Cynllun Strategol DVLA 2021 i 2024
Diweddarwyd 18 February 2022
1. Rhagymadrodd y Prif Weithredwr
Atgyfnerthodd y pandemig coronafeirws (COVID-19) bwysigrwydd gwaith y DVLA i’r genedl, yn enwedig wrth fod wrth wraidd cludo nwyddau hanfodol o gwmpas y wlad. Amlygodd hefyd hyd yn oed fel sefydliad digidol, mai ein staff anhygoel yw curiad calon y DVLA a’n galluogodd i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol trwy gydol y misoedd hynny, ar-lein yn ogystal ag yn y cnawd. Yn 2019/20 fe wnaethom ddathlu 50 mlynedd ers gosod y garreg sylfaen yn ein safle yn Abertawe. Mae moduro wedi newid yn arwyddocaol dros y degawdau dilynol gyda chynnydd enfawr yn y nifer o bobl a cherbydau ar ein ffyrdd.
Rydym wedi addasu bob amser i’r dirwedd newidiol hon i ateb ein cyfrifoldeb craidd i sicrhau bod y gyrwyr a cherbydau cywir ar y ffyrdd ac i gasglu treth car (gwerth £7 biliwn bob blwyddyn yn awr). Mae’r strategaeth dair blynedd hon yn amlinellu sut y byddwn yn parhau i ateb y cyfrifoldebau hynny yn y dyfodol mewn byd sy’n newid yn gyflym.
Mae effaith y pandemig ar ein gweithrediadau wrth reswm wedi dylanwadu ar y strategaeth dair blynedd hon, wrth ystyried y gwasanaethau rydym yn eu cynnig a’r ffordd rydym yn delio â’n cwsmeriaid. Byddwn yn parhau i gyflymu ehangu a mireinio’n gwasanaethau digidol, gan gynnwys gweithio i sicrhau’r newidiadau deddfwriaethol fydd eu hangen i symud at ddarparu trwyddedau gyrru digidol.
Mae ein cofrestrau o 49 miliwn o ddeiliaid trwydded yrru a 40 miliwn o berchnogion cerbydau yn aros wrth graidd ein gwaith a byddwn yn canolbwyntio ar ddefnyddio’r data sydd gennym i wella’r ffordd rydym yn gweithio a’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig. Mae gennym berthynas â gyrwyr trwy gydol eu hoes yrru gyfan, sydd i’r rhan fwyaf yn rhychwantu degawdau ac rydym am wneud pob rhyngweithrediad cwsmer â ni mor syml a llyfn â phosibl, fel y mae eisoes i’r rhan fwyaf.
Rydym wedi ymrwymo i wella’n gwasanaethau yn barhaus i’n holl gwsmeriaid ledled y DU ac mae hynny’n brif ffocws i’r strategaeth hon.
Bydd hyn yn golygu gwelliannau i dechnoleg yn ogystal â data fydd yn ei dro yn dod â newidiadau i gwsmeriaid yn ogystal ag i’n staff. Ein nod yw darparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid a gwerth da i drethdalwyr, a dyfodol cynaliadwy i DVLA yma yn Abertawe. Bydd y strategaeth hon yn ein helpu i gyflawni ar yr uchelgeisiau hynny.
Julie Lennard Prif Weithredwr DVLA
2. Cyflwyniad
Ein nod yw bod yn ganolfan i wasanaethau moduro. Mae sgiliau a gallu ein staff a graddfa ein gweithredu yn golygu ein bod mewn lle da i ddarparu nid yn unig i’r Adran Drafnidiaeth ond ar draws llywodraeth yn ogystal. Ein nod o hyd yw darparu gwasanaethau dibynadwy, cyfeillgar i ddefnyddwyr sy’n hawdd i’w defnyddio a hefyd yn darparu gwerth am arian i drethdalwyr. Mae’n systemau wedi’u cynllunio i ddarparu ar gyfer niferoedd mawr ac ar hyn o bryd mae’n cadw cofnodion o fwy na 49 miliwn o ddeiliaid trwydded yrru a 40 miliwn o gerbydau.
Rydym yn prosesu miliynau o drafodion pob mis wrth i fodurwyr lwyddo mewn profion gyrru, ildio trwyddedau, derbyn neu ildio pwyntiau cosb gan y llysoedd, bod ag angen cardiau tacograff neu ddatblygu cyflyrau meddygol sy’n gallu cael effaith ar eu gallu i yrru. Mae perchnogion cerbydau a chwmnïau yn prynu neu werthu ceir, cofrestru ar gyfer platiau masnach, mewnforio, allforio neu sgrapio cerbydau, newid eu henwau neu gyfeiriad pan fyddant yn symud swyddfeydd neu gartref neu brynu a defnyddio platiau rhif personoledig. Mae’r ystod eang o wasanaethau rydym yn eu cynnig yn cyffwrdd bron bob aelwyd a llawer o fusnesau yn y DU.
Yn y blynyddoedd diweddar rydym wedi bod yn mynd trwy newid radical i symud o fod yn sefydliad wedi’i seilio i raddau helaeth ar bapur i un llwyr ddigidol mwy neu lai. Mae cyflawni’n llawn ar hyn i gwsmeriaid yn ogystal â staff yn ymrwymiad tymor hir a’n hymagwedd ar y daith hon fydd darparu gwasanaethau digidol ar raddfa fawr o hyd bydd yn caniatáu mwy o ddewis i’n cwsmeriaid mewn sut a phryd y byddant yn delio â ni. Y mwyaf o bobl fydd yn newid i ddefnyddio’n gwasanaethau digidol, yr isaf fydd ein hôl troed carbon, gan y byddwn yn lleihau’r swm o bapur y byddwn yn ei argraffu a’i anfon ledled y DU. Byddwn yn gweithio gyda busnesau, gan gynnwys y diwydiant moduro ac eraill, i ddatblygu gwasanaethau ymhellach mewn ffyrdd fydd yn helpu i ateb eu hanghenion.
Ein hanes blaenorol a’n cyflawniadau hyd yn hyn fydd y sylfaen ar gyfer y tair blynedd nesaf o Ebrill 2021 i Fawrth 2024 a thu hwnt. Byddwn yn lleoli ein hunain ar gyfer dyfodol sy’n newid ac yn buddsoddi mewn gwasanaethau newydd a gwell fydd yn gwneud pethau’n symlach a gwell i fodurwyr, busnesau a llywodraeth yn ehangach, yn ogystal ag i’n staff. Mae newidiadau i ddemograffeg yn golygu ein bod yn gweld cynnydd yn y nifer o geisiadau gan yrwyr â chyflyrau meddygol.
Mae’r rhain yn gynyddol gymhleth a byddant yn gofyn am newidiadau sylweddol yn y ffordd rydym yn delio â hwy. Mae graddfa a chyflymder y newid yn tyfu’n gyflym ac mae technoleg yn dod â buddion gwirioneddol yn nhermau awtomeiddio helaethach a’r gallu i ddefnyddio tanwyddau glanach. Bydd lleihau effaith carbon ar yr amgylchedd yn brif ganolbwynt, fel y bydd gwella’n defnydd o ddata i wella yn ei dro a phersonoleiddio’n gwasanaethau ymhellach. Byddwn yn sicrhau ein bod yn hyblyg yn nhermau ein gwasanaethau yn ogystal ag yn ein hymagwedd, er mwyn i ni allu parhau i ddarparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid a gwerth am arian i drethdalwyr.
2.1 DVLA mewn rhifau
Pob blwyddyn, rydym yn:
- ymateb i dros 600,000 o e-byst a sgyrsiau gwe
- dosbarthu mwy na 10 miliwn trwydded yrru
- dosbarthu bron 13 miliwn o dystysgrifau cofrestru
- ateb mwy na 18 miliwn o alwadau ffôn
- delio â dros 1 biliwn o ymholiadau ar-lein
- casglu £7 biliwn mewn treth cerbydau
3. Nodau strategol
Mae technoleg moduron yn newid yn gyflym ac fel y ganolfan foduro, rydym yn anelu at fod ar y blaen wrth i wasanaethau newydd ddod yn angenrheidiol i gynorthwyo blaenoriaethau llywodraeth a datblygiadau technolegol, wrth i’r DU ffurfio perthnasoedd newydd yn dilyn ein hymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd.
Bydd ein gwasanaethau pen i ben wedi’u cynllunio o gwmpas helpu ateb anghenion cwsmeriaid a byddwn yn sicrhau y bydd gan ein staff y sgiliau i ddarparu ar yr ymrwymiadau hynny.
-
Byddwn yn gwsmer canolog yn y ffordd y byddwn yn darparu’n gwasanaethau. Byddwn yn datblygu ein gwasanaethau o gwmpas helpu ateb anghenion cwsmeriaid, yn unigolion, busnesau neu sefydliadau sector cyhoeddus eraill. Byddwn yn gweithio tuag at leihau osgoi treth car ymhellach trwy ei gwneud mor syml â phosibl i fodurwyr gydymffurfio â’r gyfraith.
-
Byddwn yn cadarnhau ein safle fel sefydliad dynamig, digidol sy’n darparu gwasanaethau o ansawdd uchel, arloesol a diogel trwy ddyluniad. Dros y tair blynedd nesaf byddwn yn blaenoriaethu ailddatblygu’n gwasanaethau gyrwyr i sicrhau eu bod hyd yn oed yn fwy hyblyg ac ymatebol ac yn addas i ddyfodol sy’n newid. Byddwn yn cyflwyno trwydded yrru ddigidol i ddarpar yrwyr ac yn dechrau adeiladu cyfleuster cyfrif cwsmeriaid yn ogystal. Bydd hyn yn rhoi mynediad personoledig, hawdd a diogel yn y pen draw at ystod o wasanaethau i’n cwsmeriaid ac yn rhoi rhagor o ddewis iddynt mewn sut y byddant yn gwneud busnes â ni. Bydd ein gwasanaethau yn ddiogel, graddadwy a chydnerth a byddwn yn parhau i archwilio ac ehangu’r defnydd o dechnolegau sy’n codi.
-
Byddwn yn cael ein gyrru gan ddata i wneud y defnydd gorau o’r wybodaeth sydd gennym. Byddwn yn diogelu data personol ein cwsmeriaid bob amser. Rydym am i’n data fod yn safonedig a hawdd cysylltu â hwy, a byddwn yn canolbwyntio ar ddefnyddio data i wella’n gwasanaethau er budd ein cwsmeriaid. Byddwn yn dryloyw yn ein hymagwedd at ddefnyddio data. Rydym am i gwsmeriaid a busnesau ei chael hi’n haws i gyrchu gwybodaeth am eu hunain, ynghyd ag esboniad o sut mae’n cael ei defnyddio. Byddwn yn sefydlu gweithrediad gwyddor data i’n galluogi i wella’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig a’r ffordd rydym yn gweithio. Byddwn yn manteisio ar hyn i gynorthwyo datblygiadau mewn technoleg, ymladd yr erbyn twyll, yr ymgyrch tuag at ddadgarboneiddio a’r agenda amgylcheddol ehangach.
-
Byddwn yn parhau i fod yn lle gwych i weithio. Byddwn yn buddsoddi yn ein pobl ledled DVLA i ddarparu’r ystod o sgiliau a gwybodaeth fydd eu hangen arnynt i addasu i’r dirwedd gwaith sy’n newid, yn enwedig wrth i ni ddefnyddio awtomeiddio helaethach. Byddwn hefyd yn adeiladu ar y gwaith rydym wedi’i wneud eisoes i gynyddu’n gallu digidol a data a sgiliau mewnol. Byddwn yn datblygu cynlluniau gyda darparwyr addysg lleol i sicrhau ein bod yn helpu i adeiladu’r economi sgiliau digidol lleol ac wrth wneud hynny’r genhedlaeth bresennol a’r un nesaf o weithwyr DVLA. Byddwn yn datblygu sgiliau ein harweinyddion trwy barhau i gyflwyno’n rhaglen ddatblygu, er mwyn i ni allu gosod gweledigaeth gymhellgar ar gyfer y dyfodol ac arwain ein pobl trwy’r newidiadau o’n blaenau. Byddwn yn cynnal ein pwyslais ar greu amgylchedd gwaith cynaliadwy ac yn adeiladu hyblygrwydd ar gyfer y dyfodol. Rydym yn awyddus i allu manteisio ar y cyfleoedd fydd yn codi gan ddefnyddio ein gallu a chapasiti llawn yma yn Abertawe. Trwy gadw gweithlu uchel ei gymhelliad, cynhyrchiol, a hyblyg, byddwn yn gallu delio a chymhlethdodau dyfodol newidiol ac un sy’n cael ei yrru’n gynyddol gan dechnoleg.
3.1 Cwsmer canolog
Ein nod yw sicrhau ein bod yn cael gyrwyr a cherbydau ar y ffordd mor gyflym a mor ddiogel â phosibl.
Arhosodd ein gwasanaethau digidol ar gael yn llawn yn ystod y pandemig COVID-19 a chynigiodd wasanaeth llyfn i gwsmeriaid. Fodd bynnag, roedd heriau i’r cwsmeriaid hynny sydd ddim yn gallu neu’n gyndyn i gynnal busnes â ni ar-lein a byddwn yn gweithio i wneud taith y cwsmeriaid mor syml ag y gallwn ar draws hyd yn oed rhagor o’n gwasanaethau.
Rydym yn deall bod rhaid i’n cwsmeriaid ddelio â ni er mwyn iddynt gydymffurfio â’r gyfraith, yn unigolion, busnesau neu sefydliadau eraill. Fodd bynnag, bydd gennym yr un meddylfryd a phe byddai’n cwsmeriaid yn gallu ‘pleidleisio â’u traed’ a mynd i rywle arall. Mae darparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid yn ganolog i’n llwyddiant ac wrth graidd popeth rydym yn ei wneud.
Byddwn yn meincnodi’n hunain yn erbyn sefydliadau tebyg i sicrhau ein bod yn aros yn orau yn y dosbarth a byddwn yn ceisio achrediad annibynnol lle’n berthnasol. Rydym yn anelu at fod yn y pum sefydliad sector cyhoeddus uchaf ar gyfer gwasanaeth cwsmeriaid ac i gadw’r Safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid, yn ogystal â’r Safon Cymdeithas Cysylltu â Chwsmeriaid Byd-eang.
Rydym yn anelu at wneud cynnal busnes â ni mor llyfn â phosibl. Byddwn yn cynllunio, adeiladu a defnyddio gwasanaethau amlsianel sy’n cael eu gyrru gan anghenion cwsmeriaid. Byddwn yn parhau i ddefnyddio’n labordy profiad defnyddwyr i sicrhau bod anghenion cwsmeriaid yn cael eu hadeiladu i mewn i gynllun ein gwasanaethau o’r camau cynharaf.
Rydym am ddarparu’r gwasanaethau sydd eu heisiau ar ein cwsmeriaid mewn ffordd sydd ei heisiau arnynt, yn fodurwyr unigol, cyrff corfforaethol neu sefydliadau sector cyhoeddus eraill. Byddwn yn parhau i weithio gyda sefydliadau perthnasol, gan gynnwys ein fforwm elusennau a chyrff y diwydiant moduro, i sicrhau ein bod yn ystyried anghenion ehangach ein cwsmeriaid.
Byddwn yn moderneiddio’r sianelau mae cwsmeriaid yn gallu eu defnyddio i gyfathrebu â ni, yn enwedig trwy ein canolfan gyswllt amlsianel, gan ddefnyddio gwesgyrsiau a sgwrsfotiaid mwy. Byddwn yn gwella’n gwasanaethau’n barhaus ac yn rhoi rhagor o ddewis i’n cwsmeriaid mewn sut maen nhw’n cynnal busnes â ni. Gyda llawer o filiynau o drafodion bob blwyddyn, rydym yn sylweddoli y bydd achlysuron pan fydd pethau’n mynd o’u lle. Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn anelu at drin y cwsmer mwy fel unigolyn ac yn llai fel ‘achos’ dienw i’w ddatrys. Byddwn yn gweithio i gywiro camgymeriadau ac i ddysgu gwersi hefyd i’n helpu i wella’n barhaus.
Mae cadw’r lefel o osgoi treth car yn isel yn aros yn un o’n prif flaenoriaethau. Gyda 98.4% o gydymffurfiaeth, byddwn yn ceisio parhau’r duedd honno ar i fyny mewn cydymffurfiaeth hyd yn oed ymhellach, gan gydnabod yr heriau ychwanegol o’r ansicrwydd economaidd sy’n deillio o effaith y pandemig. Byddwn yn parhau i adolygu’n gweithgareddau a phrosesau i’w gwneud mor hawdd â phosibl i’n cwsmeriaid gydymffurfio â’r gyfraith a gweithredu’n effeithiol yn erbyn y rheini sydd ddim yn gwneud hynny.
3.2 Sefydliad dynamig, digidol
Byddwn yn parhau i gyflymu ailgynllunio ac ail-lwyfanu ein gwasanaethau, gan adeiladu ar sylfeini’r hyn rydym wedi’i ddarparu’n barod a bod yn uchelgeisiol am y dyfodol. Galluogodd y gwaith arloesol a gwblhawyd yn barod a sgiliau a gallu ein staff ddatblygiad cyflym gwasanaethau newydd ar-lein mewn ymateb i’r pandemig COVID-19 ac rydym yn bwriadu parhau â’r momentwm hwnnw wrth symud ymlaen.
Rydym am i’n gwasanaethau fod yn hawdd i’w defnyddio, yn ddiogel eu cynllun, graddadwy a chydnerth. Rydym wedi sefydlu’n dda ar y ffordd hon gyda’n gwasanaeth newydd ‘cofrestru cerbyd’ i wneuthurwyr a gwerthwyr, yn ogystal â’n gwasanaethau cofrestru trelar a thacograffau ar-lein. Roedd y rhain oll yn gamau allweddol mewn newid sut rydym yn adeiladu a datblygu gwasanaethau tirwedd technegol newydd, gan ddefnyddio cydrannau ailddefnyddiadwy er mwyn i ni allu ymateb yn gyflymach ac yn fwy effeithiol i anghenion newidiol defnyddwyr.
Mae hon yn strategaeth dymor hir fydd yn cymryd amser i’w darparu’n llawn a’n blaenoriaeth yn y cynllun strategol hwn fydd ailddatblygu’n gwasanaethau gyrwyr. Bydd hyn yn cynnwys gwella’r broses ddigidol o geisio am drwydded yrru dros dro yn ogystal â cheisiadau eraill am drwydded yrru a bwriadu cyflwyno trwydded yrru dros dro ddigidol. Byddwn yn parhau i ddatblygu gwasanaethau digidol gan feddwl am y profiad pen i ben i gwsmeriaid a’i gwneud hi mor hawdd â phosibl i gynnal busnes â ni.
Bydd ein ffocws ar gwsmeriaid yn caniatáu i bobl ddefnyddio ffyrdd gwahanol o brofi eu hunaniaeth, yn ogystal â chyflwyno ffyrdd newydd ac arloesol o gyrchu ein gwasanaethau, gan gynnwys ar ddyfeisiau symudol.
Byddwn yn parhau i esblygu’n gwasanaethau gan ddefnyddio pensaernïaeth ddigidol a thechnoleg newydd wrth i ni symud i ffwrdd o hen systemau a pharhau i gofleidio ymagwedd cwmwl yn gyntaf, API. Bydd hyn yn ein galluogi i ddarparu set o wasanaethau sy’n fwy fforddiadwy, hyblyg ac ymatebol i’r newidiadau y bydd eu hangen arnom ar gyfer y dyfodol.
Yn hanesyddol, mae cofnodion gyrwyr a cherbydau wedi bod ar wahân. Rydym yn gwybod bod cwsmeriaid am weld eu gwybodaeth mewn un lle, yn gofnod gyrwyr eu hunain neu gofnod eu cerbyd. Rydym wedi lansio cyfrifon cwsmeriaid o fewn ein gwasanaeth cofrestru trelar a byddwn yn adeiladu ar hyn ac yn datblygu cyfrifon cwsmeriaid ar draws ein gwasanaethau gyrwyr a cherbydau.
Bydd hyn yn galluogi personoleiddio helaethach o’n gwasanaethau ac yn darparu mynediad hawdd a diogel i gwsmeriaid atynt. Byddwn yn sicrhau y bydd ein prosesau dilysu yn hawdd a diogel i gwsmeriaid eu defnyddio. Yn y pen draw bydd hyn yn caniatáu i gwsmeriaid reoli’n helaethach y ffordd maen nhw’n cynnal busnes â ni.
Ein bwriad yw adeiladu gwasanaethau sy’n ddigidol trwy ddymuniad – gyda gwasanaethau digidol sydd mor dda y bydd pobl yn dewis eu defnyddio, gan wneud eu trafodion yn gyflymach, symlach ac ag ôl troed carbon is. Fodd bynnag, ni fyddwn yn sefydliad digidol yn unig, fel bod y rheini sydd ddim yn gallu mynd ar-lein yn dal i allu cynnal busnes â ni mewn ffyrdd eraill.
3.3 Wedi’n gyrru gan ddata
Rydym mewn sefyllfa unigryw gan ein bod yn cadw data ar bob gyrrwr trwy gydol ei oes yrru lawn, yn ogystal â phob cerbyd. Rydym yn gweithredu ar raddfa, ac felly o reidrwydd, rydym yn cadw swm mawr o ddata.
Cafodd pwysigrwydd y data sydd gennym ei amlygu yn ystod y pandemig gan ei fod yn hollbwysig wrth gynorthwyo CThEM a DWP yn eu hymatebion i’r argyfwng. Bydd yr angen am rannu data ar draws llywodraeth yn ehangach lle mae’n gyfreithlon a phriodol i wneud hynny yn hanfodol dros gyfnod tair blynedd y strategaeth hon.
Ein blaenoriaeth yw a bydd dal i ddiogelu’r data sydd gennym bob amser. Bydd ein gwasanaethau yn ddiogel trwy gynllun a bydd ein diwylliant yn sicrhau bod ein cyfrifoldeb i ddiogelu data, yn enwedig data personol, wrth graidd y sefydliad.
Rydym am i ddata fod yn fformat safonedig a bod modd cysylltu â hwy mewn dolen. Bydd yr amgylchedd TG modern, hyblyg rydym yn ei adeiladu ar gyfer y dyfodol yn caniatáu i ni fod yn barod i gipio data fydd yn cael eu cynhyrchu gan dechnolegau newydd, er enghraifft mewn perthynas â cherbydau cysylltiedig ac awtonomaidd. Bydd yn ein galluogi i adolygu pa ddata fydd angen eu cipio a’u cofnodi ar dystysgrifau cofrestru cerbyd wrth i fathau gwahanol o gerbydau (fel cerbydau awtonomaidd neu drydan) ddod ar gael yn ehangach.
Mae materion gwyrdd yn flaenoriaeth. Byddwn yn helpu’r DU i arwain mewn arloesedd ynghylch dadgarboneiddio, gan ganolbwyntio ar sut mae pobl yn defnyddio ein ffyrdd er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd a gwella ansawdd aer. Rydym yn disgwyl gweld newidiadau arwyddocaol yn y mathau o gerbydau y bydd modurwyr yn dewis eu gyrru. Bydd ein harbenigedd mewn rheoli gwybodaeth yn caniatáu i ni adweithio’n gyflym i ofynion i gasglu data newydd ac i fod yn gallu defnyddio’r data hynny, lle’n briodol.
Byddwn yn ymgymryd â rheoli’r gwasanaeth parthau aer glân y bydd y llywodraeth yn ei ddarparu i awdurdodau lleol, cyn gynted â’i fod wedi’i sefydlu gan yr Uned Ansawdd Aer ar y Cyd. Byddwn yn parhau i ddefnyddio’n data i ategu’r newidiadau sydd eu hangen i wella ansawdd aer. Mae cerbydau trydan yn rhan allweddol o’r economi carbon isel ac mae eu poblogrwydd yn tyfu. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Swyddfa ar gyfer Cerbydau Allyriadau Isel i helpu llunio a rhedeg gwasanaethau perthnasol ar eu rhan.
Byddwn yn sefydlu gweithrediad gwyddor data i gynorthwyo gwneud penderfyniadau a’n galluogi i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn defnyddio’r data sydd gennym yn well i ddarparu buddion i’n cwsmeriaid a threthdalwyr. Ein blaenoriaethau ar gyfer ein gweithrediad gwyddor data fydd defnyddio’r data sydd gennym i atal trafodion gyrwyr neu gerbydau twyllodrus ac i fanteisio ar fuddion ehangach.
Byddwn yn amddiffyn cywirdeb a chyfrinachedd y data sydd gennym bob amser ond byddwn hefyd yn eu rhannu lle bo angen ac mae’r gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny. Mae rhannu data mewn ffordd reoledig yn gallu cynorthwyo gwelliannau gwasanaeth ac yn gallu dod â buddion i unigolion, y cyhoedd yn ehangach a llywodraeth. Er bod y rhesymau y byddwn yn rhannu data personol yn gyfyngedig, rydym yn gallu rhannu data sydd ddim yn bersonol am gerbydau yn ehangach. Rydym ni, a byddwn ni’n dryloyw ynglŷn â sut rydym yn rhannu data.
Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r data sydd gennym i’n galluogi ni i ddatblygu gwasanaethau o ansawdd uchel gyda rhannau eraill o lywodraeth lle’n briodol. Er enghraifft, byddwn yn gweithio gyda Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlys Ei Mawrhydi i ddarparu newidiadau fydd yn moderneiddio’r ffordd rydym yn gweithio gyda’n gilydd a sut rydym yn trosglwyddo data’n ddiogel, gan ddarparu buddion arwyddocaol, gan gynnwys arbedion cost, i’r ddau sefydliad.
3.4 Lle gwych i weithio
Fel un o’r cyflogwyr mwyaf yn Ne Cymru, rydym yn cydnabod ein bod yn chwarae rôl fawr yn yr economi leol. Rydym yn falch o fod wedi’n lleoli yn Abertawe ac i fuddsoddi yn sgiliau ein cymuned leol.
Rydym wedi dangos ein bod yn hyblyg yn sut a ble rydym yn gweithio a’n bod yn gallu ymateb yn gyflym i amgylchiadau sy’n newid yn gyflym. O ystyried natur y gwaith rydym yn ei wneud a’r data sydd gennym, bydd angen pobl ar y safle arnom o hyd i brosesu ceisiadau penodol a chynnal gwasanaethau penodol. Fodd bynnag, mae’r pandemig wedi dangos bod niferoedd mawr o bobl yn gallu gweithio’n effeithiol o bell, gan gynnig rhagor o hyblygrwydd ynghylch sut byddwn yn defnyddio’n hystâd yn y dyfodol. Byddwn yn adeiladu ar sut y gwnaethom ymateb i’r pandemig, gan gynnwys sut rydym yn defnyddio’n gweithrediad parhad busnes i reoli risgiau newydd yn ogystal â rhai parhaus.
Rydym am i DVLA fod yn lle gwych a chynhwysol i weithio ac i gynnig swyddi o ansawdd da, sy’n rhoi boddhad i’r bobl dalentog sy’n dymuno gweithio yma. Byddwn yn adeiladu ar y cynnydd rydym wedi’i wneud mewn creu gweithlu amrywiol sy’n gynrychioladol o’n hamgylchedd allanol, gan gynnwys cynyddu menywod mewn rolau TG a gyrru’r agenda symudoledd cymdeithasol. Bydd gweithlu brwdfrydig, ymrwymedig a hyblyg iawn yn sicrhau ein bod yn gynhyrchiol ac wedi’n harfogi’n well i wynebu’r heriau o’n blaenau.
Mae gan bob unigolyn sy’n gweithio yn DVLA rôl allweddol i’w chwarae wrth ein helpu i gyflawni’n nodau yn y strategaeth hon, beth bynnag y bo’u rôl. Wrth i ni newid ein hamgylchedd TG i fod yn fwy hyblyg a graddadwy, mae’r swyddi rydym yn eu cynnig yn debygol o newid. Rydym am i’n staff feddu ar lawer o sgiliau, i sicrhau bod ein pobl mor hyblyg â’r dechnoleg y byddant yn ei defnyddio.
Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn TG a gallu digidol. Byddwn yn manteisio ar ein Canolfan Rhagoriaeth Ddigidol sy’n anelu at recriwtio a datblygu talent, gan gynnwys mewn datblygu meddalwedd, seibr ddiogelwch a gwasanaethau cwmwl. Rydym am i Abertawe fod y lle gorau yng Nghymru i ddechrau neu ddatblygu gyrfa mewn digidol, data a thechnoleg. Byddwn yn parhau i weithio’n agos ag ysgolion, colegau, prifysgolion lleol a sefydliadau eraill i helpu adeiladu’r economi sgiliau digidol lleol a’r genhedlaeth bresennol a’r un nesaf o weithwyr DVLA.
Byddwn yn cynnal ein hymrwymiad i iechyd a llesiant staff a byddwn yn parhau i fuddsoddi yn y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ein staff ar draws pob proffesiwn wrth i’w rolau ddatblygu. Byddwn yn uwchsgilio staff i ymgymryd â heriau newydd ac yn sicrhau bod ganddynt yr offer sydd eu hangen arnynt, a byddwn yn ymgysylltu ac ymgynghori â staff wrth i ofynion arnom newid. Fel rhan o’n nod i fod yn ganolfan foduro i’r llywodraeth, byddwn yn edrych bob amser ar fwyafu’r capasiti a gallu sydd gennym yn barod, trwy ddatblygu ein gwasanaethau ein hunain neu trwy weithio gydag eraill.
Byddwn yn buddsoddi yn ein safle yn Abertawe ac yn gwneud dadgarboneiddio yn rhan greiddiol o’n cynllunio ystadau. Bydd hyn yn cynnwys archwilio cyfleoedd i ddarparu cynhyrchu ynni cynaliadwy ar ystâd DVLA. Byddwn yn ymdrechu i gynyddu’r nifer o’n cerbydau allyriadau isel iawn ein hunain a byddwn yn mwy na dyblu’r nifer o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ar draws ein safleoedd fydd ar gael i staff ac ymwelwyr. Byddwn yn parhau i wneud y defnydd mwyaf effeithlon o’n hystâd ac yn adeiladu ar ein cynnydd mewn creu amgylchedd gwaith modern, hyblyg, addas i bwrpas yn unol ag egwyddorion gweithio clyfrach y llywodraeth.
Rydym hefyd yn cydnabod y rôl rydym yn ei chwarae yn ein cymuned leol a’r pwysigrwydd o gael gweithlu sy’n gynrychioladol o’r gymuned honno. Byddwn yn parhau i gynorthwyo cyfleoedd gwirfoddoli (er enghraifft, llysgenhadon STEM mewn clybiau cod mewn ysgolion) yn ogystal â’n rhaglen Llysgennad i gyrraedd grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu a sicrhau ein bod yn gynhwysol yn ein hymagwedd. Byddwn yn parhau i gael dewis elusen wedi’i dewis gan staff DVLA bob blwyddyn. Ers i’r cynllun hwn redeg, mae staff DVLA wedi codi mwy na £300,000 i elusennau.
4. Ein dull
4.1 Ein dull o weithredu’r strategaeth hon
Mae ein cynllun strategol tair blynedd yn amlinellu’r weledigaeth drosfwaol ar gyfer yr hyn rydym am ei gyflawni yn y tair blynedd hynny. Ar ddechrau pob blwyddyn ariannol byddwn yn cyhoeddi cynllun busnes fydd yn amlinellu sut y byddwn yn darparu’r strategaeth trwy gerrig milltir a thargedau penodol.
4.2 Llywodraethiant
Mae’n bwysig fod DVLA yn gallu cyflawni’r amcanion a osodwyd gan y strategaeth hon a darparu sicrwydd hefyd i Weinidogion, yr Adran Drafnidiaeth, rhanddeiliaid a’r cyhoedd ein bod yn gwneud hynny.
Wrth galon ein llywodraethiant corfforaethol, mae gan DVLA Fwrdd Cynghori wedi’i arwain gan Gadeirydd Anweithredol annibynnol. Mae’r Prif Weithredwr, sydd hefyd yn Swyddog Cadw Cyfrifon DVLA, a chyfarwyddwyr gweithredol yr asiantaeth yn gwasanaethu fel aelodau. Mae tri chyfarwyddwr anweithredol annibynnol hefyd a’u rôl yw herio, darparu arolygiaeth a helpu i lunio cyfeiriad strategol y DVLA, pob un â set sgiliau perthnasol wedi’i magu o rolau uwch yn y sectorau preifat neu gyhoeddus.
4.3 Cyfrifol yn ariannol
Bydd darparu gwerth am arian i drethdalwyr a llywodraeth yn ffocws creiddiol i ni bob amser. Golygodd y gostyngiadau arwyddocaol a chynaliadwy a gyflawnwyd ein bod wedi mynd y tu hwnt i’n hymrwymiad Adolygiad Gwariant trwy leihau gwariant blynyddol tebyg am debyg yn 2019/20 o £108 miliwn (21%), o gymharu â gwaelodlin 2015/16.
Gwnaethom gyflawni hyn yn benodol trwy ostyngiadau mawr mewn costau TG trwy ddod â gwasanaethau yn fewnol ac aildrafod contractau eraill a thrwyddedau i ateb anghenion busnes oedd yn newid. Mae cyflwyno gwasanaethau ar-lein newydd a defnydd cynyddol o wasanaethau digidol sy’n bodoli yn helpu i leihau ein costau presennol.
Rydym yn adolygu ein ffïoedd yn rheolaidd ac yn trosglwyddo’r effeithlonrwydd i gwsmeriaid a threthdalwyr lle gallwn. Mae gennym ffïoedd gostyngol ar gyfer trwyddedau gyrru a chardiau tacograff, gyda gostyngiad uwch i geisiadau ar-lein. Gwnaethom ddileu hefyd y ffi ar gyfer cadw rhif cofrestru personoledig. Byddwn yn parhau i adolygu’n costau a ffïoedd i annog defnydd cynyddol o’n gwasanaethau digidol, gan leihau ein costau a’n hôl troed carbon.
Byddwn yn cynnal rheolaethau ariannol llym wrth i ni ddarparu ein gwasanaethau newydd a buddsoddi mewn gwella rhai sy’n bodoli. Ochr yn ochr â chasglu £7 biliwn o dreth cerbydau bob blwyddyn, byddwn yn parhau i gynhyrchu twf refeniw ac incwm i’r llywodraeth trwy werthu a throsglwyddo rhifau cofrestru personoledig.
4.4 Ein pobl
Wrth i ni gadw rheolaethau tyn ar niferoedd ein gweithlu, rydym yn parhau i fod yn barod i weld swyddi newydd yn cael eu creu lle bydd cyfleoedd trawslywodraeth, wedi’u cyllido’n allanol yn codi. Byddwn yn buddsoddi mewn technoleg newydd, gan gynnwys awtomeiddio gweithdrefn robotig, i awtomeiddio rhai o’r tasgau mwy cyffredin.
Bydd hyn yn rhyddhau amser staff i gwblhau tasgau mwy cymhleth ac wedi’u canolbwyntio ar gwsmeriaid. Byddwn yn defnyddio’n cynllun gweithlu strategol i sicrhau ein bod yn gallu adnabod y rolau a sgiliau sydd eu hangen arnom ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn ein galluogi i gael gweithlu hyblyg ac ystwyth sy’n gallu ateb anghenion newidiol ein busnes a’n staff.
4.5 Gweithio ar draws llywodraeth
Ein blaenoriaeth o hyd bydd ein swyddogaethau craidd o gadw a chynnal cofrestrau cywir o yrwyr a cherbydau a chasglu £7 biliwn o Dreth Car bob blwyddyn. Fodd bynnag, rydym hefyd yn darparu gwasanaethau i adrannau eraill o’r llywodraeth, gan gynnwys cynhyrchu cardiau preswylio biometrig i’r Swyddfa Gartref, gwasanaethau argraffu a phostio i GDS Notify, a rhedeg gwasanaethau ar ran y Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel.
Rydym hefyd yn cynnig arbenigedd masnachol trwy ddarparu gwasanaethau rheoledig, gan gynnwys mewn caffael TG, i’r Adran Drafnidiaeth. Mae hyn yn caniatáu i ni ddarparu arbedion ac effeithlonrwydd i adrannau eraill o’r llywodraeth tra’n mwyafu ein capasiti a’n gallu ein hunan. Byddwn yn parhau i fod yn agored i gyfleoedd yn y maes hwn lle mae capasiti yn caniatáu wrth i’n busnes newid.