Papur polisi

Cyfarfu’r Grŵp Rhyngweinidogol dros Gyfiawnder (IMGJ) crynodeb o'r cyfarfod: 12 Medi 2023

Diweddarwyd 20 February 2024

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2022 to 2024 Sunak Conservative government

Cyfarfu’r Grŵp Rhyngweinidogol dros Gyfiawnder (IMGJ) am y tro cyntaf ddydd Mawrth 12 Medi 2023 drwy gynhadledd fideo.

Cafodd y cyfarfod ei gynnal gan Lywodraeth y DU a’i gadeirio gan yr Arglwydd Bellamy CB.

Dyma’r gweinidogion a oedd yn bresennol:

  • Ar ran Llywodraeth y DU: Yr Arglwydd Bellamy CB, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a’r Gwir Anrhydeddus David TC Davies AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru
  • Ar ran Llywodraeth yr Alban: Angela Constance ASA, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder a Materion Cartref
  • Ar ran Llywodraeth Cymru: Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol Cymru.

Yn absenoldeb gweinidogion Gogledd Iwerddon, bu Richard Pengelly, Ysgrifennydd Parhaol Adran Cyfiawnder Gogledd Iwerddon, yn bresennol ar ran Gwasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon fel arsylwr.

Dechreuodd y cyfarfod gyda’r Gweinidogion a oedd yn bresennol yn cytuno ar y Cylch Gorchwyl.

Yna, trafododd yr IMGJ gapasiti carchardai a’r camau sy’n cael eu cymryd i wella capasiti a lleihau’r galw. Cytunodd yr IMGJ fod y boblogaeth o ddynion sy’n oedolion yn peri her benodol, nododd rai mentrau sydd wedi helpu i leihau’r boblogaeth, a nododd bwysigrwydd cael y data angenrheidiol i reoli’r heriau gweithredol a’r heriau o ran polisi yn effeithiol. Cytunwyd y dylai capasiti carchardai fod ar yr agenda ar gyfer cyfarfodydd yr IMGJ yn y dyfodol.

Yr eitem nesaf a drafodwyd oedd adferiad y llys yn dilyn Covid. Roedd y pwyntiau a wnaed yn cynnwys defnyddio technoleg yn well a’i rôl o ran lleihau ôl-groniadau. Cytunwyd y dylai adferiad y llys fod ar yr agenda ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol ac y byddai ffocws ar gyfraith teulu yn ddefnyddiol.

Yna derbyniodd yr IMGJ y wybodaeth ddiweddaraf gan y Cadeirydd am adolygiad y Weinyddiaeth Gyfiawnder o gymorth cyfreithiol sifil. Nododd y rhai a oedd yn bresennol eu barn ar yr heriau sy’n gysylltiedig â rhedeg system cymorth cyfreithiol.

Darparodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf am y Bil Dioddefwyr a Charcharorion. Nodwyd bod y broses Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn cael ei sbarduno ar gyfer rhannau o’r Bil.

Cytunodd y grŵp nad oedd angen trafodaeth sylweddol ar Gyfraith yr UE Wrth Gefn, o ystyried newid polisi Llywodraeth y DU yn gynharach yn y flwyddyn mewn perthynas â’r trefniadau machlud gwreiddiol.

Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben. Ategodd y rhai a oedd yn bresennol eu cefnogaeth i’r IMGJ gan nodi bod y drafodaeth wedi bod yn ddefnyddiol.

Cynhelir cyfarfod nesaf yr IMGJ ymhen pedwar mis.