Rhestr wirio: ceisiadau am gofrestriad cyntaf
Diweddarwyd 1 Hydref 2024
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dylech gwblhau neu ystyried pob un o’r pwyntiau canlynol ac amgáu neu atodi’r holl wybodaeth berthnasol cyn anfon eich cais atom.
Gwnewch yn siwr eich bod wedi:
Ffurflen FR1:
[ ] cyflwyno Ffurflen FR1 wedi ei llenwi
[ ] sicrhau bod stent y tir sydd i’w gofrestru wedi ei nodi’n glir trwy gwblhau panel 3 ffurflen FR1 – gweler cyfarwyddyd ymarfer 40 atodiad 2: arweiniad ar baratoi cynlluniau
[ ] cwblhau panel 5 ffurflen FR1 gyda’r pris a dalwyd, neu werth marchnadol llawn y tir os nad yw’r pris a dalwyd yn gymwys, ee lle mae’r tir yn drosglwyddiad nad yw’n cael ei werthu neu lle mae cofrestriad yn seiliedig ar delerau gwirfoddol – gweler ffïoedd gwasanaethau cofrestru
[ ] cyflwyno’r ffi briodol trwy siec neu archeb bost yn daladwy i Gofrestrfa Tir EF neu, os oes gennych un, wedi cynnwys y rhif allwedd debyd uniongyrchol newidiol ym mhanel 7 ffurflen FR1 (cwsmeriaid proffesiynol yn unig) – gweler ffïoedd gwasanaethau cofrestru
[ ] llenwi panel 7 yn llawn. Os ydych yn cynnwys cyfeiriad ebost, byddwn yn ei ddefnyddio i gysylltu â chi ynghylch eich cais. Dim ond trwy ebost rhoddir cydnabyddiad bod cais trwy’r post wedi dod i law
[ ] cwblhau paneli cadarnhau hunaniaeth ffurflen FR1 ar gyfer pob parti gofynnol, gan gynnwys unrhyw gynrychiolaeth gyfreithiol – gweler cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth: trawsgludwyr
[ ] darparu’r dystysgrif gywir ym mhanel 12 ffurflen FR1 – gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf
Dogfennau a thystiolaeth gefnogol:
[ ] cyflwyno ffurflen DL gyda phob cais
[ ] cyfrif am “wreiddyn da” o leiaf 15 oed a thystiolaeth o gadwyn deitl ddilynol (gan gynnwys atwrneiaeth, tystysgrif marwolaeth, profiant) – gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf
[ ] sicrhau bod unrhyw gynlluniau y cyfeirir atynt yn y gweithredoedd wedi eu hatodi a bod unrhyw gyfeiriadau ar y cynlluniau y cyfeirir atynt yn y gweithredoedd i’w gweld mewn lliw ar y cynlluniau
[ ] cyflwyno dogfennau gwreiddiol, lle bo hynny’n ofynnol o dan reol 24 o Reolau Cofrestru Tir 2003, a’u rhestru ar ffurflen DL – gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf
[ ] wrth gyflwyno ceisiadau copïau o weithredoedd cyn 1 Hydref 2024. (Rhaid i unrhyw geisiadau am gofrestriad cyntaf a gyflwynir ar ôl 1 Hydref 2024 gynnwys y gweithredoedd teitl gwreiddiol sydd gan y ceisydd yn ei reolaeth):
- amgáu tystysgrif trawsgludwr
- amgáu copïau o weithredoedd a dogfennau yn unig ac nid y gwreiddiol
- ardystio copïau o’r holl weithredoedd a dogfennau o fewn 3 mis o’u cyflwyno ac yn unol â gofynion y Gyfarwyddeb
[ ] cyflwyno tystiolaeth Treth Dir y Dreth Stamp/Treth Trafodiadau Tir briodol
[ ] amgáu chwiliadau priodol yr Adran Pridiannau Tir a chyfrif am yr holl gofnodion a ddatgelwyd – gweler cyfarwyddyd ymarfer 63: pridiannau tir: ceisiadau ar gyfer cofrestru, chwiliad swyddogol, copi swyddfa a dileu
[ ] cyflwyno ffurflen AP1 wedi ei llenwi ar gyfer unrhyw dir cofrestredig sydd wedi ei gynnwys yn eich cais
[ ] amgáu’r ffi wrth wneud cais am uniad – gweler ffïoedd gwasanaethau cofrestru
[ ] darparu tystiolaeth treth etifeddiant briodol os oes angen
[ ] cyflwyno tystysgrif cofrestru arwystl briodol yn Nhŷ’r Cwmnïau
[ ] sicrhau bod dogfennau wedi eu dyddio, bod cyflawni’r tyst yn ddarllenadwy a bod enwau wedi eu croeswirio rhwng gweithredoedd a ffurflenni cais, gan roi cyfrif am unrhyw anghysondebau
Bydd cyflwyno ceisiadau’n gywir yn osgoi ymholiadau a’r posibilrwydd o’ch cais yn cael ei wrthod. Darllenwch cyfarwyddyd ymarfer 49: dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru.