Deunydd hyrwyddo

Mae personoliaeth a phrofiad Gareth yn ganolog i’w rôl newydd

Diweddarwyd 21 Rhagfyr 2023

Un o’r ymrwymiadau y gall cyflogwyr eu gwneud fel aelod Hyderus o ran Anabledd yw cynnig profiad gwaith, prentisiaeth, hyfforddeiaeth neu interniaeth i berson sydd ag anabledd.

Mae yna lawer o fuddion busnes i’r dull hwn - cefnogi eich cymuned leol, dod o hyd i gronfa o doniau cudd, ac o bosibl ddatblygu sgiliau rheoli eich cydweithwyr.

Un sefydliad sydd wedi elwa o raglen profiad gwaith fu RSBi/City Building yn Glasgow.

Gwnaethant recriwtio Gareth Nzelwa fel prentis oedolyn mewn gwaith saer. Dywed ei gydweithiwr Lesley Quinn:

Mae Gareth wedi dod â phrofiad aruthrol i’w brentisiaeth o’i swydd flaenorol ac mae wrth ei fodd yn gweithio gyda’i ddwylo. Mae ei bersonoliaeth yn golygu ei fod wrth wraidd unrhyw dîm a fydd yn allweddol wrth ddarparu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid. Mae ei gyfraniad yn gymaint fel eich bod chi’n anghofio bod ganddo anabledd.

""

Gareth yn RSBi/City Building yn Glasgow

Dywed Gareth, sy’n bwriadu gweithio’n llawn amser fel saer unwaith y bydd wedi ei gymhwyso’n llawn:

Rwy’n teimlo’n gyffyrddus yn City Building. Rydw i wedi bondio gyda llawer o bobl yma ac wedi gwneud llawer o ffrindiau. Rwy’n mwynhau gweithio gydag eraill.

Gall cyflogwyr sydd am gynnig lleoliadau gwaith gysylltu â’r Llinell Gwasanaethau Cyflogwyr.