Canllawiau

Cynhyrchwyr alcohol — cosbau am ddatganiadau hwyr ac am dalu toll yn hwyr — CC/FS78

Cyhoeddwyd 17 October 2024

Os ydych yn gynhyrchwr alcohol, mae angen i chi gyflwyno datganiadau a thalu Toll Alcohol i CThEF. Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am y cosbau y gallwn eu codi arnoch os nad ydych yn cydymffurfio â’r gofynion hyn.

Gallwn godi’r cosbau hyn o dan Adran 9 o Ddeddf Cyllid 1994. Gall cosb fod yn un o’r canlynol:

  • ‘cosb benodol’ – mae’r gosb hon yn swm sefydlog
  • ‘cosb gysylltiedig’ – rydym yn cyfrifo’r gosb hon ar sail y doll a dalwyd yn hwyr
  • ‘cosb ddyddiol’ – mae’r gosb hon yn swm dyddiol

I gael arweiniad manwl ynghylch y Doll Alcohol, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘alcohol duty detailed information’.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld y rhestr lawn, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC compliance checks factsheets’.

Y gofyn arnoch i gyflwyno datganiadau ac i dalu Toll Alcohol

I fodloni’r amodau ar gyfer cymeradwyaeth fel cynhyrchydd alcohol, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cyflwyno datganiadau cynhyrchu alcohol
  • rhoi cyfrif am a thalu’r doll ar gynhyrchiad sydd wedi’i symud o safle cymeradwy (‘wedi’i symud i ddefnydd cartref’)

Mae sut yr ydych yn gwneud hyn a phryd yn dibynnu ar yr alcohol yr ydych yn ei gynhyrchu.

Gallwch ddod o hyd i arweiniad ar fod yn un o’r canlynol:

  • cynhyrchydd gwin yn adran 7 Hysbysiad Ecséis 163, ‘Wine production in the UK’
  • cynhyrchydd seidr a pherai yn adran 7 Hysbysiad Ecséis 162, ‘Cider production in the UK’
  • cynhyrchydd cwrw yn adrannau 15 ac 16 Hysbysiad Ecséis 226, ‘Beer production in the UK’
  • cynhyrchydd gwirodydd yn adran 6 Hysbysiad Ecséis 39, ‘Spirits production in the UK’

I ddarllen yr Hysbysiadau Ecséis, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘Excise Notice alcohols’, neu chwiliwch am enw a rhif yr hysbysiad perthnasol.

Cosb benodol os nad ydych yn cyflwyno datganiad mewn pryd

Gallwn godi cosb benodol, sef £250, os nad ydych yn cyflwyno datganiad mewn pryd.

Gallwn godi cosb am bob datganiad sy’n hwyr. Er enghraifft, os yw 10 datganiad heb eu cyflwyno, gallwn godi 10 cosb o £250. Mae hyn yn gyfanswm o £2,500.

Mae rhagor o wybodaeth am bryd mae datganiadau i’w cyflwyno ar gael yn yr Hysbysiad Ecséis perthnasol.

Cosbau cysylltiedig os nad ydych yn talu mewn pryd

Gallwn godi cosb arnoch os ydych yn talu toll yn hwyr. Mae hyn yn naill ai 5% o swm y doll sy’n ddyledus neu £250, pa un bynnag yw’r swm uchaf.

Er enghraifft, os oes £9,000 o doll yn cael ei thalu’n hwyr, bydd y gosb yn 5% o’r swm. Mae hwn yn £450. Os yw’r doll yn £4,000, byddai’r gosb yn £250. Mae hyn oherwydd bod 5% o £4,000 yw £200. Mae hyn yn is na’r isafswm, sef £250.

Mae’r dyddiad dyledus ar gyfer talu toll ar gael yn yr Hysbysiad Ecséis perthnasol.

Cosbau dyddiol

Os ydym yn codi cosb benodol neu gosb gysylltiedig arnoch, byddwn hefyd yn codi cosbau dyddiol arnoch. Gallwn wneud hyn nes eich bod yn unioni pethau.

Os ydym yn penderfynu codi cosbau dyddiol arnoch, byddwn yn codi’r rhain ar gyfradd o £20 bob dydd am bob diwrnod nad ydych yn cydymffurfio.

Yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno

Os ydym yn codi cosb benodol, cosb gysylltiedig neu gosb ddyddiol arnoch, byddwn yn anfon hysbysiad o gosb atoch. Os ydych yn anghytuno, byddwch yn gallu apelio. Bydd yr hysbysiad o gosb yn rhoi gwybod i chi sut i wneud hyn.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawl i apelio a chael adolygiad, ewch i www.gov.uk/anghytuno-phenderfyniad-treth.

Os oes gennych esgus rhesymol

Ni fyddwn yn codi cosb arnoch os oes gennych esgus rhesymol am beidio â chyflwyno’ch datganiadau neu dalu’r hyn sydd arnoch mewn pryd.

Esgus rhesymol yw rhywbeth a wnaeth eich rhwystro rhag bodloni ymrwymiad treth mewn pryd, er i chi gymryd gofal rhesymol i’w fodloni. Gall hyn fod oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’ch rheolaeth, neu gyfuniad o ddigwyddiadau. Unwaith y bydd yr esgus rhesymol wedi dod i ben, mae’n rhaid i chi unioni pethau heb oedi diangen.

Mae p’un a oes gennych esgus rhesymol yn dibynnu ar amgylchiadau’r methiant i fodloni’r ymrwymiad, a’ch sefyllfa a’ch galluoedd penodol. Gallai hynny olygu na fyddai’r hyn sy’n cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos un person yn cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos rhywun arall. Os ydych o’r farn bod gennych esgus rhesymol, rhowch wybod i ni. Os byddwn yn derbyn bod gennych esgus rhesymol, ni fyddwn yn codi cosb arnoch.

Os wnaeth unrhyw beth ynghylch eich iechyd neu eich amgylchiadau personol gyfrannu tuag atoch yn peidio â bodloni’ch ymrwymiadau treth, rhowch wybod i’r swyddog yr ydych yn delio ag ef. Bydd rhoi gwybod i’r swyddog yn ei alluogi i roi sylw i hyn wrth ystyried a oedd gennych esgus rhesymol.

Cosbau eraill gallwn eu codi os ydych yn anfon datganiad sy’n anghywir

Yn ogystal â chyflwyno datganiadau mewn pryd, mae angen i chi wneud yn siŵr bod yr wybodaeth ar eich datganiad yn gyflawn ac yn gywir. Os na fyddwch yn gwneud hyn, gallwn godi ‘cosb am anghywirdeb’ arnoch.

Os byddwn yn ystyried codi cosb am anghywirdeb ar unrhyw adeg, byddwn yn rhoi gwybod i chi am y rhain ar y pryd.

Os oes angen help arnoch

Rhowch wybod i ni os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol.

Gallwch ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan. Er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind, neu aelod o’ch teulu. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod yn rhaid i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.