Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol Cymru Adroddiad Blynyddol 2023-24
Published 30 April 2024
Applies to England and Wales
1. Rhagair
1.1 Amy Rees
Cadeirydd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru
Mae’n bleser gennyf rannu ein Hadroddiad Blynyddol Gwrth-Hiliaeth Cyfiawnder Troseddol cyntaf i Gymru, sy’n dangos sut rydyn ni’n cyflawni’r addewidion a wnaethom i bobl o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru.
Fe wnaethom lansio ein Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru ym mis Medi 2022, o ganlyniad i gyfnod helaeth o gydgynhyrchu gyda phobl o leiafrifoedd ethnig ledled Cymru. Mae’r Cynllun yn cydnabod hanes hiliaeth, triniaeth annheg ac anghydraddoldeb hiliol yn y system cyfiawnder troseddol ac mae’n nodi saith ymrwymiad sy’n rhoi fframwaith i bartneriaid cyfiawnder troseddol weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod y system yn effeithiol, yn effeithlon ac yn hyrwyddo tegwch.
Rydyn ni’n cydnabod bod dileu hiliaeth yn gofyn am ymdrech gymdeithasol barhaus i’w chyflawni, ond rydw i’n falch bod ein Cynllun, a’r gwaith rydyn ni’n ei wneud gyda’n gilydd, yn dangos ein hymrwymiad diwyro i’r uchelgais hwn.
Mae’r adroddiad yn amlinellu faint rydyn ni wedi’i gyflawni hyd yma, gan gynnwys: sicrhau bod y strwythurau cywir ar waith i oruchwylio’r gwaith o gyflawni pob agwedd ar y Cynllun; sefydlu’r Panel Trosolwg a Chynghori Annibynnol a’r Rhwydwaith Ymgysylltu â’r Gymuned i sicrhau bod gennym fwy o dryloywder, deialog ac atebolrwydd gyda phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig; ymchwil i’r ymyriadau sydd ar gael i’r rheini sy’n cyflawni troseddau casineb hiliol; darparu hyfforddiant gwrth-hiliaeth i bartneriaid ar draws cyfiawnder troseddol; a datblygu ein dull cyfathrebu.
Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn canolbwyntio ar sicrhau ein bod yn gwneud newid gwirioneddol yn erbyn pob un o’r saith ymrwymiad yn y Cynllun, yn enwedig sicrhau ein bod yn cynyddu lleisiau a chynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig ar draws y system gyfiawnder a gwella’r data a gasglwn i fesur lle mae ein gwaith a’n hymdrechion ar y cyd yn gwneud gwahaniaeth.
Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda phartneriaid a symud yn nes at ein huchelgais ar y cyd o Gymru heb hiliaeth.
1.2 Emma Wools, Ian Barrow, Pam Kelly
Uwch Swyddogion Cyfrifol ar gyfer Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol Cymru
Mae’n bleser gennym gyflwyno’r cynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol yn ei flwyddyn gyntaf. Drwy gydol y flwyddyn, rydyn ni wedi gweithio gyda’n gilydd i arwain a gyrru’r gwaith o weithredu’r Cynllun ledled Cymru. Rydyn ni’n falch o’r hyn sy’n cael ei gyflawni, a’r buddsoddiad y mae pob partner cyfiawnder troseddol yn ei wneud i hyrwyddo gwrth-hiliaeth.
Rydyn ni’n gweld newidiadau cadarnhaol ac yn gweld mai ychydig iawn o wythnosau sy’n mynd heibio lle nad yw gwrth-hiliaeth yn cael ei thrafod ar lefelau uwch ac ar draws ein gweithlu ehangach. Rydyn ni wedi bod yn gwrando’n frwd ar ein cymunedau a’n partneriaid yn ystod y flwyddyn i ddeall eu barn am ba mor dda rydyn ni’n gwneud a’r materion maen nhw’n dal i’w hwynebu. Gwyddom fod gennym lawer i’w wneud eto i gymunedau weld a theimlo’r newidiadau, ac rydyn ni’n effro i’r heriau y mae angen inni eu goresgyn o hyd. Ond credwn fod y camau sy’n cael eu cymryd yn gadarnhaol ac yn galonogol, a gobeithiwn y gellir dangos hyn yn yr adroddiad blynyddol cyntaf hwn.
1.3 Chantal Patel
Cadeirydd y Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol
Fel panel, rydyn ni wedi bod yn falch o weld yr ymrwymiad ar draws cyfiawnder troseddol i wireddu’r Cynllun Gwrth-hiliaeth yn ei flwyddyn gyntaf. Rydyn ni wedi bod yn ddiolchgar am y cyfleoedd i ddylanwadu ar ei weithrediad. Mae’r Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol wedi bod yn cyfarfod ers dros flwyddyn. Yn ystod ein blwyddyn gyntaf, rydyn ni wedi gweithio i ddeall rolau amrywiol pob un o’r sefydliadau cyfiawnder troseddol sydd wedi ymrwymo i’r Cynllun. Rydyn ni’n cael ein synnu gan helaethrwydd uchelgeisiau’r Cynllun ac yn gwybod bod angen gwneud gwaith dwys ar draws yr holl bartneriaid i’w wireddu. Rydyn ni wedi bod yn gweithio i flaenoriaethu ein meysydd ffocws yn y flwyddyn i ddod er mwyn i ni allu dal cyfiawnder troseddol yn atebol am y materion sy’n wirioneddol bwysig i’r cyhoedd. Edrychwn ymlaen at allu gwneud gwahaniaeth ar ran pobl o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru.
1.4 Yr Athro Emmanuel Ogbonna
Cadeirydd Grŵp Atebolrwydd Allanol Llywodraeth Cymru
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi bod mewn nifer o ddigwyddiadau sydd wedi bod yn rhan o’r agenda gwrth-hiliaeth cyfiawnder troseddol. Mae’r ymrwymiad a ddangoswyd gan yr holl arweinwyr sy’n ymwneud â’r gwaith wedi creu argraff arnaf. Bu parodrwydd i ddysgu am ddeinameg gymhleth hiliaeth a deall sut mae diwylliant hiliaeth wedi treiddio i sawl agwedd ar y sefydliadau dan sylw. Bu parodrwydd hefyd i groesawu gwrth-hiliaeth fel y ffordd ymlaen. Cymeradwyaf y camau hyn fel y sylfaen angenrheidiol ar gyfer gweithio tuag at ddatblygu system cyfiawnder troseddol gwrth-hiliol yng Nghymru.
Y cam nesaf yw dechrau’r dasg anodd o weithredu’r cynllun yn y blynyddoedd i ddod a dyma lle mae’r prif heriau. Rhaid i’r arweinwyr ddyblu eu hymdrechion a pharhau i gymryd perchnogaeth uniongyrchol o’r broses. Mae angen iddynt fod yn weladwy ar draws pob lefel o’r sefydliad a helpu i gyfleu arwyddocâd symbolaidd a gweithredol gwrth-hiliaeth fel polisi sy’n ganolog i ddyfodol yr holl sefydliadau dan sylw.
2. Cyflwyniad
Ym mis Medi 2022, cyhoeddodd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ei Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth. Dyma’r tro cyntaf erioed i’r holl asiantaethau cyfiawnder troseddol yng Nghymru gytuno i gydweithio i fynd i’r afael â hiliaeth a gwahaniaethau hiliol ar y cyd. Cytunodd yr holl bartneriaid cyfiawnder troseddol yng Nghymru i ddatblygu ar y cyd a chyflawni yn erbyn camau gwrth-hiliol. Roedd hyn yn cynnwys y pedwar heddlu yng Nghymru, y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi, a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Yn ogystal, cytunodd Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r Cynllun fel aelodau o Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru.
Roedd datblygiad a chyhoeddiad y Cynllun yn gam enfawr ymlaen o ran cydnabod y gwahaniaeth hiliol hanesyddol mewn cyfiawnder troseddol. Roedd yn cydnabod yr angen i weithredu fel y byddai’r system yng Nghymru’n hyrwyddo tegwch ac yn wrth-hiliol, ac felly ni fyddai pobl o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru bellach yn profi’r anghyfiawnder, yr annhegwch, a’r rhagfarn y maen nhw’n yn eu profi flwyddyn ar ôl blwyddyn, ddydd ar ôl dydd. Cynhyrchwyd y Cynllun ar y cyd â phobl o leiafrifoedd ethnig ledled Cymru ac mae’n cynnwys y camau yr oedden nhw am eu gweld.
Y bwriad yw gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru wrth iddi weithredu’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030, gyda’r nod o gael system cyfiawnder troseddol gwrth-hiliol yng Nghymru yn yr un amserlen.
Dyma’r adroddiad cyntaf ar gynnydd yn erbyn y Cynllun, a bydd adroddiad yn awr yn cael ei gyhoeddi yn ystod pob gwanwyn o oes y Cynllun. Fel yr amlinellir yn y Cynllun, mae’r adroddiad blynyddol ynddo’i hun yn gam tuag at fwy o dryloywder ar draws y system cyfiawnder troseddol gan ei fod yn ceisio bod yn gliriach ac yn fwy agored am y gwaith sy’n mynd rhagddo i fynd i’r afael â gwahaniaethau hiliol a hyrwyddo gwrth-hiliaeth drwy ei holl wasanaethau.
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o dan bob un o’r 7 prif ymrwymiad yn y Cynllun:
- Herio Hiliaeth
- Adeiladu Gweithlu sy’n Amrywiol o ran Ethnigrwydd
- Cynnwys, Gwrando a Gweithredu
- Bod yn Dryloyw, yn Atebol ac yn Gydlynol
- Addysgu’r Gweithlu
- Hyrwyddo Tegwch
- Canolbwyntio ar Atal, Ymyrraeth Gynnar ac Adsefydlu
3. Blwyddyn Gyntaf y Cynnydd
Drwy gydol 2023-4, mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru wedi gweithio i sefydlu strwythurau i sicrhau bod modd cyflawni’r Cynllun yn effeithiol. Mae’r prosesau llywodraethu ar gyfer cyflawni’r Cynllun, ac ar gyfer y Bwrdd yn ei gyfanrwydd, wedi cael eu hadolygu er mwyn iddyn nhw allu gweithredu mewn ffyrdd mwy gwrth-hiliol a chynhwysol. Mae arweinwyr wedi cael mewnbwn ar ddulliau gwrth-hiliol; mae staff cyfiawnder troseddol wedi cael mewnbwn ar wrth-hiliaeth a chymhwysedd diwylliannol; ac mae gweithgorau, arweinwyr ffrydiau gwaith ac adnoddau pwrpasol wedi cael eu neilltuo i gyflawni sawl agwedd ar y Cynllun. Mae prosiectau wedi cael eu lansio, ac mae camau gweithredu ar waith o dan bob un o’r saith ymrwymiad yn y Cynllun.
Ym mis Mai 2023, cynhaliodd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, ‘Uwchgynhadledd Gwrth-hiliaeth Un Gwasanaeth Cyhoeddus’ yng Nghaerdydd. Daeth hyn ag arweinwyr yr holl gyrff cyhoeddus, gan gynnwys partneriaid cyfiawnder troseddol, at ei gilydd i drafod y camau gweithredu sydd eu hangen ar frys ar gyfer Cymru Wrth-hiliol. Roedd yr arweinwyr wedi ystyried sut roedd angen iddyn nhw weithio gyda’i gilydd i greu newid go iawn drwy’r ‘Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol Cymru’ a hefyd ‘Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol’ Llywodraeth Cymru. Gwahoddwyd pobl sydd wedi’u tangynrychioli’n hiliol, gan gynnwys y rheini sydd â phrofiad uniongyrchol o’r system cyfiawnder troseddol, i annerch yr uwchgynhadledd a chyflwyno eu safbwyntiau ar faterion y mae angen rhoi sylw iddyn nhw.
Yn yr uwchgynhadledd, dywedodd yr Athro Emmanuel Ogbonna, Cadeirydd Grŵp Atebolrwydd Allanol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, na fyddai’r newidiadau gofynnol yn cael eu cyflawni heb fuddsoddiad a momentwm parhaus wrth gyflawni’r ddau Gynllun Gwrth-hiliaeth. Pwysleisiodd nad oedd y cyhoedd eisiau gweld ‘Cynllun arall’ yn unig. Roedd hyn yn ein hatgoffa’n llwyr o’r holl gyfiawnder troseddol bod angen i bawb barhau i fuddsoddi’n wirioneddol yn y gwaith o gyflawni’r newidiadau a addawyd.
Roedd yr uwchgynhadledd yn tynnu sylw at anferthedd y newid sydd ei angen ar gyfer Cymru wirioneddol wrth-hiliol, gan gynnwys system cyfiawnder troseddol gwrth-hiliol. Roedd yn ailbwysleisio’r angen am fomentwm parhaus ar draws pob sector pe bai’r hiliaeth systemig sydd wedi ymwreiddio mewn gwasanaeth cyhoeddus yn cael ei dileu. Mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru yn parhau i ganolbwyntio’n llwyr ar gynnal y momentwm hwn.
4. Dal Cyfiawnder Troseddol yn Atebol
Pan gyhoeddwyd y Cynllun, roedd yn cynnwys yr ymrwymiad i sicrhau bod pobl o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru yn cael eu gwahodd a’u hannog i ddal asiantaethau cyfiawnder troseddol yn atebol am eu gwaith yn cyflawni’r ymrwymiadau. Er bod hyn yn gallu digwydd mewn sawl ffordd wrth i’r asiantaethau ymgysylltu â’u defnyddwyr gwasanaeth a’u staff o leiafrifoedd ethnig, mae dwy ffordd ffurfiol hefyd y mae hyn bellach yn digwydd o ganlyniad i’r Cynllun: y Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol a’r Rhwydwaith Ymgysylltu â’r Gymuned.
Mae’r ddau grŵp yn profi’n amhrisiadwy o ran sicrhau bod partneriaid cyfiawnder troseddol yn ymwybodol yn barhaus o sut mae’r Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth yn datblygu ar lawr gwlad. Mae’r lleisiau yn y grwpiau yn galluogi cyfiawnder troseddol i ddeall yn well a yw unigolion a chymunedau y mae hiliaeth yn effeithio arnyn nhw’n wynebu newid. Maen nhw hefyd yn cynnig her lle nad oes cynnydd yn cael ei wneud ar y cyflymder y mae cymunedau’n dymuno ei weld, ac maen nhw’n gallu gofyn cwestiynau uniongyrchol ynghylch pa waith sy’n cael ei wneud i gyrraedd y nodau a nodir yn y Cynllun.
5. Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol
Penodwyd y Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol yn 2022 i oruchwylio cynnydd y Cynllun. Mae’n cynnwys 12 o bobl a benodwyd drwy broses agored ac sy’n cael eu talu am eu hamser. Maen nhw’n gweithio i graffu ar gyfiawnder troseddol am eu cynnydd yn erbyn y Cynllun, gan ddarparu prawf a her drwy gyfarfodydd bob deufis a rhoi cyngor lle bo hynny’n bosibl. Mae cyfanswm o 92% o aelodau’r panel o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig. Mae rhagor o wybodaeth am y panel ar gael yma.
Yn ystod blwyddyn gyntaf y panel, mae aelodau wedi canolbwyntio ar ddeall yr amrywiol asiantaethau partner sy’n rhan o gyfiawnder troseddol yng Nghymru. Maen nhw wedi cael mewnbwn uniongyrchol gan uwch arweinwyr cyfiawnder troseddol yng Nghymru, gan gynnwys Prif Gwnstabliaid dau heddlu, ac maen nhw wedi gallu gofyn cwestiynau am eu hymdrechion yn ymwneud â gwrth-hiliaeth. Mae’r panel hefyd wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y prif ffrydiau gwaith sy’n rhan o’r Cynllun. Mae hyn wedi cynnwys diweddariadau ar y gwaith o gasglu data ethnigrwydd a rhannu data ar draws cyfiawnder troseddol, a’r gwaith i ddatblygu ymwybyddiaeth a hyfforddiant gwrth-hiliaeth ar draws y system. Mae’r panel hefyd wedi chwarae rhan yn y gwaith o oruchwylio’r trefniadau llywodraethu mewnol sydd gan bob sefydliad cyfiawnder troseddol unigol i gyflawni ymrwymiadau’r Cynllun. Mae aelodau’r panel wedi gallu rhoi adborth cadarnhaol, ac maen nhw hefyd wedi tynnu sylw at feysydd lle mae angen mwy o ffocws a sylw.
Un o’r prif faterion y mae’r Panel Annibynnol wedi’u codi i gael mwy o sylw yn y flwyddyn i ddod, yw gwell ffocws ar fesur effaith llwyddiant ar lawr gwlad. Mae’r panel yn herio’r system cyfiawnder troseddol i ystyried sut y dylai llwyddiant edrych a theimlo i bobl Ddu a lleiafrifoedd ethnig Cymru, gan sicrhau bod mesur effaith ymddangosiadol newid yn dod yn flaenoriaeth.
Isod ceir datganiad safbwynt y Panel Annibynnol ynghylch cynnydd y Cynllun ar ôl ei flwyddyn gyntaf:
‘Mae’r awydd i groesawu gwrth-hiliaeth ar draws cyfiawnder troseddol yn ganmoladwy ac rydyn ni wedi gweld yr ymrwymiad hwn drwy gydol y flwyddyn. Byddai’n deg dweud bod gan y Cynllun agenda enfawr, a bod angen gweithio i ddeall sut mae’r holl asiantaethau cyfiawnder troseddol yn datblygu eu hagwedd tuag at yr agenda gwrth-hiliol yn unigol. Rydyn ni am weld tystiolaeth amlwg ar draws pob sefydliad. Byddai mwy o ffocws ar ganlyniadau mesuradwy yn cael ei groesawu yn y blynyddoedd i ddod. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn deall effaith y camau sy’n cael eu cymryd yn y Cynllun a byddwn yn ceisio canolbwyntio ein hymdrechion ar hyn yn y dyfodol.’
6. Y Rhwydwaith Ymgysylltu â’r Gymuned
Sefydlwyd Rhwydwaith Ymgysylltu â’r Gymuned Cyfiawnder Troseddol yn 2023. Mae’r rhwydwaith ar-lein hwn yn cael ei gadeirio gan asiantaeth partner allanol i hyrwyddo annibyniaeth. Mae sefydliadau ledled Cymru’n cymryd rhan ac maen nhw’n cael eu harwain gan leisiau pobl o leiafrifoedd ethnig ledled Cymru, ac/neu yn eu cynrychioli. Mae’r rhwydwaith yn cyfarfod bob dau fis i drafod materion sy’n ymwneud â chyfiawnder troseddol ac i’r rhai sy’n bresennol gyfrannu eu profiadau, eu cwestiynau a’u heriau i’r gwaith tuag at system cyfiawnder troseddol gwrth-hiliol yng Nghymru.
Yn ystod blwyddyn gyntaf y rhwydwaith, mae aelodau wedi ymdrin ag amrywiaeth o faterion ac wedi herio cyfiawnder troseddol yn deg ac yn gadarn mewn meysydd sy’n peri pryder parhaus. Mae’r grŵp wedi codi materion sy’n ymwneud â gwahaniaethau hiliol o ran stopio a chwilio yng Nghymru yn barhaus, ac wedi gofyn am sicrwydd ynghylch y camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn. Mae’r rhwydwaith wedi cael sicrwydd ynghylch y gwaith craffu manylach sy’n cael ei wneud yn annibynnol ac yn y gymuned sy’n digwydd ym mhob heddlu o ran stopio a chwilio, ac mae aelodau wedi dylanwadu’n gadarnhaol ar sgyrsiau ynghylch sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael yn ehangach.
Mae’r rhwydwaith wedi gwneud rhai pwyntiau pwysig ynghylch yr iaith sy’n cael ei defnyddio ar y cyd ar draws cyfiawnder troseddol, ac mae’n parhau i bwyso am iaith gyson y cytunwyd arni sy’n hyrwyddo cynhwysiant. Yn ogystal, mae’r rhwydwaith wedi sicrhau bod materion croestoriadedd yn cael eu cadw ar yr agenda ar gyfer cyfiawnder troseddol. Mae hyn yn rhywbeth y bydd angen canolbwyntio ymhellach arno yn y blynyddoedd i ddod.
Mae’r rhwydwaith wedi dylanwadu’n gadarnhaol ar y gwaith sy’n dechrau cael ei wneud ledled Cymru o ran tegwch i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae grŵp Cymru gyfan wedi cael ei ddatblygu i atgyfnerthu gwaith gwrth-hiliaeth ymhellach yn y maes hwn.
Isod ceir datganiad safbwynt y Rhwydwaith Ymgysylltu â’r Gymuned ynghylch cynnydd y Cynllun ar ôl ei flwyddyn gyntaf:
‘Mae wedi bod yn gadarnhaol iawn bod yn rhan o ddeialog agored a gonest ynghylch gwrth-hiliaeth mewn cyfiawnder troseddol drwy’r Rhwydwaith Ymgysylltu â’r Gymuned yn ei flwyddyn gyntaf, a bod yn dyst iddo. Mae’r rhwydwaith yn teimlo fel cymuned sy’n datblygu o gryfder a phwrpas cyffredin. Mae wedi caniatáu i’n cymunedau gael materion pwysig wedi’u hidlo’n ôl i Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru.
Mae’n ymddangos bod awydd i sefydliadau gael sgyrsiau agored a gonest am ymddygiad gwrth-hiliol a glynu wrth amcanion y Cynllun. Mae’n teimlo bod y rheini sydd mewn grym yn gwrando ac yn gweithio tuag at y cynllun. Mae cynnydd yn cymryd amser, fel y gellid ei ddisgwyl yn y flwyddyn gyntaf, ond mae’n teimlo fel ein bod yn gweld gwreiddiau cychwynnol newid. Mae’r diwylliant sy’n cael ei greu gyda’r rheini sydd mewn swyddi arwain yn teimlo’n gynhwysol.
Yr her ar hyn o bryd yw i’r newidiadau rydyn ni’n dechrau bod yn ymwybodol ohonyn nhw yn y rhwydwaith gael eu teimlo yn ein cymunedau. Nid yw newid gwirioneddol yn cael ei deimlo ar lawr gwlad eto a byddwn am wybod y bydd hyn yn dechrau digwydd yn y dyfodol’.
7. Cynnydd yn Erbyn y Cynllun
Mae’r adran hon yn rhoi gwybodaeth am y camau a gymerwyd dan bob un o’r ymrwymiadau yn y Cynllun ers ei lansio.
Mae’r adran hefyd yn adrodd ar rai o’r safbwyntiau allanol a gyflwynwyd ynghylch gwahanol faterion yn y Cynllun. Drwy gydol y flwyddyn, mae Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru wedi bod â diddordeb mewn gwrando ar farn y gymuned a lleisiau annibynnol ynglŷn â phob agwedd ar y Cynllun. Mae hyn wedi digwydd mewn amrywiaeth o sianeli cyfarfod ffurfiol, ond hefyd drwy’r nifer o gyfarfodydd anffurfiol, sesiynau ymgysylltu, digwyddiadau, seminarau a chynadleddau a fynychwyd drwy gydol y flwyddyn. Mae barn unigolion ac asiantaethau partner yn amhrisiadwy o ran rhoi cipolwg ar y cynnydd sy’n cael ei wneud ar lawr gwlad a’r meysydd sydd angen sylw.
7.1 Ymrwymiad 1: Herio Hiliaeth
Byddwn yn rhagweithiol wrth herio hiliaeth mewn cymdeithas lle gall cyfiawnder troseddol ddylanwadu, a byddwn yn gweithio i ddileu hiliaeth a rhagfarn hiliol ar draws y system. Byddwn yn sicrhau bod cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn ymwybodol o’n hymrwymiadau gwrth-hiliol.
Cynnydd yn Erbyn Gweithredu
Sefydlwyd Rhwydwaith Ymgysylltu â’r Gymuned yn ffurfiol yn 2023 ac mae’n cael ei gadeirio’n annibynnol gan sefydliad trydydd sector ar ran Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru. Mae’r rhwydwaith yn cynnwys unigolion a sefydliadau partner sy’n cynrychioli ac yn gweithio gyda phobl o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru, gan gynnwys y rheini sydd â phrofiad uniongyrchol o’r system cyfiawnder troseddol. Mae’r rhwydwaith yn rhoi Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru mewn sefyllfa gryfach i glywed a hyrwyddo profiadau uniongyrchol pobl sydd wedi’u tangynrychioli’n hiliol yng Nghymru. Gellir defnyddio’r lleisiau a’r profiadau hyn i herio stereoteipiau negyddol mewn cymdeithas, sy’n gallu arwain yn aml at ddigwyddiadau casineb.
Cynhaliwyd sesiwn oruchwylio ar droseddau casineb gan y Rhwydwaith Ymgysylltu â’r Gymuned yn ystod haf 2023. Roedd hyn yn galluogi sefydliadau allanol i ddeall y prosesau presennol ar gyfer rhoi gwybod am droseddau casineb a darpariaethau i ddioddefwyr yng Nghymru. Roedd yn galluogi’r rheini a oedd yn bresennol i gael rhywfaint o sicrwydd ynghylch y gwaith sy’n cael ei wneud i alluogi riportio sy’n canolbwyntio ar ddioddefwyr ledled Cymru, ac roedd hefyd wedi arwain at argymhellion gan y rhwydwaith ynghylch sut gallai heddluoedd ac eraill wella cyfathrebu cyhoeddus ar y materion hyn.
Mae Strategaeth Gyfathrebu ar gyfer y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth wedi cael ei drafftio a bydd yn cael ei chwblhau yn 2024. Bydd hyn yn cynnwys camau gweithredu i hyrwyddo straeon a negeseuon cadarnhaol am bobl sydd wedi’u tangynrychioli’n hiliol yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu i herio hiliaeth a hyrwyddo gwrth-hiliaeth mewn cymdeithas.
Mae ymchwil wedi cael ei gomisiynu a’i gwblhau ar ddefnyddio Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys a chyfiawnder adferol ar gyfer troseddwyr troseddau casineb. Mae hyn wedi ystyried beth sy’n gweithio a beth yw’r ffordd orau o ddefnyddio ymyriadau o’r fath er budd dioddefwyr a newid ymddygiad troseddwyr. Mae’r rhaglenni presennol ar Newid Ymddygiad Troseddau Casineb sy’n cael eu defnyddio mewn carchardai hefyd wedi cael eu hystyried. Mae hyn wedi edrych ar yr hyn a allai weithio orau ar gyfer newid ymddygiad y rheini sydd wedi cyflawni troseddau a digwyddiadau casineb hil. Mae’r camau nesaf ar gyfer dulliau Cymru gyfan yn cael eu hystyried yn awr.
Yn ystod y flwyddyn, mae gwaith wedi dechrau ar herio stereoteipiau mewnol ar draws cyfiawnder troseddol drwy gyflwyno rhaglen beilot ar Gymhwysedd Diwylliannol ar gyfer staff cyfiawnder troseddol. Comisiynwyd a chynhaliwyd y peilot hyfforddiant yn ystod haf 2023 ac arweiniodd at 250 o staff cyfiawnder troseddol yn dyfnhau eu dealltwriaeth o hiliaeth, gwrth-hiliaeth, braint pobl wyn a rhagfarn ddiarwybod, yn enwedig gan eu bod yn ymwneud â’r cyd-destun cyfiawnder troseddol. Cafodd aelodau Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru hefyd nifer o fewnbwn i godi ymwybyddiaeth ynghylch gwrth-hiliaeth yn ystod y flwyddyn.
Yn 2023, fe wnaethom adolygu ein prosesau llywodraethu i sicrhau bod aelodau ein Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol yn gallu bod yn bresennol yn ein Rhwydwaith Ymgysylltu â’r Gymuned. Bydd hyn yn helpu aelodau’r panel i fod yn ymwybodol o brofiad uniongyrchol pobl o’r system cyfiawnder troseddol er mwyn i’r profiadau a’r safbwyntiau a amlygwyd allu eu helpu i oruchwylio a herio Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru o ran cyflawni.
Mae cynlluniau wedi cael eu gwneud i gynnal sesiwn benodol ar droseddau casineb hiliol yng nghyfarfod y Tasglu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol yn ystod gwanwyn 2024. Yn y cyfarfod hwn, bydd cynghorwyr allanol yn cael eu gwahodd i amlinellu safbwyntiau a phryderon allweddol y gymuned ynglŷn â throseddau casineb hil er mwyn gallu cynnal sgyrsiau sy’n canolbwyntio ar atebion mewn partneriaeth.
Materion Allweddol a Godwyd gan Aelodau Cymunedol a Lleisiau Annibynnol yn 2023-24
Mae pryderon allanol ynghylch troseddau casineb a godwyd yn ystod y flwyddyn wedi cynnwys y cyfraddau gadael cyn gorffen ar gyfer dioddefwyr troseddau casineb, yn benodol y diffyg cynnydd o ran erlyniadau mewn achosion unigol. Mae aelodau’r gymuned wedi teimlo bod hyn wedi digwydd weithiau oherwydd diffyg erlyniad gan Wasanaeth Erlyn y Goron (GEG) ac yn sgil yr heddlu’n gollwng yr achos oherwydd diffyg tystiolaeth cyn y cam hwn. Yr hyn y mae angen ei ddeall yn well yw’r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron a gofynion tystiolaeth digonol. Mae partneriaid allanol wedi dweud bod yr heddlu, mewn rhai achosion, wedi’i chael yn anodd profi elfen ‘lletygarwch’ trosedd er mwyn bodloni elfennau cyfreithiol gofynnol trosedd. Mae Race Equality First yn cynnal ymchwil ar hyn o bryd ar ffactorau a allai gyfrannu at erlyniadau troseddau casineb llwyddiannus neu aflwyddiannus. Bydd gan Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ddiddordeb yn y canfyddiadau hyn gan eu bod yn ymwneud â chasineb hiliol, a ddisgwylir yn 2025.
Mae materion eraill a godwyd yn ystod 2023 wedi cynnwys yr anghysondeb mewn dulliau gweithredu gwasanaeth troseddau casineb ar draws plismona yng Nghymru, a’r angen am fwy o gydweithio ar y ffordd orau o gefnogi dioddefwyr casineb hil. Mae partneriaid allanol wedi cydnabod y gwaith enfawr sy’n cael ei wneud yn y maes hwn ac maen nhw wedi cael eu calonogi gan faint o graffu sy’n digwydd yng nghyswllt achosion troseddau casineb ym maes plismona. Fodd bynnag, maen nhw wedi mynegi bod angen rhoi cyhoeddusrwydd ehangach i hyn er mwyn gwella hyder yn y system.
Enghraifft o weithredu cyfiawnder troseddol
Yn 2023, cynhyrchodd Heddlu Gwent becyn cymorth Troseddau Casineb ar gyfer swyddogion yr heddlu. Mae’r adnodd hwn yn rhoi gwybodaeth i swyddogion ar y ffordd orau o gefnogi dioddefwyr troseddau casineb, gan gynnwys dioddefwyr troseddau casineb hil. Mae’r pecyn yn cynnwys gwybodaeth am roi cymorth i’r rheini nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ac i bobl sydd ag anghenion diwylliannol a chrefyddol. Mae’r canllaw yn cynnwys pwysigrwydd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf sy’n hygyrch i ddioddefwyr a’u cefnogi’n sensitif wrth roi datganiadau.
7.2 Ymrwymiad 2: Gweithlu sy’n Amrywiol o ran Ethnigrwydd
Byddwn yn cynyddu cynrychiolaeth pobl o leiafrifoedd ethnig sy’n gweithio yn y system cyfiawnder troseddol fel gweithwyr ac arweinwyr, gan greu gweithlu mwy diogel a chynhwysol sy’n cynrychioli ein cymunedau lleol.
Y Cynnydd hyd yma
Mae asiantaethau cyfiawnder troseddol unigol yng Nghymru yn cymryd camau cadarnhaol i geisio cynyddu cynrychiolaeth eu staff Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae ffrwd waith cynrychiolaeth y gweithlu wedi cael ei sefydlu o dan y fframwaith llywodraethu ar gyfer y Cynllun Gwrth-hiliaeth, ac mae hyn yn cwmpasu’r holl waith gweithredu cadarnhaol sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd ar draws cyfiawnder troseddol ynglŷn â recriwtio a chynnydd. Pan fydd y gwaith cwmpasu wedi’i gwblhau, bydd arferion da a bylchau’n cael eu nodi, er mwyn gallu datblygu a defnyddio safonau sylfaenol ledled Cymru.
Wrth i waith Cyfathrebu’r Cynllun Gwrth-hiliaeth gael ei ddatblygu yn y blynyddoedd i ddod, mae bwriad i wella’r hysbysebu, y negeseuon a’r allgymorth ynglŷn â gyrfaoedd ym maes cyfiawnder troseddol a’r cymorth a gynigir i’r rheini sy’n gwneud cais. Mae’r gwaith hwn yn ei ddyddiau cynnar ar hyn o bryd ar lefel Cymru gyfan ond mae’n digwydd ar lefel partneriaid cyfiawnder troseddol unigol. Mae llawer o asiantaethau wedi cymryd rhan mewn ffeiriau swyddi a gyrfaoedd drwy gydol y flwyddyn mewn digwyddiadau sydd wedi’u hanelu at gymunedau lleiafrifoedd ethnig, gyda’r bwriad o godi proffil cyfleoedd gyrfa sydd ar gael ym maes cyfiawnder troseddol a hyrwyddo’r ymrwymiad parhaus i wrth-hiliaeth ar draws ei ddiwylliant.
Mae pob asiantaeth cyfiawnder troseddol yn gweithio ar Asesu Effaith ar Gydraddoldeb eu polisïau a’u prosesau recriwtio a dethol. Ar ben hynny, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae proses fethodoleg wedi cael ei drafftio i alluogi peilot archwilio polisi recriwtio i ddechrau ar draws un neu fwy o’r asiantaethau cyfiawnder troseddol yn 2024. Bydd y peilot hwn yn edrych yn fanwl ar y polisïau a’r gweithdrefnau a ddefnyddir wrth recriwtio drwy lens wrth-hiliol. Bydd y broses yn arwain at argymhellion ar gyfer newid lle ceir unrhyw ragfarn ac annhegwch. Bwriedir i’r broses archwilio wedyn gael ei hailadrodd ar draws asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae gwaith wedi dechrau i sefydlu ‘Rhwydwaith Cefnogi Staff Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan’ ar draws cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Ar ben hynny, mae gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod yr holl rwydweithiau staff presennol ar gyfer staff o leiafrifoedd ethnig yn cael eu cefnogi’n dda a’u bod yn cael eu galluogi i brofi a herio yn eu sefydliadau eu hunain.
Materion Allweddol a Godwyd gan Aelodau Cymunedol a Lleisiau Annibynnol yn 2023-24
Mae’n amlwg bod cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn cefnogi unrhyw symudiad i brosesau recriwtio cyfiawnder troseddol fod yn deg ac yn hygyrch i bawb. Fodd bynnag, maen nhw hefyd yn nodi’n rheolaidd nad rhoi sylw i recriwtio a thargedau rhifiadol yn unig yw’r hyn y maen nhw am ei weld. Er bod cefnogaeth glir i’r angen i gynyddu cynrychiolaeth pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sy’n gweithio yn y system cyfiawnder troseddol, mae teimlad hefyd y dylid rhoi blaenoriaeth yn gyntaf i newid diwylliant mewnol. Nid yw rhai aelodau o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn ymddiried digon yn y system cyfiawnder troseddol i weithio ynddi, ac mae angen iddyn nhw weld mwy o weithredu i ddeall beth sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â gwahaniaethau hiliol cyn iddyn nhw ymgeisio i ymuno. Mae’n bwysig peidio â mynd ar goll ymysg asiantaethau partner cyfiawnder troseddol sy’n cyflawni yn erbyn y gwaith hwn. Mae’n ein hatgoffa’n glir bod yn rhaid i waith ar newid diwylliannau i ddileu hiliaeth o bob math, yn ogystal ag ymgysylltu a chyfathrebu â’r cyhoedd ynghylch sut mae hyn yn digwydd, fynd law yn llaw ag unrhyw waith i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â chynrychiolaeth y gweithlu.
Enghreifftiau o weithredu cyfiawnder troseddol
Penododd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS) yng Nghymru ei Swyddog Gweithredu Cadarnhaol cyntaf erioed yn 2023. Bydd y swydd hon yn gweithio i gynyddu ymdrechion i annog a chefnogi pobl o leiafrifoedd ethnig i wneud cais i weithio yn y gwasanaeth. Mae HMPPS hefyd wedi cyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol yn ystod y flwyddyn.
Mae Swyddogion a thimau Gweithredu Cadarnhaol hefyd yn bodoli mewn llawer o’r asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill yng Nghymru. Mae heddluoedd yn gweithio’n frwd i gynyddu eu cynrychiolaeth ac maen nhw’n gweld canlyniadau cadarnhaol. Er enghraifft, yn Heddlu De Cymru yn 2014, roedd cyfanswm o 1.8% o’r gweithlu o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig. Yn dilyn sefydlu rhaglen gefnogol helaeth o weithredu cadarnhaol yn 2015, gydag argymhellion a nawdd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, mae hyn bellach yn nes at 4%. Yn Heddlu Gwent, mae nifer y swyddogion heddlu o leiafrifoedd ethnig yn agos at ddwbl y nifer o 4 blynedd yn ôl. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron hefyd wedi parhau i weithio’n gadarnhaol i gynyddu amrywiaeth ethnig ymysg ei weithlu. Mae’r Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol yn awr yn sicrhau bod yr holl asiantaethau cyfiawnder troseddol yn rhoi’r sylw angenrheidiol ar amrywiaeth ethnig eu gweithlu.
7.3 Ymrwymiad 3: Cynnwys, Gwrando a Gweithredu
Byddwn yn deall yn well brofiadau personol a chyfunol pobl o leiafrifoedd ethnig sy’n ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol er mwyn gweithredu i ddiwallu eu hanghenion. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod profiadau uniongyrchol yn cefnogi ac yn llywio’r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer polisïau ac arferion newydd.
Y Cynnydd hyd yma
Yn ystod blwyddyn gyntaf y Cynllun, bu angen brys i adolygu ffyrdd o weithio o ran gweithredu a goruchwylio. Derbynnir bod llawer i’w wneud eto i wella amrywiaeth ethnig y gweithlu cyfiawnder troseddol, gan gynnwys y bobl sy’n ymwneud â pholisi a gwneud penderfyniadau ym maes cyfiawnder troseddol. Yn wir, un o ymrwymiadau craidd y Cynllun ei hun yw gweithio i wella’r gynrychiolaeth hon yn wirioneddol. Ond yn y cyfamser, mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru wedi ceisio pwyso a mesur yn ystyrlon sut y gall agor ei strwythurau polisi a gwneud penderfyniadau presennol i’w gwneud yn fwy cynhwysol hyd yn oed cyn i’r bylchau hynny mewn amrywiaeth cyflogaeth wella.
Yn 2023, cafodd y trefniadau llywodraethu sy’n ymwneud â chyflawni a goruchwylio’r Cynllun eu hadolygu a’u diwygio. Agorodd hyn aelodaeth y Byrddau a’r gweithgorau sy’n goruchwylio’r Cynllun i sicrhau bod lleisiau allanol a phrofiad uniongyrchol pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn cael eu cynnwys. Bydd y newidiadau yn galluogi lleisiau aelodau’r Panel Annibynnol a’r Rhwydwaith Ymgysylltu â’r Gymuned i lywio’r broses o wneud penderfyniadau a llunio polisïau ym Mwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru. Bydd hefyd yn sicrhau bod cynghorwyr allanol du ac o leiafrifoedd ethnig sy’n helpu Llywodraeth Cymru i oruchwylio’r Cynllun Cymru Wrth-hiliol yn cyd-fynd â’r gwaith o oruchwylio’r Cynllun Cyfiawnder Troseddol.
Yn yr un modd, yn ystod 2023 roedd gwaith wedi cael ei wneud i gynyddu cynrychiolaeth menywod o leiafrifoedd ethnig yn y gwaith llywodraethu a goruchwylio sy’n ymwneud â gwaith y Glasbrint Cyfiawnder Menywod ledled Cymru. Er enghraifft, mae cynrychiolaeth allanol newydd yn awr o fenywod o leiafrifoedd ethnig ar Fwrdd Cyfiawnder Menywod Cymru Gyfan, sy’n goruchwylio cynnydd y gwaith ledled Cymru i sicrhau gwasanaethau teg wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer menywod yn y system cyfiawnder troseddol.
Un o’r prif ffyrdd y datblygodd cyfiawnder troseddol ei waith i wella cyfranogiad a gwrando fu wrth sefydlu’r Rhwydwaith Ymgysylltu â’r Gymuned. Comisiynwyd hyn yn 2023 ac ar hyn o bryd mae’n cael ei gynnal gan sefydliad y trydydd sector, sef Clinks. Mae hyn yn dod â phobl sydd wedi’u tangynrychioli’n hiliol a mudiadau trydydd sector ledled Cymru at ei gilydd i brofi a herio cynnydd ‘ar lawr gwlad’ o ran cyflawni’r Cynllun. Mae’n ddull ychwanegol o oruchwylio’r Cynllun, gan adeiladu ar rôl graffu ffurfiol y Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol. Darparwyd rhagor o wybodaeth am waith y rhwydwaith yn gynharach yn yr adroddiad hwn.
Datblygwyd Cynllun Cyfathrebu drafft hefyd ar y cyd rhwng partneriaid cyfiawnder troseddol yn ystod y flwyddyn. Ar ôl ei gwblhau, bydd yn ystyried y gwahanol anghenion cyfathrebu ledled Cymru, gan gynnwys materion sy’n ymwneud ag iaith a thlodi digidol. Gwnaed gwaith hefyd ar draws cyfiawnder troseddol i ddeall a oes arweinwyr cyfathrebu ac ymgysylltu penodol ym mhob sefydliad cyfiawnder troseddol i helpu i feithrin perthnasoedd lleol ac ymddiriedaeth gyda chymunedau a rhanddeiliaid.
Tua diwedd 2023, cymerwyd camau i ddod â heddluoedd Cymru ynghyd â Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a phartneriaid ac unigolion yn y trydydd sector i drafod sut mae diwallu anghenion penodol cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr wrth gyflawni’r Cynllun. Mae materion hiliaeth ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn dal yn bryder difrifol ac mae angen mwy o weithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â rhai o’r anfanteision a’r gwahaniaethu y mae’r cymunedau hyn yn eu hwynebu. Mae’r sgyrsiau yn y maes hwn wedi dechrau a byddant yn arwain at weithgor Cymru yn dechrau yn 2024.
Materion Allweddol a Godwyd gan Aelodau Cymunedol a Lleisiau Annibynnol yn 2023-24
Mae partneriaid yn y trydydd sector a phobl o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr wedi dweud wrthym fod angen gwneud mwy i ddeall profiadau unigryw gwahaniaethu pobl o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ledled Cymru. Mae angen penodol i gymunedau ddeall sut y bydd yr heddlu’n gweithredu polisi cenedlaethol ynghylch gwersylloedd diawdurdod gan gadw at ymrwymiadau’r Cynllun i ffyrdd gwrth-hiliol o weithio. Mae angen hefyd i asiantaethau cyfiawnder troseddol wneud mwy i ymgysylltu’n uniongyrchol ag aelodau o’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr a chwilio am ffyrdd o wneud hynny.
Yn ystod y flwyddyn, mae partneriaid cyfiawnder troseddol hefyd wedi cael gwybod fwyfwy am bwysigrwydd cydbwyso anghenion clywed gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o hiliaeth, gyda’r pwysau a’r trawma parhaus y gellir eu hachosi wrth ofyn i’r un bobl ddisgrifio’r profiadau hynny dro ar ôl tro. Bydd gwaith yn parhau i gael ei wneud i ddeall yn well sut y gellir mynd i’r afael â’r cydbwysedd hwn. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i ymchwilio i ddulliau sy’n seiliedig ar drawma hiliol, sy’n bartneriaid craidd yn y gwaith hwn.
Enghraifft o weithredu cyfiawnder troseddol
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru yn gweithredu Paneli Craffu a Chynnwys Lleol, sy’n golygu bod modd adolygu penderfyniadau achosion yn annibynnol er mwyn dysgu gwersi. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ymdrechu i gynnwys aelodau o’r gymuned o leiafrifoedd ethnig ym mhob cyfarfod i sicrhau bod modd i’r rheini sydd â phrofiad uniongyrchol o hiliaeth adolygu penderfyniadau, a hynny drwy lygaid gwrth-hiliaeth.
7.4 Ymrwymiad 4: Bod yn Dryloyw, yn Atebol ac yn Gydlynol
Byddwn yn creu mwy o dryloywder ac atebolrwydd ar draws y system cyfiawnder troseddol ynglŷn â mynd i’r afael ag anghymesuredd ethnig a hyrwyddo dull gwrth-hiliol. Byddwn yn gwahodd craffu allanol ar ein perfformiad ac yn sicrhau bod strwythurau effeithiol ar waith i gyflawni ein hymrwymiadau.
Y Cynnydd hyd yma
Yn ystod blwyddyn gyntaf y Cynllun, mae wedi bod yn flaenoriaeth i sicrhau bod tryloywder ac atebolrwydd wedi gwella ar draws cyfiawnder troseddol ynglŷn â gwahaniaethau hiliol a’r gwaith sy’n mynd rhagddo i’w ddileu. Fel yr amlinellwyd yn yr adran flaenorol, mae’r trefniadau llywodraethu sy’n ymwneud â chyflawni’r Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth wedi cael eu hadolygu a’u diwygio i hyrwyddo cynhwysiant a ffyrdd gwrth-hiliol o weithio. Mae hyn wedi cynnwys cynyddu cynrychiolaeth pobl sydd wedi’u tangynrychioli’n hiliol ac arbenigwyr annibynnol sy’n ymwneud â goruchwylio’r gwaith a rhoi barn ar gynnydd.
Mae trefniadau wedi cael eu rhoi ar waith ar lefel Cymru gyfan ac ar lefelau sefydliadol unigol i sicrhau bod mecanweithiau ar gael i alluogi’r Cynllun i gael ei gyflawni a’i fonitro’n barhaus. Mae adnoddau wedi cael eu dyrannu i’r modd y mae’r Cynllun yn cael ei gyflwyno gan yr holl asiantaethau cyfiawnder troseddol yn ogystal â chan y partneriaid ychwanegol sy’n rhan o Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru.
Ym mis Mai 2023, cynhaliodd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, ‘Uwchgynhadledd Gwrth-hiliaeth Un Gwasanaeth Cyhoeddus’ yng Nghaerdydd. Gyda’r ymrwymiad parhaus i gyd-drefnu effeithiol ar wrth-hiliaeth, daeth hyn â dros 200 o arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru at ei gilydd i drafod yr angen ar frys am weithredu cydgysylltiedig ac ar y cyd ar wrth-hiliaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus a chyfiawnder troseddol.
Mae ffrwd waith Data ac Anghymesuredd newydd wedi cael ei sefydlu i weithio ar gasglu data ar draws cyfiawnder troseddol, a fydd yn galluogi monitro gwahaniaethau hiliol yn gyson ac yn gadarn a’r camau sy’n cael eu cymryd i’w leihau. Fel rhan o’r gwaith hwn, mae partneriaid cyfiawnder troseddol yn edrych ar ffyrdd o wella data sydd ar gael i’r cyhoedd er mwyn gwella tryloywder yn y dyfodol.
Yn 2022, penodwyd y Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol i ddal y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn atebol am gyflawni’r Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth. Daw cyfanswm o 90% o aelodau’r panel o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig ac mae’r aelodau’n dod o bedair ardal ddaearyddol heddlu Cymru. Mae’r panel yn cyfarfod bob dau fis gyda’r bwriad o oruchwylio gwaith yr holl asiantaethau cyfiawnder troseddol i gyflawni eu hymrwymiadau yn y Cynllun.
Drwy gydol 2023-24, mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru wedi sicrhau bod Cadeirydd y Panel, yr Is-gadeirydd ac aelodau eraill y panel, lle bo hynny’n bosibl, wedi cael eu gwahodd i ddigwyddiadau a chyfarfodydd allweddol i gyfrannu eu safbwyntiau annibynnol. Er enghraifft, ym mis Medi 2022 gwahoddwyd Cadeirydd y Panel i annerch uwch arweinwyr cyfiawnder troseddol yng Nghymru mewn diwrnod cynllunio a datblygu wyneb yn wyneb. Gofynnwyd i’r Cadeirydd amlinellu rhai o’r prif heriau yr oedd angen i Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru eu hystyried er mwyn iddyn nhw allu myfyrio’n effeithiol arnyn nhw yn ystod y dydd a datblygu camau gweithredu ar gyfer atebion.
Yn ogystal, gwahoddwyd aelodau Annibynnol o’r Panel i fod yn bresennol a chyfrannu at ‘Uwchgynhadledd Gwrth-hiliaeth Un Gwasanaeth Cyhoeddus’ ym mis Mai 2023, a chynhadledd Cymdeithas Genedlaethol Swyddogion Heddlu Croenddu a gynhaliwyd ym mis Hydref 2023. Ceir rhagor o wybodaeth am rywfaint o’r gwaith y mae’r panel wedi’i wneud mewn adran gynharach yn yr adroddiad.
Materion Allweddol a Godwyd gan Aelodau Cymunedol a Lleisiau Annibynnol yn 2023-24
Yn ystod y flwyddyn, mae paneli a grwpiau cymunedol amrywiol wedi cael eu gwneud yn fwyfwy ymwybodol o’r gwaith gwrth-hiliaeth sy’n digwydd ym maes cyfiawnder troseddol. Mae hyn wedi cynnwys rhywfaint o ddealltwriaeth o’r lefelau craffu sydd eisoes yn bodoli sy’n berthnasol i brosesau a gweithdrefnau ym maes cyfiawnder troseddol, gan gynnwys bodolaeth paneli craffu annibynnol a grwpiau cynghori. Pan fydd aelodau’r gymuned a phartneriaid allanol wedi cael gwybod am y mesurau hyn, maen nhw’n aml wedi teimlo sicrwydd ac yn galonogol ar y lefelau goruchwylio sydd ar waith. Fodd bynnag, mae’n amlwg nad yw’r cyhoedd yn gyffredinol yn ymwybodol o fodolaeth mesurau o’r fath a’u bod wedi mynegi y bydden nhw’n elwa o ddeall mwy amdanyn nhw, sut y gweithredir ar unrhyw ganfyddiadau, a sut y gallen nhw gymryd rhan.
Yn y blynyddoedd i ddod, bydd angen i asiantaethau cyfiawnder troseddol wneud mwy i gyfathrebu’n effeithiol â’r cyhoedd am eu hymdrechion i ddileu gwahaniaethu ac anghyfiawnder hiliol er mwyn gweithio i wella hyder yn y system.
Mae diddordeb y cyhoedd o hyd hefyd mewn data ar wahaniaeth hiliol mewn cyfiawnder troseddol, gyda’r angen parhaus i hyn fod ar gael yn haws ac yn fwy tryloyw. Bydd gwaith yn parhau er mwyn gallu casglu a rhannu data’n effeithiol ar draws cyfiawnder troseddol, gydag uchelgais i greu dangosfwrdd data sydd ar gael i’r cyhoedd.
Enghraifft o weithredu cyfiawnder troseddol
Mae pob heddlu yng Nghymru yn gweithredu Grŵp Cynghori Annibynnol. Mae hyn yn gwahodd aelodau’r gymuned i roi sylwadau a rhoi cyngor ar bolisi a gweithgarwch yr heddlu. Mae’r Grwpiau Cynghori Annibynnol yn fecanweithiau pwysig ar gyfer annog a hyrwyddo tryloywder ac atebolrwydd yn ymarfer yr heddlu. Yn 2023, adolygodd Heddlu Dyfed Powys ei fodel gweithredu ar gyfer ei Grŵp Cynghori Annibynnol er mwyn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer cynhwysiant lleiafrifoedd ethnig. O ganlyniad, newidiwyd y model gweithredu i alluogi pobl i ymuno os nad oeddent yn byw yn ardal Dyfed Powys. Gobeithir y bydd y penderfyniad polisi hwn yn cynyddu cynrychiolaeth pobl o leiafrifoedd ethnig a all oruchwylio gweithgarwch yr heddlu yn y rhanbarth.
7.5 Ymrwymiad 5: Addysgu’r Gweithlu
Byddwn yn buddsoddi mewn adnoddau gwrth-hiliaeth addysgol o ansawdd uchel i’w defnyddio gan unrhyw un sy’n gweithio yn y system cyfiawnder troseddol. Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â grwpiau a phobl o leiafrifoedd ethnig i sicrhau bod yr holl ddarpariaeth yn adlewyrchu eu hanghenion a’u profiadau.
7.6 Y Cynnydd hyd yma
Sefydlwyd ffrwd waith ‘Hyfforddiant a Chymhwysedd Diwylliannol’ o fewn trefn lywodraethu’r Cynllun fel y gellir cydlynu’r gweithgarwch sy’n ofynnol dan yr ymrwymiad hwn yn effeithiol. Yn ystod 2023-24 mae llawer iawn o waith wedi cael ei wneud i edrych ar fodolaeth yr adnoddau a’r hyfforddiant presennol ar gyfer Cymhwysedd Gwrth-hiliaeth a Diwylliant sy’n cael eu defnyddio ar draws cyfiawnder troseddol. Mae hyn wedi bod er mwyn deall lefelau’r ddarpariaeth bresennol a’r bylchau i fynd i’r afael â nhw.
Mae comisiynu rhaglen beilot hyfforddiant Cymhwysedd Diwylliannol wedi cyfrannu at y gwaith hwn. Cafodd hyn ei gyflawni gyda charfan o 250 o staff mewn asiantaethau cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn ystod haf 2023. Mae’r hyfforddiant yn cael ei werthuso’n annibynnol i ddeall beth sy’n gweithio o ran codi ymwybyddiaeth o wrth-hiliaeth er mwyn gallu gwneud penderfyniadau ynghylch safon y ddarpariaeth y dylai pob asiantaeth ei darparu, a pha mor aml. Bydd y gwaith yn parhau yn y flwyddyn i ddod fel y gellir cytuno ar y safonau hyn ar draws cyfiawnder troseddol yn ei gyfanrwydd.
Mae uwch arweinwyr ym Mwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru wedi cael sesiynau datblygu gwrth-hiliaeth yn ystod y flwyddyn. Mae’r rhain wedi cynnwys mewnbwn ar y daith ddysgu o weithio i fod yn wrth-hiliol weithredol. Mae’r arweinwyr wedi ymrwymo i ddatblygiad personol a phroffesiynol yn y maes hwn. Ar ben hynny, mae’r Arweinwyr Cyfathrebu ar draws cyfiawnder troseddol yng Nghymru wedi ymgysylltu â rhaglen hyfforddiant gwrth-hiliaeth allanol arbenigol i sicrhau eu bod mewn sefyllfa well i hyrwyddo negeseuon gwrth-hiliol mewn cyfathrebu cyhoeddus a mewnol. Mae amrywiaeth o dimau cyfiawnder troseddol hefyd wedi cael sesiynau newid ymddygiad Dylunio a Datblygu Sefydliadol i alluogi canlyniadau sy’n seiliedig ar weithredu yn eu meysydd gwaith yn y Cynllun. Mae hyn wedi cynnwys Swyddfeydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, partneriaid cymunedol allanol ac uwch grwpiau arweinwyr.
Mae asiantaethau cyfiawnder troseddol unigol hefyd wedi cymryd eu camau eu hunain i fuddsoddi mewn dysgu gwrth-hiliaeth ymysg eu staff yn ystod y flwyddyn. Mae rhywfaint o hyn wedi bod drwy ddarparu hyfforddiant ffurfiol, ac mae rhai wedi gweld sgyrsiau mwy anffurfiol am wrth-hiliaeth ledled y gweithlu.
Materion Allweddol a Godwyd gan Aelodau Cymunedol a Lleisiau Annibynnol yn 2023
Mae’n bosibl mai hyfforddiant ac ymwybyddiaeth o gydraddoldeb hiliol yw’r materion a godir amlaf wrth ymgysylltu â phobl o leiafrifoedd ethnig ynglŷn â’u profiad o’r system cyfiawnder troseddol. Mae barn glir bod llawer o lwyddiant y Cynllun yn dibynnu ar y buddsoddiad mewn hyfforddiant mewnol ar wrth-hiliaeth, cymhwysedd diwylliannol, rhagfarn ddiarwybod, a phroffilio hiliol ar draws cyfiawnder troseddol. Heb yr hyfforddiant hwn, gellir dadlau bod llawer o’r Cynllun yn amhosibl ei gyflawni gan ei fod yn dibynnu ar newid systemig ar draws y system gyfan. Mae’r asiantaethau cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn dal wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â’r ymrwymiadau pwysig hyn yn y Cynllun ac i weithio i wneud y cyhoedd yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd yn y flwyddyn i ddod.
Enghreifftiau o weithredu cyfiawnder troseddol
Buddsoddodd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi mewn amrywiaeth o seminarau a digwyddiadau codi ymwybyddiaeth yn ystod Mis Hanes Pobl Ddu 2023. Roedd hyn yn cynnwys dathlu cydweithwyr, edrych ar hiliaeth fewnol a sut i’w herio, dysgu am anghenion penodol pobl ifanc Du sydd â phrofiad o ofal, yn ogystal â thrafod pam mae Mis Hanes Pobl Ddu yn bwysig.
Mae Heddlu De Cymru wedi parhau i gyflwyno ei raglen ‘Gadewch i ni Siarad am Hil’ ar draws y gweithlu drwy gydol y flwyddyn. Mae’r rhaglen wedi cyrraedd o leiaf 3000 o swyddogion a staff, sydd wedi cael mewnbwn gan ddarparwr allanol ar hiliaeth, braint pobl wyn, rhagfarn ddiarwybod a hiliaeth sefydliadol. Mae’r sesiynau wedi ysgogi sgyrsiau i gynyddu dealltwriaeth a chyfrifoldebau unigol ynghylch gwrth-hiliaeth. Mae’r Prif Gwnstabl wedi gwneud y rhaglen yn ofyniad gorfodol ar gyfer y gweithlu cyfan, a bydd yn parhau yn y blynyddoedd i ddod. Mae Heddlu De Cymru hefyd wedi dechrau cynnwys profiad uniongyrchol aelodau o’r gymuned lleiafrifoedd ethnig mewn hyfforddiant arall gan yr heddlu, er enghraifft, hyfforddiant stop a chwilio ar gyfer swyddogion.
7.7 Ymrwymiad 6: Hyrwyddo Tegwch
Byddwn yn hyrwyddo tegwch mewn system cyfiawnder troseddol sy’n wrth-hiliol ac yn herio hiliaeth a’i achosion, fel bod pobl o bob hunaniaeth a chefndir ethnig yn cael canlyniadau teg.
Y Cynnydd hyd yma
Yn 2023 comisiynwyd a chwblhawyd adolygiad llenyddiaeth o ran defnyddio Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys a gwaith newid ymddygiad gyda’r rheini sy’n cyflawni troseddau casineb. Mae hyn wedi dadansoddi’r ddealltwriaeth bresennol o lwyddiant datrysiadau y Tu Allan i’r Llys mewn amgylchiadau o’r fath ac wedi edrych ar raglenni newid ymddygiad y tu hwnt i Gymru i ystyried opsiynau yn y dyfodol.
Yn ystod y flwyddyn, mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru hefyd wedi gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ystyried sut gall Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma Iechyd Cyhoeddus Cymru gyd-fynd â dealltwriaeth o effaith trawma hiliol mewn cyfiawnder troseddol. Mae’r gwaith hwn yn parhau yn y flwyddyn i ddod.
Mae llawer iawn o waith wedi cael ei wneud ar draws plismona yng Nghymru i ddeall cyfraddau anghymesuredd hiliol o ran stopio a chwilio, defnyddio grym, ac amrywiaeth o brosesau plismona eraill. Yn ogystal, mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i wella llywodraethu, hyfforddiant a chraffu cyhoeddus ar y prosesau hyn. Mae plismona yng Nghymru yn gweithio i ddatblygu dulliau mwy cyson a chydgysylltiedig o fynd i’r afael ag anghymesuredd hiliol. Gyda hyn mewn golwg, sefydlwyd Tasglu Gwrth-hiliaeth Plismona yng Nghymru yn 2023, dan gadeiryddiaeth Prif Gwnstabl. Mae hyn yn dwyn ynghyd weithwyr proffesiynol ar draws plismona yng Nghymru, gan sicrhau bod modd cyflawni amcanion gwrth-hiliaeth yn effeithiol ac mewn ffyrdd amserol.
Mae pob Comisiynydd Heddlu a Throseddu a’u swyddfeydd yn ymwneud yn helaeth â’r gwaith o gyflwyno a goruchwylio’r Cynllun. Drwy gydol y flwyddyn, maen nhw wedi gweithio i ddatblygu eu dealltwriaeth a’u defnydd eu hunain o ddulliau gwrth-hiliol o weithio ac wedi gweithio i ddal eu heddluoedd yn atebol am gyflawni camau gweithredu yn y Cynllun ac am wahaniaethau hiliol sy’n amlwg yn nata’r heddlu. Maen nhw wedi chwarae rhan arbennig o bwysig yn y gwaith o ddatblygu a chynnal prosesau craffu ac atebolrwydd cyhoeddus mewn agweddau ar bwerau’r heddlu.
Sefydlwyd ffrwd waith ‘Data ac Anghymesuredd’ yn 2023. Mae’r ffrwd waith hon yn cynnwys dadansoddwyr data cyfiawnder troseddol sy’n gweithio i gasglu data ethnigrwydd a fydd yn golygu bod modd deall a mynd i’r afael â gwahaniaethau parhaus. Yn ystod blwyddyn gyntaf y Cynllun, datblygwyd rhestr o ‘adegau o wirionedd’, y cytunwyd arnyn nhw fel y pwyntiau yn y system cyfiawnder troseddol sy’n gofyn am gasglu a monitro data ethnigrwydd ar unwaith ac yn barhaus. Mae’r holl asiantaethau partner yn gweithio ar gasglu’r data hwn gyda’r bwriad o sicrhau bod dangosfwrdd data ar gael i’r cyhoedd yn y dyfodol.
Bu heriau parhaus gyda’r gwaith hwn, gan fod yr asiantaethau cyfiawnder troseddol ledled Cymru yn defnyddio technoleg a mecanweithiau casglu a storio data amrywiol. Mae hefyd wedi bod yn anodd casglu data sy’n benodol i Gymru ar draws rhai asiantaethau sy’n gweithredu ar lefel y DU. Fodd bynnag, mae ymrwymiad i oresgyn yr heriau a wynebir a bydd y gwaith hwn yn parhau yn y flwyddyn i ddod.
Fel y nodwyd mewn adrannau cynharach o’r adroddiad, daeth grŵp Cymru gyfan at ei gilydd yn 2023 i drafod anghenion penodol cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ynglŷn â chyfiawnder troseddol. Roedd hyn yn cynnwys cynrychiolaeth y trydydd sector a phrofiad uniongyrchol, yn ogystal â heddluoedd, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Y nod yw cydweithio ac ymdrechu’n gyson i ddatblygu ffyrdd teg a chynhwysol o weithio ac ymgysylltu â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru.
Mae gwaith wedi bod yn cael ei wneud hefyd ar lefel ymarferol i ystyried materion sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau o ran hyrwyddo tegwch a chynhwysiant i bobl o leiafrifoedd ethnig. Er enghraifft, mae carchardai ledled Cymru wedi cael eu harchwilio ar gyfer matiau gweddïo a darpariaeth anghenion crefyddol er mwyn sicrhau eu bod ar gael yn ddigonol. Roedd hyn yn dilyn adborth yng nghyfnod datblygu’r Cynllun nad oedd y ddarpariaeth yn ddigonol.
Tua diwedd 2023, cynhaliwyd symposiwm ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyfiawnder Troseddol yng Nghymru. Roedd hyn yn galluogi amrywiaeth o unigolion a sefydliadau i dynnu sylw at ymchwil a gynhaliwyd ganddyn nhw ynghylch materion yn ymwneud â hil a/neu gyfiawnder troseddol. Ar draws cyfiawnder troseddol, cydnabuwyd nad oedd polisi ac ymarfer bob amser wedi cael eu llunio o dystiolaeth a oedd wedi ystyried barn a phrofiadau pobl a chymunedau sydd wedi’u tangynrychioli’n hiliol. Nod y diwrnod oedd ystyried y posibilrwydd o ddatblygu rhwydwaith ymchwil Cymru ar gyfer rhannu’r profiad uniongyrchol hwn a’r wybodaeth am gyfiawnder troseddol yn barhaus. Roedd y symposiwm yn llwyddiannus, a barn lethol y rhai a oedd yn bresennol oedd y dylid sefydlu rhwydwaith ymchwil i gyfrannu at gyflawni’r Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol a pholisi cyhoeddus ehangach yn y dyfodol. Bydd gwaith yn dechrau ar hyn yn y flwyddyn i ddod. Nod y rhwydwaith fydd gwella dealltwriaeth o’r materion sy’n effeithio ar bobl o leiafrifoedd ethnig mewn cyfiawnder troseddol fel y gall hyn ddylanwadu ar newid polisi yng Nghymru. Gobeithir y bydd y rhwydwaith hefyd yn datblygu cyfleoedd comisiynu ar gyfer gwaith yn y dyfodol.
Materion Allweddol a Godwyd gan Aelodau Cymunedol a Lleisiau Annibynnol yn 2023-24
Mae gwahaniaethu hiliol yn y defnydd o stopio a chwilio yn parhau i fod yn fater o bryder sylfaenol ymhlith cymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Mae hyn wedi cael ei gyflwyno i amrywiol sianeli cyfiawnder troseddol drwy gydol y flwyddyn. Mae’n parhau i sbarduno llawer o’r bwlch hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd mewn heddluoedd ynglŷn â chymunedau lleiafrifoedd ethnig.
Mae llawer o waith yn cael ei wneud mewn heddluoedd i sicrhau bod stopio a chwilio yn cael ei ddefnyddio a’i oruchwylio’n gyfreithlon, ac mae tystiolaeth o anghymesuredd ethnig is. Fodd bynnag, mae cymunedau’n dweud bod angen gwell dealltwriaeth mewn plismona o effaith barhaus trawma hiliol pan fydd pobl o leiafrifoedd ethnig yn cael eu stopio a’u chwilio’n anghymesur. Mae adborth yn dangos bod angen gwella ansawdd y rhyngweithio stopio a chwilio ar ran y swyddogion yn gyffredinol, a bod angen mwy o ymwybyddiaeth o effaith chwilio a stopio cronnol ar les unigolion a’u hymddiriedaeth yn y system cyfiawnder troseddol. Mae angen gwaith hefyd i egluro prosesau stopio a chwilio a hawliau unigol yn well i’r cyhoedd. Bydd y gwaith hwn yn cael ei ddatblygu ymhellach yn y flwyddyn i ddod ac mae’n cael ei gefnogi gan bob heddlu yng Nghymru.
Enghraifft o weithredu cyfiawnder troseddol
Bob blwyddyn, mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynhyrchu adroddiad allanol sy’n cyflwyno data allweddol lle mae anghymesuredd hiliol yn cael sylw mewn plismona. Mae’r data’n cynnwys troseddau casineb, stopio a chwilio, defnyddio grym, y ddalfa, cwynion a Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys.
Sefydlwyd byrddau unigol o fewn Heddlu Gogledd Cymru i adolygu’r patrymau data a’u cymharu â data cyfrifiad lleol. Gofynnir am esboniadau am anghymesuredd a’u trafod, gyda’r bwriad o weithio i leihau unrhyw wahaniaethau.
Mae’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn cynhyrchu data ar ethnigrwydd yn flynyddol. Mae hyn yn tynnu sylw at feysydd anghymesuredd hiliol ac yn galluogi canolbwyntio ar faterion i fynd i’r afael â nhw. Ar hyn o bryd, cynhyrchir y data ar sail Cymru a Lloegr, ond mae gwaith yn mynd rhagddo i gynhyrchu data sy’n benodol i Gyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru. Mae adroddiad data ethnigrwydd diweddaraf y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ar gael yma.
7.8 Ymrwymiad 7: Atal, Ymyrraeth Gynnar ac Adsefydlu
Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i roi terfyn ar orgynrychiolaeth pobl o leiafrifoedd ethnig sydd wedi cyflawni trosedd a diffynyddion yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Byddwn yn rhoi cymorth holistaidd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n seiliedig ar drawma i droseddwyr a’r rheini sydd mewn perygl o droseddu er mwyn iddyn nhw allu gwneud dewisiadau bywyd gwybodus ar gyfer cyflogaeth, addysg, perthnasoedd cymdeithasol, ac iechyd a lles meddyliol a chorfforol.
Y Cynnydd hyd yma
Yn 2023 comisiynwyd a chwblhawyd adolygiad llenyddiaeth o ran defnyddio Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys a chynlluniau dargyfeirio cyfiawnder troseddol ymysg pobl o leiafrifoedd ethnig. Mae’r adolygiad wedi edrych ar y rhesymau dros dangynrychioli pobl o leiafrifoedd ethnig mewn mesurau o’r fath, a’r ffaith ei bod yn fwy tebygol wedyn y bydd pobl o leiafrifoedd ethnig yn cael eu dedfrydu’n llymach. Mae’r adolygiad llenyddiaeth hefyd wedi ystyried ffyrdd posibl o addasu’r prosesau presennol i gynyddu’r gynrychiolaeth ac felly dargyfeirio mwy o bobl o leiafrifoedd ethnig o lwybr cyfiawnder troseddol.
Yn y flwyddyn i ddod, bydd yr ymchwil hon yn cael ei datblygu ymhellach i ddeall yn well safbwyntiau pobl o leiafrifoedd ethnig sydd wedi bod yn y ddalfa, ynghyd â’r rheini sy’n ymwneud â chyfathrebu a gwneud penderfyniadau ar hyd y ffordd. Bydd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru wedyn yn adolygu’r holl ganfyddiadau ac argymhellion.
Mae gwaith yn mynd rhagddo i wella’r Cynlluniau Cyflawni presennol sy’n gysylltiedig â gwaith ar ‘Trais yn erbyn Menywod a Merched a Thrais Rhywiol’ yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod anghenion dioddefwyr a goroeswyr o leiafrifoedd ethnig yn cael eu deall. Mae cynlluniau ar waith hefyd i wella cynrychiolaeth lleisiau dioddefwyr a goroeswyr o leiafrifoedd ethnig wrth gefnogi’r gwaith o gyflawni ac ymarfer polisïau.
Nod gwaith y Glasbrint Cyfiawnder Menywod yng Nghymru yw datblygu a darparu cymorth gwell a thecach i fenywod yn y system cyfiawnder troseddol. Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys yr angen i ystyried cynllunio gwasanaethau sy’n briodol i anghenion menywod o leiafrifoedd ethnig. Mae hyn wedi cael ei gynnwys ym manyleb y comisiwn ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol, ynghyd â’r angen i ymrwymo i ffyrdd gwrth-hiliol o weithio. Bydd y contractau sy’n gysylltiedig â gwasanaethau yn y Glasbrint Cyfiawnder Menywod yn cael eu monitro am eu hymrwymiad i’r egwyddorion hyn.
Mae’r Glasbrint Cyfiawnder Menywod hefyd yn gweithio i wella cynrychiolaeth pobl o leiafrifoedd ethnig sydd wedi troseddu drwy brosesau ymgynghori a chynnwys i sicrhau bod eu lleisiau a’u hanghenion penodol yn cael eu clywed. Yn 2023, roedd hyn yn cynnwys ychwanegu partneriaid ac unigolion allanol o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig at Fwrdd y Rhaglen sy’n goruchwylio’r gwaith cyffredinol o gyflawni’r rhaglen.
Materion Allweddol a Godwyd gan Aelodau Cymunedol a Lleisiau Annibynnol yn 2023-24
Cafwyd adborth ddiwedd 2022 mewn cynhadledd genedlaethol Glasbrint Cyfiawnder Menywod, ac mewn fforymau eraill yn 2023, bod cynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig mewn gwaith cyfiawnder menywod yn brin o wybodaeth a chyfathrebu gweledol. Rhoddwyd adborth y gallai diffyg delweddau amrywiol mewn cyhoeddiadau ar gyfer rhai gwasanaethau cyfiawnder troseddol roi negeseuon di-fudd am natur y gwasanaethau a dealltwriaeth darparwr y gwasanaeth o hil.
Cafodd yr adborth hwn sylw cadarnhaol a rhagweithiol drwy gydol 2023 gan raglen Glasbrint Cyfiawnder Menywod a’r gwaith ledled Cymru ar Drais yn erbyn Menywod a Merched. Mae’r ddwy raglen wedi blaenoriaethu’r angen i ymgorffori gwrth-hiliaeth yn eu ffyrdd o weithio ac mae hyn wedi cael derbyniad da. Mae’r rhain wedi bod yn enghreifftiau rhagorol o’r dylanwadau cadarnhaol y mae pobl o leiafrifoedd ethnig sydd â phrofiad uniongyrchol o gyfiawnder troseddol wedi gallu eu cyflwyno i newidiadau proses a pholisi yn y system gan eu bod bellach wedi cael eu gwahodd i wneud hynny. Mae eu mewnbwn, eu cyngor a’u harweiniad wedi cael eu gwerthfawrogi’n fawr.
Enghraifft o weithredu cyfiawnder troseddol
Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yng Nghymru wedi defnyddio cyllid ar gyfer gwasanaethau carchardai a phrawf i gynnwys mudiadau gwirfoddol yn well yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau. Mae asiantaethau trydydd sector cydraddoldeb hiliol, gan gynnwys y rheini sy’n gweithio’n benodol gyda phobl o leiafrifoedd ethnig mewn cyfiawnder troseddol, wedi cael eu comisiynu i ddarparu rhaglen gymorth ar gyfer troseddwyr ifanc o leiafrifoedd ethnig ac oedolion sydd ar brawf ac sy’n gadael y carchar. Dros y 3 blynedd nesaf bydd y cyllid yn galluogi mwy na 150 o bobl o leiafrifoedd ethnig i gael cefnogaeth briodol.
7.9 Y Flwyddyn i Ddod
Mae’r prif faterion y mae cyfiawnder troseddol yn canolbwyntio arnyn nhw yn y flwyddyn i ddod (2024-25) yn cynnwys y canlynol:
- Datblygu fframwaith hyfforddiant gwrth-hiliaeth, sy’n nodi’r safonau gofynnol a ddisgwylir gan bob sefydliad cyfiawnder troseddol yn addysg gwrth-hiliaeth eu staff.
- Archwilio prosesau recriwtio a dethol drwy lens gwrth-hiliaeth, paratoi i wneud newidiadau y gellir eu nodi.
- Datblygu ymgysylltiad ledled Cymru i sicrhau bod pobl o leiafrifoedd ethnig yn gallu cyfrannu at ddatblygiad y Cynllun a chael dweud eu dweud ynghylch sut mae pethau’n mynd rhagddynt ar lawr gwlad.
- Mwy o weithgarwch Cyfathrebu ledled Cymru wrth i waith fynd rhagddo i roi gwybod i bobl am fwriadau’r Cynllun a’r farn am system cyfiawnder troseddol gwrth-hiliol yng Nghymru.
- Heddluoedd sy’n gweithio i wella’r anghymesuredd hiliol sy’n bodoli wrth stopio a chwilio a defnyddio grym. Byddant yn gwneud mwy i sicrhau’n gyson bod y cyhoedd yn rhan o’r gwaith o adolygu digwyddiadau stopio a chwilio a’u bod yn ymwybodol o ddata stopio a chwilio ar gyfer eu hardal.
- Mwy o sylw ar sut gall y pedwar Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol yng Nghymru gymryd eu cyfrifoldeb eu hunain i fwrw ymlaen â chamau gwrth-hiliaeth yn eu hardaloedd a datblygu eu dealltwriaeth o wrth-hiliaeth.
Yn y flwyddyn i ddod, mae’r Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol wedi ymrwymo i ganolbwyntio ar oruchwylio’r canlynol:
- Hyfforddiant gwrth-hiliaeth a chodi ymwybyddiaeth ar draws cyfiawnder troseddol
- Delio â chwynion am hil ar draws cyfiawnder troseddol
- Recriwtio, cadw, cynnydd a diwylliant yn y gweithle ar draws cyfiawnder troseddol
- Mynd ati ar y cyd i ganolbwyntio eu gwaith goruchwylio a chynghori gyda phartneriaid Bwrdd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru ar sut maen nhw’n gweithio i fod yn wrth-hiliol yn eu prosesau
8. Casgliad
Mae blwyddyn gyntaf gweithredu’r Cynllun wedi rhoi blaenoriaeth i sefydlu trefniadau ar draws cyfiawnder troseddol fel y gellir cyflwyno’r Cynllun yn effeithiol. Bu ffocws hefyd ar godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yn fewnol o realiti gwahaniaethu hiliol mewn cyfiawnder troseddol fel bod uwch arweinwyr a’u staff yn deall y rhan y mae angen iddyn nhw ei chwarae wrth wneud y newidiadau gofynnol. Mae hyn i gyd wedi cymryd amser, ac mae’n parhau i wneud hynny, ond mae cynnydd wedi’i wneud yn erbyn yr holl ymrwymiadau yn y Cynllun.
Ni ellir gorbwysleisio maint y newid sy’n ofynnol ar draws cyfiawnder troseddol a’i holl wasanaethau. Nid yw hyn yn syndod i bobl sydd wedi’u tangynrychioli’n hiliol yng Nghymru sydd wedi profi rhagfarn ddiarwybod, microymosodiadau, a hiliaeth yn ddyddiol am lawer gormod o amser. Mae’r partneriaid cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn dal yn ymroddedig i weithio gyda’i gilydd i ddileu hiliaeth ar draws eu gwasanaethau ac i sicrhau bod pobl o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru yn gweld y newid y maen nhw’n ei haeddu i’w weld.
Rhoddir diolch a gwerthfawrogiad diffuant i’r holl unigolion a staff o leiafrifoedd ethnig, yn ogystal â sefydliadau, sydd wedi helpu i weithredu, goruchwylio a herio’r Cynllun yn ei flwyddyn gyntaf. Bwriedir i’r dull cyd-gyflwyno hwn barhau. Bydd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru yn parhau i gynnwys Gwrth-hiliaeth fel un o’i flaenoriaethau craidd ac mae’n cydnabod bod gan bob partner cyfiawnder troseddol rôl i’w chwarae o ran gwireddu gwrth-hiliaeth yn y blynyddoedd i ddod.