Canllawiau

Profiad Gwaith: Canllaw i gyflogwyr

Diweddarwyd 18 September 2024

1. Cyflwyniad

Os ydych yn fusnes ac â diddordeb mewn cefnogi pobl sy’n chwilio am waith, gallwch gynnig profiad gwaith drwy’r Ganolfan Byd Gwaith.

Mae profiad gwaith a drefnir gan y Ganolfan Byd Gwaith yn addas ar gyfer pobl sydd ag ychydig neu ddim hanes gwaith mewn sector penodol, os ydynt wedi gweithio o’r blaen neu beidio.

I bobl sydd heb hanes gwaith, fel pobl ifanc sy’n gadael addysg, mae diffyg dealltwriaeth o’r byd gwaith yn rhwystr sylweddol i ddod o hyd i waith a’i gadw. Mae’r Ganolfan Byd Gwaith eisiau gweithio gyda chi i gynnig cyfle i geiswyr gwaith oresgyn y rhwystr hwn trwy leoliadau profiad gwaith. Gall y cyfle i wneud gwaith go iawn ac addasu i arferion bywyd gwaith wella eu rhagolygon cyflogaeth yn sylweddol.

Gall cynnig profiad gwaith i bobl sydd heb hanes gwaith mewn sector penodol hefyd fod yn hynod effeithiol wrth gefnogi pobl i ddod o hyd i waith, yn enwedig os ydynt wedi bod i ffwrdd o’r gwaith ers peth amser. Gall ddatblygu neu adnewyddu eu sgiliau a’u helpu i fagu hyder, gan eu cefnogi i symud yn agosach at gyflogaeth. Efallai y byddant hefyd yn dod ag ystod o sgiliau a all gyfrannu’n gadarnhaol i’ch busnes.

Bydd pobl addas:

  • heb fawr ddim hanes gwaith perthnasol neu ddim yn meddu ar sgiliau penodol mewn sector

  • yn frwdfrydig ac yn dangos parodrwydd i weithio

  • gyda chymhelliant i gael profiad gwaith mewn sector sy’n newydd iddynt

Gall cynnig profiad gwaith i bobl o bob oed ddatblygu neu adnewyddu eu sgiliau a’u helpu i fagu hyder, gan eu cefnogi i symud yn agosach at gyflogaeth.

2. Pam ddylech chi gymryd rhan

Trwy helpu pobl i ennill profiad gwaith, gall eich busnes wir elwa, fel:

  • datblygu sgiliau goruchwylio a rheoli eich gweithlu presennol

  • gwella eich proffil cyhoeddus drwy gefnogi eich cymuned leol

  • cael mynediad i gronfa o dalent gudd – pobl sy’n cynnig brwdfrydedd a phersbectif ffres i’ch busnes

  • hyrwyddo amrywiaeth y gweithlu

3. Sut mae’n gweithio

Bydd profiad gwaith drwy’r Ganolfan Byd Gwaith yn galluogi pobl ddi-waith i wirfoddoli ar gyfer lleoliadau sy’n para rhwng 2 ac 8 wythnos. Bydd gwirfoddolwyr yn cael eu paru â chyflogwyr addas ac yn cwblhau proses ddethol cyffyrddiad ysgafn.

Byddwn yn parhau i dalu budd-daliadau’r sawl sy’n cymryd rhan a byddwn hefyd yn talu costau teithio a gofal plant os oes angen. Nid yw’r sawl sy’n cynnal y profiad gwaith yn talu’r sawl sy’n cymryd rhan a gallai gwneud hynny effeithio ar eu hawl i fudd-dal.

Gall y sawl sy’n cymryd rhan sydd wedi treulio hyd at 8 wythnos mewn cyfle profiad gwaith gael eu hymestyn hyd at 4 wythnos lle mae cyflogwr yn gwneud cynnig eu cymryd ymlaen fel prentisiaeth.

4. Dod yn rhywun sy’n cynnal profiad gwaith drwy’r Ganolfan Byd Gwaith

Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnig profiad gwaith, cwblhewch y ffurflen ymholiad ar-lein. Gallwch ei ddarganfod yn yr adran gyswllt ar Cymorth i recriwtwyr gan y Ganolfan Byd Gwaith: Cyngor a chymorth gyda recriwtio

Fel arall, cysylltwch â’r Llinell Gwasanaethau Cyflogwyr ar 0800 169 0178. Byddant yn trefnu cyfarfod i drafod sut y gallwch weithio gyda ni.

Rydym am i chi fod yn arloesol a chynnig lleoliadau sy’n rhoi cipolwg go iawn ar amgylchedd gwaith. Gall cyflogwyr o bob maint, mewn unrhyw sector, gynnig profiad gwaith cyn belled â’u bod yn bodloni’r telerau a’r amodau a nodir yn y cytundeb â’r Ganolfan Byd Gwaith.

Rydym hefyd yn hapus i weithio gyda chyflogwyr sy’n gallu cynnig mwy nag un lleoliad a chyflogwyr mawr gyda nifer o ganghennau. Byddwn yn ymrwymo i gytundeb ar lefel genedlaethol, gan gwmpasu pob cangen, sy’n osgoi llofnodi cytundebau lluosog.

Ni fyddwn yn orchmynnol ynghylch strwythur lleoliadau nac yn gwneud i chi lenwi ffurflenni diangen a gwaith papur. Fodd bynnag, byddwn yn gofyn i chi:

  • gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol

  • darparu lleoliadau profiad gwaith sy’n addas ar gyfer pobl sydd ag ychydig neu ddim hanes gwaith

  • gwarantu bod lleoliadau yn ychwanegol at swyddi gwag presennol neu rai sydd wedi’u cynllunio ac nad oes neb wedi cael eu diswyddo er mwyn gallu cynnig y lleoliad

  • caniatáu i’r sawl sy’n cymryd rhan ymgymryd â gweithgaredd chwilio am waith rhesymol a mynychu cyfweliadau â darpar gyflogwyr

  • rhannu gwybodaeth am y sawl sy’n cymryd rhan gyda’r Ganolfan Byd Gwaith

  • rhoi geirda ac adborth i’r sawl sy’n cymryd rhan ar ddiwedd y lleoliad

Bydd y gofynion hyn yn cael eu cytuno rhyngoch chi a’r Ganolfan Byd Gwaith a’u cofnodi mewn cytundeb ysgrifenedig.

Bydd y cytundeb hwn hefyd yn esbonio’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gan y Ganolfan Byd Gwaith. Byddwn yn rhoi un pwynt cyswllt, cefnogaeth a chyngor i chi yn ôl yr angen.

5. Unwaith rydych yn cynnal profiad gwaith gyda’r Ganolfan Byd Gwaith

5.1 Cynllunio lleoliadau

Byddwn yn gofyn i chi gynllunio lleoliadau sy’n darparu cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau a chyflwyno arferion yr amgylchedd gwaith i’r sawl sy’n cymryd rhan.

Bydd angen i chi hefyd ystyried pwy yn eich busnes fydd yn gyfrifol am oruchwylio’r sawl sy’n cymryd rhan. Darllenwch fwy am reoli lleoliadau a chefnogi y sawl sy’n cymryd rhan.

Er mwyn ein helpu i baru pobl addas â’ch lleoliadau, byddwn yn gofyn i chi am rywfaint o wybodaeth am:

  • nifer y lleoliadau y gallwch eu cynnig

  • hyd y lleoliad (a all fod rhwng 2 ac 8 wythnos neu hyd at 12 wythnos pan fydd yn gysylltiedig â phrentisiaeth am hyd at 30 awr yr wythnos)

  • beth fydd y person sydd ar brofiad gwaith yn ei wneud

  • sut rydych am i ni gyfeirio pobl at eich lleoliad

5.2 Dewis y sawl sy’n cymryd rhan

Bydd angen i chi benderfynu pa rôl rydych chi am ei chwarae yn y broses ddethol. Mae dau opsiwn:

6. Gallwn rheoli’r dewis ar eich rhan

Mae hyn yn ei gwneud hi’n ddi drafferth i chi. Byddwn ond yn cyfeirio pobl sy’n addas, llawn cymhelliant sydd wedi dangos diddordeb yn y lleoliad rydych yn ei gynnig.

7. Gallwch gyfweld â nifer fach o ymgeiswyr addas rydym yn eu dewis

Rydym yn argymell defnyddio dulliau mwy anffurfiol i fesur brwdfrydedd ac ymrwymiad ymgeiswyr yn hytrach nag edrych ar eu cymwysterau academaidd neu gyflawniadau blaenorol. Byddem yn gofyn i chi roi adborth ar ymgeiswyr aflwyddiannus.

7.1 Rheoli lleoliadau

Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn paratoi’r sawl sy’n cymryd rhan ar gyfer lleoliadau cyn iddynt ddechrau. Bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn gwybod beth y gallant ei ddisgwyl gennych chi, eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau.

Byddwn yn rhoi gwybod iddynt am drefniadau ar gyfer hawlio costau teithio, cymorth i bobl anabl a chostau gofal plant. Serch hynny, awgrymwn eich bod yn darparu cyfnod sefydlu i’w helpu i ymgartrefu - o leiaf, bydd angen i chi siarad â nhw am iechyd a diogelwch yn eich gweithle. Cael mwy o awgrymiadau am ymgartrefu.

Mae perthynas gref rhwng y sawl sy’n cymryd rhan a’u goruchwylwyr yn hanfodol i sicrhau eu bod yn cael y gorau o’r lleoliad. Gallwch feithrin perthynas o’r fath drwy neilltuo goruchwyliwr i bob person sy’n cymryd rhan sydd â digon o amser yn eu hamserlen i’w hyfforddi, darparu adborth rheolaidd a bod yn bwynt cyswllt ar gyfer unrhyw bryderon.

Mewn achosion o absenoldebau anesboniadwy a chamymddwyn, gallwch gysylltu â’ch cyswllt Canolfan Byd Gwaith. Bydd eich cyswllt ar gael drwy gydol y lleoliad i gynnig cefnogaeth ac arweiniad.

Bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn parhau i chwilio am waith yn ystod eu lleoliad. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi ryddhau y sawl sy’n cymryd rhan i fynychu adolygiadau chwilio am waith yn y Ganolfan Byd Gwaith a chyfweliadau gyda darpar gyflogwyr.

Os oes gennych unrhyw bryderon am hyn, gallwch siarad â’ch cyswllt yn y Ganolfan Byd Gwaith.

8. Cefnogi’r sawl sy’n cymryd rhan

Yr egwyddor allweddol ar gyfer cefnogi’r sawl sy’n cymryd rhan yn ystod y lleoliad yw eu trin fel gweithwyr rheolaidd cyn belled ag y bo modd, ond cydnabod y gallai fod angen hyfforddiant a goruchwyliaeth ychwanegol arnynt, o ystyried eu diffyg profiad gwaith.

Isod fe welwch rai awgrymiadau am bethau yr hoffech eu hystyried wrth gynllunio’r lleoliad i’ch helpu chi a’r sawl sy’n cymryd rhan i gael y gorau o’r profiad.

Ymgartrefu

Bydd ymgartrefu da yn helpu’r sawl sy’n cymryd rhan i setlo yn yr amgylchedd gwaith a’ch busnes. Rydym yn argymell bod ymgartrefu’r sawl sy’n cymryd rhan yn adlewyrchu’n agos y rhai ar gyfer gweithwyr parhaol newydd fel eu bod yn cael syniad o sut brofiad fyddai bod yn ddechreuwr newydd go iawn. Fodd bynnag, gan y bydd y rhan fwyaf o’r sawl sy’n cymryd rhan yn gwbl newydd i fyd gwaith, efallai y bydd yn rhaid i chi ddarparu rhywfaint o hyfforddiant ychwanegol.

Byddai enghraifft dda o ymgartrefu yn cynnwys:

  • trefniadau adrodd rheoli

  • cyflwyniad i gydweithwyr

  • trosolwg o’ch busnes a’i werthoedd

  • taith o gwmpas y gweithle

  • arweiniad ar ddefnyddio unrhyw offer arbenigol

  • ymarferion gweithle safonol fel materion iechyd a diogelwch, gweithdrefnau diogelwch, cod gwisg, absenoldeb salwch a threfniadau absenoldeb, ac amseroedd egwyl 

Adborth rheolaidd a chyfweliadau ymadael

Bydd adborth adeiladol, gonest a chefnogol yn annog y sawl sy’n cymryd rhan i fyfyrio ar eu perfformiad, gwerthfawrogi eu cyflawniadau a nodi meysydd i’w gwella.

Efallai y byddai’n briodol gofyn i’r sawl sy’n cymryd rhan i gadw cofnod o’u cynnydd i’w helpu i atgyfnerthu eu dysgu. Byddai trafodaeth ar ddiwedd y lleoliad yn rhoi cyfle mwy ffurfiol i roi adborth terfynol a hefyd yn rhoi cyfle i chi ofyn i’r sawl sy’n cymryd rhan sut y gellid gwella lleoliadau yn y dyfodol.

Ar ddiwedd y profiad gwaith rydym yn eich annog i gwblhau y daflen sgiliau profiad gwaith. Gall y sawl sy’n cymryd rhan ddefnyddio hyn wrth ystyried eu hanghenion hyfforddi.

Byddwn yn gofyn i chi roi geirda i’r sawl sy’n cymryd rhan ar ddiwedd y lleoliad, y gallant ei ddefnyddio yn eu ceisiadau am swyddi yn y dyfodol. Gellir defnyddio’r templed cyfeirio profiad gwaith os dymunwch.

Os oes angen addasiadau yn y gweithle ar berson addas oherwydd eu hiechyd neu anabledd gall y cynllun Mynediad at Waith ariannu costau ychwanegol y sawl sy’n cymryd rhan.

Cymorth chwilio am waith

Yn ystod eu lleoliad, bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn parhau i chwilio am swyddi parhaol ac rydym yn gwybod y byddent yn gwerthfawrogi unrhyw gyngor y gallech ei gynnig. Gallai’r gefnogaeth hon fod ar sawl ffurf, gan gynnwys:

  • trafod eu dyheadau a’u cynlluniau gyrfa i wireddu eu nodau

  • rhoi mewnwelediad i yrfaoedd pobl yn eich busnes a’r llwybrau i’ch proffesiwn

  • cynnig cyngor ar lenwi ffurflenni cais, llythyrau eglurhaol a CVs

  • eu helpu i baratoi ar gyfer cyfweliadau

Mentora a chyfeillio

Mae llawer o sefydliadau sy’n cynnig profiad gwaith yn neilltuo mentoriaid neu gyfeillion sy’n gweithredu fel person i edrych i fyny arynt a ‘ffrind cyntaf’ yn y sefydliad.

Mae hon yn ffordd arbennig o effeithiol o leddfu trosglwyddiad pobl ifanc i’r byd gwaith. Dylai mentoriaid a chyfeillion fod yn wrandawyr da ac yn gallu uniaethu â phobl ifanc.

Cysgodi

Efallai y byddai’n ddefnyddiol i’r sawl sy’n cymryd rhan gysgodi gwahanol aelodau o staff i gael cipolwg ar yr amrywiaeth o rolau yn eich busnes. Nid cysgodi ddylai fod yr unig weithgaredd y mae’r sawl sy’n cymryd rhan yn ei wneud yn ystod y lleoliad - er mwyn cael cipolwg ar waith realistig, mae’n hanfodol eich bod yn rhoi cyfle i’r sawl sy’n cymryd rhan gymryd rhan mewn gweithgareddau go iawn yn y gwaith.

8.1 Beth mae’r sawl sy’n cymryd rhan yn y profiad gwaith yn ei elwa o’r lleoliad

Bydd yr holl bobl sy’n cymryd rhan yn profiad gwaith yn wirfoddolwyr sydd wedi dangos diddordeb gwirioneddol mewn ennill profiad gwaith gyda’ch busnes. Er na fydd ganddynt lawer neu ddim profiad gwaith neu efallai bod ganddynt sgiliau cyfyngedig yn eich sector, byddant yn frwdfrydig ac yn barod i ddysgu. Byddant yn defnyddio’r cyfle hwn i ddangos yr hyn y gallant ei gyflawni yn barod a bydd rhai o’r buddion iddynt yn cynnwys y canlynol:

  • ennill profiad o fynd i amgylchedd gwaith a dysgu am y gofynion a’r moesau sy’n gysylltiedig â gwaith o ddydd i ddydd

  • dysgu sgiliau newydd neu ddiweddaru sgiliau cyfredol i ddiwallu anghenion gweithle modern sy’n symud yn gyflym

  • meithrin hyder, cymhelliant a lles cyffredinol

  • llenwi eu CV â’r hyn y maent wedi’i ddysgu ac felly dangos eu hymrwymiad i ddod o hyd i waith i ddarpar gyflogwyr

  • gwell dealltwriaeth o’r farchnad swyddi fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus pan yn dod o hyd i waith

  • dangos parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd

  • symud yn agosach at hyfforddiant, prentisiaethau neu gyflogaeth

Bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn parhau i dderbyn eu budd-daliadau, fel Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith a byddant yn parhau i fod yn destun i amodau’r budd-dal.

Rydym yn gwybod bod cyswllt rheolaidd ag Anogwyr gwaith y Ganolfan Byd Gwaith yn bwysig iawn er mwyn annog ceiswyr gwaith i gymryd camau rhesymol i ddod o hyd i waith. Bydd cynnal y gofyniad presenoldeb yn helpu i gadw’r  sawl sy’n cymryd rhan wedi canolbwyntio ar chwilio am waith a dod o hyd iddo.

9. Gwybodaeth bellach

Mae mwy o wybodaeth am gynnal profiad gwaith ar gael ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Mae’n rhoi mwy o wybodaeth am ofynion cyflogwyr o ran iechyd a lles pobl ifanc.

Mae’r CIPD ‘Gwneud i brofiad gwaith weithio: Canllaw i Gyflogwyr’ yn rhoi mwy o wybodaeth ar sut i wneud y gorau o gyfle profiad gwaith.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnig profiad gwaith, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi eich anghenion recriwtio, cysylltwch â’r Llinell Gwasanaethau Cyflogwr. Gallant gynnig cyngor a byddant yn gallu eich cysylltu ag arbenigwr Canolfan Byd Gwaith lleol.

Gallwch gysylltu â’r Llinell Gwasanaethau Cyflogwyr gan ddefnyddio’r ffurflen ymholiadau ar-lein neu dros y ffôn.

Llinell Gwasanaethau Cyflogwyr 

Ffôn: 0800 169 0178 

Ffôn testun: 0800 169 0172 

Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gwasanaeth video relay os ydych ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled 

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm 

Darganfod am gostau galwadau