Gwneud cais i gadw eich manylion cyswllt yn gyfrinachol: Ffurflen C8
Defnyddiwch y ffurflen hon i ofyn i'r llys gadw eich manylion cyswllt chi a'ch plant yn breifat rhag partïon eraill mewn achosion llys teulu.
Dogfennau
Manylion
Bydd y manylion cyswllt a roddwch yn cael eu defnyddio gan y canlynol yn unig:
- y llys
- Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Cafcass) neu Cafcass Cymru
Ni fydd eich manylion cyswllt ar gael i unrhyw berson arall, ac eithrio trwy orchymyn y llys.
Agor dogfen
Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho yn galluogi defnyddio mwy o nodweddion, fel argraffu.
Mae Adobe Reader yn raglen gweld ffeiliau PDF sydd yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio hwn i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer treial am ddim.
Dilynwch y camau hyn:
- Lawrlwythwch Adobe Reader am ddim.
- Cliciwch gydag ochr dde y llygoden ar y ddolen a dewiswch ‘Save link as’ neu ‘Download linked file’.
- Cadw’r ffurflen (yn eich ffolder ‘documents’, er enghraifft).
- Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen yr ydych wedi’i chadw.
Os nad yw’r ffurflen yn agor o hyd, cysylltwch â hmctsforms@justice.gov.uk.
Dewch o hyd i ragor o ffurflenni llys a thribiwnlys fesul categori.
Dewch o hyd i sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn defnyddio’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 1 Ionawr 2016Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 Ionawr 2025 + show all updates
-
Question added to the form about residence in a refuge. Guidance updated in the 'omitted contact details' section of the form. Added a Welsh landing page .
-
Statement of truth updated.
-
Signature box amended to allow email submission.
-
First published.