Ffurflen

Datgan manylion partneriaeth ar gyfer Ardoll Newid yn yr Hinsawdd

Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein neu'r ffurflen bost CCL2 i ddatgan manylion partneriaeth wrth gofrestru ar gyfer Ardoll Newid yn yr Hinsawdd.

Dogfennau

Datgan ar-lein (mewngofnodi drwy ddefnyddio Porth y Llywodraeth)

Datgan gan ddefnyddio'r ffurflen bost

Manylion

Datgan manylion partneriaeth wrth gofrestru ar gyfer Ardoll Newid yn yr Hinsawdd (CCL), gallwch naill ai:

  • defnyddio’r gwasanaeth ffurflen ar-lein
  • llenwi’r ffurflen ar y sgrîn, ei hargraffu a’i phostio i CThEM

Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu’i hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly rydym yn awgrymu eich bod yn casglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.

Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft, Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr.

Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen CCL1 i gofrestru ar gyfer Ardoll Newid yn yr Hinsawdd.

Cewch ragor o wybodaeth am CCL yn Hysbysiad Ecséis:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 September 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 June 2016 + show all updates
  1. An online forms service is now available.

  2. Welsh version of form CCL2 added to the page.

  3. First published.

Sign up for emails or print this page