Gwiriadau cydymffurfio: hysbysiadau gwybodaeth — CC/FS2
Diweddarwyd 1 Ebrill 2022
Rydym wedi rhoi’r daflen wybodaeth hon i chi am ein bod wedi rhoi hysbysiad gwybodaeth i chi.
Os oes angen help arnoch
Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, darllenwch ‘cael help gan CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch’.
Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd dal angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at y person rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.
Beth yw hysbysiad gwybodaeth
Mae hysbysiad gwybodaeth yn ddogfen sy’n ei gwneud yn ofynnol yn ôl y gyfraith i berson roi gwybodaeth a/neu ddogfennau penodol i ni. Gallwn gyflwyno hysbysiad i wirio’ch sefyllfa dreth neu i’n helpu i gasglu dyled treth.
Pa bryd y byddwn yn defnyddio hysbysiad gwybodaeth
Os ydym yn gwirio’ch sefyllfa dreth, byddwn fel arfer yn gofyn i chi helpu drwy roi i ni’r wybodaeth a’r dogfennau sydd eu hangen arnom. Os na fyddwch yn gwneud hyn, mae’n bosibl y rhoddwn hysbysiad gwybodaeth i chi.
O dan rai amgylchiadau, gallwn ofyn i’r tribiwnlys annibynnol sy’n delio â threth gymeradwyo bod hysbysiad gwybodaeth yn cael ei anfon. Byddwn yn rhoi gwybod i chi a yw’r hysbysiad a roddwn i chi wedi’i gymeradwyo gan y tribiwnlys.
Weithiau, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i ni roi hysbysiad gwybodaeth heb ofyn i chi am yr wybodaeth neu’r dogfennau yn gyntaf.
Yr hyn y bydd yr hysbysiad gwybodaeth yn ei ddweud wrthych
Bydd yr hysbysiad gwybodaeth yn dweud wrthych:
- pa ddogfennau a/neu wybodaeth y bydd yn rhaid i chi eu rhoi i ni
- sut a phryd i roi’r hyn sydd ei angen arnom
- ynglŷn ag unrhyw hawl i apelio
Yr hyn y gallwn ofyn amdano mewn hysbysiad gwybodaeth
Gallwn ofyn am unrhyw wybodaeth a/neu ddogfennau os credwn eu bod yn berthnasol i’n gwiriad a’i fod yn rhesymol i ofyn amdanynt.
Yr hyn na allwn ofyn amdano mewn hysbysiad gwybodaeth
Ni allwn ddefnyddio hysbysiad gwybodaeth i ofyn i chi roi gwybodaeth neu ddogfennau i ni:
- nad ydynt yn eich meddiant ac nad oes modd i chi gael y dogfennau, na chopïau ohonynt, gan bwy bynnag sy’n eu dal
- sy’n perthyn i sefyllfa dreth person a fu farw mwy na 4 blynedd cyn anfon yr hysbysiad
- sydd wedi’u creu fel rhan o’r paratoadau ar gyfer apêl treth
- sy’n ymwneud yn gyfan gwbl â lles corfforol, meddyliol, ysbrydol neu bersonol rhywun
- sy’n ohebiaeth freintiedig rhwng cyfreithwyr a chleientiaid at ddibenion caffael neu roi cyngor cyfreithiol
- os ydych yn archwiliwr, yn ymgynghorydd treth neu’n newyddiadurwr a bod yr wybodaeth neu’r dogfennau wedi’u creu at ddibenion eich proffesiwn
- os ydych yn destun deunydd newyddiadurol a bod yr wybodaeth neu’r dogfennau wedi’u creu gan newyddiadurwr at ddibenion ei broffesiwn
Gall y rheolau ynglŷn â pha wybodaeth a dogfennau sy’n syrthio i’r categorïau hyn, yn enwedig cyfathrebiadau breintiedig neu bersonol, fod yn gymhleth. Os ydych yn credu y gallai unrhyw beth yr ydym wedi gofyn amdano syrthio i’r categorïau hyn, dylech drafod hynny â’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad cydymffurfio.
Yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno â hysbysiad gwybodaeth
Os anfonwn hysbysiad gwybodaeth atoch a’ch bod yn credu bod y cais yn afresymol neu nad yw’n berthnasol i’r gwiriad, rhowch wybod i’r swyddog a anfonodd yr hysbysiad gwybodaeth atoch. Bydd yn ystyried yn ofalus yr hyn sydd gennych i’w ddweud. Os yw’n dal i gredu bod angen yr wybodaeth a/neu’r ddogfen arno, bydd yn rhoi rheswm i chi dros hynny. Os ydych yn dal i feddwl bod y cais yn afresymol neu’n amherthnasol i’r gwiriad, gallwch apelio ar y tribiwnlys annibynnol sy’n delio ag apeliadau treth. Byddwn yn rhoi gwybod i chi sut i wneud hyn.
Ni allwch apelio yn erbyn hysbysiad gwybodaeth sydd naill ai wedi’i gymeradwyo gan dribiwnlys annibynnol neu sy’n gais am gofnodion statudol sy’n ymwneud ag unrhyw un o’r canlynol:
- cyflenwi nwyddau neu wasanaethau
- mewnforio nwyddau o le y tu allan i’r DU wrth redeg busnes
Cofnodion statudol yw’r cofnodion y mae’n rhaid i berson eu cadw yn ôl deddfau treth. Os oes angen mwy o amser arnoch i roi i ni’r hyn yr ydym wedi gofyn amdano, dylech gysylltu â’r swyddog a anfonodd yr hysbysiad gwybodaeth atoch.
Gofyn i berson arall am wybodaeth amdanoch
Os na allwch neu na os fyddwch yn rhoi i ni’r hyn yr ydym wedi gofyn amdano, efallai y bydd yn rhaid i ni ei gael gan berson arall.
Os mai dyma’r achos, byddwn fel arfer yn gofyn am eich caniatâd cyn ein bod yn cysylltu â’r person arall.
Os byddwn yn gofyn i berson arall am wybodaeth, ni fyddwn yn datgelu unrhyw beth arall amdanoch heblaw’r hyn sy’n angenrheidiol i gael yr wybodaeth sydd ei hangen arnom. Os byddwn yn gofyn am eich caniatâd ac nad ydych am ei roi, nid oes rhaid i chi wneud hynny, ond gofynnwn i chi egluro pam. Os na fyddwch yn rhoi caniatâd a bod angen i ni gael yr wybodaeth o hyd, byddwn fel arfer yn gofyn i’r tribiwnlys annibynnol sy’n delio â threth gymeradwyo anfon hysbysiad gwybodaeth.
Weithiau, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i ni roi hysbysiad gwybodaeth i berson arall heb ofyn i chi am yr wybodaeth neu’r dogfennau yn gyntaf.
Nid oes angen eich cymeradwyaeth chi na chymeradwyaeth y tribiwnlys arnom os oes rhaid i ni ofyn i berson arall am gofnodion statudol sy’n ymwneud â’r canlynol:
- cyflenwi nwyddau neu wasanaethau
- mewnforio nwyddau o le y tu allan i’r DU wrth redeg busnes
Yr hyn a fydd yn digwydd os na fyddwch yn cydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth
Os na fyddwch yn cydymffurfio â’r hysbysiad gwybodaeth drwy roi popeth i ni mae’r hysbysiad gwybodaeth yn gofyn amdano, gallwn godi cosb o £300 arnoch.
Os ydych yn dal i fod heb gydymffurfio â’r hysbysiad erbyn i ni roi’r gosb o £300, gallwn wedyn godi cosbau dyddiol arnoch o hyd at £60 y dydd am bob diwrnod nad ydych yn cydymffurfio. Gallwn wedyn godi cosb arnoch sy’n seiliedig ar swm y dreth sydd arnoch i ni. Mae’n rhaid i’r math hwn o gosb gael ei awdurdodi gan y tribiwnlys annibynnol sy’n delio â threth.
Ni fyddwn yn codi cosb arnoch os ydym yn cytuno bod gennych esgus rhesymol dros beidio â chydymffurfio â’r hysbysiad gwybodaeth. Fodd bynnag, byddwn yn dal i ofyn i chi ddarparu’r wybodaeth, y dogfennau (neu’r dogfennau cyfnewid) o fewn amserlen y cytunwyd arni.
Esgus rhesymol yw rhywbeth a wnaeth eich rhwystro rhag bodloni ymrwymiad treth mewn pryd er i chi gymryd gofal rhesymol i’w fodloni. Gall hyn fod oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’ch rheolaeth neu gyfuniad o ddigwyddiadau. Unwaith y bydd yr esgus rhesymol wedi dod i ben, mae’n rhaid i chi unioni pethau heb oedi diangen.
Wrth benderfynu a oes gennych esgus rhesymol, byddwn yn ystyried amgylchiadau’r methiant, a’ch amgylchiadau a’ch galluoedd penodol. Mae hyn yn golygu na fyddai’r hyn sy’n cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos un person o reidrwydd yn cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos rhywun arall. Os ydych o’r farn bod gennych esgus rhesymol, rhowch wybod i ni. Gall enghreifftiau o esgus rhesymol gynnwys y canlynol:
- rydych wedi bod yn ddifrifol wael
- mae rhywun agos atoch wedi marw
- rydych wedi colli’r dogfennau mewn tân neu lifogydd
Cosbau am gyflwyno gwybodaeth neu ddogfennau anghywir
Os ydych yn rhoi gwybodaeth wallus i ni neu’n cyflwyno dogfen sy’n cynnwys gwallau, a hynny’n fwriadol neu’n ddiofal, gallwn godi cosb o hyd at £3,000 arnoch ar gyfer pob gwall. Ni fyddwn yn codi cosb arnoch os byddwch yn rhoi gwybod i ni am y gwall adeg rhoi’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen i ni. Os ydych yn dod ar draws gwall yn nes ymlaen, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni heb oedi.
Cuddio, dinistrio neu fel arall waredu dogfennau
Mae’n bosibl y codwn gosb arnoch os byddwch chi, neu rywun sy’n gweithredu ar eich rhan, yn cuddio, yn dinistrio neu’n gwaredu unrhyw ddogfen yr ydym:
- wedi gofyn amdani mewn hysbysiad gwybodaeth
- wedi nodi ein bod yn bwriadu gofyn amdani mewn hysbysiad gwybodaeth
Mae’n drosedd cuddio, dinistrio neu waredu dogfen yr ydym:
- wedi gofyn amdani mewn hysbysiad gwybodaeth sydd wedi’i gymeradwyo gan y tribiwnlys
- wedi rhoi gwybod i chi ein bod yn bwriadu gofyn amdani mewn hysbysiad gwybodaeth sydd wedi’i gymeradwyo gan y tribiwnlys
Mae’n bosibl y byddwn yn cynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o erlyn os ydych chi, neu rywun sy’n gweithredu ar eich rhan, yn cyflawni’r drosedd hon.
Yr hyn a fydd yn digwydd os byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni ac yn gwybod ei bod yn anwir
Mae’n bosibl y gwnawn gynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o’ch erlyn, os byddwch yn:
- rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu mewn dogfen
- cam-gyfleu’ch rhwymedigaeth i dreth yn anonest, neu’n hawlio taliadau nad oes gennych hawl iddynt
Rhagor o wybodaeth
Os ydych yn anfodlon ar ein gwasanaeth, rhowch wybod i’r person y buoch yn delio ag ef neu’r swyddfa y buoch yn delio â hi. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn dweud wrthych sut i wneud cwyn ffurfiol.
Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld rhestr o’r taflenni gwybodaeth Cymraeg, ewch i Arweiniad a thaflenni gwybodaeth CThEF ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.
Ein hysbysiad preifatrwydd
Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch.