Canllawiau

Cronfa Perchnogaeth Gymunedol: prosbectws (Ddim mewn defnydd)

Diweddarwyd 15 August 2024

Ni ddylid defnyddio’r prosbectws hwn ar gyfer ymgeisio am y gronfa. Gweler y fersiwn diweddaraf o’r prosbectws drwy’r linc ganlynol.

Rhagair y gweinidog

Mae’r ffordd ryfeddol y mae cymunedau wedi dod ynghyd i gefnogi’r naill a’r llall drwy’r pandemig wedi bod yn ysbrydoledig a diymhongar fel ei gilydd.

Wrth i ni symud o ymateb i adfer, mae’n bwysig, fel y dywedodd y Prif Weinidog, nad ydym yn mynd yn ôl i’r status quo. Mae’n rhaid i ni harneisio’r ysbryd hwnnw o wytnwch, anhunanoldeb a chymdogrwydd i adeiladu’n ôl yn well: i ymdrechu’n arbennig o galed i wneud y mwyaf o gyfleoedd a ffyniant i adeiladu’r Deyrnas Unedig sy’n fwy teg, cryf ac unedig.

I’r perwyl hwnnw, rydym yn anelu ac yn buddsoddi’n uchel ym mhob rhan o’r DU, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny heb eu gwasanaethu’n ddigonol yn hanesyddol, drwy ein Cronfa Codi’r Gwastad £4.8 biliwn - gan adeiladu ar lwyddiant ein Cronfa Trefi £3.6 biliwn - a’n Cronfa Adfywio Cymunedol £220 miliwn.

Ond yn ein hymdrechion i ail-ategu balchder lleol ynghyd ag ymdeimlad o berthyn cenedlaethol, mae’n iawn ein bod yn meddwl yn lleol hefyd. Ein bod yn ystyried y seilwaith bob dydd - y canolfannau cymunedol, tafarndai, y strydoedd mawr - sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i ansawdd ein bywyd. Dyna’n union y mae ein Cronfa Perchnogaeth Gymunedol £150 miliwn newydd yn anelu ei wneud drwy sicrhau bod cymunedau ledled y Deyrnas Unedig yn gallu bod yn berchen ar asedau cymunedol lleol sy’n cael eu trysori fwyaf a’u rheoli.

P’un a yw’r dafarn ar y stryd fawr sy’n wynebu gorfod cau, siop y pentref neu dîm chwaraeon lleol a allai golli ei gae - dyma gyfle i grwpiau eu cymryd drosodd a’u rhedeg fel busnesau gan y gymuned, i’r gymuned.

Dyma’r sefydliadau, y glud yn ein gwead cymdeithasol, sy’n rhoi cyfle i bobl gwrdd â’u cymdogion a chyfeillion a meithrin cysylltiad dros gariad cyffredin at eu bro. Sefydliadau sy’n cadarnhau cysylltiadau pwerus rhwng hunaniaeth a lle, rhwng y gorffennol a’r dyfodol a rhwng cymuned a diben.

Wrth i ni adfer o’r pandemig, rydym yn benderfynol o weld y lleoedd arbennig hyn a’r bobl sy’n gofalu amdanynt, yn ffynnu drwy’r Gronfa hon. Edrychaf ymlaen at weld uchelgais a chreadigrwydd y cynigion a dderbyniwn.

Y Gwir Anrhydeddus Robert Jenrick AS Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol

Trosolwg

Mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol £150 miliwn i gymunedau ledled y Deyrnas Unedig. Sefydlwyd i helpu cymunedau i gymryd perchnogaeth o asedau ac amwynderau sydd mewn perygl o gau. Bydd yn rhedeg am 4 blynedd.

Mae’r cylch ymgeisio cyntaf yn agor ar 15 Gorffennaf 2021.

Gall sefydliadau gwirfoddol a chymunedol ymgeisio am arian cyfatebol.

Gall cyllid gefnogi costau prynu a/neu adnewyddu asedau ac amwynderau cymunedol, yn amodol ar y meini prawf cymhwysedd llawn a amlinellir yn y prosbectws hwn.

Bydd y gronfa yn cefnogi ystod o gynigion am berchnogaeth gymunedol. Er enghraifft, gall prosiectau gynnwys:

  • cyfleusterau chwaraeon a hamdden
  • sinemâu a theatrau
  • lleoliadau cerddoriaeth
  • amgueddfeydd
  • orielau
  • parciau
  • tafarndai
  • adeiladau swyddfa’r post
  • siopau

Bydd angen i gynigion brofi gwerth yr ased i’r bobl leol ac y gall yr ased redeg yn gynaliadwy er budd y gymuned yn yr hirdymor.

Mae’r prosbectws hwn yn amlinellu gwybodaeth am y:

  • cyllid ar gael
  • sut i ymgeisio
  • cymhwysedd
  • meini prawf asesu

Dyddiadau allweddol

Bydd y Gronfa yn rhedeg tan 2024/25 a bydd o leiaf 8 cylch ymgeisio i gyd.

Mae’r prosbectws hwn yn cynnwys manylion ar gyfer cylch 1.

Mae dyddiadau allweddol eraill fel a ganlyn:

  • 13 Awst 2021 - dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau i’r cylch ymgeisio cyntaf
  • Rhagfyr 2021 - cylch 2 yn agor
  • Rhagfyr 2022 - cylch 3 yn agor

Byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion a phrosbectws a nodiadau cyfarwyddyd wedi’u diweddaru ar gyfer cylch 2 yn yr hydref.

Os nad ydych yn credu y byddwch yn barod ar gyfer y cylch cyntaf, rydym yn bwriadu cynnal cylchoedd ymgeisio rheolaidd yn ystod y flwyddyn.

Bydd y Llywodraeth yn dysgu o’r cylch ymgeisio cyntaf ac yn diwygio’r meini prawf asesu yn ôl yr angen i sicrhau bod gan y Gronfa’r cyrhaeddiad ac effaith a fwriadwyd i gefnogi cymunedau.

Diben y Gronfa

Cronfa £150 miliwn dros 4 blynedd yw’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, i gefnogi grwpiau cymunedol ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gymryd perchnogaeth o asedau sydd mewn perygl o gael eu colli i’r gymuned.

Mae’n ffurfio rhan o becyn sylweddol o ymyriadau codi’r gwastad ledled y DU, gan helpu i gefnogi adferiad, adeiladu cyfleoedd a grymuso cymunedau i wella eu lleoedd lleol.

Gall perchnogaeth gymunedol o asedau fod yn gatalydd ar gyfer dod â phobl ynghyd a helpu cymunedau i ffynnu. Ond mae tuedd hirdymor o gymunedau yn colli amwynderau sy’n meithrin ymdeimlad o falchder cymunedol a dod â phobl ynghyd. Mae hyn yn cael sgil-effaith ar foddhad pobl gyda’r ardal lle maent yn byw, a chryfder cymunedau lleol.

Gall perchnogaeth gymunedol fod yn fodel cynaliadwy ar gyfer amddiffyn asedau a chyfleusterau lleol. Gall ddatgloi buddion ychwanegol i’r gymuned a helpu cymunedau i siapio’r pethau sydd bwysicaf iddynt. Gall fod yn anodd, weithiau, i grwpiau cymunedol godi’r arian sy’n ofynnol i brynu’r ased fel y gallant ei redeg yn gynaliadwy er budd y gymuned yn yr hirdymor. Bydd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn cefnogi pobl leol i achub asedau ac amwynderau cymunedol lleol sydd mewn perygl.

Mae’r gronfa ar agor i grwpiau cymunedol ledled y Deyrnas Unedig. Dylai fod gan gymunedau sy’n ymgeisio weledigaeth gref ar gyfer dyfodol yr ased yn yr hirdymor, ei ddiben a photensial ym mywyd y gymuned, a chynllun ar gyfer sut y gall yr ased ffynnu o dan berchnogaeth gymunedol.

Amcanion strategol

Mae gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol 4 amcan strategol:

  • darparu buddsoddiad wedi’i dargedu i gymunedau i achub asedau cymunedol a fyddai fel arall yn cael eu colli

  • cryfhau capasiti a gallu mewn cymunedau i’w cefnogi i siapio eu lleoedd a datblygu busnesau cymunedol cynaliadwy

  • grymuso cymunedau mewn lleoedd wedi’u gadael ar ôl i godi’r gwastad

  • cryfhau cysylltiadau uniongyrchol rhwng lleoedd ledled y DU a Llywodraeth y DU

Canlyniadau’r rhaglen

At ddibenion y Gronfa hon, mae perchnogaeth gymunedol yn cyfeirio at berchnogaeth a rheolaeth o asedau ac amwynderau cymunedol lleol gan sefydliad cymunedol er mwyn darparu buddion i’r gymuned a lle. Er mwyn bod yn gymwys am fuddsoddiad gan y Gronfa, rhaid i delerau’r berchnogaeth gymunedol fod naill ai’n berchnogaeth o’r rhydd-ddaliad neu’n lesddaliad hirdymor am bum mlynedd ar hugain o leiaf (heb unrhyw gymalau terfynu).

Gall perchnogaeth gymunedol o asedau roi hwb i gymunedau lleol, cyfranogiad ac ymdeimlad o falchder lle, a chryfhau gwytnwch cymunedol. Drwy fuddsoddi yng nghapasiti cymunedau ledled y Deyrnas Unedig i gymryd perchnogaeth o’r lleoedd a mannau sy’n bwysig iddynt, byddwn yn cryfhau’r seilwaith cymdeithasol sy’n helpu cymunedau i ffynnu.

Rhaid i bob ymgeisydd ddangos potensial eu prosiectau i gyflawni yn erbyn pob un o’r canlyniadau canlynol:

  • amddiffyn ased neu amwynder cymunedol sydd mewn perygl a gwarchod ei werth cymunedol

  • datblygu model gweithredu cynaliadwy i sicrhau dyfodol yr ased cymunedol yn yr hirdymor o dan berchnogaeth gymunedol

  • diogelu’r defnydd o asedau ac amwynderau cymunedol lleol cysylltiedig

Rhaid i bob ymgeisydd ddangos hefyd sut y bydd eu prosiect yn helpu i gyflawni un neu fwy o’r canlyniadau canlynol ar gyfer eu lle:

  • cynyddu ymdeimlad o falchder a gwella canfyddiadau o’r ardal leol fel lle i fyw

  • gwella ymddiriedaeth gymdeithasol, cydlyniad ac ymdeimlad o berthyn

  • cynyddu cyfranogiad lleol ym mywyd y gymuned, y celfyddydau a diwylliant a/neu chwaraeon

  • creu canlyniadau economaidd lleol eraill - yn cynnwys creu swyddi, cyfleoedd gwirfoddoli a gwella cyflogadwyedd a lefelau sgiliau yn y gymuned leol

  • creu canlyniadau llesiant a chymdeithasol eraill - yn cynnwys cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a/neu gorfforol a lleihau unigedd ac arwahanrwydd cymdeithasol

Byddwn yn buddsoddi mewn prosiectau perchnogaeth gymunedol lle mae’r asedau ac amwynderau hyn yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i’r lle lleol. Dengys ymchwil a gomisiynwyd gan Power to Change a’r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) nad yw argaeledd mannau ac amwynderau cymunedol wedi’i ddosbarthu’n deg, gydag ardaloedd mwy cyfoethog yn elwa ar fwy o fynediad.

Gwyddom hefyd fod absenoldeb a dirywiad seilwaith dinesig, diwylliannol a chymunedol yn cyfrannu at leoedd yn teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl.

Fel rhan o’r meini prawf asesu, bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut y bydd buddion yr ased cymunedol yn mynd i’r afael ag angen cymunedol yn eu lle lleol.

Darllenwch ein [dogfennau canllaw] (https://www.gov.uk/government/publications/community-ownership-fund-assessment-criteria-guidance) a fydd yn helpu ymgeiswyr i ddeall sut y gallant arddangos eu potensial i gyflawni’r canlyniadau hyn yn eu cynigion cyllido.

Cryfhau perchnogaeth gymunedol ledled y Deyrnas Unedig

Bydd y Gronfa yn cael ei darparu’n uniongyrchol gan Lywodraeth y DU yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyfleoedd teg i gael mynediad at gyllid drwy’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ledled y DU. O ganlyniad, bydd Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn elwa ar ddyraniad gwarantedig yn unol â dosbarthiad fesul pen o’r boblogaeth. Bydd hyn yn golygu isafswm o £12.3 miliwn yn yr Alban, £7.1 miliwn yng Nghymru, a £4.3 miliwn yng Ngogledd Iwerddon.

Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu yn unol â fframwaith cyson. Mae dyluniad y gronfa yn cydnabod bod tirweddau gwahanol ar gyfer perchnogaeth gymunedol ledled y Deyrnas Unedig, gyda deddfwriaeth wahanol ac yn cefnogi cyd-destunau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae cymhwysedd ar gyfer y gronfa a meini prawf ymgeisio yn gyson ar draws pob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Blaenoriaethau ar gyfer cylch ymgeisio 1

Rydym yn cydnabod y bydd cymunedau ledled y Deyrnas Unedig sydd â diddordeb yn y gronfa hon ar gamau gwahanol. Byddwn yn cynnal o leiaf 8 cylch ymgeisio, i roi cyfle i bob cymuned gyflwyno cais ar yr adeg iawn iddynt.

Y blaenoriaethau ar gyfer y cylch cyntaf yw buddsoddi mewn prosiectau sy’n barod i gael mynediad at gyllid cyfalaf a chwblhau eu prosiectau o fewn chwe mis. Rhaid cyflwyno pob cais ar gyfer y cylch 1af erbyn 13 Awst 2021.

Bydd y cylch ymgeisio hwn yn fwyaf addas i grwpiau cymunedol sydd wedi gwneud gwaith rhagarweiniol ac yn meddu ar gynllun busnes hyfyw i gymryd perchnogaeth o’r ased neu’r amwynder lleol mewn perygl.

Rhaid i ymgeiswyr allu dangos bod yr ased mewn perygl, â siawns gwirioneddol o gael ei brynu neu drosglwyddo o fewn 6 mis i ymgeisio i’r Gronfa, a gallu darparu cynllun busnes llawn ar gyfer sut y bydd yr ased cymunedol yn cael ei redeg yn gynaliadwy.

Darllen y meini prawf cymhwysedd llawn

Bydd grantiau cyfatebol hyd at £250,000 ar gael i’r rhan fwyaf o brosiectau. Mewn achosion eithriadol, bydd grantiau cyfatebol hyd at £1 miliwn ar gael i helpu i sefydlu clwb chwaraeon o dan berchnogaeth y gymuned neu helpu i brynu clwb chwaraeon neu gyfleusterau chwaraeon mewn perygl o gael eu colli.

Bydd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn darparu hyd at 50% o gyfanswm y costau cyfalaf, gan ddarparu cyllid cyfatebol ar gyfer cyllid ac adnoddau eraill a godir gan y cleient. Bydd angen i ymgeiswyr arddangos eu bod wedi codi arian arall i dalu am gyfanswm costau cyfalaf eu prosiect. Ar gyfer y cylch cyllido hwn, bydd angen i ymgeiswyr ddangos y byddant yn barod i ddefnyddio cyllid cyfalaf gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol o fewn 6 mis i’w cais.

Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod bod cymryd perchnogaeth o ased cymunedol a’i redeg fel busnes cymunedol cynaliadwy yn gofyn am y gymysgedd gywir o gyllid refeniw ynghyd â grantiau cyfalaf. Gall ymgeiswyr felly ymgeisio am beth cyllid refeniw i helpu gyda’r costau refeniw sy’n gysylltiedig â chymryd perchnogaeth o ased cymunedol.

Ni fydd rhaid cael arian cyfatebol ar gyfer refeniw a gall ymgeiswyr ymgeisio am grantiau hyd at uchafswm o £50,000) (a dim mwy na 20% o gyfanswm y costau cyfalaf yr ymgeiswyd amdanynt drwy’r Gronfa) cyhyd ag y gallant ddangos sut y bydd y cyllid hwn yn eu cefnogi i gwblhau eu prosiect a datblygu model gweithredu cynaliadwy.

Darllen mwy am y cyllid ar gael

Cylchoedd ymgeisio yn y dyfodol

Dylai grwpiau cymunedol sydd â diddordeb nad ydynt yn barod i ymgeisio yn y cylch cyntaf ddechrau meddwl am gylchoedd yn y dyfodol.

Bydd yr ail gylch ymgeisio yn agor ym mis Rhagfyr 2021, a’r trydydd ym mis Mai 2022.

Bydd o leiaf 8 cylch ymgeisio dros y 4 blynedd ac ni fydd yr un cylch yn fwy manteisiol na’r llall.

Bydd y Llywodraeth yn edrych pa wersi y gellir eu dysgu o’r cylch ymgeisio cyntaf, ac os oes angen, yn diwygio’r meini prawf asesu ar gyfer cylchoedd yn y dyfodol i sicrhau bod gan y Gronfa’r cyrhaeddiad ac effaith a fwriadwyd i gefnogi cymunedau.

Mewn cylchoedd yn y dyfodol, gallwn hefyd gynnig grantiau cymorth ychwanegol i grwpiau cymunedol yn gynharach yn y broses ddatblygu, i helpu i ddeall a yw eu prosiect perchnogaeth gymunedol yn hyfyw ai peidio.

Bydd hyn yn fwy addas i gymunedau sydd wedi adnabod ased lleol mewn perygl ac sydd â syniad am sut i’w gymryd drosodd fel perchnogaeth gymunedol gynaliadwy ond nad ydynt wedi llunio modelau gweithredu a chynigion manwl i gymryd drosodd a rheoli’r ased.

Gall mynediad at gyllid a chymorth drwy gylchoedd dilynol fod ar gael i helpu cymunedau gyda chynlluniau cynnar i ddatblygu cynigion hyfyw a bod yn barod ar gyfer buddsoddiad.

Camau nesaf

Mae dogfen ganllaw lawn i ymgeiswyr wedi’i chyhoeddi yn gov.uk.

Bydd y porth ar-lein ar gyfer ceisiadau yn agor ar 30 Gorffennaf 2021. Mae templed ymgeisio llawn wedi’i gyhoeddi yn gov.uk. Dylai ymgeiswyr ddefnyddio’r templed a dogfen ganllaw i baratoi’r holl wybodaeth sy’n ofynnol ar gyfer eu cais, cyn cyflwyno drwy’r porth ar-lein o 30 Gorffennaf 2021 ymlaen.

Byddwn yn cynnal gweminarau ar gyfer ymgeiswyr drwy gydol fis Gorffennaf ac yn ystod wythnosau cyntaf mis Awst. Bydd manylion llawn yn cael eu cyhoeddi a diweddaru ar gov.uk.

Gallwch e-bostio COF@communities.gov.uk os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r ateb i’ch ymholiad yn y dogfennau hyn, a bydd cynghorydd MHCLG yn gallu helpu.

Meini prawf cymhwysedd

Mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ar agor i geisiadau gan gymunedau i brynu neu gymryd drosodd asedau ac amwynderau cymunedol lleol mewn perygl o gael eu colli a’u rhedeg fel busnesau o dan berchnogaeth y gymuned.

Yr hyn y byddwn yn ei gyllido

Er mwyn bod yn gymwys am gyllid, rhaid i ymgeiswyr ddangos bod yr ased cymunedol y maent am ei achub yn bodloni’r meini prawf canlynol:

Mae perygl o’i golli heb ymyrraeth gan y gymuned

Gallai fod mewn perygl o gael ei gau, gwerthu, esgeuluso a gadael o dan berchnogaeth bresennol, neu weithrediadau anghynaladwy o dan y model busnes preesennol. Mae angen i ymgeiswyr arddangos natur y risg sy’n wynebu’r ased. Bydd hyn yn cynnwys tystiolaeth y byddai’r ased neu’r amwynder yn cael ei golli, heb ymyrraeth gan y gymuned.

Gwerth cymunedol

Bydd angen i ymgeiswyr ddangos cyfraniad yr ased i’w cymuned yn cynnwys i lesiant cymdeithasol neu ddiddordebau chwaraeon, hamdden neu ddiwylliannol y lle lleol.

Defnydd cymunedol

Bydd yr ased yn cael ei ddefnyddio a’i fwynhau gan y gymuned, neu bydd wedi cael ei ddefnyddio gan y gymuned yn y gorffennol, y bydd angen i ymgeiswyr ddangos yn eu cais. Gallwn gyllido ceisiadau yn ymwneud ag asedau sy’n dadfeilio, fodd bynnag bydd angen tystiolaeth sy’n dangos bod yr ased wedi cael ei ddefnyddio gan y gymuned o fewn y 5 mlynedd diwethaf.

Cynaliadwyedd hirdymor

Bydd gofyn i ymgeiswyr arddangos cynllun clir ar gyfer sut y gall yr ased fod yn gynaliadwy o dan berchnogaeth gymunedol yn yr hirdymor.

Bydd y Gronfa hefyd yn cefnogi prosiectau sy’n bodoli un neu gyfuniad o’r canlynol:

  • caffael ased neu gyfleuster cymunedol ffisegol mewn perygl, megis tir ac adeiladau sy’n darparu budd i bobl leol

  • adnewyddu, atgyweirio neu ailwampio’r ased, dim ond pan mae hyn yn rhan o werthiant neu drosglwyddiad i achub ased cymunedol mewn perygl ac mae hyn yn hanfodol i achub yr ased a’i wneud yn gynaliadwy

  • sefydlu busnes cymunedol newydd neu brynu busnes sydd eisoes yn bodoli er mwyn achub ased neu amwynder o bwys i’r gymuned

  • Prynu stoc, casgliadau neu eiddo deallusol cysylltiedig, lle mae’n gysylltiedig â phrynu ased ffisegol neu brynu busnes i achub amwynder

  • symud amwynder cymunedol i leoliad newydd, mwy priodol o fewn yr un gymuned. Gallai hyn fod oherwydd bod lleoliad gwahanol yn cynnig gwerth gwell i barhau â’r amwynder, neu oherwydd bod y lleoliad ei hun yn ased o werth cymunedol

Ni fyddwn yn cyhoeddi rhestr bendant o asedau neu amwynderau cymunedol sydd o fewn cwmpas y Gronfa. Mae’n bwysig i gymunedau amlinellu’r hyn sydd bwysicaf iddynt, a’r budd y mae’r ased y maent yn dymuno ei achub yn ei gyflwyno i’w lle.

Gall prosiectau gynnwys y canlynol, (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt):

  • canolfannau cymunedol
  • cyfleusterau chwaraeon a hamdden
  • sinemâu
  • theatrau
  • lleoliadau cerddoriaeth
  • amgueddfeydd
  • orielau
  • parciau
  • tafarndai
  • adeiladau swyddfa’r post
  • siopau

I brosiectau yn Lloegr, byddai unrhyw adeilad neu dir sydd wedi cael ei restru gan awdurdod lleol fel ased o werth cymunedol, o fewn cwmpas y gronfa.

I brosiectau yn ymwneud ag asedau chwaraeon neu asedau sydd o dan berchnogaeth y sector cyhoeddus ar hyn o bryd, mae set o feini prawf ychwanegol i’w darllen yn fanwl cyn ymgeisio.

Yr hyn na fyddwn yn ei gyllido

Ni fydd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn darparu cyllid i’r canlynol:

  • talu dyledion busnesau neu brynu busnes mewn dyled
  • prynu asedau tai
  • prosiectau adeiladu newydd i ddatblygu asedau neu amwynderau newydd, nad ydynt yn ymwneud ag achub neu warchod ased neu amwynder sydd eisoes yn bodoli
  • refeniw cyffredinol ar gyfer gweithgareddau neu ddigwyddiadau cymunedol nad ydynt yn ymwneud â chaffael neu drosglwyddo ased neu amwynder cymunedol
  • costau prynu asedau o dan berchnogaeth gyhoeddus.

Pwy all ymgeisio

Bydd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn ystyried ceisiadau gan sefydliadau gwirfoddol a chymunedol o bob rhan o’r Deyrnas Unedig sydd â chynllun hyfyw ar gyfer cymryd perchnogaeth o ased cymunedol mewn perygl a’i redeg yn gynaliadwy er budd y gymuned.

Dim ond gan sefydliadau corfforedig sydd wedi’u sefydlu i gyflawni diben elusennol, diben cymdeithasol neu fudd cyhoeddus y derbynnir ceisiadau am gyllid . Mae hyn er mwyn sicrhau ein bod yn cyllido sefydliadau sydd â’r aeddfedrwydd iawn i reoli’r ased cymunedol a chyflawni buddion i’r gymuned.

Dim ond mewn prosiectau sy’n arddangos sut y bydd yr ased yn cael ei amddiffyn er budd y gymuned yn yr hirdymor y byddwn yn buddsoddi.Rhaid i sefydliadau ddangos hyn drwy eu
diben elusennol a/neu glo ased o fewn eu dogfennau llywodraethu.

Ymhlith strwythurau cyfreithiol y sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig y gallwn ddisgwyl iddynt ymgeisio mae:

  • Sefydliad corfforedig elusennol (CIO)
  • Sefydliad corfforedig elusennol yn yr Alban (CIO)
  • Cwmnïau cydweithredol yn cynnwys Cymdeithasau Budd Cymunedol
  • Cwmni Buddiant Cymunedol (CIC)
  • Cwmni cyfyngedig drwy warant nid-er-elw

Er mwyn bod yn gymwys am gyllid, bydd rhaid i ymgeiswyr ddangos hefyd eu bod yn atebol i’r lle a/neu’r gymuned leol a gynrychiolant, sut y byddant yn gweithredu er budd y gymuned ehangach mewn ffyrdd diriaethol, a sut y byddant yn defnyddio’r ased i gael effaith ar y gymuned.Dylid ailfuddsoddi enillion o’r ased a busnesau cymunedol i ddarparu budd i’r gymuned.

Ni fydd awdurdodau lleol, cynghorau tref, plwyf a chymuned yn gymwys i ymgeisio. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio y bydd cynghorau ledled y Deyrnas Unedig yn chwarae rôl weithredol wrth gefnogi eu grwpiau cymunedol lleol i ymgeisio.

Ni fyddwn yn cyllido sefydliadau anghorfforedig nac unigolion preifat.

Asedau chwaraeon

O ganlyniad i’r costau uwch sydd ynghlwm â rhai asedau yn gysylltiedig â chwaraeon, bydd terfyn uwch o hyd at £1 miliwn o gyllid cyfalaf cyfatebol ar gael i helpu i sefydlu clwb chwaraeon o dan berchnogaeth y gymuned neu helpu i brynu clwb chwaraeon neu gyfleusterau chwaraeon mewn perygl o gael eu colli heb ymyrraeth gan y gymuned.

Mae grantiau refeniw bach hyd at £50k ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb, datblygu busnes neu refeniw a chyfalaf gweithio ar ôl caffael ar gael hefyd i’r asedau chwaraeon hyn, sy’n gyson ag elfennau eraill y Gronfa.

Prosiectau sy’n gymwys am y terfyn arian uwch

Ymgeiswyr a all fod yn gymwys i ymgeisio am swm uwch o gyllid yn ymwneud â phrosiectau sy’n anelu at wneud y canlynol:

Cefnogi clybiau sydd mewn perygl o gau: lle mae clwb chwaraeon lleol yn cau neu mewn perygl o gael ei golli, byddai grwpiau yn gymwys am gymorth i brynu’r clwb a/neu asedau cysylltiedig neu ystyried sefydlu clwb newydd o dan berchnogaeth y gymuned. Ni fyddai hyn yn cynnwys cyllid i brynu busnes mewn dyled neu glirio dyledion.

Prynu caeau neu leoliadau cysylltiedig â chlybiau lleol: I alluogi grŵp cymunedol i brynu ased mewn perygl o gael ei golli. Er enghraifft, i glwb rygbi neu bêl-droed o dan berchnogaeth y cefnogwyr i brynu cae chwarae sy’n cael ei werthu pan gaiff clwb ei ddirwyn i ben, ond lle mae’r gymuned eisoes wedi sefydlu clwb pêl-droed arall yn yr ardal leol.

Meini prawf eraill

Law yn llaw â’r meini prawf asesu a chymhwysedd llawn y manylir arnynt yn y prosbectws hwn, er mwyn cael mynediad at y swm uwch hwn o gyllid, bydd angen i brosiectau chwaraeon cymwys arddangos meini prawf eraill:

  • bydd angen i ymgeiswyr arddangos bod cyfanswm costau cyfalaf ar gyfer prynu ac unrhyw adnewyddiadau cysylltiedig yn fwy na £500k i fod yn gymwys i ymgeisio am y terfyn arian uwch. Nid yw costau rhedeg wedi’u cynnwys yn yr ystyriaeth o gostau cyfalaf. Bydd y Gronfa yn darparu hyd at 50% o gostau cyfalaf i brosiectau llwyddiannus, hyd at derfyn o £1 miliwn.

  • bydd angen i ymgeiswyr am brosiectau i gefnogi clwb chwaraeon neu leoliad chwaraeon mewn perygl arddangos y gefnogaeth a’r gydnabyddiaeth i bwysigrwydd yr ased i hunaniaeth neu ymdeimlad o falchder lle’r gymuned ehangach

  • bydd angen i ymgeiswyr arddangos bod yr ased neu glwb yn cael ei ddefnyddio ac yn darparu buddion i’r gymuned yn gyffredinol (e.e. gweithgareddau estyn allan i’r gymuned ar draws y dref gyfan neu’r gymuned ehangach). Gallai hyn gynnwys tystiolaeth am raddfa’r budd a ddarperir yn erbyn y fframwaith canlyniadau, er enghraifft:

    • cyfranogiad mewn chwaraeon ac ym mywyd y gymuned
    • canlyniadau iechyd a llesiant
    • canlyniadau cyflogaeth a sgiliau
  • i gydnabod cymhlethdod y mathau hyn o brosiectau, bydd angen i grwpiau sydd â diddordeb arddangos bod ganddynt yr arbenigedd priodol, yn cynnwys sefydlu prosesau llywodraethu cadarn fel rhan o unrhyw fuddsoddiad posibl

  • dylai prosiectau arddangos eu bod wedi ystyried yr amodau a/neu ofynion cynghrair priodol a osodwyd gan gyrff chwaraeon, lle bo’n berthnasol i’w cynlluniau busnes

Ni fydd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn darparu cyllid i glirio dyledion busnesau na phrynu busnes mewn dyled. Mae hyn hefyd yn berthnasol i bob ased chwaraeon.

Asedau o dan berchnogaeth gyhoeddus

Lle mae ceisiadau ar gyfer cyllid yn ymwneud ag asedau cymunedol sydd o dan berchnogaeth gyhoeddus ar hyn o bryd, bydd meini prawf cymhwysedd eraill yn berthnasol.

Nid yw asedau yn ymwneud â gwasanaethau statudol o fewn y cwmpas

Mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon nifer o swyddogaethau statudol sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddarparu gwasanaethau amrywiol i’w cymunedau. Mae’r rhain yn wahanol i wasanaethau y gall awdurdod lleol ddewis eu gwneud. Un enghraifft esboniadol o’r hyn y gall y gwasanaethau hyn eu cynnwys yw gwasanaethau addysg; gofal cymdeithasol a diogelwch plant; gofal cymdeithasol oedolion; gwasanaethau llyfrgell, llesiant a hamdden a chasglu gwastraff. Fodd bynnag, awdurdodau lleol sydd i benderfynu a ydynt yn gweithredu’n unol â’u swyddogaethau statudol.

At ddibenion y Gronfa, ni fyddai unrhyw ased y mae ei ddefnydd pennaf a phresennol yn darparu unrhyw ffurf ar wasanaeth statudol annewisol yn gymwys am gyllid gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol.

Fel enghraifft, ni fyddai asedau sy’n darparu gwasanaethau statudol “ynghlwm” â sefydliad penodol ar hyn o bryd (megis ysgolion, sefydliadau gofal cymdeithasol a llety gwarchod) yn gymwys am fuddsoddiad.

Asedau o fewn y cwmpas

Byddai angen i asedau o dan berchnogaeth gyhoeddus sydd o fewn cwmpas y Gronfa fodloni un o’r meini prawf canlynol:

  • Defnyddir yr ased ar hyn o bryd i wasanaeth nad oes gofyniad cyfreithiol ar awdurdod lleol i’w ddarparu (h.y. gwasanaethau statudol annewisol).

  • I asedau yn gysylltiedig â dyletswyddau statudol annewisol, rhaid i’r gwasanaeth fod wedi cau cyn ymgeisio i’r gronfa, a heb ymyrraeth gan y gymuned byddai’r ased a’i werth amwynderol i’r gymuned yn cael eu colli.

  • Mae’r awdurdod lleol wedi trefnu i gael gwared ar yr ased, gan nad yw’n cael fawr o effaith yn lleol ac nid yw’n darparu unrhyw ffurf ar wasanaeth statudol, boed yn ddewisol neu annewisol. Gallai enghraifft o hyn gynnwys adeilad swyddfa. Ni waeth beth fo defnydd presennol yr ased, byddai angen i’r gymuned amlinellu eu cynllun ar gyfer sut y gellid ei drawsnewid, o dan eu perchnogaeth, yn ased lleol gwerthfawr a fydd yn darparu budd i’r gymuned ehangach.

Lle mae asedau o dan berchnogaeth gyhoeddus ac o fewn cwmpas y gronfa fel yr amlinellir uchod, dim ond ar gyfer costau adnewyddu ac ailwampio, ynghyd â phrynu neu drosglwyddo’r ased y gellir defnyddio grantiau cyfalaf gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. Ni fydd y Gronfa yn cyllido costau prynu asedau o’r fath, lle byddai awdurdod cyhoeddus yn cael derbyniad cyfalaf. Er enghraifft, bydd y Gronfa yn gweithio law yn llaw â fframweithiau Trosglwyddo Ased Cymunedol ledled y Deyrnas Unedig i gefnogi gwaith cyfalaf ac ailwampio fel rhan o gytundeb trosglwyddo ased, lle mae’r ased mewn perygl o gael ei golli heb gyllid.

Ystyriaethau eraill

Er mwyn bod yn gymwys am fuddsoddiad gan y Gronfa, rhaid i delerau’r berchnogaeth gymunedol fod naill ai’n bryniant/trosglwyddiad o’r rhydd-ddaliad neu’n lesddaliad hirdymor am bum mlynedd ar hugain o leiaf (heb unrhyw gymalau terfynu).

Ni fyddwn yn cyllido prosiectau sy’n cynnwys trosglwyddo rhwymedigaethau anghynaladwy (er enghraifft costau cynnal a chadw neu staffio uchel heb gynllun ar gyfer talu’r rhain) i sefydliadau cymunedol a’r rheiny a all arwain at leihad gwasanaethau y mae gan y cyngor ddyletswydd statudol i’w darparu.

Y risg sy’n wynebu’r ased

Dim ond mewn asedau cymunedol a fyddai fel arall yn cael eu colli, y bydd y gronfa yn buddsoddi. Bydd angen tystiolaeth arnom felly gan y perchennog cyhoeddus presennol ac ymgeisydd am statws presennol yr ased a pham mae ei ddyfodol mewn perygl.

Rhesymeg dros berchnogaeth gymunedol a’r effaith ar ddarpariaeth gwasanaeth

Byddwn yn dymuno adolygu tystiolaeth gan y perchennog cyhoeddus (er enghraifft yr awdurdod lleol) a’r sefydliad cymunedol am y rhesymeg dros drosglwyddo neu werthu’r ased i’r gymuned, neu’r rhesymeg dros gau gwasanaeth statudol annewisol yn flaenorol, os yw’n berthnasol.

Ymarferoldeb a chynaliadwyedd

Ni fyddwn yn buddsoddi mewn prosiectau lle’r ydym yn asesu trosglwyddo rhwymedigaethau sy’n gysylltiedig â’r ased yn anhydrin. Fel tystiolaeth ategol, byddem yn gofyn am sicrwydd ysgrifenedig gan yr awdurdod sy’n trosglwyddo bod gan y grŵp cymunedol sy’n cymryd perchnogaeth o’r ased y gallu i wneud hynny a heb eu hymyrraeth mae’r ased mewn perygl o gael ei golli.

Byddwn yn edrych ar dystiolaeth bod gan y sefydliad cymunedol gynllun busnes sydd wedi nodi pob cost sy’n gysylltiedig â’r ased; a ffynonellau cyllid neu amcanestyniadau incwm realistig ar gyfer blynyddoedd i ddod. Byddwn hefyd yn edrych am dystiolaeth bod gan y sefydliad y sgiliau cywir, profiad a threfniadau llywodraethu sy’n briodol i raddfa’r prosiect.

Cyllid a chymorth

Bydd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn cefnogi cymunedau ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig ac ar ei thraws i brynu asedau ac amwynderau cymunedol a’u rhedeg fel busnesau cymunedol cynaliadwy.

Cyllid ar gael ar gyfer Cylch 1

Ar gyfer y cylch cyllido cyntaf, rhaid i ymgeiswyr allu arddangos bod siawns realistig y gall yr ased neu’r amwynder gael ei werthu neu ei drosglwyddo i’r perchennog cymunedol o fewn chwe mis i ymgeisio i’r Gronfa. Bydd ymgeiswyr eisoes wedi cwblhau gwaith dichonoldeb a rhaid iddynt allu darparu cynllun busnes llawn ar gyfer sut y bydd yr ased cymunedol yn cael ei redeg yn gynaliadwy.

Darllen y canllawiau ar sut yr asesir hyn drwy’r meini prawf asesu.

Efallai y bydd angen rhagor o gymorth ar ymgeiswyr i sicrhau bod yr adeilad a model busnes yn ateb y diben cyn prynu neu drosglwyddo. Fodd bynnag, rhaid i gynllun busnes llawn arddangos y bydd y prosiect yn barod i ddefnyddio cyfalaf o fewn 6 mis i’r cais.

Gall ymgeiswyr ymgeisio am gyfuniad o’r cyllid canlynol:

  • cyllid cyfalaf i gymryd perchnogaeth (yn cynnwys caffael yr adeilad; costau ailwampio ynghyd â phrynu neu drosglwyddo). Bydd cyfalaf cyfatebol hyd at £250,000 ar gael i’r rhan fwyaf o asedau. Mewn achosion eithriadol, bydd ymgeiswyr yn gallu cyflwyno’r ddadl dros gael hyd at £1 miliwn o gyllid cyfatebol i helpu i sefydlu clwb chwaraeon o dan berchnogaeth y gymuned neu helpu i brynu clwb chwaraeon neu gyfleusterau chwaraeon mewn perygl o gael eu colli.

  • cyllid ar gyfer datblygu prosiect - gallai hyn gynnwys ffioedd proffesiynol ar gyfer cyngor technegol gan benseiri neu syrfewyr neu gyngor cyfreithiol. Gallai hefyd gynnwys costau ar gyfer rheoli prosiect i oruchwylio gwaith cyfalaf lle mae hyn yn rhan o gais

  • cyllid ar gyfer cymorth ar ôl caffael yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu, lle mae achos cryf y bydd hyn yn helpu i gefnogi model busnes cynaliadwy yn yr hirdymor

Mae hyd at £50,000 (a dim mwy na 20% o gyfanswm y costau cyfalaf yr ymgeiswyd amdanynt drwy’r Gronfa) ar gael ar gyfer costau datblygu prosiect a chymorth ar ôl caffael.

Gofynion cyllid cyfatebol

Bydd gofyn i ymgeiswyr godi ffynonellau eraill o gyllid, law yn llaw â buddsoddiad gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. Gall cael ystod o gyllidwyr yn cyfrannu at brosiect arddangos ansawdd y prosiect a’r gefnogaeth o fewn y gymuned.

Bydd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn darparu hyd at 50% o gyfanswm y cyfalaf sy’n ofynnol.

Bydd angen i ymgeiswyr amlinellu cyfanswm costau’r prosiect, cyllid eisoes wedi’i sicrhau a chynlluniau i godi unrhyw gyllid arall sy’n ofynnol.

Bydd ffynonellau cymwys o gyllid cyfatebol yn cynnwys cyllid gan y canlynol:

  • cyrff cyhoeddus
  • ymddiriedolaethau elusennol
  • cyllidwyr y loteri genedlaethol
  • cyfranddaliadau cymunedol
  • buddsoddwyr cymdeithasol
  • darparwyr benthyciadau eraill.

Fel rhan o ddiwydrwydd dyladwy, bydd aseswyr yn adolygu amodau unrhyw gyllid drwy fenthyciadau a godir gan y sefydliad.

Bydd y cyllid cyfatebol ‘mewn nwyddau’ canlynol (a elwir hefyd yn ‘cyllid cyfatebol di-arian’) yn cyfrif fel ffynhonnell gymwys o gyllid cyfatebol:

  • cyfraniad nwyddau
  • adeiladau neu wasanaethau proffesiynol, yn cynnwys gan:
    • Unigolion
    • Grwpiau cymunedol
    • Cyllidwyr
    • Busnesau

Ni fydd elfennau Rhodd Cymorth cyfraniadau yn gymwys. Bydd gwerth gostyngiad ar lesddaliad hirdymor neu rydd-ddaliad, er enghraifft fel rhan o drosglwyddo ased, yn cael ei ystyried yn ffynhonnell gymwys o gyllid cyfatebol.

Ni fydd amser gwirfoddol yn ffynhonnell gymwys o gyllid cyfatebol at ddibenion y gronfa hon; fodd bynnag, bydd cynnwys gwirfoddolwyr mewn prosiect yn helpu ymgeiswyr i arddangos cymorth a chefnogaeth y gymuned.

Nid yw’n ofynnol i ymgeiswyr sicrhau pob ffynhonell cyllid cyfatebol ar adeg ymgeisio.

Gellir dyfarnnu cyllid cyfalaf ar gyfer prosiectau llwyddiannus mewn egwyddor. Fodd bynnag, ar gyfer y cylch cyllido hwn, bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus arddangos eu bod yn gallu sicrhau’r cyllid prosiect llawn o fewn 6 mis i’r cais.

Os na all ymgeiswyr arddangos cynnydd rhesymol tuag at sicrhau’r cyllid hwn, mae’r llywodraeth yn cadw’r hawl i dynnu’r cynnig o gyllid yn ôl.

Proses ar gyfer ymgeisio

Bydd ceisiadau ar gyfer y cylch cyntaf yn cau ar 13 Awst 2021.

Gall ymgeiswyr ddisgwyl clywed am ganlyniad eu cais oddeutu 2 fis ar ôl y dyddiad cau.

Fel rhan o amodau dyfarnu cyllid, bydd cerrig milltir a thargedau prosiect yn cael eu cytuno, ynghyd â chyfnodau adolygu a monitro safonol. Bydd hyn yn cael ei bennu mewn cytundeb grant ffurfiol. Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn mynd drwy wiriadau diwydrwydd dyladwy a diogelu rhag twyll ychwanegol.

Rhaid defnyddio grantiau i’r diben a fwriadwyd fel yr amlinellir yn yr amodau ar gyfer y dyfarniad. Bydd hyn yn ddarostyngedig i fonitro ac adolygiad terfynol. Gallai methu â chydymffurfio ag amodau’r dyfarniad arwain at gyllid yn cael ei dynnu’n ôl neu ei adfachu.

Ceisiadau aflwyddiannus

Bydd ymgeiswyr aflwyddiannus yn derbyn hysbysiad drwy e-bost yn amlinellu’r penderfyniad ynghyd â chrynodeb o adborth. Bydd y penderfyniad hwn yn derfynol.

Mae croeso i ymgeiswyr ailymgeisio mewn cylch ymgeisio yn y dyfodol.

Cyllid ar gael mewn cylchoedd cyllido yn y dyfodol

Yn ychwanegol i’r cyllid a amlinellir uchod, gallwn hefyd gynnig grantiau cymorth ychwanegol i grwpiau cymunedol yn gynharach yn y broses ddatblygu nad ydynt yn barod i ymgeisio gydag achos busnes llawn, o bosibl.

Bydd hyn yn fwy addas i gymunedau sydd wedi adnabod ased lleol mewn perygl ac sydd â syniad am sut i’w gymryd drosodd fel perchnogaeth gymunedol gynaliadwy ond nad ydynt yn barod i gymryd drosodd a rheoli’r ased, o bosibl. Bydd mynediad at gyllid a chymorth yn helpu cymunedau gyda chynlluniau cynnar i ddatblygu cynigion hyfyw a bod yn barod ar gyfer buddsoddiad.

Gall cylchoedd ymgeisio yn y dyfodol gynnig cyfuniad o gyllid drwy fenthyciadau a grantiau cyfalaf hefyd i gefnogi cynigion am berchnogaeth gymunedol.

Meini prawf asesu

Bydd Llywodraeth y DU yn asesu cynigion o bob cwr o’r Deyrnas Unedig yn erbyn fframwaith asesu cyffredin. Bydd ceisiadau yn cael eu sgorio yn defnyddio’r fframwaith hwn, a bydd penderfyniadau terfynol ynghylch cyllid yn cael eu gwneud gan y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG).

Darllen mwy am y broses ar gyfer gwneud penderfyniadau.

Mae rhagor o ganllawiau i gyllidwyr ar sut mae dangos eu bod yn bodloni’r meini prawf asesu hyn ar gael.

Cynghorir ymgeiswyr yn gryf i ddarllen y canllawiau ategol yn ofalus cyn dechrau ar eu ceisiadau.

Meini prawf porth y DU gyfan.

Bydd pob cais yn mynd drwy feini prawf asesu porth pasio/methu.

Rhaid anfon pob cais erbyn 13 Awst 2021 a rhaid cwblhau ffurflenni cais yn llawn.

Bydd proses hidlo gychwynnol yn asesu’r meini prawf porth canlynol ar sail pasio neu fethu. Ni fydd ymgeiswyr sy’n methu ag arddangos y rhain yn mynd ymlaen i’r cam nesaf.

Mae’r meini prawf porth ar gyfer y cylch cyllido cyntaf fel a ganlyn:

  • mae’r ased o fewn y cwmpas ac yn gymwys am fuddsoddiad (gweler ‘Yr hyn y byddwn yn ei gyllido’). Cynghorir ymgeiswyr yn gryf i wirio bod eu prosiect yn gymwys cyn ymgeisio. Rhaid bod yr ased neu’r amwynder cymunedol mewn perygl o gael ei golli, a rhaid cael tystiolaeth ategol i gefnogi hyn.

  • mae siawns realistig o brynu neu drosglwyddo’r ased o fewn chwe mis i’r cais. Dylai ymgeiswyr allu dangos y byddent yn gallu gwario cyllid cyfalaf o fewn chwe mis i’w cais.

  • mae’r ymgeisydd yn gymwys. Rhaid i geisiadau gael eu gwneud gan sefydliad corfforedig cymwys (gweler 2.3). Ni fyddwn yn cyllido ceisiadau gan sefydliadau anghorfforedig, unigolion preifat, cynghorau plwyf nac awdurdodau lleol.

Darllen y nodiadau cyfarwyddyd ar y ffurflen gais am ragor o wybodaeth i ymgeiswyr ynglŷn â’r math o dystiolaeth y gallant ei darparu i arddangos bod yr ased neu’r amwynder cymunedol mewn perygl ac â siawns gwirioneddol o gael ei brynu.

Rhestr meini prawf

Ein blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi yn y cylch ymgeisio 1af yw buddsoddi mewn prosiectau a sefydliadau cymunedol hyfyw ac o ansawdd da, yn barod i gymryd perchnogaeth a rheolaeth o ased cymunedol a’i redeg fel busnes cymunedol cynaliadwy.

Bydd ceisiadau ar gyfer cyllid prosiect yn cael eu hasesu ar sail y 4 maen prawf canlynol:

1.Achos strategol: dylai ymgeiswyr ddangos y byddai’r ased, heb ymyrraeth, yn cael ei golli i’r gymuned, yr effeithiau y byddai hyn yn eu cael a’r gefnogaeth sydd ganddynt gan y gymuned a phartneriaid eraill.

2.Achos rheoli: dylai ymgeiswyr ddangos amcanion ac ymarferoldeb y prosiect a sut y bydd yr ased neu amwynder yn cael ei redeg yn gynaliadwy.

3.Potensial i ddarparu budd i’r gymuned: gan ddefnyddio’r fframwaith canlyniadau, dylai ymgeiswyr ddangos sut y bydd yr ased yn darparu buddion i’r gymuned o dan berchnogaeth gymunedol.

4.Gwerth ychwanegol yr ased cymunedol yn seiliedig ar angen cymunedol: gan ddefnyddio gwybodaeth a data lleol ynghylch angen cymunedol, dylai ymgeiswyr allu dangos gwerth ychwanegol yr ased neu amwynder cymunedol i’r gymuned.

1. Achos strategol

Bydd yr achos strategol yn cyfrif am 30% o gyfanswm yr asesiad a bydd yn cynnwys:

Yr achos dros ymyrraeth gan y gymuned

Yn cynnwys gwerthusiad o’r risg sy’n wynebu’r ased, pwysigrwydd yr ased i’r gymuned, sut y byddai’n cael ei golli i’r gymuned, heb ymyrraeth, a’r effeithiau y byddai hyn yn eu cael.

Cefnogaeth y gymuned

Cefnogaeth amlwg gan y gymuned i’r prosiect, yn cynnwys tystiolaeth o ymgysylltiad â’r gymuned sydd wedi siapio cynigion.

Partneriaethau lleol a chysylltiadau â chynlluniau lleol eraill

Gallai hyn gynnwys cefnogaeth rhanddeiliaid o’r cyngor, neu dystiolaeth o sut mae’r prosiect yn cyfrannu at gynlluniau neu strategaethau lleol ehangach.

Cynaliadwyedd amgylcheddol

Rydym yn croesawu prosiectau a all gefnogi’r daith at sero-net ac yn ymgorffori dulliau di-garbon neu garbon isel. Rydym hefyd yn croesawu prosiectau sy’n ystyried eu heffaith ar yr amgylchedd naturiol a mesurau lliniaru priodol.

2. Achos rheoli

Bydd yr achos rheoli yn cyfrif am 30% o gyfanswm yr asesiad a bydd yn arddangos sut y bydd yr ased yn cael ei redeg yn gynaliadwy yn nwylo’r gymuned. Bydd yn cynnwys:

Hyfywedd ariannol y model busnes

Bydd angen i ymgeiswyr gynnwys cynllun busnes llawn a fydd yn arddangos ystyriaeth o risgiau a thargedau cyflawnadwy, cynlluniau ar gyfer cynhyrchu incwm a darparu adnoddau ar gyfer rheoli’r ased. Dylai ddangos sut y bydd y model yn hyfyw yn ystod y blynyddoedd cyntaf o weithredu.

Rhaid i bob prosiect allu dangos sut y byddant yn gynaliadwy heb ragor o fuddsoddiad gan y llywodraeth, yn cynnwys sut y byddai unrhyw gymorth refeniw ar gyfer y flwyddyn gyntaf o weithredu yn cefnogi’r ased i redeg yn gynaliadwy.

Bydd asesiad risg o’r ased, yn cynnwys cyflwr atgyweirio, rhwymedigaeth a statws perchnogaeth, yn ofynnol. Dylai ymgeiswyr arddangos eu bod wedi gwerthuso’r risgiau hyn yn llawn a chymryd camau i’w lliniaru.

Cyllid cyfatebol a chostau llawn y prosiect

Bydd angen i ymgeiswyr ddarparu manylion am gostau llawn y prosiect, yn cynnwys dadansoddiad o gostau yr ymgeiswyd amdanynt drwy’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. Os yw ymgeiswyr yn ymgeisio am gyllid refeniw cyn caffael, bydd angen iddynt ddarparu cynllun cyllid ar gyfer defnyddio cyfalaf o fewn chwe mis i’r cais.

Gellir ymrwymo cyllid gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ‘mewn egwyddor’, cyn i ymgeiswyr sicrhau grantiau neu fenthyciadau eraill.

Fodd bynnag, ar gyfer y cylch cyllido cyntaf, rhaid i ymgeiswyr allu arddangos y bydd ganddynt gyllid cyfatebol llawn yn ei le o fewn chwe mis i’w cais.

Sgiliau ac adnoddau sy’n ofynnol i reoli’r prosiect

Sut y bydd y sefydliad yn cyflawni amcanion arfaethedig y prosiect. Gallai hyn gynnwys tystiolaeth o allu a hanes blaenorol.

Rheolaeth, atebolrwydd a chynhwysiant y gymuned

Dylai ymgeiswyr arddangos eu bod yn atebol i’r gymuned a gynrychiolant. Rhaid i ymgeiswyr ddangos hefyd eu bod wedi ystyried sut y bydd yr ased cymunedol yn hygyrch a chynhwysol i holl aelodau’r gymuned, yn cynnwys grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, sut maent wedi ystyried cefnogi ystod amrywiol o bobl i ddefnyddio’r ased, a sut y byddai hyn yn cefnogi integreiddiad yn yr ardal leol.

3. Potensial i ddarparu budd i’r gymuned

Bydd y potensial i ddarparu budd i’r gymuned yn cyfrif am 30% o gyfanswm yr asesiad.

Dylai ymgeiswyr allu darparu manylion ynglŷn â sut y bydd buddion cymunedol yr ased yn cael eu cynnal a gwella drwy berchnogaeth gymunedol. Dylai’r buddion hyn ymwneud ag un neu fwy o’r buddion cymunedol a amlinellir yn fframwaith canlyniadau COF, yn cynnwys:

  • cynyddu ymdeimlad o falchder a gwella canfyddiadau o’r ardal leol fel lle i fyw

  • gwella ymddiriedaeth gymdeithasol, cydlyniad ac ymdeimlad o berthyn ar draws y gymuned gyfan

  • cynyddu cyfranogiad lleol ym mywyd y gymuned, y celfyddydau a diwylliant a/neu chwaraeon

  • creu canlyniadau economaidd lleol eraill - yn cynnwys creu swyddi, cyfleoedd gwirfoddoli a gwella cyflogadwyedd a lefelau sgiliau

  • creu canlyniadau llesiant a chymdeithasol eraill - yn cynnwys gwella iechyd meddwl a/neu gorfforol a lleihau unigedd ac arwahanrwydd cymdeithasol

Dylai ymgeiswyr ddangos pa grwpiau yn y gymuned sy’n defnyddio’r ased neu amwynder ar hyn o bryd, a sut y byddent yn elwa ar amddiffyn yr ased. Rhaid i ymgeiswyr ddangos sut y bydd yr ased yn gynhwysol ac yn darparu buddion i aelodau’r gymuned ehangach o dan berchnogaeth gymunedol.

Efallai fod un prif grŵp o fuddiolwyr o fewn y gymuned sy’n elwa’n bennaf ar yr ased, ond bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus arddangos bod yr ased yn gwasanaethu’r gymuned ddaearyddol ehangach ac nid cymuned o ddiddordeb yn unig.

4. Gwerth ychwanegol yr ased cymunedol yn seiliedig ar angen cymunedol

Bydd gwerth ychwanegol yr ased cymunedol yn seiliedig ar angen cymunedol yn cyfrif am 10% o gyfanswm yr asesiad.

Bydd angen i ymgeiswyr ddarparu asesiad o werth ychwanegol yr ased yn seiliedig ar angen cymunedol yn defnyddio ystadegau cymdogaeth lleol, yn cynnwys data perthnasol lleol sy’n helpu i arddangos pam mae’r ased yn bwysig i’r angen cymunedol.

Er enghraifft, gallai ymgeiswyr ddefnyddio pyrth IMD unigol i werthuso eu hangen perthynol a dangos sut y gallai’r ased a phrosiect fynd i’r afael â her benodol ar gyfer eu lle - er enghraifft, iechyd neu gyflogaeth. Dylai ymgeiswyr ystyried ystod o heriau lleol megis cysylltiadau trafnidiaeth a mynediad at asedau.

Mae rhagor o ganllawiau ar sut mae arddangos y meini prawf asesu hyn, yn cynnwys drwy’r fframwaith canlyniadau, ar gael yn ein nodiadau cyfarwyddyd llawn.

Amodau dyfarniad cyfalaf

Cyn i ni ryddhau ceisiadau cyllid cyfalaf, bydd angen i chi arddangos prawf o berchnogaeth neu lesddaliad (o 25 mlynedd o leiaf) mewn egwyddor.

Bydd dogfennau eraill sy’n ofynnol cyn cael mynediad at gyllid (os nad ydynt eisoes wedi’u cyflenwi fel rhan o’r cais llawn) yn cynnwys:

  • prisiad annibynnol o’r adeilad
  • arolwg strwythurol annibynnol
  • tystiolaeth o unrhyw ganiatâd cynllunio, trwyddedu a threfniadau caniatâd eraill wedi’u sicrhau

Bydd angen i bob ymgeisydd fodloni’r rhwymedigaethau yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, ac ystyriaethau cydraddoldeb eraill sy’n berthnasol yng Ngogledd Iwerddon.

Bydd camau diwydrwydd dyladwy llawn yn cael eu cymryd ar y prosiect ac ymgeisydd ar ôl i geisiadau gael eu cyflwyno a chyn rhyddhau unrhyw gyllid.

Arian cymorth/Cymorth Gwladwriaethol

Os defnyddir y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol i roi arian cymorth, rhaid i’r gwariant gydymffurfio â rhwymedigaethau’r DU ynghylch rheolaeth arian cymorth.

Rhaid i bob cais a ystyrir ar gyfer arian cymorth ystyried sut y bydd yn cyflawni yn unol â rheolaeth arian cymorth (neu Gymorth Gwladwriaethol am gymorth yng nghwmpas Protocol Gogledd Iwerddon). Dylai ymgeiswyr gyfeirio at ganllawiau llywodraeth y DU ar arian cymorth.

Rhaid i bob cynnig a gefnogir gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol gydymffurfio â phob deddfwriaeth berthnasol y Deyrnas Unedig.

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Fel corff y sector cyhoeddus, mae’n ofynnol i’r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. I sicrhau ein bod yn ystyried effaith bosibl y cyllid ar unigolion gyda nodweddion gwarchodedig, byddwn yn rhoi ystyriaeth ddyledus i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ar adegau penderfynu allweddol.

Cydnabyddwn bwysigrwydd nid yn unig bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ond hefyd rhoi ystyraeth ddyledus i’r ystyriaethau cydraddoldeb ychwanegol sy’n berthnasol yng Ngogledd Iwerddon.

Gwneud penderfyniadau

Bydd penderfyniadau ynghylch cyllid yn cael eu gwneud gan Weinidogion MHCLG, gan ddilyn cyngor gan swyddogion a Gweinidogion o adrannau perthnasol eriall y llywodraeth.

Bydd pob cais sy’n pasio’r broses hidlo gychwynnol yn cael ei sgorio gan swyddogion MHCLG yn erbyn y meini prawf asesu. Ceisir cyngor ar asesu ceisiadau gan swyddogion o adrannau eraill y llywodraeth a gweinyddiaethau datganoledig, er enghraifft i gynghori ar geisiadau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn cynghori ar geisiadau yn ymwneud â chwaraeon, diwylliant, y celfyddydau a threftadaeth.

Bydd swyddogion yn rhoi rhestr fer o geisiadau sydd i gyd yn bodloni’r meincnod ac y bernir bod modd eu cyllido yn seiliedig ar eu sgorau yn erbyn y meini prawf asesu, i Weinidogion.

Bydd Ysgrifennydd Gwladol MHCLG yn gwneud penderfyniad ynghylch pa rai o’r prosiectau hyn ar y rhestr fer fydd yn cael eu cyllido. Bydd yn arfer disgresiwn ar y rhestr ganlynol o ffactorau yn unig, gan sicrhau:

  • gwasgariad cytbwys o leoliadau prosiect ar draws pob rhan o’r Deyrnas Unedig
  • gwasgariad cymesur o ran lleoliadau prosiect rhwng ardaloedd gwledig a threfol
  • rhaniad thematig rhesymol o fathau o asedau yn cael eu cefnogi gan y rhaglen

Bydd yn ceisio cyngor gan Banel Adolygu Gweinidogol ar y rhestr fer hon o geisiadau. Bydd y Panel yn cynnwys gweinidogion o MHCLG, y Trysorlys, a DCMS.

Bydd y Panel yn gwneud argymhellion ar geisiadau, yn seiliedig ar y 4 ffactor a amlinellir uchod. Lle mae prosiectau wedi’u lleoli yn etholaeth Gweinidog, byddant yn tynnu eu hunain o’r drafodaeth a phroses gwneud penderfyniadau a byddant yn gallu dirprwyo i Weinidog arall yn yr adran honno.

Monitro a gwerthuso

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus gydymffurfio â gofynion monitro a gwerthuso’r rhaglen, a fydd yn cael eu hamlinellu’n llawn pan fydd y gronfa yn agor ar gyfer ceisiadau.

Gofynion monitro a gwerthuso

Bydd cynnydd prosiectau yn cael ei fonitro bob chwarter o leiaf, yn unol â cherrig milltir cytunedig. Bydd datganiad o ddefnydd o’r grant a archwilir yn annibynnol gan gyfrifydd ar gyfer ein prosesau sicrwydd, yn unol â cherrig milltir cytunedig y prosiect, yn ofynnol.

Bydd cyfrifon ariannol yn ofynnol 6 mis ar ôl cwblhau’r prosiect, a hyd at 3 blynedd ar ôl hynny.

Bydd data effaith ar eich prosiect yn ofynnol ar ôl 1 flwyddyn. Bydd templed a chanllawiau safonol yn cael eu darparu i’ch cefnogi i arddangos effaith eich prosiect a chyflawni yn erbyn eich cynllun busnes gwreiddiol.

Gallai hyn gynnwys:

  • diogelu a gwella defnydd o ased cymunedol
  • cefnogi sefydliadau a busnesau cymunedol
  • creu swyddi a chyfleoedd gwirfoddoli
  • mathau o wasanaethau, asedau ac amwynderau wedi’u sefydlu o fewn yr ased
  • gwelliannau o ran mynediad at wasanaethau

Bydd templedi a chanllawiau ar gael i gefnogi casglu data ansoddol a meintiol i arddangos effaith.

Ein hymagwedd at werthuso cenedlaethol

Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod pwysigrwydd canolog gwerthuso o safon uchel, sy’n hanfodol i ddeall beth sy’n gweithio. I gefnogi hyn, ar lefel genedlaethol rydym yn datblygu ein strategaeth gwerthuso rhaglen a fydd yn cael ei chyhoeddi yn yr hydref.

Bydd y gwerthusiad hwn yn ein helpu i ddeall llwyddiant y rhaglen, beth sy’n gweithio’n dda mewn prosiectau perchnogaeth gymunedol llwyddiannus, ac yn helpu i lywio penderfyniadau buddsoddi yn y dyfodol.

Bydd ein hymagwedd at werthuso’r rhaglen yn defnyddio cyfuniad o ddata gweinyddol o fonitro’r rhaglen a gallai gynnwys arolygon lle ac astudiaethau achos ar lefel prosiect. Bydd y rhain yn ein helpu i werthuso llwyddiant a gwerth am arian y rhaglen yn erbyn y meini prawf canlynol:

  • nifer yr asedau wedi’u cefnogi drwy’r rhaglen
  • cyfradd oroesi asedau cymunedol - mesurir hyn gan y nifer sy’n dal i weithredu o dan berchnogaeth gymunedol ar ôl blwyddyn
  • lefelau o ddefnydd cynyddol o asedau cymunedol, a gwasanaethau ac amwynderau cysylltiedig - mesurir hyn gan nifer yr ymwelwyr, tenantiaethau cynyddol a/neu ddefnydd o grŵp cymunedol
  • lefelau o deimladau cynyddol o falchder a gwella canfyddiadau o’r ardal leol fel lle i fyw
  • lefelau o ymddiriedaeth gymdeithasol, cydlyniad ac ymdeimlad cynyddol o berthyn ar draws y gymuned gyfan
  • lefelau o gyfranogiad lleol cynyddol ym mywyd y gymuned, y celfyddydau a diwylliant a chwaraeon
  • effaith ar ganlyniadau economaidd eraill yn cynnwys:

    • swyddi wedi’u hachub a/neu greu
    • cyfleoedd gwirfoddoli newydd
    • gwelliannau o ran cyflogaeth
    • lefelau sgiliau yn lleol
  • effaith ar ganlyniadau cymdeithasol eraill: yn cynnwys gwella iechyd meddwl a/neu gorfforol a lleihau unigedd ac arwahanrwydd cymdeithasol

Rhestr termau

Trosglwyddo Ased Cymunedol

Ledled y Deyrnas Unedig, mae fframweithiau polisi Trosglwyddo Ased Cymunedol (CAT) yn cefnogi trosglwyddo asedau cymunedol o awdurdodau cyhoeddus i sefydliadau cymunedol. Mae’r ddeddfwriaeth a chyd-destunau polisi yn gweithio fymryn yn wahanol ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Lloegr

Asedau o Werth Cymunedol

Yn Lloegr, cyflwynodd Deddf Lleoliaeth 2011 yr hawl i grwpiau cymunedol enwebu adeiladau neu dir i’w hawdurdod lleol fel ased o werth cymunedol. Pe bai’r awdurdod lleol yn cytuno bod yr enwebiad yn bodloni’r prawf o fod yn dir o werth cymunedol, byddai’r cyngor yn gosod yr ased ar y rhestr o asedau o werth cymunedol am gyfnod o 5 mlynedd.

Cyflwynodd hyn hawl y gymuned i ymgeisio. Os yw perchennog ased wedi’i restru yn penderfynu eu bod yn dymuno gwerthu’r ased yn ystod y cyfnod rhestru o 5 mlynedd, yna rhaid iddynt roi gwybod i’r awdurdod lleol a fyddai’n rhoi gwybod i’r grŵp cymunedol a enwebodd. Yna byddai gan y grŵp yr hawl i sbarduno moratoriwm hyd at 6 mis i godi’r arian ar gyfer prynu. Ar ddiwedd y cyfnod moratoriwm mae perchennog yr ased yn rhydd i werthu i bwy bynnag a ddymunant.

Yn Lloegr mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am reoli eu cynllun ased o werth cymunedol eu hunain.

Cymru a Lloegr

Mae Deddf Llywodraeth Leol 1972: Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003 yn galluogi awdurdodau lleol i drosglwyddo asedau i berchnogaeth gymunedol, am bris is na gwerth y farchnad neu ddim cost, ar sail y rhagdybiaeth o sicrhau budd cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol hirdymor. Gall fod gan awdurdodau lleol unigol eu polisïau CAT eu hunain sy’n pennu’r amcanion a phrosesau penodol ar gyfer yr ardal leol honno.

Yr Alban

Mae Deddf Grymuso’r Gymuned (2015) yn rhoi’r hawl i gyrff cymunedol wneud ceisiadau i bob awdurdod lleol, Gweinidogion yr Alban ac ystod o gyrff cyhoeddus am unrhyw dir neu adeiladau y teimlant y gallent wneud defnydd gwell ohonynt.

Gogledd Iwerddon

Mae fframwaith polisi Trosglwyddo Ased Cymunedol (2014) yn amlinellu’r broses ar gyfer newid rheolaeth a/neu berchnogaeth o dir neu adeiladau, gan gyrff cyhoeddus i gymunedau. Mae’r fframwaith wedi’i ddatblygu fel arf ar gyfer buddsoddi mewn adfywio a chanlyniadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cadarnhaol.

Termau allweddol eraill

Lesddaliad

Yr hawl, a amlinellir mewn contract, i feddiannu tir neu adeilad am gyfnod penodol o amser.

Rhydd-ddaliad

Perchnogaeth lwyr o dir a/neu eiddo.

Gwaith cyfalaf

Cyfeiria at y gwaith adeiladu a all fod yn ofynnol ar yr ased i ailwampio, er enghraifft ar gyfer newid defnydd yr ased.

Rhent hedyn pupur

Cytundeb rhentu ar les lle mae’r ffi yn nominal. Gall hyn fod yn gytundeb cyffredin ar gyfer les hirdymor i’r gymuned fel rhan o Drosglwyddo Ased Cymunedol.

Cyn yr astudiaeth ddichonoldeb

Prosiect sydd eto i gwblhau gwaith dichonoldeb manwl (gweler isod) a’r cymorth a all fod yn ofynnol i helpu i brofi syniadau cychwynnol a datblygu opsiynau ar gyfer cynllun busnes.

Astudiaeth ddichonoldeb

Dadansoddiad sy’n profi gallu’r prosiect i gyflawni ei amcanion. Dylai brofi’r cyd-destun ac adnoddau y mae’r prosiect yn gweithredu ynddynt, yn cynnwys dadansoddiad o’r farchnad, ac a yw’r galluoedd ariannol, technegol a rheolaethol yn ddigon cryf i gyflawni’r ystod o ddefnydd a fwriadwyd ar gyfer yr ased. Dylid profi hyfywedd a chynaliadwyedd y prosiect yn yr hirdymor. Dylid defnyddio astudiaethau dichonoldeb i ddatblygu cynllun busnes cryf.

Model busnes

Model a ddefnyddia’r sefydliad i gynhyrchu incwm neu werth o’i weithgareddau. Gallai hyn gynnwys gwerthu nwyddau a gwasanaethau, contractau darparu neu incwm rhent.

Cyfalaf gweithio

Cyllid gweithredol sy’n ofynnol i dalu’r costau yn ystod camau cynnar masnachu, wrth i’r model busnes ennill ei blwyf, a gweithgareddau ddatblygu. Dylai prosiectau ddisgwyl allu talu am golledion yn y cyfnod cynnar hwn, wrth i ffynonellau incwm dyfu, a dylent gynllunio ar gyfer digon o gyfalaf gweithio i sicrhau bod arian digonol i dalu cyflogau, anfonebau a chostau eraill.