Canllawiau

Cylch gorchwyl adolygiad DVLA 2023

Cyhoeddwyd 25 July 2023

Cefndir

Mae DVLA yn asiantaeth weithredol o’r Adran Drafnidiaeth, yn gyfrifol am gynnal mwy na 51 miliwn o gofnodion gyrwyr a bron 40 miliwn o gofnodion cerbydau.

Yn 2022 i 2023, dosbarthodd DVLA 11.9 miliwn o drwyddedau gyrru ac 16.8 miliwn o dystysgrifau cofrestru cerbydau. Atebodd staff canolfan gyswllt DVLA 13.3 miliwn o ymholiadau gan gynnwys 6.7 miliwn galwad, 5.1m galwad i’r system drwyddedu cerbydau electronig, 0.6 miliwn e-bost a 0.9 miliwn gwe-sgwrs ac ymholiadau sgwrsfot.

Mae DVLA yn casglu mwy na £7 biliwn mewn treth cerbyd ar ran Trysorlys EF yn flynyddol.

Yn ogystal â busnes craidd y DVLA o gynnal cofnodion gyrwyr a cherbydau cywir a chyfredol, a chasglu treth cerbyd ar ran y Trysorlys, mae’n gyfrifol hefyd am:

  • gymryd camau gorfodi yn erbyn y rheini sy’n osgoi talu treth cerbyd
  • dosbarthu tystysgrifau cofrestru cerbydau i geidwaid cofrestredig cerbydau
  • dosbarthu trwyddedau gyrru cerdyn-llun
  • cofnodi ardystiadau gyrwyr, gwaharddiadau, a chyflyrau meddygol
  • cofrestru a dosbarthu cardiau tacograff i weithredwyr a gyrwyr cerbydau nwyddau trwm
  • helpu’r heddlu i ddelio â throseddu yn ymwneud â gyrwyr a cherbydau
  • cynhyrchu refeniw i’r Trysorlys trwy werthu rhifau cofrestru cerbyd personol

Pwrpas

Megis â phob adolygiad corff cyhoeddus, bydd yr adolygiad hwn yn:

  • ystyried llywodraethiant, atebolrwydd, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y DVLA
  • ystyried i ba raddau mae’r DVLA yn galluogi blaenoriaethau llywodraeth ehangach a dysgu’n weithredol o agenda drawsnewid ehangach y llywodraeth
  • gwneud argymhellion i weinidogion i lunio penderfyniadau ar drefniadau cyflawni yn y dyfodol ac arbedion effeithlonrwydd

Crynodeb y cwmpas

Effeithiolrwydd

Wrth fynd i’r afael ag effeithiolrwydd, mae ystyriaethau yn cynnwys:

  • pob cyfrifoldeb ac amcan presennol a’r graddau y mae gan DVLA y mandad, y gallu a’r capasiti i’w cyflawni
  • sut mae DVLA yn cyflawni ei hamcanion i gwsmeriaid a rhanddeiliaid ar draws y sector moduro gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i drwyddedau gyrru ar gyfer y rheini â chyflyrau meddygol
  • y graddau y mae DVLA yn ystyried ac yn gweithio gyda’r adran ar gyfrifoldebau a strategaeth tebygol yn y dyfodol

Llywodraethiant

Wrth fynd i’r afael â llywodraethiant, mae ystyriaethau yn cynnwys:

  • a yw strwythurau presennol ar gyfer llywodraethiant, rheoli risg a rheolaeth fewnol yn effeithiol ac yn cynorthwyo gwireddu cyfleoedd i ddod hyd yn oed yn fwy effeithiol ac effeithlon
  • y graddau y mae’r bwrdd yn effeithiol mewn gweithredu ei gyfrifoldebau a dal y weithrediaeth i gyfrif
  • prosesau i sicrhau gallu ac amrywiaeth mewn recriwtio i’r bwrdd

Atebolrwydd

Wrth fynd i’r afael ag atebolrwydd, mae ystyriaethau yn cynnwys:

Effeithlonrwydd

Wrth fynd i’r afael ag effeithlonrwydd, mae’r ystyriaethau yn cynnwys:

  • lle gellir gwneud arbedion i derfynau gwario adnoddau adrannol (RDEL) o 5% o leiaf, gan adnabod yn benodol lle gellir gwneud enillion effeithlonrwydd, o ran arian ac heb fod o ran arian, yn DVLA
  • trefniadau rheoli ariannol mewn grym ac ai’r model cyllidol (wedi’i adeiladu o incwm ffioedd statudol a masnachol) yw’r model cywir ar gyfer y dyfodol
  • sut mae DVLA yn ystyried ac yn gweithredu mesurau i wneud y mwyaf o effeithlonrwydd, gan gynnwys meincnodi a digideiddio tra’n sicrhau gwytnwch y sefydliad a sicrhau’r galluoedd sy’n ofynnol ar gyfer y dyfodol

Ymagwedd

Mae’r holl adolygiadau cyrff cyhoeddus yn tynnu ar ddata a thystiolaeth gan gynnwys trwy ymgynghori â rhanddeiliaid ehangach, cyrff cynrychioladol a’r llywodraethau datganoledig fel y bo’n briodol.

Byd panel heriau yn cynorthwyo’r adolygiad i gasglu meddyliau a thrafod canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg.

Mae aelodau yn gynghorwyr arbenigol wedi’u tynnu o’r llywodraeth a’r gymuned rhanddeiliaid.

Mae DfT wedi penodi Janette Beinart i arwain adolygiad y DVLA. Bydd hi’n cael ei chynorthwyo gan dîm adolygu o fewn yr Adran Drafnidiaeth.

Amseru

Gan fod yr adolygiad wedi dechrau yn awr, bydd y prif adolygwr, wedi’i chynorthwyo gan dîm yr adolygiad, yn ymgynghori â rhanddeiliaid wedi’u targedu gan gynnwys adrannau llywodraeth y DU, grwpiau rhanddeiliaid, busnesau, a chyrff cynrychioladol, yn ogystal â bwrdd DVLA, ei staff a’i rheolwyr.

Disgwylir i ganfyddiadau o’r adolygiad ac argymhellion gael eu cyhoeddi yn gynnar yn 2024.