Cofrestru atwrneiaeth arhosol
Ffurflenni a chanllawiau ar gyfer cofrestru atwrneiaeth arhosol a wnaethpwyd gan ddefnyddio LPA114, LPA117, LP PA neu LP PW
Applies to England and Wales
Documents
Details
Defnyddiwch y dogfennau hyn i:
- wneud cais i gofrestru atwrneiaeth arhosol (LPA) a wnaethpwyd ar ffurflenni LPA114 neu LPA117, wedi’i lofnodi a’i ddyddio’n gywir, hyd at 1 Ionawr 2016
- gwneud cais i gofrestru atwrneiaeth arhosol (LPA) ar ffurflenni LP PA neu LP PW, wedi’i lofnodi a’i ddyddio’n gywir, hyd at 1 Ebrill 2011.
- rhoi gwybod i bobl am eich cais
- gwneud cais i dalu ffi ostyngol os oes gan y rhoddwr incwm isel
Mae’r canllaw (LP13) yn esbonio sut i wneud cais.
Gallwch lawrlwytho pecyn cyflawn o ddogfennau neu ffurflenni unigol a chanllawiau ar sut i lenwi’r ffurflenni.
Os ydych yn lawrlwytho pecyn cyflawn o ddogfennau, edrychwch ar fwrdd gwaith eich cyfrifiadur neu’r ffolder lawrlwythiadau, i weld ffeil ‘LPA’ yn y teitl ac yn gorffen â ‘.zip’. Cliciwch ddwywaith ar y ffeil hwn, a bydd eich cyfrifiadur yn agor y ffolder sy’n cynnwys pob dogfen sydd arnoch ei hangen. Gallwch lenwi’r ffurflenni hyn ar eich cyfrifiadur, ac yna eu hargraffu a’u hanfon i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i’r cyfeiriad sydd ar y ffurflen.
Os gwnaethoch eich LPA ar-lein gan ddefnyddio gwasanaeth digidol LPA, bydd arnoch angen defnyddio’r gwasanaeth digidol LPA i’w gofrestru.
I wneud cais am unrhyw ddogfen mewn fformat arall, megis Braille, recordiad sain neu brint bras, anfonwch e-bost i customerservices@publicguardian.gsi.gov.uk. Dylech gynnwys eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn a theitl y ddogfen y mae arnoch ei hangen.
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Updates to this page
Published 12 January 2015Last updated 2 July 2015 + show all updates
-
New form to register LPAs made before 1 July 2015.
-
First published.