Papur polisi

Amcanion amrywiaeth y DVLA 2020 i 2021

Cyhoeddwyd 18 November 2020

This papur polisi was withdrawn on

Up to date equality and diversity objectives can now be found at https://www.gov.uk/government/organisations/driver-and-vehicle-licensing-agency/about/equality-and-diversity

1. Cyflwyniad

Rydym wedi ymrwymo i’n cyfrifoldebau i fodloni dyletswyddau’r sector cyhoeddus a gwella canlyniadau ar gyfer y grwpiau gwarchodedig a ddisgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Rydym wedi ymrwymo i baratoi a chyhoeddi un neu fwy o amcanion rydym yn meddwl bod angen i ni eu cyflawni i hyrwyddo unrhyw un o’r nodau o’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol. Roedd angen gwneud hyn am y tro cyntaf erbyn 6 Ebrill 2012 ac o leiaf bob pedair blynedd wedi hynny. Bydd yr amcanion cydraddoldeb hyn yn ein helpu i ddarparu canlyniadau seiliedig ar dystiolaeth a byddant yn cael eu hadolygu’n gyson a cheir adroddiad am gynnydd. Lle bo tystiolaeth yn nodi angen am amcanion newydd neu ddiwygiedig, byddant yn cael eu darparu.

Mae ein hamcanion amrywiaeth yn dangos ein hymrwymiad parhaus i amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym wedi defnyddio canlyniadau Cynllun Cynhwysiant yr Adran Drafnidiaeth (DfT), gan nodi ein heriau penodol ein hunain yn ein cynllun asiantaeth leol. Bydd yr amcanion hyn yn cefnogi ein perfformiad o’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol ac yn dangos ein bod yn cydymffurfio â hi.

Maent yn rhestru’r dystiolaeth a ddefnyddir i ddatblygu’r amcan, disgrifio sut y mesurir ac y monitrir cynnydd a bod â chanlyniadau clir. Mae ganddynt gyswllt clir â’r dyletswyddau cyffredinol ac maent yn nodi’r problemau a’r camau allweddol i leihau unrhyw anfantais a nodir.

1.1 Hygyrchedd

Cyhoeddir yr amcanion ar wefan allanol DVLA a’r safle mewnrwyd fewnol. Gellir eu cyrchu drwy dechnoleg ymaddasol a gall y darllenydd newid y fformat fel y bo angen. Gellir gofyn am gopïau mewn fformatau gwahanol.

1.2 Cynnydd

Cyhoeddir diweddariadau cynnydd yn flynyddol.

2. Amcan 1 Amrywiaeth DVLA: Gwneud cynhwysiant yn rhan annatod o bob agwedd o fywyd DVLA, wrth weithio gyda’n gilydd gyda staff, cwsmeriaid a chontractwyr

2.1 Yr hyn fyddwn yn ei wneud

Byddwn yn darparu arweiniad a chymorth i’n gweithlu, cwsmeriaid a chontractwyr.

2.2 Nod yr amcan hwn

Y nod yw sicrhau bod arweiniad a pholisïau ar gael i’r rhai y mae eu hangen arnynt.

2.3 Y canlyniadau a ddisgwylir

Bydd rheolwyr a staff yn caffael mwy o wybodaeth am amrywiaeth a chynhwysiant a bod yn fwy ymwybodol o le i ddod o hyd i wybodaeth ac arweiniad i’w cynorthwyo. Bydd gwell gwybodaeth o’r hyn sy’n creu ymddygiad negyddol a mwy o gysondeb mewn trin staff o grwpiau lleiafrifol. Byddwn yn hyrwyddo ein Grwpiau Rhwydweithio Staff fel galluogwyr ar gyfer newid fel y bydd staff yn fwy hyderus am godi pryderon a gweld pethau’n newid o ganlyniad. Bydd hyn yn golygu y bydd staff yn fwy agored i ddatgan eu gwybodaeth bersonol.

2.4 Pam rydym yn gwneud hyn – tystiolaeth o broblemau allweddol, ymgysylltu a chasglu gwybodaeth

Cesglir tystiolaeth ar farn a phrofiadau staff drwy Arolwg blynyddol Pobl y Gwasanaeth Sifil. Yn ogystal, mae gwybodaeth gan y TUS, ein cyfarfodydd Grŵp Rhwydweithio Staff ac aelodau grŵp unigol, yn ogystal ag ymholiadau a gwybodaeth gan staff arall, rheolwyr a grwpiau cymorth cymunedol allanol hefyd wedi helpu i nodi problemau.

2.5 Sut y bodlonir yr amcan hwn

Cyflawnir a chofnodir yr amcan hwn fel rhan o Gynlluniau Amrywiaeth a Chynhwysiant DVLA.

2.6 Sut y mesurir cynnydd a chyflawni canlyniadau

Bydd Arolwg blynyddol Pobl y Gwasanaeth Sifil yn parhau i fesur gwelliannau. Byddwn yn gwerthuso effeithiolrwydd gweithgareddau ac yn ymgynghori â’r Grwpiau Rhwydweithio Staff, Eiriolwyr a rhanddeiliaid eraill.

3. Amcan 2 Amrywiaeth DVLA: Cynyddu amrywiaeth ein gweithlu yn DVLA i adlewyrchu’r boblogaeth weithio leol

3.1 Yr hyn fyddwn yn ei wneud

Byddwn yn ymgysylltu â’n Grwpiau Rhwydweithio Staff ac yn adeiladu perthynasau â grwpiau cymorth allanol i ddeall y rhwystrau a wynebir gan grwpiau gwarchodedig i ddod o hyd i gyflogaeth.

3.2 Nod yr amcan hwn

Y nod yw manteisio i’r eithaf ar y cyfle i bobl o grwpiau lleiafrifol gael mynediad i gyflogaeth yn DVLA. Codi ymwybyddiaeth problemau a wynebir gan grwpiau gwarchodedig; cael gwared ar stereoteipio negyddol; darparu addysg a chymorth ar gyfer staff, eu cydweithwyr a rheolwyr. Mewn perthynas â’r dyletswyddau cyffredinol bydd yn helpu i gael gwared ar wahaniaethu ac aflonyddu, i hyrwyddo cydraddoldeb ac i annog perthynasau da rhwng grwpiau gwarchodedig.

3.3 Y canlyniadau a ddisgwylir

Bydd yn creu cyfle cynyddol i gael cyflogaeth yn DVLA. Byddwn yn adolygu ein harferion recriwtio, yn ennill mewnwelediad gan grwpiau gwarchodedig ac yn nodi a chwalu’r rhwystrau i gyflogaeth.

3.4 Pam rydym yn gwneud hyn – tystiolaeth o broblemau allweddol, ymgysylltu a chasglu gwybodaeth

Dengys gwybodaeth gan Adroddiadau Monitro Cydraddoldeb blynyddol DVLA y ceir diffyg cynrychiolaeth ar gyfer grwpiau gwarchodedig penodol. Mae gweithgareddau ymgysylltu presennol â grwpiau cymorth allanol trwy ein gweithgareddau ymgysylltu cymunedol hefyd wedi helpu i nodi problemau.

3.5 Sut y bodlonir yr amcan hwn

Cyflawnir a chofnodir yr amcan hwn fel rhan o Gynlluniau Amrywiaeth a Chynhwysiant DVLA.

3.6 Sut y mesurir cynnydd a chyflawni canlyniadau

Bydd Arolwg blynyddol Pobl y Gwasanaeth Sifil yn parhau i fesur gwelliannau. Byddwn yn gwerthuso effeithiolrwydd gweithgareddau ac yn ymgynghori â’r Grwpiau Rhwydweithio Staff, Eiriolwyr a rhanddeiliaid eraill. Bydd ein data recriwtio’n dangos gwybodaeth am geisiadau gan bobl sy’n hunan-nodi fel anabl, BAME ac LGBT.

4. Amcan 3 Amrywiaeth DVLA: I wneud dealltwriaeth o fewn DVLA yn rhan annatod o’n cyfrifoldebau ynghylch Deddf Cydraddoldeb 2010 a dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus

4.1 Yr hyn fyddwn yn ei wneud

Byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol a grwpiau cymorth allanol i nodi a chwalu’r rhwystrau a wynebir gan grwpiau lleiafrifol gwahanol.

4.2 Nod yr amcan hwn

Y nod yw codi ymwybyddiaeth o broblemau a wynebir gan grwpiau lleiafrifol gwahanol, monitro cwynion cwsmeriaid a gweithio i wneud egwyddorion cydraddoldeb yn rhan annatod o’n gwasanaethau, systemau a phrosesau.

4.3 Y canlyniadau a ddisgwylir

Bydd rheolwyr a staff yn ennill gwybodaeth fwy o broblemau a wynebir gan gwsmeriaid o grwpiau gwarchodedig a byddant yn fwy ymwybodol o ddarpariaethau y gellir eu gwneud i fodloni eu hanghenion. Bydd gwell gwybodaeth o’r hyn sy’n gyfwerth â rhesymol o ran addasiadau a mwy o gysondeb wrth drin cwsmeriaid sy’n cael anhawster. Bydd staff yn fwy hyderus ynghylch cynorthwyo cwsmeriaid ag anghenion penodol wrth dderbyn hyfforddiant addas ar amrywiaeth a chynhwysiant, ymwybyddiaeth drawsryweddol, ymwybyddiaeth hil, ymwybyddiaeth anabledd a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

4.4 Pam rydym yn gwneud hyn – tystiolaeth o broblemau allweddol, ymgysylltu a chasglu gwybodaeth

Mae mwy o gwsmeriaid yn dweud wrthym bod ganddynt anghenion penodol. Rhoddir mwy o ystyriaeth i sut y gallwn wneud ein gwasanaethau’n fwy syml, yn well ac yn fwy diogel ar gyfer grwpiau cwsmeriaid gwahanol.

4.5 Sut y bodlonir yr amcan hwn

Cyflawnir a chofnodir yr amcan hwn fel rhan o Gynlluniau Amrywiaeth a Chynhwysiant DVLA.

4.6 Sut y mesurir cynnydd a chyflawni canlyniadau

Byddwn yn gwerthuso effeithiolrwydd hyfforddiant a roddir i staff wrth fonitro cwynion cwsmeriaid a chwblhau Asesiadau Effaith Cydraddoldeb.

5. Amcan 4 Amrywiaeth DVLA: Chwilio am wybodaeth ar feysydd i’w gwella wrth feincnodi DVLA ar draws adrannau eraill y llywodraeth a chyrff allanol

5.1 Yr hyn fyddwn yn ei wneud

Byddwn yn ymgymryd â gweithgareddau meincnodi i fesur a gwella gallu yn erbyn arfer gorau diwydiant.

5.2 Nod yr amcan hwn

Y nod yw deall a defnyddio’r wybodaeth i nodi bylchau yn ein proseau er mwyn gwella ein gwasanaethau mewnol ac allanol yn barhaus.

5.3 Y canlyniadau a ddisgwylir

Byddwn yn adolygu unrhyw argymhellion meincnodi er mwyn nodi a chwalu’r rhwystrau a wynebir gan grwpiau gwarchodedig.

5.4 Pam rydym yn gwneud hyn – tystiolaeth o broblemau allweddol, ymgysylltu a chasglu gwybodaeth

Dangos ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac i sicrhau bod ein harferion yn gynhwysol i bawb.

5.5 Sut y bodlonir yr amcan hwn

Cyflawnir a chofnodir yr amcan hwn fel rhan o Gynlluniau Amrywiaeth a Chynhwysiant DVLA.

5.6 Sut y mesurir cynnydd a chyflawni canlyniadau

Bydd Arolwg blynyddol Pobl y Gwasanaeth Sifil yn parhau i fesur gwelliannau. Byddwn yn gwerthuso effeithiolrwydd gweithgareddau ac yn ymgynghori â’r Grwpiau Rhwydweithio Staff, Eiriolwyr a rhanddeiliaid eraill.

6. Amcan 5 Amrywiaeth DVLA: sicrhau bod ein polisïau amrywiaeth a chynhwysiant yn addas i’r diben i roi arweiniad a chymorth i’n gweithlu a’n rhanddeiliaid

6.1 Yr hyn fyddwn yn ei wneud

Byddwn yn cynorthwyo ein gwneuthurwyr polisi yn eu hymwybyddiaeth o anghenion amrywiol a deall ein cyfrifoldebau cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

6.2 Nod yr amcan hwn

Sicrhau bod ein polisïau’n gynhwysol ar gyfer pawb fel nad yw staff a chwsmeriaid o grwpiau gwarchodedig o dan anfantais yn y gwasanaethau rydym yn eu darparu.

6.3 Y canlyniadau a ddisgwylir

Bydd gwneuthurwyr polisi DVLA yn caffael mwy o wybodaeth o amrywiaeth a chynhwysiant ac yn fwy ymwybodol o anghenion grwpiau amrywiol. Byddwn yn creu polisïau sy’n gynhwysol ar gyfer pawb ac sy’n dangos ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

6.4 Pam ein bod yn gwneud hyn

Mae tystiolaeth ynghylch barn staff a gasglwyd trwy Arolwg blynyddol Pobl y Gwasanaeth Sifil a phrofiadau cwsmeriaid wedi helpu i nodi problemau.

6.5 Sut y bodlonir yr amcan hwn

Cyflawnir a chofnodir yr amcan hwn fel rhan o Gynlluniau Amrywiaeth a Chynhwysiant DVLA.

6.6 Sut y mesurir cynnydd a chyflawni canlyniadau

Bydd Arolwg blynyddol Pobl y Gwasanaeth Sifil yn parhau i fesur gwelliannau. Byddwn yn monitro profiadau cwsmeriaid trwy ymgynghori â rhanddeiliaid mewnol a byddwn yn gwerthuso effeithiolrwydd gweithgareddau wrth ymgynghori â’r Grwpiau Rhwydweithio Staff, Eiriolwyr a rhanddeiliaid eraill.