Cynllun Gweithredu Pŵer Glân 2030: Oes newydd o drydan glân - atodiad diwygio cysylltiadau (diweddariad Ebrill 2025)
Diweddarwyd 15 Ebrill 2025
Cyflwyniad
Mae’r atodiad hwn yn darparu dadansoddiad manwl o lwybr a chwmpas capasiti’r Cynllun Gweithredu Ynni Glân, er mwyn cysoni’r broses o ddiwygio cysylltiadau sy’n cael ei harwain gan NESO â Phŵer Glân 2030 (ar yr amod bod Ofgem yn cymeradwyo cynigion terfynol NESO).
Mae hyn yn cynnwys amrediadau capasiti ar lefel Prydain Fawr, wedi’u hysbysu gan gyngor NESO ar gyfer 2030 ac yn unol â llwybr 2030 y llywodraeth ar gyfer y rhan fwyaf o dechnolegau cynhyrchu, a dadansoddiadau rhanbarthol ar gyfer gwynt ar y tir (ONW), solar a batris.
Rydym hefyd wedi nodi amrediad capasiti technoleg hyd at 2035 i ddarparu gorwel 10 mlynedd ar gyfer cynigion cysylltu. Mae’r rhain yn deillio’n bennaf o Senarios Ynni’r Dyfodol (FES) 2024 sy’n cyd-fynd â sero net NESO 2035, gyda dull gweithredu pwrpasol ar gyfer ynni gwynt ar y tir a nwy di-dor (gweler y nodyn ar ddulliau pwrpasol).
Yn amodol ar benderfyniad terfynol Ofgem, gallai codi gofynion mynediad a chysoni capasiti â’n Cynllun Gweithredu Pŵer Glân ryddhau tua 500GW o gapasiti ar ein rhwydwaith. Byddai hyn yn lleihau maint y ciw o tua dwy ran o dair, gan greu cyfleoedd i sbarduno cynhyrchiant a phrosiectau galw sy’n barod ac sydd eu hangen. Bydd hyn nid yn unig yn ein gyrru ymlaen tuag at Bŵer Glân erbyn 2030 ond bydd hefyd yn cyflymu diwydiannau allweddol, o ganolfannau data i gigaffatrïoedd, gan ddatgloi £biliynau o fuddsoddiad ym Mhrydain Fawr.
Diwygio cysylltiadau
Mae’r rhwydwaith trydan yn alluogwr hanfodol ar gyfer darparu pŵer glân erbyn 2030 a chyflymu tuag at sero net. Er mwyn sicrhau bod gennym y rhwydwaith angenrheidiol, mae angen i ni gyflymu’r gwaith o adeiladu seilwaith rhwydwaith newydd a diwygio’r broses cysylltiadau grid yn sylfaenol. Mae mesurau i gyflymu’r gwaith o adeiladu seilwaith wedi’u cynnwys yn y bennod ‘Rhwydweithiau a Chysylltiadau’ yn y Cynllun Gweithredu hwn.
Fel y nododd y llywodraeth ar y cyd ag Ofgem yn ei ‘Llythyr Agored ar gysoni cysylltiadau â chynlluniau strategol’,[footnote 1] gwyddom na fydd y broses cysylltiadau bresennol, na diwygio’r broses ar sail parodrwydd yn unig, yn darparu pŵer glân erbyn 2030. Mae NESO bellach wedi ymgynghori ar ei gynigion ar gyfer proses sydd wedi’i halinio’n strategol a diwygio’r ciw cysylltiadau presennol[footnote 2] ac mae’n disgwyl cyflwyno argymhellion terfynol i Ofgem erbyn diwedd 2024, ar gyfer penderfyniad erbyn diwedd Ch1 2025.
Mae’r llywodraeth yn cefnogi diwygio cysylltiadau’n gryf ac yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth, pan fydd amser seneddol yn caniatáu, i sicrhau bod diwygio cysylltiadau yn cyd-fynd â chynlluniau rhwydwaith ac ynni strategol ac yn cefnogi’r gwaith o gyflawni Pŵer Glân erbyn 2030. Dylai hyn roi sicrwydd i bob parti ynghylch y cyfeiriad ar gyfer cysylltiadau.
Os caiff ei gymeradwyo gan Ofgem, bydd cynigion NESO yn cyflawni’r gwaith o drawsnewid cysylltiadau grid mewn modd radical sy’n hanfodol er mwyn gallu cyflawni pŵer glân erbyn 2030 a sero net. Drwy gael gwared ar brosiectau anhyfyw, aildrefnu’r ciw, a chyflymu’r amserlenni cysylltu ar gyfer y prosiectau sydd eu hangen arnom fwyaf, bydd y diwygiadau hyn yn ddatgloi £biliynau o fuddsoddiad y mae mawr ei angen mewn ynni adnewyddadwy a thrydaneiddio’r economi ehangach – buddsoddiad sydd wedi’i ddal yn ôl ers gormod o amser.
Bydd proses cysylltiadau sydd wedi’i halinio’n strategol hefyd yn arwain at arbedion effeithlonrwydd cynhenid o ran dylunio, cynllunio ac adeiladu rhwydweithiau, ac yn cynnig hyder tymor hir nid yn unig i fuddsoddwyr mewn ynni adnewyddadwy, ond hefyd i’r holl sectorau galw a fydd yn dibynnu ar ynni glân ar gyfer trydaneiddio (o ganolfannau data a gigaffatrïoedd, i wefru cerbydau trydan a phympiau gwres), yn ogystal â’r cadwyni cyflenwi cysylltiedig a’r swyddi y bydd y rhain yn eu creu.
Mae’n hanfodol bod y broses cysylltiadau newydd yn darparu cysylltiadau amserol i’r holl gwsmeriaid sydd â galw – yn y pen draw, ffynonellau galw newydd a chynyddol sy’n gyrru’r angen i gysylltu cynhyrchiant adnewyddadwy. Ni fydd twf cysylltiadau galw yn cael ei gyfyngu gan y llwybrau Pŵer Glân (ar yr amod bod NESO yn fodlon bod gofynion sefydlogrwydd a diogelwch y cyflenwad yn cael eu bodloni) ac rydym yn disgwyl y bydd y capasiti sy’n cael ei ryddhau drwy flaenoriaethu cysylltiadau cynhyrchu yn unol ag ystodau capasiti, a chael gwared ar gynhyrchiant gormodol o giw’r cysylltiadau, yn galluogi cysylltiadau cyflym ar gyfer llawer o gwsmeriaid sydd â galw.
Mae prosiectau galw sydd o fewn cwmpas diwygio ac sy’n cysylltu â’r rhwydwaith trawsyrru yn bwysig yn strategol o ystyried maint eu cysylltiadau a byddant yn sicrhau buddsoddiad a gwerth cymdeithasol ehangach. Felly, mae’n hanfodol bod camau’n cael eu cymryd i sicrhau bod buddsoddwyr mawr yn gallu parhau i gynnig a gwireddu buddsoddiadau ym Mhrydain Fawr cyn y diwygiadau ac wrth i’r diwygiadau fynd rhagddynt.
Yn yr un modd, mae’n bwysig bod prosiectau llai yn cael eu trin yn gymesur ac nad ydynt yn cael eu dal yn ormodol mewn prosesau trawsyrru. Ni fydd prosiectau sy’n cysylltu â’r rhwydwaith dosbarthu sy’n is na’r trothwyon rhanbarthol ar gyfer Asesiad o’r Effaith ar Drawsyrru (TIA) yn cael eu cyfyngu gan yr amrediadau capasiti a nodir yn y cynllun hwn. Ar hyn o bryd, y trothwy isaf ar gyfer TIA yw 1 MW yng Nghymru a Lloegr, 200 kW ar dir mawr yr Alban, a 50 kW ar Ynysoedd yr Alban.[footnote 3]
Llwybrau at Bŵer Glân
Mae symud o system ‘y cyntaf i’r felin’ i un sy’n cydweddu’n strategol yn golygu ein bod yn nodi’r capasiti y bydd ei angen arnom ym mhob math o dechnoleg. I wneud hyn, rydym wedi nodi ffigurau llwybr cenedlaethol ar gyfer y capasiti y dylid ei flaenoriaethu ar gyfer pob technoleg, a dadansoddiadau rhanbarthol pellach ar gyfer y capasiti y dylid ei flaenoriaethu ar gyfer solar, batris a gwynt ar y tir. Bydd hyn yn galluogi cwmnïau rhwydwaith i gyflymu, a datblygwyr i gyflwyno, prosiectau sy’n cyd-fynd orau ag angen strategol.
Yn amodol ar y dull terfynol y cytunir arno ar gyfer diwygio cysylltiadau, rydyn ni’n disgwyl y bydd NESO yn defnyddio pen uchaf llwybr 2030 y llywodraeth (h.y. ‘Amrediad Capasiti Pŵer Glân’ DESNZ), i danategu cynigion cysylltu ar gyfer prosiectau yn 2030 a chyn hynny. Er mwyn rhoi gorwel 10 mlynedd i ddatblygwyr a buddsoddwyr ar gyfer cynigion cysylltu, rydym yn disgwyl y bydd NESO yn defnyddio’r amrediad capasiti technoleg yn Tabl 1, sy’n deillio o’u Senario Ynni yn y Dyfodol (FES) 2024[footnote 4] i danategu cynigion cysylltu hyd at 2035. Nid yw’r amrediadau hyn sy’n deillio o FES yn llwybr gan y llywodraeth, ond yn hytrach yn sail gyhoeddus sefydledig i ddarparu sicrwydd tymor hwy ynghylch cysylltiadau, cyn y Cynllun Ynni Gofodol Strategol (SSEP), a fydd yn cael ei gyhoeddi yn 2026.
Nid yw’r dull hwn yn awgrymu ymrwymiad y llywodraeth i ragor o fesurau cyllidol, cymorth ardollau, na mecanweithiau polisi i helpu i fodloni lefel y defnydd yn amrediadau 2035. Bydd mesurau o’r fath yn destun penderfyniadau ar wahân.
Pan fydd prosiect hyfyw yn mynd y tu hwnt i’r amrediad capasiti technoleg 2035 perthnasol, bydd yn cael cynnig ‘Porth 1’ dangosol os yw wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â thrawsyrru (neu’n dychwelyd i’w gytundeb cysylltiad DNO cychwynnol os yw wedi’i wreiddio) a bydd yn cael cyfleoedd i ymuno â’r ciw yn y dyfodol lle mae bylchau’n dod i’r amlwg a/neu lle mae amrediadau capasiti’n cael eu hadolygu am i fyny gan yr SSEP cyntaf.
Lle mae tangyflenwad yn erbyn amrediad capasiti hyd at 2030, bydd NESO yn edrych yn gyntaf i ddisodli prosiectau hyfyw o’r un dechnoleg o barthau cyfagos, sy’n cael eu gor-gyflenwi. Os nad yw hyn yn bosibl neu os nad oes digon o gyflenwad ar ôl amnewid, bydd NESO yn cadw capasiti’r rhwydwaith hyd at frig yr amrediad capasiti i sicrhau bod seilwaith rhwydwaith digonol yn cael ei adeiladu cyn i brosiectau wneud cais i gysylltu yn y dyfodol. Bydd hyn yn darparu cyfleoedd ar gyfer cysylltiadau yn y dyfodol lle nad yw’r defnydd wedi’i ddatblygu’n ddigonol ar hyn o bryd, er enghraifft mewn gwynt ar y tir.
Ar gyfer y rhan fwyaf o dechnolegau, bydd amrediadau capasiti ar lefel Prydain Fawr yn ddigon i alluogi NESO i ddiwygio cysylltiadau’n effeithlon. Y rheswm am hyn yw bod y technolegau hyn yn cael eu nodweddu gan nifer fach o brosiectau neilltuol (e.e. niwclear), sy’n llai sensitif i leoliad, neu sydd eisoes yn destun ymarfer dylunio cydgysylltiedig (e.e. gwynt ar y môr). Mae llwybrau lefel uwch cyfun hefyd yn lleihau unrhyw risg o or-bennu defnydd yn y dyfodol cyn yr SSEP.
Ar gyfer ynni solar, batris, a gwynt ar y tir, mae angen i ni sicrhau bod prosiectau parod yn gallu symud ymlaen ar yr un pryd â darparu system ynni gytbwys ar gyfer 2030. Mae angen dadansoddiadau rhanbarthol i roi mwy o reolaeth i gwmnïau rhwydwaith ar ddyrannu capasiti ar gyfer y technolegau hyn gan eu bod yn cael eu nodweddu gan nifer fwy o brosiectau llai, sydd wedi’u gwasgaru’n ddaearyddol ac, yn achos solar a batris, sydd wedi eu rhagnodi’n ormodol yn genedlaethol yn ein ciw cysylltu presennol. Ar gyfer y technolegau hyn, byddai defnyddio llwybrau wedi’u cyfyngu i lefel Prydain Fawr yn creu risgiau sylweddol o ddylunio rhwydwaith is-optimaidd a gallai gyfyngu ar y gallu i gysylltu prosiectau galw strategol bwysig.
Mae’r Llywodraeth yn nodi’r dadansoddiadau rhanbarthol yn Tablau 2, 4, 6 a 7. Mae’r capasiti cyffredinol ar gyfer blaenoriaethu ar gyfer pob technoleg yn seiliedig ar Gynllun Gweithredu Pŵer Glân y llywodraeth, sy’n darparu llwybr cenedlaethol at gyflawni pŵer glân erbyn 2030 ac ‘Amrediad Capasiti Pŵer Glân’ (gweler Tabl 1).
Er mwyn penderfynu ar ddadansoddiad rhanbarthol llwybr y llywodraeth, gofynnodd y llywodraeth i NESO ystyried y ffordd orau o ddosbarthu capasiti yn rhanbarthol. Mae dadansoddiad NESO yn seiliedig ar y ciw cysylltiadau presennol, er mwyn sicrhau bod cyflenwad digonol o brosiectau, a modelu’r sector pŵer, i sicrhau bod asedau wedi’u lleoli lle gallant leihau lefel y nwy di-dor gaiff ei ddefnyddio a helpu i gadw costau’r system yn y dyfodol yn isel.
Bydd Ofgem yn penderfynu ar ddiwygiadau arfaethedig NESO i’r broses cysylltiadau erbyn diwedd Ch1 2025. Os bydd Ofgem yn cymeradwyo’r newidiadau, byddai ‘Amrediad Capasiti Pŵer Glân’ y DU a dadansoddiadau rhanbarthol yn yr atodiad hwn yn cael eu defnyddio yn y broses cysylltiadau i flaenoriaethu prosiectau sy’n diwallu ein hanghenion strategol orau.
Mae’r atodiad hwn hefyd yn cynnwys dadansoddiad rhanbarthol ar gyfer technolegau sydd eu hangen y tu hwnt i 2030, i 2035, yn seiliedig ar ddadansoddiad gan NESO. Dylid defnyddio hyn i roi sicrwydd i fuddsoddwyr drwy sicrhau cyflenwad parhaus o gysylltiadau grid. Mae’n bosibl y bydd prosiectau sy’n cyd-fynd â’r dadansoddiadau 2035 yn gallu cysylltu cyn 2031 os oes capasiti dros ben, os nad oes digon o gyflenwad, neu os bydd prosiectau’n gadael ar ôl derbyn cynnig.
Bydd y Llywodraeth yn adeiladu ar y cynllun hwn wrth gyhoeddi’r SSEP yn 2026. Bydd yr SSEP yn archwilio’r cymysgedd o dechnolegau sydd ar y gweill ac yn ystyried a ddylid rhyddhau capasiti a gedwir yn ôl ar gyfer technolegau sy’n tan-gyflenwi ar gyfer technolegau eraill. Felly, mae’r ffigurau 2035 yn yr atodiad technegol hwn yn rhai interim er mwyn gallu diwygio’r cytundeb cysylltu yn gyflym ac maent yn destun diweddariadau drwy’r SSEP. Yn unol â’r cynigion a nodir yn ymgynghoriad NESO, rydym yn disgwyl na fydd cyflwyno’r llwybr SSEP yn newid cytundebau cysylltiadau sydd eisoes wedi’u cyhoeddi ar gyfer prosiectau sy’n defnyddio’r ystodau sy’n deillio o FES a nodir yma – ar yr amod bod y prosiectau hynny’n parhau i gyrraedd cerrig milltir cynnydd – ond gallant arwain at newidiadau o ran blaenoriaethu capasiti ar gyfer cynigion cysylltu yn y dyfodol. Mae NESO yn cynnig peidio â disodli prosiectau sydd wedi cael cynnig cysylltiad yn ystod y cyfnod 2031-35 ond sydd wedyn yn gadael y ciw, er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfle i’r SSEP cyntaf fanteisio i’r eithaf ar y rhwydwaith yn y dyfodol.
Yn amodol ar gymeradwyaeth Ofgem, bydd hyblygrwydd ychwanegol yn cael ei gynnwys yn y broses gysylltu ddiwygiedig i ganiatáu am athreuliad prosiectau a gorgyflenwad neu dangyflenwad. Dylai’r rhain gynnwys:
- caniatáu cysylltiadau cyn 2030 ar gyfer prosiectau parod sy’n rhagori ar amrediad capasiti 2030 ond sydd o fewn yr ystodau 2035, lle mae capasiti dros ben ar ôl i brosiectau o fewn amrediadau 2030 gael eu hasesu. Bydd hyn yn osgoi gosod terfyn llym ar gysylltiadau cyn 2030 ac yn sicrhau na fydd unrhyw brosiect yn cael ei wrthod rhag cysylltu cyn 2030 dim ond am nad yw’n cydweddu â Pŵer Glân 2030
- caniatáu amnewid yr un dechnoleg o barthau cyfagos lle mae gorgyflenwi neu dangyflenwi, ar yr amod nad yw hyn yn achosi cyfyngiadau rhwydwaith sylweddol
- caniatáu i unrhyw brosiect sydd â dyddiad cysylltu yn 2025 neu 2026, sydd eisoes yn cael ei adeiladu, gadw ei ddyddiad cysylltu
Hefyd, er mwyn osgoi effeithio ar brosiectau y mae eu datblygiad eisoes yn mynd rhagddo’n dda, mae NESO wedi cynnig bod unrhyw brosiect sydd wedi cael Contract ar gyfer Gwahaniaeth neu gontract y Farchnad Capasiti, Cytundeb Rhyng-gysylltu neu gytundeb Cap a Llawr Ased Hybrid ar y Môr, cymeradwyaeth Rhyng-gysylltydd Masnach, neu wedi sicrhau caniatâd cynllunio fel Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol neu drwy Ddeddfau Cynllunio Gwlad a Thref perthnasol (gan gynnwys drwy gyfundrefnau cynllunio llywodraethau datganoledig), yn cael eu cynnwys yn y ciw cysylltiadau diwygiedig newydd ar yr amod eu bod hefyd wedi bodloni Meini Prawf Parodrwydd Porth 2. Mae’r Llywodraeth yn cefnogi’r cynnig hwn.[footnote 5]
Dylid nodi na fydd cynigion cysylltu â blaenoriaeth yn unig yn gwarantu y bydd prosiect yn symud ymlaen i gael ei gwblhau. Bydd yn dal yn ofynnol i brosiectau sicrhau caniatâd cynllunio (os nad yw eisoes wedi’i roi) a chyrraedd cerrig milltir cynnydd NESO er mwyn cadw cytundebau cysylltu a symud ymlaen i bweru.
Bydd yna brosiectau penodol hefyd sy’n gofyn am sicrwydd y tu hwnt i 2035, fel niwclear ar raddfa fawr. Ym marn y llywodraeth, dylai NESO ystyried sut y gellir defnyddio’r Fethodoleg Dynodi Prosiectau yr ymgynghorwyd arni’n ddiweddar i roi sicrwydd cynnar i’r prosiectau hyn.
Ar gyfer technolegau nad ydynt wedi’u cynnwys yn y llwybrau a nodir isod, neu gynhyrchiant sy’n cysylltu o’r tu allan i Brydain Fawr, dylai NESO ystyried ar wahân y llwybr cywir drwy’r broses cysylltiadau i hwyluso cysylltiadau amserol ar gyfer y prosiectau hyn, fel sy’n briodol. Ar ben hynny, dim ond i brosiectau sydd angen cwblhau Asesiadau o’r Effaith ar Drawsyrru y mae’r amrediad capasiti yn berthnasol, yn amodol ar reolau gweithredwyr rhwydwaith penodol.
Tabl 1: Capasiti ar lefel y DU wedi’i osod yn 2030 yn senarios ‘Further Flex and Renewables’ a ‘New Dispatch’ NESO, ac ‘Amrediad Capasiti Pŵer Glân’ DESN, o’i gymharu â’r capasiti sydd wedi’i osod yn 2024 (GW)
Technoleg | Capasiti gosodedig presennol (2024) [footnote 6] | Senario ‘Further Flex and Renewables’ NESO | Senario ‘New Dispatch’ NESO | ‘Amrediad Capasiti Pŵer Glân’ DESNZ 2030 [footnote 7] | Amrediad Capasiti sy’n deillio o FES 2035 [footnote 8] |
---|---|---|---|---|---|
Newidiol: Gwynt ar y môr | 14.8 | 51 | 43 | 43 – 50 | 72 – 89 |
Newidiol: Ynni gwynt ar y tir | 14.2 | 27 | 27 | 27 – 29 | 35 – 37 [footnote 9] |
Newidiol: Solar | 16.6 | 47 | 47 | 45 – 47 [footnote 10] | 45 – 69 [footnote 11] |
Cadarn: Niwclear | 5.9 | 4 | 4 | 3 – 4 | 4 – 6 |
Anfonadwy: Pŵer Carbon Isel Anfonadwy [footnote 12] | 4.3 | 4 | 7 | 2 – 7 [footnote 13] | Hyd at 25 |
Anfonadwy: Nwy di-dor | 35.6 | 35 | 35 | 35 [footnote 14] | Yn amodol ar broses ddynodi ar wahân NESO [footnote 15] |
Hyblyg: LDES [footnote 16] | 2.9 | 8 | 5 | 4 – 6 | 5 – 10 |
Hyblyg: Batris [footnote 17] | 4.55 | 27 | 23 | 23 – 27 | 24 – 29 |
Hyblyg: Rhyng-gysylltwyr | 9.8 | 12 | 12 | 12 – 14 | 17 – 24 |
Hyblyg: Hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr [footnote 18] | 2.55 [footnote 5] | 12 | 10 | 10 – 12 | 29 |
Nodyn ar ddulliau pwrpasol ar gyfer amrediad capasiti 2035 ar gyfer ynni gwynt ar y tir a nwy di-dor
29-31 GW yw amrediad FES 2035 ar gyfer ynni gwynt ar y tir. Dim ond cynnydd o 2 GW yn fwy na’n llwybr 2030 (27-29 GW) yw hyn ar gyfer y cyfnod 2031-35, sy’n cyfateb i gyfradd defnyddio flynyddol o 0.4 GW. Mae NESO wedi cadarnhau bod y modelu FES yn seiliedig ar dybiaethau am y llif ynni gwynt ar y tir arfaethedig yng Nghymru a Lloegr, ac nad ydynt yn adlewyrchu’r camau a gymerwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ym mis Gorffennaf i ddileu’r gwaharddiad ar ynni gwynt ar y tir de facto.
Felly, rydym o’r farn nad yw amrediad FES 2035 yn adlewyrchiad cywir o’r potensial ar gyfer defnyddio ynni gwynt ar y tir dros y 10 mlynedd nesaf ac nad yw’n cydweddu ag amcanion y Tasglu Gwynt ar y Tir. Mae dadansoddiad mewnol DESNZ yn dangos potensial sylweddol ar gyfer defnyddio ynni gwynt ar y tir y tu hwnt i ffigur FES o 31 GW erbyn 2035, a allai fod rhwng 35 a 37 GW.[footnote 19] Mae’n dilyn felly bod cyfiawnhad cryf dros wyro oddi wrth ystod FES ar gyfer ynni gwynt ar y tir.
Felly, rydym wedi cynyddu’r amrediad capasiti ar gyfer ynni gwynt ar y tir yn 2035 i 35-37 GW, sy’n uwch na’r hyn a bennwyd gan FES. Rydym yn cydnabod bod ansicrwydd lleoliadol yn y llif gwynt ar y tir o’i gymharu â datblygu rhwydweithiau ar ôl codi’r gwaharddiad de facto yn ei gwneud yn anodd cyfrifo dadansoddiad rhanbarthol o gynnydd yng nghapasiti gwynt ar y tir 2035 y llywodraeth i’r un lefel o fanylder â solar a batris. Felly, rydym wedi penderfynu bwrw ymlaen â rhaniad dau barth rhwng: i) yr Alban a ii) Cymru a Lloegr ar gyfer gwynt ar y tir, heb unrhyw raniad rhwng trawsyrru a dosbarthu. Dangosir y rhaniad dau barth yn Tabl 6 a Tabl 7.
Rydym wedi penderfynu dyrannu’r cynnydd o 6 GW mewn ynni gwynt ar y tir i barth Cymru a Lloegr (cyfanswm o 16 GW), gyda’r gwynt ar y tir yn cael ei ddyrannu i’r Alban yn unol ag amcangyfrifon 2035 FES (21 GW). Mae hyn yn cyd-fynd â’n rhesymeg bod mynd ar drywydd y cynnydd wedi bod yn angenrheidiol er mwyn adlewyrchu’r cyfraddau twf uwch disgwyliedig mewn gwynt ar y tir yng Nghymru a Lloegr ar ôl codi’r gwaharddiad de facto. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â NESO, Ofgem a llywodraethau datganoledig i ystyried y dull mwyaf cost-effeithiol o optimeiddio technoleg cynhyrchu gwynt drwy’r SSEP, gan gynnwys ystyried gweledigaeth Llywodraeth yr Alban ar gyfer Gwynt ar y Tir yn y dyfodol.
Mae’r technolegau a nodir yn Tabl 1 yn cynrychioli portffolio o dechnolegau adnewyddadwy a charbon isel sefydledig a newydd i ddatgarboneiddio’r sector pŵer, ac rydym yn disgwyl cynyddu’r defnydd o’r technolegau hyn i sicrhau ein bod yn gallu diwallu’r galw am drydan gyda chyfran gynyddol o bŵer carbon isel. Wrth wneud hynny, rydym yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau capasiti nwy i gynnal diogelwch y cyflenwad wrth i ni symud i Bŵer Glân, a thu hwnt. Mae hyn yn golygu cadw digon o gapasiti nwy di-dor tan ymhell y tu hwnt i 2030, pan fydd modd ei ddisodli’n ddiogel gan dechnolegau carbon isel sy’n gallu darparu’r hyblygrwydd hirdymor sydd ei angen i gadw’r system yn gytbwys bob amser. Yn amodol ar gymeradwyaeth Ofgem, bydd proses dynodi prosiectau NESO yn sicrhau mynediad blaenoriaethol at y capasiti sydd ar gael / dyddiadau cysylltu cynharach pan fydd prosiectau’n bodloni meini prawf amrywiol, gan gynnwys y rheini yr ystyrir eu bod yn hanfodol i ddiogelwch y cyflenwad.
Dadansoddiadau o gapasiti rhanbarthol ar gyfer paneli solar, gwynt ar y tir a batris
Cytunwyd ar ddadansoddiad o gapasiti rhanbarthol ar y cyd â NESO. Mae’r dadansoddiadau 2030 sy’n cael eu cyflwyno isod yn adlewyrchu pen uchaf yr amrediad capasiti yn ‘Amrediad Capasiti Pŵer Glân’ DESNZ ar gyfer solar, gwynt ar y tir a batris. Mae’r dadansoddiadau o gapasiti rhanbarthol ar gyfer 2035 yn seiliedig ar senarios sy’n cyd-fynd â sero net FES-24 NESO, a’r amrediad capasiti pwrpasol ar gyfer gwynt ar y tir. Mae’r dadansoddiadau wedi cael eu hamcangyfrif gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys data presennol am y ciw cysylltu, data cynllunio a chofrestr y Farchnad Capasiti, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny. Ar gyfer technolegau sydd wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith trawsyrru a dosbarthu, mae’r dadansoddiadau hyn wedi cael eu cyflwyno mewn 11 ac 8 rhanbarth yn y drefn honno. Dewiswyd y rhanbarthau hyn i gydbwyso anghenion deuol, sef i) darparu digon o fanylion daearyddol i reoli a chynllunio’r rhwydwaith trydan yn y dyfodol yn effeithiol a, ii) yr angen am lefelau digonol o hyblygrwydd yn y broses cysylltiadau diwygiedig i ganiatáu i newidiadau yn y farchnad yn y dyfodol gael eu hadlewyrchu yn ein cymysgedd technoleg rhanbarthol.
Mae’r dyraniadau cynhwysedd ar gyfer gwynt a solar ar y tir ar gyfer y cyfnod 2031-35 wedi cael eu cyfuno ar draws lefelau trawsyrru a dosbarthu (gweler Tabl 6) am y rhesymau a nodir mewn man arall yn yr Atodiad hwn. Mae’r cynwyseddau rhanbarthol ar gyfer gwynt ar y tir (yr Alban, Cymru a Lloegr) yn cael eu cyflwyno yn Tabl 7.
Technolegau cysylltiedig â thrawsyrru
Tabl 2: Dadansoddiadau capasiti rhanbarthol ar gyfer technolegau cysylltiedig â thrawsyrru sydd eu hangen ar gyfer 2030[footnote 20] a 2035[footnote 21]
Rhanbarth rhwydwaith trawsyrru | Solar (MW) 2030 |
Solar (MW) 2035 [footnote 22] |
Gwynt ar y tir (MW) [footnote 23] 2030 [footnote 24] |
Gwynt ar y tir (MW) 2035 |
Batris (MW) [footnote 25] 2030 |
Batris (MW) 2035 |
---|---|---|---|---|---|---|
Gogledd Yr Alban | 100 | - | 5,500 | - | 1,900 | 1,900 |
De Yr Alban | 600 | - | 8,800 | - | 3,900 | 3,900 |
Gogledd Lloegr | 500 | - | - | - | 800 | 800 |
Gogledd Cymru, Mersi a Humber | 1,200 | - | 300 | - | 4,200 | 4,200 |
Canolbarth Lloegr | 4,000 | - | - | - | 1,300 | 1,300 |
Canol Lloegr | 2,100 | - | - | - | 500 | 500 |
E. Anglia | 100 | - | - | - | 200 | 200 |
De Cymru a Hafren | 1,100 | - | 1,300 | - | 900 | 900 |
De Orllewin Lloegr | 300 | - | - | - | 400 | 400 |
De Lloegr | 200 | - | - | - | 100 | 100 |
De Ddwyrain Lloegr | 600 | - | - | - | 1,700 | 1,700 |
Cyfanswm Prydain Fawr | 10,800 | - | 15,900 | - | 15,900 | 15,900 |
Nodyn: Mae ffigurau capasiti MW wedi’u talgrynnu i’r 100 MW agosaf.
Tabl 3: Mapio codau rhanbarth y rhwydwaith trawsyrru yn ôl enwau rhanbarthau trawsyrru
Cod rhanbarth rhwydwaith trawsyrru | Enw rhanbarth rhwydwaith trawsyrru |
---|---|
T1 | Gogledd yr Alban |
T2 | De yr Alban |
T3 | Gogledd Lloegr |
T4 | Gogledd Cymru, Mersi a Humber |
T5 | Canolbarth Lloegr |
T6 | Canol Lloegr |
T7 | E. Anglia |
T8 | De Cymru a Hafren |
T9 | De-orllewin Lloegr |
T10 | De Lloegr |
T11 | De-ddwyrain Lloegr |
Technolegau cysylltiedig â dosbarthu
Tabl 4: Dadansoddiadau capasiti rhanbarthol ar gyfer technolegau cysylltiedig â dosbarthu sydd eu hangen ar gyfer 2030[footnote 26] a 2035[footnote 27]
Rhanbarth rhwydwaith dosbarthu | Solar (MW) 2030 |
Solar (MW) 2035 [footnote 28] |
Gwynt ar y tir (MW) [footnote 29] 2030 |
Gwynt ar y tir (MW) 2035 |
Batris (MW) 2030 |
Batris (MW) 2035 |
---|---|---|---|---|---|---|
Scottish and Southern Electricity Networks (SSEN) – Scottish Hydo Electric Power Distribution (SHEPD) | 1,100 | - | 3,500 | - | 900 | 900 |
SP Distribution (SPD) | 1,100 | - | 2,700 | - | 800 | 900 |
Northern Powergrid (NPg) | 4,400 | - | 1,900 | - | 1,900 | 2,100 |
Electricity North West (ENWL) | 1,500 | - | 700 | - | 900 | 1,000 |
SP Manweb | 1,500 | - | 1,000 | - | 400 | 500 |
National Grid Electricity Distribution (NGED) | 13,900 | - | 2,400 | - | 3,000 | 3,600 |
UK Power Networks (UKPN) | 8,100 | - | 900 | - | 2,100 | 2,400 |
SSEN – Southern Electric Power Distribution (SEPD) | 4,600 | - | 100 | - | 1,200 | 1,400 |
Cyfanswm Prydain Fawr | 36,200 | - | 13,200 | - | 11,200 | 12,800 |
Nodyn: Mae ffigurau capasiti MW wedi’u talgrynnu i’r 100 MW agosaf.
Tabl 5: Mapio codau rhanbarth y rhwydwaith dosbarthu yn ôl enwau rhanbarthau dosbarthu
Cod rhanbarth rhwydwaith dosbarthu | Enw rhanbarth rhwydwaith trawsyrru |
---|---|
D1 | SSEN - SHEPD |
D2 | SP Distribution |
D3 | ENWL |
D4 | NPg |
D5 | SP Manweb |
D6 | NGED |
D7 | SSEN - SEPD |
D8 | UKPN |
Tabl 6: Dadansoddiadau o gynwyseddau rhanbarthol ar gyfer technolegau sydd â chynhwysedd rhwydweithiau trawsyrru a dosbarthu cyfun ar gyfer 2035
Enw rhanbarth y rhwydwaith trawsyrru | Cod rhanbarth y rhwydwaith trawsyrru | Tx + Dx Solar (MW) 2035 |
Tx + Dx Gwynt ar y tir (MW) 2035 |
---|---|---|---|
Gogledd Yr Alban | T1 | 2,500 | - |
De Yr Alban | T2 | 2,600 | - |
Cyfanswm Yr Alban | - | 5,100 | 21,200 |
Gogledd Lloegr | T3 | 5,200 | - |
Gogledd Cymru, Mersi a Humber | T4 | 9,500 | - |
Canolbarth Lloegr | T5 | 13,700 | - |
Canol Lloegr | T6 | 9,500 | - |
E. Anglia | T7 | 3,300 | - |
De Cymru a Hafren | T8 | 8,300 | - |
De Orllewin Lloegr | T9 | 5,500 | - |
De Lloegr | T10 | 2,300 | - |
De Ddwyrain Lloegr | T11 | 7,000 | - |
Cyfanswm Cymru a Lloegr | - | 64,200 | 15,800 |
Cyfanswm Prydain Fawr | - | 69,400 | 37,000 |
Nodyn: Mae ffigurau capasiti MW wedi’u talgrynnu i’r 100 MW agosaf.
Tabl 7: Cyfanswm capasiti Cymru, Lloegr a’r Alban yn ôl technoleg
Rhanbarth Prydain Fawr | Solar (MW) 2030 |
Solar (MW) 2035 |
Gwynt ar y tir (MW) 2030 |
Gwynt ar y tir (MW) 2035 |
Batris (MW) 2030 |
Batris (MW) 2035 |
---|---|---|---|---|---|---|
Yr Alban | 2,900 | 5,100 | 20,500 | 21,200 | 7,500 | 7,600 |
Cymru a Lloegr | 44,100 | 64,300 | 8,600 | 15,800 | 19,600 | 21,100 |
Cyfanswm Prydain Fawr | 47,000 | 69,400 | 29,100 | 37,000 | 27,100 | 28,700 |
Nodyn: Mae ffigurau capasiti MW wedi’u talgrynnu i’r 100 MW agosaf.
Diweddariad
Ail-gyhoeddwyd Atodiad Diwygio Cysylltiadau Cynllun Gweithredu Pŵer Glân 2030 ym mis Ebrill 2025 i fynd i’r afael â cham-alinio rhwng dyraniadau cynwyseddau solar a’r biblinell solar ar gyfer 2031-35, drwy gyfuno’r dyraniadau dosbarthu a thrawsyrru solar ar gyfer 2031-35 ar draws yr 11 rhanbarth rhwydwaith trawsyrru (gweler tabl 6).[footnote 30] Bydd y diweddariad technegol hwn yn galluogi NESO i ddyrannu cynhwysedd i’r prosiectau solar mwyaf datblygedig ar draws trawsyrru a dosbarthu ym mhob rhanbarth. Mae’r dyraniad cyffredinol ar gyfer cynhwysedd solar yn dal yr un fath â’r hyn a gyhoeddwyd yn wreiddiol.
-
DESNZ (2024), ‘Open letter from DESNZ and Ofgem: Aligning grid connections with strategic plans’ (5 Tachwedd 2024). ↩
-
NESO (2024), ‘Phase 3: Dogfennau’r Ymgynghoriad’ ↩
-
Mae National Grid Electricity Transmission wedi cynnig codi’r trothwy ar gyfer TIA yng Nghymru a Lloegr, gweler: Bwrdd Cyflawni Cysylltiadau Ofgem - cofnodion Hydref 2024 ↩
-
Mae senarios FES eisoes yn cael eu defnyddio gan NESO at ddibenion cynlluniau buddsoddi ehangach. Gweler, er enghraifft: NESO Beyond 2030 ↩
-
NESO (2024), ‘Open letter on connections reform’ (cyhoeddwyd ar 10 Rhagfyr 2024, gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩ ↩2
-
Y data diweddaraf sydd ar gael i’r cyhoedd ar gyfer Prydain Fawr adeg cyhoeddi. Y ffynhonnell ddata ar gyfer ynni adnewyddadwy yw DESNZ (2024), ‘Energy Trends 6.1’, data Ch2 2024. Y ffynhonnell ddata ar gyfer niwclear, nwy di-dor, ac LDES yw DESNZ (2024), ‘DUKES 2024 5.12’, data 2023. Y ffynhonnell ddata ar gyfer hyblygrwydd a arweinir gan ddefnyddwyr yw NESO (2024), ‘Clean Power 2030 Table 2’, data 2023. Y ffynhonnell ddata ar gyfer batris yw Modo Energy (2024), ‘Indices & Benchmarks’, data Ch4 2024. Y ffynhonnell ddata ar gyfer rhyng-gysylltwyr yw Ofgem (2024), ‘Interconnectors’, data 2024. Mae pŵer carbon isel anfonadwy yn cynnwys biomas, pŵer BECCS, CCUS nwy a hydrogen i bŵer. Y ffynhonnell ddata ar gyfer biomas a phŵer BECCS yw NESO (2024), ‘Clean Power 2030 Table 2’, data 2023 pan fo ar gael. Mae CCUS nwy a hydrogen i bŵer yn dechnolegau newydd felly nid oes capasiti wedi’i osod adeg cyhoeddi. Edrychwyd ar yr holl ddolenni ym mis Rhagfyr 2024. ↩
-
Yn ogystal â’r ddwy senario NESO, mae’r ystodau hyn wedi cael eu llywio gan fodelu mewnol ac asesiad o’r defnydd mwyaf ymarferol yn seiliedig ar wybodaeth gyfredol am lif y prosiect. Felly, mae’r ystod yn wahanol i’r ystod o ddwy senario NESO mewn rhai achosion. Fodd bynnag, ar gyfer solar, mae lle i fynd y tu hwnt i’r terfyn uchaf o 47GW, yn amodol ar angen y system, gan nodi, er enghraifft, botensial solar ar y to i roi hwb i’r defnydd – gweler y manylion yn yr atodiad hwn. ↩
-
Mae amrediadau 2035 wedi cael eu datblygu gan ddefnyddio amrediadau o senarios sy’n cydweddu â sero net NESO FES24. ↩
-
Mae amrediad capasiti gwynt ar y tir ar gyfer 2035 yn cynnwys cynnydd o 6 GW o amcangyfrif FES24 2035. Mae hyn er mwyn adlewyrchu’r potensial ar gyfer cyfraddau twf uwch mewn ONW yng Nghymru a Lloegr ar ôl codi’r gwaharddiad de facto. ↩
-
Mae ymgysylltiad NESO â Gweithredwyr Rhwydweithiau Dosbarthu yn dangos y gallai 9-10 GW ychwanegol o brosiectau solar ar y to, nad ydynt yn destun Asesiadau Effaith ar Drawsyrru, gael eu defnyddio cyn 2030. Felly, mae’n bosibl y gallai amrediad capasiti solar Pŵer Glân 2030 o 45-47 GW gynhyrchu tua 54-57 GW yn 2030 (yn amodol ar lif solar PV o brosiectau solar ar y to). ↩
-
Gan na fyddem yn disgwyl i gapasiti gosod solar ostwng rhwng 2030 a 2035, rydym wedi ail-galibradu amrediad 2035, felly mae’n dechrau ar ben isaf Amrediad Capasiti Pŵer Glân DESNZ. ↩
-
Mae technolegau y gellir eu danfon yn rhai sy’n llosgi tanwydd i gynhyrchu trydan a, thrwy amrywio’r gyfradd y caiff tanwydd ei losgi, gallant ymateb i ddiwallu anghenion y grid gyda lefelau amrywiol o hyblygrwydd. Mae’r categori hwn yn cynnwys biomas, pŵer BECCS, CCUS nwy a hydrogen. ↩
-
Mae pen isaf yr ystod yn cynrychioli’r capasiti sylfaenol rydym yn disgwyl ei gael yn 2030. Mae ansicrwydd ynghylch faint o gapasiti biomas fydd yn y system yn 2030, gyda rhai trefniadau cymorth presennol yn dod i ben o 2027 ymlaen. Mae HMG yn ystyried y sefyllfa o ran trefniadau cymorth posibl yn y dyfodol, ond nid oes penderfyniadau wedi’u gwneud eto. ↩
-
Wrth gyflawni ei uchelgais Pŵer Glân ar gyfer 2030, nod y llywodraeth yw sicrhau y bydd digon o gapasiti hyblyg yn y system i fodloni diogelwch y cyflenwad. Mae hyn yn cynnwys cadw’r capasiti nwy di-dor sy’n bodoli ar hyn o bryd. ↩
-
Mae’r Llywodraeth yn disgwyl y byddai cysylltiadau nwy di-dor yn ddarostyngedig i fethodoleg dynodi NESO. ↩
-
Yn unol â’r sefyllfa a nodir yn Ymateb y Llywodraeth i Ymgynghoriad LDES, mae LDES yn dechnolegau storio sy’n para o leiaf 6 awr. Ar hyn o bryd mae’r Llywodraeth yn ystyried a ddylid cynyddu’r cyfnod byrraf y tu hwnt i 6 awr, gan gynnwys drwy gyngor gan NESO. Bydd y Llywodraeth yn cadarnhau’r sefyllfa derfynol yn Ch1 2025, yn Nogfen Penderfyniad Technegol LDES y bydd yn ei chyhoeddi gydag Ofgem. Gweler Designing a policy framework to enable investment in long duration electricity storage: government response. ↩
-
Cyfeiriad at brosiectau storfa fatri nad ydynt yn bodloni diffiniad LDES, yn unol â’r Ddogfen Penderfyniad Technegol LDES arfaethedig. ↩
-
Heb gynnwys gwresogyddion stôr. Ni fydd cynigion cysylltu yn cael eu cyhoeddi o dan y categori technoleg hwn. ↩
-
Mae’r amrediad hwn wedi cael ei hysbysu gan ddadansoddiad DESNZ o Atodiad O i Amcanestyniadau Ynni ac Allyriadau a gyhoeddwyd, yn ogystal â dadansoddiad mewnol mwy diweddar sy’n modelu llwybr sector pŵer credadwy i gyrraedd Pŵer Glân yn 2030 (gweler yr Atodiad Technegol). ↩
-
Mae cyfanswm capasiti cenedlaethol (MW) fesul technoleg, yn cyd-fynd ag Amrediad Capasiti Pŵer Glân DESNZ ar gyfer 2030. ↩
-
Mae ffigurau 2035 yn seiliedig ar senarios sy’n cyd-fynd â sero net FES24. ↩
-
Nid yw cynwyseddau 2025 ar gyfer solar wedi’u rhannu’n rhwydwaith trawsyrru a rhwydwaith dosbarthu. Yn hytrach, mae’r rhain wedi’u cyfuno yn ôl rhanbarth rhwydwaith trawsyrru ac maent yn cael eu cyflwyno yn Tabl 6. ↩
-
Nid ydym wedi cyflwyno dadansoddiad gwynt ar y tir yn ôl rhanbarth rhwydwaith trawsyrru ar gyfer 2035. Mae’r rhaniad capasiti rhwng yr Alban a Chymru a Lloegr wedi’i gyflwyno yn Tabl 6. ↩
-
Mae rhywfaint o gapasiti rhanbarthol gwynt ar y tir yn wag ar gyfer 2030 oherwydd diffyg prosiectau cysylltiedig â thrawsyrru arfaethedig hysbys yn y rhanbarthau hyn ar adeg cyhoeddi. ↩
-
Mae cyfanswm y cynnydd o 2 GW mewn capasiti amcangyfrifiedig rhwng 2030 a 2035 ar gyfer batris wedi cael ei ddyrannu i fatris cysylltiedig â thrawsyrru yn unig. Felly, nid oes unrhyw newid yn y dadansoddiad capasiti ar gyfer batris cysylltiedig â thrawsyrru rhwng 2030 a 2035. ↩
-
Mae cyfanswm capasiti cenedlaethol (MW) fesul technoleg, yn cyd-fynd ag Amrediad Capasiti Pŵer Glân DESNZ (Tabl 1). ↩
-
Mae ffigurau 2035 yn seiliedig ar senarios sy’n cyd-fynd â sero net FES24. ↩
-
Nid yw cynwyseddau 2025 ar gyfer solar wedi’u rhannu’n rhwydwaith trawsyrru a rhwydwaith dosbarthu. Yn hytrach, mae’r rhain wedi’u cyfuno yn ôl rhanbarth rhwydwaith trawsyrru ac maent yn cael eu cyflwyno yn Tabl 6. ↩
-
Nid ydym wedi cyflwyno dadansoddiad gwynt ar y tir yn ôl rhanbarth rhwydwaith dosbarthu ar gyfer 2035. Mae’r rhaniad capasiti rhwng yr Alban a Chymru a Lloegr wedi’i gyflwyno yn Tabl 6 a Tabl 7. ↩
-
DESNZ (2025), ‘Clean Power 2030 Action Plan: solar capacity update - letter to NESO’, (7 Ebrill 2025). ↩