Research and analysis

Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros Becynwaith

Published 20 December 2024

1. Cyflwyniad

Mae’r ddogfen hon yn darparu ffioedd sylfaen enghreifftiol wedi’u diweddaru ar gyfer blwyddyn 1 cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros Becynwaith (pEPR). Mae’n ymwneud â ffioedd a gâi eu codi ar gynhyrchwyr y pecynwaith sydd o dan rwymedigaeth gan Weinyddwr y Cynllun. Nid yw’n cynnwys y canlynol:

  • ffioedd a thaliadau rheoleiddwyr a gâi eu talu i Gyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban ac Asiantaeth Amgylchedd Gogledd Iwerddon,
  • costau sy’n gysylltiedig â chyrraedd targedau ailgylchu pecynwaith e.e. drwy brynu Nodiadau Ailgylchu Gwastraff Pecynwaith.

Mae’r ffioedd sylfaen enghreifftiol hyn am y tro cyntaf yn dangos amcangyfrifon pwynt yn hytrach nag amrediadau. Mae’r dull yma wedi’i ddefnyddio yn sgil cytundeb ar draws y pedair Llywodraeth ar y senario modelu arfaethedig terfynol ar gyfer cyfanswm costau gwaredu’r awdurdodau lleol a ddylai gael eu hadennill trwy PEPR yn 2025. Y senario modelu hwn yw’r sail ar gyfer y dyraniadau cyllid cychwynnol a anfonwyd at yr awdurdodau lleol ddiwedd mis Tachwedd 2024. Y cyfanswm yma ar gyfer y Deyrnas Unedig yw £1.5bn (ffigwr wedi’i dalgrynnu i’r £500m agosaf), sy’n sylweddol is na’r senario uchaf roedden ni wedi’i fodelu o’r blaen, sef £1.8bn. 

Mae’r ffioedd sylfaenol enghreifftiol yn cael eu cyhoeddi cyn i Weinyddwr Cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros Becynwaith ryddhau cyfathrebiad ffurfiol o dan Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024.

Mae’r ddogfen hon wedi’i chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon a Llywodraeth yr Alban. Mae’r term ‘Llywodraeth’ yn y ddogfen hon yn cyfeirio at y pedair gweinyddiaeth.

2. Y drydedd set o ffioedd sylfaen enghreifftiol ar gyfer 2025/26 (Blwyddyn 1 pEPR)

Tabl 1. Y drydedd set o ffioedd sylfaen pEPR enghreifftiol ar gyfer 2025/26 ar gyfer yr holl ddeunyddiau pecynwaith. Mae ‘Arall’ yn cynnwys unrhyw ddeunyddiau sydd heb eu rhestru isod, e.e. bambŵ, serameg, copr, corc, cywarch, rwber, silicon. Mae’r ffioedd wedi’u talgrynnu i’r £5 agosaf.

Deunydd Cyfradd (mewn £ / tunnell)
Alwminiwm 435
Cyfansoddion seiliedig ar ffeibr 455
Gwydr 240
Papur neu fwrdd 215
Plastig 485
Dur 305
Pren 320
Arall 280

Mae’r ffioedd sylfaen enghreifftiol wedi’u seilio ar y senario modelu arfaethedig terfynol y cytunwyd arno ar gyfer cyfanswm y costau gwaredu y dylid eu hadennill trwy pEPR yn 2025. Mae’r costau gwaredu terfynol wrthi’n cael eu gwirio er mwyn sicrhau ansawdd. Mae’r ffioedd sylfaen enghreifftiol yn defnyddio’r data tunelledd pecynwaith a gyflwynwyd hyd yma gan gynhyrchwyr ar borth ar-lein Rhoi Gwybod am Ddata Pecynwaith (RPD) ar gyfer chwe mis cyntaf 2024, gydag addasiadau wedi’u cymhwyso (gweler isod i gael rhagor o fanylion). Y ffioedd hyn yw’r amcangyfrif pwynt gorau posibl o’r ffioedd sylfaenol o gofio’r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd.

Fe allai’r ffioedd sylfaen enghreifftiol fod yn oramcangyfrif, gan nad yw’r tunelledd pecynwaith a ddefnyddir yn y cyfrifiad yn cynnwys:

  • Data gan gynhyrchwyr y mae’n ofynnol iddyn nhw roi gwybod am eu data ond sydd heb roi gwybod eto;
  • Data gan gynhyrchwyr a roddodd wybod ar ôl 16 Rhagfyr 2024;
  • Gwahaniaethau tymhorol, a allai arwain at roi gwybod am fwy o becynwaith yn ystod yr ail chwe mis yn 2024 o’i gymharu â chwe mis cyntaf 2024.

Er y gall ffioedd sylfaen enghreifftiol roi rhagor o eglurder i helpu’r diwydiant gyda’i barodrwydd cynnar, mae’r ffigurau hyn yn dal yn destun ansicrwydd sylweddol ac fe fyddan nhw’n newid ym mlwyddyn 1 pEPR wrth i ragor o ddata gael ei gyflwyno gan y cynhyrchwyr, ac wrth i’r rheoleiddwyr fonitro’r gydymffurfiaeth[footnote 1]. Byddan nhw hefyd yn newid yn y blynyddoedd i ddod. Bydd ffioedd terfynol blwyddyn gyntaf pEPR yn cael eu rhyddhau ar ôl 1 Ebrill 2025 (y dyddiad cau ar gyfer rhoi gwybod am y pecynwaith a gyflenwyd gan y cynhyrchwyr cofrestredig yn 2024).

Newidiadau yn y ffioedd sylfaen enghreifftiol o’u cymharu â’r datganiad blaenorol

Mae yna newidiadau yn y ffioedd sylfaen enghreifftiol yn sgil defnyddio data tunelledd RPD 2024, a’r senario arfaethedig terfynol ar gyfer y costau y gall yr awdurdodau lleol eu codi yn 2025 (£1.5 biliwn). Mae’r ffioedd sylfaenol diweddaraf i gyd o fewn yr amrediad a gyhoeddwyd fel rhan o’r ail ddatganiad o ffioedd sylfaen enghreifftiol[footnote 2] (a gyhoeddwyd ym mis Medi), ac eithrio ‘Gwydr’ ac ‘Arall’ sydd o fewn amrediad y datganiad cyntaf[footnote 3] (a gyhoeddwyd ym mis Awst). Yn achos ‘Arall’, mae’r cynnydd yn y ffioedd yn deillio’n bennaf o’r cynnydd sylweddol (36%) yng nghostau gwaredu’r awdurdodau lleol ar gyfer y deunydd hwn, a gostyngiad bach (2%) yn y tunelledd a ragwelir ar gyfer y deunydd hwn. Mae’r cynnydd yn y ffioedd ‘Gwydr’ yn deillio o gynnydd bach (7%) yng nghostau gwaredu’r awdurdodau lleol ar gyfer y deunydd hwn a gostyngiad sylweddol yn y tunelledd a ragwelir (a ddisgrifir isod).

Defnyddiodd ffioedd sylfaenol mis Medi dunelledd gwydr o adroddiadau ‘PackFlow Refresh 2023’[footnote 4] gan ein bod yn credu bod y rhain yn rhoi amcangyfrif cywirach o gyfanswm y pecynwaith gwydr a osodwyd ar y farchnad na’r hyn y rhoddwyd gwybod amdano yn nata tunelledd RPD 2023 (gan fod yr Alban wedi’i hepgor o’r gofyniad i roi gwybod am gynwysyddion diodydd ar gyfer blwyddyn galendr 2023). Ar gyfer y ffioedd sylfaen enghreifftiol yn y cyhoeddiad hwn, rydyn ni wedi defnyddio data tunelledd gwydr y rhoddwyd gwybod amdano gan y cynhyrchwyr drwy’r porth RPD ar gyfer chwe mis cyntaf 2024. Mae’r data hwn wedi’i addasu fel y disgrifir isod. Mae’r tunelledd gwydr wedi’i addasu a ddefnyddir yn y cyfrifiad 23% yn is na’r tunelledd gwydr a amcangyfrifwyd yn PackFlow.

3. Methodoleg

Cyfrifir ffioedd sylfaenol enghreifftiol drwy rannu costau rheoli gwastraff pecynwaith (ar gyfer gwastraff pecynwaith cartrefi) a chostau perthnasol eraill â chyfanswm y pecynwaith cartrefi a roddwyd ar y farchnad. Y canlyniad yw cyfradd ffi a fynegir mewn £ am bob tunnell o becynwaith a roddwyd ar y farchnad. Gwneir y cyfrifiad canlynol ar gyfer pob categori o becynwaith ar wahân:  

Rhifiadur (1) Costau a ysgwyddir gan yr awdurdodau lleol i reoli gwastraff o’r categori pecynwaith hwnnw (gwastraff pecynwaith cartref yn unig) minws refeniw o werthiannau deunyddiau plws (2) cyfran y categori pecynwaith hwnnw o’r costau eraill, (costau Gweinyddydd y Cynllun, costau cyfathrebu a chostau’r ddarpariaeth ar gyfer dyledion.

Enwadur Cyfanswm pwysau’r categori pecynwaith hwnnw a roddwyd ar y farchnad (pecynwaith cartrefi yn unig). Sylwch na fydd costau sy’n gysylltiedig â rheoli pecynwaith a waredir yn gyffredin mewn biniau cyhoeddus neu sy’n cael ei daflu fel sbwriel yn cael eu cynnwys yn y rhifiadur ar gyfer blwyddyn gyntaf Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros Becynwaith (2025/26). Er hynny, fe fydd yr enwadur yn cynnwys pecynwaith cartrefi a phecynwaith y rhoddir gwybod amdano fel eitemau ‘a waredir yn gyffredin mewn biniau cyhoeddus neu sy’n cael ei daflu fel sbwriel’.  

I gael rhagor o fanylion am egwyddorion cyfrifo ffioedd sylfaen enghreifftiol, gweler y datganiad cyntaf[footnote 3] o ffioedd sylfaen enghreifftiol.

4. Sut mae’r datganiad hwn yn wahanol i’r datganiad blaenorol

Tunelledd pecynwaith a roddwyd ar y farchnad

Mae’r datganiad hwn yn defnyddio’r data diweddaraf a gyflwynwyd gan sefydliadau mawr i system porth ar-lein RPD ar gyfer Ionawr-Mehefin 2024 (a godwyd ar 16 Rhagfyr 2024) ar gyfer yr holl ddeunyddiau, gan gynnwys gwydr. 

Cyfrifwyd y tunelledd cartrefi sydd o fewn rhychwant ffioedd y cynhyrchwyr ar gyfer pob categori o ddeunydd trwy adio’r tunelleddau y rhoddodd y cynhyrchwyr wybod amdanyn nhw fel pecynwaith cartref ac fel pecynwaith a waredir yn gyffredin mewn biniau cyhoeddus neu sy’n cael ei daflu fel sbwriel. Mae’r tunelledd gwydr yn cynnwys cynwysyddion diodydd cartref gan eu bod nhw o fewn rhychwant ffioedd cynhyrchwyr pEPR (yn wahanol i PET untro, cynwysyddion diodydd alwminiwm a dur 150ml-3l o ran maint, sydd o fewn rhychwant Cynllun Dychwelyd Ernes ar draws y pedair gwlad). 

Addasiadau i ddata RPD 2024

Mae’r rheoleiddwyr wedi bod yn monitro cydymffurfiaeth y data a gyflwynwyd ar RPD; Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â chynlluniau cydymffurfio a chynhyrchwyr unigol i archwilio newidiadau yn y patrymau rhoi gwybod rhwng 2023 a 2024. Mae hyn wedi cynnwys adolygu gostyngiadau yn y tunelledd a roddwyd gan gynhyrchwyr unigol, yn ogystal â chysylltu â chynhyrchwyr a allai fod o dan rwymedigaethau o dan y rheoliadau ond sydd wedi methu â rhoi gwybod am ddata pecynwaith. O ganlyniad i’r gwaith hwn, rydyn ni wedi gwneud yr addasiadau a ganlyn yn nata’r RPD: 

  • Pan gyflwynodd y cynhyrchwyr lai na chwe mis o ddata, rydyn ni wedi allosod y data yn gyfrannol hyd at yr hyn sy’n gyfwerth â chwe mis.
  • Cafodd cyflwyniadau data’r RPD gan sefydliadau sydd wedi cofrestru’n uniongyrchol ac sydd wedi’u ‘gwrthod’ gan y rheoleiddwyr eu tynnu o’r set ddata oherwydd ansicrwydd ynglŷn ag ailgyflwyniadau yn y dyfodol.
  • Mae data’r RPD gan gynlluniau cydymffurfio sydd wedi’u ‘gwrthod’ gan y rheoleiddwyr wedi’u cadw, gan dybio na fydd ailgyflwyniadau yn y dyfodol yn amrywio’n sylweddol o’r cyflwyniadau cychwynnol.
  • Pan nad yw cynhyrchwyr wedi rhoi gwybod eto yn 2024 ond eu bod wedi cydymffurfio’n llawn yn 2023, addaswyd data’r RPD hefyd i gyfrif am y cynnydd disgwyliedig mewn tunelledd wrth i fwy o gynhyrchwyr gyflwyno cyflwyniadau i RPD, yn seiliedig ar gymharu data chwe mis cyntaf 2023 a 2024.
  • Yna cafodd data’r RPD wedi’i addasu ei luosi gan 2 i uwchraddio i flwyddyn gyfan. Ni chafodd unrhyw addasiadau eu gwneud i gyfrif am dymoroldeb.

Gwiriadau’r rheoleiddwyr

Y cyflwyniadau data hyn yw’r gorau o ran tunelledd y pecynwaith a roddwyd ar y farchnad sydd ar gael ar hyn o bryd, ond fe fydd yn newid o ganlyniad i ailgyflwyno data a rhoi gwybod am ragor o ddata ar borth ar-lein RPD.

Mae’r rheoleiddwyr o dan ddyletswydd i fonitro cywirdeb y data pEPR a gyflwynir i’r porth RPD ar-lein; mae’r gwiriadau hyn yn parhau. Mae’r rheoleiddwyr yn gweithio gyda chynhyrchwyr a chynlluniau cydymffurfio i nodi a chywiro gwallau data posibl. O ganlyniad, gall y data a ddefnyddiwyd yn y cyfrifiadau gynnwys materion ynglŷn â rhoi gwybod am ddata sydd heb gael sylw eto.

Costau’r awdurdodau lleol

Mae model ‘Cost a Pherfformiad Pecynwaith Awdurdodau Lleol’ Defra (y cyfeirir ato yn y ddogfen hon fel ‘LAPCAP’ neu ‘y model’) wedi’i ddefnyddio yn y drydedd set hon o ffioedd sylfaen enghreifftiol. Mae’r model hwn yn dal i gael ei gwblhau a’i brofi o ran sicrwydd ansawdd a allai arwain at rywfaint o fireinio ond dyma’r fethodoleg a ddefnyddir i gyfrifo’r ffioedd a fydd yn sail ar gyfer anfonebau i’r cynhyrchwyr pecynwaith sydd o dan rwymedigaeth o 2025 ymlaen.

Mae LAPCAP yn defnyddio cyfuniad o ddata penodol yr Awdurdodau Lleol (e.e. tunelli y rhoddir gwybod amdanyn nhw yn y Llif Data Gwastraff) a data cymharol (grwpiadau wedi’u seilio ar ddata costau a roddir gan sampl o Awdurdodau Lleol) er mwyn cyfrifo taliad ar gyfer pob Awdurdod Lleol yn y Deyrnas Unedig. Cyfanswm y taliad i bob Awdurdod Lleol a gyfrifir gan LAPCAP yw’r ‘Costau a ysgwyddir gan yr awdurdodau lleol i reoli gwastraff’ a ddefnyddir wrth gyfrifo ffioedd sylfaen enghreifftiol, ochr yn ochr â chostau Gweinyddwr y Cynllun, costau cyfathrebu, a chostau’r ddarpariaeth ar gyfer dyledion.

Mae canllawiau manwl a gyhoeddwyd yn ddiweddar[footnote 5] yn esbonio’r fethodoleg a’r weithdrefn a ddefnyddir i bennu amcangyfrifon o daliadau pEPR blwyddyn 1 i’r Awdurdodau Lleol.

5. Y camau nesaf

Mae cynhyrchwyr o dan rwymedigaeth i roi gwybod am eu data pecynwaith trwy’r  porth RPD ar-lein. Os ydych chi’n sefydliad mawr, ar gyfer 2024, dylech roi gwybod am y canlynol:

  • Eich data ar gyfer 1 Gorffennaf i 31 Rhagfyr 2024. Mae’r cyfnod rhoi gwybod yn dechrau o fis Ionawr 2025, a’r dyddiad cau ar gyfer rhoi gwybod yw 1 Ebrill 2025.

Bydd Gweinyddwr y Cynllun yn defnyddio’r data hwn, ynghyd â data cynhyrchwyr a gyflwynwyd ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ionawr a 30 Mehefin 2024 a’r costau a restrir uchod i gyfrifo a rhyddhau fersiwn derfynol y ffioedd sylfaenol. Disgwylir i hyn fod ar gael ym mis Gorffennaf 2025.

6. Cyflwyno ffioedd modiwlaidd o 2026 ymlaen

O flwyddyn 2 pEPR (2026/2027) ymlaen, bydd y ffioedd yn cael eu modiwleiddio i sicrhau bod deunyddiau pecynwaith sy’n llai ailgylchadwy yn talu ffioedd uwch. Bydd y mathau o becynwaith a fydd yn talu ffioedd modiwlaidd uwch neu is yn seiliedig ar asesiadau o ailgylchadwyedd yn unol â Methodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM).

Bydd yr RAM yn cael ei gyhoeddi ar gov.uk cyn Nadolig 2024. Mae Defra yn bwriadu rhannu methodolegau modiwleiddio amlinellol ar gyfer ymgysylltu â’r diwydiant ac adborth yn ystod chwarter cyntaf 2025.

  1. Nid yw’r ffioedd sylfaen enghreifftiol a geir yn y ddogfen hon wedi’u bwriadu i fod yn gyngor neu wybodaeth y dylai cynhyrchwyr ddibynnu arnyn nhw (gan gynnwys at ddibenion cynllunio busnes). Fydd y Llywodraeth ddim yn atebol am unrhyw golled ariannol os bydd cynhyrchwyr yn defnyddio’r ffioedd sylfaenol enghreifftiol hyn yn y ddogfen hon at ddibenion cynllunio neu ddibenion eraill. 

  2. Gov.uk (2024) Cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr dros becynwaith: ffioedd sylfaen enghreifftiol 

  3. Gov.uk (2024) Cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr dros becynwaith: ffioedd sylfaen enghreifftiol  2

  4. Valpak a WRAP (2024) Adroddiadau Adnewyddu PackFlow 2023 

  5. Canllawiau i’r Awdurdodau Lleol ar yr amcangyfrif o daliadau pEPR 2025/26 (insert publication link)