Rhagolygon Gweithlu Innovate UK yn cynnig gwybodaeth ac argymhellion i ddiwydiant, llunwyr polisïau ac addysgwyr er mwyn mynd i’r afael â phrinder sgiliau a chryfhau gallu’r DU i fabwysiadu technolegau ac atebion arloesol. Drwy’r dull hwn, mae Innovate UK wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau sy’n cefnogi trawsnewid i ynni glân yn y DU, gan gynnwys gwynt arnofiol ar y môr a defnyddio ceblau deinamig foltedd uchel; hydrogen a defnyddio tanciau storio nwyol; ac adeiladu cynaliadwy drwy fabwysiadu cynhyrchu sy’n seiliedig ar weithgynhyrchu ym maes adeiladu. Mae Innovate UK yn parhau i gefnogi’r gwaith o fabwysiadu technolegau ac atebion arloesol i fynd ar drywydd ynni glân drwy ddefnyddio rhagolygon gweithlu, gan weithio gyda’r system sgiliau i ddiwallu anghenion busnesau arloesol.
Yn yr Alban, nododd y Cynllun Gweithredu Sgiliau Argyfwng Hinsawdd (CESAP) 2020-2025 fod meithrin gwell dealltwriaeth a thystiolaeth o anghenion sgiliau yn y dyfodol yn flaenoriaeth. Nododd CESAP ymchwil presennol ac arfaethedig Llywodraeth yr Alban hyd at 2025 i ddatblygu tystiolaeth ar y gweithlu gwyrdd. Gyda chefnogaeth Skills Development Scotland, datblygodd ymchwil ychwanegol ddiffiniad newydd, cynhwysol o swyddi gwyrdd, a ddefnyddiwyd i amcangyfrif maint a galw am swyddi gwyrdd yn yr Alban, gan gynnwys yn ôl galwedigaeth a sector.
Yng Nghymru, mae’r Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net yn nodi prif gamau gweithredu blaenoriaeth Llywodraeth Cymru. Mae’r rhain yn ymwneud â gwella data, fel meithrin dealltwriaeth o ofynion sgiliau sector-benodol a gwella cysylltiadau â diwydiant i gefnogi’r gwaith o drosglwyddo gwybodaeth am gyfleoedd yn y system sgiliau. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad ar anghenion sgiliau sectorau yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol a’r prif heriau i gyflogwyr o ran cael gafael ar weithlu medrus, ac mae ei ganlyniadau wedi hysbysu Crynodebau Sgiliau’r Sector Allyriadau a Thrywyddion Sgiliau’r Sector Allyriadau drafft. Mae gwaith yn mynd rhagddo’n awr ar Drywyddion Sgiliau’r Sectorau Ynni Glân, a fydd yn cynnwys prosiectau allweddol, gofynion sgiliau a rhagolygon maint y gweithlu ar gyfer sectorau sy’n gysylltiedig ag ynni glân.
Comisiynodd Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon Energy and Utility Skills i gynnal ymchwil i’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer pontio i economi ddi-allyriadau uwch yng Ngogledd Iwerddon. Cafodd ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2023, ac roedd yn cynnwys y sectorau a amlinellir yn Neddf Newid yn yr Hinsawdd Gogledd Iwerddon. Dangosodd ei ganfyddiadau, ar draws y grwpiau diwydiant sy’n cyd-fynd yn fras â’r diwydiannau gwyrdd, y rhagwelir y bydd nifer y swyddi’n cynyddu 15.2% - o 105,000 yn 2020 i 121,000 yn 2035.
Yn dilyn yr adroddiad hwn, sefydlwyd Grŵp Cyflawni Sgiliau Gwyrdd a oedd yn gyfrifol am gymryd ei argymhellion a datblygu Cynllun Gweithredu y gellir ei gyflawni a’i fesur. Er mwyn helpu i ganfod anghenion sgiliau nawr ac yn y dyfodol, comisiynodd y Grŵp y gwaith o gynhyrchu mapiau gwres galwedigaethol. Pwrpas y mapiau gwres oedd cyflwyno crynodeb graffigol o’r her sy’n wynebu gwahanol alwedigaethau a’r lefel ymddangosiadol o anhawster caffael sgiliau ar draws diwydiannau ‘gwyrdd’ Gogledd Iwerddon, er mwyn helpu i hysbysu’r camau gweithredu perthnasol. Mae’r Cynllun Gweithredu bron â chael ei gwblhau a bydd yn cael ei lansio’n swyddogol ym mis Ionawr 2025. Bydd y Grŵp Cyflawni Sgiliau Gwyrdd yn sefydlu is-grwpiau i oruchwylio’r cam gweithredu.
Mae’r adran hefyd yn comisiynu ymchwil i ddefnyddio modelau economaidd, fel yr Ecwilibriwm Cyffredinol y gellir ei Gyfrifiannu (CGE), i ddeall effeithiau economaidd posibl buddsoddiadau newydd yn yr economi leol sy’n gysylltiedig â gwynt ar y môr, effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio ymyriadau gwres. Mae’r modelu hwn o senarios yn y dyfodol yn cynnwys amcangyfrifon o fetrigau economaidd fel GVA a chyflogaeth Cyfwerth ag Amser Llawn ar draws sectorau economi Gogledd Iwerddon.
Bydd y Swyddfa ar gyfer Swyddi Ynni Glân yn parhau i weithio’n agos gydag adrannau ac asiantaethau’r Llywodraeth i wella’r data a’r sylfaen dystiolaeth ar y gweithlu ynni glân i sicrhau bod gan y DU y sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r Genhadaeth Ynni Glân.
Methodoleg
Proses asesu’r gweithlu
Cafodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Pŵer a Rhwydweithiau (TFG), dan arweiniad EDF ac Energy and Utility Skills, ei sefydlu fel grŵp peilot i asesu’r galw am weithlu a’r bylchau mewn sgiliau ar draws y sectorau pŵer a rhwydwaith. Dechreuodd y gwaith hwn ym mis Tachwedd 2022 ac roedd yn cynnwys cyd-greu mapiau gwres ar gyfer galwedigaethau hanfodol a oedd yn darparu’r fethodoleg fframwaith ar gyfer y TFGs dilynol.
Sefydlwyd TFGs pellach i gwmpasu sectorau ynni glân eraill gan gynnwys Gwres ac Adeiladau a Hydrogen a CCUS, yn ogystal â sectorau sy’n berthnasol i’r Grŵp Cyflawni Swyddi Gwyrdd (GJDG) ehangach fel Gweithgynhyrchu, Natur a Gwastraff. Ymgymerwyd â gwaith ymgysylltu ychwanegol gan DESNZ i ddatblygu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y galw am weithlu a bylchau sgiliau ar gyfer Dŵr, Solar, Gwynt ar y Tir, a Systemau Clyfar a Hyblygrwydd[footnote 116]. Roedd aelodau TFG yn cynnwys amrywiaeth o sefydliadau fel cyrff sgiliau, cymdeithasau masnach, sefydliadau safonau a chynghorau diwydiant a allai gynrychioli a rhoi mewnwelediad gwerthfawr ar eu sectorau a’u gweithluoedd perthnasol. Mae rhagor o wybodaeth am aelodaeth y GJDG ar gael yma: Aelodaeth GJDG.
Yn ystod Haf 2023, dyluniodd DESNZ, ar y cyd â’r Adran Addysg, yr Adran Gwaith a Phensiynau a Defra, dempled asesu’r gweithlu ar anghenion a heriau presennol a disgwyliedig y gweithlu ar draws sectorau gwyrdd. Yna, comisiynwyd TFGs dan arweiniad y diwydiant gan DESNZ i gynnal asesiadau o’r gweithlu a gynhyrchodd dystiolaeth feintiol ac ansoddol fanwl fesul sector, sydd wedi’i chrynhoi yn yr atodiad hwn. Casglwyd tystiolaeth drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arolygon diwydiant, modelu data, gweithdai, cyfweliadau cyflogwyr, ac ymchwil desg. Casglwyd tystiolaeth ar y pynciau canlynol:
- Mewnwelediad i heriau’r farchnad lafur
- Amcanestyniad o’r galw a’r cyflenwad llafur
- Bylchau yn y gweithlu, eu hysgogwyr a’r hyn y mae diwydiant a’r llywodraeth eisoes yn ei wneud i fynd i’r afael â’r rhain
- Ymgysylltiad y diwydiant â chynigion cyflogaeth presennol
Cynhyrchwyd mapiau gwres ar gyfer amrywiaeth o sectorau ar draws TFGs, gan ddefnyddio dulliau amrywiol i fapio asesiadau o’r galw a ragwelir yn erbyn anhawster recriwtio ar gyfer galwedigaethau hanfodol yn y cyfnod pontio i sero net. Mae’r mapiau gwres yn rhoi syniad o bwysigrwydd cymharol gwahanol alwedigaethau ac anawsterau recriwtio ym mhob sector, ond o ystyried yr ystod o wahanol ddulliau a ddefnyddir, ni allant hysbysu cymariaethau traws-sector. Mae’r dulliau hyn yn cael eu hamlinellu isod.
Mapiau gwres pŵer a rhwydweithiau
Map gwres pŵer a rhwydweithiau cyfun (Ffigur 6)
I adlewyrchu galwedigaethau hanfodol ar draws sectorau pŵer a rhwydwaith, cynhyrchwyd y map gwres galwedigaethau cyfun (Ffigur 6) gan ddefnyddio data meintiol ar y galw am weithlu a data ansoddol ar farn rhanddeiliaid ar yr anhawster o gael gweithwyr sydd â’r sgiliau gofynnol.
Gan fod y dull o gasglu a dadansoddi data yn amrywio ar draws cyrff sgiliau sectoraidd, defnyddiwyd y dull cyfuno canlynol:
Echelin X:
Mae Echelin X y map gwres cyfunol yn adlewyrchu cyfanswm y cynnydd blynyddol yn y galw fel canran o gyfanswm y gweithlu yn y sectorau pŵer a rhwydweithiau presennol, wedi’i allosod o ddata gweithlu cyfredol ym mhob corff sgiliau. O fewn hyn, mae’n ymgorffori data galw ar gyfer adnewyddu ac ehangu. Nid yw’r echelin galw wedi ei graddio gan fod y dull o ddadansoddi a phlotio’r galw yn wahanol ar draws pob sefydliad sgiliau.
Manylir ar y wybodaeth ffynhonnell ar gyfer modelu galw a ddefnyddir gan bob corff sgiliau o dan bob adran unigol isod. Gweler y asesiad o’r gweithlu Pŵer a Rhwydweithiau.
Echelin Y:
Mae Echelin Y y map gwres cyfunol yn adlewyrchu anhawster canfyddedig rhanddeiliaid i recriwtio i alwedigaethau hanfodol. Mae’r asesiad o anhawster yn seiliedig ar wybodaeth y diwydiant am faterion recriwtio yn y farchnad ac fe’i dilyswyd gan randdeiliaid yn y diwydiant.
Map gwres gwynt ar y môr (Ffigur 7)
Echelin X:
Mae’r galw’n seiliedig ar Adroddiad Gwybodaeth Sgiliau 2023 OWIC, gyda data wedi’i fodelu o gronfa ddata EnergyPulse RenewableUK ar brosiectau arfaethedig a data buddsoddi a ragwelir. Mae’r dull gweithredu’n tybio bod proffil y gweithlu’n aros yr un fath i raddau helaeth, gyda chynnydd unffurf yn y galw ar draws pob swydd wrth i’r buddsoddiad gynyddu.
Echelin Y:
Amcangyfrifodd OWIC anhawster canfyddiadol recriwtio ar y cyd â nifer o gyflogwyr ar draws y sector.
Map gwres cynhyrchu pŵer niwclear sifil (Ffigur 8)
Echelin X:
Mae’r galw am weithlu ar gyfer tua 100 o alwedigaethau yn cael ei gasglu’n rheolaidd gan y Grŵp Strategaeth Sgiliau Niwclear (NSSG) yn uniongyrchol gan weithredwyr niwclear, datblygwyr a phrif ddeiliaid asedau; defnyddiwyd y data hwn i ffurfio echelin x y map gwres.
Echelin Y:
Mae’r anhawster ymddangosiadol i recriwtio yn seiliedig ar ymgysylltu â chyflogwyr niwclear gan yr NSSG i nodi galwedigaethau sy’n anodd iddynt recriwtio iddynt, neu y disgwylir iddynt fod yn anodd. Mae’r rhain wedi cael eu blaenoriaethu yn ôl sgôr RAG, yn ôl pa mor aml y cawsant eu codi, a lefel y pryder a fynegwyd.
Map gwres trawsyrru a dosbarthu pŵer (Ffigur 9)
Echelin X:
Defnyddir data o ymarfer cynllunio gweithlu Trawsyrru a Dosbarthu’r Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Pŵer (NSAP) 2022 i ddangos y galw blynyddol cyfartalog am weithlu fel canran o gyfanswm y gweithlu. Mae’r data’n seiliedig ar alw i adnewyddu yn unig (ymddeoliadau a throsiant staff).
Echelin Y:
Mae hyn yn seiliedig ar amcangyfrif goddrychol o’r anhawster canfyddedig o ran caffael y sgiliau gofynnol, a’r nifer gofynnol, gan gyflogwyr o’r farchnad lafur ehangach. Mae hyn yn seiliedig ar adborth gan Grŵp Rhwydwaith Trawsyrru a Dosbarthu’r Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Pŵer (NSAP).
Map gwres adeiladu ar gyfer pŵer a rhwydweithiau (Ffigur 12)
Echelin X:
Mae’r data galw ar gyfer gweithgarwch pŵer a rhwydweithiau yn deillio o fodelu buddsoddiad mewn pŵer a rhwydweithiau o gyflenwad yr Awdurdod Seilwaith a Phrosiectau (IPA). Mae’r mesuriad o alw yn ymgorffori barn gyfunol y sector ac felly mae’n cynnwys gweithgarwch arall nad yw’n ymwneud â Phŵer a Rhwydweithiau, gan dynnu adnoddau i’r mesuriad o alw yn echelin-x.
Mae Adnodd Rhagolygon Llafur (LFT) CITB yn cael ei ddefnyddio ar gyfer modelu’r galw. Mae’r adnodd yn rhagweld y gofynion llafur dros amser ac yn ôl galwedigaeth. Mae modelau’r Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu (CSN) yn rhagweld y galw a’r cyflenwad o weithwyr ar wahân. Y gwahaniaeth rhwng y galw a’r cyflenwad yw’r gofyniad recriwtio. Mae cyfanswm lefelau’r gweithlu a ragwelir yn deillio o ddisgwyliadau ynghylch allbwn a chynhyrchiant adeiladu.
Echelin Y:
Mae’r anhawster ymddangosiadol yn seiliedig ar ofyniad recriwtio blynyddol (ARR) CSN fel cyfran o’r galw cyffredinol gan y diwydiant. Mae’r ARR yn ofyniad net sy’n ystyried llifoedd y gweithlu i mewn ac allan o’r maes adeiladu, oherwydd ffactorau fel symudiadau rhwng diwydiannau, mudo, salwch ac ymddeol. Mae gwerthoedd ARR yn dangos lle mae angen recriwtio ychwanegol sy’n uwch na’r llifoedd presennol er mwyn bodloni’r galw a ragwelir.
Mae rhagor o wybodaeth am fodelu CSN ar gael yma: Canolbwyntio ar y sgiliau sydd eu hangen ar y sector adeiladu.
Map Gwres Adeiladu Peirianneg ar gyfer Pŵer a Rhwydweithiau (Ffigur 13)
Echelin X:
Daw data galw o’r model ECITB ar gyfer cynllunio’r gweithlu a ddatblygwyd yn 2023, yn seiliedig ar restrau o brosiectau sydd ar y gweill a data a gasglwyd fel rhan o’i Gyfrifiad o’r Gweithlu yn 2021. Mae’r model hefyd yn cynnwys haen ychwanegol o alw, sy’n ystyried y galw sy’n debygol o godi o brosiectau nad ydynt wedi’u cynnwys yn y llifoedd prosiectau eto. Mae hyn yn bwysig er mwyn darparu darlun mwy cyflawn o’r rhagolygon hyd at 2030.
Echelin Y:
Defnyddir mesur meintiol o’r anhawster canfyddedig i recriwtio ac mae’n seiliedig ar y gymhareb rhwng gofynion recriwtio gros yn ystod y cyfnod dan sylw a chyfanswm y galw am lafur. Mae gofynion recriwtio gros yn fesur sy’n seiliedig ar ddadansoddiad o’r bylchau rhwng y cyflenwad a’r galw.
Map gwres CCUS (Ffigur 10)
Mae manylion llawn am y dull dadansoddi data a mapio gwres ar gael yn Atodiad B adroddiad y Grŵp Cyflawni Swyddi Gwyrdd – Grŵp Gorchwyl a Gorffen CCS. I grynhoi:
Echelin X:
Cyfrifir lefel y galw fel canran o gyfrif swyddi yn nata cyffredinol y prosiect.
Echelin Y:
Mae’r anhawster canfyddedig i recriwtio yn seiliedig ar gymhareb gofynion recriwtio mewn data ECITB i gyfrif swyddi mewn data prosiectau, gyda graddfa logarithmig ar gyfer eglurder.
Map gwres adeiladu ar gyfer gwres ac adeiladau (Ffigur 11)
Echelin X:
Mae data ar y galw am lafur yn cael ei fodelu ar sail y buddsoddiad a ragwelir mewn Sero Net yn ôl rhagolygon senario cytbwys y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar gyfer 2025 a 2027, a gymerwyd o Meithrin Sgiliau ar gyfer Sero Net, yn erbyn y galw cyffredinol a ragwelir gan y sector. Daw’r rhagolygon o’r galw cyffredinol am lafur yn y sector o’r Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu (CSN).
Echelin Y:
Mae’r farn am anhawster ymddangosiadol yn seiliedig ar ofyniad recriwtio blynyddol (ARR) CSN fel cyfran o’r galw cyffredinol gan y diwydiant. Mae’r ARR, sy’n sail i fesuriad yr anhawster canfyddedig (echelin y), yn ofyniad net sy’n ystyried llifoedd y gweithlu i mewn ac allan o’r maes adeiladu, oherwydd ffactorau fel symudiadau rhwng diwydiannau, mudo, salwch ac ymddeol. Mae’r gwerthoedd ARR yn dangos lle mae angen recriwtio ychwanegol i ddiwallu’r galw a ragwelir; mae’n ychwanegol at y llifoedd presennol sy’n digwydd.
Mae rhagor o fanylion am y model rhagamcanu ar gael yn atodiad adroddiad ymchwil Meithrin Sgiliau ar gyfer Sero Net ac mae rhagor o wybodaeth am fodelu CSN ar gael yma: Canolbwyntio ar y sgiliau sydd eu hangen ar y sector adeiladu.
-
Dadansoddiad arbrofol DESNZ o ddata hysbysebion swyddi ar-lein Lightcast (2024). Mae hysbysebion swyddi heb gyflog a hysbysebir wedi cael eu heithrio o’r dadansoddiad cyflogau hwn. Gweler Ffigur 5. ↩
-
LSE Grantham Institute / Place Based Climate Action Network (2021) Tracking Local Employment in The Green Economy: The PCAN Just Transition Jobs Tracker ↩
-
Pwyllgor Newid Hinsawdd (2023) Gweithlu Sero Net ↩
-
Defnyddiodd y broses asesu’r gweithlu ddulliau amrywiol, gan gynnwys arolygon cyflogwyr, modelu data, gweithdai ac ymchwil i ddatgelu heriau’r farchnad lafur, y galw a’r cyflenwad a ragwelir, bylchau yn y gweithlu, ac ymdrechion presennol cyflogwyr. ↩
-
Sefydlwyd Grwpiau Gorchwyl a Gorffen ychwanegol i gynnwys Gweithgynhyrchu, Natur, Adnoddau a Gwastraff, a Chapasiti a Gallu Lleol ar gyfer Sero Net, ynghyd ag ymgysylltu pellach â’r sector Dŵr. Er bod asesiadau o’r gweithlu wedi cael eu cynnal gan y grwpiau hyn, maent y tu allan i gwmpas yr atodiad tystiolaeth hwn. ↩
-
Cymhariaeth twf rhwng ffigurau cyflogaeth carbon isel ac ynni adnewyddadwy o ONS LCREE (2022) & LCREE (2024) a chyfanswm ffigurau cyflogaeth y DU o gofrestr busnesau ac arolwg cyflogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2021 a 2023). ↩
-
Mae rhagor o wybodaeth am ba fusnesau sy’n cael eu hystyried yn rhan o’r LCREE ar gael yma: ONS LCREE - geirfa (2022) ↩
-
ONS (2024) Low carbon and renewable energy economy, UK: 2022 ↩
-
Mae’r amcangyfrifon anuniongyrchol yn Ystadegau Swyddogol o dan ddatblygiad. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynghori bod cyfanswm yr amcangyfrifon uniongyrchol ac anuniongyrchol yn cynrychioli goramcangyfrif oherwydd anawsterau ynysu gweithgarwch uniongyrchol yn yr arolwg LCREE. ↩
-
Dadansoddiad arbrofol DESNZ o ddata hysbysebion swyddi ar-lein Lightcast (2024). Mae’r ddogfen Dadansoddiad o Hysbysebion Swyddi Ynni Glân: Siartiau a Methodoleg yn rhoi rhagor o fanylion am y dadansoddiad hwn. ↩
-
Dadansoddiad arbrofol DESNZ o ddata hysbysebion swyddi ar-lein Lightcast (2024). Mae’n debygol y bydd gan ranbarthau sydd â mwy o hysbysebion swyddi gyfran uwch o hysbysebion swyddi ynni glân yn y DU. ↩
-
Dadansoddiad DESNZ o IRENA (2023) Renewable energy and jobs: Annual review 2023 ↩
-
Oni nodir yn wahanol, mae’r datganiadau yn y bennod hon yn seiliedig ar gasgliadau ar draws y dystiolaeth a ddarperir drwy asesiadau o’r gweithlu. ↩
-
Mae cyfeiriadau at lefelau sgiliau yn cyfeirio at y Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (RQF) a ddefnyddir ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae rhagor o wybodaeth am lefelau cymwysterau RQF ar gael yma: Mae lefelau cymwysterau RQF, a gwybodaeth am Fframwaith Cymwysterau a Chredydau cyfatebol yr Alban (SCQF) ar gael yma: Fframwaith Rhyngweithiol SCQF. ↩
-
Environment Agency (2024) Environment Agency’s planning consultation response timeliness: 2023 to 2024 ↩
-
Natural England (2023) 2022-23 Annual report to the Department of Levelling Up, Housing and Communities ↩
-
Historic England (2024) Proposed reforms to the National Planning Policy Framework and other changes to the planning system: Historic England Response ↩
-
Skills Development Scotland (2021) Skills in Planning Research Paper ↩
-
Dadansoddiad arbrofol DESNZ o ddata hysbysebion swyddi ar-lein Lightcast (2024). ↩
-
Robert Gordon University (2023) Powering up the workforce ↩
-
Dadansoddiad arbrofol DESNZ o ddata hysbysebion swyddi ar-lein Lightcast (2024). ↩
-
‘Pob Swydd’ yw’r cyflog cymedrig enwol bob 12 mis sy’n cael ei hysbysebu mewn hysbysebion swyddi ar-lein. Felly, nid oes modd ei gymharu’n uniongyrchol ag amcangyfrifon o enillion blynyddol gros ↩
-
Dadansoddiad arbrofol DESNZ o ddata hysbysebion swyddi ar-lein Lightcast (2024). Mae hysbysebion swyddi heb gyflog a hysbysebir wedi cael eu heithrio o’r dadansoddiad cyflogau hwn. ↩
-
World Skills UK (2022) Skills for a net-zero economy: Insights from employers and young people ↩
-
Public First (2023) Generation Green Jobs? ↩
-
Nuclear Skills Delivery Group (2023) Nuclear Workforce Assessment ↩
-
OWIC (2023) Offshore Wind Skills Intelligence Report 2023 ↩
-
STEM Women (2023) Women in STEM Statistics: Progress and Challenges ↩
-
EngineeringUK (2024) Women in engineering and technology ↩
-
ONS (2023) Working Age Population ↩
-
OWIC (2023) Offshore Wind Skills Intelligence Report 2023 ↩
-
DESNZ (2023) Heating and cooling installer study ↩
-
Nuclear Skills Delivery Group (2023) Nuclear Workforce Assessment ↩
-
DESNZ (2023) Heating and cooling installer study ↩
-
The Sutton Trust (2022) Bridging the Gap ↩
-
ONS (2024) Labour Force Survey ↩
-
ECITB (2021) ECITB Workforce Census 2021 ↩
-
DESNZ (2023) Heating and cooling installer study ↩
-
DfE (2023) Employer Skills Survey: 2022 ↩
-
Offshore Wind Industry Council (2023) Skills Intelligence Report ↩
-
Climate X Change (2024) Mapping the current and future workforce and skills requirements in Scotland’s onshore wind industry ↩
-
The Electrotechnical Skills Partnership (2023) The Solar Power Challenge 2035 ↩
-
Nuclear Skills Delivery Group (2023) Nuclear Workforce Assessment 2023 ↩
-
Nuclear Skills Delivery Group (2021) Nuclear Workforce Assessment 2021 ↩
-
National Grid (2020) Building the Net Zero Energy Workforce ↩
-
Energy & Utility Skills (2024) Energy & Utilities Sector Profile – These estimates cover the wider energy and utilities sector (including waste and water). ↩
-
UKRI (2022) Smart local energy systems: Skills and abilities ↩
-
Dadansoddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gwres ac Adeiladau (2023) ↩
-
DESNZ (2023) Heating and cooling installer study ↩
-
NESTA (2022) How to Scale a Highly Skilled Heat Pump Industry ↩
-
BEIS (2021) Final Stage IA: Green Gas Support Scheme/Green Gas Levy ↩
-
Heat and Buildings Task and Finish Group analysis (2023) 53 Heat NIC (2023) Gathering workforce diversity data ↩
-
Heat NIC (2023) Gathering workforce diversity data ↩
-
BEIS (2020) Heat Network Skills Review ↩
-
ECITB (2024) Green Jobs Delivery Group – CCS Task and Finish Group: Findings and recommendations of the group ↩
-
Hydrogen Skills Alliance (2024) Green Jobs Delivery Group – Hydrogen Task and Finish Group: Findings and Recommendations Executive Summary ↩
-
Heat and Buildings Task and Finish Group analysis (2023) 58 ONS Labour Force Survey ↩
-
ONS Labour Force Survey ↩
-
CITB (2022) Skills and Training in the Construction Industry 2021 ↩
-
ECITB (2021) ECITB Workforce Census 2021 ↩
-
EngineeringUK (2024) Women in engineering and technology ↩
-
Mae’r asesiad wedi ei gyhoeddi yma: Asesiad o’r Gweithlu ar gyfer y Sector Pŵer a Rhwydweithiau. ↩
-
Mae adeiladu ac adeiladu peirianneg wedi’u cynnwys ar wahân er mwyn osgoi cyfrif ddwywaith gan eu bod yn berthnasol i nifer o grwpiau Gorchwyl a Gorffen – gweler tudalen 31. Ymdrinnir â thystiolaeth ynghylch systemau solar a chlyfar a hyblygrwydd yn yr adran hon hefyd. ↩
-
Cynhyrchwyd yr asesiad o’r gweithlu gwynt ar y cyd â Chyngor y Diwydiant Gwynt ar y Môr. ↩
-
ONS (2024) Economi Carbon Isel ac Ynni Adnewyddadwy, y DU - Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynghori bod cyfanswm yr amcangyfrifon uniongyrchol ac anuniongyrchol yn cynrychioli goramcangyfrif oherwydd anawsterau ynysu gweithgarwch uniongyrchol yn yr arolwg LCREE. ↩
-
OWIC (2023) Offshore Wind Skills Intelligence Report ↩
-
ONS (2024) Economi Carbon Isel ac Ynni Adnewyddadwy, y DU - Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynghori bod cyfanswm yr amcangyfrifon uniongyrchol ac anuniongyrchol yn cynrychioli goramcangyfrif oherwydd anawsterau ynysu gweithgarwch uniongyrchol yn yr arolwg LCREE. ↩
-
DESNZ (2023) Offshore Wind Net Zero Investment Roadmap ↩
-
OWIC (2023) Offshore Wind Skills Intelligence Report ↩
-
Llywodraeth yr Alban (2023) Offshore Wind Focus ↩
-
Climate X Change (2024) Mapping the current and future workforce and skills requirements in Scotland’s onshore wind industry ↩
-
Dadansoddiad arbrofol DESNZ o ddata hysbysebion swyddi ar-lein Lightcast (2024). Wedi’i gyfrifo fel cyfartaledd treigl 12 mis, wedi’i dalgrynnu i’r £1,000 agosaf. ↩
-
ONS (2024) Low Carbon and Renewable Energy Economy, UK ↩
-
Energy & Utility Skills (2024) Workforce demand estimates – 2024 to 2030: The power industry ↩
-
Dadansoddiad arbrofol DESNZ o ddata hysbysebion swyddi ar-lein Lightcast (2024). Wedi’i gyfrifo fel cyfartaledd treigl 12 mis, wedi’i dalgrynnu i’r £1,000 agosaf. ↩
-
Cynhyrchwyd yr asesiad o’r gweithlu niwclear ar y cyd â’r Grŵp Strategaeth Sgiliau Niwclear. ↩
-
Grŵp Cyflawni Sgiliau Niwclear (2023) Asesiad o’r Gweithlu Niwclear - Mae’r amcangyfrifon hyn yn amcangyfrifon o swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol cyfwerth ag amser llawn ac yn cynnwys cydran wedi’i modelu ar gyfer y gadwyn gyflenwi sifil. ↩
-
Dadansoddiad arbrofol DESNZ o ddata hysbysebion swyddi ar-lein Lightcast (2024). Wedi’i gyfrifo fel cyfartaledd treigl 12 mis, wedi’i dalgrynnu i’r £1,000 agosaf. ↩
-
Arweiniwyd asesiad gweithlu’r rhwydweithiau trydan gan EU Skills ac mae’n cwmpasu trawsyrru a dosbarthu. ↩
-
BEIS (2022) Electricity Networks strategic Framework ↩
-
Dadansoddiad arbrofol DESNZ o ddata hysbysebion swyddi ar-lein Lightcast (2024). Wedi’i gyfrifo fel cyfartaledd treigl 12 mis, wedi’i dalgrynnu i’r £1,000 agosaf. ↩
-
Mae systemau ynni clyfar yn dwyn ynghyd amrywiaeth o asedau fel cynhyrchu ynni, storio, galw, a seilwaith i leihau allyriadau mewn ffordd integredig. ↩
-
ONS (2024) Experimental estimates of green jobs, UK: 2024 ↩
-
UKRI (2022) Smart local energy systems: Skills and capabilities ↩
-
EnergyRev (2023) Smart local energy systems: Training needs and provision ↩
-
Dadansoddiad arbrofol DESNZ o ddata hysbysebion swyddi ar-lein Lightcast (2024). Wedi’i gyfrifo fel cyfartaledd treigl 12 mis, wedi’i dalgrynnu i’r £1,000 agosaf. ↩
-
Dadansoddiad arbrofol DESNZ o ddata hysbysebion swyddi ar-lein Lightcast (2024). Wedi’i gyfrifo fel cyfartaledd treigl 12 mis, wedi’i dalgrynnu i’r £1,000 agosaf. Heb gynnwys y sector adeiladu. ↩
-
Cafodd yr asesiad o’r gweithlu ôl-ffitio ac effeithlonrwydd ynni ei arwain gan yr Awdurdod Sicrhau Gosodiadau (IAA). ↩
-
Dadansoddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gwres ac Adeiladau (2023) - Mae data Staff Cymorth y Gadwyn Gyflenwi yn deillio o gymhareb gosodwyr i swyddi yn y gadwyn gyflenwi (gweithgynhyrchu, cyflenwi, dosbarthu, datblygu). ↩
-
Cafodd asesiad o’r gweithlu pympiau gwres ei arwain gan y Cynllun Tystysgrifau Microgynhyrchu (MCS), gyda chymorth gan y Grŵp Gorchwyl Trydaneiddio Gwres. ↩
-
HPA (2024) Projecting the Future Domestic Heat Pump Workforce - 70,000 FTE yw’r amcangyfrif cyfartalog, gydag ystod o 52,000 (amcangyfrif isaf) - 89,000 (amcangyfrif uchaf). ↩
-
Dylid nodi nad yw modelu’r HPA yn ystyried gwelliannau i effeithlonrwydd y broses gosod, felly bydd unrhyw ostyngiad yn yr amser a gymerir yn y dyfodol i osod pwmp gwres yn lleihau’r gofynion gweithlu rhagamcanol. Ar ben hynny, mae’r HPA wedi modelu amcanestyniadau eu gweithlu ar sail eu dehongliad eu hunain o ddefnyddio technoleg pympiau gwres drwy safbwyntiau polisi cyfredol a hanesyddol. ↩
-
DESNZ (2023) Heating and cooling installer study ↩
-
Cwblhaodd y Gymdeithas Ynni Adnewyddadwy a Thechnoleg Lân (REA) asesiad gweithlu ar gyfer gweithgarwch mewn Gweithfeydd Treulio Anaerobig (AD), yn hytrach na gweithgarwch ar draws y sector Biomethan yn ei gyfanrwydd. ↩
-
ADBA (2018) Anaerobic Digestion Market Report ↩
-
BEIS (2021) Final Stage IA: Green Gas Support Scheme/Green Gas Levy ↩
-
Arweiniwyd asesiad gweithlu’r Rhwydweithiau Gwres gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen Sgiliau Cyngor Diwydiant y Rhwydwaith Gwresogi (Heat NIC), fforwm ar y cyd rhwng y diwydiant a’r Llywodraeth sy’n bodoli i dyfu’r sector. ↩
-
Pwyllgor Newid Hinsawdd (2022) Independent Assessment: The UK’s Heat and Buildings Strategy ↩
-
Dadansoddiad DESNZ ↩
-
Heat NIC (2023) Gathering workforce diversity data ↩
-
BEIS (2020) Heat networks skills review ↩
-
Sefydlwyd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen i gwmpasu CCUS, ond cafodd y gweithgarwch a wnaed gan y grŵp ei fframio o amgylch CCS, yn bennaf er mwyn lleihau gorgyffwrdd â grwpiau eraill. ↩
-
Cynhyrchwyd asesiad o’r gweithlu CCS gan y Gymdeithas Dal a Storio Carbon, bp a’r ECITB. Mae’r asesiad wedi ei gyhoeddi yma: Green Jobs Delivery Group – CCS Task and Finish Group ↩
-
BEIS (2019) Energy Innovation Needs Assessments - Noder bod yr amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar y targed gostwng nwy tŷ gwydr blaenorol o 80% ac nid oedd yn adlewyrchu’r uchelgais sero net uwch. ↩
-
LSE (2021) Seizing sustainable growth opportunities from carbon capture, usage and storage in the UK ↩
-
Cynhyrchwyd yr asesiad o’r gweithlu hydrogen gan y Gynghrair Sgiliau Hydrogen. Mae’r asesiad wedi ei gyhoeddi yma: Green Jobs Delivery Group – Hydrogen Task and Finish Group ↩
-
Hydrogen Task and Finish Group analysis (2024) ↩
-
Hydrogen Skills Alliance (2024) Green Jobs Delivery Group – Hydrogen Task and Finish Group: Findings and Recommendations Executive Summary. Sylwch fod hwn yn ddadansoddiad sy’n cael ei arwain gan y diwydiant, gan gynnwys swyddi sy’n deillio o gynhyrchu, trawsyrru, dosbarthu, storio a defnydd terfynol o hydrogen. Nid oes modd ei gymharu’n uniongyrchol â dadansoddiad y llywodraeth o swyddi hydrogen. Nid yw dadansoddiad y Llywodraeth yn cynnwys swyddi cysylltiedig â defnydd terfynol o hydrogen ac mae’n seiliedig ar wahanol senarios defnyddio sylfaenol. Dangosodd dadansoddiad DESNZ o 2022 y gallai’r sector hydrogen gefnogi 12,000 o swyddi yn 2030. ↩
-
Arweiniodd y Bwrdd Hyfforddi Adeiladu a Diwydiant (CITB) asesiadau o’r gweithlu adeiladu ar gyfer: 1) Gwres ac Adeiladau, a 2) Pŵer a Rhwydweithiau – tra bod y Bwrdd Hyfforddi Adeiladu a Diwydiant Peirianneg (ECITB) wedi arwain ar asesiad o’r gweithlu adeiladu peirianneg ar gyfer Pŵer a Rhwydweithiau. ↩
-
Mae angen bod yn ofalus i osgoi camddehongli neu gyfrif data ddwywaith, gan y bydd rhywfaint o orgyffwrdd rhwng y dadansoddiad hwn a sectorau eraill. ↩
-
CCC (2020) The Sixth Carbon Budget ↩
-
Cefnogodd ECITB y grŵp Gorchwyl a Gorffen pŵer a rhwydweithiau. ↩
-
ECITB (2019) Labour Market Outlook ↩
-
Gan fod yr adroddiad hwn yn darparu asesiad o’r her sgiliau ynni glân, nid yw’r dystiolaeth a gasglwyd ar gyfer y sectorau gweithgynhyrchu, natur, gwastraff a dŵr wedi’i chynnwys yma. ↩