Guidance

Definition of work with children (Welsh)

Updated 21 February 2025

Ymwadiad: Nid cyngor cyfreithiol yw hwn. Os oes angen help arnoch i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r gyfraith, dylech siarad â chynghorydd cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae’r daflen hon yn egluro’r hyn sydd wedi’i gynnwys yn y diffiniad cyfreithiol o ‘waith gyda phlant’, gan ddisgrifio’r gweithgareddau a’r swyddi penodol sy’n gymwys am wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn y gweithlu plant. Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol p’un a yw’r unigolion yn cael eu talu neu’n ddi-dâl.

Os yw eich sefydliad yn cyflogi pobl yn y rolau hyn sydd â dyletswyddau ychwanegol i’r rhai a amlinellir yn y daflen hon, efallai y byddant yn gymwys i gael lefel wahanol o wiriad. Bydd angen i chi gyfeirio at ein offeryn a chanllawiau cymhwysedd ar-lein i wirio hyn. Os yw’ch sefydliad yn cyflogi pobl mewn rolau gwahanol sy’n cyflawni dyletswyddau tebyg i’r rhai yn y daflen hon, dylech gyfeirio at ein canllawiau ar-lein gan y gallent fod yn gymwys i gael yr un lefel o wiriad.

Gall unrhyw newidiadau i rôl, neu’r gweithgareddau y mae person yn eu cyflawni, effeithio ar lefel y gwiriad sy’n berthnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau cymhwysedd ar ein gwefan yn https://www.gov.uk/government/collections/dbs-eligibility-guidance.

Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i wiriadau cofnodion troseddol (gwiriadau DBS) yng Nghymru, Lloegr, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw. Gellir cael gwybodaeth am wiriadau sydd ar gael yn yr Alban oddi wrth Disclosure Scotland. Gellir cael gwybodaeth am wiriadau sydd ar gael yng Ngogledd Iwerddon oddi wrth Access NI.

Rydym wedi defnyddio rhai senarios yn y daflen hon i’ch helpu i ddeall sut mae’r canllawiau’n gweithio’n ymarferol.

2. Diffiniad

Mae’r diffiniad cyfreithiol o ‘waith gyda phlant’ yn rhestru gweithgareddau penodol a ddarperir yn uniongyrchol i blant neu sy’n ymwneud â phlant. Os yw’ch sefydliad yn cyflogi unrhyw un sy’n gwneud unrhyw beth sydd wedi’i gynnwys yn y diffiniad o waith gyda phlant, maent yn gymwys i gael gwiriad DBS Manylach yn y gweithlu plant.

Mae adrannau penodol o waith gyda phlant hefyd wedi’u cynnwys yn y darn o ddeddfwriaeth sy’n caniatáu mynediad i wiriadau Rhestr Gwahardd. Mae gwaith gyda phlant yn cynnwys gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant, felly os yw eich sefydliad yn cyflogi rhywun sy’n cyflawni gweithgaredd a reoleiddir gallwch ofyn am wiriad DBS Manylach gyda gwiriad Rhestr Gwahardd Plant.  

Gall rolau penodol nad ydynt yn weithgaredd a reoleiddir hefyd alw am wiriad Rhestr Gwahardd Plant.

Cyhoeddir gwybodaeth am hyn a pha fath o waith sydd yn y gweithlu plant yn ein [canllawiau i’r gweithlu] (https://www.gov.uk/government/publications/dbs-workforce-guidance).

Mae manylion yr hyn sy’n perthyn i weithgaredd a reoleiddir gyda phlant i’w gweld yn ein taflen gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant.

3. Cymhwysedd ar gyfer gwiriadau DBS Manylach

Mae unrhyw rolau sy’n ymwneud â’r gweithgareddau a restrir isod yn gymwys i gael gwiriad DBS Manylach. Nid oes mynediad i wiriad Rhestr Gwahardd Plant ar gyfer y gweithgareddau hyn. Mae’r rhestr hon yn cynnwys rolau a arferai fod yn weithgaredd a reoleiddir gyda phlant cyn 2012, pan gafodd eu dileu gan Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012.

Os yw rhywun yn gwneud unrhyw un o’r gweithgareddau a restrir isod, fwy nag unwaith, maent yn bodloni’r diffiniad o waith gyda phlant:

  • darparu cyngor cyfreithiol i blant
  • unrhyw fath o waith mewn ysbyty plant, lle mae’r person sy’n gwneud y gwaith yn cael cyfle i ddod i gysylltiad â’r plant sy’n cael eu trin yno a bod y gwaith hwnnw at ddiben yr ysbyty plant
  • gwaith sy’n bodloni’r diffiniad o weithgaredd a reoleiddir gyda phlant ond nad yw’n cael ei wneud yn ddigon aml (mwy nag unwaith, ond llai na 4 diwrnod mewn cyfnod o 30 diwrnod)
  • darparu triniaeth neu therapi i blant, er enghraifft, therapyddion cyflenwol - oni bai bod y gwaith yn cael ei gwmpasu gan ddarparu gofal iechyd, gofal neu oruchwyliaeth, cyngor neu arweiniad yn y diffiniad o weithgaredd a reoleiddir gyda phlant
  • unrhyw waith mewn sefydliad penodol yr ystyrir (gan y sefydliad) yn waith dros dro neu achlysurol – gweler y taflen gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant am fanylion ynghylch beth yw’r rhain
  • darparu addysgu, hyfforddi, cyfarwyddo, gofal, neu oruchwylio plant o dan yr hyn y mae’r sefydliad yn penderfynu sy’n oruchwyliaeth resymol yn unol â goruchwyliaeth statudol Canllawiau goruchwylio statudol yr Adran Addysg os, naill ai:

    • nid yw’r gwaith yn digwydd mewn sefydliad penodedig
    • mae’n rôl ddi-dâl mewn sefydliad penodedig

3.1 Senario 1

Mae clwb chwaraeon yn cyflogi Xavier fel masseur chwaraeon ar gyfer eu timau plant ac mae’n dod i’r clwb i wneud hyn bob yn ail ddydd Sadwrn. Gall y clwb chwaraeon ofyn i Xavier wneud cais am wiriad DBS Manylach heb wiriad Rhestr Gwahardd Plant. Mae hyn oherwydd bod ei waith yn darparu triniaeth neu therapi i blant.

3.2 Senario 2

Mae Rachel yn gwirfoddoli yn ei hysgol gynradd leol i helpu ag ymarfer darllen. Mae hi’n mynd i mewn i’r ysgol unwaith yr wythnos i helpu gyda hyn ac maen nhw’n penderfynu ei bod hi’n cael ei goruchwylio’n ddigonol gan yr ysgol oherwydd bod yr athrawes yn yr ystafell gyda hi tra mae’n gweithio gyda’r plant. Gall yr ysgol ofyn i Rachel wneud cais am wiriad DBS Manylach heb wiriad Rhestr Gwahardd Plant oherwydd ei bod yn addysgu’r plant yn rheolaidd ond yn wirfoddolwr mewn sefydliad penodol dan oruchwyliaeth resymol.

Nid oes angen cyflawni’r gweithgareddau canlynol nifer penodol o weithiau:

  • cofrestru i redeg asiantaeth gwarchod plant

  • gweithio i asiantaeth gwarchod plant mewn rôl sy’n cynnwys yn benodol, naill ai:

    • ymweliadau sicrhau ansawdd â safleoedd gofal dydd neu warchod plant
    • mynediad at wybodaeth sensitif neu bersonol am y plant y mae’r asiantaeth yn gofalu amdanynt
  • unrhyw un 16 oed a throsodd sy’n byw ar aelwyd rhywun sy’n cael ei asesu i weithio yn unrhyw un o’r gweithgareddau neu’r lleoedd canlynol, lle mae’r ddau yn byw ar y safle lle bydd y gwaith yn digwydd:

    • sefydliad addysg bellach

    • academi 16-19

    • unrhyw un o’r gweithgareddau gwaith gyda phlant a restrir uchod

  • unrhyw un sy’n dal y swyddi penodol canlynol:  

    • aelodau o gorff llywodraethu neu bwyllgor rheoli sefydliad addysgol neu glercod iddo

    • perchnogion neu reolwyr ysgolion annibynnol

    • Swyddogion Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Cafcass).

    • Swyddog achosion teulu Cymreig

    • swyddogaethau arolygu penodol yn Lloegr

    • Arolygwyr y Comisiwn Ansawdd Gofal

    • aelodau panel mabwysiadu a maethu

    • ymddiriedolwyr elusennau plant

    • aelodau o fyrddau diogelu lleol

    • aelodau Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr

    • Comisiynydd Plant a’r Dirprwy yng Nghymru a Lloegr

    • Dirprwy Galluedd Meddyliol wedi’i benodi ar gyfer plentyn

    • unigolion sy’n ceisio rheoli asiantaeth neu sefydliad a reoleiddir ar gyfer gofal, llety neu wasanaethau i blant

    • cyfarwyddwr arweiniol ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc yng Nghymru neu Gyfarwyddwr Hawliau Plant yn Lloegr

3.3 Senario 3

Mae Samina yn ymddiriedolwr elusen blant leol. Gan ei bod yn dal y teitl hwn, gall yr elusen ofyn iddi wneud cais am wiriad DBS Manylach heb wiriad Rhestr Gwahardd Plant.

3.4 Senario 4

Mae Harry yn 17 oed ac yn byw gyda’i rieni a’i frawd iau. Mae mam Harry yn diwtor mewn coleg addysg bellach nad yw’n sefydliad penodedig ac mae’r teulu’n byw mewn tŷ ar dir y coleg. Gan fod Harry dros 16 oed a’i fam yn gweithio i’r coleg, gall y coleg ofyn iddo ef a’i dad wneud cais am wiriad DBS Manylach heb wiriad Rhestr Gwahardd Plant.

4. Cymhwysedd ar gyfer gwiriadau DBS Manylach gyda gwiriad Rhestr Gwahardd Plant

Nid oes angen cyflawni’r gweithgareddau isod nifer penodol o weithiau. Er bod y gweithgareddau hyn yn gallu cael mynediad at wiriad Rhestr Gwahardd Plant, nid ydynt mewn gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant.

  • unrhyw un 16 oed a throsodd sy’n byw ar aelwyd rhywun sy’n cael ei asesu i weithio mewn gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant lle mae’r ddau yn byw ar y safle lle bydd y gweithgaredd a reoleiddir yn digwydd

  • unrhyw un 16 oed a throsodd sy’n byw neu’n gweithio ar safle gofal dydd, gofal plant neu warchod plant lle mae ganddynt gyfle i ddod i gysylltiad â’r plant sy’n derbyn gofal yn y safle hwnnw

  • unrhyw un 16 oed a throsodd sy’n byw ar aelwydydd maethu a maethu preifat lle mae cyfle i ddod i gysylltiad â’r plant maeth – mae’r Rheoliadau Maethu yn nodi bod yn rhaid gwneud hyn ar gyfer unrhyw un 18 oed a hŷn ond bod mynediad ar gyfer pobl 16 a 17 oed hefyd

  • darpar rieni mabwysiadol neu warcheidwaid arbennig gan gynnwys unrhyw un 18 oed a throsodd sy’n byw yn yr aelwyd

4.1 Senario 5

Mae Talia yn 19 oed ac yn dal i fyw yn y cartref maeth y cafodd ei magu ynddo tra mae’n mynd i’r brifysgol. Mae ei rhieni maeth yn parhau i faethu plant eraill. Mae Talia bellach yn cael ei hystyried yn oedolyn sy’n aelod o’r cartref maethu – oherwydd hyn, gall yr asiantaeth faethu ofyn i Talia wneud cais am wiriad DBS Manylach gyda gwiriad Rhestr Gwahardd Plant.