Help sydd ar gael gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer pobl sy'n dioddef trais a cham-drin domestig
Diweddarwyd 16 Ebrill 2024
Mae trais a cham-drin domestig yn dal i fod yn broblem enfawr yn ein cymdeithas, gydag effeithiau pellgyrhaeddol a dinistriol.
Y diffiniad trawslywodraethol o drais a cham-drin domestig yw unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o achosion o reoli, ymddygiad gorfodol a bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng y sawl sydd yn 16 oed neu drosodd sydd, neu sydd wedi bod, yn bartneriaid agos neu aelodau o’r teulu waeth beth fo’u rhyw neu rywioldeb.
Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i:
-
seicolegol
-
corfforol
-
rhywiol
-
ariannol
-
emosiynol
Darganfyddwch fwy am y diffiniad trawslywodraethol o drais a cham-drin domestig.
Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo’n llwyr i atal cam-drin ac mae gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ystod o fesurau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi pobl sy’n ffoi o aelwydydd treisgar a chamdriniol.
1. Rhoi gwybod i ni am drais a cham-drin domestig
Siaradwch ag anogwr gwaith mewn canolfan gwaith am y trais a’r cam-drin domestig i gael cymorth ychwanegol gan DWP.
Gallwch ofyn am apwyntiad gydag anogwr gwaith mewn ystafell breifat.
Darganfyddwch eich canolfan gwaith leol.
2. Darparu tystiolaeth o drais a cham-drin domestig
Bydd angen i ddioddefwyr ddarparu tystiolaeth o unrhyw drais neu gam-drin domestig i dderbyn cefnogaeth gan DWP.
Byddwch angen tystiolaeth ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu mewn rôl swyddogol sy’n dangos:
-
mae eich amgylchiadau’n gyson â rhai person sydd wedi dioddef trais neu gam-drin domestig yn cael ei achosi, neu ei fygwth, arnynt yn ystod y 6 mis cyn i chi roi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau
-
rydych wedi cysylltu â’r person sy’n gweithredu mewn rôl swyddogol i ddweud wrthynt am unrhyw ddigwyddiadau sydd wedi digwydd yn ystod y 6 mis diwethaf
Mae person sy’n ‘gweithredu mewn rôl swyddogol’ yn golygu:
-
gweithiwr gofal iechyd proffesiynol
-
swyddog heddlu
-
gweithiwr cymdeithasol cofrestredig
-
eich cyflogwr neu gynrychiolydd o’ch undeb llafur
-
unrhyw gorff cyhoeddus, gwirfoddol neu elusennol sydd wedi bod mewn cysylltiad uniongyrchol â chi am drais neu gam-drin domestig
Rhaid i chi ddarparu eich tystiolaeth i’r ganolfan gwaith cyn gynted â phosibl ond heb fod yn hwyrach nag un mis calendr ar ôl i chi ddweud wrthym am y trais a’r cam-drin domestig.
3. Budd-dal Tai
Mae darpariaeth arbennig ar gyfer pan fyddwch yn absennol dros dro o’ch cartref drwy ofni trais a cham-drin domestig.
Os ydych yn bwriadu dychwelyd i’ch cartref blaenorol, gallwch gael Budd-dal Tai ar gyfer cyn-gartref parhaol a llety dros dro. Ni ddylai eich cyn-gartref fod wedi cael ei isosod a rhaid i bob llety fodloni’r amodau Budd-dal Tai.
Bydd yn cael ei dalu:
-
am hyd at 52 wythnos yng Nghymru, Lloegr a’r Alban
-
am hyd at 26 wythnos y tu allan i Gymru, Lloegr a’r Alban
Os nad ydych yn bwriadu dychwelyd i’ch cartref blaenorol, gallwch gael Budd-dal Tai am hyd at 4 wythnos os oes gennych rwymedigaeth rhent na ellir ei osgoi ar yr hen gartref.
4. Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
Os ydych wedi dioddef trais a cham-drin domestig, gallwch gael seibiant o chwilio am waith a gofynion paratoi am waith am hyd at 13 wythnos i roi’r lle a’r amser rydych ei angen i sefydlogi eich bywyd.
Mae’r seibiant wedi’i rannu’n ddwy ran:
-
cyfnod cychwynnol o 4 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y byddwch yn dweud wrth y ganolfan gwaith eich bod wedi cael eich bygwth neu yn destun trais domestig a cham-driniaeth
-
estyniad o 4 i 13 wythnos os byddwch yn darparu tystiolaeth yn ystod y cyfnod cychwynnol o 4 wythnos
Mae’n rhaid i chi ddweud wrth y ganolfan gwaith am y trais a’r cam-drin domestig mewn cyfweliad ag anogwr gwaith, naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Mae’r cyfnod cychwynnol o 4 wythnos yn dechrau ar y dyddiad hwn.
I fod yn gymwys ar gyfer y seibiant 4 wythnos gyntaf yma, rhaid i’r canlynol fod yn berthnasol:
-
rydych yn hawlio JSA neu yn rhan o grŵp gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith ESA (WRAG)
-
bod y digwyddiad o drais neu gam-drin domestig wedi digwydd yn ystod y 26 wythnos diwethaf
-
rhaid i’r digwyddiad fodloni’r diffiniad o drais domestig
-
ni ddylech fod yn byw yn yr un cyfeiriad â’r sawl sydd wedi eich camdrin
-
ni ydych wedi cael seibiant arall oherwydd trais domestig neu gam-drin o fewn y 12 mis diwethaf
Pan fyddwch yn dweud wrth y ganolfan gwaith am y trais a’r cam-drin domestig, bydd anogwr gwaith yn dweud wrthych pa dystiolaeth y mae’n rhaid i chi ei darparu i gael seibiant llawn o 13 wythnos.
Bydd y seibiant 4 neu 13 wythnos ond ar gael unwaith mewn unrhyw gyfnod o 12 mis. Bydd yn rhedeg am 4 neu 13 wythnos yn olynol p’un a oes gennych hawl i JSA neu ESA am y cyfnod cyfan ai peidio.
Mewn achosion eithafol, efallai y bydd angen ymestyn hyd y seibiant. Bydd hyn yn cael ei benderfynu gan yr anogwr gwaith fesul achos.
5. Credyd Cynhwysol
5.1 Eich cyfrif Credyd Cynhwysol
Os ydych wedi gadael perthynas dreisiol, gall eich anogwr gwaith eich helpu i agor cais newydd fel hawlydd sengl. O’r eiliad hon ni fydd gan eich cyn bartner fynediad at unrhyw wybodaeth am eich cais newydd.
5.2 Taliad ymlaen llaw ar gais newydd
Os ydych wedi gadael perthynas dreisgar, gallwch gael taliad ymlaen llaw o hyd at 100% o’ch hawl fisol disgwyliedig o Gredyd Cynhwysol. Siaradwch â’ch anogwr gwaith am hyn. Efallai y byddwch yn cael penderfyniad ar yr un diwrnod.
5.3 Gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith
Os ydych wedi dioddef trais a cham-drin domestig tra yn hawlio Credyd Cynhwysol, ni fydd yn rhaid i chi ymgymryd ag unrhyw ofynion sy’n gysylltiedig â gwaith am 13 wythnos, ar yr amod:
-
bod y trais a cham-drin domestig wedi digwydd o fewn y 6 mis blaenorol
-
mae’r digwyddiad yn cwrdd â’r diffiniad o drais domestig
-
nad ydych yn byw yn yr un cyfeiriad â’r camdriniwr
-
nad ydych wedi cael seibiant o 13 wythnos o ofynion sy’n gysylltiedig â gwaith o ganlyniad i drais domestig blaenorol o fewn y 12 mis diwethaf
-
gallwch ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig o fewn mis i’r dyddiad y trafodwyd y mater gyda anogwr gwaith
Mae’r seibiant 13 wythnos yn dechrau ar y dyddiad y byddwch yn dweud wrth anogwr gwaith mewn canolfan waith. Bydd y seibiant yn cael ei ymestyn i 26 wythnos os mai chi yw prif ofalwr plentyn hyd at 16 oed.
Os ydych angen mwy o amser ar ôl y seibiant o 13 neu 26 wythnos am resymau sy’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol i’ch profiad o gam-drin domestig a thrais, rhowch wybod i’ch anogwr gwaith. Bydd yr anogwr gwaith yn penderfynu a oes modd ymestyn y seibiant.
5.4 Trallod plentyn
Os mai chi yw prif ofalwr plentyn hyd at 16 oed, sydd mewn trallod sylweddol oherwydd trais a cham-drin domestig, gallwch gael seibiant dros dro o ofynion sy’n gysylltiedig â gwaith. Er enghraifft, os oes tarfu sylweddol ar eich cyfrifoldebau gofal plant arferol a bod angen darparu gofal a chymorth ychwanegol oherwydd bod y plentyn yn:
• profi neu yn bod yn dyst i drais neu gam-drin domestig (lle gallai adroddiad heddlu fod ar gael)
• profi neu yn bod yn dyst i drais a cham-drin ar wahân i drais domestig
Bydd y seibiant o ofynion sy’n gysylltiedig â gwaith wrth ofalu am blentyn sy’n ofidus yn digwydd am uchafswm o un mis bob 6 mis am gyfnod o 2 flynedd yn dilyn digwyddiad trais neu gam-drin domestig.
5.5 Elfen tai
Mae darpariaeth arbennig ar gyfer elfen tai Credyd Cynhwysol pan fyddwch yn absennol dros dro o’ch cartref trwy fod ofn trais a cham-drin domestig.
Os ydych yn bwriadu dychwelyd i’ch hen gartref, gallwch dderbyn elfen tai Credyd Cynhwysol ar gyfer cyn-gartref parhaol a llety dros dro. Ni ddylai eich cyn-gartref fod wedi cael ei isosod a rhaid i bob llety fodloni’r amodau elfen tai Credyd Cynhwysol.
Bydd yn cael ei dalu:
-
am hyd at 12 mis o fewn Cymru, Lloegr a’r Alban
-
am hyd at 6 mis y tu allan i Gymru, Lloegr a’r Alban
5.6 Trefniadau Talu Amgen
Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol fel cwpl ac oherwydd ofn trais a cham-drin domestig, rydych yn dymuno rheoli’ch arian eich hun, gallwch wneud cais am Drefniant Talu Amgen.
Bydd taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu rhannu i ddau gyfrif banc yn hytrach nag un. Gellid dyrannu canran uwch i’r person sydd â chyfrifoldeb gofalu sylfaenol. Bydd hyn yn cael ei wneud i sicrhau iechyd a lles y rhan fwyaf o’r cartref.
Gellir ystyried Trefniadau Talu Amgen ar unrhyw adeg yn ystod y cais Credyd Cynhwysol.
5.7 Teuluoedd gyda mwy na 2 o blant
Nid yw Credyd Cynhwysol yn talu swm ychwanegol i chi am drydydd plentyn neu blentyn dilynol a aned ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, oni bai bod amgylchiadau arbennig yn berthnasol.
Gallwch gael Credyd Cynhwysol ychwanegol ar gyfer trydydd plentyn neu blant dilynol yn eich cartref sy’n debygol o fod wedi cael eu cenhedlu o ganlyniad i weithred rywiol na wnaethoch chi gydsynio iddi neu na allech gydsynio iddi.
Mae hyn yn berthnasol i blentyn sydd:
- yn debygol o fod wedi cael ei genhedlu o ganlyniad i weithred rywiol anghydsyniol (gan gynnwys treisio)
• wedi’i genhedlu ar neu o gwmpas adeg pan oedd eich perthynas â rhiant biolegol arall y plentyn yn ymosodol a’ch bod yn destun rheolaeth barhaus neu orfodaeth
I fod yn gymwys am yr eithriad hwn ar gyfer trydydd plentyn neu blentyn dilynol, ni ddylech fod yn byw gyda rhiant biolegol y plentyn mwyach. Gofynnir i chi gadarnhau hyn.
Rydym yn cydnabod bod delio â’r eithriad hwn yn hynod sensitif. Fodd bynnag, mae’n bwysig iawn bod yr eithriad hwn mewn lle i’ch cefnogi os ydych yn y sefyllfa hon.
6. Y cap ar fudd-daliadau
Bydd cymorth tai ar gyfer llety eithriedig yn cael ei eithrio o gyfrifo’r cap ar fudd-daliadau ar gyfer dioddefwyr trais a cham-drin domestig.
Mae enghreifftiau o lety sydd wedi’i eithrio yn cynnwys:
-
llochesi
-
hosteli
-
eiddo a reolir
Rhaid i’r llety gael ei ddarparu gan gyngor sir, cymdeithas dai, elusen gofrestredig neu fudiad gwirfoddol a rhaid i chi gael gofal, cefnogaeth neu oruchwyliaeth.
7. Tynnu’r cymhorthdal ystafell sbâr
Ni fydd tynnu’r cymhorthdal ystafell sbâr yn cael ei gymhwyso i ddioddefwyr trais a cham-drin domestig sy’n aros mewn llety eithriedig (gweler uchod).
Os yw eich cartref wedi cael diogelwch ychwanegol wedi’i osod o dan gynllun noddfa oherwydd eich bod chi, neu aelod o’ch cartref, wedi dioddef trais a cham-drin domestig, yna efallai y bydd gennych hawl i gael eithriad rhag cael tynnu’r cymhorthdal ystafell sbâr. Siaradwch â’ch anogwr gwaith neu reolwr achos os yw hyn yn berthnasol i chi.
8. Taliadau Tai Dewisol
Mae’r DWP yn darparu cyllid ar gyfer Taliadau Tai Dewisol sydd ar gael gan eich awdurdod lleol ac sydd wedi’u hanelu at nifer o grwpiau sy’n debygol o gael eu heffeithio gan ddiwygiadau lles, gan gynnwys unigolion neu deuluoedd sy’n ffoi rhag trais a cham-drin domestig. Gellir rhoi Taliadau Tai Dewisol hefyd i ddioddefwyr sydd wedi aros yn eu cartref, sydd wedi’i addasu o dan gynllun noddfa.
9. Cymorth partner mudol
Os ydych wedi dod i’r DU ar fisa teulu fel priod, partner sifil neu bartner dibriod ac mae angen i chi adael eich cartref trwy ofni trais a cham-drin domestig, gallwch wneud cais am gonsesiwn ‘Destitution Domestic Violence’ (DDV). Bydd hyn yn eich galluogi i hawlio budd-daliadau am hyd at 3 mis tra bod Fisâu a Mewnfudo’r DU yn ystyried eich cais i ymgartrefu yn y DU.