Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 6: disgyniad ar farwolaeth perchennog cofrestredig

Diweddarwyd 14 October 2024

Yn berthnasol i England and Gymru

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn nodi’r dystiolaeth sy’n ofynnol ar gyfer ceisiadau’n ymwneud â marwolaeth perchennog ystad mewn tir.

Yn dilyn marwolaeth perchennog cofrestredig, rydym yn cynghori bod y gofrestr yn cael ei diweddaru fel mesur i atal twyll.

O dan adran 4 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, bydd angen ichi wneud cais am gofrestriad cyntaf ystad ddigofrestredig sy’n destun trosglwyddo neu gydsynio. I gael rhagor o fanylion, gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf.

1.1 Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau

Os yw eich cais am gofrestriad cyntaf, bydd dogfennau gwreiddiol yn ofynnol fel rheol.

Fodd bynnag, gall trawsgludwr wneud cais am gofrestriad cyntaf dim ond ar sail copïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau.  I gael gwybodaeth am hyn gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf – Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd

Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig gwreiddiol.

Peidiwch ag anfon unrhyw ddogfennau yr hoffech eu cadw, naill ai’n ddogfennau wreiddiol neu’n gopïau ardystiedig gwreiddiol. Sicrhewch eich bod yn anfon copïau oherwydd unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio.

Byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gopïau gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant.

2. Effaith marwolaeth ar ystad mewn tir neu arwystl neu forgais

2.1 Yr unig berchennog cyfreithiol

Pan fo unig berchennog cyfreithiol yn marw, bydd breinio unrhyw ystad gyfreithiol, arwystl neu forgais oedd yn eiddo iddo yn dibynnu ar p’un ai oedd gan yr ymadawedig ewyllys ddilys.

Lle bo’r ymadawedig wedi penodi ysgutor, ystyrir bod yr ysgutor yn cael y teitl ar farwolaeth y perchennog. Fodd bynnag, rhaid i ysgutor brofi ei hawl i ddelio â’r ystad gyfreithiol, arwystl neu forgais trwy gael profiant cyn bydd Cofrestrfa Tir EF naill ai’n ei gofrestru’n berchennog neu’n derbyn trawsgludiad neu drosglwyddiad ganddo (Jennison v Jennison [2022] EWCA Civ 1682 at 18).

Fodd bynnag, pan fo’r perchennog yn marw heb ewyllys, mae’r ystad gyfreithiol yn breinio yn yr Ymddiriedolwr Cyhoeddus (adran 9 o Ddeddf Gweinyddu Ystadau 1925).

Er y gall ewyllys neu reolau diffyg ewyllys arwain at fudd ecwitïol, nid yw’r ystad gyfreithiol yn breinio mewn buddiolwr hyd nes y ceir grant cynrychiolaeth a bod y tir yn cael ei drawsgludo i’r buddiolwr.

Rhaid ystyried y gwahaniaeth rhwng ysgutor a gweinyddwr fel y nodir yn Woolley v Clark (1822) B ac Ald 744 at 745-746. Ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn derbyn gwarediad gan weinyddwr sy’n rhagddyddio’r llythyrau gweinyddu.

2.2 Marwolaeth cydberchennog

Pan fo ystad gyfreithiol yn cael ei dal gan gydberchnogion, ar farwolaeth un perchennog, mae’r ystad gyfreithiol yn breinio yn y goroeswr(wyr). O ran yr ystad gyfreithiol, nid oes gwahaniaeth a oedd y perchnogion yn dal yr ystad fel cyd-denantiaid llesiannol neu denantiaid cydradd; mae ystad gyfreithiol yn anrhanadwy (adrannau 1(6) a 36(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925). Ni all ysgutor neu weinyddwr y perchennog ymadawedig drosglwyddo cyfran yn yr ystad gyfreithiol. Ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn ei gwneud yn ofynnol i weinyddwr neu ysgutor cydberchennog ymadawedig ymuno mewn gwarediad.

Os bydd goroeswr olaf y cydberchnogion yn marw, rhaid i’w cynrychiolwyr personol ymdrin â’r ystad gyfreithiol fel ar gyfer unig berchennog.

2.3 Grantiau profiant neu lythyrau gweinyddu

Er mwyn delio ag eiddo yng Nghymru a Lloegr, rhaid i lys yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon roi grant profiant neu lythyrau gweinyddu.

Nid yw penodi cynrychiolwyr personol a gafwyd y tu allan i’r DU yn dystiolaeth dderbyniol oni bai ei fod wedi ei ail-selio gan lys profiant yn y DU (Jennison v Jennison [2022] EWCA Civ 1682 at 20).

Dim ond rhai grantiau tramor penodol gellir eu hail-selio o dan Ddeddf Profiannau Trefedigaethol 1892 a Deddf Profiannau Trefedigaethol (Gwladwriaethau Gwarchodedig a Thiriogaethau Gorfodol) 1927. Unwaith y bydd grant profiant tramor wedi ei ail-ddyroddi, daw’n effeithiol i weinyddu unrhyw ystad yng Nghymru a Lloegr. Nid yw ail-selio yn cael effaith ôl-weithredol, felly rhaid i unrhyw warediad ôl-ddyddio dyddiad yr ail-selio.

Os na ellir ail-selio’r grant tramor, bydd grant cynrychiolaeth llawn a roddwyd yn y DU yn ofynnol. Sylwer na ellir ail-selio grantiau profiant a gafwyd mewn Dibynwledydd y Goron (Beilïaeth Jersey, Beilïaeth Guernsey ac Ynys Manaw) ac nid ydynt yn dderbyniol fel tystiolaeth i ddelio ag eiddo yng Nghymru a Lloegr.

Pan fo’r unig ysgutor, neu’r ysgutor olaf sydd wedi goroesi, yn marw, daw ei ysgutor yn ysgutor yr ewyllysiwr gwreiddiol.

Gelwir hyn yn gadwyn cynrychiolaeth a gall barhau am gyfnod amhenodol cyn belled â bod pob ysgutor yn penodi ei ysgutor ei hun sy’n cael profiant.

Mae’r gadwyn cynrychiolaeth yn cael ei thorri gan naill ai:

  • diffyg ewyllys
  • methiant ewyllysiwr i benodi ysgutor
  • methiant i gael profiant ewyllys

Yn achos grant i atwrnai ysgutor, er bod ewyllys wedi ei gwneud, rhoddir llythyrau gweinyddu ac felly mae’r gadwyn yn cael ei thorri, oni bai bod yr ysgutor yn cael profiant yn ddiweddarach.

Gall goroeswr cyd-weinyddwyr ddelio ag ystad yr ymadawedig. Fodd bynnag, pan fydd y gweinyddwr olaf sydd ar ôl yn marw, ni ellir cael cadwyn, a bydd llythyrau de bonis non administrati yn ofynnol. Gan mai math o lythyrau gweinyddu yw’r rhain, sylwer nad ydynt yn gymwys yn ôl-weithredol.

Rhaid i’r holl brofiannau yn y gadwyn gael eu rhoi yng Nghymru neu Loegr. Ni all cadarnhad Albanaidd neu brofiant a roddir yng Ngogledd Iwerddon, er eu bod yn dderbyniol i ddelio â thir yng Nghymru a Lloegr, fod yn rhan o gadwyn cynrychiolaeth (adran 1(3) o Ddeddf Gweinyddu Ystadau 1971).

Mae cyfeiriadau at grant profiant neu lythyrau gweinyddu yng ngweddill y cyfarwyddyd hwn at y rhai a roddir yn y DU neu a ail-seliwyd gan lys yng Nghymru neu Loegr yn unig.

3. Marwolaeth unig berchennog (neu unig berchennog i oroesi) ystad gofrestredig neu arwystl neu forgais

3.1 Nodi’r farwolaeth

Ar ôl cyflwyno tystiolaeth o farwolaeth, bydd y cofrestrydd yn gwneud cofnod yn y gofrestr yn adlewyrchu’r hysbysiad o farwolaeth. Dylid gwneud y cais ar ffurflen AP1, ac nid oes dim i’w dalu.

Lle rhoddwyd Tystysgrif Marwolaeth Dybiedig o dan Ddeddf Rhagdybiaeth Marwolaeth 2013, byddwn yn yr un modd yn gwneud cofnod yn y gofrestr yn adlewyrchu’r hysbysiad o’r farwolaeth dybiedig. Sylwer nad yw datganiad yr Uchel Lys yn unig yn dystiolaeth ddigonol.

3.2 Cofrestru’r cynrychiolydd (cynrychiolwyr) personol

Gall cynrychiolydd (cynrychiolwyr) personol unig berchennog cofrestredig ystad gofrestredig neu arwystl neu forgais wneud cais i gael ei gofrestru’n berchennog (perchnogion) yr ystad, arwystl neu forgais yn ei rinwedd fel cynrychiolydd (cynrychiolwyr) personol yn lle’r perchennog ymadawedig. I wneud cais i gofrestru yn y ffordd hon bydd yn rhaid ichi anfon y canlynol atom:

  • ffurflen gais AP1. Disgrifiwch y cais fel ‘Trosglwyddo trwy weithredu’r gyfraith’
  • copi ardystiedig neu gopi swyddfa o’r grant profiant neu lythyrau gweinyddu, neu orchymyn llys yn penodi’r ceisydd (ceiswyr) yn gynrychiolydd (cynrychiolwyr) personol yr ymadawedig neu (lle mae trawsgludwr yn gweithredu ar ran y ceisydd (ceiswyr) tystysgrif gan drawsgludwr yn datgan ei fod yn dal y profiant, llythyrau gweinyddu neu orchymyn llys gwreiddiol neu gopi swyddfa ohonynt. Rhaid i’r dystysgrif gynnwys cadarnhad o roi’r grant profiant, llythyrau gweinyddu neu orchymyn llys yn y Deyrnas Unedig. Rhaid i’r dystysgrif gadarnhau hefyd nad yw’r grant profiant, llythyrau gweinyddu neu orchymyn llys yn gyfyngedig. Os na all y trawsgludwr gadarnhau nad yw’r grant yn gyfyngedig, bydd copi ardystiedig o’r grant profiant neu lythyrau gweinyddu neu orchymyn llys yn ofynnol, ac os na ddarperir hyn gyda’r cais, anfonir ymholiad i ofyn amdano.
  • y ffi sy’n daladwy o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol – gweler Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol

I gael gwybod beth sy’n digwydd i ddogfennau a gyflwynir gyda ffurflenni cais, gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

Unwaith iddynt gael eu cofrestru’n berchnogion, gall y cynrychiolwyr personol wedyn drosglwyddo neu gydsynio’r ystad, neu’r arwystl neu forgais. Gweler Cofrestru gwarediad gan y cynrychiolwyr personol.

Pan fydd grant cynrychiolaeth cyfyngedig wedi ei gyhoeddi, a bod y grantî wedi ei gofrestru’n berchennog, gallwn ychwanegu nodyn at gofnod y perchennog i adlewyrchu cyfyngiadau’r grant ac y gall unrhyw bŵer i waredu’r ystad neu’r arwystl cofrestredig ddod i ben.

Pan fydd y person sydd â hawl lwyr yn blentyn o dan oed, byddwn yn cofnodi cyfyngiad dim ond os gwneir cais am un ar ffurflen RX1.

Pan fydd grant yn cael ei roi i berson yn ystod gweddwdod, neu pan fydd yr ewyllys ar goll, wedi ei dinistrio neu ei difrodi, ni fydd angen cyfyngiad gan y bydd ffurf cofnod y perchennog yn gwneud y sefyllfa’n glir.

Os yw’r grant i atwrnai ysgutor neu berson sydd â hawl i gael llythyrau gweinyddu, bydd y cofrestrydd yn cofnodi cyfyngiad o’i wirfodd ei hun (yn absenoldeb cais am un) a fydd yn gofyn am ddatganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd gan y grantî i’w gyflwyno i gefnogi gwarediad dilynol yr ystad neu’r arwystl cofrestredig.

3.3 Cofrestru gwarediad gan y cynrychiolydd (cynrychiolwyr) personol

Gall cynrychiolydd (cynrychiolwyr) personol unig berchennog ymadawedig yr ystad gofrestredig, neu arwystl neu forgais, ddelio â’r cyfryw ystad gofrestredig neu arwystl heb fod eu hunain yn gofrestredig felly yn gyntaf. Gallant wneud hyn trwy drosglwyddo, neu drosglwyddo trwy gydsynio neu berchnogi gan ddefnyddio’r ffurflen briodol yn y naill achos neu’r llall. I wneud cais i gofrestru gwarediad o’r fath bydd yn rhaid ichi anfon y canlynol atom:

  • ffurflen AP1 (ffurflen FR1 os yw’r trosglwyddo neu gydsynio yn peri cofrestriad cyntaf)
  • naill ai
    • ffurflen drosglwyddo TR1 (os ydych yn gwerthu’r ystad gofrestredig gyfan)
    • ffurflen drosglwyddo TP1 (os ydych yn gwerthu dim ond rhan o’r ystad gofrestredig)
    • ffurflen gydsynio AS1 (os yw’r holl ystad gofrestredig yn destun y cydsynio)
    • ffurflen gydsynio AS3 (os mai dim ond rhan o’r ystad gofrestredig sy’n destun y cydsynio)
  • naill ai ffurflen drosglwyddo TR4 (os oedd yr ymadawedig yn berchennog arwystl neu forgais), neu ffurflen gydsynio AS2
  • copi ardystiedig neu gopi swyddfa o’r grant profiant neu lythyrau gweinyddu, neu orchymyn llys yn penodi’r trosglwyddwr yn gynrychiolydd (cynrychiolwyr) personol yr ymadawedig neu (lle mae trawsgludwr yn gweithredu ar ran y ceisydd) tystysgrif gan drawsgludwr yn datgan ei fod yn dal y profiant, llythyrau gweinyddu neu orchymyn llys gwreiddiol neu gopi ardystiedig neu gopi swyddfa ohonynt. Gellir ychwanegu’r dystysgrif, lle bo’n briodol, ym mhanel 11 ffurflen TR1, ffurflen AS1 a ffurflen AS2, ym mhanel 9 ffurflen TR4 ac ym mhanel 12 ffurflen TP1 a ffurflen AS3. Rhaid i’r dystysgrif gynnwys cadarnhad o grant profiant, llythyrau gweinyddu neu orchymyn llys yn y Deyrnas Unedig. Ni fydd angen y dystiolaeth hon arnom os yw’r cynrychiolydd personol eisoes yn gofrestredig felly
  • tystiolaeth hunaniaeth ar gyfer y cynrychiolydd (cynrychiolwyr) personol os nad yw wedi ei gynrychioli gan drawsgludwr neu nid yw trawsgludwr wedi ardystio ei fod yn fodlon bod camau digonol wedi cael eu cymryd i gadarnhau ei hunaniaeth (am ragor o fanylion, gweler cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth)
  • yr hyn sydd i’w dalu yn ôl y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir – gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

Sylwer 1: I gael gwybod beth sy’n digwydd i ddogfennau a gyflwynir gyda ffurflenni cais, gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

Sylwer 2: Ar gyfer breinio ystadau cofrestredig mewn tenant newydd am oes lle mae setliad o dan Ddeddf Tir Setledig 1925, defnyddiwch ffurflen AS1 neu ffurflen AS3 fel y bo’n briodol. Ychwanegwch y darpariaethau canlynol, gydag unrhyw newidiadau ac ychwanegiadau angenrheidiol, at y panel darpariaethau ychwanegol.

“Mae’r Cynrychiolydd Personol a’r Derbynnydd yn datgan:

  • bod yr Eiddo wedi ei freinio yn y Derbynnydd ar yr ymddiriedau a ddatganwyd yn ewyllys (enw’r ymadawedig) a brofwyd ar (dyddiad);
  • ymddiriedolwyr y setliad yw (enwau’r ymddiriedolwyr);
  • breiniwyd pŵer penodi ymddiriedolwyr newydd yn (enw);
  • cyflwynwyd y pwerau canlynol yn ymwneud ag ystadau cofrestredig yn benodol gan yr ewyllys yn ogystal â’r rhai a gyflwynwyd gan Ddeddf Tir Setledig 1925: (nodwch y pwerau ychwanegol).”

Dylech hefyd wneud cais am y cyfyngiad priodol gan ddefnyddio ffurflen RX1. Rhaid cyflwyno’r grant arbennig i ategu hyn.

3.3.1 Atwrnai cynrychiolydd (cynrychiolwyr) personol

Ar ôl i grant cynrychiolaeth gael ei roi, gall cynrychiolydd personol ddirprwyo ei swyddogaeth fel ysgutor neu weinyddwr i atwrnai ond rhaid gwneud hyn trwy bŵer a wnaed o dan adran 25 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925 (fel y’i diwygiwyd gan adran 5 o’r Ddeddf Dirprwyo gan Ymddiriedolwyr 1999) a all bara 12 mis yn unig ac felly rhaid ei adnewyddu os yw’r dirprwyo i fod am gyfnod hwy.

3.3.2 Atwrnai ysgutor neu berson sydd â hawl i roi’r llythyrau gweinyddu

Lle bo’r gwarediad gan atwrnai ysgutor neu berson sydd â hawl i roi llythyrau gweinyddu, bydd angen datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd gan yr atwrnai arnom yn cadarnhau nad oedd, ar ddyddiad y gwarediad, wedi cael hysbysiad o farwolaeth yr ysgutor neu’r person â hawl i roi llythyrau gweinyddu, neu gais gan y person hwnnw am grant cynrychiolaeth.

Mae trosglwyddo neu gydsynio gan atwrnai yn gofyn am gofrestriad tybiannol yr atwrnai’n berchennog yr ystad gofrestredig (neu’r arwystl), a fyddai, pe bai’r cofrestriad wedi digwydd ar wahân, wedi arwain at gofnodi cyfyngiad i sicrhau nad yw unrhyw bŵer i waredu’r ystad gofrestredig (neu’r arwystl) cofrestredig wedi dod i ben.

3.3.3 Grant cynrychiolaeth cyfyngedig

Gellir rhoi grant cynrychiolaeth cyfyngedig mewn nifer o sefyllfaoedd. Mae hyn yn cynnwys pan fo’r unigolyn a enwir yn ysgutor yn blentyn o dan oed neu pan fydd yr ewyllys wreiddiol wedi ei cholli neu wedi ei dinistrio. O dan amgylchiadau eraill, mae’n bosibl mai dim ond hyd nes y gofynnir am gynrychiolaeth bellach, neu yn ystod ei weddwdod, y bydd gan grantî yr hawl i weithredu.

Yn y sefyllfaoedd hyn, bydd angen tystysgrif arnom gan y trawsgludwr sy’n gweithredu ar ran y cynrychiolydd personol yn cadarnhau na cheisiwyd ac na roddwyd cynrychiolaeth bellach, ac (os yw’n berthnasol) bod y person a gafodd y grant ar gyfer ei ddefnydd a’i fudd yn dal yn fyw.

Dylai’r trawsgludwr hefyd ardystio bod y cyfyngiad penodol a gofnodwyd yn y grant yn parhau i fod yn berthnasol ar ddyddiad y gwarediad – er enghraifft, nad oedd plentyn o dan oed a gafodd y grant ar gyfer ei ddefnydd a’i fudd wedi cyrraedd 18 oed.

Lle collwyd neu lle dinistriwyd yr ewyllys wreiddiol a bod y cynrychiolydd personol wedi ei gofrestru ar sail grant cyfyngedig, bydd angen tystysgrif gan y trawsgludwr sy’n gweithredu ar ran y cynrychiolydd personol arnom yn nodi nad oedd, ar ddyddiad y gwarediad, yr ewyllys wreiddiol, na chopi mwy cyflawn na dilys ohoni, wedi ei phrofi ar ôl hynny.

Mae grant ad colligenda bona yn ddigon i alluogi cofrestru’r grantî (grantïon) yn berchennog (perchnogion) yn lle’r ymadawedig.  Lle byddwn yn cofrestru’r cyfryw grantïon, byddwn yn:

  • gwneud cofnod yn y gofrestr perchenogaeth gan ddefnyddio’r geiriad canlynol:

“Mae’r perchnogion wedi eu cofrestru yn grantïon llythyrau gweinyddu ad colligenda bona dyddiedig [DYDDIAD] [ENW’R PERCHENNOG YMADAWEDIG] sy’n gyfyngedig dim ond at ddiben [CYFYNGIAD O’R GRANT] a nes y rhoddir cynrychiolaeth bellach.”

  • gwneud cyfyngiad yn y gofrestr gan ddefnyddio’r geiriad canlynol os nad yw’r grant yn awdurdodi gwarediad yr eiddo yn benodol:

“Ni chaiff unrhyw warediad gan berchnogion yr ystad gofrestredig ei gwblhau trwy gofrestriad oni bai bod eu trawsgludwr yn rhoi tystysgrif yn datgan bod y gwarediad yn angenrheidiol er mwyn diogelu’r ystad [ENW’R PERCHENNOG YMADAWEDIG], ar adeg y gwarediad nad yw unrhyw gynrychiolaeth bellach wedi cael ei cheisio neu ei rhoi yn y mater, ac ar yr adeg honno nad oedd y grantïon a enwir yn y llythyrau gweinyddu ad colligenda bona y cyfeirir atynt uchod yn ymadawedig neu wedi eu diddymu.”

  • gwneud cofnod yn y gofrestr gan ddefnyddio’r geiriad canlynol os yw’r grant yn awdurdodi gwarediad yr eiddo yn benodol:

“Ni chaiff unrhyw warediad gan berchnogion yr ystad gofrestredig ei gwblhau trwy gofrestriad oni bai bod eu trawsgludwr yn rhoi tystysgrif yn datgan ar adeg y gwarediad nad yw unrhyw gynrychiolaeth bellach wedi cael ei cheisio neu ei rhoi ar gyfer ystad [ENW’R PERCHENNOG YMADAWEDIG] ac ar yr adeg honno nad oedd y grantïon a enwir yn y llythyrau gweinyddu ad colligenda bona y cyfeirir atynt uchod yn ymadawedig neu wedi eu diddymu.”

Rhaid i unrhyw warediad gan y grantî (grantïon) o dan grant ad colligenda bona gael ei ategu gan y dystysgrif briodol.

3.4 Rhyddhau arwystl neu forgais lle mai’r ymadawedig oedd eu hunig berchennog

Gall cynrychiolwyr personol unig berchennog ymadawedig arwystl neu forgais, heb fod yn gofrestredig eu hunain felly yn gyntaf, wneud cais i ddileu cofrestriad yr arwystl neu forgais ar ôl ei ryddhau. I wneud cais bydd angen ichi anfon y canlynol atom:

  • ffurflen AP1 neu ffurflen DS2
  • ffurflen DS1 (lle caiff yr ystad gofrestredig gyfan ei rhyddhau o’r arwystl neu forgais)
  • ffurflen DS3 (lle caiff yr arwystl neu forgais ei ryddhau ar ran yn unig o’r ystad gofrestredig)
  • tystiolaeth hunaniaeth ar gyfer y cynrychiolydd (cynrychiolwyr) personol os nad yw wedi ei gynrychioli gan drawsgludwr neu nid yw trawsgludwr wedi ardystio ei fod yn fodlon bod camau digonol wedi cael eu cymryd i gadarnhau ei hunaniaeth (am fanylion pellach, gweler cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth)
  • copi ardystiedig neu gopi swyddfa o’r grant profiant neu lythyrau gweinyddu, neu (lle mae trawsgludwr yn gweithredu o blaid yr arwystl) tystysgrif a roddir gan y trawsgludwr ei fod yn dal y grant profiant neu lythyrau gweinyddu gwreiddiol neu gopi swyddogol ohonynt. Rhaid i’r dystysgrif gynnwys cadarnhad o grant profiant, llythyrau gweinyddu neu orchymyn llys yn y Deyrnas Unedig.

Nid oes dim i’w dalu.

I gael gwybod beth sy’n digwydd i ddogfennau a gyflwynir gyda ffurflenni cais, gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

3.5 Breinio a/neu drosglwyddo eiddo fel bona vacantia ar ddiewyllysedd

Lle bo ystad weddilliol person diewyllys wedi breinio fel bona vacantia yng Nghyfreithiwr y Trysorlys (fel enwebai’r Goron) neu un o’r Dugiaethau Brenhinol, bydd copi ardystiedig neu gopi swyddogol o’r grant llythyrau gweinyddu ar gyfer yr ymadawedig yn ofynnol gydag unrhyw gais cysylltiedig a anfonir atom.

4. Marwolaeth cydberchennog ystad gofrestredig neu arwystl neu forgais

Mae ystad gyfreithiol mewn tir yn anwahanadwy (adran 1(6) a 34(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925). Ar farwolaeth cydberchennog, mae’r ystad gyfreithiol yn breinio yn y goroeswr(goroeswyr) trwy hawl i oroesi (jus accrescendi). Nid oes gan gynrychiolydd(cynrychiolwyr) personol perchennog ymadawedig unrhyw bŵer i ddelio â’r ystad gyfreithiol.

Yn wahanol i gynrychiolydd/cynrychiolwyr personol unig berchennog (sy’n goroesi), nid oes gan gynrychiolwyr personol cydberchennog ymadawedig hawl i gael eu cofrestru’n berchnogion ystad gofrestredig neu arwystl neu forgais ochr yn ochr â pherchennog/perchnogion sy’n goroesi.

Os bydd angen ichi wneud cais i dynnu enw cydberchennog ymadawedig yr ystad gofrestredig lle mae’r ystad gyfreithiol yn breinio yn yr un/y rhai sy’n goroesi neu arwystl neu forgais o’r gofrestr, bydd angen ichi anfon y canlynol atom.

  • ffurflen DJP
  • tystiolaeth o farwolaeth, naill ai:
    • tystysgrif marwolaeth, neu dystysgrif rhagdybio marwolaeth neu gadarnhad ysgrifenedig gan drawsgludwr o ffaith y farwolaeth, a ddylai gynnwys enw llawn yr ymadawedig, dyddiad y bu farw a naill ai ddyddiad geni neu oed yr ymadawedig pan fu farw, neu
    • grant profiant neu lythyrau gweinyddu gwreiddiol, neu gall trawsgludwr lenwi’r dystysgrif yn rhan C panel 4 ffurflen DJP i ardystio ei fod yn dal y gwreiddiol neu gopi swyddogol y cyfryw grant profiant neu lythyrau gweinyddu

Nid oes dim i’w dalu.

I gael gwybod beth sy’n digwydd i ddogfennau a gyflwynir gyda ffurflenni cais, gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

5. Atebolrwydd o ran tollau marwolaeth

Lle bu perchennog ystad gofrestredig farw cyn 13 Mawrth 1975 a’i bod yn ymddangos y byddai tollau marwolaeth i’w talu ar yr ystad gofrestredig, roeddem yn gwneud y cofnod canlynol yn y gofrestr yn ôl yr arfer.

“Nes cofrestru gwarediad o blaid prynwr am arian neu werth arian, mae’r tir yn agored i’r fath dollau marwolaeth all fod yn daladwy neu a all godi oherwydd marwolaeth A.B. o [cyfeiriad] a fu farw ar [dyddiad].”

Byddwn yn dileu’r cofnod hwn yn awtomatig ar adeg cofrestru trosglwyddiad yr ystad gofrestredig trwy werthu neu warediad arall am werth. Fodd bynnag, gallwch wneud cais i’w ddileu ar unrhyw adeg trwy gyflwyno ffurflen CN1 wedi ei llenwi gan Gomisiynwyr Cyllid a Thollau EF.

6. Atebolrwydd o ran treth etifeddiant (treth trosglwyddo cyfalaf yn flaenorol)

Cyflwynwyd treth trosglwyddo cyfalaf gan Ddeddf Cyllid 1975. Ar 25 Gorffennaf 1986, sef dyddiad gweithredu Deddf Cyllid 1986, ailenwyd y dreth yn dreth etifeddiant.

Pan fydd treth etifeddiant yn ddyledus i Gomisiynwyr Cyllid a Thollau EF, bydd arwystl statudol o’u plaid yn cael ei osod ar yr ystad gofrestredig sy’n destun y rhodd. Os ydynt yn dymuno hynny, gall y Comisiynwyr wneud cais gan ddefnyddio ffurflen AN1 i ddiogelu’r arwystl hwn trwy gofnodi rhybudd a gytunwyd yn y gofrestr o dan reolau 80 ac 81 o Reolau Cofrestru Tir 2003 fel a ganlyn.

“Rhybudd o arwystl Cyllid a Thollau EF (Cyfeir-rif – ) o ran y fath dreth a all godi.”

Pan fo’n briodol, gallwn hefyd wneud cofnod o’r fath ar adeg cofrestriad cyntaf yr ystad.

Pan fo cofnod o’r fath yn ymddangos yn y gofrestr ni fyddwn yn ei ddileu oni bai ein bod yn cael ffurflen CN1 wedi ei llenwi gan Gomisiynwyr Cyllid a Thollau EF. Os yw’r Comisiynwyr wedi ardystio ar y ffurflen CN1 bod y cais i ddileu i ddod i rym dim ond ar adeg cofrestru gwarediad i brynwr, byddwn yn tynnu’r cofnod o’r gofrestr dim ond pan ddaw’r ffurflen CN1 gyda chais priodol i gofrestru’r trosglwyddiad, neu warediad penodol arall, o blaid y prynwr. Bydd y cofnod yn aros yn y gofrestr hyd yn oed ar adeg cofrestru trosglwyddiad trwy werthu nes inni dderbyn ffurflen CN1 wedi ei llenwi gan y Comisiynwyr.

Yn achos cais am gofrestriad cyntaf nad yw’n seiliedig ar warediad am werth a lle bo rhodd wedi ei gwneud o fewn 8 mlynedd o ddyddiad y cais, lle na ddatgelir unrhyw arwystl ac nad oes pridiant tir dosbarth D(i) yn cael ei gofrestru, byddwn yn ystyried a oes unrhyw atebolrwydd o ran treth trosglwyddo cyfalaf neu dreth etifeddiant wedi codi.

Lle mae’n ymddangos o’r cais bod gwerth net ystad yr ymadawedig yn uwch na’r trothwy treth perthnasol ar ddyddiad y farwolaeth, a bod angen inni anfon ymholiadau ar bwyntiau eraill, byddwn yn eich hysbysu ein bod yn bwriadu gwneud y cofnod canlynol yn y gofrestr.

“Rhybudd o’r posibilrwydd o arwystl Cyllid y Wlad mewn perthynas â’r cyfryw dreth etifeddiant a all godi o ganlyniad i farwolaeth «ENW» a fu farw ar «DYDDIAD».”

Os na fydd unrhyw ymholiadau eraill yn codi, byddwn yn gwneud y cofnod hwn yn y gofrestr ac yn cynnwys llythyr ar ôl cwblhau’r cais yn cadarnhau bod y cofnod wedi ei wneud.

Fodd bynnag os ydych yn darparu nodyn ysgrifenedig o amgylchiadau’r achos gan gadarnhau naill ai nad oedd unrhyw dreth etifeddiant i’w thalu erioed, neu ei bod wedi ei thalu’n llawn, ni fyddwn yn gwneud y cofnod. Fel arall, gallwch ddarparu tystysgrif rhyddhau o Swyddfa Cyllid a Thollau EF, neu lythyr oddi wrthynt, wedi ei gyfeirio at y cofrestrydd yn cadarnhau hyn.

Ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn derbyn copi o’r grant profiant ei hunan fel tystiolaeth ddigonol bod treth etifeddiant wedi ei thalu. Mae hyn oherwydd ei bod yn bosibl talu treth etifeddiant mewn rhandaliadau blynyddol o dan rai amgylchiadau.

7. Ymddiriedau

Lle mae tir yn cael ei ddal ar ymddiried, efallai y bydd cyfyngiad ar Ffurf A safonol neu un cyfwerth cynharach wedi cael ei gofnodi yn y gofrestr. I gael rhagor o wybodaeth ar ymddiriedau tir a chyfyngiadau ar Ffurf A safonol, gweler cyfarwyddyd ymarfer 24: ymddiriedau tir preifat. Geiriad cyfyngiad Ffurf A yw:

“Nid oes gwarediad gan unig berchennog yr ystad gofrestredig (ac eithrio corfforaeth ymddiried) o dan yr hyn y mae arian cyfalaf yn codi i’w gofrestru oni bai yr awdurdodir hynny gan orchymyn y Llys.”

Bydd cais i gofrestru gwarediad o dan yr hyn y mae arian cyfalaf yn codi a wneir gan unig berchennog sy’n goroesi yn cael ei ddal gan gyfyngiad Ffurf A sy’n bodoli. Gan mai dim ond y budd llesiannol sy’n symud ar farwolaeth cydberchennog i’w gynrychiolwyr personol, dyma fydd y sefyllfa hyd yn oed os yw’r cynrychiolwyr personol yn gweithredu gyda’r perchennog sy’n goroesi. Lle mae’r tir yn parhau i gael ei ddal ar ymddiried, dylid penodi ail ymddiriedolwr (a all fod yn gynrychiolydd(cynrychiolwyr) personol yr ymadawedig ond nid oes yn rhaid iddo fod yn un) i weithredu gyda’r perchennog sy’n goroesi. Gweler adan 7.2 cyfarwyddyd ymarfer 24: ymddiriedau tir preifat. Mae hyn i’w gyferbynnu â gwarediad gan gynrychiolwyr personol unig berchennog sy’n goroesi. Yma, mae’r ystad gyfreithiol yn breinio yn y cynrychiolwyr personol ar farwolaeth yr unig berchennog (adran1(1) o Ddeddf Gweinyddu Ystadau 1925). Ar yr amod bod o leiaf 2 gynrychiolydd personol, ni chaiff gwarediad ei ddal gan y cyfyngiad.

Yn dilyn marwolaeth cydberchennog, os yw unig berchennog sy’n goroesi wedi dod yn unig berchennog llesiannol, dylid ystyried gwneud cais i ddileu unrhyw gyfyngiad Ffurf A sy’n bodoli – gweler Tynnu cyfyngiad Ffurf A o’r gofrestr. Mae’r un peth yn wir lle mae’r perchnogion cofrestredig sy’n parhau, o ganlyniad i newid yn yr ymddiriedau, wedi cael hawl fel cyd-denantiaid llesiannol.

Caiff cyfyngiad Ffurf A ei ddileu’n awtomatig dim ond pan gaiff trosglwyddiad sy’n gorgyrraedd unrhyw fuddion o dan ymddiried ei gofrestru. Lle na chafwyd trosglwyddiad o’r fath ond bod unrhyw ymddiriedau ar yr hyn y daliwyd y tir wedi dod i ben, efallai y bydd gwneud cais i ddileu’r cyfyngiad ar y cyfle cyntaf yn osgoi problemau’n codi ar warediad yn y dyfodol pan nad yw’r dystiolaeth angenrheidiol bellach ar gael yn hawdd.

8. Tynnu cyfyngiad Ffurf A o’r gofrestr

Dylid gwneud cais i ddileu’r cyfyngiad ar ffurflen RX3 gyda thystiolaeth o’r teitl ecwitïol i ddangos bod yr unig oroeswr wedi dod yn unig berchennog llesiannol, neu os oes mwy nag un perchennog cofrestredig o hyd, sut y maent wedi dod yn gyd-denantiaid yn hytrach na thenantiaid cydradd.

Y dystiolaeth y byddwn yn ei derbyn fel rheol yw datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd yn ffurflen ST5 (gweler cyfarwyddyd ymarfer 73: datganiadau o wirionedd gan yr unig berchennog (berchnogion) sy’n goroesi, sy’n dangos sut y daeth yn unig berchennog llesiannol trwy:

  • egluro’r hyn a ddigwyddodd i’r budd llesiannol a warchodir gan y cyfyngiad
  • os yw wedi symud i’r perchennog (perchnogion) sy’n goroesi, egluro sut y digwyddodd hyn
  • (lle bo un perchennog cofrestredig yn parhau) cadarnhau, os yw’n wir, nad oes gan unrhyw un heblaw’r perchennog cofrestredig sy’n parhau/goroesi fudd llesiannol yn yr eiddo erbyn hyn
  • (lle bo 2 neu ragor o berchnogion cofrestredig yn parhau) cadarnhau, os yw’n wir, eu bod yn dal yr eiddo ar ymddiried i’w hunain (a neb arall) fel cyd-denantiaid llesiannol
  • cadarnhau, os yw’n wir, nad oes unrhyw fudd llesiannol yn yr eiddo wedi ei forgeisio neu wedi ei arwystlo ar wahân, ac nad oes ac na fu unrhyw berchennog llesiannol yn ddarostyngedig i orchymyn arwystlo neu achosion methdaliad (nid yw morgais cofrestredig yn cyfrif)

Gellir defnyddio Ffurflen ST5 hefyd i wneud cais i ddileu cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr pan, o ganlyniad i newid yn yr ymddiriedau, bod y perchnogion cofrestredig sy’n parhau yn cael yr hawl i ddod yn gyd-denantiaid llesiannol.

Yn lle datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd, byddwn yn derbyn tystysgrif i’r perwyl hwn oddi wrth y trawsgludwr sy’n gweithredu ar ran y perchennog (perchnogion) sy’n goroesi os yw’n gallu siarad o wybodaeth bersonol o’r ffeithiau. Fel arall, gellir cyflwyno gorchymyn llys yn gofyn i’r cofrestrydd ddileu’r cyfyngiad.

Nid oes dim i’w dalu.

Os yw’r holl berchnogion cofrestredig wedi marw, gall cynrychiolwyr personol y perchennog olaf sy’n goroesi wneud cais tebyg gan addasu telerau’r datganiad statudol, datganiad o wirionedd neu dystysgrif yn ôl gofynion yr achos.

9. Gwybodaeth gyffredinol

9.1 Ffïoedd

Gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru am ffïoedd sy’n daladwy. Oni bai bod gennych gytundeb awdurdodedig blaenorol gyda Chofrestrfa Tir EF i dalu trwy ddebyd uniongyrchol, amgaewch siec am y swm hwnnw, yn daladwy i ‘Cofrestrfa Tir EF’, gyda’r cais.

9.2 Ble i anfon eich cais

I gael gwybod ble i anfon eich cais wedi ei gwblhau, gweler cyfeiriadau Cofrestrfa Tir EF ar gyfer ceisiadau.

9.3 Cadw’r gofrestr yn gyfoes

Cofiwch gadw manylion perchennog cofrestredig yr ystad gofrestredig neu arwystl neu forgais yn gyfoes bob amser. Gall hen gyfeiriad olygu nad ydynt yn derbyn rhybuddion pwysig gan Gofrestrfa Tir EF. O dan reol 198 o Reolau Cofrestru Tir 2003, rhaid i’r perchennog cofrestredig bob amser ddarparu cyfeiriad post, sy’n gallu bod naill ai’n gyfeiriad yn y DU neu gyfeiriad tramor. Gallant hefyd gael hyd at 2 gyfeiriad arall yn y gofrestr, sy’n gallu cynnwys cyfeiriad ebost, DX y DU, neu bost (naill ai yn y DU neu dramor).

9.4 Grantiau profiant neu lythyrau gweinyddu

Bydd angen grant y DU arnoch i ddelio ag eiddo yng Nghymru a Lloegr. Nid yw grant tramor yn dderbyniol oni bai ei fod wedi ei ail-selio yng Nghymru a Lloegr. Os na ellir ail-selio’r grant tramor bydd angen grant llawn o gynrychiolaeth a roddwyd yn y DU.

10. Pethau i’w cofio

Cyn anfon eich cais atom, gwnewch yn siwr eich bod wedi:

  • amgáu’r ffurflenni cywir
  • amgáu’r taliad cywir
  • amgáu tystiolaeth o’r grant cynrychiolaeth/marwolaeth
  • amgáu ffurflen RX3 wrth wneud cais i symud cyfyngiad Ffurf A
  • amgáu tystiolaeth o’r teitl ecwitïol wrth wneud cais i symud cyfyngiad Ffurf A
  • darparu tystiolaeth hunaniaeth ar gyfer y cynrychiolydd (cynrychiolwyr) personol os yw’n ofynnol (gweler cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth am ragor o fanylion)
  • edrych ar fanylion clercio’r holl ffurflenni, fel disgrifiad yr eiddo, rhif teitl a dyddiadau. Yn arbennig, edrychwch ar enwau llawn y partïon lle byddant yn ymddangos mewn mwy nag un lle megis enwau’r cynrychiolwyr personol/buddiolwyr yn y grant cynrychiolaeth a’r trosglwyddiad/cydsyniad

Sylwer, efallai na fydd Cofrestrfa Tir EF yn gallu prosesu ceisiadau sy’n anghyflawn neu’n ddiffygiol, a bydd eich cais mewn perygl o golli ei flaenoriaeth os byddwn yn gorfod ei ddychwelyd atoch – gweler cyfarwyddyd ymarfer 49: dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru am ragor o wybodaeth.

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.