Cosbau am gamwedd TAW ac Ecséis — CC/FS12
Diweddarwyd 1 Ebrill 2022
Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am y cosbau y gallwn eu codi arnoch am gamweddau TAW, Ecséis neu Dreth Dirlenwi.
Mae’r daflen wybodaeth hon yn un o gyfres o daflenni gwybodaeth cydymffurfio. I weld y rhestr lawn, ewch i ‘Arweiniad a thaflenni gwybodaeth CThEF’ ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.
Os oes angen help arnoch
Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael ragor o wybodaeth, ewch i ‘Cael help gan CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch’.
Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd dal angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at y person rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.
Camweddau TAW, Ecséis neu Dreth Dirlenwi
Camweddau TAW, Ecséis a Threth Dirlenwi yw pan fo unrhyw berson yn gwneud y canlynol:
- cyflwyno anfoneb sy’n cynnwys swm sy’n cael ei ddangos fel TAW pan nad yw wedi’i gofrestru ar gyfer TAW neu heb ei awdurdodi i gyflwyno anfonebau TAW
- gwaredu deunydd mewn safle gwastraff anawdurdodedig o 1 Ebrill 2018 ymlaen, neu’n peri neu’n caniatáu gwarediad o’r fath yn fwriadol
- defnyddio gwirodydd neu olewau hydrocarbon at ddibenion sy’n agored i gyfradd uwch o Doll Ecséis (gelwir hyn yn ‘gamddefnydd’). Er enghraifft, mae toll is ar gyfer diesel coch (a ddefnyddir fel arfer mewn peiriannau fferm) na diesel ar gyfer cerbydau ffordd. Os oes rhywun yn defnyddio diesel coch mewn cerbyd ffordd, mae hyn yn gamddefnydd, sy’n gamwedd
- cyflenwi gwirodydd neu olewau hydrocarbon gan wybod y byddant yn cael eu defnyddio mewn modd sy’n golygu y dylai cyfradd uwch o Doll Ecséis fod wedi ei thalu. Er enghraifft, mae’r doll ar danwydd ar gyfer gwresogi domestig yn is na’r doll ar danwydd ar gyfer cychod preifat. Os oes rhywun yn cyflenwi tanwydd gwresogi domestig gan wybod y bydd y prynwr yn ei ddefnyddio ar gyfer cwch preifat, mae hyn yn gamwedd am fod y cyflenwr yn gwybod y bydd y tanwydd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion sy’n agored i doll uwch
- ymdrin ag unrhyw alcohol, tybaco neu olewau hydrocarbon y mae Toll Ecséis heb ei thalu arnynt neu pan nad yw’r doll wedi’i gohirio
Mae ymdrin â nwyddau yn cynnwys y canlynol:
- meddu arnynt
- ymwneud â’u cludo, eu symud, eu gwaredu neu’u cadw
- fel arall, delio â nhw
Er enghraifft, mae rhywun yn mynd ar wyliau i Ffrainc. Mae’n prynu sigaréts er mwyn dod â nhw’n ôl i’r Deyrnas Unedig (DU) gyda’r bwriad o’u gwerthu. Gan na fewnforiwyd y sigaréts ar gyfer ei ddefnydd ei hun, dylai fod wedi talu toll arnynt. Mae felly wedi camweddu. Mae’r person y gwerthwyd y sigaréts iddo hefyd wedi camweddu o ganlyniad i ymdrin â’r nwyddau.
Pryd y gallwn godi cosb arnoch am gamweddu
Efallai y byddwn yn codi cosb arnoch os byddwch yn camweddu, a chanlyniad hynny yw bod TAW, Toll Ecséis neu Dreth Dirlenwi’n ddyledus.
Os ydych yn gofyn i rywun, megis cyflogai neu ymgynghorydd, wneud rhywbeth ar eich rhan, mae’n rhaid i chi wneud cymaint ag y gallwch i wneud yn siŵr nad oes camwedd yn digwydd. Os na fyddwch yn gwneud hyn, mae’n bosibl y byddwn yn codi cosb arnoch.
Pryd na fyddwn yn codi cosb arnoch am gamweddu
Ni fyddwn yn codi cosb arnoch am gamweddau TAW neu Ecséis os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:
- mae gennych esgus rhesymol dros y camwedd
- nid oedd y camwedd yn fwriadol
- gwnaethoch ein hysbysu heb oedi afresymol ar ôl i’ch esgus rhesymol ddod i ben
Ni fyddwn yn codi cosb arnoch am gamwedd sy’n gysylltiedig â’r Dreth Dirlenwi os nad oedd y camwedd yn fwriadol.
Caiff ystyr ‘bwriadol’ ei esbonio isod.
Esgus rhesymol yw rhywbeth a wnaeth eich rhwystro rhag bodloni ymrwymiad treth mewn pryd, er i chi gymryd gofal rhesymol i’w fodloni. Gall hyn fod oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’ch rheolaeth neu gyfuniad o ddigwyddiadau. Unwaith y bydd yr esgus rhesymol wedi dod i ben, mae’n rhaid i chi unioni pethau heb oedi diangen.
Wrth benderfynu a oes gennych esgus rhesymol, byddwn yn ystyried amgylchiadau penodol y methiant i fodloni’r ymrwymiad a’ch amgylchiadau a’ch galluoedd penodol. Gallai hynny olygu na fyddai’r hyn sy’n cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos un person o reidrwydd yn cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos rhywun arall. Os ydych o’r farn bod gennych esgus rhesymol, rhowch wybod i ni. Os derbyniwn fod gennych esgus rhesymol, ni fyddwn yn codi cosb arnoch.
Os oedd unrhyw beth ynghylch eich iechyd neu’ch amgylchiadau personol a wnaeth gyfrannu tuag at y camweddu ar eich rhan, rhowch wybod i’r swyddog sy’n cynnal y gwiriad. Bydd gwneud hynny yn ei alluogi i gymryd hyn i ystyriaeth wrth benderfynu a oedd gennych esgus rhesymol.
Datgelu achos o gamweddu cyn i ni ddod o hyd iddo
Os ydych yn rhoi gwybod i ni am gamwedd cyn bod gennych reswm i gredu ein bod ar fin dod o hyd iddo, rydym yn galw hynny’n ‘ddatgeliad heb ei annog’. Os ydych yn rhoi gwybod i ni am gamwedd ar unrhyw adeg arall, rydym yn galw hynny’n ‘ddatgeliad wedi’i annog’.
Unwaith y byddwn wedi cychwyn gwiriad, gall datgeliad ond fod yn un heb ei annog os yw, o dan amgylchiadau prin, yn ymwneud â chamwedd nad yw’n gysylltiedig â’r hyn rydym yn ei wirio neu os nad oedd gennych reswm i gredu y gallem fod wedi dod o hyd iddo yn ystod ein gwiriad.
Mae’r gosb isaf bosibl am ddatgeliad heb ei annog yn is na’r gosb isaf bosibl am ddatgeliad wedi’i annog.
Yr hyn y gallwch ei wneud i ostwng unrhyw gosbau y gallwn eu codi arnoch
Gallwn ostwng swm unrhyw gosb a godwn arnoch, yn dibynnu ar ein barn ynghylch faint o gymorth a roesoch i ni. Rydym yn cyfeirio at y cymorth hwn fel ‘ansawdd y datgeliad’, neu fel ‘dweud, helpu a rhoi’.
Mae enghreifftiau o ddweud, helpu a rhoi yn cynnwys y canlynol:
- dweud wrthym fod rhywbeth o’i le, neu gytuno bod rhywbeth o’i le, a sut a pham y digwyddodd
- rhoi cymaint o fanylion ag y gallwch am i ba raddau y mae rhywbeth o’i le, cyn gynted â’ch bod yn gwybod amdano
- dweud wrthym a’n helpu drwy ateb ein cwestiynau’n llawn
- ein helpu i ddeall eich cyfrifon neu’ch cofnodion
- ein helpu drwy ateb ein llythyrau’n brydlon
- ein helpu drwy gytuno i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd, neu ymweliadau, ar amser sy’n gyfleus i bawb
- ein helpu drwy wirio’ch cofnodion er mwyn canfod graddau’r anghywirdeb
- ein helpu drwy ddefnyddio’ch cofnodion preifat i nodi gwerthiannau neu incwm sydd heb eu cynnwys ar eich Ffurflen Dreth
- rhoi mynediad i ni at y dogfennau rydym wedi gofyn amdanynt, heb oedi diangen
- rhoi mynediad i ni at y dogfennau y mae’n bosibl nad ydym yn gwybod amdanynt, yn ogystal â’r rheiny y gwnaethom ofyn am gael eu gweld
Byddwn yn gostwng y gosb gan y swm uchaf posibl os byddwch yn gwneud y canlynol:
- rhoi cymaint o fanylion ag y gallwch ynghylch camwedd cyn gynted ag y byddwch yn gwybod amdano neu os credwch ein bod ar fin dod o hyd iddo
- yn gwneud popeth ag y gallwch i’n helpu i’w gywiro
Os byddwch yn oedi cyn rhoi gwybod i ni, mae’n bosibl y bydd gennych yr hawl i ostyngiad o hyd, ond bydd hwnnw’n llai. Os nad oes arnom angen cymorth ychwanegol gennych, ac os nad oedd oedi sylweddol ar eich rhan cyn datgelu, byddwn yn rhoi’r gostyngiad llawn sydd ar gael i chi, yn ôl y gyfraith, am ddweud, helpu a rhoi.
Rhoi gwybod i ni am unrhyw amgylchiadau arbennig
Os ydych o’r farn y dylai’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad gymryd amgylchiadau arbennig i ystyriaeth wrth gyfrifo’r gosb, dylech roi gwybod iddo ar unwaith.
Sut rydym yn cyfrifo swm y gosb
Mae 8 cam wrth gyfrifo swm unrhyw gosb. Caiff pob cam ei esbonio’n fanylach isod.
1 Cyfrifo swm y ‘refeniw a gollwyd o bosibl’ (PLR)
Mae’r gosb yn ganran o’r hyn a alwn yn ‘refeniw a gollwyd o bosibl’. Y PLR yw’r swm sy’n codi o ganlyniad i’r camwedd. Bydd y swyddog sy’n delio â’r gwiriad yn esbonio sut y cyfrifir hwn gennym.
2 Pennu ein barn am yr ‘ymddygiad’
Pan fo camweddu, byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn canfod beth wnaeth ei achosi. Rydym yn cyfeirio at hwn fel yr ‘ymddygiad’. Bydd y math o ymddygiad yn effeithio ar p’un a fyddwn yn codi cosb a swm y gosb. Y mathau gwahanol o ymddygiad yw:
-
Anfwriadol — dyma pan oeddech wedi camweddu ond nid oedd yn fwriadol, neu’n fwriadol ac wedi’i guddio. Ni fydd cosb yn cael ei chodi arnoch am gamwedd Treth Dirlenwi anfwriadol
-
Bwriadol — dyma pan oeddech yn gwybod eich bod wedi camweddu ond ni wnaethoch geisio cuddio hynny
-
Bwriadol ac wedi’i guddio — dyma pan oeddech yn gwybod eich bod wedi camweddu, a gwnaethoch gymryd camau bwriadol i guddio hynny
3 Pennu a oedd y datgeliad yn un heb ei annog neu wedi’i annog
Mae hyn yn pennu canran isaf bosibl y gosb y gallwn ei chodi. Caiff hyn ei esbonio’n fwy manwl yn yr adran ‘Datgelu camwedd cyn i ni ddod o hyd iddo’, uchod.
4 Ystod y cosbau
Bydd canran y gosb yn syrthio o fewn ystod. Bydd yr ystod hon yn dibynnu ar ein barn ynghylch y math o ymddygiad, a ph’un a oedd y datgeliad wedi’i annog neu beidio. Mae’r tabl canlynol yn dangos ystod y cosbau.
Math o ymddygiad | Datgeliad heb ei annog | Datgeliad wedi’i annog |
---|---|---|
Anfwriadol (nid yw hyn yn berthnasol i gamweddau Treth Dirlenwi) | 10% i 30% | 20% i 30% |
Bwriadol | 20% i 70% | 35% i 70% |
Bwriadol ac wedi’i guddio | 30% i 100% | 50% i 100% |
Yn ogystal, mae ystod ar wahân o gosbau am gyflenwi cynnyrch gan wybod y bydd yn cael ei gamddefnyddio (gweler isod). Nid yw hyn yn berthnasol i gamweddau eraill.
Math o ymddygiad | Datgeliad heb ei annog | Datgeliad wedi’i annog |
---|---|---|
Bwriadol | 30% i 100% | 50% i 100% |
Os oes gennych esgus rhesymol dros gamweddu’n anfwriadol, ni fyddwn yn codi cosb arnoch am gamwedd TAW neu Ecséis. Nid oes cosbau am gamweddau Treth Dirlenwi anfwriadol.
5 Cyfrifo’r gostyngiadau ar gyfer ansawdd y datgeliad (dweud, helpu a rhoi)
Mae ansawdd y datgeliad (dweud, helpu a rhoi) yn pennu lle y bydd y gosb yn syrthio o fewn ystod y cosbau Mae’r gostyngiad y byddwn yn ei roi yn dibynnu ar faint o gymorth a rowch i ni:
- dweud — rydym yn rhoi hyd at 30%
- helpu — rydym yn rhoi hyd at 40%
- rhoi mynediad at gyfrifon — rydym yn rhoi hyd at 30%
Wrth gyfrifo ansawdd y datgeliad, byddwn hefyd yn ystyried pa mor hir yr ydych wedi ei gymryd i roi gwybod i ni am y camwedd. Os ydych wedi cymryd cryn amser i gywiro neu ddatgelu’r hyn sydd o’i le (er enghraifft, 3 blynedd neu fwy), byddwn fel arfer yn cyfyngu’r gostyngiad mwyaf posibl a rown am ansawdd y datgeliad i 10 pwynt canrannol uwchben isafswm ystod y gosb. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn elwa ar ganran isaf y gosb sydd fel arfer ar gael.
6 Cyfrifo cyfradd ganrannol y gosb
Pennir cyfradd ganrannol y gosb gan ystod y cosbau a’r gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad.
Enghraifft
Yn ystod gwiriad cydymffurfio Ecséis, daethom o hyd i gamwedd anfwriadol nad oedd y cwsmer wedi rhoi gwybod i ni amdano cyn i ni ddechrau ein gwiriad. Pan wnaethom roi gwybod iddo am y camwedd, roedd yn cytuno â ni ei fod wedi camweddu.
Roedd hwn, felly, yn ddatgeliad wedi’i annog.
Ystod y gosb am gamweddu nad yw’n fwriadol gyda datgeliad wedi’i annog yw 20% i 30% o’r PLR.
Y gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad (dweud, helpu a rhoi) oedd 70%.
Camau | Enghraifft o gyfrifiad |
---|---|
I gyfrifo cyfradd ganrannol y gosb, yn gyntaf rydym yn cyfrifo’r gwahaniaeth rhwng canrannau isaf posibl ac uchaf posibl y gosb | 30% llai 20% = 10 |
Yna, rydym yn lluosi’r ffigur hwnnw â’r gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad er mwyn rhoi canran y gostyngiad. | 10 x 70% = 7% |
Yna, rydym yn didynnu canran y gostyngiad o ganran uchaf posibl y gosb y gallwn ei chodi | 30% llai 7% = 23% |
Mae hyn yn rhoi cyfradd ganrannol y gosb i ni | 23% |
7 Cyfrifo swm y gosb
I gyfrifo swm y gosb, rydym yn lluosi’r PLR â chyfradd ganrannol y gosb. Er enghraifft, os oedd y PLR yn yr enghraifft uchod yn £3,000, ac nid oedd gostyngiadau eraill, y gosb fyddai £690 (£3,000 × 23% = £690).
8 Ystyried gostyngiadau eraill
Ar ôl cyfrifo swm y gosb, rydym wedyn yn ystyried unrhyw ostyngiadau eraill sydd eu hangen. Er enghraifft, pan fyddwn eisoes wedi codi cosb arall ar yr un dreth neu doll. Mae hyn, yn ei dro, yn rhoi swm y gosb a godwn.
Sut y byddwn yn rhoi gwybod i chi am gosb
Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod faint yw’r gosb a sut rydym wedi’i chyfrifo. Os oes unrhyw beth ynglŷn â’r gosb nad ydych yn cytuno ag ef, neu os ydych o’r farn bod gwybodaeth nad ydym eisoes wedi’i chymryd i ystyriaeth, dylech roi gwybod i ni ar unwaith.
Ar ôl dwyn unrhyw beth rydych wedi rhoi gwybod i ni amdano i ystyriaeth, byddwn yn anfon hysbysiad asesiad o gosb atoch yn dangos y swm sy’n ddyledus.
O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog ar y gosb os na fyddwch yn ei thalu mewn pryd.
Adegau pan fydd yn rhaid i swyddog cwmni, o bosib, dalu cosb gyfan y cwmni, neu ran ohoni, am gamweddu’n fwriadol
Efallai y bydd yn rhaid i swyddog cwmni dalu cosb gyfan y cwmni, neu ran ohoni, os yw’r gosb yn ddyledus o ganlyniad i’w weithredoedd, ac mae un neu’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:
- mae wedi, neu wedi ceisio, elwa’n bersonol ar ganlyniad i gamweddu bwriadol
- mae’r cwmni yn, neu rydym yn credu ei fod ar fin bod yn, fethdalwr — hyd yn oed os na wnaeth y swyddog ar ran y cwmni elwa’n bersonol ar y camweddu’n fwriadol
Os yw’r cwmni’n talu’r gosb, ni fyddwn yn gofyn i’r swyddogion unigol ei thalu.
Mae swyddog cwmni yn cynnwys cyfarwyddwr, cyfarwyddwr cysgodol, ysgrifennydd y cwmni neu reolwr y cwmni, neu aelod o bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.
Mae’n bosibl y bydd swyddog cwmni’n agored yn bersonol dros gamwedd Treth Dirlenwi os bydd yn gwaredu deunydd mewn safle gwastraff anawdurdodedig neu’n peri neu’n caniatáu gwarediad o’r fath yn fwriadol.
Os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol
Gallwn gynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o erlyn os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol, megis:
- rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu ar bapur
- cam-gyfleu’n anonest faint o dreth sydd arnoch, neu hawlio taliadau nad oes gennych hawl iddynt
Rheoli diffygdalwyr difrifol
Os cawsoch eich materion treth yn anghywir yn fwriadol, a’n bod yn canfod hyn yn ystod y gwiriad, efallai y byddwn yn monitro’ch materion treth yn fanylach. Mae gennym raglen fonitro fanylach o’r enw ‘rheoli diffygdalwyr difrifol’. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y daflen wybodaeth CC/FS14, ‘Rheoli diffygdalwyr difrifol’.
Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol
Efallai y byddwn yn cyhoeddi’ch manylion os ydych wedi cael eich materion treth yn anghywir yn fwriadol. Fodd bynnag, ni fyddwn yn gwneud hyn os ydym wedi rhoi’r gostyngiad mwyaf posibl i chi ar gyfer y gosb. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y daflen wybodaeth CC/FS13, ‘Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol’.
Os ydych yn anghytuno
Os oes rhywbeth nad ydych yn cytuno ag ef, rhowch wybod i ni.
Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn. Cyn pen 30 diwrnod, gallwch wneud y canlynol:
- anfon gwybodaeth newydd at y swyddog sy’n delio â’r gwiriad, a gofyn iddo ei hystyried
- cael eich achos wedi’i adolygu gan un o swyddogion CThEF na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn
- trefnu bod tribiwnlys annibynnol yn gwrando ar eich apêl ac yn penderfynu ynghylch y mater
Pa ddull bynnag a ddewiswch, gallwch hefyd ofyn i un o swyddogion arbenigol CThEF weithredu fel hwylusydd diduedd er mwyn helpu i ddatrys yr anghydfod. Y Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR) yw’r enw a rown ar hyn.
Dim ond ar gyfer anghydfodau sy’n ymwneud â meysydd treth penodol y mae ADR ar gael. Bydd y swyddog sy’n delio â’r gwiriad yn rhoi gwybod i chi a yw ADR ar gael ar gyfer eich anghydfod. I gael rhagor o wybodaeth am apeliadau ac ADR, darllenwch y taflenni gwybodaeth canlynol:
Eich hawliau pan fyddwn yn ystyried codi cosbau
Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi rhai hawliau pwysig i chi. Os ydym yn ystyried cosbau, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi fod yr hawliau hyn yn gymwys, ac yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn eu deall. Mae’r hawliau hyn fel a ganlyn:
- os byddwn yn gofyn unrhyw gwestiynau i chi i’n helpu i benderfynu p’un a ddylid codi cosb arnoch, mae gennych yr hawl i beidio â’u hateb — eich penderfyniad chi’n gyfan gwbl yw faint o help y byddwch yn ei roi i ni pan fyddwn yn ystyried cosbau
- wrth benderfynu a ydych am ateb ein cwestiynau neu beidio, efallai y byddwch am gael cyngor gan ymgynghorydd proffesiynol — yn enwedig os nad oes un gennych yn barod
- os ydych yn anghytuno â ni ynglŷn â’r dreth neu’r cosbau y credwn sy’n ddyledus, gallwch apelio — os byddwch yn apelio ynglŷn â threthi yn ogystal â chosbau, mae gennych hawl i ofyn i’r ddwy apêl gael eu hystyried ar y cyd
- mae gennych yr hawl i wneud cais am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir er mwyn delio ag unrhyw apêl yn erbyn rhai cosbau penodol
- mae gennych hawl i ddisgwyl i ni ddelio â mater sy’n ymwneud â chosbau heb oedi afresymol
Mae rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn yn nhaflen wybodaeth CC/FS9, ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau’.
Y cyfnodau treth a’r trethi y mae’r rheolau cosbi hyn yn berthnasol iddynt
Mae’r rheolau cosbi yn y daflen wybodaeth hon yn berthnasol i gamweddau TAW ac Ecséis sy’n codi ar 1 Ebrill 2010 neu wedi hynny, ar gyfer Toll Alcohol, Olewau Hydrocarbon, Toll Tybaco, TAW, Tollau Ecséis (Daliadau a Symudiadau). Maent hefyd yn berthnasol i’r Dreth Dirlenwi o 1 Ebrill 2018 ymlaen.
Rhagor o wybodaeth
Ein hysbysiad preifatrwydd
Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch.
Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth
Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.