Canllawiau

Gwneud cais: plant a’r llysoedd teulu

Diweddarwyd 7 Awst 2024

Datrys anghydfod teulu

Gwyddom fod gwrthdaro hirdymor rhwng rhieni sy’n gwahanu yn niweidiol i les plant, yn y tymor byr a’r hirdymor. Gall datrys eich trefniadau teuluol y tu allan i’r llys fod yn brofiad gwell i deuluoedd na mynd drwy’r llysoedd teulu, oherwydd: 

  • bydd gennych fwy o reolaeth dros yr hyn sy’n digwydd
  • fel arfer bydd yn achosi llai o straen
  • gall fod yn rhatach
  • gall fod yn gyflymach a pheri llai o ofid i chi a’ch plant

Cyn cyflwyno’ch cais i’r llys, yn gyfreithiol mae’n rhaid i chi fynychu Cyfarfod Asesu a Gwybodaeth am Gyfryngu (MIAM) gyda chyfryngwr teuluol awdurdodedig.

Nid yw’r MIAM yn cymryd llawer o amser. Bydd y cyfryngwr yn eich helpu chi a’r unigolyn arall i geisio dod i gytundeb ar faterion, megis:

  • trefniadau ar gyfer plant
  • trefniadau ariannol
  • rhannu eiddo heb orfod mynd i’r llys

Mae yna lawer o opsiynau ar gyfer datrys anghydfodau y tu allan i’r llys, megis:

  • cyfryngu neu gyflafareddu
  • gwerthusiad gan drydydd parti niwtral (fel proses datrys anghydfodau ariannol preifat)
  • cyfraith gydweithredol

Yn ddibynnol ar eich amgylchiadau personol, efallai y bydd rhaid i chi dalu am y cyfarfod. Gall cyfryngu llwyddiannus leihau costau i chi yn y tymor hir. Gallwch ddarllen mwy am MIAM a sut i drefnu un.

Efallai gallwch gael cymorth gyda chostau cyfryngu.

Dan rai amgylchiadau, megis achos sy’n ymwneud â cham-drin domestig - efallai na fydd angen i chi fynychu MIAM. Os credwch nad oes angen i chi fynychu MIAM, gallwch hawlio esemptiad.

Darllenwch fwy am y rhesymau dilys dros beidio â mynychu MIAM

Ar gyfer rhai esemptiadau MIAM, rhaid i chi roi tystiolaeth i gefnogi eich cais. Rhaid darparu unrhyw dystiolaeth gyda’ch cais. Bydd y llys yn adolygu’r dystiolaeth fel bod esemptiad MIAM wedi’i hawlio’n gywir.

Cynlluniau rhianta: rhoi plant yn gyntaf – arweiniad i rieni sy’n gwahanu

Mae ‘Cynlluniau Rhianta: Rhoi plant yn gyntaf – arweiniad i rieni sy’n gwahanu’ yn llyfryn rhad ac am ddim ar gyfer rhieni sy’n gwahanu sy’n ceisio helpu rhieni i ddod i gytundeb am drefniadau ar gyfer eu plant ar ôl iddynt wahanu neu ysgaru.

Gallwch lawrlwytho copi o’r llyfryn cynllun rhianta, neu gallwch gael copi gan eich llys teulu lleol. Mae fersiwn Cymraeg ar gael o unrhyw swyddfa Cafcass Cymru neu lys yng Nghymru.

Mae’r llyfryn yn trafod ystod o faterion y bydd angen i chi eu hystyried o bosibl wrth wneud trefniadau ar gyfer eich plant, ac mae’n cynnwys enghreifftiau ymarferol ar sut mae rhieni eraill mewn gwahanol amgylchiadau teuluol wedi datrys problemau. Mae hefyd yn cynnwys rhestr o sefydliadau a all roi rhagor o gymorth a chyngor i chi.

Mae’r llys yn gwneud y rhan fwyaf o benderfyniadau am blant gan ddefnyddio cyfraith o’r enw Deddf Plant 1989. Os ydych am i’r llys wneud penderfyniad am blentyn, mae angen i chi wneud cais i’r llys am ‘orchymyn’. Bydd gorchymyn yn cael ei wneud pan fydd y barnwr, cynghorydd cyfreithiol neu banel o ynadon yn gwneud penderfyniad.

Sut y gall y llys eich helpu chi

Mae rhai o’r gorchmynion y byddwch, o bosib, am wneud cais amdanynt yn cael eu disgrifio yn yr adran hon. Dyma rai yn unig o’r penderfyniadau y gall llys eu gwneud dan Ddeddf Plant 1989.

Gorchymyn trefniadau plant

Mae gorchymyn trefniadau plant yn penderfynu ar drefniadau o ran gyda phwy y bydd plentyn yn byw, gyda phwy y bydd yn cael treulio amser neu fel arall yn cael cyswllt, a ble mae plentyn i fyw, treulio amser neu fel arall cyswllt gydag unrhyw unigolyn.

Er enghraifft, os yw eich plentyn yn byw gyda’ch cyn-bartner a’ch bod eisiau gweld eich plentyn ar benwythnosau, neu os na allwch gytuno gyda pha riant y dylai’r plentyn fyw, efallai yr hoffech wneud cais am orchymyn trefniadau plant.

Gorchymyn mater penodol

Mae’r gorchmynion hyn yn rhoi cyfarwyddiadau am fater penodol sydd wedi codi ynghylch rhywbeth sydd fel arfer yn cael ei wneud gan riant.

Er enghraifft, os na allwch chi a’ch cyn-bartner gytuno pa ysgol y dylai’ch plentyn fynychu.

Gorchymyn camau gwaharddedig

Mae’r gorchmynion hyn yn golygu bod rhaid i unigolyn gael caniatâd y llys cyn gwneud yr hyn sy’n cael ei nodi yn y gorchymyn; rhywbeth a fyddai fel arfer yn cael ei wneud gan riant.

Er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol i riant ofyn am ganiatâd y llys cyn mynd â’r plentyn i wlad dramor.

Gorchymyn cyfrifoldeb rhiant

Mae cyfrifoldeb rhiant yn golygu’r holl hawliau, dyletswyddau, pwerau, cyfrifoldebau ac awdurdod sydd gan riant plentyn, yn ôl y gyfraith, mewn perthynas â’r plentyn a’i eiddo.

Er enghraifft, os mai chi yw tad plentyn ond nad oeddech yn briod â mam y plentyn, nac wedi’ch enwi ar y dystysgrif geni pan gofrestrwyd genedigaeth y plentyn, ond eich bod am gael eich cydnabod yn gyfreithiol fel tad y plentyn, gallwch wneud cais am orchymyn cyfrifoldeb rhiant.

Darpariaeth ariannol

Mae cynhaliaeth plant yn gefnogaeth ariannol reolaidd, ddibynadwy sy’n helpu i dalu am gostau byw dydd i ddydd plentyn.

Gall cynhaliaeth plant wneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant a gall fod yn help i dalu am bethau megis dillad, bwyd a phethau eraill hanfodol.

Bydd llawer o rieni’n dewis gweithio gyda’i gilydd i drefnu cytundeb cynhaliaeth plant. Gall y cytundebau teuluol hyn gynnwys pethau eraill ac nid oes rhaid iddynt fod ynghylch talu arian yn unig. Os nad yw’n bosib dod i gytundeb, mae opsiynau eraill ar gael.

Gallwch ddarllen mwy am opsiynau cynhaliaeth plant a sut i drefnu cytundeb.

Penodi gwarcheidwad

Yn gyffredinol, bydd gwarcheidwad a benodir dan yr adran hon yn ysgwyddo cyfrifoldeb rhiant ar ôl marwolaeth rhiant.

Er enghraifft, os yw eich nai/nith wedi colli ei ddau riant, gallwch wneud cais i fod yn warcheidwad.

Gwarcheidiaeth arbennig

Gall gwarcheidwad arbennig plentyn wneud y rhan fwyaf o benderfyniadau am y plentyn nes bod y plentyn yn 18 oed. Yn wahanol i fabwysiadu, bydd y plentyn yn cadw ei gysylltiadau â’i deulu biolegol.

Gallwch ddarllen mwy am warcheidiaeth arbennig.

Gorchymyn sy’n ymwneud â gorfodi gorchymyn trefniadau plant

Os oeddech yn rhan o achos lle gwnaed gorchymyn trefniadau plant, a’r gorchymyn hwnnw’n cael ei dorri, efallai y gallwch wneud cais i’r llys orfodi’r gorchymyn hwnnw.

Darllenwch fwy am sut i orfodi gorchymyn trefniadau plant.

Mabwysiadu

Darllenwch fwy am sut i wneud cais i fabwysiadu plentyn.

Rhagor o wybodaeth am fabwysiadu

Yr hyn y gallai’r llys ei benderfynu

Dim ond pan fydd o’r farn mai hynny fyddai orau i’r plentyn y bydd y llys yn gwneud gorchymyn. Weithiau efallai y bydd y llys yn penderfynu mai peidio â gwneud unrhyw orchymyn fyddai orau.

Gall y llys:

  • wneud gorchymyn
  • newid gorchymyn (a elwir yn amrywio gorchymyn)
  • terfynu gorchymyn (a elwir yn diddymu gorchymyn)

Os bydd y llys yn gwneud gorchymyn, bydd yn seiliedig ar yr hyn sydd orau i’ch plentyn. Gall hyn olygu efallai na fyddwch chi neu’r unigolyn arall yn cael popeth y bu ichi ofyn amdano.

Ar ôl i achos gychwyn bydd y llys, o bosib, yn gwneud penderfyniadau eraill. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • rhoi cyfarwyddiadau y mae’n rhaid i bobl eu dilyn (gelwir y rhain yn ‘cyfarwyddiadau’)
  • trosglwyddo achos i lys arall

Y gyfraith

Nid oes angen i chi wybod y gyfraith i wneud cais ond os ydych am ddarllen mwy am y gyfraith fe fyddwch angen copi o’r canlynol:

  • Deddf Plant 1989
  • Rheolau Trefniadaeth Teulu

Mae’r cyfarwyddiadau ymarfer cysylltiedig ar gael ar y rhyngrwyd neu yn eich llys lleol, neu efallai y byddant ar gael o’ch llyfrgell leol.

Caniatâd i wneud cais

Mae gan rai pobl yr hawl i wneud cais am orchymyn, ac mae’n rhaid i eraill gael caniatâd y llys yn gyntaf cyn gwneud cais.

Mae gennych hawl i wneud cais heb gael caniatâd y llys os ydych yn un o’r bobl a restrir yn yr adran pwy all wneud cais.

Efallai y byddwch am ystyried a oes angen i chi gael cyfrifoldeb rhiant er mwyn gwneud cais. Gallwch ddarllen mwy yn yr adran cyfrifoldeb rhiant.

Os nad oes gennych yr hawl i wneud cais, mae’n bosib y byddwch yn gallu gwneud cais o hyd, ond mae’n rhaid i chi gael caniatâd y llys yn gyntaf. Gallwch ddarganfod pa ffurflen i’w defnyddio i gael caniatâd yn yr adran ffurflenni a chanllawiau.

Y plentyn

Os mai chi yw’r plentyn ac y mae’r gorchymyn y dymunwch wneud cais amdano ar eich cyfer chi (er enghraifft, eich cyswllt gyda rhiant), mae’n rhaid i chi gael caniatâd y llys cyn i chi wneud cais am y gorchmynion canlynol:

  • gorchymyn trefniadau plant (gan gynnwys amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli)
  • gorchymyn mater penodol (gan gynnwys amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli)
  • gorchymyn camau gwaharddedig (gan gynnwys amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli)
  • terfynu penodiad gwarcheidwad
  • diddymu gorchymyn neu gytundeb cyfrifoldeb rhiant

Plant a phobl ifanc

Os ydych chi’n unigolyn ifanc yng Nghymru a bod eich teulu’n newid, gallwch ddarllen mwy am y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru.

Os ydych chi’n unigolyn ifanc yn Lloegr a bod eich teulu’n newid, gallwch ddarllen mwy am y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd.

Y partïon mewn achos

Y partïon mewn achos yw’r rheini sy’n rhan o’r achos llys a gallant gynnwys:

Os oes rhywun arall wedi gwneud cais am orchymyn mae’n bosib na fyddwch yn ‘barti’ yn yr achos hwnnw, ond gallwch wneud cais ‘i ymuno fel parti’ ynddo. Am ragor o wybodaeth ynghylch pa ffurflen i’w defnyddio, gweler yr adran ffurflenni a chanllawiau.

Pwy all wneud cais

Rhagor o wybodaeth am orfodi gorchymyn trefniadau plentyn

Rhagor o wybodaeth am wneud cais am orchymyn mabwysiadu

Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig

Gelwir cais i newid gorchymyn sydd eisoes yn bodoli yn gais i amrywio’r gorchymyn.

Gelwir cais i derfynu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli yn gais i ddiddymu’r gorchymyn.

Mam y plentyn

Os mai chi yw mam y plentyn gallwch wneud cais am y gorchmynion canlynol:

  • gorchymyn trefniadau plant (gan gynnwys i amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli)
  • gorchymyn mater penodol (gan gynnwys i amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli)
  • gorchymyn camau gwaharddedig (gan gynnwys i amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli)
  • darpariaeth ariannol (gan gynnwys i amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli)
  • diddymu gorchymyn cyfrifoldeb rhiant

Tad neu riant y plentyn

Os mai chi yw tad neu riant y plentyn yn unol ag adran 42 neu 43 Deddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008 cewch wneud cais am y gorchmynion canlynol:

  • gorchymyn trefniadau plant (gan gynnwys i amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli)
  • gorchymyn mater penodol (gan gynnwys i amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli)
  • gorchymyn camau gwaharddedig (gan gynnwys i amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli)
  • darpariaeth ariannol (gan gynnwys i amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli)

Yn ogystal â hynny, os mai chi yw tad neu riant y plentyn yn unol ag adran 42 neu 43 Deddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008 a bod gennych gyfrifoldeb rhiant, cewch wneud cais am y canlynol:

  • terfynu penodiad gwarcheidwad
  • diddymu gorchymyn neu gytundeb cyfrifoldeb rhiant

Os mai chi yw tad neu riant y plentyn yn unol ag adran 42 neu 43 Deddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008 ac nid oes gennych gyfrifoldeb rhiant, cewch wneud cais:

  • i benodi chi’ch hun yn warcheidwad os nad oes gan y plentyn riant sydd â chyfrifoldeb rhiant
  • am orchymyn cyfrifoldeb rhiant

Llys-riant y plentyn

Rydych yn llys-riant os nad ydych yn rhiant i’r plentyn ond yn briod i, neu’n bartner sifil i riant y plentyn sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, a’ch bod wedi trin y plentyn fel eich plentyn chi.

Os mai chi yw llys-riant y plentyn gallwch wneud cais am orchymyn trefniadau plant (gan gynnwys i amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli).

Yn ogystal â hynny, os mai chi yw llys-riant y plentyn a bod gennych gyfrifoldeb rhiant, cewch wneud cais am y canlynol hefyd:

  • gorchymyn mater penodol (gan gynnwys i amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli)
  • gorchymyn camau gwaharddedig (gan gynnwys i amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli)
  • diddymu gorchymyn cyfrifoldeb rhiant, os ydych yn dymuno diddymu eich cyfrifoldeb rhiant chi
  • diddymu gorchymyn cyfrifoldeb rhiant tad di-briod
  • terfynu penodiad gwarcheidwad

Os mai chi yw llys-riant y plentyn ac nid oes gennych gyfrifoldeb rhiant, cewch wneud cais hefyd:

  • i benodi chi’ch hun yn warcheidwad, os nad oes gan y plentyn riant sydd â chyfrifoldeb rhiant
  • am orchymyn cyfrifoldeb rhiant

Nain taid y plentyn

Os mai chi yw nain taid y plentyn, gallwch wneud cais am orchymyn i benodi gwarcheidwad.

Gwarcheidwad y plentyn

Os cawsoch eich penodi’n warcheidwad y plentyn, gallwch wneud cais am y gorchmynion canlynol:

  • gorchymyn trefniadau plant (gan gynnwys i amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli)
  • gorchymyn mater penodol (gan gynnwys i amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli)
  • gorchymyn camau gwaharddedig (gan gynnwys i amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli)
  • darpariaeth ariannol (gan gynnwys i amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli)

Pobl sydd â gorchymyn trefniadau plant

Os oes gennych chi orchymyn trefniadau plant sydd mewn grym, gallwch wneud cais am y gorchmynion canlynol:

  • gorchymyn trefniadau plant (gan gynnwys i amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli)
  • gorchymyn mater penodol (gan gynnwys i amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli)
  • gorchymyn camau gwaharddedig (gan gynnwys i amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli)
  • darpariaeth ariannol (gan gynnwys i amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli)
  • terfynu penodiad gwarcheidwad
  • terfynu gorchymyn cyfrifoldeb rhiant

Os nad oes gennych yr hawl i wneud cais, mae’n bosib y byddwch yn gallu gwneud cais o hyd, ond mae’n rhaid i chi gael caniatâd y llys yn gyntaf.

Pobl eraill

Os nad ydych yn rhiant neu’n warcheidwad mae’n dal yn bosib i chi allu gwneud cais am orchymyn.

Os oes gennych chi ddiddordeb yn lles y plentyn, gallwch wneud cais am orchymyn i benodi gwarcheidwad.

Os yw’r plentyn wedi bod yn byw gyda chi am o leiaf 3 blynedd yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, ac o fewn y 3 mis diwethaf gallwch wneud cais am orchymyn trefniadau plant (gan gynnwys i amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli).

Os yw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn wedi cytuno y gallwch wneud cais am orchymyn, gallwch wneud cais am orchymyn trefniadau plant (gan gynnwys i amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli).

Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, neu wedi bod yn briod neu wedi bod mewn partneriaeth sifil ac mae neu roedd y plentyn yn cael ei ystyried yn blentyn y teulu, gallwch wneud cais am orchymyn trefniadau plant (gan gynnwys i amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli).

Os ydych wedi cael caniatâd pawb sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn ac nid oes gorchymyn trefniadau plant mewn grym, ac nid yw’r plentyn yng ngofal yr awdurdod lleol, gallwch wneud cais am orchymyn trefniadau plant (gan gynnwys i amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli).

Os ydych wedi cael caniatâd pawb sydd â gorchymyn trefniadau plant ar gyfer y plentyn, gallwch wneud cais am orchymyn trefniadau plant (gan gynnwys i amrywio neu ddiddymu gorchymyn sydd eisoes yn bodoli).

Cyfrifoldeb rhiant

Os oes gennych ‘gyfrifoldeb rhiant’, rydych yn meddu ar yr holl ddyletswyddau, hawliau ac awdurdod sydd gan fam neu dad, yn ôl y gyfraith, dros eu plentyn. Disgrifir hyn yn llawn yn Neddf Plant 1989.

Mae gan fam plentyn bob amser gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn. Fodd bynnag, weithiau nid oes gan dad y plentyn neu riant arall gyfrifoldeb rhiant.

Mae gennych gyfrifoldeb rhiant os ydych, ers 1 Medi 2009, wedi’ch cofrestru fel rhiant y plentyn dan adran 10A (1B) Deddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953.

Bydd y canlynol yn eich helpu i benderfynu a oes gennych gyfrifoldeb rhiant. Mae hefyd yn dangos y gall unigolyn nad yw’n rhiant fod â chyfrifoldeb rhiant weithiau.

Mae gennych gyfrifoldeb rhiant os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • chi yw mam y plentyn
  • chi yw tad y plentyn ac roeddech yn briod â mam y plentyn pan aned y plentyn
  • chi yw rhiant y plentyn dan adran 42 Deddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008 gan eich bod yn bartner sifil, neu’n briod â’r fam, pan aned y plentyn
  • chi yw llys-riant y plentyn (yn bartner sifil neu’n briod â rhiant sydd â chyfrifoldeb rhiant) ac rydych wedi gwneud cytundeb cyfrifoldeb rhiant gyda mam y plentyn (a’r tad os oes ganddo gyfrifioldeb rhiant hefyd) neu fod gennych orchymyn cyfrifoldeb rhiant
  • mae gennych orchymyn trefniadau plant gyfer y plentyn
  • mae gennych orchymyn amddiffyn brys ar gyfer y plentyn
  • chi yw gwarcheidwad y plentyn
  • rydych wedi mabwysiadu’r plentyn
  • chi yw gwarcheidwad arbennig y plentyn
  • chi yw tad y plentyn ac nid oeddech yn briod â mam y plentyn pan aned y plentyn ond mae gennych nawr orchymyn cyfrifoldeb rhiant, neu mae unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol
  • rydych wedi gwneud cytundeb cyfrifoldeb rhiant gyda mam y plentyn
  • rydych ers hynny wedi priodi neu wedi ymrwymo i bartneriaeth sifil gyda mam y plentyn
  • chi yw rhiant y plentyn dan adran 43 Deddf Ffrwythloni ac Embryoleg 2008 ac rydych ers hynny wedi priodi neu wedi ymrwymo i bartneriaeth sifil gyda mam y plentyn
  • rydych, ers 1 Rhagfyr 2003, wedi eich cofrestru fel tad y plentyn dan baragraffau (a), (b) neu (c) adrannau 10(1) neu 10A Deddf Cofnodi Genedigaethau a Marwolaethau 1953 neu’r ddeddf gyfatebol yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon
  • chi yw rhiant y plentyn dan adran 43 Deddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008 ac rydych, ers 1 Medi 2009, wedi eich cofrestru fel rhiant y plentyn dan baragraffau (a), (b) neu (c) adran 10A (1B) Deddf Cofnodi Genedigaethau a Marwolaethau 1953

Os oes  gennych chi neu’r plentyn (neu’r ddau ohonoch chi) gysylltiadau â’r Alban neu Ogledd Iwerddon, dylech gysylltu â’r awdurdodau yno am fwy o wybodaeth am hawliau rhiant.

Os nad yw unrhyw un o’r uchod yn berthnasol, ond bod gennych chi neu’r plentyn (neu’r ddau ohonoch chi) gysylltiadau â gwlad y tu allan i’r DU, efallai bod gennych hawliau cyfrifoldeb rhiant yn y wlad honno. Dylech gysylltu ag awdurdodau’r wlad berthnasol i ganfod a yw hyn yn effeithio arnoch chi.

Cytundeb cyfrifoldeb rhiant

Mae cytundeb cyfrifoldeb rhiant yn ddogfen gyfreithiol ac ynddi mae mam a thad plentyn yn cytuno bod gan y tad gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu mae mam a thad y plentyn (os oes ganddo gyfrifoldeb rhiant eisoes) yn cytuno bod gan lys-riant y plentyn gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn. Rhywun nad yw’n rhiant ond sy’n bartner sifil neu’n briod ag un o’r rhieni sydd â chyfrifoldeb rhiant yw llys-riant.

Rhaid i chi lunio cytundeb cyfrifoldeb rhiant gan ddefnyddio ffurflen C (PRA1) ar gyfer tad, ffurflen C (PRA2) ar gyfer llys-riant neu ffurflen C (PRA3) ar gyfer ail riant benywaidd o dan adran 42A Deddf Plant 1989. Mae pob un o’r ffurflenni hyn yn cynnwys nodiadau a fydd yn dweud mwy wrthych am sut i lunio cytundeb cyfrifoldeb rhiant.

Gallwch ddod o hyd i’r ffurflenni y mae angen i chi eu llenwi, neu eu casglu o unrhyw swyddfa llys teulu.

Ffurflenni a chanllawiau

Mae pob ffurflen ar gael ar-lein, neu gallwch eu cael o swyddfa llys teulu.

Os ydych yn gwneud cais am orchymyn sy’n ymwneud â gorfodi gorchymyn trefniadau plant sy’n bodoli eisoes, darllenwch fwy am orfodi gorchymyn trefniadau plant.

Os ydych yn gwneud cais am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig, darllenwch fwy am warcheidiaeth arbennig.

Mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen C100 os ydych chi’n gwneud cais am y canlynol:

  • gorchymyn trefniadau plant
  • gorchymyn camau gwaharddedig
  • gorchymyn mater penodol

Mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen C1 os ydych chi’n gwneud cais am y canlynol:

  • gorchymyn i benodi gwarcheidwad
  • diddymu gorchymyn penodi gwarcheidwad
  • gorchymyn cyfrifoldeb rhiant (adran 4)
  • gorchymyn cyfrifoldeb llys-riant (adran 4A)
  • diddymu gorchymyn cyfrifoldeb rhiant neu lys-riant

Mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen C2 os ydych chi’n gwneud cais am y canlynol:

  • gorchymyn mewn achos sydd eisoes yn bodoli
  • i ymuno fel parti mewn achos sydd eisoes yn bodoli (er enghraifft, os ydych wedi cael C6A rhybudd o achos)

Os hoffech wneud cais am orchymyn sydd heb ei grybwyll, efallai y byddwch am gael cyngor gan gyfreithiwr neu gan ganolfan gyngor ar bopeth.

Dweud wrth yr atebwyr a phobl eraill am eich cais

Yn ddiweddarach, yn ddibynnol ar y ffurflen gais y mae angen i chi ei defnyddio, bydd rhaid i chi ddweud wrth bobl eich bod wedi gwneud cais. Cyfeirir at y bobl hyn fel atebwyr. Gallai’r rhain gynnwys:

  • rhieni’r plentyn
  • rhywun sy’n gofalu am y plentyn
  • y bobl eraill a enwir yn y cais

‘Cyflwyno’ yw’r enw a roddir ar y broses o ddweud wrth bobl am eich cais a rhoi copi o’ch ffurflen gais i’r atebwyr.

Os ydych yn gwneud cais ar ffurflen C100, bydd y llys yn rhoi copi o’ch ffurflen gais i’r atebwyr. Fodd bynnag, os ydych yn gwneud cais ar ffurflen C1 neu C2, bydd angen i chi roi copi o’ch ffurflen gais i’r atebwyr a dogfennau eraill a ddarperir gan y llys. Bydd hyn yn rhoi cyfle iddynt anfon eu ffurflen eu hunain mewn ymateb i’ch cais.

Os ydych yn gwneud cais am fwy nag un gorchymyn, efallai y bydd gennych wahanol atebwyr, neu bobl eraill i’w hysbysu, ar gyfer pob gorchymyn y gwneir cais amdano gan ddefnyddio ffurflen C1 neu C2.

Os yw atebydd yn 18 oed neu lai ac nid oes ganddynt gyfreithiwr, bydd angen caniatâd y llys arnoch i ddweud wrthynt am eich cais.

Weithiau ni fydd neb i chi ddweud wrthynt am eich cais. Ni waeth pa ffurflen gais a ddefnyddiwch, rhaid dweud wrth unigolyn a enwir fel ‘parti arall’ am eich cais ond nid oes angen i chi roi copi o’r ffurflen gais iddynt.

Pryd i ddweud wrth bobl am eich cais

Bydd y llys yn dweud wrthych wedyn pryd a sut i ddweud wrth yr atebwyr (os ydych wedi gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen C1 neu C2) a phobl eraill (pa bynnag ffurflen gais a ddefnyddiwyd gennych).

‘Cyflwyno’ yw’r enw a roddir ar y broses o ddweud wrth bobl am eich cais a rhoi copi o’ch ffurflen gais i’r atebwyr. Darllenwch fwy am sut i gyflwyno ffurflenni llys.

Pwy yw’r atebwyr

Mewn unrhyw gais, os yw’r plentyn yn destun gorchymyn gofal yna bydd yr atebwyr yn cynnwys pawb y credwch a oedd â chyfrifoldeb rhiant yn union cyn i’r gorchymyn gofal gael ei wneud.

Atebwyr yw pawb y credwch sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn os ydych yn gwneud cais am y canlynol:

  • gorchymyn trefniadau plant
  • gorchymyn mater penodol
  • gorchymyn camau gwaharddedig
  • gorchymyn cyfrifoldeb rhiant
  • penodi gwarcheidwad

Atebwyr yw pawb y credwch sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, a’r partïon yn y cais i amrywio neu ddiddymu’r gorchymyn os ydych yn gwneud cais i amrywio neu ddiddymu:

  • gorchymyn trefniadau plant
  • gorchymyn mater penodol
  • gorchymyn camau gwaharddedig

Os ydych yn gwneud cais i amrywio neu ddiddymu gorchymyn am ddarpariaeth ariannol, yr atebwyr yw:

  • pawb y credwch sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn
  • partïon yn y cais am ddarpariaeth ariannol

Os ydych yn gwneud cais i amrywio neu ddiddymu gorchymyn cyfrifoldeb rhiant, yr atebwyr yw:

  • pawb y credwch sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn
  • partïon yn y cais am y gorchymyn cyfrifoldeb rhiant

Y bobl eraill mae’n rhaid i chi ddweud wrthynt

Os byddwch yn gwneud cais am orchymyn trefniadau plant, gorchymyn penodol neu orchymyn camau gwaharddedig, neu’n gwneud cais i amrywio neu ddiddymu gorchymyn o’r fath, rhaid i chi ddweud wrth:

  • adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol os yw’r plentyn mewn llety awdurdod lleol – gall hyn fod yn gartref plant neu gyda gofalwyr maeth a allai fod yn perthyn i’r plentyn
  • pawb sy’n gofalu am y plentyn
  • yr unigolyn sy’n darparu’r cartref y mae’r plentyn yn aros ynddo os yw’r cartref yn gartref plant cofrestredig neu’n gartref gwirfoddol a’i fod yn lloches
  • pawb y credwch sydd wedi’u henwi mewn gorchymyn llys sy’n ymwneud â’r plentyn ac sydd mewn grym (oni bai eich bod yn credu nad yw’r gorchymyn hwnnw’n berthnasol i’ch cais), a phawb y credwch sy’n berthnasol i’ch cais
  • pawb y credwch eu bod yn barti mewn achos llys sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd, oni bai eich bod yn credu nad yw’r achos hwnnw’n berthnasol i’ch cais

Os ydych yn gwneud cais am orchymyn cyfrifoldeb rhiant, y bobl eraill i’w hysbysu yw:

  • adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol os yw’r plentyn mewn llety awdurdod lleol
  • yr unigolyn sy’n darparu’r cartref os yw’r plentyn yn aros mewn cartref sy’n gartref plant cofrestredig neu’n gartref gwirfoddol a’i fod yn lloches
  • pawb sy’n gofalu am y plentyn

Os ydych yn gwneud cais i benodi gwarcheidwad, y bobl eraill y mae’n rhaid i chi eu hysbysu yw:

  • adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol os yw’r plentyn mewn llety awdurdod lleol
  • yr unigolyn sy’n darparu’r cartref os yw’r plentyn yn aros mewn cartref sy’n gartref plant cofrestredig neu’n gartref gwirfoddol a’i fod yn lloches
  • pawb sy’n gofalu am y plentyn
  • tad y plentyn os nad oes ganddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn

Os ydych yn gwneud cais am ddarpariaeth ariannol, y bobl eraill y mae’n rhaid i chi eu hysbysu yw:

  • adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol os yw’r plentyn mewn llety awdurdod lleol
  • yr unigolyn sy’n darparu’r cartref os yw’r plentyn yn aros mewn cartref sy’n gartref plant cofrestredig neu’n gartref gwirfoddol a’i fod yn lloches
  • pawb sy’n gofalu am y plentyn

Os ydych yn gwneud cais i amrywio neu ddiddymu gorchymyn am ddarpariaeth ariannol, y bobl eraill y mae’n rhaid i chi eu hysbysu yw:

  • adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol os yw’r plentyn mewn llety awdurdod lleol
  • yr unigolyn sy’n darparu’r cartref os yw’r plentyn yn aros mewn cartref sy’n gartref plant cofrestredig neu’n gartref gwirfoddol a’i fod yn lloches
  • pawb sy’n gofalu am y plentyn

Os ydych yn gwneud cais i amrywio neu derfynu penodiad gwarcheidwad, y bobl eraill y mae’n rhaid i chi eu hysbysu yw:

  • adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol os yw’r plentyn mewn llety awdurdod lleol
  • yr unigolyn sy’n darparu’r cartref os yw’r plentyn yn aros mewn cartref sy’n gartref plant cofrestredig neu’n gartref gwirfoddol a’i fod yn lloches
  • pawb sy’n gofalu am y plentyn

Os ydych yn gwneud cais i amrywio neu ddiddymu gorchymyn cyfrifoldeb rhiant, y bobl eraill y mae’n rhaid i chi eu hysbysu yw:

  • adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol os yw’r plentyn mewn llety awdurdod lleol
  • yr unigolyn sy’n darparu’r cartref os yw’r plentyn yn aros mewn cartref sy’n gartref plant cofrestredig neu’n gartref gwirfoddol a’i fod yn lloches
  • pawb sy’n gofalu am y plentyn

Yr wybodaeth y mae’n rhaid i chi ei darparu

Llenwi ffurflen C100

Mae’n bwysig iawn eich bod yn llenwi ffurflen C100 yn ofalus. Rhaid i chi roi manylion llawn amdanoch chi eich hun a’r atebwyr neu bydd oedi o ran eich achos tra bydd y wybodaeth yn cael ei cheisio. Mae angen yr wybodaeth hon ar Cafcass Cymru a Cafcass er mwyn diogelu lles y plant. Mae’n rhaid i’r ddau geisydd (os oes mwy nag un) lofnodi’r ffurflen gais.

Cyfeiriad (gan gynnwys cadw’ch cyfeiriad yn gyfrinachol)

Mae angen eich cyfeiriad arnom i gysylltu â chi. Byddwn hefyd yn rhoi eich cyfeiriad i bartïon eraill (y bobl eraill sy’n rhan o’r achos) er mwyn iddynt allu rhoi copi o’u hymateb i’ch cais i chi.

Os nad ydych yn dymuno i rywun wybod beth yw eich cyfeiriad, eich rhif ffôn neu eich cyfeiriad e-bost chi, (neu eich plentyn), nid oes rhaid i chi ei roi ar y ffurflen gais. Fodd bynnag, bydd rhaid i chi roi eich manylion cyswllt a’ch cyfeiriad i’r llys, ac mae yna ffurflen arbennig i chi wneud hyn. Dylech lenwi ffurflen C8 gyda’ch cais. Gallwch hefyd gael copi o ffurflen C8 o unrhyw swyddfa llys teulu.

Gyda phwy y mae’r plentyn yn byw

Rhaid ichi ddweud wrthym am unrhyw bobl eraill sy’n byw gyda’r plentyn, er enghraifft, partner newydd rhiant, modrybedd, ewythrod a neiniau a theidiau.

Rhaid ichi hefyd ddweud wrth y llys os yw’r plentyn yn byw mewn mwy nag un cyfeiriad. Bydd hyn yn helpu i roi darlun cyflawn i’r llys o drefniadau byw’r plentyn.

Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae angen i ni wybod hefyd a oes gan y plentyn gynllun amddiffyn plentyn neu a yw gwasanaethau plant yr awdurdod lleol (efallai mai fel Gwasanaethau Cymdeithasol y gwyddoch amdanynt) yn gwybod am y plentyn. Gall y llys benderfynu ceisio rhagor o wybodaeth neu gyngor gan yr awdurdod lleol.

Cafcass Cymru a Cafcass

Mae Cafcass Cymru a Cafcass yn gofalu am fuddiannau plant sy’n gysylltiedig ag achosion teulu. Maent yn gweithio gyda phlant a’u teuluoedd, ac yna’n cynghori’r llys am yr hyn y maent yn credu sydd er lles gorau’r plentyn.

Mae Cafcass Cymru a Cafcass yn gyfrifol am ddiogelu a hyrwyddo lles plant sy’n destun achosion llysoedd teulu. Maent yn gwneud hyn trwy weithio gyda’r plant a’u teuluoedd a thrwy ddarparu cyngor i’r llysoedd.

Maent hefyd yn cynnal gwiriadau gyda sefydliadau eraill, yn arbennig awdurdodau lleol a’r heddlu, fel rhan o’u gwaith i wneud yn siŵr bod plant yn ddiogel ac yn rhoi gwybod i’r llys am eu canfyddiadau.

Tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig

Gallwch ddefnyddio dau fath o dystiolaeth i gefnogi’ch achos, sef:

  • tystiolaeth lafar
  • tystiolaeth ysgrifenedig (neu ddogfennol)

Tystiolaeth lafar

Yn y gwrandawiad llys, efallai y byddwch am ddweud rhywbeth wrth y llys, neu efallai y byddwch am i rywun arall fynd i’r llys fel tyst i ddweud rhywbeth wrth y llys i gefnogi’ch achos. Gelwir yr hyn a ddywedwch chi, neu eich tyst, yn ‘dystiolaeth lafar’.

Fodd bynnag, efallai na fydd y llys yn caniatáu i chi na’ch tyst siarad yn y llys oni fyddwch, yn gyntaf, yn rhoi datganiad ysgrifenedig i swyddfa’r llys o’r hyn y byddwch chi neu eich tyst yn ei ddweud. Rhaid i unrhyw ddatganiad (gan gynnwys atodlen) nodi’n glir eich enw, eich cyfeiriad (oni bai bod y llys wedi dweud nad oes rhaid i chi ei roi) a’r dyddiad. Ar y diwedd rhaid i chi nodi “Mae cynnwys y datganiad hwn yn wir” a’i lofnodi.

Os oes gennych chi ddogfennau neu ffotograffau sy’n dangos beth ddigwyddodd dylech eu hatodi. Nid yw’r llys yn gwneud ei ymholiadau ei hun nac yn casglu tystiolaeth ar eich rhan.

Pan fyddwch yn gwneud datganiad am yr hyn sydd er lles y plant, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi ddefnyddio’r templed datganiad tyst.

Os ydych yn gofyn i’r llys ddelio â honiadau o gam-drin gall atodlen (tabl) o ddigwyddiadau fod yn ddefnyddiol. Cwblhewch ef a’i anfon dros e-bost at y parti arall a all wedyn ddefnyddio’r un atodlen i ymateb. Yna gellir anfon yr atodlen wedi’i chwblhau i’r llys.

Enghraifft o atodlen fyddai:

Dylai'r sawl sy'n gwneud yr honiad lenwi'r rhannau hyn.

Dylai’r sawl sy'n ymateb lenwi'r rhan hon.

Rhif a dyddiad. Yn fyr, beth ydych chi’n ddweud ddigwyddodd ac ym mhle?

Rhowch fwy o fanylion yn eich datganiad, pwy arall oedd yno? Os riportiwyd y digwyddiad, rhowch y manylion. Yn fyr, beth ydych chi’n dweud ddigwyddodd?

Rhowch fwy o fanylion yn eich datganiad.

1 [date] [insert] [name] [insert] [insert]

2 [etc.]

Rhaid i chi anfon copi o’ch datganiad at y partïon eraill a ffeilio copi yn y llys.

Copïau o orchmynion llys

Mae rhai rhannau o’r ffurflenni’n gofyn i chi ddarparu copïau o orchmynion llys. Gallwch gael copi o orchymyn gan y llys a wnaeth y gorchymyn hwnnw. Gofynnwch i’r swyddfa llys teulu am gopi ardystiedig. Mae’n bosibl y bydd rhaid i chi dalu ffi.

Tystiolaeth ysgrifenedig

Rhaid i chi gael caniatâd y llys cyn i chi ofyn i arbenigwr baratoi adroddiad i’w ddefnyddio yn yr achos.

Os ydych am i adroddiad gael ei lunio ar y plentyn rhaid i chi gael caniatâd y llys cyn i chi ofyn i rywun asesu neu archwilio’r plentyn.

Rhaid i chi ysgrifennu at y llys gyda’ch cais cyn yr apwyntiad datrys anghydfod gwrandawiad cyntaf, a bydd y llys yn disgwyl i chi fod yn barod i drafod.

Os ydych yn gwneud cais am  orchymyn trefniadau plant, gorchymyn mater penodol neu orchymyn camau gwaharddedig, rhaid i chi lenwi’r ffurflen a rhoi’r wybodaeth y gofynnir amdani’n unig.

Os ydych hefyd yn llenwi Ffurflen Gwybodaeth Ategol (ffurflen C1A), unwaith eto dim ond yr wybodaeth y gofynnir amdani y dylech ei rhoi. Ceir nodiadau canllaw ar lenwi ffurflen C1A. Gellir cael y rhain o swyddfa’r llys.

Rhaid i chi gael caniatâd y llys os ydych am wneud y canlynol:

  • cyfeirio’r llys at wybodaeth ysgrifenedig
  • roi gwybodaeth nad yw ffurflen yn gofyn amdani

Os ydych yn gwneud cais am orchymyn nad yw’n orchymyn trefniadau plant, gorchymyn mater penodol nac yn orchymyn camau gwaharddedig, cewch gyfeirio at dystiolaeth ysgrifenedig ar eich ffurflenni ond rhaid i chi ddarparu copïau o’r dystiolaeth i swyddfa’r llys teulu.

Ffioedd a chostau

Efallai y bydd rhaid i chi dalu ffi llys i wneud cais am orchymyn.

Os bydd rhaid i chi ofyn i’r llys am ganiatâd i wneud cais am orchymyn bydd yn rhaid i chi dalu ffi. Nid oes modd ad-dalu’r ffi hon. Os bydd y llys yn rhoi caniatâd i chi, ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi arall pan fyddwch yn gwneud cais am y gorchymyn.

Efallai y bydd costau eraill i’w talu, (er enghraifft, efallai y bydd rhaid i chi dalu treuliau i dyst sy’n mynychu’r llys i roi tystiolaeth ar eich rhan), ond bydd hynny yn dibynnu ar eich achos chi ac ar yr hyn y penderfynwch ei wneud.

Rhagor o wybodaeth am ffioedd

Dulliau talu

Mae’r llysoedd yn derbyn taliadau gyda cherdyn debyd neu gredyd, arian parod, archeb bost neu siec yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF’.

Os byddwch yn talu â siec a bod honno’n cael ei gwrthod, bydd y llys yn cymryd camau i adennill yr arian. Os na fyddwch yn talu ffi’r llys, efallai y bydd eich achos yn cael ei atal (gohirio) neu hyd yn oed ei ddileu. Os bydd eich achos yn cael ei ddileu, bydd yn cael ei dynnu allan o’r llys yn barhaol a bydd angen i chi wneud cais arall.

Os na allwch fforddio talu ffi’r llys

Os na allwch fforddio talu ffi’r llys, efallai y byddwch yn gymwys i gael talu ffi lai neu beidio â thalu ffi o gwbl. Darllenwch fwy am sut i wneud cais am help i dalu ffioedd llysoedd a thribiwnlysoedd.

Pa lys i wneud cais iddo

Fel arfer, dylech wneud eich cais i’r llys teulu agosaf i’ch plentyn. Chwiliwch am fanylion llys teulu agosaf eich plentyn.

Fel arfer, y llys y byddwch yn gwneud cais iddo fydd yn ymdrin â’ch achos. Fodd bynnag, weithiau gall llys benderfynu y dylai llys arall ymdrin â’r achos a throsglwyddir yr achos yno.

Mynychu’r llys a threfniadau arbennig

Os bydd angen trefniadau arbennig arnoch

Os bydd arnoch angen cyfleusterau neu gymorth arbennig oherwydd anabledd neu nam, nodwch eich gofynion yn llawn ar eich ffurflen gais.

Bydd staff y llys angen gwybod beth yw’ch anghenion penodol, er enghraifft; dogfennau mewn fformat arall megis braille neu brint bras a/neu ddarpariaethau ar gyfer mynediad, dolen sain neu ddehonglydd iaith arwyddion. Bydd staff y llys yn cysylltu â chi ynghylch hyn. Os na fyddwch yn hysbysu’r llys o’ch holl anghenion, gallai hyn arwain at ohirio’r gwrandawiad.

Os bydd angen cyfieithydd iaith dramor arnoch, dylech hefyd gysylltu â’r llys ar unwaith, er mwyn i staff y llys allu trefnu bod un ar gael.

Dod â phlant gyda chi i’r llys

Yn gyffredinol, ni ddylai plant ddod i’r llys oni bai eu bod yn rhan o broses y llys, er enghraifft os ydynt yn dyst, neu os oes gennych apwyntiad i chi a’ch plentyn gyfarfod y barnwr.

Os oes rhaid i chi ddod â’ch plentyn gyda chi am unrhyw reswm arall, dylech ddod â ffrind sy’n oedolyn neu aelod o’r teulu gyda chi hefyd i edrych ar eu hôl tra byddwch yn yr ystafell wrandawiadau, oherwydd ni all staff y llys edrych ar ôl eich plentyn.

Diogelwch

Os ydych yn poeni am ddiogelwch mewn llys am unrhyw reswm, rhowch wybod i staff y llys cyn gynted ag y bo modd. Byddant yn ystyried eich anghenion ynghyd â sut y gallant eich helpu.

Beth i’w wneud ar ôl i chi lenwi’r ffurflen

Darllenwch y ffurflen yn ofalus

Rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod wedi:

  • dweud popeth yr ydych am ei ddweud
  • darparu tystiolaeth os oes angen tystiolaeth i gefnogi hawliad am estyniad MIAM – nid oes angen anfon tystiolaeth at y parti arall

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno’r ffurflenni i’r llys teulu bydd arnoch angen caniatâd y llys os ydych am newid unrhyw beth ar y ffurflenni.

Gwnewch gopi o’r ffurflenni

Gwnewch gopi o bob ffurflen ar gyfer:

  • chi eich hun
  • Cafcass Cymru neu Cafcass
  • pob atebydd yr ydych wedi rhoi ei enw yn eich cais (dim ond os ydych wedi gwneud eich cais gan ddefnyddio ffurflen C1 neu C2 y bydd angen i chi wneud hyn)

Gwnewch yr un nifer o gopïau o unrhyw bapurau eraill y byddwch yn eu rhoi i’r llys gyda’ch ffurflenni. Gallai’r papurau hyn gynnwys:

  • gorchymyn llys
  • ffurflen gwybodaeth ategol (ffurflen C1A)
  • tystiolaeth ysgrifenedig i gefnogi eich cais

Rhaid i’r holl bapurau a gyflwynir i’r llys gynnwys y gwreiddiol a 2 gopi a chopi i chi.

Gwnewch yn siŵr fod unrhyw daflenni ychwanegol a ddefnyddiwyd gennych yn cynnwys enw’r plentyn/enwau’r plant a rhif yr adran ar y C1 neu C100 yr ydych yn ei hateb.

Yna, rhaid i chi ddanfon neu anfon y ffurflenni a chopïau i’r llys teulu gyda’r ffi gywir. Gelwir hyn yn ‘cyflwyno’ neu ‘ffeilio’ cais.

Mewn argyfwng mae’n bosib y bydd y llys yn caniatáu i chi wneud cais heb ddweud wrth y partïon eraill. Gelwir y math hwn o gais yn gais ‘heb rybudd’ neu efallai y cyfeirir ato fel ‘ex parte’ mewn llys.

Os yw’r llys wedyn yn gwneud gorchymyn, efallai y bydd angen i chi ddarparu copi o’r gorchymyn i unrhyw un sy’n cael eu heffeithio ganddo. Dywedwch wrth swyddfa’r llys teulu  os ydych am i’r llys ymdrin â’ch cais ‘heb rybudd’.

Rhagor o wybodaeth am wrandawiadau llys brys am drefniadau plant

Yr hyn fydd y llys yn ei wneud nesaf

Sut bydd y llys yn ymdrin â’ch achos

Mae hynny’n dibynnu ar sawl peth ac mae’r llys yn annhebygol o ymdrin â’ch achos ar un achlysur (y ‘gwrandawiad’).

Bydd y llys teulu yn gwirio a ydych wedi:

  • llenwi’r ffurflenni’n gywir
  • cynnwys unrhyw bapurau perthnasol

Os nad ydych wedi mynychu MIAM cyn gwneud cais, ni all y llys brosesu eich cais (oni bai bod amgylchiadau arbennig).

Mae’n bosibl y bydd y llys yn penderfynu peidio â phrosesu’ch cais hyd nes y byddwch wedi mynychu MIAM i drafod gwahanol opsiynau datrys anghydfod y tu allan i’r llys os:

  • gofynnwyd i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi esemptiad MIAM ac ni wnaethoch ei darparu gyda’ch ffurflen
  • mae’r llys yn penderfynu na hawliwyd esemptiad MIAM yn gywir

Gall barnwr hefyd oedi’r achos ar unrhyw adeg os yw’n meddwl bod ceisio datrys yr anghydfod y tu allan i’r llys yn ddiogel ac yn briodol.

Os caiff eich achos ei gymeradwyo i’w wrando yn y llys, yn gyntaf bydd y llys yn rhoi dyddiad ac amser i chi pan fydd yn ystyried (gwrando) eich achos. Gelwir hyn fel arfer yn wrandawiad cyfarwyddo, neu’n apwyntiad datrys anghydfod gwrandawiad cyntaf.

Rhaid i ddyddiad y gwrandawiad cyfarwyddo ganiatáu digon o amser i chi roi gwybod i rai pobl eich bod wedi gwneud cais am orchymyn a rhoi amser iddynt ymateb.

Bydd yr apwyntiad datrys anghydfod gwrandawiad cyntaf fel arfer yn digwydd tua 5 wythnos ar ôl i’r llys gael y cais. Os mai C100 yw’r cais, bydd y llys yn anfon copi o’r cais a rhybudd o wrandawiad atoch chi a’r atebydd. Ar gyfer mathau eraill o geisiadau bydd y llys yn dychwelyd y cais i chi a bydd angen i chi gyflwyno’r cais ar yr atebwyr.

Mae’r gyfraith yn datgan bod yn rhaid sicrhau nad oes unrhyw oedi diangen mewn achos sy’n ymwneud â phlentyn, ac yn y gwrandawiad cyfarwyddo bydd y llys yn penderfynu ar amserlen ar gyfer eich achos.

Dylech wneud nodyn o rif yr achos y mae swyddfa’r llys wedi’i roi ar y ffurflenni. Bydd arnoch angen y rhif hwnnw os byddwch yn ffonio neu’n ysgrifennu at swyddfa’r llys.

Ar ôl i chi gymryd camau i ddechrau achos llys, mae’r gyfraith yn rhoi cyfyngiadau ar yr wybodaeth am yr achos y gallwch ei rhannu wedyn gyda phobl eraill.

Darllenwch fwy am rannu gwybodaeth y tu allan i’r llys mewn achosion teulu.

Os oes angen help ar y plentyn ar frys

Os ydych o’r farn bod angen help ar y plentyn ar unwaith, ac y mae’r llys yn cytuno, gall roi cyfarwyddiadau neu wneud gorchymyn dros dro.

Os nad ydych am i’r achos barhau

Pan fyddwch wedi rhoi eich ffurflenni i’r llys, gallwch wneud cais am ganiatâd i dynnu’ch achos yn ôl ond y llys yn unig all benderfynu beth i’w wneud.

Dweud wrth yr atebwyr a phobl eraill am eich cais

Ar ôl i swyddfa’r llys gychwyn eich cais ac anfon atoch y dogfennau a restrir yn yr adran flaenorol, mae’n rhaid i chi wedyn, os ydych wedi gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen C1 neu C2, ddweud wrth yr atebwyr, a waeth pa ffurflen gais a ddefnyddiwyd gennych, unrhyw un arall mae’n rhaid i chi ddweud wrthynt ynghylch eich cais. Gelwir hyn yn ‘cyflwyno’. Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i chi gyflwyno’r dogfennau hyn ar bawb oni fydd y llys yn dweud wrthych am beidio.

Pan fydd y llys yn anfon copïau atoch o’ch ffurflen gais, ac unrhyw ffurflenni newydd, bydd hefyd yn anfon atoch gopi o daflen Cyflwyno’r ffurflenni – Deddf Plant 1989 (CB3). Bydd y daflen hon yn rhoi cyfarwyddiadau manwl ynghylch yr hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud.

Gallech ofyn i swyddog llys am wybodaeth ond ni chaniateir i staff llys eich cynghori ynghylch beth i’w wneud yn eich achos. Efallai y byddwch yn gallu cael cyngor cyfreithiol yn rhad ac am ddim. Rhagor o wybodaeth am gymorth cyfreithiol.

Cael cyngor am eich achos

Gall swyddog llys roi gwybodaeth ichi ynghylch gweithdrefnau’r llys, ond ni all roi cyngor cyfreithiol. Gallwch gael cyngor gan y canlynol:

  • cyfreithiwr  – mae rhai cyfreithwyr yn arbenigo mewn gwaith sy’n ymwneud â’r Ddeddf Plant a gallwch gael enw a chyfeiriad cyfreithwyr gan: Banel Plant Cymdeithas y Cyfreithwyr (020 7242 1222); neu Yellow Pages neu Gyfeirlyfr Rhanbarthol y Cyfreithwyr (gallwch ddod o hyd i’r rhain mewn llyfrgell gyhoeddus)
  • Cyngor ar Bopeth
  • canolfan cyngor cyfreithiol neu ganolfan y gyfraith
  • Cymdeithas y Gyfraith

Efallai y byddwch wedi gofyn am gyngor gan gyfreithiwr. Fodd bynnag, bydd y cyfreithiwr ond yn gweithredu ar eich rhan os byddwch wedi eu penodi i wneud hynny.

Gwneud cais ar eich pen eich hun

Os ydych yn penderfynu gwneud cais ar eich pen eich hun, efallai yr hoffech gael cyngor cyfreithiol ynghylch y gorchymyn yr ydych yn dymuno i’r llys ei wneud. Gall gorchymyn llys effeithio ar eich bywyd chi, neu ar fywyd y plentyn, mewn ffyrdd nad ydych efallai wedi meddwl amdanynt.

Darllenwch fwy am gael cyngor fforddiadwy gan gyfreithiwr teulu.

Rhagor o wybodaeth am wahanu, ysgariad a diddymu partneriaethau sifil

Pobl 18 oed ac iau

Os yw unrhyw un o’r partïon (e.e. rhieni’r plentyn) sydd yn ymwneud â’r achos yn 18 oed ac iau, mae’n rhaid i oedolyn ddelio â’r achos llys ar eu rhan, ynghyd ag unrhyw gynrychiolaeth gyfreithiol. Gelwir yr oedolyn hwn yn gyfaill cyfreitha.

Mae’n rhaid i’r cyfaill cyfreitha fod â’r gallu i gynnal achos ar ran yr unigolyn sy’n 18 oed ac iau, a heb fod â buddiannau yn yr achos nad ydynt yn cyd-fynd â buddiannau’r plentyn. Bydd rhaid i unrhyw gamau a phenderfyniadau a wneir gan y cyfaill cyfreitha yn yr achos fod er lles y plentyn. Gall unigolyn ddod yn gyfaill cyfreitha o ganlyniad i’r llys wneud gorchymyn yn eu penodi, neu drwy lenwi tystysgrif addasrwydd yn Ffurflen FP9 a’i ffeilio yn y llys.

Cymorth gan unigolyn lleyg (a elwir weithiau’n Gyfaill McKenzie)

Os byddwch yn penderfynu gwneud cais ar eich pen eich hun heb gynrychiolaeth gyfreithiol, efallai y gall unigolyn lleyg neu gyfaill, a elwir weithiau’n Gyfaill McKenzie, eich helpu yn y llys. Gall yr unigolyn hwnnw:

  • fod yn gefn i chi
  • cymryd nodiadau
  • helpu gyda phapurau’r achos
  • rhoi cyngor yn dawel ar weithdrefn y llys neu bwyntiau cyfreithiol, materion y dymunwch eu codi yn y llys, a chwestiynau y gallech fod am eu gofyn i dystion

Nid oes gan Gyfaill McKenzie hawl i wneud y canlynol:

  • gweithredu ar eich rhan
  • annerch y llys
  • holi tystion
  • llofnodi dogfennau’r llys

Rhaid ichi roi gwybod i’r llys ar ddechrau’r gwrandawiad os ydych yn dymuno cael unigolyn lleyg neu Gyfaill McKenzie yn bresennol.

Os nad ydych yn gwneud cais ar eich pen eich hun

Efallai y gallwch gael cymorth gan y cynllun ‘Help Cyfreithiol’. Bydd cyfreithiwr, canolfan y gyfraith, neu ganolfan cyngor cyfreithiol yn gallu dweud wrthych a ydych yn gymwys i gael help cyfreithiol. Rhaid i chi wneud cais am ‘Help Cyfreithiol’ drwy gyfreithiwr.

Plant a phobl ifanc

Os ydych chi’n unigolyn ifanc yng Nghymru a bod eich teulu’n newid, gallwch ddarllen mwy am y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru.

Os ydych chi’n unigolyn ifanc yn Lloegr a bod eich teulu’n newid, gallwch ddarllen mwy am y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd.

Paratoi a defnyddio bwndeli mewn achosion cyfraith breifat

Pam bod bwndel o ddogfennau yn bwysig

Mae’n hynod o bwysig bod gan bawb sydd mewn gwrandawiad llys fwndel sy’n cynnwys y dogfennau sy’n angenrheidiol i allu delio â’r materion y mae angen i’r llys benderfynu arnynt.

Mae hefyd yn bwysig bod pob bwndel ond yn cynnwys y dogfennau sy’n berthnasol i’r gwrandawiad hwnnw, yn yr un drefn a gyda’r un rhifau tudalennau. Fel arall, bydd amser yn cael ei wastraffu tra bydd partïon a thystion yn ceisio dod o hyd i ddogfennau y cyfeirir atynt. Darllenwch fwy am sut i baratoi bwndel

Pwy ddylai baratoi’r bwndel

Gan amlaf y ceisydd fydd yn paratoi bwndel y llys. Os nad yw cyfreithiwr yn cynrychioli’r ceisydd ond bod parti arall yn cael ei gynrychioli gan gyfreithiwr, bydd cyfreithiwr y parti hwnnw yn paratoi’r bwndel. Os nad yw unrhyw un o’r partïon yn cael eu cynrychioli gan gyfreithiwr, yna bydd y llys yn penderfynu pwy ddylai baratoi’r bwndel.

Cynnwys y bwndel

Dylech roi’r dogfennau sy’n ymwneud â’r materion y mae angen i’r llys benderfynu arnynt yn y gwrandawiad hwnnw gyda’i gilydd mewn ffeil cylch modrwy neu ffeil braich lifer. Dylech gytuno ar y rhain gyda’r parti arall. Anfonwch restr o’r dogfennau yr ydych yn awgrymu y dylid eu cynnwys atynt (mynegai). Os na allwch gytuno, gofynnwch i’r llys p’un a ddylid cynnwys dogfen yn y bwndel neu beidio.

Peidiwch â chynnwys gohebiaeth, cofnodion meddygol neu ariannol, nodiadau ymweliadau cyswllt, ffeiliau gwasanaethau cymdeithasol neu ddadleniadau’r heddlu. Os ydych yn credu bod un o’r mathau hyn o ddogfennau yn berthnasol ac y dylid ei chynnwys yn y bwndel, yna dylech ofyn i’r llys am ganiatâd i’w chynnwys. Bydd angen ichi egluro pam yr ydych yn meddwl ei bod yn berthnasol.

Dylid rhannu’r bwndel i rannau A i E.

A – dogfennau rhagarweiniol

Rhaid i’r dogfennau rhagarweiniol gynnwys:

  • crynodeb cyfredol o gefndir y materion sy’n berthnasol i’r gwrandawiad hwnnw a rheolaeth yr achos (a elwir yn crynodeb yr achos) – ni ddylai fod yn hwy na 4 tudalen
  • datganiad o’r materion sydd i’w penderfynu yn y gwrandawiad hwn ac yn y gwrandawiad terfynol (a dylid cytuno ar hyn gyda’r parti arall)
  • datganiad sefyllfa gan bob parti yn egluro beth maen nhw’n credu dylai ddigwydd a’r gorchmynion y byddent yn hoffi i’r llys eu gwneud yn y gwrandawiad hwn a’r gwrandawiad terfynol
  • cronoleg cyfredol (y digwyddiadau perthnasol yn y drefn y gwnaethant ddigwydd)
  • unrhyw gyflwyniadau ysgrifenedig i’r llys ynghylch y materion sydd i’w penderfynu yn y gwrandawiad – dylid croesgyfeirio’r holl ddogfennau hyn â thudalennau’r bwndel
  • rhestr o’r dogfennau yr ydych chi a’r parti arall yn meddwl y mae wirioneddol angen i’r barnwr eu darllen cyn y gwrandawiad hwn
  • pa mor hir ydych chi’n credu y dylai’r gwrandawiad bara (mae’n debyg na fydd y llys yn disgwyl cael gwybod hyn gennych chi fel ymgyfreithiwr drosto’i hun)

B – ceisiadau a gorchmynion

Ceisiadau a gorchmynion yw unrhyw geisiadau a wneir i’r llys a gorchymyn.

C – datganiadau ac affidafidau

Rhaid cynnwys y datganiadau a’r affidafidau sy’n berthnasol i’r materion i’w penderfynu yn y gwrandawiad yn unig.

D – adroddiadau arbenigwyr

Dylech gynnwys adroddiadau unrhyw arbenigwyr os oes rhai.

E – unrhyw ddogfennau eraill

Rhaid i chi gwblhau datganiad safbwynt ar ddatrys anghydfod y tu allan i’r llys: ffurflen FM5. Rhaid anfon y ffurflen i’r llys ac at y parti arall o leiaf 7 diwrnod gwaith cyn eich gwrandawiad neu apwyntiad cyntaf.

Os yw’r llys wedi gofyn am unrhyw ddogfennau eraill, neu os oes dogfennau y cytunwch eu bod yn berthnasol ar gyfer y gwrandawiad, rhaid eu cynnwys.

Sut i fformatio’ch bwndel

Rhaid rhifo pob tudalen yn y bwndel yng nghornel gwaelod ochr dde y dudalen. Felly, bydd y dogfennau rhagarweiniol yn dechrau gydag A1, A2 ac yn y blaen. Bydd y ceisiadau a’r gorchmynion yn dechrau gyda B1, B2 ac yn y blaen.

Ceisiwch groesgyfeirio’r dogfennau rhagarweiniol gyda’r tudalennau yn y bwndel. Er enghraifft, os yw crynodeb yr achos yn crybwyll rhywbeth yr ymdriniwyd ag o mewn datganiad ar dudalen C28, dylech gynnwys y crynodeb o’r achos yno (C28).

Ni ddylai’r bwndel fod dim mwy na 350 o dudalennau. Gofynnwch am ganiatâd y llys cyn mynd dros y terfyn hwn.

Argraffwch ar un ochr o’r dudalen yn unig.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r bwndel, gwnewch fynegai o bob un o’r dogfennau a rhifau’r tudalennau. Rhowch y mynegai ar ddechrau’r bwndel, cyn unrhyw beth arall.

Gwnewch yn siŵr bod ochr allan y bwndel wedi’i farcio’n glir gydag enw a rhif yr achos, lle bydd yr achos yn cael ei wrando, dyddiad ac amser y gwrandawiad (ac enw’r barnwr os yw’n hysbys).

Beth i’w wneud â’r bwndel

Yn gyntaf, anfonwch gopi o’r mynegai at unrhyw barti arall. Efallai y byddant yn gofyn am gopi o’r bwndel cyfan. Os felly, dylech ddarparu copi ohono, er dylent dalu am unrhyw gostau rhesymol gwneud copïau.

Yna, gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon y bwndel fel ei fod yn cyrraedd y llys dim hwyrach na 2 diwrnod gwaith cyn y gwrandawiad. Os oes rhywun sy’n mynd i roi tystiolaeth yn y gwrandawiad, anfonwch 2 fwndel – un i’r barnwr ac un i’r tystion.

Os bydd y gwrandawiad gerbron ynadon bydd angen i chi anfon 4 copi o’r bwndel (ac un copi ychwanegol i unrhyw dystion).

Os nad yw’r dogfennau rhagarweiniol yn barod, anfonwch y bwndel i’r llys beth bynnag. Sicrhewch fod unrhyw ddogfennau rhagarweiniol yn cael eu danfon i’r llys erbyn ar yr hwyraf 11am ar y diwrnod gwaith cyn y gwrandawiad.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â’ch bwndel gyda chi i’r llys ar gyfer y gwrandawiad.