Gwneud amddiffyniad neu wrth-hawliad (swm penodol): Ffurflen N9B
Amddiffyn hawliad am swm penodol o arian os ydych yn ei wrthwynebu, neu wneud gwrth-hawliad am arian os ydych yn meddwl bod arian yn ddyledus i chi gan yr hawlydd.
Dogfennau
Manylion
Os ydych yn addef rhan o’r hawliad ac yn amddiffyn y rhan arall, mae’n rhaid i chi gyflwyno’r ffurflen hon gyda Ffurflen N9 A: Cynnig talu arian sy’n ddyledus gennych chi i hawlydd. Mae yna derfynau amser llym ar gyfer cyflwyno’r ddwy ffurflen.
Darllenwch fwy am sut i ymateb i hawliad am arian.
Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi ddarllen y ‘Nodiadau i ddiffynnydd’ ar Ffurflen N1: Cyflwyno hawliad yn erbyn unigolyn neu sefydliad.
Gwiriwch y ffioedd llys a thribiwnlys a chanfod a allwch gael help i dalu ffioedd.
Agor dogfen
Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho dogfennau yn eich galluogi i wneud fwy o bethau, megis argraffu’r ddogfen.
Mae Adobe Reader yn feddalwedd rhad ac am ddim y gallwch ei ddefnyddio gyda dogfennau PDF. Gallwch ei ddefnyddio i’ch galluogi i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru i gael y treial am ddim.
Dilynwch y camau hyn:
-
Lawrlwythwch Adobe Reader am ddim.
-
Cliciwch botwm dde y llygoden ar ddolen y ffurflen a dewiswch ‘Save link as’ neu ‘Download linked file’.
-
Cadwch y ffurflen (yn eich ffolder ‘dogfennau’, er enghraifft).
-
Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen sydd wedi’i chadw.
Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â hmctsforms@justice.gov.uk.
Os oes arnoch angen fersiwn wedi’i argraffu o’r ffurflen cysylltwch â’ch llys lleol.
Chwilio am fwy o ffurflenni llys a thribiwnlys yn ôl categori.
Darllenwch fwy am sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF yn defnyddio gwybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 August 2024 + show all updates
-
Added Welsh language version of the page
-
Added Welsh translation of form N9B
-
Updated the form N9B to include information around mandatory mediation for small money claims
-
Updated N9B form added.
-
First published.