Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf

Diweddarwyd 8 October 2018

Ar 28 Tachwedd 2016, gwnaeth y Cofrestrydd Gyfarwyddyd sy’n golygu y gall trawsgludwyr gyflwyno copïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau yn hytrach na rhai gwreiddiol, ar yr amod eu bod yn bodloni amodau penodol. Gweler Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd am fanylion llawn, neu gweler y cyfarwyddiadau wedi eu crynhoi yn ein cyhoeddiad newyddion.

1. Cyflwyniad

1.1 Y buddion y gellir eu cofrestru

Mae adran 2 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu ar gyfer cofrestru teitl i:

  • ystadau mewn tir
  • rhent-daliadau
  • rhyddfreintiau
  • proffidiau à prendre mewn gros

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn delio’n unig gyda chofrestriad cyntaf ystadau rhydd-ddaliol a phrydlesol digofrestredig mewn tir. Tra bydd llawer ohono’n berthnasol i gofrestriad cyntaf rhyddfreintiau, proffidiau à prendre mewn gros a rhent-daliadau, nid yw’n delio â’r materion arbennig sy’n codi wrth gofrestru’r buddion hynny. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 16: proffidiau à prendre (cymryd adnoddau naturiol o dir rhywun arall) a chyfarwyddyd ymarfer 18: rhyddfreintiau: cofrestru o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 am wybodaeth fwy manwl.

Nid yw’r cyfarwyddyd hwn yn delio â’r canlynol chwaith:

1.1.1 Ystadau mewn tir

Dim ond ystadau all fodoli’n gyfreithiol, sy’n ffi seml absoliwt â meddiant neu dymor blynyddoedd absoliwt, sy’n gallu cael eu cofrestru o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Oherwydd darpariaethau adran 27(2)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 o ran rhoi prydlesi allan o deitlau cofrestredig, nid yw’r cyfarwyddyd hwn ond yn cyfeirio at gofrestru ystadau prydlesol:

  • a roddwyd allan o ystad ddigofrestredig
  • a roddwyd allan o ystad gofrestredig cyn 13 Hydref 2003 oedd yn anghofrestradwy bryd hynny, ond sy’n gofrestradwy erbyn hyn

Fodd bynnag, nid oes cofrestru gorfodol ar rai o’r ystadau hyn.

Gweler Ceisiadau gorfodol am gofrestriad cyntaf i gael gwybodaeth am geisiadau lle bo cofrestru teitl yn orfodol.

Gweler Ceisiadau gwirfoddol am gofrestriad cyntaf i gael gwybodaeth am geisiadau lle bo cofrestru teitl yn wirfoddol.

1.1.2 Maenorau

Mwyach, nid oes modd cofrestru teitl i arglwyddiaeth maenor. O dan Ddeddf Cofrestru Tir 1925 gellid gwneud hyn yn wirfoddol, er na fu erioed yn orfodol. Lle cofrestrwyd teitl i faenor eisoes gall y perchennog wneud cais iddo gael ei ddileu o’r gofrestr (adran 119 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Mae llawer o deitlau maenoraidd sydd heb gynnwys unrhyw dir diriaethol. Weithiau, fodd bynnag, gall tir ddal i fod ynghlwm wrth faenor a gall teitl iddo fynd gyda throsglwyddo’r faenor. Nid oedd darpariaethau cofrestru gorfodol Deddf Cofrestru Tir 1925 yn berthnasol i dir oedd yn rhan o faenor ac yn gynwysedig yng ngwerthiant maenor fel y cyfryw (adran 123(3)(c) o Ddeddf Cofrestru Tir 1925 (diddymwyd)).

Nid oes unrhyw eithriad o’r fath yn Neddf Cofrestru Tir 2002. Felly, os yw maenor yn cynnwys darnau diriaethol o dir, rhaid cofrestru’r teitl i’r tir dan sylw yn dilyn trosglwyddiad, morgais neu brydles o fath sy’n ennyn cofrestriad cyntaf. Nid oes modd cofrestru arglwyddiaeth y faenor ei hun.

1.2 Manteision cofrestru tir

Mae cofrestru dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn cefnogi perchnogaeth cartrefi ac eiddo a’r farchnad credyd gwarantedig trwy wneud y canlynol:

  • darparu cofrestriad wedi’i gefnogi gan y wladwriaeth, sy’n rhoi gwell sicrwydd teitl.
  • gwarchod yn well rhag posibilrwydd colli teitl trwy feddiant gwrthgefn
  • indemnio’r perchnogion dan adran 103 ac Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 rhag unrhyw golled os ydynt yn cael eu hamddifadu o’u teitl wedi’i gefnogi gan y wladwriaeth (gweler adrannau 11 a 12 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) ar gywiro’r gofrestr dan adran 65 ac Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002
  • dod â sicrwydd a symlrwydd i drawsgludo
  • dangos, neu gyfeirio yn y gofrestr at, yr hawliau sydd o fudd i ac yn effeithio ar y teitl heblaw buddion gor-redol arbennig
  • dangos stent cyffredinol y tir ymhob teitl trwy gyfrwng cynllun teitl
  • sicrhau y gall cyfalaf gylchredeg yn rhydd yn yr economi trwy weld bod tir ar gael yn rhwydd fel gwarant
  • gwneud daliadau mawr o dir a phortffolios arwystlon yn hawdd eu marchnata

2. Ceisiadau gorfodol am gofrestriad cyntaf

Mae adran 4 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn enwi’r digwyddiadau sy’n ennyn cofrestru gorfodol. Mae adran 4(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn galw hyn yn ‘ofyniad cofrestru’. Er y byddwn yn mynegi barn, ar gais, ar os yw adran 4 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn berthnasol i fath arbennig o drafodiad, dim ond y llys all ddehongli’r adran yn ddiffiniol.

Mae adran 80 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu ar gyfer cofrestru gorfodol o grantiau gan Ei Mawrhydi allan o dir demên. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Cofrestriad cyntaf ar sail gwarediadau gan y Goron a Dugiaethau Caerhirfryn a Chernyw.

2.1 Ar drosglwyddo ystad rydd-ddaliol mewn tir

Mae’n orfodol cofrestru ar drosglwyddo ystad rydd-ddaliol ddigofrestredig mewn tir:

  • am gydnabyddiaeth â gwerth iddi neu fel arall (adran 4(1)(a)(i) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) gan gynnwys trosglwyddo eiddo gyda gwerth negyddol dan adran 4(6) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002
  • trwy rodd (adran 4(1)(a)(i) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) gan gynnwys at ddibenion cyfansoddi ymddiried lle nad yw’r setlwr yn cadw’r budd llesiannol cyfan, neu uno’r teitl cyfreithiol noeth a’r budd llesiannol mewn eiddo sy’n cael ei ddal dan ymddiried lle nad oedd y setlwr, ar gyfansoddi, yn cadw’r budd llesiannol cyfan (gweler adran 4(7) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
  • yn unol â gorchymyn unrhyw lys (adran 4(1)(a)(i) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
  • trwy gyfrwng cydsyniad (adran 4(1)(a)(ii) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) gan gynnwys cydsyniad breinio ar sail y diffiniad yn adran 4(9) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002
  • trwy beri dosraniad tir yn ddarostyngedig i ymddiried tir (adran 4(1)(a)(iii) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
  • trwy weithred sy’n penodi, neu yn rhinwedd adran 334 o Ddeddf Elusennau 2011, yn peri penodi ymddiriedolwr newydd neu sy’n cael ei gwneud o ganlyniad i benodi ymddiriedolwr elusen newydd (adran 4(1)(aa)(i) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
  • trwy orchymyn breinio o dan adran 44 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925 sy’n ôl-ddilynol ar benodiad ymddiriedolwr newydd (adran 4(1)(aa)(ii) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002), neu
  • o dan amgylchiadau lle mae adran 171A o Ddeddf Tai 1985 yn berthnasol (adran 4(1)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) (gwarediad gan landlord sy’n peri nad yw rhywun yn denant sicr mwyach).

2.2 Ar drosglwyddo ystad brydlesol bresennol mewn tir

Mae’n orfodol cofrestru ar drosglwyddo ystad brydlesol ddigofrestredig mewn tir gyda mwy na 7 mlynedd ohoni ar ôl ar adeg y trosglwyddo (gweler adran 4(2)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) fel a ganlyn:

  • am gydnabyddiaeth â gwerth iddi neu fel arall (gan gynnwys trosglwyddo eiddo gyda gwerth negyddol)
  • trwy rodd (gan gynnwys at y dibenion gaiff eu crybwyll yn Ar drosglwyddo ystad rydd-ddaliol mewn tir
  • yn unol â gorchymyn unrhyw lys
  • trwy gyfrwng cydsyniad (gan gynnwys cydsyniad breinio)
  • trwy weithred sy’n penodi ymddiriedolwr newydd (o dan yr amgylchiadau a nodir yn Ar drosglwyddo ystad rydd-ddaliol mewn tir neu
  • trwy orchymyn breinio o dan adran 44 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925 sy’n ôl-ddilynol ar benodiad ymddiriedolwr newydd

Mae’n orfodol cofrestru hefyd ar drosglwyddo unrhyw ystad brydlesol ddigofrestredig mewn tir, pa mor fyr bynnag y tymor, dan amgylchiadau lle mae adran 171A o Ddeddf Tai 1985 yn berthnasol (gwarediad gan landlord sy’n peri nad yw rhywun yn denant sicr mwyach).

2.3 Ar adeg rhoi ystad brydlesol newydd mewn tir

Mae cofrestru gorfodol yn berthnasol i grantiau allan o ystadau rhydd-ddaliol digofrestredig ac allan o ystadau prydlesol digofrestredig sydd â dros 7 mlynedd ohonynt ar ôl ar adeg y grant. Rhaid i’r brydles a roddir fod naill ai:

  • am gyfnod o fwy na 7 mlynedd o ddyddiad y grant (adran 4(1)(c)(i) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002), ac
  • am gydnabyddiaeth â gwerth iddi neu fel arall (gan gynnwys prydles eiddo gyda gwerth negyddol), trwy rodd (gan gynnwys at y dibenion gaiff eu crybwyll yn Ar drosglwyddo ystad rydd-ddaliol mewn tir neu’n unol â gorchymyn y llys

neu:

  • am dymor blynyddoedd absoliwt i ddod i rym â meddiant ar ôl cyfnod o dri mis o ddyddiad y grant (adran 4(1)(d) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Mae cofrestru gorfodol hefyd yn berthnasol i grant allan o unrhyw deitl digofrestredig unrhyw brydles pa mor fyr bynnag y tymor:

  • yn unol â Rhan 5 o Ddeddf Tai 1985 (hawl i brynu) (adran 4(1)(e) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002
  • o dan amgylchiadau lle mae adran 171A o Ddeddf Tai 1985 yn berthnasol (gwarediad gan landlord sy’n peri nad yw rhywun yn denant sicr mwyach)

2.4 Ar forgais cyfreithiol cyntaf

Mae cofrestru gorfodol hefyd yn berthnasol pan fo perchennog ystad mewn tir digofrestredig yn creu morgais cyfreithiol cyntaf gwarchodedig (adran 4(1)(g) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) oni bai ei fod yn forgais o brydles gyda dim mwy na 7 mlynedd ohoni ar ôl. Morgais cyfreithiol cyntaf gwarchodedig yw un sydd, ar adeg ei greu, â blaenoriaeth ar forgeisi eraill sy’n effeithio ar yr ystad a forgeisiwyd.

2.5 Achosion lle nad yw cofrestru gorfodol yn berthnasol

Nid oes dim yn Neddf Cofrestru Tir 2002 sy’n ei gwneud yn orfodol i gofrestru teitl i:

  • hereditamentau anghorfforol (megis rhent-daliadau, proffidiau a rhyddfreintiau), neu
  • mwynfeydd a mwynau yn cael eu dal ar wahân i’r arwyneb (gweler adran 4(9) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)

Mae cofrestru’r uchod yn wirfoddol. Nid oes modd cofrestru hereditamentau anghorfforol heblaw rhyddfreintiau, proffidiau à prendre mewn gros a rhent-daliadau ond fel yn perthyn i dir cofrestredig. Mae modd cofrestru rhai buddion prydlesol ychwanegol yn wirfoddol hefyd. Caiff y rhain eu hegluro’n fwy manwl yn Ceisiadau gwirfoddol am gofrestriad cyntaf.

Nid yw cofrestriad gorfodol yn gymwys i drosglwyddo neu roi prydles sy’n denantiaeth tai cymdeithasol perthnasol (gweler adrannau 4(5A) ac 132(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, fel y’u newidiwyd gan adran 157(3) o Ddeddf Lleoliaeth 2011.

3. Ceisiadau gwirfoddol am gofrestriad cyntaf

Mae adran 3 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn berthnasol i unrhyw ystad gyfreithiol ddigofrestredig sydd yn fudd o:

  • ystad rydd-ddaliol neu brydlesol mewn tir
  • rhent-dâl
  • rhyddfraint
  • proffid à prendre mewn gros

Gyda dau eithriad, i gofrestru ystad brydlesol yn wirfoddol rhaid bod dros 7 mlynedd o’r tymor ar ôl (adran 3(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Yr eithriadau yw:

  • mae modd cofrestru prydles lle bo meddiant yn amharhaol (megis prydles gyfnodrannu) pa mor fyr bynnag y cyfnod (adran 3(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
  • lle bo prydlesai yn dal prydles â meddiant ac wedi cael prydles arall o’r un tir i ddod i rym â meddiant cyn pen mis wedi diwedd y brydles gyntaf, mae’r ddwy brydles yn cael eu trin fel pe baent yn creu un tymor di-dor at ddibenion adran 3 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Mae modd cofrestru’r ddwy os yw’r tymor cyfunol dros 7 mlynedd (gweler adran 3(7) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)

Ni ellir cofrestru prydles sy’n denantiaeth tai cymdeithasol perthnasol yn wirfoddol (gweler adrannau 3(4A) ac 132(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, fel y’u newidiwyd gan adran 157(2) o Ddeddf Lleoliaeth 2011).

3.1 Cofrestru cyn delio

Gall cais gwirfoddol am gofrestriad cyntaf fod yn arbennig o ddefnyddiol lle gall darpar brynwr neu forgeisai fod ag amheuon ynghylch derbyn y teitl. Gall hyn ddigwydd, er enghraifft, lle collwyd neu lle dinistriwyd gweithredoedd yr eiddo, neu lle nad ydynt ar gael i berchennog yr ystad am ryw reswm. Er na fyddwn yn rhoi teitl llwyr efallai, gall y teitl ddal i fod yn dderbyniol i brynwyr a morgeiseion, yn arbennig os daw gyda chefnogaeth polisi yswiriant indemniad teitl.

Rhaid i chi wneud cais ar ffurflen FR1 yn y ffordd arferol (gweler Ffurflen gais).

I gael rhagor o wybodaeth am geisiadau lle collwyd neu lle dinistriwyd gweithredoedd teitl, gweler cyfarwyddyd ymarfer 2: cofrestriad cyntaf os yw gweithredoedd ar goll neu wedi eu dinistrio.

3.2 Cofrestru daliadau sylweddol o dir digofrestredig

Mae’n bosibl y bydd yn gyfleus i berchnogion tir sylweddol gofrestru eu daliadau llawn.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am geisiadau sy’n effeithio ar sawl eiddo, gweler cyfarwyddyd ymarfer 33: ceisiadau ar raddfa fawr (cyfrifo ffïoedd).

4. Cyflwyno ceisiadau am gofrestriad cyntaf

4.1 Pwy all wneud cais

Pan fo cofrestru’n orfodol, rhaid i berchennog yr ystad (trosglwyddai neu grantî) neu ei olynydd yn y teitl wneud y cais (adran 6(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Fodd bynnag, gall morgeisai dan forgais sy’n dod o fewn adran 4(1)(g) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (hy un sy’n ennyn cofrestriad cyntaf gorfodol) wneud cais yn enw’r morgeisiwr i gofrestru’r ystad sydd dan arwystl y morgais p’un ai a yw’r morgeisiwr yn cydsynio neu beidio (rheol 21 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Nid yw’n bosibl, ar unrhyw adeg, i wneud cais am gofrestriad cyntaf yn enw perchennog ystad ymadawedig (gan gynnwys morgeisiwr ymadawedig) am nad yw’n berson at ddiben adrannau 9(2), (4), (5) a 10(2), (3), (5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Lle ceir cydsyniad neu drosglwyddiad gan y cynrychiolydd personol, dylid gwneud y cais yn enw’r cydsynai neu drosglwyddai. At ddiben rheol 21 o Reolau Cofrestru Tir 2003, lle y mae unig forgeisiwr wedi marw, gellir gwneud cais am gofrestriad cyntaf gan y morgeisiai yn enw’r ysgutor, gweinyddwr neu Ymddiriedolwr Cyhoeddus, fel y bo’n briodol.

Lle bo gofyniad cofrestru, rhaid gwneud y cais o fewn dau fis (adrannau 6(1) a (4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Gweler Terfyn amser.

O dan adran 3(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, gall rhywun wneud cais i’w gofrestru’n wirfoddol fel perchennog ystad gyfreithiol ddigofrestredig os:

  • yw’r ystad wedi ei breinio ynddynt, neu
  • oes ganddynt hawl i fynnu breinio’r ystad ynddynt

Ni all y bobl ganlynol wneud cais.

  • rhywun ag ystad brydlesol yn breinio ynddo fel morgeisai lle bo hawl adbrynu yn bodoli dan adran 3(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
  • rhywun sydd â hawl oherwydd iddo gytuno i brynu trwy gontract dan adran 3(6) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002

Nid yw adran 6 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn berthnasol i gofrestriadau cyntaf gwirfoddol am nad oes unrhyw ddyletswydd i wneud cais i gofrestru.

4.2 Ffurflen gais

Rhaid gwneud eich cais ar ffurflen FR1, sydd ar gael trwy ddogfenwyr cyfreithiol neu gellir ei llwytho i lawr o GOV.UK yn ddi-dâl. Fel gyda’n holl ffurflenni, cewch ei hatgynhyrchu mewn dull electronig os yw’n well gennych.

4.3 Llenwi ffurflen gais FR1

4.3.1 Panel 1: yr awdurdod lleol sy’n gwasanaethu’r eiddo

Nodwch yr awdurdod lleol lle telir y dreth gyngor neu drethi busnes o ran eich eiddo. Bydd hyn naill ai’n awdurdod unedig, metropolitan a bwrdeistrefi Llundain, neu mewn ardaloedd ‘dwy-haen’, yr ardal cyngor dosbarth.

4.3.2 Panel 2: cyfeiriad neu ddisgrifiad arall o’r ystad i’w chofrestru

Rhowch y cyfeiriad post, gan gynnwys y cod post. Yn gyffredinol, byddwn yn cofnodi’r cyfeiriad yn y gofrestr o ffeil gyfeiriadau Swyddfa’r Post, felly gall fod ychydig yn wahanol i’r cyfeiriad a rowch yma. Os nad oes unrhyw gyfeiriad post, bydd disgrifiad cyffredinol fel ‘tir ar ochr ogleddol Ffordd Llundain, Trewen’ yn gwneud y tro.

4.3.3 Panel 3: y stent i’w gofrestru

Rhaid i chi roi digon o fanylion i ni allu dynodi hyd a lled y tir i’w gofrestru’n eglur ar fap yr Arolwg Ordnans (rheol 24(1)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Os nad yw’r panel wedi ei gwblhau neu os na allwn bennu’r maint yn ddigon da i’w fynegeio, byddwn yn gwrthod eich cais.

Mae gennych dri dewis wrth lenwi’r panel hwn.

4.3.3.1 Cynllun ad hoc

Rhaid defnyddio’r dewis hwn pan fyddwch yn darparu cynllun ar ei ben ei hunan i adnabod yr eiddo. Rhaid paratoi’r cynllun neu gynlluniau ar raddfa addas, yn seiliedig ar fap yr Arolwg Ordnans yn ddelfrydol. Rhowch ‘X’ yn y blwch cyntaf a chwblhewch y datganiad yn briodol.

Ni allwch ddefnyddio’r dewis cyfeiriad post wrth gofrestru fflat, fflat deulawr, seler neu rannau cyffredin o fewn adeilad, neu lle y mae eiddo’n cynnwys stentiau gwahanol ar wahanol lefelau. O dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i chi ddarparu cynllun o’r wyneb ar, o dan neu dros yr hyn y mae’r tir i’w gofrestru yn gorwedd, a gwybodaeth ddigonol i ddiffinio stentiau fertigol a llorweddol y tir (gweler rheol 26 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Gall y cynllun fod yn gynllun ad hoc neu’n gynllun gweithred.

Yn yr un modd, bydd cynllun yn ofynnol bob tro os oes tai allan neu ardal parcio neu le i gadw biniau na ellir eu hadnabod yn rhwydd trwy ddisgrifiad.

4.3.3.2 Cynllun yng ngweithredoedd yr eiddo

Lle bo gweithredoedd yr eiddo’n cynnwys cynllun boddhaol o’r tir i’w gofrestru, rhowch ‘X’ yn y blwch cyntaf a rhowch natur a dyddiad y weithred sy’n cynnwys y cynllun (er enghraifft ‘trawsgludiad dyddiedig 21 Ebrill 1926’).

Dim ond lle tynnwyd cynllun y weithred yn dda ar raddfa ddigonol a’i bod yn hollol glir nad yw sefyllfa’r terfynau wedi newid ers paratoi’r cynllun y dylid defnyddio’r dewis hwn.

4.3.3.3 Cyfeiriad post neu ddisgrifiad arall

Lle bo modd dynodi’r tir yn llawn o’r disgrifiad ym mhanel 2 y ffurflen gallwch roi ‘X’ yn y blwch olaf. Dylai fod modd gwneud hyn lle bo’r eiddo, neu bob eiddo os oes mwy nag un, naill ai:

  • yn gyfan gwbl amgaeedig a’r tir amgaeedig cyfan yn hawdd ei adnabod ar fap yr Arolwg Ordnans o’r cyfeiriad post a roddwyd, neu
  • yr un yn union â’r tir mewn teitl arall, megis prydles gofrestredig lle bo’r cais yn berthnasol i’r rifersiwn. Dylid cynnwys rhif y teitl ym mhanel 2, er enghraifft ‘lesddaliad cofrestredig dan deitl rhif AA123456’

Os ydych yn cofrestru mwynfeydd a mwynau sydd mewn perchnogaeth ar wahân i’r arwyneb, rhaid i chi ddarparu, dan reol 25 o Reolau Cofrestru Tir 2003:

  • cynllun o’r arwyneb y gorwedd y mwynfeydd a mwynau oddi tano
  • unrhyw fanylion digonol eraill trwy gynllun neu fel arall fel bod modd dynodi’r mwynfeydd a mwynau yn eglur
  • manylion llawn hawliau sy’n atodol i weithredu’r mwynfeydd a mwynau.

4.3.4 Panel 4: y teitl a geisir yw

4.3.4.1 Sylwadau cyffredinol

Os ydych yn gwneud cais am deitl meddiannol neu deitl prydlesol da yn unig, rhowch ‘X’ yn y blwch perthnasol ym mhanel 4. Fel arall, rhowch ‘X’ ar gyfer rhydd-ddaliol llwyr neu brydlesol llwyr fel bo angen. Yna bydd y cofrestrydd yn rhoi teitl o’r dosbarth gorau y bydd yr amgylchiadau’n ei ganiatáu.

Dylech nodi efallai na allwn roi’r dosbarth teitl a geisiwch.

4.3.4.2 Rhydd-ddaliol a phrydlesol cymysg

Yn achlysurol, oherwydd disgrifiadau annigonol mewn hen weithredoedd, mae’n bosibl na fydd modd gwahanu rhwng tir rhydd-ddaliol a phrydlesol. Yn y fath achos dylech wneud cais am deitl rhydd-ddaliol llwyr. Yn ôl pob tebyg bydd y teitl yn cael ei gofrestru fel teitl rhydd-ddaliol llwyr, ond gyda nodyn yn y gofrestr yn dweud bod y rhan o’r tir (os oes) sydd yn brydlesol wedi ei gofrestru gyda theitl prydlesol da yn unig.

4.3.4.3 Estyn lesddaliad blaenorol yn rhydd-ddaliad

Mae modd gwneud cais hefyd am deitl rhydd-ddaliol llwyr lle estynnwyd tymor o flynyddoedd yn ffi syml dan adran 153(8) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 neu adran 65(4) o Ddeddf Trawsgludo a Chyfraith Eiddo 1881. Os yw’r dystiolaeth a ddarparwyd yn foddhaol, byddwn yn gwneud cofnod yn y gofrestr i adlewyrchu’r ddeddfwriaeth briodol y digwyddodd yr estyniad dani.

Os nad yw’r cofrestrydd yn fodlon ar dystiolaeth yr estyniad, ni fydd yn cofrestru’r teitl rhydd-ddaliol.

4.3.5 Panel 5: gwneud cais, blaenoriaeth a ffïoedd

Mae methu â chofnodi gwerth y tir yn y panel hwn a/neu gynnwys y ffi yn debygol o arwain at wrthod y cais.

4.3.5.1 Cyd-doddi prydlesi cofrestredig a digofrestredig

Lle bo prydles gofrestredig yn enw perchennog yr ystad i gyd-doddi yn y rifersiwn agosaf, dylai panel 5 gynnwys cais i gau’r teitl prydlesol wrth gyd-doddi. Rhaid i chi hefyd amgáu ffurflen AP1 wedi’i llenwi gyda’ch cais, gan ddyfynnu’r teitl sy’n cyd-doddi. Os oes arwystl ar y teitl prydlesol, rhaid i chi gyflwyno unrhyw ffurflen DS1 neu weithred arwystl amnewidiol sy’n briodol, neu ofyn i’r rhoddwr benthyg drosglwyddo Hysbysiad Rhyddhau Electronig. Nid oes dim i’w dalu’n ychwanegol.

Lle bo prydles ddigofrestredig yn perthyn i berchennog yr ystad i gyd-doddi yn y rifersiwn agosaf, dylai panel 4 gynnwys cais i gyd-doddi. Gweler [Cofrestrfa Tir EM: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru(https://www.gov.uk/guidance/hm-land-registry-registration-services-fees.cy) ar gyfer y ffïoedd sy’n daladwy.

4.3.5.2 Hawddfreintiau a hawliau eraill

Fel arfer, bydd hawddfreintiau a hawliau eraill y cyfeirir atynt yn y trosglwyddiad diweddaraf yn cael eu cynnwys yn y teitl, heb gais penodol, os yw’r cofrestrydd yn fodlon eu bod yn llesiannol i’r ystad sy’n cael ei chofrestru.

Os oes gan yr eiddo fudd hawliau heb eu rhoi trwy weithred dylech wneud cais yn benodol os ydych am gael eu cynnwys yn y teitl (gweler rheol 33(1)(b) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Rhaid i chi roi manylion yr hawliau a hawlir, a phrofi eu bodolaeth trwy ddatganiadau statudol priodol.

4.3.5.3 Ceisiadau eraill a’u blaenoriaeth

Dylid rhestru holl arwystlon sydd i’w cofrestru ac unrhyw weithred a geisiwch (fel cyfuno gyda theitl cofrestredig presennol) ym mhanel 5 yn nhrefn y flaenoriaeth a fwriadwyd iddynt, a dylai unrhyw ddogfennau priodol fod gyda’r cais.

Lle byddwch yn gwneud cais am unrhyw weithred gyda ffurflen gais benodedig, megis cyfyngiad (ffurflen RX1) neu ddynodiad fel dogfen gwybodaeth fasnachol eithriedig (ffurflen EX1), rhaid i chi gynnwys y ffurflen honno hefyd, wedi ei llenwi’n briodol.

I gael gwybodaeth am lenwi’r isadran dan y pennawd ‘Dull talu’r ffi’, gweler Ffïoedd Cofrestrfa Tir EM.

4.3.6 Panel 6: y ceisydd

Dylid rhoi enw(au) llawn y bobl sy’n gwneud cais i gael eu cofrestru’n berchnogion yma. Lle bo trawsgludwr yn cyflwyno’r cais, dylid rhoi enwau’r cleientiaid, nid y cwmni, yma. Os yw’r ceisydd yn gwmni neu’n bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, bydd yn rhaid llenwi ail ran y panel.

Ar gyfer cyrff corfforaethol nad ydynt wedi eu cofrestru o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 yn y DU, gweler hefyd Cyfansoddiad corfforaeth.

4.3.7 Panel 7: anfonir y cais i Gofrestrfa Tir EM gan

Llenwch fanylion eich cwmni. Os ydych yn berson lleyg, ychwanegwch eich manylion eich hunan yma. Rhaid i chi ddarparu naill ai gyfeiriad post neu DX ar gyfer gohebu. Rhowch gyfeiriad ebost yma dim ond os ydych yn fodlon inni gysylltu â chi yn y ffordd hon.

Byddwn yn delio dim ond â’r person a enwir ym mhanel 7 y ffurflen gais. Os yw’r ffurflen gais yn cynnwys unrhyw gais i godi ymholiadau neu anfon dogfennau ar ôl eu cwblhau at drydydd parti, caiff y cais ei wrthod.

4.3.8 Panel 8: cyfeiriad(au) ar gyfer gohebu o ran pob un o berchnogion yr ystad

Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chofnodi yn y gofrestr perchnogaeth. Cewch roi hyd at dri chyfeiriad ar gyfer gohebu ar gyfer pob ceisydd.

Rhaid i un cyfeiriad ar gyfer pob ceisydd fod yn gyfeiriad post, boed yn y Deyrnas Unedig neu beidio (rheol 198(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Gall y lleill fod un ai’n gyfeiriad post gwahanol, cyfeiriad cyfnewidfa ddogfennau yn y DU neu gyfeiriad electronig (ebost) (rheol 198(4) a (7) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Nid oes angen rhoi mwy nag un cyfeiriad ar gyfer pob ceisydd.

4.3.9 Panel 9: lle bo’r ceisydd yn fwy nag un person

Lle bo cydberchnogion ystad, rhaid i chi ddewis un o’r dewisiadau ym mhanel 9 trwy roi ‘X’ yn y blwch priodol.

Os nad ydynt naill ai’n gyd-denantiaid ecwitïol nac yn denantiaid cydradd â chyfrannau cyfartal, dewiswch y blwch olaf a chwblhau’r datganiad fel bo angen.

Nid diben hyn yw rhoi rhybudd i’r cofrestrydd dan ba ymddiriedau y mae’r tir yn cael ei ddal (dan adran 44(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002), ond yn syml er mwyn i ni allu cofnodi cyfyngiad ffurf A (gweler rheol 95(2)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Rhaid i ni gofnodi’r cyfyngiad hwn bryd bynnag y byddwn yn cofrestru dau neu fwy o bobl fel perchnogion ystad mewn tir, oni bai bod goroeswr y perchnogion yn gallu rhoi derbynneb ddilys am arian cyfalaf yn codi ar warediad. Fel rheol, ni all y goroeswr ond rhoi derbynneb ddilys lle bo’r perchnogion yn gyd-denantiaid ecwitïol neu’n gynrychiolwyr personol perchennog llwyr.

4.3.10 Panel 10: enw a chyfeiriad(au) ar gyfer gohebu o ran perchennog unrhyw arwystl

Dylid bod wedi rhestru holl arwystlon a morgeisi i’w cofrestru ym mhanel 5.

Oni bai bod yr arwystl yn dwyn cyfeirnod MD Cofrestrfa Tir EM (sydd i’w weld fel arfer ar waelod tudalen gyntaf yr arwystl), yn y panel hwn rhaid i chi roi’r canlynol:

  • enw llawn yr arwystlai
  • ei rif cofrestredig os yw’n gwmni a gofrestrwyd o dan Ddeddf Cwmnïau yng Nghymru a Lloegr neu’r Alban, neu’n bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig
  • tiriogaeth ei gorffori a rhif cofrestru yn y DU (os oes un) os yw’n gorfforaeth dramor
  • hyd at dri chyfeiriad ar gyfer gohebu, fel yr eglurwyd o dan banel 8

Lle bo’r arwystl i fanc, rhowch gyfeiriad a chod dosbarthu’r gangen neu ganolfan warannau berthnasol.

Os trosglwyddwyd yr arwystl ers ei greu, rhaid i chi roi’r wybodaeth hon a darparu tystiolaeth o’r trosglwyddiad, hyd yn oed os oes cyfeirnod MD arno.

Lle nad oes cyfeirnod MD ar yr arwystl a’r arwystlai yn gorfforaeth gorfforedig heb ei chofrestru yng Nghymru a Lloegr neu’r Alban o dan Ddeddf Cwmnïau 2006, gweler Cyfansoddiad corfforaeth.

4.3.11 Panel 11: buddion gor-redol dadlenadwy

Mae Atodlen 1 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn rhestru’r buddion sy’n gor-redeg cofrestriad cyntaf. Dylech hefyd gyfeirio at baragraffau 7 i 13 Atodlen 12 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 i weld trefniadau trosiannol yn ymwneud â buddion gor-redol.

Gydag eithriadau arbennig, rhaid i chi ddadlennu buddion gor-redol sy’n effeithio ar yr ystad sy’n cael ei chofrestru, ac y gŵyr y ceisydd amdanynt mewn gwirionedd (gweler adran 71 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Caiff yr eithriadau eu dangos yn rheol 28(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003. Yn arbennig, nid oes angen i chi ddadlennu unrhyw fudd sy’n amlwg o’r gweithredoedd a’r dogfennau teitl a gyflwynwyd gyda’ch cais.

Yn y panel hwn, rhaid i chi ddatgan os oes unrhyw fuddion gor-redol dadlenadwy, trwy roi ‘X’ yn y blwch priodol. Os oes rhai, rhaid i chi eu rhestru ar ffurflen DI, a’i chyflwyno gyda’ch cais.

Gallwn gofnodi unrhyw fudd a ddadlennwch yn y gofrestr.

Mae rhagor o wybodaeth am fuddion gor-redol i’w chael yng nghyfarwyddyd ymarfer 15: buddion gor-redol a’u dadlennu.

4.3.12 Panel 12: tystysgrif o ran buddion eraill

Mae methu â chwblhau’r panel hwn yn debygol o arwain at wrthod y cais.

Yn gyffredinol, ni fydd unrhyw hawliau, buddion neu hawliadau sy’n hysbys i’r ceisydd heblaw’r rhai a ddadlennwyd yn y dogfennau teitl neu’r ffurflenni a gyflwynwyd. Yn yr achos hwn rhowch ‘X’ yn y blwch cyntaf ym mhanel 12. Os caiff copi ardystiedig o’r offeryn sy’n creu hawl neu fudd ei gyflwyno, bydd yr hawl neu fudd yn cael ei drin fel wedi ei ddadlennu yn y dogfennau teitl ac nid oes angen i chi ei grybwyll yma. Nid oes angen i chi ddatgelu eto chwaith unrhyw fudd a restrwyd gennych ar ffurflen DI.

Os oes unrhyw fuddion, hawliau neu hawliadau eraill heb eu datgelu sy’n hysbys i’r ceisydd, rhowch ‘X’ yn yr ail flwch a chwblhau’r datganiad gyda pha fanylion bynnag sydd ar gael. Dylid rhestru unrhyw bridiannau tir sy’n effeithio nas cwmpaswyd yn y gweithredoedd yma.

Caiff enghreifftiau o hawliau, buddion a hawliadau trydydd parti sy’n gallu effeithio ar yr eiddo eu dangos isod. Yn y cyd-destun hwn, ‘pridiannau tir’ yw morgeisi diadnau, arwystlon ecwitïol, contractau ystad, cyfamodau cyfyngu, hawddfreintiau ecwitïol ac arwystlon eraill ar, neu ymrwymiadau’n effeithio ar dir sy’n disgyn i un o’r dosbarthiadau a restrir yn adran 2 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972.

Fel yr eglurwyd yn Pwy all wneud cais y ceisydd yn gyffredinol yw perchennog yr ystad ond, o dan rai amgylchiadau, mae gan eraill hawl i wneud cais. Pan fyddwch o dan gyfarwyddyd mwy nag un parti, er enghraifft perchnogion yr ystad a’r morgeiseion cyntaf, cynhwyswch unrhyw hawliau, buddion a hawliadau sy’n hysbys i unrhyw un ohonynt.

4.3.12.1 Prydlesi a thenantiaethau

Rhaid i chi ddweud wrthym yma am unrhyw brydles ar y tir na allwch ddarparu tystiolaeth ddogfennol ar ei chyfer, ac sydd heb fod yn fudd gor-redol. Rhowch fanylion os ydych yn ymwybodol o unrhyw opsiynau sydd yn y prydlesi hyn.

Er nad yw’r prydlesi’n fuddion gor-redol, nid oes unrhyw wrthwynebiad i chi eu rhestru ar ffurflen DI os byddai’n gyfleus i wneud hynny.

Dylech hefyd sôn wrthym am unrhyw opsiynau sydd mewn prydlesi nad oes modd eu nodi (gweler adran 33 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) lle na ddadlennwyd yr opsiwn yng ngweithredoedd yr eiddo nac ar ffurflen DI o dan baragraff 2 Atodlen 1 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

4.3.12.2 Pridiannau tir a gofrestrwyd yn yr Adran Pridiannau Tir

Gweler Chwiliadau Pridiannau Tir.

4.3.12.3 Pridiannau tir a grëwyd gan y ceisydd (neu ragflaenydd mewn teitl lle nad yw’r ceisydd yn brynwr am werth)

Bydd pridiannau tir o’r math hwn yn gyfrwymol ar y perchennog pa un ai ydynt wedi cael eu cofrestru yn yr Adran Pridiannau Tir neu beidio.

4.3.12.4 Hawliau caffaeledig, neu ar ganol eu caffael, o dan Ddeddf Cyfyngiadau Achosion 1980

Os bydd sgwatwyr yn meddiannu unrhyw ran o’r eiddo rhaid rhoi manylion yma, oni bai y dadlennwyd budd y sgwatwyr ar ffurflen DI o dan reol 28(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003. Ni fyddwn yn cwblhau cofrestriad nes bydd hawliadau’r sgwatwyr wedi cael eu hymchwilio.

4.3.12.5 Hawliadau

Rhowch fanylion unrhyw hawliadau all beri bod gwrthwynebiad i’r cais neu y dylid eu nodi yn y gofrestr (os na ddadlennwyd hwy ar ffurflen DI). Os gallwch, rhowch enw a chyfeiriad pwy bynnag sy’n gwneud y cais.

4.3.13 Panel 13: archwilio’r teitl

Rhowch ‘X’ yn y blwch os nad archwiliwyd teitl y ceisydd, gan gynnwys y teitl i unrhyw hawliau llesiannol, yn y ffordd arferol cyn y cais. Os bu archwiliad, dylech adael panel 13 fel y mae. Trwy lofnodi panel 17 byddwch yn ardystio ei fod yn gywir. Mae hyn yn fodd i’r cofrestrydd, os gwêl yn dda, ystyried archwiliad blaenorol gan drawsgludwr pan fydd yn archwilio’r teitl (gweler rheol 29 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

4.3.14 Paneli 14 i 16: cadarnhau hunaniaeth

I warchod ein hunain a’n cwsmeriaid rhag twyll hunaniaeth, mae gofyn cwblhau’r paneli hyn wrth gofrestru trosglwyddiad, prydles neu arwystl. Os nad yw’r rhain yn cael eu cwblhau, mae’n bosibl y byddwn yn gwrthod y cais.

Ym mhanel 14, dylech groesi’r panel priodol yn dibynnu a ydych yn drawsgludwr ai peidio. Yn dibynnu ar yr ateb, cwblhewch banel 15 neu 16 trwy restru’r partïon i’r gweithredoedd a weithredodd ar eu rhan. Rhaid darparu tystiolaeth hunaniaeth ar gyfer parti heb gynrychiolaeth. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth – trawsgludwyr am wybodaeth bellach.

4.3.15 Panel 17: llofnod y ceisydd neu ei drawsgludwr/Dyddiad

Rhaid i chi lofnodi a dyddio’r ffurflen. Mae’n bosibl y byddwn yn gwrthod ffurflen FR1 heb lofnod arni.

4.4 Dogfennau sy’n gorfod bod gyda ffurflen FR1

4.4.1 Ffurflen DL

Rhaid i’r ffurflen DL, yn ddyblyg, fod gyda ffurflen FR1 bob amser. Ym mhanel 1, rhowch gyfeiriad neu ddisgrifiad arall o’r eiddo. Ym mhanel 2, rhestrwch, yn eu trefn, yr holl ddogfennau a gyflwynwyd i gefnogi’r cais (gweler rheol 24(1)(d) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

4.4.2 Cynllun

Os ydych wedi rhoi ‘X’ ym mlwch cyntaf ym mhanel 3 ffurflen FR1, rhaid ichi amgáu cynllun digonol i alluogi dynodi’r tir yn eglur ar fap yr Arolwg Ordnans (rheol 24(1)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Gweler Llenwi ffurflen gais FR1 i gael gwybodaeth am lenwi’r panel hwn.

4.4.3 Prydles

Lle bo’r teitl yn brydlesol, rhaid i chi gyflwyno naill ai’r brydles wreiddiol neu gopi ardystiedig o’r brydles – gweler Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd. Os oes unrhyw brydlesi ar y teitl dylech gyflwyno’r brydles wrthrannol berthnasol.

4.4.4 Gweithredoedd eiddo

Anfonwch yr holl weithredoedd a dogfennau sy’n berthnasol i’r teitl sydd gan y ceisydd neu y gall orfodi’r daliwr i’w cyflwyno, gan gynnwys barn cwnsleriaid, crynodebau teitl, copïau o ddogfennau, contractau gwerthu, ymholiadau, atebion, chwiliadau a dogfennau eraill yn ymwneud â’r teitl. Rhaid rhestru’r holl ddogfennau hyn ar ffurflen DL o dan reol 24(1)(d) o Reolau Cofrestru Tir 2003.

Mae gan drawsgludwyr y dewis o gyflwyno ceisiadau am gofrestriad cyntaf yn cynnwys copïau yn unig o weithredoedd a dogfennau ardystiedig. Gweler Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd ar gyfer yr amodau y mae’n rhaid eu bodloni wrth gyflwyno cais am gofrestriad cyntaf sy’n seiliedig ar gopïau yn unig o weithredoedd ardystiedig.

Nid yw hyn yn gymwys i geisiadau am gofrestriad cyntaf gan rai nad ydynt yn drawsgludwyr (sy’n gorfod parhau i gyflwyno gweithredoedd a dogfennau gwreiddiol gyda cheisiadau am gofrestriad cyntaf).

Lle seiliwyd y cais ar bryniant am werth a’r teitl wedi cael ei ymchwilio yn y ffordd arferol yn ôl i wreiddyn da o leiaf 15 mlynedd oed, dylech wrthsefyll y temtasiwn i olygu’r pecyn gweithredoedd fel ag i anfon gwreiddyn teitl diweddar a thrawsgludiadau dilynol yn unig atom. Er na fydd angen i ni weld dogfennau hen iawn efallai, yn arbennig os ydynt yn frau, bydd gweithredoedd o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif gynnar yn aml yn cynnwys manylion diffiniol o gyfamodau, hawddfreintiau a materion eraill sydd angen eu cofnodi yn y gofrestr. Gallant hefyd gynnwys gwell cynlluniau na gweithredoedd mwy diweddar.

Byddwn yn llai tebygol o orfod anfon ymholiadau atoch trwy i chi gyflwyno bwndel cyflawn o weithredoedd, a bydd gwell cyfle gan yr archwiliwr i lunio cofnodion llawn gwybodaeth ar natur unrhyw gyfamodau neu hawliau a hyd a lled y tir yr effeithir arno.

Nid oes angen cyflwyno gweithredoedd a dogfennau gwreiddiol os nad ydynt o dan reolaeth y ceisydd. Enghreifftiau fyddai:

  • lle maent yn effeithio ar dir arall
  • lle mae arwystlai yn eu dal o dan arwystl sy’n bodoli yr aethpwyd iddo cyn y trosglwyddiad i berchennog yr ystad (ond sylwch, gan y byddwn yn gorfod cofrestru’r arwystl, bydd yr arwystlai, fel arfer, yn gorfod cydsynio i’r cais)
  • lle byddai eu cyflwyno yn golygu bod y ceisydd yn talu ffi i’r daliwr

Mewn achosion o’r fath, dylech ddarparu crynodeb neu gopïau ardystiedig o’r gweithredoedd perthnasol. Dylai trawsgludwr farcio crynodebau i ddangos iddynt gael eu cymharu â’r gweithredoedd gwreiddiol. Dylid cadarnhau holl fanylion ewyllysiau, grantiau profiant neu lythyrau gweinyddu, priodasau, partneriaethau sifil a marwolaethau yn ôl y crynodeb teitl hefyd fel eitemau ar wahân a’u nodi felly.

Os nad oes unrhyw esboniad da am absenoldeb y gweithredoedd gwreiddiol, efallai na fyddwn yn gallu rhoi teitl llwyr. Os byddwch angen rhagor o wybodaeth am weithredoedd a gollwyd, cyfeiriwch at gyfarwyddyd ymarfer 2: cofrestriad cyntaf os yw gweithredoedd ar goll neu wedi eu dinistrio.

Mae’r dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi’ch cais yn dibynnu ar natur y teitl a’r dosbarth teitl a geisiwch – gweler Y broses archwilio a dosbarthiadau teitl.

Lle seiliwyd y cais ar gydsyniad, bydd angen i ni fod yn fodlon mai’r un y cydsyniwyd o’i blaid oedd y sawl gyda hawl i dderbyn trosglwyddiad yr ystad gyfreithiol – gweler Teitlau ar sail cydsyniadau.

Bydd unrhyw ddatganiadau statudol, datganiadau o wirionedd, prydlesi sy’n bodoli, arwystlon sy’n bodoli, tystysgrifau’n ymwneud â Threth Tir Toll Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir (fel sy’n ofynnol gan adran 79 o Ddeddf Cyllid 2003 neu adran 65 o Ddeddf Trafodiadau Tir a Gorchymyn Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 1) 2017 yn ôl eu trefn) a dogfen ddiweddaraf y teitl (megis y trosglwyddiad i’r ceisydd) gwreiddiol yn cael eu cadw o dan reol 203 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Ond os ydych yn gwneud cais gyda chopïau yn unig o weithredoedd a dogfennau, gweler Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd. Os yw eich cais am gofrestriad cyntaf lle y mae gweithredoedd teitl ar goll neu wedi eu dinistrio, gweler cyfarwyddyd ymarfer 2: cofrestriad cyntaf os yw gweithredoedd ar goll neu wedi eu dinistrio.

Ar wahân i hyn, byddwn yn dychwelyd y gweithredoedd cyn-gofrestru ar ôl cofrestru. Yn amodol ar hawliau unrhyw forgeisai sy’n dymuno eu dal, mae gan berchnogion yr ystad hawl iddynt, ac ni ddylid eu distrywio heb eu hawdurdod. Mae nifer o resymau pam y byddai cwsmer am gadw gweithredoedd cyn-gofrestru.

  • maent yn aml yn cynnwys gwybodaeth na fyddai’n ymddangos yn y gofrestr tir. Er enghraifft manylion ymddiriedau, fforddfreintiau, trwyddedau, prydlesi byr, gohebiaeth a hen chwiliadau
  • gallant fod o gymorth yn y dyfodol os oes cwestiwn yn codi am y teitl neu gyda cheisiadau i newid
  • mae penderfyniadau llys diweddar wedi datgan mai dim ond y gweithredoedd sy’n gallu sefydlu union linell terfyn ar eiddo wedi ei gofrestru â therfynau cyffredinol

Yn arbennig gydag eiddo hyn, gall y gweithredoedd fod o gryn ddiddordeb hanesyddol. Fel arfer, bydd archifau neu archifdai lleol yn falch o dderbyn gweithredoedd a dogfennau diangen, naill ai fel rhodd neu fel benthyciad. Mae dogfennau a adneuwyd ar fenthyg bob amser ar gael at ymgynghori neu i’r perchennog eu cymryd yn ôl. Gall Cymdeithas Cofnodion Prydeinig (Adran Cadwraeth Cofnodion), trwy law

Finsbury Library
245 St John Street
Llundain EC1V 4NB

Ffôn: 020 7833 0428

Gall gwefan Cymdeithas Cofnodion Prydain roi cyngor a chymorth ar adneuo dogfennau mewn archifdy priodol.

4.4.4.1 Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd

Yn unol â Chyfarwyddyd y Cofrestrydd o dan reol 24 o Reolau Cofrestru Tir 2003, gallwn dderbyn ceisiadau am gofrestriad cyntaf sy’n cynnwys gweithredoedd copi ardystiedig yn unig.

Os yw trawsgludwr yn dewis cyflwyno copïau yn unig o weithredoedd a dogfennau ardystiedig, rhaid i’r ardystiad priodol o’r tri a restrir isod ymddangos ar bob copi o unrhyw weithred neu ddogfen a ddaw gyda’r cais, a rhaid iddynt gael eu llofnodi a’u dyddio gan y trawsgludwr sy’n cyflwyno ddim mwy na thri mis cyn y gwneir y cais at ddibenion rheol 15 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

a. Rwyf fi/Rydym ni yn ardystio bod y cyfryw ddogfen yn gopi gwir o’r ddogfen wreiddiol.

b. Rwyf fi/Rydym ni yn ardystio bod y cyfryw ddogfen yn gopi gwir o ddogfen a ardystiwyd gan drawsgludwr ei fod yn gopi gwir o’r gwreiddiol.

c. Dyma gopi gwir o ddogfen neu weithred a gopïwyd sydd heb ei ardystio sydd ym meddiant y ceisydd.

Gall y trawsgludwr sy’n ardystio’r copïau o’r gweithredoedd a dogfennau wneud hynny yn ei enw unigol neu yn enw ei gwmni ond rhaid iddo ychwanegu enw ei gwmni a’r cyfeiriad post llawn, gan gynnwys y cod post. Dylai pob gweithred gael ei llofnodi â llaw ac nid trwy gopïo llofnod.

Yn ogystal, rhaid cyflwyno tystysgrif ar wahân, wedi ei llofnodi a’i dyddio gan drawsgludwr unigol sy’n aelod o’r cwmni sy’n cyflwyno’r cais. Rhaid i’r dystysgrif gynnwys y rhif rhôl, trwydded, awdurdodiad neu aelodaeth fel y’u dyrannwyd gan ei reolydd neu awdurdod trwyddedu cymeradwy, a chyfeirio at yr eiddo y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef. Sylwer bod yn rhaid i’r dystysgrif ar wahân hon fod yn enw trawsgludwr unigol bob tro.

Os na chyflwynir y dystysgrif hon gyda’r cais, bydd y cais yn cael ei ystyried yn sylweddol ddiffygiol, a gall gael ei wrthod neu ddileu yn unol â rheol 16(3). Ni ellir cyflwyno’r dystysgrif hon yn ôl-weithredol, rhaid ei chyflwyno gyda’r cais er mwyn osgoi gwrthod y cais neu godi ymholiad am y gweithredoedd gwreiddiol.

Sylwer, yn achos yr ardystiad ar wahân ychwanegol, rhaid i’r person unigol sy’n llofnodi’r dystysgrif gael ei awdurdodi i ymgymryd â gweithgareddau offeryn neilltuedig o dan Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007. Ni fyddai hyn, er enghraifft, yn cynnwys swyddog gweithredol cyfreithiol oni bai bod ganddo Hawliau Ymarfer Trawsgludo a roddwyd gan Reoliad CILEx, ac yn gweithio i gorff rheoledig. Os na, rhaid i’r swyddog gweithredol cyfreithiol fod yn gweithio o dan oruchwyliaeth unigolyn awdurdodedig, a fyddai’n gorfod llofnodi’r dystysgrif. Mae’r dystysgrif sy’n ofynnol gan gyfarwyddyd y cofrestrydd yn ei gwneud yn hollol glir bod yn rhaid iddi gael ei llofnodi gan drawsgludwr unigol, nid gan unrhyw un sy’n gweithio i gorff awdurdodedig.

Rhaid i gopïau o bob gweithred a dogfen sy’n cael eu hanfon gyda’r cais am gofrestriad cyntaf yn unol â’r Cyfarwyddyd hwn fod mor glir a darllenadwy â’r gwreiddiol, a rhaid iddynt fod yn gopïau cyflawn gan gynnwys unrhyw femoranda. Rhaid i unrhyw gynlluniau a ddaw gyda’r cais, gan gynnwys cynlluniau a gynhwysir o fewn gweithredoedd neu ddogfennau, fod yn gopïau lliw maint llawn ac ni ddylent fod yn llai na’r gwreiddiol o ran graddfa neu faint.

Yn unol â’r Cyfarwyddyd, gall Cofrestrfa Tir EM ofyn bod gweithredoedd gwreiddiol yn cael eu cyflwyno at ddibenion sicrhau ansawdd. Os nad ydynt yn cael eu darparu, gall y cais gael ei ddileu. Bydd yn rhaid i unrhyw gais o’r newydd gyflwyno’r gweithredoedd gwreiddiol y gofynnwyd amdanynt.

Caiff yr holl gopïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau a gyflwynir gyda chais yn unol â’r Cyfarwyddyd hwn eu dinistrio ar ôl cwblhau’r cais.

4.4.5 Chwiliadau Pridiannau Tir

Gall y cofrestrydd wneud chwiliadau ac ymholiadau, neu orchymyn i’r ceisydd eu gwneud (rheol 30 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Heblaw hynny, nid oes unrhyw ofynion penodol yn Rheolau Cofrestru Tir 2003 o ran chwiliadau ar gyfer perchnogion yr ystad na’u rhagflaenwyr mewn teitl.

Dylech gyflwyno’r chwiliadau canlynol o leiaf gyda’r cais.

  • chwiliad ar gyfer y gwerthwyr yn y trosglwyddiad diweddaraf trwy werthiant, a hefyd eu rhagflaenwyr mewn teitl yn ôl i’r trawsgludiad blaenorol trwy werthiant
  • chwiliad ar gyfer perchnogion yr ystad a’u rhagflaenwyr mewn teitl yn ôl i’r trawsgludiad diweddaraf trwy werthiant, os aeth cymaint o amser heibio ers y trawsgludiad hwnnw fel bod posibilrwydd y gellid bod wedi gwneud cofnodion ar gyfer eu henwau, neu os nad y ceiswyr yw perchnogion yr ystad (gweler Pwy all wneud cais)

Dylid cyflwyno unrhyw dystysgrifau chwiliad cynharach sydd gyda’r gweithredoedd hefyd.

Rhaid i’r chwiliadau fod ar gyfer enw cywir pob un o berchnogion yr ystad a chwmpasu’r cyfnod cyfan pryd y gellid bod wedi cofrestru arwystl yn yr enw hwnnw. Yn achos perchennog ystad ymadawedig, dylai’r cyfnod estyn i’r dyddiad y gwaredodd y cynrychiolwyr personol yr eiddo neu, os na wnaethant hynny eto, i’r presennol. Mae hyn oherwydd y gellid bod wedi cofrestru arwystlon ar gyfer enw’r ymadawedig ar ôl ei farwolaeth, o dan adrannau 3(1A), 5(4A) neu 6(2A) o Ddeddf Pridiannau Tir 1972.

Cofiwch fod ffiniau rhai siroedd wedi newid drwy’r blynyddoedd felly dylech chwilio ar gyfer unrhyw sir flaenorol briodol.

Rhaid i chi gyfrif am unrhyw gofnod sy’n ymddangos ar y chwiliadau a gyflwynwyd. Os nad yw’n effeithio ar y tir sy’n cael ei gofrestru, dylai trawsgludwr ardystio’r ffaith honno. O fethu gwneud hyn, dylech esbonio’r cofnod ym mhanel 12 ffurflen FR1, a chyflwyno’r gwreiddiol neu gopi ardystiedig neu grynodeb archwiliedig o’r weithred neu ddogfen y seiliwyd y cofnod arnynt. Os nad oes modd gwneud hyn, dylech gael copi swyddfa o’r cofnod o Adran Pridiannau Tir a chyflwyno hwnnw, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ychwanegol o’r budd gwarchodedig.

Os mai dim ond copi swyddfa o’r cofnod sydd ar gael, rydym yn debygol o wneud cofnod amddiffynnol yn y gofrestr.

4.4.6 Tystysgrif cofrestru arwystl cwmni

Gydag ychydig eithriadau, rhaid cofrestru arwystlon a grëwyd gan gwmni yn y DU neu gan bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, yn Nhŷ’r Cwmnïau. Gweler adran 859A o Ddeddf Cwmnïau 2006 ar gyfer arwystlon a grëwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2013. Ar gyfer arwystlon dyddiedig cyn hyn, gweler adran 860 (ar gyfer cwmnïau a gofrestrwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) ac adran 878 (ar gyfer cwmnïau a gofrestrwyd yn yr Alban). Rhwng 1 Hydref 2009 a 30 Medi 2011, rhaid oedd cofrestru arwystlon gan gwmnïau tramor yn Nhŷ’r Cwmnïau (adran 1052 o Ddeddf Cwmnïau 2006).

Rhaid i’r dystysgrif cofrestru a gyhoeddwyd gan Dŷ’r Cwmnïau fod gyda’ch cais. Ar gyfer arwystlon sy’n ddyddiedig ar neu ar ôl 6 Ebrill 2013, rhaid cyflwyno hefyd tystysgrif neu gadarnhad ysgrifenedig bod yr arwystl a gyflwynwyd i’w gofrestru:

  • yn gopi gwreiddiol o arwystl [wedi’i olygu] [o dan adran 859G o Ddeddf Cwmnïau 2006] a ffeiliwyd yn Nhŷ’r Cwmnïau
  • ac mai’r arwystl a gyflwynwyd i’w gofrestru yw’r arwystl y mae’r dystysgrif cofrestru ategol yn ymwneud ag ef

Os nad ydych yn cynnwys y dystysgrif cofrestru gyda’ch cais, byddwn yn gwneud cofnod yn y gofrestr yn dweud bod yr arwystl yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 859A, 860, 878 neu 1052 o Ddeddf Cwmnïau 2006, fel y bo’n briodol (rheolau 111(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Ar gyfer arwystlon sy’n ddyddiedig cyn 6 Ebrill 2013, mae’r mathau canlynol o arwystlon wedi eu heithrio o’r angen i’w cofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau:

  • arwystlon am unrhyw rent neu swm cyfnodol arall yn deillio o dir
  • arwystlon a gymrwyd ar eiddo trwy arwystl amnewidiol yn gyfnewid am eiddo presennol wedi ei ryddhau o weithred ymddiried oedd ei hun wedi ei chofrestru’n briodol fel arwystl o dan Ddeddf Cwmnïau 2006

Ar gyfer arwystlon sy’n ddyddiedig ar neu ar ôl 6 Ebrill 2013, nid oes yn rhaid i’r gofyniad i ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau fod yn gymwys i:

  • arwystl o blaid landlord ar flaendal arian parod a roddir fel sicrwydd mewn perthynas â phrydles tir
  • arwystl a grëwyd gan aelod o Lloyd’s (o fewn ystyr Deddf Lloyd’s 1982(a)) i ddiogelu ei rwymedigaethau mewn perthynas â’i waith gwarantu yn Lloyd’s
  • arwystl nad yw wedi ei gynnwys yng nghais yr adran hon neu o dan unrhyw Ddeddf arall

4.4.7 Ymddiriedau elusennol, eglwysig a chyhoeddus

Lle bo corfforaeth neu gorff o ymddiriedolwyr yn dal ar ymddiriedau elusennol, eglwysig neu gyhoeddus, heblaw ar ran elusen sydd heb ei heithrio, yn gwneud cais i’w gofrestru fel perchennog ystad neu arwystl cofrestredig, rhaid i’r ddogfen yn creu’r ymddiried neu gopi ardystiedig ohoni ddod gyda’r cais (gweler rheolau 182 a 214 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Mae gofynion ychwanegol ar gyfer elusennau. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 14: elusennau: cyngor am geisiadau i’w hanfon i Gofrestrfa Tir EM.

4.4.8 Cyfansoddiad corfforaeth

Os yw’r ceisydd yn gorfforaeth gorfforedig, ond nid:

  • yn gwmni a gofrestrwyd yn y DU o dan Ddeddf Cwmnïau 2006
  • yn bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig wedi ei gorffori o dan Ddeddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2002 neu Ddeddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Gogledd Iwerddon) 2002
  • yn ymddiriedolwr ymddiried cyhoeddus, eglwysig neu elusennol (heblaw elusen heb ei heithrio)

rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth o faint ei bwerau i ddal a gwerthu, morgeisio, prydlesu, a delio fel arall â thir ac, yn achos arwystl, i roi benthyg arian ar forgais (gweler rheol 183(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Rhaid i’r dystiolaeth gynnwys y dogfennau sy’n cyfansoddi’r gorfforaeth, neu gopi ardystiedig, ac unrhyw dystiolaeth ychwanegol y gall y cofrestrydd ei mynnu (gweler rheolau 183(2) a 214 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Os yw’r dystiolaeth mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg, rhaid i chi ddarparu cyfieithiad ardystiedig ohoni

Fel arall, gall cyfreithiwr cymwys sy’n ymarfer y gyfraith yn y diriogaeth gorfforaeth roi tystysgrif ar Ffurflen 7 (ar gyfer corfforaeth wedi ei chorffori y tu allan i’r Deyrnas Unedig) neu gall trawsgludwr y ceisydd roi tystysgrif ar Ffurflen 8 (ar gyfer corfforaeth wedi ei chorffori o fewn y Deyrnas Unedig).

4.4.9 Landlordiaid cymdeithasol

Os yw’r tir yn cael ei ddal gan, neu mewn ymddiried ar ran, landlord cymdeithasol cofrestredig (gweler adran 1 o Ddeddf Tai 1996), neu’n dir cymorthedig yn cael ei ddal gan, neu mewn ymddiried ar ran, cymdeithas dai heb ei chofrestru (O ran ‘cymdeithas dai’ gweler adran 1 o Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985. O ran cofrestru cymdeithasau tai gweler adran 1 o Ddeddf Tai 1996. Caiff ‘tir cymorthedig’ ei ddiffinio yn Atodlen 1 i’r Ddeddf honno), rhaid i dystysgrif i’r perwyl hwnnw ddod gyda’r cais (gweler rheol 183 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

4.4.10 Cais am gyfyngiad a defnyddio ffurflen RX1

Wrth gofrestru un unigolyn neu gorfforaeth yn berchennog ystad gofrestredig, pa un ai ar ddeliad neu ar gofrestriad cyntaf, ni fydd y cofrestrydd ond yn cofnodi cyfyngiad fel a ganlyn (Ffurf A) os bydd cais am hynny.

“CYFYNGIAD: Nid oes unrhyw warediad gan unig berchennog yr ystad gofrestredig (heblaw corfforaeth ymddiried) lle mae arian cyfalaf yn codi i gael ei gofrestru heblaw trwy awdurdod gorchymyn y llys.”

Serch hynny, dylid cofrestru cyfyngiad o’r fath ar gofrestru unig ymddiriedolwr neu enwebai fel perchennog ystad gofrestredig, gan y bydd rhywun o’r fath, fel arfer, yn methu rhoi derbynneb ddilys am arian cyfalaf.

O ganlyniad, rhaid i unig ymddiriedolwr ymddiried tir neu’r olaf ohonynt i oroesi sy’n gwneud cais i’w gofrestru fel perchennog wneud cais ar yr un pryd am gyfyngiad Ffurf A. Mae hyn yn berthnasol ar gofrestriad cyntaf ac ar warediadau cofrestredig (rheol 94(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Rhaid gwneud y cais ar ffurflen RX1 neu ym mhanel darpariaethau ychwanegol ffurflen drosglwyddo Cofrestrfa Tir EM o blaid y ceisydd (gweler rheol 92(7)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Yn yr un modd, rhaid i geisydd am gofrestriad cyntaf ystad gyfreithiol a ddaliwyd ar ymddiried tir lle mae pwerau’r ymddiriedolwyr yn gyfyngedig (gweler adran 8 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996) wneud cais am gyfyngiad ar Ffurf B. Mae hyn hefyd yn berthnasol lle breiniwyd yr ystad gyfreithiol yng nghynrychiolwyr personol unig ymddiriedolwr neu’r olaf ohonynt i oroesi. Rhaid gwneud cais ar ffurflen RX1 neu ddefnyddio ffurflen drosglwyddo Cofrestrfa Tir EM, fel y dywedwyd yn y paragraff blaenorol.

Lle bo’r ystad gyfreithiol yn cael ei dal ar ymddiriedau elusennol, eglwysig neu gyhoeddus, gweler Ymddiriedau elusennol, eglwysig a chyhoeddus.

Mewn sefyllfaoedd eraill lle byddwch yn dymuno gwneud cais am gyfyngiad, rhaid i chi ddefnyddio ffurflen RX1, oni bai bod eithriad o dan reol 92 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti i gael gwybodaeth ychwanegol.

4.4.11 Y dystysgrif Treth Tir Toll Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir briodol

Mae Treth Tir Toll Stamp (TTTS) yn gymwys i drafodion yn ymwneud â thir yn Lloegr a thrafodion yn ymwneud â thir yng Nghymru a gwblhawyd cyn 1 Ebrill 2018. Mae Treth Trafodiadau Tir (TTT) yn gymwys i drafodion yn ymwneud â thir yng Nghymru a gwblhawyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018.

Os yw’r trafodiad yn seiliedig ar neu’n cynnwys trafodiad tir sy’n agored i TTTS neu TTT, rhaid cyflwyno’r dystysgrif TTTS neu TTT ar gyfer y trafodiad hwnnw gyda’r cais. Lle y mae’r cais yn cynnwys trafodiad nad yw Cyllid a Thollau EM (CThEM) neu Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn ystyried ei fod yn cyfrif fel trafodiad tir at ddibenion TTTS, neu lle nad yw trafodiad yn un lle y mae hysbysu CThEM neu ACC yn ofynnol dylid darparu eglurhad o’r amgylchiadau, oherwydd gall Cofrestrfa Tir EM wrthod unrhyw gais nad yw’n cynnwys tystysgrif os yw’n ymddangos bod un yn ofynnol.

Pan fo tir yn disgyn yn rhannol yn Lloegr ac yn rhannol yng Nghymru, bydd y trafodiad yn cael ei drin fel pe bai dau drafodiad a bod y gydnabyddiaeth i’w rhannu rhwng y ddau drafodiad. Os bydd y gydnabyddiaeth ar gyfer pob trafodiad yn gofyn am hysbysu CThEM ac ACC, bydd y ddau awdurdod yn cyhoeddi tystysgrif dychwelyd trafodiad tir. Bydd achosion lle bydd y trafodiad trawsffiniol yn cynnwys tir yng Nghymru neu Loegr nad yw’n hysbysadwy i naill ai CThEM neu ACC (neu’r ddau o bosibl). Yn yr achosion hyn, bydd yn rhaid i’r trawsgludwr hysbysu Cofrestrfa Tir EM wrth gyflwyno’r cais mai dim ond un dystysgrif sydd (neu ddim o gwbl) oherwydd nad yw’r gydnabyddiaeth a roddir ar gyfer y tir mewn un wlad, neu yn y ddwy awdurdodaeth dreth, yn hysbysadwy i un, neu’r ddwy awdurdodaeth dreth.

4.4.11.1 Trafodion tir ar gyfer TTTS

Gellir rhannu trafodion tir ar gyfer TTTS yn dri chategori:

  • trafodion lle mae angen hysbysu CThEM a chwblhau dychweleb trafodiad tir. Bydd CThEM yn anfon tystysgrif dychweleb trafodiad tir fel tystiolaeth y cyfrifwyd am TTTS ar y trafodiad a nodwyd yn y ddychweleb. Rhaid ichi gyflwyno’r dystysgrif wreiddiol neu’r dderbynneb gyflwyno i Gofrestrfa Tir EM wrth gofrestru’r trafodiad
  • trafodion nad oes rhaid hysbysu CThEM amdanynt lle cwblhawyd y trafodiad ar neu ar ôl 12 Mawrth 2008 a’u bod yn cynnwys:
    • caffaeliad (heblaw grant, aseiniad neu ildiad prydles) lle bo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad hwnnw (ynghyd ag unrhyw drafodiad cysylltiedig) yn llai na £40,000. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddiadau o dir rhydd-ddaliol, gweithredoedd rhodd a gweithredoedd grant hawddfraint. Mae hyn yn cynnwys nodi buddion yn ogystal â’u cofrestru’n safonol
    • grant o brydles am gyfnod o 7 mlynedd neu fwy lle mae’r premiwm yn llai na £40,000 (ar gyfer prydlesi a ddyddiwyd cyn 1 Ebrill 2016, roedd yn rhaid i’r rhent blynyddol fod yn llai na £1,000 er mwyn i hysbysu CThEM fod yn ofynnol)
    • aseinio neu ildio prydles o dan yr amgylchiadau canlynol:
      • rhoddwyd y brydles yn wreiddiol am gyfnod o 7 mlynedd neu fwy, ac
      • mae’r gydnabyddiaeth am yr aseiniad neu’r ildiad, heblaw unrhyw rent, yn llai na £40,000
    • grant, aseiniad neu ildiad prydles am dymor o lai na 7 mlynedd lle nad yw’r premiwm yn uwch na’r trothwy cyfradd sero
  • trafodion sy’n eithriedig rhag TTTS neu tu hwnt i gwmpas TTTS ac nad oes angen hysbysiad

O dan drefniadau toll stamp, lle bo trosglwyddiad am werth yn is na’r trothwy treth stamp, mae’r trosglwyddiad a’r ffurflen L(A)451 i’w hanfon i Gofrestrfa Tir EM. Nid yw’r trefniant hyn yn gymwys o dan TTTS. Rhaid hysbysu CThEM am bob trafodiad tir sy’n agored i TTTS oni bai eu bod yn un o’r trafodion a ddisgrifir uchod ac a gwblhawyd ar neu ar ôl 12 Mawrth 2008.

Mae cyngor ar y canlynol ar gael o’r llinell gymorth Toll Stampiau ar 0300 200 3510, rhwng 08:30 a 17:00 dydd Llun i ddydd Gwener ac eithrio gwyliau cyhoeddus:

  • a oes rhaid hysbysu CThEM am drafodiad ar dystysgrif dychweleb trafodiad tir
  • a yw trafodiad yn eithriedig rhag TTTS (fel arwystl cyfreithiol)
  • a yw trafodiad y tu allan i gwmpas TTTS

Mae gwefan CThEM yn cynnig cymorth hefyd.

4.4.11.2 Trafodion tir ar gyfer Treth Trafodion Tir (LTT)

Gellir rhannu trafodion tir ar gyfer Treth Trafodion Tir (LTT) yn dri chategori:

  • trafodion lle mae angen hysbysu ACC a chwblhau dychweleb trafodiad tir. Bydd ACA yn anfon tystysgrif LTT fel tystiolaeth bod LTT wedi cael ei gyfrif amdani ar y trafodiad a hysbyswyd yn y ddychweleb. Rhaid ichi gyflwyno’r dystysgrif i Gofrestru Tir EM wrth gofrestru’r trafodiad
  • trafodion nad oes rhaid hysbysu ACA amdanynt lle bo’r trafodiad yn cynnwys:
    • caffaeliad (heblaw grant, aseiniad neu ildiad prydles) lle bo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad hwnnw (ynghyd ag unrhyw drafodiad cysylltiedig) yn llai na £40,000. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddiadau o dir rhydd-ddaliol, gweithredoedd rhodd a gweithredoedd grant hawddfraint. Mae hyn yn cynnwys nodi buddion yn ogystal â’u cofrestru’n safonol
    • grant o brydles am gyfnod o 7 mlynedd neu fwy lle mae’r canlynol yn wir:
      • mae’r gydnabyddiaeth drethadwy heblaw rhent yn llai na £40,000 ac
      • mae’r rhent blynyddol (neu gyfran drethadwy o’r rhent blynyddol) yn llai na £1,000
    • aseinio neu ildio prydles o dan yr amgylchiadau canlynol:
      • rhoddwyd y brydles yn wreiddiol am gyfnod o 7 mlynedd neu fwy, ac
      • mae’r gydnabyddiaeth drethadwy am yr aseiniad neu’r ildiad, heblaw unrhyw rent, yn llai na £40,000
    • grant, aseiniad neu ildiad prydles am dymor o lai na 7 mlynedd lle nad yw’r gydnabyddiaeth drethadwy am y grant, aseiniad neu ildiad yn uwch na’r trothwy cyfradd sero
  • trafodion sy’n eithriedig rhag LTT neu tu hwnt i gwmpas LTT ac nad oes angen hysbysiad

Os cafodd contract sy’n effeithio ar dir ei lunio yng Nghymru cyn 17 Rhagfyr 2014 ond cafodd ei gwblhau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018, bydd angen tystiolaeth TTTS, os yw’n gymwys, ar yr amod nad yw’n drafodiad eithriedig o dan adran 16(6) o Ddeddf Cymru 2014.

Mae cyngor ar gael ar y canlynol:

  • a oes rhaid hysbysu ACA am drafodiad ar dystysgrif dychweleb trafodiad tir
  • a yw trafodiad yn eithriedig rhag LTT (fel arwystl cyfreithiol)
  • a yw trafodiad tu hwnt i gwmpas LTT
  • a yw wedi ei effeithio gan drefniadau trawsffiniol

gan ganolfan gwasanaeth cwsmeriaid ACA ar 03000 254 000, sydd ar agor rhwng 09.30am a 5.30pm dydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau cyhoeddus. Mae gwefan ACA yn cynnig cymorth hefyd.

4.4.12 Ffurflen DI

Rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen hon i ddadlennu unrhyw fuddion gor-redol dadlenadwy o dan reol 28 o Reolau Cofrestru Tir 2003 nad ydynt yn amlwg o weithredoedd yr eiddo. Gallai hyn gynnwys hawliau trwy bresgripsiwn a hawliau wrth ddefod heb eu cofnodi yn rhywle arall. Gweler Panel 12 – Buddion gor-redol dadlenadwy yn Llenwi ffurflen gais FR1.

4.4.13 Ffurflen EX1

Mewn rhai sefyllfaoedd, lle bydd cyfeiriad at ddogfen yn y gofrestr, efallai y byddwch am gael dileu gwybodaeth niweidiol o’r ddogfen honno. Mae rheol 136(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn darparu y gall unrhyw un wneud cais.

Os dymunwch wneud cais i’r cofrestrydd i ddynodi dogfen fel dogfen gwybodaeth eithriedig, rhaid i chi ddefnyddio ffurflen EX1 (rheol 136(2)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

4.4.14 Ffurflen AP1

Mae angen ceisiadau ar wahân o ran teitlau cofrestredig a digofrestredig. Ffurflen AP1 yw’r ffurflen gais ar gyfer delio â theitlau cofrestredig. Lle bo’r trosglwyddiad, arwystl neu gydsyniad i berchennog yr ystad yn cynnwys teitlau cofrestredig yn ogystal â digofrestredig, rhaid i chi lenwi ffurflen AP1 a ffurflen FR1 a thalu ffi Cofrestrfa Tir EM ar wahân o ran pob un.

Gall fod angen ffurflen AP1 hefyd lle bu delio gyda’r tir cyn cofrestriad cyntaf. Gweler Delio gyda thir cyn cwblhau cofrestriad cyntaf.

4.5 Ffïoedd Cofrestrfa Tir EM

Gweler y Gorchymyn Ffi cofrestru Tir cyfredol ar gyfer y ffïoedd sy’n daladwy.

Mae rhagor o fanylion o’r hyn sydd i’w dalu am geisiadau i gofrestru daliadau mawr o dir yng nghyfarwyddyd ymarfer 33: ceisiadau graddfa fawr a chyfrifo ffïoedd.

Rhaid i chi ddangos y taliad ym mhanel 4 ffurflen FR1 ac, oni bai bod gennych gytundeb blaenorol awdurdodedig gyda Chofrestrfa Tir EM i dalu trwy ddebyd uniongyrchol, dylech amgáu siec am y taliad, yn daladwy i ‘Cofrestrfa Tir EM’, gyda’r cais.

Dylech fod yn ymwybodol ein bod yn newid ein ffïoedd o bryd i’w gilydd i sicrhau ein bod yn talu’n ffordd a bod cwsmeriaid yn cael mantais gwelliannau mewn cynhyrchiant. Canlyniad hyn yw Gorchymyn Ffi newydd.

Caiff cyfarwyddyd cyfeirio parod diweddar ei gyhoeddi bob tro mae Gorchymyn Ffi newydd. Mae’r cyfarwyddyd hwn yn cynnwys digono wybodaeth i chi allu cyfrif yr hyn sydd i’w dalu mewn achosion rhwydd. Hefyd gallwch gael manylion yr hyn sydd i’w dalu mewn achosion arbennig o unrhyw un o swyddfeydd Cofrestrfa Tir EM. Dylech anfon ymholiadau mwy cymhleth yn ysgrifenedig, yn egluro cefndir llawn y trafodiad, i unrhyw un o swyddfeydd Cofrestrfa Tir EM.

4.6 Cyflwyno eich cais

Dylech anfon eich ceisiadau papur:

  • at eich tîm cwsmeriaid, os oes gennych gytundeb gyda thîm cwsmeriaid
  • i swyddfa arbennig, os nad oes gennych gytundeb gyda thîm cwsmeriaid

Dylid paratoi’r teitl ar gyfer cofrestriad cyntaf fel pe bai eich bod yn ei baratoi i’w archwilio gan brynwr. Dylech roi gwybodaeth lawn ar unrhyw bwyntiau y byddai prynwr synhwyrol yn codi ymholiadau yn eu cylch. Dylid diystyru’r posibilrwydd y gallai Cofrestrfa Tir EM eisoes wybod y teitl neu ran ohono..

4.7 Terfyn amser

Pan fo cofrestru cyntaf yn orfodol (gweler Ceisiadau gorfodol am gofrestriad cyntaf), rhaid i chi wneud cais amdano cyn pen dau fis wedi dyddiad cwblhau’r trafodiad o dan sylw (adran 6(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Os na wnewch hynny, daw’r trafodiad yn ddi-rym o ran y trosglwyddiad, grant neu greu ystad gyfreithiol o dan adran 7(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Mae hynny’n golygu:

  • os oedd y trafodiad yn drosglwyddiad, trawsgludiad neu gydsyniad, mae’r ystad gyfreithiol yn dychwelyd at y trosglwyddwr, a fydd yn ei dalar ymddiried noeth ar ran y trosglwyddai
  • os oedd y trafodiad yn benodiad ymddiriedolwr newydd yn dod o fewn adran 4(1)(aa) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, mae’r ystad gyfreithiol yn dychwelyd at y sawl yr oedd wedi ei freinio ynddo yn union cyn y trosglwyddiad (gweler adran 7(2)(aa) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
  • os oedd y trafodiad yn brydles neu forgais, mae’n dod i rym fel pe bai yn gontract am gydnabyddiaeth â gwerth i roi’r brydles neu forgais o dan sylw (gweler adran 7(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)

Fodd bynnag, gall y cofrestrydd orchymyn estyn y cyfnod dau fis, os yw’n fodlon ar gais unrhyw un â budd fod rheswm da dros wneud hynny o dan adran 6(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Os yw hynny’n digwydd, mae’r trosglwyddai, prydlesai neu forgeisai yn adennill ei ystad gyfreithiol, ac yn cael ei drin fel pe bai wedi ei chadw drwy’r adeg (adran 7(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Felly, dylai unrhyw gais am gofrestriad cyntaf gorfodol sy’n cael ei gyflwyno ar ôl i’r cyfnod dau fis ddod i ben fod â chais am orchymyn o dan adran 6(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ynghlwm wrtho, ac esboniad o’r rheswm dros yr oedi.

5. Y broses archwilio a dosbarthiadau teitl

5.1 Archwilio teitl

Mewn trawsgludo digofrestredig, mae teitl yn seiliedig yn y pen draw ar hawl perchennog yr ystad i feddiannu’r tir neu i dderbyn rhenti ac elwau ohono. Fel arfer, dylai dangos teitl dogfennol llawn yn dechrau gyda gwreiddyn teitl da sydd yn 15 mlynedd oed o leiaf sefydlu’r hawl hon.

Ansawdd y teitl dogfennol a gyflwynwyd sy’n penderfynu yn bennaf y dosbarth teitl priodol sydd ar gael i geisydd o dan adrannau 9(1) a 10(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Bydd un o archwilwyr Cofrestrfa Tir EM yn asesu gweithredoedd yr eiddo cysylltiedig â’r cais i benderfynu os ydynt yn profi teitl daliannol da. Mae Rheolau Cofrestru Tir 2003 yn darparu y gallwn ystyried unrhyw archwiliad teitl blaenorol gan drawsgludwr a natur yr eiddo wrth ystyried dyfarnu teitl (rheol 29 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Er mwyn sicrhau bod dosbarth teitl gorau posibl yn cael ei roi i geiswyr, mae Rheolau Cofrestru Tir 2003 hefyd yn darparu ar gyfer cyflwyno’r holl weithredoedd a dogfennau perthnasol i’r teitl sydd ar gael (gweler rheol 24(1)(c) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Felly, os na chaiff unrhyw weithredoedd eiddo ddylai fod ym meddiant ceisydd eu cyflwyno, rhaid i chi roi cyfrif priodol am eu habsenoldeb, yn enwedig lle gellid peryglu dyfarnu teitl llwyr. Lle na chyflwynir gweithred nad yw’n angenrheidiol i brofi teitl, gall Cofrestrfa Tir EM wneud cofnod gwarchodol, er enghraifft pan fo’n wybyddus bod y weithred goll yn cynnwys cyfamodau cyfyngu.

Mae sefyllfaoedd lle nad yw gweithredoedd eiddo neu ddogfennau perthnasol ar gael yn cael eu trin yn Tystiolaeth o deitl lle collwyd neu lle dinistriwyd y gweithredoedd.

Ar gyfer sefyllfaoedd eraill lle na all y ceisydd ddangos teitl dogfennol 15 mlynedd cyn y weithred sy’n ennyn cofrestriad, gweler naill ai Tir sydd wedi bod yn yr un berchnogaeth ers cryn amser neu Teitlau byr.

Ar gyfer darparu tystysgrifau teitl yn lle tystiolaeth arall, gweler Tenantiaid tai cyhoeddus yn prynu, prynu ystadau tai ac ati ac adbrynu tai diffygiol.

Ar gyfer teitlau ar sail meddiant gwrthgefn, gweler cyfarwyddyd ymarfer 5: meddiant gwrthgefn tir digofrestredig a darpariaethau trosiannol ar gyfer tir cofrestredig yn Neddf Cofrestru Tir 2002.

Gall yr archwiliwr wneud chwiliadau ac ymholiadau hefyd o dan reol 30(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003, neu ofyn bod y ceisydd yn gwneud unrhyw chwiliadau neu ymholiadau ychwanegol y bydd yn ystyried sydd eu hangen o dan reol 30(b) o Reolau Cofrestru Tir 2003.

Gall Cofrestrfa Tir EM roi rhybudd o gais am gofrestriad cyntaf i bobl eraill o dan reol 30(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003, a gall hefyd ei hysbysebu o dan reol 30(c) o Reolau Cofrestru Tir 2003. Mae hysbysebion yn anghyffredin, ond byddwn yn rhybuddio trydydd bartïon os credwn y gall fod ganddynt resymau dros wrthwynebu, er enghraifft naill ai:

  • yr Awdurdod Priffyrdd, os yw’n ymddangos bod cais yn cynnwys rhan o’r briffordd
  • rhywun sydd â rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf yr ystad o dan sylw

Caiff unrhyw un wrthwynebu’r cais, os byddwn yn rhoi gwybod iddynt amdano neu beidio (adran 73 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Byddwn yn hysbysu’r ceisydd o unrhyw wrthwynebiad, ac ni chaiff y teitl ei gofrestru nes bydd y gwrthwynebiad wedi cael ei dynnu’n ôl neu ei ddatrys. Os bydd angen, bydd y mater yn cael ei gyfeirio at adran Cofrestru Tir y Siambr Eiddo, Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 73(7) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Dylai unrhyw brynwr neu forgeisai bob amser wneud chwiliad o’r map mynegai o flaen llaw. Bydd hyn yn dadlennu unrhyw rybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf, yn ogystal â datgelu os cofrestrwyd unrhyw ran o’r tir eisoes.

5.2 Tystiolaeth o deitl lle collwyd neu lle dinistriwyd y gweithredoedd

Mae gallu’r gwerthwr i gyflwyno gweithredoedd yr eiddo ac absenoldeb unrhyw femoranda diesboniad o werthiannau neu ddelio arall gyda’r tir yn amddiffyniad pwysig i brynwr tir digofrestredig, ac i’r cofrestrydd ar gofrestriad cyntaf.

Lle bo’r ceiswyr yn methu cyflwyno’r holl weithredoedd ddylai fod yn eu meddiant neu o dan eu rheolaeth, nid oes modd diystyru posibilrwydd morgais heb ei ddadlennu, cof diffygiol y ceisydd, neu hyd yn oed dwyll.

Oherwydd hyn byddwn yn cymryd rhagofalon arbennig wrth gofrestru pan fo rhywun yn mynnu bod y cyfan neu ran o weithredoedd yr eiddo wedi eu colli neu wedi eu dinistrio. Bydd y materion canlynol yn cael sylw arbennig:

  • pwy yw’r ceisydd
  • pwy oedd yn dal y gweithredoedd ar adeg eu colli
  • tystiolaeth o’r colli neu ddinistrio ac o dan ba amgylchiadau y digwyddodd
  • unrhyw dystiolaeth eilaidd o gynnwys y gweithredoedd a gollwyd sydd ar gael
  • posibilrwydd cyfamodau cyfyngu, hawddfreintiau neu lyffetheiriau eraill ar y teitl

I gael rhagor o wybodaeth am ddosbarth teitl, cofnodion amddiffynnol a’r ymrwymiadau y gallwn eu mynnu, gweler cyfarwyddyd ymarfer 2: cofrestriad cyntaf os yw gweithredoedd ar goll neu wedi eu dinistrio.

5.3 Dosbarthiadau teitl

5.3.1 Teitl rhydd-ddaliol llwyr

Bydd rhywun yn cael ei gofrestru gyda theitl rhydd-ddaliol llwyr os ydym yn fodlon bod ei deitl i’r ystad:

“fel y byddai’n briodol i gynghorwr proffesiynol cymwys gynghori prynwr parod ei dderbyn” (adran 9(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Fel arfer, bydd cais ar sail pryniant o dir digofrestredig am werth gan y perchennog ystad cyfrifol (neu olynydd yn y teitl, gweler adran 6(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) gyda chefnogaeth teitl dogfennol priodol yn dechrau gyda gwreiddyn da o leiaf 15 mlynedd oed ar ddyddiad y caffaeliad yn arwain at ddyfarnu teitl llwyr.

Yn ogystal gall Cofrestrfa Tir EM ddiystyru’r ffaith bod teitl yn dechnegol wallus os yw’r archwiliwr yn fodlon na fydd unrhyw ddiffyg yn achosi aflonyddu ar ddal o dan y teitl (adran 9(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Gweler Teitlau amodol ar gyfer ceisiadau lle’r nad yw’r archwiliwr yn gallu diystyru diffygion teitl o’r fath.

Bydd cais ar sail morgais cyntaf o dir digofrestredig, gyda chefnogaeth teitl dogfennol priodol yn dechrau gyda gwreiddyn da o leiaf 15 mlynedd oed ar ddyddiad y morgais, hefyd yn arwain at ddyfarnu teitl llwyr fel arfer.

5.3.2 Teitlau prydlesol llwyr a phrydlesol da

Bydd teitl prydlesol llwyr yn cael ei ddyfarnu dim ond os:

  • byddwn yn fodlon bod teitl i’r ystad o fath fel y byddai’n briodol i gynghorwr proffesiynol cymwys gynghori prynwr parod ei dderbyn, ac
  • rydym yn cymeradwyo teitl y prydleswr i roi’r brydles (adran 10(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)

Rhaid i ni hefyd gymeradwyo’r teitl i unrhyw deitl prydlesol rhyngol sy’n bodoli. Fel arfer, ni fyddwn yn dyfarnu teitl llwyr i’r brydles sy’n cael ei chofrestru oni bai ein bod yn fodlon yn ôl y dystiolaeth a gyflwynwyd naill ai:

  • y rhoddwyd hi ac unrhyw brydlesi uwch yn ddilys, neu
  • bod y brydles yn gyfrwymol ar y prydleswyr presennol a’u harwystleion, os oes rhai, a bod teitl y prydleswr presennol yn gallu cael ei gofrestru gyda theitl rhydd-ddaliol llwyr neu brydlesol llwyr

Cyn 19 Mehefin 2006 ein hymarfer oedd rhoi teitl prydlesol da yn unig o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • nid oedd y ceisydd i gofrestru yn gallu cyflwyno caniatâd prif brydleswr os oedd y brydles i’w chofrestru yn is-brydles ac roedd prydles y prydleswr yn cynnwys cyfyngiad ar aralliad, neu
  • nid oedd morgeisai’r prydleswr wedi rhoi caniatâd i roi’r brydles

Yn dilyn adolygiad o’n hymarfer, ac ar gyfer prydlesi a gofrestrwyd ers 19 Mehefin 2006, rydym nawr yn rhoi teitl prydlesol llwyr:

  • ar gofrestriad is-brydles lle na chyflwynir caniatâd y prif brydleswr. Yn dilyn cais gan Gymdeithas y Cyfreithwyr i ni ddelio â chaniatâd y prif brydleswr yn y cofrestri unigol ar gyfer is-brydlesi, byddwn yn gwneud y cofnod canlynol yng nghofrestr eiddo teitl y prydlesai

“Nid yw’r cofrestrydd wedi gweld unrhyw ganiatâd i roi’r is-brydles hon y gallai fod ei angen yn ôl yr uwch brydles y rhoddwyd yr is-brydles ohoni.”

Sylwer: Er na fyddwn yn gwneud y cofnod hwn os yw’r cofrestrydd yn gweld caniatâd, mae’n bosibl nad oedd y caniatâd yn ddigonol yn ôl telerau’r brif brydles. Ni fyddwn yn gwirio telerau’r brif brydles na gwirio i weld a roddwyd unrhyw ganiatâd gan y person cywir.

Ein barn ni yw, er bod is-brydles sy’n torri gwaharddiad neu gyfyngiad mewn prif brydles yn brydles ddilys y gellir ei chofrestru gyda theitl prydlesol llwyr, ni fyddai teitl llwyr o ran yr is-brydles honno yn atal fforffedu’r brif brydles a therfynu’r is-brydles, gan gau teitl yr is-brydles:

  • ar gofrestriad prydles lle na chyflwynir caniatâd unrhyw forgeisai. Os na chyflwynir unrhyw dystiolaeth y cafwyd caniatâd y morgeisai i roi’r brydles neu fod y brydles o fewn adran 99 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 neu wedi ei hawdurdodi’n ddatganedig gan y morgais, byddwn yn gwneud y cofnod canlynol yng nghofrestr eiddo’r prydlesai

“Yn ystod bodolaeth yr arwystl dyddiedig … o blaid … sy’n effeithio ar deitl y prydleswr (ac, i’r graddau y mae’r gyfraith yn caniatáu hynny, unrhyw arwystl sy’n disodli neu yn amrywio’r arwystl hwn neu unrhyw arwystl pellach o ran y swm cyfan neu ran o’r swm a warantwyd gan yr arwystl hwn), mae teitl i’r brydles yn ddarostyngedig i unrhyw hawliau a all fod wedi codi o ganlyniad i absenoldeb caniatâd arwystlai, oni bai bod y brydles wedi’i hawdurdodi gan adran 99 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925.”

Diben y cofnod hwn yw tynnu sylw unrhyw ddarpar brynwyr at wendid posib yn y brydles gofrestredig. Dylai hefyd leihau’r posibilrwydd y gallai’r morgeisai golli’r hawl i derfynu’r brydles o ganlyniad i adran 29 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Nodyn: Mae’r ymarfer hwn yr un mor berthnasol i arwystlon cyfreithiol, arwystlon ansefydlog ac arwystlon sefydlog ecwitïol.

Caiff teitl prydlesol da ei ddyfarnu lle dangoswyd hawl y prydlesai i aseinio’r brydles ond nad yw’r dystiolaeth fel ag i fodloni’r cofrestrydd ar y ddau bwynt uchod.

5.3.3 Teitlau amodol

Mae teitlau amodol yn anghyffredin. Nid oes modd gwneud cais amdanynt oni bai bod Cofrestrfa Tir EM wedi gwrthod caniatáu teitl uwch. Mae modd eu dyfarnu os yw’r cofrestrydd o’r farn y sefydlwyd teitl y ceisydd i’r ystad am gyfnod cyfyngedig yn unig neu fod rhai amheuon nad oes modd eu diystyru (adran 9(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Un enghraifft fyddai lle’r oedd y teitl yn dibynnu ar drafodiad oedd yn ymddangos fel pe bai’n torri ymddiried. Yna byddai’r teitl yn amodol fel ag i gadw unrhyw fudd ar ran buddiolwyr yr ymddiried.

O ran teitlau prydlesol, byddwn yn rhoi teitl amodol os meddyliwn y sefydlwyd naill ai teitl y ceisydd i’r ystad, neu deitl y prydleswr i’r rifersiwn, am gyfnod cyfyngedig yn unig neu fod rhai amheuon nad oes modd eu diystyru o dan adran 10(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

5.3.4 Teitlau meddiannol

Mae modd dyfarnu teitl meddiannol ar gyfer ystadau rhydd-ddaliol o dan adran 9(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ac ystadau prydlesol o dan adran 10(6) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 os yw’r cofrestrydd o’r farn bod:

  • y ceisydd mewn union feddiant o’r tir, neu’n derbyn rhenti ac elwau’r tir, yn rhinwedd yr ystad, ac
  • nid oes unrhyw ddosbarth teitl arall i’w cofrestru ynddo

Gall perchennog ystad sydd heb ddim neu fawr o deitl dogfennol ddal i gael ei gofrestru gyda theitl meddiannol.

5.4 Teitlau ar sail cydsyniadau

O dan adran 36(7) o Ddeddf Gweinyddiad Ystadau 1925, gall prynwr dderbyn cydsyniad gan gynrychiolydd personol o ran ystad gyfreithiol ddigofrestredig fel tystiolaeth ddigonol mai derbynnydd y cydsyniad sydd â hawl i gael yr ystad gyfreithiol wedi ei thrawsgludo iddynt, oni bai nad oes rhybudd o gysyniad blaenorol sy’n effeithio ar yr ystad gyfreithiol honno wedi ei gosod neu ei hatodi i’r profiant neu lythyrau gweinyddu. Fodd bynnag, nid yw’r cofrestrydd wedi ei amddiffyn fel y mae’r prynwr gan y ddarpariaeth hon.

Felly, dylai unrhyw gais am gofrestriad cyntaf ar sail cydsyniad ddod gyda chopi o’r ewyllys, neu ddatganiad statudol yn dangos y daeth y teitl i berchennog yr ystad oherwydd diffyg ewyllys yr ymadawedig. Os oes gweithred amrywio, gweithred o drefniant teuluol neu orchymyn llys yn effeithio ar y sefyllfa, dylid cyflwyno copi o’r ddogfen honno hefyd.

Gweler hefyd Treth etifeddiant.

5.5 Teitl i hawddfreintiau perthynol

Rhaid i chi ddangos nid yn unig teitl i dir sy’n cael ei gofrestru ond hefyd i unrhyw hawddfreintiau perthynol. Ni fyddwn fel arfer yn cofnodi budd hawddfreintiau oni bai ein bod yn fodlon ar y teitl iddynt. Fodd bynnag, fel arfer nid oes angen dangos unrhyw deitl cynharach i hawddfreintiau perthynol sy’n cael eu creu neu drosglwyddo gan wreiddyn y weithred. Dim ond i hawddfreintiau cyfreithiol perthynol y gallwn gofrestru teitl.

Rhaid dangos teitl i’r hawddfraint hyd yn oed lle cofrestrwyd y tir caeth ac mae’r hawddfraint eisoes wedi ei nodi yng nghofrestr y tir caeth. Nid yw’r rhybudd hwn yn gwarantu dilysrwydd yr hawddfraint (adran 32(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) ac nid yw’n rhoi tystiolaeth ddigonol o deitl yn awtomatig.

Os cofnodwyd y rhybudd ar neu ar ôl 13 Hydref 2003 a chyn 6 Ebrill 2018, bydd yr hawddfraint yn hawddfraint gyfreithiol at ddibenion adran 27(1) a 27(2)(d) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 dim ond os cofnodwyd y rhybudd yn dilyn cais a wnaed ar ffurflen AP1: gallwch weld a ddefnyddiwyd ffurflen AP1 trwy wneud cais am gopi o’r ffurflen gais (y ffurflen benodedig i’w defnyddio yw ffurflen OC2).

Lle bo’r tir caeth yn gofrestredig ac nid yw’r hawddfraint wedi ei nodi yn y gofrestr eisoes, gallwn barhau i’w chofnodi fel hawddfraint berthynol i’r tir trech ar gofrestriad cyntaf os ydym yn fodlon ei bod yn bodoli. Fodd bynnag, fel arfer bydd angen i ni nodi baich yr hawddfraint ar y teitl caeth ar yr un pryd.

Os rhoddwyd yr hawddfraint ar neu ar ôl 13 Hydref 2003 dros dir a gofrestrwyd ar y pryd, bydd yn rhaid, yn y lle cyntaf, i chi wneud cais am gofrestriad yr hawddfraint ar y teitl hwnnw, gan ddefnyddio naill ai ffurflen AP1 neu ffurflen AN1 ar neu ar ôl 6 Ebrill 2018). Y rheswm dros hynny yw hyd nes y nodir yr hawddfraint yn unol â rheol 90(b) o Reolau Cofrestru Tir 2003, ni fydd yn gweithredu yn y gyfraith o dan adran 27(1) o’r Ddeddf. Mewn geiriau eraill, ni fydd yn hawddfraint gyfreithiol; dim ond hawddfraint ecwitïol fydd hi. Cyn inni allu cofrestru’r hawddfraint ar gofrestriad cyntaf trwy gofnodi’r budd ar y teitl newydd, rhaid iddo gael ei gofrestru yn gyntaf yn erbyn y teitl caeth.

O 6 Ebrill 2018, gellir gwneud y cais i gwblhau grant trwy gofrestru, lle mai dim ond y tir caeth sy’n gofrestredig, ar ffurflen AP1 neu ffurflen AN1: gellir ei gyflwyno cyn neu ar yr un pryd â’r cais ar ffurflen FR1 am gofrestriad cyntaf y teitl y mae’n fuddiol iddo. Os cofnodir rhybudd heb gais am gofrestriad cyntaf, efallai y bydd yr hawddfraint benodol yn gyfreithiol oni bai bod y rhybudd yn rhybudd unochrog.

Ymhob achos lle bwriadwn nodi baich yr hawddfraint ar y teitl caeth, byddwn yn cyflwyno rhybudd i’r perchennog cofrestredig ac, fel arfer, ar unrhyw arwystlai, cyn gwneud hynny. Fodd bynnag, bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth o gydsyniad unrhyw arwystlai cofrestredig oedd ag arwystl yn bodoli eisoes pan roddwyd yr hawddfraint. Bydd angen i chi gydymffurfio ag unrhyw gyfyngiad hefyd, os cofrestrwyd y tir caeth pan roddwyd yr hawddfraint.

5.6 Pridiannau tir di-rym oherwydd diffyg cofrestriad yn yr Adran Pridiannau Tir

Os ydych yn hawlio bod cyfamod cyfyngu neu lyffethair arall ar ôl 1925 yn ddi-rym oherwydd diffyg cofrestriad ac na ddylid, felly, ei nodi yn y gofrestr, codwch y mater mewn llythyr eglurhaol gan ddarparu’r dystiolaeth angenrheidiol. Sylwch fod cyfamod cyfyngu, sydd heb ei amddiffyn trwy gofrestru yn yr Adran Pridiannau Tir, yn gyfrwymol ar berchennog yr ystad serch hynny lle na fu unrhyw bryniant cyfamserol am arian neu werth arian o’r ystad gyfreithiol yr effeithir arni gan y cyfamod (adran 4(6) o Ddeddf Pridiannau Tir 1972. I wybod beth yw’r sefyllfa o ran pridiannau tir dosbarthiadau eraill gweler ddarpariaethau’r adran honno).

Dylech sylwi hefyd nad yw Deddf Pridiannau Tir 1972 yn berthnasol i bridiant tir a grëwyd trwy offeryn sy’n trawsgludo, rhoi neu aseinio ystad mewn tir ac sy’n effeithio ar yr ystad honno, os cyflawnwyd yr offeryn ar neu ar ôl 27 Gorffennaf 1971 a’i fod yn ennyn cofrestriad cyntaf gorfodol (adran 14(3) o Ddeddf Pridiannau Tir 1972). Mae’n dilyn nad yw cyfamodau cyfyngu’r prynwr mewn offeryn o’r fath yn ddi-rym oherwydd diffyg cofrestriad yn yr Adran Pridiannau Tir.

Felly, er enghraifft, lle bo cyfamod cyfyngu’r prynwr yn ymddangos mewn trosglwyddiad trwy werthu dyddiedig 4 Awst 1971 a heb ei gofrestru yn yr Adran Pridiannau Tir, mae angen gweld y dyddiad pryd y daeth cofrestriad cyntaf yn orfodol. Os yw’r dyddiad yn gynharach nag Awst 1971, nid yw’r cyfamod yn ddi-rym oherwydd diffyg cofrestriad.

Dylech nodi’r pwyntiau canlynol wrth baratoi’r dystiolaeth i gefnogi cais y daeth pridiant tir yn ddi-rym oherwydd diffyg cofrestriad yn yr Adran Pridiannau Tir.

  • rhaid i chi ddarparu tystysgrif chwiliad Pridiannau Tir glir yn enwau perchnogion yr ystad berthnasol, gan gynnwys unrhyw enwau blaenorol neu amrywiadau
  • rhaid i’ch chwiliad gynnwys cyfnod cyfan perchnogaeth pob un o berchnogion yr ystad sy’n berthnasol iddo. Lle bo perchennog ystad wedi marw, dylai hefyd gynnwys y cyfnod rhwng y farwolaeth â’r trosglwyddiad nesaf am werth. Mae’n amlwg bod chwiliad lle daeth y cyfnod blaenoriaeth i ben cyn dyddiad unrhyw drosglwyddiad, yr honnir iddo ddod i rym yn rhydd o’r pridiant tir, yn annerbyniol
  • rhaid i’r chwiliad ddatgan y sir ac unrhyw siroedd blaenorol yn gywir
  • o dan Ddeddf Pridiannau Tir 1925 (diddymwyd), gellid cofrestru cyfamodau cyfyngu o blaid awdurdod lleol naill ai yn yr Adran Pridiannau Tir neu fel pridiannau tir lleol (adran 15(1) o Ddeddf Pridiannau Tir 1925 (diddymwyd)). Er 1 Awst 1977 mae’r ddau ddosbarth yn groes i’w gilydd ac nid yw cyfamodau cyfyngu sy’n gyfrwymol ar berchnogion olynol y tir o dan sylw, oherwydd iddynt gael eu gwneud er lles tir yn perthyn i’r awdurdod lleol, mwyach yn cael eu dosbarthu fel pridiannau tir lleol. Felly, os byddwch yn gwneud cais i gofrestru tir yn rhydd o gyfamod cyfyngu o blaid awdurdod lleol mewn gweithred ddyddiedig cyn 1 Awst 1977, bydd angen i Gofrestrfa Tir EM weld chwiliad pridiannau tir lleol clir yn ogystal â chwiliad pridiannau tir clir
  • pridiant tir lleol (adrannau 1(1)(c) a 2(c) o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975) yw cyfamod cyfyngu a wnaed gydag awdurdod lleol ar neu ar ôl 1 Ionawr 1926 ac sy’n orfodadwy ar brynwr yn rhinwedd darpariaeth statudol arbennig, yn hytrach nag yn rhinwedd y gyfraith gyffredinol ac, fel y cyfryw, ni all fod yn ddi-rym oherwydd diffyg cofrestriad (adran 10(1) o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975). Mae’n fudd gor-redol nes caiff ei warchod yn y gofrestr (Paragraff 6 Atodlen 1 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Os bydd cyfamodau o’r fath yn ymddangos ar y teitl byddant yn cael eu nodi yn y gofrestr). Mae’r un peth yn berthnasol i gyfamod cyfyngu a wnaed gyda gweinidog y Goron neu adran o’r llywodraeth ar neu ar ôl 1 Awst 1977 ac sy’n orfodadwy yn erbyn prynwr yn rhinwedd darpariaeth statudol arbennig (Adrannau 1(1)(c) a 2(c) o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975)
  • os yw unrhyw ran o’r tir yn Nhraeanau blaenorol Gogledd, Dwyrain neu Orllewin Swydd Efrog a’r chwiliad pridiannau tir y dibynnir arno yn ddyddiedig cyn 1 Ebrill 1976, gall y chwiliad fethu dadlennu pridiannau tir a gofrestrwyd yn y gofrestrfa weithredoedd berthnasol yn Swydd Efrog (neu yn yr Adran Pridiannau Tir os yw’n chwiliad yng nghofrestr pridiannau tir cofrestrfa weithredoedd Swydd Efrog). Yn y sefyllfa hon, dylech wneud chwiliad pellach yn yr Adran Pridiannau Tir
  • rhaid cyflwyno unrhyw ohebiaeth gydag Adran Pridiannau Tir

5.7 Tir sydd wedi bod yn yr un berchnogaeth ers cryn amser

Lle nad yw tir wedi newid dwylo ers canrifoedd gall fod yn amhosibl diddwytho teitl yn y ffordd arferol oherwydd nad oes gan y ceisydd unrhyw ddogfennau teitl boddhaol. Mewn achosion eithafol efallai nad oes unrhyw gofnod o gwbl i ddangos o dan ba amgylchiadau y cafwyd y tir.

Mae rheol 27 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn darparu ar gyfer ceisiadau lle nad oes modd cyflwyno teitl dogfennol llawn. Rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth sydd:

  • yn bodloni’r cofrestrydd bod y ceisydd naill ai â hawl i wneud cais am gofrestriad cyntaf neu fod hynny’n ofynnol
  • pan fo’n briodol, yn cyfrif am absenoldeb tystiolaeth ddogfennol o deitl

Mewn achosion sy’n ymwneud â meddiannau hynafol, lle nad oes modd dynodi’r gweithredoedd yn rhwydd (os oes rhai) neu nad ydynt yn dynodi’r tir yn eglur, rhaid i chi gyflwyno datganiad statudol i gefnogi’r cais.

Dylid darparu gwybodaeth hefyd ar os yw’r ceisydd naill ai’n meddiannu’r tir neu’n derbyn unrhyw renti ac elwau ohono neu beidio.

Mae modd ystyried trefniadau unigol ar gyfer tystysgrifau teitl o ran elusennau a thirfeddianwyr mawr eraill sy’n gallu darparu gwybodaeth ddibynadwy am deitl.

5.8 Treth etifeddiant

Mae rhwymau ar y cofrestrydd, o dan reol 35(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003, i gofnodi rhybudd yn y gofrestr am unrhyw fudd sy’n ymddangos o archwiliad teitl y cofrestrydd ei fod yn effeithio ar yr ystad gofrestredig. Mae hyn yn cynnwys rhybudd o arwystl ar gyfer unrhyw dreth etifeddiant (neu log ar y dreth) a all fod yn ddyledus. Lle nad yw treth ar drosglwyddiad arwystladwy (neu log ar y dreth) wedi ei thalu, mae hawl gan Gyllid a Thollau EM i arwystl treth etifeddiant ar unrhyw eiddo sydd wedi’i gynnwys yn yr ystad.

Mae arwystl treth etifeddiant yn warchodadwy trwy gofrestriad pridiant tir D(i) a lle y mae cofrestriad o’r fath yn bodoli byddwn yn gwneud y cofnod canlynol ar gofrestriad cyntaf yr eiddo oni bai y darperir tystiolaeth o ryddhad:

Rhif cofrestru Pridiant Tir [….] dyddiedig [dyddiad] sy’n gwarchod Pridiant Tir Dosbarth D(i) mewn perthynas â threth etifeddiant yn erbyn [Enw]. Ni ddarparwyd manylion pellach ar gofrestriad cyntaf.

Lle y caiff eiddo sy’n llunio rhan o’r ystad ei drosglwyddo am werth, nid yw’r eiddo’n cael ei drosglwyddo’n ddarostyngedig i’r arwystl treth etifeddiant; fodd bynnag, lle y rhoddir yr eiddo trwy gydsyniad neu rodd (hynny yw, nid am gydnabyddiaeth â gwerth iddi) mae’n cael ei drosglwyddo i’r derbynnydd yn ddarostyngedig i’r arwystl treth etifeddiant. Rhaid i’r cofrestrydd wneud cofnod priodol yn y gofrestr arwystlon ar gofrestriad cyntaf os yw’n ymddangos i’r cofrestrydd, o’r dystiolaeth a ddarparwyd o deitl y ceisydd, y gallai’r tir fod yn agored i arwystl treth etifeddiant sy’n bodoli. Gall fod amgylchiadau lle y mae atebolrwydd treth etifeddiant yn codi, hyd yn oed os yw gwerth ystad yr ymadawedig islaw mwyafswm y trothwy eithrio; nid yw’r cofrestrydd mewn sefyllfa i wybod pa ganran o unrhyw drothwy eithrio a ddefnyddiwyd neu a drosglwyddwyd, neu ba amgylchiadau eraill (er enghraifft, gweithred amrywio ewyllys, neu rodd wedi’i neilltuo) a allai fod wedi effeithio ar y sefyllfa dreth.

Sefyllfaoedd lle y gallai arwystl treth etifeddiant godi:

  • Pan fydd eiddo’n cael ei drosglwyddo wedi marwolaeth

Os (a) nad yw’r eiddo wedi’i werthu oddi ar i’r rhoddwr farw; (b) digwyddodd y farwolaeth o fewn 6 blynedd i ddyddiad y cais; ac (c) os yw gwerth net ystad y rhoddwr a ddangosir yn y profiant neu’r llythyrau gweinyddu yn uwch na’r trothwy treth etifeddiant presennol.

  • Pan fu farw rhoddwr rhodd am oes o fewn 7 mlynedd o wneud y rhodd

Pan fo’n hysbys i (a) roddwr rhodd am oes farw o fewn 7 mlynedd o roi’r rhodd; (b) nad yw’r eiddo wedi’i werthu o fewn wyth mlynedd o ddyddiad y cais; (c) gwnaed y rhodd o fewn wyth mlynedd o’r cais; a (d) mae gwerth yr eiddo’n fwy na’r trothwy treth etifeddiant presennol.

Lle nad yw’r cais am gofrestriad cyntaf yn seiliedig ar warediad am werth, rhaid inni ystyried a allai fod unrhyw atebolrwydd am dreth etifeddiant, heb ystyried unrhyw gofrestriad pridiant tir. Os yw’n ymddangos y gallai’r eiddo fod yn ddarostyngedig i arwystl treth etifeddiant, byddwn yn ysgrifennu gan ofyn am gadarnhad ysgrifenedig nad oedd unrhyw dreth etifeddiant erioed yn daladwy neu ei bod wedi ei thalu’n llawn. Gallwch osgoi cael cofnod wedi’i wneud yn y gofrestr neu ymholiad ar y pwynt hwn trwy ddarparu’r dystiolaeth angenrheidiol. Fel arall, gallwch gyflwyno cadarnhad ysgrifenedig o hyn wedi’i ddarparu gan Gyllid a Thollau EM.

5.9 Cofrestriad cyntaf ar sail gwarediadau gan y Goron a Dugiaethau Caerhirfryn a Chernyw

Mae adran 80 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn rhestru’r gwarediadau hynny gan y Goron sy’n agored i gofrestru gorfodol. O ran gwarediadau gan y Dugiaethau Brenhinol, mae darpariaethau arferol adran 4 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn berthnasol.

Dylech gyflwyno ceisiadau ar sail gwarediadau gan y Goron neu’r Dugiaethau yn y ffordd arferol, gan ddefnyddio ffurflen FR1 a ffurflen DL yn ddyblyg.

Fel arfer, ni fyddwn yn disgwyl i chi fod ag unrhyw weithredoedd yn diddwytho teitl heblaw’r grant gan y Goron neu’r trosglwyddiad gan y Ddugiaeth Frenhinol. Os ydych yn dal unrhyw weithredoedd a dogfennau sy’n effeithio, fodd bynnag, dylech eu cynnwys gyda’ch cais fel y gallwn dynnu allan unrhyw faterion sy’n effeithio ar y teitl sydd angen eu cofnodi yn y gofrestr.

Bydd angen i chi ddarparu chwiliadau pridiannau tir o ran Comisiynwyr Ystadau’r Goron, y Teyrn, Dugiaeth Cernyw a/neu Ddugiaeth Caerhirfryn, fel y bo’n briodol. I gael gwybodaeth am y trefniadau arbennig ar gyfer archebu’r chwiliadau hyn, gweler practice guide 63: Land Charges: applications for registration, official search, office copy and cancellation.

5.9.1 Blaen traeth

Os yw’r tir y gwnewch gais i’w gofrestru yn ffurfio neu’n cynnwys blaen traeth, neu’n ffinio â blaen traeth y Goron, byddwn yn cyflwyno rhybudd i Gomisiynwyr Ystadau’r Goron a, phan yn briodol, y Dugiaethau Brenhinol ac Awdurdod Porthladd Llundain (rheol 31(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003) cyn i ni gwblhau’r cofrestriad.

Dylech gyflwyno unrhyw gytundeb ar weithredu ychwanegiadau a cholledion trwy ddŵr, ynghyd ag unrhyw gydsyniadau gofynnol (rheol 123(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003), y byddwn yn cofnodi eu telerau yn y gofrestr o dan adran 61(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

5.9.2 Asiedu

Os ydych yn gwneud cais i gofrestru ystad lle mae ystad rydd-ddaliol flaenorol wedi dychwelyd i’r Goron neu’r Dugiaethau ar asêt, dylech wneud cais fel arfer gan ddefnyddio ffurflen FR1 a ffurflen DL yn ddyblyg. Bydd y grant neu drosglwyddiad yn croniclo manylion yr asêt, gan gynnwys rhif y teitl, os yw’r ystad a derfynwyd wedi ei chofrestru. Yn amodol ar roi rhybudd i berchennog cofrestredig yr ystad a derfynwyd, byddwn yn cofrestru’r ceisydd fel perchennog ystad rydd-ddaliol newydd ac yn cau teitl yr ystad a derfynwyd. Bydd yr holl lyffetheiriau oedd gynt yn effeithio ar yr ystad a derfynwyd yn effeithio ar yr ystad newydd, oni bai eich bod yn gallu cyflwyno tystiolaeth i’r gwrthwyneb, ee gorchymyn llys neu dystiolaeth eu bod yn anorfodadwy.

5.10 Tenantiaid tai cyhoeddus yn prynu, prynu ystadau tai ac ati ac adbrynu tai diffygiol

Bydd teitl llwyr neu mewn rhai achosion, teitl prydlesol da (pan fo’r budd caffaeledig yn isbrydles, bydd y dosbarth teitl yn dibynnu ar sut y cwblhawyd y dystysgrif yn ffurflen PSD3) yn cael ei roi heb unrhyw archwiliad o deitl y gwerthwr na’r prydleswr yn achos pryniadau o dan y cynllun ‘hawl i brynu’ neu ei estyniad (gweler Rhan V o Ddeddf Tai 1985 a Gorchymyn Tai (Ymestyn Hawl i Brynu) 1993), ac mewn achosion penodol eraill y gwnaed darpariaeth statudol ar eu cyfer13. Yn yr achosion hyn bydd tystysgrif teitl yn cael ei darparu ar un o’r ffurflenni canlynol.

(O ran yr hawl i brynu a ddiogelwyd, gweler adran 154 o Ddeddf Tai 1985 fel y cymhwyswyd gan Reoliadau Tai (Diogelu’r Hawl i Brynu) 1993; o ran gwarediadau sy’n amodol ar yr hawl i brynu a ddiogelwyd, paragraff 2(4) Atodlen 9A i Ddeddf Tai 1985 fel y cymhwyswyd gan y rheoliadau hynny; o ran adbrynu tai diffygiol, paragraff 17(2) Atodlen 20 i Ddeddf Tai 1985; o ran gwarediadau gwirfoddol, adran 133(8) o Ddeddf Tai 1988; ar werthiannau Gweithgorau Lletya, adran 81(9) ac (11) o Ddeddf Tai 1988; ar werthiannau gan Fwrdd Datblygu Cymru Wledig, adrannau 172-3 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a Rheoliadau Trefi Newydd (Trosglwyddo’r Stoc Dai) 1990).

5.10.1 Hawl i brynu/hawl i brydles perchnogaeth a rennir

  • PSD1 Ar drawsgludo rhydd-ddaliad tŷ
  • PSD2 Ar roi prydles fflat neu brydles perchnogaeth tŷ neu fflat a rennir lle bo’r landlord yn berchennog y rhydd-ddaliad
  • PSD3 Ar roi prydles tŷ neu fflat lle nad y landlord yw perchennog y rhydd-ddaliad
  • PSD16 Ar drawsgludo rhydd-ddaliad tŷ i denant sicredig y sector cyhoeddus er nad yw’r landlord uniongyrchol ond yn berchennog ystad brydlesol ac nid y rhydd-ddaliad

5.10.2 Hawl i brynu a ddiogelwyd

  • PSD13 Ar drawsgludo rhydd-ddaliad tŷ
  • PSD14 Ar roi prydles fflat lle bo’r landlord yn berchennog y rhydd-ddaliad
  • PSD15 Ar roi prydles tŷ neu fflat lle nad yw’r landlord yn berchennog y rhydd-ddaliad

5.10.3 Gwaredu yn amodol ar hawl i brynu a ddiogelwyd/gwaredu gwirfoddol gyda chydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol/gwaredu gan Weithgor Lletya neu Fwrdd Datblygu Cymru Wledig

Lle bo un o’r tystysgrifau uchod yn cael ei darparu, rhaid i chi sicrhau bod y dystysgrif yn cael ei chwblhau a’i llofnodi’n briodol. Nid oes angen chwiliadau Adran Pridiannau Tir. Bydd yr eiddo yn cael ei gofrestru yn amodol yn unig ar y llyffetheiriau gaiff eu crybwyll yn y dystysgrif neu yn y weithred sy’n ennyn cofrestriad, a’r rhai a grëwyd gan y ceiswyr.

5.10.4 Adbrynu tai diffygiol

  • PSD11 Annedd rhydd-ddaliol
  • PSD12 Annedd prydlesol

Lle bo un o’r tystysgrifau hyn, wedi ei chwblhau a’i llofnodi’n briodol, yn cael ei darparu gan yr awdurdod sy’n gwneud y cais bydd yr eiddo yn cael ei gofrestru yn amodol yn unig ar y llyffetheiriau gaiff eu crybwyll yn y dystysgrif ac unrhyw lyffetheiriau a grëwyd gan yr awdurdod sy’n gwneud y cais ar neu ar ôl dyddiad y dystysgrif. Nid oes angen cyflwyno chwiliadau Adran Pridiannau Tir.

5.11 Teitlau byr

Weithiau mae contract am werthiant yn darparu ar gyfer diddwytho teitl o weithred wraidd sy’n llai na 15 mlynedd oed. Gellid cynnal teitl o’r fath, er enghraifft, lle mae’r gwerthwr yn rhoddai a heb fod yn dal gweithredoedd eiddo heblaw gweithred y rhodd. Mae Cofrestrfa Tir EM yn annhebygol o ddyfarnu teitl prydlesol llwyr neu dda o dan y fath amgylchiadau.

6. Ffurf trosglwyddo sy’n ennyn cofrestriad cyntaf

6.1 Defnyddio trosglwyddiad neu gydsyniad Cofrestrfa Tir EM

Rhaid gwneud trawsgludiad o dir digofrestredig trwy weithred, gyda ffurf y weithred yn amherthnasol i raddau, ar yr amod ei bod yn eglur ac yn cynnwys yr holl ddarpariaethau sydd eu hangen i roi grym i’r hyn a gytunwyd gan y partïon. Felly, mae modd gwneud trawsgludiad neu gydsyniad a fydd yn arwain at gofrestriad cyntaf gorfodol naill ai ar y ffurf draddodiadol, neu trwy ddefnyddio ffurflen drosglwyddo briodol Cofrestrfa Tir EM. Gellir defnyddio ffurflen drosglwyddo briodol Cofrestrfa Tir EM hefyd lle bo ymddiriedolwr newydd yn cael ei benodi a bod y tir digofrestredig i’w drosglwyddo’n ddatganedig i’r ymddiriedolwyr newydd a’r rheiny sy’n parhau yn yr un weithred.

Mae trosglwyddiad Cofrestrfa Tir EM yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer gwerthu tir yn rhydd o lyffetheiriau. Mewn achosion eraill, am nad oes unrhyw gofrestr teitl, rhaid naill ai grybwyll y llyffetheiriau yn y trosglwyddiad neu addasu gwarant y teitl (gweler adrannau 3 a 6 o Ddeddf Cyfraith Eiddo (Darpariaethau Amrywiol) 1994). Addasiad priodol fyddai:

“Gwneir y trosglwyddiad hwn gyda gwarant teitl llawn ond nid yw’r cyfamod yn adran 3(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo (Darpariaethau Amrywiol) 1994 yn estyn i’r llyffetheiriau (heblaw arwystlon ariannol, os oes rhai) sy’n ymddangos ar y teitl.”

6.2 Ffurflenni trosglwyddo a chydsynio

Mae amrywiol ffurflenni ar gyfer trosglwyddiadau a chydsyniadau o deitlau llawn a rhannol. Mae modd eu defnyddio ar gyfer trosglwyddiadau fydd yn peri cofrestru gorfodol yn ogystal â throsglwyddiadau tir cofrestredig. Y ffurflenni yw:

6.2.1 Ffurflenni TR1, TR2 a TR5

Defnyddiwch y ffurflenni hyn ar gyfer trosglwyddo holl dir mewn un teitl neu fwy. Mae ffurflen TR2 ar gyfer trosglwyddiad gan forgeisai â meddiant. Mae ffurflen TR5 yn ddewis yn lle ffurflen TR1 i’w defnyddio wrth drosglwyddo portffolio o deitlau (cofrestredig neu ddigofrestredig).

6.2.2 Ffurflenni TP1, TP2 a TR5

Defnyddiwch y ffurflenni hyn ar gyfer trosglwyddiad sy’n ffurfio neu’n cynnwys rhan yn unig o’r tir mewn teitl, neu lle bo’r trosglwyddwr yn cadw mwynfeydd a mwynau neu’n trosglwyddo mwynfeydd a mwynau wrth gadw’r tir arwyneb. Mae ffurflen TP2 ar gyfer trosglwyddiad gan forgeisai â meddiant. Mae ffurflen TR5 yn ddewis yn lle ffurflen TP1 i’w defnyddio wrth drosglwyddo portffolio o deitlau (cofrestredig neu ddigofrestredig) sy’n cynnwys teitlau rhannol.

Ffurflen AS1

Defnyddiwch ffurflen AS1 ar gyfer cydsynio’r holl dir mewn un teitl neu fwy.

Ffurflen AS3

Defnyddiwch ffurflen AS3 ar gyfer cydsyniad sy’n ffurfio neu’n cynnwys rhan yn unig o’r tir mewn teitl.

Mae rhagor o fanylion ar sut i ddefnyddio a llenwi ffurflenni gwarediad Cofrestrfa Tir EM i’w gweld yng nghyfarwyddyd ymarfer 21: defnyddio ffurflenni trosglwyddo ar gyfer trafodion cymhlethach.

6.3 Breinio tir mewn ymddiriedolwyr newydd ymddiried presennol ar farwolaeth unig ymddiriedolwr neu’r olaf i oroesi

Lle bo tir yn cael ei ddal gan gynrychiolwyr personol unig ymddiriedolwr ymddiried parhaus o dir, neu’r olaf ohonynt i oroesi, dylid defnyddio trawsgludiad, trosglwyddiad neu weithred benodi i freinio’r tir yn yr ymddiriedolwyr newydd. Bydd y rhain i gyd, os cânt eu dyddio ar neu ar ôl 6 Ebrill 2009, yn peri cofrestriad gorfodol. Mae’n anghywir defnyddio cydsyniad o dan yr amgylchiadau hyn (boed hynny ar ffurflen Cofrestrfa Tir EM neu beidio).

7. Delio gyda thir cyn cwblhau cofrestriad cyntaf

Weithiau mae angen delio eto gydag ystad ddigofrestredig sydd wedi dod yn agored i gofrestriad cyntaf gorfodol (oherwydd trosglwyddiad, prydles neu forgais cymhwysol) cyn i gais gael ei wneud i gofrestru.

Mae hyn yn bosibl, ond bydd Deddf Cofrestru Tir 2002 yn berthnasol i’r delio diweddarach fel pe bai’r ystad eisoes yn gofrestredig o dan reol 38 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

Felly rhaid defnyddio ffurflenni Cofrestrfa Tir EM, pan fo’n berthnasol, ar gyfer delio diweddarach, a rhaid ateb gofynion cofrestru adran 27 ac Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Gallwch wneud cais i gofrestru’r delio diweddarach naill ai ar yr un pryd â’r cais am gofrestriad cyntaf neu wedyn. Ni allwch wneud cais cyn i’r cais am gofrestriad cyntaf gael ei wneud. Os caiff y cais am gofrestriad cyntaf ei ddileu am unrhyw reswm, bydd unrhyw gais i gofrestru’r delio diweddarach yn cael ei ddileu hefyd.

Mae’r adrannau canlynol yn egluro sut y gall gwaredwyr sydd yn y sefyllfa hon wneud cais am gofrestriad, a’r hyn y gallant ei wneud, os bydd angen, i warchod eu buddion trwy ddulliau eraill.

7.1 Delio fel trosglwyddiad

Mae dewis i drosglwyddeion. Gallant naill ai:

  • fynnu bod trosglwyddwr sy’n gorfod gwneud cais am gofrestriad cyntaf o dan adran 6(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn gwneud hynny, ac yna gyflwyno eu cais eu hunain (ar ffurflen AP1) ar yr un pryd neu’n ddiweddarach, neu
  • wneud cais am gofrestriad cyntaf eu hunain, sydd ganddynt hawl ei wneud oherwydd bod adran 6(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn caniatáu i’r cais gael ei wneud gan olynydd mewn teitl perchennog yr ystad ddaeth yn atebol i’w wneud gyntaf

Os yw’r trosglwyddeion yn fodlon ar y teitl sy’n cael ei gynnig, yn aml bydd yn well iddynt wneud y cais eu hunain. Dylent wneud cais ar ffurflen FR1, yn dangos eu hunain fel y ceiswyr ym mhanel 6. Fe welwch yr hyn sydd i’w dalu am gofrestriad cyntaf yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol. Dylech sylwi, lle bo cais yn cael ei wneud gan ddefnyddio ffurflen FR1 a ffurflen AP1, bod ffïoedd ar wahân ar raddfa yn daladwy am bob trafodiad.

Os aeth dros ddau fis heibio rhwng y digwyddiad a enynnodd gofrestru gorfodol a dyddiad y cais, bydd y trosglwyddai yn ‘rhywun â budd’ sydd â hawl i wneud cais i’r cofrestrydd am estyniad i’r cyfnod ar gyfer cofrestru o dan adran 6(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Pa ddull bynnag gaiff ei ddewis, rhaid i drosglwyddiad sy’n digwydd ar ôl i’r gofyniad am gofrestriad cyntaf godi fod ar ffurflen briodol Cofrestrfa Tir EM.

7.2 Delio trwy roi prydles

Nid yw prydleseion yn olynwyr yn y teitl i ystad rifersiwn eu prydleswyr ac, felly, ni allant wneud cais i’w chofrestru. Os yw’n ofynnol o dan adran 6(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 bod y prydleswr yn gwneud cais am gofrestriad cyntaf ei ystad, a’r brydles o fath y bydd angen ei chofrestru (gweler adran 27(2)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002), dylai’r darpar brydlesai fynnu bod y prydleswr yn gwneud cais am gofrestriad cyntaf cyn cwblhau’r brydles.

Nes bydd ystad y prydleswr wedi ei chofrestru, nid oes modd cofrestru’r brydles. Mae rhoi’r brydles yn warediad nad yw’n cael ei roi i’r ystad gyfreithiol cyn ateb y gofynion cofrestru. Nid oes modd ateb y gofynion hynny cyn cofrestru teitl y prydleswr, fel bod modd nodi’r brydles fel llyffethair yn ei chofrestr (dyma effaith gyfunol adran 27 a pharagraff 3 Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 38 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Nid oes modd cofrestru’r brydles yn wirfoddol o dan adran 3(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 am nad oes unrhyw ystad gyfreithiol.

Os nad yw’r prydleswr yn gwneud cais i gofrestru ei deitl ei hun o fewn y cyfnod dau fis, ni all y prydlesai atal ystad gyfreithiol y prydleswr, a’i un ei hun, rhag mynd yn ddi-rym o dan adran 7(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

O dan yr amgylchiadau hyn gall y prydlesai amddiffyn ei fudd trwy:

  • wneud cais am rybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf (nid yw adran 15(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn atal hyn, am nad oes gan y prydlesai ystad gyfreithiol), a
  • chofrestru pridiant tir dosbarth C(iv)

7.3 Arwystlon

7.3.1 Morgais cyfreithiol cyntaf

Dylai’r morgeisai sicrhau bod y morgeisiwr yn gwneud cais i gofrestru’r tir yn enw’r morgeisiwr a chofrestru’r morgais fel arwystl. Os bydd angen, gall y morgeisai wneud cais yn enw’r morgeisiwr i gofrestru’r ystad sy’n cael ei harwystlo gan y morgais heb gydsyniad y morgeisiwr (gweler adran 6(6) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 21 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

7.3.2 Morgais diadnau (ail arwystl) o dir digofrestredig gan berchennog yr ystad

Dylai’r morgeisai gael y flaenoriaeth angenrheidiol ar gyfer ei arwystl trwy wneud chwiliad swyddogol yn yr Adran Pridiannau Tir. Os nad yw mewn sefyllfa i sicrhau bod cais am gofrestriad cyntaf y tir (a’i arwystl ei hun) yn cael ei wneud o fewn cyfnod blaenoriaeth ei chwiliad, dylai amddiffyn ei fudd trwy gofrestru pridiant tir dosbarth C(i). Dylid gofalu cofrestru’r morgais yn enw perchennog yr ystad. Lle bo’r trosglwyddiad i berchennog yr ystad yn un y mae adran 6 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn berthnasol iddo a’i bod yn ymddangos i’r ystad gyfreithiol fod wedi dychwelyd o dan adran 7(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 bydd yn ddoeth, o ystyried adran 7(2), cofrestru yn y ddau enw – y dychwelai a’r morgeisiwr.

Gall y morgeisai gofrestru rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf hefyd. Er na fydd y rhybuddiad yn rhoi unrhyw flaenoriaeth iddo dros ddelio dilynol, bydd yn sicrhau ei fod yn cael rhybudd pan fydd cais am gofrestriad cyntaf yn cael ei wneud, fel y gall wedyn wneud cais i gofrestru’r arwystl.

7.4 Delio arall

Os yw rheol 38 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn effeithio ar drafodiad heblaw trosglwyddiad, prydles neu arwystl (megis rhoi hawddfraint), yna:

  • ni allwn ei gofrestru, gwarantu ei fudd na’i nodi (fel y bo’n briodol) cyn derbyn cais am gofrestriad cyntaf, a
  • bydd wedyn angen cais i ddelio a ffi ar wahân (oni bai bod lleihad arno)

Mae modd ei warchod yn y cyfamser trwy rybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf neu, mewn rhai achosion, megis lle mae hawddfraint ecwitïol, trwy gofrestru pridiant tir.

7.5 Neilltuo ar werthu rhan

Yn gyffredinol, nid oes angen i werthwyr sydd wedi neilltuo hawddfraint gyfreithiol iddynt eu hunain weithredu gan y caiff eu budd ei nodi yn y gofrestr ohono’i hun ar gofrestriad cyntaf y tir caeth. Os yw’r archwiliwr yn methu gweld yr hawliau byddant yn parhau i rwymo’r perchennog cofrestredig fel buddion gor-redol. Mewn ychydig enghreifftiau, fodd bynnag, gall statws gor-redol yr hawliau hyn gael ei golli ar drosglwyddiad dilynol o’r tir caeth.

7.6 Delio gyda thir wrth gofrestru

Ni allwn ddarparu copi swyddogol o’r gofrestr cyn cwblhau’r cofrestriad. Felly, dylai rhywun sy’n delio â pherchennog yr ystad ymchwilio i’r teitl fel pe bai’r tir yn dal yn ddigofrestredig.

Gallwch sicrhau blaenoriaeth o ran delio fel hyn trwy gyfrwng chwiliad swyddogol. Defnyddiwch ffurflen OS1 ar gyfer chwiliadau sy’n effeithio ar gofrestriad cyntaf arfaethedig cyfan a ffurflen OS2 ar gyfer chwiliadau o ran. Disgrifiwch y chwiliad fel ‘Chwiliad am gofrestriad cyntaf sy’n aros i’w brosesu’ ym mhanel perthnasol ffurflen y chwiliad. Ymysg pethau eraill, bydd y chwiliad yn dadlennu manylion unrhyw geisiadau neu chwiliadau swyddogol gyda blaenoriaeth sy’n aros i’w prosesu ar gyfer y teitl.

8. Pryd y daeth tir yn ddarostyngedig i gofrestriad gwirfoddol

8.1 Awdurdodau yn Lloegr heblaw Llundain

Estynnwyd cofrestru tir gorfodol bob yn dipyn ar draws y wlad mewn cyfres o Orchmynion Cofrestru Teitl.

Mae’r rhestr yn gymhleth oherwydd yr amryw ad-drefniadau llywodraeth leol sydd wedi digwydd ers hynny. Mae hyn yn golygu y daeth cofrestru gorfodol i lawer o ardaloedd presennol llywodraeth leol ar adegau gwahanol ac efallai, felly, y bydd angen i chi gyfeirio at ardaloedd blaenorol llywodraeth leol.

Y byrfoddau am yr awdurdodau blaenorol yw:

  • BS – bwrdeistref sirol
  • BDd – bwrdeistref ddinesig
  • DT – dosbarth trefol
  • DG – dosbarth gwledig
Ardal weinyddol Rhanbarth Dyddiad cofrestriad gorfodol
Barnsley Y cyfan 1 Medi 1974
Bedford Bwrdeistref Bedford gynt (rhan o BDd Bedford a DT Kempston gynt) 1 Hydref 1969
  Bwrdeistref Bedford gynt (rhan o DG Bedford gynt) 1 Medi 1974
Birmingham Rhan gynt o BDd Sutton Coldfield 1 Chwefror 1965
  Y gweddill 2 Mai 1966
Blackburn gyda Darwen BS Blackburn gynt 1 Mehefin 1962
  Y gweddill 1 Mai 1974
Blackpool Y cyfan 1 Mawrth 1977
Bolton Rhan o BS Bolton gynt, BDd Farnworth, DT Kearsley, DT Little Lever 1 Rhagfyr 1965
  Y gweddill 1 Ionawr 1974
Bournemouth Y cyfan 1 Mawrth 1977
Bracknell Forest Y cyfan 1 Ebrill 1963
Bradford Y cyfan 1 Medi 1974
Brighton a Hove (Dinas) Y cyfan 1 Hydref 1965
Bury Rhan o BS Bury gynt; BDd Prestwich, BDd Radcliffe, TD Whitefield 1 Rhagfyr 1965
  Y gweddill 1 Ionawr 1974
Bryste (Dinas) Y cyfan 1 Rhagfyr 1967
Caerefrog Rhan o ddosbarth Caerefrog gynt 1 Mawrth 1977
  Rhan o ddosbarthau Harrogate a Selby gynt 1 Tachwedd 1986
  Y gweddill 1 Rhagfyr 1988
Caerfaddon a Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf Caerfaddon 1 Mai 1974
  Wansdyke 1 Ebrill 1985
Caerlŷr Y cyfan 1 Hydref 1957
Caint Dartford (rhan o DG Swanscombe gynt); Gravesham 1 Mawrth 1957
  Ashford; Caergaint (rhan o BS Caergaint gynt, DG Bridge-Blean); Thanet 1 Ionawr 1958
  Caergaint (y gweddill); Maidstone; Shepway; Swale; Tonbridge a Malling (rhan o DG Malling gynt); Tunbridge Wells (rhan o DG Cranbrook gynt) 1 Hydref 1958
  Y gweddill 1 Ionawr 1961
Calderdale Y cyfan 1 Mehefin 1975
Cernyw Dosbarth Caradon gynt; bwrdeistref Restormel gynt 1 Ebrill 1985
  Y gweddill 1 Rhagfyr 1988
Cilgwri Rhan gynt o BS Penbedw; BS Wallasey 1 Mehefin 1965
  Y gweddill 1 Mawrth 1974
Coventry Rhan o BS Coventry gynt 1 Rhagfyr 1964
  Y gweddill 1 Mawrth 1974
Cumbria Barrow-in-Furness 1 Mawrth 1977
  Allerdale; Caerliwelydd 1 Tachwedd 1986
  Y gweddill 1 Rhagfyr 1987
Darlington Rhan o BS Darlington gynt 1 Chwefror 1968
  Y gweddill 1 Mai 1974
Derby (Dinas) Y cyfan 1 Ebrill 1968
De Swydd Gaerloyw Rhan o Ddosbarth Kingswood gynt (rhan yn DT Kingswood gynt; DT Mangotsfield) 1 Rhagfyr 1967
  Dosbarth Kingswood gynt (y gweddill) 1 Medi 1974
  Dosbarth Northavon gynt 1 Ebrill 1985
De Tyneside Rhan o DT Bolton gynt 1 Chwefror 1968
  Y gweddill 1 Ionawr 1974
Doncaster Y cyfan 1 Medi 1974
Dorset Christchurch 1 Mawrth 1977
  Dwyrain Dorset; Weymouth a Portland 1 Hydref 1977
  Y gweddill 1 Ebrill 1990
Dudley Rhan o BS Dudley gynt 1 Ebrill 1967
  Y gweddill 1 Mawrth 1974
Dwyrain Sussex Eastbourne 1 Ionawr 1926
  Hastings 1 Ionawr 1929
  Lewes (rhan o BDd Lewes gynt); Rother (rhan o BDd Bexhill gynt) 1 Hydref 1966
  Lewes (y gweddill); Rother (y gweddill) 1 Mehefin 1975
  Y gweddill 1 Chwefror 1978
Dwyrain Swydd Gaer Bwrdeistref Crew a Nantwich gynt (rhan o BDd Crew gynt) 1 Gorffennaf 1967
  Bwrdeistref Crew a Nantwich gynt (y gweddill) 1 Mai 1974
  Bwrdeistrefi Congleton a Macclesfield gynt 1 Chwefror 1978
Dyfnaint Caerwysg 1 Mai 1974
  Dwyrain Dyfnaint; South Hams; Teignbridge 1 Chwefror 1978
  Canol Dyfnaint; Gogledd Dyfnaint 1 Ebrill 1986
  Y gweddill 1 Rhagfyr 1988
Essex Basildon; Epping Forest; Harlow 1 Mawrth 1977
  Chelmsford 1 Tachwedd 1985
  Braintree; Colchester (rhan o Ddosbarth Colchester gynt); Tendring (rhan o Ddosbarth Colchester gynt); Uttlesford 1 Tachwedd 1986
  Y gweddill 1 Rhagfyr 1990
Gateshead Y cyfan 1 Ionawr 1974
Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln Rhan o Ddosbarth Great Grimsby gynt 1 Rhagfyr 1975
  Y gweddill 1 Mawrth 1977
Gogledd Gwlad yr Haf Y cyfan 1 Ebrill 1985
Gogledd Swydd Gaerefrog Craven (rhan o Kildwick District gynt) 1 Medi 1974
  Craven (y gweddill) 1 Tachwedd 1985
  Harrogate (rhan), Selby (rhan) 1 Tachwedd 1986
  Y gweddill 1 Rhagfyr 1988
Gogledd Swydd Lincoln Rhan o Ddosbarth Scunthorpe gynt 1 Rhagfyr 1975
  Y gweddill 1 Tachwedd 1985
Gogledd Tyneside Y cyfan 1 Mai 1974
Gorllewin Berkshire Y cyfan 1 Ebrill 1963
Gorllewin Sussex Crawley (rhan gynt o DG Dorking a Horley – rhan) 15 Mawrth 1952
  Canol Sussex (y cyfan heblaw rhan o DG Cuckfield – rhan) 1 Rhagfyr 1966
  Crawley (y gweddill); Canol Sussex (DG Cuckfield – rhan) 1 Medi 1974
  Adur; Worthing 1 Mawrth 1977
  Arun 1 Chwefror 1978
  Y gweddill 1 Ebrill 1986
Gorllewin Swydd Gaer a Chaer Dinas Caer gynt (rhan gynt o BS Caer) 1 Mawrth 1966
  Dinas Caer gynt (y gweddill) 1 Mai 1974
  Bwrdeistrefi Ellesmere Port a Neston a Vale Royal gynt 1 Hydref 1977
Gwlad yr Haf Mendip; De Gwlad yr Haf 1 Rhagfyr 1989
Gwlad yr Haf Taunton Deane 1 Ebrill 1985
  Gorllewin Gwlad yr Haf 1 Ebrill 1986
  Sedgemoor 1 Rhagfyr 1989
Halton Y cyfan 1 Hydref 1977
Hampshire Eastleigh; Fareham; Gosport 1 Hydref 1977
  Havant; New Forest 1 Chwefror 1978
  Basingstoke a Deane 1 Ebrill 1986
  Dwyrain Hampshire; Hart; Rushmoor; Test Valley; Winchester 1 Mawrth 1988
Hartlepool Rhan o BS Hartlepool gynt 1 Chwefror 1968
  Y gweddill 1 Mai 1974
Kingston upon Hull (Dinas) Y cyfan 1 Rhagfyr 1975
Kirklees Rhan o BS Huddersfield gynt 2 Ebrill 1962
  Y gweddill 1 Mawrth 1974
Knowsley Y cyfan 1 Mehefin 1975
Leeds Rhan o BS Leeds gynt 1 Hydref 1970
  Y gweddill 1 Mawrth 1974
Lerpwl Y cyfan 1 Rhagfyr 1969
Luton Y cyfan 1 Hydref 1969
Manceinion Rhan o BS Manceinion gynt 2 Hydref 1961
  Y gweddill 1 Ionawr 1974
Medway Y cyfan 1 Mawrth 1957
Middlesbrough Rhan o BS Teesside gynt 1 Medi 1970
  Y gweddill 1 Ionawr 1974
Milton Keynes Y cyfan 1 Tachwedd 1986
Newcastle upon Tyne Rhan o BS Newcastle upon Tyne gynt 1 Rhagfyr 1969
  Y gweddill 1 Ionawr 1974
Norfolk Norwich (rhan o BS Norwich gynt) 1 Ebrill 1968
  Norwich (y gweddill) 1 Ionawr 1974
  Great Yarmouth 1 Tachwedd 1985
  Y gweddill 1 Rhagfyr 1989
Northumberland Bwrdeistref Blyth Valley gynt 1 Mehefin 1975
  Dosbarth Wansbeck gynt 1 Hydref 1977
  Bwrdeistref Castle Morpeth gynt 1 Tachwedd 1986
  Y gweddill 1 Rhagfyr 1989
Nottingham (Dinas) Rhan o BS Nottingham gynt 1 Rhagfyr 1969
  Y gweddill 1 Ionawr 1974
Oldham Rhan o BS Oldham gynt 15 Hydref 1956
  Rhan o DT Chadderton gynt, DT Royton, DT Failsworth 1 Rhagfyr 1965
  Oldham (rhan o DT Failsworth gynt) 1 Medi 1967
  Y gweddill 1 Ionawr 1974
Peterborough (Dinas) Rhan o Ddosbarth Peterborough gynt 1 Ionawr 1977
  Y gweddill 1 Tachwedd 1986
Plymouth (Dinas) Rhan o BS Plymouth gynt 1 Hydref 1969
  Y gweddill 1 Ionawr 1977
Poole Y cyfan 1 Mehefin 1975
Portsmouth Y cyfan 1 Rhagfyr 1975
Reading Y cyfan 1 Hydref 1962
Redcar a Cleveland Rhan o BS Teesside gynt 1 Medi 1970
  Y gweddill 1 Mai 1974
Rochdale Rhan o BS Rochdale gynt 1 Ionawr 1963
  Rhan o BDd Middleton gynt 1 Rhagfyr 1965
  Y gweddill 1 Ionawr 1974
Rotherham Y cyfan 1 Tachwedd 1974
Rutland Y cyfan 1 Tachwedd 1985
St Helens Rhan BS St Helens gynt 1 Gorffennaf 1967
  Y gweddill 1 Mawrth 1974
Salford Rhan o BS Salford gynt 2 Hydref 1961
  Rhan o BDd Eccles gynt 1 Medi 1967
  Y gweddill 1 Ionawr 1974
Sandwell Y cyfan 1 Ebrill 1967
Sefton Y cyfan 1 Mehefin 1975
Sheffield Rhan o BS Sheffield gynt 1 Hydref 1970
  Y gweddill 1 Mawrth 1974
Slough Y cyfan 1 Mehefin 1975
Solihull Rhan o BS Solihull gynt 1 Ebrill 1968
  Y gweddill 1 Mawrth 1974
Southampton Y cyfan 1 Rhagfyr 1975
Southend-on-Sea Y cyfan 1 Ebrill 1968
Stockport Rhan o BS Stockport gynt 1 Mehefin 1965
  Y gweddill 1 Ionawr 1974
Stockton-on-Tees Rhan o BS Teesside gynt 1 Medi 1970
  Y gweddill 1 Mai 1974
Stoke-on-Trent (Dinas) Y cyfan 1 Ebrill 1968
Suffolk Ipswich 1 Mai 1974
  Waveney 1 Tachwedd 1985
  Y gweddill 1 Rhagfyr 1990
Sunderland Rhan o BS Sunderland gynt 1 Chwefror 1968
  Y gweddill 1 Ionawr 1974
Surrey Spelthorne 1 Ionawr 1937
  Y gweddill 15 Mawrth 1952
Swindon Y cyfan 1 Ebrill 1985
Swydd Amwythig Dosbarth Bridgnorth gynt 1 Ebrill 1986
  Y gweddill 1 Ionawr 1990
Swydd Bedford Canolog Swydd Bedford Canolog gynt 1 Tachwedd 1985
  De Swydd Bedford gynt (rhan gynt o DT Dunstable) 1 Hydref 1969
  De Swydd Bedford gynt (rhan gynt o DT Leighton-Linsdale a DG Luton) 1 Medi 1974
Swydd Buckingham South Bucks 1 Rhagfyr 1975
  Y gweddill 1 Tachwedd 1986
Swydd Derby Erewash (rhan o DT Long Eaton gynt) 1 Rhagfyr 1969
  Erewash (y gweddill) 1 Medi 1974
  Bolsover; Chesterfield 1 Mawrth 1977
  Amber Valley; Gogledd Ddwyrain Swydd Derby 1 Ebrill 1985
  Y gweddill 1 Rhagfyr 1987
Swydd Durham Dinas Durham gynt (rhan gynt o BDd Durham a Framwelgate) 1 Mawrth 1967
  Dosbarth Easington gynt (rhan gynt o DT Seaham) 1 Chwefror 1968
  Dinas Durham gynt (y gweddill); dosbarth Easington gynt (y gweddill) 1 Mai 1974
  Dosbarth Chester-le-Street gynt; bwrdeistref Sedgefield gynt 1 Rhagfyr 1975
  Y gweddill 1 Rhagfyr 1987
Swydd Gaerloyw Caerloyw 1 Ebrill 1967
  Cheltenham 1 Tachwedd 1985
  Y gweddill 1 Tachwedd 1986
Swydd Gaergrawnt Caergrawnt 1 Mai 1974
  Swydd Huntingdon (rhan gynt o Peterborough) 1 Mawrth 1977
  Swydd Huntingdon (y gweddill); De Swydd Gaergrawnt 1 Tachwedd 1986
Y gweddill 1 Rhagfyr 1988  
Swydd Gaerhirfryn Burnley (rhan o BS Burnley gynt); Preston (rhan o BS Preston gynt) 1 Hydref 1965
  Preston (y gweddill) 1 Mai 1974
  Burnley (y gweddill); Ribble Valley (rhan ym mhlwyf Simonstone) 1 Medi 1974
  Fylde 1 Mawrth 1977
  Rossendale 1 Hydref 1977
  Hyndburn; Pendle 1 Ebrill 1985
  Chorley; South Ribble; Gorllewin Swydd Gaerhirfryn 1 Ebrill 1986
  Y gweddill 1 Mawrth 1988
Swydd Gaerlŷr Blaby; Oadby a Wigston 1 Mawrth 1977
  Charnwood; Gogledd Orllewin Swydd Gaerlŷr 1 Hydref 1977
  Y gweddill 1 Tachwedd 1985
Swydd Gaerwrangon Bromsgrove; Caerwrangon 1 Mawrth 1977
  Redditch 1 Ebrill 1986
  Y gweddill 1 Rhagfyr 1990
Swydd Henffordd (Sir) Rhan o ddosbarth Henffordd gynt 1 Mawrth 1977
  Y gweddill 1 Rhagfyr 1990
Swydd Hertford Hertsmere (rhan o DT Potters Bar gynt) 1 Ionawr 1937
  Hertsmere (rhan o DT Bushey gynt); Three Rivers (rhan o DT Rickmansworth gynt); Watford 1 Ebrill 1968
  Hertsmere (y gweddill); Stevenage; Three Rivers (y gweddill) 1 Mai 1974
  Broxbourne; Welwyn Hatfield 1 Mawrth 1977
  St Albans 1 Hydref 1977
  Dwyrain Swydd Hertford 1 Chwefror 1978
  Y gweddill 1 Tachwedd 1985
Swydd Lincoln Lincoln 1 Rhagfyr 1975
  Dwyrain Lindsey; Gorllewin Lindsey 1 Chwefror 1989
  Y gweddill 1 Rhagfyr 1989
Swydd Northampton Northampton (rhan o BS Northampton gynt) 1 Ebrill 1968
  Northampton (y gweddill) 1 Ionawr 1974
  Kettering 1 Chwefror 1978
  Corby; Wellingborough 1 Tachwedd 1985
  Y gweddill 1 Tachwedd 1986
Swydd Nottingham Broxtowe (rhan o DT Beeston a Stapelford gynt); Gedling (rhan o DT Carlton gynt); Ruschliffe (rhan o DT Gorllewin Bridgford) 1 Rhagfyr 1969
  Broxtowe (y gweddill); Gedling (y gweddill); Ruschcliffe (y gweddill) 1 Medi 1974
  Ashfield; Mansfield 1 Rhagfyr 1975
  Y gweddill 1 Ebrill 1986
Swydd Rydychen Rhydychen 1 Mawrth 1954
  De Swydd Rydychen (BDd a DG Wallingford); Vale of White Horse); Vale of White Horse 1 Ebrill 1963
De Swydd Rydychen (y gweddill) 1 Medi 1974  
  Y gweddill 1 Tachwedd 1986
Swydd Stafford Newcastle under Lyme 1 Mawrth 1977
  Lichfield; Tamworth 1 Hydref 1977
  Cannock Chase 1 Chwefror 1978
  Y gweddill 1 Rhagfyr 1988
Swydd Warwig Nuneaton a Bedworth; Rugby (rhan o BDd Rugby gynt) 1 Chwefror 1965
  Warwick (rhan o BDd Royal Leamington Spa; BDd Warwig) 1 Hydref 1965
  Rugby (y gweddill); Warwig (y gweddill) 1 Medi 1974
  Gogledd Swydd Warwig 1 Chwefror 1978
  Stratford on Avon 1 Tachwedd 1985
Tameside Rhan o BDd Ashton-under-Lyne gynt; DT Audenshaw; DT Denton; DT Droylsden 1 Medi 1967
  Y gweddill 1 Ionawr 1974
Thurrock Y cyfan 1 Mehefin 1975
Torbay Y cyfan 1 Mai 1974
Traean Dwyreiniol Swydd Gaerefrog Rhan o Ddwyrain Swydd Gaerefrog gynt (North Wolds)) 1 Medi 1974
  Y gweddill 1 Tachwedd 1985
Trafford Rhan o BDd Stretford gynt; DT Urmston 1 Gorffennaf 1967
  Y gweddill 1 Ionawr 1974
Wakefield Y cyfan 1 Medi 1974
Walsall Rhan o BS Walsall gynt 1 Ebrill 1967
  Y gweddill 1 Ionawr 1974
Warrington Rhan o BS Warrington gynt 1 Mawrth 1966
  Y gweddill 1 Medi 1974
Wigan Y cyfan 1 Rhagfyr 1975
Wiltshire Dosbarth Gorllewin Wiltshire gynt 1 Ebrill 1986
  Y gweddill 1 Ebrill 1990
Windsor a Maidenhead Y cyfan (heblaw rhan o DT Eton gynt; DG Eton – rhan) 1 Ebrill 1963
  Rhan o DT Eton gynt a DG Eton – rhan 1 Ionawr 1974
Wokingham Y cyfan 1 Ebrill 1963
Wolverhampton (Dinas) Y cyfan 1 Mawrth 1974
Wrekin (Sir a elwir hefyd The Wrekin) Y cyfan 1 Ebrill 1986
Ynys Wyth Y cyfan 1 Ebrill 1986
Ynysoedd Sili Y cyfan 1 Rhagfyr 1988

8.2 Awdurdodau Llundain

Bwrdeistref Ardal Dyddiad cofrestriad gorfodol
Barking a Dagenham Y cyfan 1 Medi 1966
Barnet Rhan gynt yn Middlesex 1 Ionawr 1937
  Rhan gynt yn Swydd Hertford 1 Ebrill 1965
Bexley Y cyfan 1 Ionawr 1961
Brent Y cyfan 1 Ionawr 1937
Bromley Y cyfan 1 Ionawr 1961
Camden Y cyfan 1899
Croydon Rhan gynt yn BS Croydon 1 Ionawr 1939
  Rhan gynt yn Surrey 15 Mawrth 1952
Dinas a Sir Dinas Llundain Y cyfan 1 Gorffennaf 1902
Dinas Westminster Y cyfan 1899
Ealing Y cyfan 1 Ionawr 1937
Enfield Y cyfan 1 Ionawr 1937
Greenwich Y cyfan 1900
Hackney Y cyfan 1899
Hammersmith a Fulham Y cyfan 1899
Haringey Y cyfan 1 Ionawr 1937
Harrow Y cyfan 1 Ionawr 1937
Havering Y cyfan 1 Chwefror 1967
Hillingdon Y cyfan 1 Ionawr 1937
Hounslow Y cyfan 1 Ionawr 1937
Islington Y cyfan 1899
Kensington a Chelsea Y cyfan 1899
Kingston upon Thames Y cyfan 15 Mawrth 1952
Lambeth Y cyfan 1900
Lewisham Y cyfan 1900
Merton Y cyfan 15 Mawrth 1952
Newham Rhan gynt yng Nghyngor Sir Llundain 1900
  Rhan gynt yn Essex 1 Ebrill 1965
Redbridge Y cyfan 1 Medi 1966
Richmond upon Thames Rhan gynt yn Middlesex 1 Ionawr 1937
  Rhan gynt yn Surrey 15 Mawrth 1952
Southwark Y cyfan 1900
Sutton Y cyfan 15 Mawrth 1952
Tower Hamlets Y cyfan 1899
Waltham Forest Y cyfan 1 Chwefror 1967
Wandsworth Y cyfan 1900
Y Deml Fewnol a’r Deml Ganol Y cyfan 1902

8.3 Awdurdodau Cymru

Ardal weinyddol Dosbarth Dyddiad cofrestriad gorfodol**
Abertawe Y cyfan 1 Rhagfyr 1975
Blaenau Gwent Y cyfan 1 Tachwedd 1985
Bro Morgannwg Rhan o Ganol Morgannwg – Ogwr gynt (rhan)) 1 Mehefin 1975
  Gweddill y fwrdeistref sirol 1 Rhagfyr 1975
Caerdydd Rhan o Dde Morgannwg gynt – Caerdydd 1 Mai 1974
  Gweddill y fwrdeistref sirol 1 Hydref 1977
Caerffili Rhan o Went – Islwyn gynt 1 Mawrth 1977
  Gweddill y fwrdeistref sirol 1 Tachwedd 1985
Casnewydd Y cyfan 1 Mai 1974
Castell-nedd Port Talbot Rhan o Orllewin Morgannwg – Castell-nedd, Port Talbot gynt 1 Mehefin 1975
  Gweddill y fwrdeistref sirol 1 Rhagfyr 1975
Ceredigion Y cyfan 1 Rhagfyr 1988
Conwy Rhan o Glwyd – Colwyn gynt (rhan) 1 Mawrth 1988
  Gweddill y sir 1 Rhagfyr 1988
Gwynedd Y cyfan 1 Rhagfyr 1988
Merthyr Tudful Y cyfan 1 Tachwedd 1985
Pen-y-bont ar Ogwr Y cyfan 1 Mehefin 1975
Powys Y cyfan 1 Mawrth 1988
Rhondda Cynon Taf Rhan o Forgannwg Ganol – Rhondda, Taf-Elái gynt 1 Hydref 1977
  Gweddill y fwrdeistref sirol 1 Tachwedd 1985
Sir Benfro Y cyfan 1 Rhagfyr 1988
Sir Ddinbych Rhan o Glwyd – Rhuddlan gynt 1 Ebrill 1986
  Gweddill y fwrdeistref sirol 1 Mawrth 1988
Sir Fynwy Y cyfan 1 Tachwedd 1985
Sir Gaerfyrddin Rhan o Ddyfed – Llanelli gynt 1 Mawrth 1977
  Gweddill y fwrdeistref sirol 1 Rhagfyr 1988
Sir y Fflint Y cyfan 1 Ebrill 1986
Tor-faen Y cyfan 1 Tachwedd 1985
Wrecsam Y cyfan 1 Mawrth 1988
Ynys Môn Y cyfan 1 Mawrth 1988

9. Pethau i’w cofio

Er mwyn osgoi’r gwallau mwyaf cyffredin, defnyddiwch ein rhestr wirio cyn cyflwyno eich cais:

Sylwer, efallai na fydd Cofrestrfa Tir EM yn gallu prosesu ceisiadau sy’n anghyflawn neu’n ddiffygiol, a bydd eich cais mewn perygl o golli ei flaenoriaeth os byddwn yn gorfod ei ddychwelyd atoch – gweler cyfarwyddyd ymarfer 49: dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru i gael rhagor o wybodaeth.

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.