Canllawiau

Deunydd pacio sydd o fewn ac y tu allan i gwmpas y Dreth Deunydd Pacio Plastig

Diweddarwyd 12 Awst 2022

Dim ond enghreifftiau o ddeunydd pacio plastig a geir yn yr arweiniad hwn – nid yw’n rhestru pob math o ddeunydd pacio.

Mae’r enghreifftiau’n cael eu diweddaru’n rheolaidd.

Deunydd pacio plastig a ddyluniwyd i’w ddefnyddio yn y gadwyn gyflenwi

Deunydd pacio yw hwn a ddyluniwyd i’w ddefnyddio yn y gadwyn gyflenwi, o’r gweithgynhyrchwr i’r defnyddiwr neu’r prynwr. Mae’n cael ei ddefnyddio er mwyn cadw, diogelu, trin, dosbarthu neu gyflwyno nwyddau.

Gallwch ddarllen y diffiniad o ddeunydd pacio a ddyluniwyd i’w ddefnyddio ar unrhyw gam yn y gadwyn gyflenwi.

Os yw’r gydran deunydd pacio’n cyd-fynd â’r diffiniad hwn, nid oes ots os yw’n cael ei chynhyrchu neu ei mewnforio i’w defnyddio yng nghadwyn gyflenwi’r nwyddau, neu gan brynwr neu ddefnyddiwr.

Enghreifftiau o fewn cwmpas y dreth

Mae enghreifftiau o eitemau o’r math hwn yn cynnwys:

  • leininau ar gyfer tuniau pobi
  • deunydd lapio bisgedi
  • topiau neu gapiau poteli
  • poteli a ddyluniwyd i’w defnyddio unwaith (hyd yn oed os oes modd eu hail-lenwi a’u hailddefnyddio)
  • hongwyr dillad a ddyluniwyd i’w defnyddio yn y gadwyn gyflenwi
  • pacedi creision
  • deunydd pacio citiau diagnostig
  • dyfeisiau dogni a mesur pan fyddant yn cael eu defnyddio fel cap neu gaead ar gynnyrch, megis cegolch neu lanedydd golchi dillad
  • ffilm a ddyluniwyd i ddiogelu cynnyrch, fel ffilm o amgylch cig amrwd
  • cydau bwyd hyblyg
  • swmpgynhwyswyr canolradd hyblyg a ddefnyddir yn y diwydiant adeiladu, megis bagiau sgip
  • tagiau kimble a ddyluniwyd i labelu neu brisio nwyddau
  • labeli a ddyluniwyd i gyflwyno’r nwyddau a disgrifio cynnwys cynnyrch
  • deunydd pacio dyfeisiau meddygol
  • deunydd lapio paledi
  • leininau ar gyfer padellau
  • biniau pigo a ddefnyddir mewn warysau
  • potiau planhigion a ddyluniwyd i’w gwerthu gyda’r planhigion y tu mewn iddynt
  • ffilm blastig o amgylch blwch i ddiogelu’r blwch a’r cynnwys (mae gan alcohol a sigaréts y rhain fel arfer)
  • potiau a ddyluniwyd i drin a dosbarthu nwyddau, fel potiau iogwrt a chawl (mae caeadau’r cynhyrchion hyn yn gydrannau deunydd pacio ar wahân yn eu rhinwedd eu hunain)
  • leininau rhyddhau ar gyfer labeli sy’n gydrannau deunydd pacio ar wahân yn eu rhinwedd eu hunain
  • cratiau plastig y gellir eu hailddefnyddio ac a ddyluniwyd i ddosbarthu ffrwythau ffres neu nwyddau wedi’u pobi
  • bagiau rhostio sy’n cynnwys bwyd
  • bagiau salad
  • bagiau sous vide
  • seliau gwrth-ymyrraeth
  • deunydd pacio dan reolaeth tymheredd a ddefnyddir i gludo cynnyrch fferyllol neu gynnyrch bwyd
  • hambyrddau a ddyluniwyd i ddal a diogelu bwyd, fel hambyrddau prydau parod
  • ffenestri ar gynhyrchion fel pecynnau brechdanau neu quiche sydd wedi’u glynu yn eu lle – ‘ffenestri clytiau’
  • deunydd lapio a ddyluniwyd i grwpio cynhyrchion ynghyd i’w gwneud hi’n haws eu trin, fel deunydd tynlapio (‘shrink wrap’) o amgylch nwyddau tun

Enghreifftiau y tu allan i gwmpas y dreth

Mae enghreifftiau o eitemau nad ydynt yn bodloni’r diffiniad hwn yn cynnwys:

  • clipiau ailselio bagiau
  • bagiau am oes
  • tryncin ceblau
  • canwlâu
  • poteli diod a ddyluniwyd i gael eu hailddefnyddio
  • bocsys a chynwysyddion storio bwyd a ddyluniwyd i gael eu hailddefnyddio, fel bocsys bwyd
  • bocsys storio nwyddau cartref
  • bylbiau golau
  • bwcedi mopiau
  • leininau ar gyfer poptai
  • deunydd inswleiddio pibellau
  • cytleri plastig
  • llewys ffeiliau plastig
  • profion beichiogrwydd
  • cwpanau coffi y gellir eu hailddefnyddio
  • capiau dogni neu fesur y gellir eu hailddefnyddio nad ydynt yn cael eu defnyddio fel caead neu gap, er enghraifft cwpan dogni a werthir gyda phowdr golchi
  • biniau offer miniog meddygol y gellir eu hailddefnyddio
  • leininau ar gyfer padellau y gellir eu hailddefnyddio
  • chwistrellau
  • dodwyr tamponau
  • bocsys teganau a storio
  • ffiolau at ddefnydd labordy

Deunydd pacio plastig a ddyluniwyd fel deunydd pacio untro i ddefnyddwyr

Deunydd pacio yw hwn a ddyluniwyd i’w ddefnyddio unwaith gan brynwr neu ddefnyddiwr domestig er mwyn dal unrhyw eitem neu wastraff.

Gallwch ddarllen y diffiniad o ddeunydd pacio untro.

Enghreifftiau o fewn cwmpas y dreth

Mae enghreifftiau o eitemau a gwmpesir gan y categori hwn o gynhyrchion yn cynnwys:

  • bagiau plastig, gan gynnwys:
    • bagiau bin a sachau sbwriel
    • bagiau siopa
    • bagiau bwyd, megis bagiau brechdanau
    • sachau ar gyfer clytiau babi
  • cwpanau untro, gan gynnwys:
    • cwpanau polystyren wedi’u hehangu
    • cwpanau parti
    • gwydrau gwin a gwydrau peint plastig
    • cwpanau peiriannau fendio
  • powlenni a phlatiau plastig untro
  • deunydd lapio anrhegion, fel rhuban a thâp gludiog
  • biniau offer miniog meddygol at ddefnydd untro
  • cydau a phecynnau sy’n dal prydau parod a llysiau

Enghreifftiau y tu allan i gwmpas y dreth

Mae enghreifftiau o eitemau nad ydynt yn perthyn i’r categori hwn o gynhyrchion yn cynnwys yr eitemau untro canlynol:

  • cytleri
  • cewynnau
  • bagiau wrin

Deunydd pacio plastig y mae ei brif swyddogaeth ar gyfer storio

Nid yw’r deunydd pacio hwn yn agored i’r Dreth Deunydd Pacio Plastig.

Gallwch ddarllen y diffiniad o ddeunydd pacio plastig y mae ei swyddogaeth bacio’n eilaidd i’w swyddogaeth storio.

Mae enghreifftiau o eitemau sy’n perthyn i’r categori hwn o gynhyrchion, nad ydynt yn agored i’r dreth, yn cynnwys:

  • bocsys gemau bwrdd
  • casys CD
  • casys DVD
  • casys clustffonau neu glustffonau bach
  • blychau cymorth cyntaf
  • casys sbectol
  • setiau trin ewinedd
  • blychau offer
  • casys gemau fideo

Mae enghreifftiau o eitemau nad ydynt yn perthyn i’r categori hwn o gynhyrchion, sy’n agored i’r dreth, yn cynnwys:

  • poteli untro, er enghraifft ar gyfer:
    • cynnyrch bath a chawod
    • cynnyrch glanhau
    • cyfwydydd
    • cynnyrch gwallt a harddwch
    • diodydd ysgafn
  • potiau a thybiau untro, fel:
    • menyn a phast bwyd
    • tybiau hufen iâ
    • potiau iogwrt
  • deunydd pacio bwyd y gellir ei ailselio, fel sy’n cael ei werthu gyda chaws neu basta
  • pecynnau plastig y mae beiros a phensiliau’n cael eu gwerthu ynddynt
  • platiau wedi’u dylunio i gael eu gwerthu gyda bwyd
  • hambyrddau sy’n cael eu gwerthu gyda bwyd (er enghraifft, prydau parod neu brydau tecawê)

Deunydd pacio plastig sy’n rhan annatod o’r nwyddau

Nid yw’r deunydd pacio hwn yn agored i’r Dreth Deunydd Pacio Plastig.

Gallwch ddarllen y diffiniad o ddeunydd pacio plastig lle mae’r deunydd pacio’n rhan annatod o’r nwyddau.

Mae enghreifftiau o eitemau sy’n perthyn i’r categori hwn o gynhyrchion, nad ydynt yn agored i’r dreth, yn cynnwys:

  • ysgogwyr aerosolau
  • capsiwlau coffi
  • cesys fflòs dannedd
  • diferwyr a phipedau, er enghraifft ar gyfer diferion llygaid a thriniaethau chwain
  • pympiau ewyn
  • anadlwyr
  • cetris inc ac ail-lenwadau inc
  • tanwyr
  • mecanwaith a chas minlliw (ond nid y cap)
  • brwsh, ffon a chap masgara (ond nid y botel)
  • bagiau reis tyllog
  • peraroglyddion i’w plygio i mewn
  • cetris argraffu a phowdwr inc
  • cynwysyddion pwmp ar gyfer past dannedd (ond nid tiwbiau past dannedd)
  • diaroglyddion ystafell y gellir eu hail-lenwi
  • cydau gel silica
  • mecanweithiau a chasys diaroglydd ar ffurf ffon (ond nid capiau)
  • bagiau te
  • pêl rolio diaroglydd rholio
  • cetris hidlyddion dŵr

Mae enghreifftiau o eitemau nad ydynt yn perthyn i’r categori hwn o gynhyrchion, sy’n agored i’r dreth, yn cynnwys:

  • hongwyr cotiau a ddyluniwyd i’w defnyddio yn y gadwyn gyflenwi
  • caeadau ar boteli a jariau cyfwydydd
  • cydau hyblyg a phecynnau y gellir eu hailselio, fel cydau bwyd anifeiliaid anwes a bagiau siocled
  • bagiau tyfu sy’n cael eu gwerthu gyda chompost ynddynt
  • swmpgynhwyswyr canolradd – heb gynnwys y caets metel, sy’n gydran ar wahân
  • pympiau sebon hylif
  • cydau bwyd meicrodon, fel y rhai a ddefnyddir ar gyfer llysiau
  • potiau ar gyfer ‘bwyd wrth fynd’
  • hambyrddau prydau parod

Deunydd pacio plastig i’w ailddefnyddio’n bennaf ar gyfer cyflwyno

Nid yw’r deunydd pacio hwn yn agored i’r Dreth Deunydd Pacio Plastig.

Gallwch ddarllen y diffiniad o ddeunydd pacio plastig lle mae’r deunydd pacio wedi’i ddylunio’n bennaf i gael ei ailddefnyddio er mwyn cyflwyno nwyddau.

Mae enghreifftiau o eitemau sy’n perthyn i’r categori hwn o gynhyrchion, nad ydynt yn agored i’r dreth, yn cynnwys:

  • hambyrddau prydau bwyd y gellir eu hailddefnyddio, fel y rhai a ddefnyddir ar awyrennau ac mewn ysgolion
  • silffoedd arddangos gwerthiannau
  • stondinau cyflwyno gwerthiannau
  • ffitiadau siop

Mae enghreifftiau o eitemau nad ydynt yn perthyn i’r categori hwn o gynhyrchion yn cynnwys:

  • cratiau bwyd, fel y rhai a ddefnyddir ar gyfer ffrwythau a llysiau
  • yr eitemau untro canlynol:
    • silffoedd arddangos
    • hambyrddau prydau bwyd, fel y rhai a ddefnyddir ar awyrennau ac mewn ysgolion
    • stondinau cyflwyno

Deunydd pacio plastig sydd wedi’i neilltuo’n barhaol ar gyfer defnydd nad yw’n ymwneud â phecynnu

Mae’r deunydd pacio arbenigol hwn a’i gydrannau wedi’u heithrio rhag y Dreth Deunydd Pacio Plastig. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchion a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer rhywbeth heblaw pecynnu.

Gallwch ddarllen y diffiniad o gydrannau deunydd pacio plastig sydd wedi’u cofnodi fel rhai a neilltuwyd yn barhaol i’w defnyddio ar gyfer rhywbeth heblaw pecynnu.

Enghreifftiau y tu allan i gwmpas y dreth

Mae enghreifftiau o eitemau sy’n perthyn i’r esemptiad hwn yn cynnwys ffilm a ddefnyddir i wneud y canlynol:

  • gorchuddio byrddau gwyn
  • galluogi’r broses eplesu er mwyn gwneud silwair

Enghreifftiau o fewn cwmpas y dreth

Mae enghreifftiau o eitemau nad ydynt yn perthyn i’r esemptiad hwn yn cynnwys:

  • cydau bwyd meicrodon
  • hambyrddau popty ar gyfer prydau parod

Deunydd pacio cludiant

Mae deunydd pacio cludiant a ddefnyddir i fewnforio nwyddau i’r DU wedi’i esemptio rhag y Dreth Deunydd Pacio Plastig os yw’n cael ei ddefnyddio at y ddau ddiben canlynol:

  • atal difrod wrth gludo
  • cludo nifer o unedau gwerthu neu becynnau wedi’u grwpio

Dylech ystyried sut mae’r deunydd pacio hwn yn cael ei ddefnyddio, yn hytrach na’i fath, wrth bennu a yw’r esemptiad yn berthnasol. Dysgwch ragor am ba bryd mae deunydd pacio cludiant wedi’i esemptio.

Mae enghreifftiau o eitemau sy’n perthyn i’r esemptiad hwn (pan fyddant yn cael eu defnyddio i atal difrod i unedau gwerthu lluosog neu becynnau wedi’u grwpio wrth fewnforio i’r DU) yn cynnwys:

  • deunydd lapio paledi
  • paledi plastig
  • cynwysyddion ffordd, rheilffordd, llong neu awyr a ddefnyddir i fewnforio nwyddau i’r DU
  • strapiau

Mae enghreifftiau o eitemau nad ydynt yn perthyn i’r esemptiad hwn yn cynnwys:

  • cratiau sy’n gweithredu fel deunydd pacio sylfaenol neu eilaidd, ac sy’n cael eu defnyddio i gludo nwyddau i’r DU i’w danfon i ddefnyddiwr neu gyflenwr (mae hyn yn cynnwys eitemau fel ffrwythau a llysiau)
  • cynwysyddion mawr sy’n cael eu defnyddio i fewnforio alcohol sydd i’w botelu
  • deunydd pacio cludiant:
    • sy’n cael ei fewnforio i’r DU fel nwyddau yn eu rhinwedd eu hunain
    • sydd wedi’i weithgynhyrchu yn y DU
    • sy’n cael ei ddefnyddio i fewnforio un nwydd i’r DU
    • sy’n cael ei ddefnyddio i gludo nwyddau yn y DU