Gwnaeth Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd Marriott baru sgiliau Adam â'r tasgau yr oedd angen eu cwblhau
Diweddarwyd 21 Rhagfyr 2023
Ymunodd Adam (disgybl yn Ysgol SEN Sandfield Park) â’n gwesty i ddechrau ar Raglen Interniaeth wedi’i Chynnal.
Dechreuodd ein Rhaglen Interniaeth wedi’i Chynnal ym mis Medi 2017 ac mae’n bartneriaeth rhwng Marriott, Ysgol Sandfield Park a Chyngor Dinas Lerpwl. Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i bobl ifanc sydd ag anableddau ennill profiad gwaith gwerthfawr a dangos i gyflogwr dros gyfnod o flwyddyn academaidd eu sgiliau a’u cyflogadwyedd. Roedd Adam yn un o’r bobl ifanc gyntaf i ymuno â’r rhaglen yn Lerpwl.
Ar ôl cwblhau’r Interniaeth wedi’i Chynnal mae Adam wedi sicrhau rôl barhaol iddo’i hun fel Cynorthwyydd Cegin.
Er mwyn cefnogi Adam i’r rôl hon aethom drwy broses ofalus o ‘job carving’ (gyda chymorth ei anogwr gwaith ac ysgol Sandfield Park) i sefydlu cryfderau allweddol Adam a’u paru â’r rolau a’r tasgau yr oedd angen eu cwblhau yn ein busnes. Roedd hyn yn cynnwys ffordd hollol newydd o edrych ar ein recriwtio a’n herio i fod yn fwy hyblyg gyda’n disgrifiadau a’n cwmpas swyddi.
Yn ogystal â hyn buom yn gweithio gydag Adam i fod yn hyblyg gyda’n proses ymgeisio i sicrhau ei fod yn gwbl hygyrch iddo - yn lle cael cyfweliad safonol ar gyfer y rôl gwnaeth Adam fideo gyda’i anogwr gwaith a oedd yn ei ddangos yn arddangos yr holl swyddi y gallai eu gwneud a’r sgiliau sydd ganddo.
Mae Adam yn gwneud gwaith gwych i ni ac rydym yn hynod falch o’i gael fel rhan o’n tîm!