Regulated activity with children in England and Wales (Welsh)
Updated 21 February 2025
Sylwch: Nid cyngor cyfreithiol yw hwn. Os oes angen help arnoch i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r gyfraith, dylech siarad â chynghorydd cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
Mae’r daflen hon yn egluro’r hyn sydd wedi’i gynnwys yn y diffiniad cyfreithiol o ‘weithgaredd a reoleiddir gyda phlant’, gan ddisgrifio’r gweithgareddau, sefydliadau, a swyddi penodol sy’n gymwys ar gyfer gwiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gyda gwiriad Rhestr Gwahardd Plant yn y gweithlu plant. Mae’r canllaw hwn yn berthnasol p’un a yw’r unigolion yn cael eu talu neu’n ddi-dâl.
Os yw’ch sefydliad yn cyflogi pobl nad ydynt yn bodloni’r holl amodau a amlinellir yn y daflen hon, efallai y byddant yn gymwys i gael lefel wahanol o wiriad. Bydd angen i chi gyfeirio at ein [hofferyn a chanllawiau cymhwysedd] ar-lein (https://www.gov.uk/government/collections/dbs-eligibility-guidance) i wirio hyn. Os yw’ch sefydliad yn cyflogi pobl mewn rolau gwahanol sy’n cyflawni dyletswyddau tebyg i’r rhai yn y daflen hon, dylech gyfeirio at ein canllawiau ar-lein gan y gallent fod yn gymwys i gael yr un lefel o wiriad.
Gall unrhyw newidiadau i rôl, neu’r gweithgareddau y mae person yn eu cyflawni, effeithio ar lefel y gwiriad sy’n berthnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau cymhwysedd ar ein gwefan.
Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i wiriadau cofnodion troseddol (gwiriadau DBS) yng Nghymru, Lloegr, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw. Gellir cael gwybodaeth am wiriadau sydd ar gael yn yr Alban oddi wrth Disclosure Scotland. Gellir cael gwybodaeth am wiriadau sydd ar gael yng Ngogledd Iwerddon oddi wrth Access NI.
2. Beth yw gweithgaredd a reoleiddir?
Mae gweithgaredd a reoleiddir yn waith na ddylai person gwaharddedig ei wneud. Fe’i diffinnir yn Neddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (SVGA), sydd wedi’i diwygio gan Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (PoFA). Mae’n eithrio unrhyw weithgareddau a gyflawnir yn ystod perthnasoedd teuluol neu fel rhan o unrhyw berthnasoedd personol, anfasnachol.
Plentyn yw unrhyw berson nad yw eto wedi cyrraedd 18 oed. Fodd bynnag, os yw gweithgaredd yn ymwneud â’u cyflogaeth yn unig, er enghraifft, hyfforddiant cynefino wrth ddechrau gweithio neu eu goruchwylio yn y gwaith, a’u bod yn 16 neu’n 17 oed, yna ni fyddai’r hyfforddwr neu’r goruchwyliwr mewn gweithgaredd a reoleiddir.
Os ydych chi’n cyflogi neu’n asesu rhywun i wneud gwaith sy’n weithgaredd a reoleiddir gyda phlant, fe allech chi ofyn am wiriad DBS Manylach, gyda gwiriad o’r Rhestr Gwahardd Plant.
Pan ydych yn gofyn am wiriad DBS i asesu rhywun i gyflawni gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant mae hyn yn golygu eich bod yn ddarparwr gweithgaredd a reoleiddir (RAP).
Fel RAP, mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i atgyfeirio unigolyn at y DBS lle bodlonir yr amodau perthnasol.
I gael gwybodaeth am atgyfeiriadau gallwch:
-
cyrchu ein taflen atgyfeiriadau gwahardd
-
cyrchu ein siart llif atgyfeiriadau gwahardd
-
ffonio ni ar 03000 200 190
Mae gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant yn cynnwys naill ai:
-
pa weithgaredd y mae person yn ei wneud fel rhan o’i swydd a pha mor aml y mae’n ei wneud
-
ble mae’r gwaith yn digwydd a pha mor aml y bydd y person yn gweithio yno * gweithio mewn swyddi penodol (yng Nghymru yn unig)
Mewn rhai amgylchiadau, rhaid hefyd ystyried goruchwylio’r rôl.
Mae rhagor o wybodaeth am beth yw gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant i’w chael yn y tabl isod.
2.1 Gweithgareddau penodol gyda phlant a beth sydd angen i chi ei ystyried:
Gweithgaredd | Amod cyfnod | Goruchwyliaeth | Oed y plentyn |
---|---|---|---|
Addysgu, hyfforddi, neu gyfarwyddo, gofalu am, neu oruchwylio plant | Ar fwy na 3 diwrnod mewn cyfnod o 30 diwrnod, neu unwaith dros nos rhwng 2am a 6am gyda chyfle i ddod i gysylltiad wyneb yn wyneb â phlant | Rhaid ystyried canllawiau statudol yr Adran Addysg | O dan 18 – ond nid os yw’r gweithgaredd yn ymwneud â chyflogaeth â thâl neu ddi-dâl y plentyn a’i fod yn 16 neu 17 oed |
Cyngor neu ganllawiau a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant am eu lles addysgol, emosiynol neu gorfforol | Ar fwy na 3 diwrnod mewn cyfnod o 30 diwrnod, neu unwaith dros nos rhwng 2am a 6am gyda chyfle i ddod i gysylltiad wyneb yn wyneb â phlant | Ddim yn ofynnol | O dan 18 - ond nid os yw’r gweithgaredd yn ymwneud â chyflogaeth â thâl neu ddi-dâl y plentyn a’i fod yn 16 neu 17 oed |
Cymedroli gwasanaeth gwe yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer plant | Ar fwy na 3 diwrnod mewn cyfnod o 30 diwrnod | Ddim yn ofynnol | Dan 18 |
Gyrru cerbyd i blant | Ar fwy na 3 diwrnod mewn cyfnod o 30 diwrnod | Ddim yn ofynnol | Dan 18 |
Gofal iechyd neu ofal personol | Dim gofyniad – mae unwaith yn ddigon | Ddim yn ofynnol | Dan 18 |
Cofrestru i fod yn ofalwr maeth neu’n ofalwr maeth preifat | Dim gofyniad | Ddim yn ofynnol | Dan 18 |
Cofrestru i fod yn warchodwr plant neu ddarparwr gofal plant, gan gynnwys cofrestru gwirfoddol | Dim gofyniad | Ddim yn ofynnol | Yn unol â rheoliadau |
Rheolaeth o ddydd i ddydd ar rywun mewn gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant | Dim gofyniad | Ddim yn ofynnol | Dan 18 |
3. Sefydliadau penodedig gyda phlant
Bydd pobl sy’n gweithio yn y sefydliadau penodedig hyn yn cyflawni gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant os ydynt yn bodloni pob un o’r 5 maen prawf canlynol:
-
Maent yn gweithio yn y sefydliadau am fwy na 3 diwrnod mewn cyfnod o 30 diwrnod, neu unwaith dros nos rhwng 2am a 6am gyda chyfle i ddod i gysylltiad wyneb yn wyneb â’r plant
-
Maent yn cael cyfle, oherwydd eu swydd, i gael cyswllt â phlant y sefydliad
-
Maent yn gweithio yno at ddiben y sefydliad
-
Nid gwaith dros dro nac achlysurol ydyw
-
Nid rôl wirfoddol dan oruchwyliaeth ydyw
Y sefydliadau penodedig yw:
-
sefydliad addysgol sy’n benodol neu’n bennaf ar gyfer darparu addysg amser llawn i blant
-
uned atgyfeirio disgyblion
-
Academi darpariaeth amgen (Lloegr yn unig)
-
darparwr addysg feithrin
-
canolfan gadw i blant
-
gwasanaeth llety diogel i blant (Cymru yn unig)
-
cartref plant neu gartref a ddarperir o dan Ddeddf Plant 1989
-
cartref gofal sydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer plant, yng Nghymru yn unig
-
canolfan blant
-
safle gofal plant perthnasol
4. Goruchwyliaeth
Mae angen ystyried goruchwyliaeth os yw’r gweithgaredd a gyflawnir yn ymwneud ag addysgu, hyfforddi, neu gyfarwyddo, gofalu am, neu oruchwylio plant. Yn ôl y gyfraith, disgrifir hyn fel goruchwyliaeth o ddydd i ddydd sy’n rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, at ddiben amddiffyn unrhyw blant dan sylw. Os yw rôl o fewn sefydliad penodedig yn cael ei thalu, yna bydd yr unigolyn bob amser mewn gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant ac felly’n gymwys i gael gwiriad DBS Manylach gyda gwiriad o’r Rhestr Gwahardd Plant. Mae hyn waeth beth fo lefel yr oruchwyliaeth y maent yn ei chael.
Os yw rôl o fewn sefydliad penodedig yn wirfoddol, yna rhaid i’r sefydliad ystyried canllawiau goruchwylio statudol yr Adran Addysg (DfE). Os bydd y sefydliad yn penderfynu bod y rôl yn cael ei goruchwylio’n ddigonol, yna nid yw’r gwirfoddolwr mewn gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant ac mae’n gymwys i gael gwiriad DBS Manylach yn unig.
5. Swyddi penodedig yng Nghymru yn unig
Mae’r swyddi hyn yn bodloni’r diffiniad o weithgaredd a reoleiddir gyda phlant oherwydd teitl y swydd neu’r cyfrifoldebau, ac nid oes angen eu cyflawni nifer penodol o weithiau:
- swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru a Dirprwy Gomisiynydd Plant Cymru
Mae’r swyddi canlynol mewn gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant dim ond os yw deiliad y swydd yn cael y cyfle, oherwydd y rôl a ddelir, i ddod i gysylltiad â’r plant:
-
swyddogaethau Gweinidogion Cymru i arolygu sefydliadau neu asiantaethau cofrestredig, corff GIG neu unrhyw un sy’n darparu gofal iechyd i’r corff
-
swyddogaethau sy’n ymwneud ag arolygu gwarchod plant, neu asiantaethau maethu, canolfannau preswyl i deuluoedd, asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol, asiantaethau cymorth mabwysiadu
-
swyddogaethau sy’n ymwneud â lles plant mewn ysgolion preswyl
-
swyddogaethau sy’n ymwneud ag arolygu hyfforddiant athrawon, awdurdodau addysg lleol, ysgolion annibynnol cofrestredig, ysgolion preswyl a cholegau
-
swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygu neu ymchwilio i swyddogaethau awdurdodau gwasanaethau plant
-
swyddogaethau sy’n ymwneud ag arolygu gwasanaethau gyrfaoedd
-
swyddogaethau sy’n ymwneud ag arolygu addysg grefyddol
-
swyddogaethau sy’n ymwneud ag arolygu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol gan awdurdodau lleol
6. Dolenni a chysylltiadau
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y DBS. Efallai y bydd y tudalennau canlynol yn ddefnyddiol i chi:
www.gov.uk/find-out-dbs-check (ein hofferyn cymhwysedd)
www.gov.uk/government/publication/dbs-workforce-guidance
Mae gwybodaeth am weithgareddau a reoleiddir gyda phlant hefyd ar gael gan yr Adran Addysg (DfE).
www.gov.uk/government/publications/new-disclosure-and-barring-services
Mae gwybodaeth am weithgareddau a reoleiddir gyda phlant hefyd ar gael gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC).
www.gov.uk/government/publications/new-disclosure-and-barring-services
Mae cyflogwyr y GIG yn darparu ystod o ganllawiau sector-benodol ar eu gwefan ac mae ganddynt offeryn cymhwysedd ar gyfer rolau GIG
www.nhsemployers.org/case-studies-and-resources/2017/04/dbs-eligibility-tool
Ymholiadau cyffredinol: customerservices@dbs.gov.uk
Cysylltiadau corfforaethol:
Ffôn: 0300 020 0190
Llinell Gymraeg: 0300 020 0191
Minicom: 0300 020 0192
Gwefan: www.gov.uk/dbs