Canllawiau

Rheoli diffygdalwyr difrifol — CC/FS14

Diweddarwyd 17 December 2021

Mae’r daflen wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth am y rhaglen Rheoli Diffygdalwyr Difrifol (MSD) a phryd gallwn fonitro materion treth y bobl hynny sy’n cael eu materion treth yn anghywir yn fwriadol.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld y rhestr lawn, ewch i’r dudalen ynghylch taflenni gwybodaeth am wiriadau cydymffurfio CThEF (yn agor tudalen Saesneg).

Ynghylch y rhaglen Rheoli Diffygdalwyr Difrifol

Mae’r rhaglen Rheoli Diffygdalwyr Difrifol (MSD) ar gyfer cwsmeriaid sydd wedi mynd ati’n fwriadol i beidio â chydymffurfio o ran eu materion treth. Unwaith ein bod wedi eich rhoi chi ar y rhaglen, rydym yn monitro eich holl faterion treth yn fanwl. Rydym yn monitro’r rhain am gyfnod rhwng 1 a 5 mlynedd o leiaf yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Fel hyn, gallwn wneud yn siŵr:

  • bod eich materion treth yn gyfredol
  • eich bod chi’n cymryd gofal rhesymol i gael eich materion treth yn gywir yn y dyfodol

Os ydym yn fodlon nad oes angen i ni fonitro’ch materion treth yn fanwl mwyach, byddwn yn rhoi gwybod i chi am hyn yn ysgrifenedig .

Yr hyn a olygwn gan ‘diffyg cydymffurfio bwriadol’

Ystyriwn eich bod wedi mynd ati’n fwriadol i beidio â chydymffurfio os :

  • ydym yn codi cosb arnoch oherwydd eich ymddygiad bwriadol
  • ydym yn nodi yn ystod Ymchwiliad Sifil o Dwyll eich bod yn parhau i beri risg uchel i CThEF
  • ydych yn cael eich erlyn yn llwyddiannus gan Gyfarwyddwr Erlyniadau Cyllid a Thollau, neu gan awdurdod erlyn arall, am fater treth
  • ydym yn codi cosb Osgoi Sifil arnoch oherwydd anonestrwydd
  • yw’n ofynnol i chi roi gwarant i CThEF fel gwarant yn erbyn achos o ddiffygdalu a allai godi yn y dyfodol, a’ch bod wedi rhoi’r warant honno
  • yw ymarferwr ansolfedd wedi adennill arian neu asedion ar ein rhan yn llwyddiannus
  • yw’n ofynnol i chi dalu gwarant ariannol, neu eich bod wedi’i thalu

Yr hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud fel rhan o’r rhaglen

Fel rhan o’r rhaglen, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • llenwi Ffurflen Dreth lawn, nid un ‘byr’
  • rhoi dadansoddiad manwl o’ch treuliau busnes a llenwi’r daenlen balans
  • gwneud yn siŵr bod eich Ffurflenni Treth i gyd yn gywir ac wedi’u cyflwyno mewn pryd
  • gwneud pob taliad i ni mewn pryd
  • gwneud unrhyw gofrestriadau mewn pryd

Byddwn yn cynnal adolygiadau rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn gwneud hyn.

Sut byddwn yn monitro’ch cydymffurfiad

Yn ogystal â sicrhau eich bod wedi bodloni’ch ymrwymiadau, byddwn yn adolygu’ch Ffurflenni Treth yn fanylach.

Byddwn hefyd yn cynnal adolygiadau pellach i wirio eich bod wedi unioni unrhyw gamgymeriadau blaenorol. Gallwn fonitro’ch materion treth mewn sawl ffordd. Bydd y dulliau hyn yn amrywio’n dibynnu ar p’un a ydych yn rhedeg busnes neu beidio.

Efallai y byddant yn cynnwys:

  • gwneud ymweliadau archwilio â rhybudd ymlaen llaw, neu rai dirybudd, er mwyn gwirio’ch cofnodion neu asedion busnes sy’n berthnasol i’ch cyfnod cyfrifyddu presennol
  • cynnal gwiriad cydymffurfio trylwyr o’ch holl faterion treth, neu unrhyw ran ohonynt

Efallai y byddwn yn codi cosbau ychwanegol arnoch neu ddwyn achos troseddol yn eich erbyn os byddwn yn darganfod y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • rydych wedi parhau i gael pethau’n anghywir yn fwriadol neu oherwydd anonestrwydd
  • rydych yn osgoi talu’r hyn sydd arnoch

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o fanylion, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan. Er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind, neu aelod o’ch teulu. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod yn rhaid i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi o’n llythyr at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch.

Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth

Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.