Strategic plan: September 2022 to September 2025 (Welsh, accessible)
Published 28 March 2023
Y Comisiynydd Cam-drin Domestig
Cynllun Strategol: Medi 2022 – Medi 2025
Mawrth 2023
Cyflwynwyd i Senedd y DU yn unol ag Adran 13 (7) o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021
Mawrth 2023
© Hawlfraint y Goron 2023
Trwyddedir y cyhoeddiad hwn o dan delerau Trwydded Llywodraeth Agored f3.0 oni nodir fel arall. I weld y drwydded hon, ewch i nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3.
Lle rydym wedi nodi unrhyw wybodaeth am hawlfraint trydydd parti, bydd angen i chi gael caniatâd deiliaid yr hawlfraint dan sylw.
Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn www.gov.uk/official-documents. Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn atom yn Commissioner@domesticabusecommissioner.independent.gov.uk
ISBN 978-1-5286-3967-5 E02878658 03/23
Argraffwyd ar bapur sy’n cynnwys 40% o ddeunydd ffeibr wedi’i ailgylchu
Argraffwyd yn y DU gan HH Associates Ltd. ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Fawrhydi
Cynllun Strategol y Comisiynydd Cam-drin Domestig
Rhagair
Mae’n fraint cael fy ailbenodi’n Gomisiynydd Cam-drin Domestig am y tair blynedd nesaf. Ers i mi gael fy mhenodi yn ddarpar Gomisiynydd ar ddiwedd 2019, credaf fy mod wedi cymryd camau breision drwy fapio gwasanaethau cam-drin domestig, canolbwyntio ar y llysoedd teulu a cheisio gwella’r cymorth a ddarperir i rai o’r goroeswyr sydd fwyaf agored i niwed yn y DU ymhlith llawer o bethau eraill.
Bob dydd, clywaf gan ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig am y rhwystrau a’r heriau y maent yn eu hwynebu wrth geisio cael cymorth i’w helpu nhw a’u plant i ffoi rhag camdriniwr, ailadeiladu eu bywydau neu ddelio â’r system gyfiawnder. Rwy’n cael gohebiaeth gan oroeswyr; rwy’n cyfarfod â goroeswyr ac rydym yn cynnal fforymau er mwyn clywed yn uniongyrchol am brofiadau pobl. Y llynedd, gwnaethom arolygu miloedd o oroeswyr fel rhan o’n gwaith i fapio gwasanaethau ledled Cymru a Lloegr.
Fel y Comisiynydd Cam-drin Domestig, mae’r sgyrsiau hyn wedi fy helpu i a gweddill staff fy swyddfa i lywio’r gwaith a wnawn a’r gwaith y byddwn yn ei wneud dros y tair blynedd nesaf.
Mae’r cynllun strategol tair blynedd hwn yn seiliedig ar yr hyn y mae goroeswyr wedi’i ddweud wrthym ac yn canolbwyntio ar y meysydd hynny lle rwy’n credu y gall fy sefyllfa annibynnol unigryw a’m pwerau statudol sicrhau’r newidiadau mwyaf.
Dros y tair blynedd nesaf fy mlaenoriaethau strategol fydd sefyll gyda goroeswyr; gwella’r cymorth a ddarperir i oroeswyr mwyaf ymylol cam-drin domestig; gwella cysondeb o ran gwasanaethau statudol a’r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, mynd i’r afael â’r ‘clytwaith o ddarpariaeth’ ledled Cymru a Lloegr a dod â phartneriaid lleol ac Adrannau’r Llywodraeth ynghyd er mwyn darparu ymateb cyfannol i gam-drin domestig.
Credaf yn gryf, os byddwn i gyd yn cydweithio, y byddwn yn llawer mwy llwyddiannus wrth fynd i’r afael â cham-drin domestig ac edrychaf ymlaen at weithio’n agos gyda dioddefwyr a goroeswyr, asiantaethau statudol a’r Llywodraeth, yn ogystal â sefydliadau o bob rhan o’r sector.
Ein cenhadaeth: Ni waeth pwy ydych na ble rydych yn byw, dylai fod ymateb cryf a chynhwysfawr i gam-drin domestig
1. Ein gweledigaeth yw byd lle mae:
-
Dioddefwyr a goroeswyr, gan gynnwys plant, yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, pan fo ei angen arnynt, ni waith pwy ydynt na ble maent yn byw;
-
Pob rhan o gymdeithas – o asiantaethau statudol, i gyflogwyr, i ddiwydiant preifat ac aelodau o’r cyhoedd – yn cydnabod ac yn deall cam-drin domestig ac yn chwarae rôl wrth geisio mynd i’r afael ag ef;
-
Camau yn cael eu cymryd i atal cam-drin domestig, drwy ymyrryd yn gynnar, cefnogi plant a phobl ifanc a gweithio gyda chyflawnwyr er mwyn tarfu ar eu hymddygiad a’i newid.
2. Ein dull gweithredu
2.1. Ein nod yw
-
Deall – drwy wneud gwaith ymchwil ac ymgysylltu â dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig, byddwn yn creu’r sail dystiolaeth, gan gynnwys pa ymyriadau sy’n mynd i’r afael ag achosion cam- drin domestig a’i atal, ac yn helpu dioddefwyr a goroeswyr i ymdopi ac adfer. Mae hyn yn cynnwys mabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar ryw, deall bod cam-drin domestig yn fath o Drais yn Erbyn Menywod a Merched a chydnabod effaith rhyw ar bob dioddefwr a goroeswr.
-
Dylanwadu – fel arweinydd agweddau, ein nod yw dylanwadu ar bolisi ac arferion a’u llywio yn lleol ac yn genedlaethol, gan godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig ac ystyried bod arfer gorau yn arfer cyffredin;
-
Herio – fel corff statudol annibynnol, rydym yn defnyddio tystiolaeth i ddadlau dros newid a dwyn llywodraeth leol a chenedlaethol i gyfrif fel cyfaill beirniadol a ffynhonnell arbenigedd a berchir.
-
Ymgysylltu – fel sefydliad cydweithredol a phragmatig, rydym yn gweithio’n agos ac yn adeiladol gyda’r sector cam-drin domestig arbenigol, gyda rhanddeiliaid mewn llywodraeth leol a chenedlaethol, gyda seneddwyr a chyda dioddefwyr a goroeswyr eu hunain er mwyn sicrhau newid.
3. Ein tîm
3.1. Sefydlwyd y Comisiynydd Cam-drin Domestig fel deiliad swydd statudol drwy Ddeddf Cam-drin Domestig 2021. Mae’n cael ei chefnogi gan dîm o weision sifil, a gyflogir gan y Swyddfa Gartref ond a benodwyd gan y Comisiynydd ac sy’n gweithredu o dan ei chyfarwyddyd annibynnol; ond sy’n rhwym wrth god y gwasanaeth sifil a thelerau ac amodau’r gwasanaeth sifil.
3.2. O fis Mawrth 2023, mae gan y Swyddfa dîm yn cynnwys cyfanswm o 21.2 o aelodau o staff cyfwerth ag amser llawn, wedi’u rhannu’n bedwar tîm fel a ganlyn:
-
Polisi – 5.5 aelod o staff cyfwerth ag amser llawn
- Mae’r tîm polisi yn gweithio’n agos gyda llunwyr polisi ym mhob rhan o’r Llywodraeth ac yn y Senedd i ddatblygu polisi a dylanwadu ar brosesau llunio polisi yn genedlaethol. Gan geisio cyngor arbenigol a thystiolaeth o arferion lleol a gwaith ymchwil a gan ddioddefwyr a goroeswyr, mae’r tîm yn gweithio i ddylanwadu ar newid mewn polisi, a hynny drwy ddeddfwriaeth, canllawiau a chyllid, ymhlith pethau eraill.
-
Ymarfer a Phartneriaethau – 4.2 aelod o staff cyfwerth ag amser llawn
- Mae’r tîm ymarfer a phartneriaethau yn sicrhau bod gwaith y Comisiynydd Cam-drin Domestig yn seiliedig ar realiti’r ymateb i gam-drin domestig yn lleol, ar draws partneriaid statudol a phartneriaid yn y sector cam-drin domestig. Mae’r tîm yn gweithredu fel ‘llygaid a chlustiau’r’ Comisiynydd yn lleol; gan weithredu fel dolen adborth rhwng arferion lleol a pholisi cenedlaethol a chyflawni gofyniad statudol y Comisiynydd i rannu arferion gorau.
-
Mecanwaith Goruchwylio Lladdiadau a Hunanladdiadau Domestig – 2 aelod o staff cyfwerth ag amser llawn
- Yn y tîm ymarfer a phartneriaethau, rydym wedi sefydlu Mecanwaith Goruchwylio Lladdiadau a Hunanladdiadau Domestig, sy’n ymrwymiad allweddol yn y Cynllun Cam-drin Domestig. Mae’r tîm bach hwn yn cefnogi’r gwaith o gyflawni argymhellion Adolygiadau o Laddiadau Domestig a chynlluniau gweithredu, yn lleol ac yn genedlaethol, drwy fonitro’r ffordd y cânt eu rhoi ar waith a dwyn themâu allweddol ynghyd er mwn dysgu gwersi ac atal marwolaethau yn y dyfodol.
-
Ymchwil – 2.5 aelod o staff cyfwerth ag amser llawn
- Mae’r tîm ymchwil yn sicrhau bod gwaith y Comisiynydd Cam-drin Domestig yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn, gan weithio’n agos gydag ymchwilwyr o bob rhan o’r byd academaidd, arolygiaethau a’r sector cam-drin domestig arbenigol. Maent yn gwneud ymchwil sylfaenol, yn ogystal â gwneud y defnydd gorau o ddata a thystiolaeth bresennol er mwyn meithrin ein dealltwriaeth o gam- drin domestig a’r ymateb statudol, gan gefnogi rôl y Comisiynydd i ddwyn Llywodraeth leol a chenedlaethol i gyfrif.
-
Mecanwaith Monitro Llysoedd Teulu – 2 aelod o staff cyfwerth ag amser llawn
- Yn y tîm ymchwil, mae gennym dîm bach a arweinir gan Ymchwilydd Arweiniol allanol er mwyn treialu Mecanwaith Monitro Llysoedd Teulu, sef un o ymrwymiadau allweddol adroddiad Panel Niwed Llysoedd Teulu y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2020. Mae’r tîm yn treialu’r cynllun mewn 3 ardal llysoedd i fonitro canlyniadau allweddol ar gyfer achosion o gam-drin domestig yn y llys teulu er mwyn nodi problemau a gwella ymatebion i gam-drin domestig.
-
Cyfathrebu ac Ymgysylltu – 3 aelod o staff cyfwerth ag amser llawn
- Mae’r tîm cyfathrebu ac ymgysylltu yn cefnogi’r Comisiynydd yn ei holl waith ymgysylltu â’r cyhoedd, gan gynnwys drwy weithio gyda’r cyfryngau cenedlaethol a lleol, cysylltiadau strategol a chodi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig. Mae’r tîm hefyd yn cynnwys Arweinydd Ymgysylltu â Phrofiadau Bywyd amser llawn, er mwyn sicrhau bod gwaith y Comisiynydd yn seiliedig ar leisiau dioddefwyr a goroeswyr a helpu i ddwyn Llywodraeth leol a chenedlaethol ac asiantaethau i gyfrif.
-
Cymorth rheoli a swyddfa: Mae gan y Comisiynydd 1 Pennaeth Staff amser llawn i oruchwylio tîm y staff ac 1 Cynorthwyydd Personol a Rheolwr Swyddfa amser llawn.
4. Bwrdd Cynghori
4.1. Mae Deddf Cam-drin Domestig 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiynydd sefydlu Bwrdd Cynghori yn cynnwys hyd at 10 aelod sy’n cynrychioli amrywiaeth o ddiddordebau a meysydd arbenigedd. Mae’r Comisiynydd wedi penodi’r unigolion canlynol i fod yn
Aelodau
aelodau o’i Bwrdd Cynghori er mwyn iddynt roi cyngor i’r Comisiynydd ar ei chyfeiriad strategol a’r ffordd orau o gyflawni ei rôl fel y’i nodir mewn deddfwriaeth. Mae’r sefydliadau aelodaeth (Imkaan, Ffederasiwn Cymorth i Ferched Lloegr a Cymorth i Ferched Cymru) hefyd wedi cael gwahoddiad i ddod â sefydliad aelodaeth gyda nhw i bob cyfarfod o’r Bwrdd Cynghori er mwyn cyflwyno persbectif rheng flaen i’r Bwrdd.
-
Dirprwy Brif Gwnstabl Maggie Blyth, Arweinydd Cyngor Prif Swyddogion yr Heddlu ar Drais yn Erbyn Menywod a Merched
-
Mrs Ustus Knowles, Barnwr Llys Teulu Arweiniol ar gyfer Cam-drin Domestig
-
Louise Gittins, Cadeirydd Bwrdd Plant a Phobl Ifanc y Gymdeithas Llywodraeth Leol
-
Catherine Hinwood, Dirprwy Gyfarwyddwr, Tîm Iechyd a Chyfiawnder GIG Lloegr
-
Baljit Banga, Cyfarwyddwr Gweithredol IMKAAN
-
Farah Nazeer, Prif Swyddog Gweithredol Ffederasiwn Cymorth i Ferched Lloegr
-
Sara Kirkpatrick, Prif Swyddog Gweithredol Cymorth i Ferched Cymru
-
Ippo Panteloudakis, Pennaeth Gwasanaethau, Respect
-
David Challen, Ymgyrchydd ym maes Cam-drin Domestig
-
Yr Athro Liz Kelly, Uned Astudiaethau Cam-drin Plant a Menywod, Prifysgol Fetropolitan Llundain
5. Ein pwerau a’n cylch gwaith
5.1. Mae Deddf Cam-drin Domestig 2021 yn sefydlu mewn deddfwriaeth swydd y Comisiynydd Cam-drin Domestig, er mwyn rhoi arweinyddiaeth gyhoeddus ar faterion sy’n ymwneud â cham-drin domestig a chwarae rôl allweddol wrth geisio goruchwylio a monitro’r ffordd y caiff gwasanaethau cam-drin domestig eu darparu yng Nghymru a Lloegr.
5.2. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiynydd hyrwyddo arferion da o ran y canlynol:
-
atal cam-drin domestig;
-
adnabod dioddefwyr a goroeswyr, a chyflawnwyr cam-drin domestig, yn ogystal â phlant y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt;
-
gwella’r diogelwch a’r cymorth a roddir i bobl y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt.
5.3. Er mwyn gwneud hyn, bydd y Comisiynydd yn parhau i fapio gwasanaethau a monitro’r ffordd y cânt eu darparu, gwneud argymhellion i gyrff cyhoeddus ynghylch eu hymateb, gwneud gwaith ymchwil, cydweithio ag awdurdodau lleol a sefydliadau gwirfoddol a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd o gam-drin domestig. Bydd y Comisiynydd yn ystyried gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol megis llochesi neu wasanaethau arbenigol i ddioddefwyr, yn ogystal â’r ffordd y mae gwasanaethau prif ffrwd – gan gynnwys gwasanaethau statudol – yn nodi achosion o gam-drin domestig, yn ymateb iddynt ac, yn y pen draw, yn eu hatal. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwasanaethau sy’n gweithio gyda chyflawnwyr cam-drin domestig er mwyn tarfu ar eu hymddygiad neu ei newid.
5.4. Bydd gan y Comisiynydd y pŵer i gyhoeddi adroddiadau a’u gosod gerbron y Senedd. Bydd yr adroddiadau hyn yn dwyn comisiynwyr lleol, asiantaethau statudol a Llywodraeth genedlaethol i gyfrif ac yn gwneud argymhellion ynglŷn â sut y gallant wella eu hymateb.
5.5. Bydd dyletswydd ar gyrff cyhoeddus penodedig i gydweithio â’r Comisiynydd a bydd yn ofynnol iddynt hwy a Gweinidogion y Llywodraeth ymateb i bob argymhelliad a wneir iddynt o fewn 56 diwrnod.
6. Annibyniaeth y Comisiynydd
6.1. Penodir y Comisiynydd gan yr Ysgrifennydd Cartref ond mae’n annibynnol ar y Llywodraeth, asiantaethau statudol a’r sector cam- drin domestig. Mae’n atebol i’r Swyddfa Gartref am gyflawni ei swyddogaeth fel y’i nodir yn y Ddeddf Cam-drin Domestig ond mae’n pennu ei meysydd â blaenoriaeth ei hun i ganolbwyntio arnynt.
6.2. Er mwyn diogelu a sicrhau annibyniaeth y Comisiynydd, mae dogfen fframwaith statudol wedi’i datblygu, y mae’r Comisiynydd a’r Swyddfa Gartref fel yr Adran noddi wedi cytuno arni a’i llofnodi. Cyhoeddir y ddogfen fframwaith hon ar gov.uk yn ogystal â gwefan y Comisiynydd ac mae’n nodi’n fanylach faterion sy’n ymwneud â llywodraethu, cyllid a staffio.
7. Sut mae’r Comisiynydd Cam-drin Domestig yn gweithio yng Nghymru?
7.1. Mae rôl y Comisiynydd wedi’i sefydlu drwy ddeddfwriaeth y DU ac fe’i hariennir drwy Lywodraeth y DU ac, felly, mae ei chylch gwaith ond yn cwmpasu materion a gedwir yn ôl yng Nghymru. Mae’r Ddeddf Cam-drin Domestig yn nodi mai dim ond gwaith sy’n ymwneud â materion a gedwir yn ôl yng Nghymru y gall y Comisiynydd ei wneud ond gall gydweithio â phartneriaid yng Nghymru ac mae’n gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol yng Nghymru, byrddau iechyd a Chynghorwyr Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, a sefydliadau yn y sector cam-drin domestig arbenigol yng Nghymru.
8. Ein gwaith hyd yma
8.1. Penodwyd Nicole Jacobs yn Ddarpar Gomisiynydd Cam-drin Domestig ym mis Medi 2019 a chafodd ei phwerau statudol ym mis Tachwedd 2021 ar ôl i’r Ddeddf Cam-drin Domestig fynd drwy’r Senedd. Yn ystod y cyfnod hwn, mae wedi bod yn adeiladu ei thîm ac yn datblygu ei blaenoriaethau, gan ymgynghori’n agos â phartneriaid yn y sector arbenigol, asiantaethau statudol a phartneriaid eraill. Mae wedi comisiynu ymchwil a gwaith mapio er mwyn creu’r sail dystiolaeth a llywio ei blaenoriaethau strategol, gan ddefnyddio arbenigedd allanol ac ymgysylltu â dioddefwyr a goroeswyr er mwyn llywio ei gwaith.
8.2. Ymhlith yr adroddiadau a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd hyd yma mae:
-
Safety Before Status: Improving pathways to support for migrant victims of domestic abuse[footnote 1]
-
Clytwaith o Ddarpariaeth: sut i ddiwallu anghenion dioddefwyr a goroeswyr ledled Cymru a Lloegr[footnote 3]
-
Improving the Family Court’s Response to Domestic Abuse: proposals for an oversight mechanism for the family court[footnote 4]
8.3. Ymhlith yr adroddiadau a gomisiynwyd gan y Comisiynydd ac a luniwyd gan sefydliadau arbenigol mae:
-
Analysis of DHR recommendations by statutory agency, a luniwyd gan HALT research drwy Brifysgol Manceinion. Bydd y gyfres hon o adroddiadau yn dwyn ynghyd themâu allweddol o Adolygiadau o Laddiadau Domestig ar gyfer asiantaethau statudol penodol a bydd pedwar adroddiad yn ymdrin ag argymhellion ar gyfer Gofal Cymdeithasol Oedolion, Gofal Cymdeithasol Plant, gwasanaethau iechyd a’r heddlu.
-
LGBT+ Domestic Abuse Service Provision Mapping Study, a luniwyd gan Galop. Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r angen am gymorth mwy arbenigol i ddioddefwyr cam-drin domestig LHDT+ ac yn mapio darpariaeth ac argaeledd cymorth arbenigol ‘gan a thros’ bobl LHDT+, yn ogystal â cymorth arbenigol sy’n rhan o wasanaethau eraill.
-
CAPVA Rapid Literature Review, a luniwyd gan Respect - i ddwyn ynghyd dystiolaeth ac arferion sy’n dod i’r amlwg er mwyn deall Trais gan Blant a’r Glasoed tuag at Rieni ac ymateb iddo yn well.
-
Support through Court, a luniwyd gan SafeLives – er mwyn deall cymorth IDVA neu ISVA a ddarperir drwy lysoedd troseddol a llysoedd teulu.
-
A Hinterland of Marginality[footnote 5], a luniwyd gan The Angelou Centre – er mwyn deall profiad dioddefwyr a goroeswyr â statws mewnfudo ansicr yn well a llunio argymhellion i wella diogelwch a mynediad at wasanaethau.
-
Adolygiad o Adolygiad y Swyddfa Gartref o Ddioddefwyr Mudol, a luniwyd gan Brifysgol Suffolk – er mwyn adolygu a deall y dystiolaeth a’r fethodoleg a ddefnyddiwyd gan y Swyddfa Gartref yn ei Hadolygiad o Ddioddefwyr Mudol.
-
Mapping of strategic leads across England & Wales, a luniwyd gan Standing Together Against Domestic Abuse – er mwyn meithrin dealltwriaeth o ble roedd arweinwyr strategol lleol wedi’u lleoli mewn Awdurdodau Lleol, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a chomisiynwyr iechyd, a datblygu cronfa ddata o arweinwyr lleol ar gyfer gwaith ymgysylltu yn y dyfodol.
9. Beth sydd wedi llywio ein Blaenoriaethau Strategol?
9.1. Mae ein blaenoriaethau strategol wedi’u datblygu dros dymor cyntaf y Comisiynydd fel Comisiynydd, yn seiliedig ar y profiad y mae wedi’i fagu dros 25 mlynedd yn gweithio yn y sector cam-drin domestig arbenigol a thrwy ymgysylltu â phartneriaid, asiantaethau statudol, Adrannau’r Llywodraeth a dioddefwyr a goroeswyr. Mae ein harolwg cyhoeddus, yr ymatebodd mwy na 4,000 o ddioddefwyr a goroeswyr iddo, yn sail gadarn ar gyfer datblygu’r blaenoriaethau hyn dros y tair blynedd nesaf.
9.2. Caiff ein blaenoriaethau eu llywio gan nifer bach o elfennau allweddol, sef:
-
pa faterion sydd bwysicaf i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig;
-
gwaith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd ym mhob rhan o’r sector a’r Llywodraeth ac mewn asiantaethau statudol;
-
ble y gall y Comisiynydd, gyda’i sefyllfa a’i phwerau unigryw, ychwanegu’r gwerth mwyaf a sicrhau’r newid mwyaf.
9.3. O ganlyniad, mae’r Comisiynydd wedi nodi’r blaenoriaethau strategol canlynol ar gyfer y tair blynedd nesaf. Mae’r cynllun strategol hwn yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Medi 2022 a mis Medi 2025.
10. Ein Blaenoriaethau Strategol
Sefyll gyda Dioddefwyr a Goroeswyr
10.1. Mae’r Comisiynydd yn chwarae rôl allweddol wrth godi lleisiau dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a gweithio gyda nhw i gyflwyno’r achos dros newid i lywodraeth leol a chenedlaethol.
10.2. Drwy ymgysylltu â dioddefwyr a goroeswyr, a’r gwasanaethau arbenigol sy’n eu cefnogi, mae’r Comisiynydd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig, sicrhau y rhoddir mwy o flaenoriaeth i gam-drin domestig mewn polisïau ac arferion cenedlaethol a lleol a rhoi mwy o lais iddynt ar y llwyfan cenedlaethol.
10.3. Mae gwybodaeth helaeth am brofiadau dioddefwyr a goroeswyr yn diogelu annibyniaeth y Comisiynydd ac yn sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar y blaenoriaethau cywir. Mae hefyd yn golygu mabwysiadu dull seiliedig ar ryw o ymdrin â cham-drin domestig, gan gydnabod ei fod yn drosedd sy’n cael effaith anghymesur ar fenywod a merched a’i fod yn fath o Drais yn Erbyn Menywod a Merched. Rydym hefyd yn deall bod angen mabwysiadu dull gweithredu seiliedig ar ryw ar gyfer pob dioddefwr a goroeswr gan y bydd rhyw yn effeithio ar brofiad pob unigolyn o gamdriniaeth a’i ymdrechion i geisio cymorth.
10.4. Mae dwyn cyflawnwyr i gyfrif hefyd yn elfen bwysig o hyn; a sicrhau y deuir â’r cyflawnwyr o flaen eu gwell a’u bod hefyd yn cael cymorth i newid eu hymddygiad, gan atal achosion o gam-drin yn y dyfodol.
Gwella’r cymorth a ddarperir i’r dioddefwyr a’r goroeswyr mwyaf ymylol sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf
10.5. Mae’r dystiolaeth yn glir bod dioddefwyr a goroeswyr o gymunedau wedi’u hymyleiddio ac wedi’u lleiafrifoli yn wynebu rhwystrau ychwanegol sylweddol i gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae hyn yn cynnwys dioddefwyr a goroeswyr Du ac wedi’u lleiafrifoli, LHDT+, Byddar ac anabl.
10.6. Mae dioddefwyr a goroeswyr yn wynebu dau fath o ymyleiddio. Mae anghydraddoldebau ac ymyleiddio strwythurol yn creu rhwystrau ychwanegol i gael y cymorth sydd ei angen arnynt ac yn aml ni all cymorth llai arbenigol ddiwallu eu hanghenion yn ddigonol. Mae hyn yn cael ei waethygu gan y ffaith nad yw sefydliadau ‘gan a thros’ arbenigol, a all ddiwallu eu hanghenion, yn cael eu hariannu gan gyllidwyr statudol yn gymesur â sefydliadau eraill a’u bod yn wynebu mwy o ansicrwydd o ran cyllido na sefydliadau nad ydynt yn rhai ‘gan a thros’. Ni all sefydliadau ‘gan a thros’ ateb y galw am eu gwasanaethau a cheir rhannau helaeth o Gymru a Lloegr nad ydynt yn cael eu gwasanaethu o gwbl gan sefydliadau a arweinir gan a thros gymunedau wedi’u lleiafrifoli.
10.7. Mae’r sefyllfa yn waeth fyth yn achos dioddefwyr a goroeswyr â statws mewnfudo ansicr. Yn aml, ni all dioddefwyr mudol ‘Heb Hawl i Gael Arian Cyhoeddus’ gael cymorth hanfodol sy’n achub bywydau drwy wasanaethau llety ac weithiau gwrthodir rhoi cymorth cymunedol iddynt hyd yn oed. Hefyd, ni all dioddefwyr mudol roi gwybod i’r heddlu am y sawl sydd wedi bod yn eu cam-drin yn ddiogel, am fod gwybodaeth yn cael ei rhannu rhwng yr heddlu a’r asiantaeth gorfodi mewnfudo.
10.8. Felly, mae mynd i’r afael â’r anghyfiawnderau hyn a chanolbwyntio ar ddarparu cymorth i’r dioddefwyr a’r goroeswyr mwyaf ymylol â nodweddion gwarchodedig yn un o brif flaenoriaethau’r Comisiynydd.
Gwella cysondeb o ran gwasanaethau statudol a’r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, er mwyn mynd i’r afael â’r ‘clytwaith o ddarpariaeth’ ledled Cymru a Lloegr.
10.9. Yn rhy aml o lawer, mae’r gallu i gael y cymorth cywir ar yr adeg gywir yn dibynnu ar bwy ydych a ble rydych yn byw. Mae gwaith mapio cenedlaethol y Comisiynydd, sef ‘Clytwaith o Ddarpariaeth’, yn dangos hyn yn glir ac yn tynnu sylw at y bylchau sylweddol yn y cymorth a ddarperir ledled Cymru a Lloger. Mae hyn yn arbennig o wir am gymorth mwy arbenigol a ddarperir drwy sefydliadau ‘gan a thros’.
10.10. Yn yr un modd, mae dioddefwyr a goroeswyr yn nodi’r ymatebion gwahanol iawn y maent yn eu cael gan asiantaethau statudol yn dibynnu ar ble maent yn byw ac â pha unigolion y maent yn rhyngweithio, p’un a ydynt yn yr heddlu, mewn gwasanaethau gofal iechyd, gwasanaethau tai neu lawer mwy.
10.11. Felly, mae’n rhaid i’r Comisiynydd roi blaenoriaeth i fynd i’r afael â’r ‘loteri cod post’ hwn o ran yr ymateb i gam-drin domestig, rhannu arferion gorau a thynnu sylw at arferion gwael.
10.12. Bydd y Comisiynydd yn defnyddio ei swydd i bwyso ar lywodraeth genedlaethol a lleol er mwyn sicrhau bod digon o gyllid ar gael i ddarparu gwasanaethau cymorth effeithiol o ansawdd uchel i ddiwallu anghenion dioddefwyr a goroeswyr. Rhaid i hyn hefyd gynnwys cyllid ar gyfer rhaglenni newid ymddygiad cyflawnwyr, er mwyn lleihau nifer yr achosion o gam-drin domestig a’u hatal yn y dyfodol.
10.13. Bydd y Comisiynydd hefyd yn gweithio gydag asiantaethau statudol i nodi anghysondebau a gwella eu hymateb i gam-drin domestig, er mwyn sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr yn cael ymateb rhagorol a chefnogol bob amser gan asiantaethau cyhoeddus.
Dod â phartneriaid lleol ac Adrannau’r Llywodraeth at ei gilydd er mwyn darparu ymateb cyfannol i gam-drin domestig
10.14. Mae’r Comisiynydd yn gefnogwr brwd i’r Ymateb Cymunedol Cydgysylltiedig. Hynny yw bod gan bob rhan o’r gymuned ehangach ac asiantaethau statudol rôl i’w chwarae wrth geisio ymateb i gam- drin domestig, mewn partneriaeth â gwasanaethau arbenigol.
10.15. Mae sefyllfa unigryw’r Comisiynydd yn ei galluogi i gydweithio â phob rhan o’r Llywodraeth ac asiantaethau statudol i wella eu hymateb i ddioddefwyr a goroeswyr. Mae dioddefwyr a goroeswyr yn aml yn nodi bod gwasanaethau cymorth yn dameidiog, gydag asiantaethau yn methu â chydweithio’n effeithiol i’w cefnogi.
10.16. Yn rhy aml o lawer, rydym yn gweld yr effaith pan na fydd hyn yn digwydd; asiantaethau yn methu â chydweithio’n effeithiol i nodi achosion o gam-drin domestig ac ymyrryd yn gynnar ac yn colli cyfleoedd i gefnogi dioddefwyr tan ar ôl i’r achos gael ei uwchgyfeirio neu tan ar ôl i niwed pellach gael ei achosi. Rydym yn deall bod gan bob rhan o’r sector cyhoeddus a’r gymuned ehangach rôl hollbwysig i’w chwarae a bod yn rhaid i bob un o’r cyrff hyn gydweithio i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr yn effeithiol, mewn ffordd gydgysylltiedig.
10.17. Rydym yn gweld hyn ar lefel genedlaethol hefyd; gyda chyllid tameidiog neu bolisïau digyswllt gan wahanol Adrannau o’r Llywodraeth yn creu rhwystrau ychwanegol i gael cymorth neu’n creu dryswch neu fiwrocratiaeth ddiangen o ran y ffordd y caiff gwasanaethau eu cyllido neu eu comisiynu.
Atebolwydd a thryloywder – defnyddio data a gwaith ymchwil i wella’r ymateb i gam-drin domestig
10.18. Fel y nodir yn Neddf Cam-drin Domestig 2021, mae’r Comisiynydd yn chwarae rôl hanfodol wrth ddwyn Llywodraeth genedlaethol a lleol i gyfrif, rhannu arferion gorau a thynnu sylw at arferion gwael ledled Cymru a Lloegr.
10.19. Mae’r Ddeddf yn rhoi set unigryw o bwerau i’r Comisiynydd a fydd yn ei galluogi i geisio gwybodaeth ac yna ddwyn asiantaethau i gyfrif am eu hymateb i gam-drin domestig. Gall ofyn am wybodaeth, yn ogystal â mynnu bod unrhyw gorff cyhoeddus yn ymateb i’w hargymhellion yn gyhoeddus o fewn 56 diwrnod.
10.20. Bydd sail dystiolaeth gadarn, gweithgarwch casglu data a gwybodaeth dryloyw yn galluogi’r Comisiynydd i wneud hyn yn effeithiol, yn ogystal â helpu dioddefwyr, goroeswyr a’r sector cam- drin domestig arbenigol i ddefnyddio data tryloyw i ddisgwyl mwy gan eu gwasanaethau cyhoeddus.
10.21. Yn benodol, bydd y Comisiynydd yn sefydlu Mecanwaith Monitro Llysoedd Teulu a Mecanwaith Goruchwylio Lladdiadau a Hunanladdiadau Domestig. Caiff y Mecanwaith Monitro Llysoedd ei dreialu mewn tair ardal llysoedd er mwyn casglu data ar y ffordd yr ymdrinnir â cham-drin domestig yn y Llys Teulu, nodi sut y caiff dioddefwyr a goroeswyr eu cefnogi a gallugoi’r Llywodraeth, asiantaethau a system y llysoedd ei hun i nodi ac amlygu problemau yn well er mwyn mynd i’r afael â nhw. Bydd y Mecanwaith Goruchwylio Lladdiadau a Hunanladdiadau Domestig yn dwyn argymhellion o Adolygiadau o Laddiadau Domestig (ar adolygiadau perthnasol eraill) ynghyd er mwyn helpu ardaloedd lleol i roi camau gweithredu ar waith ac uwchgyfeirio unrhyw broblemau mwy strwythurol sy’n gysylltiedig â gweithredu. Bydd hefyd yn nodi ac yn dadansoddi themâu allweddol er mwyn dysgu gwersi o bob rhan o Gymru a Lloegr yn well ac atal marwolaethau yn y dyfodol.
Er mwyn cyflawni blaenoriaethau strategol y Comisiynydd, ymdrinnir â’r materion penodol canlynol drwy gyhoeddi adroddiadau o dan Adran 2 o’r Ddeddf Cam-drin Domestig:
Darparu Gwasanaethau Cam-drin Domestig ledled Cymru a Lloegr – nodir hyn i ddechrau drwy ein hadroddiad, Clytwaith o Ddarpariaeth: sut i ddiwallu anghenion dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig ledled Cymru a Lloegr. Mae’r adroddiad yn dangos y ‘loteri cod post’ sy’n bodoli o ran yr ymateb i gam-drin domestig ac, yn arbennig, y rhwystrau ychwanegol y mae dioddefwyr a goroeswyr o gymunedau wedi’u lleiafrifoli yn eu hwynebu a’r diffyg cyllid anghymesur a wynebir gan wasanaethau ‘gan a thros’ arbenigol. Bydd y Comisiynydd yn parhau i ganolbwyntio ar y gwaith hwn a defnyddio’r data hyn a’r dystiolaeth hon i bwyso er mwyn i ragor o wasanaethau gael eu darparu i bob dioddefwr a goroeswr, gan gynnwys eu plant.
Cyfiawnder Teuluol – problemau gyda’r Llys Teulu yw’r mater mwyaf cyffredin y mae dioddefwyr a goroeswyr yn cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd yn ei gylch. Mae cryn dipyn o dystiolaeth am y problemau gyda’r Llys Teulu a’r ffordd y mae’n cefnogi dioddefwyr a goroeswyr ac yn diogelu plant, gan gynnwys tystiolaeth o Adroddiad Panel Niwed y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’n hadroddiad, Improving the Family Court’s response to domestic abuse. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad dilynol a fydd yn nodi argymhellion pellach ar sut i wella’r ymateb gan y Llys Teulu, ac yn cyhoeddi canlyniadau’r Mecanwaith Monitro Llysoedd Teulu.
Goroeswyr mudol - mae dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig â statws mewnfudo ansicr yn wynebu rhai o’r rhwystrau mwyaf sylweddol i gael cymorth. Nid yn unig y gall cyflawnwyr ddefnyddio eu statws mewnfudo fel ffordd o orfodi rhywun i wneud rhywbeth a’i reoli – sef cysyniad a elwir yn ‘immigration abuse’ – ond mae’r ffaith nad oes gan rai goroeswyr hawl i gael arian cyhoeddus yn golygu na allant geisio diogelwch drwy loches neu lety diogel arall. Yn yr un modd, mae diffyg ‘wal dân’ rhwng yr asiantaeth gorfodi mewnfudo a’r heddlu yn atal goroeswyr rhag rhoi gwybod i’r heddlu am y sawl sydd wedi’u cam-drin yn ddiogel. Felly, mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi dau adroddiad, sef Safety Before Status, gan wneud argymhellion i’w gwneud yn haws i ddioddefwyr a goroeswyr gael cymorth, ni waeth beth fo’u statws mewnfudo. Bydd y Comisiynydd yn parhau i weithio’n agos gyda’r sector ‘gan a thros’ arbenigol a’r Llywodraeth ar y mater hwn.
Lladdiadau a Hunanladdiadau Domestig – ar ôl i’r Mecanwaith Goruchwylio Lladdiadau a Hunanladdiadau Domestig gael ei sefydlu, bydd y Comisiynydd yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol yn nodi canfyddiadau allweddol ac yn dadansoddi themâu allweddol o adolygiadau o laddiadau domestig ac adolygiadau perthnasol eraill. Bydd hyn yn cynnwys argymhellion i asiantaethau lleol yn ogystal â Llywodraeth genedlaethol er mwyn helpu i weithredu ar argymhellion Adolygiadau o Laddiadau Domestig a chynlluniau gweithredu er mwyn dysgu gwersi ac atal marwolaethau yn y dyfodol yn well.
Plant – Cydnabu Deddf Cam-drin Domestig 2021 blant fel dioddefwyr yn eu rhinwedd eu hunain am y tro cyntaf. Roedd hwn yn gam hollbwysig ymlaen ond, serch hynny, dim ond 29% o ddioddefwyr a goroeswyr a ddywedodd wrthym eu bod yn gallu cael y cymorth arbenigol roedd ei eisiau arnynt ar gyfer eu plant. Felly, bydd y Comisiynydd yn gweithio er mwyn deall yn well sut y dylid cefnogi plant a bydd yn cyhoeddi argymhellion ar sut i wella’r ymateb hwn.
Cyfiawnder Troseddol - Er y gall yr ymateb i gam-drin domestig fynd gryn dipyn ymhellach na’r System Cyfiawnder Troseddol ac er bod yn rhaid iddo wneud hynny, mae’n dal i fod yn rhan hanfodol o’r darlun ac mae ymateb gwael gan asiantaethau cyfiawnder troseddol yn broblem gyffredin a godir gyda ni gan oroeswyr. Yn yr un modd, rydym wedi bod yn pryderu ynghylch y lleiad sylweddol yn nifer y canlyniadau cyfiawnder troseddol ers 2016, er bod mwy o droseddau sy’n ymwneud â cham-drin domestig wedi’u cofnodi gan yr heddlu. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu argymhellion a fydd yn sicrhau ymateb mwy effeithiol gan y system cyfiawnder troseddol i gam-drin domestig, er mwyn cefnogi dioddefwyr yn well a dod â chyflawnwyr o flaen eu gwell.
E02878658 978-1-5286-3967-5
-
Roedd yr adroddiad hwn yn seiliedig yn bennaf ar ddau adroddiad a gomisiynwyd gan y Comisiynydd Cam-drin Domestig ac a gyflwynwyd gan The Angelou Centre a Phrifysgol Suffolk, a gyhoeddwyd ar wahân hefyd. ↩
-
Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys gwaith ymchwil newydd a gomisiynwyd gan y Comisiynydd Cam-drin Domestig ac a wnaed gan Ysgol Economeg Llundain a’r Migration Observatory yn Rhydychen er mwyn datblygu dadansoddiad cost a budd o wahanol fodelau o gymorth i ddioddefwyr mudol Heb Hawl i Gael Arian Cyhoeddus ↩
-
Roedd hyn yn cynnwys comisiynu gwaith gan Catch Impact, Cymorth i Ferched Cymru, Ffederasiwn Cymorth i Ferched Lloegr a TONIC i ategu’r ymchwil ↩
-
Roedd y cynllun peilot ar gyfer mecanwaith goruchwylio yn seiliedig ar waith a gomisiynwyd gan y Comisiynydd Cam-drin Domestig ac a wnaed gan Rosemary Hunter a Mandy Burton ↩
-
The Angelou Centre (2021), Hinterland of Marginality. Newcastle Upon Tyne: The Angelou Centre ↩