Cynllun Gweithredu Pŵer Glân 2030: Oes newydd o drydan glân - prif adroddiad
Diweddarwyd 15 Ebrill 2025
Rhestr o Dalfyriadau
AGR: Adweithydd Nwy-oeredig Datblygedig
BECCS: Bio-ynni gyda Dal a Storio Carbon
CB: Cyllideb Carbon
CCUS: Dal, Defnyddio a Storio Carbon
CfD: Contractau ar gyfer Gwahaniaeth
CHP: Pŵer a Gwres Cyfun
CM: Marchnad Capasiti
DESNZ: Yr Adran Diogelu Ffynonellau Ynni a Sero Net
DPA: Cytundeb Pŵer Anfonadwy
DSR: Ymateb Ymhlith Defnyddwyr
DNOs: Gweithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu
EEP: Amcanestyniadau Ynni ac Allyriadau
H2P: Hydrogen i Bŵer
H2PBM: Model Busnes Hydrogen i Bŵer
gCO2e/kWh: Gramau o garbon deuocsid cyfwerth fesul cilowat-awr o drydan
GBE: Great British Energy
GDP: Cynnyrch Domestig Gros
GW: Gigawat
LAES: Storfa Ynni Aer Hylif
LDES: Storfa Trydan Hirdymor
MHHS: Setliad Bob Hanner Awr ledled y Farchnad
MoD: Y Weinyddiaeth Amddiffyn
MW: Megawat
NESO: Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol
NSIP: Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol
NSTA: Awdurdod Pontio Môr y Gogledd
OBR: Y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol
Ofgem: Swyddfa Marchnadoedd Nwy a Thrydan
REMA: Adolygiad o Drefniadau’r Farchnad Drydan
SSEP: Cynllun Ynni Gofodol Strategol
TNUoS: Defnyddio’r System Rhwydwaith Trawsyrru
Rhageiriau
Rhagair gan yr Ysgrifennydd Gwladol

Byddwn yn cyflwyno oes newydd o drydan glân i’n gwlad, gyda’n cynllun i gyflawni’r diwygiadau mwyaf uchelgeisiol i’n system ynni mewn cenedlaethau.
Ers ymosodiad Rwsia ar Wcráin, mae Prydain wedi dioddef argyfwng costau byw dinistriol a achoswyd gan ein cysylltiad â marchnadoedd tanwydd ffosil cyfnewidiol. Mae pob teulu a busnes yn y wlad wedi talu’r pris, ac rydym yn parhau i wynebu ergydion yn ymwneud ag ynni yn y dyfodol. Mewn byd sy’n fwyfwy ansefydlog, mae ein dibyniaeth ar danwydd ffosil yn golygu ein bod yn agored iawn i niwed fel gwlad – ac mae hynny’n wir ni waeth o ble mae’r tanwydd ffosil yn dod.
Ond mae datrysiad ar gael: os byddwn yn troi at ynni glân, ac sy’n cael ei gynhyrchu gartref, gallwn gymryd rheolaeth yn ôl gan yr unbeniaid a’r gwledydd sy’n ddibynnol ar eu cyflenwadau olew. Dyna pam mae’r Prif Weinidog wedi dweud mai darparu pŵer glân erbyn 2030 yw un o’i bum prif genhadaeth a’r Cynllun ar gyfer Newid.
Mae oes trydan glân yn ymwneud â harneisio pŵer adnoddau naturiol Prydain er mwyn i ni allu amddiffyn pobl sy’n gweithio rhag rhaib marchnadoedd ynni byd-eang. Bydd y cynllun hwn yn rhoi’r sylfaen i’r DU adeiladu system ynni a all leihau biliau cartrefi a busnesau am byth. Ac mae hefyd yn ymwneud â chreu’r math o wlad rydyn ni’n gwybod bod pobl eisiau ei gweld – ail-ddiwydiannu ein cadarnleoedd gyda swyddi da a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Mae’r cynllun hwn yn nodi sut bydd y llywodraeth yn gweithio gyda’r sector pŵer glân, gan gynnwys y diwydiant, undebau llafur, buddsoddwyr a llunwyr polisïau ac eraill i gyflawni ein nod o ran pŵer glân. Dim ond chwe blynedd sydd tan 2030, a does dim amheuaeth am faint y dasg sydd o’n blaenau, ond mae llywodraeth sy’n cael ei gyrru gan genhadaeth yn ymwneud â gweithredu ar frys ac yn benderfynol i ymateb i’r heriau sy’n ein hwynebu.
Dyna pam wnes i benodi Chris Stark yn Bennaeth Pŵer Glân 2030 yn fy adran yn ystod fy wythnos gyntaf yn y swydd, gan arwain rheolaeth cenhadaeth newydd i sbarduno cynnydd tuag at ein targed. Fel cam cyntaf, fe wnaethom gomisiynu’r Gweithredwr Systemau Ynni Cenedlaethol (NESO) i roi cyngor annibynnol ac arbenigol ar ddarparu pŵer glân erbyn 2030. Roedd eu cyngor, a gafodd ei gyhoeddi yn gynharach eleni, yn dangos y gallwn gyflawni ein nod, gan ddiogelu defnyddwyr a darparu system ynni fwy diogel.
Mae’r cynllun hwn yn adeiladu ar y cyngor hwnnw, gan nodi barn y llywodraeth am y llwybr at 2030 a’r camau sydd eu hangen i gyrraedd y nod.
Yn y pen draw, mae angen inni symud yn gyflym ac adeiladu pethau i ddarparu’r uwchraddiad unwaith mewn cenhedlaeth i’n seilwaith ynni y mae Prydain ei angen. Yn ystod ein pum mis cyntaf, rydym eisoes wedi codi’r gwaharddiad ar ynni gwynt ar y tir, wedi sefydlu Great British Energy, wedi cydsynio i bron i 2 GW o solar, wedi darparu arwerthiant ynni adnewyddadwy sy’n torri tir newydd, ac wedi rhoi hwb i’n diwydiannau hydrogen a dal carbon. A byddwn yn parhau i weithio ar y cyflymder hwn.
Fel y mae’r Prif Weinidog wedi’i egluro, mae pŵer glân yn flaenoriaeth frys i’n gwlad. Y wibdaith pŵer glân yw’r frwydr genedlaethol yn ein hoes dros ddiogelwch cenedlaethol, diogelwch economaidd a chyfiawnder hinsawdd – ac mae’r cynllun hwn yn rhoi’r adnoddau sydd eu hangen arnom i ennill y frwydr hon dros bobl Prydain.
Rhagair gan Y Gwir Anrhydeddus Ed Miliband MP
Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net
Rhagair gan Bennaeth Pŵer Glân 2030

Mae glanhau ein system bŵer wedi bod yn ganolog ers tro i ddatgarboneiddio’r economi gyfan. Drwy gael cyflenwad trydan glân, mae trydaneiddio gwres, trafnidiaeth a diwydiant yn agor fel llwybrau tuag at sero net. Ond mae manteision ehangach pŵer glân wedi dod yn gliriach hefyd. Ym Mhrydain, rydym wedi arloesi polisïau i dyfu diwydiannau adnewyddadwy, denu buddsoddiad a defnyddio technolegau ynni glân ar raddfa a oedd yn amhosibl ar un adeg. Erbyn hyn, mae yna lwybr at filiau ynni mwy sefydlog i gartrefi a busnesau, wrth iddynt droi at drydan. Rydym hefyd wedi profi canlyniadau anodd gorddibyniaeth Prydain ar danwydd ffosil, a oedd yn ein gadael yn agored iawn i gost olew a nwy a fasnachir yn fyd-eang yn sgil ansicrwydd byd-eang diweddar.
Mae cyflawni pŵer glân yn nod ehangach erbyn hyn, sy’n allweddol i economi sy’n tyfu, i’n diogelwch cenedlaethol ac i wella ein safonau byw. Dylem fod yn ceisio ei gyflawni ar frys.
Eleni, caeodd Prydain ei gorsaf bŵer glo olaf, gan bontio’n llwyddiannus o’r ffynhonnell ynni fwyaf llygredig. Ynni glân erbyn 2030 yw ein carreg filltir nesaf, ond mae hyn yn gofyn i ni weithredu ar fwy o frys o lawer. Mae gan Brydain rai o adnoddau ynni glân mwyaf y byd, ond mae gennym brosesau cynllunio a chydsynio sy’n llawer rhy araf i adeiladu’r seilwaith sydd ei angen i fanteisio arnynt. Rhaid i hynny newid.
Mae dadansoddiad diweddar NESO yn dangos y llif o brosiectau sydd eu hangen ar gyfer pŵer glân erbyn 2030. Eu cyngor pragmatig yw bod modd sicrhau cyflenwad pŵer os byddwn yn cynnal fflyd Prydain o orsafoedd pŵer nwy, ond ein bod yn lleihau eu defnydd i ddim mwy na 5% o’r cyfanswm a gynhyrchir. Mae hynny’n egluro’r dasg: adeiladu’r grid sydd ei angen ar Brydain, gwrthdroi degawdau o oedi; gosod ffynonellau pŵer glân ar gyflymder nas cyflawnwyd o’r blaen, nodi’r gymysgedd ynni sydd ei hangen ar gyfer system bŵer 2030 ac aildrefnu’r ciw cysylltu i’w gyflawni; datblygu system hyblyg sy’n gallu cynnwys a storio adnoddau adnewyddadwy Prydain; cyflawni’r manteision hyn i ddefnyddwyr, pobl, cartrefi a busnesau mor gyflym â phosibl.
Mae hyn yn gofyn am ffocws ar genhadaeth – ac i’r diwydiant a’r llywodraeth weithio mewn partneriaeth ar gyflymder. Bydd y camau yn y Cynllun Gweithredu hwn yn diwygio prosesau cynllunio a chydsynio, yn contractio’r gwaith o gynhyrchu pŵer adnewyddadwy newydd ar y raddfa sy’n ofynnol, yn annog storio ynni am gyfnod hir a chapasiti glân hyblyg o’r radd flaenaf ac yn agor y llwybr at bŵer glân a chyfleoedd newydd i ddefnyddwyr gael cynilo.
Am y tro cyntaf, bydd gennym lygad ar raglen o fuddsoddiad mewn pŵer glân yr amcangyfrifir y bydd tua £40 biliwn y flwyddyn ar gael dros y 6 blynedd nesaf. Mae’r amlygrwydd hwnnw’n ein galluogi i ganolbwyntio’n fwy gweithredol ar gael gwared ar y rhwystrau rhag cyflawni hyn, cefnogi’r gwaith o gydlynu cadwyni cyflenwi, gan gynhyrchu mwy yn y DU, a sicrhau bod gweithwyr hyfforddedig ar gael i fodloni’r gofynion ar hyd a lled y wlad. Dyma’r brif wobr, gan sicrhau ein bod yn barod i ddiwallu’r twf yn y galw am drydan rydym yn ei ddisgwyl dros y 2030au a’r 40au.
Mae ymgyrch pŵer glân Prydain yn mynd rhagddi erbyn hyn.
Rhagair gan Chris Stark
Pennaeth Pŵer Glân 2030
Crynodeb
Bydd Pŵer Glân erbyn 2030 yn ddechrau cyfnod newydd o annibyniaeth ynni glân ac yn mynd i’r afael â thair her fawr: yr angen am gyflenwad ynni diogel a fforddiadwy, creu diwydiannau ynni newydd hanfodol, gyda chefnogaeth gweithwyr medrus yn eu miloedd, yr angen i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chyfyngu ein cyfraniad at effeithiau niweidiol newid yn yr hinsawdd. Mae pŵer glân erbyn 2030 yn symud tuag at y nodau hanfodol hyn.
Rydym wedi derbyn cyngor annibynnol gan y Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol (NESO), ar y seilwaith ynni sydd ei angen i ddarparu Pŵer Glân 2030. Mewn blwyddyn arferol o ran y tywydd, bydd system bŵer 2030 yn golygu bod ffynonellau glân yn cynhyrchu o leiaf cymaint o bŵer ag y mae Prydain Fawr yn ei ddefnyddio yn ystod y flwyddyn i gyd, ac o leiaf 95% o’r hyn mae Prydain Fawr yn ei gynhyrchu; gan leihau dwysedd carbon ein proses gynhyrchu o 171gCO2e/kWh yn 2023[footnote 1] i ymhell o dan 50gCO2e/kWh yn 2030.
Y llwybr at 2030
Er mwyn cyflawni’n llwyddiannus, bydd angen defnyddio capasiti ynni glân newydd yn gyflym ledled y DU, gan adlewyrchu uchelgeisiau adnewyddadwy cyffredin Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru. Yn y cynllun hwn, rydym yn derbyn rôl ganolog y llywodraeth o ran llywio’r gwaith o greu’r system ynni newydd hon, gan osod ein disgwyliadau ar gyfer capasiti technolegau allweddol 2030 ar lefel genedlaethol a rhanbarthol.
Mae gennym uchelgais mawr. Mae hynny’n golygu 43-50 GW o ynni gwynt ar y môr, 27-29 GW o ynni gwynt ar y tir, a 45-47 GW o ynni solar, gan leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil yn sylweddol. Bydd y rhain yn cael eu hategu gan gapasiti hyblyg, gan gynnwys capasiti batri 23-27 GW, 4-6 GW o storfa ynni am gyfnod hir, a datblygu technolegau hyblyg gan gynnwys dal, defnyddio a storio carbon nwy, hydrogen, a chyfleoedd sylweddol i roi hyblygrwydd ar ochr y defnyddiwr[footnote 2].
Yn unol â chyngor NESO, rhaid i’r capasiti newydd hwn fod yn seiliedig ar gyflawni 80 o brosiectau rhwydwaith a seilwaith galluogi yn gyflym, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt eisoes ar gam datblygedig o ran cynllunio a datblygu.
Yn ystod y cyfnod hyd at 2030, bydd diogelwch y cyflenwad yn cael ei ddiogelu drwy gynnal a chadw 35 GW o gapasiti nwy wrth gefn di-dor.
Drwy dyfu ein system ynni glân fel hyn, byddwn yn gweld lefelau buddsoddi mewn ynni unwaith mewn cenhedlaeth – tua £40 biliwn[footnote 3] y flwyddyn ar gyfartaledd rhwng 2025-2030, gan ledaenu manteision economaidd buddsoddi mewn ynni glân ledled y DU drwy gydweithrediad Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban. Bydd y buddsoddiadau hyn yn diogelu defnyddwyr trydan rhag prisiau nwy cyfnewidiol ac yn sylfaen i system ynni yn y DU a all leihau biliau defnyddwyr am byth. Bydd pob dewis a wnawn yn cael ei archwilio er mwyn manteisio i’r eithaf ar yr effaith y gall ei chael o ran lleihau biliau defnyddwyr.
Bydd y cyfleoedd cyflogaeth a’r diwydiannau newydd sy’n cael eu creu gan y buddsoddiad enfawr sydd o’n blaenau hefyd yn sicrhau manteision economaidd parhaol o ganlyniad i bŵer glân ledled y wlad.
Mae Darparu Pŵer Glân 2030 hefyd yn braenaru’r tir ar gyfer datgarboneiddio’r economi ehangach erbyn 2050 wrth i ni fynd ar drywydd trydaneiddio gwres mewn adeiladau, trafnidiaeth a diwydiant. Erbyn 2050, bydd y galw blynyddol am drydan yn debygol o ddyblu o leiaf. Mae pŵer glân erbyn 2030 yn ein paratoi ar gyfer y twf cyflym yn y galw am bŵer a ddisgwylir dros y 2030au a’r 40au.[footnote 4]
Y camau rydym yn eu cymryd i gyflymu’r broses gyflawni
Er mwyn aros ar ein llwybr at 2030, gwyddom fod yn rhaid i’r llywodraeth gymryd camau radical, yn gyflym. Mae’r ddogfen hon yn nodi ein camau mawr cyntaf tuag at bŵer glân, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, diwydiant a’r cyhoedd:
Rhwydweithiau Trydan a chysylltiadau
Mae angen i ni ddiwygio’r broses cysylltiadau grid a lleihau’r ciw i gysylltu, gan weithio gyda NESO ac Ofgem i ddarparu fframwaith y gall NESO ei ddefnyddio i weithio gyda Pherchnogion Trawsyrru (TOs) a Gweithredwyr Rhwydweithiau Dosbarthu (DNOs) i flaenoriaethu prosiectau sydd eu hangen ar gyfer 2030, gan gynnal llif gydnerth y tu hwnt i 2030. Bydd angen tua dwywaith cymaint o seilwaith rhwydwaith trawsyrru newydd yn y grid cenedlaethol erbyn 2030 ag sydd wedi cael ei adeiladu yn ystod y degawd diwethaf [footnote 5].
Bydd diwygio rheoleiddiol yn sicrhau bod Pŵer Glân 2030 yn cael ei integreiddio’n well i gynllunio a phenderfyniadau, er mwyn gallu buddsoddi cyn yr angen a bod modd lleihau’r amser a gymerir i adeiladu a chyflawni prosiectau rhwydwaith yn unol â gofynion 2030. Mae hyn yn cynnwys gweithio gydag Ofgem i archwilio priodoldeb tynhau’r cymhellion a’r cosbau ar berchnogion trawsyrru trydan a gweithredwyr rhwydweithiau dosbarthu i gyflymu’r gwaith o ddarparu rhwydweithiau. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn ystyried sut bydd eu trefniadau cynllunio a chaniatáu hefyd yn integreiddio â Phŵer Glân 2030.
Bydd gwell amgylchedd cynllunio a chydsynio yn gyflymu’r gwaith ehangu ac uwchraddio ar draws ein rhwydweithiau trawsyrru a dosbarthu. Byddwn yn ymgynghori ar ehangu esemptiadau caniatâd cynllunio i gynnwys cysylltiadau ac uwchraddio foltedd isel yn Lloegr, ac yn ymgysylltu â MHCLG ar gyfleoedd i ddarparu rhagor o hyblygrwydd ar gyfer caniatáu is-orsafoedd trydanol. Mae’n hanfodol ein bod yn ymgysylltu’n effeithiol ac yn drwyadl â chymunedau a fydd yn cynnal seilwaith rhwydwaith trawsyrru newydd, er mwyn iddynt allu bod yn rhan o’r newid yn ein system ac elwa ohoni.
Bydd Llywodraeth yr Alban yn ymgynghori cyn bo hir ar adnewyddu ei Hegwyddorion Arfer Da sy’n ymwneud â manteision cymunedol ar gyfer seilwaith ynni sero net ar y tir ac ar y môr. Barn y llywodraeth yw y dylai cymunedau sy’n cynnal seilwaith ynni glân elwa ohono. Fel cam cyntaf, byddwn yn cyhoeddi canllawiau i gynyddu cwantwm a chysondeb Cronfeydd Cymunedol, ac yn cefnogi’r broses o lansio ymgyrchoedd cyfathrebu cyhoeddus yn y diwydiant i annog ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd seilwaith rhwydweithiau wrth gefnogi sero net.
Cynllunio a chydsynio
Gyda chiw grid wedi’i flaenoriaethu, gallwn nodi prosiectau allweddol ar gyfer pŵer glân a chyflymu prosesau cynllunio a chaniatáu ledled Prydain. Byddwn yn sicrhau bod cymunedau’n elwa’n uniongyrchol o gynnal seilwaith ynni glân newydd. Rydyn ni’n gwybod bod y rhan fwyaf o brosiectau pŵer glân 2030 eisoes ar y gweill, ac felly mae cyfle mawr i ailweirio’r system gynllunio a chwalu rhwystrau i sicrhau bod prosiectau’n gallu cael penderfyniadau amserol er mwyn iddynt allu dechrau adeiladu.
Byddwn yn gwneud hyn yn gyntaf drwy uwchraddio’r system gynllunio ei hun, gan roi’r hyblygrwydd sydd ei angen ar sefydliadau i reoli’r baich achosion cynyddol y mae’n ei wynebu. Mae hyn yn cynnwys diwygio a datblygu’r gweithlu yn ogystal ag ymrwymiad i adolygu adnoddau o fewn y system.
Nesaf, byddwn yn sicrhau bod y system yn gallu blaenoriaethu prosiectau sy’n hanfodol ar gyfer 2030. Byddwn yn gwneud 2030 yn flaenoriaeth graidd mewn canllawiau a chyfryngau polisi cynllunio wedi’u diweddaru. Rydym wedi dod â gwynt ar y tir yn ôl i gyfundrefn y Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP). Byddwn yn cyflwyno Bil Cynllunio a Seilwaith gyda mesurau i symleiddio’r gwaith o ddarparu seilwaith hanfodol yn y broses gynllunio, ac yn cynnull grwpiau cymunedol, natur a diwydiant ar brosiectau cymhleth i roi prawf straen arnynt cyn eu rhoi ar waith. Yn unol ag argymhellion yr Arglwydd Banner, byddwn hefyd yn bwrw ymlaen â gwaith sy’n edrych ar newidiadau i’r broses herio cyfreithiol ar gyfer prosiectau seilwaith mawr.
Byddwn yn sicrhau bod system gynllunio ddiwygiedig yn gwella’r gwaith o adfer natur. Byddwn yn gwneud hyn drwy ddarparu’r Gronfa Adfer Morol ar gyfer Gwynt ar y Môr ac rydym yn ystyried dulliau lliniaru strategol ar gyfer seilwaith ar y tir yn Lloegr. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban hefyd yn gweithio gyda’i gilydd i sefydlu Cronfa Adferiad Morol debyg ar gyfer prosiectau yn yr Alban.
Mae’r gweinyddiaethau datganoledig yn cymryd camau cadarnhaol tuag at gyflymu’r gwaith o gynllunio a chaniatáu seilwaith ynni hefyd. Yng Nghymru, mae Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 yn nodi’r broses gydsynio newydd ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol, gan ddisodli nifer o brosesau cydsynio yng Nghymru ag un broses. Yn yr Alban, mae gwaith wrthi’n mynd rhagddo i sicrhau cyflenwad o gynllunwyr yn y dyfodol a chynyddu sgiliau a chapasiti mewn awdurdodau cynllunio. Rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth yr Alban ar ddiwygio i ddarparu fframwaith deddfwriaethol syml ac effeithlon ar gyfer caniatáu seilwaith trydan.
Cyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy a niwclear
Bydd mynd i’r afael â rhwystrau i rwydweithiau, cysylltiadau a chynnydd cynllunio yn ein helpu i gyflawni’r capasiti adnewyddadwy sydd ei angen arnom ar gyfer 2030. Ond mae materion penodol sydd angen sylw.
Mae angen i’r broses ddyrannu Contractau ar gyfer Gwahaniaeth fodloni ein huchelgeisiau 2030 a rhoi terfyn ar fethiannau byrhoedlog dros y blynyddoedd diwethaf. Mae angen lefelau uchel o ynni adnewyddadwy arnom i ddiogelu defnyddwyr ac mae angen eu sicrhau am y pris gorau. Mae gan ynni gwynt ar y môr rôl arbennig o bwysig fel asgwrn cefn y system pŵer glân.
Yn dilyn trafodaethau gyda’r diwydiant ac yn amodol ar asesiad pellach, rydym yn bwriadu rhoi pecyn o ddiwygiadau wedi’u targedu ar waith. Byddwn yn gwneud newidiadau i’r wybodaeth y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cael ei defnyddio i lywio’r gyllideb derfynol ar gyfer gwynt ar y môr gwaelod sefydlog, amserlen arwerthiant i wella tryloywder a natur ragweladwy, ac adolygu paramedrau’r arwerthiant, gan gynnwys ein dull gweithredu ar gyfer y prisiau cyfeirio a ddefnyddir i amcangyfrif effaith ariannol cynigion. Er mwyn manteisio i’r eithaf ar y broses gystadleuol, rydym hefyd yn bwriadu llacio’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prosiectau ynni gwynt ar y môr â gwaelod sefydlog er mwyn i brosiectau sydd heb gael caniatâd cynllunio llawn eto allu cymryd rhan. Byddwn yn ymgynghori ar y newidiadau hyn cyn Cylch Dyrannu 7.
Byddwn yn defnyddio Great British Energy, a mesurau polisi ehangach, i gefnogi capasiti lleol a chymunedol adnewyddadwy, gan gynnwys ar gyfer cartrefi, busnesau, adeiladau cyhoeddus a thir, a mannau a rennir. Bydd Great British Energy yn darparu cymorth i gyflawni’r Cynllun Pŵer Lleol, gan roi awdurdodau lleol a chymunedau wrth galon y gwaith o ailstrwythuro ein heconomi ynni. Bydd hefyd yn cyd-fynd â chyhoeddiadau NESO ac ymateb y Llywodraeth i nodi lleoliadau ar gyfer prosiectau cenhedlaeth newydd ar dir preifat a datblygu ar dir cyhoeddus, gan ddatgloi’r cwmpas ar gyfer cynhyrchu ar ystadau’r llywodraeth.
Mae paneli solar eisoes yn fesur cymwys mewn rhaglenni presennol fel y Grant Cartrefi Clyd Lleol a’r Gronfa Tai Cymdeithasol Cartrefi Clyd, a byddwn yn darparu rhagor o fanylion ynghylch sut arall y gellid cefnogi solar yn y Cynllun Cartrefi Clyd ar ôl ail gam yr Adolygiad o Wariant. Byddwn hefyd yn asesu’r potensial i sbarduno’r gwaith o adeiladu canopïau solar ar feysydd parcio yn yr awyr agored drwy alwad am dystiolaeth y flwyddyn nesaf.
Rydym hefyd wedi ymrwymo i niwclear, gan gynnwys oes prosiectau niwclear presennol lle bo hynny’n bosibl, a datblygu technolegau carbon isel ac adnewyddadwy newydd a fydd yn chwarae rhan bwysig y tu hwnt i 2030, gan barhau i gydnabod mai polisi Llywodraeth yr Alban yw peidio â chefnogi datblygiadau niwclear newydd yn yr Alban.
Diwygio’r farchnad drydan
Bydd diwygio’r marchnadoedd trydan yn cefnog cynhyrchu a rhwydweithiau pŵer glân. Mae diwygio yn hanfodol i sicrhau bod ein trefniadau marchnad yn addas ar gyfer y 2030au a thu hwnt. Rhaid i ni sicrhau bod y farchnad yn gweithio ochr yn ochr â chynlluniau cymorth i ddarparu’r signalau buddsoddi a gweithredol cywir, a bod unrhyw rwystrau sy’n benodol i’r sector i gyflwyno yn cael sylw, er mwyn galluogi’r swmp enfawr o ddefnydd a fydd yn sail i Bŵer Glân 2030.
Bydd cynnydd sylweddol mewn hyblygrwydd tymor byr o 29-35 GW[footnote 6] ar draws capasiti rhyng-gysylltu, storio batris a hyblygrwydd ar ochr y defnyddiwr o lefelau 2023 yn lleihau swm y cynhyrchiant mwy costus a’r seilwaith rhwydwaith cysylltiedig sydd angen ei adeiladu, gan gynnal diogelwch y cyflenwad ar yr un pryd. Mae diwygio’r ffioedd rhwydwaith trawsyrru (ffioedd Defnyddio’r System Rhwydwaith Trawsyrru (TNUoS) yn hanfodol er mwyn galluogi mwy o gynhyrchu yn y dyfodol.
Mae Diweddariad Hydref REMA yn amlinellu ein huchelgais i gwblhau cam datblygu polisi rhaglen REMA tua chanol 2025 ac yn cadarnhau y bydd yr amserlen ar gyfer penderfyniadau REMA yn cyd-fynd â’r amserlen ar gyfer y cylch dyrannu nesaf (AR7) ar gyfer y cynllun Contractau ar gyfer Gwahaniaeth (CfD) er mwyn lleihau ansicrwydd.
Hyblygrwydd a storio ynni byrdymor
Wrth i ni adeiladu system ynni sy’n dibynnu fwyfwy ar ynni adnewyddadwy amrywiol, mae gwella hyblygrwydd y system drydan ehangach yn allweddol. Bydd Map Hyblygrwydd Carbon Isel yn cael ei gyhoeddi y flwyddyn nesaf, gyda chamau gweithredu newydd i sbarduno hyblygrwydd pŵer glân erbyn 2030. Byddwn yn cyflwyno diwygiadau newydd i’r farchnad i ddarparu batris a hyblygrwydd ar ochr y defnyddiwr, gyda mynediad priodol a theg at farchnadoedd perthnasol. Byddwn hefyd yn ymgynghori ar sut gellid cyfeirio at fatris ar raddfa grid mewn diwygiadau cynllunio yn y dyfodol, ac ar gynnwys batris ar raddfa grid yn y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol.
Byddwn yn ystyried opsiynau cyllido ar gyfer gwaith ôl-osod, gan gynnwys batris, yn y Cynllun Cartrefi Clyd yn Lloegr. Byddwn yn ymgynghori i ddileu gofynion dangosyddion allanol ar gyfer mesuryddion dyfeisiau o’r rheoliadau Offerynnau Mesur, ac, yn ystod Haf 2025, byddwn yn cyhoeddi ymgynghoriad ar ymgysylltu â defnyddwyr, gan gynnwys sut i helpu i gydlynu a lledaenu negeseuon cywir ar hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr. Byddwn hefyd yn ystyried diwygio’r Pris Ailwerthu Uchaf, a byddwn yn cyflwyno Safonau Perfformiad Gwarantedig newydd sy’n ymwneud â mesuryddion clyfar yn 2025.
Byddwn yn ymateb i ymgynghoriadau diweddar ar ryngweithredu Offerynnau Ynni Clyfar, trefn drwyddedu newydd i reolwyr llwythi a darparwyr gwasanaethau sy’n rhoi hyblygrwydd ar ochr y defnyddiwr, a hygyrchedd data tariff. Bydd ymgynghoriadau manwl ar ddeddfwriaeth ‘cam cyntaf’ ar gyfer Offerynnau Ynni Clyfar yn dilyn y rhain, gan sefydlu gofynion seiberddiogelwch sylfaenol ar gyfer dyfeisiau sydd o fewn y cwmpas a mandad clyfar ar gyfer pympiau gwres; drafftio rheoliadau ac amodau trwyddedu i reolwyr llwythi a darparwyr gwasanaeth sy’n rhoi hyblygrwydd ar ochr y defnyddiwr, a mesurau i wella hygyrchedd data tariff amser defnyddio. Byddwn yn gweithredu cynigion polisi’r Farchnad Capasiti, gan gynnwys ychwanegu at storio a ganiateir, addasiadau i Ofynion Prawf Perfformiad Estynedig a sicrhau bod cytundebau Marchnadoedd Capasiti 3 blynedd ar gael ar gyfer technolegau carbon isel heb fod angen unrhyw wariant cyfalaf.
Hyblygrwydd hirdymor
Rhagwelir y bydd angen 40-50 GW[footnote 7] arnom o gapasiti hyblyg hirdymor anfonadwy yn 2030 i gefnogi ein system bŵer mewn cyfnodau estynedig o allbwn adnewyddadwy isel. Yr ydym yn benderfynol o sbarduno’r gwaith o ddatblygu hyblygrwydd hirdymor carbon isel, sy’n cynnig cyfle sylweddol. Rydym wedi cyhoeddi Penderfyniad Buddsoddi Terfynol ar gyfer Sero Net Teesside, yr orsaf bŵer nwy gyntaf yn y byd i ddal carbon, ac rydym hefyd yn datblygu model busnes Hydrogen i Bŵer a fydd yn lleihau risg buddsoddi ac yn creu capasiti. Mae angen i ni hefyd gynyddu’r defnydd o storfa pwmp ynni hydro, a meithrin mwy o arloesedd mewn technolegau storio sy’n para’n hirach na’r disgwyl, fel storio ynni aer hylif. Bydd y cynllun cap a llawr, a allai agor yn Ch2 2025, yn cefnogi buddsoddiad yn y sector. Bydd nwy di-dor yn parhau i chwarae rôl wrth gefn drwy gydol y cyfnod pontio i bŵer glân, gan sicrhau cyflenwad diogel. Mae hyn yn golygu y byddwn yn cadw digon o gapasiti nes y gellir ei ddisodli’n ddiogel gan dechnolegau carbon isel.
Cadwyni cyflenwi a’r gweithlu
Mae pŵer glân erbyn 2030 yn arwydd i fuddsoddwyr leoli yn y DU a chreu cadwyni cyflenwi domestig cryf ar gyfer agweddau allweddol ar ein system pŵer glân. Bydd camau gweithredu i gefnogi a chyflymu’r gwaith o gyflawni yn rhoi mwy o sicrwydd i ddatblygwyr o ran y llwybr i’r farchnad, ond byddwn ni’n mynd gam ymhellach, gan gynnwys gyda’r Strategaeth Ddiwydiannol sydd ar y gweill, a fydd yn cynnwys cynllun sector ar gyfer diwydiannau ynni glân. Byddwn yn galw am fforwm diwydiant gweithlu a chadwyni cyflenwi newydd ar gyfer sectorau allweddol Pŵer Glân 2030, gan gynnwys undebau llafur, er mwyn datblygu dealltwriaeth ddofn o anghenion cynllunio’r gweithlu a’r gadwyn gyflenwi ar lefel y system ar gyfer darparu Pŵer Glân 2030 a llunio camau gweithredu ar y cyd wedi’u targedu i sicrhau eu bod yn cael eu diwallu. Bydd y Bonws Diwydiant Glân yn cefnogi’r gwaith o weithgynhyrchu mewn cymunedau arfordirol ac ynni a chadwyni cyflenwi glanach a mwy cynaliadwy, tra bydd mwy o dryloywder a natur ragweladwy mewn rowndiau dyrannu Contractau Gwahaniaeth yn y dyfodol yn cefnogi buddsoddiad. Bydd y Gronfa Cyfoeth Cenedlaethol yn canolbwyntio o leiaf £5.8 biliwn o’i chyfalaf ar hydrogen gwyrdd, dal carbon, porthladdoedd, gigaffatrïoedd a dur gwyrdd, a bydd Great British Energy yn cefnogi twf cadwyni cyflenwi pŵer glân ledled y DU.
Mae angen gweithlu medrus ar gyfer y pontio i bŵer glân hefyd, gyda miloedd o swyddi newydd ar draws sectorau carbon isel. Mae manylion yr Her Sgiliau Ynni Glân wedi cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r Cynllun hwn. Bydd y Swyddfa Swyddi Ynni Glân yn gweithio gyda’r sector, undebau llafur a’r llywodraethau datganoledig i gefnogi rhanbarthau sy’n symud o ddiwydiannau carbon-ddwys i sectorau ynni glân, i sicrhau bod swyddi o ansawdd uchel, gyda chyflogau teg, telerau ffafriol, ac amodau gwaith da. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys ymyriadau wedi’u targedu i ailsgilio ac uwchsgilio gweithwyr ar draws yr economi, cefnogi mynediad at gynlluniau hyfforddi, a hyrwyddo cyfleoedd swyddi ynni glân fel nad yw diffyg gweithwyr medrus yn dod yn rhwystr wrth gyflawni ein huchelgais Pŵer Glân.
Sut byddwn yn gweithio, fel llywodraeth a gyda phawb sy’n gysylltiedig, i gyflawni
Bydd Uned Pŵer Glân 2030 yn edrych ar gyflawni prosiectau allweddol 2030, gan weithio i ganfod rhwystrau a sicrhau bod y rhaglen pŵer glân yn aros ar y trywydd iawn.
Er mwyn gwneud hyn byddwn yn cyfuno cymysgedd o sgiliau a phrofiad o’r llywodraeth a’r sector pŵer glân, ac yn seiliedig ar Gomisiwn Cynghori o unigolion blaenllaw o bob rhan o ddiwydiant a’r byd academaidd. Bydd yr Uned yn gweithio’n agos gyda’r rheini sy’n ymwneud â chyflawni ymarferol, gan gynnwys y llywodraethau datganoledig, i dorri drwy’r materion yn gyflym ac i ddatblygu darlun cynhwysfawr o’r seilwaith pŵer sydd wrthi’n cael ei ddatblygu.
Bydd yr wybodaeth hon, ynghyd â gallu data sylfaenol cryf a fydd yn dwyn ynghyd ddata a gwybodaeth o bob rhan o’r llywodraeth a’r sector ynni glân, yn helpu i ddeall yr hyn sy’n debygol o gael ei gyflawni, erbyn pryd, ac yn nodi heriau sy’n dod i’r amlwg yn gyflym. Bydd hyn yn helpu’r Uned i weithredu’n gyflym lle bynnag y bo angen i gyflawni.
Y Cynllun Gweithredu hwn yw ein cam mawr cyntaf tuag at Bŵer Glân erbyn 2030. Dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, bydd rhaglen newydd o weithgarwch yn dod i’r amlwg, gan ddibynnu ar waith amrywiaeth eang o fusnesau, sawl rhan o’r llywodraeth ar lefel ganolog, ranbarthol a lleol ar draws Lloegr a’r llywodraethau Datganoledig, y trydydd sector, cymunedau ac unigolion.
Pam Pŵer Glân erbyn 2030?
Mae ein holl ffordd o fyw yn dibynnu ar ein cyflenwad ynni. Ond mae’r byd yn newid, ac nid yw’r ffordd rydym wedi pweru ein cenedl ers degawdau, sydd wedi dibynnu ar olew, nwy a glo, yn rhywbeth y gallwn ei gymryd yn ganiataol mwyach. Mae miliynau ohonom wedi profi caledi yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wrth i’r peryglon o ddibynnu gormod ar olew a nwy, mewn byd cynyddol gyfnewidiol, dod yn llawer rhy amlwg.
Yr ateb yw pŵer glân wedi’i gynhyrchu gartref. Mae’r ateb i rai o’r heriau mwyaf rydyn ni’n eu hwynebu – adeiladu system ynni sy’n fforddiadwy ar gyfer y tymor hir, cadw ein cyflenwad yn ddiogel, a thorri ein hallyriadau cyn ei bod hi’n rhy hwyr – nawr yn pwyntio i un cyfeiriad: tuag at y ffynonellau pŵer glân sydd wedi dod yn greiddiol i systemau ynni modern.
Mae system lân, fforddiadwy a diogel yn bosibilrwydd realistig – a rhaid i ni achub ar y cyfle hwn. Mae Gweithredwr y System Ynni Genedlaethol wedi cynhyrchu cyngor annibynnol sy’n nodi pa seilwaith y bydd ei angen arnom i ddarparu Pŵer Glân 2030.
Os byddwn yn gwneud hyn yn iawn, mae hwn yn gyfle enfawr i’n gwlad. Gallwn ddiogelu aelwydydd a busnesau rhag siociau pris, gallwn ddenu symiau sylweddol o fuddsoddiad a chyflogaeth, a gallwn osod y llwyfan ar gyfer twf pellach wrth i ni ddatgarboneiddio ein gwres a’n trafnidiaeth – ar yr un pryd â chreu llwybr tuag at 2050 a thu hwnt.
Rydym yn dechrau gyda rhai manteision sylweddol. Fel cenedl, fe wnaethom arloesi gyda nifer o’r technolegau adnewyddadwy sydd wedi dod yn elfennau cost isel system ynni fodern. Mae gennym doreth o adnoddau naturiol, ac felly gall ein hadnoddau ynni gwynt a solar sylweddol fwy na gwrthbwyso dirywiad graddol ein cronfeydd olew a nwy.
Ond er mwyn gwneud hyn yn iawn, mae angen i ni weithredu – a gweithredu’n gyflym – oherwydd mae 6 blynedd yn gyfnod byr o ran adeiladu seilwaith ynni. Nid ydym ar ein pennau ein hunain o ran dymuno ailadeiladu ein system ynni ac rydym yn cystadlu â gwledydd eraill am fuddsoddiad ac i sicrhau cadwyni cyflenwi.
Mae llawer o’r buddsoddiadau newydd a fydd yn rhan o’n system bŵer ar gyfer 2030 eisoes wedi dechrau ar eu taith a ffocws craidd ein gwaith fydd sicrhau bod llif uchelgeisiol o brosiectau newydd sydd â’r potensial i fod ar waith erbyn 2030 yn cael eu cyflawni’n llwyddiannus.
Felly, mae’r cynllun hwn yn nodi camau gweithredu ymarferol ar draws pob rhan o’r system bŵer, lle’r ydym yn benderfynol o gael gwared ar y rhwystrau sydd, am gyfnod rhy hir, wedi ychwanegu cost ac oedi at y broses ddatblygu. Bydd y camau hyn yn cyflymu’r gwaith o gyflawni mewn llawer o’r meysydd cynhyrchu craidd – gan gael gwared ar rwystrau, rhyddhau tagfeydd, a chyflymu cymorth. Ni fydd rhai o’n blaenoriaethau’n syndod: rhaid inni roi terfyn ar oedi sylweddol yn y system sy’n golygu y gall gymryd dros ddegawd i ddatblygu ac adeiladu prosiectau ynni adnewyddadwy. Mae angen i ni hefyd ddiwygio’r broses ciw cysylltiadau, lle mae’r ciw presennol yn cyfateb i 739 GW.[footnote 8]
Fodd bynnag, rydym hefyd yn gweithredu i godi lefel yr uchelgais ar draws y system, yn ogystal â chymryd camau i gyflawni’r cadwyni cyflenwi diwydiannol, a’r gweithlu medrus, sydd eu hangen arnom i adeiladu swm anferth o seilwaith newydd.
Mae’r defnyddiwr ynni wrth galon Pŵer Glân 2030, oherwydd fel llywodraeth ein nod craidd yw sicrhau bod gan bawb gyflenwad ynni dibynadwy a fforddiadwy, mewn ffordd sy’n gwarchod ein hamgylchedd ac ansawdd ein bywyd. Rydyn ni hefyd eisiau i bawb gael y budd o’r dechnoleg a’r ffynonellau pŵer newydd sy’n gallu cadw biliau i lawr am byth.
Mae hyn yn golygu newid go iawn i’r ffordd rydym yn cyflawni fel llywodraeth. Byddwn nawr yn gweithio gyda phrosiectau penodol ar lawr gwlad i ddeall eu datblygiad parhaus yn fanwl, a byddwn yn barod i wneud yr hyn sydd ei angen i gadw buddsoddiadau allweddol ar y trywydd iawn. Mae hyn hefyd yn golygu y byddwn yn gweithio ar draws ffiniau adrannau traddodiadol, ac y byddwn yn barod i addasu a dysgu wrth i ni fynd, gan ddatblygu camau gweithredu newydd lle bynnag y bydd eu hangen arnom i gefnogi’r gwaith o gyflawni.
Mae Pŵer Glân 2030 yn cefnogi cenhadaeth ehangach y llywodraeth hon, i wneud pobl sy’n gweithio yn well eu byd drwy sicrhau twf economaidd i bob rhan o’n gwlad. Mae pŵer glân hefyd yn cyfrannu at wella canlyniadau iechyd i bobl Prydain, gan gynnwys drwy leihau llygredd aer.
Bydd Pŵer Glân 2030 yn rhoi oes o drydan ar waith. Cyfnod lle mae gennym doreth o ynni glân a lleol, wedi’i gefnogi gan lu o gwmnïau Prydeinig ym mhob cwr o’r wlad. Mae’n ymwneud ag atgyweirio sylfeini ein heconomi er mwyn i ni allu diogelu busnesau a theuluoedd rhag biliau ynni uwch sy’n deillio o farchnadoedd nwy byd-eang cyfnewidiol, rhoi cyflenwad ynni sicr i ni ein hunain ar gyfer y tymor hir, a chreu swyddi newydd sefydlog sy’n talu’n dda a thwf yn ein cadarnleoedd gweithgynhyrchu.
Dyma stori go iawn Pŵer Glân 2030; trawsnewid y ffordd mae’r wlad hon yn buddsoddi yn ei dyfodol ac yn creu ei dyfodol.
Effaith Pŵer Glân 2030
Defnyddwyr
Bydd CP2030 yn diogelu ac yn grymuso defnyddwyr drwy wneud y canlynol:
- Helpu i warchod defnyddwyr rhag cynnydd mewn prisiau ynni rhyngwladol drwy leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil.
- Rhoi’r sylfaen i adeiladu system ynni a all leihau biliau cartrefi a busnesau am byth.
- Sicrhau bod cymunedau’n elwa o gynnal seilwaith ynni glân newydd.
- Datblygu cynnyrch a gwasanaethau digidol sy’n fwy cyfeillgar i ddefnyddwyr er mwyn gwella dealltwriaeth a rheolaeth defnyddwyr dros eu cynnyrch trydan, fel apiau i reoli offer clyfar. Drwy gynyddu’r defnydd o dechnolegau digidol, gall defnyddwyr ddewis arbed arian ar eu biliau drwy ddefnyddio offer pan fydd trydan yn rhatach neu drwy systemau awtomatig sy’n rheoli hyn ar eu rhan – er enghraifft gwefru eu car dros nos a gwerthu ynni dros ben yn ôl i’r grid, neu raglennu eu hoffer electronig clyfar fel peiriannau golchi llestri i gwblhau eu cylch yn ystod adegau rhatach.
- Cynyddu gallu defnyddwyr i leihau eu hôl troed byd-eang drwy wneud gwariant gwyrdd a dewisiadau ffordd o fyw yn haws/yn ddiofyn.
- Cynyddu annibyniaeth ynni defnyddwyr drwy gyflwyno paneli solar ar y to ochr yn ochr â batris domestig, gwefru cerbydau trydan, pympiau gwres, a thechnolegau gwyrdd eraill i leihau cost biliau ac i leihau’r galw brig.
- Lleihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil, sy’n cyfrannu at lygredd aer – bydd aer glanach o fudd i iechyd pobl a bywyd gwyllt.
Busnes
Bydd CP2030 yn rhoi sefydlogrwydd i fusnesau a hyder i fuddsoddwyr drwy wneud y canlynol:
- Cyflymu’r newid i ffynonellau ynni glân i greu amgylchedd mwy sefydlog sy’n helpu i greu twf, lleihau chwyddiant sy’n cael ei arwain gan brisiau ynni a helpu busnesau i warchod rhag cynnydd mewn prisiau ynni.
- Rhoi mwy o sicrwydd i ddatblygwyr o ran y llwybr i’r farchnad drwy gynllun cenedlaethol clir ar gyfer ein system bŵer a diwygio ein prosesau cynllunio a chysylltiadau grid, gan alluogi datblygwyr i gynllunio a pharatoi’r cadwyni cyflenwi a’r gweithlu sydd eu hangen arnynt i ddarparu seilwaith newydd, gan ryddhau £40 biliwn o fuddsoddiad y flwyddyn.
- Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd domestig ar gyfer cadwyni cyflenwi ynni glân, gan gynnwys ysgogi buddsoddiad yn y sector pŵer glân a thrwy’r Strategaeth Ddiwydiannol sydd ar y gweill lle mae diwydiannau ynni glân yn sector twf blaenoriaeth.
- Ysgogi economïau lleol drwy fuddsoddi mewn prosiectau ynni glân arloesol a chyfleoedd cyflogaeth cysylltiedig.
Gweithwyr
Bydd CP2030 yn helpu gweithwyr drwy:
- Chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi cannoedd o filoedd o swyddi, fel rhan o’r pontio ehangach i sero net
- Ysgogi swyddi newydd medrus a chyfleoedd economaidd ledled y wlad, gan gynnwys ein cadarnleoedd diwydiannol.
- Hybu ymwybyddiaeth o swyddi o ansawdd uchel sy’n talu’n dda mewn sectorau ynni glân, ar y cyd â’r Swyddfa Swyddi Ynni Glân
Diogelu defnyddwyr ynni am byth
Mae dibyniaeth y DU ar danwydd ffosil wedi ein gwneud yn agored i brisiau ynni ansefydlog, sy’n wendid a amlygwyd gan ymosodiad Putin ar Wcráin a arweiniodd at y cap ar brisiau trydan yn cynyddu dros £1,300 mewn blwyddyn, gan gyrraedd uchafbris o £2,000[footnote 9]. Gwariodd y Llywodraeth dros £44 biliwn yn cefnogi biliau ynni rhwng mis Hydref 2022 a mis Mawrth 2024, y swm mwyaf erioed fel cymhorthdal i filiau aelwydydd yn hanes y DU[footnote 10]. Drwy gynhyrchu’r ynni glân sydd ei angen arnom gartref a bod yn fwy effeithlon o ran sut rydym yn ei ddefnyddio, gallwn roi hwb i’n hannibyniaeth ynni. Y newid hwn yw’r unig ffordd o ddiogelu busnesau a theuluoedd rhag biliau ynni uwch sy’n deillio o farchnadoedd nwy byd-eang ansefydlog.
Drwy gyflymu’r newid i ffynonellau trydan adnewyddadwy domestig a chyflymu’r broses o gymhwyso trydan glân i’r system ynni ehangach, byddwn yn gallu lleihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil yn gyflymach. Mae hyn yn gwella diogelwch ynni, gan wneud y DU yn llai agored i darfu ar y farchnad fyd-eang neu densiynau geowleidyddol sy’n effeithio ar brisiau ynni.
Rhan ganolog o gyflawni datgarboneiddio yn y system ynni yw sicrhau bod hynny o fudd i ddefnyddwyr a busnesau.
Drwy adeiladu system ynni amrywiol, gallwn fanteisio i’r eithaf ar ein hadnoddau naturiol helaeth i ddiogelu defnyddwyr rhag siociau pris yn y dyfodol. Fodd bynnag, ni fydd y genhadaeth hon yn cael ei chyflawni o San Steffan yn unig – mae gan gymunedau lleol, y sector pŵer glân (sy’n cynnwys diwydiant, academia a buddsoddwyr) a llywodraeth leol rôl allweddol i’w chwarae hefyd, a byddwn yn eu grymuso i gymryd rhan mewn penderfyniadau ar seilwaith lleol ac elwa ohonynt.
Rydym am sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu cefnogi i wneud dewisiadau sydd o fudd iddynt, a fydd yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau sero net.
Bydd diwygio’r farchnad a chyflwyno technolegau hyblyg yn rhoi mwy o reolaeth i ddefnyddwyr ar eu biliau ynni. Er enghraifft, efallai y bydd defnyddwyr yn gweld effaith Pŵer Glân drwy osod paneli solar sy’n rhoi mwy o annibyniaeth ynni iddynt neu gael technolegau hyblyg clyfar, fel cerbydau trydan neu bympiau gwres, sy’n galluogi defnyddwyr i fanteisio ar dariffau rhatach ar wahanol adegau o’r dydd.
Bydd Cynllun Cartrefi Clyd y llywodraeth yn helpu pobl, gan gynnwys y rheini o gartrefi sy’n dlawd o ran tanwydd, i fyw mewn cartrefi sydd wedi’u hinswleiddio’n well gyda’r gallu i fanteisio ar y technolegau gwresogi cartref hyblyg newydd hyn.
Sicrhau diogelwch ynni
Pan dorrodd Putin y rhan fwyaf o gyflenwadau nwy i Ewrop yn 2022, cynyddodd prisiau ynni teuluoedd a busnesau ym Mhrydain Fawr yn ddramatig, er mai dim ond 4% o’n mewnforion nwy yr oedd Rwsia yn ei ddarparu[footnote 11]. Ein dibyniaeth ar nwy a fasnachir yn fyd-eang ar gyfer gwresogi a chynhyrchu trydan oedd y rheswm: cyn belled ag y gall ein cyflenwad ynni gael ei ddefnyddio fel arf gan eraill, byddwn yn parhau i fod yn agored i siociau cyflenwad byd-eang ac ymchwyddiadau mewn prisiau.
Mewn oes o risg geowleidyddol uwch, mae disodli cynhyrchu tanwydd ffosil gydag ynni glân o ffynonellau adnewyddadwy a thechnolegau glân eraill yn cynnig sicrwydd i ni na all tanwyddau ffosil ei ddarparu.
Rydym yn deall nad yw hyn bob amser yn golygu cyfnewid tebyg am debyg. Wrth i ni anelu at bŵer glân erbyn 2030, mae’n hanfodol ein bod yn ategu ynni adnewyddadwy â chapasiti hyblyg i sicrhau ein bod yn gallu darparu pŵer glân ni waeth beth fo’r tywydd. Yn hanesyddol, mae tanwyddau ffosil di-dor wedi darparu’r hyblygrwydd hwn, ond mae hynny’n ein gadael yn agored i’r ansicrwydd o ran prisiau tanwydd ffosil. Mae’r Cynllun Gweithredu hwn yn nodi llwybr tuag at ddefnyddio technolegau capasiti hyblyg carbon isel fel storio trydan hirdymor, dal, defnyddio a storio carbon pŵer (CCUS), a hydrogen i bweru, gan weithio ochr yn ochr â thechnolegau fel cynhyrchiant niwclear, sy’n darparu pŵer dibynadwy rownd y cloc.
Bydd ein cenhadaeth ar gyfer 2030 yn cynyddu capasiti cynhyrchu cyffredinol y DU ac yn ehangu seilwaith ein rhwydwaith er mwyn i ni allu bodloni patrymau galw sy’n newid yn ddiogel yn 2030 a thu hwnt, sy’n cael eu sbarduno gan ddewisiadau gwyrddach defnyddwyr drwy’r newid i sero net. Gan ystyried y newid mewn cenhedlaeth hwn yn system ynni’r DU, rydym yn gwella trefniadau’r farchnad drydan i sicrhau cyflenwad diogel wrth bontio i system lân, fel yr amlinellir yn fanylach yn niweddariad Hydref REMA.
Wrth i ni ddefnyddio seilwaith newydd yn gyflym, byddwn yn cynnal lefelau uchel o gadernid a diogelwch – gan gynnwys mewn perthynas â digwyddiadau tywydd garw y disgwylir iddynt gynyddu mewn dwysedd ac amlder o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, ac o ran rheoli bygythiadau i’n diogelwch cenedlaethol, fel bygythiadau seiber, wrth i’n system ynni ddod yn fwyfwy cydgysylltiedig. Mae’r llywodraeth wedi grymuso’r Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol annibynnol sydd â’r cyfrifoldeb dros gyflawni swyddogaethau cadernid ar draws y systemau trydan a nwy a byddwn yn parhau i weithio gyda’r diwydiant, rheoleiddwyr a rhanddeiliaid eraill i wella a chynnal cadernid hen seilwaith ynni, seilwaith newydd a seilwaith ynni’r dyfodol.
Rhaid i’n system ynni ateb y galw ar yr un pryd â diogelu teuluoedd a busnesau rhag siociau cyflenwad byd-eang a phrisiau ansefydlog. Dyna y mae diogelwch ynni yn ei olygu i’r llywodraeth hon, a dyna y mae’r Cynllun Gweithredu Ynni Glân yn ei gyflawni.
Ein llwybr at 2030
Diffinio’r targed Pŵer Glân
Mae Pŵer Glân yn golygu y bydd Prydain Fawr, erbyn 2030, yn cynhyrchu digon o bŵer glân i ddiwallu ein galw blynyddol am drydan, wedi’i ategu gan gyflenwad nwy di-dor, i’w ddefnyddio dim ond pan fydd hynny’n hanfodol.
Yn unol â chyngor annibynnol gan y Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol (NESO), mae ein targed pŵer glân yn golygu symud i system drydan sydd â’r nodweddion canlynol mewn blwyddyn dywydd nodweddiadol:
- Mae ffynonellau glân yn cynhyrchu o leiaf gymaint o bŵer ag y mae Prydain Fawr yn ei ddefnyddio i gyd, a;
- Mae ffynonellau glân yn cynhyrchu o leiaf 95%[footnote 12] o gynhyrchiant Prydain Fawr.
Rydym yn disgwyl y bydd darparu system pŵer glân gyda’r nodweddion hyn yn gwneud Prydain Fawr yn allforiwr net o drydan a bydd yn lleihau dwysedd carbon cynhyrchu trydan o 171gCO2e/kWh yn 2023[footnote 13] i ymhell o dan 50gCO2e /kWh yn 2030, sydd ymhell o fewn cyngor Cyllideb Garbon 6 y Pwyllgor Newid Hinsawdd[footnote 14]. Mae’r ffigurau isod yn dangos y targed hwn ac yn nodi’r cymysgedd cynhyrchu presennol.
Er mwyn cyflawni’r genhadaeth, byddwn yn ceisio cyflawni mwy na’r uchelgais hwn lle mae’r system a manteision i ddefnyddwyr yn cyd-fynd â’i gilydd er mwyn gallu digolledu am heriau posibl mewn rhai meysydd o ran darparu pŵer glân drwy ddefnydd mewn mannau eraill.
Mae cyflawni’r targed hwn yn cyd-fynd â’n Cyfraniad a Bennir yn Genedlaethol[footnote 15] uchelgeisiol, a bydd yn ein helpu i gyflawni Cyllideb Garbon 6.
Metrigau
Disgrifiad o’r diagram:
Metrig 1a: ‘Mae ffynonellau glân yn cynhyrchu o leiaf gymaint o ynni â’r holl ynni a ddefnyddir ym Mhrydain’. Mae’n dangos bod 56%* a mwy o’r ynni wedi dod o ffynonellau glân yn 2023; ac y bydd hyn yn 100% neu’n fwy erbyn 2030.
* Dyma’r ystadegyn swyddogol agosaf at ddiffiniad ynni glân 2030 sydd ar gael adeg cyhoeddi. Mae’r ystadegyn hwn ar gyfer y DU yn hytrach na Phrydain Fawr ac mae’n cynnwys gwres a phŵer cyfunedig (CHP) nwy yn yr enwadur, a throi gwastraff yn ynni (EfW) yn y rhifiadur (y gyfran y tybir a ddaw o fio-ynni) a’r enwadur. Bydd ystadegau swyddogol yn cael eu hadolygu yn y dyfodol er mwyn i ni allu olrhain y ddarpariaeth yn gywir.
Metrig 1b: ‘Ffynonellau glân sy’n cynhyrchu o leiaf 95% o gynhyrchiant Prydain Fawr’. Mae’n dangos bod 60% o’r trydan a gynhyrchwyd ym Mhrydain yn 2023 wedi dod o ffynonellau glân; erbyn 2030, bydd hyn yn 95% o leiaf.
Metrig 2: ‘Lleihau dwysedd carbon cynhyrchu trydan i lai na 50gCO2e/kWh’. Mae’n dangos mai 171gCO2e/kWh oedd dwysedd carbon cynhyrchu trydan yn 2023; ac y bydd hyn ymhell o dan 50gCO2e/kWh erbyn 2030.
Ffigur 1: Cyfrannau’r trydan a gynhyrchwyd (GWh), 2023
Disgrifiad o Ffigur 1: Map coeden yn dangos cyfraniadau cyfrannol gwahanol ffynonellau ynni at gynhyrchu trydan mewn GWh. Y segment mwyaf yw nwy (35%), ac yna gwynt ar y môr (17%), niwclear (14%), ynni adnewyddadwy thermol (12%), gwynt ar y tir (11%), a solar (5%). Mae cyfraniadau llai yn cynnwys hydro – llif naturiol (2%), tanwyddau eraill (2%), glo (1%), storio ynni (1%), ac olew (1%).
Ffynhonnell: DESNZ (2024), ‘DUKES’
Sylwer: Mae cyfrannau’r trydan a gynhyrchwyd ar sail y DU.
Sut bydd system Pŵer Glân yn edrych
Er bod ehangu ynni adnewyddadwy yn y system bŵer wedi lleihau’r gyfran o gynhyrchiant tanwydd ffosil hyd yma – gweler ffigur 2 – bydd pob llwybr i system Pŵer Glân yn galw am ddefnydd torfol o ynni gwynt ar y môr, gwynt ar y tir a solar[footnote 16]. Mae sicrhau ynni adnewyddadwy fforddiadwy[footnote 17] a gynhyrchir gartref yn golygu y byddwn yn gallu rhedeg ein system bŵer am gyfnodau cynyddol ar gynhyrchiant carbon isel, gydag ynni adnewyddadwy yn darparu’r rhan fwyaf o’r ynni a gynhyrchir, a niwclear yn parhau i ddarparu asgwrn cefn o bŵer carbon isel cadarn a hanfodol.
Ffigur 2: Cymysgedd cynhyrchiant trydan (TWh), 2000-2023
Disgrifiad o Ffigur 2: Siart llif pentyrrog yn dangos y gymysgedd cynhyrchu trydan. Mae echelin x yn cynrychioli blynyddoedd o 2000 i 2003 ac mae echelin y yn cynrychioli’r trydan a gynhyrchwyd mewn terawat-awr (TWh), gan amrywio o 0 i 405 TWh. Mae’r siart yn dangos bod swm y trydan sy’n cael ei gynhyrchu o danwydd ffosil fel glo a nwy wedi gostwng dros amser.
Ffynhonnell: DESNZ (2024), ‘DUKES’
Sylwer: Mae’r cymysgedd cynhyrchu ar sail y DU.
Fodd bynnag, bydd cyfnodau yn ystod y flwyddyn, yn ystod y gaeaf a’r hydref yn bennaf, lle mae’r amodau tywydd a’r galw uwch am drydan yn golygu nad yw ein fflyd o ynni adnewyddadwy a chynhyrchiant cadarn ar eu pen eu hunain yn gallu bodloni’r galw am drydan. Dim ond am ychydig oriau y bydd llawer o’r cyfnodau hyn yn para. Mae’r cyfnodau byr hyn yn cynnig cyfleoedd ar gyfer atebion hyblyg, carbon isel i ddiwallu ein hanghenion.
Pan na fydd ynni adnewyddadwy ar ei ben ei hun yn gallu ateb y galw am gyfnodau hwy, byddwn yn galluogi cyfres o dechnolegau i gael eu defnyddio a’u cynnal i ddarparu capasiti pŵer tymor hirach. Gallai hyn fod yn gyfuniad o storio hydro wedi’i bwmpio, technolegau adnewyddadwy carbon isel y gellir eu danfon a chyntaf o’u bath fel CCUS nwy neu hydrogen i bŵer (H2P), neu dechnolegau arloesol fel storio ynni aer hylifol (LAES).
Er y bydd defnyddio technolegau tymor hwy yn helpu i leihau cynhyrchiant nwy di-dor, rydym yn cydnabod pwysigrwydd capasiti nwy i gynnal diogelwch y cyflenwad. Byddwn yn gweld newid sylfaenol yn rôl ac amlder cynhyrchiant nwy di-dor, gan symud o gynhyrchu bron bob diwrnod o’r flwyddyn, i gyflenwad wrth gefn pwysig i’w ddefnyddio dim ond pan fo hynny’n hanfodol, gyda chynhyrchiant gostwng wrth i ni symud tuag at 2030 – gweler ffigurau 3-5. Mae hyn yn cyd-fynd â barn NESO[footnote 18] ac mae’n cyd-fynd â chyngor y Pwyllgor Newid Hinsawdd[footnote 19] bod cynnal capasiti nwy i’w ddefnyddio fel cyflenwad wrth gefn yn cyd-fynd â system bŵer sydd wedi’i datgarboneiddio’n llawn.
Ffigur 3: Model o broffil cynhyrchiant 7 diwrnod fesul awr yn 2030 yn Senario ‘Further Flex and Renewables’ NESO (MW)
Disgrifiad o Ffigur 3: Siart llif pentyrrog yn dangos y gymysgedd cynhyrchu trydan. Mae echelin x yn cynrychioli blynyddoedd o 2000 i 2003 ac mae echelin y yn cynrychioli’r trydan a gynhyrchwyd mewn terawat-awr (TWh), gan amrywio o 0 i 405 TWh. Mae’r siart yn dangos bod swm y trydan sy’n cael ei gynhyrchu o danwydd ffosil fel glo a nwy wedi gostwng dros amser.
Nodiadau: Mae cadarn yn cynnwys niwclear, hydro, CHP a gwastraff. Mae dibynnol ar y tywydd yn cynnwys ynni gwynt ar y tir, gwynt ar y môr a solar. Mae ynni y anfonadwy yn cynnwys biomas, hydro wedi’i bwmpio, nwy gyda CCS a hydrogen i bŵer. Mae hyblygrwydd yn cynnwys batris a hyblygrwydd preswyl. Mae’r siart yn dangos pan fydd hyblygrwydd yn cael ei ryddhau yn unig, nid gwefru.
Ffynhonnell: NESO (2024), ‘Clean Power 2030’
Ffigur 4: Model o broffil cynhyrchiant 7 diwrnod fesul awr yn 2030 yn Senario ‘New Dispatch’ NESO (MW)
Disgrifiad o Ffigur 4: Siart arwynebedd pentyrrog yn dangos proffil cynhyrchu enghreifftiol fesul awr dros 7 diwrnod yn 2030 (senario Ffynonellau anfonadwy newydd). Mae echelin x yn cynrychioli amser mewn oriau dros 7 diwrnod, wedi’u labelu o ddydd Llun i ddydd Sul, gyda chynyddrannau fesul awr (0 awr, 24 awr, 48 awr, hyd at 144 awr). Mae echelin y yn cynrychioli’r capasiti cynhyrchu mewn megawatiau (MW). Mae’r siart yn dangos cyfraniadau o bum ffynhonnell ynni: Cadarn (MW), Anfonadwy (MW), Hyblyg (MW), Dibynnol ar y tywydd (MW), a Nwy direolaeth. Cynhyrchiant y categori Dibynnol ar y tywydd yw’r prif gyfrannwr ond mae’n amrywio’n ddyddiol. Mae cyfnodau brig mewn ffynonellau Hyblyg a ffynonellau eraill yn digwydd ar adegau lle ceir llai o allbwn Dibynnol ar y tywydd, gan ddangos y cydbwysir systemau. Mae Nwy direolaeth yn cyfrannu’n ysbeidiol, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur.
Nodiadau: Mae cadarn yn cynnwys niwclear, hydro, CHP a gwastraff. Mae dibynnol ar y tywydd yn cynnwys ynni gwynt ar y tir, gwynt ar y môr a solar. Mae ynni anfonadwy yn cynnwys biomas, hydro wedi’i bwmpio, nwy gyda CCS a hydrogen i bŵer. Mae hyblygrwydd yn cynnwys batris a hyblygrwydd preswyl. Mae’r siart yn dangos pan fydd hyblygrwydd yn cael ei ryddhau yn unig, nid gwefru.
Ffynhonnell: NESO (2024), ‘Clean Power 2030’
Ffigur 5: Proffil cynhyrchu 7 diwrnod fesul awr hanesyddol yn 2023 (MW)
Disgrifiad o Ffigur 5: Siart arwynebedd pentyrrog yn dangos y proffil cynhyrchu hanesyddol fesul awr dros 7 diwrnod yn 2023. Mae echelin x yn cynrychioli amser mewn oriau dros 7 diwrnod, wedi’u labelu o ddydd Llun i ddydd Sul, gyda chynyddrannau fesul awr (0 awr, 24 awr, 48 awr, hyd at 144 awr). Mae echelin y yn cynrychioli’r capasiti cynhyrchu mewn megawatiau (MW). Mae’r siart yn dangos cyfraniadau o 5 categori: Cadarn (MW), Anfonadwy (MW), Hyblyg (MW), Dibynnol ar y tywydd (MW), a Nwy direolaeth. Nwy direolaeth yw’r brif ffynhonnell, gyda chyfraniadau cyson dros yr wythnos. Mae cynhyrchiant Dibynnol ar y tywydd yn amrywio, ond mae’n llai amlwg o’i gymharu â Nwy direolaeth. Mae ffynonellau Hyblyg ac Anfonadwy yn chwarae rhan fechan o ran cydbwyso yn ystod yr wythnos.
Nodiadau: Mae cadarn yn cynnwys glo, niwclear, hydro, CHP a gwastraff. Mae dibynnol ar y tywydd yn cynnwys gwynt. Mae ynni anfonadwy yn cynnwys biomas, hydro wedi’i bwmpio. Nid yw hyblygrwydd yn cael ei nodi yn y data hanesyddol. Mae cynhyrchiant ynni gwynt a solar yn cael ei danamcanu oherwydd eu bod yn eithrio cynhyrchiant wedi’i sefydlu a ffermydd gwynt nad oes ganddynt fesuryddion gweithredol.
Ffynhonnell: NESO (2024), ‘Clean Power 2030’
Felly, mae’r senarios pŵer glân yn Tabl 1 yn cynnwys technolegau sy’n chwarae amrywiaeth o rolau allweddol – cynhyrchiant amrywiol sy’n adnewyddadwy, cynhyrchiant cadarn i fodloni’r galw am lwyth sylfaenol, a chynhyrchiant anfonadwy a hyblygrwydd ar gyfer cyfnodau o wynt isel neu ddiffyg haul, neu alw uwch am drydan. Ar gyfer pob technoleg, mae Tabl 1 yn dangos y capasiti presennol sydd wedi’i osod, ochr yn ochr â senario ‘Further Flex and Renewables’ NESO, a senario ‘New Dispatch’ NESO.
Gan ddefnyddio’r senarios hyn, ochr yn ochr ag asesiad o’r defnydd ymarferol mwyaf posibl sy’n seiliedig ar wybodaeth gyfredol am lif y prosiect, rydym wedi datblygu ‘Amrediad Capasiti Pŵer Glân’ DESNZ, sy’n amrediad o gapasiti gosodedig posibl ar gyfer pob technoleg yn 2030 – gweler Tabl 1. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith nad oes llwybr unigol tuag at sicrhau pŵer glân, ond yn hytrach, bod amrywiaeth o senarios a allai wireddu hynny. Dros amser, bydd mwy o eglurder ynghylch pa senarios sydd fwyaf tebygol, yn dibynnu ar ganlyniadau trafodaethau a phrosesau dyfarnu contractau eraill, a thrwy fonitro’r gwaith o gyflawni asedau sydd ag amseroedd arwain hir, fel y rhwydwaith trawsyrru, ynni gwynt ar y môr, a niwclear. Bydd yr wybodaeth newydd hon yn caniatáu i’r llwybr hyd at 2030 gael ei fireinio dros amser, wedi’i alluogi lle bo angen drwy flaenoriaethu cynigion cysylltiadau, gan helpu i bennu’r union gymysgedd capasiti sydd ei hangen i gyflawni Pŵer Glân 2030.
Felly, er bod yr ‘Amrediad Capasiti Pŵer Glân’ yn darparu sylfaen i arwain datblygiad polisi cyflym a darparu ffocws, ni all y senarios a ddatblygir nawr fod yn gynhwysfawr nac yn derfynol, ac mae’n gwbl briodol bod elfen o ddewis yn cael ei gadw. Yn y lle cyntaf, mae hyn yn golygu:
- Mae’r Llywodraeth yn derbyn cyngor NESO ar y seilwaith sydd ei angen ar gyfer 2030 – mae angen gwneud penderfyniadau nawr i sicrhau bod modd rhoi’r grid sydd ei angen ar gyfer y system yn 2030 ar waith.
- Mae’r Llywodraeth yn pennu ystodau ar gyfer defnyddio pob technoleg erbyn 2030 a bydd yn cadw rhai elfennau dewisol nes bod mwy o eglurder ar gael ynghylch pa senario sydd fwyaf tebygol. Darperir yr ‘Amrediad Capasiti Pŵer Glân’ yn Tabl 1.
Efallai y bydd technolegau nad ydynt wedi’u cynnwys yn y senarios hyn a allai fod â rôl o ran darparu pŵer glân i’r system, a byddwn yn parhau i fireinio ein barn ar y rhain. Er enghraifft, mae biomethan yn nwy carbon isel sy’n cael ei gynhyrchu’n ddomestig ac sy’n cael ei ddefnyddio’n bennaf ar hyn o bryd i ddatgarboneiddio gwresogi. Gellir defnyddio biomethan yn hyblyg ar draws sawl defnydd terfynol gwahanol – gwres, pŵer, diwydiant, trafnidiaeth, amaethyddiaeth a chynhyrchu hydrogen – ac efallai y bydd hefyd yn gallu cyfrannu at gynhyrchu pŵer carbon isel.
Tabl 1: Capasiti wedi’i osod yn 2030 yn senarios ‘Further Flex and Renewables’ a ‘New Dispatch’ NESO, ac ‘Amrediad Capasiti Pŵer Glân’ DESN, o’i gymharu â’r capasiti presennol sydd wedi’i osod (GW)
Technoleg | Capasiti gosodedig presennol[footnote 20] | Senario ‘Further Flex and Renewables’ NESO | Senario ‘New Dispatch’ NESO | ‘Amrediad Capasiti Pŵer Glân’ DESNZ[footnote 21] |
---|---|---|---|---|
Newidiol: Ynni gwynt ar y môr |
14.8 | 51 | 43 | 43 – 50 |
Newidiol: Ynni gwynt ar y tir |
14.2 | 27 | 27 | 27 – 29 |
Newidiol: Solar |
16.6 | 47 | 47 | 45 – 47 |
Cadarn: Niwclear |
5.9 | 4 | 4 | 3 – 4 |
Anfonadwy: Carbon Isel Pŵer Anfonadwy[footnote 22] |
4.3 | 4 | 7 | 2[footnote 23] – 7 |
Anfonadwy: Nwy di-dor |
35.6 | 35 | 35 | 35[footnote 24] |
Hyblyg: LDES |
2.9 | 8 | 5 | 4 – 6 |
Hyblyg: Batris |
4.5 | 27 | 23 | 23 – 27 |
Hyblyg: Rhyng-gysylltwyr |
9.8 | 12 | 12 | 12 – 14 |
Hyblyg: Hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr[footnote 25] |
2.5 | 12 | 10 | 10 – 12 |
Ffigur 6: Capasiti wedi’i osod yn 2030 yn senarios ‘Further Flex and Renewables’ a ‘New Dispatch’ NESO, o’i gymharu â’r capasiti presennol sydd wedi’i osod (GW)
Disgrifiad o Ffigur 6: Siart bar pentyrrog yn dangos y capasiti gosodedig yn 2030 yn senarios ‘Ffynonellau Adnewyddadwy a Hyblygrwydd Pellach’ a ‘Ffynonellau Anfonadwy Newydd’ y Gweithredwr Systemau Ynni Cenedlaethol (NESO), o’i gymharu â’r capasiti gosodedig presennol. Mae pob bar wedi’i rannu’n segmentau sy’n cynrychioli mathau o dechnoleg: gwynt ar y môr, gwynt ar y tir, solar, niwclear, ynni carbon isel anfonadwy, nwy direolaeth, storio trydan am gyfnod hir, rhyng-gysylltwyr, batris, a hyblygrwydd a arweinir gan ddefnyddwyr. Mae echelin y yn dangos y capasiti mewn gigawatiau (GW), gan amrywio o 0 i 250. Mae’r siart yn dangos bod y capasiti gosodedig blynyddol cyfredol (111 GW) yn cael ei ddarparu gan gymysgedd o fathau o dechnolegau; nwy direolaeth sy’n darparu’r capasiti mwyaf (32%). Erbyn 2030, disgwylir i’r capasiti gosodedig godi i 227 GW (dan y senario ‘Ffynonellau Adnewyddadwy a Hyblygrwydd Pellach’) neu i 213 GW (dan y senario ‘Ffynonellau Anfonadwy Newydd’). Yn y senarios hyn, disgwylir i nwy direolaeth ddarparu 15% a 16% o gapasiti yn y drefn honno, gyda’r gweddill yn dod o dechnolegau carbon isel.
Sylwer: Mae’r rhifau ar gyfer y llun hwn i’w gweld yn Tabl 1
Ffynhonnell: Tabl 1 a NESO (2024), ‘Clean Power 2030’
Ffigur 7: Cynhyrchiant yn 2030 yn senarios ‘Further Flex and Renewables’ a ‘New Dispatch’ NESO, o’i gymharu â’r cynhyrchiant presennol (TWh)
Disgrifiad o Ffigur 7: Siart bar pentyrrog yn dangos cynhyrchiant yn 2030 yn senarios ‘Ffynonellau Adnewyddadwy a Hyblygrwydd Pellach’ a ‘Ffynonellau Anfonadwy Newydd’ y Gweithredwr Systemau Ynni Cenedlaethol (NESO), o’i gymharu â’r cynhyrchiant presennol. Mae echelin x yn cynrychioli’r gwahanol senarios, ac echelin y yn cynrychioli’r cynhyrchiant (TWh) gan amrywio o 0 i 400 TWh. Mae pob bar wedi’i rannu’n segmentau sy’n cynrychioli mathau o dechnoleg: nwy, ynni carbon isel anfonadwy, ffynonellau ffosil eraill, niwclear, gwynt ar y môr, gwynt ar y tir, solar, a ffynonellau adnewyddadwy eraill. Mae’r siart yn dangos bod y cynhyrchiant blynyddol presennol yn 263 TWh; a nwy sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r cynhyrchiant (32%). Erbyn 2030, disgwylir i’r cynhyrchiant blynyddol godi i 353 TWh (yn y senario ‘Ffynonellau Adnewyddadwy a Hyblygrwydd Pellach’) neu i 348 TWh (yn y senario ‘Ffynonellau Anfonadwy Newydd’). Yn ddwy senario hyn, disgwylir i nwy ddarparu 4% yn unig o’r holl gynhyrchiant, gyda’r gweddill yn dod o ffynonellau carbon isel.
Ffynhonnell: NESO (2024), ‘Clean Power 2030’
Ffigur 8: Newidiadau yn y galw am drydan gan ddefnyddwyr (galw blynyddol TWh, galw brig GW), 2023- 2030
Disgrifiad o Ffigur 8: Siart bar yn dangos newidiadau yn y galw am drydan ymysg defnyddwyr rhwng 2023 a 2030. Mae echelin x yn cynrychioli pwyntiau amser a ffactorau allweddol sy’n dylanwadu ar y galw: 2023, ‘Gostyngiad preswyl’, ‘Twf diwydiannol a masnachol’, ‘Twf trafnidiaeth’, 2030, a 2050. Mae’r echelin y ar y chwith yn dangos y galw blynyddol am drydan mewn terawat-awr (TWh), ac mae’r echelin y ar y dde yn cynrychioli’r galw brig mewn gigawatiau (GW). Mae’r bariau wedi’u codio â lliw: glas ar gyfer y ‘Cyfanswm Preswyl’, gwyrdd ar gyfer y ‘Cyfanswm Diwydiant a Masnachol’, coch ar gyfer y ‘Cyfanswm Trafnidiaeth Ffyrdd’, a phorffor ar gyfer y ‘Galw Brig’. Dangosir newidiadau rhwng cyfnodau amser fel grisiau, gyda ‘Gostyngiad preswyl’ yn dangos gostyngiad yn y galw, wedi’i ddilyn gan gynnydd o ran ‘Twf diwydiannol a masnachol’ a ‘Twf trafnidiaeth’. Erbyn 2030, mae cyfanswm y galw’n tyfu’n sylweddol, wedi’i sbarduno’n bennaf gan drafnidiaeth, ac mae’r galw brig yn cynyddu ymhellach erbyn 2050. Mae’r nodiadau’n egluro bod y galw brig yn seiliedig ar amodau’r Cyfnod Oer Cyfartalog (ACS) a’i fod yn eithrio’r cyfraniadau o’r cerbyd i’r grid (V2G) a’r ymateb ymhlith defnyddwyr (DSR) llai arferol.
Sylwer: Y galw brig yw’r galw brig yn ystod Cyfnod Oer Cyfartalog (ACS). Mae’r galw brig ar ôl gwefru clyfar a hyblygrwydd gwres sy’n digwydd bob dydd, ond nid yw’n cynnwys V2G a DSR sy’n cael eu defnyddio’n llai aml yn y modelu.
Ffynhonnell: NESO (2024), ‘Clean Power 2030’
Cyflawni Pŵer Glân 2030
Mae cyflawni capasiti sy’n cyd-fynd â’r ‘Amrediad Capasiti Pŵer Glân’ yn Tabl 1 yn gofyn am faint a chyflymder sylweddol iawn, a dim ond drwy weithredu’n gyflym i oresgyn heriau cyflawni y gellir gwireddu hyn. Ar gyfer y rhan fwyaf o dechnolegau, mae modd cyflawni’r ‘Amrediad Capasiti Pŵer Glân’ drwy gyflawni a chyflymu prosiectau sydd eisoes ar y gweill. Er hynny, mae’r technolegau hyn angen camau polisi arwyddocaol i chwalu rhwystrau er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni’n amserol.
Gallai darparu capasiti newydd ar gyfer 2030 fod yn fwy heriol i rai technolegau gydag amseroedd arwain hirach. Mae capasiti Pŵer Glân 2030 yn fwyaf heriol i hydrogen i bŵer a bio-ynni pŵer gyda dal a storio carbon (BECCS), oherwydd argaeledd cyfyngedig seilwaith cludo a storio ar gyfer hydrogen a CO2 yn y drefn honno. Mae faint o gapasiti cyffredinol sydd ei angen hefyd yn dibynnu’n drwm ar y galw brig, sy’n cael ei sbarduno gan ddefnydd defnyddwyr o dechnolegau fel cerbydau trydan a phympiau gwres, patrymau defnyddio, a lefelau o hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr.
Er mwyn cynyddu ein siawns o gyflawni, mae’r ‘Amrediad Capasiti Pŵer Glân’ yn darparu sylfaen i flaenoriaethu’r seilwaith mwyaf hanfodol i gyflawni Pŵer Glân 2030, a fydd, yn ein barn ni, yn allweddol i gefnogi cynnydd pellach i’r 2030au:
- Cysylltiadau: Mae angen diwygio’r broses cysylltiadau yn sylfaenol ar frys er mwyn gweithredu Pŵer Glân 2030 a sicrhau bod y system drydan yn diwallu anghenion strategol tymor hwy. Mae ein hystod capasiti yn darparu fframwaith i NESO weithio gyda Pherchnogion Trawsyrru a Gweithredwyr Rhwydweithiau Dosbarthu i flaenoriaethu cynigion cysylltu ar gyfer prosiectau sydd wedi’u halinio’n strategol sy’n gallu dangos bod ganddynt y modd i gyflawni. Er mwyn galluogi NESO i ddiwygio’n effeithlon, rydym wedi nodi dadansoddiadau rhanbarthol o’n hystod capasiti ar gyfer ynni gwynt ar y tir, solar a batris – gan ddarparu eglurder i ddatblygwyr, buddsoddwyr a gweithredwyr rhwydwaith ynghylch beth i’w gysylltu, a ble. Er mwyn parhau i ddatblygu’r seilwaith sydd ei angen y tu hwnt i 2030, mae ein Hatodiad Cysylltiadau hefyd yn nodi ystodau capasiti technoleg y mae NESO yn bwriadu eu defnyddio fel arwydd o’r hyn sy’n ofynnol ar y system erbyn 2035, i arwain cynigion newydd ar gyfer cysylltiadau nes bydd y Cynllun Ynni Gofodol Strategol yn cael ei gyhoeddi yn 2026. Bydd hyn yn darparu gorwel 10 mlynedd ar gyfer cytundebau cysylltu. Mae’r ystodau hyn yn deillio’n bennaf o Senarios Ynni’r Dyfodol (FES) sy’n cyd-fynd â sero net NESO, gyda dull gweithredu pwrpasol[footnote 26] yn cael ei gynnig ar gyfer gwynt ar y tir a nwy di-dor. Gweler yr adran ‘Rhwydweithiau a Chysylltiadau’ i gael rhagor o fanylion.
- Cynllun Ynni Gofodol Strategol: Mae ein hystod capasiti ar gyfer 2030 yn gyfraniad allweddol at ddatblygu’r Cynllun hwn, gan ffurfio ei waelodlin. Bydd yr SSEP yn adeiladu ar ystod capasiti 2030 i gynnig cynllun gofodol tymor hwy ar gyfer y system ynni y tu hwnt i 2030. Bydd hyn yn helpu i sicrhau cydlyniad strategol rhwng camau gweithredu tymor byr i gyflawni Pŵer Glân 2030 a chynllunio gofodol tymor hwy, er mwyn galluogi datgarboneiddio tymor hir a diogelwch ynni.
- Cynllunio: Mae cyflymu prosiectau seilwaith glân drwy’r system gynllunio yn hanfodol er mwyn cyflawni ein nod a rhyddhau buddsoddiad i gefnogi Cenhadaeth Twf y Prif Weinidog. Bydd ein hystod capasiti yn sicrhau bod gan gynllunwyr ac ymgyngoreion statudol ar lefel genedlaethol a lleol ymdeimlad clir o ba brosiectau i’w blaenoriaethu i’w hystyried a, lle bo’n briodol, llwybr carlam drwy’r broses er mwyn gallu gwneud penderfyniadau ar ganiatáu yn gynharach[footnote 27]. Gweler yr adran ‘Cynllunio a chaniatáu ar gyfer seilwaith ynni newydd’ i gael rhagor o fanylion.
- Gwelededd i ddiwydiant a buddsoddwyr: Fel nod heriol, ni fydd cyflenwi Pŵer Glân 2030 yn bosibl oni bai fod dealltwriaeth glir ar draws y sector o’r hyn sydd angen ei gyflawni, ac os byddwn yn cynnig prosbectws clir o’r cyfleoedd i fuddsoddwyr.
Cost ac effeithiau Pŵer Glân 2030 ar ddefnyddwyr
Bydd lefel y defnydd a nodir yn Tabl 1 yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol ledled y wlad, o oddeutu £40 biliwn[footnote 28] ar gyfartaledd y flwyddyn rhwng 2025-2030, a bydd llawer ohono’n fuddsoddiad preifat.
Mae hyn yn cyd-fynd yn fras ag amcangyfrif buddsoddi NESO – gweler ffigur 9. Ar ben hynny, drwy drawsnewid y ffordd rydym yn cynhyrchu trydan, byddwn yn adeiladu system bŵer sydd nid yn unig yn lanach, ond yn bwysicach fyth yn llai dibynnol ar danwydd ffosil, gan leihau ein hamlygiad i brisiau nwy cyfnewidiol.
Ffigur 9: Buddsoddiad blynyddol cyfartalog yn senarios ‘Further Flex and Renewables’ a ‘New Dispatch’ NESO, 2025-2030, £ biliynau, prisiau 2024, heb eu disgowntio
Disgrifiad o Ffigur 9: Graff bar pentyrrog yn dangos costau cyfartalog y system fuddsoddi flynyddol mewn llwybrau ynni glân o 2025 i 2030. Mae echelin x yn cynrychioli gwahanol senarios NESO ac mae echelin y yn cynrychioli’r buddsoddiad mewn biliynau o bunnoedd, ym mhrisiau 2024 (£bn). Rydym yn amcangyfrif y gellid bod angen tua £40-50 biliwn o fuddsoddiad y flwyddyn ar gyfartaledd rhwng 2025 a 2030 ar gyfer Cynllun Ynni Glân 2030. Mae hyn yn cynnwys tua £30 biliwn o fuddsoddiad mewn asedau cynhyrchu bob blwyddyn, a thua £15 biliwn y flwyddyn o fuddsoddiad yn asedau’r rhwydwaith trawsyrru trydan, yn ôl amcangyfrif NESO.
Ffynhonnell: NESO (2024), ‘Clean Power 2030’
Yn eu cyngor, amlinellodd NESO eu dadansoddiad o effeithiau posibl darparu Pŵer Glân ar gostau trydan yn 2030[footnote 29]. Roedd hyn yn dangos y gellid ei gyflawni gyda chostau tebyg i heddiw, gyda’r posibilrwydd o filiau a chostau trydan is erbyn 2030 wrth i newidiadau ehangach gael eu hystyried.
Mae’r cynllun hwn yn mynd rhagddo ar sail dadansoddiad NESO. Bydd yr union effaith a welwn ar filiau yn y blynyddoedd i ddod yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys y llwybr a ddewiswyd a dewisiadau polisi eraill a wneir yn y dyfodol yn ogystal ag effeithiau ffactorau alldarddol fel prisiau nwy. Fel y nodir uchod, mae yna gymysgeddau capasiti lluosog allai gyflawni Pŵer Glân yn 2030. Bydd y llywodraeth yn craffu ar bob dewis polisi am yr effaith y gall ei chael ar leihau biliau sy’n wynebu defnyddwyr, yn ogystal â gwerth am arian a fforddiadwyedd.
Bydd y system ynni newydd, fwy hyblyg ac sy’n cael ei harwain gan ddefnyddwyr hefyd yn cynnig llawer o gyfleoedd i leihau’r biliau y mae cwsmeriaid yn eu hwynebu. Rydyn ni eisoes yn gweld unigolion sydd â phaneli solar a cherbydau trydan yn manteisio ar y technolegau hyn. Mae’r llywodraeth yn benderfynol o sicrhau nad dim ond y rhai mwyaf gwybodus neu well eu byd sydd â mynediad at y ffyrdd hyn o arbed arian. Dyna pam mae cyflwyno setliad fesul hanner awr, er enghraifft, mor bwysig fel bod gan ddefnyddwyr dariffau is ar gael i’w defnyddio ar wahanol adegau o’r dydd.
Yn bwysig, bydd Pŵer Glân yn diogelu defnyddwyr trydan rhag prisiau nwy cyfnewidiol. Wrth i’r system drydan ddatgarboneiddio, bydd cynhyrchiant nwy di-dor yn cael ei ddefnyddio’n llai aml. O ganlyniad, bydd cynnydd yng nghyfran y cynhyrchiant y telir amdano am bris dan gontract yn hytrach na’r pris cyfanwerthol a allai fod yn anwadal, a bydd y pris trydan cyfanwerthol ei hun hefyd yn cael ei ddatgysylltu fwyfwy oddi wrth brisiau nwy. Wrth i ni gyflwyno ynni adnewyddadwy, byddwn yn gweld gostyngiad sylweddol mewn prisiau cyfanwerthol, sef y sylfaen ar gyfer adeiladu system ynni sy’n gallu lleihau biliau am byth.
Yn ystod yr argyfwng ynni diweddar, yn dilyn yr ymosodiad ar Wcráin, gwelsom y cap ar brisiau trydan yn cynyddu dros £1,300 mewn blwyddyn, gan gyrraedd uchafbris o £2,000. Er mwyn diogelu busnesau a defnyddwyr, rhoddodd y llywodraeth gynlluniau cymorth ynni ar waith am gost amcangyfrifiedig o £44 biliwn[footnote 30]. Pe bai system pŵer glân wedi bod ar waith ar anterth yr argyfwng prisiau nwy, gallai fod wedi arbed symiau sylweddol i aelwydydd, busnesau a threthdalwyr. Dyma faint y wobr sydd ar gael o ran sefydlogrwydd a diogelwch ynni.
Rôl system pŵer glân o ran cyrraedd sero net erbyn 2050
Mae cyflawni nod Pŵer Glân 2030 yn allweddol i gyflymu tuag at sero net, nid yn unig o ran dileu allyriadau sy’n deillio ar hyn o bryd o gynhyrchu trydan ond hefyd drwy ddefnyddio pŵer glân yn y sectorau adeiladau, trafnidiaeth a diwydiant. Gall amrywiaeth o dechnolegau, gan gynnwys cerbydau trydan a phympiau gwres, ein helpu i symud oddi wrth ddefnyddio tanwyddau ffosil yn y sectorau hyn, gan wella effeithlonrwydd y system ynni yn y broses yn aml.
Y newid i system pŵer glân erbyn 2030 yw asgwrn cefn y newid i sero net, wrth i ni symud tuag at economi sy’n llawer mwy dibynnol ar drydan. Erbyn 2050, mae’r galw blynyddol am drydan yn debygol o ddyblu o leiaf o ganlyniad i drydaneiddio.[footnote 31] Dros y cyfnod hyd at 2030, bydd y rhan fwyaf o’r gostyngiad mewn allyriadau o bŵer glân yn deillio’n uniongyrchol o ddisodli cynhyrchu trydan tanwydd ffosil. I’r gwrthwyneb, yn y cyfnod rhwng 2030 a 2050, bydd y gostyngiadau pellach mewn allyriadau o bŵer glân yn deillio’n anuniongyrchol drwy ei ddefnyddio i ddisodli’r defnydd o danwydd ffosil mewn sectorau eraill, er enghraifft mewn boeleri a cherbydau.
Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn amcangyfrif yn y Chweched Gyllideb Garbon y bydd system pŵer glân bron yn dileu’r allyriadau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu trydan erbyn 2050 (sef 12% o gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU ar hyn o bryd)[footnote 32]. Ar ben hynny, bydd system pŵer glân yn galluogi sectorau trafnidiaeth, adeiladau a diwydiant i newid o danwydd ffosil i drydan a chyfrannu 47% o’r gostyngiadau allyriadau pellach sydd eu hangen erbyn 2050.[footnote 33]
Fodd bynnag, er mai trydaneiddio sy’n darparu’r potensial mwyaf ar gyfer cyrraedd sero net, nid dyma’r ateb ar gyfer pob defnydd o ynni ar draws yr economi, a bydd angen ei ategu gan ddefnydd o CCUS a hydrogen wedi’i dargedu, ochr yn ochr â chamau gweithredu y tu allan i’r system ynni. Cyflawni Pŵer Glân 2030 yw rhan gyntaf taith hirach a bydd yr heriau sy’n wynebu’r system pŵer glân yn newid dros amser, gan adlewyrchu’r pwyslais mwy hirdymor ar drydaneiddio a’r cyfle a’r rheidrwydd i ddefnyddio technolegau gydag amseroedd arwain hir:
- Dyblu yn galw, o leiaf: Mae trydaneiddio ac anghenion eraill am bŵer glân fel rhan o sero net yn debygol o arwain at ddyblu’r defnydd o drydan o leiaf o’i gymharu â heddiw, gyda symiau mwy fyth yn ofynnol os oes rolau sylweddol ar gyfer llwybrau datgarboneiddio sy’n defnyddio llawer o drydan fel hydrogen gwyrdd ac e-danwyddau ar gyfer hedfanaeth a’r sector morol. Bydd hyn yn gofyn am dwf cryf mewn cynhyrchu pŵer o amrywiaeth eang o ffynonellau glân yn barhaus drwy’r 2030au a’r 2040au. Mae rôl hanfodol i arloesi ar y llwybr hyd at 2030, er mwyn sicrhau bod y technolegau cywir yn cael eu cefnogi i symud ymlaen drwy lefelau parodrwydd technoleg yn y blynyddoedd i ddod, er mwyn galluogi cyflwyno torfol dros y degawdau nesaf.
- Niwclear: Bydd niwclear yn chwarae rhan bwysig yn ein system ynni yn y dyfodol, gan ddarparu pŵer llwyth sylfaen carbon isel i’r grid. Bydd y Llywodraeth yn parhau i geisio symleiddio prosesau rheoleiddio, a meithrin arloesedd mewn technoleg niwclear, i sicrhau bod niwclear yn parhau i chwarae rhan bwysig yn y newid i sero net ar ôl 2030. Roedd y gyllideb yn nodi y bydd y penderfyniadau terfynol ar Sizewell C a’r rhaglen Adweithydd Modiwlaidd Bach dan arweiniad Niwclear Prydain Fawr yn cael eu gwneud yn yr Adolygiad o Wariant.
- System fwy clyfar byth: Wrth i’r gwaith o drydaneiddio’r system ynni ehangach gynyddu, felly hefyd y cyfle i gael llawer iawn o hyblygrwydd tymor byr dan arweiniad defnyddwyr drwy ddefnyddio gwres trydan yn hyblyg a gwefru cerbydau clyfar – gan addo mynediad ehangach at dariffau clyfar i ddefnyddwyr sydd â’r nod o leihau eu biliau, a lleihau costau’r system i’r wlad.
- Mwy o alw tymhorol a sbigynnol: Er y gallai’r darlun o-fewn-diwrnod ar gyfer y galw am drydan fod yn eithaf llyfn yn y tymor hwy, bydd trydaneiddio gwres gofod ar gyfer adeiladau yn arwain at alw am drydan sy’n llawer mwy tymhorol na heddiw, ac yn fwy cyfnewidiol oherwydd y gofynion am wres ar ddiwrnodau oer iawn. Mae hyn yn awgrymu rôl bwysig iawn i ynni gwynt ar y môr o ran cyfateb y galw, gan ei fod yn tueddu i gynhyrchu’n gryfach yn ystod y gaeaf nag adegau eraill o’r flwyddyn, yn ogystal â phŵer carbon isel anfonadwy i ddarparu ateb storio tymor hir iawn, gan gynnwys bodloni’r galw yn ystod cyfnodau sy’n oer ond yn llai gwyntog.
- Diwygio ein trefniadau marchnad: Cafodd ein marchnadoedd trydan presennol eu dylunio’n bennaf ar gyfer system bŵer tanwydd ffosil y gorffennol. Mae’r Rhaglen Adolygiad o Drefniadau’r Farchnad Drydan (REMA) yn ystyried y diwygiadau sydd eu hangen i sicrhau bod ein trefniadau marchnad yn dal yn addas ar gyfer y system bŵer fydd yn cael ei dominyddu gan ynni adnewyddadwy yn y dyfodol.
- Angen pellach i gryfhau rhwydweithiau: Mae’n anochel y bydd y galw uwch a mwy sbigynnol am drydan, o ganlyniad i drydaneiddio, yn golygu y bydd angen cryfhau rhwydweithiau trydan, yn enwedig ar y lefel ddosbarthu. Bydd amseriad a hyd a lled hyn, i ryw raddau, yn dibynnu ar yr union gymysgedd o atebion datgarboneiddio gwres a ddefnyddir.
Mae’r rhain i gyd yn heriau y mae angen i ni gynllunio ar eu cyfer nawr er mwyn i system Pŵer Glân 2030 fod yn addas ar gyfer ei rôl allweddol y tu hwnt i 2030 o ran cyrraedd sero net. Mae ein camau gweithredu yn cyd-fynd â fframwaith ehangach sy’n cael ei ddatblygu i osod y sylfaen ar gyfer y cynlluniau tymor hwy ar gyfer system ynni Prydain Fawr: y Cynllun Ynni Gofodol Strategol (SSEP), y Cynllun Rhwydwaith Strategol Canolog (CSNP), a’r Cynlluniau Strategol Ynni Rhanbarthol (RESPs).
Integreiddio pŵer glân a’r amgylchedd naturiol
Mae’r byd yn wynebu argyfwng hinsawdd a natur ar yr un pryd, sy’n bygwth ein hiechyd, ein cyfoeth a’n diogelwch byd-eang. Mae cyswllt anorfod rhwng y rhain. Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i gyflymu i sero net, i ddarparu pŵer glân erbyn 2030, a hefyd i adfer natur – er enghraifft drwy ei hymrwymiad i gyflawni targedau Deddf yr Amgylchedd yn Lloegr ac anrhydeddu ein hymrwymiadau rhyngwladol o dan UNCBD. Bydd hyn yn golygu atal y gostyngiad yn nifer y rhywogaethau erbyn 2030, a diogelu ein Hardaloedd Morol Gwarchodedig i bob pwrpas fel rhan o’r ymrwymiad 30 erbyn 30.
Y DU yw un o’r gwledydd lle mae byd natur wedi dirywio fwyaf yn y byd, felly nid yw’n ddigon i ni ‘ddiogelu’ neu ‘gadw’ y natur sydd gennym ar ôl o hyd. Dyna pam mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i adfer byd natur drwy dargedau o’r fath, a’n hymrwymiadau rhyngwladol cysylltiedig.
Newid yn yr hinsawdd yw un o’r bygythiadau mwyaf i fyd natur yn y blynyddoedd i ddod, a dyna pam mai un o’r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i warchod natur yw sicrhau pŵer glân erbyn 2030 – mynd i’r afael â dibyniaeth y DU ar danwydd ffosil a sbarduno gweithredu rhyngwladol ar yr hinsawdd. Yn yr un modd, mae natur yn allweddol i’n helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, drwy liniaru ac addasu.
Felly, dylem sicrhau bod ein targedau hinsawdd a natur yn cael eu cyflawni lle bynnag y bo modd, mewn ffordd integredig a chydgysylltiedig. Mae hyn yn golygu sicrhau bod cynefinoedd fel mawndiroedd yn storio yn hytrach nag allyrru allyriadau nwyon tŷ gwydr; neu adfer corsydd heli a gweiriau môr fel eu bod yn dal carbon yn ogystal â diogelu ein cymunedau arfordirol rhag lefelau môr sy’n codi a thywydd eithafol. Mae hyn yn golygu y dylid adeiladu seilwaith ynni newydd mewn ffordd sy’n diogelu’r amgylchedd naturiol drwy ddilyn ‘hierarchaeth lliniaru’ i wneud yr hyn sy’n bosibl i osgoi difrod i fyd natur, ac yna lleihau, adfer a digolledu pan fydd difrod yn amhosibl ei osgoi.
Y gwir gyfle sydd ar gael i’r DU yw darparu pŵer glân erbyn 2030 mewn ffordd gadarnhaol o ran natur, fel ail-wlychu priddoedd mawn iseldir ar yr un pryd ag adeiladu ffermydd solar newydd neu greu coridorau bywyd gwyllt newydd ochr yn ochr â neu o dan seilwaith ynni llinol.
Nid yw’r dull hwn yn ymwneud cymaint a hynny â ‘chydbwyso’ ynni a’r anghenion amgylcheddol; mae’n ymwneud â’u ‘hintegreiddio’. Mae’n ymwneud ag ailadeiladu ein seilwaith naturiol ar yr un pryd ag adeiladu’r seilwaith ynni newydd sydd ei angen arnom.
Bydd y Llywodraeth yn lansio ymarfer ymgysylltu ddechrau 2025 i wahodd cymunedau, cymdeithas sifil a rhanddeiliaid ehangach i gyflwyno eu syniadau ynghylch y ffordd orau i lywodraeth annog arferion gorau cadarnhaol o ran natur i mewn i gynllunio a datblygu seilwaith ynni. Bydd adborth o’r ymarfer hwn yn galluogi’r llywodraeth i ddeall yn well sut gallwn integreiddio adfer natur drwy Bŵer Glân 2030.
Cefnogi busnesau a hybu twf
Gyda 90% o’r cynnyrch domestig gros byd-eang yn dod o dan dargedau sero net[footnote 34], mae diwydiannau ynni glân yn cynrychioli ardal twf potensial sylweddol. Gall y diwydiannau hyn greu swyddi newydd drwy weithgynhyrchu a gwasanaethau domestig a diogelu ein Diwydiannau Ynni-ddwys mewn economi wedi’i ddatgarboneiddio. Ar ben hynny, yr unig ffordd o sicrhau ein diogelwch ynni a diogelu talwyr biliau’n barhaol yw cyflymu’r broses o symud oddi wrth danwydd ffosil a thuag at ynni glân sy’n cael ei gynhyrchu gartref.
Drwy gyflymu’r newid i ffynonellau ynni adnewyddadwy, rydym yn creu amgylchedd mwy sefydlog sy’n ffafriol i dwf ac sy’n lleihau chwyddiant sy’n cael ei arwain gan brisiau ynni. Mae’r sefydlogrwydd hwn yn hanfodol i fusnesau, gan ei fod yn helpu i sicrhau bod biliau ynni’n aros yn isel, ac yn caniatáu iddynt gynllunio a buddsoddi’n hyderus, gan wybod na fyddant yn agored i anwadalrwydd prisiau tanwydd ffosil. Petai cynnydd mewn prisiau nwy yn digwydd hyd yn oed unwaith bob degawd, gallai gostio rhwng 2-3% o GDP i’r DU bob blwyddyn, gan ychwanegu 13% o GDP at y ddyled gyhoeddus erbyn 2050[footnote 35].
Un o brif fanteision Pŵer Glân 2030 a thyfu sectorau ynni glân yw creu cyfleoedd swyddi newydd mewn lleoliadau ledled y DU, yn enwedig mewn rhanbarthau arfordirol mewn perthynas â ffermydd ynni gwynt ar y môr ac mewn rhanbarthau fel Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru ar gyfer cynhyrchu hydrogen a dal carbon[footnote 36] ar yr un pryd â chefnogi swyddi diwydiannol.
Wrth inni fuddsoddi yn natblygiad prosiectau gwynt, solar ac ynni adnewyddadwy eraill, byddwn yn gweld cynnydd yn y galw am weithwyr medrus yn y diwydiannau hyn a’r diwydiannau a’r gwasanaethau sy’n cefnogi’r defnydd ohonynt. Bydd ailsgilio ein gweithlu yn chwarae rhan hollbwysig, gyda thystiolaeth yn awgrymu y gellir trosglwyddo llawer iawn o sgiliau rhwng gweithlu olew a nwy’r DU a’r sector ynni adnewyddadwy ar y môr[footnote 37]. Bydd hyn nid yn unig yn darparu cyfleoedd cyflogaeth ond gallai hefyd ysgogi economïau lleol a sbarduno arloesedd[footnote 38]. Mae astudiaethau wedi dangos bod swyddi gwyrdd yn tueddu i ddarparu mwy o gynhyrchiant a chyflogau uwch na swyddi heb fod yn wyrdd, yn enwedig ar gyfer gweithwyr â sgiliau canol ac is[footnote 39]. Disgwylir i gyfran sylweddol o’r swyddi hyn fod yn y sector effeithlonrwydd ynni a gwresogi carbon isel[footnote 40]. Disgwylir mwy o swyddi hefyd mewn ynni carbon isel, CCUS, hydrogen a gweithgynhyrchu cerbydau trydan.
Gallai datgarboneiddio economi’r DU leihau anghydraddoldebau rhanbarthol, gan greu swyddi newydd a chefnogi swyddi presennol mewn cadarnleoedd diwydiannol ac atal dirywiad mewn ardaloedd sy’n dibynnu ar y sector olew a nwy. Er enghraifft, yn ôl EDF[footnote 41], mae prosiect Hinkley Point C yn helpu pobl ifanc i aros a ffynnu yng Ngwlad yr Haf. Mae’r ardal leol wedi gweld cynnydd o 25% yn nifer y bobl ifanc 25-39 oed – 3 gwaith yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, ac mae ardaloedd lleol yn gweld twf yn nifer y cwmnïau canolig eu maint, sydd ddeg gwaith yn uwch nag unrhyw le arall yn Ne Orllewin Lloegr[footnote 42].
Mae Llywodraeth yr Alban wedi buddsoddi mewn pecyn o ymyriadau sgiliau yng Ngogledd Ddwyrain yr Alban, gan gefnogi’r gallu i drosglwyddo’r gweithlu ar draws sectorau i ddiwallu anghenion y newid i sero net. Mae hyn yn cynnwys Canolfan Trawsnewid Sgiliau Ynni a Chyflymydd Sgiliau Ynni Cenedlaethol.
Mae cyfleoedd hefyd i’r DU gipio mwy o’r gadwyn werth ar gyfer diwydiannau ynni glân allweddol a’r potensial i sbarduno mewnfuddsoddiad mewn cadwyni cyflenwi domestig. Yn y gwanwyn, bydd y llywodraeth yn cyhoeddi’r Strategaeth Ddiwydiannol newydd, gyda Diwydiannau Ynni Glân yn sector twf blaenoriaeth.
Sut bydd Pŵer Glân 2030 yn trawsnewid ein system ynni
Bydd Pŵer Glân 2030 yn gam mawr tuag at wireddu uchelgais o gael system ynni lân, gyfoes a digidol yn seiliedig yn bennaf ar drydan, i’w datblygu ymhellach yn y blynyddoedd nesaf fel rhan o ddatgarboneiddio’r economi gyfan. I ddefnyddwyr ynni a dinasyddion, bydd hyn yn trawsnewid eu perthynas ag ynni.
Yn union fel y mae wedi’i wneud mewn cynifer o sectorau eraill o’r blaen, fel bancio, y cyfryngau a manwerthu, bydd digideiddio yn paratoi’r ffordd ar gyfer trawsnewid y system ynni, sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr, ac sy’n cael ei nodweddu gan fodelau busnes, cwmnïau a marchnadoedd newydd. Er y bydd hyn yn ennill momentwm yn y cyfnod hyd at 2030, bydd yn parhau i wneud hynny ymhell y tu hwnt i hynny, fel rhan o ddatgarboneiddio’r economi gyfan.
Mae gwersi o sectorau eraill yn glir: gall digideiddio gynyddu dewisiadau defnyddwyr, lleihau costau i bawb, ac arwain at ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau sy’n fwy cyfeillgar i ddefnyddwyr.
Yn bwysig i’r system ynni, bydd y digideiddio hwn yn datgloi trawsnewidiad ar ochr y galw ar yr un pryd, sy’n rhan hanfodol o’r system ynni wrth symud at bŵer glân ac yn un sydd wedi cael ei esgeuluso’n hanesyddol, gan fethu â gwasanaethu buddiannau pennaf defnyddwyr.
Bydd system y dyfodol yn rhoi dewis i ddefnyddwyr o ran sut maen nhw’n ymgysylltu, yn amrywio o ddim newid ers heddiw, i allu elwa o ostyngiadau biliau diolch i dariffau clyfar. Byddant yn gallu ymgysylltu’n ffisegol drwy ddefnyddio offer pan fydd trydan yn rhatach neu drwy systemau awtomataidd sy’n rheoli hyn ar eu rhan. Byddai’r rhain yn rheoli sut mae offer mawr fel gwefrwyr ceir, pympiau gwres, gwresogyddion dŵr, peiriannau golchi/sychwyr, ac oergelloedd/rhewgelloedd yn defnyddio eu trydan i fanteisio ar brisiau isel yn ystod y dydd ac integreiddio allbynnau unrhyw gynhyrchiant preswyl fel paneli solar ffotofoltaig ar y to, a storfeydd ynni yn y cartref, gan gynnwys y batri yn eich car trydan o bosibl.
Mae’r llywodraeth yn glir y bydd ymgysylltu â’r systemau hyn yn gwbl wirfoddol, dan arweiniad defnyddwyr. O dan y llywodraeth flaenorol, cynigiwyd yr opsiwn i ddefnyddwyr fanteisio ar dariffau gwahanol ar wahanol adegau. Y dystiolaeth oedd bod defnyddwyr yn frwdfrydig ynghylch y posibiliadau[footnote 43]. Ond ni ddylai hyn fod yn ddewis a roddir i’r defnyddwyr mwyaf gwybodus yn unig, ond i bawb. Dyna yw diben system y dyfodol.
Beth mae Pŵer Glân yn ei olygu i leoedd lleol
Hybu diwydiant a thrawsnewid economïau lleol gydag ynni glân a gynhyrchir gartref
Ar ôl cyfuno’r grid am y tro cyntaf rhwng 1926 a 1933, daeth ynni’n llawer rhatach, a chafodd hyn effaith fanteisiol ar ddiwydiant, gan leihau costau[footnote 44].
Yn yr un modd ond ar raddfa lawer mwy a thrawsnewidiol, bydd Pŵer Glân 2030 yn sbarduno cyfnod newydd o ynni adnewyddadwy, gan agor y posibilrwydd i fentrau newydd a ddalwyd yn ôl yn flaenorol gan bris tanwydd ffosil.
Bydd yn sicrhau bod manteision pŵer glân yn cael eu lledaenu ledled y wlad, gan sbarduno buddsoddiad a diwydiant newydd i leoedd a chymunedau lleol. Er enghraifft, galluogi datblygu a thyfu diwydiannau ynni-ddwys newydd fel canolfannau data ledled yr Alban.
Bydd y newidiadau hyn yn cael effaith fawr ar fywoliaeth pobl, wrth iddynt ddod â swyddi a chyflogaeth newydd â gwerth uwch wedi’u diogelu at y dyfodol.
Creu system ynni decach a mwy cyfartal
Bydd Pŵer Glân 2030 yn creu’r amodau sydd eu hangen i sbarduno buddsoddiad mewn, a thyfu datblygiadau ynni sy’n cael eu harwain, eu perchenogi a’u rheoli’n lleol. Bydd arweinyddiaeth leol yn cael ei grymuso i chwarae rhan fwy gweithredol yn y gwaith o gyflawni’r newid – er enghraifft, drwy weithio mewn partneriaeth â grwpiau ynni cymunedol ac awdurdodau lleol a chyfunol a darparu cymorth iddynt, bydd Cynllun Pŵer Lleol GBE yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno prosiectau ynni adnewyddadwy gan ddefnyddio technolegau sefydledig i gyfrannu hyd at 8GW o ynni glân gaiff ei gynhyrchu gartref.
Bydd cymunedau a’r bobl sy’n byw ynddynt a’r busnesau sy’n eu gwasanaethu, yn gweld cysylltiadau cliriach rhwng prosiectau lleol, a manteision lleol.
Er enghraifft, mae fferm solar gyntaf y DU sy’n eiddo i ysbyty nid yn unig wedi cyfrannu at anghenion pŵer dyddiol Ysbyty Treforys yn Abertawe, ond mae hefyd wedi cyflenwi 100% o’i galw am gyfnodau hir o amser, gan helpu i arbed carbon a gostwng biliau.
Drwy ei Gynllun Ynni Cymunedol ac Adnewyddadwy, mae Llywodraeth yr Alban yn cefnogi twf ynni cymunedol ac yn helpu cymunedau i gymryd rhan yn y newid i ynni ac elwa ohono. Hyd yma, mae’r Cynllun wedi cynghori dros 1200 o sefydliadau ac wedi darparu dros £67 miliwn o gyllid i gymunedau ledled yr Alban, gan gefnogi dros 960 o brosiectau a gosod 63 MW o ynni adnewyddadwy.
Meithrin ymddiriedaeth, gwybodaeth a hyder i gefnogi mabwysiadu technoleg yn y cartref
Bydd galluogi ynni gwirioneddol leol dan arweiniad dinasyddion lleol, busnesau ac arweinwyr lleol hefyd yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ymgysylltu â dinasyddion, gyda datblygiadau lleol a modelau busnes mewn rhai achosion yn cynrychioli’r achlysur ‘diriaethol’ go iawn cyntaf y gall pobl leol ddysgu am a phrofi ynni adnewyddadwy.
Bydd y profiadau hyn yn helpu i feithrin ymddiriedaeth a gwybodaeth y cyhoedd. Bydd mwy o amlygrwydd ac eglurder ynghylch ynni adnewyddadwy ar lefel leol ar draws Prydain Fawr yn cefnogi trydaneiddio i lawr i lefel yr aelwyd unigol, gan roi’r hyder i ddinasyddion fabwysiadu technolegau carbon isel, gan ein cadw ar y trywydd iawn ar gyfer ein targedau sero net ehangach y tu hwnt i 2030.
Dileu rhwystrau: lleihau rhwystrau rhag buddsoddi, datblygu a defnyddio
Bydd Darparu Pŵer Glân 2030 yn gofyn am ddiwygiadau i’r strwythurau cyffredinol sy’n sail i gyflawni a gweithredu’r system ynni, er mwyn sicrhau nad ydynt yn rhwystro prosiectau pŵer glân rhag cael eu cyflawni.
Mae angen i ni wneud yn siŵr bod trefniadau caniatáu yn gweithio i ddod â phrosiectau newydd drwy’r system yn gyflym, bod y rhwydwaith yn ehangu’n gyflym er mwyn gallu cludo ein cyflenwad enfawr o drydan glân i ganolfannau galw, a bod y gadwyn gyflenwi a’r gweithlu sylfaenol ar gael ac yn gallu sicrhau bod y trawsnewid hwn yn cael ei gyflawni.
Mae angen i ni hefyd sicrhau bod y farchnad yn gweithio ochr yn ochr â chynlluniau cymorth i ddarparu’r signalau buddsoddi cywir, a bod unrhyw rwystrau sy’n benodol i’r sector i gyflwyno yn cael sylw priodol, er mwyn galluogi’r swmp enfawr o ddefnydd a fydd yn sail i Bŵer Glân 2030.
Mae’r adran hon o’r Cynllun Gweithredu yn nodi sut bydd y llywodraeth yn sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni, gyda phenodau’n ymdrin â’r canlynol:
- Cynllunio a chaniatáu seilwaith ynni newydd
- Rhwydweithiau a chysylltiadau
- Cyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy a niwclear
- Diwygio ein marchnadoedd trydan
- Hyblygrwydd byrdymor
- Hyblygrwydd hirdymor
- Cadwyni cyflenwi a’r gweithlu
Cynllunio a chydsynio
Crynodeb
Nid yw ein systemau cynllunio presennol ledled Prydain Fawr yn gweithio ar y cyflymder sy’n ofynnol i gyrraedd ein targed ar gyfer pŵer glân erbyn 2030. Mae systemau cynllunio wedi’u datganoli ac mae’r cyfundrefnau’n amrywio ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban, er y ceir problemau tebyg ym mhob un. Mae gwaith papur hirfaith a phrosesau sydd wedi’u gohirio’n aml ar gyfer prosiectau seilwaith yn llesteirio ein diogelwch ynni, ein twf economaidd, ac yn methu â chyflawni ar gyfer yr amgylchedd naturiol. Mae’r risgiau cynyddol i brosiectau, sy’n gysylltiedig ag oedi wrth wneud penderfyniadau cynllunio, hefyd yn cynyddu costau ar draws y system.
Mae angen i’n system gynllunio newid yn gyflym er mwyn galluogi cenhadaeth y llywodraeth i dyfu’r economi a darparu pŵer glân. Ers mis Gorffennaf, mae’r llywodraeth wedi cymryd camau pendant tuag at wneud i gynllunio weithio’n well ar gyfer pŵer glân a thwf economaidd. Rydym wedi codi’r gwaharddiad de facto ar ynni gwynt ar y tir yn Lloegr ac wedi ymrwymo i ddiweddaru ein Datganiadau Polisi Cenedlaethol. Rhaid inni fynd ymhellach. Nid yw prosesau’n addas ac nid yw awdurdodau archwilio wedi’u harfogi’n dda i ddelio â’r cynnydd mewn prosiectau pŵer glân newydd a’r seilwaith ehangach rydym yn ei ddisgwyl yn y blynyddoedd i ddod er mwyn cyflawni cenadaethau’r llywodraeth. Mae brys penodol i gyflymu’r broses gynllunio ledled Prydain Fawr ar gyfer seilwaith ynni gan nad oes gennym amser hir i ddechrau adeiladu llawer o brosiectau pŵer glân os ydynt i fod yn weithredol erbyn 2030, yn enwedig rhwydweithiau a datblygiadau gwynt ar y môr.
Mae’r angen brys am newid yn golygu bod yn rhaid i ni ymgymryd â rhaglen ddiwygio eang, gan gwmpasu nid yn unig newidiadau dwfn drwy ddeddfwriaeth sylfaenol yn ystod y Senedd hon, ond hefyd symud ymlaen â diwygiadau gweithredol a rheoleiddiol ar draws y system o fewn y flwyddyn nesaf. Felly, er mwyn galluogi pŵer glân 2030:
- Byddwn yn arfogi sefydliadau ar draws y system gynllunio â’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i helpu i gyflawni Pŵer Glân 2030 a chenadaethau ehangach y llywodraeth, gan gynnwys yr Arolygiaeth Gynllunio, ymgyngoreion statudol, awdurdodau cynllunio lleol, a thimau caniatáu’r llywodraeth. Byddwn yn eu galluogi i addasu a blaenoriaethu eu hadnodd yn well er mwyn iddynt allu archwilio prosiectau sy’n hanfodol i’r genhadaeth yn gyflymach. I ategu’r newidiadau mwy uniongyrchol hyn, byddwn yn diwygio’r gweithlu, yn gwella hyfforddiant, ac yn diwygio pecynnau datblygu gyrfa ar gyfer rhai sefydliadau sy’n ymwneud â’r system gynllunio. Byddwn yn adolygu adnoddau mewn sefydliadau allweddol i benderfynu a ydynt yn addas ar gyfer delio â nifer cynyddol o brosiectau dros y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys yr Arolygiaeth Gynllunio a thimau caniatáu adrannol. Bydd Uned Pŵer Glân 2030 yn helpu cynllunwyr drwy gynnull ymgysylltu cynnar rhwng rhanddeiliaid ar gyfer ceisiadau cymhleth.
- Byddwn yn diweddaru’r Datganiadau Polisi Cenedlaethol ar gyfer Canllawiau ar Bolisi Ynni a Chynllunio yn 2025, ac rydym wedi cadarnhau newidiadau i’n Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol i adlewyrchu anghenion Pŵer Glân 2030, gan wella sicrwydd polisi i ddatblygwyr ac awdurdodau arholi.
- Byddwn yn ymgymryd â rhaglen uchelgeisiol o ddiwygio’r ddeddfwriaeth, gan gynnwys drwy’r Bil Cynllunio a Seilwaith. Gan adeiladu ar y diwygiadau yng nghynllun gweithredu Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol[footnote 45], byddwn yn cyflwyno newidiadau deddfwriaethol i ddiweddaru’r system gynllunio NSIP yn Neddf Cynllunio 2008 yng Nghymru a Lloegr ar gyfer pob prosiect seilwaith. Byddwn hefyd yn diwygio’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer caniatáu seilwaith trydan yn yr Alban, lle ceir datganoli gweithredol ond lle mae deddfwriaeth o dan y Ddeddf Trydan wedi’i chadw yn San Steffan, i ddarparu fframwaith syml ac effeithlon sy’n addas i’r diben. Byddwn yn edrych ar ddiwygio prosesau Adolygiadau Barnwrol yn dilyn argymhellion adolygiad yr Arglwydd Banner.
- Byddwn yn sicrhau bod diogelu natur yn rhan annatod o gyflawni Pŵer Glân 2030, gan gynnwys drwy ddarparu’r Cronfeydd Adferiad Morol ar gyfer Ynni Gwynt ar y Môr, a defnyddio datblygiadau i ariannu adferiad natur lle mae’r ddau wedi’u hatal ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban yn edrych ar Gronfa Adferiad Morol ar wahân ar gyfer prosiectau yn yr Alban.
- Byddwn yn sicrhau bod cymunedau’n elwa’n uniongyrchol o’r seilwaith ynni glân y maent yn ei gynnal drwy adeiladu ar ddulliau presennol ac annog cysondeb mewn manteision cymunedol ar draws technolegau.
- Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi rhoi rhaglenni diwygio cynllunio ar waith sy’n cefnogi’r gwaith o ddarparu pŵer glân. Rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban i gyflymu’r broses ddiwygio ymhellach er mwyn cyflawni ar gyfer 2030.
Yr her
Mae angen i’r prosiectau sydd eu hangen arnom ar gyfer Pŵer Glân 2030 ddechrau adeiladu cyn bo hir. Roedd cyngor gan NESO yn dangos bod digon o brosiectau ar y gweill ar gyfer y rhan fwyaf o dechnolegau, ond byddai cyflawni’r llif arfaethedig yn galw am gyflymu penderfyniadau cynllunio a chaniatáu[footnote 46]. Mae mwy o gyflymder yn y system gynllunio yn hanfodol i gefnogi’r gwaith o ddarparu’r ciw cysylltiadau a chamau gweithredu ehangach sy’n galluogi Pŵer Glân 2030. Er bod amserlenni adeiladu ar gyfer technolegau pŵer glân yn amrywio, mae’n amlwg bod yn rhaid i ni weithredu ar frys i’w cael drwy’r system gynllunio, gan sicrhau canlyniadau cadarnhaol i natur a chymunedau ar yr un pryd.
- Bydd angen i’r rhan fwyaf o brosiectau rhwydwaith trawsyrru a gwynt ar y môr newydd gael pob caniatâd ar gyfer adeiladu erbyn 2026[footnote 47] os ydynt am fod yn weithredol erbyn 2030 gyda’r amserlenni adeiladu presennol
- Fel arfer, mae gan brosiectau ynni adnewyddadwy ar y tir a batris newydd amserlenni adeiladu byrrach, ond mae’n debygol y bydd yn dal angen i brosiectau ar raddfa fawr gael caniatâd erbyn tua 2028[footnote 48]
- Ar gyfer llawer o’r cynhyrchiant cadarn, hyblygrwydd carbon isel a nwy di-dor sydd ei angen arnom i fod yn sail i system bŵer lân, rydym wedi nodi’r llwybrau ar gyfer cyflawni ar gyfer 2030 ac rydym yn gweithio tuag at eu cyflymu, ond mae angen i ni sicrhau bod y prosesau trwyddedu ehangach a barnwrol yn gweithio i adlewyrchu pwysigrwydd hanfodol y prosiectau hyn.
Bydd angen cydlynu yn dynn ein rhaglen diwygio cynllunio ar gyfer seilwaith ynni ar raddfa fwy. Mae cyfundrefnau cynllunio Daearol a Morol naill ai wedi’u datganoli’n llawn neu’n weithredol. Mae’r gwaith o ddarparu seilwaith ynni ym Mhrydain Fawr wedi’i rannu rhwng systemau rhyngweithiol sy’n amrywio rhwng gwledydd, gyda rolau amrywiol ar gyfer llywodraethau canolog, lleol a datganoledig. Mae rhai o’r diwygiadau cynllunio y cyfeirir atynt yn y cynllun hwn yn ymwneud â chaniatáu yn Lloegr (a Chymru ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol mawr) tra bydd eraill yn effeithio ar yr Alban o ystyried bod elfennau o’r ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu rhannau o drefn gynllunio a chaniatáu’r Alban wedi cael eu cadw yn San Steffan. Ar ben hynny, mae amrywiaeth o gamau gweithredu ar waith yng Nghymru a’r Alban hefyd.
Bydd NESO yn cyflawni’r Cynllun Ynni Gofodol Strategol yn 2026 er mwyn gallu cynllunio’r system ynni yn y tymor hir ar gyfer cyflawni Sero Net erbyn 2050. Mae arnom hefyd angen dull cyfannol, hirdymor o reoli’r galw cynyddol am ddefnyddio gwely’r môr. Bydd Llwybr Cyflawni Morol Ystâd y Goron yn gyfle i gynllunio’n gadarnhaol ar gyfer canlyniadau a rennir ar draws gwahanol sectorau gyda set o baramedrau dylunio y cytunwyd arnynt sy’n cymell arferion amgylcheddol gorau drwy gydol cylch bywyd y prosiect. Bydd hyn yn annog cyflwyno ardaloedd datblygu yn y lleoliadau cywir sy’n osgoi’r ardaloedd bioamrywiaeth mwyaf agored i niwed.
Er mwyn i’r pecyn cynllunio a diwygio amgylcheddol allu hwyluso Pŵer Glân 2030, bydd angen gwneud newidiadau sy’n torri ar draws nifer o wahanol feysydd, gan gynnwys nifer o sefydliadau, gan gynnwys datblygwyr, cadwyni cyflenwi a buddsoddwyr. Mae’r gwahanol systemau sydd â gwahanol ofynion a rhwymedigaethau ar draws y dirwedd gynllunio yn gymhleth ac nid oeddent wedi’u cynllunio i gyflawni ar y cyflymder a gyda’r swm sy’n ofynnol erbyn hyn.
Ffigur 10: Siart llif proses gynllunio Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP)
Disgrifiad o Ffigur 10:
Camau’r broses gynllunio:
- Cyn ymgeisio
- Derbyn
- Rhag-archwilio
- Archwilio
- Penderfyniad
- Ar ôl y penderfyniad
Nodiadau: Mae’r siart llif hwn yn nodi’r broses ar gyfer prosiectau ynni NSIP yn unig. Mae prosiectau sy’n cael eu hystyried gan ddefnyddio TCPA yn dilyn proses ychydig yn wahanol.
Ffynhonnell: Arolygiaeth Gynllunio (2024), ‘Canllawiau’r Broses Gwneud Penderfyniadau’
Mae’n cymryd amser hir i Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol gael penderfyniad caniatáu, gyda mwy a mwy o wybodaeth yn cael ei hystyried ar bob cam, gan arwain at oedi a phwysau ar bob parti. Bwriedir i’r cyfnod ar gyfer Gorchmynion Cydsyniad Datblygu fod yn llai na dwy flynedd ond gall fynd ymhell y tu hwnt i hyn, ac mae’r dogfennau sy’n sail i gydsyniadau wedi bod yn cymryd mwy o amser, ac mewn gormod o achosion maent yn ddegau o filoedd o dudalennau erbyn hyn. Mae mwy o ymgyfreitha wedi achosi oedi ac wedi cyflwyno risg a chostau ychwanegol i ddatblygwyr. Disgwylir nifer fawr o brosiectau seilwaith yn ystod y 3 blynedd nesaf[footnote 49], ac mae angen newid er mwyn diwallu’r angen brys a nodir yng nghyngor NESO er mwyn i nifer sylweddol o brosiectau symud ymlaen i’r cam adeiladu yn ystod y 6-24 mis nesaf.
Ar gyfer seilwaith ynni sydd â chaniatâd lleol, mae angen diwygio pendant hefyd ar frys i ddarparu pŵer glân erbyn 2030. Yn Lloegr, gall ceisiadau cynllunio gydag awdurdodau lleol o dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref gymryd hyd at 12 mis i gael penderfyniad[footnote 50], er gwaethaf cyfyngiad o bedwar mis ar brosiectau seilwaith ynni sydd angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol. Ar hyn o bryd, nid yw’r Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol (NPFF) yn nodi’n glir y dylai awdurdodau cynllunio lleol ystyried y manteision sy’n gysylltiedig â chynhyrchu ynni adnewyddadwy, a chyfraniad cynigion at ddiwallu dyfodol sero net wrth benderfynu ar geisiadau ar gyfer y datblygiadau hyn. Mae’r Canllaw Ymarfer Cynllunio ar gyfer ynni adnewyddadwy, sy’n ychwanegu rhagor o fanylion at y polisi sydd yn y Fframwaith Polisi Cenedlaethol, yn cynnwys canllawiau hen ffasiwn y mae angen eu diweddaru i adlewyrchu polisïau newydd.
Mae heriau hefyd yn y broses gynllunio ar gyfer seilwaith trydan carbon isel yn yr Alban, sy’n wahanol i’r systemau yng Nghymru a Lloegr. Mae’r heriau hyn yn arwain at oedi o ran buddsoddi mewn seilwaith hanfodol ac maent yn gostus i ddefnyddwyr. Mae’r Llywodraeth wedi cynnal ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer diwygio’r prosesau cydsynio yn yr Alban o dan Ddeddf Trydan 1989 ac, ar y cyd â Llywodraeth yr Alban, bydd yn hanfodol rhoi canlyniadau’r broses ymgynghori ar waith yn brydlon.
Mae angen i ni gyflymu’r gwaith o drawsnewid y system, gan adeiladu ar y gwaith sydd wedi’i nodi yn y Cynllun Gweithredu NSIP. Ym mis Chwefror 2023, cyhoeddodd y llywodraeth ar y pryd y Cynllun Gweithredu NSIP a oedd yn amlinellu pum maes diwygio allweddol i helpu i wneud y system gynllunio NSIP yn well, yn gyflymach, yn wyrddach, yn decach ac yn fwy cydnerth. Yn dilyn hyn, cafodd newidiadau i’r system NSIP eu rhoi ar waith yng ngwanwyn 2024 drwy gyflwyno diwygiadau deddfwriaethol i ddeddfwriaeth cynllunio seilwaith allweddol a chanllawiau cynllunio seilwaith newydd. Rydym yn cydnabod nad yw diwygiadau blaenorol i’r system wedi cael eu rhoi ar waith yn llawn eto a byddant yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, fel dynodi prosiectau seilwaith ynni carbon isel o arwyddocâd cenedlaethol fel ‘Blaenoriaethau Cenedlaethol Critigol’ drwy’r Datganiadau Polisi Cenedlaethol ar Ynni. Fodd bynnag, nid yw’r diwygiadau presennol yn cyd-fynd â’n huchelgais ar gyfer Pŵer Glân 2030, ac felly mae’n rhaid i ni fynd ymhellach – gan ddefnyddio’r holl arfau sydd ar gael i ni.
Bydd angen cydlynu yn dynn ein rhaglen diwygio cynllunio ar gyfer seilwaith ynni ar. Mae’r gwaith o ddarparu seilwaith ynni ym Mhrydain Fawr wedi’i rannu rhwng systemau rhyngweithiol sy’n amrywio rhwng gwledydd, gyda rolau amrywiol ar gyfer llywodraethau canolog, lleol a datganoledig. Er mwyn i’r pecyn cynllunio a diwygio amgylcheddol allu hwyluso Pŵer Glân 2030, bydd angen gwneud newidiadau sy’n torri ar draws nifer o wahanol feysydd, gan gynnwys nifer o sefydliadau, gan gynnwys datblygwyr, cadwyni cyflenwi a buddsoddwyr. Mae’r gwahanol systemau sydd â gwahanol ofynion a rhwymedigaethau ar draws y dirwedd gynllunio yn gymhleth ac nid oeddent wedi’u cynllunio i gyflawni ar y cyflymder a gyda’r swm sy’n ofynnol erbyn hyn.
Gweithredu
Byddwn yn arfogi awdurdodau archwilio â’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i helpu i gyflawni Pŵer Glân 2030 a chenhadaeth ehangach y llywodraeth
Gallwn ddad-rwystro tagfeydd drwy wella adnoddau, yn enwedig prinder arbenigeddau hanfodol, sy’n aml yn cael eu nodi fel prif achos rhesymau ymgyngoreion statudol dros ymestyn terfynau amser ceisiadau cynllunio[footnote 51]. Yn 2023-24, roedd dros 60% o’r oedi cyn ymateb i geisiadau cynllunio gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn ganlyniad i gyfyngiadau adnoddau[footnote 52], ac mae Natural England wedi dweud yr un fath am fwy na 80% o’r achlysuron y mae angen iddynt ymestyn y terfyn amser ar gyfer cais cynllunio[footnote 53]. Mae ymgynghorai statudol arall, Historic England, wedi gweld gostyngiad o 39% yn y gwariant ar wasanaethau treftadaeth mewn Awdurdodau Cynllunio Lleol mewn polisi cynllunio ers 2009/10[footnote 54], gan effeithio ar gyflawni datblygiadau. Mae diwygio’r system gynllunio yn cynnwys yr angen i ddefnyddio sgiliau ac adnoddau allweddol yn well ar draws amrywiaeth o gyrff, y gellir eu rheoli drwy ymyriadau wedi’u targedu a symleiddio’r system. Rydym yn disgwyl cynnydd mewn ceisiadau cynllunio o ganlyniad i darged Pŵer Glân 2030, fydd yn creu heriau ychwanegol i’r rhai y mae’r system gynllunio eisoes yn eu hwynebu. I reoli’r cynnydd hwn:
- Byddwn yn ehangu mecanweithiau adennill costau ar draws cyfundrefnau perthnasol i sicrhau bod gan bob sefydliad sy’n allweddol i gydsynio fodelau adnoddau cynaliadwy sy’n gallu cyfateb y galw gan brosiectau yn y system i’r dyfodol, i helpu i gyflawni Pŵer Glân 2030 a thu hwnt.
- Byddwn yn parhau i wella’r gefnogaeth y mae’r Arolygiaeth Gynllunio ac ymgyngoreion statudol yn ei rhoi i ddatblygwyr drwy’r broses gynllunio, yn enwedig yn ystod y cam cyn ymgeisio.
- Byddwn yn adolygu adnoddau mewn sefydliadau allweddol i benderfynu a ydynt yn addas ar gyfer delio â nifer cynyddol o brosiectau dros y blynyddoedd nesaf. Er mwyn sicrhau bod adnoddau’n cael yr effaith fwyaf, byddwn yn sbarduno effeithlonrwydd gweithredol mewn ymgyngoreion statudol, er mwyn cyflymu amserlenni ymgynghori ac archwilio. Ochr yn ochr ag adolygiad o adnoddau, byddwn yn sefydlu safonau perfformiad newydd ar gyfer pob sefydliad yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys timau llywodraeth ganolog, yr Arolygiaeth Gynllunio, ymgynghorwyr statudol ac awdurdodau cynllunio lleol; yn ogystal â gwella canllawiau a chefnogaeth i’r sector preifat.
- Rydym yn bwriadu diwygio adnoddau cynllunio ar gyfer y tymor hwy, gan gynnwys cefnogi strategaethau presennol fel gweithio gyda phrifysgolion a darparwyr sgiliau i gynyddu’r cymeriant o gynllunwyr sydd eu hangen ar gyfer yr holl waith adeilad seilwaith. Ar ben hynny, byddwn yn edrych ar opsiynau ar gyfer denu a chadw arbenigwyr allweddol, fel drwy adolygu gofynion mynediad ar gyfer rolau o’r fath.
- Byddwn yn rhoi hwb i gapasiti cynllunio lleol gan gynnwys rhaglenni cymorth ehangach, gan weithio gyda phartneriaid ar draws y sector cynllunio i sicrhau bod gan awdurdodau cynllunio lleol y sgiliau sydd eu hangen arnynt nawr ac yn y dyfodol. Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi pecyn buddsoddi gwerth £46 miliwn yn y system gynllunio i gefnogi capasiti a gallu, gan gynnwys recriwtio a hyfforddi cynllunwyr graddedig a phrentisiaid i gefnogi’r system gynllunio yn ei chyfanrwydd.
- Byddwn yn ystyried gwella’r safonau ansawdd y mae’n rhaid i geisiadau am Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol eu cyrraedd er mwyn i’w ceisiadau gael eu derbyn i’r gyfundrefn a chyhoeddi arferion gorau i helpu i atal adnoddau rhag cael eu defnyddio’n ddiangen wrth fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â cheisiadau o ansawdd isel neu geisiadau anghyflawn. Dylai’r prosiectau a gyflwynir i’r Arolygiaeth Gynllunio fod o ansawdd uchel, gan ddilyn arferion gorau a chanllawiau. Drwy ymgysylltu’n gynnar ac yn adeiladol ag ymgyngoreion statudol, a darparu gwybodaeth a thystiolaeth yn amserol, bydd datblygwyr yn gallu bodloni’r safonau uchel a ddisgwylir yn well.
- Bydd Uned Pŵer Glân 2030 yn cynnull grwpiau natur, cymunedau a diwydiant ar brosiectau cymhleth, er mwyn annog a hwyluso safon uchel ar gyfer prosiectau, a rhoi prawf straen arnynt cyn gwneud cais, i nodi unrhyw broblemau gyda mewnbwn o bob rhan o’r system gynllunio. Gallai hyn alluogi proses cyn ymgeisio gyflym a helpu i ysgafnhau’r baich ar system sy’n gweithio ar gapasiti.
Byddwn yn diweddaru ein cyfryngau polisi cenedlaethol i adlewyrchu anghenion Pŵer Glân 2030
Yn gyffredinol, lle mae polisi, deddfwriaeth a chanllawiau yn gadael lle i amau, gall archwilwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau fabwysiadu dull mwy gofalus o gydsynio, ac ni fydd gan ddatblygwyr eglurder ynghylch yr hyn sy’n ofynnol er mwyn i’w cais lwyddo. Mae hyn yn arwain at amser a phroses ychwanegol, ac yn arwain at oedi, a gall agor y drws i fwy o heriau cyfreithiol ar ôl gwneud penderfyniad. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, ar gyfer polisi NSIP:
- Byddwn yn diweddaru Datganiadau Polisi Cenedlaethol ar ynni yn Lloegr. Cyhoeddodd y Canghellor adolygiad 12 mis o Ddatganiadau Polisi Cenedlaethol (NPSs) ym mis Gorffennaf 2024. Byddwn yn diweddaru ein Datganiadau Polisi Cenedlaethol er mwyn i’r Arolygiaeth Gynllunio a sefydliadau eraill sy’n ymwneud ag archwilio prosiectau gael yr eglurder sydd ei angen arnynt i ddarparu cyngor cadarn ar seilwaith sy’n hanfodol i gyflawni Pŵer Glân 2030;
- Rydym yn bwriadu mynd â phwerau drwy ddeddfwriaeth sylfaenol i sicrhau bod Datganiadau Polisi Cenedlaethol yn cael eu diweddaru bob pum mlynedd drwy broses gyflymach a haws, gan roi mwy o sicrwydd i ddatblygwyr a chymunedau.
- Rydyn ni’n ailgyflwyno ynni gwynt ar y tir i’r gyfundrefn NSIP ar drothwy newydd o 100 MW ac rydyn ni’n newid y trothwy presennol ar gyfer solar i 100 MW. Bydd hyn yn sicrhau bod y system gynllunio’n effeithlon gyda llwybrau priodol ar gael sy’n gymesur â maint, effaith a chymhlethdod y prosiect.
Ar gyfer polisi cynllunio lleol yn Lloegr:
- Rydym wedi dod â’r gwaharddiad de facto ar ddatblygu ynni gwynt ar y tir i ben, ac rydym bellach wedi cyhoeddi ein hymateb i’r ymgynghoriad sy’n cadarnhau newidiadau i’r Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol (NPPF);
- Byddwn yn diweddaru’r Canllawiau Ymarfer Cynllunio yn 2025 i roi eglurder ynghylch defnyddio polisi cynllunio ar gyfer datblygiadau adnewyddadwy a charbon isel i gefnogi’r diweddariadau i’r Fframwaith Polisi Cenedlaethol yn ymarferol. Bydd hyn yn helpu cynghorau lleol i ddatblygu polisïau ar gyfer ynni adnewyddadwy a charbon isel ac yn nodi’r ystyriaethau cynllunio sy’n gysylltiedig â chynnig i ddatblygu.
Byddwn yn diwygio’r ddeddfwriaeth
Rhaid i ni ddiwygio’r system gynllunio, fel ei bod yn gweithio’n well ar gyfer prosiectau ynni a seilwaith ehangach ar gyfer y tymor hir y tu hwnt i 2030 hefyd. Bydd angen i ni barhau i ddarparu seilwaith pŵer glân newydd yn gyflym ar ôl 2030 er mwyn dal i fyny â’r galw cynyddol am drydan. Mae’r Llywodraeth yn cydnabod yr angen i gynllunio ei hanghenion seilwaith hirdymor yn fwy strategol ac mae angen i’r system gynllunio fod yn ymatebol i hyn.
- • Byddwn yn cyflwyno Bil Cynllunio a Seilwaith gyda mesurau i symleiddio’r gwaith o ddarparu seilwaith hanfodol yn y broses gynllunio.
Bydd y Bil yn cyflwyno mesurau newydd i flaenoriaethu a symleiddio’r broses gyflenwi ar gyfer seilwaith hanfodol drwy’r broses gynllunio, gan gynnwys cyflymu’r gwaith o uwchraddio’r grid trydan a hybu ynni adnewyddadwy a fydd o fudd i gymunedau lleol. Bydd y newidiadau arfaethedig hyn yn ein symud oddi wrth sefyllfa lle mae seilwaith hanfodol newydd yn cael ei oedi’n ddiangen, gan sicrhau ei fod yn gynaliadwy, yn gyfrifol ac yn cynnal safonau amgylcheddol a natur uchel.
Gan nad yw ein deddfwriaeth sylfaenol arfaethedig yn ateb cyflym, a bydd yn rhy hwyr i rai prosiectau sy’n hanfodol ar gyfer Pŵer Glân 2030:
- Byddwn yn adolygu deddfwriaeth eilaidd a gofynion cyfreithiol eraill (fel trwyddedau) ynghylch y broses gynllunio ar gyfer seilwaith ynni i sefydlu newidiadau perthnasol i gyflymu’r gwaith o gyflawni prosiectau ar gyfer Pŵer Glân 2030.
Gall heriau cyfreithiol i Orchmynion Cydsyniad Datblygu arwain at oedi sylweddol o ran cyflawni Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr. Mae adolygiad barnwrol yn fecanwaith cyfansoddiadol bwysig sy’n caniatáu i unigolyn neu sefydliad herio cyfreithlondeb penderfyniad DCO yn y llys. Fodd bynnag, mae achos dros adolygu’r broses i nodi ffyrdd o’i symleiddio er mwyn sicrhau nad yw’n arafu datblygiad seilwaith hanfodol yn ormodol. Mae’r rhan fwyaf o’r heriau cyfreithiol yn erbyn penderfyniadau DCO yn aflwyddiannus, ond gall gymryd blynyddoedd lawer i’r llysoedd ddod i’r penderfyniad, a gwrando apeliadau pellach mewn llysoedd uwch, gan arwain at ansicrwydd ac oedi. Gall oedi i seilwaith newydd gynyddu costau i ddefnyddwyr pan fo angen taliadau cyfyngu i weithredwyr.
- Byddwn yn edrych ar ddiwygio’r broses adolygiad barnwrol ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yn dilyn adroddiad annibynnol diweddar yr Arglwydd Banner. Rydym wedi cyhoeddi cais am dystiolaeth ar ddiwygio adolygiadau barnwrol yn dilyn yr adroddiad hwn a fydd yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn hon. Mae’r cais am dystiolaeth yn gofyn am sylwadau ar argymhellion yr Arglwydd Banner ac yn gwahodd awgrymiadau ar opsiynau eraill ar gyfer diwygio i leihau oedi gyda phrosiectau seilwaith yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn bwriadu deddfu cyn gynted ag y bo modd ar gyfer unrhyw newidiadau a ddymunir sy’n gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol yn dilyn y cais am dystiolaeth. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys newid y rheolau fel mai dim ond un ymgais sydd gan hawlwyr ym mhob achos i geisio caniatâd ar gyfer adolygiad barnwrol. Bydd unrhyw newidiadau y byddwn yn penderfynu eu gwneud yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng lleihau oedi i brosiectau seilwaith a chynnal mynediad at gyfiawnder yn unol â’n rhwymedigaethau cyfreithiol domestig a rhyngwladol. Yn yr Alban, roedd yr ymgynghoriad diweddar ar ddiwygiadau i ganiatáu seilwaith trydan yn gofyn am safbwyntiau ar greu system unedig a symlach ar gyfer herio penderfyniadau Gweinidogion yr Alban, a wnaed o dan Ddeddf Trydan 1989, drwy’r llysoedd.
Byddwn yn sicrhau bod diogelu natur yn cael ei wreiddio yn y gwaith o gyflawni Pŵer Glân 2030
Mae ein system gynllunio bresennol yn seiliedig ar egwyddorion sylfaenol cadarn. Datblygwyd ein fframweithiau polisi a chyfreithiol yn wreiddiol i sicrhau bod seilwaith newydd hanfodol a datblygiadau eraill yn cael eu darparu’n brydlon, gan sicrhau bod cymunedau sy’n lletya seilwaith yn cael eu trin yn deg a bod y byd naturiol yn cael ei ddiogelu.
Gwyddom nad yw’r sefyllfa bresennol yn gweithio o ran cyflawni’r natur a’r seilwaith sydd eu hangen arnom. Mae cyflwr gwael ein hamgylchedd naturiol yn golygu nad oes digon o hyblygrwydd amgylcheddol yn aml i ganiatáu i ddatblygiadau gael eu cyflwyno heb ymyrraeth gostus sylweddol. Gall ymgeiswyr ei chael yn anodd llywio neu fodloni gofynion ac amodau amgylcheddol mewn perthynas â chynefinoedd, rhywogaethau ac ardaloedd gwarchodedig. Gall diffyg eglurder i’r diwydiant gan y llywodraeth ac ymgyngoreion statudol, archwaeth risg isel gan ddatblygwyr, ac ar adegau amharodrwydd gan ddatblygwyr i ymgysylltu â gofynion amgylcheddol neu gyflawni ceisiadau o ansawdd, arafu’r gwaith o ddarparu seilwaith ynni y mae ei angen yn fawr.
Gall hyn oll arwain at drafodaethau hir fesul achos ynghylch mesurau lliniaru a chydbwyso gydag ymgyngoreion statudol, ac estyniadau i derfynau amser penderfyniadau. Ar ôl rhoi cydsyniad, rhaid i ddatblygwyr yn aml fodloni ‘amodau ôl-gydsyniad’ lle na all y gwaith adeiladu ddechrau nes bydd yr amodau wedi’u bodloni. Er mwyn gwreiddio gwarchod natur mewn datblygiadau ynni, bydd y camau gweithredu’n cynnwys:
- Rydym yn ystyried sut i ddefnyddio datblygiad i ariannu adferiad natur gan ddatgloi canlyniad lle mae pawb ar ei ennill o ran yr economi a byd natur – fel y nodwyd yn Araith y Brenin, rydym yn gweithio gyda sefydliadau darparu byd natur, rhanddeiliaid a’r sector i ystyried sut gallwn gefnogi’r gwaith o ddarparu tai a seilwaith yn well, gan sicrhau canlyniadau amgylcheddol gwell ar yr un pryd;
- Byddwn yn cymryd camau i leihau’r pwysau ar safleoedd gwarchodedig, gan gynnwys drwy ehangu’r Strategaethau Safleoedd Gwarchodedig mewn ardaloedd blaenoriaeth yn Lloegr. Mae safleoedd gwarchodedig yn wynebu pwysau amrywiol sy’n eu hatal rhag adfer. Mae hyn yn arwain at gyfyngiadau datblygu pan fydd safleoedd mewn cyflwr anffafriol, hyd yn oed os yw datblygiad newydd yn gyfrannwr bach at y broblem gyffredinol. Bydd lleihau’r pwysau ar safleoedd gwarchodedig yn helpu i leddfu rhai o’r cyfyngiadau y mae datblygiadau ynni yn eu hwynebu wrth fynd i’r afael ag effeithiau amgylcheddol eu prosiectau;
- Byddwn yn cyhoeddi ein trywydd i gyflwyno Adroddiadau Canlyniadau Amgylcheddol mewn ymgynghoriad â llywodraeth ddatganoledig, a bydd cyflwyno dull gweithredu sy’n seiliedig ar ganlyniadau yn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen ar ddatblygwyr i ymgorffori ystyriaethau amgylcheddol yng nghamau cynharaf y prosiect. Bydd hyn yn caniatáu i randdeiliaid ganolbwyntio ar ddarparu ar gyfer yr amgylchedd yn hytrach na gwarchod rhag y risg o her gyfreithiol a fydd yn lleihau costau ac oedi yn sgil gwaith diangen. Bydd y trywydd yn cynnwys ein dull gweithredu er mwyn sicrhau pontio didrafferth i randdeiliaid;
- Byddwn yn sefydlu Cronfeydd Adfer Morol sy’n cael eu hariannu gan y diwydiant er mwyn i ymgeiswyr allu talu i mewn iddynt i gyflawni eu rhwymedigaethau digolledu, wedi’u hategu gan lyfrgelloedd o fesurau digolledu strategol cymeradwy. Mae llywodraeth y DU yn ymgysylltu â Llywodraeth yr Alban gyda’r bwriad o gytuno ar sefydlu a dirprwyo swyddogaethau priodol i weithredu a rheoli Cronfa Adfer Morol ar wahân ar gyfer prosiectau yn yr Alban. Bydd y Pecyn Gwella Amgylcheddol Gwynt ar y Môr (OWEIP) yn ei gyfanrwydd yn cyflymu ac yn lleihau risg cydsyniad prosiectau gwynt ar y môr ar yr un pryd â pharhau i ddiogelu’r amgylchedd morol;
- Byddwn yn ystyried opsiynau ar gyfer cysoni’r data amgylcheddol ar gyfer gwynt ar y môr a’r modelu a ddefnyddir i asesu effeithiau prosiectau gwynt ar y môr ar rywogaethau a chynefinoedd er mwyn darparu cysondeb mewn asesiadau. Gellid datblygu methodolegau a mewnbynnau safonol i fodelau a safonau data sy’n caniatáu i ddatblygwyr gael mynediad at ddata cyhoeddus cydlynol wedi’i gysoni, gan leihau anghytundebau rhwng datblygwyr a Chyrff Cadwraeth Natur Statudol (SNCBs), a helpu i gwtogi’r amserlenni cyn ymgeisio ar gyfer pob prosiect yn y dyfodol;
- Byddwn yn ymgynghori ar ddiwygiadau i’r drefn trwyddedu amgylcheddol er mwyn galluogi Pŵer Glân 2030 yn well, a sicrhau bod gan reoleiddwyr amgylcheddol y pwerau a’r dystiolaeth i ddatblygu’n brydlon y safonau llygredd sy’n ofynnol ar gyfer caniatáu technolegau pŵer glân sy’n dod i’r amlwg;
- Byddwn yn edrych ar ddulliau strategol o reoli pwysau amgylcheddol o amgylch clystyrau diwydiannol sy’n ymgysylltu’n effeithiol â’r systemau cynllunio a chaniatáu. Bydd hyn yn helpu i alluogi datgarboneiddio clwstwr o fewn cyfyngiadau amgylcheddol ac yn mynd i’r afael â materion sy’n dod i’r amlwg cyn i brosiectau ddod i mewn i’r system gynllunio;
- Byddwn yn lansio ymarfer ymgysylltu ddechrau 2025 i wahodd rhanddeiliaid i gyflwyno eu syniadau ynghylch y ffordd orau i lywodraeth annog arferion gorau cadarnhaol o ran natur i mewn i gynllunio a datblygu seilwaith ynni. Bydd adborth o’r ymarfer hwn yn galluogi’r llywodraeth i ddeall yn well sut gallwn integreiddio adfer natur o fewn Pŵer Glân 2030.
Bydd ein rhaglen ddiwygio i ddarparu seilwaith pŵer glân yn cadw natur wrth ei chalon. Er ein bod am gyflymu’r gwaith o ddarparu seilwaith, mae’n rhaid i ddatblygwyr prosiectau fod yn glir bod y llywodraeth yn disgwyl iddynt barhau i gyflawni ar gyfer cymunedau a natur. Nid ydym yn ysgrifennu siec wag ar gyfer ceisiadau o ansawdd isel sy’n methu ag ystyried y canlyniadau hyn.
Byddwn yn gweithio i sicrhau bod cymunedau’n elwa o gynnal seilwaith ynni glân newydd
Er mwyn gwireddu ein huchelgais o fod yn archbŵer ynni glân, bydd rhai cymunedau’n gweld cynnydd yn faint o seilwaith ynni newydd sy’n cael ei adeiladu yn eu hardal. Rhaid i ni sicrhau ein bod yn dod â phob cymuned gyda ni ar y daith hon tuag at Bŵer Glân 2030. Mae cynnal cefnogaeth y cyhoedd yn hanfodol i gyflawni uchelgeisiau ynni glân ym Mhrydain Fawr, a dylai’r rheini y gofynnir iddynt gynnal seilwaith ynni deimlo budd amlwg o’r rôl y mae eu hardaloedd yn ei chwarae wrth adeiladu system drydan cost isel[footnote 55]. Mae manteision cymunedol eisoes yn cael eu darparu’n wirfoddol mewn rhai sectorau ledled Prydain Fawr (e.e. ynni solar a gwynt ar y tir), ond nid yw hyn yn gyson ar draws sectorau a lleoliadau. Mae’r Llywodraeth am sicrhau bod pob cymuned sy’n lletya seilwaith yn cael buddion o ansawdd uchel mewn ffordd gyson.
Byddwn yn sicrhau bod cymunedau’n elwa’n uniongyrchol o’r seilwaith ynni glân maen nhw’n ei gynnal, ac yn parhau i archwilio sut mae gwneud hynny. Bydd hyn yn adeiladu ar y dulliau gweithredu presennol mewn perthynas â buddion cymunedol yn y sector gwynt ar y tir, y mae’r llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi canllawiau wedi’u diweddaru arno ar gyfer Lloegr maes o law, a’r gwaith y mae Ynni Solar y DU wedi bod yn ei wneud i ddatblygu canllawiau sy’n cael eu harwain gan y diwydiant ar gyfer prosiectau ynni solar. Yn y cyfamser, mae’r llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi canllawiau newydd ar gronfeydd cymunedol gwirfoddol fel bod cymunedau’n elwa mewn ffordd decach, fwy uchelgeisiol a chyson o seilwaith trawsyrru trydan newydd ar y tir.
Diwygio cynllunio yn yr Alban
Mae’r Alban yn cymryd camau pellach i wella adnoddau’r system gynllunio. Mae ymgynghoriad Llywodraeth yr Alban ar Fuddsoddi mewn Cynllunio yn nodi cynigion sydd â’r nod o gynyddu capasiti’r system gynllunio yn yr Alban – mae Llywodraeth yr Alban yn awr yn bwrw ymlaen ag amrywiaeth o gamau gweithredu yn dilyn yr ymgynghoriad, a oedd yn nodi ystod o gynigion gyda’r nod o gynyddu capasiti’r system gynllunio yn yr Alban. Yn dilyn yr ymgynghoriad, rydym nawr yn bwrw ymlaen ag amrywiaeth o gamau gweithredu.
Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban o’r farn nad yw’r drefn gydsynio ar gyfer seilwaith trydan ar raddfa fwy yn yr Alban yn addas i’r diben. Mae oedi’n cael ei achosi gan nodweddion aneffeithlon a hen ffasiwn y fframwaith deddfwriaethol presennol. Mae Llywodraeth y DU, gyda chefnogaeth Llywodraeth yr Alban, yn cytuno mai’r llwybr mwyaf pragmatig i gyflymu’r broses o gyflwyno seilwaith trydan carbon isel yw diwygio’r fframwaith deddfwriaethol presennol. I fynd i’r afael â hyn:
Byddwn yn ceisio pwerau i ddiwygio’r fframwaith deddfwriaethol presennol ar gyfer cydsynio seilwaith trydan yn yr Alban, gyda newidiadau’n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth yr Alban. Er enghraifft, gellid diwygio Deddf Trydan 1989 i foderneiddio a chael gwared ar aneffeithlonrwydd, gan roi cyfleoedd ystyrlon i gymunedau ac ymgyngoreion statudol ddylanwadu ar geisiadau am gydsyniadau.
Mae Llywodraethau’r DU a’r Alban wedi gweithio’n agos gyda’i gilydd ar ddiwygiadau i gydsynio seilwaith trydan yn yr Alban y cyfeirir atynt uchod. Roedd yr ymgynghoriad diweddar wedi casglu tystiolaeth ar becyn o gynigion a fyddai’n helpu i symleiddio’r system hen ffasiwn bresennol yn yr Alban, a fydd yn annog buddsoddiad a chyflymu tuag at ein huchelgeisiau 2030.
Ar ben hynny, gan roi sylw penodol i gydsyniad ar gyfer seilwaith trydan ar y môr, mae Llywodraeth yr Alban wedi bod yn ymgysylltu’n weithredol â Llywodraeth y DU i ddatblygu a gweithredu’r diwygiadau sy’n cael eu cyflawni drwy’r Pecyn Gwella Amgylcheddol Gwynt ar y Môr o dan Ddeddf Ynni 2023, a fydd yn galluogi rheoleiddio effeithiau amgylcheddol niweidiol sy’n deillio o ddatblygiadau gwynt ar y môr yn yr Alban yn fwy effeithlon. Mae Llywodraeth yr Alban hefyd yn parhau i fynd ar drywydd dull gwella parhaus ar gyfer prosesau cydsynio’r Alban drwy ei Huned Symleiddio Cydsynio, gan roi gweithdrefnau symlach ar waith lle bo hynny’n fuddiol.
Diwygio cynllunio yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau’n ddiweddar i gyflymu ei phenderfyniadau cynllunio seilwaith. Mae camau gweithredu ar unwaith wedi cynnwys galluogi Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) i wneud penderfyniadau ar brosiectau ynni hyd at 50 MW, a blaenoriaethu ceisiadau ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol sydd â’r buddion cyhoeddus mwyaf.
Yn y tymor hwy, mae Deddf Seilwaith (Cymru) yn nodi’r broses gydsynio newydd ar gyfer prosiectau seilwaith sylweddol yng Nghymru ar dir ac yn y môr tiriogaethol[footnote 56]. Mae hyn yn disodli nifer o brosesau cydsynio presennol gydag un broses. Bydd yn rhoi hyder a sicrwydd yn y broses o wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar bolisi clir sy’n taro’r cydbwysedd cywir rhwng yr angen am brosiectau seilwaith i helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ar yr un pryd â pharchu ein hamgylchedd naturiol.
Maent wedi cynhyrchu papur ymgynghori ar ddatblygu gwasanaeth cynllunio cadarn sy’n perfformio’n dda, gan gynnwys cynigion ar gyfer cyllid, monitro perfformiad, a chynyddu sgiliau a gwytnwch staffio[footnote 57].
Rhwydweithiau Trydan a chysylltiadau
Crynodeb
Mae angen cryfhau ein seilwaith grid. Gall methu â gwneud hynny greu oedi hir mewn perthynas â’n diogelwch ynni, ein twf economaidd a’n seilwaith pwysig arall. Ar draws sawl agwedd ar fywyd, mae pobl yn gweld y seilwaith grid fel rhwystr enfawr i’w cynlluniau.
Mewn gwirionedd, rhaid i rwydwaith trydan Prydain Fawr gael ei ehangu mewn ffordd na welwyd ei debyg o’r blaen, wrth i’r economi drydaneiddio, i gyflawni datgarboneiddio, fforddiadwyedd ynni a diogelwch ynni, a chefnogi twf economaidd. Er mwyn cysylltu cynhyrchiant newydd a diwallu’r galw yn y dyfodol, bydd angen tua dwywaith cymaint o seilwaith rhwydwaith trawsyrru newydd ym Mhrydain Fawr erbyn 2030 ag sydd wedi cael ei ddarparu yn ystod y degawd diwethaf[footnote 58]. Yn ogystal â chamau gweithredu trawsbynciol perthnasol ar gynllunio, cadwyni cyflenwi a sgiliau, byddwn yn cymryd camau i ddarparu’r rhwydwaith sydd ei angen arnom ar yr adeg iawn:
Diwygio’r broses cysylltiadau yn sylfaenol, gan weithio gyda NESO, Ofgem, TOs a DNOs i flaenoriaethu prosiectau hyfyw sy’n cyd-fynd â Chynllun Gweithredu Pŵer Glân 2030. Heb y diwygiadau hollbwysig hyn, ni fydd y ciw yn cyd-fynd â’n hanghenion strategol a bydd y prosiectau sydd eu hangen arnom yn cael eu gohirio.
Diwygio rheoleiddio i sicrhau bod targed Pŵer Glân 2030 yn cael ei integreiddio’n well wrth wneud penderfyniadau cynllunio a buddsoddi, gan alluogi buddsoddiad mewn rhwydweithiau cyn yr angen. Mae hyn yn cynnwys gweithio gydag Ofgem i archwilio priodoldeb tynhau’r cymhellion a’r cosbau i gyflymu’r gwaith o ddarparu rhwydwaith ehangach.
Gwella’r broses o gynllunio a chydsynio rhwydweithiau i ddarparu’r ysgogiadau i gyflymu’r gwaith ehangu ac uwchraddio sydd ei angen ar draws ein rhwydwaith trawsyrru a dosbarthu i sicrhau bod seilwaith ynni yn gallu cefnogi’r gwaith o gyflawni targed 2030.
Ymgysylltu â chymunedau i’w galluogi i elwa o fyw wrth ymyl seilwaith rhwydwaith trawsyrru newydd.
Yr her
Mae angen gweithredu ar frys i sicrhau bod y grid sydd ei angen arnom yn ei le ar gyfer cysylltu cynhyrchiant carbon isel a thrydaneiddio sectorau fel trafnidiaeth, gwresogi a diwydiant. Rhaid cyflymu’r gwaith o adeiladu’r rhwydwaith i fynd i’r afael â chostau cyfyngu blynyddol, y rhagwelir y byddant yn cynyddu, heb weithredu, o’r lefel sydd eisoes yn uchel o tua £2 biliwn y flwyddyn yn 2022[footnote 59] i tua £8 biliwn y flwyddyn[footnote 60] (neu £80 yr aelwyd y flwyddyn) ddiwedd 2020au[footnote 61], mewn senario lle mae oedi i adeiladu rhwydweithiau yn parhau. Ni ellir caniatáu i hyn ddigwydd.
Mae cyfyngiadau rhwydwaith yn digwydd pan nad yw’r system drydan yn gallu trosglwyddo pŵer i ddefnyddwyr trydan oherwydd bod capasiti mwyaf y gylched yn cael ei gyrraedd. Mae costau cyfyngu’n codi pan fydd yn rhaid i NESO reoli’r broblem hon drwy dalu i gynhyrchwyr i leihau (troi i lawr) eu hallbwn trydan mewn ardaloedd prysur ac i roi ymlaen (troi i fyny) mewn lleoliadau sy’n nes at ddefnyddwyr trydan.
Mae angen gwaith i leihau’n sylweddol yr amser cyflawni o un pen i’r llall ar gyfer seilwaith trawsyrru newydd. Yn yr Adroddiad 2023[footnote 62] annibynnol gan Nick Winser (Comisiynydd Ymgynghorol Cenhadaeth Ynni Glân 2030), cyflwynodd argymhellion i haneru amserlenni o 14 i 7 mlynedd, gan ddechrau gyda chynllunio strategol gofodol ar gyfer prosiectau ynni a fyddai’n caniatáu i’r rhwydwaith gael ei gynllunio’n gyfannol cyn yr angen. Roedd Winser yn glir bod angen ymyriadau uchelgeisiol ar draws pob cam o’r broses gyflawni ac mae’r llywodraeth yn gweithio gyda phartneriaid cyflawni i sbarduno’r newid angenrheidiol, gan gynnwys Ofgem, NESO a’r cwmnïau rhwydwaith, sy’n chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ddarparu seilwaith newydd ar lawr gwlad.
Er mwyn darparu system bŵer wedi’i datgarboneiddio erbyn 2030, bydd angen i ni adeiladu ar argymhellion Winser, gan fynd ymhellach ac yn gyflymach lle bo angen, i sicrhau bod y rhwydwaith sydd ei angen arnom ar waith mewn pryd. Mae cyngor Pŵer Glân 2030 NESO[footnote 63] yn cadarnhau bod pob un o’r 80 prosiect trosglwyddo a nodwyd ganddynt fel rhai y mae eu hangen i gyflawni pŵer glân erbyn 2030, gan gynnwys uwchraddio seilwaith presennol a llinellau trawsyrru newydd, eisoes yn rhan o gynlluniau rhwydwaith strategol presennol[footnote 64]. O’r rhain, mae tri gyda dyddiadau cyflawni ar ôl 2030, ac rydym yn gwybod bod angen cyflymu’r rhain. Mae cyflawni’r rhestr lawn o brosiectau yn unol ag amserlen mor fyr yn her na welwyd ei thebyg o’r blaen. Bydd y Llywodraeth a’r Comisiwn Cynghori ar Bŵer Glân yn gweithio’n agos gyda phartneriaid i fonitro’r gwaith o gyflawni prosiectau unigol a nodi ymyriadau wedi’u targedu i gyflymu prosiectau sydd wedi’u gohirio lle bo angen, gan gynnwys drwy flaenoriaethu yn y broses gydsynio. Lle bynnag y gall ynni adnewyddadwy gysylltu â’r rhwydwaith dosbarthu, dylid annog hyn oherwydd cyflymder ac effeithlonrwydd.
Mae angen diwygio’r rhwydwaith dosbarthu hefyd ac, er ei fod yn llai cyfyngedig na’r lefel trosglwyddo, bydd angen cyflymu’r gwaith o gynhyrchu a storio ynni adnewyddadwy sy’n gysylltiedig â dosbarthu er mwyn cyrraedd targed 2030. Bydd angen atgyfnerthu ac adeiladu’r rhwydwaith dosbarthu’n sylweddol hefyd i gefnogi’r gwaith o drydaneiddio’r sectorau a ragwelir ar gyfer y degawdau i ddod, yn ogystal â darparu ar gyfer y galw newydd mewn rhai lleoliadau ar gyfer seilwaith cynyddol a defnyddiau diwydiannol, fel canolfannau data a hybiau trafnidiaeth.
Yn ogystal â’r camau gweithredu hynny a nodir yn y bennod hon, bydd darparu seilwaith rhwydwaith yn dibynnu ar gamau gweithredu a amlinellir mewn rhannau eraill o’r Cynllun Gweithredu hwn, yn enwedig yr ymyriadau sy’n cael eu datblygu gan y Swyddfa Swyddi Ynni Glân i sicrhau gweithlu sydd â’r sgiliau priodol i gyflawni Pŵer Glân, adnoddau a diwygio cynllunio a chydsynio ar gyfer seilwaith ynni, ac ymyriadau cadwyn gyflenwi.
Ffigur 11: Aeddfedrwydd y prosiect rhwydwaith trawsyrru a’r amserlen ar gyfer ei gyflawni
Disgrifiad o Ffigur 11: Diagram yn dangos aeddfedrwydd prosiect y rhwydwaith trawsyrru a’r amserlen ar gyfer ei gyflawni. Mae’n crynhoi statws a chamau aeddfedu 88 o brosiectau gwaith ehangach ar gyfer y rhwydwaith trawsyrru.
Mae’r adran ar y brig yn nodi:
Bydd 88 o brosiectau gwaith ehangach yn dod â manteision i’r system drawsyrru gyfan – i gyflawni’r targed ynni glân a lleihau’r costau cyfyngu.
80 o brosiectau gwaith – Rhaid eu darparu erbyn 2030 er mwyn bodloni pŵer glân.
Mae’r prosiectau gwaith wedi’u categoreiddio isod:
- 9 o brosiectau gwaith: Eisoes wedi’u hadeiladu
- 68 o brosiectau gwaith: Ar y trywydd iawn
- 3 o brosiectau gwaith: Angen cyflymu
- 8 o brosiectau gwaith: Cyflymu yn fuddiol
Mae’r camau aeddfedu wedi’u rhestru fel a ganlyn:
- 4 o brosiectau gwaith: Cam 1 - Cwmpasu
- 24 o brosiectau gwaith: Cam 2 - Creu opsiynau strategol
- 16 o brosiectau gwaith: Cam 3 - Dylunio/datblygu a chydsynio
- 10 o brosiectau gwaith: Cam 4 - Cynllunio/cydsynio
- 17 o brosiectau gwaith: Cam 5 - Adeiladu
Ffynhonnell: NESO (2024), ‘Clean Power 2030’
* Mae’r rhain yn atgyfnerthiadau rhwydwaith trawsyrru ehangach – efallai na fyddant yn cynnwys yr holl brosiectau gwaith, er enghraifft, gwaith sy’n cael ei yrru gan waith galluogi cysylltiadau, gweithrediad ac ati.
Gweithredu
Diwygio cysylltiadau
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r ciw cysylltu â’r grid wedi tyfu ddengwaith, ac erbyn hyn mae’n cynnwys capasiti cyfatebol o 739 GW[footnote 65]. Mae llawer o’r prosiectau hyn yn hapfasnachol neu nid oes ganddynt y cyllid na’r caniatâd cynllunio angenrheidiol i symud ymlaen, gan achosi oedi annerbyniol o ran cysylltiadau ar gyfer prosiectau hyfyw y tu ôl iddynt. Mae diwygio sylfaenol mewn perthynas â’r broses cysylltiadau yn hanfodol ac yn fater brys – hebddo, ni fydd y prosiectau sydd eu hangen arnom ar gyfer Pŵer Glân yn gallu cysylltu’n brydlon.
Mae angen i ni hefyd gyflymu tuag at sero net a sicrhau cysylltiadau amserol ar gyfer y galw, gan gynnwys mwy a mwy o dechnolegau carbon isel fel pwyntiau gwefru cerbydau trydan a phympiau gwres, wrth i ni drydaneiddio’r economi ehangach.
Ffigur 12: Ciw cysylltiadau presennol o’i gymharu â’r capasiti gosodedig presennol a senarios ‘Further Flex and Renewables’ a ‘New Dispatch’ NESO (GW)
Disgrifiad o Ffigur 12: Siart bar yn dangos y ciw cysylltiadau presennol yn erbyn y llwybrau ynni glân fesul technoleg (GW) gan gymharu capasiti gwahanol dechnolegau ynni. Mae’r technolegau ar echelin x yn cynnwys Storio, Solar, Gwynt ar y Tir, Gwynt ar y Môr, Tanwydd Ffosil, Niwclear, a Rhyng-gysylltwyr. Mae echelin y yn cynrychioli’r capasiti mewn gigawatiau (GW), gan amrywio o 0 i 80. Mae gan bob categori bedwar bar sy’n cynrychioli: Y Capasiti Adeiledig Presennol, y Ciw i 2030, Ffynonellau Adnewyddadwy a Hyblygrwydd Pellach, a Ffynonellau Anfonadwy Newydd. Mae gan storio a solar werthoedd ciwio uchel, tra mae gan niwclear a rhyng-gysylltwyr werthoedd is ar draws categorïau.
Sylwer: Mae arall yn cynnwys biomas, nwy di-dor, glo, olew a thanwyddau eraill ar gyfer y capasiti gosodedig presennol. Mae ffigurau capasiti 2030 yn cyfeirio at nwy di-dor yn unig.
Ffynhonnell: Tabl 1 & DESNZ (2024), ‘DUKES’ & NESO (2024), ‘Clean Power 2030’
Ar hyn o bryd mae’r ciw yn cael ei reoli ar sail ‘y cyntaf i’r felin’ nad yw’n ystyried y ‘cymysgedd’ gofynnol o brosiectau ynni (e.e. solar, gwynt) neu lle sydd orau i leoli’r cymysgedd hwn. O’r herwydd, nid oes gennym yr arfau i sicrhau’r system ynni orau yn y dyfodol ar draws pob rhanbarth ym Mhrydain sy’n ymateb i anghenion cynllunio ynni lleol yn ogystal ag anghenion cenedlaethol.
Er mwyn cyflawni ein huchelgais ar gyfer 2030, rhaid i ni weithredu nawr i resymoli’r ciw a chyflymu’r prosiectau sy’n hanfodol i’n nod. Mae hyn yn golygu mynd y tu hwnt i gynlluniau blaenorol i dynnu prosiectau sy’n symud yn araf neu’n segur o’r ciw a blaenoriaethu ar sail parodrwydd yn unig. Mae angen y camau gweithredu hyn o hyd ond er mwyn cyflawni Pŵer Glân 2030, mae angen ystyried ffactorau technolegol a lleoliadol yn y broses gysylltu er mwyn i’r prosiectau iawn allu cysylltu yn y lle iawn ar yr adeg iawn.[footnote 66] Gall y Cynllun Gweithredu hwn nawr fod yn sail i wneud hyn.
Drwy gael gwared ar brosiectau anhyfyw, aildrefnu’r ciw, a chyflymu’r amserlenni cysylltu ar gyfer y prosiectau sydd eu hangen arnom fwyaf, disgwylir i’r gwaith o ddiwygio cysylltiadau ddatgloi £biliynau o fuddsoddiad y mae mawr ei angen mewn ynni adnewyddadwy[footnote 67] a thrydaneiddio’r economi ehangach – buddsoddiad sydd wedi’i ddal yn ôl ers gormod o amser.
Bydd proses cysylltiadau sydd wedi’i halinio’n strategol hefyd yn arwain at arbedion effeithlonrwydd cynhenid o ran dylunio, cynllunio ac adeiladu rhwydweithiau, ac yn cynnig hyder tymor hir nid yn unig i fuddsoddwyr mewn ynni adnewyddadwy, ond hefyd i’r holl sectorau galw a fydd yn dibynnu ar ynni glân ar gyfer trydaneiddio (o ganolfannau data – gan gynnwys y rhai sy’n hanfodol ar gyfer cefnogi AI (Deallusrwydd Artiffisial) – a gigaffatrïoedd, i gerbydau trydan a phympiau gwres), yn ogystal â’r cadwyni cyflenwi cysylltiedig a’r swyddi y bydd y rhain yn eu creu.
Mae’r Llywodraeth, Ofgem, NESO a chwmnïau rhwydwaith wedi bod yn gweithio ar gyflymder[footnote 68] i gryfhau’r cynigion ‘parod yn gyntaf, cysylltu’n gyntaf’ ac mae NESO bellach wedi ymgynghori ar[footnote 69] y methodolegau manwl a fydd yn ei alluogi i hidlo’r ciw a blaenoriaethu cysylltiadau gan ddefnyddio cynlluniau strategol, gan ddechrau gydag ystodau capasiti ar gyfer technolegau cynhyrchu sydd eu hangen ar gyfer pŵer glân erbyn 2030 sydd wedi’u nodi yn y Cynllun Gweithredu hwn. Bydd y Llywodraeth yn:
- Gweithio gyda NESO ac Ofgem i newid y broses cysylltiadau grid i weithredu’r Cynllun Gweithredu, drwy ddarparu fframwaith y gall NESO weithio drwyddo gyda Gweithredwyr Trosglwyddo a Dosbarthu i flaenoriaethu prosiectau wedi’u halinio, gan arwain at gyhoeddi cynigion wedi’u diweddaru cyn diwedd 2025. Mae rhagor o fanylion am hyn ar gael yn atodiad diwygio cysylltiadau’r cyhoeddiad hwn. Byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth, pan fydd amser seneddol yn caniatáu, i sicrhau bod diwygio cysylltiadau yn cyd-fynd â chynlluniau rhwydwaith ac ynni strategol ac yn cefnogi’r gwaith o ddarparu pŵer glân erbyn 2030.
- Yn amodol ar gymeradwyaeth Ofgem, bydd hyblygrwydd ychwanegol yn cael ei gynnwys yn y broses gysylltu ddiwygiedig i reoli athreuliad prosiectau a gorgyflenwad neu dangyflenwad. Er enghraifft, bydd prosiectau sy’n mynd y tu hwnt i lwybr 2030 ar gyfer technoleg penodol ond sy’n cyd-fynd â’r llwybr 2035 perthnasol yn dal yn gymwys i gysylltu cyn 2030 lle mae capasiti dros ben, ar ôl asesu holl brosiectau llwybr 2030. Bydd NESO hefyd yn gallu disodli’r un dechnoleg rhwng parthau i reoli gorgyflenwad a thangyflenwad, lle nad yw hyn yn achosi cyfyngiadau rhwydwaith sylweddol.
Er mwyn osgoi effeithio ar brosiectau y mae eu datblygiad eisoes yn mynd rhagddo’n dda, mae NESO wedi cynnig bod unrhyw brosiect sydd wedi cael Contract ar gyfer Gwahaniaeth neu gontract y Farchnad Capasiti, Cytundeb Rhyng-gysylltu neu gytundeb Cap a Llawr Ased Hybrid ar y Môr, cymeradwyaeth Rhyng-gysylltydd Masnach, neu wedi sicrhau caniatâd cynllunio fel Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol neu drwy Ddeddfau Cynllunio Gwlad a Thref perthnasol (gan gynnwys drwy gyfundrefnau cynllunio llywodraethau datganoledig), yn cael eu cynnwys yn y ciw cysylltiadau diwygiedig newydd ar yr amod eu bod hefyd wedi bodloni Meini Prawf Parodrwydd Porth 2. [footnote 70] Bydd y Llywodraeth hefyd yn defnyddio cyhoeddi’r SSEP yn 2026 i archwilio’r gymysgedd o dechnolegau ac ystyried a ddylai’r capasiti a gedwir ar gyfer technolegau a dangyflenwir gael ei ryddhau ar gyfer technolegau eraill.
Rhaid i bob parti sy’n gysylltiedig weithio’n gyflym i sicrhau bod y broses ddiwygio’n cael ei datrys yn gyflym ac yn gadarnhaol ac archwilio pob cyfle i weithredu’n gyflymach er mwyn i gwsmeriaid allu cael cynigion cysylltu wedi’u diweddaru cyn gynted â phosibl yn 2025. Yn unol â diweddaru cynigion cysylltu, bydd y Perchnogion Trawsyrru yn adolygu a, lle bo angen, yn diwygio gwaith galluogi a lleol i gydymffurfio â gofynion y Safon Diogelwch ac Ansawdd Cyflenwad. Mae NESO hefyd yn chwarae rhan yn y gwaith o sicrhau bod y rhwydwaith yn cydymffurfio’n gyffredinol â’r safonau hyn.
Diwygio rheoleiddio
Drwy ei fframwaith Buddsoddi mewn Trawsyrru Strategol Cyflym (ASTI), mae Ofgem wedi blaenoriaethu’r gwaith o gyflawni 26 o brosiectau trawsyrru strategol pwysig ar raddfa fawr yn amserol er mwyn eu cyflawni cyn neu erbyn 2030. O’r rhain, mae NESO wedi nodi bod angen cyflawni 21 erbyn 2030 i gyflawni’r Cynllun Pŵer Glân. Mae cymhellion cyflawni yn berthnasol i bob un o’r 26 prosiect ASTI ac mae Ofgem yn adeiladu ar y dull hwn mewn rheolaethau prisiau ar gyfer rhwydweithiau yn y dyfodol, a fydd yn gallu addasu i ariannu gofynion adeiladu ychwanegol yn effeithlon. Mae cyflawni’r prosiectau allweddol hyn yn amserol yn dal yn heriol iawn ac efallai y bydd angen i gymhellion cyflawni fod yn gryfach er mwyn annog uchelgais gan y Perchnogion Trosglwyddo.
Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn, bydd y llywodraeth yn:
- Diwygio’r Datganiad Strategaeth a Pholisi (sy’n nodi blaenoriaethau strategol y llywodraeth y mae’n rhaid i Ofgem eu hystyried) i sicrhau bod pŵer glân 2030 a nodau datgarboneiddio ehangach yn cael eu pwysoli’n ddigonol wrth wneud penderfyniadau i gymeradwyo buddsoddiadau strategol gan gwmnïau rhwydwaith yn gynharach.
- Gweithio gydag Ofgem i edrych ar briodoldeb tynhau cymhellion a chosbau ar gyfer Perchnogion Trawsyrru a Gweithredwyr Rhwydweithiau Dosbarthu er mwyn darparu seilwaith rhwydwaith strategol bwysig. Byddwn hefyd yn gweithio gydag Ofgem i sicrhau bod yr holl gymhellion a chosbau’n cael eu gorfodi’n gadarn.
Cynllunio rhwydweithiau, hawliau tir a chydsynio
Mae cyflymu’r gwaith o adeiladu rhwydweithiau trawsyrru a dosbarthu sydd ei angen ar gyfer 2030 yn dibynnu’n drwm ar gapasiti’r system gynllunio a diwygiadau ehangach i’r gofynion cynllunio ac amgylcheddol ar gyfer yr holl seilwaith ynni newydd. Mae hyn yn cynnwys darparu gwell adnoddau ar gyfer y system gynllunio, diwygiadau i gydsynio ar gyfer prosiectau ynni yn yr Alban, a blaenoriaethu prosiectau rhwydweithiau trydan yn y prosesau cydsynio yng Nghymru a Lloegr. Mae rhagor o fanylion am y mesurau hyn ar gael yn y bennod ar Gynllunio a Chydsynio ar gyfer Seilwaith Ynni Newydd.
Ar lefel y rhwydwaith dosbarthu, gall prosesau hawliau tir cyfredol yng Nghymru a Lloegr gymryd rhwng 2 a 4 blynedd, a all arwain at oedi diangen[footnote 71]. Canfu cais am dystiolaeth gan y llywodraeth flaenorol fod gweithredwyr rhwydwaith a thirfeddianwyr yn credu bod angen diwygio’r prosesau hyn[footnote 72]. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, bydd y llywodraeth yn ymgynghori ac yn ymgysylltu yn 2025 ar gynigion sy’n cynnwys:
- Ehangu esemptiadau caniatâd cynllunio i gynnwys cysylltiadau ac uwchraddio foltedd isel, gan gynnwys uwchraddio llinellau uwchben un cam i dair cam (gyda foltedd yn aros yr un fath) drwy ddiwygio rheoliadau Adran 37 fel y maent yn berthnasol yng Nghymru a Lloegr.
- Cyfleoedd i ddarparu rhagor o hyblygrwydd o ran cydsynio i is-orsafoedd trydan.
Mae’r Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Seilwaith Rhwydweithiau Trydan (NPS-EN5) yn nodi safbwynt y llywodraeth ar osod o dan y ddaear, sef bod rhagdybiaeth gychwynnol ar gyfer llinellau uwchben ar gyfer prosiectau rhwydwaith mawr. Yr eithriad i hyn yw mewn tirweddau sydd wedi’u dynodi’n genedlaethol, lle mai gosod o dan y ddaear yw’r rhagdybiaeth gychwynnol. Mae’r sefyllfa hon yn ystyried ffactorau gan gynnwys effeithiau cost ac amgylcheddol, a barn y llywodraeth yw bod hyn yn taro cydbwysedd priodol rhwng llinellau uwchben a gosod o dan y ddaear.
Ymgysylltu â’r gymuned
Er mwyn dod â chymunedau gyda ni, bydd angen i ni ymgysylltu’n well a rhoi sicrwydd i gymunedau a sicrhau eu bod yn elwa o fyw wrth ymyl seilwaith ynni newydd ar y tir. Mae’r llywodraeth hon yn credu ei bod yn egwyddor hanfodol y dylai cymunedau sy’n cynnal seilwaith ynni glân elwa ohono.
Er mwyn cydnabod rôl hanfodol cymunedau sy’n byw ger seilwaith rhwydwaith trawsyrru newydd ar y tir, bydd y llywodraeth yn darparu pecyn cryf o fuddion cymunedol. Byddwn yn gwneud y canlynol:
- Cyhoeddi canllawiau gwirfoddol i gynyddu cwantwm a chysondeb Cronfeydd Cymunedol ar gyfer rhwydweithiau trawsyrru. Bydd y canllawiau hyn yn rhoi manylion y lefel o fudd a argymhellir, cwmpas, cymhwysedd, costau cyflawni, a rôl cymunedau a datblygwyr.
Er mwyn gwella dealltwriaeth o’r angen am seilwaith trawsyrru newydd a gosod y cyd-destun ar gyfer trafodaethau gyda chymunedau ar brosiectau newydd yn well, bydd y llywodraeth yn:
- Cefnogi lansio ymgyrch cyfathrebu cyhoeddus a ddatblygir gan y diwydiant gyda chefnogaeth y llywodraeth, i annog ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd seilwaith rhwydweithiau o ran cefnogi sero net. Bydd hwn yn cael ei lansio ddechrau 2025.
Bydd y camau gweithredu hyn, ochr yn ochr â gwaith parhaus y llywodraeth a’n partneriaid cyflawni, gan gynnwys Ofgem, NESO, a’r Perchnogion Trawsyrru, yn cyflymu ymhellach brosiectau rhwydweithiau sy’n hanfodol i gyflawni Pŵer Glân 2030 a lleihau cyfyngiadau ar y rhwydwaith. Byddant yn sicrhau bod cymunedau’n elwa o gynnal seilwaith rhwydwaith, diwygio’r broses cysylltiadau grid i sicrhau cysylltiad amserol ar gyfer cynhyrchiant sy’n barod ac sy’n ofynnol ar gyfer Pŵer Glân 2030, a sicrhau bod y rhwydwaith yn barod am gynnydd yn y galw am drydan a pharhau i ddatblygu cynhyrchu carbon isel ar ôl 2030.
Great British Energy
Sefydlu Great British Energy yw un o gamau cyntaf y llywodraeth ar gyfer newid, gan roi’r DU ar y trywydd iawn i fod yn archbŵer ynni glân. Bydd Great British Energy yn 100% yn eiddo i bobl Prydain, ar gyfer pobl Prydain.
Mae ein cwmni ynni newydd sy’n eiddo i’r cyhoedd wedi’i ddylunio i sbarduno’r gwaith o ddefnyddio ynni glân i roi hwb i annibyniaeth ynni, creu swyddi, a sicrhau bod trethdalwyr, talwyr biliau a chymunedau yn y DU yn elwa ar ynni glân sy’n cael ei gynhyrchu gartref. Bydd datblygu prosiect Great British Energy a swyddogaethau pŵer lleol yn helpu i gefnogi cenhadaeth Pŵer Glân 2030, gan gynnwys drwy ddatblygu hyd at 8 GW o brosiectau ynni lleol a chymunedol. Byddwn yn parhau i weld ei effaith ar ôl 2030, gan sicrhau ein bod yn gallu diwallu’r galw yn y dyfodol wrth i ni ddatgarboneiddio’r economi ymhellach hyd at 2050.
Bydd Great British Energy o fudd i’r pedair gwlad, ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod ei swyddogaethau’n gallu ategu’r mentrau ynni gwyrdd ledled Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan greu swyddi ac adeiladu cadwyni cyflenwi ar draws y DU, gan barchu’r setliadau datganoli ar yr un pryd. Mae cyflawni ein targedau sero net a rennir, cael mwy o reolaeth dros ein hadnoddau ynni ein hunain, a chynyddu ein hannibyniaeth ynni yn heriau i’r DU gyfan, ac mae hwn yn gyfle gwych i ddysgu o arbenigedd a phrofiad ein gilydd.
Yr ydym yn gwneud cynnydd cyflym o ran sefydlu Great British Energy. Ym mis Gorffennaf, fe wnaethom gyhoeddi Datganiad Sefydlu Great British Energy, a oedd yn nodi ei bum swyddogaeth: buddsoddi mewn prosiectau a pherchnogaeth; datblygu prosiectau; cadwyni cyflenwi; y Cynllun Pŵer Lleol; a Great British Nuclear. Fe wnaethom hefyd gyhoeddi mai Juergen Maier oedd y Cadeirydd newydd, ochr yn ochr â phartneriaeth fawr gyntaf GBE gydag Ystâd y Goron. Ers hynny, mae Great British Energy wedi cyhoeddi ei bencadlys yn Aberdeen ac wedi gwneud penderfyniadau polisi allweddol, gan gynnwys cynlluniau i gydweithio â’r Gronfa Cyfoeth Genedlaethol i gyflymu buddsoddiadau. Ac yn olaf, rydym wedi sicrhau £125 miliwn o gyllid ar gyfer 2025/26 er mwyn i GBE allu dechrau ar ei waith pwysig i fwrw ymlaen â defnyddio ynni glân.
Dim ond megis dechrau yw hyn. Bydd Ynni Prydain Fawr yn cael ei gyfalafu ag £8.3 biliwn yn ystod tymor y Senedd bresennol. Drwy ei bum swyddogaeth, bydd y cwmni sy’n eiddo cyhoeddus yn helpu i greu gwell cynnig buddsoddi ar gyfer cwmnïau ynni preifat a buddsoddwyr rhyngwladol a fydd yn parhau i chwarae rhan bwysig yn ein cyfnod pontio i sector pŵer fforddiadwy, wedi’i ddatgarboneiddio.
Cyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy a niwclear
Crynodeb
Bydd trydan a gynhyrchir gan ynni adnewyddadwy a phŵer niwclear yn asgwrn cefn system drydan lân erbyn 2030. Bydd camau gweithredu a nodir mewn penodau eraill, i leihau’r rhwystrau i ganiatâd cynllunio ac amgylcheddol, cysylltiad â’r rhwydwaith trydan, a mynediad at y cadwyni cyflenwi a’r gweithlu angenrheidiol, yn cyfrannu’n helaeth at gynyddu’r defnydd o dechnolegau adnewyddadwy. Fodd bynnag, hyd yn oed gyda llwyddiant yn y meysydd hyn, mae rhwystrau penodol o hyd yn ein hwynebu o ran defnyddio’r ynni adnewyddadwy sydd ei angen ar gyfer system pŵer glân yn 2030. Mae rhwystrau hefyd yn wynebu ein fflyd niwclear a’r gwaith o dyfu technolegau adnewyddadwy sy’n dod i’r amlwg.
Er mwyn gostwng a chael gwared ar y rhain, byddwn yn:
Gwella’r ffordd y mae Contractau ar gyfer Gwahaniaeth yn cael eu dyrannu, yn enwedig ar gyfer Cylch Dyrannu 7 (AR7), i gefnogi’r gwaith o ddarparu pŵer glân a sicrhau ei fod yn gallu caffael y capasiti sydd ei angen i gyrraedd y targed.
Cydlynu’r rhyngweithio rhwng tyrbinau gwynt a seilwaith hedfanaeth sifil ac amddiffyn, gan weithio i ddod o hyd i atebion lliniaru a datgloi’r defnydd o brosiectau gwynt arfaethedig ar y môr ac ar y tir.
Byddwn yn defnyddio Great British Energy, a mesurau polisi ehangach, i gefnogi capasiti lleol a chymunedol, gan gynnwys ar gyfer cartrefi, busnesau, adeiladau cyhoeddus a thir, a mannau a rennir.
Rheoli asedau sy’n cyrraedd diwedd telerau cymorth presennol y llywodraeth i leihau unrhyw gapasiti a allai gael ei golli cyn 2030, gan gynnwys drwy gefnogi ail-bweru drwy’r cynllun Contractau ar gyfer Gwahaniaeth.
Gweithio gydag EDF i gefnogi’r gwaith o ddarparu Hinkley Point C a chefnogi datblygiad a pharodrwydd technolegau glân datblygol a fydd yn chwarae rhan bwysig y tu hwnt i 2030.
Gwynt ar y môr
Capasiti gosodedig presennol o’i gymharu ag ‘Amrediad Capasiti Pŵer Glân’ DESNZ yn 2030 (GW)
Disgrifiad o’r ffigur: Graddfa sy’n dangos y capasiti gosodedig presennol a’r capasiti sy’n ymrwymedig neu wrthi’n cael ei adeiladu, a sut mae hyn yn cymharu ag ‘Ystod Capasiti Ynni Glân’ yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ), – i gyd ar gyfer ynni gwynt ar y môr. Mae’r capasiti gosodedig presennol (Ch2 2024) yn 14.8GW, y capasiti sy’n ymrwymedig neu wrthi’n cael ei adeiladu yn 16GW, ac ‘Ystod Capasiti Ynni Glân’ DESNZ yn 43-50GW. Mae hyn yn dangos bod swm y capasiti presennol a’r capasiti sy’n ymrwymedig neu wrthi’n cael ei adeiladu gyda’i gilydd yn 30.8GW, a bod angen 12.2GW yn rhagor o gapasiti ynni gwynt ar y môr i gyrraedd ‘Ystod Capasiti Ynni Glân’ DESNZ.
Ynni gwynt ar y tir
Capasiti gosodedig presennol o’i gymharu ag ‘Amrediad Capasiti Pŵer Glân’ DESNZ yn 2030 (GW).
Disgrifiad o’r ffigur: Graddfa sy’n dangos y capasiti gosodedig presennol, y capasiti sy’n ymrwymedig neu wrthi’n cael ei adeiladu, a sut mae hyn yn cymharu ag ‘Ystod Capasiti Ynni Glân’ yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ), – i gyd ar gyfer gwynt ar y tir. Mae’r capasiti gosodedig presennol (Ch2 2024) yn 14.2GW, y capasiti sy’n ymrwymedig neu wrthi’n cael ei adeiladu yn 4GW, ac ‘Ystod Capasiti Ynni Glân’ DESNZ yn 27-29GW. Mae hyn yn dangos bod swm y capasiti presennol a’r capasiti sy’n ymrwymedig neu wrthi’n cael ei adeiladu gyda’i gilydd yn 18.2GW, a bod angen 8.8GW yn rhagor o gapasiti ynni gwynt ar y tir i gyrraedd ‘Ystod Capasiti Ynni Glân’ DESNZ.
Solar
Capasiti gosodedig presennol o’i gymharu ag ‘Amrediad Capasiti Pŵer Glân’ DESNZ yn 2030 (GW).
Disgrifiad o’r ffigur: Graddfa sy’n dangos y capasiti gosodedig presennol, y capasiti sy’n ymrwymedig neu wrthi’n cael ei adeiladu, a sut mae hyn yn cymharu ag ‘Ystod Capasiti Ynni Glân’ yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ) – i gyd ar gyfer ynni solar. Mae’r capasiti gosodedig presennol (Ch2 2024) yn 16.6GW, y capasiti sy’n ymrwymedig neu wrthi’n cael ei adeiladu yn 7GW, ac ‘Ystod Capasiti Ynni Glân’ DESNZ yn 45-47GW. Mae hyn yn dangos bod swm y capasiti presennol a’r capasiti sy’n ymrwymedig neu wrthi’n cael ei adeiladu gyda’i gilydd yn 23.6GW, a bod angen 21.4GW yn rhagor o gapasiti solar i gyrraedd ‘Ystod Capasiti Ynni Glân’ DESNZ.
Ffynhonnell/Ffynonellau: Tabl 1, Low Carbon Contracts Company (LCCC) (2024), ‘CfD register’ (gwelwyd ym mis Tachwedd 2024).
Nodiadau: Mae wedi ymrwymo / wrthi’n cael ei adeiladu yn cael ei ddiffinio fel prosiectau sydd wedi sicrhau Contract ar gyfer Gwahaniaeth (CfD) ond sydd heb ddod yn gwbl weithredol eto. Ar gyfer ynni gwynt ar y tir a solar ffotofoltaig, nid yw capasiti ‘masnach’ (heb fod yn CfD) nad yw wedi cael ei ddefnyddio eto wedi cael ei gyfrif. Nid yw unrhyw asedau a dynnir yn ôl cyn 2030 yn cael eu hystyried yn yr amcangyfrifon hyn.
Yr her
Technolegau adnewyddadwy fydd sylfaen ein system pŵer glân, ac mae angen inni weld defnydd sylweddol iawn i wireddu hyn. Mae’n bosibl cyflawni’r capasiti adnewyddadwy sydd wedi’i nodi yn ‘Amrediad Capasiti Pŵer Glân’ DESNZ, ond bydd angen gweithredu hynny ar raddfa a chyflymder llawer iawn uwch. Dim ond drwy oresgyn heriau cyflawni drwy gydol y cylch bywyd datblygu y gellir cyflawni hyn.
Mae cyflymu’r ddarpariaeth yn eithriadol o bwysig ar gyfer gwynt ar y môr, lle mae amseroedd arwain ar gyfer prosiectau yn aml yn fwy na degawd[footnote 73]. Mae hyn yn golygu bod popeth y gellir ei ddefnyddio erbyn 2030 naill ai eisoes wedi cael cydsyniad neu ei fod yn y broses ddatblygu a chydsynio. Bydd angen i benderfyniadau caffael a buddsoddi terfynol y prosiectau hyn fod yn eu lle yn ystod y 1-3 blynedd nesaf.
Mae mwy o botensial i gyflwyno prosiectau ynni gwynt ar y tir a solar newydd a darparu capasiti ychwanegol y tu hwnt i’r hyn sydd eisoes wedi’i gynllunio erbyn 2030, oherwydd amseroedd arwain byrrach[footnote 74]. Ond eto, mae llawer o brosiectau 2030 eisoes yn debygol o fod ar gamau datblygu gwahanol, a bydd angen gwneud penderfyniadau buddsoddi terfynol ar y prosiectau hyn ymhell cyn ein targed 2030.
Bydd camau gweithredu yn y bennod hon, ochr yn ochr â galluogwyr trawsbynciol a nodir mewn penodau eraill, yn cefnogi’r gwaith o gyflawni prosiectau cynhyrchu ynni adnewyddadwy drwy ddadrisgio’r llif presennol, cyflymu prosiectau newydd drwy’r llif, a manteisio i’r eithaf ar botensial capasiti presennol wrth i asedau agosáu at ddiwedd oes.
Bydd pŵer niwclear hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni Pŵer Glân 2030 a thu hwnt drwy ddarparu cynhyrchiant llwyth sylfaen carbon isel yn y system.
Gweithredu
Gwella’r ffordd y caiff Contractau ar gyfer Gwahaniaeth eu dyrannu i gefnogi 2030
Y cynllun Contractau ar gyfer Gwahaniaeth (CfD) yw prif bolisi’r llywodraeth ar gyfer cymell prosiectau cynhyrchu trydan carbon isel newydd ym Mhrydain Fawr. Mae’r CfD a’i gontractau buddsoddi blaenorol wedi golygu bod tua 9 GW o ynni adnewyddadwy wedi dechrau cynhyrchu o danynt yn barod, gyda 26 GW arall wedi’u contractio i ddod yn weithredol erbyn 2030[footnote 75].
Er bod y CfD wedi darparu llawer iawn o gapasiti adnewyddadwy dros y degawd diwethaf, roedd AR5 yn rownd a fethodd â chyflawni unrhyw wynt ar y môr, a oedd yn rhwystr enfawr i’r diwydiant ac yn golygu bod defnyddwyr yn cael eu gadael yn fwy agored i farchnadoedd tanwydd ffosil. Mae angen cysondeb o ran llwyddiant a thyfu i ddiogelu cwsmeriaid a gwireddu Pŵer Glân 2030. Ar hyn o bryd mae tua 31 GW o gapasiti gwynt ar y môr wedi’i adeiladu neu wedi’i gontractio. Bydd angen i hyn godi i 43-50 GW yn 2030. Felly, bydd y llywodraeth yn ceisio sicrhau o leiaf 12 GW ar draws y ddwy neu dair rownd ddyrannu nesaf – AR7, AR8 ac, yn dibynnu ar ba mor gyflym y mae prosiectau’n cael eu defnyddio, AR9.
Mae’r llywodraeth hon wedi dangos ei gallu i gael y sector gwynt ar y môr yn ôl ar ei draed. Er bod AR5 wedi sicrhau 0 GW o wynt ar y môr, roedd AR6 wedi cefnogi dros 5 GW, am bris a oedd yn rhatach i’w adeiladu a’i weithredu na thanwyddau ffosil newydd. Bydd y llywodraeth yn sicrhau ei bod yn sicrhau’r symiau cywir o ynni gwynt ar y môr am bris cystadleuol.
Mae’n wir hefyd bod y diwydiant wedi bod yn galw ers tro am ddiwygio CfD i gael gwared ar rywfaint o’r ansicrwydd a rhoi mwy o sylw i gefnogi strategaeth ddiwydiannol. Dyna pam mae’r llywodraeth yn datblygu diwygiadau wedi’u targedu i fecanwaith CfD i sicrhau ei bod yn gallu cefnogi cyfaint y capasiti newydd – yn benodol, gwynt ar y môr â gwaelod sefydlog – sydd ei angen i gyflawni’r cyfraniad adnewyddadwy at darged Pŵer Glân 2030, gan barhau i leihau costau gwneud hynny i ddefnyddwyr. Yn amodol ar asesiad pellach, gan gynnwys rhinweddau, dichonoldeb ac unrhyw ymgynghori pellach lle bo hynny’n berthnasol, ar gyfer AR7, mae’r llywodraeth ar hyn o bryd yn bwriadu gwneud y canlynol:
- Llacio meini prawf cymhwysedd CfD ar gyfer prosiectau gwynt ar y môr â gwaelod sefydlog i ganiatáu i brosiectau nad ydynt eto wedi cael caniatâd cynllunio llawn gymryd rhan mewn rowndiau dyrannu tymor agos. Byddai hyn yn dyfarnu Contractau ar gyfer Gwahaniaeth yn gynharach yn y cylch datblygu ynni gwynt ar y môr o’i gymharu â’r model presennol. Ynghyd â diwygiadau ehangach, gallai hyn wella cystadleuaeth a galluogi ymgysylltu’n gynharach â’r gadwyn gyflenwi.
- Newidiadau i ba wybodaeth mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn ei defnyddio i hysbysu’r gyllideb derfynol ar gyfer gwynt ar y môr â gwaelod sefydlog, er mwyn osgoi ailadrodd AR5 a sicrhau’r capasiti mwyaf y gellid ei gontractio o bob rownd yn gost-effeithiol. Mae hyn yn cynnwys darparu mwy o welededd, o’i gymharu â gwybodaeth mewn bidiau wedi’u selio, i’r Ysgrifennydd Gwladol cyn cwblhau’r gyllideb, fel y gellir cael mwy o sicrwydd ynghylch faint o gapasiti y bydd cyllideb CfD benodol yn ei gaffael.
- Amserlen arwerthiant, gan gynnwys uchelgeisiau capasiti ar gyfer rowndiau dyrannu sydd ar y gweill, i wella tryloywder a rhagweladwyedd o ran amseriad a maint yr uchelgais ar gyfer y Contract ar gyfer Gwahaniaeth.
- Adolygiad o baramedrau arwerthiant, gan gynnwys ein dull o ymdrin â Phrisiau Cyfeirio (amcangyfrif o bris cyfartalog marchnad Prydain Fawr ar gyfer trydan) a ddefnyddir i amcangyfrif effaith gyllidebol prosiectau sy’n bidio mewn rowndiau dyrannu. Mae’r llywodraeth yn cydnabod pryderon ac adborth y diwydiant ynghylch Prisiau Cyfeirio a’r goblygiadau i gyllidebau CfD ac mae’n ceisio sicrhau bod y pryderon hyn yn cael eu cydbwyso â’n huchelgeisiau cryf ar gyfer y sector pŵer ar gyfer 2030 a thu hwnt.
Ochr yn ochr â mwy o sicrwydd ynghylch yr arwerthiant a’r capasiti posibl y gall ei sicrhau, mae’r llywodraeth hefyd yn ystyried newidiadau i delerau contractau Contractau ar gyfer Gwahaniaeth a fyddai’n rhoi sicrwydd hirach i’r farchnad ar ôl dyfarnu contractau, gan gynnwys ystyried rhinweddau cynyddu tymor 15 mlynedd presennol CfD i leihau costau cyffredinol y prosiect. Mae’r adran yn bwriadu ymgynghori ar hyn yn gynnar yn 2025, ac er mwyn symud ymlaen, byddai angen tystiolaeth bod hyn er budd defnyddwyr.
O ystyried lefel y buddsoddiad sydd ei angen, mae’r llywodraeth yn cydnabod yr angen i sicrhau bod diwygiadau’n rhoi sefydlogrwydd a hyder i’r sector, gan gynnwys y gadwyn gyflenwi, ac yn cael eu cyflawni mewn ffordd amserol. Bydd y llywodraeth yn ymgynghori ar ddiwygiadau ddechrau 2025 cyn y rownd ddyrannu nesaf, gyda’r bwriad o weithredu unrhyw newidiadau mewn pryd er mwyn i Rownd Ddyrannu 7 agor yn ystod haf 2025.
Yn ogystal â’r cynigion hyn, mae yna fesurau ehangach sy’n cyfrannu ymhellach at sicrhau bod y mecanwaith CfD yn addas i’r diben, gan gynnwys y Bonws Diwydiant Glân (gweler y bennod ‘Cadwynau cyflenwi a gweithlu’) a diwygiadau i’r gyfundrefn codi tâl rhwydwaith mewn pryd ar gyfer rowndiau dyrannu CfD yn y dyfodol (gweler y bennod ‘Diwygiadau i farchnadoedd trydan’).
Cydlynu’r rhyngweithio rhwng tyrbinau gwynt a seilwaith hedfanaeth sifil ac amddiffyn
Rhaid cynhyrchu tyrbinau gwynt mewn ffordd nad yw’n ymyrryd â hedfanaeth a systemau gwyliadwriaeth amddiffyn. Ar hyn o bryd, mae gofynion yn cael eu gosod ar brosiectau gwynt ar y tir ac ar y môr arfaethedig sy’n effeithio ar gapasiti o fwy na 20 GW[footnote 76] . Felly, mae nodi a gweithredu atebion interim a pharhaus i’r broblem hirdymor hon yn hanfodol ar gyfer Pŵer Glân 2030.
Mae’r llywodraeth wedi bod yn gweithio gyda Chyngor y Diwydiant Gwynt ar y Môr drwy Dasglu ar y Cyd i sbarduno cytundebau cydweithredol, gan geisio dod o hyd i ateb/atebion er mwyn i seilwaith gwynt ar y môr a radar milwrol allu cydfodoli nawr ac yn y dyfodol. Mae Tasglu’r Diwydiant Gwynt ar y Tir wedi sefydlu ei weithgor ar hedfanaeth ac amddiffyn i adolygu’r un materion.
Radar milwrol
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) wedi lansio Rhaglen Njord, a fydd yn gweithio gyda chydweithwyr o DESNZ, Ystâd y Goron, Ystâd y Goron yr Alban, y llywodraethau datganoledig a Chyngor y Diwydiant Gwynt ar y Môr i ganfod, caffael a gweithredu mesurau lliniaru i ddatrys y broblem hon ar gyfer radar milwrol.
Bydd costau llawn yr atebion lliniaru radar tymor hir a nodwyd gan y Rhaglen Njord yn cael eu hariannu drwy lwybr amgen, sy’n cael ei ddarparu gan y llywodraeth, ac felly mae’r gofyniad cyllido yn cael ei dynnu oddi ar ddatblygwyr ynni gwynt ar y môr.
Ar gyfer datblygiadau ynni gwynt ar y tir sy’n effeithio ar hedfanaeth filwrol, mae DESNZ a’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gweithio’n gyflym i geisio mesurau lliniaru derbyniol.
Radar sifil
- Mae’ DESNZ a’r Adran Drafnidiaeth yn gweithio gyda’r Awdurdod Hedfanaeth Sifil a’r diwydiant hedfanaeth i gytuno ar broses dryloyw a theg ar gyfer datrys gwrthwynebiadau.
- Mae Tasglu’r Diwydiant Gwynt ar y Tir yn edrych ar y dull gweithredu penodol gorau, a bydd yn nodi rhagor o fanylion i liniaru gwrthwynebiadau radar sifil yn Natganiad Polisi’r Tasglu sydd ar y gweill.
Eskdalemuir
Mae Arae Seismig Eskdalemuir yn gyfleuster yn ne’r Alban sy’n monitro gweithgarwch niwclear byd-eang. Mae tyrbinau gwynt yn cynhyrchu dirgryniadau seismig ar y ddaear a all effeithio ar yr Arae. Er mwyn diogelu’r Arae, mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn rheoli capasiti sŵn seismig cyfyngedig i atal peryglu galluoedd canfod yr Arae. Mae Llywodraeth yr Alban, y Weinyddiaeth Amddiffyn a DESNZ yn cydweithio i weithredu dull wedi’i ddiweddaru o reoli datblygiadau ar y tir o amgylch yr Arae.
- Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn ymgynghori ar eu dull o ddiogelu’r Arae, ac yn dilyn rhagor o waith gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, bydd Llywodraeth yr Alban yn ymgynghori ar ei chanllawiau rheoli datblygu ar gyfer prosiectau gwynt ar y tir newydd ym ardal ymgynghori Eskdalemuir. Bydd hyn yn cynnwys cynnig ynghylch sut y gellir gwneud y defnydd gorau o ynni gwynt ar y tir yn ardal ymgynghori’r arae.
- Bydd Tasglu’r Diwydiant Gwynt ar y Tir yn parhau i archwilio’r materion hyn a bydd yn adrodd erbyn gwanwyn 2025, gan roi sylw i amrywiaeth o faterion o gadwyni cyflenwi a sgiliau, i hedfanaeth ac amddiffyn.
Datblygu Prosiect Great British Energy
Mae datblygwyr yn wynebu risgiau uchel, costau cynyddol, ac oedi hir i brosiectau ynni a ddatblygir yn y DU, gan arafu ein cyfradd defnyddio. Ochr yn ochr â newid prosesau, mae angen cyflymu sylweddol o ran darparu yn y DU er mwyn bodloni Pŵer Glân 2030. Bydd GBE yn cyflymu’r gwaith o gyflawni prosiectau ynni glân ar y tir ac ar y môr drwy arwain neu gyd-arwain (ochr yn ochr â phartneriaid yn y sector cyhoeddus a phreifat) prosiectau drwy’r cyfnod cyn datblygu ac, mewn rhai achosion, adeiladu a gweithredu – dechrau ar y gwaith yn gyflymach a gwella diogelwch ynni’r DU drwy brosiectau ynni sy’n eiddo cyhoeddus.
- Ar dir preifat, bydd GBE yn cyd-fynd â chyhoeddiadau NESO ac ymateb y llywodraeth i nodi lleoliadau ar gyfer prosiectau cenhedlaeth newydd lle mae angen capasiti ychwanegol i gefnogi anghenion system ynni gofodol ac ehangach y DU. Bydd GBE yn gweithio mewn partneriaeth â’r sector preifat i ddarparu’r cyfleoedd hyn a darparu gwasanaeth sy’n ychwanegol at y farchnad, gan fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd daearyddol a chyflymu’r defnydd o ynni glân.
- Bydd GBE hefyd yn datblygu ar dir cyhoeddus, gan ddatgloi cwmpas ychwanegol ar gyfer capasiti cynhyrchu ar ystadau sy’n eiddo i’r llywodraeth i gefnogi datgarboneiddio, gan gynnwys mewn partneriaeth â’r sector preifat. Bydd GBE yn ceisio gweithio gyda’r llywodraeth i gael mynediad at y tir a gweithio mewn partneriaeth â thirfeddianwyr y llywodraeth a fydd yn cynnal asedau cynhyrchu ac yn darparu pŵer yn uniongyrchol i adeiladau cyhoeddus, yn ogystal â chysylltu â’r grid.
Bydd datblygu ar dir cyhoeddus a phreifat yn cefnogi capasiti cynhyrchu ar raddfa fawr mewn ardaloedd strategol allweddol yn y DU, gan wella effeithlonrwydd systemau a chyflymu’r gyfradd weithredu gyffredinol.
Datgloi ynni lleol a chymunedol
Mae llawer o’r capasiti cynhyrchu a fydd yn cael ei ddefnyddio erbyn 2030 yn debygol o ddod o seilwaith ynni masnachol ar raddfa fawr. Fodd bynnag, bydd ynni adnewyddadwy lleol a chymunedol hefyd yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gyflawni ein huchelgeisiau, gan gyfrannu at y gymysgedd capasiti ar sail gyfun, gan sicrhau manteision lleol sylweddol a lleihau colledion systemau rhwydwaith drwy ddod â’r cyflenwad cynhyrchu yn nes at y galw am drydan. Gall cynhyrchu pŵer yn lleol ac yn gymunedol gyfrannu’n sylweddol at ffyniant mannau lleol, lleihau biliau trydan, annog pobl i ymgysylltu â’r economi werdd, darparu cadernid ynni, a hyrwyddo swyddi sgiliedig.
- Dyna pam y bydd un o bum swyddogaeth GBE yn darparu cymorth i gyflawni’r Cynllun Pŵer Lleol, gan roi awdurdodau lleol a chymunedau wrth galon ailstrwythuro ein heconomi ynni. Bydd GBE yn gweithio mewn partneriaeth ac yn darparu cyllid a chefnogaeth i Awdurdodau Lleol, Awdurdodau Cyfun Maerol, Grwpiau Ynni Cymunedol ac eraill, yn ogystal â gweithio gyda a thrwy’r llywodraethau datganoledig, i gyflwyno prosiectau ynni lleol a chymunedol (ynni gwynt ar y tir a solar yn bennaf) i ddatblygu hyd at 8 GW o bŵer glân yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gefnogi Cenhadaeth Ynni Glân 2030.
Ochr yn ochr â gwaith GBE, mae’r llywodraeth hefyd yn cymryd camau penodol i ddileu rhwystrau i ddefnyddio ynni lleol, a’i hyrwyddo. Bydd y rhain yn cefnogi defnydd ledled lleoliadau lleol:
Mewn cartrefi a busnesau lleol:
Mae potensial mawr ar gyfer gosod paneli solar ar doeau ar draws sectorau diwydiannol a warysau’r DU. Mae ymchwil a gomisiynwyd gan Gymdeithas Warysau’r DU (UKWA) yn dangos bod 20% o warysau mwyaf y DU yn unig yn gallu darparu 75 miliwn metr sgwâr o ofod to, ac mae gan bob gofod to ar warysau y potensial i gynnal hyd at 15 GW o gapasiti solar ar y to[footnote 77].
- Mae’r Tasglu Solar wedi edrych ar gamau gweithredu’r llywodraeth a’r diwydiant a all ddatgloi’r potensial hwn drwy ei is-grŵp ar y to a bydd yn cyhoeddi’r Trywydd Solar yng Ngwanwyn 2025.
Cyflwynir safonau newydd y flwyddyn nesaf a fydd yn diwygio’r safonau effeithlonrwydd ynni yn y Rheoliadau Adeiladu yn Lloegr. Bydd hyn yn sicrhau bod pob cartref ac adeilad newydd yn Lloegr yn barod ar gyfer dim carbon, sy’n golygu y byddant yn ddi-garbon pan fydd y grid trydan yn datgarboneiddio heb yr angen am unrhyw waith ôl-osod. Cafodd ymgynghoriad Safonau Cartrefi ac Adeiladau’r Dyfodol ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2023 a daeth i ben ym mis Mawrth 2024. Mae’n nodi cynigion technegol manwl ar gyfer yr hyn y gallai safonau yn y dyfodol ei olygu, gan gynnwys cynigion sy’n ymwneud â phaneli solar.
- Rydym yn adolygu cynigion ac adborth o’r ymgynghoriad a byddwn yn cyhoeddi ymateb y llywodraeth maes o law.
Fel rhan o Gynllun Cartrefi Clyd y llywodraeth, rydym yn ystyried y rôl y gallai cyllid ei chwarae o ran cefnogi perchnogion tai gyda chostau ymlaen llaw gwelliannau effeithlonrwydd ynni, paneli solar, a gosod systemau gwresogi carbon isel.
- Gall solar fod yn ffordd gost-effeithiol o ostwng biliau ynni aelwydydd sy’n dlawd o ran tanwydd, yn enwedig wrth baru hynny â mabwysiadu pympiau gwres, ac mae’n fesur cymwys mewn rhaglenni presennol fel y Grant Cartrefi Clyd Lleol a’r Gronfa Tai Cymdeithasol Cartrefi Clyd. Byddwn yn darparu rhagor o fanylion ynghylch sut arall y gellid cefnogi solar yn y Cynllun Cartrefi Clyd ar ôl ail gam yr Adolygiad o Wariant.
Mewn mannau a rennir:
Mae meysydd parcio awyr agored yn cynnig potensial i ddefnyddio canopïau solar sy’n darparu trydan glân, potensial ar gyfer gwefru cerbydau trydan a lloches i geir. Ar ôl rhoi hawl datblygu newydd a ganiateir ar waith er mwyn gallu gosod canopïau solar mewn meysydd parcio annomestig oddi ar y stryd yn Lloegr, mae’n haws ac yn gyflymach defnyddio’r dechnoleg hon erbyn hyn.
- Bydd y llywodraeth yn asesu’r potensial i sbarduno adeiladu canopïau solar ar feysydd parcio awyr agored dros faint penodol drwy alwad am dystiolaeth y flwyddyn nesaf.
Yn olaf, mae gan swyddogaeth cynghori a benthyca awdurdodau lleol y Gronfa Cyfoeth Cenedlaethol £4 biliwn o gyfalaf. Mae’n cynnig: gwasanaethau cynghori masnachol ac ariannol i helpu awdurdodau lleol i ymgymryd â phrosiectau uchelgeisiol yn hyderus; a benthyca ar delerau hyblyg ar gyfradd sy’n arwain y farchnad i awdurdodau lleol sy’n datblygu prosiectau, gan gynnwys yn y sector ynni glân.
Rheoli asedau sy’n cyrraedd diwedd y cymorth presennol
Cyflwynwyd y cynllun Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy (RO) ledled y DU yn 2002 ar gyfer Prydain Fawr (2005 ar gyfer Gogledd Iwerddon) ac ar hyn o bryd mae’n cefnogi tua 30% o gyflenwad trydan y DU[footnote 78]. Mae’n cynnwys tair rhwymedigaeth ar wahân ond ategol ar gyfer Cymru a Lloegr, a’r Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae wedi cau i’r rhan fwyaf o ymgeiswyr newydd ers 2017. Llywodraeth yr Alban sy’n rhedeg Cynllun Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy’r Alban ac rydym yn gweithio gyda nhw wrth i ni edrych ymlaen at gamau nesaf y RO.
O 2027 ymlaen, bydd nifer fawr o asedau adnewyddadwy yn rhoi’r gorau i gael cymorth RO. Gyda’i gilydd, ledled y cynlluniau RO yn y DU, bydd tua 1,000 o eneraduron RO gweithredol ar gapasiti o tua 9 GW yn cyrraedd diwedd y cymhorthdal erbyn Rhagfyr 2030[footnote 79]. Os bydd yr asedau hyn yn dod i ben yn gynnar, byddai’n rhaid i’r defnydd adnewyddadwy sydd ei angen i gyflawni targedau Pŵer Glân 2030 a CB6 gynyddu er mwyn llenwi’r bwlch ar ôl colli’r ynni adnewyddadwy hwn.
- Rydym wedi cynnal arolwg o gynhyrchwyr RO presennol i gasglu tystiolaeth safle-benodol ar gynlluniau ar gyfer y dyfodol ac rydym yn cynnal dadansoddiad pellach i hysbysu opsiynau polisi posibl i reoli’r risg hon.
- Rydym eisoes wedi gwneud penderfyniad i alluogi mynediad at y CfD ar gyfer ynni gwynt ar y tir wedi’i ail-bweru o Rownd Ddyrannu 7[footnote 80] i sicrhau bod llwybr at gynhyrchu parhaus ar gyfer prosiectau sy’n gofyn am fuddsoddiad cyfalaf sylweddol i barhau â’r gweithrediadau.
- Rydym hefyd yn rhoi mesurau ehangach ar waith a fydd yn cefnogi’r gwaith o ail-bweru ac ymestyn oes asedau adnewyddadwy, gan gynnwys drwy bolisi cynllunio a thrwy waith Ofgem ar estyniadau i oes asedau Perchnogion Trawsyrru ar y Môr (OFTO).
Biomas: cynhyrchiant carbon isel cadarn a hyblyg presennol
Gellir defnyddio biomas o ffynonellau cynaliadwy fel tanwydd carbon isel ar gyfer cynhyrchu trydan adnewyddadwy[footnote 81] ac felly gallai chwarae rhan bwysig ar gyfer Pŵer Glân 2030 drwy ddarparu dulliau cynhyrchu hyblyg neu gadarn. Y llynedd, darparodd ffynonellau trydan biogenig, gan gynnwys biomas confensiynol, treulio anaerobig ac ynni biogenig o wastraff bron i 34TWh (sy’n cyfateb i 25% o holl drydan adnewyddadwy’r DU a 12% o gyfanswm y trydan a gynhyrchir)[footnote 82].
Mae trefniadau cymorth ar gyfer amrywiaeth o eneraduron biomas mawr a bach (gan gynnwys technolegau bio-nwy) yn dod i ben erbyn 2030, neu’n gynharach. Ymgynghorodd y llywodraeth flaenorol ar gefnogaeth yn y dyfodol i fiomas ar raddfa fawr[footnote 83]. Mae’r llywodraeth bresennol yn ystyried a oes achos gwerth am arian cryf i ddarparu cymorth i’r generaduron hyn yn y dyfodol. Byddai angen i unrhyw gymorth yn y dyfodol roi mwy o ddiogelwch i ddefnyddwyr a byddai’n amodol ar feini prawf cynaliadwyedd cadarn. Nid oes penderfyniadau wedi’u gwneud eto; fodd bynnag, rydym yn bwriadu ymateb i’r ymgynghoriad cyn bo hir.
Mae gan weithfeydd biomas ar raddfa fawr y potensial hefyd i newid i bŵer BECCS. Gall y dechnoleg casglu carbon hon gyfuno trosi biomas cynaliadwy, bio-nwy a gwastraff biogenig yn drydan, gan ddal canran uchel o’r allyriadau CO2 sydd yn y biomas hwnnw mewn storfeydd hirdymor drwy secwestriad daearegol. Mae gan bŵer BECCS ar raddfa fawr y potensial i gefnogi trydan carbon isel a chyflawni allyriadau negyddol, gan helpu i gydbwyso allyriadau gweddilliol o sectorau anodd eu lleihau.
Niwclear a thechnolegau datblygol
Niwclear
Bydd niwclear yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni Pŵer Glân 2030 yn y Deyrnas Unedig a’n hamcanion sero net hirdymor drwy ddarparu pŵer sylfaenol carbon isel cadarn ar raddfa ochr yn ochr â chynhyrchu ynni adnewyddadwy ysbeidiol – gweler Tabl 2.
Tabl 2: Adweithyddion niwclear a fydd yn effeithio ar gapasiti gosodedig yn 2030
Gorsaf Ynni Niwclear | Math o adweithydd(ion) | Capasiti | Statws |
---|---|---|---|
Heysham 1 | Adweithydd Nwy-oeredig Datblygedig | 1.1 GW | Ar-lein – disgwylir iddo ddod all-lein yn 2027 ar hyn o bryd |
Hartlepool | Adweithydd Nwy-oeredig Datblygedig | 1.2 GW | Ar-lein – disgwylir iddo ddod all-lein yn 2027 ar hyn o bryd |
Heysham 2 | Adweithydd Nwy-oeredig Datblygedig | 1.2 GW | Ar-lein – disgwylir iddo ddod all-lein yn 2030 ar hyn o bryd |
Torness | Adweithydd Nwy-oeredig Datblygedig | 1.2 GW | Ar-lein – disgwylir iddo ddod all-lein yn 2030 ar hyn o bryd |
Sizewell B | Adweithydd Dŵr Gwasgeddedig | 1.2 GW | Ar-lein – disgwylir iddo ddod all-lein yn 2035 ar hyn o bryd |
Hinkley Point C | Adweithydd gwasgeddedig Ewropeaidd | 3.2 GW | Adeiladu – disgwylir iddo ddod ar-lein rhwng 2029 a 2031 |
Er mwyn helpu i ddarparu Pŵer Glân 2030, bydd y llywodraeth yn gweithio gydag EDF i gefnogi’r gwaith o ddarparu Hinkley Point C, gydag Uned 1 i fod i gael ei chwblhau rhwng 2029 a 2031, gan alluogi defnyddwyr i elwa o gynhyrchiant y prosiect cyn gynted â phosibl. Mae EDF hefyd wedi cadarnhau y byddant yn ymestyn ymhellach fywydau’r pedair gorsaf Adweithydd Nwy-oeredig Datblygedig (AGR), yn dilyn arolygiadau a chymeradwyaethau rheoleiddiol. Mae hyn yn golygu bod disgwyl i ddau o’r fflyd AGR, Heysham 2 a Torness, fod yn cynhyrchu ac yn darparu pŵer glân tan 2030.
Gallai effaith y gweithgareddau hyn fod yn arwyddocaol o ran helpu i sicrhau cyflenwad dibynadwy o drydan carbon isel, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a chefnogi datgarboneiddio cyffredinol y sector pŵer. Fodd bynnag, mae ansicrwydd yn gysylltiedig â chael Hinkley Point C ar-lein erbyn diwedd y degawd, o ystyried yr oedi yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Fel y nodir yn y Gyllideb, mae’r llywodraeth hefyd yn bwrw ymlaen â’r ymyriadau ar ôl cenhedlaeth 2030, gyda’r penderfyniadau terfynol ar Sizewell C a’r rhaglen Adweithydd Modiwlaidd Bach dan arweiniad Niwclear Prydain Fawr yn cael eu gwneud yn yr Adolygiad o Wariant. Bydd y Llywodraeth yn parhau i geisio symleiddio prosesau rheoleiddio, a meithrin arloesedd mewn technoleg niwclear, i sicrhau bod niwclear yn parhau i chwarae rhan bwysig yn y newid i sero net ar ôl 2030. Rydym hefyd yn cydnabod polisi Llywodraeth yr Alban o beidio â chefnogi datblygiadau niwclear newydd yn yr Alban.
Technolegau adnewyddadwy datblygol
Er bod disgwyl i dechnolegau adnewyddadwy datblygol, fel gwynt arnofiol ar y môr a ffrwd lanw, chwarae rôl gyfyngedig yng nghymysgedd ynni 2030, gallai ein gallu i’w defnyddio ar raddfa fawr fod yn bwysig i gyflawni amcanion datgarboneiddio tymor hwy y DU. Er enghraifft, gallai gwynt arnofiol ar y môr ddatgloi’r gallu i fanteisio ar y gwyntoedd cryf mewn dyfnderoedd dŵr dyfnach, gan ddarparu capasiti ychwanegol wrth i wely’r môr ddod yn fwyfwy cyfyngedig. Gallai technolegau datblygol hefyd ddarparu manteision system ehangach, gan gynnwys drwy alluogi defnyddio ynni adnewyddadwy mewn amrywiaeth eang o leoliadau neu gynhyrchu pŵer nad yw’n cydberthyn i ffynonellau ynni eraill, fel ffrwd lanw.
Ar ben hynny, gallai buddsoddiad cynnar mewn defnyddio technolegau newydd fel gwynt arnofiol ar y môr ddarparu manteision economaidd ehangach a chyfleoedd allforio i’r DU.[footnote 84] Mae’r bennod Cadwyni Cyflenwi a’r Gweithlu yn nodi rhagor o fanylion ynghylch sut mae’r llywodraeth yn gwireddu’r buddion hyn, fel drwy’r Cynllun Buddsoddi mewn Gweithgynhyrchu Ffermydd Gwynt Arnofiol ar y Môr.
Mae gan y DU eisoes y llif mwyaf yn y byd o brosiectau gwynt arnofiol ar y môr sy’n seiliedig ar wely’r môr sydd wedi’i neilltuo, gan gynnwys tua 25 GW sydd eisoes yn cael ei ddatblygu yn yr Alban. Mae Ystâd y Goron wedi darparu gwely’r môr sy’n gallu cefnogi hyd at 4.5 GW arall yn y Môr Celtaidd, a bydd y bartneriaeth a gyhoeddwyd rhwng GBE ac Ystâd y Goron yn cyflwyno datblygiadau gwynt newydd ar y môr.
Bydd y llywodraeth yn parhau i weithio gyda’r diwydiant i ganfod ffyrdd o gefnogi’r gwaith o ddatblygu technolegau cynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd arloesol i sicrhau eu bod yn gallu chwarae’r rhan angenrheidiol yng nghymysgedd ynni hirdymor y DU. Roedd ymateb y llywodraeth i’r ymgynghoriad ar ddiwygiadau i’r cynllun Contractau ar gyfer Gwahaniaeth yn cyhoeddi y byddai prosiectau gwynt arnofiol ar y môr sy’n llwyddiannus mewn rowndiau dyrannu yn y dyfodol yn cael y gallu i adeiladu mewn hyd at dri cham, gan roi mwy o hyblygrwydd i ddatblygwyr yn ystod y cam adeiladu a lleihau risg i brosiectau[footnote 85]. Bydd y Gronfa Cyfoeth Genedlaethol hefyd yn parhau i archwilio cyfleoedd i ariannu prosiectau cynhyrchu ynni adnewyddadwy dechreuol, gan geisio denu cyfalaf preifat iddynt a galluogi gwneud penderfyniadau buddsoddi terfynol.
Y camau nesaf
Rydym yn disgwyl y bydd y camau gweithredu a nodir uchod, a gyflawnir ochr yn ochr â chamau galluogi trawsbynciol mewn penodau eraill, yn gosod y fframwaith ar gyfer cyflwyno ynni adnewyddadwy a niwclear sydd ei angen i fodloni amrediad capasiti pŵer glân 2030. Ond bydd angen cymryd camau pellach i sicrhau bod y prosiectau hyn yn cael eu cyflawni, a bydd Uned Pŵer Glân 2030 yn parhau i weithio ar draws y llywodraeth, y gweinyddiaethau datganoledig a’r diwydiant i sicrhau bod camau galluogi yn cael eu rhoi ar waith.
Mae hyn yn cynnwys drwy waith parhaus Cyngor y Diwydiant Gwynt ar y Môr, y Tasglu Solar a Thasglu’r Diwydiant Gwynt ar y Tir, a thrwy fynd i’r afael â risgiau cyflawni ar gyfer prosiectau adnewyddadwy wrth iddynt ddod i’r amlwg (gweler yr astudiaeth achos isod fel enghraifft).
Yn y gwledydd datganoledig, mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i gyflawni’r targed hwn ar gyfer Prydain gyfan, gyda chamau gweithredu fel Gweledigaeth Solar arfaethedig Llywodraeth yr Alban, y bydd ei hymrwymiadau’n golygu bod modd defnyddio mwy o ynni solar yn yr Alban.
Cerrig milltir allweddol ar y gweill:
- Bydd y Trywydd Solar ac adroddiad Tasglu’r Diwydiant Gwynt ar y Tir yn cael eu cyhoeddi erbyn Gwanwyn 2025.
- Bydd ymgynghoriad ar ddiwygiadau perthnasol i’r cynllun Contractau ar gyfer Gwahaniaeth yn cael ei gyhoeddi ddechrau 2025.
- Bydd yr ymateb i’r ymgynghoriad ar Safonau Cartrefi ac Adeiladau’r Dyfodol yn cael ei gyhoeddi maes o law.
- Bydd rhagor o fanylion am y Cynllun Cartrefi Clyd yn cael eu cyhoeddi ar ôl ail gam yr Adolygiad o Wariant.
- Bydd cais am dystiolaeth ar y potensial i ddefnyddio canopïau solar ar feysydd parcio dros faint penodol yn cael ei gyhoeddi y flwyddyn nesaf.
- Bydd yr ymateb i’r ymgynghoriad ar y cymorth pontio arfaethedig ar gyfer biomas ar raddfa fawr yn cael ei gyhoeddi maes o law.
Astudiaeth Achos: Rheoli risgiau sy’n dod i’r amlwg ar gyfer cyflawni prosiectau – effeithiau sgil-wynt
Mae effeithiau sgil-wynt yn digwydd pan fydd tyrbinau gwynt yn tarfu ar lif aer i dyrbinau eraill ac yn lleihau faint o ynni sy’n cael ei gynhyrchu ar gyfer y prosiectau hynny.
Mae gan brosiectau newydd gyda thyrbinau mwy a/neu fwy o dyrbinau fwy fyth o duedd i achosi effeithiau sgil-wynt ar brosiectau gweithredol presennol. Yn hanesyddol, mae hyn wedi cael ei ddatrys y tu allan i’r system gynllunio, ond gosodwyd cynsail gydag amod sgil-wynt yng Ngorchymyn Cydsyniad Datblygu Awel y Môr 2023, a oedd yn dweud “Ni ddylid codi unrhyw ran o unrhyw eneradur tyrbin gwynt fel rhan o’r datblygiad awdurdodedig nes bydd asesiad o unrhyw effeithiau sgil-wynt a darpariaethau dylunio dilynol i liniaru unrhyw effeithiau o’r fath a nodwyd cyn belled ag y bo modd wedi’u cyflwyno”[footnote 86].
Wrth i ni gyflymu’n sylweddol y gwaith o ddefnyddio ynni gwynt ar y môr yn y DU i gyrraedd ein targed ar gyfer 2030, rydym yn deall yr ansicrwydd y mae’r mater hwn sy’n dod i’r amlwg wedi’i greu ar ffermydd gwynt gweithredol a’r rheini sy’n cael eu datblygu, gan gynnwys tua 10 GW o gapasiti gwynt ar y môr cyn 2030 yn y system gynllunio ar hyn o bryd.
Byddai Uned Pŵer Glân 2030 yn ceisio casglu barn arbenigol gan gynllunwyr, peirianwyr, academyddion, darparwyr prosiectau, gwyddonwyr data a pholisi i ddeall yr ysgogiadau y gallwn eu defnyddio yn y gofod hwn, gan weithio gyda rhanddeiliaid fel Ystâd y Goron, Ystâd y Goron yn yr Alban, yr Arolygiaeth Gynllunio, ORE Catapult a’r diwydiant i gasglu’r data ac adeiladu sylfaen dystiolaeth, gan chwilio am fesurau lliniaru gyda phartneriaid rhyngwladol a diwydiannau eraill.
Diwygio ein marchnadoedd trydan
Crynodeb
Mae cyflawni Pŵer Glân erbyn 2030 yn gofyn am ddull gweithredu uchelgeisiol sydd wedi’i gynllunio’n weithredol gan y llywodraeth a busnesau. Mae angen gweithredu i siapio a galluogi marchnadoedd effeithiol. Mae’r dull hwn yn ganolog i’r gwaith o ddatblygu a gweithredu system 2030 ac wrth i’r system ddod yn fwy gwasgaredig a hyblyg yn 2030 a thu hwnt, bydd yn tyfu o ran pwysigrwydd. Er mwyn llwyddo i ddarparu pŵer glân erbyn 2030, mae angen i ni wneud y canlynol:
Cefnogi sicrwydd buddsoddwyr drwy sicrhau bod diwygiadau i’r farchnad gyfanwerthol, fel sy’n cael eu datblygu o dan y rhaglen Adolygu Trefniadau’r Farchnad Drydan (REMA), yn cael eu cyflawni’n gyflym a bod cynnydd tuag at gyflawni yn cael ei gyfleu’n glir. Byddwn yn gwneud hyn drwy:
- Cyhoeddi diweddariad REMA ochr yn ochr â’r Cynllun Gweithredu 2030 hwn i roi rhagor o eglurder ynghylch sut y gellid dylunio ein marchnad drydan yn y dyfodol;
- Ymrwymo i benderfyniad ar draws rhaglen REMA erbyn tua chanol 2025 ac mewn pryd ar gyfer y rownd ddyrannu CfD nesaf (AR7); a
- Cefnogi mesurau dros dro gan NESO ac Ofgem, yn y farchnad gydbwyso ac ar TNUoS yn y drefn honno, tra bo rhaglen REMA yn cael ei chwblhau.
Diwygio’r Farchnad Capasiti i ddarparu llwybrau clir a hyfyw at ddatgarboneiddio ar gyfer nwy di-dor, galluogi capasiti hyblyg carbon isel, gan gynnwys hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr i gynyddu ei gyfraniad at ddiogelwch cyflenwad, a chymell buddsoddiad mewn capasiti presennol.
Cyflymu diwygiadau i farchnadoedd cydbwyso, cynnal gweithrediad y system a diwygiadau i godi tâl rhwydweithiau i sicrhau y gellir gweithredu’r system drydan yn ddiogel ac yn gost-effeithiol.
Datgloi potensial llawn hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr drwy ddarparu Setliad Fesul Hanner Awr ar draws y Farchnad yn amserol yn y farchnad adwerthu.
Mae’r mesurau a nodir yn y bennod hon yn ceisio denu buddsoddiad mewn cynhyrchu carbon isel a hyblygrwydd ar yr un pryd â chreu arbedion effeithlonrwydd wrth weithredu yn y farchnad. Mae’r cynigion isod yn mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu ein system drydan ar hyn o bryd a byddant yn gweithio ochr yn ochr â’n hymdrechion parhaus i sbarduno’r gwaith o gyflwyno cynhyrchiant carbon isel a symud oddi wrth gynhyrchiant nwy di-dor, gan gynnal diogelwch y cyflenwad ar yr un pryd.
Yr her
Er bod yn rhaid i’r wladwriaeth chwarae rhan fel pensaer y system, mae marchnadoedd yn parhau i fod yn ganolog i’r gwaith o ddatblygu, darparu a gweithredu’r system bŵer. Derbynnir yn eang bod angen i’r gwaith o sefydlu ein marchnad drydan gyda rheoliadau a chymhellion cysylltiedig addasu i siâp ein system bŵer fydd yn cael ei dominyddu gan ynni adnewyddadwy yn y dyfodol. Mae’r angen hwn i addasu yn cael ei gydnabod yn yr ystod o raglenni diwygio a mesurau sy’n cael eu cyflawni gan y llywodraeth, gan gynnwys REMA, sy’n ystyried y trefniadau marchnad parhaus sydd eu hangen ar gyfer y 2030au a thu hwnt.
Mae angen i’r gwaith o ddarparu pŵer glân erbyn 2030 fynd rhagddo’n gyflym wrth i ni sicrhau bod marchnadoedd trydan yn cael eu hailgynllunio ar gyfer y tymor hir. O ystyried yr effaith y bydd diwygiadau i’r farchnad yn ei chael ar ddyfodol hirdymor ein system ynni, mae’n hanfodol bod y diwygiadau posibl yn cael eu hystyried yn briodol ac yn drylwyr. Er mwyn buddsoddi ac adeiladu ar y raddfa a’r cyflymder sy’n angenrheidiol i gyflawni ein targed ar gyfer 2030, rydym yn cydnabod bod yn rhaid i’r llywodraeth roi mwy o eglurder i fuddsoddwyr ynghylch risgiau tymor byr, a chanlyniadau tymor hir yn sgil newidiadau i bolisïau a’r farchnad. Felly, mae’r bennod hon yn nodi ffordd glir ymlaen ac amserlen ar gyfer y rhaglen waith hon, ynghyd â’r diweddariad REMA cysylltiedig a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r cynllun hwn.
Gweithredu
Rydym wedi nodi pedwar maes allweddol sy’n gofyn am weithredu a chyfeiriad clir, er mwyn gallu darparu a chynnal system pŵer glân erbyn 2030. Mae rhai o’r camau gweithredu hyn yn galw am ddatblygu polisi ychwanegol, ac mae meysydd eraill yn galw am gyflymu diwygiadau presennol i ddatrys heriau presennol yn y farchnad. Dyma’r camau gweithredu hyn:
- Pennu cyfeiriad clir ar gyfer diwygio’r farchnad gyfanwerthu
- Diwygio’r Farchnad Gapasiti
- Cyflymu diwygiadau i farchnadoedd cydbwyso, cynnal gweithrediad y system a diwygiadau i’r broses o godi tâl rhwydweithiau
- Diwygio’r farchnad adwerthu er mwyn darparu’n well i ddefnyddwyr
Pennu cyfeiriad clir ar gyfer diwygio’r farchnad gyfanwerthu
Mae’r Llywodraeth yn ceisio lleihau’r ansicrwydd sy’n deillio o newid polisi a rheoleiddio cymaint â phosibl, er mwyn lleihau maint y risgiau polisi a rheoleiddio, sy’n gallu bod yn rhwystr sylweddol i fuddsoddi. Rydym wedi ystyried ystod eang o opsiynau ar gyfer diwygio’r farchnad gyfanwerthol. Ochr yn ochr â’r Cynllun Gweithredu hwn, mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi Diweddariad yr Hydref ar REMA gan roi mwy o eglurder ynghylch statws y gwahanol opsiynau tymor hwy ar gyfer diwygio’r farchnad. Mae’n amlwg nad yw “dim newid” yn opsiwn mewn unrhyw sefyllfa.
Rydym wedi lleihau datblygiad polisi i wella arwyddion lleoliadol a gweithredol i ddwy set o opsiynau: prisio yn ôl parthau (lle mae’r farchnad gyfanwerthu trydan sengl yn cael ei rhannu’n sawl parth) a chadw prisiau cenedlaethol ochr yn ochr ag amrywiaeth o ddiwygiadau i’w threfniadau presennol. Er nad oes penderfyniad wedi’i wneud eto rhwng prisio yn ôl parthau neu brisiau cenedlaethol diwygiedig, ac mae’r ddau opsiwn yn cael eu hystyried yn gyfartal, mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud o ran lleihau’r opsiynau, gyda datblygiad polisi’n parhau’n gyflym.
Rydym yn parhau i gynnal dadansoddiad pellach ac rydym yn anelu at gwblhau cam datblygu polisi rhaglen REMA ar draws pob maes polisi erbyn canol 2025. Byddwn yn sicrhau bod yr amserlenni REMA hyn yn cyd-fynd â’r amserlen ar gyfer rownd ddyrannu nesaf CfD (AR7). Felly, rydym yn bwriadu cyhoeddi’r penderfyniadau terfynol ar REMA a’r amserlen ar gyfer eu gweithredu, yn enwedig mewn perthynas â diwygio’r farchnad gyfanwerthol ac unrhyw drefniadau pontio neu etifeddol, cyn i’r arwerthiannau AR7 agor, gan roi eglurder i fuddsoddwyr ar gyfer darpar fidiau. Byddwn yn ceisio darparu eglurder parhaus i’r diwydiant, lle bo hynny’n bosibl, drwy gydol y cyfnodau penderfynu a phontio.
Rydym yn cydnabod bod diwygio sylweddol yn y farchnad yn creu ansicrwydd i fuddsoddwyr a chyfranogwyr yn y farchnad. Mae’r Llywodraeth yn cydnabod y goblygiadau posibl ar gyfer cost cyfalaf o ganlyniad i drosglwyddo risg lleoliadol i gynhyrchwyr. Byddwn yn ystyried y ffactorau hyn yn ein Dadansoddiad Cost a Budd ac mewn penderfyniadau terfynol ynghylch a ddylid cyflwyno prisio yn ôl parthau neu brisiau cenedlaethol diwygiedig. Fodd bynnag, nid yw dim newid yn opsiwn hyfyw o ystyried y newidiadau sylweddol yn y cymysgedd cynhyrchu a fydd yn digwydd. Yng nghyhoeddiad REMA, rydym yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu polisi ar gyfer trefniadau gwaddol a threfniadau pontio. Mae hyn yn cynnwys:
- Cadarnhau ein hymrwymiad i drin cytundebau o dan y rown ddyrannu CfD nesaf yn yr un ffordd â chytundebau CfD presennol, mewn perthynas ag unrhyw drefniadau gwaddol neu bontio.
- Nodi ein disgwyliad, pe bai prisio yn ôl parthau yn cael ei gyflwyno, y byddai contractau CfD presennol ac AR7 yn cael eu diwygio i ddefnyddio pris cyfeirio parthau lleol, gan ynysu’r cytundebau rhag risg pris parthau.
Diwygio’r Farchnad Gapasiti: Newidiadau tymor byr i sicrhau diogelwch y cyflenwad a chefnogi’r newid i Bŵer Glân 2030
Fel prif fecanwaith Prydain Fawr ar gyfer sicrhau cyflenwad, rydyn ni’n cynnig cyfres o ddiwygiadau tymor agos i’r Farchnad Capasiti a fydd yn cyfrannu at Bŵer Glân 2030 a diogelwch trydan Prydain Fawr. Mae’r newidiadau hyn yn hanfodol i sicrhau buddsoddiad parhaus mewn asedau sy’n hanfodol i ddiogelwch y cyflenwad, a hyfywedd masnachol asedau.
Mae’r Farchnad Capasiti yn gynllun sefydledig, niwtral o ran technoleg lle mae’r capasiti trydan presennol a’r capasiti trydan sy’n cael ei adeiladu o’r newydd (ar ffurf cynhyrchu, rhyng-gysylltwyr, hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr a thechnolegau eraill) yn cael refeniw (£/MW) ar sail capasiti. Mae cyfranogwyr yn sicrhau cytundebau drwy arwerthiannau sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt sicrhau bod capasiti ar gael ar adegau o straen ar y system.
Mae natur y risgiau sy’n ymwneud â diogelwch trydan a wynebir gan y system yn newid. Wrth i faint o ynni adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu gynyddu, mae angen diwygio er mwyn ateb y galw brig mewn economi sy’n cael ei thrydaneiddio fwyfwy neu’r galw yn ystod cyfnodau o allbwn adnewyddadwy isel. Gall, a bydd, technolegau hyblyg yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o alluogi pontio’n ddiogel o nwy i bŵer glân a bydd y Farchnad Capasiti yn addasu i’r dirwedd newydd hon. Mae’r Llywodraeth yn cymryd camau nawr i ddiwygio’r Farchnad Capasiti i ddarparu llwybrau clir a hyfyw at ddatgarboneiddio ar gyfer nwy di-dor, galluogi capasiti hyblyg carbon isel i gynyddu ei gyfraniad at ddiogelwch cyflenwad, a chymell buddsoddiad mewn capasiti presennol i sicrhau diogelwch yn ystod y cyfnod pontio i Bŵer Glân[footnote 87],[footnote 88].
Mae’r mesurau sydd â’r nod o gefnogi datgarboneiddio asedau nwy di-dor presennol a newydd yn cynnwys:
- Ymgynghori ar lwybr ymadael ar gyfer gweithfeydd nwy di-dor gyda chytundebau aml-flwyddyn i adael y Farchnad Gapasiti heb gosb a throsglwyddo i Gytundeb Pŵer Anfonadwy, gan hwyluso trosi i bŵer CCUS unwaith y bydd y dechnoleg ar gael.
- Galw am dystiolaeth ar lwybrau ychwanegol y gellid eu rhoi ar waith yn y dyfodol i alluogi datgarboneiddio nwy di-dor, fel trosi i Hydrogen i Bŵer.
- Gosod rhwymedigaeth ar weithfeydd pŵer. Mae hyn yn cynnwys adnewyddu’n sylweddol yr holl orsafoedd pŵer a gorsafoedd pŵer hylosgi newydd sy’n cymryd rhan yn arwerthiant Marchnad Capasiti 2026 i ddatgan y byddant yn cydymffurfio â deddfwriaeth Parodrwydd Datgarboneiddio newydd a gyflwynwyd yn ddiweddar ochr yn ochr â’r newidiadau arfaethedig hyn i’r Farchnad Capasiti. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn ei gwneud yn ofynnol i adeiladu o’r newydd ac adnewyddu’n sylweddol orsafoedd nwy a phŵer hylosgi eraill yn Lloegr i gael eu hadeiladu yn y fath fodd fel y gallant droi’n rhwydd at danio-hydrogen neu drwy ôl-osod technoleg dal carbon yn ystod oes y gwaith[footnote 89].
Ochr yn ochr â hyn, mae’r llywodraeth wrthi’n datblygu cynigion i wella ein dealltwriaeth o gapasiti’r system ac i sicrhau diogelwch trydan yn ystod y cyfnod pontio i Bŵer Glân drwy:
- Edrych ar opsiynau yn y dyfodol ar gyfer datblygu model NESO o anghenion capasiti tymor hwy, gan gynnwys targedau capasiti dangosol wyth mlynedd i’r dyfodol, yn dibynnu ar yr ymatebion i’r cais am dystiolaeth a gyhoeddwyd ym mis Hydref. Wrth i’r grid ddatgarboneiddio, mae’n arbennig o bwysig sicrhau bod gennym gymaint o eglurder â phosibl ynghylch anghenion capasiti yn y dyfodol.
- Ei gwneud hi’n haws i orsafoedd sy’n adnewyddu gael mynediad at gytundebau Marchnad Capasiti aml-flwyddyn, gan roi mwy o sicrwydd o ran refeniw ac annog y math o fuddsoddiad sydd ei angen ar weithfeydd sy’n heneiddio i ymestyn eu hoes weithredol.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd y llywodraeth ddiweddariad polisi ar bolisïau Cam 2 y Farchnad Capasiti.[footnote 90] Mae’r llywodraeth yn bwriadu cyflwyno’r cynigion hyn cyn cyfnod cyn-gymhwyso’r Farchnad Capasiti y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn cynnwys:
- Galluogi technolegau carbon isel i gael mynediad at gytundebau 3 blynedd heb unrhyw drothwyon gwariant cyfalaf, hwyluso mynediad CM a chefnogi buddsoddiad mewn technolegau gwariant cyfalaf isel, carbon isel, a
- Chyflwyno trothwy gwariant cyfalaf 9 mlynedd newydd ar gyfer prosiectau carbon isel, fel nad yw prosiectau newydd ac wedi’u hadnewyddu sydd â chostau sy’n disgyn rhwng y trothwy 3 blynedd a 15 mlynedd presennol yn cael eu hatal rhag cyfranogi yn y Farchnad Capasiti.
Mae hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr yn cynnwys camau gwirfoddol sy’n cael eu cymryd yn rhydd ac yn uniongyrchol gan ddefnyddwyr ynni i newid eu defnydd o drydan. Mae hyn yn galluogi defnyddwyr i gael trydan rhatach drwy addasu eu defnydd yn hyblyg i adegau lle mae’r galw ar y grid yn is. Mae’r llywodraeth yn lleihau’r rhwystrau gweinyddol i hyblygrwydd sy’n cael ei yrru gan ddefnyddwyr. Gan adeiladu ar yr adborth a gafwyd eisoes gan y diwydiant, bydd y llywodraeth yn cyhoeddi pecyn o newidiadau arfaethedig i’r Farchnad Capasiti cyn bo hir, sy’n ceisio gwella’r cyfraniad y gall hyblygrwydd sy’n cael ei yrru gan ddefnyddwyr ei wneud i’n diogelwch trydan. Bydd hyn yn ceisio barn ar sut i brisio, integreiddio ac ymgorffori hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr yn well yn y Farchnad Capasiti.
Cynnal gweithrediad a rheoli cyfyngiadau
Bydd angen gwneud cynnydd cyflym i sicrhau bod modd gweithredu’r system drydan yn ddiogel ac yn gost-effeithiol gan ddefnyddio gwasanaethau ategol di-garbon. Yn y tymor agosach, bydd hyn yn cynnwys goresgyn rhwystrau i dechnoleg gwybodaeth uwch a digidoleiddio, gan gynnwys integreiddio technoleg newydd i ystafell reoli NESO. Mae angen newidiadau ychwanegol i’r farchnad ehangach i helpu i sicrhau gweithrediad system wedi’i datgarboneiddio, gan gynnwys rheoli cyfyngiadau. Bydd y newidiadau hyn yn helpu i sicrhau buddsoddiad parhaus mewn ynni adnewyddadwy ac yn lleihau costau.
Bydd NESO yn parhau i ddatblygu marchnadoedd gwasanaeth cydbwyso tymor byr a thymor canolig, er mwyn helpu i ddarparu system gost-effeithlon: Mae Trywydd NESO[footnote 91] yn amlinellu mesurau i wella’r defnydd o fatris wrth ddarparu gwasanaethau hyblyg a chyflwyno marchnadoedd sefydlogrwydd a foltedd newydd i gynyddu mynediad at dechnolegau carbon isel. Mae rhagor o fanylion am fesurau i wella effeithlonrwydd batris wedi’u hamlinellu yn y bennod ar Hyblygrwydd Tymor Byr.
Mae NESO hefyd yn arwain Prosiect Cydweithio ar Gyfyngiadau gyda’r diwydiant, i ddatblygu opsiynau ar gyfer rheoli cyfyngiadau’n well. Nod y prosiect yw lleihau’r costau hyn i ddefnyddwyr drwy weithredu mesurau rheoli cyfyngiadau sy’n seiliedig ar y farchnad. Mae asesiadau cychwynnol yn dangos arbedion posibl o hyd at 6% o gostau cyfyngiadau thermol y flwyddyn o’i gymharu â’r mecanwaith cydbwyso presennol[footnote 92].
Mae hyn yn cynnwys y potensial ar gyfer marchnadoedd rheoli cyfyngiadau a defnyddio atebion technegol fel defnyddio storfa i gynyddu llif trydan dros gyfyngiadau. Dylai canlyniadau’r prosiect hwn fod ar gael erbyn dechrau 2025. Byddwn yn ystyried canlyniadau’r prosiect hwn fel rhan o’r rhaglen REMA barhaus.
Mae nifer o fentrau polisi ar y gweill i gynnal gweithrediad y system drwy asedau hyblyg carbon isel wrth i’r gyfran o ynni adnewyddadwy amrywiol dyfu:
- Strategaeth gweithredu system drydan ar gyfer 2030. Bydd hyn yn rhoi eglurder ynghylch sut bydd NESO yn cynnal gweithrediad y system mewn ffordd sy’n gyson â Pŵer Glân 2030, gan gynnig y gwerth gorau i’r defnyddiwr. Bydd y strategaeth yn cael ei chyhoeddi gan NESO a byddwn yn gweithio gyda NESO, Ofgem a rhanddeiliaid i ddatblygu strategaeth gydlynol a chadarn, i’w chyhoeddi yng Ngwanwyn 2025.
- Mae NESO wedi cytuno i wella’r rhagolygon ar gyfer anghenion gweithrediad tymor canolig i dymor hir, gan gynnwys yn ôl lleoliad lle bo hynny’n berthnasol. Bydd hyn yn helpu i roi i fuddsoddwyr a datblygwyr y lefel o sicrwydd sydd ei hangen arnynt ynghylch y galw am y gwasanaethau hyn yn y dyfodol i fuddsoddi mewn capasiti gwasanaeth ategol carbon isel.
- Adroddiadau gwell am allyriadau nwyon tŷ gwydr o weithgarwch gweithrediad NESO ar draws yr holl farchnadoedd trydan. Bydd hyn yn darparu tryloywder ar ddwysedd nwyon tŷ gwydr pob gwasanaeth ategol a ddefnyddir i gynnal gweithrediad, gan alluogi olrhain cynnydd o ran datgarboneiddio’r gwasanaethau hanfodol hyn y mae gweithrediad yn dibynnu arnynt. Bydd y mesurau hyn yn helpu i gyrraedd Pŵer Glân 2030 a byddant yn gweithio ar y cyd â strategaeth tymor hwy i ddatrys heriau o ran gweithrediad.
Sicrhau buddsoddiad parhaus mewn ynni adnewyddadwy:
Mae’r system yn wynebu Ffioedd Defnyddio’r System Rhwydwaith Trawsyrru (TNUoS) cynyddol, gan greu’r angen am ddiwygiadau i’r drefn codi tâl ar rwydweithiau. Mae taliadau TNUoS yn adennill cost adeiladu a chynnal y rhwydwaith trawsyrru yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, ar y tir ac ar y môr. Maent yn cynnwys arwydd o bris sydd wedi’i ddylunio i adlewyrchu’r costau a’r galw y mae defnyddwyr a chynhyrchwyr yn eu gosod ar y system drawsyrru drwy gysylltu mewn gwahanol leoliadau. Mae amcanestyniad 10 mlynedd NESO yn dangos tuedd o gynnydd sylweddol yn y ffioedd TNUoS ar gyfer cynhyrchwyr yn yr Alban, a gostyngiad sylweddol i’r rheini yng Nghymru a Lloegr. Rydym hefyd yn cydnabod bod rhai o’r ffioedd uchaf ar ben uchaf y rhwydwaith, gan arwain at rai o’r asedau gwynt mwyaf cynhyrchiol yn wynebu’r ffioedd uchaf. Rydym yn deall gan rai rhanddeiliaid bod angen mynd i’r afael â’r ansefydlogrwydd a’r ansicrwydd tymor hir sy’n deillio o ffioedd TNUoS. Yn benodol, gall swm cynyddol y ffioedd a’r berthynas â phrisiau taro bargen ar gyfer clirio CfD gael effaith ar fuddsoddiad.
Mae Ofgem wedi cynnig ateb cap a llawr dros dro i leddfu’r pryderon hyn. Mewn llythyr agored[footnote 93] roedd Ofgem yn annog NESO i ddatblygu ateb cap a llawr dros dro mewn ymateb i gostau cynyddol a ragwelir ac ansefydlogrwydd TNUoS, i sbarduno buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy. Rydym yn disgwyl y bydd y diweddariad hwn yn rhoi mwy o sicrwydd i gynhyrchwyr cyn rowndiau dyrannu yn y dyfodol, gan gynnwys rhoi sicrwydd ynghylch y cyfeiriad cyn AR7. Byddwn yn parhau i weithio gydag Ofgem a NESO wrth i’r addasiad hwn fynd rhagddo.
Mae’r holl gynigion uchod ar gamau datblygu gwahanol; yn amodol ar ganlyniadau ymgynghoriadau diweddar a galwadau am dystiolaeth. Bydd Uned Pŵer Glân 2030 yn gweithio’n agos gydag NESO ac Ofgem i sicrhau bod y diwygiadau hyn yn cael eu cyflawni’n amserol. Y cam gweithredu cynharaf ar gyfer newidiadau i gostau rhwydwaith fyddai ar gyfer ffenestr cyn-gymhwyso arwerthiant 2026.
Yn dilyn y diwygiad tymor byrrach hwn, o dan opsiynau dylunio arweiniol REMA, byddai Ofgem yn cyflwyno diwygiadau parhaus i gostau rhwydwaith i sicrhau eu bod yn anfon arwydd lleoliadol sefydlog, cost-adlewyrchol ac effeithiol. Mae’r opsiynau hyn yn cael eu datblygu a’u hasesu drwy adolygiad strategol Ofgem o ffioedd trawsyrru. Rydym yn parhau i weithio gydag Ofgem yn y maes hwn ac maent yn ceisio dod â’r cyfnod ystyried polisi i ben yn unol ag amserlenni REMA.
Datgloi potensial y farchnad ynni adwerthu
Bydd y farchnad adwerthu yn y dyfodol yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o alluogi hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr, sydd wedi’i amlinellu’n fanylach yn y bennod ar hyblygrwydd tymor byr. Mae angen yr arwyddion pris cywir ar y farchnad sy’n adlewyrchu gwerth camau gweithredu i’r system ehangach yn gywir, ac sy’n cymell cyflenwyr a defnyddwyr i gymryd rhan mewn hyblygrwydd o’r fath sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr. Ar ben hynny, bydd angen technolegau clyfar i alluogi defnyddwyr i ymgysylltu â chynnyrch a gwasanaethau newydd, gan eu galluogi i elwa.
Mae Setliad Fesul Hanner Awr ledled y Farchnad yn alluogwr allweddol ar gyfer y farchnad adwerthu, sy’n golygu bod ei gyflawni’n amserol yn hanfodol ar gyfer targed 2030. Bydd y rhaglen drawsnewid hon, sy’n cael ei harwain gan y diwydiant, ac sy’n cael ei goruchwylio gan Ofgem, yn newid tirwedd y farchnad adwerthu. Bydd defnyddwyr yn gallu manteisio ar y system hon i gael biliau is.
Ar ben hynny, mae cyflwyno mesuryddion clyfar yn hanfodol er mwyn datgloi dulliau arloesol o reoli’r galw gan ddefnyddwyr a bydd yn galluogi’r broses o gyflawni Setliad Fesul Hanner Awr ledled y Farchnad yn llwyddiannus. Bydd gwell arwyddion prisiau yn cysoni cymhellion y farchnad adwerthu â system ynni wedi’i datgarboneiddio ac yn dangos gwerth hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr. Mae’r bennod ar hyblygrwydd tymor byr yn cynnwys camau gweithredu i gael gwared ar rwystrau rhag mabwysiadu mesuryddion clyfar.
Rhaid i fesurau diogelu defnyddwyr alluogi ymddiriedaeth yn y farchnad. Yn y dyfodol, dylai technolegau clyfar, tariffau a gwasanaethau rymuso defnyddwyr i fanteisio ar gyfnodau pris is. Byddwn yn bwrw ymlaen â gwaith yn y maes hwn er mwyn i bob defnyddiwr allu elwa, ni waeth beth yw lefel eu hymgysylltiad, eu hanghenion ynni na’u hincwm.
Ar y cyd ag Ofgem, byddwn yn sicrhau bod mesurau diogelu defnyddwyr yn cael eu dylunio yn y fath fodd fel eu bod yn diogelu defnyddwyr, gan alluogi defnyddwyr i gael mynediad at u buddion y gall arloesi eu cynnig. Mae hyn yn cynnwys cryfhau’r rheoleiddiwr i sicrhau ei fod yn gallu dal cwmnïau i gyfrif am ddrwgweithredu, ymgynghoriad ar reoleiddio Cyfryngwyr Trydydd Parti, ac ymrwymiad i wella iawndal fel y dangosir yn rhaglen hyder defnyddwyr Ofgem.
Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i gadw’r cap diofyn ar dariffau, a bydd yn gweithio’n agos gydag Ofgem i sicrhau bod y fframwaith diogelu prisiau yn y dyfodol yn galluogi defnyddwyr i fanteisio i’r eithaf ar farchnad fwy clyfar a hyblyg, gan sicrhau hefyd nad yw’r rheini nad ydynt yn gallu defnyddio ynni’n fwy hyblyg yn cael eu cosbi’n annheg.
Y camau nesaf
Rydym yn disgwyl i’r camau hyn, a gyflwynir ochr yn ochr â chamau galluogi trawsbynciol mewn penodau eraill, sbarduno datgarboneiddio drwy wella hyder buddsoddwyr, sbarduno buddsoddiad mewn technolegau glân, a meithrin system ynni fwy hyblyg ac effeithlon sy’n hanfodol er mwyn cyrraedd targed 2030. Bydd Uned Pŵer Glân 2030 yn gweithio ar draws y llywodraeth a’r diwydiant i sicrhau ein bod yn datblygu polisi ar ddiwygio’r farchnad gyfanwerthu. Mae hyn yn cynnwys gwaith parhaus timau REMA ac Adwerthu.
- Mae Diweddariad Hydref REMA yn rhoi rhagor o eglurder i randdeiliaid – yn enwedig buddsoddwyr – ynghylch cynnydd REMA, amserlenni a’r opsiynau polisi sy’n dal i gael eu hystyried.
- Byddwn yn ceisio cwblhau cam datblygu polisi rhaglen REMA erbyn canol 2025. Byddwn yn sicrhau y bydd amserlenni REMA yn cyd-fynd â’r amserlen ar gyfer AR7 er mwyn rhoi’r eglurder mwyaf posibl i fuddsoddwyr ar gyfer darpar gynigion.
- Ynghylch diwygio CfD a diwygio’r Farchnad Capasiti, byddwn yn sicrhau bod y diwygiadau sydd eu hangen i alluogi Pŵer Glân 2030 yn cael eu cyflawni’n amserol, gan barhau i fwrw ymlaen â’r diwygiadau tymor hwy sy’n cael eu hystyried o dan REMA.
Hyblygrwydd byrdymor
Crynodeb
Ers Gaeaf 2022, o dan y llywodraeth flaenorol, mae Gweithredwr y System Ynni Genedlaethol wedi cynnig i ddefnyddwyr yr opsiwn iddynt fanteisio ar dariffau gwahanol ar wahanol adegau. Roedd hyn yn wahanol i system fonolithig lle mae’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr wedi cael un pris, pa bryd bynnag yr oeddent yn defnyddio offer amrywiol. Cafwyd ymateb cadarnhaol gan ddefnyddwyr i’r cynnig gwirfoddol hwn.
Mae cynnydd sylweddol mewn hyblygrwydd tymor byr o 29-35 GW ar draws storfeydd batri, hyblygrwydd dan arweiniad defnyddwyr a chapasiti rhyng-gysylltu o lefelau 2023 ymlaen yn bosibl a gall chwarae rhan mewn sicrhau pŵer glân yn 2030.
Mae’r cyfle’n enfawr, gan fod modd ehangu storfeydd batri a hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr, a gellid defnyddio hynny yn gymharol gyflym. Gallai eu defnyddio nid yn unig leihau biliau i ddefnyddwyr ond hefyd leihau faint o gynhyrchu mwy costus a seilwaith rhwydwaith cysylltiedig y mae angen ei adeiladu, gan gynnal diogelwch y cyflenwad ar yr un pryd.
Mae’r camau gweithredu allweddol a nodir yn y Bennod hon i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf yn cynnwys:
- Cyhoeddi Trywydd Hyblygrwydd Carbon Isel yn 2025 i atgyfnerthu camau gweithredu presennol a chamau gweithredu newydd pellach i sbarduno hyblygrwydd tymor byr a thymor hir ar gyfer pŵer glân yn 2030 a sero net erbyn 2050;
- Diwygiadau graddol i’r farchnad i ddarparu batris a hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr gyda mynediad priodol a theg at farchnadoedd perthnasol, a’r defnydd ohonynt, er mwyn helpu gyda phenderfyniadau buddsoddi;
- Rheoli’n well y portffolio o raglenni, prosiectau a gweithgareddau gwahanol sy’n cyfrannu at ddarparu hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr, gan gynnwys adolygu model cyflawni’r Rhaglen Setliad Fesul Hanner Awr ledled Farchnad (MHHS) er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei rhoi ar waith.
Heriau a Chamau Gweithredu
Rydym wedi rhannu’r heriau a’r camau gweithredu hyn yn bedair is-adran:
- storfa fatri;
- hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr;
- galluogwyr cyffredin ar gyfer y ddwy dechnoleg; a
- rhyng-gysylltu trydan
Storfa Fatri
Capasiti gosodedig presennol o’i gymharu ag ‘Amrediad Capasiti Pŵer Glân’ DESNZ yn 2030 (GW)
Disgrifiad o’r ffigur: Graddfa sy’n dangos y capasiti gosodedig presennol ar gyfer batris a sut mae hyn yn cymharu ag yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ) ar gyfer batris. Mae’r capasiti gosodedig presennol (Ch4 2024) yn 4.5GW ac ‘Ystod Capasiti Ynni Glân’ DESNZ yn 23-27GW. Mae hyn yn dangos bod angen 18.5GW yn rhagor o gapasiti batri i gyrraedd ‘Ystod Capasiti Ynni Glân’ DESNZ.
Ffynhonnell: Tabl 1
Gall batris graddfa grid[footnote 94] a graddfa fach[footnote 95] gynnig hyblygrwydd tymor byr (ar hyn o bryd, uchafswm nodweddiadol o ddwy awr o gyflenwad parhaus o drydan heb ei ailwefru). Mae storio trydan am gyfnod hir (sy’n cael ei ddiffinio ar hyn o bryd fel o leiaf 6 awr o gyflenwad parhaus o drydan) yn cael ei ystyried ym mhennod hyblygrwydd tymor hir y Cynllun Gweithredu hwn.
Gellir defnyddio batris i storio trydan pan fydd digon ohono a phan fydd y gost yn isel, fel yn ystod cyfnodau pan fydd y galw’n isel pan fydd yr allbwn gwynt a solar yn gryf, i’w ddefnyddio pan fydd llai o drydan yn cael ei gynhyrchu neu pan fydd y galw am drydan ar ei uchaf. Gall batris leihau faint o ynni a gynhyrchir a’r rhwydwaith cysylltiedig y mae angen ei adeiladu i ateb y galw uchaf, gan helpu Prydain i gyrraedd pŵer glân mewn ffordd gost-effeithiol a lleihau’r risg cyflawni sy’n gysylltiedig â mathau eraill o seilwaith ynni.
Ar hyn o bryd, mae 4.5 GW o gapasiti storfeydd batris ym Mhrydain Fawr[footnote 96], ac mae’r rhan fwyaf ohonynt ar raddfa grid. Yn seiliedig ar senarios twf storfa fatri NESO a DESNE ar gyfer 2030, rydym yn disgwyl y bydd angen 23-27 GW o storfa fatri erbyn 2030 i gefnogi pŵer glân, sy’n gynnydd sylweddol iawn. Mae’r llywodraeth yn disgwyl i’r rhan fwyaf o’r cynnydd hwn ddod o fatris ar raddfa grid, gyda batris ar raddfa fach hefyd yn gwneud cyfraniad.
Er bod llawer o alluogwyr cyffredin ar gyfer hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr a storfa fatri, sy’n cael sylw yn nes ymlaen yn y bennod hon, mae camau gweithredu penodol hefyd yn angenrheidiol er mwyn i storfa fatri gyflawni ei photensial ar gyfer cefnogi pŵer glân. Ar ben hynny, mae DESNZ yn ystyried y rôl y gall batris gwres ei chwarae o ran datgarboneiddio cartrefi ac mae’n gobeithio bod mewn sefyllfa i fwydo’r gwaith hwn i’r trywydd hyblygrwydd carbon isel yn ystod haf 2025. Ymysg y camau gweithredu penodol sydd eu hangen ar gyfer batris, gwella’r amser mae’n ei gymryd i fatris aeddfed ar raddfa grid gael cysylltiadau grid a phenderfyniadau cynllunio yw’r camau mwyaf arwyddocaol er mwyn cyflawni’r cynnydd enfawr mewn capasiti batris ar raddfa grid. Mae’r tabl isod yn nodi’r rhwystrau hyn a’r camau gweithredu cyfatebol sydd eu hangen i fynd i’r afael â nhw, yn ogystal â’r rhwystrau a’r camau gweithredu penodol sy’n berthnasol i fatris ar raddfa fach.
Tabl 3: Rhwystrau a chamau gweithredu sy’n benodol i fatris
Maes | Rhwystr | Cam Gweithredu |
---|---|---|
Batris ar raddfa grid: (a) Cysylltiadau grid |
Er bod llawer o brosiectau gyda chytundebau grid, nid yw’r cytundebau hyn a chytundebau cysylltiad grid eraill yn cael eu trefnu yn ôl aeddfedrwydd y prosiect nac angen strategol, sy’n arwain at arosiadau hir am gysylltiad grid. | Mae NESO wedi cytuno i weithio gydag Ofgem a chwmnïau rhwydwaith i sicrhau bod diwygiadau i gysylltiadau grid a chyflymu amserlenni datblygu seilwaith grid yn arwain at gapasiti digonol (yn unol ag amrediad capasiti pŵer glân 2030) o brosiectau batris aeddfed ar raddfa grid er mwyn cysylltu a gweithredu erbyn 2030. |
Batris ar raddfa grid: (b) Cynllunio |
Mae batris ar raddfa grid yn cymryd amser hir i gael caniatâd cynllunio ac nid oes cyfeiriad atynt ar hyn o bryd yn y fframwaith polisi cynllunio cenedlaethol. | Bydd DESNZ yn gweithio gyda MHCLG i ystyried sut y gellid cyfeirio at fatris ar raddfa grid, a’u pwysigrwydd ar gyfer pŵer glân yn 2030 a sero net, mewn diwygiadau cynllunio yn y dyfodol. |
Batris ar raddfa grid: (c) Iechyd a Diogelwch |
Ar hyn o bryd mae batris ar raddfa grid yn dod o dan fframwaith iechyd a diogelwch cadarn. Mae angen cynnal hyn wrth i fatris gael eu defnyddio. | Bydd Defra yn ymgynghori ar gynnwys batris ar raddfa grid yn y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol erbyn mis Mehefin 2025. |
Batris ar raddfa fach: (a) Fforddiadwyedd |
Gall costau ymlaen llaw batris cartref fod yn uchel i ddefnyddwyr, yn enwedig y rheini sydd ar incwm isel. | Bydd DESNZ yn ystyried opsiynau cyllido ar gyfer gwaith ôl-osod, gan gynnwys batris, yn y Cynllun Cartrefi Clyd. |
Batris ar raddfa fach: (b) Ardollau defnydd terfynol |
Mae batris cartref a batris EV sy’n darparu gwasanaethau cerbyd-i’r-grid yn destun ffioedd anghymesur mewn perthynas ag ardollau defnydd terfynol. Mae hyn yn golygu bod ardollau’n cael eu codi ar fewnforio ond nid ydynt yn cael eu had-dalu wrth allforio, gan greu anghymhelliad i ddarparu hyblygrwydd. | Bydd DESNZ ac Ofgem yn adolygu’r opsiynau sydd ar gael i gael gwared ar ardollau defnydd terfynol ar gyfer batris cartref a batris EV cerbyd-i’r-grid ac yn nodi’r camau nesaf mewn Trywydd Hyblygrwydd Pŵer Glân 2025. |
Hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr
Capasiti gosodedig presennol o’i gymharu ag ‘Amrediad Capasiti Pŵer Glân’ DESNZ yn 2030 (GW)
Disgrifiad o’r ffigur: Graddfa sy’n dangos y capasiti gosodedig presennol ar gyfer hyblygrwydd a arweinir gan ddefnyddwyr a sut mae hyn yn cymharu ag ‘Ystod Capasiti Ynni Glân’ yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ) ar gyfer hyblygrwydd a arweinir gan ddefnyddwyr. Mae’r capasiti gosodedig presennol (2023) yn 2.5GW ac ‘Ystod Capasiti Ynni Glân’ DESNZ yn 10-12GW. Mae hyn yn dangos bod angen 7.5GW yn rhagor o gapasiti batri i gyrraedd ‘Ystod Capasiti Ynni Glân’ DESNZ.
Ffynhonnell: Tabl 1
Mae hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr yn cynnwys camau gwirfoddol sy’n cael eu cymryd yn rhydd gan ddefnyddwyr ynni – neu ar eu rhan gan Ddarparwyr Gwasanaeth Ymateb ar Ochr y Galw (DSRSPs) gyda chydsyniad defnyddwyr – i newid rhywfaint o’u defnydd o drydan pan fyddant yn dewis cael eu gwobrwyo am yr hyblygrwydd hwn tra’n dal i ddiwallu eu hanghenion ynni[footnote 97]. Mae manteision ariannol yr hyblygrwydd sydd ar gael i ddefnyddwyr yn adlewyrchu’r manteision i’r system drydan ehangach (sydd yn ei dro o fudd i bob defnyddiwr).
Gallai defnyddiwr, er enghraifft, ddewis cael biliau trydan rhatach neu fuddion eraill yn gyfnewid am alluogi darparwr gwasanaeth i amrywio’r defnydd o drydan ar gyfer Offer Clyfar gydag Ynni (ESA) fel eu pwynt gwefru clyfar ar gyfer cerbydau trydan (EV) neu eu pwmp gwres clyfar, tra’n dal i ddiwallu anghenion y defnyddiwr (e.e. cerbyd trydan wedi’i wefru erbyn y bore neu dymheredd y cartref yn aros o fewn terfynau diffiniedig).
Bydd pob defnyddiwr yn elwa o hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr ar draws y wlad, gan y bydd yn gostwng prisiau ar gyfer oriau brig drwy sefydlogi’r gromlin prisiau.
Mae hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr hefyd yn lleihau’r defnydd o drydan cyfun ym Mhrydain yn ystod y cyfnodau galw prysuraf, ac felly’n lleihau swm y cynhyrchiant a’r rhwydwaith cysylltiedig y mae angen ei adeiladu i ateb y galw brig. Felly, gall helpu Prydain i gyrraedd pŵer glân mewn ffordd gost-effeithiol gyda llai o risg o ran darparu seilwaith. Mae Ofgem yn monitro agwedd defnyddwyr at hyblygrwydd ac mae ei rôl yn cynnwys sicrhau bod digon o warchodaeth i ddefnyddwyr ar gael ar gyfer y sector hwn sy’n tyfu.
Yn 2023, yn dilyn cynllun a sefydlwyd gan y Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol, defnyddiwyd 2.5 GW o hyblygrwydd dan arweiniad defnyddwyr ym Mhrydain Fawr (heb gynnwys hyblygrwydd gwresogyddion storio trydan), gyda 0.8 GW o bympiau gwres clyfar a systemau gwresogi ardal hyblyg, 0.5 GW o wefru cerbydau clyfar, 0.4 GW o offer clyfar eraill a 0.8 GW o hyblygrwydd annomestig sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr. Mae hyblygrwydd annomestig sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr wedi gostwng dros amser, gan leihau o 1.7 GW yn 2021 i 1.2 GW yn 2022 ac yna i 0.8 GW yn 2023[footnote 98],[footnote 99].
Hyd yma, dim ond y defnyddwyr hynny a oedd yn cael y wybodaeth orau oedd yn manteisio ar yr hyblygrwydd a oedd ar gael. Gyda setliad fesul hanner awr ledled y farchnad, mae potensial sylweddol ar gyfer twf sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr.
Yn seiliedig ar senarios NESO a DESNZ ar gyfer 2030, ac eithrio gwresogyddion storio trydan, rydym yn disgwyl y bydd 10-12 GW o gapasiti hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr yn bosibl erbyn 2030 i gefnogi pŵer glân. Mae’r Llywodraeth yn disgwyl i wefru EV clyfar fod yn sbardun allweddol i dwf capasiti hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr.
Ffigur 13: Hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr yn ystod y cyfnodau prysuraf (GW), 2023-2030
Disgrifiad o Ffigur 13: Siart arwynebedd pentyrrog yn dangos hyblygrwydd y galw ar ei uchaf (GW), 2023 i 2030. Mae echelin x yn cynrychioli blynyddoedd o 2023 i 2030 ac mae echelin y yn cynrychioli hyblygrwydd y galw mewn gigawatiau (GW), gan amrywio o 0 i 14 GW. Mae’r siart yn dangos cyfraniadau o sawl elfen: Ymateb ymhlith defnyddwyr (DSR) ar gyfer offer preswyl, DSR ar gyfer diwydiannol a masnachol, Gwefru clyfar, O’r cerbyd i’r grid (V2G), Pwmp gwres hybrid, Storfa thermol, a System gwresogi ardal. Mae hyblygrwydd y galw yn cynyddu’n raddol o 2023 i 2030, gyda’r twf mwyaf i’w weld yn y categorïau DSR ar gyfer offer preswyl a Gwefru clyfar.
Sylwer: Nid yw’r data’n cynnwys gwresogyddion stôr sy’n symud tua 4 GW. Mae NESO yn cyfeirio at hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr fel hyblygrwydd yn y galw.
Ffynhonnell: NESO (2024), ‘Clean Power 2030’
Mae sicrhau bod pob defnyddiwr yn cael y budd posibl o’r hyblygrwydd hwn yn gofyn am gyflawni nifer fawr o wahanol bolisïau, prosiectau a rhaglenni ar draws nifer o sefydliadau gwahanol, sydd wedi’u crynhoi ar lefel uchel yn y diagram isod.
Disgrifiad o’r diagram:
Gwobrau gwell i ddefnyddwyr sy’n dewis cyfranogi mewn hyblygrwydd:
- Rhaglen Setliad Fesul Hanner Awr ledled y Farchnad
- Twf mewn marchnadoedd hyblygrwydd
- Twf mewn cynnyrch defnyddwyr hyblyg (e.e. tariffau TOU)
Mynediad i’r farchnad ar gyfer darparwyr hyblygrwydd:
- Mecanwaith Cydbwyso a gwasanaethau ategol
- Marchnad Capasiti
- Marchnadoedd a weithredir gan Weithredwyr Systemau Dosbarthu
Cyflwyno Offer Clyfar gydag Ynni (ESAs):
- Gwefrwyr EV clyfar
- Pympiau gwres
- Batris domestig
Diogelu defnyddwyr:
- Trwyddedu darparwyr hyblygrwydd
- Gallu i ryngweithredu a safonau diogelwch ar gyfer ESAs
- Polisïau amddiffyn defnyddwyr adwerthu
Cydlynu gweithgareddau hyblygrwydd:
- Trywydd Hyblygrwydd
- Hwylusydd Marchnadoedd Hyblygrwydd
Er bod llawer o alluogwyr cyffredin ar gyfer hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr a storfa fatri, mae hefyd angen camau gweithredu penodol i gynyddu’r dewis a’r cyfle ymhellach ar gyfer hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr a mwy o arbedion o ran biliau ynni. Mae rhai meysydd sydd angen newid sylweddol yn cael eu cyflwyno yn y tabl dros y dudalen, lle mae’r rhwystrau y maent yn eu cyflwyno i gapasiti hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr wedi’u nodi. Er mwyn cyd-destun, bydd rhaglenni sero net ehangach y llywodraeth sy’n cefnogi trydaneiddio trafnidiaeth a gwresogi hefyd yn hanfodol i faint o hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr sydd ar gael erbyn 2030.
Tabl 4: Rhwystrau a galluogwyr sy’n benodol i hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr
Maes | Rhwystr | Cam Gweithredu |
---|---|---|
Setliad Fesul Hanner Awr ledled y Farchnad | Mae cyflwyno setliad fesul hanner awr ledled y farchnad yn gyflym yn hanfodol er mwyn cymell pob cyflenwr ynni i wobrwyo defnyddwyr am fod yn hyblyg, ond mae’r rhaglen wedi wynebu oedi. | Bydd Ofgem fel noddwr y rhaglen yn adolygu model cyflawni’r rhaglen setliad fesul hanner awr ledled y farchnad erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2024/25, gan gynnwys sicrhau bod gan bartïon yn y diwydiant gynlluniau credadwy i gwblhau setliad fesul hanner awr ledled y farchnad mewn modd amserol a chynyddu faint o ddata defnydd bob hanner awr sydd ar gael. |
Systemau Trydan Diogel a Chlyfar | Mae ymddiriedaeth mewn hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr yn hanfodol i gynyddu defnydd, sy’n galw am ryngweithredu rhwng ESAs (e.e. i gefnogi dewis a chystadleuaeth mewn darpariaeth gwasanaeth ar gyfer hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr), rheoleiddio ymgysylltiad DSRSP gyda defnyddwyr yn effeithiol, a mesurau diogelu yn erbyn risgiau diogelwch a sefydlogrwydd y grid. | Yn ystod gwanwyn 2025, bydd DESNZ yn cyhoeddi ymateb y llywodraeth i becyn ymgynghori Rhaglen Systemau Trydan Diogel a Chlyfar 2024 ar ryngweithredu ESAs, trefn drwyddedu newydd ar gyfer darparwyr gwasanaethau ar gyfer hyblygrwydd dan arweiniad defnyddwyr a rheolwyr llwythi, a hygyrchedd data tariff. Dilynir hyn gan ymgynghoriadau manwl ar ddeddfwriaeth ESA “cam cyntaf” drafft sy’n nodi’r gofynion seiberddiogelwch sylfaenol ar gyfer offer sydd o fewn y cwmpas, a mandad clyfar ar gyfer pympiau gwres; DSRSP drafft a rheoleiddio rheolwyr llwythi ac amodau trwyddedau; a mesurau i wella hygyrchedd data tariff amser defnyddio. |
Cydlynu Darpariaeth ar gyfer hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr | Mae darparu hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr yn llwyddiannus yn gofyn am gydlynu ar draws nifer fawr o bolisïau, prosiectau a rhaglenni sy’n cwmpasu adrannau’r llywodraeth, Ofgem, NESO a’r diwydiant. Mae angen mwy o gydlynu strategol a rheoli portffolio. | Bydd Uned Pŵer Glân 2030 yn gweithio gyda thimau polisi i adolygu’r gofynion sefydliadol angenrheidiol i gynllunio ac olrhain data cyflawni’n effeithiol ar gyfer hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr ar draws yr holl sefydliadau perthnasol, a mynd i’r afael â rhwystrau, yn barhaus. |
Mesuryddion Clyfar | Mae angen i ddefnyddwyr sy’n awyddus i gymryd rhan mewn hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr allu cael mesurydd clyfar yn gyflym. | Mae DESNZ yn gweithio gydag Ofgem i gyflwyno Safonau Perfformiad Gwarantedig newydd sy’n ymwneud â mesuryddion clyfar yn 2025. Gall y rhain gynnwys safonau sy’n ymwneud â gosod a chynnal a chadw mesuryddion clyfar yn amserol, gan ddigolledu defnyddwyr pan nad ydynt yn cael eu bodloni. |
Mesuryddion dyfeisiau | Mae rheoleiddio mesuryddion dyfeisiau presennol yn ei gwneud yn ofynnol i fesuryddion gael dangosyddion allanol, sy’n ychwanegu at gostau gweithgynhyrchu offer clyfar. | Bydd DBT yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid ynghylch caniatáu ar gyfer opsiynau arddangos o bell yn y Rheoliadau Mesur Offerynnau, ar gyfer mesuryddion a ddefnyddir ar gyfer masnachu, ac yn bwriadu ymgynghori ar opsiynau i ddiwygio’r gofynion presennol yn ystod chwarter cyntaf 2025. |
Ymgysylltu â defnyddwyr | Mae hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr yn weithgaredd gwirfoddol, ac mae’n hanfodol bod defnyddwyr yn gwybod yn iawn beth mae’n ei olygu a sut mae cymryd rhan, ac mae’r dystiolaeth yn dangos nad yw hynny’n wir bob amser ar hyn o bryd. | Yn ystod Haf 2025, bydd DESNZ yn cyhoeddi ymgynghoriad ar ymgysylltu â defnyddwyr, gan gynnwys y potensial i gydlynu ac ehangu negeseuon cywir am hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr yn well. |
DSR Hyblygrwydd mawr sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr annomestig | Mae capasiti hyblygrwydd dan arweiniad defnyddwyr gan ddefnyddwyr ynni annomestig mawr wedi gostwng o 1.7 GW yn 2021, i 1.2 GW yn 2022 ac yna i 0.8 GW yn 2023[footnote 100]. | Bydd DESNZ, NESO ac Ofgem yn nodi camau gweithredu penodol ar gyfer cefnogi cynnydd mewn hyblygrwydd mawr sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr annomestig mewn Trywydd Hyblygrwydd Carbon Isel yn 2025, ar ôl ymgysylltu â’r diwydiant. |
Gwefru EV clyfar: Cynyddu mynediad wefru cerbydau trydan preifat |
Gall landlordiaid gynyddu costau gwefru cerbydau trydan ar gyfer tenantiaid sydd angen mynediad at wefrydd clyfar cymunedol, gan wneud gwefru EV clyfar yn afresymol o ddrud i rai. | Bydd Ofgem yn ystyried diwygio’r Pris Ailwerthu Uchaf, yn ceisio barn ar yr hyn sydd angen ei newid i fynd i’r afael â materion a nodwyd ac yn diweddaru’r gofynion presennol, yn ôl yr angen, gan nodi’r cynnydd a’r camau nesaf yn Trywydd Hyblygrwydd 2025. |
Gwefru EV clyfar: Cynyddu mynediad at seilwaith gwefru cyhoeddus clyfar |
Mae gan wefru cerbydau trydan mewn lleoliadau cyhoeddus ar y stryd y potensial i ddarparu hyblygrwydd tymor byr. Fodd bynnag, dim ond megis dechrau darparu tariffau hyblyg i’w cwsmeriaid y mae gweithredwyr pwyntiau gwefru. | Bydd DESNZ ynghyd â’r Adran Drafnidiaeth, yn edrych ar opsiynau gyda’r diwydiant i gyflymu’r gwaith o gyflwyno gwefru clyfar mewn mannau gwefru cyhoeddus ac yn nodi’r cynnydd a’r camau nesaf yn Trywydd Hyblygrwydd 2025. |
Galluogwyr cyffredin ar gyfer hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr a storfa fatri
Mae rhai o’r rhwystrau mwyaf sy’n wynebu hyblygrwydd sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a batris yn gyffredin i’r ddau, yn enwedig o ran mynediad i’r farchnad. Yn wahanol i gynhyrchu carbon isel a mathau eraill o storio ynni carbon isel, mae prosiectau batris a hyblygrwydd sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr yn gwbl ddibynnol ar ragolygon o refeniw’r farchnad ar gyfer penderfyniadau buddsoddi. Felly, mae hyder y bydd mynediad priodol at farchnadoedd perthnasol, ac ynghylch y defnydd yn y marchnadoedd hynny, yn hanfodol ar gyfer tyfu storfeydd batris a hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr ar gyfer Pŵer Glân 2030.
Mae’r tabl isod yn rhoi rhagor o fanylion am hyn a rhwystrau cyffredin eraill, a chamau gweithredu cyfatebol ar gyfer mynd i’r afael â nhw a’u troi’n alluogwyr ar gyfer storfeydd batris a hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr. Mae gwaith ychwanegol sydd â’r potensial i wella cyfleoedd yn y farchnad ar gyfer hyblygrwydd sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a batris, gan gynnwys newid ehangach i drefniadau marchnad Prydain Fawr a allai anfon arwyddion prisiau cliriach, yn cael ei drafod yn y bennod ‘Diwygio ein marchnadoedd trydan’ yn y cynllun gweithredu hwn.
Tabl 5: Galluogwyr, rhwystrau a chamau gweithredu cyffredin ar gyfer hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr a storfeydd batris
Maes | Rhwystr | Cam Gweithredu |
---|---|---|
Mynediad i’r Farchnad | Mae mynediad at rai marchnadoedd ynni (e.e. y Mecanwaith Cydbwyso, marchnadoedd NESO/DSO eraill a’r Farchnad Capasiti) yn heriol ar hyn o bryd ar gyfer rhai mathau o hyblygrwydd tymor byr. Mae’r materion yn cynnwys: – Gofynion rhy gaeth o ran mynediad i’r farchnad ar gyfer hyblygrwydd; – Mae gallu Gweithredwr y System i ddefnyddio’r holl asedau hyblyg carbon isel (fel batris a hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr) yn effeithiol, a’u hymgorffori’n llawn yn y broses ddanfon economaidd wedi cael ei lesteirio oherwydd systemau etifeddol, sy’n ymddangos mewn ‘cyfraddau sgipio’; a – Rhwystrau i bentyrru refeniw yn ôl asedau hyblygrwydd ar draws gwahanol farchnadoedd. |
Mae NESO wedi cytuno i nodi, er mwyn eu cynnwys yn y Trywydd Hyblygrwydd Carbon Isel, y cynnydd a’r camau pellach i gefnogi darparu asedau hyblygrwydd gyda mynediad priodol a theg i’r marchnadoedd y mae’n eu rheoli, gan gynnwys: – cael gwared ar reolau neu ofynion cyfranogi diangen neu rhy gyfyngol i’r graddau mwyaf posibl, gan ganiatáu mynediad at fwy o fathau o asedau hyblygrwydd; – darparu mwy o dryloywder yn ogystal â gwella’r systemau y mae NESO yn eu defnyddio i sicrhau hyblygrwydd, gyda thystiolaeth o ostyngiadau mewn cyfraddau sgipio asedau hyblygrwydd; – hwyluso pentyrru refeniw ymhellach ar draws gwahanol farchnadoedd; a – asesiad o’r potensial i greu mesurau ychwanegol i alluogi ystod eang o ddarparwyr hyblygrwydd i gynnig gwasanaethau i ddiwallu anghenion y system (gan gynnwys rheoli cyfyngiadau). Cyn cyfnod cyn-gymhwyso Marchnad Capasiti 2025 yn ystod haf 2025, bydd DESNZ yn gweithredu cynigion polisi’r Farchnad Capasiti fel yr amlinellir yn ei ymatebion ym mis Gorffennaf 2024 a mis Hydref 2024 i ymgynghoriad Marchnad Capasiti Cam 2. Mae’r rhain yn cynnwys cynyddu’r capasiti storio a ganiateir, addasu’r Gofynion Profi Perfformiad Estynedig, a sicrhau bod cytundebau Marchnad Capasiti 3 blynedd ar gael ar gyfer technolegau carbon isel y mae eu CAPEX yn £0/kW. Ar ben hynny, mae DESNZ yn bwriadu cyhoeddi Ymgynghoriad a Galwad am Dystiolaeth cyn bo hir i wahodd safbwyntiau rhanddeiliaid ar sut mae adlewyrchu’n well amrywiaeth technolegau hyblygrwydd sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a sut maen nhw’n cael eu trin yn y Farchnad Capasiti. |
Trywydd Hyblygrwydd | Nid oes gan Brydain Fawr fframwaith cyfredol ar gyfer blaenoriaethu a rheoli’r gwaith o gyflawni camau gweithredu parhaus ar draws llywodraeth, NESO, Ofgem a’r diwydiant. Bydd hyn yn hanfodol er mwyn manteisio i’r eithaf ar botensial hyblygrwydd ar gyfer Pŵer Glân 2030 a sero net erbyn 2050. | Bydd DESNZ yn cyhoeddi Trywydd Hyblygrwydd Carbon Isel ar y cyd ag Ofgem a NESO yn 2025. Bydd y Trywydd Hyblygrwydd yn nodi cerrig milltir a mesurau clir o ran hyblygrwydd tymor byr a thymor hir sydd eu hangen ar gyfer pŵer glân yn 2030 a sero net erbyn 2050, gan adeiladu ar y rheini sydd yn y Cynllun Gweithredu hwn. Bydd y Trywydd hefyd yn darparu fframwaith ar gyfer cynllunio ac olrhain y gwaith o gyflawni’r mesurau hyblygrwydd allweddol hyn. Fel rhan o hyn, bydd DESNZ, gan weithio gydag Ofgem a NESO lle bo’n briodol, yn adolygu’r mesurau presennol i asesu lle mae angen rhagor o newidiadau neu bolisïau newydd i gefnogi Pŵer Glân 2030 a sero net erbyn 2050. |
Digideiddio | Nid oes digon o amlygrwydd i – na rhannu data ar – ynni wedi’i ddosbarthu gan gynnwys cynhyrchu lleol ac asedau hyblyg ar y grid, sy’n llesteirio integreiddio’r asedau hyn a’r potensial i’w defnyddio mewn marchnadoedd hyblygrwydd. | Bydd DESNZ ac Ofgem yn gweithio gyda NESO i nodi mesurau yn y Trywydd Hyblygrwydd Carbon Isel yn 2025 i alluogi mwy o amlygrwydd i asedau ynni gwasgaredig er mwyn datgloi rhagor o hyblygrwydd a helpu gyda chynllunio rhwydwaith. |
Cymorth arloesi | Mae angen rhagor o arloesi i gyflymu’r broses o ddefnyddio hyblygrwydd tymor byr ar gyfer 2030, er enghraifft i leihau costau gwefrwyr deugyfeiriad ar gyfer cerbyd-i’r-grid a datblygu safonau hyblygrwydd rhyngweithredu a arweinir gan ddefnyddwyr. | Bydd rhagor o arloesi ar draws DESNZ yn sicrhau’r hyblygrwydd sydd ei angen i hwyluso pŵer glân 2030 a sero net. |
Rhyng-gysylltu trydan
Capasiti gosodedig presennol o’i gymharu ag ‘Amrediad Capasiti Pŵer Glân’ DESNZ yn 2030 (GW)
Disgrifiad o’r ffigur: Graddfa sy’n dangos y capasiti gosodedig presennol ar gyfer rhyng-gysylltwyr a sut mae hyn yn cymharu ag ‘Ystod Capasiti Ynni Glân’ yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ) ar gyfer rhyng-gysylltwyr. Mae’r capasiti gosodedig presennol (2023) yn 9.8GW ac ‘Ystod Capasiti Ynni Glân’ DESNZ yn 12-14GW. Mae hyn yn dangos bod angen 2.2GW yn rhagor o gapasiti rhyng-gysylltwyr i gyrraedd ‘Ystod Capasiti Ynni Glân’ DESNZ.
Ffynhonnell: Tabl 1
Mae rhyng-gysylltwyr trydan yn cysylltu systemau trawsyrru dwy wlad, gan ein galluogi i fewnforio ac allforio trydan. Ddiwedd 2023, roedd gan Brydain Fawr 9.8 GW o gapasiti rhyng-gysylltu ar draws 9 rhyng-gysylltydd, gyda 2 ryng-gysylltiad arall (1.9 GW o gapasiti) yn cael ei adeiladu[footnote 101]. Ar sail modelu taflwybrau pŵer glân gan y llywodraeth a NESO, rydym yn disgwyl y bydd 12-14 GW o gapasiti rhyng-gysylltu erbyn 2030 yn darparu pŵer glân. Gall rhyng-gysylltwyr greu ystod eang o fuddion i’r system a defnyddwyr. Mae rhyng-gysylltwyr trydan yn cefnogi diogelwch y cyflenwad drwy alluogi mynediad at ynni mwy amrywiol dros ardal ddaearyddol ehangach. Maent hefyd yn darparu hyblygrwydd system drwy helpu’r system i ymateb yn gyflym i newidiadau yn y cyflenwad a’r galw. Mae hyn yn golygu, pan fyddwn yn cynhyrchu mwy o drydan nag sydd ei angen arnom, y bydd system ryng-gysylltu gref yn caniatáu inni allforio’r trydan dros ben, a thrwy hynny gyfrannu at rôl uwchbŵer ynni glân y Deyrnas Unedig.
Yn olaf, mae rhyng-gysylltwyr yn cyfrannu at ddatgarboneiddio ledled Ewrop, gan eu bod yn gallu caniatáu defnydd mwy effeithlon o ynni adnewyddadwy ysbeidiol rhwng gwledydd cysylltiedig.
Mae’r tabl dros y dudalen yn nodi’r prif rwystrau i fanteisio i’r eithaf ar dwf rhyng-gysylltu trydan erbyn 2030. Efallai y bydd rhwystrau ychwanegol, sy’n benodol i’r prosiect, y bydd DESNZ yn gweithio gyda datblygwyr i weithredu arnynt, fel y bo’n briodol. Ar ben hynny, mae’r adran Cadwyn Gyflenwi a’r Gweithlu yn y ddogfen hon yn nodi sut bydd y DU yn defnyddio ein capasiti gweithgynhyrchu sefydledig i gefnogi’r gwaith o gyflawni Pŵer Glân 2030.
Tabl 6: Rhwystrau a chamau gweithredu rhyng-gysylltu trydan
Maes | Rhwystr | Cam Gweithredu |
---|---|---|
Cysylltiadau grid a chynllunio | Mae’r prosesau cysylltiadau grid cynllunio yn golygu efallai na fydd rhyng-gysylltwyr sy’n cael cytundebau cap a llawr gan Ofgem yn y trydydd ffenestr cap a llawr / cynllun peilot Asedau Hybrid ar y Môr a) wedi cael cytundeb cysylltiad erbyn 2030, neu b) efallai na fyddant yn weithredol erbyn 2030. | Bydd NESO ac Ofgem yn sicrhau bod y diwygiadau cysylltiad grid yn cefnogi’r capasiti rhyng-gysylltu sydd ei angen i fodloni ystod capasiti pŵer glân 2030, a bydd MHCLG yn ystyried sut gall diwygiadau cynllunio gefnogi’r capasiti hwn ar gyfer amrediad capasiti pŵer glân 2030. |
Cadwyni cyflenwi HVDC | Mae’r cadwyni cyflenwi ar gyfer ceblau HVDC yn dynn ac yn creu risgiau na fydd prosiectau rhyng-gysylltu gyda chytundebau cap a llawr o’r trydydd ffenestr cap llawr / cynllun peilot Asedau Hybrid ar y Môr yn weithredol erbyn 2030. | Mae DESNZ yn edrych ar amrywiaeth o opsiynau i liniaru heriau yn y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys mesurau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi ddomestig. |
Y camau nesaf
Dylai gweithredu’r camau yn y bennod hon gael effaith gref o ran helpu i gyflawni’r buddion i ddefnyddwyr sy’n bosibl drwy bŵer glân yn 2030, yn enwedig drwy wella’n gyflym fynediad i’r farchnad a’r defnydd o storfeydd batris, cynyddu cyfleoedd ar gyfer hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr, gweithredu setliad fesul hanner awr ledled y farchnad, a lleihau amserlenni cysylltiadau grid yn sylweddol a chynllunio ar gyfer batris ar raddfa grid a rhyng-gysylltwyr Bydd y llywodraeth yn parhau i weithio gydag Ofgem, NESO a’r diwydiant i adolygu’r angen am ragor o gamau gweithredu a byddwn yn cynnwys y camau gweithredu newydd hyn yn y Trywydd Hyblygrwydd Carbon Isel y byddwn yn ei gyhoeddi yn 2025. Bydd llwyddiant yn cynnwys tystiolaeth bod buddsoddiadau ac asedau gweithredol yn cynyddu capasiti hyblygrwydd tymor byr yn unol â’r ystod capasiti ar gyfer Pŵer Glân 2030 sydd wedi’u nodi yn y Cynllun Gweithredu hwn. Bydd Uned Pŵer Glân 2030 yn monitro hyn yn ofalus.
Bydd cyflawni’r capasiti tymor byr hwn ar gyfer pŵer glân yn 2030 hefyd yn helpu’n sylweddol i fodloni’r gyllideb garbon a gofynion sero net[footnote 102], gan alluogi’r sector pŵer i ymdopi â’r cynnydd sylweddol yn y galw am drydan yn y dyfodol a fydd yn deillio o drydaneiddio sectorau eraill fel trafnidiaeth, gwresogi a rhai rhannau o’r diwydiant.
Hyblygrwydd hirdymor
Crynodeb
Gall technolegau hyblyg hirdymor ychwanegu gwerth sylweddol at y system a gallant ddarparu cyflenwad diogel o drydan yn ystod cyfnodau estynedig o allbwn ynni adnewyddadwy isel. Mae nifer o dechnolegau carbon isel arloesol fel pŵer dal, defnyddio a storio carbon (CCUS), hydrogen i bŵer (H2P) a mathau o storio trydan tymor hir (LDES), sy’n gallu efelychu rôl nwy di-dor. Rydym yn amcangyfrif y gallai fod angen rhwng 40-50 GW[footnote 103] o gapasiti hyblyg hirdymor anfonadwy erbyn 2030. Er y byddwn yn parhau i ddibynnu ar nwy di-dor i sicrhau cyflenwad diogel, byddwn yn sbarduno’r gwaith o gyflwyno’r technolegau carbon isel hyn, gan gryfhau ein safle fel arweinydd byd-eang ar flaen y gad yn y chwyldro ynni glân.
Bydd yr ymyriadau canlynol yn cefnogi’r gwaith o ddefnyddio technolegau hyblyg hirdymor tuag at Pŵer Glân 2030:
- Rydym wedi cyhoeddi cytundeb arloesol gyda Sero Net Teesside, ein prosiect pŵer CCUS cyntaf – fydd yn darparu pŵer carbon isel diogel o 2028 ymlaen.
- Rydym yn datblygu model busnes hydrogen i bŵer[footnote 104] i ddadrisgio buddsoddiad a chyflwyno capasiti hydrogen i bŵer yn gyflymach. Rydym yn bwriadu ymgysylltu mwy â’r farchnad ynghylch dyluniad y model busnes yng Ngwanwyn 2025.
- Bydd Ofgem yn cyflwyno’r cynllun cap a llawr i gefnogi buddsoddiad mewn storio trydan hirdymor, gyda’r nod o agor y cynllun i geisiadau yn Ch2 2025.
Storfa drydan hirdymor
Capasiti gosodedig presennol o’i gymharu ag ‘Amrediad Capasiti Pŵer Glân’ DESNZ yn 2030 (GW)
Disgrifiad o’r ffigur: Graddfa sy’n dangos y capasiti gosodedig presennol ar gyfer storio trydan am gyfnod hir a sut mae hyn yn cymharu ag ‘Ystod Capasiti Ynni Glân’ yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ) ar gyfer storio trydan am gyfnod hir. Mae’r capasiti gosodedig presennol (2024) yn 2.9GW ac ‘Ystod Capasiti Ynni Glân’ DESNZ yn 4-6GW. Mae hyn yn dangos bod angen 1.1GW yn rhagor o gapasiti storio trydan am gyfnod hir i gyrraedd ‘Ystod Capasiti Ynni Glân’ DESNZ.
Ffynhonnell: Tabl 1
Pŵer Carbon Isel Anfonadwy
Capasiti gosodedig presennol o’i gymharu ag ‘Amrediad Capasiti Pŵer Glân’ DESNZ yn 2030 (GW)
Disgrifiad o’r ffigur: Graddfa sy’n dangos y capasiti gosodedig presennol ar gyfer ynni carbon isel anfonadwy a sut mae hyn yn cymharu ag ‘Ystod Capasiti Ynni Glân’ yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ) ar gyfer ynni carbon isel anfonadwy. Mae’r capasiti gosodedig presennol (2024) yn 4.3GW ac ‘Ystod Capasiti Ynni Glân’ DESNZ yn 2-7GW.
Ffynhonnell: Tabl 1
Sylwer: Mae pŵer carbon isel anfonadwy yn cynnwys biomas, pŵer BECCS, CCUS nwy a hydrogen i bŵer. Mae technolegau y gellir eu danfon yn rhai sy’n llosgi tanwydd i gynhyrchu trydan a, thrwy amrywio’r gyfradd y caiff tanwydd ei losgi, gallant ymateb i ddiwallu anghenion y grid gyda lefelau amrywiol o hyblygrwydd.
Yr her
Gall technolegau hyblyg tymor hir addasu eu hallbwn yn gyflym i sicrhau bod cyflenwad yn cyfateb i’r galw, a gallant ddarparu ffynhonnell ddibynadwy o drydan ar gyfer rheoli cyfnodau brig dyddiol a thymhorol a chyfnodau hwy o allbwn adnewyddadwy isel (fel amodau ‘Dunkelflaute’). Heddiw, darperir y rhan fwyaf o’r hyblygrwydd hwnnw gan oddeutu 35 GW o nwy di-dor ac oddeutu 3 GW o storfa hydro wedi’i bwmpio[footnote 105], yr unig dechnolegau aeddfed sy’n gallu darparu’r hyblygrwydd hwn ar hyn o bryd.
Gallai fod angen rhwng 40-50 GW[footnote 106] o gapasiti hyblyg hirdymor anfonadwy erbyn 2030. Er ein bod yn disgwyl y bydd y rhan fwyaf o’r capasiti hwn yn dod o nwy di-dor, bydd yn rhedeg yn llai aml wrth i ni gefnogi defnyddio dewisiadau amgen carbon isel a nesáu at 2030. Yn y bennod hon rydym yn canolbwyntio ar sbarduno’r gwaith o gyflawni’r technolegau hirdymor carbon isel, fel pŵer CCUS, H2P ac LDES, sydd agosaf at aeddfedrwydd ac a allai chwarae rhan allweddol mewn system 2030. Ymdrinnir yn fanylach â Biomas a BECCS yn y bennod ar gyflawni prosiectau adnewyddadwy a niwclear.
Gall defnyddio technolegau hyblyg carbon isel hirdymor newydd ychwanegu gwerth sylweddol at y system gan eu bod yn gallu efelychu rôl nwy di-dor ar hyn o bryd, lleihau costau’r system a lleihau’r pwysau ar dechnolegau eraill, fel gwynt ar y môr. Mae NESO wedi nodi yn eu hadroddiad fod hyd yn oed lefelau cymharol fach o gapasiti gweithredol yn lleihau her gyffredinol gweddill y rhaglen yn sylweddol.
Mae pŵer CCUS a gorsafoedd hydrogen i bŵer ym Mhrydain Fawr yn cynnig cyfle gwych ar gyfer hyblygrwydd hirdymor carbon isel. Bydd angen i ni hefyd gynyddu’r defnydd o storfa hydro wedi’i bwmpio a sbarduno arloesedd mewn technolegau LDES mwy dechreuol.
Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i symud oddi wrth nwy di-dor gan gynnal diogelwch y cyflenwad ar yr un pryd.
Gweithredu
Dal, Defnyddio a Storio Pŵer Carbon
Gall pŵer CCUS, sef cynhyrchu tanwydd nwy naturiol gyda thechnoleg dal carbon, ddarparu ynni carbon isel nad yw’n dibynnu ar y tywydd, a fydd yn cefnogi system 2030 sy’n seiliedig ar ynni adnewyddadwy. Mae’r model busnes pŵer CCUS, a elwir yn Gytundeb Pŵer Anfonadwy (DPA), wedi cael ei ddylunio i sicrhau bod Pŵer CCUS yn chwarae rôl teilyngdod canolig werthfawr, gan ddanfon y tu ôl i ynni adnewyddadwy, ond cyn cynhyrchiant nwy di-dor. Bydd y DPA yn galluogi prosiectau adeiladu newydd ac ôl-osod gorsafoedd presennol a fydd yn allweddol i alluogi’r broses o symud oddi wrth nwy di-dor.
Mae NESO wedi awgrymu y gallai fod angen i ni ddefnyddio hyd at 2.7GW o bŵer CCUS a H2P erbyn 2030 – gweler Tabl 1[footnote 107]. Mae pwysigrwydd pŵer CCUS y tu hwnt i 2030 hefyd yn cael ei amlygu gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn eu hadroddiad Cyllideb Garbon 6 lle maent yn modelu y byddai pŵer CCUS yn darparu 30TWh o gynhyrchiant bob blwyddyn erbyn 2035 fel rhan o senario llwybr cytbwys[footnote 108].
Yn ogystal â chefnogi’r genhadaeth pŵer glân, mae CCUS yn fwy cyffredinol yn hanfodol i ddatgarboneiddio amrywiaeth o sectorau diwydiannol a chyflwyno prosiectau allyriadau negyddol. Bydd yn galluogi trawsnewidiad cyfiawn i ranbarthau diwydiannol drwy ddatgarboneiddio mewn ffordd sy’n sbarduno twf yn y DU, a rhagwelir y bydd CCUS yn cefnogi hyd at 50,000 o swyddi wrth i’r sector aeddfedu yn y 2030au ac yn ychwanegu gwerth o £5 biliwn bob blwyddyn erbyn 2050[footnote 109]. Mae dal carbon yn dechnoleg ddiogel, ac mae storio CO2 yn ddaearegol yn dechnoleg sydd wedi bod ar waith yn fyd-eang ers degawdau. Yn y DU mae gennym yr arbenigedd technegol a’r fantais ddaearyddol a daearegol gyda gwely môr bas a 78 biliwn tunnell o gapasiti storio CO2 damcaniaethol wedi’i wasgaru ar draws sgafell gyfandirol y DU[footnote 110].
Ar ben hynny, mae agosrwydd canolfannau allyriadau at y safleoedd storio daearegol yn rhoi’r cyfle priodol i’r clystyrau diwydiannol hyn ddatgarboneiddio drwy’r dull clwstwr CCUS rydym wedi’i sefydlu. Mae’r dull hwn yn cynnwys dewis clystyrau diwydiannol yn strategol er mwyn manteisio i’r eithaf ar nifer y prosiectau dal carbon, a’i nod yw dosbarthu costau’n deg a gwella effeithlonrwydd cost seilwaith trafnidiaeth a storio, gan fod o fudd i nifer fwy o brosiectau dal carbon. Bydd cyflwyno CCUS yn y DU yn arloesi o ran datblygiadau technegol a fframwaith rheoleiddio sy’n arwain y byd i helpu Prydain i elwa ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil manteision mentro gyntaf.
Sero Net Teesside
Gorsaf bŵer nwy gyntaf y byd ar raddfa gyda dal carbon.
Mae’r bargeinion arloesol a gyhoeddwyd ar 10 Rhagfyr 2024 yn golygu y bydd y gwaith o adeiladu diwydiant dal carbon newydd y DU yn dechrau yn 2025.
Llofnodwyd contractau gyda Sero Net Teesside, yr orsaf bŵer nwy gyntaf yn y byd i ddal carbon, gan gyflenwi hyd at filiwn o gartrefi â phŵer diogel, carbon isel o 2028.
Ynghyd â Phartneriaeth Northern Endurance (NEP), y prosiect Cludo a Storio CO2 ategol, bydd Clwstwr Arfordir Dwyrain Lloegr yn dal ac yn storio allyriadau carbon o’r rhanbarth. Bydd y buddsoddiad hwn yn cefnogi 2,000 o swyddi ar gyfartaledd yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr, gan nodi’r garreg filltir ddiweddaraf yng nghenhadaeth y llywodraeth i ailgynnau ei chadarnleoedd diwydiannol, mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a sbarduno twf am ddegawdau i ddod. Mae’n dilyn ymrwymiad cyllid y llywodraeth o £21.7 biliwn i sicrhau bod gweledigaeth y DU ar gyfer CCUS yn cael ei wireddu yn y DU.
Drwy lofnodi’r Cytundeb Pŵer Anfonadwy cyntaf (DPA) gyda diwydiant, mae’r llywodraeth yn profi bod y model busnes CCUS hwn sy’n arwain y byd – a ddatblygwyd dros flynyddoedd mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid – yn sicrhau canlyniadau go iawn drwy ddenu buddsoddiad a rhoi’r dechnoleg arloesol hon ar waith. Mae’r DPA wedi cael ei ddylunio’n benodol i gefnogi prosiectau fel Sero Net Teesside i anfon pŵer carbon isel cyn nwy di-dor ond nid i ddisodli ynni adnewyddadwy.
Mae’r DPA yn dangos gallu’r DU i greu atebion arloesol i fynd i’r afael â heriau cyflawni sero net ac mae’r garreg filltir hon yn dyst i ymdrechion cydweithredol y diwydiant a’r llywodraeth, gan adlewyrchu ein gweledigaeth gyffredin o sector pŵer wedi’i ddatgarboneiddio. Mae hwn yn gam pwysig ymlaen yn ein cynllun ar gyfer Pŵer Glân 2030.
HyNet a thu hwnt
Yn ogystal â Sero Net Teesside yng Nghlwstwr Arfordir Dwyrain Lloegr, mae llif sylweddol o brosiectau Pŵer CCUS posibl yn cael eu datblygu ledled y DU y gellir eu defnyddio ac a chwarae rhan allweddol mewn system bŵer wedi’i datgarboneiddio[footnote 111]. Yng ngogledd-orllewin Lloegr a gogledd Cymru, mae’r llywodraeth yn gweithio gyda’r diwydiant i gyflawni’r Clwstwr HyNet, sy’n ceisio storio hyd at 4.5 miliwn tunnell o CO2 y flwyddyn erbyn 2030[footnote 112]. Bydd y rhwydwaith Cludo a Storio CO2 HyNet yn galluogi cludo CO2 ymlaen yn ddiogel o brosiectau CCUS i storfa barhaol o dan y môr. Mae yna brosiect pŵer CCUS sydd, ymysg prosiectau CCUS eraill, yn anelu at gysylltu â HyNet erbyn 2030.
Yn ogystal â Chlwstwr Arfordir Dwyrain Lloegr a Chlwstwr HyNet, mae gan y DU lif cyffrous o glystyrau CCUS pellach ar gam aeddfed yn eu datblygiad. Mae’r rhain yn cynnwys Acorn yng ngogledd ddwyrain yr Alban a Viking yn Humber sy’n cynnwys prosiectau pŵer CCUS wrth galon eu cynlluniau.
Allyriadau i fyny’r gadwyn
Rydym yn glir y bydd angen i allyriadau yn y dyfodol o gynhyrchu nwy naturiol leihau yn y DU ac ar draws y byd. Yn ddomestig, mae DESNZ yn gweithio gyda’r diwydiant i ddatgarboneiddio allyriadau o gynhyrchu nwy naturiol i fyny’r gadwyn. Mae Awdurdod Pontio Môr y Gogledd (NSTA) yn amcangyfrif bod gweithredwyr wedi lleihau ffaglu 49% rhwng 2018 a 2023, ac mae allyriadau cyffredinol cynhyrchu olew a nwy domestig i fyny’r gadwyn wedi gostwng tua 28%. Drwy Fargen Pontio Môr y Gogledd, mae’r diwydiant wedi ymrwymo i ymestyn y gostyngiad cyffredinol mewn allyriadau i 50% o 2018 i 2030[footnote 113].
Yn rhyngwladol, rydym hefyd wedi ymrwymo i fenter dim ffaglu rheolaidd Banc y Byd, sy’n ceisio dileu’r arfer erbyn 2030 ar gyfer llwyfannau cynhyrchu olew. Mae’r DU hefyd yn aelod o’r Addewid Methan Byd-eang, i leihau allyriadau methan byd-eang o leiaf 30% ar y cyd erbyn 2030 o’i gymharu â lefelau 2020[footnote 114]. Ar ben hynny, rydym yn gweithio gyda’r Unol Daleithiau, yr Undeb Ewropeaidd ac eraill i ddatblygu fframwaith i fesur, monitro ac adrodd yn well ar allyriadau methan o nwy a fewnforir. Rydym hefyd yn rhannu arbenigedd technegol ac arferion gorau yn rhyngwladol ar leihau allyriadau yn y sector ynni.
Allyriadau i fyny’r gadwyn
Rydym yn glir y bydd angen i allyriadau yn y dyfodol o gynhyrchu nwy naturiol leihau yn y DU ac ar draws y byd. Yn ddomestig, mae DESNZ yn gweithio gyda’r diwydiant i ddatgarboneiddio allyriadau o gynhyrchu nwy naturiol i fyny’r gadwyn. Mae Awdurdod Pontio Môr y Gogledd (NSTA) yn amcangyfrif bod gweithredwyr wedi lleihau ffaglu 49% rhwng 2018 a 2023, ac mae allyriadau cyffredinol cynhyrchu olew a nwy domestig i fyny’r gadwyn wedi gostwng tua 28%. Drwy Fargen Pontio Môr y Gogledd, mae’r diwydiant wedi ymrwymo i ymestyn y gostyngiad cyffredinol mewn allyriadau i 50% o 2018 i 2030[footnote 113].
Yn rhyngwladol, rydym hefyd wedi ymrwymo i fenter dim ffaglu rheolaidd Banc y Byd, sy’n ceisio dileu’r arfer erbyn 2030 ar gyfer llwyfannau cynhyrchu olew. Mae’r DU hefyd yn aelod o’r Addewid Methan Byd-eang, i leihau allyriadau methan byd-eang o leiaf 30% ar y cyd erbyn 2030 o’i gymharu â lefelau 2020[footnote 114]. Ar ben hynny, rydym yn gweithio gyda’r Unol Daleithiau, yr Undeb Ewropeaidd ac eraill i ddatblygu fframwaith i fesur, monitro ac adrodd yn well ar allyriadau methan o nwy a fewnforir. Rydym hefyd yn rhannu arbenigedd technegol ac arferion gorau yn rhyngwladol ar leihau allyriadau yn y sector ynni.
Cyllido
CCUS oedd un o’r pum sector a fydd yn elwa o’r £5.8 biliwn ychwanegol a ddyrannwyd i’r Gronfa Cyfoeth Cenedlaethol. Bydd y cyfalaf hwn yn cael ei ddefnyddio gan y Gronfa Cyfoeth Cenedlaethol i ariannu prosiectau sy’n wynebu rhwystrau rhag buddsoddi, gan helpu i ddenu cyllid preifat iddynt.
CCUS ar gyfer sero net
Yn y 2030au ac wrth i ni gyflymu i sero net, mae’n bwysig bod diwydiant a llywodraeth yn galluogi datblygu sector CCUS hunangynhaliol yn y DU sy’n cefnogi’r gwaith o gyflawni ein Cenhadaeth, ein swyddi ac yn lleihau allyriadau, gan roi’r DU ar flaen y gad o ran CCUS byd-eang.
Hydrogen i Bŵer
Gall Hydrogen i Bŵer chwarae rhan allweddol yn ein system drydan ar amrywiaeth o raddfeydd a dyma’r brif dechnoleg carbon isel sy’n gallu darparu storfa carbon isel rhwng tymhorau, gan ddarparu llwybr datgarboneiddio ar gyfer nwy di-dor. Mae ein dadansoddiad yn dangos bod H2P yn economaidd ar ffactorau llwyth is (is na 30%), gan ei alluogi i fod yn gost-effeithiol mewn system pŵer glân lle disgwylir i ffactorau llwyth hyblyg ostwng wrth i gynhyrchu ynni adnewyddadwy gynyddu[footnote 115]. Mae H2P yn wynebu dau brif rwystr o ran defnyddio – mwy o risg buddsoddi a chost o fod yn dechnoleg gyntaf o’i bath, a dod i gysylltiad â risgiau ar draws cadwyni o ganlyniad i ddibynnu ar gadwyn gwerth hydrogen newydd. Mae yna ddibyniaeth hollbwysig ar fynediad er mwyn galluogi seilwaith hydrogen ar raddfa grid, fel cyfleusterau storio a thrafnidiaeth newydd, sydd fel arfer ag amseroedd arwain hir. Bydd sicrhau bod seilwaith cludo a storio hydrogen yn cael ei ddefnyddio, ochr yn ochr â chefnogi gorsafoedd H2P, yn hanfodol er mwyn gallu defnyddio H2P ar yr un pryd â darparu’r seilwaith i gefnogi datgarboneiddio diwydiannol drwy hydrogen.
Model Busnes Hydrogen i Bŵer
I gyflymu’r broses o gyflwyno H2P, mae’r llywodraeth yn gweithredu model busnes H2P (H2PBM) i leihau risg buddsoddiad a lliniaru’r rhwystrau defnyddio a nodwyd gennym, fel yr ymrwymwyd yn ymateb mis Rhagfyr 2024 y llywodraeth i’r ymgynghoriad ar ‘H2P need for and design of a market intervention’. Byddwn yn darparu H2BPM yn seiliedig ar fecanwaith Cytundeb Pŵer Anfonadwy. Er mwyn bwrw ymlaen â’r gwaith o ddatblygu H2PBM, rydym yn bwriadu cyhoeddi dogfen ymgysylltu â’r farchnad yng ngwanwyn 2025 sy’n amlinellu rhagor o fanylion am ddyluniad arfaethedig H2PBM. Rydym yn sefydlu gweithgor arbenigol H2P i gefnogi ein gwaith o ddatblygu polisi.
Storio hydrogen
Bydd storio hydrogen yn chwarae rhan hanfodol yn yr economi hydrogen a’r system ynni ehangach. Mae storio yn allweddol ar gyfer rheoli’r gwaith o gydbwyso rhwydweithiau yn ystod y dydd a darparu sicrwydd cyflenwad i’r rhai sy’n derbyn hydrogen. Bydd cyflwyno H2P ar raddfa fawr yn gofyn am fynediad at storfa hydrogen daearegol drwy lifoedd hydrogen, er mwyn gallu darparu gorsafoedd H2P.
Mae datblygwyr yn wynebu rhwystrau rhag buddsoddi, gan gynnwys costau uchel, cyfnodau arwain hir, ac ansicrwydd ynghylch pa mor gyflym y bydd y galw am drafnidiaeth a storio yn cynyddu. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i ddylunio, yn 2025, fodelau busnes newydd ar gyfer seilwaith cludo a storio hydrogen i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn a datgloi buddsoddiad preifat. Bydd buddsoddiad cyhoeddus a phreifat mewn seilwaith cludo a storio yn ei dro yn datgloi rhagor o fuddsoddiad preifat yn yr economi hydrogen ehangach, drwy helpu i gynyddu argaeledd daearyddol, dibynadwyedd a chost-effeithiolrwydd cyflenwad hydrogen.
Mae Deddf Ynni 2023 yn darparu’r fframwaith deddfwriaethol a fydd yn sail i gyflawni’r modelau busnes cludo a storio hydrogen. Ar hyn o bryd rydym yn bwrw ymlaen yn gyflym â’r gwaith o ddylunio’r modelau masnachol a’r broses ar gyfer eu dyfarnu.
Cynhyrchu hydrogen
Mae capasiti cynhyrchu hydrogen yn hanfodol i gynyddu’r cyflenwad tanwydd ar gyfer gorsafoedd H2P ac mae cymorth yn cael ei ddarparu drwy’r Model Busnes Cynhyrchu Hydrogen. Mae hyn yn darparu llwybr i’r farchnad i brosiectau cynhyrchu hydrogen ac rydym eisoes yn gwneud cynnydd, gyda chyhoeddiad mis Hydref am £21.7 biliwn o gyllid ar gael i lansio’r prosiectau CCUS cyntaf gan gynnwys hydrogen a alluogir gan CCUS[footnote 116].
Dewiswyd un ar ddeg o brosiectau cynhyrchu hydrogen electrolytig ar gyfer dyfarnu contractau yn y Rownd Ddyrannu Hydrogen gyntaf (HAR1), ac rydym yn disgwyl i’r prosiectau hyn fod yn weithredol erbyn 2026. Rydym yn bwriadu cyhoeddi rhestr fer o brosiectau HAR2 maes o law ac rydym wrthi’n datblygu ein dull gweithredu ar gyfer HARs yn y dyfodol, gan gynnwys HAR3, a byddwn yn gwahodd adborth drwy ymgysylltu â’r farchnad maes o law.
Rydym yn bwriadu cyhoeddi rhifyn nesaf y Diweddariad ar y Strategaeth Hydrogen i’r Farchnad cyn bo hir.
Cyllido
Hydrogen oedd un o’r pum sector a fydd yn elwa o’r £5.8 biliwn ychwanegol a ddyrannwyd i’r Gronfa Cyfoeth Cenedlaethol. Bydd y cyfalaf hwn yn cael ei ddefnyddio gan y Gronfa Cyfoeth Cenedlaethol i ariannu prosiectau sy’n wynebu rhwystrau rhag buddsoddi, gan helpu i ddenu cyllid preifat iddynt.
Storfa drydan hirdymor
Mae storfa drydan hirdymor (LDES) yn un o brif alluogwyr system ynni ddiogel, cost-effeithiol a charbon isel. Gall LDES helpu i ddatgarboneiddio’r system drwy gyflenwi trydan yn barhaus o nifer o oriau i hyd at nifer o ddyddiau heb ailwefru, gan ddisodli hyblygrwydd nwy di-dor a helpu i liniaru cyfyngiadau ar y grid. Mae’n cynnwys storfa hydro wedi’i bwmpio, technoleg aeddfed sydd wedi hen ennill ei phlwyf, a thechnolegau eraill a ddatblygwyd yn fwy diweddar fel storio ynni aer hylifol. Yn ogystal â darparu trydan yn ystod cyfnodau hir o wynt/haul isel, mae technolegau LDES hefyd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau grid hanfodol fel inertia, cymorth foltedd, cylched byr ac ymateb i alw.
Ar hyn o bryd mae 3 GW o gapasiti storfa hydro wedi’i bwmpio wedi’i gysylltu i’r grid[footnote 117], ond mae amseroedd adeiladu hir ynghyd ag ansicrwydd refeniw wedi llesteirio buddsoddiad mewn datblygu LDES dros y 40 mlynedd diwethaf[footnote 118]. Dyma fu’r her fwyaf i ddatblygu LDES, ac mae’r llywodraeth hon bellach wedi mynd i’r afael â hyn drwy gyhoeddi ein penderfyniad i gyflwyno cynllun cymorth buddsoddi cap a llawr, gydag Ofgem yn gweithredu fel rheoleiddiwr a chorff cyflawni cynllun cymorth buddsoddi[footnote 119].
Mae’r Amrediad Capasiti Pŵer Glân yn Tabl 1 yn awgrymu y gallem fod angen 4-6 GW o LDES erbyn 2030[footnote 120]. Bydd y camau gweithredu isod yn helpu i gyflwyno mwy o LDES i’r system.
Cynllun cap a llawr
Yn dilyn penderfyniad y llywodraeth ym mis Hydref 2024 i gyflwyno cynllun cymorth buddsoddi cap a llawr ar gyfer LDES:
- Bydd Ofgem yn cyhoeddi llythyr agored ar agweddau penodol ar y cynllun lle byddai’n hoffi cael rhagor o fewnbwn gan randdeiliaid a bydd yn darparu rhagor o wybodaeth am amseriad gweithredu’r cynllun cap a’r llawr.
- Yn Ch1 2025, bydd DESNZ ac Ofgem yn cyhoeddi Dogfen Penderfyniad Technegol i roi eglurder ynghylch meysydd dyluniad y cynllun cap a llawr fydd angen eu cyflawni o hyd
- Mae Ofgem yn disgwyl agor y rownd ddyrannu gyntaf ar gyfer cap a’r llawr yn Ch2 2025 ar ôl cyhoeddi’r Ddogfen Penderfyniad Technegol
- Mae NESO wedi cytuno i ddarparu cyngor ar yr ystod o gapasiti LDS y dylai Ofgem geisio darparu cynlluniau cap a llawr ar eu cyfer yn y rownd ddyrannu gyntaf, a chefnogi Ofgem i asesu prosiectau sy’n berthnasol
Cyllido
Gan adeiladu ar y ddau fuddsoddiad y mae’r Gronfa Cyfoeth Cenedlaethol eisoes wedi’u gwneud mewn cwmnïau LDES, bydd yn parhau i ymgysylltu â phrosiectau LDES ar lefel Parodrwydd Technoleg Lefel 7 ac uwch – gan gynnwys y rheini sy’n paratoi i wneud cais cap a llawr – gan archwilio atebion cyllido lle mae rhwystrau i fuddsoddiad preifat.
Y Farchnad Capasiti
Y Farchnad Capasiti yw’r prif fecanwaith i sicrhau capasiti a sicrhau diogelwch y cyflenwad trydan ym Mhrydain Fawr. Mae’r cynllun yn rhoi refeniw (£/MW) i gyfranogwyr, wedi’i ddyrannu drwy arwerthiannau cystadleuol. Darperir y refeniw hwn yn gyfnewid am gapasiti fydd ar gael ar adegau o straen yn y system. Mae prosiectau LDES, lle maent yn bodloni meini prawf cymhwyso, yn gymwys i gyfranogi yn y Farchnad Capasiti, a maent yn cyfranogi ynddi ar hyn o bryd.
Cyn cyfnod cyn-gymhwyso Marchnad Capasiti 2025 yn ystod haf 2025, bydd DESNZ yn gweithredu cynigion polisi’r Farchnad Capasiti fel yr amlinellir yn ei ymatebion ym mis Gorffennaf 2024 a mis Hydref 2024 i ymgynghoriad Marchnad Capasiti Cam 2. Mae’r newidiadau’n cynnwys cynyddu’r estyniad i’r cyfnod adeiladu sydd ar gael i gefnogi prosiectau sy’n gymwys ar gyfer mecanwaith stop hir y Farchnad Capasiti. Bydd hyn yn caniatáu i gynhyrchwyr sy’n gofyn am estyniad (ar adeg gwneud y cais), gael hyd at 6 blynedd mewn cytundeb Marchnad Capasiti T-4 i ddod ar-lein (drwy estyniad 24 mis). Rydym yn disgwyl i’r newid penodol hwn fod ar waith cyn yr arwerthiannau ddechrau 2026. Bydd hyn yn ychwanegol at yr opsiwn estyniad 12 mis presennol.
Arloesi
Gall arloesi wneud cyfraniad pwysig at ddefnyddio LDES. Mae gan dechnolegau mwy newydd, fel storio ynni aer hylifol, sy’n cynnig mwy o hyblygrwydd lleoliadol na storfa hydro wedi’i bwmpio, amseroedd adeiladu cyflymach, a maent yn helpu i amrywio portffolio technoleg LDES. Mae tua £100m o gyllid arloesi wedi cael ei ddarparu dros y degawd diwethaf i gefnogi’r gwaith o ddatblygu llawer o dechnolegau LDES newydd[footnote 121]. Mae’r Portffolio Arloesi Sero Net presennol wedi ariannu technolegau newydd fel batris storio ynni aer hylifol a llif, gan eu symud ymlaen i gam arddangos a sbarduno buddsoddiad ynddynt, sydd wedi galluogi’r arloesedd hwn i fod yn opsiynau hyfyw ar gyfer capasiti hyblyg carbon isel erbyn 2030 a thu hwnt. Bydd arloesi pellach yn sicrhau bod amrywiaeth o dechnolegau newydd yn datblygu ac yn cael eu defnyddio ar gyflymder ac ar raddfa fawr.
Cynllunio a chysylltiadau grid
Gall y Llywodraeth, Ofgem, NESO, a chwmnïau rhwydwaith sicrhau bod diwygiadau i gysylltiadau grid a chyflymu amserlenni cyflenwi seilwaith grid yn arwain at gapasiti digonol (yn unol ag amrediad capasiti pŵer glân 2030) mewn prosiectau LDES sy’n cysylltu erbyn 2030, gan gynnwys y rheini sy’n cyd-leoli â phrosiectau ynni adnewyddadwy. Byddwn yn gweithio gyda’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol i ystyried sut y gellid cyfeirio at LDES, a’i bwysigrwydd i bŵer glân yn 2030 a sero net, mewn diwygiadau cynllunio yn y dyfodol.
Yn yr Alban, mae’r cyfrifoldeb dros gynllunio a chydsynio wedi’i ddatganoli i Lywodraeth yr Alban. Drwy eu Pedwerydd Fframwaith Cynllunio Cenedlaethol (NPF4), mae Llywodraeth yr Alban wedi gosod hinsawdd a natur wrth galon eu system gynllunio ac wedi egluro eu cefnogaeth i bob math o dechnolegau adnewyddadwy, carbon isel a di-allyriadau, gan gynnwys seilwaith trawsyrru a dosbarthu. Mae effeithiau posibl ar gymunedau a natur, gan gynnwys effeithiau cronnus, yn ystyriaethau pwysig yn y broses o wneud penderfyniadau.
Nwy di-dor
Gan fod pŵer glân yn lleihau’n sylweddol faint o drydan sy’n cael ei gynhyrchu gan orsafoedd nwy, bydd nwy di-dor yn newid ei rôl yn y system. O dan system pŵer glân, bydd yn chwarae rôl wrth gefn ar adegau penodol drwy gydol y cyfnod pontio i bŵer glân. Mae hyn yn golygu cadw digon o gapasiti nwy di-dor tan ymhell y tu hwnt i 2030, pan fydd modd ei ddisodli’n ddiogel gan dechnolegau carbon isel sy’n gallu darparu’r hyblygrwydd hirdymor sydd ei angen i gadw’r system yn gytbwys bob amser. Ar hyn o bryd, rydyn ni’n dibynnu ar ~35 GW o nwy di-dor yn y system er mwyn darparu capasiti hyblyg hirdymor[footnote 122]. Mae’r capasiti cadarn hwn yn hanfodol ar gyfer diogelwch trydan, a bydd ei angen fel cyflenwad wrth gefn strategol i ymateb i gyfnodau penodol o alw uchel, hyd yn oed wrth i ni geisio lleihau’r defnydd o danwydd ffosil (h.y. oriau defnyddio nwy) yn gyffredinol.
Asedau presennol
Mae’n debygol mai cadw’r fflyd nwy bresennol lle bo hynny’n bosibl yw’r ffordd fwyaf cost-effeithiol o ddiwallu’r capasiti sydd ei angen arnom er mwyn i nwy gyflawni ei swyddogaeth strategol yn 2030. Mae’r wybodaeth bresennol am y fflyd yn awgrymu y bydd y rhan fwyaf o’r asedau nwy presennol yn aros ar-lein tan 2030, ond rydym hefyd yn ymgynghori ar fesurau i’w gwneud yn haws i asedau nwy aros yn y Farchnad Gapasiti ac i orsafoedd gael mynediad at gytundebau Marchnad Capasiti aml-flwyddyn, gan annog buddsoddiad mewn ymestyn oes gorsafoedd hŷn.
Parodrwydd ar gyfer datgarboneiddio
Er mwyn darparu’r eglurder sydd ei angen ar fuddsoddwyr i wneud penderfyniadau tymor hir, rydym yn cyflwyno gofynion parodrwydd ar gyfer datgarboneiddio. Bydd hyn yn sicrhau bod yn rhaid i orsafoedd pŵer hylosgi newydd neu a adnewyddir yn sylweddol yn Lloegr, sy’n cyflwyno eu cais am drwydded amgylcheddol o 28 Chwefror 2026 ymlaen, fod â chynllun credadwy i ddatgarboneiddio naill ai drwy drosi i danio hydrogen neu drwy ôl-osod cyfarpar dal carbon. Bydd mynnu bod datblygwyr yn dangos hyfywedd eu cynllun datgarboneiddio yn sicrhau bod datblygwyr gorsafoedd pŵer hylosgi newydd neu a adnewyddir yn sylweddol wedi ystyried sut byddant yn cael mynediad at hydrogen carbon isel neu storfa CO2 yn y dyfodol, a bod y tir sydd ei angen i alluogi datgarboneiddio wedi cael ei neilltuo. Bydd hyn yn cefnogi darparu gwelededd i fuddsoddwyr ynghylch pa safleoedd sydd mewn sefyllfa dda i ddatgarboneiddio yn y dyfodol.
Ar ben hynny, er mwyn helpu i sicrhau bod capasiti a gyflwynir cyn y dyddiad gweithredu yn ystyried eu cynlluniau datgarboneiddio, rydym yn gosod rhwymedigaeth ar orsafoedd pŵer hylosgi a adnewyddir yn sylweddol neu orsafoedd pŵer hylosgi newydd yn Lloegr, sy’n cymryd rhan yn arwerthiant y Farchnad Capasiti yn 2026, i ddatgan y byddant yn cydymffurfio â’r gofynion Parodrwydd ar gyfer Datgarboneiddio.
Rydym yn ategu hyn â mesurau sydd â’r bwriad o alluogi asedau nwy sy’n gysylltiedig â chytundebau hirdymor y Farchnad Capasiti i adael heb gosb a throsglwyddo i’r Cytundeb Pŵer Anfonadwy Pŵer CCUS, gan alluogi trosi i garbon isel drwy ôl-osod cyfarpar dal carbon. Rydym yn edrych ar lwybrau ychwanegol ar gyfer asedau nwy yn y Farchnad Capasiti i ddatgarboneiddio gan gynnwys dichonoldeb asedau nwy sy’n gadael cytundebau tymor hir i alluogi trosi i H2P drwy gymorth H2PBM.
Wrth i dechnolegau carbon isel ddod yn fwy sefydledig, bydd nwy di-dor yn symud fwyfwy at rôl wrth gefn yn y system, a fydd yn cael ei defnyddio yn y bôn fel dewis olaf i ateb y galw brig, a’r galw yn ystod cyfnodau hir o gyflenwad isel o ffynonellau amrywiol. Mae cynnal y capasiti cynhyrchu wrth gefn hwn yn bwysig er mwyn cyrraedd pŵer glân erbyn 2030. Fel y nodir yn y bennod ar ddiwygio’r farchnad, rydym yn cymryd camau i ddiwygio’r Farchnad Capasiti i sicrhau bod digon o gapasiti nwy di-dor yn y system i gynnal diogelwch y cyflenwad trydan wrth iddo symud i’r rôl wrth gefn hon.
Y diwygiadau rydym yn eu cyhoeddi i fframweithiau presennol y farchnad yw’r ffordd orau o sicrhau bod y capasiti strategol angenrheidiol wrth gefn ar gyfer cynhyrchu nwy di-dor yn aros ar y system. Barn y llywodraeth yw y gallai mecanwaith newydd y tu allan i’r farchnad i reoli’r gronfa wrth gefn honno chwarae rhan yn y broses o roi’r gorau i ddefnyddio capasiti nwy di-dor yn y tymor hir ar ôl i’w gyfaint yn y system leihau’n sylweddol ac mae technolegau hyblyg carbon isel hirdymor yn cael eu defnyddio ar raddfa fawr.
Y camau nesaf
Bydd y camau gweithredu a amlinellir yn yr adran hon yn hanfodol er mwyn darparu llif cadarn o dechnolegau hyblyg carbon isel dros gyfnod hir a gyrru technolegau arloesol a rhad yn eu blaenau a all chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddarparu pŵer glân. Mae hefyd yn egluro’r rôl bwysig y bydd nwy di-dor yn parhau i’w chwarae mewn rôl newydd wrth gefn i ddarparu sicrwydd cyflenwad i’r 2030au a thu hwnt, gan roi eglurder i fuddsoddwyr ynghylch llwybrau datgarboneiddio’r asedau hyn yn y dyfodol.
Cadwyni cyflenwi a’r gweithlu
Crynodeb
Mae lleihau’r rhwystrau i fuddsoddi mewn cadwyni cyflenwi cadarn a datblygu’r gweithlu yn hanfodol i sicrhau ein bod yn bodloni’r galw am Bŵer Glân 2030 ac i wireddu buddion y newid hwn i’n heconomi. Mae hwn yn gyfle i gefnogi twf y DU drwy adeiladu cadwyni cyflenwi domestig, tyfu’r gweithlu medrus a lledaenu swyddi da ledled y wlad. Bydd y Llywodraeth yn cefnogi’r diwydiant i sicrhau’r cadwyni cyflenwi a’r gweithlu medrus sydd eu hangen arnynt drwy:
Rhoi mwy o sicrwydd i ddatblygwyr o ran y llwybr i’r farchnad er mwyn iddynt allu cynllunio a sicrhau’r cadwyni cyflenwi a’r gweithlu angenrheidiol yn gynt.
Mynd ati’n gyflym i gynnull fforwm diwydiant gweithlu a chadwyni cyflenwi newydd ar gyfer sectorau allweddol Pŵer Glân 2030, gan gynnwys undebau llafur, er mwyn datblygu dealltwriaeth ddofn o anghenion cynllunio’r gweithlu a’r gadwyn gyflenwi ar lefel y system ar gyfer darparu Pŵer Glân 2030, archwilio atebion dewr a llunio camau gweithredu ar y cyd wedi’u targedu i sicrhau eu bod yn cael eu diwallu.
Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd domestig ar gyfer cadwyni cyflenwi ynni glân drwy waith traws-economi fel Strategaeth Ddiwydiannol y DU yn ystod Gwanwyn 2025, a chamau gweithredu polisi sy’n benodol i bŵer glân.
Archwilio lle gall cydweithio rhyngwladol gefnogi cadwyni cyflenwi, gan gynnwys drwy gytundebau masnach a chydweithredu rhyngwladol. Mae’r llywodraeth yn benderfynol o weithio gyda gwledydd eraill i amrywio cadwyni cyflenwi rhyngwladol.
Ysgogi cynnydd yng ngallu ein gweithlu ynni glân domestig i gyfateb i faint yr her o ran defnydd drwy ein buddsoddiad mewn sectorau ynni glân, a chyflymu diwygiadau ehangach dan arweiniad y Swyddfa Swyddi Ynni Glân, yr Adran Addysg, a Skills England ochr yn ochr â chynigion pŵer glân wedi’u targedu, gan weithio’n agos gyda’r llywodraethau datganoledig, y diwydiant ac undebau llafur.
Codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd swyddi ynni glân drwy gyhoeddi data ar anghenion sgiliau a gweithlu ynni glân y dyfodol, er mwyn sicrhau dealltwriaeth gyffredin o dueddiadau a heriau i hysbysu camau gweithredu.
Yr her
Cadwyni Cyflenwi
Er mwyn darparu Pŵer Glân 2030, mae angen cadwyni cyflenwi diogel, cynaliadwy, cystadleuol a dibynadwy arnom i ddarparu’r cydrannau a’r deunyddiau sydd eu hangen arno. Bydd angen i’r DU ddod o hyd i ragor o gydrannau drwy bweru ein gweithgynhyrchu domestig a sicrhau mynediad a chystadleurwydd mewn marchnadoedd rhyngwladol. Wrth i ni gyflawni hyn, rydym yn ymrwymo i ddatgloi’r buddion twf sy’n deillio o gynyddu’r defnydd o dechnolegau ynni glân a’u gweithgynhyrchu. Ein huchelgais yw gweld cynnydd parhaus yng ngweithgarwch y gadwyn gyflenwi hyd at 2030 gan barhau hyd at 2050.
Yn ddomestig, mae’r DU wedi sefydlu capasiti gweithgynhyrchu yn rhai o’r technolegau allweddol sydd eu hangen i ddarparu Pŵer Glân 2030. Mae gennym gryfderau mewn gwasanaethau peirianneg gwynt ar y môr, ceblau, electroleiddwyr ac offer trydanol, yn ogystal â rhannau o eneraduron tyrbinau gwynt a mono-byst. Mae gennym hefyd gyflenwyr sydd ag arbenigedd mewn systemau trydanol cerrynt eiledol foltedd uchel a cherrynt uniongyrchol foltedd uchel (HVDC) ac rydym yn anelu at adeiladu capasiti mewn ceblau HVDC. Bydd y Strategaeth Ddiwydiannol sydd ar y gweill yn ceisio denu buddsoddiad mewn sectorau sy’n sbarduno twf, gan gynnwys diwydiannau ynni glân, ac mae gwaith yn cael ei wneud i bennu’r is-sectorau allweddol y bydd yn canolbwyntio arnynt. Yn fwy cyffredinol, rydym yn lleoliad buddsoddi sy’n arwain y byd, gyda llif cryf o brosiectau posibl a allai gryfhau ein sylfaen ymhellach, er y bydd angen i ni bob amser brynu mewnbynnau a chydrannau gorffenedig o’r farchnad ryngwladol hefyd.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r diwydiant i wneud asesiad cychwynnol o’r heriau caffael yn y diwydiant a allai wynebu Pŵer Glân 2030, gan adeiladu ar dystiolaeth flaenorol a gynhyrchwyd ar y cyd â Baringa a’r Cynllun Twf Diwydiannol[footnote 123],[footnote 124]. Mae’r gwaith hwn wedi nodi cyfyngiadau ar draws nifer o sectorau allweddol, gyda chadwyni cyflenwi yn agos at gapasiti gweithgynhyrchu llawn, amseroedd arwain hir ar gyfer cydrannau allweddol, a dibyniaeth ar ffynonellau rhyngwladol unigol mewn mannau. Ochr yn ochr â’r cyfyngiadau hyn, mae nifer o heriau traws-sector yn gysylltiedig â chaffael cydrannau a darparu’r cadwyni cyflenwi cadarn sydd eu hangen arnom ar gyfer Pŵer Glân 2030:
- Hyder buddsoddi mewn prynu cydrannau a buddsoddi mewn gweithgynhyrchu domestig. Mae angen mwy o sicrwydd ar ddatblygwyr yn y llwybrau defnyddio pŵer glân a llyfrau archebion cysylltiedig i sicrhau cydrannau’r gadwyn gyflenwi cyn gynted â phosibl, yn enwedig y rheini sydd ag amseroedd arwain hir. Yn ei dro, bydd hyn yn rhoi mwy o hyder i’r gadwyn gyflenwi wneud penderfyniadau buddsoddi sy’n ymrwymo i leoli neu gynyddu capasiti gweithgynhyrchu yn y DU yn y dyfodol. Rydym hefyd yn gwybod bod angen i gwmnïau cadwyn gyflenwi yn y DU ymgysylltu’n gynnar ac yn strategol â datblygwyr i helpu i ddatblygu a mireinio eu cynnyrch a’u gwasanaethau i ddiwallu anghenion y farchnad.
- Pŵer prynu rhyngwladol. Mae cystadleuaeth fyd-eang gynyddol am gadwyni cyflenwi ynni glân, gyda chystadleuaeth am gydrannau allweddol ar draws gwahanol wledydd a sectorau, a all arwain at godi prisiau. Bydd y DU bob amser yn dibynnu ar gadwyni cyflenwi rhyngwladol i ryw raddau: ochr yn ochr â chadwyni cyflenwi domestig cryfach, mae’n hanfodol bod gan ddatblygwyr yn y DU fynediad dibynadwy at ddeunyddiau neu gydrannau a’u bod yn gallu cystadlu mewn marchnadoedd rhyngwladol.
- Cyfyngiadau logistaidd. Ar sail sector-wrth-sector, mae materion penodol sy’n atal neu’n gohirio cludo a chyflenwi cydrannau’r gadwyn gyflenwi – yn fwyaf amlwg mewn rhwydweithiau trosglwyddo, gwynt ar y môr ac ar y tir, lle mae materion ynghylch porthladdoedd, llongau a llwythi anarferol yn acíwt.
Gweithlu
Mae disgwyl i’r newid ehangach i sero net gefnogi cannoedd o filoedd o swyddi, gyda Pŵer Glân 2030 yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ysgogi cyfoeth o swyddi newydd a chyfleoedd economaidd ledled y wlad[footnote 125]. Bydd y swyddi hyn yn cwmpasu amrywiaeth o lefelau sgiliau a galwedigaethau, gan gynnwys peirianwyr technegol ar lefelau 4–7 (ac yn enwedig 6+, gan gynnwys rolau mewn peirianneg sifil, mecanyddol, trydanol a dylunio), ynghyd â chrefftau trydanol, weldio a mecanyddol ar lefelau 2–7, a rolau rheoli gan gynnwys rheolwyr prosiect a chyflawni ar lefelau 4–7[footnote 126]. Mae galw mawr eisoes am lawer o’r galwedigaethau hyn ar draws sectorau eraill fel adeiladu tai, adeiladu a gweithgynhyrchu ehangach, ac mae hefyd lefel gymharol uchel o sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy rhwng llawer o sectorau carbon-ddwys a sectorau ynni glân, felly bydd cydlynu ehangach yn hanfodol[footnote 127]. Mae’r atodiad tystiolaeth ‘Asesiad o’r Her Sgiliau Ynni Glân’ yn nodi rhagor o dystiolaeth ynghylch galwedigaethau ynni glân allweddol, a gasglwyd drwy amrywiaeth o ffynonellau.
Mae’r her o ddod o hyd i weithwyr sydd â’r sgiliau cywir i ymgymryd â’r rolau hyn eisoes yn sylweddol a disgwylir iddi barhau felly. Drwy ymgysylltu â’r diwydiant, rydym wedi nodi nifer o rwystrau allweddol i sicrhau gweithlu Pŵer Glân 2030:
- Darparu anghenion sgiliau’r dyfodol: Mae nifer o fylchau a galwedigaethau allweddol y mae angen eu targedu’n well yn y system sgiliau ôl-16. Yn gwaethygu’r her mae’r gyfran uchel o fusnesau bach a chanolig mewn sectorau ynni glân, y mae rhai ohonynt wedi cael trafferth ymgysylltu â’r system sgiliau bresennol. Mae gan y DU weithlu sy’n heneiddio hefyd, ac mae llawer o unigolion sydd â’r sgiliau sydd eu hangen arnom wedi gadael y gweithlu neu’n ymddeol yn fuan.
- Ailsgilio a sgiliau trosglwyddadwy: Mae’r rhan fwyaf o’r gweithlu sydd ei angen arnom ar gyfer 2030 eisoes yn cael eu cyflogi, felly mae ailhyfforddi, uwchsgilio a chynyddu’r gallu i drosglwyddo gweithwyr rhwng sectorau yn hanfodol.
- Ymwybyddiaeth, canfyddiadau a hygyrchedd swyddi pŵer glân: Mae diffyg ymwybyddiaeth o swyddi yn y sector gwyrdd yn gwaethygu prinder rolau ac yn peryglu cyflenwad sgiliau yn y dyfodol. Dywedodd y Sefydliad Dysgu a Gwaith nad oedd 87% o bobl ifanc 16-24 oed yn gwybod beth oedd ‘sgiliau gwyrdd’ pan ofynnwyd iddynt[footnote 128], sy’n lleihau’r nifer sy’n manteisio ar ddarpariaeth sgiliau a hyfforddiant. Ar ben hynny, nid ydym yn defnyddio talent ac uchelgeisiau ein gweithlu’n llawn, er enghraifft, dim ond 16.5% o’r gweithlu peirianneg sy’n fenywod[footnote 129] a dim ond 7% o’r gweithlu gwynt ar y môr sy’n dod o gefndiroedd heb fod yn wyn[footnote 130].
- Pwysau rhanbarthol: Mae nifer o sectorau ynni glân, fel ynni gwynt ar y môr a dal carbon, wedi’u clystyru’n helaeth mewn rhanbarthau penodol yn y DU. Gyda data cyfyngedig ar anghenion sgiliau, mae darparwyr sgiliau lleol yn ei chael hi’n anodd canfod a theilwra gofynion sgiliau o amgylch anghenion sy’n datblygu’n gyflym yn eu hardaloedd lleol. Gallant hefyd ei chael yn anodd ymateb i’r anghenion hyn o ystyried cyfyngiadau ar y gweithlu addysgu ac argaeledd cyfleusterau ac offer sy’n cefnogi datblygu sgiliau ynni glân.
Ffigur 14: Tebygrwydd rhwng y sgiliau sy’n ofynnol gan hysbysebion swyddi ar-lein ar draws sawl sector ynni glân a charbon-ddwys
Sectorau gweithgynhyrchu a chynhyrchu
Disgrifiad o’r ffigur: Map gwres gweledol yn dangos y tebygrwydd rhwng y sgiliau sy’n ofynnol mewn hysbysebion swyddi ar-lein ar gyfer y sectorau cynhyrchu a gweithgynhyrchu. Mae echelin x yn cynrychioli sectorau carbon-ddwys gan gynnwys olew a nwy, mwyngloddio, cyflenwi trydan a nwy, adeiladu, dŵr, a gweithgynhyrchu. Mae echelin y yn cynrychioli sectorau ynni glân: gwynt, solar, systemau clyfar a hyblygrwydd storio, niwclear, hydrogen, gwres ac adeiladau, rhwydweithiau trydan, a dal, defnyddio a storio carbon (CCUS). Lle mae pob eitem ar echelinau x ac y yn cwrdd, mae tebygrwydd y sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer y ddau fath o swydd wedi’u cynrychioli gan sgwâr lliw. Po dywyllaf y sgwâr, y tebycaf yw’r sgiliau. Mae’r ddelwedd yn dangos bod y rhan fwyaf o’r blychau yn gymharol dywyll o ran lliw.
Sylwer: Mae ‘tebygrwydd’ yn cyfeirio at debygrwydd cosin, wedi’i gyfrifo gan ddefnyddio sgiliau a’u hamlygrwydd ar draws grwpiau SIC a sectorau ynni glân. Ystyrir y sectorau traddodiadol canlynol: Adeiladu (Adran F), Dŵr (Adran E), Cyflenwad Trydan a Nwy (Adran D), Gweithgynhyrchu (Adran C), Mwyngloddio heb gynnwys Olew a Nwy (SIC 05, 07, 08, 099), Olew a Nwy (SIC 06, 091). Efallai y bydd cyfran fach o hysbysebion swyddi sy’n perthyn i’r ddau grŵp yn cael eu cymharu.
Ffynhonnell: Dadansoddiad arbrofol DESNZ o ddata hysbysebion swyddi ar-lein Lightcast (2024). Dadansoddiad o Hysbysebion Swyddi Ynni Glân: Mae’r ddogfen Siartiau a Methodoleg yn rhoi rhagor o fanylion am y dadansoddiad hwn.
Sectorau ynni glân
Disgrifiad o’r ffigur: Map gwres gweledol yn dangos y tebygrwydd rhwng y sgiliau sy’n ofynnol mewn hysbysebion swyddi ar-lein ar gyfer y sectorau ynni glân. Mae’n cymharu hysbysebion swyddi mewn sectorau ynni glân â’i gilydd. Lle mae pob eitem ar echelinau x ac y yn cwrdd, mae tebygrwydd y sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer y ddau fath o swydd wedi’u cynrychioli gan sgwâr lliw. Po dywyllaf y sgwâr, y tebycaf yw’r sgiliau. Mae’r blychau ar y map gwres yn dywyll ar y cyfan, sy’n dangos bod gan lawer o swyddi yn y sector ynni glân sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer swyddi eraill yn y sector ynni glân.
Sylwer: Mae ‘tebygrwydd’ yn cyfeirio at debygrwydd cosin, wedi’i gyfrifo gan ddefnyddio sgiliau a’u hamlygrwydd ar draws grwpiau SIC a sectorau ynni glân. Ystyrir y sectorau traddodiadol canlynol: Adeiladu (Adran F), Dŵr (Adran E), Cyflenwad Trydan a Nwy (Adran D), Gweithgynhyrchu (Adran C), Mwyngloddio heb gynnwys Olew a Nwy (SIC 05, 07, 08, 099), Olew a Nwy (SIC 06, 091). Efallai y bydd cyfran fach o hysbysebion swyddi sy’n perthyn i’r ddau grŵp yn cael eu cymharu.
Ffynhonnell: Dadansoddiad arbrofol DESNZ o ddata hysbysebion swyddi ar-lein Lightcast (2024). Dadansoddiad o Hysbysebion Swyddi Ynni Glân: Mae’r ddogfen Siartiau a Methodoleg yn rhoi rhagor o fanylion am y dadansoddiad hwn.
Gweithredu
Byddwn yn cymryd camau i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn, drwy bolisi diwydiannol eang llywodraeth y DU, diwygiadau sgiliau yn Lloegr a thrwy fentrau Pŵer Glân 2030 wedi’u targedu. Mae dulliau tebyg yn cael eu defnyddio ar draws y llywodraethau datganoledig, fel y rheini a amlinellir yn Strategaeth Ddiwydiannol Gwyrdd yr Alban,[footnote 131] Cenhadaeth Economaidd Cymru[footnote 132] a Llwybr at Ynni Sero Net[footnote 133]. Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon Rydyn ni eisiau rhoi’r cyfle gorau i ddatblygwyr seilwaith pŵer glân sicrhau’r cadwyni cyflenwi a’r gweithlu sydd eu hangen arnynt i gyflawni Pŵer Glân 2030, ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu Pŵer Glân erbyn 2030 mewn ffordd sy’n cadw gwerth am arian ac yn cydbwyso ystyriaethau cost â chyflawni.
Mae hyn yn dechrau drwy roi mwy o eglurder a sicrwydd i ddatblygwyr ynghylch eu llwybrau i’r farchnad, er mwyn eu galluogi i gynllunio ac ysgogi’r cadwyni cyflenwi a’r gweithlu sydd eu hangen arnynt i ddarparu cynhyrchiant newydd. Bydd hyn yn helpu i roi rhagolwg i gwmnïau’r gadwyn gyflenwi i baratoi a chael y capasiti i gyflenwi prosiectau seilwaith pŵer glân. Rydym wedi ceisio gwneud hyn mewn rhannau eraill o’r cynllun hwn, yn enwedig mewn adrannau sy’n ymwneud â diwygio’r farchnad, diwygio Contractau ar gyfer Gwahaniaeth ar gyfer rowndiau dyrannu sydd ar y gweill, newidiadau arfaethedig i gynllunio a chydsynio, a newidiadau i giwiau cysylltiadau. Ar gyfer cwmnïau rhwydwaith, bydd mwy o hyblygrwydd i sicrhau capasiti cyflenwyr yn gynharach ac ar gyfer y tymor hwy yn cael ei ddarparu’n bennaf drwy lansio Mecanwaith Caffael Uwch Ofgem[footnote 134].
Bydd Uned Pŵer Glân 2030, ar y cyd â’r Swyddfa dros Swyddi Ynni Glân, yn cynnull rhanddeiliaid allweddol o sectorau Pŵer Glân 2030 mewn fforwm diwydiant newydd ddechrau 2025. Bydd hwn yn gyfrwng cydweithredol ar gyfer cynllunio’r gweithlu a’r gadwyn gyflenwi yn rhagweithiol. Mae rhagor o wybodaeth am y fforwm hwn wedi’i chynnwys ym mhennod dull gweithredu’r llywodraeth ar gyfer darparu Pŵer Glân 2030 fel astudiaeth achos ar gyfer sut byddwn yn sbarduno’r gwaith o gyflawni drwy ddull gweithredu newydd sy’n canolbwyntio ar genhadaeth.
Ochr yn ochr â gwaith y fforwm i ddatblygu camau gweithredu ar y cyd ar gyfer cyflawni Pŵer Glân 2030, mae gan lywodraeth y DU rôl bellach o ran:
- Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd domestig ar gyfer cadwyni cyflenwi ynni glân drwy waith traws-economi fel Strategaeth Ddiwydiannol y DU yn ystod Gwanwyn 2025, a chamau gweithredu polisi sy’n benodol i bŵer glân.
- Archwilio lle gall cydweithio rhyngwladol gefnogi cadwyni cyflenwi, gan gynnwys drwy gytundebau masnach a chydweithredu rhyngwladol. Mae’r llywodraeth yn benderfynol o weithio gyda gwledydd eraill i amrywio cadwyni cyflenwi rhyngwladol.
- Ysgogi cynnydd yng ngallu ein gweithlu ynni glân domestig i gyfateb i faint yr her o ran defnydd drwy ein buddsoddiad mewn sectorau ynni glân, megis y Bonws Diwydiant Glân a Great British Energy, a chyflymu diwygiadau ehangach dan arweiniad y Swyddfa Swyddi Ynni Glân, yr Adran Addysg, a Skills England ochr yn ochr â chynigion pŵer glân wedi’u targedu, gan weithio’n agos gyda’r llywodraethau datganoledig, y diwydiant ac undebau llafur.
- Codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd swyddi ynni glân drwy gyhoeddi data ar anghenion sgiliau a gweithlu ynni glân y dyfodol, er mwyn sicrhau dealltwriaeth gyffredin o dueddiadau a heriau i hysbysu camau gweithredu.
Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd domestig ar gyfer cadwyni cyflenwi ynni glân
Mae amrywiaeth o waith eisoes yn mynd rhagddo yn y llywodraeth i gefnogi’r gwaith o ddatblygu cadwyni cyflenwi domestig ar draws yr economi. Yng ngwanwyn 2025, byddwn yn cyhoeddi Strategaeth Ddiwydiannol a fydd yn cynnwys cynllun sector ynni glân. Bydd dull y Llywodraeth o ysgogi buddsoddiad a gweithgarwch mewn sectorau sy’n sbarduno twf yn cael ei nodi yn y Strategaeth Ddiwydiannol hon sydd ar y gweill, a byddwn yn parhau i’w siapio er mwyn manteisio i’r eithaf ar ei buddion i ddiwydiannau pŵer glân. Bydd y strategaeth yn amlinellu camau nesaf y llywodraeth i sicrhau cyfleoedd twf yn y diwydiannau hyn, a dull clir o alluogi sectorau i oresgyn rhwystrau i dwf a buddsoddiad, gan gynnwys mewn cadwyni cyflenwi. Bydd tasglu cadwyni cyflenwi newydd yn asesu lle mae gwendidau mewn cadwyni cyflenwi sy’n hanfodol i ddiogelwch a chadernid economaidd y DU – gan ganolbwyntio yn y lle cyntaf ar gefnogi’r gwaith o ddatblygu a chyflawni’r Strategaeth Ddiwydiannol.
Ar ben hynny, rydym yn cymryd camau i ganolbwyntio buddsoddiad ar hybu capasiti ein cadwyn gyflenwi a chreu llwybrau ar gyfer prosesau caffael effeithlon:
- Darparu’r Bonws Diwydiant Glân newydd ar gyfer Contractau ar gyfer Gwahaniaeth (CfD). Mae’r fenter hon yn galluogi datblygwyr ynni glân ym maes ynni gwynt sefydlog ac arnofiol ar y môr i gael gafael ar refeniw CfD ychwanegol ar gyfer buddsoddiadau mewn gweithgynhyrchu yn ein cymunedau arfordirol ac ynni a chadwyni cyflenwi glanach a mwy cynaliadwy.
- Ymgynghori ar ddiwygiadau wedi’u targedu i fecanwaith CfD ar gyfer rowndiau dyrannu sydd ar y gweill, gan gynnwys gwella tryloywder a rhagweladwyedd o ran amseriad a maint rowndiau dyrannu CfD yn y dyfodol, a all yn eu tro gefnogi mwy o fuddsoddiad mewn cadwyni cyflenwi pŵer glân. Mae rhagor o fanylion am y diwygiadau hyn wedi’u cynnwys yn y bennod ar Ddarparu Prosiectau Ynni Adnewyddadwy a Niwclear.
- Cyflawni’r Cynllun Buddsoddi mewn Gweithgynhyrchu Ffermydd Gwynt Arnofiol ar y Môr (FLOWMIS) a sefydlwyd i ddarparu cyllid grant i gefnogi’r gwaith o ddatblygu cyfleusterau porthladdoedd ar gyfer defnyddio ynni gwynt arnofiol ar y môr ar raddfa fawr. Mae Porthladd Cromarty Firth a Phort Talbot wedi cael eu rhoi ar brif restr FLOWMIS, sy’n golygu eu bod wedi cael eu symud ymlaen ar gyfer diwydrwydd dyladwy manwl, asesiad rheoli cymorthdaliadau a negodi telerau grant. Mae rhagor o fanylion am rôl ffermydd gwynt arnofiol ar y môr wedi’u cynnwys yn y bennod ar Ddarparu Prosiectau Ynni Adnewyddadwy a Niwclear.
- Ysgogi buddsoddiad y llywodraeth yn y sector pŵer glân drwy’r Gronfa Cyfoeth Cenedlaethol a Great British Energy. Bydd o leiaf £5.8 biliwn o gyfalaf y Gronfa Cyfoeth Cenedlaethol yn canolbwyntio ar bum sector arall sy’n berthnasol i bŵer glân: hydrogen gwyrdd, dal carbon, porthladdoedd, gigaffatrïoedd a dur gwyrdd. Mae £8.3 biliwn yn ystod y Senedd hon hefyd wedi cael ei ymrwymo i Great British Energy sydd newydd gael ei greu, a fydd yn gweithio ar y cyd â’r Gronfa Cyfoeth Cenedlaethol. Bydd yn gweithio i gefnogi twf cadwyni cyflenwi pŵer glân ledled y DU, gan sicrhau bod buddion y rhain yn cael eu dosbarthu’n eang.
- Cefnogi datblygiad Ofgem o Fecanwaith Caffael Uwch Rhwydweithiau Trydan a fydd yn cael ei lansio ddechrau 2025 gyda’r nod o ddarparu mwy o hyblygrwydd i Berchnogion Trawsyrru i sicrhau capasiti i gyflenwyr ac i gaffael nifer o slotiau ffatrïoedd mewn swp ar draws portffolio o brosiectau cyn yr angen.
Archwilio lle gall cydweithio rhyngwladol gefnogi cadwyni cyflenwi
Er ei bod yn hanfodol meithrin capasiti domestig, rydym yn cydnabod y bydd rhai o anghenion ein cadwyn gyflenwi yn cael eu diwallu gan y farchnad fyd-eang yn hytrach na’r farchnad ddomestig. Lle bo hyn yn angenrheidiol, rydym am roi’r cyfle gorau posibl i ddatblygwyr sicrhau’r hyn sydd ei angen arnynt. Byddwn yn gwneud hyn drwy:
- Gydweithio â phartneriaid rhyngwladol drwy fentrau rhyngwladol fel y Gynghrair Pŵer Glân Byd-eang a mentrau dwyochrog ac amlochrog eraill, i arallgyfeirio a chryfhau cadwyni cyflenwi. Mae gan hyn y potensial i gefnogi ffynonellau newydd ar gyfer cydrannau pŵer glân critigol, mynd i’r afael â thagfeydd a lleihau costau.
- Archwilio atebion rhyngwladol i sicrhau bod y DU yn gallu sicrhau’r nwyddau hanfodol sydd eu hangen arni ar gyfer y newid i ynni ac archwilio fframweithiau a sefydliadau masnach rhyngwladol sy’n gallu cefnogi’r newid i sero net.
Sbarduno’r cynnydd yng nghapasiti ein gweithlu ynni glân domestig
Mae diwygiadau ehangach i’r system sgiliau a chyflogaeth yn mynd rhagddynt ar draws y llywodraeth i siapio’r gweithlu domestig a chefnogi’r gwaith o ddarparu Pŵer Glân erbyn 2030. Bydd sgiliau ac arbenigedd gweithwyr o’r sector olew a nwy yn ganolog i lwyddiant ein Cenhadaeth Ynni Glân. Mae cyfle enfawr i ailsgilio a throsglwyddo sgiliau’r gweithlu olew a nwy ar draws yr economi. Wrth i bolisi sgiliau gael ei ddatganoli, byddwn yn ymrwymo i barhau â’n deialog a’n cydweithrediad parhaus â’n cymheiriaid yn y llywodraethau datganoledig i sicrhau dull gweithredu cydlynol a chydgysylltiedig.
Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban y Strategaeth Ddiwydiannol Gwyrdd ym mis Medi 2024[footnote 135]. Mae hyn yn amlinellu bod argaeledd pobl o ansawdd uchel, sydd â’r sgiliau priodol ac sy’n uchelgeisiol yn hanfodol i barodrwydd busnes i ddechrau, i ehangu ac i fuddsoddi. Mae gwaith sylweddol yn mynd rhagddo i ddiwygio system addysg a sgiliau’r Alban er mwyn iddi fod yn fwy ymatebol i anghenion ac uchelgeisiau economaidd. Bydd Llywodraeth yr Alban yn parhau i fuddsoddi yn y system honno a’r seilwaith sy’n ei chefnogi, gan gynnwys, er enghraifft, ysgolion, colegau, prifysgolion, prentisiaethau a’n Canolfannau Arloesi, er mwyn gallu newid i sero net yn ogystal ag uchelgeisiau ehangach.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach: Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net[footnote 136], i ddarparu camau ymarferol tuag at ddeall ble a sut bydd anghenion sgiliau’n newid dros amser a dangos sut bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r newid hwn. Mae mentrau eraill sydd ar y gweill yng Nghymru yn cynnwys cyhoeddi Trywyddion Sgiliau’r Sector Ynni Glân, Bargen y Sector Ynni, cefnogi’r Strategaeth Gwres i Gymru i hybu datgarboneiddio, datblygu fframwaith prentisiaeth ynni adnewyddadwy newydd a meithrin cydweithio yn y diwydiant i wella cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi.
Mae Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon hefyd yn awyddus i ddylanwadu ar ddatblygiadau mewn sgiliau gwyrdd a’u siapio, ac mae wedi hwyluso Cynllun Gweithredu Sgiliau Gwyrdd sy’n cael ei arwain gan y diwydiant. I ddechrau, mae’r Cynllun Gweithredu Sgiliau Gwyrdd yn canolbwyntio ar y tri maes canlynol: cynhyrchu ynni ar raddfa fawr; seilwaith; a thechnolegau carbon isel domestig ac effeithlonrwydd ynni i sicrhau bod cyrsiau a phrentisiaethau ar waith i ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y newid i ynni.
Mae gwaith parhaus llywodraeth y DU yn cynnwys:
- Sefydlu’r Swyddfa dros Swyddi Ynni Glân, sydd wedi cael ei chreu i ganolbwyntio ar sicrhau bod gennym y gweithlu medrus yn y sectorau ynni craidd a sero net sy’n hanfodol er mwyn bodloni Pŵer Glân 2030. Bydd yn canolbwyntio ar gefnogi rhanbarthau sy’n symud oddi wrth ddiwydiannau carbon-ddwys i sectorau ynni glân, gan sicrhau swyddi ynni glân o ansawdd uchel, gyda chyflogau teg, telerau ffafriol ac amodau gwaith da, a chynyddu amrywiaeth yn y gweithlu ynni glân. Bydd yn ymgysylltu ar draws y sector ynni, undebau llafur a’r diwydiant i gyflawni hyn.
- Dylunio cynllun peilot i gefnogi ymyriadau sgiliau rhanbarthol a fydd yn helpu i bontio gweithlu’r DU o sectorau carbon-ddwys i sectorau ynni glân. Cyflawnir hyn drwy nodi a mynd i’r afael â bylchau a heriau sgiliau drwy dreialu ymyriadau wedi’u targedu yn rhanbarthol. Gallai ymyriadau gynnwys mapio sgiliau lleol a’r gweithlu, cynghorwyr pontio gyrfa, cyllid ar gyfer darpariaethau hyfforddi uniongyrchol.
- Sefydlu Skills England i ddarparu asesiad awdurdodol o anghenion sgiliau cenedlaethol a rhanbarthol; gweithio gydag Awdurdodau Cyfun i sicrhau bod y rhain yn cael eu diwallu; cysoni cyfres gynhwysfawr o brentisiaethau, hyfforddiant a chymwysterau technegol â bylchau mewn sgiliau; a chynghori ar ddarpariaeth sgiliau a thwf newydd. Bydd DESNZ yn gweithio gyda’r Adran Addysg a Skills England, ynghyd â’r llywodraethau datganoledig, ar flaenoriaethau diwygio cynnar i sicrhau bod gweithredu polisi’n dechrau cyn gynted â phosibl er mwyn cael yr effaith fwyaf ar Bŵer Glân 2030. Bydd y llywodraeth hefyd yn datblygu’r ddarpariaeth brentisiaethau yn ddarpariaeth sgiliau a thwf mwy hyblyg, gan ddarparu mwy o hyblygrwydd i ddysgwyr a chyflogwyr, sy’n cyd-fynd â’r Strategaeth Ddiwydiannol, gan greu llwybrau i swyddi da a medrus mewn diwydiannau sy’n tyfu fel ynni glân. Bydd DESNZ yn gweithio gyda’r Adran Addysg, Skills England a’r sector i hysbysu’r ddarpariaeth. Bydd DESNZ hefyd yn gweithio gyda’r Adran Addysg ar drawsnewid colegau addysg bellach yn golegau Rhagoriaeth Dechnegol arbenigol ac ar ffyrdd o wella’r gweithlu addysg bellach mewn sectorau ynni glân a sectorau cysylltiedig. Caeodd yr Adolygiad o’r Cwricwlwm ac Asesu ei gais am dystiolaeth yn ddiweddar, a darparodd llawer o gyrff y diwydiant ynni glân wybodaeth.
- Bwrw ymlaen â’r Papur Gwyn ‘Cael Prydain i Weithio’. Mae hwn yn nodi cynlluniau ar gyfer diwygiadau i gymorth cyflogaeth i fynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd, fel y Warant Ieuenctid, gwasanaeth swyddi a gyrfaoedd newydd i gefnogi mwy o bobl i gael gwaith a’u helpu i symud ymlaen mewn gwaith, a Chynlluniau Cael Prydain i Weithio sy’n cael eu harwain yn lleol ar gyfer ardaloedd ledled Lloegr. Bydd DESNZ, yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r Adran Addysg yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu cynigion ar gyfer sut bydd y diwygiadau penodol a grybwyllir yn y Papur Gwyn yn cael eu rhoi ar waith i gefnogi’r gwaith o ddarparu’r gweithlu sydd ei angen ar gyfer Pŵer Glân 2030.
Yn ogystal â’r gwaith traws-economi hwn, rydym yn cymryd y camau gweithredu canlynol sy’n benodol i bŵer glân i fodloni’r galw am weithlu 2030:
- Archwilio ymyriadau sgiliau wedi’u targedu i ailsgilio ac uwchsgilio gweithwyr ar draws yr economi, gan gynnwys nodi’r rhanbarthau y bydd y newid i ynni glân yn effeithio fwyaf arnynt. Ers Hydref 2024, mae DESNZ wedi ymuno fel partner strategol i’r prosiect Pasbort Sgiliau. Mae’r pasbort yn fenter dan arweiniad y diwydiant sy’n cael ei goruchwylio gan Renewable UK ac Offshore Energy UK a’i chefnogi gan Lywodraethau’r DU a’r Alban a fydd yn cysoni safonau, yn cydnabod sgiliau a chymwysterau trosglwyddadwy ac yn mapio llwybrau gyrfa ar gyfer rolau addas. Bydd yr adnodd digidol newydd hwn ar gyfer gweithwyr yn cael ei dreialu erbyn mis Ionawr 2025.
- Datblygu ffyrdd o gefnogi mynediad at gynlluniau hyfforddi mewn sectorau pŵer glân allweddol sydd eu hangen ar gyfer 2030. Mae’r Llywodraeth yn datblygu nifer o bolisïau economaidd a buddsoddi newydd a fydd yn gwthio buddsoddiad i’r sector ac yn creu cyfleoedd posibl yn y dyfodol i sianelu cyllid i ddarpariaethau sgiliau a hyfforddiant.
Hybu ymwybyddiaeth o gyfleoedd swyddi ynni glân
Bydd sicrhau bod mwy o bobl yn manteisio ar gynigion uwchsgilio ac ailsgilio ynni glân yn hanfodol, a byddwn yn gwneud hyn drwy sefydlu dealltwriaeth gyffredin o’r rhwystrau a chydweithio â’r diwydiant i’w goresgyn. Byddwn yn gwneud hyn drwy:
- Cyhoeddi’r atodiad tystiolaeth ‘Asesiad o Her Sgiliau Ynni Glân’ ochr yn ochr â’r Cynllun Gweithredu hwn, sy’n cynnwys data a gasglwyd ar draws y llywodraeth, arweinwyr y diwydiant a chwmnïau, academyddion a chynrychiolwyr addysg bellach. Mae’r dystiolaeth hon yn seiliedig ar dargedau blaenorol 2035. Fodd bynnag, rhagwelir y bydd y prinder galwedigaethau yn y tymor agos, a’r heriau allweddol o ran gweithlu allweddol, y mae sectorau’n disgwyl eu hwynebu, yn debyg iawn i raddau helaeth. Bydd y dystiolaeth hon yn cael ei defnyddio fel sail i’r llywodraeth, y diwydiant a phartneriaid allweddol eraill allu deall gofynion gweithlu 2030 yn well a chefnogi’r gwaith o gynllunio sgiliau wedi’u targedu yn hyderus.
- Archwilio opsiynau ynghylch ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd, gweithio rhwng y llywodraeth a’r diwydiant i weld sut gallwn ni gydlynu negeseuon sy’n hyrwyddo’r cyfleoedd mewn perthynas â swyddi ynni glân, helpu gweithwyr a chyflogwyr i lywio drwy’r dirwedd sgiliau, a gwella amrywiaeth yn y gweithlu ynni glân.
Y camau nesaf
- Cynhelir cyfarfod cyntaf y fforwm cydweithredol newydd ddechrau 2025, gan gynnull partneriaid allweddol ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus i gydweithio ar gynllunio’r gweithlu a’r gadwyn gyflenwi.
- Bydd ein Strategaeth Ddiwydiannol fodern a newydd, ‘Buddsoddi 2035’, gan gynnwys cynllun sector ar gyfer diwydiannau ynni glân, yn cael ei chyhoeddi yng Ngwanwyn 2025, gan nodi dull y llywodraeth o ymdrin â chyfleoedd twf mewn diwydiannau ynni glân ar draws cadwyni cyflenwi a sgiliau.
- Byddwn yn darparu cynllun cyflawni’r gyllideb garbon wedi’i ddiweddaru maes o law hyd at ddiwedd Cyllideb Garbon 6 yn 2037 gyda manylion llawn y pecynnau polisi ar gyfer pob sector. Bydd hyn yn rhoi golwg tymor hir, gan amlinellu’r polisïau a’r cynigion sydd eu hangen i gyflawni cyllidebau carbon 4-6 a’r Cyfraniadau a Bennir yn Genedlaethol yn 2030 a 2035 ar lwybr at sero net.
- Mae’r Llywodraeth yn datblygu Strategaeth Fasnach newydd a fydd yn cefnogi’r newid o ran ynni yn unol â Pŵer Glân 2030, ac yn sicrhau cadwyni cyflenwi byd-eang cadarn.
Ein harwain i 2030: Ein dull o ddarparu
Nid yw cyflawni trawsnewidiadau ar raddfa fawr yn ddim byd newydd i’r sector ynni, ond mae’r her o sicrhau pŵer glân erbyn 2030 yn un sylweddol. Mae Cynllun Gweithredu Pŵer Glân 2030 yn diffinio rôl llywodraeth y DU yn y newid i ynni glân. Bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda’r diwydiant i oresgyn rhwystrau a bydd yn mabwysiadu dull arloesol. Ar ben hynny, mae’n bwysig bod y llywodraeth yn edrych ar system pŵer glân y tu hwnt i 2030, pryd mae disgwyl i’r galw gynyddu.
Defnyddio arbenigedd diwydiannol y DU
Mae Pŵer Glân 2030 angen i lawer iawn o seilwaith gael ei ddarparu mewn ychydig o flynyddoedd, a bydd bron y cyfan ohono yn cael ei ddarparu gan gwmnïau preifat – gan gynnwys cynhyrchu cydrannau allweddol, dylunio a datblygu prosiectau, gosod seilwaith, gweithredu gorsafoedd cynhyrchu pŵer, ac ariannu mentrau newydd.
Mae’r holl gwmnïau hyn yn allweddol i gyflawni Pŵer Glân 2030 yn llwyddiannus, ac mae’r DU yn ffodus o gael llawer o bobl sydd â llawer o brofiad a gwybodaeth ymarferol yn yr holl feysydd hyn. Mae Uned Pŵer Glân 2030 yn dod â chymysgedd o sgiliau ynghyd o fewn y Gwasanaeth Sifil ac arbenigedd y diwydiant, gan sicrhau bod y ddealltwriaeth a’r arbenigedd cywir ar gael i gefnogi’r gwaith o gyflawni.
Mae Uned Pŵer Glân 2030 ei hun yn seiliedig ar gomisiwn cynghori sy’n cynnwys 8 unigolyn blaenllaw o bob rhan o ddiwydiant a’r byd academaidd sy’n darparu gwybodaeth a chyngor ar bob agwedd ar ei gwaith.
Mae Uned Pŵer Glân 2030 hefyd wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda’r rheini sy’n ymwneud â darpariaeth ymarferol. Mae’r dirwedd peirianneg, masnachol, marchnad, rheoleiddio a pholisi yn gymhleth, a bydd angen sgiliau sylweddol arnom ym mhob un o’r meysydd hyn ynghyd â’r gallu i ymgysylltu â phob parti i ddelio â materion yn gyflym, ynghyd â chreu a chynnal meddylfryd o ymdrech gydweithredol ar draws y diwydiant.
I greu’r Cynllun Gweithredu, bu arbenigwyr o’r llywodraeth a’r sector pŵer glân yn archwilio dulliau polisi ac yn asesu eu hymarferoldeb. Rydym yn credu bod y camau gweithredu yn y cynllun hwn yn diffinio’r dirwedd polisi angenrheidiol ar gyfer cyflawni Pŵer Glân 2030 yn llwyddiannus, gyda datganiad clir o fwriad a llwybr posibl at Bŵer Glân 2030. Ond rydym yn cydnabod mai dim ond y cam cyntaf yw’r Cynllun Gweithredu hwn, a bydd y blynyddoedd nesaf yn gweld rhaglen gymhleth o weithgarwch, gan ddibynnu ar waith amrywiaeth eang o fusnesau, sawl rhan o’r llywodraeth ar lefel ganolog, ranbarthol a lleol, y trydydd sector, ac unigolion. Rydym wedi ymrwymo i weithio law yn llaw â’r diwydiant, i ddarparu cyfeiriad a chefnogaeth i gyflawni ein nod cyffredin. Dangosodd gwaith y Tasglu Brechlynnau yn ystod y pandemig yr hyn y gellir ei gyflawni pan ddaw ffocws tynn, cyfeiriad cryf, a chydweithio llawn at ei gilydd.
Tracio a chefnogi’r gwaith o ddarparu’r system yn ei chyfanrwydd
Un o rolau allweddol Uned Pŵer Glân 2030 yw adeiladu a chynnal golwg gynhwysfawr o’r seilwaith pŵer sydd ar gamau datblygu a chyflawni gwahanol ar hyn o bryd, a’r galluogwyr ehangach ar draws y system drydan, i ddeall beth sy’n debygol o gael ei gyflawni erbyn pryd, ble y gallai heriau fod yn dod i’r amlwg, ac arwyddion cynnar o rybudd ar gyfer y rhain, a pha gamau y gellir eu cymryd i gadw buddsoddiadau allweddol ar y trywydd iawn.
Bydd yr Uned yn defnyddio dull system gyfan, gan olrhain cynhyrchu pŵer, trawsyrru a seilwaith dosbarthu, a gyda ffocws arbennig o agos ar ddatblygu cynhyrchu a defnyddio pŵer hyblyg a galw clyfar, yn ogystal ag esblygiad cyfochrog y sectorau gwres a thrafnidiaeth, a sut mae’r system yn cyfrannu at ein hallyriadau cyffredinol. Bydd yr Uned hefyd yn olrhain galluogwyr ehangach hanfodol ar hyd a lled y Cynllun Gweithredu hwn, er mwyn canfod yn effeithiol a yw’r genhadaeth ar y trywydd iawn.
Pan fydd problemau’n dod i’r amlwg, bydd yr Uned yn gweithio gydag arbenigwyr sector y llywodraeth i ymchwilio i’r hyn y gellir ei wneud yn fanylach, datblygu camau y gellir eu cymryd, a sbarduno eu gweithredu. Bydd gan y Comisiwn Cynghorol rôl allweddol o ran cynghori ar faterion sy’n dod i’r amlwg, ac ar y blaenoriaethau ar gyfer gweithredu.
Defnyddio dull gweithredu sy’n seiliedig ar ddata
Fe wnaethom gomisiynu NESO i roi cyngor ar y llwybrau posibl i gyflawni pŵer glân erbyn 2030. Mae hyn wedi awgrymu bod modd cyflawni Pŵer Glân 2030, gyda mewnwelediadau am y llwybrau at gyflawni.
Bydd yr Uned yn dwyn ynghyd ddata a gwybodaeth o bob rhan o’r llywodraeth a’r sector ynni glân, i olrhain y gwaith o ddarparu seilwaith pŵer glân a metrigau ar gyfer galluogwyr ehangach hanfodol, gydag arbenigedd dadansoddol a gwyddor data wedi’i wreiddio yn yr Uned. Bydd y gallu hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau am gynnydd ar draws y prosiectau seilwaith sy’n hanfodol i 2030, a bydd yn sail i’r camau a gymerir i hyrwyddo darpariaeth effeithiol a mynd i’r afael â materion sy’n dod i’r amlwg. Bydd yr Uned yn gweithio i hyrwyddo cydweithio ar gasglu a defnyddio’r data hwn ar draws y llywodraeth a’n partneriaid cyflenwi lle bo hynny’n briodol.
Bydd y gwaith hwn hefyd yn cynnwys rheoli dibyniaethau a sicrhau bod ein system bŵer yn y dyfodol yn gweithio fel cyfanwaith cydlynol.
Bydd Uned Pŵer Glân 2030 yn parhau i ddatblygu’r galluedd data hwn yn y Flwyddyn Newydd. Ar hyn o bryd rydym yn rhagweld creu tîm arbenigol ar draws yr holl feysydd angenrheidiol, wedi’i gefnogi gan lifoedd data cryf a Bwrdd y Genhadaeth, yr Ysgrifennydd Gwladol, ac yn y pen draw y Prif Weinidog, a’r cyfan mewn amgylchedd darparu rhaglen peirianneg strwythuredig.
Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ddarparu pŵer glân – ac rydym wedi ymrwymo i weithredu system gadarn o werthuso ac arloesi i sbarduno gwelliant parhaus drwy’r system gyfan.
Fforwm diwydiant ar gyfer cynllunio’r gweithlu a’r gadwyn gyflenwi ar lefel system
Gyda chystadleuaeth fyd-eang am adnoddau ar gyfer technolegau ynni glân, rydym yn gwybod bod datblygwyr yn wynebu heriau o ran sicrhau’r deunyddiau a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt. Mae ein dull o ddarparu Pŵer Glân 2030 yn gyfle unigryw i’r llywodraeth a’r diwydiant ddod at ei gilydd i gynllunio a chydlynu’r gwaith o ddarparu’r gadwyn gyflenwi a’r gweithlu yn fwy rhagweithiol. Bydd gennym olwg cliriach o ran yr hyn y mae angen ei adeiladu ac erbyn pryd, felly rydym mewn sefyllfa unigryw i weithio gyda’r diwydiant i’w helpu i reoli a llywio cyfyngiadau’r gadwyn gyflenwi a’r gweithlu.
Yn ogystal â’r polisïau a’r camau gweithredu sy’n cael eu trafod yn y bennod Cadwyni Cyflenwi a’r Gweithlu, rydyn ni’n gweld rôl graidd i Uned Pŵer Glân 2030 o ran dod â chwaraewyr allweddol yn y diwydiant at ei gilydd i feddwl yn radical am yr heriau sy’n wynebu ein cadwyni cyflenwi a’n gweithlu. Bydd y grŵp hwn yn cyfarfod am y tro cyntaf ddechrau 2025 a bydd yn ceisio symud yn gyflym at gytuno ar gamau polisi penodol y gellir eu cymryd i fynd i’r afael â risgiau a rennir yn y maes hwn.
I wneud hyn, byddwn yn sefydlu fforwm newydd, a fydd yn cael ei gynnull gan yr Uned Pŵer Glân 2030 mewn cydweithrediad agos â’r Swyddfa Swyddi Ynni Glân, sy’n dod â phartneriaid allweddol, ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus, gan gynnwys undebau llafur, at ei gilydd, ar gyfer darparu seilwaith. Gan ddefnyddio profiad blaenorol y llywodraeth o weithio’n arloesol gyda’r diwydiant, bydd y fforwm hwn yn ffurfio barn yn gyflym ar anghenion y gadwyn gyflenwi a’r gweithlu ar lefel system ar gyfer Pŵer Glân 2030, ac yna’n dyfeisio camau gweithredu ar y cyd wedi’u targedu i sicrhau bod yr anghenion hyn yn cael eu diwallu.
Byddwn yn ymgysylltu â’r diwydiant wrth ddatblygu’r fforwm hwn, gan archwilio pa rôl y dylai ei chwarae er mwyn cael yr effaith fwyaf. Gallai hon fod yn rôl fwy gweithredol i’r llywodraeth o ran cefnogi’r gwaith o gynllunio’r gweithlu ar draws sectorau allweddol ar gyfer 2030 neu alluogi mwy o gydweithio a rhannu gwybodaeth ar draws y diwydiant. Bydd y fforwm newydd yn cydgysylltu gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud ar draws Cyngor y Diwydiant Gwynt ar y Môr, y Tasglu Gwynt ar y Tir a’r Tasglu Solar. Bydd y fforwm cydweithredol newydd yn ceisio ategu gwaith y grwpiau hyn i sbarduno camau gweithredu pwrpasol ar gyfer 2030. Bydd y grŵp hwn yn cyfarfod am y tro cyntaf ddechrau 2025 a bydd yn ceisio symud yn gyflym at gytuno ar gamau penodol y gellir eu cymryd i fynd i’r afael â risgiau a rennir yn y maes hwn.
Rôl allweddol y Llywodraethau Datganoledig
Bydd y Llywodraethau Datganoledig yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gyrraedd y targedau ar gyfer Pŵer Glân 2030. Mae gan y llywodraethau bwerau datganoledig sylweddol mewn meysydd ynni a bydd angen iddynt fod yn rhan o fentrau ledled y DU i sicrhau bod polisïau Pŵer Glân 2030 yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol. Yn anad dim, bydd angen eu cymorth arnom i symleiddio’r prosesau cynllunio a chydsynio er mwyn hwyluso’r gwaith o ddatblygu prosiectau pŵer glân yn gyflymach.
Bydd datblygu seilwaith pŵer glân yn creu swyddi i ardaloedd lleol, a bydd angen cymorth arnom i sicrhau bod datblygu sgiliau ar waith i lenwi’r rolau hyn. Mae llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r llywodraethau datganoledig i sicrhau bod consensws a dealltwriaeth o’r hyn fydd ei angen i gyflawni Pŵer Glân erbyn 2030.
Cymru
Senedd Cymru oedd y llywodraeth gyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i Gymru gynnal digon o gapasiti adnewyddadwy i ddiwallu ei hanghenion ei hun o 2035 ymlaen ac i barhau i gamu ymlaen wrth i ni symud oddi wrth danwydd ffosil ac wrth i’r galw am drydan glân gynyddu.
Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu’r Cynllun Pŵer Glân, sy’n angenrheidiol os yw Cymru am gyflawni ei huchelgais ar gyfer dyfodol carbon isel ffyniannus. Bydd y cynllun hwn yn bwysig o ran cyflymu dechrau’r hyn sy’n anorfod yn llwybr hirdymor ar gyfer y deng mlynedd ar hugain nesaf. Mae arnom angen sicrwydd yn y dyfodol i sicrhau buddsoddiad hirdymor yn seilwaith ynni’r genedl, ac yn y gweithlu medrus sydd ei angen arnom i’w adeiladu.
Er ein bod yn cydnabod pwysigrwydd rhwydweithiau cynhyrchu a thrawsyrru ar raddfa fawr, mae ein gwaith ar Rwydweithiau Ynni’r Dyfodol i Gymru hefyd yn cydnabod rôl defnyddio ynni’n ddoethach ac yn fwy lleol. Mae Cymru’n mynd ati’n rhagweithiol i gynllunio ar gyfer y system ynni newydd, gan gefnogi awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau sy’n dangos sut bydd trafnidiaeth, gwres a diwydiant yn newid wrth i ni ddefnyddio tanwyddau glanach a phrosesau mwy effeithlon. Mae ein rhaglen Ynni Cymru yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau sy’n ceisio diwallu anghenion ynni yn lleol, gan gadw gwerth yn lleol a lleihau’r angen am newid ar raddfa fawr. Edrychwn ymlaen at gyfrannu tystiolaeth o’r rhaglen arloesol hon, i’r modd yr ydym, gyda’n gilydd, yn cyflawni system ynni’r dyfodol am y gost isaf a gyda’r effaith leiaf ar bobl.
Yr Alban
Mae Llywodraeth yr Alban wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda llywodraeth y DU ar uchelgeisiau cyffredin i ddatgarboneiddio cynhyrchu ynni a sbarduno cynnydd tuag at sero net. Mae cydweithio agos yn hanfodol i sicrhau bod y Cynllun Gweithredu’n cael ei gyflawni’n gydlynol ledled Prydain Fawr, a bydd meysydd datganoledig – fel systemau cynllunio a chydsynio daearol ac alltraeth yr Alban – yn chwarae rhan allweddol.
Bydd potensial sylweddol yr Alban o ran ynni adnewyddadwy, cyflenwad cryf o brosiectau, a’r gadwyn gyflenwi sy’n tyfu, yn hanfodol er mwyn sicrhau system bŵer ddiogel, fforddiadwy a glân ledled Prydain. Amcan Llywodraeth yr Alban yw sicrhau bod hyn yn creu manteision ehangach sylweddol – fel hybu twf economaidd, cadwyni cyflenwi a swyddi gwyrdd; darparu ynni adnewyddadwy gyda manteision amlwg i gymunedau; a lleihau costau i ddefnyddwyr.
Mae’r Alban eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at system ynni lân, deg a diogel. Mae’r Alban yn allforiwr net o drydan i weddill Prydain Fawr, ac yn 2022, roedd dros 70% o’r trydan a gynhyrchwyd yn yr Alban yn dod o ffynonellau adnewyddadwy. Mae capasiti ynni adnewyddadwy’r Alban yn parhau i dyfu, gyda llif cryf o brosiectau yn y dyfodol a fydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatgarboneiddio’r system bŵer ledled y DU.
Mae Llywodraeth yr Alban eisoes yn cymryd camau i adeiladu ar y cynnydd hwn a chyflymu’r gwaith o ddefnyddio ynni glân – mae hyn yn cynnwys mesurau i wella’r drefn gynllunio a chydsynio ar gyfer seilwaith ynni; cyflawni’r Strategaeth Ddiwydiannol Gwyrdd; buddsoddi yng nghadwyn gyflenwi ynni gwynt ar y môr yn yr Alban; a chamau gweithredu i gyflawni uchelgeisiau 2030 presennol Llywodraeth yr Alban ar gyfer ynni gwynt ar y tir ac ar y môr.
Bydd Llywodraeth yr Alban yn parhau i weithio gyda llywodraeth y DU i gynnal hyder buddsoddwyr a hybu’r defnydd o ynni adnewyddadwy, gan sicrhau manteision clir i ddefnyddwyr a chymunedau drwy gydol y cyfnod pontio.
Gogledd Iwerddon
Bydd y Genhadaeth Uwch-bŵer Ynni Glân o fudd i drethdalwyr y DU, sy’n cynnwys Gogledd Iwerddon. Mae polisi ynni wedi’i ddatganoli i raddau helaeth i Weithrediaeth Gogledd Iwerddon, ac maent yn cynhyrchu eu cynllun eu hunain i ddatgarboneiddio’r sector pŵer. Bydd mabwysiadu dull gweithredu cyfannol ar draws y pedair gwlad yn cynyddu’r budd i’r DU gyfan. Mae Pŵer Glân 2030, er ei fod yn darged i Brydain Fawr, ac sydd ar y trywydd i gyrraedd sero net erbyn 2050, wedi’i ymgorffori mewn cyfraith i gynnwys Gogledd Iwerddon.
Rôl gweithredwyr y sector pŵer
Bydd darparu Pŵer Glân 2030 yn dibynnu’n drwm ar y cydweithio a’r mewnbwn gan amrywiaeth enfawr o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Bydd y Llywodraeth yn cydweithio’n agos â’r grwpiau hyn i gyflawni Pŵer Glân 2030. Er bod y rhestr o sefydliadau sy’n hanfodol i’n darpariaeth lwyddiannus yn un hir, mae’r grwpiau allweddol yn cynnwys:
Rôl diwydiant
Mae mewnbwn gan y sector preifat yn hanfodol, gan ddod â’r arbenigedd a’r buddsoddiad sydd eu hangen i gyflawni targed uchelgeisiol Pŵer Glân 2030. Mae’r cynllun hwn yn amlinellu’r camau polisi sy’n cael eu cymryd gan y llywodraeth, ond bydd y diwydiant yn chwarae rhan greiddiol yn y gwaith o gyflawni targed Pŵer Glân 2030, o sicrhau’r buddsoddiad cychwynnol a dylunio prosiectau’n gynnar, i adeiladu a gweithredu asedau Pŵer Glân 2030. Mae’r llywodraeth wedi ymgysylltu â’r diwydiant wrth ddatblygu’r cynllun gweithredu a bydd yn parhau i wneud hynny wrth i gynnydd gael ei wneud tuag at darged 2030.
Rôl Ofgem
Ofgem yw rheoleiddiwr ynni annibynnol Prydain Fawr, a’i brif gyfrifoldeb yw diogelu defnyddwyr ynni, yn enwedig y rheini sydd fwyaf agored i niwed, gan weithio ar yr un pryd gyda’r llywodraeth, y diwydiant a grwpiau defnyddwyr i ddarparu economi sero net am y gost isaf i ddefnyddwyr a sbarduno twf economaidd. Mae Ofgem yn gweithio’n agos gydag Uned Pŵer Glân 2030, Gweithredwr y System Ynni Genedlaethol, grwpiau defnyddwyr ac ar draws y llywodraeth, i gefnogi ei nod o ddarparu system ynni pŵer glân erbyn 2030 ac economi sero net erbyn 2050. Ei gorff llywodraethu yw’r Awdurdod Marchnadoedd Nwy a Thrydan, sy’n cynnwys aelodau anweithredol a gweithredol, a chadeirydd anweithredol. Caiff aelodau eu penodi gan Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net. Prif Swyddog Gweithredol Ofgem sy’n cadeirio Uwch Bwyllgor Gwaith Ofgem ac mae’n gyfrifol am ein perfformiad cyffredinol; mae’n cynnwys y Prif Swyddog Gweithredol a saith Cyfarwyddwr Cyffredinol a Chyfarwyddwyr o bob rhan o Ofgem.
Mae Ofgem yn gweithio ar ran defnyddwyr ynni i sicrhau bod cartrefi a busnesau ledled Prydain yn gallu dibynnu ar gyflenwad ynni diogel, fforddiadwy ac amgylcheddol gynaliadwy. Mae gan y DU un o’r nodau mwyaf uchelgeisiol ar gyfer newid yn yr hinsawdd yn y byd, ac wrth galon hyn mae ein newid o system ynni draddodiadol carbon uchel i un sydd wedi’i datgarboneiddio’n llawn. Mae gan Ofgem rôl allweddol yn y newid hwn, gan sicrhau bod buddiannau cwsmeriaid yn cael eu gwarchod ar hyd y ffordd. Fel Adran Anweinidogol a rheoleiddiwr annibynnol, mae Ofgem yn defnyddio’r dyletswyddau a’r pwerau a roddwyd iddo gan y Senedd i:
- Sicrhau prisiau teg fel bod defnyddwyr yn talu pris rhesymol am eu hynni a’u bod yn cael eu hamddiffyn rhag costau annheg.
- Gwella safonau drwy sicrhau bod cyflenwyr ynni yn cadw at y rheolau ac yn trin cwsmeriaid yn briodol.
- Cadw costau i lawr drwy feithrin arloesedd a denu buddsoddiad er mwyn i ddefnyddwyr allu gwneud dewisiadau mwy gwyrdd drwy gynnyrch a gwasanaethau newydd.
- Datblygu ein cydnerthedd ynni drwy helpu i ddarparu system ynni yn y dyfodol nad yw’n dibynnu ar fewnforion ynni byd-eang er mwyn i ddefnyddwyr allu cael gafael ar gyflenwadau sefydlog, fforddiadwy a diogel o ynni.
- Darparu cynlluniau’r llywodraeth ar gyfer ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd ynni ac amddiffyn y cwsmeriaid ynni tlotaf.
Rôl Gweithredwr y System Ynni Genedlaethol (NESO)
Sefydlwyd NESO ym mis Hydref 2024 fel gweithredwr system sy’n eiddo cyhoeddus, gyda chyfrifoldebau newydd o ran cynllunio’r system ynni gyfan yn strategol a rhoi cyngor i’r llywodraeth ac Ofgem. Mae cyngor NESO i’r llywodraeth ar gyflawni pŵer glân erbyn 2030 wedi bod yn fewnbwn allweddol wrth lunio’r cynllun hwn. Bydd NESO yn bartner allweddol o ran darparu pŵer glân, gan weithio’n agos gydag Ofgem, y llywodraeth a’r diwydiant.
Fel cam cyntaf, mae NESO yn ymgynghori ar ddiwygio prosesau cysylltiadau, sy’n cynnwys cysoni’r prosesau hynny â chynllun pŵer glân y llywodraeth a gyda fersiynau o’r Cynllun Ynni Gofodol Strategol yn y dyfodol. Bydd hyn yn galluogi’r capasiti cynhyrchu sydd ei angen i fodloni pŵer glân i gysylltu’n effeithlon â’r system a darparu eglurder tymor hwy i’r diwydiant.
Fel Gweithredwr y System, bydd NESO yn gweithio i sicrhau bod ei weithrediadau, ei brosesau a’i systemau ei hun yn barod ar gyfer yr ymgyrch tuag at bŵer glân. Bydd hyn yn cynnwys datblygu cynllun gweithredu a rhoi ei gynllun ymgysylltu parhaus â’r diwydiant ar waith.
Bydd NESO yn gweithio gydag Ofgem i barhau i fwrw ymlaen â’r gwaith o ddiwygio’r cod ynni a helpu i nodi cyfeiriad newidiadau i’r cod yn y dyfodol ar gyfer pŵer glân, a ddarperir drwy’r Datganiad Cyfeiriad Strategol, ac asesu sut gall newid cod fod yn fwy effeithiol ac ymatebol i anghenion newidiol y system neu’r farchnad. Ym mis Tachwedd, lansiodd NESO ymgynghoriad ar ei gynllun busnes sy’n nodi sut bydd NESO yn gweithio i weithredu pŵer glân erbyn 2030[footnote 137].
Rôl Gweithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu (DNO)
Mae Gweithredwyr Rhwydweithiau Dosbarthu yn gyfrifol am y seilwaith sy’n darparu trydan o’r rhwydwaith trawsyrru cenedlaethol i ddefnyddwyr. Mae hyn yn cynnwys cynnal a chadw a gweithredu tyrau, trawsnewidyddion, ceblau a mesuryddion. Maent yn chwaraewyr allweddol yn y broses o drawsnewid i ynni adnewyddadwy, o ystyried eu cyfrifoldebau hanfodol i alluogi dosbarthu ynni adnewyddadwy.
Rôl Gweithredwyr Trawsyrru
Mae’r tri Gweithredwr Trawsyrru yn gyfrifol am berchnogi a chynnal y rhwydwaith trydan foltedd uchel gan sicrhau bod trydan foltedd uchel yn gallu cyrraedd un o’r pedwar Gweithredwr Rhwydweithiau Dosbarthu ledled Prydain Fawr. Maent yn allweddol o ran sicrhau bod y system ynni’n cael ei chynnal a’i chadw’n briodol a’i bod yn barod i gludo ynni adnewyddadwy ledled y wlad.
Rôl sefydliadau cyllid cyhoeddus
Mae gan sefydliadau cyllid cyhoeddus y DU y pŵer i ddarparu amrywiaeth o adnoddau cyllido i gefnogi nodau polisi’r llywodraeth yn unol â’u mandadau a bennwyd gan y llywodraeth.
Maent yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddarparu cyllid i sectorau a thechnolegau pŵer glân, gan eu cefnogi i gyrraedd aeddfedrwydd a maint masnachol. Mae hyn yn cynnwys cefnogi arloesedd cam cynharach (Ymchwil ac Arloesi yn y DU), busnesau llai sy’n hanfodol i fasnacheiddio technolegau gwyrdd (Banc Busnes Prydain), a defnydd masnachol cyntaf o’i fath, neu gamau ehangu a thyfu diweddarach ar gyfer busnesau a thechnolegau (Cronfa Cyfoeth Cenedlaethol a Chyllid Allforio’r DU).
Bydd y Gronfa Cyfoeth Cenedlaethol yn adeiladu ar arbenigedd arwain a buddsoddi Banc Seilwaith y DU (UKIB) gyda chyfres ehangach o offerynnau ariannol (fel gwarantau perfformiad), cyfalaf ychwanegol, mandad ehangach, adnodd ychwanegol i gynnal datblygiad mwy rhagweithiol, ymrwymiad i dreialu atebion cyllid cyfunol newydd gydag adrannau’r llywodraeth, a mwy o ffocws rhanbarthol. Bydd yn parhau i fuddsoddi yn sector blaenoriaeth ynni glân blaenorol UKIB (gan gynnwys ynni adnewyddadwy, niwclear, hyblygrwydd, storio, grid, ôl-osod, rhwydweithiau gwres a chadwyni cyflenwi ynni glân) ar gyfer prosiectau sydd â bwlch cyllido, gan helpu i ysgogi cyfalaf preifat i mewn iddynt. Bydd o leiaf £5.8 biliwn o gyfalaf y Gronfa yn canolbwyntio ar bum sector arall sy’n berthnasol i bŵer glân: hydrogen gwyrdd, dal carbon, porthladdoedd, gigaffatrïoedd a dur gwyrdd.
Mae’r sefydliadau cyllid cyhoeddus yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o ariannu pŵer glân 2030, gan gynnwys cyfleusterau storfeydd batris, cynhyrchu ynni adnewyddadwy, a seilwaith rhwydweithiau trydan a chadwyni cyflenwi.
-
Yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ) (2024), ‘Digest of UK Energy Statistics (DUKES) 2024’ (gwelwyd ym mis Rhagfyr 2024). ↩
-
Gellir cyfeirio at y cynigion gwirfoddol hyn o hyblygrwydd gan ddefnyddwyr ynni (boed yn aelwydydd neu’n ddiwydiannau) hefyd fel ymateb ymhlith defnyddwyr (DSR) neu hyblygrwydd yn y galw. ↩
-
Heb ei ddisgowntio, prisiau 2024. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad o £30bn mewn asedau cynhyrchu, a buddsoddiad o £10bn mewn asedau rhwydwaith trawsyrru. Gweler yr Atodiad Technegol i gael rhagor o fanylion am sut cafodd hyn ei gyfrifo. ↩
-
Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) (2022), ‘Electricity networks strategic framework, Appendix 1 – Electricity Networks Modelling’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol (NESO) (2024), ‘Clean Power 2030’ (gwelwyd ym mis Rhagfyr 2024). ↩
-
Gweler Tabl 1. Dyma’r gwahaniaeth rhwng capasiti presennol batris, rhyng-gysylltwyr, a hyblygrwydd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr, a chapasiti yn 2030 o dan ‘Amrediad Capasiti Pŵer Glân’ DESNZ. Mae’r gwahaniaethau yng nghyfanswm y ffigurau o ganlyniad i dalgrynnu. ↩
-
Cyfanswm y capasiti pŵer carbon isel anfonadwy, nwy di-dor, ac LDES yn Tabl 1, wedi’i dalgrynnu i’r 5GW agosaf. Mae technolegau y gellir eu danfon yn rhai sy’n llosgi tanwydd i gynhyrchu trydan a, thrwy amrywio’r gyfradd y caiff tanwydd ei losgi, gallant ymateb i ddiwallu anghenion y grid gyda lefelau amrywiol o hyblygrwydd. ↩
-
Gan gynnwys y Galw. Yn gywir o ddiwedd mis Hydref 2024. Cyhoeddir data am gysylltiadau bob mis gan y Bwrdd Cyflawni Cysylltiadau. ↩
-
Swyddfa Marchnadoedd Nwy a Thrydan (Ofgem) (2024), ‘Energy price cap (default tariff) policy’ (gwelwyd ym mis Rhagfyr 2024). ↩
-
Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (2024), ‘Report – Value for Money – Energy bills support: an update’ (gwelwyd ym mis Rhagfyr 2024). ↩
-
BEIS (2022), ‘Energy Trends special article – Energy imports from Russia’ (gwelwyd ym mis Rhagfyr 2024). ↩
-
Gweler yr atodiad technegol i gael rhagor o fanylion am y diffiniad o Bŵer Glân 2030. ↩
-
Pwyllgor Newid Hinsawdd (2020), ‘The Sixth Carbon Budget’ (gwelwyd ym mis Rhagfyr 2024). ↩
-
BEIS (2022), ‘UK’s Nationally Determined Contribution’ (gwelwyd ym mis Rhagfyr 2024). ↩
-
NESO (2024), ‘Clean Power 2030’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
BEIS (2023), ‘Electricity Generation Costs 2023’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). Mae’r dystiolaeth a gyhoeddwyd yn dangos mai ffynonellau trydan adnewyddadwy ysbeidiol fel ynni gwynt ar y môr, gwynt ar y tir a solar PV yw’r ffynonellau rhataf o gynhyrchiant trydan newydd i’w hadeiladu a’u gweithredu. ↩
-
NESO (2024), ‘Clean Power 2030’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
CCC (2023), ‘Delivering a reliable decarbonised power system’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Y data diweddaraf sydd ar gael i’r cyhoedd ar gyfer Prydain Fawr adeg cyhoeddi. Y ffynhonnell ddata ar gyfer ynni adnewyddadwy yw DESNZ (2024), ‘Energy Trends 6.1’, data Ch2 2024. Y ffynhonnell ddata ar gyfer niwclear, nwy heb ei addasu, ac LDES yw DESNZ (2024), ‘DUKES 5.12’, data 2023. Y ffynhonnell ddata ar gyfer hyblygrwydd a arweinir gan ddefnyddwyr yw NESO (2024), ‘Clean Power 2030 Table 2’, data 2023. Y ffynhonnell ddata ar gyfer batris yw Modo Energy (2024), ‘Indices & Benchmarks’, data Ch4 2024. Y ffynhonnell ddata ar gyfer rhyng-gysylltwyr yw Ofgem (2024), ‘Interconnectors’, data 2024. Mae pŵer carbon isel anfonadwy yn cynnwys biomas, pŵer BECCS, CCUS nwy a hydrogen i bŵer. Y ffynhonnell ddata ar gyfer biomas/ pŵer BECCS yw NESO (2024), ‘Clean Power 2030 Table 2’, data 2023. Mae CCUS nwy a hydrogen yn dechnolegau newydd felly nid oes capasiti wedi’i osod adeg cyhoeddi. ↩
-
Yn ogystal â’r ddwy senario NESO, mae’r ystodau hyn wedi cael eu llywio gan fodelu mewnol ac asesiad o’r defnydd mwyaf ymarferol yn seiliedig ar wybodaeth gyfredol am lif y prosiect. Felly, mae’r ystod yn wahanol i’r ystod o ddwy senario NESO mewn rhai achosion. Fodd bynnag, ar gyfer solar, mae lle i fynd y tu hwnt i’r terfyn uchaf o 47GW, yn amodol ar angen y system, gan nodi, er enghraifft, botensial solar ar y to i roi hwb i’r defnydd – gweler yr Atodiad Cysylltiadau am ragor o fanylion. ↩
-
Mae technolegau y gellir eu danfon yn rhai sy’n llosgi tanwydd i gynhyrchu trydan a, thrwy amrywio’r gyfradd y caiff tanwydd ei losgi, gallant ymateb i ddiwallu anghenion y grid gyda lefelau amrywiol o hyblygrwydd. Mae’r categori hwn yn cynnwys biomas, pŵer BECCS, CCUS nwy a hydrogen. ↩
-
Mae pen isaf yr ystod yn cynrychioli’r capasiti sylfaenol rydym yn disgwyl ei gael yn 2030. Mae ansicrwydd ynghylch faint o gapasiti biomas fydd yn y system yn 2030, gyda rhai trefniadau cymorth presennol yn dod i ben o 2027 ymlaen. Mae HMG yn ystyried y sefyllfa o ran trefniadau cymorth posibl yn y dyfodol, ond nid oes penderfyniadau wedi’u gwneud eto. ↩
-
Wrth gyflawni ei uchelgais Pŵer Glân ar gyfer 2030, nod y llywodraeth yw sicrhau y bydd digon o gapasiti hyblyg yn y system i fodloni diogelwch y cyflenwad. Mae hyn yn cynnwys cadw’r capasiti nwy di-dor sy’n bodoli ar hyn o bryd. ↩
-
Heb gynnwys gwresogyddion stôr. ↩
-
Rydym yn cynnig dull gweithredu pwrpasol ar gyfer ynni gwynt ar y tir oherwydd bod amcanestyniadau FES yn seiliedig ar gyfraddau twf tybiedig ONW yng Nghymru a Lloegr a gyhoeddwyd cyn y penderfyniad a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol ym mis Gorffennaf i ddileu’r gwaharddiad ar ynni gwynt ar y tir. O ganlyniad, rydym wedi cynyddu’r ystod capasiti ar gyfer ynni gwynt ar y tir i 2035 – gweler yr Atodiad Cysylltiadau am ragor o fanylion. ↩
-
Mae penderfyniadau terfynol ar ganiatâd cynllunio yn parhau i fod yn amodol ar fodloni’r gofynion cynllunio angenrheidiol a chymeradwyaethau rheoleiddiol eraill. ↩
-
Heb ei ddisgowntio, prisiau 2024. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad o £30bn mewn asedau cynhyrchu, a buddsoddiad o £10bn mewn asedau rhwydwaith trawsyrru. Gweler yr Atodiad Technegol i gael rhagor o fanylion am sut cafodd hyn ei gyfrifo. ↩
-
NESO (2024), ‘Clean Power 2030’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
NAO (2024), ‘Report – Value for money: Energy bills support: an update’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
BEIS (2022), ‘Electricity networks strategic framework, Appendix 1 – Electricity Networks Modelling’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
DESNZ (2024), ‘UK territorial greenhouse gas emissions national statistics’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
CCC (2020), The Sixth Carbon Budget - The UK’s path to Net Zero, Ffigur 2.6 (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Climate Action Tracker (CAT) (2023), ‘CAT net zero target evaluations’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (2023), ‘Fiscal Risks and Sustainability’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
CCC (2023), ‘A Net Zero Workforce’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Robert Gordon University (2023) ‘Powering up the workforce’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Zenghelis et al. (2024), ‘Boosting growth and productivity in the United Kingdom through investments in the sustainable economy’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024) a CCC (2023), ‘A Net Zero Workforce’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
CCC (2023), ‘A Net Zero Workforce’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
CCC (2023), ‘A Net Zero Workforce’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
EDF (2024), ‘Socio-economic Impact Report 2024’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
EDF (2024), ‘Helping Britain achieve net zero’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
NESO (2023) ‘Household engagement with the Demand Flexibility Service 2022/23’ ↩
-
Butler (2001), ‘The nature of UK electricity transmission and distribution networks in an intermittent renewable and embedded electricity generation future’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Yr Adran Ffyniant Bro a Chymunedau Tai (DLUHC) (2023), ‘Nationally Significant Infrastructure: action plan for reforms to the planning process’ (gwelwyd ym mis Rhagfyr 2024) ↩
-
NESO (2024), ‘Clean Power 2030’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Amcangyfrif DESNZ mewnol wedi’i hysbysu gan ymgysylltu â rhanddeiliaid. ↩
-
Amcangyfrif DESNZ mewnol wedi’i hysbysu gan ymgysylltu â rhanddeiliaid. ↩
-
Swyddfa’r Prif Weinidog, 10 Stryd Downing (2024), ‘Plan for Change: Milestones for mission-led government’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Dadansoddiad DESNZ yn seiliedig ar y Gronfa Ddata Cynllunio Ynni Adnewyddadwy (REPD). ↩
-
DESNZ (2023), ‘Hydrogen projects: planning barriers and solutions – research findings’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Asiantaeth yr Amgylchedd (2024), ‘Environment Agency’s planning consultation timelines: 2023 to 2024’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Natural England (2023), ‘Natural England’s response times to planning consultations in England’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Historic England (2024), ‘Proposed reforms to the National Planning Policy Framework and other changes to the planning system: Consultation Response – September 2024’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
NESO (2024), ‘Clean Power 2030’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Llywodraeth Cymru (2024), ‘Gweithredu Deddf Seilwaith (Cymru) 2024’ (gwelwyd ym mis Rhagfyr 2024). ↩
-
Llywodraeth Cymru (2024), ‘Hyrwyddo gwasanaeth cynllunio gwydn sy’n perfformio’n dda’ (gwelwyd ym mis Rhagfyr 2024). ↩
-
NESO (2024), ‘Clean Power 2030’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
National Grid ESO (2022), ‘Monthly Balancing Services Summary’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Heb ei ddisgowntio, prisiau 2022/23. ↩
-
DESNZ (2023), ‘Community benefits for electricity transmission network infrastructure: government response’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
DESNZ (2023), ‘Independent report: Accelerating electricity transmission network deployment: Electricity Networks Commissioner,s recommendations’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
NESO (2024), ‘Clean Power 2030’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
NESO (2024), ‘Clean Power 2030’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Gan gynnwys y Galw. Yn gywir o ddiwedd mis Hydref 2024. Cyhoeddir data am gysylltiadau bob mis gan y Bwrdd Cyflawni Cysylltiadau. ↩
-
Gweler yr atodiad diwygio cysylltiadau i gael rhagor o fanylion am ddadansoddiad rhanbarthol o gapasiti technoleg. ↩
-
DESNZ & Ofgem (2023), ‘Connections action plan: speeding up connections to the electricity network across Great Britain’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024) ↩
-
DESNZ & Ofgem (2024), ‘Open letter from DESNZ and Ofgem: Aligning grid connections with strategic plans’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
NESO (2024), ‘Connections reform consultation’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
NESO (2024), ‘Open letter on connections reform’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Energy Networks Association (ENA) (2023), ‘Common sense plan for planning’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
DESNZ (2024), ‘Land rights and consents for electricity network infrastructure: summary of responses’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
DESNZ (2023), ‘Seizing Our Opportunities: Independent Report of the Offshore Wind Champion’ (gwelwyd ym mis Tachwedd 2024). ↩
-
DESNZ (2023), ‘Electricity generation costs 2023’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
LCCC (2024), ‘CfD Register’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Amcangyfrif mewnol yn seiliedig ar ymgysylltu â rhanddeiliaid. ↩
-
UK Warehousing Association (UKWA) / Delta Energy & Environment (2022), ‘Investment case for rooftop solar power in warehousing’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Ofgem (2024), ‘Renewables Obligation (RO) Annual Report 2022-23 - (Scheme Year 21)’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Ofgem (2024), ‘The Renewables and CHP Register’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
DESNZ (2024), ‘Consultation outcome: Proposed amendments to Contracts for Difference for Allocation Round 7 and future rounds’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
DESNZ (2023), ‘Biomass Strategy’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
DESNZ (2024), ‘Transitional support mechanism for large-scale biomass electricity generators’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
The Crown Estate (TCE) (2024), ‘Supply chain for Celtic Sea floating wind farms could power 5,000 new jobs and a £1.4bn boost for the economy’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
DESNZ (2024), ‘Contracts for Difference for Low Carbon Electricity Generation, Government response to the consultation on policy considerations for future rounds of the Contracts for Difference scheme’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Statutory Instrument (2023), ‘Infrastructure Planning: The Awel y Môr Offshore Wind Farm Order 2023’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
DESNZ (2024), ‘Consultation: Capacity Market: proposals to maintain security of supply and enable flexible capacity to decarbonise’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
DESNZ (2024), ‘Call for Evidence: Capacity Market: call for evidence on proposals to maintain security of supply and enable flexible capacity to decarbonise’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Draft Statutory Instrument (2024), ‘The Environmental Permitting (Electricity Generating Stations) (Amendment) Regulations 2024’ - disgwylir i hyn ddod i rym dros dro o 28 Chwefror 2026 ymlaen (gwelwyd ym mis Rhagfyr 2024). ↩
-
DESNZ (2024), ‘Capacity Market: Policy Update – 2023 Phase 2 Consultation’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
NESO (2024), ‘NESO Roadmap’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
NESO (2024), ‘Constraints Collaboration Project – Final Report’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Cyhoeddodd Ofgem lythyr agored i’r diwydiant ar 30 Medi 2024 yn cynnig ateb cap a llawr i gost cynyddol ac ansefydlogrwydd ffioedd Defnyddio’r System Rhwydwaith Trawsyrru. ↩
-
Batris safon cyfleuster sy’n darparu gwasanaethau i ranbarth neu i Brydain gyfan. ↩
-
Y rheini sy’n darparu gwasanaethau i gartref neu fusnes ac sy’n bodoli y tu ôl i’r mesurydd ar gyfer yr eiddo. ↩
-
Modo Energy (2024), ‘Indices & Benchmarks’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Gellir cyfeirio at y cynigion gwirfoddol hyn o hyblygrwydd gan ddefnyddwyr ynni (boed yn aelwydydd neu’n ddiwydiannau) hefyd fel ymateb ymhlith defnyddwyr (DSR) neu hyblygrwydd yn y galw. ↩
-
NESO (2024), ‘Future Energy Scenarios 2024’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Mae 4.8 GW hefyd yn cael ei ystyried yn hyblygrwydd o wresogyddion stôr yn 2023. Mae’r gwresogyddion stôr trydan sy’n darparu’r hyblygrwydd presennol wedi bod ar waith ers amser maith yn y rhan fwyaf o achosion, a disgwylir i’r capasiti hwn ostwng dros amser. Pan fydd defnyddwyr yn newid gwresogyddion stôr, bydd yn bwysig eu bod yn mabwysiadu dulliau newydd ac effeithlon o wresogi carbon isel, fel pympiau gwres. ↩
-
Mae ffigurau’n dangos colli cymhelliant, gan gynnwys y newidiadau Triad yn ystod y cyfnod hwn, nid y gostyngiad mewn capasiti DSR gwirioneddol. ↩
-
Ofgem (2024), ‘Interconnectors’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
BEIS (2021), ‘Smart Systems and Flexibility Plan’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Cyfanswm y capasiti pŵer carbon isel anfonadwy, nwy di-dor, ac LDES yn Tabl 1, wedi’i dalgrynnu i’r 5GW agosaf. Mae technolegau y gellir eu danfon yn rhai sy’n llosgi tanwydd i gynhyrchu trydan a, thrwy amrywio’r gyfradd y caiff tanwydd ei losgi, gallant ymateb i ddiwallu anghenion y grid gyda lefelau amrywiol o hyblygrwydd. ↩
-
DESNZ (2024), ‘Hydrogen to power: market intervention need and design’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Cyfanswm y capasiti pŵer carbon isel anfonadwy, nwy di-dor, ac LDES yn Tabl 1, wedi’i dalgrynnu i’r 5GW agosaf. Mae technolegau y gellir eu danfon yn rhai sy’n llosgi tanwydd i gynhyrchu trydan a, thrwy amrywio’r gyfradd y caiff tanwydd ei losgi, gallant ymateb i ddiwallu anghenion y grid gyda lefelau amrywiol o hyblygrwydd. ↩
-
NESO (2024), ‘Clean Power 2030’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
CCC (2020), ‘The Sixth Carbon Budget’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
DESNZ (2019), ‘Energy Innovation Needs Assessments’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Energy Technologies Institute (ETI) (2016), ‘Strategic UK CCS Storage Appraisal’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Yn amodol ar fodloni’r gofynion cynllunio angenrheidiol a chymeradwyaethau rheoleiddiol eraill. ↩
-
Eni (2024), ‘HyNet North West Project’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
North Sea Transition Authority (2024), ‘Emissions Monitoring Report 2024’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩ ↩2
-
Global Methane Pledge (2024), ‘Global Methane Pledge’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩ ↩2
-
DESNZ (2023), ‘The Need for Government Intervention to Support Hydrogen to Power’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
DESNZ (2024), ‘Government reignites industrial heartlands 10 days out from the International Investment Summit’ (gwelwyd ym mis Tachwedd 2024). ↩
-
DESNZ (2024), ‘Long‑duration Electricity Storage Policy Framework Consultation’ (gwelwyd ym mis Tachwedd 2024). ↩
-
DESNZ (2024), ‘Consultation outcome: Long‑duration electricity storage: proposals to enable investment’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
NESO (2024), ‘Clean Power 2030’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Cyllid arloesi cronnol bras ar gyfer LDES a ddarparwyd gan yr Adran ers 2014 o raglenni cyllid arloesi, gan gynnwys y Rhaglen Arloesi Ynni a’r Portffolio Arloesi Sero Net. ↩
-
NESO (2024), ‘Clean Power 2030’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Baringa (2024), ‘UK renewables deployment supply chain readiness study’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
RenewableUK, Offshore Wind Industry Council, TCE, & The Crown Estate Scotland (2024), ‘Offshore Wind Industrial Growth Plan’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
CCC (2023), ‘A Net Zero Workforce’ (gwelwyd ym mis Tachwedd 2024). ↩
-
Llywodraeth y DU, ‘What qualification levels mean’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Mae dadansoddiad o hysbysebion swyddi arbrofol a ddangosir yn ffigur 14 yn awgrymu bod yna sgiliau sy’n gymharol drosglwyddadwy o lawer o sectorau carbon-ddwys i sectorau ynni glân, sy’n awgrymu bod gweithwyr mewn sectorau carbon-ddwys yn debygol o fod â llawer o’r sgiliau sydd eu hangen ar draws y gweithlu Pŵer Glân. Yr her fydd galluogi’r gweithwyr hyn i gael eu hailsgilio’n gyflym. ↩
-
Learning and Work Institute (2023), ‘Skills for a net-zero economy: Insights from employers and young people’ (gwelwyd ym mis Tachwedd 2024). ↩
-
EngineeringUK (2022), ‘Women in Engineering: Trends in women in the engineering workforce between 2010 and 2021’ - Based on ONS Labour Force Survey data (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Offshore Wind Industry Council (2023), ‘Offshore Wind Skills Intelligence Report’ – Based on job record data provided by employers (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Llywodraeth yr Alban (2024), ‘Green Industrial Strategy’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Llywodraeth Cymru (2023), ‘Cenhadaeth economaidd: blaenoriaethau ar gyfer economi gryfach’ (gwelwyd ym mis Rhagfyr 2024). ↩
-
Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon (2021) ‘Path to Net Zero Energy’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024) ↩
-
Ofgem (2024), ‘Electricity Transmission Advanced Procurement Mechanism Consultation’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Llywodraeth yr Alban (2024), ‘Green Industrial Strategy’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩
-
Llywodraeth Cymru (2023), ‘Cymru Gryfach, Decach, Gwyrddach: Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net’ (gwelwyd ym mis Rhagfyr 2024). ↩
-
NESO (2024), ‘Have your say on our first business plan as NESO’ (gwelwyd yn Rhagfyr 2024). ↩