Canllawiau

Rhifyn mis Gorffennaf 2024 o Fwletin y Cyflogwr

Cyhoeddwyd 10 July 2024

Rhagarweiniad

Yn rhifyn y mis hwn o Fwletin y Cyflogwr, mae diweddariadau a gwybodaeth bwysig am y canlynol: 

TWE

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid 

Cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt

Mae egwyddorion cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt yn amlinellu ein hymrwymiad i helpu cwsmeriaid yn ôl eu hanghenion, ac maent yn tanategu Siarter CThEF.

Dysgwch sut i gael help, ac am y cymorth ychwanegol sydd ar gael.

TWE

Ad-daliadau cyfrifiad treth ar gyfer cwsmeriaid TWE 

Mae CThEF yn newid y ffordd y mae’n ad-dalu’r rhan fwyaf o’i gwsmeriaid TWE (Talu Wrth Ennill) sy’n gymwys i hawlio eu had-daliad ar-lein. 

Ar hyn o bryd, mae unrhyw gyflogeion sy’n cael llythyr cyfrifiad treth ac nad ydynt yn hawlio’r ad-daliad ar-lein yn cael siec yn awtomatig ar ôl 21 diwrnod. O 31 Mai 2024 ymlaen, ni fydd sieciau’n cael eu hanfon yn awtomatig mwyach. Yn hytrach, bydd angen i gwsmeriaid gymryd camau i gael eu had-daliad.

Gall cwsmeriaid hawlio eu had-daliadau yn gordaliadau a thandaliadau treth. Byddant hefyd yn gallu gofyn am siec drwy’r broses hon os yw’n well ganddynt. Bydd cyfarwyddiadau ar sut i wneud cais ar gael pan fyddant yn cael eu llythyr cyfrifiad treth. Bydd hyn yn cynnwys llwybrau amgen i gwsmeriaid na allant hawlio eu had-daliad ar-lein.

Cyfrifiadau Cytundeb Setliad TWE 2023 i 2024

Os oes gennych Gytundeb Setliad TWE ar gyfer 2023 i 2024, mae’n rhaid talu unrhyw dreth ac Yswiriant Gwladol erbyn 22 Hydref 2024 os ydych yn talu’n electronig ac erbyn 19 Hydref 2024 os ydych yn talu drwy’r post. I wneud hyn mae angen i chi gyflwyno’ch cyfrifiadau yn gyntaf.

Os byddwch yn talu eich PSA heb gyflwyno cyfrifiadau, mae’n golygu na allwn wirio beth yw’r taliad neu a yw’n gywir.

Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw ar-lein. Mae’r gwasanaeth ‘Rhoi gwybod i CThEF am werth eitemau sydd wedi’u cynnwys yn eich Cytundeb Setliad TWE yn wasanaeth i gyflogwyr gyflwyno eu cyfrifiadau blynyddol ar-lein. Bydd hyn yn pennu swm y dreth ac Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B sy’n ddyledus ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024.  

Er mwyn cyflwyno’ch cyfrifiadau bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich cyfeirnod TWE’r cyflogwr

  • blwyddyn dreth eich cyfrifiad PSA — bydd yn rhaid i chi anfon cyfrifiad, hyd yn oed os yw’n ddatganiad ‘dim’

  • y math o dreuliau a buddiannau — dim ond y rhai sydd wedi’u cynnwys yn y PSA y dylech roi gwybod amdanynt

  • nifer y cyflogeion sy’n cael pob cost neu fuddiant, gan gynnwys unrhyw gyflogeion sy’n ennill llai na’r lwfans treth personol

  • y gyfradd dreth gywir ar gyfer pob cyflogai

Unwaith y bydd eich cyfrifiad yn cael ei brosesu, bydd CThEF yn rhoi slip cyflog yn awtomatig yn cadarnhau’r swm sy’n ddyledus sydd hefyd yn cynnwys eich cyfeirnod talu. 

Ni fydd eich rhwymedigaeth a’ch taliad PSA ar gael i’w gweld ar eich Cyfrif Treth Busnes. 

Mae rhagor o wybodaeth am Cytundebau Setliad TWE (yn agor tudalen Saesneg) ar gael a gellir dod o hyd i gymorth ychwanegol gyda’r fideos ar-lein PSA canlynol (yn agor tudalen Saesneg).

Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio — help gyda ffioedd asiantau pêl-droed a chontractau cynrychiolaeth ddeuol

Yn ddiweddar, mae CThEF wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer cydymffurfio (GfC) — Help gyda ffioedd asiantau pêl-droed a chontractau cynrychiolaeth ddeuol (yn agor tudalen Saesneg)

Mae’r canllawiau hyn wedi’u hanelu at holl glybiau pêl-droed, asiantau, chwaraewyr a staff hyfforddi yn y DU. Maent yn nodi safbwynt CThEF o’r sefyllfa dreth pan fydd asiant yn cynrychioli clwb a chwaraewr yn ystod trosglwyddiad neu drafodaethau contract. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘cynrychiolaeth ddeuol’.

Mae’r canllawiau yn gynnyrch ymarferol i gwsmeriaid gyfeirio ato. Dylech eu darllen ochr yn ochr â chanllawiau presennol Football clubs: payments to intermediaries (yn agor tudalen Saesneg).

Y canllawiau:

  • nodi barn CThEF ar gontractau cynrychiolaeth ddeuol 

  • helpu clybiau, chwaraewyr ac asiantau i leihau eu risg cydymffurfiad 

  • manylu tystiolaeth a dogfennau y dylai cwsmeriaid eu cadw i gefnogi unrhyw sefyllfa dreth 

  • egluro barn CThEF am reoliadau asiant pêl-droed diweddaraf yr FA a gyhoeddwyd ar 1 Ionawr 2024

  • nodi unrhyw rwymedigaethau adrodd drwy’r gyflogres  

Mae rhagor o wybodaeth ar sut mae Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio yn eich helpu gyda threth (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.

Gweithredu’r gyflogres: gwybodaeth amser real ar gyfer gweithio oddi ar y gyflogres (IR35)

Mae’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres wedi bod ar waith ers sawl blwyddyn. Cyflwynwyd y rheolau i sicrhau bod unigolion sy’n gweithio trwy gyfryngwr fel Cwmni Gwasanaeth Personol yn talu tua’r un dreth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol â chyflogeion eraill sy’n gweithio mewn ffordd debyg.

Pan fydd unigolyn yn cael ei gyflogi drwy gyfryngwr, symudodd y cyfrifoldeb dros benderfynu a yw’r rheolau’n berthnasol i sefydliadau’r sector cyhoeddus o fis Ebrill 2017 ymlaen a sefydliadau canolig a mawr o fis Ebrill 2021 ymlaen. Pan fydd y rheolau’n berthnasol, mae’r unigolyn yn cael ei ystyried yn gyflogai.

Os mai chi yw’r cyflogwr, dylech ychwanegu’r cyflogai at eich cyflogres bresennol fel unrhyw weithiwr cychwynnol arall, neu os yw’n well gennych, gallwch sefydlu cyflogres newydd yn benodol ar gyfer cyflogeion. Dylid cadw cofnod o unrhyw daliadau, yn ogystal â’r symiau o Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol a ddidynnir, y mae’n rhaid rhoi gwybod i CThEF o dan Wybodaeth Amser Real (RTI) gan ddefnyddio Cyflwyniad Taliadau Llawn. 

Wrth redeg y gyflogres, dylid gosod baner RTI (y cyfeirir ati weithiau fel y marciwr gweithiwr oddi ar y gyflogres) i ddangos bod yr unigolyn yn weithiwr oddi ar y gyflogres. Mae hyn yn sicrhau bod yr ymgysylltiad yn cael ei drin yn gywir at ddibenion treth a’i fod yn adlewyrchu’r dyfarniad statws a ddarperir i’r gweithiwr. Mae’n bwysig defnyddio’r faner RTI yn gywir oherwydd ei fod yn helpu i sicrhau bod y sefyllfa dreth flynyddol derfynol ar gyfer pob unigolyn yn gywir, heb fod angen unrhyw gysoni. 

Ni ddylai cyflogwyr wneud didyniadau ar gyfer ad-daliadau benthyciad myfyrwyr neu ôl-raddedig o daliadau a wneir i’w cyflogeion. Mae’r cyflogeion yn gyfrifol am wneud yr ad-daliadau benthyciad hyn trwy eu Ffurflenni Treth Hunanasesiad eu hunain ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am bwy sy’n cael ei effeithio gan y rheolau gweithio oddi ar y gyflogres o fis Ebrill 2021 ymlaen (yn agor tudalen Saesneg).

Mae arweiniad ychwanegol ynghylch gweithredu TWE o fewn y rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.

Rhoi Trwy’r Gyflogres

Mae’r DU yn un o’r gwledydd mwyaf hael yn y byd, gyda mwy na dwy ran o dair ohonom yn rhoi i elusen yn rheolaidd a £12.7 biliwn yn cael ei roi gan y cyhoedd yn 2022.

Mae Rhoi Trwy’r Gyflogres yn rhoi cyfle i’ch cyflogeion gefnogi elusennau a chael rhyddhad rhag treth am eu cyfraniad cyfan, tra’n eich galluogi i hyrwyddo’ch cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol. Rhoddir rhyddhad treth i gyflogai sy’n rhoi arian yn rheolaidd drwy ddidyniad uniongyrchol o’i gyflog. Mae’r gefnogaeth y mae’ch cyflogeion yn ei darparu i’r elusennau o’u dewis yn galluogi’r elusennau hynny i wneud cynlluniau a chanolbwyntio ar eu hamcanion.  

Mae lefel y rhyddhad treth a roddir yn dibynnu ar y gyfradd y trethir yr unigolyn arni, ond mae’r cyflogai yn cadw’r holl ryddhad ar gyfer rhodd. 

Os nad oes gennych gynllun wedi’i sefydlu’n barod, bydd angen i chi gysylltu ag asiantaeth Rhoi Trwy’r Gyflogres gymeradwy (yn agor tudalen Saesneg) a fydd yn rhoi contract i chi sy’n nodi manylion y cynllun, ynghyd â’r holl ffurflenni angenrheidiol i weithredu’r cynllun.

Gellir dod o hyd i ragor o arweiniad ym Mhennod 4: Rhoi Trwy’r Gyflogres (yn agor tudalen Saesneg).

Rhoi gwybod am gyflogau cynnar, pan fo’r rhain yn daliadau o enillion ar gyfrif

Mae’r erthygl hon yn ymwneud â threfniadau cyflogau cynnar rhwng cyflogwr a chyflogai, sy’n caniatáu i gyflogeion dderbyn rhywfaint o’r cyflog maent wedi’i ennill cyn eu diwrnod cyflog arferol. Gall cyflogwyr hefyd wneud trefniadau tebyg drwy drydydd parti. Yn aml, cyfeirir at y trefniadau hyn fel Trefniadau Cyflogau Cynnar.  

Yn rhifyn 100 Bwletin y Cyflogwyr ym mis Chwefror 2023, crynhodd CThEF y sefyllfa ddeddfwriaethol bryd hynny a’i fwriad i ddiwygio is-ddeddfwriaeth fel bod yn rhaid rhoi gwybod am gyflog cynnar gyda gweddill cyflog y cyflogai ar neu cyn diwrnod cyflog contractiol y cyflogai.  

Mae CThEF bellach wedi diwygio’r ddeddfwriaeth ar gyfer cyflogwyr y mae eu cyflogeion yn cael cyflogau cynnar naill ai’n uniongyrchol gan y cyflogwr neu drwy drydydd parti. Pan fo’r ddeddfwriaeth ddiwygiedig yn berthnasol, ni ddylai cyflogwyr roi gwybod am gyflog cynnar i system Gwybodaeth Amser Real (RTI) CThEF hyd nes y telir gweddill y rhandaliad cyflog. Mae hyn yn golygu mai dim ond un adroddiad RTI y bydd CThEF yn ei ddisgwyl ar gyfer pob cyfnod cyflog.

Mae’r diwygiadau’n berthnasol pan fodlonir amodau penodol sy’n ymwneud â’r cyflog cynnar.

Mae’r amodau hyn fel a ganlyn:

  • fel arfer, telir cyflog y cyflogai ar gyfnodau rheolaidd o rhwng wythnos ac un mis ac mae’r cyflogwr yn talu rhan o’r cyflog ymlaen llaw

  • mae’r cyflog cynnar yn rhesymol yn cynrychioli gwaith a wnaed neu rwymedigaethau a gyflawnir gan y cyflogai o dan ei gontract gyda’r cyflogwr ac nid oes taliad perthnasol arall am y gwaith hwn wedi’i wneud

  • mae’r cyflogwr yn gwneud taliad perthnasol rheolaidd i’r cyflogai ar y diwrnod cyflog rheolaidd ar ôl i’r taliad ymlaen llaw gael ei wneud, dylai leihau’r taliad perthnasol rheolaidd gan swm y cyflog cynnar ymlaen llaw

Daeth y ddeddfwriaeth hon i rym o 6 Ebrill 2024 ymlaen. 

Mae’r rhwymedigaethau adrodd yn parhau gyda’r cyflogwr lle mae darparwr cynllun trydydd parti yn gweithredu ar ran y cyflogwr. 

Mae mathau eraill o gyflogau cynnar yn bodoli, gan gynnwys blaensymiau hirdymor, a wneir yn aml at ddibenion penodol megis prynu beic, tocynnau tymor, neu gostau symud. Nid yw’r rhain yn cael eu hystyried yn daliadau o enillion ar gyfrif, felly maent y tu allan i gwmpas yr erthygl hon. Mae CWG2 1.8.1 Advance of Salary — Real Time Information (RTI) reporting (yn agor tudalen Saesneg) yn cynnig arweiniad pellach.   

P11D a P11Db ar gyfer y flwyddyn dreth 2023 i 2024

Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno P11D a P11D(b) a thalu   

Erbyn 6 Gorffennaf 2024, dylech fod wedi rhoi gwybod i ni ar-lein am unrhyw Gyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) Dosbarth 1A sy’n ddyledus gennych ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n dod i ben ar 5 Ebrill 2024. Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, mae angen i chi eu cyflwyno heb oedi gan y gallai methu â gwneud hynny arwain at gosb.

Mae’n rhaid i unrhyw Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch ein cyrraedd erbyn 22 Gorffennaf 2024.

Mae hefyd yn bwysig eich bod yn llenwi’ch P11Ds yn gywir y tro cyntaf. Os byddwch yn gwneud camgymeriad, mae’n rhaid i chi nawr lenwi’r ffurflen ddiwygio P11D ar-lein i newid y cyflwyniadau anghywir. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn dreuliau a buddiannau ar gyfer cyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg)

Mae yna nifer o weminarau byw ar gael sy’n cwmpasu cyflwyno’ch ffurflenni P11D a P11D (b) (yn agor tudalen Saesneg). Mae arweiniad pellach ar sut i lenwi Ffurflen P11D a P11Db ar gael.   

Ers 6 Ebrill 2023, mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch ffurflenni P11D a P11D(b) ar-lein.

Sut i gyflwyno ffurflenni P11D a P11D(b) ar-lein  

Gallwch ddefnyddio’r dulliau ar-lein cyflym a hawdd canlynol: 

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch holl ffurflenni P11D a P11D(b) gyda’i gilydd, mewn un cyflwyniad ar-lein.  

Yr hyn i’w gyflwyno  

Os ydych wedi talu unrhyw fuddiannau a/neu dreuliau nad ydynt wedi’u heithrio, neu os ydych wedi talu unrhyw fuddiannau drwy’r gyflogres, bydd angen i chi gyflwyno ffurflen P11D(b). Cofiwch gynnwys cyfanswm y buddiannau sy’n agored i CYG Dosbarth 1A, hyd yn oed os ydych wedi trethu rhai ohonynt — neu bob un — drwy gyflogau’ch cyflogeion.  

Defnyddir y P11D(b) i roi gwybod am rwymedigaeth cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A unrhyw gyflogwr.   

Mae angen i chi gyflwyno ffurflen P11D ar gyfer pob cyflogai sy’n cael buddiannau a threuliau nad ydynt wedi’u heithrio, oni bai eich bod wedi cofrestru gyda ni ar-lein cyn 6 Ebrill 2023 i’w trethu trwy’ch cyflogres. Os na wnaethoch gofrestru ar-lein ond yna aethoch ymlaen i drethu rhai buddiannau — neu bob un — drwy’ch cyflogres, mae’n dal i fod yn rhaid i chi gyflwyno ffurflen P11D ar-lein ar gyfer yr holl fuddiannau na chawsant eu talu drwy’r gyflogres.

Os nad ydych eisoes wedi cofrestru ar-lein i dalu’ch buddiannau cwmni drwy’r gyflogres, efallai yr hoffech wneud hynny nawr, cyn blwyddyn dreth 2025 i 2026. Bydd hyn yn golygu na fydd angen i chi anfon ffurflenni P11D mwyach, os gallwch dalu’ch holl fuddiannau drwy’r gyflogres.    

O 6 Ebrill 2023 ymlaen, nid yw CThEF yn derbyn trefniadau talu drwy’r gyflogres yn anffurfiol. 

Dim byd i’w ddatgan

Mae ond angen i chi wneud datganiad os yw CThEF wedi gofyn i chi gyflwyno P11D(b) ac nad oes gennych unrhyw beth i’w ddatgan. 

Does dim angen i chi roi gwybod i ni nad oes angen i chi gyflwyno ffurflen P11D(b), oni bai ein bod wedi anfon hysbysiad i gyflwyno ffurflen P11D(b) atoch yn electronig neu lythyr yn eich atgoffa i gyflwyno ffurflen P11D(b). Gallwch ddatgan nad ydych yn cyflwyno ffurflen cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A (yn agor tudalen Saesneg)

Camgymeriadau cyffredin wrth gwblhau ffurflen P11D neu P11D (b) 

Dyma gamgymeriadau cyffredin i fod yn wyliadwrus ohonynt:   

  • peidiwch â rhoi ‘6 Ebrill 2023’ fel y dyddiad dechrau na ‘5 Ebrill 2024’ fel y dyddiad dod i ben ar gyfer eich ceir cwmni, oni bai mai dyna’n union beth oedd y dyddiadau pan wnaeth eich cyflogai gael neu ddychwelyd car cwmni 

  • mae’n rhaid cyflwyno’ch ffurflenni P11D a P11D(b) gyda’i gilydd — ni allwch gyflwyno ar draws sawl diwrnod — dylech gwblhau pob ffurflen P11D a’ch P11D(b) cyn eu cyflwyno

  • wrth roi gwybod am gar sy’n gwbl drydanol, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynnwys y ffigur allyriadau CO2 cymeradwy wrth roi gwybod am gar hybrid gyda ffigur allyriadau CO2 cymeradwy rhwng 1 a 50 g/km, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynnwys y milltiroedd allyriadau sero cymeradwy    

  • anfonwch un ffurflen P11D(b) yn unig fesul cynllun, a dangoswch y cyfanswm sy’n ddyledus. Peidiwch ag anfon ffurflenni ar wahân ar gyfer cyflogeion a chyfarwyddwyr, gan ein bod yn trin pob ffurflen P11D(b) wahanol fel diwygiad i unrhyw ffurflen sydd eisoes wedi ein cyrraedd    

Gwiriwch y ffurflen P11D(b) i weld a oes angen i chi ddefnyddio’r adran ‘addasiadau’.

Cyfrifiannell Treth Car Cwmni

Mae’r fersiwn newydd o’r Cyfrifiannell Treth Car Cwmni (yn agor tudalen Saesneg) ar gael. Ar gyfer unrhyw newidiadau car sydd gan gyflogai o fewn y Flwyddyn Dreth, mae’n rhaid cyflwyno ffurflen Car P46

Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A 

Mae’n rhaid i daliadau drwy ddull electronig, ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd wedi’u datgan ar eich ffurflen P11D(b) ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2024, glirio i mewn i gyfrif CThEF erbyn 22 Gorffennaf 2024. 

Defnyddio cyfeirnod cywir y taliad wrth dalu CYG Dosbarth 1A

Gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn cael ei ddyrannu’n gywir drwy roi’r cyfeirnod talu cywir.

Defnyddiwch eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, wedi’i ddilyn gan 2413. Ni ddylai’r cyfeirnod gynnwys unrhyw fylchau rhwng cymeriadau.

Mae’n bwysig ychwanegu 2413 oherwydd bod ‘24’ yn dangos bod y taliad ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2024, ac mae ‘13’ yn dangos bod y taliad ar gyfer CYG Dosbarth 1A.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i dalu eich Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar gael.  

Gwella’r gwasanaeth Amser i Dalu drwy Hunanwasanaeth ar gyfer cwsmeriaid TWE a TAW

Mae CThEF yn darparu gwelliannau i’w wasanaethau ar-lein i helpu i’w gwneud yn haws i gwsmeriaid TAW a TWE dalu’r hyn sy’n ddyledus ganddynt.  

Lle nad yw cwsmeriaid yn gallu talu eu bil TAW neu TWE yn llawn, efallai y gallwn helpu drwy sefydlu trefniant Amser i Dalu. Dyma le fydd cwsmer yn talu’r hyn sydd arno mewn rhandaliadau misol fforddiadwy.  

Ers diwedd y llynedd, rydym wedi cynyddu gofynion cymhwystra ar gyfer y ddau wasanaeth ar-lein. Mae hyn yn golygu bod mwy o gwsmeriaid bellach yn gallu eu defnyddio.

Gallwch fynd ar-lein i drefnu cynllun talu ar gyfer TWE y Cyflogwr os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych wedi methu’r dyddiad cau i dalu bil TWE y Cyflogwr

  • rydych wedi cofrestru ar gyfer gwasanaethau digidol

  • mae arnoch £50,000 neu lai

  • mae gennych ddyledion sy’n 5 blynedd oed neu lai

  • nid oes gennych unrhyw gynlluniau talu na dyledion eraill gyda CThEF

  • rydych wedi anfon unrhyw gyflwyniadau TWE y cyflogwr a datganiadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) erbyn y dyddiadau cau

Gallwch fynd ar-lein i drefnu cynllun talu TAW os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych wedi methu’r dyddiad cau i dalu bil TAW

  • mae arnoch £50,000 neu lai

  • mae gennych ddyled am gyfnod cyfrifyddu a ddechreuodd yn 2023 neu’n hwyrach

  • nid oes gennych unrhyw gynlluniau talu na dyledion eraill gyda CThEF

  • rydych wedi cyflwyno’ch holl Ffurflenni TAW

Ni allwch drefnu cynllun talu TAW ar-lein os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod, y Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol, neu os ydych yn gwneud taliadau ar gyfrif.

Mae helpu cwsmeriaid i hunan-wasanaethu drwy ein sianeli digidol yn lleihau galwadau i’n llinell gymorth, gan ein galluogi i roi cymorth i fwy o gwsmeriaid.  

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad

Newid i drothwy Hunanasesiad   

Ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024, bydd y trothwy Hunanasesiad ar gyfer cwsmeriaid sy’n cael eu trethu drwy TWE yn unig, yn newid o £100,000 i £150,000.    

Dylai cwsmeriaid wedi cael llythyr yn cadarnhau nad oes angen iddynt lenwi Ffurflen Dreth os gwnaethant gyflwyno Ffurflen Dreth 2022 i 2023 yn dangos incwm rhwng £100,000 a £150,000 sy’n cael ei drethu drwy TWE ac nad ydynt yn bodloni unrhyw un o’r meini prawf eraill ar gyfer Hunanasesiad. 

Bydd rhaid i gwsmeriaid gyflwyno Ffurflen Dreth o hyd ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024, a’r blynyddoedd treth wedi hynny, os bydd eu hincwm a drethwyd trwy TWE o dan £150,000, ond maent yn bodloni un o’r meini prawf eraill, er enghraifft:

  • maent yn cael unrhyw incwm heb ei drethu dros £2,500 

  • maent yn bartner mewn partneriaeth fusnes  

  • maent yn gorfod talu’r Tâl Incwm Uchel Budd-dal Plant 

  • maent yn hunangyflogedig gydag incwm gros dros £1,000 

O flwyddyn dreth 2024 i 2025 ymlaen, bydd y trothwy incwm i lenwi Ffurflen Dreth ar gyfer trethdalwyr TWE yn unig yn cael ei ddileu. Bydd yn dal yn ofynnol i gwsmeriaid gyflwyno Ffurflen Dreth os ydynt yn bodloni unrhyw un o’r meini prawf eraill a restrir uchod.  

Gallwch wirio a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad trwy’r offeryn ar-lein.

Spotlight 64 — rhybudd i asiantaethau cyflogaeth sy’n defnyddio cwmnïau ambarél

Mae CThEF yn ymwybodol o rai cwmnïau ambarél sy’n defnyddio asiantaethau cyflogaeth a recriwtio i hyrwyddo eu cynlluniau arbed treth.

Mae rhybudd am asiantaethau cyflogaeth sy’n defnyddio cwmnïau ambarél (Spotlight 64) yn amlygu arwyddion y dylai asiantaethau cyflogaeth a recriwtio cadw llygad amdanynt a allai ddangos bod cwmni ambarél yn gweithredu cynllun arbed treth.

Fel busnes, mae angen i chi fod yn ymwybodol o beryglon posibl cwmnïau ambarél sy’n gweithredu cynlluniau arbed treth. Mae Spotlight 64 yn manylu ar risgiau posibl i fusnesau sy’n defnyddio cwmnïau ambarél nad ydynt yn cydymffurfio, mae’r rhain yn cynnwys cosbau posibl a difrod i enw da.

Mae Spotlight 64 hefyd yn amlinellu’r camau y gall busnesau eu cymryd i ddiogelu eu hunain a’u gweithwyr. Mae gwybodaeth bellach ar sut i leihau’ch risg o ddefnyddio cwmni ambarél sy’n gweithredu cynllun arbed treth (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.

Os ydych yn amau nad yw cwmni ambarél yn cydymffurfio â’r rheolau treth, gallwch roi gwybod i CThEF.

Diwygio’r Cyfnod Sail — adrodd ar sail blwyddyn dreth

O fis Ebrill 2024 ymlaen, os ydych yn hunangyflogedig neu mewn partneriaeth masnachu, bydd yn rhaid i chi roi gwybod am eich elw ar sail blwyddyn dreth. 

Os nad ydych eisoes yn gwneud hynny, bydd angen i chi ddatgan eich elw o ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu blaenorol yn 2022 i 2023 hyd at 5 Ebrill 2024. Bydd unrhyw elw ychwanegol, ar ôl rhyddhad gorgyffwrdd yn elw trosiannol. Yn ddiofyn, dim ond dros y 5 mlynedd nesaf y bydd angen i chi dalu hyn, gan gynnwys 2023 i 2024. Bydd cyfnodau cyfrifyddu sy’n dod i ben ar 31 Mawrth bellach yn cael eu trin fel rhai sy’n cyfateb i’r rhai sy’n dod i ben ar 5 Ebrill.

Er mwyn eich helpu i gyfrifo’ch rhyddhad gorgyffwrdd a’ch elw trosiannol, gwyliwch fideo ar ddiwygio’r cyfnod sail.

Cael help gyda diwygio’r cyfnod sail (symud i’r sail blwyddyn dreth newydd)(yn agor tudalen Saesneg).

Rydym hefyd wedi lansio pecyn llawn o arweiniad rhyngweithiol ar-lein i gefnogi cwblhau’r ffurflen a chyfrifo elw trosiannol (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer yr achosion hyn. Nid yw unrhyw ffigurau a gofnodir yn yr arweiniad rhyngweithiol yn rhan o’r ffurflen ei hun, mae yno i arwain cwblhau’r blychau ar y Ffurflen Dreth.

Gellir lleihau’r elw a dynnir yn ystod blwyddyn dreth 2023 i 2024 gan unrhyw ryddhad gorgyffwrdd sy’n cael ei roi ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad 2023 i 2024. Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein i gael eich ffigur rhyddhad gorgyffwrdd (yn agor tudalen Saesneg).

Mae arweiniad a chymorth pellach ar ddiwygio’r cyfnod sail (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid

Gwarantau ar Sail Cyflogaeth — dyddiad cau ar gyfer cyflwyno datganiad diwedd blwyddyn ar gyfer cynlluniau cyfranddaliadau cyflogeion

Mae rhoddion a dyfarniadau o gyfranddaliadau mewn cwmnïau, a elwir yn aml yn Warantau Ar Sail Cyflogaeth (ERS), yn cael eu defnyddio’n aml gan gyflogwyr i wobrwyo, cadw neu roi cymelliadau i gyflogeion.

Os ydych yn gweithredu cynllun ERS, mae’n rhaid i chi gyflwyno datganiad ERS diwedd blwyddyn, gan gynnwys datganiadau ‘dim’ (lle nad oes gennych unrhyw beth i’w ddatgan). Mae’n rhaid i chi wneud hyn ar gyfer pob cynllun sydd wedi’i gofrestru ar wasanaeth ERS ar-lein yn erbyn eich cynllun TWE.

Ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024, bydd rhaid i chi gyflwyno datganiad ERS diwedd blwyddyn ar neu cyn 6 Gorffennaf 2024.

Os byddwch yn methu’r dyddiad cau, bydd cosb am gyflwyno’n hwyr o £100 yn cael ei hanfon i gyfeiriad y cyfrif TWE cysylltiedig.

Bydd cosbau awtomatig ychwanegol o £300 yn cael eu codi os nad ydych wedi cyflwyno’r datganiad cyn pen tri mis ar ôl y dyddiad cau gwreiddiol, sef 6 Gorffennaf 2024. Bydd cosb arall o £300 yn cael ei chodi os yw’n dal yn ddyledus chwe mis ar ôl y dyddiad hwn.

Bydd disgrifiad o’r tâl ar gyfer cosbau sy’n ymwneud â chynlluniau cyfranddaliadau cyflogeion yn cyfeirio at warantau ar Sail Cyflogaeth.

Os byddwch yn apelio yn erbyn cosb am gyflwyno datganiad ERS yn hwyr, bydd rhaid cyflwyno datganiad diwedd blwyddyn o hyd i osgoi cosbau pellach.

Er mwyn cyflwyno datganiad diwedd blwyddyn, mae’n rhaid eich bod eisoes wedi cofrestru’ch cynllun ar wasanaeth ERS ar-lein (yn agor tudalen Saesneg). I gofrestru, mae angen cyfeirnod TWE y cyflogwr arnoch. 

Os yw cynllun wedi’i gofrestru ar gam, neu os nad yw’n gweithredu mwyach, bydd rhaid dod â’r cynllun i ben ar-lein. Ni all asiant wneud hyn, dim ond y cyflogwr all ddod â’r cynllun i ben ar-lein.

Mae angen i gynllun ERS fod yn gysylltiedig â chynllun TWE y Cyflogwr byw. Os ydych yn cau eich cynllun TWE, mae’n bosibl y bydd angen i chi hefyd rhoi’r gorau i’ch cynllun ERS (yn agor tudalen Saesneg).  

Unwaith y daw cynllun i ben, bydd rhaid cyflwyno datganiad blynyddol o hyd ar gyfer y flwyddyn dreth y mae dyddiad y digwyddiad olaf yn syrthio ynddi.

Fformat HTML Bwletin y Cyflogwr

Ers mis Medi 2020, mae’n rhaid i ddeunydd a gyhoeddir ar GOV.UK neu ar wefannau eraill y sector cyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd (yn agor tudalen Saesneg). Mae hyn er mwyn sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl eu defnyddio, gan gynnwys y sawl sydd â’r canlynol:

  • nam ar eu golwg

  • anawsterau echddygol

  • anawsterau gwybyddol neu anableddau dysgu

  • trymder clyw neu nam ar eu clyw

Erbyn hyn mae tudalen gynnwys, gyda chysylltiadau, ac mae modd sgrolio drwy’r dudalen yn llwyr. Mae’r erthyglau wedi’u rhoi mewn categorïau o dan benawdau, a hynny yn y Rhagarweiniad, er mwyn ei gwneud yn haws dod o hyd i’r diweddariadau a’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

Mae’r fformat HTML yn caniatáu i chi wneud y canlynol (yn dibynnu ar eich porwr gwe):

  • argraffu’r ddogfen pe baech yn dymuno cadw ffeil ar bapur:

    • dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ o dan y rhestr cynnwys a gallwch argraffu’r ddogfen ar eich argraffydd lleol
  • i gadw’r ddogfen fel PDF:

    • dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ a, chan ddefnyddio’r gwymplen ar yr argraffydd, dewis ‘Argraffu i PDF’ — sy’n caniatáu i chi gadw’r ddogfen fel PDF a’i ffeilio ar ffurf electronig
    • ar ddyfais symudol, gallwch ddewis y botwm ar gyfer rhagor o opsiynau, yna dewiswch yr opsiynau i allu cadw fel PDF

Cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y diweddaraf am newidiadau drwy gofrestru i gael ein negeseuon e-bost hysbysu (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch hefyd ein dilyn ar X (Twitter) @HMRCgovuk (yn agor tudalen Saesneg).

Anfonwch eich adborth am y Bwletin hwn, neu rhowch wybod am erthyglau yr hoffech eu gweld, drwy anfon e-bost at sean.connolly@hmrc.gov.uk.