Mewnforio anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid o'r UE: hysbysu awdurdodau
Sut i hysbysu'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) os ydych yn bwriadu mewnforio anifeiliaid, plasma cenhedlu a chynhyrchion anifeiliaid o'r UE.
Dogfennau
Manylion
Os ydych yn bwriadu mewnforio anifeiliaid, plasma cenhedlu neu gynhyrchion anifeiliaid i Gymru, Lloegr neu’r Alban, rhaid i chi hysbysu’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Defnyddiwch y ffurflen IV66 i wneud hyn.
Os byddwch yn mewnforio i Ogledd Iwerddon, cysylltwch â’r Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd (DAERA).
Rhaid i chi hysbysu APHA o leiaf 24 awr cyn y disgwylir i’ch anifeiliaid neu gynhyrchion gyrraedd Prydain.
- Lawrlwythwch y ffurflen hysbysiad.
- Llenwch y ffurflen, gan gynnwys manylion am y llwyth, ei ddiben a sut y caiff ei gludo.
- Anfonwch y ffurflen dros e-bost at SM-Defra-GBImports@apha.gov.uk.
Mae’n bosibl y bydd angen tystysgrifau iechyd arnoch neu gynnal gwiriadau o’ch anifeiliaid neu gynhyrchion. Dysgwch am yr hyn sydd angen i chi ei wneud os byddwch yn symud anifeiliaid byw neu gynhyrchion anifeiliaid fel rhan o fasnach â’r UE.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 July 2019 + show all updates
-
IV66 import notification form updated
-
IV66 import notification form (Welsh and English) updated
-
Welsh translation now available
-
IV66 import notification form updated
-
Word versions of the IV66 import notification form now available.
-
Updated info on the EU to UK notification process.
-
Minimum notification period corrected from one working day to 24 hours
-
First published.