Guidance

Framework Document for the Domestic Abuse Commissioner (Welsh) (accessible web version)

Updated 10 January 2022

1. Cyflwyniad

1.1 Cafodd y Ddogfen Fframwaith hon ei lunio gan y Swyddfa Gartref mewn ymgynghoriad â’r Comisiynydd Cam-Drin Domestig (“y Comisiynydd”). Maeh’r ddogfen hon yn amlinellu’r fframwaith eang lle bydd y Comisiynydd yn gweithredu o fewn iddi. Ymgynghorwyd â’r Gweinidogion Cymreig hefyd fel sydd yn ofynnol dan adran 11(7) o Ddeddf Cam-drin Domestig 021 (“y Ddeddf”). Ni fydd unrhyw beth o fewn y Ddogfen Fframwaith hon yn disodli neu’n amrywio’r dyletswyddau a/neu swyddogaethau sydd yn ymarferadwy gan yr Ysgrifennydd Cartref a/neu’r Comisiynydd a osodir yn y Ddeddf neu ddeddfiadau perthnasol eraill.

1.2 Fel sydd yn ofynnol gan adran 11(8)(c) ac 11(9) o’r Ddeddf, caiff copi o’r ddogfen ei osod o flaen Senedd y DU a Senedd Cymru. Bydd copïau ar gael i aelodau’r cyhoedd ar wefan y Llywodraeth.

2. Diben

2.1 Diben y Ddogfen Fframwaith yma, a ddyroddir o dan adran 11 o’r Ddeddf, yw amlinellu sut fydd yr Ysgrifennydd Cartref a’r Comisiynydd yn gweithio gyda’i gilydd. Mae’r Ddogfen Fframwaith yn ymwneud â’r materion canlynol yn arbennig:

  • 2.1.1 llywodraethiant, ariannu a staffio;

  • 2.1.2 ymarfer swyddogaethau’r Comisiynydd;

  • 2.1.3 craffu gweithgareddau’r Comisiynydd gan Senedd y DU neu Senedd Cymru.

2.2 Mae’r ddogfen hon yn amlinellu ymhellach swyddogaethau a chyfrifoldebau priodol yr Ysgrifennydd Cartref a’r Comisiynydd a’r egwyddorion fydd yn llywodraethu’r berthynas rhyngddyn nhw. Mae’n amlinellu materion mewn perthynas ag atebolrwydd, rheolaeth a threfniadau gweithredol ac ariannol y Comisiynydd; mae hefyd yn egluro sut y bwriedir i’r berthynas rhwng yr Ysgrifennydd Cartref a’r Comisiynydd weithio fel perthynas waith agored ac uniongyrchol, lle mae cymorth a chraffu yn weithredol i’r un maint.

2.3 Rhaid i’r Comisiynydd ystyried y Ddogfen Fframwaith wrth weithredu ei swydddogaethau (adran 11(3) o’r Ddeddf). Rhaid i’r Ysgrifennydd Cartref ystyried y Ddogfen Fframwaith wrth weithredu ei swyddogaethau mewn perthynas â’r Comisiynydd (adran 11(4) o’r Ddeddf).

3. Statws

3.1 Penodiad statudol yw swydd y Comisiynydd a wneir o dan adran 4 o’r Ddeddf.

3.2 Caiff y Comisiynydd ei benodi gan yr Ysgrifennydd Cartref fel deiliad swydd statudol, annibynnol fydd yn cadw a gadael ei swydd yn unol ag amodau ei benodiad. Er ei fod o dan nawdd y Swyddfa Gartref, mae’r Comisiynydd yn gweithredu’n annibynnol o’r Adran a’r Llywodraeth ar y cyfan.

3.3 Amlinellir swyddogaethau’r Comisiynydd yn adran 7 o’r Ddeddf. Cynnig arweinyddiaeth gyhoeddus ar fynd i’r afael ar gam-drin domestig a goruchwylio a monitro darpariaeth gwasanaethau i ddioddefwyr cam-drin domestig a’u plant yng Nghymru a Lloegr yw’r rôl greiddiol. Bydd rôl y Comisiynydd yn hanfodol wrth sicrhau cysondeb a gyrru’r ymateb i gam-drin domestig yn lleol a chenedlaethol.

4. Swyddogaethau a chyfrifoldebau: Y Swyddfa Gartref

4.1 Bydd yr Ysgrifennydd Cartref yn penodi’r Comisiynydd Cam-Drin Domestig; caiff y penodiad ei wneud yn ysbryd Cod Llywodraethu Swyddfa’r Cabinet ar Benodiadau Cyhoeddus.

4.2 Y Gweinidog dros Ddiogelu fydd y Gweinidog â chyfrifoldeb cyffredinol dros y Comisiynydd a’i swydd ar ran yr Ysgrifennydd Cartref. Wrth gynnal y swyddogaeth yma, bydd y Gweinidog yn cwrdd â’r Comisiynydd pryd bynnag fo angen (ac o leiaf ddwywaith y flwyddyn) i drafod gwaith y Comisiynydd.

4.3 Yn unol â’r hyn a amlinellwyd yn adran 5 o’r Ddeddf, mae’r Swyddfa Gartref yn gyfrifol am ddyrannu cyllideb ar gyfer gwaith y Comisiynydd er mwyn cefnogi’r swydd a galluogi i swyddogaethau’r Comisiynydd i gael eu cyflawni. Cyn pennu cyllideb y Comisiynydd ar gyfer pob blwyddyn, bydd y Swyddfa Gartref yn ymgynghori â’r Comisiynydd ac yn ystyried cynllun strategol y Comisiynydd ar gyfer y cyfnod perthnasol (gweler paragraff 5.18 isod).

4.4 Yn unol â’r hyn a amlinellwyd yn adran 6 o’r Ddeddf ac yn ddarostyngedig i’r broses recriwtio a amlinellir ym mharagraff 4.5, bydd y Swyddfa Gartref yn ymgynghori â’r Comisiynydd ac yn rhoi staff iddyn nhw i’w cefnogi a’u galluogi i gyflawni eu swyddogaethau. Y Swyddfa Gartref fydd yn darparu staff y Comisiynydd, ond fe fyddan nhw o dan gyfarwyddyd a rheolaeth y Comisiynydd wrth iddyn nhw gefnogi ei waith.

4.5 Bydd y Comisiynydd, neu ei Bennaeth Staff, yn gweithio gyda’r Swyddfa Gartef er mwyn cynnal cystadlaethau recriwtio. Bydd y Swyddfa Gartref yn cael cymeradwyaeth y Comisiynydd o benodiad unrhyw staff a bydd Swyddfa’r Comisiynydd Cam-Drin Domestig yn rhoi proses ar waith i gefnogi hyn. Caiff unrhyw benodiad ei wneud ar sail teilyngdod ac ar sail cystadleuaeth deg ac agored er mwy i benodiadau fod yn gyfreithlon ac ar sail Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil ar gyfer recriwtio allanol. Tra nad yw recriwtio mewnol yn ddarostyngedig i Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil, dylai unrhyw benodiad mewnol adlewyrchu gofynion teilyngdod a thegwch hefyd.

4.6 Fel yr amlinellir ymhellach yn adran 6 o’r Ddeddf, bydd y Swyddfa Gartref, yn dilyn ymgynghoriad gyda’r Comisiynydd, yn rhoi lle, offer a chyfleusterau eraill i’r Comisiynydd, fel yr ystyrir sydd eu hangen gan yr Ysgrifennydd Gwladol i’w galluogi nhw i gynnal eu swyddogaethau. Rhaid i le o’r fath fod ar wahan i bencadlys y Swyddfa Gartref sydd ar hyn o bryd yn 2 Marsham Street (Llundain).

4.7 Bydd y Swyddfa Gartref yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda’r Comisiynydd er mwyn trafod perfformiad yn erbyn amcanion a blaenoriaethau’r Comisiynydd fel yr amlinellir yn ei gynllun strategol a’r alldro ariannol. Bydd y Cyfarwyddwr perthnasol yn y Swyddfa Gartref yn cynnal gwerthusiad blynyddol o’‘r Comisiynydd.

4.8 O dan adrannau 8(4) a 14(4) o’r Ddeddf, fe all yr Ysgrifennydd Cartref gyfarwyddo bod peth deunydd yn cael ei adael allan o adroddiad neu adroddiad blynyddol gan y Comisiynydd, cyn i’r naill neu’r llall gael eu cyflwyno i Senedd y DU gan y Comisiynydd ond, cyn gwneud cyfarwyddyd o’r fath, rhaid i’r Ysgrifennydd Cartref ymgynghori â’r Comisiynydd (adrannau 8(5) a 14(5)).Mae gan yr Ysgrifennydd Cartref hefyd y pŵer o dan adran 9(6), yn ddarostyngedig i ymgynghoriad blaenorol gyda’r Comisiynydd o dan adran 9(7), i wneud y fath gyfarwyddyd mewn perthynas â chyngor a roddir gan y Comisiynydd i unrhyw berson o dan o dan adran 9(2).Rhaid anfon unrhyw gyngor mewn ffurf drafft i’r Ysgrifennydd Cartref o dan adran 9(5) cyn cael ei gyhoeddi gan y Comisiynydd o dan adran 9(4).O ran arfer, bydd yr Ysgrifennydd Cartref yn dirprwyo’r pwerau hyn o dan y Ddeddf i’r Gweinidog Dros Ddiogelu a dylid darllen unrhyw gyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Cartref yn y paragraff yma 4.8, a pharagraffau 4.9 i 4.10, isod yn unol â hynny.

4.9 Gellir defnyddio’r pŵer i orchymyn y dylid hepgor peth deunydd yn unig pan fydd yr Ysgrifennydd Cartref yn credu y gallai cyhoeddi’r wybodaeth hynny:

  • Beryglu diogelwch unrhyw berson, neu
  • rhagfarnu ymchwiliad neu erlyniad trosedd.

4.10 Fel rhan o’r gofyniad i’r Ysgrifennydd Cartref ymgynghori â’r Comisiynydd cyn dyrannu unrhyw gyfarwyddyd o’r fath, caiff y rhesymau dros gynnig y cyfarwyddyd hwnnw eu hamlinellu a rhaid i’r Ysgrifennydd Cartref ystyried rhesymau’r Comisiynydd dros gynnwys yr wybodaeth yn y lle cyntaf yn yr adroddiad neu gyngor perthnasol.Os yw’r Ysgrifennydd Cartref yn ystyried cyfarwyddo hepgor deunydd penodol, rhaid i ystyriaeth o’r adroddiad ac ymgynghoriad gyda’r Comisiynydd gan yr Ysgrifennydd Cartref, gan gynnwys unrhyw ymgysylltiad ag asiantaethau eraill, fel yr heddlu neu Wasanaeth Erlyn y Goron, ddigwydd o fewn 20 diwrnod gwaith o dderbyn yr adroddiad.

4.11 Er nad yw hyn wedi cael ei bennu gan y Ddeddf, os nad yw’r Comisiynydd yn cytuno gyda chyfarwyddyd arfaethedig yr Ysgrifennydd Cartref i hepgor deunydd, bydd y broses fel a ganlyn:

  • Gall y Comisiynydd gyflwyno ei achos i’r Cyfarwyddwr perthnasol yn y Swyddfa Gartref. Dylai hyn amlinellu pam nad yw’r Comisiynydd yn cytuno gyda chyfarwyddyd arfaethedig yr Ysgrifennydd Cartref i hepgor deunydd o’r adroddiad.[footnote 1] Rhaid i ymateb gan y Cyfarwyddwr perthnasol ynglŷn â’i adolygiad o gyfarwyddyd yr Ysgrifennydd Cartref i hepgor deunydd gael ei roi o fewn 10 diwrnod gwaith
  • Os yw’r Cyfarwyddwr yn cytuno gyda chyfeiriad yr Ysgrifennydd Cartref i hepgor deunydd penodo, gall y Comisiynydd gyflwyno ei achos i’r Ysgrifennydd Cartref. Rhaid i ymateb gan yr Ysgrifennydd Cartref i’r achos a gyflwynwyd, gael ei roi i’r Comisiynydd o fewn 10 diwrnod gwaith.
  • Os na ddoir i gytundeb gyda’r Ysgrifennydd Cartref, a bod yr Ysgrifennydd Cartref yn cyfarwyddo i’r deunydd gael ei hepgor, gall y Comisiynydd gynnwys nodyn yn ei adroddiad (neu gyngor o dan adran 8(2)) yn datgan bodpeth gwybodaeth wedi cael ei adael allan ar gyfarwyddyd yr Ysgrifennydd Cartref, ond nad oedd y Comisiynydd yn cytuno fod angen gwneud hyn er mwyn amddiffyn diogelwch unigolyn neu gefnogi ymchwiliad neu erlyniad trosedd.

4.12 Bydd y Swyddfa Gartref yn cyhoeddi llythyrau rhwng Gweinidogion y Swyddfa Gartref, uwch swyddogion a’r Comisiynydd ar wefan y Swyddfa Gartref fel mater o drefn oni bai byddai gwneud hynny’n torri cyfreithiau diogelu data neu’n datgelu gwybodaeth sensitif neu gyfrinachol.

5. Swyddogaethau a chyfrifoldebau: Y Comisiynydd Cam-Drin Domestig

5.1 Bydd y Comisiynydd yn atebol i’r Ysgrifennydd Cartref, a drwy’r Ysgrifennydd Cartef, i Senedd y DU. Bydd y comisiynydd yn ymddwyn yn unol â Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan). Swyddogaeth greiddiol y Comisiynydd fydd i ddarparu arweinyddiaeth gyhoeddus ynglŷn â materion yn ymwneud â cham-drin domestig ac i oruchwylio a monitro darpariaeth y gwasanaethau i ddioddefwyr cam-drin domestig a’u plant yng Nghymru a Lloegr.

5.2 Er bod gan y Comisiynydd gylch gwaith cyfyng yng Nghymru, bydd yn parchu’r setliad datganoli, gan gydnabod bod cyfrifoldeb dros faterion sydd yn cynnwys llywodraeth leol, iechyd ac addysg yn gorwedd gyda Llywodraeth Cymru. Yng Nghymru, mae’r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn gymwys a bydd Ymgynghorwyr Cenedlaethol yn cael eu penodi o dan y Ddeddf hon.

5.3 O ran ariannu, mae rheolaeth cyllideb y Comisiynydd o ddydd i ddydd, mewn cydymffurfiad gyda phrosesau a rheolau perthnasol y Swyddfa Gartref, yn gorwedd gyda Phennaeth Staff y Comisiynydd, a bydd ganddo awdurdod rheoli cyllideb ar gyfer cyllideb y Comisiynydd. Bydd y Comisiynydd a’i Bennaeth Staff yn sicrhau bod cyllidebau yn cael eu rheoli yn unol â Rheoli Arian Cyhoeddus. Bydd y Comisiynydd a’i Bennaeth Staff yn sicrhau ymhellach bod gwariant o gyllideb y Comisiynydd yn ymochri gydachynllun strategol y Comisiynydd ar gyfer y cyfnod perthnasol (gweler paragraff 5.18 isod).

5.4 Mae swyddogaethau’r Comisiynydd, a amlinellir yn adran 7 o’r Ddeddf, yn cynnwys, annog ymarfer da wrth:

  • atal cam-drin domestig;
  • atal, canfod, ymchwilio ac erlyn troseddau yn ymwneud â cham-drin domestig;
  • adnabod pobl sydd yn cyflawni cam-drin domestig, dioddefwyr cam- drin domestig a phlant sydd yn cael eu heffeithio gan gam-drin domestig; a
  • chynnig diogelwch a chymorth i bobl sydd yn cael eu heffeithio gan gam-drin domestig.

5.5 Yn unol â’r swyddogaethau statudol hyn, gall y Comisiynydd:

  • asesu, monitro a chyhoeddi gwybodaeth am ddarpariaeth gwasanaethau i bobl a effeithir gan gam-drin domestig;
  • gwneud argymhellion i unrhyw awdurdod cyhoeddus ynglŷn ag arfer ei swyddogaethau;
  • ymgymryd â neu gefnogi cynnal ymchwil, yn ariannol neu fel arall,
  • darparu gwybodaeth, addysg neu hyfforddiant;
  • cymryd camau eraill i godi ymwybyddiaeth gyhoeddus o gam-drin domestig;
  • ymgynghori ag awdurdodau cyhoeddus, sefydliadau gwirfoddol a phersonau eraill; a
  • cydweithio gyda, neu weithio ar y cyd gyda, awdurdodau cyhoeddus, sefydliadau gwirfoddol a phersonau eraill, p’un a ydynt yng Nghymru a Lloegr neu du allan i’r DU.

5.6 Wrth gyflawni swyddogaeth y Comisiynydd, rhaid i’r Comisiynydd beidio â pheryglu diogelwch unrhyw berson neu ragfarnu ymchwiliad neu erlyniad trosedd.

5.7 Yn unol â’r hyn a osodir yn adran 7(2) o’r Ddeddf, yn unol â’i swyddogaethau a’i ddyletswyddau cyffredinol, fe all y comisiynydd gydweithio gydag awdurdodau cyhoeddus, sefydliadau gwirfoddol neu bobl eraill yng Nghymru a Lloegr a thu allan i’r DU. Mae gan waith y Comisiynydd gysylltiadau clir gyda Chomisiynwyr ac Ymgynghorwyr eraill, yn enwedig Ymgynghorwyr Cenedlaethol yng Nghymru ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Trais ar Sail Rhywedd, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol, yn ogystal â Chomisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr a Chomisiynydd Plant Lloegr.

5.8 Bydd y cysylltiadau hyn yn hanfodol er mwyn uchafu effaith rôl y Comisiynydd ac i gysylltu rhaglenni gwaith gwahanol er mwyn gwella’r ymateb ehangach i gam-drin domestig. Rhagwelir bydd y Comisiynydd yn datblygu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda’r Comisiynwyr a’r Ymgynghorwyr eraill er mwyn nodi sut y byddan nhw’n gweithio gyda’i gilydd mewn mwy o fanylder, gan gynnwys drwy gytundebau rhannu data.

5.9 Mae Adran 7(3) o’r Ddeddf yn cyfyngu ar waith y Comisiynydd yng Nghymru i faterion a gedwir yn ôl ond mae adran 7(4) yn datgan yn glir nad yw hyn yn atal y Comisiynydd rhag ymgynghori neu gydweithio gyda neu ddatgelu gwybodaeth i awdurdodau Cymreig neu fel arall mewn perthynas â materion sydd wedi’u datganoli i Gymru. Disgwylir felly i’r Comisiynydd weithio’n agos gyda’r Ymgynghorwyr Cenedlaethol yng Nghymru, a’r Comisiynydd a’r Ymgynghorwyr Cenedlaethol fydd yn penderfynu a ddylid, a sut ddylid cychwyn ar unrhyw waith ar y cyd yn unol ag unrhyw Femoranda Cyd- ddealltwriaeth a ddatblygwyd rhyngddyn nhw.

5.10 Er bod y Comisiynydd yn bennaf atebol i’r Ysgrifennydd Cartref, bydd y Comisiynydd hefyd yn ddarostyngedig i graffu gan Senedd y DU a hefyd gan Senedd Cymru, mewn perthynas ag arfer ei swyddogaethau wrth gyd-weithio, ymgynghori, a datgelu gwybodaeth i awdurdodau Cymreig mewn perthynas â materion a ddatganolwyd i Gymru. Mae disgwyl i’r Comisiynydd gydweithio’n llawn gyda Senedd y DU a lle yw’n briodol, Senedd Cymru, gan gynnwys drwy roi tystiolaeth a chynnig gwybodaeth i bwyllgorau dethol.

5.11 O dan adran 8 o’r Ddeddf, gall y Comisiynydd adrodd ar unrhyw fater mewn perthynas â cham-drin domestig, a rhaid iddo gyhoeddi unrhyw adroddiadau a wnaed o dan yr adran hon, a threfnu i’r adroddiadau hyn i gael eu gosod o flaen Senedd y DU.

5.12 O dan adran 9(3) o’r Ddeddf, pan fydd person (nad yw’n Ysgrifennydd Cartref) yn gofyn am gyngor neu gymorth, gall y Comisiynydd godi tâl arnyn nhw am roi’r cyngor neu gymorth hwnnw. Bydd hyn yn golygu na fydd y Comisiynydd yn cael ei gyfyngu gan y nifer o staff sydd ganddo o ran y cyngor y gall ef ei roi i sefydliadau sy’n ei geisio. Bydd hefyd yn galluogi swyddfa’r Comisiynydd i ehangu er mwyn ateb unrhyw alw ychwanegol heb gyfaddawdu ar ei rôl genedlaethol.

5.13 Ni fydd y Comisiynydd yn gallu codi mwy na’r gost a gafwyd yn unol â’r rheolau a osodir o fewn Rheoli Arian Cyhoeddus ynglŷn â chodi ar gyrff cyhoeddus.

5.14 Yn unol â’r hyn a osodir yn adran 12 o’r Ddeddf, rhaid i’r Comisiynydd sefydlu Bwrdd Ymgynghorol er mwyn ei gynghori ynglŷn ag arfer ei swyddogaethau.

5.15 Rhaid bod gan y Bwrdd ddim llai na chwe aelod a dim mwy na deg, a gaiff eu penodi gan y Comisiynydd. Pennir isafswm y gofynion ar gyfer y Bwrdd Ymgynghorol yn adran 12(4) o’r Ddeddf. Dylid cael aelodau o’r gwasanaethau, sefydliadau, sectorau a disgyblaethau a restrir yn yr isadran honno.

5.16 Bydd y Comisiynydd yn gyfrifol am benodi pob aelod o’r Bwrdd Ymgynghorol. Rhaid i unrhyw dâl neu lwfansau a roddir i aelodau’r Bwrdd Ymgynghorol fod yn unol â gweithdrefnau ariannol y Swyddfa Gartref. Bydd y Comisiynydd yn hysbysu’r Swyddfa Gartref cyn penodi unrhyw aelod o’r Bwrdd Ymgynghorol ond does dim gofyn iddo ymgynghori a’r Swyddfa Gartref na chael cytundeb y Swyddfa Gartref ar gyfer penodiad unrhyw Aelod o’r Bwrdd Ymgynghorol.

5.17 Mae Telerau Penodiad y Comisiynydd yn gofyn iddo sefydlu Grŵp Dioddefwyr a Goroeswyr ar wahân. Y Comisiynydd fydd yn penderfynu ar ac yn penodi aelodau’r grŵp, ac mewn ymgynghoriad â’r grŵp, yn penderfynu ar ei swyddogaeth. Rhaid i unrhyw lwfansau a roddir i aelodau’r Grŵp Dioddefwyr a Goroeswyr fod yn unol â gweithdrefnau ariannol y Swyddfa Gartref.

5.18 O dan adran 13 o’r Ddeddf, rhaid i’r Comisiynydd, cyn gynted â’i fod yn ymarferol i wneud hynny yn dilyn ei benodiad, baratoi a chyhoeddi cynllun strategol, fydd yn amlinellu sut mae’r Comisiynydd yn cynnig i arfer ei swyddogaethau am y cyfnod mae’r cynllun yn perthyn iddo (sydd yn gorfod bod yn ddim llai na blwyddyn a dim mwy na thair blynedd).

5.19 Wrth baratoi neu ddiwygio cynllun strategol, rhaid i’r Comisiynydd ymgynghori â’r Ysgrifennydd Cartref, y Bwrdd Ymgynghorol (a sefydlir o dan adran 12 o’r Ddeddf), ac unrhyw bersonau eraill eu bod yn ystyried yn briodol. Er nad yw wedi’i bennu gan y Ddeddf, bydd y Swyddfa Gartef yn rhoi ymateb i ymgynghoriad y Comisiynydd ar y cynllun strategol o fewn 28 diwrnod calendr o’i dderbyn.

5.20 Yn dilyn ymgynghoriad, rhaid i’r Comisiynydd gyhoeddi’r cynllun strategol ac unrhyw ddiwygiad iddo a threfnu i hwnnw ynghyd ac unrhyw ddiwygiad, gael ei osod o flaen Senedd y DU.

5.21 O dan adran 14 o’r Ddeddf, rhaid i’r Comisiynydd gyflwyno copi o’i adroddiad blynyddol i’r Ysgrifennydd Cartref cyn i’r Comisiynydd drefnu i gopi gael ei osod o flaen Senedd y DU.

5.22 Rhaid i’r Comisiynydd roi gwybodaeth ddigonol i’r Swyddfa Gartref er mwyn rhoi golwg o allu’r Comisiynydd i gyflawni ei swyddogaethau’n effeithiol a rheoli arian cyhoeddus yn briodol. Lle bo angen, dylai’r Comisiynydd integreiddio hwn i systemau perfformiad corfforaethol y Swyddfa Gartref, er mwyn galluogi adrodd effeithlon ac effeithiol.

5.23 Bydd y comisiynydd yn sicrhau bod peryglon a risg yn cael eu trin mewn dull addas. Bydd y Comisiynydd yn rhybuddio’r Swyddfa Gartref ynglŷn â pheryglon ar y cyfle cynharaf ac yn codi lefel y risg i’r Adran fel bo angen.Gall fod yna risg neu faterion wedi eu rhannu, a adnabyddir gan naill ai’r Swyddfa Gartref neu’r Comisiynydd, lle bydd angen ymgysylltu â phob parti er mwyn cefnogi lliniaru risg.

5.24 Gall y Comisiynydd geisio cyrchu data gan y Swyddfa Gartef er mwyn helpu diweddaru ei waith; bydd data o’r fath yn destun protocol rhannu gwybodaeth rhwng y Swyddfa Gartref /Comisiynydd ar wahân. Does dim gofynion yn y Ddeddf ar y Comisiynydd i rannu data neu wybodaeth gyda’r Swyddfa Gartref, ond mae adran 18(1) o’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i’r Comisiynydd ddatgelu gwybodaeth i unrhyw berson mewn cyswllt â’i swyddogaethau cyhyd â bod y datgeliad yn wedi’i wneud at ddiben sy’n gysylltiedig â’i swyddogaethau ac yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth a osodir yn adran 18(4) a (5).

5.25 Dylai’r Comisiynydd a’i staff drin unrhyw ddata a gafwyd gan y Swyddfa Gartref gyda’r sensitifrwydd a amodir gan y Swyddfa Gartref. e.e. p’un a yw’r wybodaeth yn wybodaeth gyhoeddus neu beidio, ac yn unol â’r gofynion cyfreithiol cymwys (gan gynnwys adran 18 o’r Ddeddf a deddfwriaeth data yn unol â’r diffiniad a geir yn adran 18(6) o’r Ddeddf).

6. Proses ar gyfer diwygio’r Ddogfen Fframwaith

6.1 Caiff y Ddogfen Fframwaith a’i weithrediad ei adolygu gan y Swyddfa Gartref mewn ymgynghoriad gyda a drwy gytundeb â’r Comisiynydd ar ysbeidiau o ddim mwy na tair blynedd (er nad yw’r cyfnod wedi ei bennu gan y Ddeddf). Gall yr Ysgrifennydd Cartref ddyrannu Dogfen Fframwaith ddiwygiedig ar ôl adolygiadau o’r fath (yn dilyn ymgynghoriad gyda’r Comisiynydd a dim ond os byddan nhw’n cytuno i unrhyw ddiwygiadau). Bydd yr Ysgrifennydd Cartref hefyd yn ymgynghori â Gweinidogion Cymreig cyn dyrannu unrhyw Ddogfen Fframwaith mae’r Ysgrifennydd Cartref yn ystyried i fod yn sylweddol wahanol o’r ddogfen Fframwaith mae’n ei ddisodli. Caiff y Ddogfen Fframwaith ei adolygu yn dilyn penodiad Comisiynydd newydd.

6.2 Gall y Comisiynydd gynnig diwygiadau i’r Ddogfen Fframwaith hon ar unrhyw adeg.Bydd unrhyw newidiadau yn ddarostyngedig i gytundeb rhwng y Comisiynydd a’r Ysgrifennydd Cartref.

Llofnodwyd gan:

Nicole Jacobs
Comisiynydd Cam-Drin Domestig

Rachel Maclean
Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol (Swyddfa Gartref), Gweinidog dros Ddiogelu, ar ran yr Ysgrifennydd Cartref

  1. Wrth ystyried cais a ddaw ger bron y Comisiynydd i adolygu’r penderfyniad, bydd y Cyfarwyddwr yn parhau i lynu at God y Gwasanaeth Sifil a’i werthoedd craidd o onestrwydd, unplygrwydd, gwrthrychedd ac amhleidioldeb.