Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 8: cyflawni gweithredoedd

Diweddarwyd 27 August 2024

Yn berthnasol i England and Gymru

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Pwyntiau cyffredinol

1.1 Yr angen am weithred wrth ddelio â thir

Gydag ychydig eithriadau (adran 52(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925), ni ellir trawsgludo neu greu budd cyfreithiol mewn tir heb weithred (adran 52(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925). Mae’r eithriadau’n cynnwys:

  • cydsyniadau, sy’n gorfod bod yn ysgrifenedig ond nad oes angen eu cyflawni fel gweithred (adran 36(4) o Ddeddf Gweinyddu Ystadau 1925)
  • prydlesi’n dod i rym mewn meddiant am gyfnod heb fod dros dair blynedd am y rhent gorau sydd i’w gael yn rhesymol heb gymryd dirwy (adran 54(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925)

Mae adran 91 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu bod dogfen ar ffurf electronig sy’n honni ei bod yn peri gwarediad ac sy’n cwrdd â gofynion penodol i’w hystyried at ddibenion unrhyw ddeddfiad fel gweithred. Nid yw’r gwarediadau electronig hyn yn cael eu trafod yn y cyfarwyddyd ymarfer hwn gan nad ydynt yn weithredoedd. Am ragor o wybodaeth, gweler adran 8 cyfarwyddyd ymarfer 82: llofnodion electronig a dderbynnir gan Gofrestrfa Tir EF.

1.2 Elfennau gweithred

I fod yn weithred, rhaid i’r ddogfen:

  • fod yn ysgrifenedig
  • egluro ar ei hwyneb mai ei bwriad yw bod yn weithred gan y person sy’n ei gwneud neu’r partïon iddi. Mae modd gwneud hyn trwy i’r ddogfen ddisgrifio ei hun fel gweithred neu fynegi ei hun i’w chyflawni fel gweithred ‘neu fel arall’
  • fod wedi ei chyflawni’n ddilys fel gweithred gan y person sy’n ei gwneud neu un neu fwy o’r partïon iddi (adran 1 o Ddeddf Cyfraith Eiddo (Darpariaethau Amrywiol) 1989)

Lle bydd rhywun oddi allan i Gymru a Lloegr, neu gwmni neu gorfforaeth gorfforedig oddi allan i Gymru a Lloegr, i gyflawni gweithred yn ymwneud â thir yng Nghymru a Lloegr, cyfraith Loegr sy’n dal yn berthnasol i ffurf a chyflawniad y weithred. Mae tir yn ‘eiddo sefydlog’ ac, felly, y gyfraith sy’n rheoli ei warediad yw cyfraith y diriogaeth lle mae’n sefyll.

1.3 Gweithredoedd a Chofrestrfa Tir EF

Mae angen i weithredoedd arbennig sy’n effeithio ar dir cofrestredig ddilyn ffurf benodedig (rheol 206 o Reolau Cofrestru Tir 2003). (Mewn achosion lle nad oes ffurf benodedig, rhaid i’r weithred fod ar y fath ffurf y byddwn yn ei phennu neu ganiatáu (rheol 212 o Reolau Cofrestru Tir 2003)). Ar hyn o bryd, mae’r ffurfiau penodedig yn cynnwys trosglwyddo teitlau cofrestredig ac arwystlon cofrestredig (ffurflen TP1, ffurflen TP2, ffurflen TR1, ffurflen TR2, ffurflen TR4 a ffurflen TR5), a rhyddhau a gollwng arwystlon cofrestredig (ffurflen DS1 neu ffurflen DS3). Mae geiriau cyflawni’r gweithredoedd hyn wedi eu pennu hefyd. Gall ffurflenni penodedig a geiriau cyflawni fod naill ai yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Rhaid ichi sicrhau bod yr holl bartïon angenrheidiol yn cyflawni’r trosglwyddiad yn y panel cyflawni priodol, gan ei ehangu yn ôl yr angen.

Peidiwch â defnyddio ffurflen CS i gyflawni gweithredoedd, oni bai eich bod yn llenwi ffurflen bapur â llaw neu trwy deipio ac wedi rhedeg allan o le.

Mae’r ffurflenni penodedig hefyd yn cynnwys cydsyniadau teitlau cofrestredig ac arwystlon cofrestredig (ffurflen AS1, ffurflen AS2 a ffurflen AS3) ond nid oes yn rhaid cyflawni’r rhain fel gweithredoedd.

Yn y cyfarwyddyd hwn dangoswn wahanol eiriau cyflawni neu gymalau ardystio penodedig (y termau hyn yn cael eu defnyddio’n gyfnewidiol). Er mwyn lleihau ymholiadau, rhaid defnyddio’r cymalau ardystio a bennwyd, wedi eu haddasu fel bo angen. Pan fyddwn yn cyfeirio at sefyllfa lle nad oes cymal ardystio penodedig, rydym yn rhoi cymal awgrymedig ac rydym yn argymell y defnyddir y cymalau awgrymedig hyn.

Fel rheol, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol dim ond os yw eich cais am gofrestriad cyntaf. Gall trawsgludwr, fodd bynnag, wneud cais am gofrestriad cyntaf ar sail copïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau yn unig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf – Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd am wybodaeth am hyn.

Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gopïau gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.

Wrth lanlwytho dogfennau, byddwch yn gallu ardystio unrhyw ddogfennau wedi eu sganio trwy gadarnhau eu bod yn gopi cywir o’r gwreiddiol gan ddefnyddio’r datganiadau ardystio sydd ar gael.

Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gopïau gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.

2. Unigolion yn cyflawni gweithredoedd

2.1 Y tair elfen: llofnodi, ardystio a throsgludo

2.1.1 Llofnodi

Rhaid i bob unigolyn lofnodi’r ddogfen er mwyn iddi gael ei chyflawni’n ddilys fel gweithred. Mae gwneud croes ar ddogfen yn cael ei drin fel ei llofnodi (adran 1(4) o Ddeddf Cyfraith Eiddo (Darpariaethau Amrywiol) 1989). Rhaid i’r llofnod fod ar y ddogfen ei hun yn y lle priodol a rhaid i’r geiriau cyflawni enwi’r arwyddwr neu amlygu fel arall pwy sydd wedi llofnodi’r ddogfen. Am resymau amlwg, dylai’r llofnod fod mewn inc.

Gweler cyfarwyddyd ymarfer 82: llofnodion electronig a dderbynnir gan Gofrestrfa Tir EF.

2.1.2 Tyst yn ardystio

Rhaid i bob unigolyn lofnodi “ym mhresenoldeb tyst sy’n ardystio’r llofnod” (adran 1(3) o Ddeddf Cyfraith Eiddo (Darpariaethau Amrywiol) 1989). Byddwn yn edrych i weld bod tyst wedi llofnodi’r weithred, bod y llofnod yn cofnodi’n eglur i’r tyst weld yr unigolyn o dan sylw yn llofnodi’r weithred, a bod enw a chyfeiriad y tyst yn ymddangos yn ddarllenadwy ar y weithred. Mae’n bwysig bod enwau a chyfeiriadau’n gyflawn (gan gynnwys unrhyw god post) ac yn ddarllenadwy oherwydd gall hyn helpu i leoli a chysylltu â thystion gan unrhyw barti pe bai unrhyw fater yn codi ynghylch y cyflawni. Gall yr un tyst dystio pob llofnod unigol, ond rhaid ardystio pob llofnod yn unigol, oni bai ei bod yn gwbl glir trwy eiriad penodol ar wyneb yr ardystiad bod y tyst yn tystio’r ddau lofnod neu bob un ym mhresenoldeb y llofnodwyr a enwyd. Mae Atodiad 2 yn rhoi enghreifftiau o gyflawni lle ceir dim ond un tyst yn ardystio nifer o lofnodion.

Na all parti i’r weithred dystio llofnod parti arall i’r weithred (Seal v Claridge (1881) 7 QBD 516 at 519).

Nid yw’r ddeddfwriaeth berthnasol yn atal priod, partner sifil neu gydbreswylydd llofnodwr rhag gweithredu fel tyst (os nad ydynt yn barti i weithred), ond mae’n well osgoi hyn. Mae’n ddoeth hefyd i’r tyst beidio â bod yn iau na 18 neu, o leiaf, dylai fod yn ddigon hen i allu rhoi tystiolaeth ddibynadwy os bydd angen cadarnhau yn ddiweddarach o dan ba amgylchiadau y digwyddodd y cyflawni.

Daeth adroddiad Comisiwn y Gyfraith “Electronic execution of documents” (Law Com Rhif 386), a gyhoeddwyd ym Medi 2019, i’r casgliad bod y gofyniad o dan adran 1(3) o Ddeddf Cyfraith Eiddo (Darpariaethau Amrywiol) 1989 ac adran 44(2)(b) o Ddeddf Cwmnïau 2006 bod yn rhaid llofnodi gweithred “ym mhresenoldeb tyst” yn gofyn am bresenoldeb corfforol y tyst hwnnw, a bod hyn yn wir hyd yn oed lle bo’r person sy’n cyflawni’r weithred a’r tyst yn cyflawni ac yn ardystio’r ddogfen gan ddefnyddio llofnod electronig. Nid oedd Comisiwn y Gyfraith yn fodlon bod presenoldeb “rhithwir” neu “bell” y tyst yn ddigonol. Yn unol â hynny, mae Cofrestrfa Tir EF yn parhau i fynnu bod y tyst yn bresennol pan lofnodir y weithred, gyda’r tyst yn ychwanegu ei lofnod wedi hynny. Fodd bynnag, nid oes unrhyw reswm pam na ellir gwahanu’r tyst a’r llofnodwr trwy wydr, felly gallai llofnod gael ei thystio gan rywun sy’n edrych trwy ffenestr car neu dŷ – os oedd y person hwnnw, wrth gwrs, yn gallu gweld y llofnodwr yn llofnodi’n glir.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 82: llofnodion electronig a dderbynnir gan Gofrestrfa Tir EF yn cynnwys rhagor o wybodaeth ar lofnodion electronig a dderbynnir gan Gofrestrfa Tir EF.

2.1.3 Trosgludo

Rhaid i’r ddogfen gael ei “throsgludo fel gweithred” gan bawb sy’n ei chyflawni neu rywun a awdurdodwyd i’w throsgludo ar eu rhan (adran 1(3)(b) o Ddeddf Cyfraith Eiddo (Darpariaethau Amrywiol) 1989). Mae trosgludo yn gofyn bod y person yn cydnabod yn ffurfiol neu’n ddigrybwyll, trwy eiriau neu ymddygiad, bwriad i fod yn rhwym wrth ei darpariaethau.

Lle bydd cyfreithiwr neu drawsgludwr, mewn trafodiad sy’n cynnwys gwaredu neu greu budd mewn tir, yn honni trosgludo dogfen fel gweithred ar ran parti iddi, mae rhagdybiaeth bendant o blaid prynwr yr awdurdodwyd y cyfreithiwr neu drawsgludwr i’w throsgludo (adran 1(5) o Ddeddf Cyfraith Eiddo (Darpariaethau Amrywiol) 1989). Yn ymarferol, byddwn yn cymryd yn ganiataol y cyflwynwyd dogfen fel gweithred oni bai bod rhyw arwydd i’r gwrthwyneb. Er enghraifft, os cafodd y geiriau cyflawni eu haddasu i ddweud na fu trosgludo, neu nad yw trosgludo i gael ei dybio nes bydd rhyw amod wedi cael ei fodloni, bydd angen tystiolaeth arnom y bu trosgludo wedyn.

2.2 Cymal ardystio

Nid yw’r gyfraith gyffredinol yn gofyn am gymal ardystio arbennig. Mae’n ddigonol bod y cymal yn ei gwneud yn amlwg mai bwriad llofnodion y partïon i’r weithred yw nodi cyflawni ac iddynt gael eu gwneud ym mhresenoldeb y tystion. Dylai’r geiriad hefyd ddatgan y cyflawnwyd y ddogfen “fel gweithred”. Yna, hyd yn oed os nad yw’n amlwg yn rhywle arall yn y ddogfen mai ei bwriad yw bod yn weithred, bydd y geiriau cyflawni yn dangos hyn – gweler Elfennau gweithred.

Wrth drosglwyddo tir cofrestredig, a chyda gweithredoedd eraill sydd â ffurf benodedig, rhaid ichi ddefnyddio’r cymal ardystio canlynol (neu’r un peth yn Saesneg) pan fydd unigolion yn cyflawni’r weithred a chynnwys enw llawn yr unigolyn.

Llofnodwyd fel gweithred* gan (enw llawn yr unigolyn) ym mhresenoldeb

Llofnod:_________________________

Llofnod y tyst:___________________

Enw (mewn PRIF LYTHRENNAU):________________

Cyfeiriad:_________________

(*yn achos cydsyniad, mae modd hepgor y geiriau “fel gweithred”)

2.3 Pobl yn methu darllen neu ddeall gweithred

Gall rhywun fod yn anllythrennog, yn methu darllen gweithred oherwydd afiechyd corfforol neu anabledd, neu’n methu deall y weithred am ei bod mewn iaith dramor. Os nad yw rhywun yn deall y weithred am resymau eraill, efallai nad ydynt yn gallu cyflawni gweithred. Bydd yr amgylchiadau yn penderfynu sut y bydd rhai o’r fath yn cael gwybod am gynnwys y weithred cyn ei chyflawni.

Os nad yw rhywun sy’n cyflawni’r weithred yn ddigon llythrennog i’w darllen, byddai modd darllen y cynnwys iddynt neu egluro effaith y weithred yn llawn.

Os yw’r llofnodwr yn gorfforol amharus fel ag i fethu darllen y weithred, gallent wrando ar ddarllen y weithred neu ddarllen copi wedi ei chwyddo neu mewn Braille.

Os nad yw’r llofnodwr yn deall Saesneg (neu Gymraeg os lluniwyd y weithred yn Gymraeg), gallent ddarllen copi yn eu hiaith eu hunan neu wrando ar ei ddarllen yn yr iaith honno.

Ymhob un o’r achosion uchod, rydym yn argymell bod cyfreithiwr neu drawsgludwr yr unigolyn yn tystio’r llofnod i gadarnhau y dilynwyd trefn briodol.

Mae modd cofnodi ffeithiau’r achos trwy newid y cymal ardystio fel sydd i’w weld isod.

Bydd newid y geiriau cyflawni yn golygu nad ydynt mwyach yn dilyn y geiriau penodedig. Fodd bynnag, cewch wneud “y fath newidiadau ac ychwanegiadau, os o gwbl, fel y caniateir gan y cofrestrydd” (rheol 206(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Byddwn yn derbyn cymal fel a ganlyn heb fod angen cymeradwyaeth benodol ymlaen llaw.

Llofnodwyd fel gweithred gan (enw llawn yr unigolyn) ym mhresenoldeb yr islofnodedig, wedi [iddo ef][iddi hi] gadarnhau yn gyntaf [ei fod ef][ei bod hi] yn ymwybodol o’i chynnwys trwy (nodwch y dull a ddefnyddiwyd):

Llofnod:_________________________

Llofnod y tyst:___________________

Enw (mewn PRIF LYTHRENNAU):________________

Cyfeiriad________________________

2.4 Pobl yn methu llofnodi’n gorfforol

O ganlyniad i salwch neu anabledd, gall rhai unigolion fethu llofnodi gweithred yn gorfforol. Gall unigolyn gyflawni gweithred yn ddilys os llofnodwyd ar gyfarwyddyd ac ym mhresenoldeb yr unigolyn ac ym mhresenoldeb dau dyst sydd bob un yn ardystio’r llofnod (adran 1(3)(a)(ii) o Ddeddf Cyfraith Eiddo (Darpariaethau Amrywiol) 1989). Dylid addasu’r geiriau cyflawni arferol i adlewyrchu’r dull cyflawni. Wrth drosglwyddo tir cofrestredig a gweithredoedd eraill sydd â ffurf benodedig rhaid ichi ddefnyddio’r geiriau cyflawni canlynol (neu’r un peth yn Saesneg) pan fydd unigolyn yn cyflawni’r weithred trwy gyfarwyddo rhywun arall i lofnodi ar eu rhan.

Llofnodwyd fel gweithred gan (enw llawn y sawl sy’n llofnodi) yn ôl cyfarwyddyd ac ar ran (enw llawn yr unigolyn) yn [ei bresenoldeb][ei phresenoldeb] ac ym mhresenoldeb:

Llofnodwch enw’r unigolyn yma a’ch enw eich hunan, ee John Jones trwy law Jane Williams:_________________________

Llofnod y tyst cyntaf:___________________

Enw (mewn PRIF LYTHRENNAU):________________

Cyfeiriad:_____________________________

Llofnod yr ail dyst:___________________

Enw (mewn PRIF LYTHRENNAU):________________

Cyfeiriad:_____________________________

Gall y sawl sy’n paratoi’r offeryn deipio neu ysgrifennu enw’r person nad yw’n gallu llofnodi yn y gofod a ddarperir, neu gall y llofnodwr awdurdodedig ei ysgrifennu â llaw. Rhaid i’r llofnodwr awdurdodedig lofnodi â’i lofnod ei hun. Gellir cynyddu maint y blwch llofnodi yn ôl yr angen i gynnwys y llofnod.

Mae’r dull cyflawni hwn yn briodol os yw’r unigolyn yn methu llofnodi o gwbl. Os yw’r unigolyn yn gallu llofnodi (sy’n cynnwys llofnodi gyda’u marc), boed hynny â llaw, troed neu’r geg, gall fod yn well defnyddio’r dull cyflawni cyffredin.

2.5 Pobl yn llofnodi mewn llythrennau estron

Mae llofnod mewn llythrennau estron yn dal i ffurfio llofnod sy’n cydymffurfio â gofynion gweithred ddilys. Fodd bynnag, lle bydd unrhyw offeryn wedi ei gyflawni mewn llythrennau estron (hy heb fod yn Rhufeinig), fel llythrennau Arabaidd neu Dsieineaidd, bydd angen arnom naill ai:

  • ymestyn y geiriau cyflawni i gadarnhau bod y llofnodwr yn deall Saesneg neu fod y llofnodwr wedi ymgyfarwyddo gyda’i gynnwys (efallai trwy wrando ar ei ddarllen yn eu hiaith frodorol)
  • tystysgrif ar wahân i’r perwyl hwnnw a roddwyd gan y cyfreithiwr neu drawsgludwr yn gweithredu ar ran y llofnodwr

2.6 Pobl yn llofnodi yn rhinwedd swydd

O dan rai amgylchiadau bydd unigolion yn cyflawni gweithred heb fod mewn perthynas â’u busnes eu hunain ond yn rhinwedd rhyw swydd sy’n rhoi hawl iddynt weithredu ar ran rhywun arall. Enghreifftiau yw rhywun yn gweithredu fel ysgutor neu weinyddwr ystad rhywun a fu farw (adran 1 o Ddeddf Gweinyddiad Ystadau 1925) a rhywun yn gweithredu fel ymddiriedolwr mewn methdaliad ar ran methdalwr (Adran 306 o Ddeddf Ansolfedd 1986). Sylwch fod y sefyllfa yma yn wahanol i un lle bydd gan unigolyn awdurdod dirprwyedig o dan atwrneiaeth, sy’n cael ei drafod yn ddiweddarach. Mae angen i’r sawl sy’n llofnodi wneud hynny yn eu henw eu hunain a dylid ardystio’r llofnod yn y ffordd arferol. Nid oes angen addasu geiriau cyflawni’r weithred heblaw i ddangos yn rhinwedd pa swydd y llofnodwyd os nad yw hyn yn amlwg o gorff y ddogfen.

Yn ogystal â sicrhau ei bod yn amlwg o’r weithred yn rhinwedd pa swydd y llofnodwyd, bydd angen ichi lanlwytho tystiolaeth o awdurdod y person i weithredu fel hyn gyda’r cais, er enghraifft, y grant profiant pan fydd ysgutor yn llofnodi.

Caiff cyflawni gweithredoedd gan weinyddwr, derbynnydd neu ddatodwr cwmni sylw yn Cyflawni gweithredoedd yn dilyn penodi enwebai, goruchwyliwr, gweinyddwr, derbynnydd neu ddatodwr.

3. Cwmnïau cofrestredig o dan y Deddfau Cwmnïau yn cyflawni gweithredoedd

Ar 6 Ebrill 2008 daeth adran 44 o Ddeddf Cwmnïau 2006 i rym ac mae’n gymwys i weithredoedd a gyflawnir ar neu ar ôl 6 Ebrill 2008 gan gwmnïau sy’n gofrestredig o dan Ddeddfau Cwmnïau blaenorol a hefyd i gwmnïau sy’n gofrestredig yng Ngogledd Iwerddon.

3.1 Cwmni yn cyflawni o dan ei sêl gyffredin

Dyma ddull cyfraith gwlad o gyflawni gan gorfforaethau, wedi ei gadw ar gyfer cwmnïau cofrestredig o dan y Deddfau Cwmnïau trwy adran 36A(2) o Ddeddf Cwmnïau 1985 ac ar gyfer dogfennau a gyflawnir ar ac ar ôl 6 Ebrill 2008 trwy adran 44(1)(a) o Ddeddf Cwmnïau 2006.

Lle caiff y dull hwn o gyflawni ei fabwysiadu, bydd y sêl gyffredin fel arfer yn cael ei gosod ar y weithred ym mhresenoldeb ysgrifennydd y cwmni ac un cyfarwyddwr neu ddau gyfarwyddwr, sy’n ardystio’r selio trwy adlofnodi’r weithred a disgrifio eu hunain yn ôl eu gwahanol swyddi fel ‘ysgrifennydd’ a ‘cyfarwyddwr’ neu ‘cyfarwyddwr’ a ‘cyfarwyddwr’. Os caiff hyn ei wneud, o 15 Medi 2005 bydd adran 74(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 yn gwarchod prynwr (cyn 15 Medi 2005, pan ddaeth y newid i adran 74(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 trwy Orchymyn Diwygio Rheoleiddiol (Cyflawni Gweithredoedd a Dogfennau) 2005i rym, roedd yr amddiffyniad yn gyfyngedig i achosion lle gosodwyd y sêl ym mhresenoldeb cyfarwyddwr ac ysgrifennydd):

“O blaid prynwr bydd corfforaeth gyfansawdd yn cael ei hystyried i fod wedi cyflawni offeryn yn briodol os yw sêl yn honni i fod yn sêl y gorfforaeth yn honni iddi gael ei gosod ar yr offeryn ym mhresenoldeb ac wedi ei ardystio gan –

(a) dau aelod o fwrdd cyfarwyddwyr, cyngor neu gorff llywodraethol arall y gorfforaeth, neu

(b) un aelod o’r fath a chlerc, ysgrifennydd neu un o swyddogion parhaol eraill y gorfforaeth neu ei ddirprwy.”

Diffiniwyd yn adran 205(xxi) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 fel “prynwr yn ddidwyll am gydnabyddiaeth â gwerth iddi” ac i gynnwys “prydlesai, morgeisai neu rywun arall sy’n caffael budd mewn eiddo am gydnabyddiaeth â gwerth iddi”, gyda “chydnabyddiaeth â gwerth iddi” yn cynnwys priodas neu bartneriaeth sifil ond heb gynnwys “cydnabyddiaeth ariannol mewn enw”.

O dan adran 1(2A) o Ddeddf Cyfraith Eiddo (Darpariaethau Amrywiol) 1989 a gyflwynwyd trwy Orchymyn Diwygio Rheoleiddiol (Cyflawni Gweithredoedd a Dogfennau) 2005, ni fydd selio dogfen yn unig yn ei gwneud yn weithred. Rhaid iddi fod yn amlwg ar wyneb dogfen mai ei bwriad yw bod yn weithred. Rhaid ichi ddefnyddio’r cymal ardystio canlynol wrth selio gweithred gan gwmni, yn cynnwys gweithred ar un o’r ffurfiau a ddisgrifir gan Atodlen 1 i Reolau Cofrestru Tir 2003.

Cyflawnwyd fel gweithred trwy osod sêl gyffredin (enw’r cwmni) ym mhresenoldeb:

Llofnod y Cyfarwyddwr:___________________

Llofnod [Cyfarwyddwr][Ysgrifennydd]:________________

Bydd y ffurf gyflawni hon hefyd yn gymwys i weithredoedd a gyflawnir gan gwmnïau yng Ngogledd Iwerddon ar neu ar ôl 6 Ebrill 2008.

Mae gan y rhan fwyaf o gwmnïau, fodd bynnag, erthyglau cyweithio sy’n awdurdodi gosod sêl y cwmni ar weithred ym mhresenoldeb rhywun neu rywrai heblaw cyfarwyddwr a’r ysgrifennydd. Er enghraifft, mae erthygl 101 Tabl A (hynny yw, Tabl A yn yr Atodlen i Reoliadau Cwmnïau (Tablau A-F) 1985 (OS 1985/805).) yn darparu’r canlynol:

“Gall y cyfarwyddwyr bennu pwy sydd i lofnodi unrhyw offeryn gyda’r sêl wedi ei gosod arno ac, os na chaiff ei bennu’n wahanol, bydd i gyfarwyddwr a’r ysgrifennydd neu ail gyfarwyddwr ei lofnodi”.

Mae gwarchod prynwyr trwy ddarpariaeth adran 74(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 yn gyfyngedig i achosion lle gosodwyd y sêl ym mhresenoldeb cyfarwyddwr a’r ysgrifennydd neu, o 15 Medi 2005, dau gyfarwyddwr. Lle bydd cwmni yn cyflawni gweithred, trwy osod ei sêl ym mhresenoldeb pobl heblaw cyfarwyddwr a’r ysgrifennydd neu ddau gyfarwyddwr, gallwn alw am dystiolaeth bod erthyglau’r cwmni yn rhoi awdurdod priodol i bwy bynnag sy’n ardystio gosod y sêl wneud hynny. Lle bo eu hawdurdod hefyd yn dibynnu ar benderfyniad cyfarwyddwyr y cwmni, gallwn yn ogystal fynnu copi ardystiedig o benderfyniad y bwrdd.

3.2 Cwmni yn cyflawni heblaw o dan sêl gyffredin

Gall cwmni sydd naill ai heb unrhyw sêl neu, o fod ag un, sy’n dewis peidio â’i defnyddio, ddefnyddio gwahanol ddull cyflawni. Yn achos gweithredoedd a gyflawnir cyn 6 Ebrill 2008, mae adran 36A(4) o Ddeddf Cwmnïau 1985 yn darparu:

“Mae gan ddogfen a lofnodwyd gan gyfarwyddwr ac ysgrifennydd cwmni, neu gan ddau gyfarwyddwr cwmni, sy’n dweud (ar ba ffurf bynnag) ei bod wedi ei chyflawni gan y cwmni yr un effaith â phe bai wedi ei chyflawni o dan sêl gyffredin y cwmni.”

Mae adran 36A(6) o Ddeddf Cwmnïau 1985 yn gwarchod prynwyr lle bo dogfen yn cael ei chyflawni yn y ffordd ganlynol.

“O blaid prynwr cyfrifir bod cwmni wedi cyflawni dogfen yn briodol os yw’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan gyfarwyddwr ac ysgrifennydd y cwmni, neu ddau o gyfarwyddwyr y cwmni”.

Mae’r isadran yn mynd ymlaen i ddiffinio ‘prynwr’ fel ‘prynwr yn ddidwyll am gydnabyddiaeth â gwerth iddi’ gan gynnwys ‘prydlesai, morgeisai neu rywun arall sy’n caffael budd mewn eiddo am gydnabyddiaeth â gwerth iddi’.

Lle bo’r weithred o dan sylw yn drosglwyddiad o dir cofrestredig neu’n offeryn arall sydd â ffurf benodedig, dylid defnyddio’r cymal ardystio canlynol.

Llofnodwyd fel gweithred gan (enw’r cwmni) yn gweithredu trwy [cyfarwyddwr a’i ysgrifennydd][dau gyfarwyddwr]

Llofnod y Cyfarwyddwr:___________________

Llofnod yr [Ysgrifennydd][Cyfarwyddwr]:________________

Gellir defnyddio’r ffurf gyflawni uchod ar gyfer gweithredoedd a gyflawnir ar neu ar ôl 6 Ebrill 2008 yn rhinwedd adrannau 44(2)(a) a (3) o Ddeddf Cwmnïau 2006. Bydd y ffurf gyflawni hon hefyd yn gymwys i weithredoedd a gyflawnir gan gwmnïau yng Ngogledd Iwerddon ar neu ar ôl 6 Ebrill 2008. (Sylwer: pan fydd y cyflawni gan y cyfarwyddwr a’r ysgrifennydd, rhaid iddynt fod yn ddau berson ar wahân; ni all yr un unigolyn lofnodi yn y ddwy swyddogaeth (adran 280 o Ddeddf Cwmnïau 2006)).

Yn ogystal, yn achos gweithredoedd a gyflawnir ar neu ar ôl 6 Ebrill 2008, mae adran 44(2)(b) o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn darparu bod cwmni yn gallu cyflawni dogfen o dan gyfraith Loegr a Chymru neu Ogledd Iwerddon trwy un cyfarwyddwr os yw’r llofnod hwnnw’n cael ei dystio a’i ardystio.

Lle bo’r weithred o dan sylw yn drosglwyddiad o dir cofrestredig neu’n offeryn arall sydd â ffurf benodedig, dylid defnyddio’r cymal ardystio canlynol.

Llofnodwyd fel gweithred gan (enw’r cwmni) yn gweithredu trwy gyfarwyddwr ym mhresenoldeb:

Llofnod y Cyfarwyddwr:___________________

Llofnod y tyst:________________

Enw (mewn PRIF LYTHRENNAU):________________

Cyfeiriad:_________________________

Os yw gweithred yn cael ei chyflwyno i’w chofrestru heb y sêl gyffredin arni ac yn honni ei bod:

  • wedi ei chyflawni ar ran y cwmni gan lofnodwyr gyda disgrifiadau heblaw cyfarwyddwr ac ysgrifennydd, neu ddau gyfarwyddwr
  • wedi ei chyflawni ar neu ar ôl 6 Ebrill 2008 ar ran y cwmni gan lofnodwr gyda disgrifiad heblaw cyfarwyddwr lle bo’r llofnod yn cael ei dystio a’i ardystio

byddwn yn gofyn am gyflwyno tystiolaeth i ddangos y cyflawnwyd y weithred yn briodol. Os nad oes modd cyflwyno tystiolaeth o’r fath byddwn yn mynnu bod y weithred yn cael ei chyflawni’n gywir, naill ai o dan y sêl gyffredin neu trwy ddilyn y weithdrefn yn adran 36A(4) o Ddeddf Cwmnïau 1985 yn achos dogfennau a gyflawnwyd cyn 6 Ebrill 2008 neu adran 44(4) o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn achos dogfennau a gyflawnwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2008.

Bydd yr un peth yn berthnasol i weithred a gyflwynwyd i’w chofrestru sy’n honni ei bod wedi ei chyflawni ar ran y cwmni gan rywrai sydd heb unrhyw ddisgrifiad. Yr eithriad yw, os oes modd dangos trwy dystiolaeth allanol bod y llofnodion yn perthyn i bobl oedd mewn gwirionedd yn gyfarwyddwr ac ysgrifennydd, dau gyfarwyddwr, neu un cyfarwyddwr (os cafodd y llofnod ei dystio a’i ardystio) y cwmni ar adeg cyflawni, yna efallai y gallwn dderbyn bod y weithred wedi ei chyflawni’n ddilys.

3.3 Trosgludo

Fel gyda gweithredoedd eraill, rhaid trosgludo gweithred a gyflawnwyd gan gwmni hefyd er mwyn bod yn effeithiol.

Tybir bod dogfen, a gyflawnwyd gan gwmni sy’n ei gwneud yn amlwg ar ei hwyneb mai bwriad pwy bynnag sy’n ei gwneud yw iddi fod yn weithred, wedi cael ei throsgludo ar adeg ei chyflawni oni bai y profwyd bwriad i’r gwrthwyneb (adran 46 o Ddeddf Cwmnïau 2006).

Yn ymarferol, tybiwn fod dogfen wedi cael ei throsgludo fel gweithred oni bai bod rhyw arwydd i’r gwrthwyneb. Er enghraifft, os newidiwyd y geiriau cyflawni i ddarparu na fu trosgludo, neu nad yw trosgludo i gael ei dybio nes bydd rhyw amod wedi cael ei fodloni, byddwn angen tystiolaeth bod trosgludo wedi digwydd wedyn.

3.4 Cyflawni lle bo’r cyfarwyddwr neu’r ysgrifennydd hefyd yn gwmni

3.4.1 Cyflawni o dan sêl gyffredin

Mae angen gosod sêl y cwmni cyflawni ar y weithred “ym mhresenoldeb ac wedi ei ardystio gan” gyfarwyddwr a’r ysgrifennydd neu, er 15 Medi 2005, dau gyfarwyddwr (adran 74(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925, gweler Cwmni yn cyflawni o dan ei sêl gyffredin. Rhaid i gyfarwyddwr neu ysgrifennydd corfforaethol weithredu trwy gyfrwng gwir berson. Mae angen i’r cyfryw berson fod yn gorfforol bresennol ar adeg gosod y sêl ac yna rhaid iddo ardystio’r gosod gyda’u llofnod. Rhaid defnyddio’r geiriau cyflawni canlynol (wedi eu diwygio fel bo angen) lle mae’r cyfarwyddwr neu ysgrifennydd hefyd yn gwmni a lle mae’r weithred ar ffurf benodedig. Argymhellwn mai dyma a ddefnyddir ar gyfer gweithredoedd nad ydynt ar ffurf benodedig hefyd.

Llofnodwyd fel gweithred trwy osod sêl gyffredin (enw’r cwmni sy’n cyflawni) ym mhresenoldeb cyfarwyddwr ac (enw’r unigolyn) a awdurdodwyd yn briodol gan (enw’r [ysgrifennydd / cyfarwyddwr corfforaethol] i ardystio gosod y sêl ar ei ran fel [ysgrifennydd][cyfarwyddwr] o (enw’r cwmni sy’n cyflawni):

Sêl gyffredin y cwmni sy’n cyflawni: ___________

Llofnod y Cyfarwyddwr:_____________

Llofnod (enw’r unigolyn) a awdurdodwyd ar ran (enw’r gorfforaeth [ysgrifennydd / cyfarwyddwr]):___________”

3.4.2 Cyflawni heb sêl gyffredin

Gall cwmni sy’n cyflawni gweithred ar neu ar ôl 6 Ebrill 2008, heb ddefnyddio sêl gyffredin yn unol ag adran 44 o Ddeddf Cwmnïau 2006, ddefnyddio’r ffurfiau cyflawni awgrymedig canlynol.

Naill ai (a)

Llofnodwyd fel gweithred gan (enw’r cwmni sy’n cyflawni) yn gweithredu trwy law (enw’r unigolyn) a awdurdodwyd gan (enw’r cyfarwyddwr corfforaethol) i lofnodi ar ei ran fel cyfarwyddwr (enw’r cwmni sy’n cyflawni)

Llofnod y Cyfarwyddwr:_____________

Ym mhresenoldeb:

Llofnod y tyst:_________________

Enw (mewn PRIF LYTHRENNAU):_____________

Cyfeiriad:_________________

neu (b)

Llofnodwyd fel gweithred gan (enw’r unigolyn) wedi ei hawdurdodi gan (enw’r cyfarwyddwr corfforaethol) i lofnodi fel cyfarwyddwr (enw’r cwmni sy’n cyflawni)

Llofnod y Cyfarwyddwr:______________

Ym mhresenoldeb:

Llofnod y tyst:________________

Enw (mewn PRIF LYTHRENNAU):__________

Cyfeiriad:__________________

3.4.2.1 Cwmni’n cyflawni heb sêl gyffredin, gan 2 swyddog corfforaethol

Os oes gan gwmni cyflawni (A) 2 gyfarwyddwr corfforaethol gwahanol (neu gyfarwyddwr corfforaethol ac ysgrifennydd corfforaethol) (cwmnïau B ac C), rhaid dilyn y ffurfioldebau cyflawni sy’n ofynnol gan adran 44(2) neu (3) o Ddeddf Cwmnïau 2006 o hyd o ran cwmni cyflawni A gyda chwmnïau B ac C, fel sy’n briodol, yn ystyried adran 44(7) o Ddeddf Cwmnïau 2006, er enghraifft: Naill ai (a)

Wedi ei gyflawni fel gweithred gan (enw cwmni cyflawni A) yn cyflawni gan (enw llofnodwr awdurdodedig cwmni B) a awdurdodwyd yn briodol gan (enw cwmni B) i lofnodi ar ei ran fel cyfarwyddwr (enw cwmni cylawni A), ac (enw llofnodwr awdurdodedig cwmni C) a awdurdodwyd yn briodol gan (enw cwmni C) i lofnodi ar ei ran fel cyfarwyddwr/ysgrifennydd (enw cwmni cyflawni A):

Llofnod llofnodwr awdurdodedig cwmni B _______________

(Llofnodwr awdurdodedig (enw cwmni B), Cyfarwyddwr)

Llofnod llofnodwr awdurdodedig cwmni C _______________

(Llofnodwr awdurdodedig (enw cwmni C), Cyfarwyddwr/Ysgrifennydd)

neu (b)

Wedi ei gyflawni fel gweithred gan (cwmni cyflawni A) yn gweithredu trwy (enw’r unigolyn) a awdurdodwyd yn briodol gan (enw’r cwmni cyfarwyddwr corfforaethol (B) neu (C), fel y bo’n briodol) i lofnodi ar ei ran fel cyfarwyddwr (cwmni cyflawni A) :

Llofnod y Cyfarwyddwr _________________________

Ym mhresenoldeb:

Llofnod y tyst _________________________

Enw (mewn PRIF LYTHRENNAU): _____________________

Cyfeiriad: ___________________________

Felly i grynhoi, lle nad yw’r sêl gyffredin yn cael ei defnyddio, mae angen naill ai 2 lofnodwr awdurdodedig (llofnodwr awdurdodedig neu gyfarwyddwr cwmni B a llofnodwr awdurdodedig neu gyfarwyddwr/ysgrifennydd cwmni C) os yw cwmni cyflawni A yn cyflawni yn unol ag adran 44(2)(a) o Ddeddf Cwmnïau 2006 neu, llofnod unigolyn a awdurdodwyd yn briodol gan gyfarwyddwr cwmni B neu C, fel sy’n briodol, i lofnodi ar ei ran, ac y mae’r llofnod i gael ei hardystio gan dyst os yw cwmni cyflawni A yn cyflawni yn unol ag adran 44(2)(b) o Ddeddf Cwmnïau 2006).

3.5 Cyfarwyddwyr/ysgrifenyddion yn cyflawni ar ran amryw gwmnïau

O 15 Medi 2005 ymlaen, lle bo rhywun sy’n gyfarwyddwr neu ysgrifennydd dau gwmni neu fwy yn cyflawni gweithred ar ran pob un ohonynt, rhaid i rywun o’r fath lofnodi’r weithred ar wahân ar gyfer pob cwmni (adran 36A(4A), Deddf Cwmnïau 1985 ac adran 44(6) o Ddeddf Cwmnïau 2006). Mae’n hanfodol, fodd bynnag, bod y geiriau cyflawni yn cael eu llunio’n ofalus oherwydd, fel arall, gall fod angen prawf arnom fod gan y llofnodwyr y statws perthnasol o fewn pob cwmni. Felly rhaid defnyddio cymal ardystio yn debyg i’r canlynol lle mae’r weithred ar ffurf benodedig. Argymhellwn mai dyma a ddefnyddir ar gyfer gweithredoedd nad ydynt ar ffurf benodedig hefyd.

Llofnodwyd fel gweithred gan (enwau’r cwmnïau cyflawni) gan (enw’r unigolyn cyntaf yn llofnodi fel cyfarwyddwr) fel un o gyfarwyddwyr pob un o’r cwmnïau cyflawni a (enw’r ail unigolyn) fel [cyfarwyddwr][ysgrifennydd] pob un o’r cwmnïau cyflawni.

Llofnod Cyfarwyddwr y cwmni cyflawni cyntaf:___________________

Llofnod [Ysgrifennydd][Cyfarwyddwr] y cwmni cyflawni cyntaf:_____

Llofnod Cyfarwyddwr yr ail gwmni cyflawni:________________

Llofnod [Ysgrifennydd][Cyfarwyddwr] yr ail gwmni cyflawni:_______

Yn ogystal â’r ffurf gyflawni uchod, yn achos gweithredoedd a gyflawnwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2008 yn unol ag adran 44(2)(b) o Ddeddf Cwmnïau 2006, rhaid defnyddio’r ffurf ardystio ganlynol lle mae’r weithred ar ffurf benodedig. Argymhellwn mai dyma a ddefnyddir ar gyfer gweithredoedd nad ydynt ar ffurf benodedig hefyd.

Llofnodwyd fel gweithred gan (enwau’r cwmnïau cyflawni) yn gweithredu trwy (enw’r cyfarwyddwr) fel cyfarwyddwr pob un o’r cwmnïau cyflawni

Llofnod Cyfarwyddwr y cwmni cyflawni cyntaf:___________________

Llofnod Cyfarwyddwr yr ail gwmni cyflawni:________________

Llofnod y tyst:________________

Enw (mewn PRIF LYTHRENNAU):________________

Cyfeiriad:________________

3.6 Cwmnïau Albanaidd wedi eu cofrestru o dan y Deddfau Cwmnïau yn cyflawni

Rhaid i’r cwestiwn a yw gwarediad tir yng Nghymru a Lloegr yn ffurfiol ddilys gael ei benderfynu’n unol â’r lex situs, hynny yw, cyfraith Cymru a Lloegr. Yn ein barn ni felly, mae’r gofynion am drosglwyddiad ac ati effeithiol tir cofrestredig yr un fath pan fo’r gwarediad gan gwmni Albanaidd wedi ei gofrestru o dan y Deddfau Cwmnïau â gwarediad gan gwmnïau a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Yn unol â hynny, dylai’r cyflawni fod yn unol ag adran 46 o Ddeddf Cwmnïau 2006.

Mae Rheoliadau Cwmnïau Tramor (Cyflawni Dogfennau a Chofrestru Arwystlon) 2009 yn cynnwys darpariaethau o ran cyflawni gan gwmnïau tramor, ond nid yw cwmni Albanaidd yn gwmni tramor.

4. Cwmnïau heb eu cofrestru yn cyflawni gweithredoedd

Cwmni heb ei gofrestru (daw’r diffiniad sy’n dilyn o adran 718 o Ddeddf Cwmnïau 1985) yw corff corfforedig yn a chyda man busnes ym Mhrydain, heblaw:

  • corff corfforedig gan neu gofrestredig o dan unrhyw Ddeddf Seneddol gyffredinol gyhoeddus
  • unrhyw gorff heb ei ffurfio at ddiben cynnal busnes sydd â chaffael elw gan y corff neu ei aelodau unigol fel ei amcanion
  • unrhyw gorff wedi ei eithrio am y tro yn ôl cyfarwyddyd yr Ysgrifennydd Gwladol

Yn ymarferol, mae cwmnïau heb eu cofrestru fel arfer yn gorfforedig naill ai trwy siarter frenhinol neu Ddeddf Seneddol breifat ac o natur leol, er bod rhai cwmnïau mawr, fel cwmnïau yswiriant penodol, yn y dosbarth hwn. Wrth drosglwyddo tir cofrestredig ac offerynnau eraill sydd â ffurf benodedig, rhaid i’r cymal ardystio fod ar y ffurf a bennwyd yn Cwmni yn cyflawni o dan ei sêl gyffredin lle bydd y cwmni digofrestredig yn cyflawni gan ddefnyddio ei sêl gyffredin.

Yn achos gweithredoedd a gyflawnwyd cyn 6 Ebrill 2008, gall cwmni digofrestredig ddefnyddio’r un dull cyflawni arall â chwmni cofrestredig o dan y Deddfau Cwmnïau. Rheoliadau Cwmnïau (Cwmnïau Digofrestredig) 1985 (OS 1985/680) a Rheoliadau Cwmnïau (Cwmnïau Digofrestredig) (Newidiad Rhif 2) 1990 (OS 1990/1394). Mae’r Rheoliadau yn cymhwyso adran 36A o Ddeddf Cwmnïau 1985 i gwmnïau digofrestredig. Felly gall cwmni digofrestredig gyflawni heb ddefnyddio ei sêl trwy drefnu i un o’i gyfarwyddwyr a’i ysgrifennydd, neu ddau gyfarwyddwr, lofnodi ar ei ran. Yn achos trosglwyddo tir cofrestredig neu offeryn arall sydd â ffurf benodedig, rhaid i’r cymal ardystio fod ar y ffurf a bennwyd yn Cwmni yn cyflawni heblaw o dan sêl gyffredin.

Yn achos gweithredoedd a gyflawnwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2008 gall cwmni digofrestredig gyflawni gweithredoedd gan ddefnyddio ei sêl gyffredin yn Ffurf C, Atodlen 9 i Reolau Cofrestru Tir 2003.

Bydd angen i ni weld statud, siarter neu ddogfen arall cyfansoddiad y cwmni pan fydd mathau eraill o gymal ardystio yn cael eu mabwysiadu.

5. Corfforaethau eraill wedi eu corffori yn y Deyrnas Unedig yn cyflawni gweithredoedd

5.1 Cyffredinol

Mae corfforaeth naill ai’n gorfforaeth undyn neu’n gorfforaeth gyfansawdd. Swydd, fel ‘esgob’, yw corfforaeth undyn sydd â phersonoliaeth gyfreithiol ar wahân i ddaliwr arbennig y swydd am y tro. Corff o bobl yw corfforaeth gyfansawdd sydd â phersonoliaeth gyfreithiol ar wahân i aelodau arbennig y corff am y tro.

Mae’r adran hon yn ymwneud â chorfforaethau cyfansawdd heblaw cwmnïau cofrestredig o dan y Deddfau Cwmnïau a chwmnïau digofrestredig. Felly, ymysg y corfforaethau perthnasol i’r adran hon, mae’r rhai sy’n gorfforedig trwy neu’n gofrestredig o dan Ddeddfau cyffredinol cyhoeddus heblaw’r Deddfau Cwmnïau; mae hyn yn cynnwys cymdeithasau adeiladu, cymdeithasau cofrestredig, cymdeithasau llesiant corfforedig, corfforaethau addysg bellach ac uwch, cyrff llywodraethol ysgolion a gynhelir ac awdurdodau lleol.

Nid yw llacio gofyniad cyfraith gwlad i gyflawni gweithred o dan sêl, sy’n galluogi hepgor selio yn achos gweithredoedd a gyflawnwyd gan unigolion, yn ymestyn i gorfforaethau undyn (adran 1(10) o Ddeddf Cyfraith Eiddo (Darpariaethau Amrywiol) 1989). Ac eithrio partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig, nid yw’r ddarpariaeth statudol (adran 44(2) o Ddeddf Cwmnïau 2006) sy’n caniatáu i gwmnïau gyflawni trwy lofnod ar ran y cwmni’n gymwys i’r corfforaethau cyfansawdd sy’n berthnasol i’r adran hon. Oni bai y darperir ar gyfer hynny yn y paragraffau isod, byddwn, felly, yn mynnu bod corfforaeth undyn neu gyfansawdd yn cyflawni o dan sêl heblaw lle gall y ceisydd ddangos rhyw ddarpariaeth statudol benodol o ran y gorfforaeth o dan sylw.

Os yw’r gorfforaeth yn gorfforaeth gyfansawdd a’r cymal ardystio ar y ffurf a bennwyd yn Cwmni yn cyflawni o dan ei sêl gyffredin (Bydd angen addasu’r cymal hwn os nad yw aelod y corff llywodraethol yn ‘gyfarwyddwr’ neu os nad y swyddog parhaol yw’r ‘ysgrifennydd’, byddwn fel arfer yn derbyn y weithred heb ragor o dystiolaeth – bydd adran 74(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 yn berthnasol o blaid prynwr.

Bydd y ddeddfwriaeth neu ddogfen arall (fel siarter frenhinol) y corfforwyd y gorfforaeth dani fel arfer yn darparu ei bod yn cael sêl gorfforaethol ac yn gallu defnyddio’r sêl wrth gyflawni gweithredoedd. Os yw’r gorfforaeth wedi ei hawdurdodi i gyflawni gweithred trwy osod ei sêl heblaw yn unol ag adran 74(1), a’r fath ddull cyflawni yn cael ei fabwysiadu, bydd angen i ni weld deddfwriaeth neu’r ddogfen corfforiad neu reoleiddio materion. Gall corfforaeth o’r fath, os bydd yn trin tir cofrestredig yn rheolaidd, geisio cyflwyno’r ddogfen gorfforiad berthnasol i’r Adran Trefniadau Masnachol ym Mhrif Swyddfa Cofrestrfa Tir EF (gweler Trefniadau arbennig i gael manylion). Yna efallai y byddwn yn gallu cyhoeddi llythyr cyfleuster fydd, o gadw at ei delerau mewn achosion unigol, yn osgoi’r angen i lanlwytho copi o ddogfen corfforiad neu reoleiddio materion y gorfforaeth neu ymhob achos. Fodd bynnag, os yw corfforiad o dan ddarpariaethau Deddf gyffredinol gyhoeddus, ni fyddwn yn gofyn i gopi o’r ddeddfwriaeth gael ei lanlwytho gyda’r weithred, er y byddem yn gofyn am gyfeiriad at adran neu adrannau priodol y ddeddfwriaeth mewn llythyr eglurhaol i’w anfon gyda’r weithred.

Os cyflwynir gweithred i’w chofrestru heb y sêl gyffredin arni a honnir iddi:

  • gael ei chyflawni ar ran y gorfforaeth gan lofnodwyr
  • gael disgrifiadau heblaw’r hyn a ddarperir ar ei gyfer yn y ddarpariaeth statudol briodol yn caniatáu cyflawni heb sêl gyffredin

bydd angen lanlwytho tystiolaeth i ddangos bod y weithred wedi ei chyflawni’n briodol. Os na ellir cyflwyno tystiolaeth o’r fath, byddwn yn mynnu i’r weithred gael ei chyflawni’n gywir, naill ai o dan y sêl gyffredin neu trwy ddilyn y drefn a nodir yn y ddarpariaeth statudol briodol. Bydd yr un fath yn gymwys i weithred a gyflwynir i’w chofrestru sy’n honni iddi gael ei chyflawni ar ran y gorfforaeth gan bobl heb ddisgrifiad.

5.2 Partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig

Corfforaeth a chanddi bersonoliaeth gyfreithiol ar wahân i un ei haelodau, wedi ei ffurfio trwy gael ei chorffori o dan adran 1(2) o Ddeddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000 yw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

Mae Rheoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2009 (OS 2009/1804) yn cymhwyso adrannau 44-47 o Ddeddf Cwmnïau 2006 at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig, fel y gallant gyflawni gweithredoedd yn ôl darpariaeth adran 44 o Ddeddf Cwmnïau 2006. Mae’r rheoliadau yn addasu adrannau 44 o Ddeddf Cwmnïau 2006 fel bod y cyfeiriadau at gyfarwyddwr ac ysgrifennydd, neu ddau gyfarwyddwr, y cwmni i’w darllen fel cyfeiriadau at ddau aelod o’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (Rheoliad 4).

Awgrymwn eich bod yn defnyddio’r cymal ardystio canlynol lle mae partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cyflawni gweithred heb ddefnyddio sêl gyffredin, gyda dau aelod yn gweithredu.

Llofnodwyd fel gweithred gan (enw’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig) yn gweithredu trwy ddau aelod

Llofnod yr Aelod:___________________

Llofnod yr Aelod:___________________

Awgrymwn eich bod yn defnyddio’r cymal ardystio canlynol lle mae partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cyflawni gweithred heb ddefnyddio sêl gyffredin, gydag un aelod yn gweithredu.

Llofnodwyd fel gweithred gan (enw’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig) yn gweithredu trwy aelod ym mhresenoldeb:

Llofnod yr Aelod:___________________

Llofnod y tyst:________________

Enw (mewn PRIF LYTHRENNAU):________________

Cyfeiriad:________________

Os bydd y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn defnyddio sêl yn lle hynny, gallwn dderbyn hyn a bod y cymal ardystio fel yn Cwmni yn cyflawni o dan ei sêl gyffredin, ond gyda dau aelod yn ardystio gosod y sêl.

5.2.1Partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig a chanddynt aelodau corfforaethol

Lle bo’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn gweithredu trwy aelod corfforaethol, rydym yn argymell un o’r ffurfiau cyflawni canlynol:

A. Ffurf gyflawni a awgrymir heb sêl gyffredin gan bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sy’n gweithredu gan ddau aelod, un ohonynt yn gorff corfforaethol

Cyflawnwyd fel gweithred gan [enw’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig] gan [enw’r aelod], aelod, ac [enw’r person a awdurdodwyd i lofnodi i’r aelod corfforaethol], a awdurdodwyd yn briodol gan [enw’r aelod corfforaethol] i lofnodi ar ei ran fel aelod o [enw’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig]:

Llofnod aelod__________ (Aelod)

Llofnod y person a awdurdodwyd i lofnodi [enw’r aelod corfforaethol] ______ (ar ran yr aelod)

B.Ffurf gyflawni a awgrymir heb sêl gyffredin gan bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sy’n gweithredu gan gorff corfforaethol fel aelod, gyda llofnod wedi ei thystio

Cyflawnwyd fel gweithred gan [enw’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig] yn gweithredu trwy [enw’r person a awdurdodwyd i lofnodi i’r aelod corfforaethol] a awdurdodwyd yn briodol gan [enw’r aelod corfforaethol] i lofnodi ar ei ran fel aelod o [enw’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig] ym mhresenoldeb:

Llofnod y person a awdurdodwyd i lofnodi ar gyfer aelod corfforaethol ________ (ar ran yr aelod)

Llofnod y tyst___________ Enw’r tyst (mewn PRIF LYTHRENNAU) __________ Cyfeiriad y tyst_________________________

5.3 Cymdeithasau adeiladu

O dan adrannau 5(2)-(4) o Ddeddf Cymdeithasau Adeiladu 1986 mae cymdeithasau adeiladu yn gorfforaethau corfforedig ac, felly, gall prynwr gan gymdeithas adeiladu ddibynnu ar y diogelwch ddaw trwy adran 74(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925. Felly, os yw’r cymal ardystio ar y ffurf a bennwyd yn Cwmni yn cyflawni o dan ei sêl gyffredin, byddwn yn derbyn y weithred.

Byddwn fel arfer yn gallu derbyn (ffurflen DS1 neu ffurflen DS3 lle naill ai:

  • gosodwyd y sêl ar y ffurflen ac ardystio hynny yn unol ag adran 74(1)
  • gosodwyd y sêl ar y ffurflen ym mhresenoldeb ac ardystio hynny gan unigolyn sy’n cael ei ddisgrifio fel rhywun yn gweithredu trwy awdurdod bwrdd y cyfarwyddwyr
  • llofnodwyd y ffurflen gan unigolyn sy’n cael ei ddisgrifio fel rhywun gydag awdurdod priodol bwrdd y cyfarwyddwyr

Yn yr un modd, byddwn fel arfer yn gallu derbyn taleb glirio wedi ei hardystio ar arwystl cymdeithas adeiladu ddigofrestredig lle cafodd ei selio neu ei llofnodi yn unrhyw un o’r tair ffordd uchod (Adran 6C o Ddeddf Cymdeithasau Adeiladu 1986; Atodlen 2A, paragraff 1(1) i Reolau Cymdeithasau Adeiladu (Ffurf Dderbynneb Benodedig) 1997 (OS 1997/2869).).

5.4 Cymdeithasau cofrestredig

Caiff cymdeithasau cofrestredig eu cofrestru o dan Ddeddf Cwmnïau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014. Mae cymdeithasau cofrestredig yn cynnwys cymdeithasau diwydiannol a darbodus blaenorol.

Mae llawer o gymdeithasau tai (ond nid pob un) yn gymdeithasau cofrestredig.

Gallant gyflawni gweithredoedd o dan eu sêl gyffredin ym mhresenoldeb un ‘llofnodwr awdurdodedig’. Fel arall, gall y weithred fod wedi ei llofnodi gan aelod o’r pwyllgor a’i ysgrifennydd neu gan ddau aelod o’r pwyllgor ac wedi ei mynegi (ar ba ffurf bynnag) ei bod wedi ei chyflawni gan y gymdeithas. Rhaid i’r bloc gweithredu nodi’n glir bod yr unigolyn(unigolion) sy’n llofnodi’n llofnodwr awdurdodedig, er enghraifft trwy ychwanegu’r geiriau ‘Llofnodwr Awdurdodedig’ wrth ei enw.

6. Corfforaethau tramor yn cyflawni gweithredoedd

Gweler adran 4 cyfarwyddyd ymarfer 78: cwmnïau tramor a phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig.

7. Awdurdodau lleol yn cyflawni gweithredoedd

Yn ogystal â’r ffurfiau cyflawni diofyn a nodir yn Corfforaethau eraill wedi eu corffori yn y Deyrnas Unedig yn cyflawni gweithredoedd, mae nifer o awdurdodau lleol yn dirprwyo awdurdod i gyflawni gweithredoedd a dogfennau i wahanol uwch swyddogion. Gall prif gynghorau osgoi gorfod lanlwytho tystiolaeth bob tro trwy ei hanfon atom trwy ebost at localauthorityexecution@landregistry.gov.uk er mwyn i ni ei chofnodi’n ganolog. Wrth gyflawni gweithredoedd, dylid cynnwys enw neu swydd yr arwyddwyr fel sy’n briodol, fel y gallwn sicrhau y cânt eu cyflawni’n gywir.

Ar hyn o bryd, ni all llawer o awdurdodau lleol wneud trefniadau ar gyfer cyflawni gweithredoedd yn unol â’u trefniadau arbennig sefydledig â Chofrestrfa Tir EF. Mae nifer ohonynt yn newid eu cyfansoddiad i awdurdodi dulliau eraill o gyflawni. Hyd nes clywir yn wahanol, byddwn yn derbyn cyflawni lle mae awdurdod lleol hefyd yn ardystio y gall, o dan ei gyfansoddiad, gyflawni gweithred yn ddilys heblaw yn unol â’i drefniadau arbennig.

Rhaid i’r dystysgrif ganlynol gael ei lanlwytho gyda’r cais, wedi ei llofnodi gan drawsgludwr unigol a gyflogir gan yr awdurdod lleol perthnasol ac yn datgan bod y weithred wedi ei chyflawni’n gywir ac yn briodol yn unol â chyfansoddiad y Cyngor.

“Yr wyf i [enw’r trawsgludwr sy’n ardystio] trawsgludwr a gyflogir gan [enw’r awdurdod] yn ardystio bod y trosglwyddiad [neu weithred arall a gyflwynir i’w chofrestru] sy’n ddyddiedig [dyddiad y weithred] yn cael ei wneud trwy awdurdod y Cyngor ac wedi cael ei gyflawni’n gywir ac yn briodol yn unol â chyfansoddiad y Cyngor.”

8. Cyflawni gweithredoedd yn dilyn penodi enwebai, goruchwyliwr, gweinyddwr, derbynnydd neu ddatodwr

Dylech gyfeirio at gyfarwyddyd ymarfer 35: ansolfedd corfforaethol a chyfarwyddyd ymarfer 36: gweinyddiad a derbynyddiaeth am gyfarwyddyd llawnach ar achosion yn ymwneud â gweinyddwyr, derbynyddion a datodwyr yn cyflawni gweithredoedd.

8.1 Trefniadau gwirfoddol: penodi enwebai neu oruchwyliwr

Mae modd i gwmni mewn trafferthion fynd i drefniant gwirfoddol neu gompownd gyda’i gredydwyr (gweler yn gyffredinol adrannau 1-7 o Ddeddf Ansolfedd 1986). Caiff rhywun ei benodi i oruchwylio gweithredu’r cynllun a chaiff ei alw yn ‘enwebai’ nes bydd cyfarfod credydwyr a chyfarfod o’r cwmni wedi cymeradwyo’r cynllun, pryd y daw’r rhain yn ‘oruchwyliwr’. Oni bai bod y cynllun yn un lle trosglwyddwyd tir y cwmni i’r enwebai neu oruchwyliwr fel ymddiriedolwr, erys y tir wedi ei freinio yn y cwmni a rhaid iddo gyflawni gweithredoedd fel arfer.

8.2 Gorchmynion gweinyddu

Lle bo cwmni’n methu, neu’n debygol o fethu, talu ei ddyledion fe all gweinyddwr gael ei benodi i reoli ei faterion, busnes ac eiddo. Gall y llys, deiliad arwystl ansefydlog sy’n cymhwyso neu’r cwmni ei hun neu ei gyfarwyddwyr wneud y penodiad (gweler yn gyffredinol adran 8 ac Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986, fel y newidiwyd gan Ddeddf Menter 2002). Erys eiddo’r cwmni wedi ei freinio yn y cwmni ond mae gan y gweinyddwr awdurdod i ddefnyddio sêl y cwmni ac i gyflawni gweithredoedd yn enw ac ar ran y cwmni (Atodlen B1, paragraff 60, ac Atodlen 1, paragraffau 8 a 9 i Ddeddf Ansolfedd 1986).

Yn dilyn gwneud gorchymyn gweinyddu, gallwn dderbyn gweithred a gyflawnwyd gan y gweinyddwr ar y naill neu’r llall o’r ffurfiau canlynol. Mae ail ffurf y cymal ardystio yn dibynnu ar ddarllen y darpariaethau statudol yn Neddf Ansolfedd 1986 gydag adran 74(3) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 19255.

Cyflawnwyd fel gweithred trwy osod sêl gyffredin (enw’r cwmni) (mewn gweinyddiad) ym mhresenoldeb Gweinyddwr:___________________

Sêl gyffredin y cwmni:________________

Llofnodwyd fel gweithred gan (enw’r cwmni) (mewn gweinyddiad) trwy (enw’r gweinyddwr), ei weinyddwr, yn unol â phwerau a roddwyd o dan Ddeddf Ansolfedd 1986, ym mhresenoldeb:

Llofnodwch enw’r cwmni a’ch enw eich hunan yma, ee John Jones Cyf trwy law Jane Williams, ei weinyddwr:___________________

Llofnod y tyst:___________________

Enw (mewn PRIF LYTHRENNAU):________________

Cyfeiriad:________________

Mae angen ichi lanlwytho tystiolaeth o benodi’r gweinyddwr gyda’r weithred oni bai y nodwyd y penodiad yn y gofrestr eisoes – gweler cyfarwyddyd ymarfer 36: gweinyddiad a derbynyddiaeth.

8.3 Derbynyddiaeth

Gall dalwyr debentur benodi derbynnydd o dan adran 101(1)(iii) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925, oni fynegwyd bwriad i’r gwrthwyneb. Nid oes gan dderbynnydd o’r fath unrhyw bŵer statudol i gyflawni ar ran y cwmni.

Fodd bynnag, bydd debentur fel arfer yn cynnwys pŵer pendant i benodi derbynnydd a rhoi hawl i’r derbynnydd werthu eiddo’r cwmni neu ei waredu fel arall, gyda’r pŵer i gyflawni yn enw ac ar ran y cwmni. Awgrymwn fod derbynnydd o’r fath yn defnyddio’r ffurf gyflawni ganlynol.

Llofnodwyd fel gweithred gan (enw’r cwmni) gan (enw’r derbynnydd), ei dderbynnydd, a benodwyd o dan bwerau a roddwyd (iddo/iddi) gan gymal (rhif cymal perthnasol) o dan ddebentur dyddiedig (dyddiad) o blaid (enw’r rhoddwr benthyg) ym mhresenoldeb:

Llofnod y tyst:___________________

Enw (mewn PRIF LYTHRENNAU):________________

Cyfeiriad:_________________

Llofnodwch enw’r cwmni a’ch enw eich hunan yma, ee John Jones Cyf trwy law Jane Williams, ei dderbynnydd:_________________________

Lle bo cais i gofrestru ar sail gwarediad gan dderbynnydd, mae angen y canlynol arnom:

  • copi ardystiedig o’r debentur, oni bai y cofrestrwyd neu nodwyd y debentur
  • tystiolaeth bod pŵer penodi’r derbynnydd wedi codi (fel arfer bydd tystysgrif oddi wrth neu ar ran y dalwyr debentur bod pŵer penodi wedi codi yn ddigonol), a
  • chopi ardystiedig o benodi’r derbynnydd

8.4 Derbynyddiaeth weinyddol

Derbynnydd gweinyddol yw naill ai:

  • derbynnydd neu reolwr y cyfan (neu’r cyfan i bob diben) o eiddo cwmni a benodwyd gan neu ar ran dalwyr unrhyw ddebenturon y cwmni a ddiogelwyd trwy arwystl oedd, fel y crëwyd, yn arwystl ansefydlog, neu arwystl o’r fath ac un warant arall neu fwy
  • rhywun fyddai’n dderbynnydd neu reolwr o’r fath ond am benodi rhywun arall fel derbynnydd rhan o eiddo’r cwmni (adran 29(2) o Ddeddf Ansolfedd 1986)

Nid oes modd i ddeiliad debentur dyddiedig ar neu ar ôl 15 Medi 2003 benodi derbynnydd gweinyddol, ar waethaf unrhyw ddarpariaeth sydd yn y debentur (adran 72A o Ddeddf Ansolfedd 1986, a ddaeth i rym ar y diwrnod hwnnw). Mae eithriadau cyfyngedig i hyn yn adrannau 72B i 72GA o Ddeddf Ansolfedd 1986.

Awdurdodwyd derbynnydd gweinyddol i ddefnyddio sêl y cwmni ac i gyflawni gweithredoedd yn enw ac ar ran y cwmni (adran 42(1) a pharagraffau 8 a 9 Atodlen 1 i Ddeddf Ansolfedd 1986).

Gallwn dderbyn gweithred a gyflawnwyd gan y derbynnydd gweinyddol yn y naill neu’r llall o’r ffurfiau canlynol. Mae ail ffurf y cymal ardystio yn dibynnu ar ddarllen y darpariaethau statudol yn Neddf Ansolfedd 1986 gydag adran 74(3) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925.

Cyflawnwyd fel gweithred gan (enw’r cwmni) trwy osod sêl gyffredin (enw’r cwmni) ym mhresenoldeb:

Derbynnydd:___________________

Sêl gyffredin y cwmni:______________

Llofnodwyd fel gweithred gan (enw’r cwmni) gan (enw’r derbynnydd gweinyddol), ei dderbynnydd gweinyddol, a benodwyd o dan ddebentur dyddiedig (dyddiad) o blaid (enw’r rhoddwr benthyg) ym mhresenoldeb:

Llofnodwch enw’r cwmni a’ch enw eich hunan yma, ee John Jones Cyf trwy law Jane Williams, ei dderbynnydd gweinyddol:_________________________

Llofnod y tyst:___________________

Enw (mewn PRIF LYTHRENNAU):________________

Cyfeiriad:_________________

Gall y sawl sy’n paratoi’r offeryn deipio neu ysgrifennu enw’r cwmni yn y gofod a ddarperir, neu gall y derbynnydd gweinyddol ei ysgrifennu â llaw. Rhaid i’r derbynnydd gweinyddol lofnodi â’i lofnod ei hun. Gellir cynyddu maint y blwch llofnodi yn ôl yr angen i gynnwys y llofnod.

Lle bo cais i gofrestru ar sail gwarediad gan dderbynnydd gweinyddol, mae angen i’r dogfennau a’r dystiolaeth y cyfeiriwyd atynt yn Derbynyddiaeth gael eu lanlwytho gyda’ch cais.

8.5 Datodiad

Mae modd cyflawni gwarediad a wnaed gan gwmni mewn datodiad naill ai trwy i’r datodwr osod y sêl gyffredin a llofnodi’r ddogfen i dystio y gosodwyd y sêl yn eu presenoldeb, neu trwy i’r datodwr lofnodi’r ddogfen fel gweithred yn enw ac ar ran y cwmni (adrannau 165, 167 ac Atodlen 4, paragraff 7 i Ddeddf Ansolfedd 1986, i’w darllen gydag adran 74(3) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925).

Felly, gellid defnyddio’r cymalau ardystio canlynol.

Cyflawnwyd fel gweithred trwy osod sêl gyffredin (enw’r cwmni) (mewn datodiad) ym mhresenoldeb:

Datodwr:_________________________

Sêl gyffredin y cwmni:_________________

Llofnodwyd fel gweithred gan (enw’r cwmni) (mewn datodiad) yn gweithredu trwy (enw’r datodwr), ei datodwr, o dan y pwerau a roddwyd [iddo][iddi] trwy Atodlen 4 i Ddeddf Ansolfedd 1986 ym mhresenoldeb:

Llofnod y tyst:___________________

Enw (mewn PRIF LYTHRENNAU):________________

Cyfeiriad:_________________

Llofnodwch enw’r cwmni a’ch enw eich hunan yma, ee John Jones Cyf trwy law Jane Williams, ei ddatodwr:______________________

Bydd angen ichi lanlwytho tystiolaeth o ddatodiad gyda’r weithred (gweler cyfarwyddyd ymarfer 35: ansolfedd corfforaethol, adran 3 yn arbennig).

9. Ymddiriedolwyr elusennau yn cyflawni gweithredoedd

Dylech gyfeirio at gyfarwyddyd ymarfer 14: elusennau: cyngor am geisiadau i’w hanfon i Gofrestrfa Tir EF am gyfarwyddyd llawnach ar achosion yn ymwneud ag ymddiriedolwyr elusen yn cyflawni gweithredoedd.

9.1 Lle bo ymddiriedolwyr yr elusen yn unigolion

Mae’r egwyddor gyffredinol bod holl berchnogion ystad gyfreithiol yn gorfod cyflawni gwarediad yn berthnasol i ymddiriedolwyr elusen. Fodd bynnag, mae adran 333 o Ddeddf Elusennau 2011 yn caniatáu i ymddiriedolwyr elusen ddirprwyo awdurdod i ddim llai na dau o’u plith hwy i gyflawni, yn enw ac ar ran yr holl ymddiriedolwyr, unrhyw weithred sy’n rhoi trafodiad y mae’r ymddiriedolwyr yn rhan ohono mewn grym.

Ni fyddwn yn gofyn am dystiolaeth o’r dirprwyo os yw’r canlynol yn wir:

  • bod y gwarediad am arian neu werth arian ac nad oes unrhyw reswm dros amau didwylledd y sawl y caiff ei wneud o’i blaid
  • bod y weithred yn datgan iddi gael ei chyflawni yn unol ag adran 333 o Ddeddf Elusennau 2011

O dan yr amgylchiadau hyn, mae rhagdybiaeth bendant o blaid y prynwr y cyflawnwyd y weithred yn briodol (adran 333(5) o Ddeddf Elusennau 2011).

I ateb yr ail ofyniad yn y rhestr, awgrymwn fod trosglwyddiadau’n cynnwys y cymal canlynol (y bydd modd ei ddefnyddio hefyd mewn trawsgludiadau a mathau eraill o weithred, wedi ei addasu’n briodol).

AB a CD sy’n cyflawni’r trosglwyddiad hwn sef dau o berchnogion cofrestredig y tir yn y teitl hwn fel ymddiriedolwyr elusen ac ar ran holl ymddiriedolwyr yr elusen o dan awdurdod cyffredinol a roddwyd yn unol ag adran 333 o Ddeddf Elusennau 2011.

Fel arall, mae modd defnyddio’r cymal ardystio canlynol.

Llofnodwyd fel gweithred ar ran yr ymddiriedolwyr (neu derm arall a ddefnyddiwyd yn y weithred, ee “trosglwyddwyr”) gan (enw’r ymddiriedolwyr sy’n llofnodi), dau (neu’n ôl fel y bo’n digwydd) o’u plith hwy, o dan awdurdod a roddwyd yn unol ag adran 333 o Ddeddf Elusennau 2011 ym mhresenoldeb:

Llofnod y tyst:___________________

Enw (mewn PRIF LYTHRENNAU):________________

Cyfeiriad:_________________

Ymddiriedolwyr a enwyd i lofnodi yma, ee John Jones, Jane Williams:______________Llofnodwyr awdurdodedig

9.2 Lle bo ymddiriedolwyr yr elusen yn gorfforedig o dan Ran 12 o Ddeddf Elusennau 2011

Lle gwnaed ymddiriedolwyr elusen yn gorfforaeth o dan adran 251 o Ddeddf Elusennau 2011 a bod gan y corff sêl gyffredin, mae modd cyflawni gwarediad trwy osod y sêl gyffredin honno (adran 260(2) o Ddeddf Elusennau 2011). Ni fyddwn yn amau’r dull hwn o gyflawni os yw’r sêl gyffredin yn ymddangos ei bod wedi cael ei gosod ym mhresenoldeb swyddogion priodol elusen fel ag i ganiatáu gweithredu adran 74(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925. Defnyddiwch y cymal ardystio yn Cwmni yn cyflawni o dan ei sêl gyffredin, wedi ei addasu fel bo angen.

Mae dau ddull cyflawni arall posibl (adrannau 260(3) a 261(1) o Ddeddf Elusennau 2011), y gellid eu defnyddio naill ai lle nad oes gan y gorfforaeth sêl gyffredin neu ei bod yn dewis peidio â’i defnyddio.

Gall mwyafrif ymddiriedolwyr unigol yr elusen gyflawni’r weithred, gan fynegi bod y corff wedi cyflawni’r weithred (adran 260(3)(a)).

Mae modd cyflawni’r weithred o dan awdurdod a roddwyd i ddau ymddiriedolwr neu fwy i gyflawni yn enw ac ar ran y corff (adran 261(1)).

9.3 Lle bo ymddiriedolwr yr elusen yn gorfforaeth arall

Lle bo’r elusen yn gorff corfforedig heblaw o dan Ran 12 Deddf Elusennau 2011, cyfeiriwch at Cwmnïau cofrestredig o dan y Deddfau Cwmnïau yn cyflawni gweithredoedd neu Corfforaethau eraill wedi eu corffori yn y Deyrnas Unedig yn cyflawni gweithredoedd, fel y bo’n briodol, am gyfarwyddyd ar gyflawni.

9.4 Sefydliadau Corfforedig Elusennol (‘SCE’)

Yn rhinwedd rheoliadau 19-25 o Reoliadau Sefydliadau Corfforedig Elusennol (Cyffredinol) 2012, mae’r trefnau cyflawni ar gyfer SCEau yn adlewyrchu’r rheiny ar gyfer cyflawni gan gwmni corfforedig o dan y Deddfau Cwmnïau. Gall SCE gyflawni gweithred naill ai:

  • trwy osod ei sêl gyffredin (os oes un ganddo)
  • trwy gael y weithred wedi ei llofnodi gan o leiaf ddau ymddiriedolwr (neu, lle mai dim ond un ymddiriedolwr sydd gan yr SCE, gan yr ymddiriedolwr hwnnw)
  • gan berson a awdurdodwyd yn briodol fel atwrnai yr SCE, o dan bŵer penodol neu gyffredinol a roddir mewn offeryn wedi ei gyflawni fel gweithred, i gyflawni gweithredoedd a dogfennau ar ran yr SCE

Gall SCE, ond nid oes rheidrwydd arno, gael sêl gyffredin (rheoliad 23).

Mae rheoliad 20 yn darparu ar gyfer cyflawni trwy osod y sêl gyffredin ond nid yw’n nodi presenoldeb pwy neu ardystiad pwy sy’n ofynnol. Fodd bynnag, mae rheoliad 23(6)(a) a (b) yn datgan bod darpariaethau Deddf Cwmnïau 2006 yn gymwys mewn perthynas â rheoliad 23 fel pe bai cyfeiriadau at SCE wedi eu disodli gan gyfeiriadau at gwmni, a chyfeiriadau at ymddiriedolwr elusen wedi eu disodli gan gyfeiriadau at swyddog o’r cwmni. Mae dwy ffurf cynllun cyfansoddiad yr SCE gyhoeddwyd gan y Comisiwn Elusennau yn dangos (cymal 21 ym mhob achos) bod yn rhaid defnyddio’r sêl dim ond gydag awdurdod ymddiriedolwyr yr SCE (neu bwyllgor o ymddiriedolwyr) wedi eu hawdurdodi’n briodol gan ymddiriedolwyr yr SCE). Oni bai y pennir yn wahanol gan ymddiriedolwyr yr SCE, rhaid i o leiaf ddau o ymddiriedolwyr yr SCE lofnodi dogfen y mae’r sêl wedi ei gosod arni.

Gellir felly defnyddio’r ffurf gyflawni ar gyfer cwmnïau yn Cwmni yn cyflawni o dan ei sêl gyffredin wedi ei haddasu fel y bo’n briodol i gyfeirio at ymddiriedolwyr SCE.

Fel arall, mae rheoliad 20 yn darparu y gall yr SCE gyflawni trwy lofnod gan o leiaf ddau ymddiriedolwr (lle mae mwy nag un ymddiriedolwr gan yr SCE) neu gan unig ymddiriedolwr yr SCE (lle mai un yn unig sydd ganddo). Mae gan ddogfen wedi ei llofnodi yn y ffordd hon ac wedi ei mynegi i gael ei chyflawni gan yr SCE yr effaith ei bod wedi ei chyflawni o dan sêl gyffredin a cheir rhagdybiaeth o gyflawni dyledus o blaid prynwr am gydnabyddiaeth â gwerth (sy’n cynnwys prydlesai, morgeisai neu rywun arall) a chanddo fudd yn yr eiddo (rheoliad 20(5). Ffurf gyflawni awgrymedig yw:

Cyflawnwyd fel gweithred gan (enwau’r SCE sy’n cyflawni, gan gynnwys y geiriau “Sefydliad Corfforedig Elusennol”) yn gweithredu trwy (enw’r ymddiriedolwr cyntaf) a/ac (enw’r ail ymddiriedolwr) dau o’i ymddiriedolwyr.

Llofnod yr ymddiriedolwr cyntaf:________________Ymddiriedolwr

Llofnod yr ail ymddiriedolwr:_________________Ymddiriedolwr

neu, ar gyfer unig ymddiriedolwr:

Cyflawnwyd fel gweithred gan (enwau’r SCE sy’n cyflawni, gan gynnwys y geiriau “Sefydliad Corfforedig Elusennol”) yn gweithredu trwy (enw’r ymddiriedolwr) ym mhresenoldeb:

Llofnod yr unig ymddiriedolwr:________________Ymddiriedolwr

Llofnod y tyst:_________________

Enw (mewn PRIF LYTHRENNAU):_________________

Cyfeiriad:_________________

10. Cyflawni o dan atwrneiaeth

Dogfen gyfreithiol yw atwrneiaeth sy’n fodd i rywun (y rhoddwr) roi’r pŵer i rywun arall (yr atwrnai) weithredu ar ei ran. Rhaid i’r rhoddwr gyflawni’r atwrneiaeth fel gweithred. Mae’r adran hon yn ymwneud ag atwrneiod yn cyflawni trosglwyddiadau a gweithredoedd eraill.

Lle bydd asiant yn cael pŵer i gyflawni gweithred, rhaid i’r pŵer hwnnw ei hun fod yn gynwysedig mewn gweithred: Powell yn erbyn London & Provincial Bank (1893) 2 Pennod 555. Dyna pam fod cyfeiriadau yn yr adran hon at bwerau atwrnai, yn hytrach nag at gytundebau asiantaeth ysgrifenedig neu ar lafar. Nid yw’r cyfarwyddyd hwn yn delio ag atwrneiaethau a roddwyd yn ôl cyfraith awdurdodaeth arall. Mewn achosion o’r fath mae’n debyg y bydd angen llythyr oddi wrth gyfreithiwr cymwysedig sy’n ymarfer yn y gyfraith berthnasol, neu’n gyfarwydd â hi, yn cadarnhau effeithiolrwydd yr atwrneiaeth at ddibenion cyflawni’r weithred o dan sylw. Bydd angen cyfieithiad gydag unrhyw lythyr a dogfennau cefnogi o’r fath mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg.

Bydd atwrneiaeth naill ai at ddiben penodol neu’n gyffredinol. Os yw at ddiben penodol bydd angen ichi sicrhau ei fod yn cynnwys awdurdod clir i ymrwymo i’r trafodiad o dan sylw, gan fod atwrneiaethau yn cael eu dehongli’n gaeth. Rhaid i atwrneiaethau cyffredinol ddilyn y ffurf benodol yn Neddf Atwrneiaethau 1971 neu fod ar ffurf i’r un perwyl gan fynegi iddo gael ei wneud o dan Ddeddf Atwrneiaethau 1971 (Atodlen 1, adran 10(1)). Mae’r ffurf benodedig yn disgrifio’i hun fel atwrneiaeth gyffredinol ac mae’n datgan bod y rhoddwr yn penodi’r derbynnydd neu’r derbynwyr ar y cyd, neu ar y cyd ac yn unigol, i fod yn atwrnai neu atwrneiod iddynt yn unol ag adran 10 o Ddeddf Atwrneiaethau 1971).

Rhaid cyflwyno un o’r canlynol gydag unrhyw weithred a gyflawnwyd o dan atwrneiaeth sy’n cael ei chyflwyno i’w chofrestru

  • ffurf 1 (rheol 61 ac Atodlen 3 i Reolau Cofrestru Tir 2003)
  • copi digonol o unrhyw bŵer yr ydych yn dibynnu arno i brofi bod dogfen a gyflwynwyd gyda’ch cais wedi ei chyflawni’n briodol. Gweler adran 7 cyfarwyddyd ymarfer 9: atwrneiaethau a thir cofrestredig i gael rhagor o fanylion

Mae adran 3 o Ddeddf Atwrneiaethau 1971 yn pennu dull caeth o brofi cynnwys atwrneiaeth. I ddilyn y drefn hon dylai cyfreithiwr, notari cyhoeddus neu frocer stociau ardystio:

  • ar ddiwedd llungopi o’r pŵer ei fod yn gopi gwir a chyflawn o’r gwreiddiol, ac
  • ar bob tudalen y llungopi, os yw’r pŵer yn cynnwys mwy nag un dudalen, bod y dudalen yn gopi gwir a chyflawn o’r dudalen gyfatebol yn y gwreiddiol

Yn ymarferol, mae copi wedi ei ardystio gan drawsgludwr neu swyddog gweithredol cyfreithiol siartredig ei fod yn gopi cywir o’r pŵer gwreiddiol yn dderbyniol.

10.1 Ymddiriedolwyr yn dirprwyo

Dim ond pan fo ganddynt awdurdod i wneud hynny y gall ymddiriedolwyr ddirprwyo eu dyletswyddau a phwerau (fel cyflawni trosglwyddiad o dir ymddiried). Fodd bynnag, mae amryw ddarpariaethau statudol yn caniatáu dirprwyo erbyn hyn.

Sylwch, i orgyrraedd buddion llesiannol rhaid i’r atwrnai weithredu gydag o leiaf un person arall (adran 7 o Ddeddf Ddirprwyo gan Ymddiriedolwyr 1999. Fel y gwelir, fodd bynnag, nid oes unrhyw orgyrraedd lle bydd arian cyfalaf yn cael ei dalu i atwrneiod buddiolwr o dan adran 9 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996, er y gall fod mwy nag un ohonynt). Os caiff trosglwyddiad ei gyflwyno wedi ei gyflawni gan un person yn unig, fel perchennog ac fel atwrnai ar ran y perchennog arall neu fel atwrnai ar ran yr holl berchnogion, byddwn yn ei ddychwelyd i’w gyflawni gan y rhoddwr neu roddwyr. Os na chaiff y trosglwyddiad ei ailgyflawni byddwn yn cofnodi cyfyngiad yn y gofrestr i ddiogelu unrhyw fuddion llesiannol all fodoli.

Mae modd rhannu’r darpariaethau statudol sy’n caniatáu i ymddiriedolwyr ddirprwyo yn rhai sy’n caniatáu i ymddiriedolwyr unigol ddirprwyo a’r rhai sy’n caniatáu dirprwyo cyfunol gan yr ymddiriedolwyr.

10.1.1 Dirprwyo unigol

Adran 25, Deddf Ymddiriedolwyr 1925

O dan yr adran hon, gall ymddiriedolwr ddirprwyo ymarfer eu pwerau am 12 mis fan bellaf o ddechrau’r dirprwyo neu, os nad oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer pryd y bydd y dirprwyo’n dechrau, am 12 mis wedi i’r ymddiriedolwr gyflawni’r pŵer. Rhaid i’r ymddiriedolwr, cyn neu o fewn saith diwrnod ar ôl rhoi atwrneiaeth o’r fath, ei hysbysu i bob un o’r cyd-ymddiriedolwyr (os oes rhai) ac i unrhyw un sydd â phŵer o dan yr offeryn ymddiried i benodi ymddiriedolwr newydd (os oes un). Mae’r adran yn pennu ffurf o bŵer cyffredinol o ran swyddogaeth ymddiriedolwr (adran 25(6) o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925).

Adran 1, Deddf Ddirprwyo gan Ymddiriedolwyr 1999

Mae’r adran hon yn caniatáu defnyddio atwrneiaetho ran eiddo ymddiried os nad oes unrhyw arwydd yn y pŵer nad yw’r rhoddwr yn bwriadu i’r atwrnai ymarfer swyddogaethau ymddiriedolwr a, phan gaiff yr atwrneiaeth ei defnyddio, bod gan y rhoddwr fudd llesiannol yn yr eiddo. Nid yw cyfnod y dirprwyo hwn yn gyfyngedig ac nid yw gofynion hysbysu o dan adran 25 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925 yn berthnasol.

Bydd datganiad llofnodedig yr atwrnai wedi ei wneud cyn pen tri mis wedi dyddiad y ddogfen yn dystiolaeth bendant y bu budd llesiannol gan y rhoddwr yr adeg honno (adran 2 o Ddeddf Ddirprwyo gan Ymddiriedolwyr 1999). Y lle mwyaf cyfleus i’r atwrnai wneud y datganiad hwn yw yn y ddogfen.

(1) Mae modd cynnwys cymal yn debyg i’r canlynol yn y ddogfen.

Mae (enw’r atwrnai) yn cadarnhau bod gan (enw rhoddwr y pŵer) fudd llesiannol yn yr eiddo ar ddyddiad y (trosglwyddiad, arwystl ac ati) hwn.

(2) Mae modd ymgorffori’r datganiad yn un o’r cymalau ardystio yn Atwrneiod yn cyflawni gweithredoedd, er enghraifft:

Llofnodwyd fel gweithred gan (enw llawn yr unigolyn), sydd â budd llesiannol yn yr eiddo ar ddyddiad y (trosglwyddiad, arwystl ac ati) hwn, yn gweithredu trwy [ei atwrnai][ei hatwrnai] (enw llawn yr atwrnai) ym mhresenoldeb:

Llofnodwch enw’r unigolyn a’ch enw eich hunan yma, ee__________________John Jones Cyf trwy law Jane Williams

Llofnod y tyst:_________________

Enw (mewn PRIF LYTHRENNAU):_________________

Cyfeiriad:_________________

Gall y sawl sy’n paratoi’r offeryn deipio neu ysgrifennu enw’r unigolyn yn y gofod a ddarperir, neu gall yr atwrnai ei ysgrifennu â llaw. Rhaid i’r atwrnai lofnodi â’i lofnod ei hun. Gellir cynyddu maint y blwch llofnodi yn ôl yr angen i gynnwys y llofnod.

(3) Mae modd helaethu geiriau’r llofnod i:

John Jones trwy law ei atwrnai Jane Williams sy’n cadarnhau bod gan y rhoddwr fudd llesiannol yn yr eiddo ar ddyddiad hyn.

Mae modd gwneud y datganiad ysgrifenedig ar wahân hefyd dim ond iddo gael ei ddyddio o fewn tri mis i ddyddiad y ddogfen.

Os nad oes modd cyflwyno datganiad o’r fath, ar unrhyw un o’r ffurfiau hyn, byddwn yn ystyried tystiolaeth arall fod gan y rhoddwr fudd llesiannol ar yr amser perthnasol. Gall datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd (gweler cyfarwyddyd ymarfer 73: datganiadau o wirionedd) ) i’r perwyl hwnnw gan berson cyfrifol gyda gwybodaeth lawn o’r ffeithiau fod yn dderbyniol mewn rhai achosion.

Bydd angen i roddwr y pŵer gyflawni’r ddogfen yn niffyg tystiolaeth ddigonol hawl lesiannol y rhoddwr.

10.1.2 Dirprwyo cyfunol

10.1.2.1 Adran 9 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996

Gall pob ymddiriedolwr ymddiried tir ddirprwyo eu swyddogaethau ar y cyd i fuddiolwr neu fuddiolwyr mewn cyflawn oed a chyda hawl lesiannol i fudd mewn meddiant. Gall y dirprwyo fod am unrhyw gyfnod neu’n amhenodol. Ni all atwrneiaeth o dan yr adran hon fod yn atwrneiaeth barhaus neu atwrneiaeth arhosol: adran 9(6) o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996.

Fodd bynnag, nid yw’r atwrneiod buddiolwr hyn yn cael eu trin fel ymddiriedolwyr at ddibenion derbyn arian cyfalaf, sy’n golygu bod angen i’r ymddiriedolwyr eu hunain ymuno mewn unrhyw warediad lle bydd arian cyfalaf yn codi os yw buddion llesiannol i gael eu gorgyrraedd (adran 9(7) o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996). Felly, bydd y math hwn o bŵer yn briodol dim ond pan na fydd arian cyfalaf yn newid dwylo, ee wrth roi prydles heb dalu premiwm.

Mae gwarchod statudol ar gyfer trydydd person sy’n delio’n ddiffuant ag atwrnai y dirprwywyd pwerau ymddiriedolwr iddo fel buddiolwr ond nad oedd mewn gwirionedd yn fuddiolwr y gellid dirprwyo’r swyddogaethau ymddiriedolwr iddo. Y dybiaeth yw bod yr atwrnai yn rhywun y gellid bod wedi dirprwyo swyddogaethau ymddiriedolwr iddo oni bai bod gwybodaeth gan y trydydd parti nad oedd yn rhywun o’r fath (adran 9(2) o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996). O ganlyniad, lle bo buddiolwr wedi cyflawni gweithred o dan atwrneiaeth, efallai y bydd arnom angen datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd oddi wrth y trydydd parti i gadarnhau eu bod wedi gweithredu’n ddiffuant a heb wybod ar adeg cwblhau’r trafodiad nad oedd yr atwrnai yn rhywun y gellid dirprwyo swyddogaethau’r ymddiriedolwyr o ran y tir iddo. Fel arall, gall cyfreithiwr neu drawsgludwr y trydydd parti ddarparu tystysgrif i’r perwyl nad oedd gan eu cleient wybodaeth o’r fath ar adeg cwblhau (rheol 63 o Reolau Cofrestru Tir 2003, a ffurfiau 2 a 3).

10.1.2.2 Adran 11 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000

Mae’r adran hon yn caniatáu i’r ymddiriedolwyr “awdurdodi unrhyw un i ymarfer unrhyw un neu’r cyfan o’u swyddogaethau dirprwyadwy fel eu hasiant”. Y swyddogaethau dirprwyadwy yw holl bwerau a dyletswyddau’r ymddiriedolwyr heblaw (a) dosbarthu asedau ymddiried, (b) pŵer i ddyrannu ffioedd rhwng cyfalaf neu incwm, (c) pŵer i benodi ymddiriedolwyr neu (d) unrhyw bŵer a roddwyd gan unrhyw ddeddfiad arall neu’r offeryn ymddiried yn caniatáu dirprwyo. Adran 11(2) o Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000. Mae’r swyddogaethau dirprwyadwy yn wahanol yn achos ymddiried elusennol: adran 11(3). Mae’r rhai sy’n gallu gweithredu fel asiantau yn cynnwys un neu fwy o’r ymddiriedolwyr eu hunain, ond heb fod yn cynnwys buddiolwr (hyd yn oed os yw’r buddiolwr hefyd yn ymddiriedolwr) (adran 12 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000).

Mae sicrwydd i drydydd bartïon sy’n delio â’r asiantau hyn na fydd methiant yr ymddiriedolwyr i weithredu o fewn terfynau’r pwerau sy’n dod trwy’r adran yn annilysu’r awdurdodiad (adran 24 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000).

10.2 Atwrneiaethau parhaus

Diddymwyd Deddf Atwrneiaethau Parhaus 1985 gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005v(adran 66(1)(b) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005). Bydd pwerau parhaus a grëwyd cyn 1 Hydref 2007 yn parhau mewn grym ond maent yn amodol ar ddarpariaethau Atodlen 4 i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Nid oes modd creu pwerau parhaus newydd ar ôl 30 Medi 2007. Mae’n rhaid i’r rhai a grëwyd eisoes fod yn un o’r ffurfiau penodedig canlynol yn ôl dyddiad cyflawni’r pŵer a’r iaith a ddefnyddir.

  • Rheoliadau Atwrneiaethau Parhaus (Ffurf Benodedig) 1986.
  • Rheoliadau Atwrneiaethau Parhaus (Ffurf Benodedig) 1987.
  • Rheoliadau Atwrneiaethau Parhaus (Ffurf Benodedig) 1990 (ar ei ffurf wreiddiol ac fel y’i newidiwyd gan Reoliadau Atwrneiaethau Parhaus (Ffurf Benodedig)(Newidiad) 2005).
  • Rheoliadau Atwrneiaethau Parhaus (Ffurf Benodedig Gymraeg) 2000.

Y rheol gyffredinol yw bod modd rhoi atwrneiaeth am gyfnod amhenodol (mae atwrneiaeth o dan adran 25 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925, yn eithriad i’r rheol gyffredinol hon) ond y bydd anallu’r rhoddwr yn ei ddirymu ohono’i hun. Fodd bynnag, bydd atwrneiaeth barhaus yn dal i fod yn effeithiol hyd yn oed ar ôl i’r rhoddwr fynd yn analluog, ar yr amod bod y rhybuddion gofynnol wedi cael eu cyflwyno i’r perthnasau priodol a’r pŵer wedi cael ei gofrestru gyda’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ôl gofynion Deddf Galluedd Meddyliol 2005.

Os nad yw’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cofrestru’r pŵer ni all yr atwrnai/atwrneiod ei ddefnyddio i weithredu ar ran y rhoddwr os yw’n analluog.

Ar gais gan atwrnai, gall y Llys Gwarchod roi cyfarwyddyd i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gofrestru’r atwrneiaeth/atwrneiaethau er na roddwyd rhybudd fel sy’n ofynnol yn ôl Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Atodlen 4, Paragraff 13(3) i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005).

Rhaid i roddwr yr atwrneiaeth barhaus ac yna’r atwrnai gyflawni atwrneiaeth barhaus fel gweithred yn gyntaf. Os bydd dau atwrnai neu fwy yn cael eu penodi ar y cyd, rhaid i bob un ohonynt gyflawni’r pŵer, ond os cânt eu penodi ar y cyd ac ar wahân, dim ond un sy’n gorfod ei gyflawni. Fodd bynnag, dim ond yr atwrneiod cyd ac unigol hynny sydd wedi cyflawni’r pŵer all weithredu wedi i’r rhoddwr fynd yn analluog (Rheoliadau 3 a 4, Rheoliadau Atwrneiaethau Parhaus (ffurfiau penodedig) 1990).

Os cofrestrwyd atwrneiaeth barhaus yn y Llys Gwarchod neu gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus, a gorchymyn neu gyfarwyddyd wedi ei wneud gan y llys o dan Atodlen 4, Paragraff 16 i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, mewn perthynas â’r pŵer neu’r rhoddwr neu’r derbynnydd, rhaid lanlwytho’r gorchymyn neu’r cyfarwyddyd neu gopi swyddogol neu gopi ardystiedig o’r gorchymyn neu’r cyfarwyddyd gyda’r weithred a chopi o’r pŵer (rheol 61(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003 fel y’i newidiwyd).

10.3 Atwrneiaethau arhosol

Cyflwynwyd atwrneiaethau arhosol gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Maent yn disodli atwrneiaethau parhaus fel y brif ffordd o ddewis rhywun i wneud penderfyniadau os yw unigolyn yn mynd yn analluog. Bydd rhoddwr yn gallu penodi atwrnai i wneud penderfyniadau ynghylch ei les personol, yn ogystal â’i eiddo a materion, ar gyfer amser pan na fydd yn gallu gwneud y fath benderfyniadau ei hun.

Mae Rhan 1, Atodlen 1, Rheoliadau Atwrneiaethau Arhosol, Atwrneiaethau Parhaus a’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2007 yn pennu’r ffurf i’w defnyddio ar gyfer atwrneiaeth arhosol eiddo a materion.

Rhaid cyflawni atwrneiaeth arhosol yn unol â rheoliad 9, Rheoliadau Atwrneiaethau Arhosol, Atwrneiaethau Parhaus a’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2007. Bydd rhaid i’r rhoddwr lofnodi’n gyntaf ym mhresenoldeb tyst; rhaid i’r sawl neu’r rhai sy’n rhoi’r dystysgrif/tystysgrifau sy’n ofynnol yn ôl paragraff 2(1)(e) Atodlen 1 i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 lofnodi nesaf; yna mae’n rhaid i’r derbynnydd/derbynyddion lofnodi ym mhresenoldeb tyst. Rhaid i’r rhoddwr beidio â thystio unrhyw lofnod sy’n ofynnol ar gyfer y pŵer. Yn yr un modd, ni all derbynnydd dystio unrhyw lofnod sy’n ofynnol ar gyfer y pŵer ac eithrio llofnod derbynnydd arall. Mae’n rhaid i rywun sy’n tystio llofnod lofnodi’r offeryn a rhoi eu henw a chyfeiriad llawn. Mae llofnodi yn cynnwys llofnod trwy roi croes ar y weithred yn y lle priodol.

Dim ond ar ôl cofrestru pŵer arhosol gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus y gellir ei ddefnyddio. Mae’n rhaid i’r sawl sydd ar fin gwneud cais am gofrestriad gyflwyno rhybudd yn gyntaf, ar y ffurf a nodir yn Atodlen 2 i Reoliadau Atwrneiaethau Arhosol, Atwrneiaethau Parhaus a’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2007.

Os cofrestrwyd atwrneiaeth arhosol gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a gorchymyn neu gyfarwyddyd wedi ei wneud gan y llys o dan adrannau 22 neu 23 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 mewn perthynas â’r pŵer neu’r rhoddwr neu’r derbynnydd, rhaid lanlwytho’r gorchymyn neu’r cyfarwyddyd neu gopi swyddogol neu gopi ardystiedig o’r gorchymyn neu’r cyfarwyddyd gyda’r weithred a chopi o’r pŵer (rheol 61(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003 fel y’i newidiwyd).

10.4 Atwrneiaethau dros flwyddyn oed

Mae modd dirymu atwrneiaeth naill ai’n benodol gan y rhoddwr neu’n oblygedig trwy farwolaeth, methdaliad neu anallu meddyliol y rhoddwr (heblaw yn achos atwrneiaeth barhaus neu arhosol) neu, lle bo’r rhoddwr yn gorfforaeth, trwy ei dirwyn i ben neu ei dirymu. Eithriad pwysig i’r rheol gyffredinol hon yw atwrneiaeth a fynegwyd i fod yn ddi-alw’n ôl ac yn cael ei roi i sicrhau budd perchnogol y derbynnydd neu gyflawni ymrwymiad oedd yn ddyledus i’r derbynnydd. Ni fydd y rhoddwr yn dirymu pŵer o’r fath heb ganiatâd y derbynnydd, neu trwy farwolaeth ac ati y rhoddwr, ar yr amod bod gan y derbynnydd y budd perchnogol neu fod yr ymrwymiad yn aros heb ei gyflawni: adran 4(1) o Ddeddf Atwrneiaethau 1971.

Lle dirymwyd pŵer a bod rhywun, heb wybod am y dirymiad, yn delio â derbynnydd y pŵer, bydd y trafodiad rhyngddynt yn ddilys (adran 5(2) o Ddeddf Atwrneiaethau 1971). O dan rai amgylchiadau mae prynwr yn cael ei warchod yn statudol hefyd lle bo eu budd yn dibynnu ar ddilysrwydd trafodiad a wnaed rhwng yr atwrnai a rhywun arall. Caiff ei dybio’n bendant na wyddai’r olaf ar yr adeg berthnasol am ddirymu’r pŵer os digwyddodd y trafodiad o fewn 12 mis i’r dyddiad y daeth y pŵer yn effeithiol neu os yw’r sawl sy’n delio â’r atwrnai, er enghraifft, prynwr oddi wrth yr atwrnai, yn tyngu datganiad statudol cyn pen tri mis wedi cwblhau’r pryniant na wyddai ar yr adeg berthnasol bod y pŵer wedi cael ei ddirymu (adran 5(4) o Ddeddf Atwrneiaethau 1971. Mae adran 9(5) o Ddeddf Atwrneiaethau Parhaus 1985, yn darparu bod gwybodaeth am ddirymiad rhoddwr o atwrneiaeth barhaus a gofrestrwyd o dan y Ddeddf honno yn golygu gwybodaeth am ddirymiad a gadarnhawyd gan y Llys). Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn gwarchod yn debyg o ran atwrneiaethau parhaus lle bo’r atwrneiaeth yn annilys ond wedi ei gofrestru o dan y Ddeddf honno neu o dan Ddeddf Atwrneiaethau Parhaus 1985 (Atodlen 4, Paragraff 18(4) i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005).

Gyda sefyllfa gyfreithiol fel yr uchod, efallai y byddwn yn gofyn am ddatganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd na ddirymwyd y pŵer gan y sawl a ddeliodd â’r atwrnai lle nad yw’r trafodiad rhwng yr atwrnai a’r cyfryw berson wedi ei gwblhau o fewn 12 mis i’r atwrneiaeth ddod yn weithredol. Fel arall, gall cyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig y person ddarparu tystysgrif (rheol 62, a Ffurf 2 o Reolau Cofrestru Tir 2003 – gweler Ffurf 2: Datganiad statudol/tystysgrif/datganiad o wirionedd).

Gan mai dim ond am 12 mis y gall atwrneiaethau Deddf Ymddiriedolwyr weithredu, nid oes angen tystiolaeth o fod heb ddirymu’r pwerau hyn.

10.5 Atwrneiod yn cyflawni gweithredoedd

10.5.1 Atwrneiod sy’n unigolion

Gall atwrnai sy’n unigolyn gyflawni’r weithred (boed y rhoddwr yn unigolyn neu’n gorfforaeth) naill ai trwy lofnodi yn ei enw eu hunan (“ar ran [enw’r rhoddwr]”) (“[yn gweithredu trwy [ei] atwrnai [enw’r atwrnai]”) neu yn enw’r rhoddwr (adran 7 o Ddeddf Atwrneiaethau 1971; adran 74(3) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925). Nid oes unrhyw gymal ardystio penodol, ond bydd y naill neu’r llall o’r canlynol yn dderbyniol i ni.

Llofnodwyd fel gweithred gan (enw llawn yr atwrnai) fel atwrnai (enw llawn yr unigolyn neu gorfforaeth) ym mhresenoldeb:

Llofnodwch eich enw eich hunan yma ac enw’r unigolyn/corfforaeth, ee__________________Jane Williams fel atwrnai ar ran John Jones/John Jones Cyf

Llofnod y tyst:_________________

Enw (mewn PRIF LYTHRENNAU):_________________

Cyfeiriad:______________

Llofnodwyd fel gweithred gan (enw llawn yr unigolyn) / Cyflawnwyd fel gweithred gan (enw llawn y gorfforaeth)] yn gweithredu trwy ei/eu atwrnai/hatwrnai (enw llawn yr atwrnai) ym mhresenoldeb:

Llofnodwch eich enw eich hunan yma ac enw’r unigolyn/corfforaeth,

ee________________John Jones/John Jones Cyf trwy law ei atwrnai Jane Williams

Llofnod y tyst:_________________

Enw (mewn PRIF LYTHRENNAU):_________________

Cyfeiriad:_________________

Yn y ddwy enghraifft, gall y sawl sy’n paratoi’r offeryn deipio neu ysgrifennu enw’r rhoddwr yn y gofod a ddarperir, neu gall ei atwrnai ei ysgrifennu â llaw. Rhaid i’r atwrnai lofnodi â’i lofnod ei hun. Gellir cynyddu maint y blwch llofnodi yn ôl yr angen i gynnwys y llofnod.

10.5.2 Atwrneiod corfforaethol

Gall atwrnai corfforaethol gyflawni gweithred mewn un o dair ffordd.

Gall gyflawni gan ddefnyddio ei sêl ei hun.

Cyflawnwyd fel gweithred trwy osod sêl gyffredin (enw’r atwrnai corfforaethol) fel atwrnai (enw llawn yr unigolyn neu gorfforaeth) ym mhresenoldeb:

Sêl gyffredin y cwmni:_____________

Llofnod y Cyfarwyddwr:_________________

Llofnod [y Cyfarwyddwr][yr Ysgrifennydd]:____________

O 15 Medi 2005 ymlaen, mae’r amddiffyniad i brynwr sy’n cael ei ddarparu gan adran 74(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 neu a newidiwyd gan Orchymyn Diwygio Rheoleiddiol (Cyflawni Gweithredoedd a Dogfennau) 2005 yn berthnasol lle gosodwyd y sêl ym mhresenoldeb ac wedi ei ardystio gan gyfarwyddwr a’r ysgrifennydd neu ddau gyfarwyddwr.

Os nad oes gan yr atwrnai corfforaethol unrhyw sêl neu os yw’n dewis peidio â defnyddio ei sêl, gall gyflawni fel a ganlyn (adran 44(2)(a) o Ddeddf Cwmnïau 2006).

Llofnodwyd fel gweithred yn (enw’r atwrnai corfforaethol) yn gweithredu trwy [cyfarwyddwr a’i ysgrifennydd][dau gyfarwyddwr] fel atwrnai (enw’r unigolyn neu gorfforaeth)

Llofnod_________________Cyfarwyddwr

Llofnod____________[Cyfarwyddwr][Ysgrifennydd]

Yn ogystal â’r uchod, os yw’r atwrnai corfforaethol yn cyflawni gweithred heb ddefnyddio sêl gyffredin ar neu ar ôl 6 Ebrill 2008 yn unol ag adran 44(2)(b) o Ddeddf Cwmnïau 2006 gellir defnyddio’r ffurf gyflawni ganlynol.

Llofnodwyd fel gweithred yn (enw’r atwrnai corfforaethol) yn gweithredu trwy gyfarwyddwr fel atwrnai ar ran (enw llawn yr unigolyn neu’r gorfforaeth) ym mhresenoldeb:

Llofnod_________________Cyfarwyddwr

Llofnod y tyst:____________

Enw (mewn PRIF LYTHRENNAU): ____________

Cyfeiriad:____________

Gall bwrdd cyfarwyddwyr, cyngor neu gorff llywodraethol arall atwrnai corfforaethol benodi swyddog i gyflawni’r weithred yn enw’r rhoddwr (adran 74 (4) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925). Cymal cyflawni addas fyddai:

Llofnodwyd fel gweithred yn enw ac ar ran (enw llawn yr unigolyn neu gorfforaeth) gan (enw llawn y swyddog), swyddog a benodwyd i’r diben gan fwrdd cyfarwyddwr (enw’r atwrnai corfforaethol) ei atwrnai/ei hatwrnai, ym mhresenoldeb:

Llofnodwch enw’r rhoddwr yn unigolyn neu gorfforaeth, enw’r atwrnai corfforaethol a’ch enw eich hunan yma, ee_________________John Jones/John Jones Cyf trwy law ei atwrnai Jane Williams Cyfyngedig yn gweithredu trwy Edward Parry

Llofnod y tyst:____________

Enw (mewn PRIF LYTHRENNAU):____________

Cyfeiriad:____________

Gall enw’r rhoddwr unigol neu gorfforaeth ac enw’r atwrnai corfforaethol gael eu teipio neu eu hysgrifennu â llaw yn y gofod a ddarperir gan y person sy’n paratoi’r offeryn, neu gallant gael eu hysgrifennu â llaw gan y swyddog awdurdodedig. Rhaid i’r atwrnai lofnodi â’i lofnod ei hun. Gellir cynyddu maint y blwch llofnodi yn ôl yr angen i gynnwys y llofnod.

10.5.3 Cyflawni lle bo atwrnai wedi dirprwyo ei awdurdod i atwrnai arall

Weithiau, bydd atwrnai rhoddwr (atwrnai 1) yn dirprwyo ei awdurdod i atwrnai arall (atwrnai 2) lle caniateir hyn gan yr atwrneiaeth wreiddiol. Enghraifft o fath derbyniol o’r ffurf gyflawni lle bo atwrnai wedi dirprwyo ei awdurdod yw:

[Llofnodwyd fel gweithred gan atwrnai awdurdodedig priodol (enw llawn atwrnai unigol 2) / Wedi ei gyflawni fel gweithred gan atwrnai awdurdodedig priodol (enw llawn atwrnai corfforaethol 2)] yn unol ag atwrneiaeth ddyddiedig [ ] yn [ei/ei/eu] allu[gallu] fel atwrnai ar gyfer (enw atwrnai llawn 1) sydd yn ei dro yn gweithredu yn rhinwedd [ei/ei/eu] swydd fel atwrnai ar gyfer (enw llawn yr unigolyn neu’r gorfforaeth) yn unol ag atwrneiaeth ddyddiedig [ ] sy’n awdurdodi neu’n caniatáu dirprwyo cyflawni’r weithred hon trwy (enw atwrnai llawn 1) i’r atwrnai awdurdodedig priodol (enw atwrnai llawn 2).

_________ (enw llawn atwrnai 2) fel atwrnai ar gyfer enw llawn (enw atwrnai 1) sy’n atwrnai ar gyfer (enw llawn yr unigolyn neu’r gorfforaeth)

Llofnod y tyst: ______

Enw (MEWN PRIF LYTHRENNAU): ______

Cyfeiriad: ______

Sylwer: Byddai’r awgrym uchod yn ymdrin â’r sefyllfa lle bo atwrnai yn cyflawni’r weithred (p’un ai y mae’r rhoddwr yn unigolyn neu’n gorfforaeth) trwy lofnodi/cyflawni yn ei enw ei hunan ar ran y rhoddwr, ond gall yr atwrnai hefyd lofnodi/cyflawni yn yr enw’r rhoddwr, sy’n golygu y rhoddwr yn cyflawni trwy ei atwrnai, ac felly byddai angen geirio’r ffurf o gyflawni dderbyniol awgrymedig uchod yn unol â hynny – mae adran 7 o Ddeddf Pwerau Atwrnai 1971 yn cyfeirio at hyn.

10.6 Dirprwy a benodir o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 yn cyflawni

Gall dirprwy a benodir gan Lys Gwarchod i weithredu ar ran unigolyn gyflawni’r weithred. Nid oes cymal ardystio penodedig, ond bydd y canlynol yn dderbyniol i ni.

Llofnodwyd fel gweithred gan (enw llawn yr unigolyn sydd â ddiffyg gallu) trwy (enw llawn y dirprwy ) yn unol â (Gorchymyn/Cyfarwyddyd) y Llys Gwarchod dyddiedig (…), ym mhresenoldeb:

Y dirprwy i lofnodi enw’r unigolyn a’i enw ei hun yma e.e. Jane Williams gan ei dirprwy John Smith_________________

Llofnod y tyst:____________

Enw (mewn PRIF LYTHRENNAU): ____________

Cyfeiriad:____________

Gall y sawl sy’n paratoi’r offeryn deipio neu ysgrifennu enw’r person sydd heb alluedd yn y gofod a ddarperir, neu gall y Dirprwy ei ysgrifennu â llaw. Rhaid i’r Dirprwy lofnodi â’i lofnod ei hun. Gellir cynyddu maint y blwch llofnodi yn ôl yr angen i gynnwys y llofnod.

10.7 Gwarcheidwad a benodir o dan Ddeddf Gwarcheidiaeth (Pobl ar Goll) 2017 yn cyflawni

Gall gwarcheidwad a benodir gan yr Uchel Lys i weithredu ar ran person coll gyflawni gweithredoedd. Nid oes cymal ardystio penodedig, ond bydd y canlynol yn dderbyniol pan fydd yn cyflawni fel gwarcheidwad ac unigolyn preifat yw’r person coll.

Llofnodwyd fel gweithred gan (enw llawn y person sydd ar goll) yn gweithredu trwy (enw llawn y gwarcheidwad) yn unol â Gorchymyn y Llys dyddiedig (…..…) ym mhresenoldeb: (Gwarcheidwad i lofnodi yma enw’r unigolyn a’i enw ei hunan, ee Jane Williams gan ei gwarcheidwad John Smith)

Llofnod: ________

Llofnod y tyst: ________ Enw (MEWN PRIFLYTHRENNAU): _________

Cyfeiriad: ________________

Gall y sawl sy’n paratoi’r offeryn deipio neu ysgrifennu enw’r person sydd ar goll yn y gofod a ddarperir, neu gall y gwarcheidwad ei ysgrifennu â llaw. Rhaid i’r gwarcheidwad lofnodi â’i lofnod ei hun. Gellir cynyddu maint y blwch llofnodi yn ôl yr angen i gynnwys y llofnod.

10.8 Trosglwyddiadau a gyflawnir gan farnwr neu un o swyddogion y llys yn unol â gorchymyn llys

Os gwnaed gorchymyn llys sy’n cyfarwyddo trosglwyddiad neu weithred arall ond ni fydd y perchennog cofrestredig (fel parti i’r achos) yn cyflawni’r weithred, gall y barnwr neu swyddog arall o’r llys gyflawni’r weithred. Dylech lanlwytho copi o’r gorchymyn llys fel tystiolaeth o gyflawni’n gywir a dylai’r cymal cyflawni gyfeirio’n glir at y gorchymyn llys (enw’r llys, cyfeirnod yr achos a dyddiad y gorchymyn).

Rydym yn disgwyl i eiriau cyflawni ffurfiol fel “wedi eu llofnodi fel gweithred gan [enw’r barnwr neu swyddog y llys]” gael eu defnyddio.

Os yw barnwr wedi llofnodi’r weithred, nid ydym yn disgwyl i’w lofnod gael ei dystio. Er bod ffurflen TR1, er enghraifft, yn ffurflen benodedig ac yn darparu tyst ar gyfer llofnod y parti sy’n cyflawni, gellir dadlau bod trosglwyddiad neu drawsgludiad a gyflawnwyd gan farnwr yn unol â gorchymyn a wnaed o dan y pŵer yn adran 39 o Ddeddf yr Uchel Lysoedd 1981 yn drosglwyddiad a gyflawnwyd yn unol â chyfarwyddiadau’r llys.

Fodd bynnag, os yw’r weithred yn cael ei chyflawni gan rywun heblaw barnwr, megis swyddog o’r llys, rhaid i’w lofnod gael ei dystio yn y ffordd arferol.

11. Gwrthrannau

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y partïon yn cyflawni’r un weithred, sy’n well er mwyn hwyluso prosesu’r cais. Rhaid i’r holl bobl sy’n gwneud y gwarediad ei gyflawni, felly’r trosglwyddwyr fydd y rhain yn achos trosglwyddiad. Os yw’r gwarediad yn drosglwyddiad a’i fod yn cynnwys cyfamodau neu ddatganiadau trosglwyddai neu gais gan y trosglwyddeion (megis am gyfyngiad), dylai’r trosglwyddeion ei gyflawni hefyd.

Fodd bynnag, gellir cyflawni gweithredoedd mewn mwy nag un rhan. Yna ceir prif weithred a gwrthran neu wrthrannau. Rhaid i bob gwrthran gynnwys yr un telerau yn union â’r brif weithred.

Mae hyn yn golygu, yn achos TR1 lle mae’n rhaid i A a B drosglwyddo i C a D a rhaid i’r olaf weithredu hefyd, byddai’r canlynol yn dderbyniol.

1) mae A a B ac C a D i gyd yn llofnodi’r un TR1 ym mhanel 12.

2) mae A a B yn llofnodi’r un TR1; mae C a D naill ai’n llofnodi TR1 gwrthrannol neu’n llofnodi TR1 gwrthrannol ar wahân.

3) mae A a B bob un yn llofnodi TR1 ar wahân; mae C a D naill ai’n llofnodi TR1 gwrthrannol neu’n llofnodi TR1 gwrthrannol ar wahân.

Lle ceir prif weithred a gweithred gwrthran ond bod yr unig warediad sy’n cael ei wneud gan lofnodwr y brif weithred, nid oes angen cyflwyno’r gwthran gyda’r cais am gofrestriad. Er enghraifft, yn 2) a 3) uchod, os mai’r unig warediad yw’r trosglwyddiad i’r ystad gofrestredig, nid oes angen lanlwytho’r gwrthran neu’r gwrthrannau a lofnodwyd gan C a D.

Fodd bynnag, yn 3), bydd angen lanlwytho’r TR1 a lofnodwyd gan A a’r TR1 a lofnodwyd gan B.

Defnyddir gwrthrannau yn gyffredin pan fydd landlord yn rhoi prydles: mae’r tenant yn cyflawni’r brydles wrthrannol. Dim ond y brydles ei hun y mae’n rhaid ei lanlwytho gyda chais i gofrestru rhoi’r brydles.

12. Trefniadau arbennig

Nid arfer gyffredinol Cofrestrfa Tir EF yw cadarnhau y caiff ffurf gyflawni benodol ei derbyn pan gaiff ei defnyddio ar gyfer cyflwyno gweithredoedd i’w cofrestru. Mae angen i gwsmeriaid sy’n paratoi gweithredoedd i’w cyflwyno ar gyfer cofrestru fodloni eu hunain bod y ffurf gweithredu sydd i’w defnyddio’n cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol gan gynnwys, lle bo’n briodol, y gofynion yn rheol 206 (3) ac Atodlen 9 i Reolau Cofrestru Tir 2003.

Fodd bynnag, gall unrhyw gorff fydd yn cyflawni gweithredoedd yn rheolaidd naill ai trwy ddefnyddio ffurf gyflawni sy’n arbennig i’r corff hwnnw neu atwrneiaeth hirsefydlog fod eisiau ystyried ceisio cael trefniant arbennig gyda ni lle mae’r ffurf gyflawni i’w defnyddio ar gyfer rhyddhadau arwystlon cofrestredig ar ffurflen DS1. Mae trefniant o’r fath yn gofyn ein bod yn cymeradwyo’r ffurf gyflawni neu atwrneiaeth at ddibenion cofrestru. Dylai hyn osgoi i ni orfod gwneud ymholiadau’n barhaol ynghylch dilysrwydd y cyflawniad neu orfod gweld copi ardystiedig o’r atwrneiaeth. Sylwch, fodd bynnag, na allwn warantu gallu darparu trefniant arbennig ym mhob achos. Nid yw trefniadau ar gyfer mathau eraill o weithredoedd yn bosibl.

Os ydych o’r farn y gall cleient elwa ar drefniant o’r fath, dylech geisio rhagor o gyngor gan yr Adran Trefniadau Masnachol ym Mhrif Swyddfa Cofrestrfa Tir EF trwy anfon ebost at CommercialArrangements@landregistry.gov.uk.

Nid yw’r cyfarwyddyd hwn mewn unrhyw fodd yn effeithio ar drefniadau arbennig sydd eisoes mewn grym.

13. Atodiad 1

13.1 Ffurf 2: datganiad statudol/tystysgrif/datganiad o wirionedd bod pwerau heb eu dirymu ar gyfer pwerau dros 12 mis oed ar ddyddiad y gwarediad y cânt eu defnyddio ar ei gyfer (rheol 62)

Dyddiad yr atwrneiaeth

Rhoddwr yr atwrneiaeth

Yr wyf i [enw] o [cyfeiriad]

yn ddifrifol ac yn ddiffuant yn [datgan] neu [’n ardystio] nad oedd ar adeg cwblhau’r

i mi/fy nghleient, gennyf fi/ gan fy nghleient wybodaeth ynghylch –

  • dirymiad y pŵer, neu

  • marwolaeth neu fethdaliad y rhoddwr, neu os yw’r rhoddwr yn gorff corfforaethol, ei ddirwyn i ben neu ei derfynu, neu

  • unrhyw anallu’r rhoddwr lle nad yw’r pŵer yn atwrneiaeth arhosol neu barhaus dilys, neu

Lle mae’r pŵer ar y ffurf a benodwyd ar gyfer atwrneiaeth arhosol –

  • na chrëwyd atwrneiaeth arhosol, neu

  • am amgylchiadau a fyddai wedi terfynu awdurdod yr atwrnai i weithredu fel atwrnai, pe byddai’r atwrneiaeth arhosol wedi ei chreu, neu

Lle mae’r pŵer ar ffurf a benodwyd ar gyfer atwrneiaeth barhaus –

  • nad oedd y pŵer mewn gwirionedd yn atwrneiaeth barhaus ddilys, neu

  • gorchymyn neu gyfarwyddyd y Llys Gwarchod a ddirymodd y pŵer, neu

  • methdaliad yr atwrnai, neu

Lle rhoddwyd y pŵer o dan adran 9 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996 –

  • penodiad ymddiriedolwr arall o’r tir o dan sylw, neu

  • unrhyw ddigwyddiad arall a fyddai wedi arwain at ddirymu’r pŵer, neu

  • unrhyw ddiffyg didwylledd ar ran y person(au) a ymdriniodd â’r atwrnai, neu

  • nad oedd yr atwrnai yn berson y gellid fod wedi dirprwyo swyddogaethau’r ymddiriedolwyr iddo o dan adran 9 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996, neu

Lle mae’r pŵer wedi ei fynegi i’w roi fel arwystl –

  • na roddwyd y pŵer mewn gwirionedd fel arwystl, neu
  • unrhyw ddirymiad o’r pŵer gyda chaniatâd yr atwrnai, neu
  • unrhyw ddigwyddiad arall a fyddai wedi arwain at ddirymu’r pŵer.

Lle rhoddir tystysgrif :

Llofnod y trawsgludwr Dyddiad

Enw mewn prif lythrennau

Enw’r cwmni neu gyflogwr (os oes un)

Swyddogaeth (e.e. yn gweithredu ar ran…) neu

Lle gwneir Datganiad Statudol:

Ac yr wyf fi’n gwneud y datganiad dwys hwn gan gredu’n gydwybodol ei fod yn wir ac yn rhinwedd darpariaethau Deddf Datganiadau Statudol 1835.

Llofnod y Datganwr(wyr)
Dyddiad

DATGANWYD yn ger fy mron i, person sydd â’r hawl i weinyddu llwon.

Enw

Cyfeiriad

Cymhwyster

Llofnod

Lle gwneir datganiad o wirionedd:

Credaf fod y ffeithiau a’r materion yn y datganiad hwn yn wir.

Llofnod

Dyddiad

Enw mewn prif lythrennau

Enw’r cwmni neu gyflogwr (os oes un) neu unrhyw drawsgludwr sy’n llofnodi

Swyddogaeth (e.e. yn gweithredu ar ran…)

RHYBUDD

  1. Os ydych yn rhoi gwybodaeth mewn modd anonest neu’n gwneud datganiad y gwyddoch ei fod, neu a allai fod yn anwir neu’n gamarweiniol, ac yn bwriadu, trwy wneud hynny, gynnig mantais ichi neu rywun arall, neu achosi colled neu’r risg o golled i rywun arall, gallech fod yn cyflawni’r trosedd o dwyll o dan adran 1 o Ddeddf Twyll 2006, a’r uchafgosb ar gyfer hyn yw carchar o 10 mlynedd neu ddirwy ddiderfyn, neu’r ddau.

  2. Os nad ydych yn llenwi’r ffurflen hon gyda’r gofal priodol gall diogelwch o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 gael ei golli os yw camgymeriad yn cael ei wneud yn y gofrestr o ganlyniad i hyn.

  3. O dan adran 66 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 mae’r rhan fwyaf o ddogfennau (gan gynnwys y ffurflen hon) a gedwir gan y cofrestrydd sy’n ymwneud â chais a gyflwynir i’r cofrestrydd neu y cyfeirir ato yn y gofrestr ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio a’u copïo. Os ydych yn credu bod dogfen yn cynnwys gwybodaeth niweidiol, gallwch wneud cais i’r rhan honno o’r ddogfen gael ei heithrio trwy ddefnyddio Ffurflen EX1, o dan reol 136 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

13.2 Ffurf 3: Datganiad statudol/tystysgrif i ategu pŵer yn dirprwyo swyddogaethau ymddiriedolwyr i fuddiolwr (rheol 63)

Dyddiad yr atwrneiaeth

Rhoddwr yr atwrneiaeth Yr wyf i [enw] o [cyfeiriad]

yn ddifrifol ac yn ddiffuant yn [datgan] neu [’n ardystio] nad oedd ar adeg cwblhau’r

i mi/fy nghleient, gennyf fi/gan fy nghleient wybodaeth ynghylch:

  • unrhyw ddiffyg didwylledd ar ran y person(au) a ymdriniodd â’r atwrnai, neu
  • nad oedd yr atwrnai yn berson y gellid fod wedi dirprwyo swyddogaethau’r ymddiriedolwyr iddo o dan adran 9 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996.

Lle rhoddir tystysgrif:

Llofnod y trawsgludwr Dyddiad

Enw mewn prif lythrennau

Enw’r cwmni neu gyflogwr (os oes un)

Swyddogaeth (e.e. yn gweithredu ar ran…); neu

Lle gwneir Datganiad Statudol:

Ac yr wyf fi’n gwneud y datganiad dwys hwn gan gredu’n gydwybodol ei fod yn wir ac yn rhinwedd darpariaethau Deddf Datganiadau Statudol 1835.

Llofnod y Datganwr(wyr) Dyddiad

DATGANWYD yn ger fy mron i, person sydd â’r hawl i weinyddu llwon

Enw

Cyfeiriad

Cymhwyster

Llofnod neu

Lle gwneir datganiad o wirionedd:

Credaf fod y ffeithiau a’r materion yn y datganiad hwn yn wir.

Llofnod Dyddiad

Enw mewn prif lythrennau

Enw’r cwmni neu gyflogwr (os oes un) neu unrhyw drawsgludwr sy’n llofnodi

Swyddogaeth (e.e. yn gweithredu ar ran…)

RHYBUDD

  1. Os ydych yn rhoi gwybodaeth mewn modd anonest neu’n gwneud datganiad y gwyddoch ei fod, neu a allai fod yn anwir neu’n gamarweiniol, ac yn bwriadu, trwy wneud hynny, gynnig mantais ichi neu rywun arall, neu achosi colled neu’r risg o golled i rywun arall, gallech fod yn cyflawni’r trosedd o dwyll o dan adran 1 o Ddeddf Twyll 2006, a’r uchafgosb ar gyfer hyn yw carchar o 10 mlynedd neu ddirwy ddiderfyn, neu’r ddau.

  2. Os nad ydych yn llenwi’r ffurflen hon gyda’r gofal priodol gall diogelwch o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 gael ei golli os yw camgymeriad yn cael ei wneud yn y gofrestr o ganlyniad i hyn.

  3. O dan adran 66 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 mae’r rhan fwyaf o ddogfennau (gan gynnwys y ffurflen hon) a gedwir gan y cofrestrydd sy’n ymwneud â chais a gyflwynir i’r cofrestrydd neu y cyfeirir ato yn y gofrestr ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio a’u copïo. Os ydych yn credu bod dogfen yn cynnwys gwybodaeth niweidiol, gallwch wneud cais i’r rhan honno o’r ddogfen gael ei heithrio trwy ddefnyddio Ffurflen EX1, o dan reol 136 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

13.3 Ffurf 7: Tystysgrif pwerau corfforaethau tramor (rheol 183)

Yr wyf fi o [rhowch gyfeiriad gweithle, gan gynnwys gwlad] yn ardystio –

  • fy mod yn rhoi’r dystysgrif hon mewn perthynas â [y gorfforaeth],
  • fy mod yn ymarfer y gyfraith yn [nodwch y diriogaeth] (y diriogaeth) a bod gennyf yr hawl i wneud hynny fel cyfreithiwr cymwysedig o dan gyfraith y diriogaeth,
  • bod gennyf wybodaeth angenrheidiol o gyfraith y diriogaeth ac o’r gorfforaeth i roi’r dystysgrif hon,
  • bod y gorfforaeth wedi ei hymgorffori yn y diriogaeth gyda’i phersonoliaeth gyfreithiol ei hun, ac
  • nad oes gan y gorfforaeth unrhyw gyfyngiadau ar ei phŵer i ddal, morgeisio, prydlesu a delio fel arall â, neu i roi benthyg ar forgais neu arwystl, tir yng Nghymru a Lloegr.

Llofnod Dyddiad

14. Atodiad 2: Enghreifftiau lle nad oes ond un tyst i lofnodion lluosog

Lle nad oes ond un tyst i lofnodion lluosog, gall yr enghreifftiau canlynol fod o gymorth.

   
“Llofnodwyd fel gweithred gan A a B ym mhresenoldeb” Ddim yn dderbyniol (nid yw’n glir bod A a B (y ddau) wedi llofnodi ym mhresenoldeb yr unig dyst).
“Llofnodwyd fel gweithred gan A a B, y ddau ym mhresenoldeb” Derbyniol
“Llofnodwyd fel gweithred gan A a B. Gwneir y ddau lofnod ym mhresenoldeb” Derbyniol
“Llofnodwyd fel gweithred ar ran Z Cyf gan A a B, y ddau ym mhresenoldeb” Derbyniol
“Llofnodwyd fel gweithred ar ran Z Cyf gan A a B yn arfer y pwerau a roddwyd gan atwrneiaeth dyddiedig … [dyddiad]. [Llofnod y tyst, gydag enw’r tyst a manylion ei gyfeiriad]” Ddim yn dderbyniol (nid yw’n glir bod y ddau atwrnai wedi llofnodi ym mhresenoldeb yr unig dyst).
“Llofnodwyd fel gweithred ar ran Z Cyf gan A a B yn arfer y pwerau a roddwyd gan atwrneiaeth dyddiedig … [dyddiad]. Gwneir y ddau lofnod ym mhresenoldeb [llofnod y tyst, gydag enw’r tyst a manylion ei gyfeiriad]” Derbyniol

15. Pethau i’w cofio

Er mwyn osgoi anfon ymholiadau, cyn cyflwyno eich cais i ni, gwnewch yn siwr:

  • bod y weithred yn cael ei chyflawni gan bob parti i’r weithred, lle bo angen
  • y darperir tystiolaeth i gyfrif am absenoldeb parti i’r weithred (er enghraifft tystysgrif marwolaeth)
  • lle mae angen tystio i’r cyflawni, dylai’r ardystiad gan y tyst:
    • gynnwys llofnod y tyst
    • ddangos yn glir bod ei lofnod fel tyst i’r ffaith bod yr unigolyn wedi llofnodi’r weithred, a
    • dangos ei enw a’i gyfeiriad yn glir (gan gynnwys y cod post)
  • pan fydd gweithred yn cael ei chyflawni o dan atwrneiaeth, sicrhau bod copi ardystiedig o’r atwrneiaeth yn cael ei gyflwyno. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 9: atwrneiaethau a thir cofrestredig am ragor o wybodaeth.
  • lle caiff gweithred ei chyflawni gan ddefnyddio llofnod electronig, gweler cyfarwyddyd ymarfer 82: llofnodion electronig a dderbynnir gan Gofrestrfa Tir EF

Mae rhagor o wybodaeth ac awgrymiadau ar gyfer osgoi ymholiadau ar gael ar Hyb Hyfforddi Cofrestrfa Tir EF.

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.