Y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol: prosbectws (Ddim mewn defnydd)
Diweddarwyd 23 Rhagfyr 2024
Mae’r holl ddogfennau atodol sy’n berthnasol i’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ar gael trwy ddilyn y ddolen isod. Dyma ble y gwelwch y wybodaeth fwyaf cyfredol am y Gronfa.
Rhagair gan y Gweinidog
Mae ffyniant bro yn ymwneud â newid mawr, uchelgeisiol mewn buddsoddiad a phwerau i wyrdroi anghydraddoldebau daearyddol parhaus a rhyddhau cyfleoedd mewn mannau nad ydynt yn cael digon o sylw na’u gwerthfawrogi digon ledled y Deyrnas Unedig.
Ond, fel yr amlinellir yn ein Papur Gwyn Ffyniant Bro, mae hefyd yn ymwneud â diogelu’r asedau lleol bach ac annwyl gan lawer na allwn roi pris arnynt.
Mae’r asedau hyn, sy’n amrywio o sefydliadau chwaraeon a diwylliannol i ganolfannau cymunedol, tafarnau a siopau stryd fawr, yn edau euraid yn ein gwead cymdeithasol a’n treftadaeth gyffredin; gan gynyddu balchder, ymdeimlad o berthyn ac ansawdd bywyd.
Pan fyddant mewn perygl, rydym wedi gweld cymunedau’n dod at ei gilydd yn aml yn erbyn rhwystrau mawr i’w hachub.
Mae’n iawn i ni wneud mwy i ailgydbwyso’r fantol o’u plaid.
Dyna’n union beth mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol £150 miliwn yn ceisio ei wneud; sicrhau bod pobl leol ledled y Deyrnas Unedig yn gallu cefnogi a pharhau i elwa o sefydliadau lleol gwerthfawr y gallai eu dyfodol fod yn ansicr.
P’un ai’r dafarn ar y stryd fawr sy’n wynebu cau, siop bentref neu dîm chwaraeon lleol a allai golli ei faes, mae’r Gronfa’n cynnig cyfle gwych i grwpiau lleol eu cymryd drosodd a’u cynnal fel busnesau – gan y gymuned, ar gyfer y gymuned.
Rydym yn gwneud cynnydd da â’r gwaith pwysig hwn; cyhoeddwyd dros £10 miliwn ar gyfer 39 o brosiectau o’r cylch cyntaf o gynigion a fydd o fudd i ganolfannau cymunedol, adeiladau treftadaeth, tafarnau, a chyfleusterau chwaraeon ar draws y Deyrnas Unedig gyfan.
Dim ond megis y dechrau yw hyn. Mae’r cyfnod ar gyfer mwy o gynigion a rhyddhau buddsoddiad yn parhau am bedair blynedd tan 2024/25, felly edrychaf ymlaen at weld llawer mwy o asedau lleol bach, ond cryf, yn sicrhau ffyniant y lleoedd rydym ni’n eu caru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau
1. Trosolwg
Mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol £150 miliwn ar gyfer cymunedau ledled y Deyrnas Unedig. Fe’i sefydlwyd i helpu cymunedau i gymryd perchnogaeth o asedau sydd mewn perygl o gau. Bydd ar gael am 4 blynedd tan 2024/25.
Gall sefydliadau gwirfoddol a chymunedol gynnig am arian cyfatebol. Gallai’r arian gyfrannu at gostau prynu a/neu adnewyddu asedau cymunedol.
Mae ceisiadau’n ddarostyngedig i’r gofynion cymhwysedd a amlinellir yn y prosbectws hwn. Bydd y Gronfa’n cefnogi amrywiaeth o gynigion sy’n galluogi pobl a chymunedau ledled y Deyrnas Unedig i ffynnu.
Bydd angen i gynigion brofi gwerth yr ased i bobl leol a bod yr ased yn gallu cael ei gynnal yn gynaliadwy er budd tymor hir y gymuned.
Mae’r prosbectws hwn yn amlinellu gwybodaeth am y canlynol:
- y gofynion cymhwysedd
- y meini prawf asesu
- yr arian sydd ar gael
- y broses ymgeisio
- y camau nesaf ar ôl cyflwyno’ch cais
1.1. Adolygiad o’r Cylch Cyntaf
Agorodd y cylch cyntaf o gynigion ar 15 Gorffennaf 2021 a chaeodd ar 13 Awst 2021. Lansiwyd y cylch peilot hwn i brofi awydd cymunedau a threialu’r polisïau a’r prosesau a ddatblygwyd. Roedd yn canolbwyntio’n arbennig ar gymunedau a oedd yn barod i gymryd asedau drosodd.
Ailagorodd y Cylch 1af am gyfnod cyfyngedig o fis Rhagfyr 2021 tan fis Chwefror 2022. Fe’i hailagorwyd i gynigwyr cymwys o’r Cylch 1af nad oeddent yn cael eu hariannu ond yr oedd angen iddynt achub eu hased cymunedol ar frys. Sylwer na fydd y Gronfa’n cael ei hailagor eto yn y modd hwn mewn unrhyw gyfnodau cynnig yn y dyfodol.
Hyd yma, ar draws y cylch cyntaf o gynigion, mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol wedi ariannu 39 o brosiectau a ddaeth i gyfanswm o £10.15m. Mae’r rhain yn cynnwys amrywiaeth o fathau o asedau ac wedi’u lledaenu’n ddaearyddol ar draws y Deyrnas Unedig.
1.2. Newidiadau allweddol ers y Cylch Cyntaf
Rydym wedi gwneud newidiadau allweddol i’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ar gyfer cyfnodau cynnig yn y dyfodol.
Mae’r newidiadau hyn yn deillio o’r gwersi a ddysgwyd o’r cylch peilot cyntaf o gynigion a’r adborth a gawsom gan randdeiliaid ac ymgeiswyr. Felly, rydym wedi diwygio dyluniad y rhaglen a’r gofynion cymhwysedd er mwyn helpu nifer fwy o brosiectau i gael at y Gronfa’n llwyddiannus.
Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys:
- cyflwyno proses ymgeisio dau gam trwy gynnwys cam Mynegi Diddordeb sydd bob amser ar agor, lle y bydd ymgeiswyr yn llenwi ffurflen fer i weld a yw eu prosiect yn debygol o fod yn gymwys a chael canlyniad cyflym ar eu cynigion cyn cyflwyno cais llawn
- newid i dri chyfnod cynigion y flwyddyn, sy’n golygu y gall ymgeiswyr gyflwyno cais llawn pan fydd eu Mynegiant o Ddiddordeb wedi cael ei gymeradwyo, ar adeg sy’n iawn i’w prosiect
- egluro’r gofynion cymhwysedd ar gyfer ariannu asedau chwaraeon ac asedau sector cyhoeddus
- ymestyn y llinell amser ar gyfer cwblhau prosiectau o 6 mis i 12 mis o’r dyddiad a nodir ar y llythyr cynnig
- caniatáu cymeradwyo cynigion ar gyfer asedau sydd â phrydlesau 15 mlynedd o leiaf a chymalau terfynu rhesymol, er bod prydlesau 25 mlynedd yn amgenach o hyd
- dileu’r gofyniad i brosiectau fod wedi cael eu defnyddio gan y gymuned yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, er bod rhaid i asedau ddangos tystiolaeth o rywfaint o ddefnydd cymunedol yn y gorffennol o hyd
- cyflwyno terfyn ar nifer y ceisiadau llawn y gellir eu gwneud ar gyfer pob prosiect. Caiff ymgeiswyr bellach geisio cyflwyno dau gais llawn
- darparu mwy o wybodaeth i ymgeiswyr llwyddiannus am yr hyn y gallant ei ddisgwyl ar ôl derbyn llythyr cynnig
1.3. Cymorth datblygu yn y dyfodol
Rydym hefyd yn bwriadu darparu cymorth ychwanegol ar gam cynnar i gefnogi’r ymgeiswyr y mae arnynt ei angen fwyaf. Rydym wrthi’n gweithio i sicrhau darparwr cymorth datblygu a fydd yn rhoi cymorth a chyngor ychwanegol i ymgeiswyr.
Bydd yn helpu ymgeiswyr i ddatblygu eu cynigion ar gyfer prosiectau a chynnal busnes cymunedol cynaliadwy llwyddiannus. Bydd cynigion yn cael eu hasesu gan y darparwr cymorth datblygu i sicrhau y rhoddir y lefel briodol o gymorth a’i dargedu at ardaloedd lle y ceir yr angen mwyaf.
Disgwylir i’r cymorth hwn fod ar gael yn 2023, ond nid oes angen i chi aros i ddechrau eich cais nawr. Mae rhagor o wybodaeth am y darparwr cymorth datblygu ar gael yn adran 9.
1.4. Dogfennau a dyddiadau allweddol
Bydd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn agor ar gyfer ceisiadau Mynegi Diddordeb ar 10 Mehefin cyn i’r cyfnod ymgeisio agor yn ddiweddarach y mis hwnnw. Gallech fynegi eich diddordeb yma.
Unwaith y byddwch wedi pasio’r cam Mynegi Diddordeb anfonir dolen atoch i gyflwyno cais llawn i’r Gronfa. Sylwch mai dim ond os ydych wedi cael cadarnhad bod eich prosiect yn gymwys yn y cam Mynegi Diddordeb y gallwch gyflwyno cais llawn.
Byddwch yn gallu cyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb ar unrhyw adeg, nid oes ffenestri bidio ar gyfer y cam hwn o’r ffurflen gais. Bydd y cais llawn yn cael ei gyflwyno yn ystod ffenestri sefydlog bob blwyddyn.
- Bydd y cyfnod ymgeisio nesaf ar agor o 31 Hydref I 14 Rhagfyr.
- Bydd pob cyfnod cynigion yn cau am 11:59am ar ei ddyddiad cau unigol
Mae’n rhaid i’ch ceisiadau llawn gael eu cyflwyno cyn 11:59am ar 14 Rhagfyr 2022 os ydych yn gwneud cais yn yr ail cyfnod cynnig.
2. Diben y Gronfa
Yn yr adran hon, fe welwch wybodaeth am amcanion strategol a chanlyniadau rhaglenni’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol.
Mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn gronfa £150 miliwn dros 4 blynedd i gynorthwyo grwpiau cymunedol ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gymryd perchnogaeth o asedau sydd mewn perygl o gael eu colli i’r gymuned.
Mae’n rhan o becyn sylweddol o ymyriadau ffyniant bro ar draws y Deyrnas Unedig, sy’n helpu i gefnogi adferiad, creu cyfleoedd a grymuso cymunedau i wella eu mannau lleol.
Sylweddolwn y gall fod yn anodd weithiau i grwpiau cymunedol godi’r arian sy’n angenrheidiol i brynu’r ased a’i gynnal yn gynaliadwy er budd tymor hir y gymuned. Bydd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn helpu pobl leol i achub asedau cymunedol lleol sydd mewn perygl.
2.1. Amcanion strategol
Mae gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol bedwar amcan strategol:
- darparu buddsoddiad wedi’i dargedu ar gyfer cymunedau i achub a chynnal asedau cymunedol y byddai’r gymuned yn colli defnydd ohonynt fel arall
- cryfhau capasiti a gallu mewn cymunedau, gan eu cynorthwyo i ffurfio eu lleoedd a datblygu busnesau cymunedol cynaliadwy
- grymuso cymunedau mewn lleoedd sydd wedi’u gadael ar ôl i godi’r gwastad
- cryfhau cysylltiadau uniongyrchol rhwng lleoedd ar draws y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig
2.2. Canlyniadau rhaglenni
At ddibenion y Gronfa hon, mae perchnogaeth gymunedol yn cyfeirio at berchen ar asedau cymunedol lleol a’u rheoli gan sefydliad cymunedol er mwyn cyflawni buddion i’r gymuned a’r lle.
Gall perchnogaeth gymunedol o asedau hybu cysylltiadau lleol, cyfranogiad a balchder mewn lle, a chynyddu gwydnwch cymunedol. Trwy fuddsoddi mewn gallu cymunedau ledled y Deyrnas Unedig i gymryd perchnogaeth o’r lleoedd a’r mannau sy’n bwysig iddynt, byddwn yn cryfhau’r seilwaith cymdeithasol sy’n helpu cymunedau i ffynnu.
Dylai eich ceisiadau ddangos potensial y prosiect yn glir i gyflawni yn erbyn pob un o’r canlyniadau canlynol:
- diogelu ased cymunedol sydd mewn perygl a gwarchod ei werth cymunedol
-
datblygu model gweithredu cynaliadwy i sicrhau dyfodol tymor hir yr ased cymunedol sydd ym mherchnogaeth gymunedol
- diogelu’r defnydd o asedau cymunedol
Mae’r Gronfa’n cefnogi prosiectau sy’n cyflawni un o’r nodau canlynol neu gyfuniad ohonynt:
- caffael ased cymunedol ffisegol sydd mewn perygl, fel tir ac adeiladau sy’n rhoi budd i bobl leol
-
adnewyddu, atgyweirio neu ailwampio’r ased, dim ond os yw’n ased cymunedol sydd mewn perygl o gau a phan fydd hyn yn allweddol i achub yr ased a’i wneud yn gynaliadwy ar gyfer defnydd cymunedol tymor hir
- sefydlu busnes cymunedol newydd neu brynu busnes sydd eisoes yn bodoli er mwyn achub ased sy’n bwysig i’r gymuned
- prynu stoc, casgliadau neu eiddo deallusol cysylltiedig, pan fydd yn ymwneud â phrynu ased ffisegol neu brynu busnes i achub ased
- symud ased cymunedol i leoliad newydd, mwy priodol yn yr un gymuned. Fe allai hyn fod oherwydd bod lleoliad gwahanol yn cynnig gwell gwerth i barhau â’r ased, neu oherwydd bod y safle ei hun yn ased sydd o werth cymunedol
Rydym eisiau ariannu prosiectau cymunedol sy’n gwneud un o’r pum peth canlynol o leiaf:
- cynyddu teimladau o falchder yn yr ardal leol, a gwella canfyddiadau ohoni, fel lle i fyw
- gwella ymddiriedaeth gymdeithasol, cydlyniant ac ymdeimlad o berthyn
- cynyddu cyfranogiad lleol mewn bywyd cymunedol, y celfyddydau, diwylliant neu chwaraeon
- gwella canlyniadau economaidd lleol – gan gynnwys creu swyddi, cyfleoedd gwirfoddoli a gwella lefelau cyflogadwyedd a sgiliau yn y gymuned leol
- gwella canlyniadau cymdeithasol a lles – gan gynnwys cael effaith gadarnhaol ar iechyd corfforol a/neu feddyliol pobl leol a lleihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol
Byddwn yn buddsoddi mewn prosiectau perchnogaeth gymunedol pan fydd yr asedau hyn yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i’r ardal leol. Dylech ddangos sut y bydd buddion yr ased cymunedol yn mynd i’r afael â’r angen cymunedol yn eu man lleol. Mae rhagor o fanylion am sut i ddangos hyn yn eich ceisiadau ar gael yn canllawiau ychwanegol ar asesu.
Bydd eich ceisiadau hefyd yn cael eu mesur yn erbyn ein gofynion monitro a gwerthuso. Mae rhagor o fanylion am y gofynion hyn yn adran 7 y prosbectws hwn.
2.3. Cryfhau perchnogaeth gymunedol ledled y Deyrnas Unedig
Bydd y Gronfa’n cael ei darparu’n uniongyrchol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gymunedau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i gyfleoedd teg i gael arian trwy’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ledled y Deyrnas Unedig.
Felly, mae lleiafswm targed gwariant yn unol â dyraniadau fesul pen o’r boblogaeth wedi cael ei sefydlu yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn targedu lleiafswm o £12.3m yn yr Alban, £7.1m yng Nghymru, a £4.3m yng Ngogledd Iwerddon o’r Gronfa gyfan dros y pedair blynedd.
Mae dyluniad y Gronfa’n cydnabod y cyd-destunau gwahanol ar gyfer perchnogaeth gymunedol ledled y Deyrnas Unedig, gan fod deddfwriaeth wahanol yng Nghymru a Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon. Rydym wedi ymgysylltu’n eang â rhanddeiliaid lleol i sicrhau bod y Gronfa’n effeithiol, yn hygyrch ac yn cyflawni ei hamcanion.
Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu yn erbyn fframwaith cyson. Mae cymhwysedd ar gyfer y Gronfa a’r meini prawf asesu cynigion yn gyson yn y pedair gwlad.
3. Gofynion cymhwysedd
Mae’r adran hon yn ymdrin â’r gofynion cymhwysedd gorfodol ar gyfer pob cais a’r gofynion ychwanegol ar gyfer prosiectau os ydynt yn asedau chwaraeon neu’n asedau sydd ym mherchnogaeth gyhoeddus.
3.1. Gofynion cymhwysedd gorfodol ar gyfer pob prosiect
I sicrhau arian ar gyfer eich prosiect cymunedol, bydd angen i chi fodloni’r holl ofynion cymhwysedd gorfodol canlynol:
Mae’r ased mewn perygl o gael ei golli heb ymyrraeth gymunedol
Gallai fod mewn perygl o gael ei gau, ei werthu, ei esgeuluso a mynd yn adfeiliedig o dan y berchnogaeth bresennol, neu weithrediadau anghynaliadwy o dan y model busnes presennol.
Dylech ddangos natur y risg sy’n wynebu’r ased. Bydd hyn yn cynnwys tystiolaeth y byddai’r ased yn cael ei golli i’r gymuned heb ymyrraeth gymunedol.
Mae’r math o ased o fewn cwmpas y Gronfa
Sylweddolwn ei bod yn bwysig i gymunedau amlinellu’r hyn sydd bwysicaf iddynt, beth sydd orau i’w hardal leol, a’r budd y mae’r ased yn ei gyfrannu at eu lle.
Ni fyddwn yn cyhoeddi rhestr ddiffiniol o asedau cymunedol sydd o fewn cwmpas y Gronfa. Mae rhai prosiectau llwyddiannus yr ydym wedi eu hariannu hyd yma yn cynnwys canolfannau cymunedol, cyfleusterau chwaraeon a hamdden, tafarndai, adeiladau diwylliannol ac adeiladau treftadaeth.
O ran prosiectau yn Lloegr, byddai unrhyw adeilad neu dir sydd wedi cael ei restru gan awdurdod lleol fel Ased o Werth Cymunedol o fewn cwmpas y Gronfa, ond nid oes rhaid i’ch ased gael ei restru fel Ased o Werth Cymunedol i fod yn gymwys.
Mae’r prosiect yn gynaliadwy ac yn hyfyw
Dylai eich ceisiadau ddangos sut bydd yr ased yn cael ei ddiogelu er budd tymor hir y gymuned. Mae’n rhaid i sefydliadau ddangos hyn trwy eu diben elusennol a/neu glo asedau yn eu dogfennau llywodraethu.
Dylech ddangos sut rydych yn atebol i’r man lleol a/neu’r gymuned rydych yn ei gynrychioli/chynrychioli, sut byddwch yn gweithredu er budd y gymuned ehangach mewn ffyrdd pendant, a sut byddwch yn defnyddio’r ased i gyflawni effaith gymunedol.
Dylai elw o’r ased a’r busnesau cymunedol gael ei ailfuddsoddi yn yr ased i gyflawni budd cymunedol.
Mae tebygolrwydd realistig y gallai’r ased gael ei werthu neu ei drosglwyddo i berchnogaeth gymunedol o fewn 12 mis o gael cynnig arian
Mae sefydliadau sydd eisoes yn berchen ar eu hased yn gymwys i wneud cais am arian i adnewyddu eu hased, ar yr amod y byddai’r ased mewn perygl o gael ei gau neu ei golli i’r gymuned fel arall.
Ni fydd gwaith adnewyddu sy’n gwella’r ased, ond nad yw’n hanfodol er mwyn iddo barhau i weithredu, yn cael ei ariannu.
Gallwch ddangos eich bod yn gallu ‘cyfateb’ y grant cyfalaf o’r Gronfa ar y gyfradd arian cyfatebol sy’n ofynnol
Mewn achosion eithriadol, bydd cynigwyr yn gallu cyflwyno achos am hyd at £1 filiwn o arian cyfatebol ar gyfer asedau sy’n gysylltiedig â chyfleusterau chwaraeon.
Gallwch ddangos y bydd arian grant cyfalaf ac arian cyfatebol yn cael ei wario o fewn 12 mis o’r dyddiad a nodir ar y llythyr cynnig
Mae angen i’r grant Cronfa Perchnogaeth Gymunedol gael ei dynnu i lawr o fewn 12 mis. Er mwyn tynnu’r grant hwn i lawr, mae’n rhaid bod arian cyfatebol o’r un faint ar gael, h.y. wedi’i sicrhau a bod tystiolaeth o hyn wedi’i darparu.
Gallwch dynnu’ch grant Cronfa Perchnogaeth Gymunedol i lawr yn llawn (ar yr amod bod swm llawn eich arian cyfatebol wedi’i sicrhau) neu gallwch ei dynnu i lawr mewn rhandaliadau fel y bo’r angen ar gyfer eich prosiect.
Ni fydd unrhyw gostau a gafwyd cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yn y cyfnod cynnig y cyflwynoch gais ynddo yn gymwys yn rhan o’r pecyn ariannu prosiect o dan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. Dylech nodi bod unrhyw wariant cyn derbyn eich llythyr canlyniad yn cael ei wario ar eich menter eich hun.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd y gwariant hwn yn cael ei wirio gan eich rheolwr grant i benderfynu a ellir ei gyfrif fel cyllid cymwys.
Os na fyddwch yn llwyddiannus yn y cyfnod cynnig y digwyddodd eich gwariant ynddo, ni fydd y gwariant hwn yn gymwys os penderfynwch ymgeisio mewn cyfnod cynnig arall o’r gronfa yn y dyfodol.
Nid yw arian refeniw’r prosiect yn fwy na £50,000 neu 20% o gyfanswm yr arian cyfalaf y gwnaed cais amdano, pa un bynnag sy’n llai
Nid oes angen i arian refeniw gael ei gyfateb.
Ni fydd prosiectau sy’n gwneud cais am £1m o arian cyfatebol yn cael mwy na £50,000 o arian refeniw.
Mae eich sefydliad yn sefydliad cymwys
Byddwn yn ystyried ceisiadau gan sefydliadau gwirfoddol a chymunedol o bob rhan o’r Deyrnas Unedig sydd â chynllun hyfyw ar gyfer cymryd perchnogaeth o ased cymunedol sydd mewn perygl a’i gynnal yn gynaliadwy er budd y gymuned.
Rydym yn disgwyl ceisiadau gan sefydliadau â strwythurau cyfreithiol cyffredin, fel sefydliad corfforedig elusennol (CIO); sefydliad corfforedig elusennol yr Alban (SCIO); cwmnïau cydweithredol gan gynnwys Cymdeithasau Budd Cymunedol; Cwmni Buddiannau Cymunedol (CiC); neu gwmni nid-er-elw sy’n gyfyngedig trwy warant.
Gall sefydliadau anghorfforedig wneud cais ar y cam Mynegi Diddordeb, ond rhaid iddynt fod yn sefydliad cymwys cyn gwneud cais am y prif gam ymgeisio.
Mae eich sefydliad yn gallu caffael rhydd-ddaliad yr ased, neu lesddaliad tymor hir o 15 mlynedd o leiaf gyda chymalau terfynu rhesymol
Dylai grwpiau cymunedol ddangos yn glir ddiogelwch tymor hir yr ased sydd ym mherchnogaeth gymunedol ochr yn ochr â chynllun busnes tymor hir, cynaliadwy. Dylai cymalau terfynu fod yn gymesur a pheidio â chynyddu’n ormodol y tebygolrwydd y byddai’r ased yn cael ei golli i ddefnydd cymunedol trwy derfynu’n gynnar.
Mae asedau â lesddaliadau o 25 mlynedd a dim cymalau terfynu’n gynnar yn amgenach oherwydd bydd yn haws i ymgeiswyr ddangos cynaliadwyedd tymor hir yr ased yn nwylo’r gymuned.
Mae’n rhaid i’r sefydliad sy’n gwneud cais am arian fod yr un sefydliad a fydd yn derbyn yr arian ac yn cynnal y prosiect
Os bydd amgylchiadau eich sefydliad yn newid ar ôl i’r cais gael ei gymeradwyo, mae’n rhaid i hyn gael ei drafod gyda’r Rheolwr Grant yn y lle cyntaf. Nid oes sicrwydd y bydd newidiadau o’r fath yn cael eu caniatáu, ac mae’n bosibl y bydd y cynnig o arian yn cael ei dynnu’n ôl.
3.2. Yr hyn na allwn ei ariannu
Ni fydd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn darparu arian i:
- dalu dyledion busnesau na phrynu busnes dyledus
- prynu neu ddatblygu asedau tai (gan gynnwys tai cymdeithasol), ond gallwch gynnwys asedau tai pan fydd y rhain yn rhan fach o gefnogi cynaliadwyedd ariannol cyffredinol yr ased ym mherchnogaeth gymunedol
- ariannu prosiectau adeiladu o’r newydd i ddatblygu asedau newydd, nad ydynt yn gysylltiedig ag achub neu warchod ased sydd eisoes yn bodoli
- ariannu refeniw cyffredinol ar gyfer gweithgareddau neu ddigwyddiadau cymunedol nad ydynt yn gysylltiedig â chaffael neu drosglwyddo ased cymunedol
- ariannu costau prynu asedau ym mherchnogaeth gyhoeddus lle y byddai’r awdurdod cyhoeddus yn credydu derbyniad cyfalaf
- cefnogi caffael asedau sector cyhoeddus os yw hyn yn golygu trosglwyddo’r cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau statudol o’r awdurdod cyhoeddus i’r sefydliad cymunedol
- sefydliadau anghorfforedig (oni bai eich bod yn bwriadu corffori cyn y cam ymgeisio llawn) nac unigolion preifat
- Prosiectau sydd eisoes wedi derbyn cylliad mewn cyfnod ymgeisio blaenorol o’r Gronfa Perchnogaeth Gyhoeddus.
- Ariannu ehangu neu wella ased sydd ddim mewn risg, h.y adeiladu ehangiad fel y gall mwy o bobl gael mynediad at yr ased. Fodd bynnag, byddwn yn ystyried sefydliadau sydd bellach yn berchen ar asedau eu cymunedau ac yn gobeithio prynu ased ar wahân sydd mewn risg.
Nid yw awdurdodau lleol a chynghorau tref, plwyf a chymuned yn gymwys i wneud cais i’r Gronfa. Fodd bynnag, gobeithiwn y bydd cynghorau ledled y Deyrnas Unedig yn cymryd camau pendant i gefnogi eu grwpiau cymunedol lleol i wneud cais. Gallai tystiolaeth o gefnogaeth gan awdurdodau lleol helpu i gefnogi eich cais.
3.3. Gofynion cymhwysedd ychwanegol ar gyfer prosiectau chwaraeon sy’n gofyn am fwy na £250k o arian cyfalaf
Bydd angen i rai asedau cysylltiedig â chwaraeon gael mwy o arian i’w hachub. Am y rheswm hwn, mewn amgylchiadau eithriadol, bydd terfyn uwch o hyd at £1 filiwn o arian cyfalaf cyfatebol ar gael i helpu ymgeiswyr cymwys i sicrhau perchnogaeth gymunedol o glybiau neu gyfleusterau chwaraeon pwysig.
Law yn llaw â’r gofynion cymhwysedd gorfodol y bydd angen i bob ymgeisydd eu cyflawni, bydd angen i gynigion ddangos y gofynion ychwanegol canlynol hefyd i gael y swm uwch hwn o arian. Sylwer nad yw’r gofynion ychwanegol hyn yn berthnasol i brosiectau chwaraeon sy’n gofyn am hyd at £250k yn unig.
Dyma’r gofynion ychwanegol:
Mae cyfanswm y costau cyfalaf ar gyfer prynu ac unrhyw waith adnewyddu cysylltiedig yn fwy na £500,000
Bydd y Gronfa’n darparu hyd at 50% o’r costau cyfalaf ar gyfer prosiectau llwyddiannus, hyd at uchafswm o £1 filiwn.
Gallwch ddangos yn glir y gefnogaeth i’r clwb/yr ased chwaraeon a chydnabyddiaeth o’i bwysigrwydd
Gallai hyn fod oherwydd hanes y clwb/yr ased, ei bwysigrwydd i’w gymuned, faint o ddefnydd a wneir ohono, datblygiad mabolgampwyr llwyddiannus, neu ei statws fel lleoliad sy’n cynnal digwyddiadau chwaraeon cenedlaethol neu ryngwladol.
Dylech ddangos bod yr ased neu’r clwb yn cael ei ddefnyddio gan y gymuned gyfan, a’i fod o fudd iddi (e.e. gweithgareddau allgymorth cymunedol ar draws y dref gyfan neu’r gymuned ehangach)
Gallai hyn gynnwys cynllun datblygu chwaraeon, canlyniadau iechyd a lles neu ganlyniadau cyflogaeth a sgiliau.
Mae gennych gynllun datblygu a rheoli asedau cydlynol
Gallwch ddangos, gan gydnabod cymhlethdod prosiectau o’r math hwn, bod gennych yr arbenigedd priodol i gefnogi’r broses o brynu’r clwb/ased a’i weithredu yn y dyfodol. Dylai hyn gynnwys sefydlu prosesau llywodraethu cadarn yn rhan o unrhyw fuddsoddiad posibl
Mae eich cynllun busnes arfaethedig yn gadarn ac yn realistig ac nid yw’n dibynnu ar hyrwyddo o dîm chwaraeon i gynhyrchu lefelau uwch o incwm
Os yw’n berthnasol, gallwch ddangos tystiolaeth bod yr ased yn cael ei ddiogelu rhag risgiau ariannol cynnal tîm proffesiynol/lled-broffesiynol, yn yr ystyr nad yw gorfuddsoddi mewn contractau chwarae a chostau cysylltiedig yn peryglu perchnogaeth yr asedau
Os yw’n berthnasol, eich bod yn prynu holl gyfranddaliadau ased chwaraeon. Dylech ddangos tystiolaeth:
- bod y cwmni’n gynaliadwy yn ariannol
- bod gennych reolaeth lwyr ar y cwmni a’ch bod yn gallu cynnal y rheolaeth honno
- nad yw’r ffaith bod grant ar gael yn cynyddu gwerth y cyfranddaliadau sydd i’w prynu yn artiffisial
- bod gwerth y cyfranddaliadau’n adlewyrchu gwerth sylfaenol yr asedau yn y cwmni
- nad yw asedau’r cwmni, gan gynnwys eiddo, yn cael eu gwerthu i drydydd partïon yn syth cyn prynu’r cyfranddaliadau
- bod y teitl i asedau’r cwmni wedi cael ei gadarnhau
Gallai prosiectau chwaraeon a allai fod yn gymwys ar gyfer swm uwch o arian geisio:
- cynnal gweithrediad clwb blaenllaw sydd mewn perygl o gau
- sicrhau dyfodol cyfleuster chwaraeon blaenllaw sydd mewn perygl o gael ei golli i’r gymuned leol
Gallai hyn gael ei gyflawni trwy’r camau gweithredu canlynol:
- prynu meysydd chwarae, stadia, lleoliadau neu gyfleusterau chwaraeon eraill, neu eu prydlesu am gyfnod hir
- adnewyddu, ailddatblygu neu wella cyfleusterau o’r fath ar ôl caffael y cyfryw asedau
- prynu’r asedau, gan gynnwys offer, memorabilia ac eiddo deallusol, gan gwmni sy’n gweithredu clwb blaenllaw sydd yn nwylo gweinyddwyr
3.4. Gofynion cymhwysedd ychwanegol ar gyfer asedau ym mherchnogaeth gyhoeddus
Rydym yn cydnabod bod nifer sylweddol o asedau a berchnogir gan y sector cyhoeddus sydd mewn perygl o gau yn addas ar gyfer perchnogaeth gymunedol. Rydym yn awyddus i asedau sector cyhoeddus gael dyfodol gweithredol mewn cymunedau ac yn annog ceisiadau gan grwpiau cymunedol sy’n ceisio arian i achub asedau ym mherchnogaeth gyhoeddus.
Law yn llaw â’r gofynion cymhwysedd gorfodol y bydd angen i bob ymgeisydd eu cyflawni, bydd angen i gynigion sy’n ymwneud ag asedau ym mherchnogaeth gyhoeddus ddangos y gofynion ychwanegol canlynol hefyd.
Dyma’r gofynion ychwanegol:
- Nid yw’r cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau statudol (os yw’n berthnasol) yn cael ei drosglwyddo o’r awdurdod cyhoeddus i’r sefydliad cymunedol
- Bydd y grant Cronfa Perchnogaeth Gymunedol a dderbynnir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer costau adnewyddu ac ailwampio yn unig ar ôl i ased gael ei drosglwyddo i berchnogaeth gymunedol; ni fydd yr awdurdod cyhoeddus yn credydu derbyniad cyfalaf o arian y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol.
Mae’r gofynion ychwanegol hyn yn angenrheidiol oherwydd bod gan awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon nifer o swyddogaethau statudol sy’n mynnu eu bod yn darparu gwasanaethau amrywiol i’w cymunedau.
Er nad yw grant y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn gallu ariannu costau prynu ased lle y byddai’r awdurdod cyhoeddus yn credydu derbyniad cyfalaf, bydd y Gronfa’n gweithio ochr yn ochr â fframweithiau Trosglwyddo Asedau Cymunedol presennol i gefnogi’r trosglwyddiadau hyn ac ariannu gwaith adnewyddu ac ailwampio.
Tystiolaeth ychwanegol ar gyfer asedau ym mherchnogaeth gyhoeddus
O ran prosiectau sy’n ymwneud ag asedau ym mherchnogaeth gyhoeddus, bydd angen i ni gael tystiolaeth benodol sy’n ymdrin â’r pwyntiau canlynol:
-
Y risg sy’n wynebu’r ased – bydd y Gronfa ond yn buddsoddi mewn asedau cymunedol a fyddai’n cael eu colli fel arall. Felly, bydd angen i ni gael tystiolaeth gan y perchennog cyhoeddus presennol a’r ymgeisydd ynglŷn â statws presennol yr ased a pham mae ei ddyfodol mewn perygl
-
Yr effaith ar ddarparu gwasanaethau – tystiolaeth y bydd yr awdurdod cyhoeddus yn parhau ag unrhyw wasanaethau statudol sy’n cael eu darparu ar hyn o bryd o’r ased sydd mewn perygl. Gellid dangos tystiolaeth o hyn trwy lythyr neu bapur cabinet priodol gan yr awdurdod lleol, er enghraifft
-
Y gallu i gyflawni a chynaliadwyedd – ni allwn fuddsoddi mewn prosiectau lle yr aseswn fod trosglwyddo rhwymedigaethau sy’n gysylltiedig â’r ased yn anodd eu trin neu’n afresymol. Dylid dangos tystiolaeth o gynaliadwyedd rheoli’r ased yn y cais
4. Arian grant ac arian cyfatebol
Yn yr adran hon, cewch wybodaeth am yr arian sydd ar gael ar gyfer eich prosiect a’r gofynion arian cyfatebol.
4.1. Yr arian sydd ar gael
Gallwch wneud cais am gymysgedd o arian cyfalaf ac arian refeniw.
Arian cyfalaf
Defnyddir arian cyfalaf i brynu neu brydlesu’r ased a thalu am gostau adnewyddu.
Bydd hyd at £250,000 o gyfalaf arian cyfatebol ar gael ar gyfer pob math o ased sy’n gymwys.
Mewn achosion eithriadol, bydd cynigwyr yn gallu cyflwyno achos dros hyd at £1 filiwn o arian cyfatebol i helpu sefydlu clwb chwaraeon ym mherchnogaeth gymunedol neu helpu prynu ased/clwb chwaraeon sydd mewn perygl o gael ei golli heb ymyrraeth gymunedol.
Arian refeniw
Defnyddir arian refeniw i ariannu costau cynnal y prosiect. Gallai hyn gynnwys ffïoedd cyfreithiol, costau cyffredinol fel cyfleustodau, costau staffio, neu gostau sy’n gysylltiedig â phenodi ymgynghorwyr allanol fel penseiri neu gymorth arbenigol arall.
Nid oes angen i arian refeniw gael ei gyfateb.
Sylwer na all eich cais am arian refeniw fod yn fwy nag 20% o’ch cais am arian cyfalaf neu £50,000, pa un bynnag sy’n llai. Mae hyn yn berthnasol hefyd i asedau chwaraeon sy’n gwneud cais am hyd at £1m o arian cyfalaf.
Senarios arian refeniw
- os ydych yn gofyn am £150,000 o arian cyfalaf, gallwch wneud cais am hyd at £30,000 o arian refeniw yn ogystal â’ch grant cyfalaf
- os ydych yn gofyn am £250,000 o arian cyfalaf, gallwch wneud cais am hyd at £50,000 o arian refeniw yn ogystal â’ch grant cyfalaf
- os ydych yn gofyn am £150,000 o arian cyfalaf a £50,000 o arian refeniw, byddai hyn yn fwy na’r terfyn 20% a byddai eich cais yn cael ei wrthod
- os ydych yn gofyn am £1m o arian cyfalaf ar gyfer ased chwaraeon, gallwch wneud cais am hyd at £50,000 o arian refeniw yn ogystal â’ch grant cyfalaf
Gallwch gael dau fath o arian refeniw:
-
cymorth cyn caffael – bydd hyn yn cael ei ddyfarnu ochr yn ochr â’r prif grant cyfalaf i dalu am astudiaethau dichonoldeb, gwasanaethau proffesiynol a chymorth busnes wrth sefydlu’r ased
-
cymorth ar ôl caffael – bydd hyn yn cael ei ddyfarnu ochr yn ochr â’r prif grant cyfalaf i gynorthwyo sefydliadau i reoli llif arian yn ystod y flwyddyn weithredu gyntaf
Cewch wneud cais am unrhyw raniad o’r cymorth cyn caffael neu’r cymorth ar ôl caffael fel y bo’r angen ar gyfer eich prosiect, ar yr amod ei fod o fewn y terfyn arian refeniw o 20% o’ch cais am arian cyfalaf neu £50,000, pa un bynnag sy’n llai.
Dylech egluro yn eich cais pan fyddwch yn gwneud cais am arian refeniw ar gyfer cymorth cyn caffael a chymorth ar ôl caffael a faint rydych yn gofyn amdano ar gyfer pob un.
4.2. Gofynion arian cyfatebol
Mae’n ofynnol i chi godi arian o ffynonellau eraill ochr yn ochr â buddsoddiad gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. Gallai’r ffaith bod amrywiaeth o arianwyr yn cyfrannu at eich prosiect ddangos ansawdd y prosiect a’r gefnogaeth yn y gymuned.
Bydd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn cyfrannu hyd at 50% o gyfanswm y cyfalaf sy’n ofynnol. Bydd angen i chi amlinellu cyfanswm costau’r prosiect, yr arian sydd eisoes wedi cael ei sicrhau a chynlluniau i godi unrhyw arian ychwanegol sy’n angenrheidiol yn eich cais llawn.
Senario arian cyfatebol
- mae ymgeisydd eisiau prynu ased cymunedol am £400,000
- gall gynnig am grant cyfalaf o £200,000 gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol a bydd rhaid iddo godi’r £200,000 arall ei hun
- gall yr ymgeisydd hefyd gynnig am hyd at £40,000 o arian refeniw (20% o’r grant cyfalaf y gofynnwyd amdano)
- nid oes angen i’r ymgeisydd gyfateb yr arian refeniw
Bydd ffynonellau cymwys o arian cyfatebol yn cynnwys arian gan:
- gyrff cyhoeddus
- gweinyddiaethau datganoledig
- ymddiriedolaethau elusennol
- arianwyr y loteri genedlaethol
- cyfranddaliadau cymunedol
- buddsoddwyr cymdeithasol
- benthycwyr eraill
Yn rhan o’r broses diwydrwydd dyladwy, bydd aseswyr yn adolygu amodau unrhyw arian a gafwyd gan y sefydliad trwy fenthyciad.
Bydd y mathau canlynol o arian cyfatebol ‘mewn nwyddau’ (a adwaenir fel arall fel arian cyfatebol ‘nad yw’n arian parod’) yn cyfrif fel ffynhonnell gymwys o arian cyfatebol hefyd:
- nwyddau a roddwyd sy’n berthnasol i’r prosiect a fyddai wedi cael eu prynu fel arall
- gwerth gostyngiad ar lesddaliad tymor hir neu rydd-ddaliad, er enghraifft yn rhan o drosglwyddo ased
- adeiladau neu wasanaethau proffesiynol, gan gynnwys gan:
- unigolion
- grwpiau cymunedol
- arianwyr
- busnesau
Er enghraifft, gallai cwmni adeiladu roi ei wasanaethau i’r prosiect am ddim, ond bydd angen iddo gyflwyno anfoneb i brofi gwerth y gwasanaeth hwnnw ar y farchnad agored er mwyn iddo gael ei ystyried yn arian cyfatebol posibl.
Ni fydd elfennau Rhodd Cymorth rhoddion yn gymwys. Ni fydd amser gwirfoddolwyr yn ffynhonnell gymwys o arian cyfatebol ychwaith at ddibenion y Gronfa hon; fodd bynnag, bydd cynnwys gwirfoddolwyr mewn prosiect yn helpu ymgeiswyr i ddangos cefnogaeth gan y gymuned.
Nid oes angen i ymgeiswyr gael yr holl ffynonellau arian cyfatebol wedi’u sicrhau ar yr adeg ymgeisio ar gyfer prosiect. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi amlinellu cynlluniau clir a realistig i sicrhau arian cyfatebol a bydd angen iddo fod ar gael er mwyn tynnu eich arian grant i lawr, os ydych yn llwyddiannus.
Gallai arian cyfalaf ar gyfer prosiectau llwyddiannus gael ei ddyfarnu mewn egwyddor, ar yr amod bod digon o arian cyfatebol ar gael ar yr adeg pan fyddwch yn gofyn am dynnu eich grant i lawr. Yn ogystal, bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ddangos eu bod yn gallu sicrhau a gwario holl arian y prosiect o fewn 12 mis o’r dyddiad a nodir ar y llythyr cynnig. Os na allwch ddangos cynnydd rhesymol tuag at sicrhau a gwario’r arian hwn, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cadw’r hawl i dynnu’r cynnig o arian yn ôl.
Ni fydd unrhyw gostau a gafwyd cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yn y cyfnod cynnig y cyflwynoch gais ynddo yn gymwys yn rhan o’r pecyn ariannu prosiect o dan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. Dylech nodi bod unrhyw wariant cyn derbyn eich llythyr canlyniad yn cael ei wario ar eich menter eich hun.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd y gwariant hwn yn cael ei wirio gan eich rheolwr grant i benderfynu a ellir ei gyfrif fel cyllid cymwys.
Os na fyddwch yn llwyddiannus yn y cyfnod cynnig y digwyddodd eich gwariant ynddo, ni fydd y gwariant hwn yn gymwys os penderfynwch ymgeisio mewn cyfnod cynnig arall o’r gronfa yn y dyfodol.
5. Sut bydd eich cynigion yn cael eu hasesu
Yn yr adran hon, fe welwch wybodaeth am y cam Mynegi Diddordeb o’r broses ymgeisio a’r meini prawf asesu y bydd eich cais llawn yn cael ei asesu yn eu herbyn.
Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn asesu cynigion o bob rhan o’r Deyrnas Unedig yn erbyn fframwaith asesu cyffredin. Bydd ceisiadau’n cael eu sgorio gan ddefnyddio’r fframwaith hwn a bydd penderfyniadau terfynol ar ariannu yn cael eu gwneud gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC).
Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ychwanegol ar asesu pan fydd y cyfnod ymgeisio llawn yn agor, a gallech ei ddarllen yma. Fe’ch cynghorir yn gryf i ddarllen y canllaw hwn yn ofalus cyn dechrau ceisiadau.
5.1. Y cam Mynegi Diddordeb
Bydd angen i chi gyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb ac aros i’r ffurflen hon gael ei chymeradwyo cyn symud ymlaen i gyflwyno cais llawn i’r Gronfa. Bydd y ffurflen Mynegi Diddordeb yn profi a yw’ch prosiect yn debygol o fod yn gymwys trwy asesiad llwyddo/methu yn seiliedig ar y gofynion cymhwysedd.
Bydd y ffurflen fer hon yn gofyn am:
- fanylion y sefydliad sy’n gwneud cais
- disgrifiad o’r prosiect
- faint y gofynnir amdano mewn arian cyfalaf ac arian refeniw
- sut mae’r prosiect yn bodloni’r gofynion cymhwysedd
Gall sefydliadau anghorfforedig wneud cais ar y cam Mynegi Diddordeb, ac fe allent gael eu cynorthwyo i gorffori rhwng y cam hwn a’r prif gam ymgeisio.
Os credwn fod eich prosiect yn debygol o fod yn gymwys ar ôl darllen eich ffurflen Mynegi Diddordeb, byddwn yn eich gwahodd i gyflwyno cais llawn. Efallai y bydden yn awgrymu rhai adrannau y bydd angen ichi eu hystyried cyn cyflwyno cais lawn, neu byddwn yn dweud wrthych nad yw wich prosiect yn gymwys am gyllid heb newid sylweddol.
Bydd y cam Mynegi Diddordeb ar agor yn barhaol, felly gallwch fynegi eich diddordeb unrhyw bryd. Fe’i dyluniwyd i gryfhau’r broses ymgeisio trwy sicrhau eich bod yn hollol ymwybodol o’r gofynion cymhwysedd cyn cyflwyno cais llawn i’r Gronfa.
Os byddwch yn llwyddiannus, fe’ch gwahoddir i gyflwyno cais llawn. Nid oes yn rhaid i chi ei wneud ar unwaith, felly dewiswch yr amser cywir ar gyfer eich prosiect. Gwiriwch amseriadau’r cyfnodau ceisio ar gyfer y cam ymgeisio llawn yn y prosbectws. Er enghraifft, os ydych yn bwriadu gwneud cais yn y ail gyfnod cais, bydd angen i chi fynegi eich diddordeb o leiaf 3 wythnos cyn y dyddiad cau, sef 14 Rhagfyr 2022.
Noder mai dim ond os ydych wedi derbyn cadarnhad bod eich prosiect yn gymwys yn y cam mynegi diddordeb y gallwch gyflwyno cais llawn.
5.2. Meini prawf asesu
Pan fydd eich prosiect wedi cael ei ystyried yn gymwys ar y cam Mynegi Diddordeb, fe’ch gwahoddir i gyflwyno cais llawn i’r Gronfa.
Ar y cam hwn, bydd eich cais yn cael ei asesu yn unol â’r 4 maen prawf canlynol:
1. Achos strategol: dylech ddangos y byddai’r ased yn cael ei golli i’r gymuned heb ymyrraeth, yr effeithiau y byddai hyn yn eu cael a’r gefnogaeth sydd gennych gan y gymuned a phartneriaid eraill.
2. Achos rheoli: dylech ddangos amcanion y prosiect a’r gallu i’w gyflawni, a sut y bydd yr ased yn cael ei weithredu’n gynaliadwy.
3. Potensial I gyflawni budd cymunedol: gan ddefnyddio’r fframwaith canlyniadau sydd ar gael yn y ddogfen ganllaw meini prawf asesu, dylech ddangos sut bydd yr ased yn cyflawni buddion cymunedol o dan berchnogaeth gymunedol.
4. Gwerth ychwanegol yr ased cymunedol yn seiliedig ar anghenion y gymuned: gan ddefnyddio gwybodaeth a data lleol am anghenion y gymuned, dylech allu dangos gwerth ychwanegol yr ased i’r gymuned.
Gall y manylion llawn gael ei ddarganfod yn yr canllawiau meini prawf asesu.
Mae’n rhaid i bob cynnig gael ei dderbyn cyn 11.59am ar ddyddiad cau’r cyfnod cynigion rydych yn cyflwyno cais ynddo. Mae’n rhaid i’ch ffurflenni cais gael eu cwblhau’n llawn gyda’r dogfennau gofynnol ynghlwm.
5.3 Amodau dyfarniad cyfalaf
Os ydych yn llwyddiannus yn ymgeisio i’r Gronfa, bydd angen i ni gael y dogfennau canlynol cyn rhyddhau arian cyfalaf (os nad ydynt eisoes wedi’u cyflenwi yn rhan o gais llawn):
- prisiad annibynnol o’r adeilad, dim ond pan fydd arian o’r Gronfa’n cael ei ddefnyddio i brynu ased. Ni fydd angen hyn os ydych eisoes yn berchen ar yr ased
- arolwg strwythurol annibynnol
- tystiolaeth bod unrhyw ganiatâd cynllunio, trwyddedau a mathau eraill o ganiatâd priodol wedi’u sicrhau
Bydd gwiriadau diwydrwydd dyladwy a diogelu rhag twyll llawn yn cael eu cynnal ynglŷn â’r prosiect a’r ymgeisydd pan fydd ceisiadau’n cael eu cyflwyno a chyn i unrhyw arian gael ei ryddhau.
Yn rhan o’r amodau dyfarnu arian, bydd cerrig milltir a thargedau ar gyfer prosiect yn cael eu cytuno, ochr yn ochr â chyfnodau monitro ac adolygu safonol. Bydd hyn yn cael ei amlinellu mewn Cytundeb Arian Grant ffurfiol.
Mae’n rhaid i grantiau gael eu defnyddio at y diben a fwriadwyd, fel yr amlinellir yn yr amodau dyfarnu. Bydd hyn yn destun monitro ac adolygiad terfynol. Gallai methiant i gydymffurfio â’r amodau dyfarnu arwain at dynnu’r arian yn ôl neu ei adfachu. Yn rhan o’r Cytundeb Arian Grant ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus, mae’n bosibl y bydd angen pridiant cyfreithiol yn erbyn yr ased.
5.4. Rheoli cymorthdaliadau/Cymorth Gwladwriaethol
Os defnyddir arian o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol i ddarparu cymhorthdal, mae’n rhaid i’r gwariant gydymffurfio â rhwymedigaethau’r Deyrnas Unedig ar reoli cymorthdaliadau.
Mae’n rhaid i bob cynnig y gellid tybio ei fod yn gymhorthdal ystyried sut bydd yn cyflawni yn unol â’r rhwymedigaethau rheoli cymorthdaliadau (neu Gymorth Gwladwriaethol ar gyfer cymorth sydd o fewn cwmpas Protocol Gogledd Iwerddon). Gallwch gyfeirio at ganllawiau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar reoli cymorthdaliadau i gael rhagor o wybodaeth.
Mae’n rhaid i gynigion a gefnogir gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol yn eu hardaloedd daearyddol unigol.
5.5. Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Fel awdurdod cyhoeddus, mae’n ofynnol i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, fel yr amlinellir yn adran 149 Deddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn rhoi sylw dyledus i effeithiau cydraddoldeb ar unigolion drwy gyfeirio at eu nodweddion gwarchodedig ar adegau allweddol o’r broses benderfynu ac yn adolygu hyn yn barhaus.
Cydnabyddwn bwysigrwydd nid yn unig cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ond hefyd rhoi sylw dyledus i’r ystyriaethau cydraddoldeb sy’n berthnasol yng Ngogledd Iwerddon.
6. Gwneud penderfyniadau
Yn yr adran hon, fe welwch wybodaeth am y broses benderfynu ar gyfer dyfarnu arian.
Mae penderfyniadau ar ddyfarnu arian grant y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn cael eu gwneud gan Weinidogion yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC), gan ddilyn cyngor gan swyddogion a gweinidogion o adrannau eraill perthnasol y llywodraeth. Efallai byddwn yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid hefyd i gael cyngor ar gynigion yn yr ardal leol. Bydd yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn cynghori ar gynigion sy’n ymwneud â chwaraeon, diwylliant, y celfyddydau a threftadaeth.
Bydd gweinidogion yn cael rhestr fer o gynigion sydd wedi pasio’r gwiriadau cymhwysedd a diwydrwydd dyladwy, ac sy’n cyrraedd sgôr feincnod yn erbyn y meini prawf asesu.
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros DLUHC yn gwneud y penderfyniad terfynol ar ba brosiectau ar y rhestr fer a fydd yn cael eu hariannu.
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn arfer disgresiwn trwy roi sylw i’r ystyriaethau canlynol yn unig:
-
sicrhau bod lledaeniad prosiectau’n gytbwys o ran eu lleoliad ar draws pob rhan o’r Deyrnas Unedig
- sicrhau bod lledaeniad prosiectau’n gymesur o ran eu lleoliad rhwng ardaloedd gwledig a threfol
- sicrhau rhaniad thematig rhesymol o fathau o asedau a gefnogir gan y rhaglen
Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd ddewis ariannu cynigion yn nhrefn sgôr, o’r rhai sy’n sgorio uchaf i’r rhai sy’n sgorio isaf, neu ariannu’r holl gynigion sydd wedi cyrraedd y rhestr fer.
Bydd gweinidogion eraill y llywodraeth yn cynghori’r Ysgrifennydd Gwladol hefyd trwy’r Panel Adolygu Gweinidogol gan gyfeirio at yr ystyriaethau ychwanegol hyn yn unig. Bydd y Panel yn cynnwys gweinidogion o DLUHC, y Trysorlys, a DCMS a’r Swyddfeydd Tiriogaethol.
Pan fydd prosiectau wedi’u lleoli yn etholaeth Gweinidog, bydd y Gweinidog yn esgusodi ei hun o’r drafodaeth a’r broses benderfynu ac yn dirprwyo i Weinidog arall o’r adran honno.
7. Monitro a Gwerthuso
Yn yr adran hon, fe welwch wybodaeth am ofynion monitro a gwerthuso’r rhaglen Cronfa Perchnogaeth Gymunedol a dulliau gwerthuso cenedlaethol y Gronfa.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus gydymffurfio â gofynion monitro a gwerthuso’r rhaglen. Amlinellir hyn yn llawn pan fydd y Gronfa’n agor ar gyfer ceisiadau.
7.1. Gofynion monitro a gwerthuso
Bydd cynnydd prosiectau’n cael ei fonitro’n chwarterol o leiaf, yn unol â cherrig milltir cytunedig. Bydd angen datganiad o ddefnydd o’r grant wedi’i archwilio’n annibynnol gan gyfrifydd ar gyfer ein prosesau sicrwydd, yn unol â cherrig milltir cytunedig y prosiect.
Chwe mis ar ôl cwblhau’r prosiect, bydd yn ofynnol i chi ddarparu set o gyfrifon ar gyfer y prosiect a gymeradwywyd gan y Bwrdd (neu gorff cyfatebol). Bydd yr holl ffeiliau a chofnodion ariannol yn cael eu cadw am 7 mlynedd o leiaf o’r dyddiad a nodir ar eich llythyr cynnig ac fe allent gael eu harchwilio ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwn.
Bydd cydweithwyr archwilio a sicrwydd yn cysylltu â chi ar ddiwedd y prosiect ac ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod monitro estynedig.
Bydd angen data ynglŷn ag effaith eich prosiect ar ôl 1 flwyddyn o’r dyddiad a nodir ar eich llythyr cynnig er mwyn dangos yr effaith y mae’r arian wedi’i chael ar eich cymuned. Bydd templed safonedig a chanllawiau’n cael eu darparu i’ch helpu i ddangos effaith eich prosiect a’r cyflawniad yn erbyn eich cynllun busnes gwreiddiol.
Fe allai hyn gynnwys:
- diogelu’r ased cymunedol a gwella’r defnydd ohono
- cymorth gan fusnesau a sefydliadau cymunedol
- creu swyddi a chyfleoedd gwirfoddoli
-
y mathau o wasanaethau a sefydlwyd o fewn yr ased
- gwelliannau o ran mynediad at wasanaethau
7.2. Dulliau gwerthuso cenedlaethol ein Cronfa
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydnabod pwysigrwydd craidd gwerthuso o ansawdd uchel, sy’n hollbwysig i ddeall beth sy’n gweithio. I gefnogi hyn, rydym yn datblygu ein strategaeth ar gyfer gwerthuso’r rhaglen ar lefel genedlaethol.
Bydd y gwerthusiad hwn yn ein helpu i ddeall llwyddiant y prosiect a beth sy’n gweithio’n dda mewn prosiectau perchnogaeth gymunedol llwyddiannus, gan helpu llywio penderfyniadau buddsoddi yn y dyfodol.
Bydd ein dull o werthuso’r rhaglen yn defnyddio cyfuniad o ddata gweinyddol o fonitro’r rhaglen ac fe allai gynnwys arolygon ac astudiaethau achos o brosiectau. Bydd y rhain yn ein helpu i werthuso llwyddiant y rhaglen a’i gwerth am arian yn erbyn y meini prawf canlynol:
- nifer yr asedau a gefnogwyd trwy’r rhaglen
- cyfradd oroesi asedau cymunedol – bydd hyn yn cael ei fesur yn ôl nifer yr asedau cymunedol sy’n parhau i weithredu ym mherchnogaeth gymunedol flwyddyn ar ôl i’r prosiect ddod i ben
- mwy o ddefnydd o asedau cymunedol a gwasanaethau cysylltiedig – bydd hyn yn cael ei fesur yn ôl nifer yr ymwelwyr, cynnydd mewn tenantiaethau a/neu ddefnydd gan grwpiau cymunedol
- ymdeimlad uwch o falchder a chanfyddiadau gwell o’r ardal leol fel lle i fyw
- mwy o ymddiriedaeth gymdeithasol, cydlyniant ac ymdeimlad o berthyn i’r ardal leol
- mwy o gyfranogiad lleol ym mywyd y gymuned, celfyddydau a diwylliant, a chwaraeon
-
yr effaith ar ganlyniadau economaidd ychwanegol, gan gynnwys:
- swyddi wedi’u harbed a/neu eu creu
- cyfleoedd gwirfoddoli newydd
- gwelliannau o ran cyflogadwyedd
- lefelau sgiliau
- yr effaith ar ganlyniadau cymdeithasol ychwanegol: gan gynnwys gwelliannau i iechyd corfforol a/neu feddyliol a lleihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol
8. Gwneud Cais i’r Gronfa
Yn yr adran hon, fe welwch wybodaeth am y broses dau gam ar gyfer gwneud cais i’r Gronfa a’r hyn y bydd angen i chi sicrhau ei fod yn barod cyn cyflwyno cais llawn. Rhoddir gwybodaeth hefyd am y camau nesaf yn dibynnu ar ganlyniad eich cais.
8.1. Sut i ymgeisio
Cam 1 – cyflwyno ffurflen mynegi diddordeb a chael cadarnhad i symud ymlaen â chais llawn
Y cam cyntaf yw cymeradwyo ffurflen Mynegi Diddordeb, a fydd yn cadarnhau p’un a yw’ch cynnig ar gyfer prosiect yn debygol o fod yn gymwys ar gyfer arian ai peidio. Mae gwybodaeth fanylach am y cam Mynegi Diddordeb ar gael yn adran 5.
Cyn i chi ddechrau llenwi’ch ffurflen Mynegi Diddordeb, gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r gofynion cymhwysedd a amlinellir yn y prosbectws hwn.
Mae’r cam Mynegi Diddordeb ar agor yn barhaol. I fynegi eich diddordeb, ewch i Ail Gylch y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol: sut i fynegi eich diddordeb mewn ymgeisio.
Cam 2 – cyflwyno cais llawn
Pan fyddwch wedi cwblhau’r cam Mynegi Diddordeb yn llwyddiannus, fe’ch gwahoddwn i gyflwyno cais llawn i’r Gronfa trwy rhannu’r cyswllt cais.
Byddwn yn cyhoeddi canllawiau ychwanegol ar asesu pan fydd y cyfnod ymgeisio llawn yn agor yn ddiweddarach ym mis Mehefin. Fe’ch cynghorir yn gryf i ddarllen y canllaw hwn yn ofalus cyn dechrau ymgeisio.
Mae yna gwybodaeth benodol y bydd angen i’ch sefydliad sicrhau eu bod yn barod cyn i chi gyflwyno cais llawn. Mae’r rhain yn cynnwys:
Cynllun busnes – gallai hyn gynnwys y canlynol (ond nid yw’n gyfyngedig iddynt):
- gwybodaeth am eich astudiaethau dichonoldeb sydd wedi’u cwblhau neu wedi’u cynllunio
- trafodaeth ynglŷn â gweithgareddau a/neu wasanaethau a gynlluniwyd a fydd yn cael eu cynnal yn yr ased cymunedol
- eich rhagolygon ariannol llawn, gan gynnwys ffynonellau incwm a chostau gyda set o dybiaethau a gefnogir gan dystiolaeth
- esboniad o’r defnydd o arian refeniw a’r angen amdano
- eich llif arian parod
- eich sgiliau neu adnoddau a gynlluniwyd i reoli a chynnal yr ased ym mherchnogaeth gymunedol
- ystyriaeth o risgiau a mesurau lliniaru
Dadansoddiad ariannol o’ch prosiect – gallai hyn gynnwys:
- dadansoddiad clir o gostau cyfalaf y prosiect ac eglurhad o sut y mae’r rhain wedi eu cyfrifo
- dadansoddiad clir o gostau refeniw y prosiect ac eglurhad o sut y mae’r rhain wedi eu cyfrifo
- cais clir am gyfanswm yr arian (ffigurau arian cyfalaf a refeniw wedi’u cyfuno) y gofynnir amdano gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol
- prisiad annibynnol o’r ased (os ydych yn ei brynu yn rhan o weithgareddau eich prosiect)
- ffynonellau arian cyfatebol a sicrhawyd hyd yma
- ffynonellau arian cyfatebol sydd i’w sicrhau o hyd
- graddfeydd amser ar gyfer sicrhau’r holl arian cyfatebol sy’n weddill
- eich cyfrifon archwiliedig mwyaf diweddar ar gyfer y tair blynedd diwethaf
Dogfennau sefydliadol a llywodraethu – gallai’r rhain gynnwys:
- enw a diben eich sefydliad
- gwybodaeth sy’n manylu ar femorandwm ac erthyglau cymdeithasu
- copi o gofnodion cyfarfod mwyaf diweddar eich bwrdd llywodraethu
- eich strwythurau llywodraethu
- sut mae arian yn cael ei reoli a sut mae twyll yn cael ei atal, e.e. copïau o’ch dogfennau polisi
- sut bydd perfformiad a risgiau’n cael eu monitro, e.e. copïau o’ch dogfennau polisi
Gallech uwchlwytho dogfennaeth gefnogol ar gyfer cwestiynau penodol yn y ffurflen gais. Mae hyn yn cynnwys cynllun busnes. Dylai hyn fod yn ddogfen unigol nad yw’n fwy na 5MB. Os oes gennych unrhyw broblemau technegol, cysylltwch gyda COF@levellingup.gov.uk a byddwn yn rhoi cymorth i chi.
Mae’r wybodaeth ar gyfer y cyfnodau cynnig cais llawn yn 2022/23 fel a ganlyn:
- Cyfnod cynnig 2 – 31 Hydref – 14 Rhagfyr
- Bydd pob cyfnod cynnig yn cau am 11:59am ar ei ddyddiad cau unigol
- Bydd dyddiadau ar gyfer cyfnodau cynnig y dyfodol yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir
Mae’n rhaid i’ch ceisiadau llawn gael eu cyflwyno erbyn 11:59am ar 14 Rhagfyr 2022 os ydych yn gwneud cais yn yr ail gyfnod cynig.
8.2. Canlyniadau’r cais
Prosiectau llwyddiannus
Pan fydd y cais wedi cael ei adolygu a’i gymeradwyo, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael llythyr cynnig gan DLUHC drwy e-bost. Yna, bydd eich Rheolwr Grant penodol yn cysylltu â chi. Eich Rheolwr Grant fydd eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw ymholiadau am weddill oes y prosiect.
Bydd y Rheolwr Grant yn rhoi Cytundeb Arian Grant a fydd yn cael ei lofnodi gan sefydliad y prosiect a DLUHC. Bydd y prosiect yn gyfrifol am weithio gyda DLUHC i roi pridiant yn erbyn yr ased os bydd angen.
Bydd y Rheolwr Grant yn cynnal Cyfarfod Prosiect Cychwynnol gyda chi i drafod y gofynion ar gyfer derbynyddion grant y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ac ateb unrhyw gwestiynau a allai godi. Drwy gydol y prosiect, bydd y Rheolwr Grant yn cadw mewn cysylltiad â chi’n rheolaidd ac yn hwyluso prosesu a thalu hawliadau.
Er mwyn bodloni ein gofynion archwilio a sicrwydd, mae’n rhaid i chi gytuno i roi sicrwydd annibynnol bod y grant wedi cael ei ddefnyddio i gyflawni gweithgareddau’r prosiect. Mae hyn yn cynnwys darparu ardystiad annibynnol o archwiliad ariannol ar unrhyw adeg pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gofyn amdano, yn ogystal â chadw’r holl anfonebau, derbynebau, cofnodion cyfrifyddu a gohebiaeth yn ymwneud â gwariant cymwys y prosiect.
Ochr yn ochr â’r cymorth a roddir gan eich Rheolwr Grant, bydd y darparwr cymorth datblygu yn rhoi cymorth parhaus i bob prosiect llwyddiannus pan fydd ar waith yn ddiweddarach yn 2023. Diben hyn yw sicrhau eich bod yn cyflawni’n llwyddiannus ac yn unol â gofynion y rhaglen. Bydd y cymorth a gynigir yn cynnwys cyngor, arweiniad a hwyluso cymorth gan gymheiriaid.
Prosiectau aflwyddiannus
Bydd ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael gwybod trwy neges e-bost yn rhoi amlinelliad o’r penderfyniad ynghyd ag adborth cryno. Bydd y penderfyniad hwn yn derfynol.
Mae croeso i chi ailymgeisio i’r Gronfa mewn cyfnod cynigion arall.
Rydym wedi cyflwyno terfyn ar nifer y ceisiadau llawn y gellir eu gwneud ar gyfer pob prosiect – cewch gyflwyno dau gais llawn.
Os ydych yn aflwyddiannus yn y cyfnod cynigion cyntaf, cewch gyflwyno un cais arall i’r Gronfa. Os bydd eich ail gais yn aflwyddiannus hefyd, ni fyddwch yn gallu ymgeisio eto ar gyfer yr un prosiect.
Ar ôl dau gais aflwyddiannus, byddwn yn caniatáu i sefydliadau wneud cais i’r Gronfa eto os oes ganddynt brosiect cwbl newydd sy’n ymwneud ag ased gwahanol. Ni fydd ceisiadau a newidiwyd neu a ddiweddarwyd yn rhannol yn cael eu hystyried.
Noder nad oes modd ichi wneud cais am fwy o gyllid drwy’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ar gyfer ased yr ydych eisoes wedi derbyn cyllid amdano.
Nid yw ceisiadau a gyflwynwyd yng Nghylch 1, gan gynnwys ailagor Cylch 1 am gyfnod cyfyngedig o fis Rhagfyr 2021 tan fis Chwefror 2022, yn cyfrif tuag at y terfyn dau gais.
9. Cymorth ychwanegol
Yn yr adran hon, fe welwch wybodaeth am y cymorth ychwanegol a ddarparir trwy’r darparwr cymorth datblygu.
Beth yw’r darparwr cymorth datblygu?
Rydym wrthi’n gweithio i sicrhau darparwr cymorth datblygu a fydd yn rhoi cymorth a chyngor i ymgeiswyr. Bydd yn helpu ymgeiswyr i ddatblygu eu cynigion ar gyfer prosiectau a chynnal busnesau cymunedol cynaliadwy llwyddiannus. Disgwyliwn i hyn fod ar gael yn ddiweddarach yn 2022.
Cymorth i bob ymgeisydd hyd at y cam Mynegi Diddordeb
Pan fydd y darparwr cymorth datblygu ar gael, bydd yn cynnig cymorth a chyngor cychwynnol i’r holl ymgeiswyr sydd â diddordeb hyd at y cam Mynegi Diddordeb. Bydd hyn yn cynnwys esbonio’r gofynion cymhwysedd a chynnig awgrymiadau da ar sicrhau llwyddiant eich prosiect.
Bydd y darparwr cymorth datblygu yn cynnig cymorth i gyflwyno’ch ffurflen Mynegi Diddordeb hefyd.
Cymorth penodol ar gyfer rhai ymgeiswyr i ddatblygu cais llawn
Ar ôl y cam Mynegi Diddordeb, bydd rhai prosiectau’n cael eu hargymell ar gyfer cymorth datblygu ychwanegol.
Bydd y darparwr cymorth datblygu yn gwneud argymhelliad i swyddogion ynglŷn â pha ymgeiswyr ddylai gael cymorth ychwanegol. Bydd ei argymhelliad yn seiliedig ar anghenion y prosiect, a lefel y seilwaith cymdeithasol presennol yn eich ardal (a fesurir yn ôl ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS)).
Bydd y cymorth penodol hwn yn cynnwys:
- darparu cyngor a hyfforddiant wedi’u teilwra ar ddatblygu cymdeithasol
- cymorth i ddatblygu’ch achos busnes, trefniadau llywodraethu sefydliadol a chynllunio ariannol
- grantiau refeniw bach i sicrhau cymorth arbenigol, fel cyngor cyfreithiol neu arolygon adeiladau
Mae’n bosibl y bydd prosiectau sy’n gymwys ar gyfer cymorth penodol yn gymwys ar gyfer cyfradd lai o arian cyfatebol hefyd os ydych yn achub ased llai masnachol (fel canolfannau cymunedol, parciau ac adeiladau treftadaeth). Mewn achosion eithriadol, gellir lleihau’r gofyniad am arian cyfatebol o 50% i 30%. Bydd uchafswm arian grant cyfalaf o £250,000 ar gael.
Bydd y darparwr cymorth datblygu yn ystyried p’un a yw’ch ased yn fwy masnachol neu beidio ar ôl pwyso a mesur pob achos yn unigol ac ni fydd yn cael ei ragnodi’n syml yn ôl y math o ased, oherwydd bod prosiectau’n amrywio’n fawr.
Cael gafael ar y cymorth hwn
Nid yw’r darparwr cymorth datblygu ar waith eto. Os ydych yn credu y byddai’r cymorth hwn yn fuddiol i’ch prosiect, gallwch ddewis gohirio cyflwyno’ch ffurflen Mynegi Diddordeb neu’ch prif ffurflen gais nes bod y darparwr cymorth datblygu ar waith, gan gofio nad oes sicrwydd y bydd cymorth penodol yn cael ei ddarparu i ddatblygu cais llawn.
Os ydych yn hyderus yn eich prosiect nid oes angen i chi aros
10. Rhestr termau
Trosglwyddo Asedau Cymunedol
Ledled y Deyrnas Unedig, mae fframweithiau polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn cefnogi’r broses o drosglwyddo asedau cymunedol o awdurdodau cyhoeddus i sefydliadau cymunedol. Mae’r cyd-destunau deddfwriaethol a pholisi yn gweithio ychydig yn wahanol mewn rhannau o’r Deyrnas Unedig.
LLOEGR
ASED O WERTH CYMUNEDOL
Yn Lloegr, cyflwynodd Deddf Lleoliaeth 2011 yr hawl i grwpiau cymunedol enwebu adeiladau neu dir i’w hawdurdod lleol fel ased o werth cymunedol. Os oedd yr awdurdod lleol yn cytuno bod yr enwebiad yn bodloni’r prawf o fod yn dir o werth cymunedol, byddai’r cyngor yn rhoi’r ased ar restr o asedau o werth cymunedol am gyfnod o 5 mlynedd.
Cyflwynodd hyn yr hawl i’r gymuned wneud cynnig. Os yw perchennog ased rhestredig yn penderfynu ei fod eisiau gwerthu’r ased yn ystod y cyfnod o 5 mlynedd ar y rhestr, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol a fydd yn rhoi gwybod i’r grŵp cymunedol a’i henwebodd. Yna, bydd gan y grŵp yr hawl i sbarduno moratoriwm o hyd at 6 mis i godi’r pris prynu. Ar ddiwedd y cyfnod moratoriwm, mae perchennog yr ased yn rhydd i’w werthu i bwy bynnag y dymuna.
Yn Lloegr, mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am reoli eu cynllun ased o werth cymunedol eu hunain.
CYMRU A LLOEGR
Mae Deddf Llywodraeth Leol 1972: Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (2003) yn galluogi awdurdodau lleol i drosglwyddo asedau i berchnogaeth gymunedol, am lai na gwerth y farchnad neu heb unrhyw gost, gan ragdybio y byddant yn sicrhau budd cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol tymor hir. Mae’n bosibl y bydd gan awdurdodau lleol unigol eu polisïau Trosglwyddo Asedau Cymunedol eu hunain sy’n pennu’r amcanion a’r prosesau penodol ar gyfer yr ardal leol honno.
YR ALBAN
Mae’r Ddeddf Grymuso Cymunedol (2015) yn rhoi’r hawl i gyrff cymunedol ofyn i bob awdurdod lleol, gweinidogion yr Alban ac ystod o gyrff cyhoeddus am unrhyw dir neu adeiladau y gallent wneud defnydd gwell ohonynt, yn eu barn nhw.
GOGLEDD IWERDDON
Mae’r fframwaith polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol (2014) yn amlinellu’r broses ar gyfer newid rheolaeth a /neu berchnogaeth tir neu adeiladau, o gyrff cyhoeddus i gymunedau. Mae’r fframwaith wedi cael ei ddatblygu fel offeryn i fuddsoddi mewn adfywio a chanlyniadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cadarnhaol.
Termau eraill allweddol
MODEL BUSNES
Model y mae’r sefydliad yn ei ddefnyddio i gynhyrchu incwm neu werth o’i weithgareddau. Fe allai hyn gynnws gwerthu nwyddau a gwasanaethau, contractau darparu neu incwm rhenti.
GWAITH CYFALAF
Mae hyn yn cyfeirio at waith adeiladu a allai fod yn angenrheidiol ar yr ased i’w adnewyddu, er enghraifft i newid defnydd ased.
ASTUDIAETH DDICHONOLDEB
Dadansoddiad sy’n profi gallu’r prosiect i gyflawni ei amcanion. Dylai hyn brofi’r cyd-destun a’r adnoddau y mae’r prosiect yn gweithredu ynddynt, gan gynnwys dadansoddiad o’r farchnad, a ph’un a yw’r galluoedd ariannol, technegol a rheoli’n ddigon cryf i gyflawni’r ystod o ddefnyddiau a gynlluniwyd ar gyfer yr ased. Dylai hyfywedd a chynaliadwyedd tymor hir y prosiect gael eu profi. Dylai astudiaethau dichonoldeb gael eu defnyddio i ddatblygu cynllun busnes cryf.
RHYDD-DDALIAD
Perchnogaeth lwyr ar dir a/neu eiddo.
RHEOLWR Grant
Prif bwynt cyswllt ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r prosiect.
CYTUNDEB ARIAN GRANT
Mae hwn yn amlinellu’r amodau sy’n berthnasol i’r sefydliad sy’n cael yr arian grant gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC).
CYFARFOD PROSIECT CYCHWYNNOL
Cyfarfod cyntaf a gynhelir rhwng y prosiect llwyddiannus a’i Reolwr Grant i drafod y gofynion ar gyfer derbynyddion grant ac ateb unrhyw gwestiynau a allai godi.
LESDDALIAD
Yr hawl, a amlinellir mewn contract, i feddiannu tir neu adeilad am gyfnod penodedig o amser.
CYN-DDICHONOLDEB
Prosiect nad yw wedi gwneud gwaith dichonoldeb manwl eto (gweler isod) a’r cymorth a allai fod yn angenrheidiol i helpu profi syniadau cychwynnol a datblygu opsiynau ar gyfer cynllun busnes.
GWASANAETHAU STATUDOL
Gwasanaethau y mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus eu darparu yn ôl y gyfraith.
CYMHORTHDAL
Cyfraniad ariannol gan ddefnyddio adnoddau cyhoeddus sy’n rhoi budd i’r derbynnydd. Fe allai hyn gynnwys, er enghraifft, taliad arian parod, benthyciad ar gyfradd llog sy’n is na chyfradd y farchnad neu fenthyciad gwarantedig. Mae cymorthdaliadau’n cael eu gweinyddu gan y llywodraeth ar bob lefel yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys llywodraeth ganolog, gweinyddiaethau datganoledig ac awdurdodau lleol, yn ogystal â mathau eraill o awdurdodau cyhoeddus.
Mae rhagor o wybodaeth am reolaethau cymorthdaliadau ar gael yma.
CYFALAF GWEITHIO
Yr arian gweithredol sy’n angenrheidiol i dalu am gostau yn ystod camau cynnar masnachu, wrth i’r model busnes sefydlu ac wrth i weithgareddau ddatblygu. Dylai prosiectau ddisgwyl gallu ysgwyddo colledion yn ystod y cyfnod cynnar hwn, wrth i ffynonellau incwm dyfu, a dylent gynllunio ar gyfer digon o gyfalaf gweithio i sicrhau bod digon o arian i dalu cyflogau, anfonebau a chostau eraill.