Cofrestru fel unig fasnachwr is-gontractwr, neu wneud cais am statws taliadau gros neu’r ddau
Os ydych yn unig fasnachwr, defnyddiwch ffurflen CIS302 Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) i gofrestru fel is-gontractiwr Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) a statws taliadau gros ar yr un pryd.
Dogfennau
Manylion
Gwneud cais ar-lein
Dyma’r ffordd fwyaf hwylus i ddweud wrthym.
Gallwch gofrestru fel is-gontractwr gyda thaliad o dan ddidyniad neu statws taliad gros (yn agor tudalen Saesneg) ar-lein.
I ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.
Os ydych chi’n asiant, bydd angen i chi ddefnyddio’r Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth rydych chi’n ei ddefnyddio i fewngofnodi i’ch cyfrif gwasanaethau asiant.
Gwneud cais drwy’r post
Cyn i chi ddechrau
Os ydych yn defnyddio porwr hŷn, er enghraifft, Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly rydym yn awgrymu eich bod yn casglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.
I ble y dylid anfon y ffurflen
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg
CThEF
BX9 1ST
Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig
Defnyddiwch y ffurflenni CIS hyn i gofrestru:
- ar gyfer taliadau ar ôl didynnu treth (CIS301) (yn agor tudalen Saesneg)
- eich partneriaeth fel is-gontractiwr (CIS304)
- eich cwmni (CIS305)
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 June 2024 + show all updates
-
The Welsh version of individual registration for gross payment (CIS302 Notes) has been updated.
-
The English version of individual registration for gross payment (CIS302 Notes) has been updated.
-
The CIS302 online version has been updated to allow self-employed businesses register as a subcontractor and apply for gross payment status.
-
Copy of the CIS302 Notes now available in Welsh
-
Welsh translation and welsh iform CIS302 has been added to this page.
-
Individual registration for gross payment (CIS302 Notes) added.
-
First published.