Dileu o’r gofrestr, diddymu ac adfer
Diweddarwyd 1 Mai 2024
1. Ynghylch y canllawiau hyn
Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut y gallwch ddileu enw’ch cwmni o’r gofrestr o gwmnïau a’i adfer iddi. Fe welwch chi’r gyfraith berthnasol yn rhan 31 o Ddeddf Cwmnïau 2006.
Bydd y canllaw hwn yn berthnasol i chi:
- os ydych yn dymuno diddymu cwmni
- os ydych yn dymuno adfer cwmni i’r gofrestr
ac rydych:
- yn gyfarwyddwr neu’n ysgrifennydd cwmni
- yn gweithredu fel cynghorydd i gwmni
Mae’r wybodaeth a roddir yn y canllaw hwn wedi’i bwriadu ar gyfer yr amgylchiadau mwyaf cyffredin o ran dileu cwmni cyfyngedig o’r gofrestr, ei ddiddymu a’i adfer i’r gofrestr. Nid ydym wedi drafftio’r canllaw gyda thrafodion anarferol na chymhleth mewn golwg. Os ydych yn ansicr o gwbl ynghylch eich cyfrifoldebau ar ôl darllen y canllaw hyn, dylech ystyried ceisio cyngor proffesiynol.
2. Pryd y gall cwmni wneud cais i gael ei ddileu o’r gofrestr
Caiff cwmni wneud cais i’r cofrestrydd am gael ei ddileu o’r gofrestr a’i ddiddymu. Mae’r cwmni’n cael gwneud hyn os nad oes angen y cwmni mwyach.
Er enghraifft:
- efallai y bydd y cyfarwyddwyr am ymddeol ac nad oes neb ar gael i gymryd eu lle
- mae’r cwmni yn is-gwmni nad oes angen ei enw mwyach
- cafodd y cwmni ei sefydlu yn wreiddiol i fanteisio ar syniad nad oedd yn ymarferol yn y pen draw
Mae rhai cwmnïau sy’n segur neu’n ddi-fasnach yn dewis gwneud cais i gael eu dileu o’r gofrestr. Os ydych chi wedi penderfynu nad ydych eisiau cadw’ch cwmni mwyach ac eisiau iddo gael ei ddileu o’r gofrestr, fel arfer ni fydd y cofrestrydd yn mynd ar ôl unrhyw gosbau am ffeilio’n hwyr sy’n ddyledus oni fyddwch yn adfer y cwmni i’r gofrestr yn ddiweddarach.
Dydy’r weithdrefn hon ddim yn ddewis arall yn lle achos ansolfedd ffurfiol lle bo’n briodol. Hyd yn oed os caiff y cwmni ei ddileu o’r gofrestr a’i ddiddymu, fe allai credydwyr ac eraill wneud cais am i’r cwmni gael ei adfer i’r gofrestr.
3. Pryd na all cwmni wneud cais i gael ei ddileu o’r gofrestr
Dim ond gan gwmni y caiff wneud cais am ddileu enw o’r Gofrestr yn wirfoddol, a rhaid i’r cyfarwyddwyr neu fwyafrif ohonyn ei wneud ar ran y cwmni.
Mae adrannau 1004 a 1005 o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn nodi o dan ba amgylchiadau na chaiff y cwmni wneud cais am gael ei ddileu o’r gofrestr.
Er enghraifft, chaiff y cwmni ddim gwneud cais am gael ei ddileu o’r gofrestr yn wirfoddol os yw wedi gwneud unrhyw un o’r canlynol yn ystod y tri mis diwethaf:
- wedi masnachu neu wedi gwneud busnes mewn modd arall
- wedi newid ei enw
- wedi cymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch arall ac eithrio gweithgarwch yr oedd ei angen er mwyn:
- gwneud cais am ddileu’r cwmni o’r gofrestr neu benderfynu a ddylid gwneud hynny; (er enghraifft, caiff cwmni geisio cyngor proffesiynol ynglŷn â’r cais neu dalu costau ynglyn â’r cais i gael ei ddileu o’r gofrestr.
- dod â materion y cwmni i ben company, megis setlo dyledion busnes neu fasnachu
- cydymffurfio ag unrhyw ofyniad statudol
- wedi cael gwared ar eiddo neu hawliau a oedd ganddo yn union cyn rhoi’r gorau i fasnachu neu gynnal busnes mewn modd arall i’w gwerthu er mwyn elwa yng nghwrs arferol y masnachu neu’r gwneud busnes mewn modd arall.
Er enghraifft, fyddai cwmni a oedd mewn busnes er mwyn gwerthu afalau ddim yn cael parhau i werthu afalau yn ystod y cyfnod hwnnw o dri mis, ond fe allai werthu’r lori yr oedd yn arfer ei defnyddio i gludo’r afalau neu’r warws lle caent eu storio.
Chaiff cwmni ddim gwneud cais am ddileu ei enw o’r gofrestr os yw’n destun y canlynol, neu’n destun arfaethedig y canlynol:
- unrhyw achos ansolfedd megis ymddatod, gan gynnwys lle mae deiseb wedi’i chyflwyno ond heb gael ei thrin eto
- gynllun adran 895 (sef cyfaddawd neu drefniant rhwng cwmni a’i gredydwyr neu ei aelodau)
Ni all cwmni wneud cais i gael ei ddileu o’r Gofrestr os yw wedi dyroddi cyfrannau dygiedydd. Cyfrannau dygiedydd yw lle mae gwarant wedi cael ei dyroddi mewn perthynas â chyfrannau ac nad oes unrhyw gyfranddeiliad cofrestredig ar y gofrestr aelodau. Cewch weld rhagor o amgylchiadau lle na chewch wneud cais yn adrannau 1004 a 1005 o Ddeddf Cwmnïau 2006.
Byddwch yn cyflawni tramgwydd os torrwch y cyfyngiadau hyn.
4. Cyn ichi wneud cais i ddileu cwmni o’r gofrestr
Mae yna ddulliau diogelu i’r rhai y mae diddymu cwmni’n debyg o effeithio arnyn nhw. Os oes gan eich cwmni gredydwyr, aelodau etc, dylech rybuddio’r pobl angenrheidiol i gyd cyn ichi wneud cais, a hynny am fod modd i unrhyw un ohonyn nhw wrthwynebu dileu’r cwmni o’r gofrestr. Dylech dacluso unrhyw fanion, megis cau cyfrif banc y cwmni, trosglwyddo enwau parth cyn ichi wneud eich cais.
Gallwch roi gwybod i unrhyw sefydliad neu barti arall a all fod â buddiant ym materion y cwmni, neu fel arall fe allen nhw wrthwynebu’r cais yn nes ymlaen. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, awdurdodau lleol, yn enwedig os yw’r cwmni o dan rwymedigaeth mewn cysylltiad â chaniatâd cynllunio neu faterion iechyd a diogelwch, cynghorau hyfforddiant a menter ac asiantaethau’r llywodraeth.
Os ydych yn gyfarwyddwr ni ddylech ymddiswyddo cyn gwneud cais i ddileu cwmni o’r gofrestr gan fod yn rhaid ichi fod yn gyfarwyddwr ar yr adeg y daw’r cais i law’r Cofrestrydd.
O ddyddiad y diddymu ymlaen, caiff cyfrif banc y cwmni ei rewi a bydd unrhyw gredyd sy’n weddill yn y cyfrif yn cael ei drosglwyddo i’r Goron . Bydd unrhyw asedau a oedd gan gwmni a gafodd ei ddiddymu yn perthyn i’r Goron hefyd.
5. Sut i wneud cais i ddileu cwmni o’r gofrestr a phwy i ddweud wrtho
Rhaid ichi lenwi ffurflen DS01c – Cais cwmni am gael ei ddileu o’r gofrestr.
Rhaid i’r ffurflen gael ei llofnodi a’i dyddio gan:
- yr unig gyfarwyddwr, os un cyfarwyddwr sydd
- gan y ddau gyfarwyddwr, os dau sydd
- gan y cyfan, neu’r mwyafrif o’r cyfarwyddwr, os oes mwy na dau
Bydd yn helpu Tŷ’r Cwmnïau os gallwch roi enw, cyfeiriad a rhif ffôn y sawl y dylen ni gysylltu â nhw os bydd gennyn ni unrhyw ymholiadau am y cais. Bydd yr wybodaeth hon i’w gweld ar gofnod cyhoeddus y cwmni ar ôl inni gofrestru’r ffurflen.
Yn dibynnu ble mae’r cwmni wedi’i gofrestru, ar ôl ei llenwi dylech anfon y ffurflen, ynghyd â’r ffi o £44, i Dŷ’r Cwmnïau, Caerdydd, Caeredin neu Belfast.. Gwnewch sieciau’n daladwy i ‘Tŷ’r Cwmnïau’ ac ysgrifennwch rif y cwmni ar y cefn. Ni ddylai sieciau fod yn daladwy o gyfrif y cwmni sy’n gwneud cais am ddileu o’r gofrestr.
Mae ffi o £44 yn daladwy i dalu cost darparu’r gwasanaeth. Ni chaiff y ffi ei had-dalu os caiff y cais ei dynnu’n ôl ar ôl iddo gael ei gofrestru. Bydd ffi arall yn daladwy am gais newydd.
5.1 I bwy mae’n rhaid roi gwybod iddo
O fewn saith diwrnod ar ôl anfon y cais at y cofrestrydd, rhaid i’r cyfarwyddwyr sy’n gwneud y cais anfon copi at * aelodau, sef y cyfranddeiliaid fel arfer * credydwyr, gan gynnwys yr holl gredydwyr digwyddiadol (presennol) a’r holl ddarpar gredydwyr (rhai tebygol) megis: * banciau * cyflenwyr * cyn-weithwyr os oes ar y cwmni arian iddyn nhw * landlordiaid neu denantiaid (er enghraifft, os oes bond i’w ad-dalu) guarantors * hawlwyr anaf personol * Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC), a’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) * gweithwyr * rheolwyr neu ymddiriedolwyr unrhyw gronfa pensiwn gweithwyr * unrhyw gyfarwyddwyr sydd heb lofnodi’r ffurflen
Rhaid i gyfarwyddwyr y cwmni hefyd anfon copi o’r cais at unrhyw berson sydd, ar unrhyw adeg ar ôl i’r cais gael ei wneud, yn dod yn:
- cyfarwyddwr
- aelod
- credydwr
- gweithiwr
- rheolwr neu’n ymddiriedolwr ar unrhyw gronfa pensiwn
Rhaid gwneud hyn cyn pen 7 diwrnod ar ôl i’r person ddod yn un o’r rhain.
Mae’r rhwymedigaeth hon yn parhau nes i’r cwmni gael ei ddileu neu nes i’r cais gael ei dynnu’n ôl. Byddwch yn cyflawni tramgwydd os na fyddwch yn anfon yr hysbysiad at y partïon perthnasol.
5.2 Sut dylwn i roi gwybod i’r amrywiol bartïon ynghylch y cais i ddileu cwmni o’r gofrestr.
Cewch bostio copi o Ffurflen DS01c, ‘Cais cwmni am gael ei ddileu o’r gofrestr’ neu adael copi at:
- y cyfeiriad hysbys diwethaf (yn achos unigolyn)
- y brif swyddfa / y swyddfa gofrestredig (yn achos cwmni neu gorff arall)
Caniateir hefyd ichi roi gwybod am y cais i gredydwr i’r cwmni drwy adael copi ohono yn, neu bostio copi ohono at y lle busnes y mae’r cwmni wedi delio ag ef mewn perthynas â’r dyledion cyfredol, er enghraifft y gangen lle’r archebwyd nwyddau gennych neu a roddodd anfoneb ichi.
Os oes mwy nag un lle busnes o’r fath, dylech anfon copi o’r cais i bob un o’r lleoedd hyn. Mae’n ddoeth cadw prawf eich bod wedi’i anfon neu wedi’i bostio.
6. Beth mae Tŷ’r Cwmnïau’n ei wneud gyda’r cais i ddileu cwmni o’r gofrestr
Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn edrych ar y ffurflen ac, os yw’n dderbyniol, byddwn:
- yn cofrestru’r wybodaeth, a’i gosod ar gofnod cyhoeddus y cwmni
- yn anfon nodyn cydnabod i’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen
- yn anfon nodyn cydnabod i’r cwmni i gyfeiriad ei swyddfa gofrestredig er mwyn iddo wrthwynebu os yw’r cais yn un ffug
- yn cyhoeddi hysbysiad ynghylch y bwriad i ddileu enw’r cwmni o’r gofrestr yn y Gazette er mwyn caniatáu i bartïon sydd â buddiant ynddo wrthwynebu
- gosod copi o’r hysbysiad yn y Gazette ar gofnod cyhoeddus y cwmni
Os nad oes rheswm i ohirio, bydd y cofrestrydd yn dileu enw’r cwmni o’r gofrestr heb fod yn llai na 2 mis ar ôl dyddiad yr hysbysiad. Caiff y cwmni ei ddiddymu pan gaiff hysbysiad arall ei gyhoeddi i ddatgan hynny yn y Gazette perthnasol.
7. Sut mae’r Gazette yn cyhoeddi hysbysiadau ynghylch dileu cwmni o’r gofrstr neu ei adfer i’r gofrestr
Y Gazette yw’r cofnod papur newydd swyddogol yn y Deyrnas Unedig. Mae tri ohonyn nhw:
- y London Gazette, ar gyfer cwmnïau sydd wedi’u corffori yn Lloegr a Chymru
- yr Edinburgh Gazette, ar gyfer cwmnïau sydd wedi’u corffori yn yr Alban
- y Belfast Gazette, ar gyfer cwmnïau sydd wedi’u corffori yng Ngogledd Iwerddon
Pan fydd y cofrestrydd yn cyhoeddi hysbysiad i ddileu enw cwmni o’r gofrestr neu i’w adfer, bydd yr hysbysiad yn ymddangos yn y Gazette ar gyfer y rhan o’r Deyrnas Unedig y cafodd y cwmni ei ffurfio ynddi. Mae’r tri Gazette yn cael eu cyhoeddi bob wythnos ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Gazette.
8. Tynnu’n ôl y cais i ddileu cwmni o’r gofrestr
Os yw’r cwmni’n newid ei feddwl ac nad yw eisiau cael ei ddileu o’r gofrestr mwyach, neu os daw’r cwmni’n anghymwys i gael ei ddileu o’r gofrestr, rhaid i’r cyfarwyddwyr sicrhau y caiff y cais ei dynnu’n ôl ar unwaith drwy gwblhau’r ffurflen DS02 – Tynnu’n ôl gais cwmni am gael ei ddileu o’r gofrestr. Mae’n haws ac yn gyflymach i ffeilio’ch cais am dynnu’n ôl cais am gael ei ddileu o’r gofrestr ar lein.
Rhaid i gwmni dynnu’n ôl ei gais i gael ei ddileu o’r gofrestr ar unwaith os yw:
- yn masnachu neu’n gwneud busnes mewn modd arall
- yn newid ei enw
- am ryw werth, yn cael gwared ar unrhyw eiddo neu hawliau heblaw’r rhai yr oedd arno eu hangen er mwyn gwneud y cais neu fwrw ymlaen â’r cais (er enghraifft, caiff cwmni barhau â’r cais os bydd yn cael gwared ar ffôn yr oedd yn ei gadw i ddelio ag ymholiadau ynglŷn â’i gais)
- yn dod yn destun achos ansolfedd ffurfiol neu’n gwneud cais o dan adran 900 (cyfaddawd neu drefniant rhwng cwmni a’i gredydwyr)
- yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch arall, onid bai bod y gweithgarwch hwnnw’n angenrheidiol er mwyn
- gwneud cais am gael ei ddileu o’r gofrestr, neu fwrw ymlaen â’r cais hwnnw
- rhoi terfyn ar y materion hynny sydd heb eu bodloni am ei bod yn angenrheidiol neu’n gyfleus gwneud cais neu fwrw ymlaen â chais (megis talu costau rhedeg swyddfa wrth gwblhau ei faterion ac yna gwerthu’r swyddfa’n derfynol)
- cydymffurfio â gofyniad statudol
Caiff unrhyw gyfarwyddwr ffeilio’r cais i dynnu’n ôl y cais i ddileu o’r gofrestr i’r cofrestrydd trwy ddefnyddio ein gwasanaeth WebFiling. Neu fel arall, gellir tynnu’n ôl y cais trwy gyflwyno ffurflen bapur DS02c.
Mae Adran 1009 o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn cynnwys yr amgylchiadau llawn sy’n golygu bod rhaid ichi dynnu cais am ddileu yn ôl. Mae yna dramgwyddau sy’n gysylltiedig â methu â thynnu cais yn ôl.
9. Tramgwyddau a chosbau
Mae’n dramgwydd:
- gwneud cais pan fo’r cwmni’n anghymwys i’w ddileu
- rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol mewn cais neu i ategu cais
- peidio ag anfon copïau o’r cais at bob parti perthnasol o fewn saith diwrnod
- peidio â thynnu’r cais yn ôl os daw’r cwmni’n anghymwys
Bydd y tramgwyddau’n agored i ddirwy.ar gollfarniad diannod (gerbron llys ynadon neu Lys Siryf) neu ddirwy ddigyfyngiad ar dditiad (gerbron rheithgor). Os bydd y cyfarwyddwyr yn torri’r gofynion bod rhaid rhoi copi o’r cais i’r partïon perthnasol, gan wneud hynny gan fwriadu celu’r cais, fe allen nhw fod yn agored hefyd nid yn unig i ddirwy ond hefyd i garchar am hyd at saith mlynedd.
Gall unrhyw un sy’n cael ei gollfarnu am y tramgwyddau hyn gael ei anghymhwyso rhag bod yn gyfarwyddwr am hyd at 15 mlynedd hefyd.
Fodd bynnag, Cyn y gellir ystyried erlyn, fel awdurdod erlyn rhaid i’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol sicrhau ei bod yn cydymffurfio â’r Cod i Erlynwyr y Goron. Mae’r Cod yn ei wneud yn ofynnol i awdurdodau erlyn ystyried gwahanol faterion wrth benderfynu erlyn ai peidio. Gellir cael gwybodaeth bellach am y Cod yng nghyhoeddiad ‘Y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron’.
10. Cwmnïau nad ydynt yn cynnal busnes neu’n gweithredu mwyach
10.1 Pryd y bydd y cofrestrydd o bosibl yn dileu cwmni o’r gofrestr
Os nad yw cwmni’n cynnal busnes nac yn gweithredu, mae’n bosibl y bydd y cofrestrydd yn cymryd camau i ddileu cwmni o’r gofrestr.
Mae’n bosibl y bydd y cofrestrydd yn cymryd y camau hyn os oes ganddo achos rhesymol dros gredu nad yw’r cwmni’n cynnal busnes nac yn gweithredu. Fe allai’r cofrestrydd fod o’r farn hon:
- os nad yw wedi cael dogfennau oddi wrth y cwmni a ddylai fod wedi cael eu hanfon ato
- os bydd eitemau a anfonodd y cofrestrydd drwy’r post i swyddfa gofrestredig y cwmni yn cael eu dychwelyd heb eu dosbarthu
- os nad oes gan y cwmni gyfarwyddwyr
Cyn dileu enw cwmni o’r gofrestr, rhaid i’r cofrestrydd ysgrifennu dau lythyr ffurfiol ac anfon hysbysiad i swyddfa gofrestredig y cwmni i ofyn a yw’r cwmni yn dal i wneud busnes neu i weithredu. Os bydd yn fodlon nad yw, bydd yn cyhoeddi hysbysiad yn y Gazette perthnasol i ddatgan ei fod yn bwriadu dileu enw’r cwmni o’r gofrestr oni ddangosir rheswm iddo dros beidio.
Caiff copi o’r hysbysiad ei osod ar gofnod cyhoeddus y cwmni. Os na fydd y cofrestrydd yn gweld rheswm dros wneud fel arall, bydd yn dileu enw’r cwmni o’r gofrestr heb fod yn llai na 2 mis ar ôl dyddiad yr hysbysiad. Caiff y cwmni ei ddiddymu pan gaiff hysbysiad arall ei gyhoeddi i ddatgan hynny yn y Gazette perthnasol.
10.2 Sut y gallwch osgoi cael dileu’ch cwmni o’r gofrestr
Os ydych chi am i’ch cwmni aros ar y gofrestr, mae’n rhaid ichi ymateb yn brydlon i unrhyw lythyr ymholi ffurfiol oddi wrth y cofrestrydd a chyflwyno unrhyw ddogfennau sydd heb eu cyflwyno o’r blaen. Gall methu â chyflwyno’r dogfennau angenrheidiol arwain hefyd at erlyn y cyfarwyddwyr cwmni.
10.3 Asedau cwmni sy’n cael ei ddiddymu
O ddyddiad y diddymu ymlaen, bydd unrhyw asedau a oedd gan gwmni a gafodd ei ddiddymu yn ‘bona vacantia’. Ystyr lythrennol yr ymadrodd hwn yw “nwyddau gwag” a dyma’r enw technegol ar eiddo sy’n cael ei drosglwyddo i’r Goron am nad oes perchennog iddo yn y gyfraith. Caiff cyfrif banc y cwmni ei rewi a bydd unrhyw gredyd sy’n weddill yn y cyfrif yn cael ei drosglwyddo i’r Goron.
Dylech gyfeirio unrhyw ymholiadau am eiddo bona vacantia at y canlynol, fel y bo’n briodol:
Lleoliad y cwmni | Pwy i gysylltu |
---|---|
Os yw’r cwmni wedi’i gorffori yng Ngogledd Iwerddon | The Crown Solicitor, Royal Courts of Justice, Chichester Street, Belfast BT1 3JY |
Os yw’r cwmni wedi’i gorffori yn yr Alban | The King’s and Lord Treasurer’s Remembrancer (KLTR Unit), Scottish Government Building, 1B Bridge, Victoria Quay, Edinburgh EH6 6QQ |
Os yw swyddfa gofrestredig y cwmni yn Sir Gaerhirfryn | The Solicitor for the Affairs of the Duchy of Lancaster, Farrer & Co, 66 Lincoln’s Inn Fields, London WC2A 3LH |
Os yw swyddfa gofrestredig y cwmni yng Nghernyw neu Ynysoedd Scilly | The Solicitor for the Affairs of the Duchy of Lancaster, Farrer & Co, 66 Lincoln’s Inn Fields, London WC2A 3LH |
Ym mhob achos arall | The Government Legal Department, Bona Vacantia Division (BVD) , PO Box 70165, London WC1A 9HG |
11. Gwrthwynebu diddymu cwmni
Gall unrhyw barti â buddiant wrthwynebu cais cwmni i gael ei ddileu o’r gofrestr a’i ddiddymu.
Ni all y cofrestrydd ystyried gwrthwynebiad ond ar ôl i hysbysiad gael ei gyhoeddi yn y Gazette yn dangos bwriad y cofrestrydd i ddileu’r cwmni o’r gofrestr ar ôl i gyfnod o 2 fis ddod i ben.
Mae’n bwysig anfon unrhyw wrthwynebiad at y cofrestrydd cyn gynted ag sy’n bosibl ar ôl i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi yn y Gazette ac o leiaf pythefnos cyn y dyddiad y daw’r hysbysiad i ben.
11.1 Sut a pham y cyflwynir gwrthwynebiadau
Gallai’r rhesymau gynnwys:
- bod y cwmni wedi torri unrhyw un o amodau ei gais, (er enghraifft, ei fod wedi masnachu, wedi newid ei enw neu wedi mynd yn destun achos ansolfedd yn ystod y cyfnod o dri mis cyn y cais, neu wedyn)
- bod rhyw fath o gamau’n cael eu cymryd, neu yn yr arfaeth, i adennill unrhyw arian sy’n ddyledus (megis deiseb dirwyn i ben neu achos mewn llys hawliadau bychain)
- bod y cyfarwyddwyr heb roi gwybod i bartïon sydd â buddiant
- bod unrhyw un o’r datganiadau ar y ffurflen yn ffug
- bod achos cyfreithiol arall ar y gweill yn erbyn y cwmni
- bod y cyfarwyddwyr wedi masnachu ar gam neu wedi cyflawni twyll treth neu ryw dramgwydd arall
Mae rhestr lawn o’r amodau i’w gweld yn adrannau 1004 a 1005 o Ddeddf Cwmnïau 2006.
Rhaid i wrthwynebiadau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig. Y ffordd gyflymaf a mwyaf diogel i wrthwynebiad gael ei ystyried yw ei anfon drwy e-bost at dissobjections@companieshouse.gov.uk. Os ydych yn anfon eich gwrthwynebiad drwy’r post, gwnewch yn siŵr bod yr amlen wedi’i chyfeirio at yr Adran Ddiddymu. Dylid cynnwys tystiolaeth ategol.
Gwybodaeth am hygyrchedd (Saesneg yn unig)
Er enghraifft, os ydych chi’n cwyno bod y cwmni wedi masnachu yn ystod y tri mis cyn i’r cais i’w ddileu o’r gofrestr yn wirfoddol gael ei wneud, dylech ddarparu copi o dderbynneb / prawf o bryniant oddi wrth y cwmni cyfyngedig sydd wedi’i ddyddio o fewn 3 mis i’r cais gael ei wneud. Neu, os mai credydwr ydych chi, yna dylech ddarparu tystiolaeth eich bod wrthi’n mynd ar ôl dyled drwy ddarparu copïau o anfonebau a anfonwyd at y cwmni neu achos llys rydych wedi’i gychwyn i adennill y ddyled. Mewn achosion o’r fath, dylai’r dystiolaeth ategol ddangos enw llawn y cwmni cyfyngedig (gan gynnwys y geiriau cyfyngedig neu limited) a bod yn ddiweddar, fel arfer wedi’i dyddio o fewn y 6 mis diwethaf.
11.2 Pan gawn ni wrthwynebiad
Pan gawn ni wrthwynebiad i ddileu cwmni o’r gofrestr bydd y cofrestrydd yn ymateb i ddweud a yw’r gwrthwynebiad wedi cael ei dderbyn neu ei wrthod. Bydd pob ymateb yn rhoi dyddiad terfyn ac os na chawn unrhyw dystiolaeth bellach bod camau’n cael eu cymryd erbyn y dyddiad hwnnw, bydd y camau i ddileu’r cwmni o’r gofrestr yn ailgychwyn.
Os oes arnoch angen mwy o amser, dylech gyflwyno gwrthwynebiad arall, drwy ysgrifennu atom bythefnos cyn y dyddiad terfyn a roddwyd ichi. Bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth, gan gynnwys enw llawn y cwmni cyfyngedig, gan ddweud pa gamau yr ydych wedi’u cymryd ers cysylltu â ni ddiwethaf.
Os ydych wedi cyflwyno cwyn am y cwmni’n peidio â bodloni’r amodau gofynnol ar gyfer dileu’r cwmni o’r gofrestr yn wirfoddol, byddwn yn dweud wrthych a ydym yn bwriadu mynd â’ch cwyn ymhellach ai peidio.
Nid yw manylion gwrthwynebwyr yn gyhoeddus ac ni fyddwn yn eu darparu ond os rhoddir caniatâd. Wrth ichi gofrestru’ch gwrthwynebiad, gofynnwn ichi ddweud a ydych yn fodlon i’ch manylion gael eu rhoi.
12. Adfer cwmni drwy Orchymyn Llys
Gall y cofrestrydd adfer cwmni os caiff orchymyn llys. Cynghorir unrhyw un sy’n bwriadu gwneud cais i’r llys am adfer cwmni sicrhau cyngor cyfreithiol annibynnol.
Os cafodd y cwmni ei ddileu o’r gofrestr drwy ddiddymiad gwirfoddol (Adran 1003) ni all y cwmni gael ei adfer i’r gofrestr ond drwy orchymyn llys.
Bernir bod unrhyw gwmni sy’n cael ei adfer yn y gofrestr wedi parhau mewn bodolaeth fel pe bai heb gael ei ddileu o’r gofrestr a’i ddiddymu.
Yn gyffredinol, caiff unrhyw un o’r canlynol wneud cais am adfer cwmni:
- unrhyw gyn-gyfarwyddwr, aelod, credydwr neu ddatodwr
- unrhyw berson yr oedd ganddo berthynas â’r cwmni mewn contract neu yr oedd ganddo hawliad cyfreithiol posibl yn erbyn y cwmni
- unrhyw berson yr oedd ganddo fuddiant mewn tir neu eiddo yr oedd gan y cwmni fuddiant, hawl neu rwymedigaeth ynddo hefyd
- unrhyw reolwr neu ymddiriedolwr ar gronfa pensiwn cyn-weithwyr y cwmni
- unrhyw berson arall y mae’n ymddangos i’r Llys fod ganddo fuddiant yn y mater
- Gall unrhyw berson a restrir yn Adran 1006(1) neu 1007(2) a lle cafodd y cwmni ei ddileu o’r gofrestr o dan adran 1003 wneud cais i adfer y cwmni i’r gofrestr.
12.1 Pryd y gallwch wneud cais
I gwmnïau a ddiddymwyd o dan Adran 1000 neu 1003 o Ddeddf Cwmnïau 2006 ac adrannau 652 neu 652a o Ddeddf 1985.
Fel rheol, gellir gwneud cais i adfer cwmni trwy orchymyn llys am hyd at chwe blynedd o ddyddiad y diddymiad, os yw dyddiad y diddymiad ar neu ar ôl 1 Hydref 2009.
Nid oes unrhyw gyfyngiadau amser ar gyfer hawliadau anaf personol.
I gwmnïau a ddiddymwyd o dan Adran 201 a 205 a Pharagraff 84 o Atodlen B1 o’r Ddeddf Ansolfedd ac adran 652 o Ddeddf 1985 neu Adran 1001 o Ddeddf 2006.
Mae’n rhy hwyr i adfer cwmnïau a ddiddymwyd ar neu cyn 30 Medi 2007 yn dilyn datodiad o unrhyw fath.
Mae gan gwmnïau a ddiddymwyd ar neu ar ôl 1 Hydref 2007 yn dilyn datodiad o unrhyw fath chwe blynedd o ddyddiad y diddymiad.
Nid oes unrhyw gyfyngiadau amser ar gyfer hawliadau anaf personol.
12.2 Ble i wneud cais
Adfer cwmni yn Lloegr a Chymru
Os ydych yn adfer cwmni a oedd wedi’i gofrestru yn Lloegr neu Gymru, rhaid ichi wneud cais i’r Llys drwy lenwi ffurflen hawlio Rhan 8 (N208) (dyma’r ffurflen safonol sy’n rhoi cychwyn i achos) sydd ar gael ar wefan Gwasanaeth Llys. Fel arfer, bydd Cofrestrydd y Llys Cwmnïau yn Llundain yn gwrando achosion adfer yn ei siambrau unwaith yr wythnos a hynny ar brynhawn Gwener.
Mae achosion yn cael eu gwrando hefyd yn y cofrestrfeydd dosbarth. Gellir weld lleoliad cofrestrfeydd dosbarth ar wefan Gwasanaeth Llys. Fel arall, cewch wneud cais i Lys Sirol sydd â’r awdurdod i ddirwyn y cwmni i ben. Gweler cyhoeddiad Adran Gyfreithiol y Llywodraeth: ’Guide to Company Restoration’ neu ffoniwch 020 7210 3000.
Rhaid ichi roi o leiaf 10 diwrnod o hysbysiad ynghylch y gwrandawiad i’r cofrestrydd i ganiatáu amser iddo ymdrin â’r mater a rhoi cyfarwyddiadau i’r Cyfreithiwr a fydd yn ei gynrychioli.
Adfer cwmni yn yr Alban
Os ydych yn adfer cwmni a oedd wedi’i gofrestru yn yr Alban, rhaid ichi wneud cais i’r Llys Sesiwn. Fel arall, yn achos cwmni nad yw ei gyfalaf taledig yn fwy na £120,000, cewch wneud cais i’r Llys Siryf yn y siryfyddiaeth y mae swyddfa gofrestredig y cwmni ynddi.
Cewch wybodaeth am Lysoedd Siryf a’u lleoliadau ar wefan Llysoedd a Thribiwnlysoedd yr Alban. Mae’n rhaid ichi gyflwyno’r ddeiseb i adfer y cwmni i’r cofrestrydd cwmnïau yn yr Alban ac i unrhyw gyrff eraill yn unol â chyfarwyddyd y llys. Does dim angen datganiad tyst ac mae’r cyfnod ar gyfer ymateb yn cael ei bennu gan y Llys, a dim ond wrth i’r ddeiseb gael ei chyflwyno i’r cofrestrydd y bydd y cyfnod hwnnw’n dechrau.
Adfer cwmni yng Ngogledd Iwerddon
Os ydych yn adfer cwmni a oedd wedi’i gofrestru yng Ngogledd Iwerddon, dylech gyflwyno’r wŷs gychwynnol i’r ddau canlynol:
The Registrar of Companies
Companies House
Crown Way
Cardiff
CF14 3UZ
Royal Courts of Justice
Chichester Street
Belfast
BT1 3JY
Bydd ar y cofrestrydd angen copi hefyd o’r datganiad tyst i ategu’r cais.
12.3 Sut mae cyflwyno dogfennau
Dylech gyflwyno’r ffurflen hawlio, datganiad tyst/affidafid a thystiolaeth ategol (er enghraifft, y dystysgrif gorffori) i’r cofrestrydd cwmnïau priodol a’r cyfreithiwr sy’n ymdrin ag unrhyw asedau ‘bona vacantia’.
Lleoliad y cwmni | I bwy i gyflwyno dogfennau |
---|---|
Yn achos cwmnïau a gofrestrwyd yn Lloegr a Chymru | Cyfreithiwr y Trysorlys, oni bai bod swyddfa gofrestredig y cwmni yn Sir Gaerhirfryn neu Gernyw, pryd y dylai’r ffurflen gael ei chyflwyno i Gyfreithiwr Dugaeth Caerhirfryn neu Gernyw |
Yn achos cwmnïau a gofrestrwyd yn yr Alban | Yr Arglwyddi Adfocadiaid |
Yn achos cwmnïau a gofrestrwyd yng Ngogledd Iwerddon | Cyfreithiwr y Goron yng Ngogledd Iwerddon |
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ
Gellir danfon dogfennau drwy’r post ac awgrymwn ichi ddefnyddio danfoniad wedi’i gofnodi er diogelwch.
12.4 Pa dystiolaeth y mae’n rhaid ei rhoi
Heblaw yn yr Alban, bydd ar y Llys angen:
- tystiolaeth bod y ddogfen gychwynnol wedi’i chyflwyno
- cadarnhad ysgrifenedig nad oes gan y cyfreithiwr sy’n delio â’r asedau bona vacantia wrthwynebiad i adfer y cwmni (dylech atodi copi o lythyr y cyfreithiwr i’r affidafid neu’r datganiad tyst.Nid yw hwn yn gymwys yn yr Alban)
- pa bryd y cafodd y cwmni ei gorffori, a natur ei amcanion (dylech atodi copi o’r dystysgrif gorffori ac o’r memorandwm cymdeithasiad ac, os yw’n briodol, o’r erthyglau cymdeithasiad)
- ei aelodaeth a’i swyddogion, cyfarwyddw(y)r ac ysgrifennyd y cwmni
- ei weithgarwch masnachu ac, os yw’n gymwys, pryd y rhoddodd i gorau i fasnachu
- esboniad o unrhyw fethiant i gyflwyno cyfrifon, ffurflenni blynyddol, datganiadau cadarnhau neu hysbysiadau i’r cofrestrydd
- manylion y penderfyniad i ddileu’r cwmni o’r gofrestr a’i ddiddymu
- unrhyw wybodaeth arall sy’n egluro’r rheswm dros y cais
- manylion llawn buddiant y sawl sy’n llofnodi’r datganiad tyst
- cyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni
- os yw’r cais gan aelod: bod y cwmni’n hydal ac yn cynnal busnes, os mai dyna’r sefyllfa
- neu mai’r unig reswm dros geisio adfer y cwmni yw er mwyn adennill arian mewn cyfrif banc cwmni, trosglwyddo eiddo sydd wedi’i gofrestru yn enw’r cwmni ac ati
- cyfalaf cyfrannau’r cwmni, sef cyfalaf awdurdodedig a chyfalaf dosbarthedig, ac, os mai aelod sy’n gwneud y cais, nifer y cyfrannau mae’r aelod hwnnw’n eu dal
Yn Lloegr a Chymru ac yng Ngogledd Iwerddon rhaid darparu’r wybodaeth uchod mewn affidafid neu ddatganiad tyst. Yn yr Alban, gallwch ddarparu’r wybodaeth hon yn y ddeiseb adfer.
Mae rhagor o wybodaeth am y gofynion Lloegr a Chymru ar gael yng nghanllaw ‘Government Legal Department Treasury Solicitors Guide to Company Restoration’. Os mae eisiau ragor o wybodaeth arnoch ynglŷn ag adfer yng Ngogledd Iwerddon neu’r Alban, cysylltwch â’ch cyfreithiwr.
12.5 Pan gaiff cwmni ei adfer i’r gofrestr gydag enw cwmni gwahanol
Fel rheol, bydd y cofrestrydd yn adfer cwmni o dan yr enw a oedd ganddo cyn iddo gael ei ddileu o’r gofrestr a’i ddiddymu. Er hynny, os bydd hen enw’r cwmni, pan gaiff ei adfer, yr un fath ag enw cwmni arall ar fynegai’r cofrestrydd o enwau cwmnïau, chaiff y cofrestrydd ddim adfer y cwmni o dan ei hen enw. Gallwch edrych i weld a yw enw’r cwmni yr un fath ag enw cwmni arall ar y gofrestr ar lein (gwasanaeth Saesneg)
Os nad yw’r enw ar gael mwyach, gall y gorchymyn llys ddatgan enw arall y mae’r cwmni i gael ei adfer o dano. Wrth ei adfer, byddwn yn rhoi tystysgrif newid enw fel pe bai’r cwmni wedi newid ei enw.
Fel arall, gall y cwmni gael ei adfer i’r gofrestr fel pe bai ei enw yr un fath â’i rif cwmni cofrestredig. Wedyn bydd gan y cwmni 14 diwrnod ar ôl dyddiad adfer y cwmni i basio penderfyniad i newid enw’r cwmni. Rhaid ichi gyflwyno copi o’r penderfyniad a hysbysiad bod enw wedi’i newid drwy benderfyniad gan y cyfarwyddwyr ffurflen NM05 (Saesneg yn unig) i Dŷ’r Cwmnïau gyda’r ffi briodol. Wedyn byddwn ni’n rhoi tystysgrif newid enw.
Mae’n dramgwydd i’r cwmni beidio â newid ei enw o fewn 14 diwrnod ar ôl cael ei adfer gyda’r rhif yn enw.
Fydd y newid enw ddim yn dod i rym nes inni roi’r dystysgrif.
12.6 Costau neu gosbau a all fod yn berthnasol wrth adfer cwmni i’r gofrestr
Pan fo eiddo wedi dod yn bona vacantia, caiff y Llys gyfarwyddo i’r ymgeisydd dalu costau cynrychiolydd y Goron wrth ymdrin â’r eiddo yn ystod cyfnod diddymu’r cwmni neu mewn cysylltiad â’r achos. Mae’r Llys hefyd yn cael cyfarwyddo bod rhaid i’r ymgeisydd dalu costau’r cofrestrydd mewn cysylltiad â’r achos ac am adfer y cwmni.
Fel rheol, rhaid i’r cwmni dalu unrhyw gosbau statudol am ffeilio cyfrifon yn hwyr i’r cofrestrydd y tu allan i’r cyfnod a ganiateir ar gyfer eu ffeilio. Dyma’r cosbau a all fod yn ddyledus:
- cosbau sydd heb eu talu o’r blaen mewn cysylltiad â chyfrifon a gyflwynwyd yn hwyr cyn i’r cwmni gael ei ddiddymu
- cosbau sy’n ddyledus mewn cysylltiad â chyfrifon a gyflwynwyd adeg adfer y cwmni, os oedd y cyfrifon eisoes yn hwyr ar ddyddiad diddymu’r cwmni
Mae’n rhaid talu’r ffi ffeilio briodol hefyd wrth gyflwyno dogfennau sydd heb eu cyflwyno o’r blaen. (e.e ffi ffurflen flynyddol).
Mae lefel unrhyw gosb am ffeilio’n hwyr yn dibynnu pa mor hwyr yw’r cyfrifon pan fyddan nhw’n dod i law. Er enghraifft, mae set o gyfrifon y dylech fod wedi’i chyflwyno 2 fis cyn i gwmni preifat gael ei ddiddymu yn cael ei thrin fel rheol fel pe bai 2 fis yn hwyr os byddwch yn ei chyflwyno adeg adfer y cwmni a bydd rhaid ichi dalu’r gosb berthnasol. Does dim rhaid i’r cwmni dalu cosbau ffeilio hwyr am gyfrifon sy’n dod i law adeg adfer y cwmni ond a oedd i fod i gael eu cyflwyno tra oedd y cwmni wedi’i ddiddymu. I gael rhagor o wybodaeth am gosbau, gweler y canllaw ‘Cosbau Ffeilio Hwyr’.
12.7 Pan fydd y llys yn gwneud gorchymyn adfer
Rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno copi o’r gorchymyn llys i’r cofrestrydd i adfer y cwmni. Mae cwmni yn cael ei adfer wrth ichi gyflwyno’r gorchymyn. Wrth adfer cwmni a oedd wedi’i gofrestru yn yr Alban, bydd ar y cofrestrydd yn yr Alban angen copi o’r gorchymyn wedi’i ardystio gan y llys.
12.8 Ar ôl i gwmni gael ei adfer i’r gofrestr gan y llys
Pan fydd y cwmni wedi’i adfer, yr effaith gyffredinol yw y bernir bod cwmni wedi parhau mewn bodolaeth fel pe na bai wedi’i ddiddymu neu wedi’i ddileu o’r gofrestr.
Caiff y llys roi cyfarwyddiadau neu wneud darpariaeth i osod y cwmni a’r holl bersonau eraill yn yr un sefyllfa ag yr oedden nhw cyn i’r cwmni gael ei ddiddymu a’i ddileu o’r gofrestr. Bydd hysbysiad yn cael ei osod yn y Gazette perthnasol hefyd.
12.9 Os oedd cwmni wedi dyroddi cyfrannau dygiedydd pan gafodd ei ddiddymu
Mae’r weithred o adfer y cwmni’n canslo cyfrannau dygiedydd. Os yw hyn yn golygu mai ‘dim’ fydd cyfalaf cyfrannau’r cwmni wedi’i adfer wrth iddo gael ei adfer ac os yw’r cwmni’n cael ei adfer gan gyn-aelod neu gyn-swyddog, bydd yn rhaid i’r person hwnnw ffeilio ffurflen clustnodi cyfrannau (ffurflen SH01c) cyn pen un mis ar ôl i’r cwmni gael ei adfer. Mae peidio â gwneud hynny’n drosedd.
Nid yw’r gofyniad i ffeilio ffurflen SH01c yn berthnasol os mai trydydd parti sy’n adfer y cwmni.
13. Adfer Cwmni yn Weinyddol
O dan amodau penodol, os cafodd cwmni ei ddiddymu am ei bod yn ymddangos nad oedd yn gwneud busnes neu yn gweithredu mwyach, caiff cyn-gyfarwyddwr neu gyn-aelod wneud cais i’r cofrestrydd am adfer y cwmni. Yr enw ar hyn yw ‘adfer yn weinyddol’. Os bydd y cofrestrydd yn adfer y cwmni , bernir bod y cwmni wedi parhau mewn bodolaeth fel pe na bai wedi’i ddiddymu neu wedi’i ddileu o’r gofrestr. Mae adran 1025 o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn rhoi manylion y gofynion ynglŷn ag adfer cwmni yn weinyddiol.
Ni allwch wneud cais am adferiad gweinyddol os oedd y cyfarwyddwyr wedi gwneud cais i ddileu’r cwmni o’r gofrestr yn wirfoddol.
Mae adfer cwmni yn weinyddol ar gael lle cafodd cwmni ei ddileu o’r gofrestr o dan naill ai [adran 652 o Ddeddf Cwmnïau 1985]((http://www.legislation.gov.uk/ukpga/1985/6/section/652/enacted), Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1986 (OS 1986/1032 (NI 6) neu adrannau 1000 a 1001 o Ddeddf Cwmnïau 2006.
13.1 Personau a all wneud cais am adferiad gweinyddol
Dim ond cyn-gyfarwyddwr neu gyn-aelod o’r cwmni, a oedd yn gyfarwyddwr neu’n aelod pan gafodd y cwmni ei ddiddymu sy’n cael gwneud cais.
13.2 Cwmnïau a all wneud cais am adferiad gweinyddol
I fod yn gymwys i’w adfer yn weinyddol, rhaid i’r cwmni:
- fod wedi’i ddileu o’r gofrestr o dan
- adrannau 1000 a 1001 o Ddeddf Cwmnïau 2006
- Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1986 (OS 1986/1032 (NI 6)
- adran 652 o Ddeddf Cwmnïau 1985
- bod wedi’i ddiddymu ers dim mwy na chwe blynedd ar y dyddiad y bydd y cofrestrydd yn derbyn eich cais i’w adfer
Os bydd cwmni’n bodloni’r meini prawf uchod, a’r amodau isod, gallai wneud cais am gael ei adfer:
- rhaid i’r cwmni fod wedi bod yn gwneud busnes neu yn gweithredu pan gafodd ei ddileu o’r gofrestr
- rhaid i’r cwmni fod wedi cyflwyno’r holl ddogfennau angenrheidiol i sicrhau bod materion y cwmni yn gyfoes a’i fod wedi talu unrhyw gosbau ffeilio hwyr
- os daw unrhyw eiddo neu hawliau sy’n perthyn i’r cwmni yn bona vacantia, rhaid i’r ymgeisydd roi datganiad ysgrifenedig (a elwir ‘llythyr ildiad hawl Bona Vacatia’) i’r cofrestrydd oddi wrth Gynrychiolydd perthnasol y Goron sy’n rhoi cydsyniad i adfer y cwmni.
Rhaid i’r ‘llythyr ildiad hawl Bona Vacatia’ gael ei ddarganfod o Gynrychiolydd perthnasol y Goron. Bydd ffi yn daladwy
Mae asedau cwmni sydd wedi’i ddiddymu’n cael eu trosglwyddo i’r Goron ac yn cael eu hystyried yn ‘bona vacantia’ (sef ‘nwyddau gwag’).
13.3 Sut mae gwneud cais am adfer cwmni yn weinyddol
Rhaid ichi anfon cais am adfer cwmni yn weinyddol ffurflen RT01 (Saesneg)at y cofrestrydd sy’n cynnwys datganiad cydymffurfio sy’n cadarnhau bod gan yr ymgeisydd hawl gyfreithiol i wneud y cais a bod yr amodau adfer wedi cael eu cwrdd
Ffi’r cofrestrydd am brosesu’r cais yw £468. Gwnewch sieciau’n daladwy i ‘Tŷ’r Cwmnïau’ ac ysgrifennu rhif y cwmni ar y cefn.
13.4 Costau neu cosbau eraill sy’n gysylltiedig â gwneud cais am adfer cwmni yn weinyddol
Rhaid i’r ymgeisydd dalu costau neu dreuliau cynrychiolydd y Goron (os gofynnir am hynny). Rhaid i’r cwmni dalu unrhyw gosbau statudol am ffeilio cyfrifon yn hwyr a gyflwynwyd i’r cofrestrydd y tu allan i’r cyfnod sy’n cael ei ganiatáu i’w ffeilio.
Dyma’r cosbau a all fod yn ddyledus:
- cosbau sydd heb eu talu o’r blaen mewn cysylltiad â chyfrifon a gyflwynwyd yn hwyr cyn i’r cwmni gael ei ddiddymu
- cosbau sy’n ddyledus mewn cysylltiad â chyfrifon a gyflwynwyd adeg adfer y cwmni, os oedd y cyfrifon eisoes yn hwyr ar ddyddiad diddymu’r cwmni
Mae’n rhaid talu’r ffi ffeilio briodol hefyd wrth gyflwyno unrhyw ddogfennau sydd heb eu cyflwyno o’r blaen.
Mae lefel unrhyw gosb am ffeilio’n hwyr yn dibynnu pa mor hwyr yw’r cyfrifon pan fyddan nhw’n dod i law. Yn achos cyfrifon sy’n cael eu cyflwyno wrth i gwmni gael ei adfer, bydd y cofrestrydd fel rheol yn anwybyddu’r cyfnod pan oedd y cwmni wedi’i ddiddymu. Er enghraifft, mae set o gyfrifon y dylech fod wedi’i chyflwyno 2 fis cyn i gwmni preifat gael ei ddiddymu yn cael ei thrin fel rheol fel pe bai 2 fis yn hwyr os byddwch yn ei chyflwyno adeg adfer y cwmni a bydd rhaid ichi dalu’r gosb berthnasol cyn i’r cwmni gael ei adfer.
Does dim rhaid i’r cwmni dalu cosbau ffeilio hwyr am gyfrifon sy’n dod i law adeg adfer y cwmni ond a oedd i fod i gael eu cyflwyno tra oedd y cwmni wedi’i ddiddymu. I gael rhagor o wybodaeth am gosbau yn y canllaw ‘Cosbau Ffeilio Hwyr’.
13.5 Y camau nesaf yn dilyn y cais am adferiad gweinyddol
Bydd y cofrestrydd yn rhoi hysbysiad o’i benderfyniad i’r person sydd wedi gwneud cais am adfer y cwmni. Os yw’r cofrestrydd yn penderfynu adfer y cwmni i’r gofrestr, bydd yr adferiad yn dod i rym o’r dyddiad y bydd y cofrestrydd yn anfon yr hysbysiad. Bydd yr hysbysiad yn cynnwys rhif cofrestredig y cwmni ac enw’r cwmni. Os caiff y cwmni ei adfer i’r gofrestr o dan enw gwahanol neu ei adfer â rhif y cwmni yn enw, bydd yr enw hwnnw a’r cyn-enw i’w gweld ar yr hysbysiad
Os yw’r cofrestrydd yn penderfynu peidio ag adfer y cwmni i’r gofrestr, gall yr ymgeisydd gwneud cais i’r Llys o fewn 28 diwrnod am adfer y cwmni hyd yn oed os bydd cyfnod am adfer wedi dod i ben
13.6 Pan gaiff cwmni ei adfer i’r gofrestr gydag enw cwmni gwahanol
Fel rheol, bydd y cofrestrydd yn adfer cwmni o dan yr enw a oedd ganddo cyn iddo gael ei ddileu o’r gofrestr a’i ddiddymu. Er hynny, os bydd hen enw’r cwmni, pan gaiff ei adfer, yr un fath ag enw cwmni arall ar fynegai’r cofrestrydd o enwau cwmnïau, chaiff y cofrestrydd ddim adfer y cwmni o dan ei hen enw. Gallwch edrych i weld a yw enw’r cwmni yr un fath ag enw cwmni arall ar y gofrestr ar lein (gwasanaeth Saesneg)
Fel arall, gall y cwmni gael ei adfer i’r gofrestr fel pe bai ei enw yr un fath â’i rif cwmni cofrestredig. Wedyn bydd gan y cwmni 14 diwrnod ar ôl dyddiad adfer y cwmni i basio penderfyniad i newid enw’r cwmni. Rhaid ichi gyflwyno copi o’r penderfyniad a hysbysiad bod enw wedi’i newid drwy benderfyniad gan y cyfarwyddwyr ffurflen NM05 (Saesneg yn unig) i Dŷ’r Cwmnïau gyda’r ffi briodol. Wedyn bydd Tŷ’r Cwmnïau yn rhoi tystysgrif newid enw.
Mae’n dramgwydd i’r cwmni beidio â newid ei enw o fewn 14 diwrnod ar ôl cael ei adfer gyda’r rhif yn enw.
Fydd y newid enw ddim yn dod i rym nes inni roi’r dystysgrif.
13.7 Ar ôl i gwmni gael ei adfer i’r gofrestr
Pan fydd y cwmni wedi’i adfer, yr effaith gyffredinol yw y bernir bod cwmni wedi parhau mewn bodolaeth fel pe na bai wedi’i ddiddymu neu wedi’i ddileu o’r gofrestr.
Gall cais gael ei wneud i’r Llys am gyfarwyddiadau neu ddarpariaethau sy’n angenrheidiol i osod y cwmni a’r holl bersonau eraill yn yr un sefyllfa ag yr oedden nhw cyn i’r cwmni gael ei ddiddymu a’i ddileu o’r gofrestr. Rhaid i unrhyw gais o’r fath i’r Llys gael ei wneud o fewn 3 blynedd ar ôl i’r cwmni gael ei adfer.
13.8 Os oedd cwmni wedi dyroddi cyfrannau dygiedydd pan gafodd ei ddiddymu
Mae’r weithred o adfer y cwmni’n canslo cyfrannau dygiedydd. Os yw hyn yn golygu mai ‘dim’ fydd cyfalaf cyfrannau’r cwmni wedi’i adfer wrth iddo gael ei adfer ac os yw’r cwmni’n cael ei adfer gan gyn-aelod neu gyn-swyddog, bydd yn rhaid i’r person hwnnw ffeilio ffurflen clustnodi cyfrannau (ffurflen SH01c) cyn pen un mis ar ôl i’r cwmni gael ei adfer. Mae peidio â gwneud hynny’n drosedd.
Nid yw’r gofyniad i ffeilio ffurflen SH01c yn berthnasol os mai trydydd parti sy’n adfer y cwmni
14. Gwybodaeth gefndir a deddfwriaeth
14.1 Cyflwyno dogfennau i Dŷ’r Cwmnïau
Yn gyffredinol, rhaid i bob dogfen bapur a anfonir i Dŷ’r Cwmnïau nodi enw a rhif cofrestru y cwmni mewn man amlwg. Ceir rhai eithriadau i’r rheol hon, a nodir yn Rheolau a Phwerau’r Cofrestrydd (Saesneg yn unig).
Dylai dogfennau papur fod ar bapur gwyn plaen A4, a gorffeniad di-sglein. Dylai’r testun fod yn ddu, yn eglur, yn ddarllenadwy a dylai’r dwysedd fod yn unffurf.
Mae’n bwysig bod y ddogfen wreiddiol a gyflwynir yn ddarllenadwy fel y gellir cynhyrchu copi clir o’r ddogfen ar gyfer y cofnod cyhoeddus. Mae’n bosibl y caiff y ddogfen neu’r ffurflen ei gwrthod (ei dychwelyd i’r cwmni) os na chaiff ei chyflwyno mewn fformat derbyniol.
Mae mwy o wybodaeth am ansawdd dogfennau a’u cyflwyno ar gael yn yr Arweiniad i Reolau a Phwerau’r Cofrestrydd (Saesneg yn unig).
14.2 Deddfwriaeth
Ymdrinnir â dileu cwmnïau o’r gofrestr a’u diddymu mewn deddfwriaeth o dan:
- Deddf Cwmnïau 2006 rhan 31 ac adrannau 1000, 1001, 1003
- Deddf Cwmnïau 1985 adrannau 652 a 652a
- Deddf Ansolfedd rhannau 201, 205 a pharagraff 84 atodlen B1
- Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1986