Ffurflen

Gwneud addewid gyfreithiol i’r llys: Ffurflen N117

Defnyddiwch y ffurflen hon i gofnodi addewid wirfoddol sy’n rwymol gyfreithiol, a roddir gan barti mewn achos i wneud neu beidio â gwneud rhywbeth (‘ymgymeriad’).

Dogfennau

Ffurflen ymgymeriad: N117

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Gall unigolyn neu sefydliad sy’n rhan o achos (‘parti’) roi ymgymeriad i’r llys ar sail wirfoddol, yn hytrach na’r llys yn gwneud gorchymyn. Bydd yr ymgymeriad yn cael ei bennu yn y ffurflen hon.

Bydd y parti sy’n gwneud yr addewid yn ei lofnodi yn y gwrandawiad. Os ydynt yn methu â chydymffurfio ag ef, byddant yn wynebu cosbau (fel cael dirwy, cael eu carcharu, neu gellir atafaelu eu hasedau).

Agor dogfen

Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho yn galluogi defnyddio mwy o nodweddion, fel argraffu.

Mae Adobe Reader yn raglen gweld ffeiliau PDF sydd yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio hwn i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer treial am ddim.

Dilynwch y camau hyn:

  1. Lawrlwythwch Adobe Reader am ddim.
  2. Cliciwch gydag ochr dde y llygoden ar y ddolen a dewiswch ‘Save link as’ neu ‘Download linked file’.
  3. Cadw’r ffurflen (yn eich ffolder ‘documents’, er enghraifft).
  4. Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen yr ydych wedi’i chadw.

Os nad yw’r ffurflen yn agor o hyd, cysylltwch â hmctsforms@justice.gov.uk.

Dewch o hyd i ragor o ffurflenni llys a thribiwnlys fesul categori.

Dewch o hyd i sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn defnyddio’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Hydref 2012
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 Ionawr 2025 + show all updates
  1. Added a Welsh landing page.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon